420 mawrth 2017 60c cefnogi elusennau lleol ‘y...

16
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 420 420 420 420 420 Mawrth 2017 Mawrth 2017 Mawrth 2017 Mawrth 2017 Mawrth 2017 60c ‘Y LADIS’ ‘Y LADIS’ ‘Y LADIS’ ‘Y LADIS’ ‘Y LADIS’ CANOLFAN Y BANW, LLANGADFAN Nos Wener, 17 Mawrth am 8 o’r gloch Sioe hwyliog, awgrymog Gymreig sydd ddim yn addas i blant bach na phobl cul eu meddwl. Tocynnau: Menter Maldwyn 01686 610010 neu Catrin Hughes 01938 820594 Roedd Theatr Hafren yn llawn i’r ymylon nos Iau, Chwefror 23ain gyda chynulleidfa frwd yn edrych ymlaen at gael gwledd o adloniant Cymraeg gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn. Y tri clwb oedd yn cymryd rhan oedd Dyffryn Banw, Llanfair Caereinion a Dyffryn Dyfi. Eleni, am y tro cyntaf rhoddwyd testun ar gyfer y gystadleuaeth adloniant sef ‘Cynulleidfa gyda...’. Roedd y tri chlwb wedi bod yn greadigol iawn wrth greu hanner awr o adloniant amrywiol iawn. Yr enillwyr teilwng ar y noson oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion a aeth â ni i Baris i ail-fyw cyffro gemau pêl-droed Ewrop y llynedd. Roedd hanner cyntaf y cyflwyniad yn hynod o ddoniol gyda Rhys, Wyn a Catherine yn gwibio o amgylch y llwyfan mewn cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio technoleg yn eu cyflwyniadau. Wedi mynd mae’r dyddiau o beintio golygfeydd ar filltiroedd o ‘plywood’, bellach gellir taflu llun ar y cefndir i gyfleu unrhyw beth neu unrhyw le i ddweud eich stori (a lot llai o waith cario set o amgylch y wlad!). Enillwyr rhai o’r prif wobrau oedd Prif Actor - Eifion Jones, Dyffryn Banw; Prif Actores - Catherine Watkin, Llanfair Caereinion; Actor dan 16 - Hywel Jones, Dyffryn Banw, Actores dan 16 - Ceri Pryce, Llanfair Caereinion. Llongyfarchiadau mawr i’r bobl ifanc i gyd am eu hymroddiad a’u gwaith caled a phob dymuniad da i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfair a fydd yn cynrychioli Maldwyn yn y gystadleuaeth Genedlaethol ym Mhort Talbot ar Fawrth y 4ydd. Os hoffech weld cyflwyniad Llanfair byddant yn perfformio gyda Chlwb Llanfyllin yn Theatr Llwyn, Llanfyllin nos Sul y 12fed o Fawrth. Er, dwn i ddim pwy sydd am yrru’r gert golff yr holl ffordd i Bort Talbot? Yn y llun gwelir llun o Mrs May Whittingham a staff Londis, Bridge Garage, Llanfair yn cyflwyno siec am £205 i Dr Les Milne ar gyfer MEDs. Codwyd yr arian gan y staff a fu’n gwisgo siwmperi Nadolig dros gyfnod y Nadolig. Rhoddwyd £82 i’r Ambiwlans Awyr hefyd. Codwyd yr arian hwn drwy werthu llyfrau ail law yn y siop. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae arian wedi ei godi hefyd ar gyfer Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig, Cymdeithas MS a Nyrsys Marie Curie. Mae’r staff yn dymuno diolch i’w holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth. O Lanfair i Baris mewn Cert Golff! CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL Llun: Delyth Robinson

Upload: others

Post on 18-Jul-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

420420420420420 Mawrth 2017Mawrth 2017Mawrth 2017Mawrth 2017Mawrth 2017 6666600000ccccc

‘Y LADIS’‘Y LADIS’‘Y LADIS’‘Y LADIS’‘Y LADIS’

CANOLFAN Y BANW,LLANGADFAN

Nos Wener, 17 Mawrtham 8 o’r gloch

Sioe hwyliog, awgrymog Gymreig syddddim yn addas i blant bach na phobl cul

eu meddwl.

Tocynnau: Menter Maldwyn 01686 610010 neuCatrin Hughes 01938 820594

Roedd Theatr Hafren yn llawn i’r ymylon nosIau, Chwefror 23ain gyda chynulleidfa frwd ynedrych ymlaen at gael gwledd o adloniantCymraeg gan Glybiau Ffermwyr Ifanc SirDrefaldwyn.Y tri clwb oedd yn cymryd rhan oedd Dyffryn

Banw, Llanfair Caereinion a Dyffryn Dyfi.Eleni, am y tro cyntaf rhoddwyd testun argyfer y gystadleuaeth adloniant sef‘Cynulleidfa gyda...’. Roedd y tri chlwb wedibod yn greadigol iawn wrth greu hanner awr oadloniant amrywiol iawn.

Yr enillwyr teilwng ar y noson oedd ClwbFfermwyr Ifanc Llanfair Caereinion a aeth â nii Baris i ail-fyw cyffro gemau pêl-droed Ewropy llynedd. Roedd hanner cyntaf y cyflwyniadyn hynod o ddoniol gyda Rhys, Wyn aCatherine yn gwibio o amgylch y llwyfan mewncert golff!Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu iddefnyddio technoleg yn eu cyflwyniadau.Wedi mynd mae’r dyddiau o beintio golygfeyddar filltiroedd o ‘plywood’, bellach gellir taflu llunar y cefndir i gyfleu unrhyw beth neu unrhyw lei ddweud eich stori (a lot llai o waith cario set oamgylch y wlad!).Enillwyr rhai o’r prif wobrau oedd Prif Actor -Eifion Jones, Dyffryn Banw; Prif Actores -Catherine Watkin, Llanfair Caereinion; Actordan 16 - Hywel Jones, Dyffryn Banw, Actoresdan 16 - Ceri Pryce, Llanfair Caereinion.Llongyfarchiadau mawr i’r bobl ifanc i gyd ameu hymroddiad a’u gwaith caled a phobdymuniad da i aelodau Clwb Ffermwyr IfancLlanfair a fydd yn cynrychioli Maldwyn yn ygystadleuaeth Genedlaethol ym Mhort Talbotar Fawrth y 4ydd. Os hoffech weld cyflwyniadLlanfair byddant yn perfformio gyda ChlwbLlanfyllin yn Theatr Llwyn, Llanfyllin nos Sul y12fed o Fawrth.Er, dwn i ddim pwy sydd am yrru’r gert golff yrholl ffordd i Bort Talbot?

Yn y llun gwelir llun o Mrs May Whittingham a staff Londis, Bridge Garage, Llanfair yn cyflwyno siecam £205 i Dr Les Milne ar gyfer MEDs. Codwyd yr arian gan y staff a fu’n gwisgo siwmperi Nadoligdros gyfnod y Nadolig. Rhoddwyd £82 i’r Ambiwlans Awyr hefyd. Codwyd yr arian hwn drwy werthullyfrau ail law yn y siop. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae arian wedi ei godi hefyd ar gyfer Apêl Pabi’rLleng Brydeinig, Cymdeithas MS a Nyrsys Marie Curie. Mae’r staff yn dymuno diolch i’w hollgwsmeriaid am eu cefnogaeth.

O Lanfair i Baris mewn Cert Golff!

CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL

Llun: Delyth Robinson

Page 2: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

22222 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

DYDDIADURMawrth 2 Dathlu G@yl Ddewi gyda Gwenan

Gibbard, Neuadd Llanerfyl 7.30yhMawrth 3 (Gwener) Cyfarfod Dydd Gweddi Byd-

eang y Chwiorydd wedi ei baratoi ganChwiorydd Cristnogol Ynysoedd yPhilipinau ym Moreia, Llanfair am 2pm.

Mawrth 3 (Gwener) - Eisteddfod Ddawns CylchCaereinion yn y Ganolfan Hamdden am5.00 o’r gloch

Mawrth 4 ALED LEWIS EVANS yn HEN GAPELJOHN HUGHES, PONTROBERT o10.30 tan 3.30 i drafod rhai o’r teithiauyn ei lyfr “Llwybrau Llonyddwch”.Croeso i ddysgwyr ac eraill i gofrestruerbyn Chwefror 20fed trwy NiaRhosier ar 01938 500631. Cost £5 ypen i gynnwys diodydd ond dewch âphecyn bwyd i ginio.

Mawrth 4 Swper Dathlu G@yl Ddewi, CanolfanDolanog

Mawrth 6 Noson o adloniant gyda CFFI DyffrynBanw yng Nghanolfan y Banw am 7.30

Mawrth 11 Eisteddfod Cylch Caereinion, CanolfanHamdden Caereinion am 1.30 o’r gloch

Mawrth 15 Eisteddfod Ddawns y Rhanbarth -Theatr Hafren

Mawrth 17 ‘Y Ladis’. Canolfan y Banw, Llangadfanam 8 o’r gloch. Tocynnau MenterMaldwyn 01686 610010 neu CatrinHughes 01938 820594.

Mawrth 18 Eisteddfod Rhanbarth Uwchradd acAelwydydd, Theatr Llwyn, Llanfyllin

Mawrth 20 Cymdeithas Hanes Pontrobert. Sgwrsgan Alwyn Hughes ar ‘Hanes Teulu Efaily Wig a’u Cyfeillion’. Neuadd Pontrobertam 7 o’r gloch

Mawrth 25 Eisteddfod Rhanbarth Cynradd, YsgolUwchradd Y Drenewydd

Ebrill 7 Bingo Pasg yn y neuadd Llanerfyl am7.00pm. Dewch yn llu!

Ebrill 8 Cwmni Theatr Maldwyn ac Ysgol TheatrMaldwyn yn cyflwyno ‘Cadw’r Fflam ynFyw’ – cyngerdd yn cynnwys caneuono’r sioeau yn Theatr Hafren, yDrenewydd.

Ebrill 14 (Gwener y Groglith) Cyfarfodydd yPasg yng Nghapel Peniel BedwGwynion. Pregethir gan y Parch. Ddr.Euros Wyn Jones am 2 a 6 o’r gloch.

Ebrill 15 Prynhawn Coffi, 3 y.p. Er budd Eglwysy Santes Fair, Llwydiarth

Ebrill 16 (Sul y Pasg) Oedfa’r Pasg dan ofalDafydd Iwan am 2 o’r gloch yn NeuaddPontrobert

Ebrill 20 Caryl Lewis. Bydd enillydd Llyfr yFlwyddyn 2016 yn trafod ei chyfrolaudiweddaraf. Cylch Llenyddol Maldwynyng Ngregynog am 7.30

Ebrill 26 Cyfeisteddfod y Chwiorydd ym Moreia,Llanfair Caereinion am 2 o’r gloch.Sgwrs gan Mrs Nerys Siddall am

A fyddech cystal ag anfon eichcyfraniadau at y rhifyn nesaf erbyn dyddSadwrn, Mawrth 18. Bydd y papur yncael ei ddosbarthu nos Fercher, Mawrth29ain

RHIFYN NESAF

Ganolfan Mary Jones yn Llanycil.Ebrill 27 ‘Profiadau Teithiau Tramor’ – sgwrs gan

Beryl Vaughan yn y Cwpan Pinc,Llangadfan am 7 o’r gloch. Lluniaethysgafn: cyfraniad o £4. Trefnir ganGymdeithas Edward Llwyd Maldwyn.Croeso cynnes i BAWB.

Mai 6 Cyngerdd yn Eglwys y Santes FairLlanfair Caereinion am 7.30 gyda Chôry Brythoniaid. Elw at Bwyllgor ApêlSioe Frenhinol 2018. Tocynnau £12

Mai 13 Neuadd Llanfihangel. Cyngerdd gydaHogiau’r Berfeddwlad o Ddyffryn Conwyam 7.30yh.

Mai 18 Eurig Salisbury. Cerddi a storïau yngnghwmni Prif Lenor Eisteddfod yFenni.Cylch Llenyddol Maldwyn yngNgregynog am 7.30

Meh. 10 Taith Gerdded Plu’r GweunyddMeh. 15 Bydd Menna Elfyn yn trafod ei chyfrol

‘Optimist Absoliwt’, sef ei chofiant iEluned Phillips yr unig wraig i ennill coronyr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.Cylch Llenyddol Maldwyn, Gregynog am7.30.

Gorff. 9 Taith Gerdded Parkinson’s o amgylchLlyn Llanwddyn i ddechrau am 10 o’rgloch y bore.

Gorff. 15 Cyngerdd gan Gôr Meibion Treorciyng Nghanolfan Rhiwhiriaeth i ddathlu50 mlynedd ers sefydlu’r Ganolfan

Gorff. 16 (Dydd Sul) Cinio Llywydd Sioe Llanfair(Mrs Enid Thomas Jones) i ddilyndathliadau 50 mlwyddiant y Ganolfan yny babell yn Rhiwhiriaeth.

Gorff. 27 Hazel Walford Davies. ‘O.M. Edwards –‘Y Stori o’r Newydd.’ Cylch LlenyddolMaldwyn yng Ngregynog am 7.30.

Awst 13 Diwrnod Ann Griffiths prynhawn Sul am2 o’r gloch yng Nghapel John Hughes,Pontrobert. Cyflwyniad personol am yremynyddes gan Siân Meinir y gantores/actores. Tocynnau ar werth gan BerylVaughan (cyfyngedig i 50) ynghyd âmwy o wybodaeth yn nes at yr amser.Gwnewch nodyn o’r dyddiad osgwelwch yn dda er mwyn osgoi cyd-daro, yn enwedig ynglyn âgwasanaethau eglwys a chapel.

Medi 14 Haf Llewelyn. ‘Wyneb y Ddrycin – HeddWyn a’r Rhyfel Byd Cyntaf.’ Olrheinirhanes y bardd ganrif yn union ar ôl eifarwolaeth. Cylch Llenyddol Maldwynyng Ngregynog am 7.30.

Medi 30 Cyngerdd Blynyddol Merched y WawrLlanfair gan Gôr Meibion Dyfi am 7.30

Hydref 14 Dathlu’r Aur efo Merched y WawrRhanbarth Maldwyn yng Nghanolfan yBanw. Adloniant gan Linda Griffiths alluniaeth o dan ofal staff Dyffryn, Foel.

Hydref 19 Idris Reynolds. ‘Dic’. Bydd IdrisReynolds yn trafod bywyd a gwaith DicJones. Cylch Llenyddol Maldwyn yngNgregynog am 7.30.

DiolchDymuna Nerys, Gareth a Bethan ddiolch o galonam bob caredigrwydd a chydymdeimlad tuagatynt yn ystod gwaeledd a marwolaeth Barry.Llawer o ddiolch hefyd i’r llu anferth o bobl a fu’nbresennol yn yr angladd. Diolch am yrymweliadau, cardiau di-ri, blodau, galwadau ffôna’r rhoddion hael. Diolch arbennig i John Greena Bethan am eu geiriau caredig a theimladwy,ac hefyd i Geraint Peate am ei wasanaethcofiadwy a’u drefniadau trwyadl. Mae bwlchmawr yn Maes Dderwen o golli g@r, tad a popscariadus, annwyl a ‘special’ iawn.

DiolchDymuna Mari a Margaret ddiolch i bawb am ycardiau, galwadau ffôn a phob arwydd ogydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn euprofedigaeth o golli eu chwaer Enid morddisymwyth. Gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr.

DiolchDymuna Waltie, Marcia, Dilys, Ann a Lynnddiolch yn fawr iawn i bawb am bob arwydd ogydymdeimlad a dderbyniwyd ar farwolaethBetty. Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn.

DiolchHoffai Pat Ellis ddiolch yn fawr iawn i’wchymdogion a’i ffrindiau am eu caredigrwydd acam y cydymdeimlad a gafodd ar ôl ei chwymp ynddiweddar. Mae byw mewn cymdeithas fel hynyn golygu llawer. Diolch yn fawr iawn.

Diolch - Megan OwenDymuna Dewi, Sian a’r teulu ddiolch o galon ibawb am y gofal a’r caredigrwydd gafodd Mampan oedd yn wael, am y presenoldeb yn yrangladd a’r rhoddion hael er cof amdani. Diolchi’r meddygon, y nyrsys a’r gofalwyr am fod morgaredig tuag ati a diolch i Geraint, Anne a Betham eu gofal. Roedd eich caredigrwydd yn golygullawer i ni fel teulu.

DiolchHoffwn ddiolch yn fawr iawn i staff, rhieni adisgyblion Ysgol Gynradd Llanerfyl am yranrhegion a’r dymuniadau gorau a dderbyniaisar ôl 15 mlynedd hapus iawn yn eich cwmni.Pob dymuniad da i chi gyd yn y dyfodol.Carol, Neuaddwen

RhoddHoffem ddiolch yn fawr iawn i Annie Ellis,Pencoed am ei rhodd haelionus i goffrau Plu’rGweunydd.

DiolchMae Eira Evans, Ochr, Pont Robert eisiau diolchyn fawr iawn am yr holl gardiau, cyfarchion acanrhegion a gafodd hi ar ei phenblwydd yn 70oed yn ddiweddar. Braf cael rhannu yn y dathlugyda theulu a ffrindiau. Diolch i bawb am gofioamdani ar yr achlysur arbennig yma

argraffu daam bris da

holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

Nid yw Golygyddion naPhwyllgor Plu’r Gweunydd oanghenraid yn cytuno gydagunrhyw farn a fynegir yn ypapur nac mewn unrhyw

atodiad iddo.

Diolch - Enid OwenDymunwn ni fel teulu Enid ddiolch o galon i bawbam y gefnogaeth, y caredigrwydd a’rcydymdeimlad a ddangoswyd inni yn ystod ycyfnod anodd yma. Diolch am yr holl gardiau,negeseuon, presenoldeb anhygoel yn y cligetha’r rhoddion hael er cof amdani. Yn sicr mae’rcyfan wedi bod yn gysur mawr inni a does dimgeiriau all gyfleu ein diolchiadau ddigon i bobla chymuned arbennig iawn.

Page 3: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 33333

Clusfeinio yn yClusfeinio yn yClusfeinio yn yClusfeinio yn yClusfeinio yn yCwpan PincCwpan PincCwpan PincCwpan PincCwpan Pinc

Yn ddiweddar buom yn trafod hen arferion ahen enwau wrth yfed ein coffi. Wyddech chifod gan ein hynafiaid enwau gwahanol amfisoedd y flwyddyn? Dyma nhw:Mis marw, mis yr @yn, mis yr aradr, mis ywennol, mis y gog, mis y blodau, mis y gwair,mis y gwenith, mis yr aeron, mis y gwin, mis yniwl a’r mis du.

Dyma i chi restr arall eto:Ionawr: GwynfyrChwefror: Gwerwynon neu Mis yr #ynMawrth: Mis y Myllyn, Mis yr

Erydd,neu Cynodew, Daronwy,Daronw

Ebrill: Mis y Wennol ac Eirinwy, aGlaswyron.

Mai: Mis y Gog, Ednygain, Mis yBlodau, Chynwyrain

Mehefin: Mis y BlodauGorffennaf: Gwrth-hefin, Mis y GwairAwst: Gwynogwr. Mis yr ~d.Medi: Mis yr AeronHydref: Mis y MêlTachwedd: Mis Gwrn, Mis y Crwybr, Mis y

LlwydrewRhagfyr: Gwynollydd, neu Fis y Tywydd

Garw.

Mae’n rhaid dweud fod rhai o’r enwau yn yrail restr yn ddiarth iawn i mi.Yr oedd gan yr hen bobl ddull tra chywrain orannu’r diwrnod. Dyma’r rhaniadau;

Plygaint, bore, anterth, nawn, echwydd,cyflychwyr, hwyr a dewaint.

Ianws

Beryl VBeryl VBeryl VBeryl VBeryl Vaughan 07974 310804aughan 07974 310804aughan 07974 310804aughan 07974 310804aughan 07974 310804Byddem yn falch o unrhyw roddion, ac ynddiolchgar pe bai pob oedolyn sy’n cerddedyn cyfrannu rhyw £10.Bydd y cerdded yn dechrau bob bore am 08.30a.m. Os byddwch yn ymuno â’r cerddwyr ynnes ymlaen, gofalwch eich bod wedi trefnuamser bras i gyfarfod.

Taith Gerdded Clawdd Offa ar gyferTaith Gerdded Clawdd Offa ar gyferTaith Gerdded Clawdd Offa ar gyferTaith Gerdded Clawdd Offa ar gyferTaith Gerdded Clawdd Offa ar gyferSioe Frenhinol Cymru 2018Sioe Frenhinol Cymru 2018Sioe Frenhinol Cymru 2018Sioe Frenhinol Cymru 2018Sioe Frenhinol Cymru 2018

Diwrnod 1Diwrnod 1Diwrnod 1Diwrnod 1Diwrnod 1Dydd Iau 25 MaiDydd Iau 25 MaiDydd Iau 25 MaiDydd Iau 25 MaiDydd Iau 25 Mai

Prestatyn - Clwyd Gate * I’r rhai sy’n dymuno gwneud y daith ynfyrrach:Prestatyn i Fodffari 12 milltirBodffari i Clwyd Gate 11 milltir

23 milltir

Diwrnod 2Diwrnod 2Diwrnod 2Diwrnod 2Diwrnod 2Dydd Gwener 26 MaiDydd Gwener 26 MaiDydd Gwener 26 MaiDydd Gwener 26 MaiDydd Gwener 26 Mai

Clwyd Gate - Llangollen* I’r rhai sy’n dymuno gwneud y daith ynfyrrach:Clwyd Gate i Landegla 6 milltirLlandegla i Langollen 8 milltir

14 milltir

Diwrnod 3Diwrnod 3Diwrnod 3Diwrnod 3Diwrnod 3 Llangollen - Trefonen* I’r rhai sy’n dymuno gwneud y daith ynfyrrach:Llangollen i Castle Mill 8.5 milltir

Dydd Sadwrn 27 MaiDydd Sadwrn 27 MaiDydd Sadwrn 27 MaiDydd Sadwrn 27 MaiDydd Sadwrn 27 Mai

16 milltir

Diwrnod 4Diwrnod 4Diwrnod 4Diwrnod 4Diwrnod 4Dydd Sul 28 MaiDydd Sul 28 MaiDydd Sul 28 MaiDydd Sul 28 MaiDydd Sul 28 Mai

Trefonen - Pont Buttington* I’r rhai sy’n dymuno gwneud y daith yn fyrrach:-Llanymynech i Buttington 10.5 milltir

16 milltir

Diwrnod 5Diwrnod 5Diwrnod 5Diwrnod 5Diwrnod 5Dydd Llun 29 MaiDydd Llun 29 MaiDydd Llun 29 MaiDydd Llun 29 MaiDydd Llun 29 Mai

Pont Buttington- Brompton 13 milltir

Diwrnod 6Diwrnod 6Diwrnod 6Diwrnod 6Diwrnod 6Dydd Mawrth 30 MaiDydd Mawrth 30 MaiDydd Mawrth 30 MaiDydd Mawrth 30 MaiDydd Mawrth 30 Mai

Brompton - Tref-y-clawdd 15 milltir

Diwrnod 7Diwrnod 7Diwrnod 7Diwrnod 7Diwrnod 7Dydd Mercher 31 MaiDydd Mercher 31 MaiDydd Mercher 31 MaiDydd Mercher 31 MaiDydd Mercher 31 Mai

Diwrnod 8Diwrnod 8Diwrnod 8Diwrnod 8Diwrnod 8Dydd Iau 1 MehefinDydd Iau 1 MehefinDydd Iau 1 MehefinDydd Iau 1 MehefinDydd Iau 1 Mehefin

Tref-y-clawdd - Ceintun

Ceintun – Y Gelli Gandryll

Y Gelli Gandryll - Pandy

Pandy - Trefynwy

Trefynwy - Clogwyni Sedbury / Cas-gwent

14 milltir

14 milltir

18 milltir

16 milltir

18 milltir

Diwrnod 10Diwrnod 10Diwrnod 10Diwrnod 10Diwrnod 10Dydd Sadwrn 3 MehefinDydd Sadwrn 3 MehefinDydd Sadwrn 3 MehefinDydd Sadwrn 3 MehefinDydd Sadwrn 3 Mehefin

Diwrnod 1Diwrnod 1Diwrnod 1Diwrnod 1Diwrnod 111111Dydd Sul 4 MehefinDydd Sul 4 MehefinDydd Sul 4 MehefinDydd Sul 4 MehefinDydd Sul 4 Mehefin

Diwrnod 9Diwrnod 9Diwrnod 9Diwrnod 9Diwrnod 9Dydd GwenerDydd GwenerDydd GwenerDydd GwenerDydd Gwener2 Mehefin2 Mehefin2 Mehefin2 Mehefin2 Mehefin

ar ddydd Llun a dydd Gwener

PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

yn ymarfer uwch ben

Salon Trin GwalltAJ’s

Stryd y BontLlanfair Caereinion

Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

E-bost: [email protected]

ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

HELEN DAVIES Dip.CFHP, MPSPractYMARFERWR IECHYD TRAED

I drefnu apwyntiad yn eich cartref,cysylltwch â Helen ar:

07791 228065 / 01938 81036707791 228065 / 01938 81036707791 228065 / 01938 81036707791 228065 / 01938 81036707791 228065 / 01938 810367Maesyneuadd, Pontrobert

Gwasanaeth symudol:* TTTTTorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewinedd* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen

ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU AGOR AGOR AGOR AGOR AGOR YYYYY GAEAF GAEAF GAEAF GAEAF GAEAFDydd Sul 9.00-3.00

Dydd Llun a Dydd Mawrth8.30 tan 4.30

Dydd Mercher 9.00-2.00CINIO POETH ARBENNIG

(Coginio tan 1.30)Dydd Iau a Dydd Gwener

8.30 - 4.30Dydd Sadwrn 8.00 tan 4.00

ym mhentre Llangadfan01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / Nwyddau / Papurau / AnrhegionAnrhegionAnrhegionAnrhegionAnrhegion

Page 4: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

44444 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

LLWYDIARTHEirlys Richards

Penyrallt 01938 820266Mae hanes Carreg Pen Boncyn,Moeldrehaearn wedi cael ei gyflwyno iddarllenwyr y Plu ar fwy nac un achlysur.Cysylltir y “garreg goffa, ddi-gerf, ddienw”gydag ymfudo naw aelod o deulu JonsiaidCoedtalog a Neuadd Wen i’r Unol Daleithiau.Gosodwyd y garreg i gofio’r golled a’r hiraethteuluol. Dyma ymdrech i olrhain hanes bywydcythryblus Ellis Oliver Jones (1874 - 1967),sef un o ‘blant y garreg’.Ymfudodd tad Ellis O. Jones, sef Ellis Jones(1833 - 1904) - gynt o Glanrhaeadr, Dolanog- i’r Unol Daleithiau yn yr 1850au, lle dywediriddo wneud ei ffortiwn yn gwerthu sgidiau i’rlluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Cartref (1861- 1865). Deallir iddo werthu’r sgidiau gorau i’r‘Confederates’ gyda’r gweddillion yn mynd ifilwyr yr ‘Union’. Yn ôl pob tebyg roedd EllisJones yn un o’r ‘Copperheads’, sef ygogleddwyr a gydymdeimlai gydag achos y‘Confederates’!Addysgwyd Ellis O. Jones (1874 - 1967) ymMhrifysgol Yale. Dechreuodd ei yrfa felnewyddiadurwr yn cyfrannu i gylchgronausosialaidd megis y ‘Masses’ gan gyrraeddswydd is-olygydd cylchrawn ‘Life’. Yn 1908roedd yn ymgeisydd Sosialaidd i’r Gyngresyn Ohio.Daeth Ellis O. Jones i’r amlwg fel heddychwrac ymynyswr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn1915 aeth ar daith i Ewrop ar long heddwchHenry Ford yn ymgyrchu am ddiwedd yRhyfel. Ar y 15fed o Ragfyr 1918 cyhoeddoddy ‘New York Times’ erthygl am arestiad EllisO. Jones tra’n arwain protest sosialaidd yn‘Central Park’, gan ddweud: “Ie, dylem gaelgwared ar y fyddin a’r llynges. Does ddimgofyn amdanynt. Dylent gael eu chwalu”. Fe’icyhuddwyd am fod yn fradwrus yn erbyn ywladwriaeth a’i anfon i’r ysbyty er mwyn asesuei gallineb. Yn ddiweddarach yn 1934 roeddyn gweithio i Undeb Rhyddid Sifil America prydymosodwyd arno gan ‘vigilantes’ am amddiffynhawliau gweithwyr fferm yn nhalaithCaliffornia.Yn 1941 roedd Ellis O. Jones yn gyd-sylfaenydd y ‘National Copperheads’, sefmudiad anymyrraeth yn sefyll yn erbyn i’r UnolDaleithiau ymuno â’r Ail Ryfel Byd. Rhaiwythnosau ar ôl i Japan ymosod ar ‘PearlHarbour’ adroddwyd i Jones ddweud fod gany Japaneaid hawl i Hawaii oherwydd “...fodmwy ohonynt yno nac Americanwyr”!Honnwyd iddo ddweud: “Gwell gennyf fod arochr yr Almaenwyr nac ar ochr y Prydeinwyr”;rhyfedd wrth ystyried fod ei dad yn hanu oDdolanog!Yn fuan wedyn cynhaliodd Ellis O. Jones a dyno’r enw Robert Noble ffug dreialon yn mynnuuchelgyhuddiad yn erbyn yr Arlywydd FranklinRoosevelt. Fe’u harestiwyd gan awdurdodauCaliffornia am fod yn fradwrus yn erbyn ywladwriaeth. Arweiniodd hyn i’r ‘Sedition Trial’yn 1942 pan gynrychiolodd ei hun fel atwrnai.Gwrthododd Undeb Rhyddid Sifil Americagynnig cynrychiolaeth iddynt gan ddweud:“Mae Noble yn llwgr-fasnachwr ... ynddemagog ac yn ôl pob tebygolrwydd dipynbach yn wallgof...mae Jones yn ymddangosyn onest ond yn fwy gwallgof na Noble”!

Dyfarnwyd Jones a Noble yn euog ar 11eg oAwst 1942. Anfonwyd Ellis O. Jones i garcharam 10 mlynedd.Tra roedd yn y carchar roedd Ellis O. Jones ynun o’r 30 amddiffynnydd yn y ‘Great SeditionTrial’ yn 1944, achos hynod o enwog yn yr UnolDaleithiau. Honnwyd bod criw Jones a Noblewedi ymgyrchu i ddisodli’r Llywodraeth er

mwyn sefydlu gwladwriaethNatsiaidd. Fodd bynnag,cafodd y cyhuddiad eiddatgan yn gamdreial ar7fed o Ragfyr 1944.Rhyddhawyd Ellis O. Joneso’r carchar yn Awst 1945.

LLUN LLUN LLUN LLUN LLUN Ellis O. Jones (chwith) a Robert No-ble yn ystod y ‘Great Sedition Trial’ (1944)Ar ôl y Rhyfel bu’n cyfrannu i gylchgrawngwrth-Semitaidd ‘The Broom’.Bu farw Ellis O. Jones yng Nghalifornia yn1967 gan dderbyn coffad yn y ‘New York Times’o dan y pennawd: ‘ELLIS O. JONES, 93, ELLIS O. JONES, 93, ELLIS O. JONES, 93, ELLIS O. JONES, 93, ELLIS O. JONES, 93, AAAAARADICAL, IS DEADRADICAL, IS DEADRADICAL, IS DEADRADICAL, IS DEADRADICAL, IS DEAD’.Dilynodd cefnder i Ellis O. Jones yrfa barchusa llwyddiannus fel Asiant Arbenigol yn yr FBI;cyfeiriodd at Ellis O. Jones fel y “ddafad ddu”gan ddweud: “...fy ngwaith i oedd ymchwilioac erlyn yr anrasol cyfeiriedig”. Mae ynaduedd ynom i anwybyddu’r defaid duon; foddbynnag, ni ddylem ddiystyru’r dyn cymhlethhwn, oherwydd roedd ei gyfoedion yn eiystyried yn ddyn dewr, galluog, radical ahynod o anodd. Dylem astudio’r cymeriadauanodd mewn hanes, er mwyn dysgu gwersigan sicrhau nad yw hanes yn ail adrodd eihun.Tybed a wnaeth Ellis O. Jones droi cefn arheddychiaeth a sosialaeth oherwydd bodganddo obsesiwn gydag ymynysiaeth?Mae’r ffin rhwng sosialaeth a ffasgiaeth yngallu bod yn aneglur ac mae’n hawdd i’rbyd gerdded mewn trwmgwsg i gyfeiriadffasgiaeth unwaith eto. Mae rhai ohonomyn dilyn yn bryderus y sefyllfa gyfredol ynyr Unol Daleithiau ynghyd â’r datblygiadauymynysol cenedlaethol yn Ewrop. Niddylem anghofio fod slogan Donald J.Trump, sef “America First”, wedi eiddefnyddio’n gyntaf yn y 1940au gan griwymynysol Ellis O. Jones!Y duedd ynom yw chwilio am y gwaredwrynghyd ag atebion syml i broblemaucymhleth heb ystyried y gwir ffeithiau.Mae ’na beryg i’n cenhedlaeth ni golli be’den ni’n cymryd yn ganiataol, megis ywasg rydd a barnwriaeth annibynnol. Ynyr un modd, mae ein gwareiddiad ynwynebu amser tyngedfennol lleymddengys fod ysbryd cydweithio yncilio. Mae’r ansicrwydd, amheuaeth a’rofn presennol yn troi yn ddicter, sydd ynamlygu mewn hiliaeth ac ymynysiaeth.Yn anffodus mae hanes yn dragwyddol ailadrodd ei hun. Ni ddylem ddiystyru’r defaidduon ac anghofio gwersi’r gorffennol.

Huw Ellis(Brynelen gynt)

Y Ddafad DduCroesoCroeso i Nigel a Natalie sydd wedi ymgartrefuyn “Cae Penfras”. Ganwyd mab bach iddyntddeuddydd ar ôl dod yma i fyw a’i enw ywCai. Dyma’r babi cyntaf i’w eni yn CaePenfras ers 1865 pan oedd teulu’r Ellisiaid ynbyw yno.CydymdeimladCydymdeimlwn â theulu Melindwr yn euprofedigaeth. Bu farw Mrs Glenys Jones,mam Emyr, mam-yng-nghyfraith Margaret, anain Catherine, Robert a Lucy. Mae’nmeddyliau hefyd gyda’i chwaer Mrs PhillysDavies, Brynmawr a’r teulu ac hefyd teuluTynewydd a theulu Cyffin Isa.Treuliodd eihoes yn ei milltir sgwâr a bu’n gefnogol iweithgareddau’r gymuned, Neuadd Pontllogel,Capel Seilo a Sefydliad y Merched.Cydymdeimlwn â theulu Cyffin Isa. Bu farwcyfnither i Lena yn ddiweddar, Mrs Jean Trowo Groesoswallt, gynt o Lanfyllin.Seftydliad y Merched

Pob math o waith tractor,

yn cynnwys-

Teilo gyda chwalwr

10 tunnell,

Chwalu gwrtaith neu galch,

Unrhyw waith gyda

Amryw o beiriannau eraill ar

gael.

Ffôn: 01938 820 305

07889 929 672

Croesawodd Kath, ein Llywydd, bawb igyfarfod mis Chwefror ar nos Lun, 13eg.Darllenwyd y Collect gan Gwyneth, cyn innifynd ati i drafod y Cylchlythyr misol. Gwnaedtrefniadau ar gyfer ein Noson Dathlu DyddG@yl Dewi, ar nos Lun y 6ed o Fawrth. Rich-ard Lewis, Plas Elltyn a Huw Jones, DolwarFach fydd yn ein diddanu eleni. Rod Evans oLandinam oedd ein g@r gwadd ar y 13eg arhannodd hanes ‘Murray the Hump’ efo ni.Llewellyn Murray Humphreys oedd ei enw goiawn. Roedd ei rieni wedi ymfudo i Chicago,America o ardal Llanbrynmair. Aeth Llewellyn,neu Murray the Hump fel cafodd ei alw, ymlaeni fod yn aelod o’r ‘Mob’ yn gweithio’n agos iawnefo Al Capone, gan fynd ymlaen i reoli’r ‘Mob’yn dilyn marwolaeth Al Capone. Hanes difyriawn. Roedd Murray the Hump yn dipyn o foi!Diolchwyd i Rod am rannu’r hanes â ni ganAngela.Val a Kath oedd yng ngofal y baned a Lindaenillodd y raffl misol. Ein cyfarfod nesaf fyddein Noson Dathlu G@yl Dewi - mae pawb ynedrych ymlaen yn barod!

Page 5: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 55555

LLANERFYL

LLYFR LLOFFIONYSGOL LLANERFYL

Prawf GyrruLlongyfarchiadau i Ellyw Dolwen sydd wedipasio’r prawf gyrru - mwy o boen pen i Tom aDelyth, dwy o ferched ar y ffordd!YsbytyTreuliodd Hywel, Pantyrhendre beth amser ynYsbyty Wolverhampton bell yn derbyntriniaeth. Mae o adre rwan yn goruchwylio’rwyna.CydymdeimladCydymdeimlwn â Walty a Marcia Blainey. Bufarw Betty Ellis, chwaer Walty yn ddiweddar.Penblwydd arbennigMae Marcia yn dathlu penblwydd yn 90 oedar Fawrth 5ed. Rydym fel ardal yn eillongyfarch ar y penblwydd arbennig hwn.Llongyfarchiadau hefyd i Ben May,Pencringoed sydd wedi dathlu ei benblwyddyn 18 oed - pob lwc ar gyfer y dyfodol Ben.GenedigaethBabi arall yng Nghwm Nant. Llongyfarchiadaui Sam a Leanne, Moelddolwen ar enedigaetheu hail ferch, Nansi. Daeth Nansi i’r byd yngynnar ac er ei bod hi’n hollol iach bu rhaid i’rddwy aros yn yr ysbyty am rai wythnosauoherwydd pwysedd gwaed Leanne.Profiad bythgofiadwyCafodd Rhys, Tynewydd sy’n ddisgyblchweched dosbarth yn Ysgol Caereinionibrofiad bythgofiadwy yn ddiweddar. Yn dilynôl traed Hanna, Neuadd Wen, cafodd y cyflei dreulio diwrnod yn ymweld â gwersyllAuschwitz. Teithio o Gaerdydd ac yn ôl mewndiwrnod.BedyddYn ystod y mis yn yr Eglwys cafwyd bedyddtra gwahanol. Yn dilyn ei ordeiniad cafodd yParch Col. Glyn Jones y fraint o fedyddiopedwar o’i wyrion yn ystod gwasanaeth boreol– Catrin, Max, Rose a Lily. Daeth nifer fawr offrindiau ynghyd i ddathlu’r achlysur arbennigyma.

Merched y WawrAelodau Merched y Wawr Llanerfyl yn anghofio pob dim am ‘gyfri’r calorïau’ yng nghwmni JanetJames, Llys Erfyl a’i danteithion melys.

Ffarwelio gydag Anti CarolCafwyd cyfle i ffarwelio gydag Anti Carol mewn awyrgylch gynnes, gartrefol ac yng nghanolbwrlwm y disgyblion. Pan gyrhaeddodd Anti Carol byddech yn taeru bod Siôn Corn wedi cyrraeddwrth brofi’r cynnwrf. Diolch o galon i Anti Carol am ei gwasanaeth di-flino i’r ysgol gan gofio bodcroeso cynnes iddi yn Ysgol Llanerfyl bob amser.

Athletau Dan DoCafodd disgyblion Bl.5 a 6 fore o weithgareddau neidio, gwibio a thaflu ond yn bwysicach ollmwynhad. Diolch o galon i Rhys Stephens am drefnu’r digwyddiad

G wasanaethau

A deiladu

D avies

Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

www.davies-building-services.co.uk

Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannol

Page 6: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

66666 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

Ann y Foty yn cofio’i hadnodau“DUW CARIAD YW”.Mae’n debyg mai dyna’r adnodgyntaf i ni i gyd ei dysgu. Ydychchi yn cofio sefyll o flaencynulleidfa fawr yn y capel i’whadrodd? A phawb yn gwrando’n

eiddgar?Pa adnod ddaeth wedyn? Hon efallai?

‘Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, canyseiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.’

Mae’r geiriau yna o’r efengyl yn ôl Marc wedibod yn corddi yn fy mhen ers wythnosau lawer.I Theresa May, ein Prif Weinidog, mae’r diolcham hynny.A hithau yn ferch i ficer o swydd Rhydychenmae’n bosib iddi orfod dysgu’r adnod yna eihun.Yn rhyfedd iawn mae’n ddigon posib fodAngela Merkel, Canghellor yr Almaen (a merchi offeiriad Lutheraidd) wedi dysgu’r adnodauhefyd.Dyna i chi ddwy wraig bwysig, wedi eu maguyn s@n yr Efengyl. Ond trwy ganiatáu iffoaduriaid ddod i’w gwlad fe gadwodd AngelaMerkel at ysbryd y geiriau hyn. Y tristwch mawryw i Theresa May ddewis eu hanwybyddu.Un o arwyr prin yr oes hon yw’r Arglwydd Dubs.Fe lwyddodd ef ar ôl llawer o waith caled isicrhau fod llywodraeth Prydain yn rhoi llochesi dair mil o blant oedd wedi dianc rhag y rhyfelenbyd yn Syria.Fe wyddai’r Arglwydd Dubs nad oedd bywydffoaduriaid yn un hawdd. Bu ef ei hun ynffoadur. Pan oedd yn blentyn roedd yn un odros chwe chant o blant Iddewig o

Tsiecoslofacia, lwyddodd i ddianc i Brydainrhag y Natsiaid, yn 1938.Fel heddiw, digon cyndyn oedd y llywodraethyn y wlad hon i gynnig lloches, ac fe ellid bodwedi achub llawer mwy. Ond roedd hi’n hawsbod yn garedig wrth blant nac oedolion a dynapam y llwyddodd dyn o’r enw Nicholas Wintoni gludo tros chwe chant o Brâg i Brydain.Mae yna nofel ragorol iawn o’r enw Auzterlitzgan W.G Sebald sy’n adrodd hanes ykintertransport hwn. Caiff y prif gymeriad yny nofel loches tros dro yn y Bala, a thra maeyno mae’n ymweld â Llyn Llanwddyn.Cafodd Theresa May (a’i llawforwyn ufuddAmber Rudd) gyfle i ddangos yr un trugareddâ Nicholas Winton trwy groesawu tair mil offoaduriaid ifanc i Brydain. Ond tri chant ynunig gafodd gyrraedd cyn iddynt roi’r gorau igynllun Dubs. Yr esgus oedd fod prinder lleym Mhrydain. Ond mae’n debyg mai’r gwirreswm yw nad oedden nhw am ddigiogolygyddion y Daily Mail a’r Daily Express.Gwell gadael y plant , felly, i ddioddef a marwar gyfandiroedd Ewrop ac Asia.Rai blynyddoedd yn ôl fe alwodd Theresa Mayei phlaid ei hun yn ‘nasty party’. Yn awr maewedi profi ei bod yn arweinydd tra theilwng igiwed front o Geidwadwyr calon galed. Yn sicrmae hi wedi hen anghofio yr adnodau hynnya ddysgodd gan ei thad ac nid yw ysbryd yrEfengyl yn cyffwrdd â’i pholisïau.Prin y bydd Theresa May yn ennill unrhywenwogrwydd am ei dyngarwch. Ond efallai eibod hi yn haeddu Gwobr Goffa Joseph aMagda Goebels am Ofal Plant.

Croesair 234Croesair 234Croesair 234Croesair 234Croesair 234- Ieuan Thomas -

(12, Maes Hyfryd, Carmel,Caernarfon,

Gwynedd, LL54 7RS)

Ar draws1. Peth i’w gicio (8)7. Esgid y ceffyl? (5)8. Gall redeg yn gyflym (5)9. Y cryfaf efallai (6)10. Dwfr o’r croen? (4)12. Gwnaiff rhai cenhedloedd ei addoli (4)14. Mynyddoedd Meirionnydd (6)17. Bu ar y groes (5)18. Pethau diwerth (5)19. Heb fod yn wir! (8)

I lawr1. Bwyd arbennig y Nadolig? (5)2. Siarad lol neu orweddian (6)3. Rhufain i’r Sais (4)4. Atgoffa am fai (5)5. Organ ychydig uwch na’r glun6. Ddim yn gwybod yr ateb (9)11. Fferm ger cartref Mary (6)13. Clwt i sychu (5)15. Cyfarpar gêm griced (5)16. B_ _ _ _ i wneud cell oleuo (4)

Diolch am ymdrechion gan Ivy ac Olwen argroesair anodd. Mae’n ddrwg gennyf. Hawsy tro hwn (mewn gobaith).

A.J.’sAnn a Kathy

Stryd y Bont, Llanfair

Siop Trin Gwallt

Ar agor o ddydd Mawrth iddydd Sadwrn

ac hwyr nos Wener

Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227

AR AGORLlun – Gwener 7.30 a.m. – 5.00 p.m

Sadwrn 7.30 a.m. – 2.00 p.m.

BANWY BAKERY

STRYD Y BONT, LLANFAIR CAEREINION, SY21 0RZ

CAFFIBara a Chacennau CartrefPopty Talerddig yn dod â

Bara a Chacennau bob dydd IauBara Henllan yma bob dydd ond dydd Sul

Te Angladdau. Arlwyo i Bartïon. Saladau

Cysylltwch â Rita Waters ar 01938 810952neu e-bostiwch:

[email protected]

Hen YsguborLlanerfyl, Y TrallwmPowys, SY21 0EGFfôn (01938 820130)Symudol: 07966 [email protected]

Gellir cyflenwi eich holl:

anghenion trydannol:Amaethyddol / Domestig

neu ddiwydiannolGosodir stôr-wresogyddion

a larymau tân hefydGosod Paneli Solar

A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

01938 500355 a 500222Dosbarthwr olew Amoco

Gall gyflenwi pob math o danwyddPetrol, Kerosene, Disl Tractor a Derv ac

Olew Iro aThanciau Storio

GWERTHWR GLO CYDNABYDDEDIG

Page 7: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 77777

FOEL

LLANGADFAN

CFFIDyffryn Banw

Wel ar ol nosweithiau hir o ymarfer daeth yramser i berfformio ein Hanner Awr Adloniantyn Theatr Hafren nos Iau 23ain o Chwefror. Yddau feirniad oedd Mr Dilwyn Pierce a Mr GlynOwens. Roedd teitl i'r gystadleuaeth sef'Cynulleidfa gyda...' felly penderfynwyd ar ythema 'Cynulleidfa gyda'r Remote control!' Maepawb wedi cael y profiad o eistedd i lawr finnos gan edrych ymlaen at gael ymlacio o flaeny teledu. Ond, mae person arall yn yr ystafell arheolaeth dros y remot ac yn newid sianeli ynddi-ddiwedd jyst fel rydych chi'n dechrau caelblas ar wylio rhaglen! Felly cafwyd blas aramrywiaeth o raglenni o Bake Off i Mastermind!Derbyniodd Dyffryn Banw yr 2il wobr (roedd yrholl ymarfer werth o!) Derbyniodd Hywel Jonesy wobr am y perfformiwr gorau o dan 16 oed acEifion Jones y pefformiwr gorau yn gyfan gwbl.Da iawn chi eich dau.Mae ein diolch yn fawr i Catrin Hughes amgynhyrchu'r sioe a Gerallt Evans eintechnegydd. I Delyth Jones am hyfforddi'r ochrgerddorol ac Emma Morgan am gyfeilio.Diolch i Meinir a Carol am gynorthwyo. Dewchi Ganolfan y Banw nos Lun 6ed o FawrthLun 6ed o FawrthLun 6ed o FawrthLun 6ed o FawrthLun 6ed o Fawrtham 7:30am 7:30am 7:30am 7:30am 7:30 i weld ein perfformiad.

MarwolaethCollwyd cymeriad arbennig iawn ym MeirionHughes, Llechwedd Bach ar Chwefror 14eg.Er nad oedd ei iechyd wedi bod yn dda ersdros ddeg mlynedd roedd ei awch am fywydyn heintus ac roedd yn mwynhau hwyl athynnu coes hyd at y diwedd. Cydymdeimlwnyn ddwys iawn â Dilys ei wraig a’r teulu oll yneu profedigaeth.CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad at Dilys, Nyth yDryw ac Ann, Tynllan ar farwolaeth eu chwaerBetty Ellis, (Pwynt, Llanfyllin gynt) yn ystodmis Chwefror.LlawdriniaethBraf clywed fod Dwynwen, T~ Cerrig adre acyn gwella ar ôl derbyn clun newydd yn YsbytyGobowen yn ystod y mis.GenedigaethLlongyfarchiadau i Carwyn, Cartrefle a’i wraigCerys ar enedigaeth mab bach o’r enw Tomos.Fe gyrhaeddodd Tomos yn gynnar ond rydymyn falch o glywed ei fod adre ac yn cryfhau.Llongyfarchiadau i Nain, sef Buddug Evans,Cartrefle.Prawf gyrruPasiodd Megan, Llais Afon ei phrawf gyrruyn ystod y mis. O diar, bydd y bil petrol yncodi rwan! Diolch yn fawr iawn i Kevin am eiamynedd a’i ofal unwaith eto.YsgoloriaethLlongyfarchiadau i Ifan Huws, Caerlloi sy’nfyfyriwr yng Ngholeg Harper Adams, SirAmwythig ar ennill ysgoloriaeth i barhau gyda’iastudiaethau ym myd magu ieir. Mae Ifan yngweld dyfodol mewn magu ieir oherwyddmaent yn ffynhonnell arbennig o brotîn rhad ifyd lle mae’r boblogaeth yn tyfu mor gyflym.Bydd Ifan yn cychwyn ar brofiad gwaith gydaMoy Park ym mis Mehefin sef y cwmnicynhyrchu cig ieir mwyaf yn Ewrop.Merched y WawrAr nos Iau Chwefror 2il bu inni groesawucrefftwr sy’n enwog yn genedlaethol am eiwaith gydag arian. Brodor o Sir Fôn ydi JohnPrice a oedd yn athro dylunio a thechnolegyn Ysgol y Gader, Dolgellau am flynyddoedd.Mae’n enwog wrth gwrs am greu coronau ieisteddfodau cenedlaethol a rhanbarthol drosnifer o flynyddoedd. Roedd yn ddiddorolclywed am ei hanes cynnar yn Sir Fôn cynmynd ymlaen i drafod dylunio a chreu ygweithiau celf arbennig y mae’n eu creu argyfer y prif gystadlaethau.Têc-awêChwarae teg, mae pawb yn cael llond bol argwcio o bryd i’w gilydd – ac mae hynny’nenwedig o wir ar y penwythnos. Wel, mae’rCwpan Pinc wedi dechrau gwasanaeth ar rainosweithiau Sadwrn rhwng 5 ac 8 o’r glochsef Têc-Awê. Bu’n llwyddiant ysgubol hydyma a bydd y noson têc-awê nesaf ar nosSadwrn Mawrth y 4ydd a’r 18fed ac yna bobnos Sadwrn drwy fis Ebrill. Mae amrywiaeth obrydau ar gael ar y fwydlen am brisiaurhesymol – gallwch archebu ymlaen llaw oshoffech ar 820633 neu droi i fyny ac aros.Syniad da iawn!

GWE FANGWE FANGWE FANGWE FANGWE FAN

Gwahoddir ceisiadau am swydd Clerc yClerc yClerc yClerc yClerc yCyngor Cymuned a’r Swyddog Cyngor Cymuned a’r Swyddog Cyngor Cymuned a’r Swyddog Cyngor Cymuned a’r Swyddog Cyngor Cymuned a’r Swyddog AriannolAriannolAriannolAriannolAriannolCyfrifolCyfrifolCyfrifolCyfrifolCyfrifol i Gyngor Cymuned Banwy.Mae hon yn swydd ddiddorol ac amrywiol, sy’ngolygu gweithio o’r cartref yn bennaf, i gefnogicyngor gweithredol, sy’n canolbwyntio ar ygymuned.Byddwch yn cynhyrchu’r agenda ac yncymryd cofnodion ar gyfer y cyfarfodyddmisol, yn trin gohebiaeth a chyfrifon ariannol.Mae angen sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGda, ac mae gallu defnyddio cyfleusterau e-bostyn hanfodol.Cyflog hyd at raddfa NALC SCP 21 sef £10.46yr awr a lwfans milltiroedd. Mae’r swydd honam 16 awr y mis. Gellir cael manylion pellacham y swydd gan Glerc y Cyngor, neu o wefany Cyngor Cymuned www.banwycc.co.uk.Byddai’r swydd ar gael o fis Mai /Mehefin2017. Bydd mentora ar gael gan y Clercpresennol a bydd hyfforddiant priodol yn caelei gynnig yn ôl y gofyn. Mae angen iddogfennau swyddogol y Cyngor gael eucynhyrchu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ernad yw’n un o ragofynion y swydd, byddaiymgeisydd addas sydd hefyd yn ddwyieithogyn cael ei ffafrio.Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31Mawrth, 2017Os hoffech ymgeisio a fyddech cystal aganfon CV gyda llythyr yn egluro pam eich bodyn addas ar gyfer y swydd at:

Y ClercCyngor Cymuned Banwy

Cefn Coed UchafLlanfihangel yng Ngwynfa

LlanfyllinSY22 5JF

neu e-bostiwch [email protected]

Y Brigdonnwr

Mae TTTTTrydar rydar rydar rydar rydar (Twitter) bellach ynrhan annatod a phwysig mewnnifer o feysydd ac yn yblynyddoedd diweddar mae’n cael

sylw cynyddol mewn gwleidyddiaeth. Mae ynffordd gyflym a phoblogaidd o rannunewyddion, lluniau ac yn y blaen. Credir boddros biliwn o bobl wedi eu cofrestu a bod 100miliwn yn ei ddefnyddio bob dydd!Mae cyfrif Donald Trump (@realDonaldTrump)sef arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyrraedddros 25 miliwn o ddilynwyr (os all rhywungoelio unrhyw beth bellach!) ac mae hyn yncynyddu’n gyflym sydd yn ffaith ddigonbrawychus; mae’r dyn hwn yn defnyddiotrydar i feirniadu pawb a phopeth os nad ydyntyn cyd-weld â fo – ac mae nifer o rheiny! Maenifer o’i ‘tweets’ yn cael eu trafod yn syth gan ycyfryngau; bydd yn sgwennu rhai yng nghanoly nos gyda nifer o wallau camsillafu/camdeipioynddynt – fel pe bai mewn tymer ddrwg. Dymaochr dywyll y we – rhywun mewn grym yndefnyddio offer i fychanu eraill ac i glodfori eihun. Am hwyl, cafodd rhywun y syniad oddechrau cyfri ar gyfer hanner nionyn mewnbag (@HalfOnionInABag) i geisio cael mwy oddilynwyr na Trump ac er ei fod wedi cyrraeddtri chwarter miliwn mae ganddo dipyn go lew ifynd eto! Mae gan gyn-arlywydd America,Obama bron i 85 miliwn o ddilynwyr -@BarackObama.

Clerc y Cyngor Cymuned aSwyddog Ariannol Cyfrifol

Cyngor Cymuned Banwy

Brian LewisBrian LewisBrian LewisBrian LewisBrian LewisGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymio

a Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

Ffôn 07969687916 neu 01938 820618

WWWWWAAAAAYNE SMITHYNE SMITHYNE SMITHYNE SMITHYNE SMITH‘SMUDGE’‘SMUDGE’‘SMUDGE’‘SMUDGE’‘SMUDGE’

10% i ffwrdd gyda’r hysbyseb hon

PEINTIWR AC ADDURNWR24 mlynedd o brofiad

ffôn Cwpan Pinc01938 82063307971 697106

PROFIADAU TEITHIAUPROFIADAU TEITHIAUPROFIADAU TEITHIAUPROFIADAU TEITHIAUPROFIADAU TEITHIAUTRAMORTRAMORTRAMORTRAMORTRAMOR

sgwrs gan Beryl Vaughan

NOS IAU 27 EBRILL am 7 o’r glochNOS IAU 27 EBRILL am 7 o’r glochNOS IAU 27 EBRILL am 7 o’r glochNOS IAU 27 EBRILL am 7 o’r glochNOS IAU 27 EBRILL am 7 o’r glochyn y Cwpan Pinc, Llangadfanyn y Cwpan Pinc, Llangadfanyn y Cwpan Pinc, Llangadfanyn y Cwpan Pinc, Llangadfanyn y Cwpan Pinc, Llangadfan

Darperir lluniaeth ysgafn: cyfraniad o £4

Cymdeithas Edward Llwyd MaldwynCroeso Cynnes i BawbCroeso Cynnes i BawbCroeso Cynnes i BawbCroeso Cynnes i BawbCroeso Cynnes i Bawb

Page 8: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

88888 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

Colofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrLois Martin-Short

Ysgolion PasgTrewernTrewernTrewernTrewernTrewernBydd y cwrs deuddydd dros y Pasg yn caelei gynnal y tro yma yng Nghanolfan ButtingtonTrewern ger y Trallwng, ddydd Iau a dyddGwener, 20 a 21 Ebrill20 a 21 Ebrill20 a 21 Ebrill20 a 21 Ebrill20 a 21 Ebrill. Mae’r Ysgol Basgyn gyfle arbennig i ymarfer a magu hyder.Bydd te a choffi ar gael (50c am y diwrnod).Dewch â brechdanau i ginio. Mae’r cwrs yncostio £20 / £12 am ddau ddiwrnod. Cewchddod am un diwrnod yn unig, os ydy hynnyyn fwy cyfleus. Mae ffurflen gofrestru ar gaelar wefan learnwelshinmidwales.org neucysylltwch â Menna ar 01686 614226 neu e-bostiwch [email protected] lauDolgel lauDolgel lauDolgel lauDolgel lauOs nad ydy’r dyddiadau hynny yn gyfleus,bydd cwrs arall yng Ngholeg Meirion Dwyfor,Dolgellau, ddydd Mawrth a dydd Mercher, 1111111111a 12 Ebrilla 12 Ebrilla 12 Ebrilla 12 Ebrilla 12 Ebrill. Mae’r cwrs yn costio £24 / £12.Gallwch gofrestru ar-lein trwy fynd i http://www.bangor.ac.uk/cio/school.php.cy a chlicioar ‘Ysgolion’. Neu cysylltwch â Lowri ar 01341424914 neu [email protected]

Llaeth ’ta Llefrith?Llaeth ’ta Llefrith?Llaeth ’ta Llefrith?Llaeth ’ta Llefrith?Llaeth ’ta Llefrith?

Pos CyfieithuMae’r gwanwyn ar y ffordd a’r adar yn dechraucanu. Felly enwau adar sydd yn y pos y trohwn. Y gair ‘i lawr’ ydy’r enw am aderyn tiramaeth sy’n prinhau yn y wlad yma.

Llenwch y geiriau yn y sgwariau ar draws abydd y llythrennau yn y sgwariau llwyd ynffurfio gair arall. Cofiwch, bydd y llythrennau‘dwbl’ (ff, th, ch, dd, ll etc) yn cymryd UNsgwâr, nid dau. Bydd yr atebion ar dudalen 9.1. bullfinch (3,1,6)2. house sparrow (6,1,2)3. curlew (8)4. kingfisher (4,1,6)5. red kite (6,3)6. wren (4)7. chaffinch (2-4)8. swallow (7)9. heron (5, 4)10. barn owl (6,3)11. songthrush (9)

Ap TreigloFasech chi’n hoffi help efo’r treigladau? R@an mae Ap ar gael – Ap Ap Ap Ap Ap TTTTTreiglo reiglo reiglo reiglo reiglo – sy’n helpusiaradwyr Cymraeg a dysgwyr i wirio’r treigladau. Dydy’r ap ddim yn cynnwys pob rheoltreiglo, ond mae’n cynnwys y geiriau hynny sy’n treiglo’r geiriau sy’n eu dilyn, ac mae’nesbonio llawer o’r rheolau cyffredinol.

Dyma rai ymadroddion sy’n cynnwys y geiriau ‘llaeth’ neu ‘llefrith’:

Yma yn Sir Drefaldwyn mae’n debyg bod pobl yn tueddu i ddweud‘llaeth’ nid ‘llefrith.’ Mi wnes i chwilio yn y geiriadur i weld o le mae’rddau air yn dod. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn awgrymu bod‘llaeth’, fel laez yn Llydaweg a lait yn Ffrangeg, wedi cael ei fenthygo’r Lladin lactis. Ond mae ‘llefrith’ yn gyfuniad o’r ddau air llef a blith.Ystyr llef ydy ‘gwan’ neu ‘feddal’ ac ystyr blith ydy ‘llaeth’ neu ‘rhoillaeth’. Mae ‘buwch flith’ yn enw arall ar ‘fuwch odro’. Weithiau byddllythyren yn newid mewn gair fel y bydd yn haws ei ddweud. Mae’ndebyg dyna pam mae ‘lleflith’ wedi troi’n ‘llefrith’. Mewn rhai mannau

mae pobl yn dweud ‘llaeth llefrith’ ar gyfer llaeth llawn, nid ‘llaeth enwyn’ (buttermilk). YnLlydaweg ceir laezh-livrizh

llaeth anwedd – evaporated milkllaeth cyddwys(edig) – condensed milkllaeth enwyn – buttermilkllaeth sgim – skimmed milkllaeth powdwr / sych – powdered, dried milkcoffi drwy laeth – milky coffee, ‘latte’ceffyl lliw llaeth a chwrw – piebald, roan horsefel llyn llefrith – like a mill-pondgwlad yn llifeirio o laeth a mêl - a land flowing with milk and honeyllaeth y gaseg – gwyddfid, honeysuckle llaeth mwnci – diod feddwol, beer, alcoholic drinkyLlwybr Llaethog - the Milky Way

Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

a Gwasg y Lolfa, Talybont sydd yn ei argraffu

Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,Cacennau cartref, bisgedi,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,cacennau dathlu, pwdinau,

bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.bara brith a llawer mwy.Ffres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio iFfres ac wedi eu coginio i

archebarchebarchebarchebarcheb

Gwely a BrecwastGwely a BrecwastGwely a BrecwastGwely a BrecwastGwely a BrecwastNoddfa, LlangynywNoddfa, LlangynywNoddfa, LlangynywNoddfa, LlangynywNoddfa, Llangynyw

mewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefolmewn awyrgylch gartrefol

Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar Cysylltwch â Heather ar 07854239198 07854239198 07854239198 07854239198 07854239198 01938 810214 01938 810214 01938 810214 01938 810214 01938 810214

neu neu neu neu [email protected]

Yvonne Steilydd Gwallt

Ffôn: 01938 820695

neu: 07704 539512

Hefyd, tyllu

clustiau a

thalebau rhodd.

Ar gyfer eich holl

ofynion gwallt.

Page 9: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 99999

LLANGYNYWKaren Humphreys810943 / 07811382832

[email protected]

MEIFODMorfudd Richards

01938 [email protected]

Babi NewyddLlongyfarchiadau i Gwyn a Nia Williams(Watkin gynt), Llwynderw, Pontrobert arenedigaeth Ela Mai ar Chwefror 21 yn YsbytyWrecsam, chwaer fach i Harri. Wyres newyddi taid a nain Bedw Gwynion a Bwlchgolau agor-wyres i Ceinwen Pryce, Tom a Gwyneth aWinnie Evans.Swper SelsigDaeth tyrfa dda i BwyllgorBlynyddol y Gr@p Cymunedol ynyr hen Ysgol ar ddydd Gwener17eg o Chwefror. Roedd hi’nbleser croesawu wynebaunewydd sef Mike a Trish oMinffordd, Llangynyw.Diolchodd Jane VaughanGronow, y Cadeirydd, i bawb amddod ac am eu cefnogaeth ynystod 2016. Cadarnhaodd MikeEdwards, y trysorydd, ein bodwedi codi bron i £1,400 a bod 9elusen wahanol wedi elwa.Croesawyd cynrychiolwyr o

Gymdeithas MS Sir Drefaldwyn a chyflwynwydseic o £185 iddynt yn dilyn ein noson bingo.Derbyniodd Linda Davies, cynrychiolydd oGr@p Cefnogi Lupus Canolbarth Cymru siecam £85 a godwyd yn ystod ein Gyrfa ChwistNadolig. Trafodwyd sawl syniad ar gyfer 2017gan gynnwys cyflwyno ‘Cronfa Cyrtens’ argyfer yr Hen Ysgol a gwella’r ardal o amgylchffynnon y plwyf. Diolch yn fawr i bawb addaeth â bwyd eu canlyn i’w rannu ar gyfer yswper selsig. Y digwyddiad nesaf fydd NosonCwis yn erbyn Dolanog a Meifod ar Fawrth17eg yn yr Hen Ysgol, Llangynyw.

MARSAnnibynnol

Old Genus Building, Henfaes Lane,Y Trallwng, Powys, SY21 7BE

Ffôn 01938 556000Ffôn Symudol 07711 722007

Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol

Trevor JonesRheolwr Datblygu Busnes

Morgeisi * Pensiynau * Buddsoddiadau * Cynilion* Yswiriant Bywyd * Diogelu Incwm

* Adeiladau a Chynnwys

Atebion i’r Pos Cyfieithu: Ar draws: coch yberllan, aderyn y to, gylfinir, glas y dorlan,barcud coch, dryw, ji-binc, gwennol, crëyrglas, tylluan wen, bronfraith.Y gair ‘i lawr’: cornchwiglen

BabiLlongyfarchiadau i Shan merch Roy a Nerysy Garage sydd yn byw yn California ers sawlblwyddyn bellach. Ganwyd merch fach sefTenaya i Shan a Beau.Gwellhad BuanDymuniadau gorau i Mike Andrew, MaesAndrew, T~ Cerrig sydd wedi cael triniaeth arei ysgyfaint yn ysbyty Stoke yn ddiweddarond wedi dod adre erbyn hyn ac yn gwella.Dymunwn wellhad buan i Paul Evans syddddim wedi bod yn teimlo’n dda’n ddiweddar.DyweddïadLlongyfarchiadau mawr i Gareth Owen Tan yCoed a Christobel Davies ar eu dyweddïad.Noson elusennol Rhostio MochynCawsom noson wych nos Sadwrn y 11eg oChwefror yn Neuadd Pontrobert gyda’rTwurzels. Codwyd swm anhygoel o £1,600at ddwy elusen arbennig sef ‘Harry JohnsonTrust’ a Ward 20, Children’s Oncology Centre,Telford’ Braf oedd gweld cynifer o bobl lleolwedi dod at ei gilydd i gefnogi’r noswaith.Hoffem ddiolch yn fawr i bawb am ei haelioniac i unrhyw un a gyfrannodd mewn unrhywffordd i wneud y noswaith yn un llwyddiannus.Gyrru,Gyrru, Gyrru….Llongyfarchiadau i Sion Watkin Pentrego arbasio ei brawf gyrru, cymer ofal ar y ffordd.Panto MeifodMi roedd Neuadd Meifod yn brysur iawn drosbenwythnos y 10fed o Chwefror gan i lawer ogast lleol lwyfannu Pantomeim arall eleni. Maeyna lot o waith yn mynd i gynhyrchu sioelwyddiannus a braf oedd gweld pawb yn caelgymaint o hwyl.Clwb 200 Neuadd MeifodEnwau lwcus y mis yma…£15 Tony Clement, Pentre Clawdd£10 Mrs Angela Taylor, Middle Maen£10 Sally Corbett

ADFARuth Jones,

Pentalar (810313)

DamwainMae Ivy Evans, Belan-yr-argae gartref o’rysbyty ar ôl derbyn llawdriniaeth yn dilyncwymp. Dymuniadau gorau i ti am wellhadbuan – ond bydda’n ofalus.AngladdPnawn dydd Llun yr 20fed o Chwefrorcynhaliwyd angladd Mrs Margaret Thomas, 6Maesgwastad yn Eglwys Llanwyddelan danarweiniad y Parch Norman Morris. Ynenedigol o Lanidloes daeth Margaret (neeIngram) i fyw i’r ardal yn dilyn ei phriodas â’idiweddar @r, Francis Thomas, T~bwc. Ganwydiddynt ddau o blant, Amanda, a’i diweddar fab,Martin. Treuliodd Margaret rai blynyddoedd ynlanhawraig yn Ysgol Pantycrai a hi oedd yrolaf i ddal y swydd pan gaeodd yr ysgol yn1995. Cydymdeimlwn ag Amanda â’i g@r, Iana’r teulu a’i brawd-yng-nghyfraith, Reg Thomas,Trem-y-gaer.

G. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESSatellite. Aerial-TVRhif ffôn newydd: 01938 554325

Ffôn symudol: 07980523309E-bost: [email protected]

47 Gungrog Hill, Y Trallwm, Powys

IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol: 07967 386151

Ebost:Ebost:Ebost:Ebost:Ebost: [email protected]

LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

Ffordd Salop,Y Trallwm.

Ffôn: 559256

R. GERAINT PEATE

Page 10: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

1010101010 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

Mae’r mis bach wedi dod i ben a’r diwrnodau’nymestyn ac felly hefyd oriau a gwaith y dyddwrth i brysurdeb y cyfnod cyn @yna gynyddu,efo mwy o gegau i’w bwydo a’r gwellta’nteimlo’n ddi-ddiwedd! Mi fydd yn dda gweld yr@yna’n cychwyn.Daeth y mis yma â’r newyddion y mae pobffarmwr sydd â gwartheg yn ei ofni fwya, sefcael buwch i brofi’n bositif i TB. Teimlad annifyriawn yw cael eich ffarm wedi’i heintio efo’rclwy. Efo’r gwartheg i gyd wedi cael prawf clirym mis Medi anodd iawn yw derbyn bod yr unfuwch wedi dal TB, yn enwedig pan maemilfeddygon y Cynulliad yn cyfaddef bod yprawf ddim ond yn 98% cywir. Rheolau ywrheolau a bydd rhaid i’r fuwch gael ei saethuar y ffarm gan ei bod o fewn mis i loio, ac nidhawdd fydd gweld anifeiliaid sydd bob amseryn cael y gofal gorau yma yn cael eu difa.Y canlyniad yw gorfod cael prawf arall ar yfuches gyfan o fewn 90 diwrnod, nid ydym yncael gwerthu’r 63 o wartheg stôr (a oedd i fyndi sêl Trallwm ar y 28ain), ac yn hytrach gorfodceisio eu pesgi. Golyga hyn gostauychwanegol sylweddol a hefyd dim llif-arianar yr adeg prysur yma o’r flwyddyn. Un o’rproblemau arall yw diffyg lle yn y siediau argyfer @yna a lloio, a gorfod dyblu i fyny a gwthiomwy i mewn i bob cornel. Mae angen i’rCynulliad roi’r gorau i’r holl chwarae a dechrauymateb o ddifri a chydnabod rôl a dylanwadbywyd gwyllt, a rheoli TB er mwyn ceisio arbedy gwastraff o orfod lladd miloedd o wartheg bobblwyddyn.Cefais fy ngwahodd i siarad i gynhadleddflynyddol Cyswllt Ffermio yn Llanelwedd ar ythema o ffocysu ar y ffactorau sydd o fewnein rheolaeth, a chefais gyfle i siarad amfanteision a phwysigrwydd canolbwyntio arffrwythlondeb y fuches sugno. Braf oedd caelrhannu llwyfan efo Sion (Wern) a deithiodd ilawr o’r Alban i gyflwyno ar y ffactorau oeddyn dylanwadu ar berfformiad y stoc ar StadBowhill, sef un o’r stadoedd preifat mwyaf ynEwrop. Iach oedd clywed ei onestrwydd wrthdrafod y busnes ac wrth danlinellu’r effaith ymae’r tywydd yn ei gael ar broffidrwydd eiddiadell.Ar y 16eg, yn dilyn canlyniad y prawf TB, cefaisnoson ddifyr i godi fy nghalon yn cyflwyno imyfyrwyr ym Mhrifysgol Harper Adams, a brafoedd gweld wynebau cyfarwydd Lynfa ac Ifanyn y gynulleidfa. Mwynheais y profiad o siaradâ’r myfyrwyr a chael y cyfle i rannu fymeddylfryd am y fuches sugno ac ymateb i’wcwestiynau.Yng nghanol y mis fe fu cynrhychiolwyramaeth o Seland Newydd draw yn y wlad idrafod y cyfleon fydd i’w cynnyrch cig oen yn ydyfodol, wedi Brexit. Mae hwythau yn bryderusam y sefyllfa ac yn awyddus iawn i gaelcytundebau masnachu i allu sicrhau marchnadi’w cynnyrch amaethyddol. Cefais y cyfle igwrdd efo’r gr@p a’r ffarmwr yn eu plith AndrewMorrison o Beef and Lamb NZ yma yn Llysuni drafod a chymharu’r sialensau sydd ynwynebu ein diwydiannau. Y fantais fawr syddgennym yma yw’r farchnad o 60 miliwn o boblar ein stepen drws, wrth gymharu efo

a n g e n r h e i d r w y d dSeland Newydd iallforio popeth-roeddent yngenfigennus iawn o’rcyfleon oedd yma.Mae’r holl ddefaid wedicael Flukliver abrechiad 10-1 ac yndilyn cyngor cymydogmae’r defaid i gyd wedicael eu tocio, i geisioarbed gwaith mis Mai.Rydym wedipenderfynu dychwelydi ‘nut’ eleni (o blend) adiddorol fydd gweld afydd gwahaniaeth iweld ym mherfformiady defaid. Hwylustodoedd y prif reswm amy newid, efo finnau yndiflannu i Brasil ambythefnos, a dynahefyd oedd y rheswmam hyrddu llai o @ynmenyw eleni.Rhoddwyd 140 at yrhyrddod am 3 wythnosa chafwyd 40 gwag, 77sengl a 27 o efeilliaid,sydd yn debyg iawn i’rarfer o ran %.Gwerthwyd yr olaf o@yn 2016 efo tua ugainyn mynd i RPF acychydig i’r Trallwm, ynogystal â’r defaid gwaga 2 oen bach swci o’rdefaid a fu’n @yna’ngynnar. Wrth gymharuperfformiad @yn 2016â’r blynyddoeddblaenorol roedd yr @yni lawr bron 1KG o’rarfer a oedd ynadlewyrchu’r tymorpesgi heriol a gafwydllynedd. Y bwriad eleniyw defnyddio mwy offens electrig i rannu’rcaeau a cheisiogwneud gwell deunyddo’r borfa trwy’rflwyddyn wrth symud ystoc yn amlach ilaswellt ffres.Cafodd Tomos afinnau hyfforddiantcymorth cyntaf drwyCyswllt Ffermio athreulio dydd yn CO-BRA yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol osbyddai damwain neu argyfwng, ac hefydcawsom arddangosiad o beiriant ‘Defibrillator’sydd yn cael ei ddefnyddio mewn achosion odrawiad y galon. Roedd hyn yn agor ein llygaidi’r pwysigrwydd o geisio cael un yn mhob ardal/pentref. Bu Tomos a Sion ar gwrs hyffordditynnu trailer yn yr Amwythig, yn cael diwrnod ohyfforddiant ac yna prawf wrth yrru cerbyd atrailer trwy strydoedd a ‘roundabouts’ yrAmwythig. Mae’n angenrheidiol i gael yrhyfforddiant a’r drwydded ac er bod y ddauwedi bod yn defnyddio trailers ers talwmteimlai’r ddau fod y cwrs wedi bod yn fanteisiol.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cefnogaeth acgyfer hyfforddiant efo’r ffenestr ddiweddara aragor o’r 1af o Fawrth.Llongyfarchiadau i Guto ar raglen wych o CefnGwlad efo Dai Jones, a da yw gweld eifrwdfrydedd at waith caled yn cael eigydnabod. Mae safon ei stoc yn werth ei gweldefo galw cryf am ei fuchod a lloi ac mae’nhawlio prisiau haeddiannol o uchel bob amseryn y farchnad.Gobeithio y cewch oll dymor @yna gwych efotywydd ffafriol a digon o laswellt! Pob lwc ahwyl am y tro.

#yn menyw ar y ffordd i’r mynydd

Dafydd Pengwern efo'r lli goed symudol

Page 11: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 1111111111

LLANFAIRCAEREINION

Yn gwellaCafodd Megan Ellis, Cynefin, lawdriniaeth arei llygad yn ddiweddar, a da deall ei bod yngwella. Mae Pat Ellis yn gwella ar ôl eichodwm hefyd a da yw gweld y ddwy ogwmpas.Y Gymanfa GanuCynhaliwyd pwyllgor Cymanfa Ganu’rAnnibynwyr yn Ebeneser nos Lun, Chwefror13. Cynhelir y Gymanfa yn y Drenewydd arFehefin 18.Gwasanaeth TeuluolCynhaliwyd gwasanaeth gwahanol ym Moreiafore Sul, Chwefror 12. Roedd yn wasanaethdwyieithog o dan ofal Mr Huw Ellis a braf oeddgweld bron i lond capel o bobl yr Eglwys a’rcapeli yn dod at ei gilydd i gydaddoli mewngwasanaeth ar thema ‘Cariad’. Mae Huw erbynhyn yn gyfrifol am waith Impact yn yr ysgolionlleol ac yn gweithio i’r elusen TFG sy’ngweithio ar draws Prydain i roi cymorth i blantsydd wedi colli diddordeb mewn addysg.Diolchwyd iddo am ei waith gan Mr John Ellis.Gwasanaeth G@yl DdewiGwasanaeth G@yl DdewiGwasanaeth G@yl DdewiGwasanaeth G@yl DdewiGwasanaeth G@yl DdewiYn Ebeneser ar Chwefror 26 y cynhaliwyd ygwasanaeth hwn eleni, ac fe’i trefnwyd ar ycyd gan Huw Ellis, a Buddug Bates ar ran yrOfalaeth. Gwasanaeth dwyieithog ydoedd yncyfuno elfennau hen a newydd – cafwyddarlleniadau gan Mary Bowen, Buddug Bates,David Jones, Jean Ellis, ac anerchiad i’r plantgan Huw Ellis. Cyhoeddwyd yr emynau ganMali Ellis, Phil Langford, Evie a Ruth Waltona chafwyd deuawd gan Alun Jones a MariHafod.Cyngerdd mis MaiMae Pwyllgor yr Hosbis wedi gweithio’n galediawn dros flynyddoedd lawer i gynnalCyngerdd mawreddog yn yr Eglwys ar y nosSadwrn gyntaf ym mis Mai. Mae’r pwyllgorhwnnw wedi dod i ben bellach ond eleni byddcyngerdd yn dal i gael ei gynnal yn yr Eglwysar yr un dyddiad, Mai 3ydd. Côr y Brythoniaidfydd yn ei gynnal a bydd yr elw yn mynd at ySioe Frenhinol gan mai Maldwyn fydd ynnoddi’r sioe’r flwyddyn nesaf.

Merched y WawrMae criw Merched y Wawr wedi bod yn brysuryn mynd drwy hanes y gangen leol er mwyncyfrannu at Brosiect Treftadaeth y mudiad.Gan fod y Mudiad yn genedlaethol yn dathluhanner canrif ers ei sefydlu eleni, gwnaed caisam grant i gasglu eitemau o bob cangen igroniclo hanes y mudiad dros y degawdau.Cafwyd hwyl yn mynd drwy’r hen luniau achofnodion a sylweddoli cymaint maeMerched y Wawr wedi ei gyfrannu i ni yn lleolac yn genedlaethol. Bydd yr eitemau gan ycanghennau yn cael eu gosod ar y we o danGasgliad y Werin a bydd arddangosfeydd yncael eu trefnu ledled Cymru.Derbyniodd pob aelod o Ferched y Wawr fagdeniadol a defnyddiol i goffau hannercanmlwyddiant y mudiad. Yn y llun uchodgwelir aelodau cangen Llanfair yn euharddangos.Cinio G@yl Dewi’r gangenCinio G@yl Dewi’r gangenCinio G@yl Dewi’r gangenCinio G@yl Dewi’r gangenCinio G@yl Dewi’r gangenDaeth criw da o aelodau’r gangen a ffrindiau

i’r Institiwt nos Fercher, Chwefror 22 i ddathlug@yl ein nawddsant. Rita a’i chriw oedd yngyfrifol am y cawl a’r pwdinau blasus achawsom ein diddanu gan Glandon a Sioned.Darllenodd Glandon rywfaint o waith ei dad,

Aelodau cangen Merched y Wawr Llanfair gyda’u bagiau

RHIWHIRIAETH

ColledCollwyd un arall o feibion y fro yn ddiweddarsef Douglas Jones, neu Doug, Tynfawnog,fel yr oedd yn fwy cyfarwydd i bobl y fro.Dyn ei filltir sgwâr oedd Doug a bu fyw ynNhynyfawnog hyd ei ymddeoliad ym misHydref 2007, pan symudodd i lawr i Lanfair.Wedi i’r iechyd ddirywio bu raid iddoymgartrefu yng Nghartref Llys Hafren yn yTrallwm ac yno y bu farw yn 90 oed.Cafodd ei addysg yn ysgol Rhiwhiriaeth acyna adref i ffermio gyda’i rieni. Bu’n ffyddloni Gapel Siloh ar hyd ei oes a dilynodd ei dadi’r swydd o Ofalwr y Fynwent.Pan sefydlwyd Canolfan Rhiwhiriaeth 50mlynedd yn ôl, Doug oedd yr is-gadeiryddcyntaf ac ni phallodd ei ddiddordeb na’igefnogaeth i’r ganolfan a’r gweithgareddau agynhaliwyd yno er nad oedd ganddoddiddordeb mawr mewn Gyrfa Chwist. Bu’naelod o Gôr Meibion Llanfair am nifer fawr oflynyddoedd.Ni chrwydrai Doug ymhell iawn o’i filltir sgwârond mwynheai sgwrs gyda’i gyfoedion bobamser a threuliai amser hapus yn Llanfair arfore Sadwrn yn sgwrsio â hwn a’r llall.Ffermio oedd yn mynd â’i fryd a bu ambell unyn helpu yn Nhynyfawnog heb sôn amgymorth cymdogion agos, hyn yn ei alluogi iddal ati nes oedd bron yn 80 oed.Cydymdeimlwn yn ddwys â’i chwaer,Theodora, a hefyd â theulu ei ddiweddar efaill,Brian, a’r cysylltiadau i gyd.

Gyrfa ChwistDaeth tri ar ddeg o fyrddau ynghyd i’r YrfaChwist Sant Ffolant a gynhaliwyd yn yGanolfan nos Lun, Chwefror 13 gydag ArwelRees yn llywio’r gweithgareddau.Yr enillwyr oeddent:Merched: 1af Gwenan James; 2il TeresaFrancis; 3ydd Anwen Morgan.Dynion: 1af Brian Jerman; 2il John Davies;3ydd Linda Turner.Enillwyr y ‘Knockout’ oedd Joyce Davies aTom Price gyda Arthur George a Tom Hold-ing yn ail. Rhoddwyd y diolchiadau gan yr Is-gadeirydd, Enid Thomas Jones.Swper G@yl DewiSwper G@yl DewiSwper G@yl DewiSwper G@yl DewiSwper G@yl DewiBydd yr uchod am 7.15 nos Wener, Mawrth3ydd yn y Ganolfan. Wedi’r swper ceiradloniant gan Gwilym, Dave, Glandon aSioned yn ogystal â feiolinydd ifanc sef MiaKendal.Mae tocynnau ar gael gan Arwel Rees(810386) ac Olive Owen (810271).

HUW EVANSGors, Llangadfan

Arbenigwr mewn gwaith:

FfensioUnrhyw waith tractor

Troi gydag arad 3 cwys ‘spring’a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’Torri Gwair a Thorri Gwrych

Bêlio bêls bach

01938 820296 / 07801 583546

soniodd am daith Parti Cut Lloi i Washingtona chanodd ambell i gân cyn diwedd y noson.Cafwyd cyfarchion barddol gan Emyr Daviesa Hafwen a Gwyndaf Roberts i goffau hannercanmlwyddiant mudiad Merched y Wawr.Noson gartrefol a dymunol iawn.

Page 12: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

1212121212 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

PONTROBERTSian Vaughan Jones

01938 [email protected]

-

- -

CofionMae Huw Rhos wedi cael llawdriniaeth ar eiben glîn ac yn cryfhau yn dda. Anfonwn eincofion ato. Gobeithio y bydd ei goes wedi gallugwella yn iawn cyn iddo fentro am dro yn eiawyren!Dathlu’r DwbwlMae Eira Evans, Yr Ochr wedi bod yn dathluei phenblwydd yn 70 oed yn ddiweddar.Llongyfarchiadau mawr a gobeithio i chifwynhau’r dathlu.Hefyd mae Eira wedi derbyn gwobr arbennigam ei gwaith yn rhoi cymorth a gofal i bobl yneu cartrefi. Mae hi yn adnabyddus am y gwaithcaled a hanfodol mae'n ei wneud drwy ardalfawr ac mae hi i'w gweld yn gyrru o le i le ynaml. Mae'n amlwg bod ei gwaith yn cael eiwerthfawrogi gan ei chyflogwyr a dymunwn nifel ardal ei llongyfarch yn fawr. Da iawn chi,Eira.Babi NewyddLlongyfarchiadau mawr i Gwyn a Nia Williamsar enedigaeth merch fach. Ei henw yw ElaMai a dymunwn bob bendith i'r teulu bach.Bydd y brawd Harri wrth ei fodd. Dyma'r wyresgyntaf i Alun a Gaenor ar ôl pump o wyrion,felly dymuniadau da iddyn nhw, Taid a NainBwlch ac i Glyn a Joan yn ogystal â Hen Daida Nain Cefn Llwyd ac i hen Nain arall sefWinnie Evans.Tywydd GwyntogBu tywydd gwyllt a gwyntog iawn yn ardalPontrobert dros y ddyddiau diwethaf ac mae'ndebyg mai ar Doris yr oedd y bai!! Erbyn hyn

mae o wedi tawelu ac yn bihafio yn iawnunwaith eto. Dwi wedi sôn wrtho ein bodangen iddo ddod acw i drwsio'r trampolîn arôl ei daflu o gwmpas a newid ei siâp, ondmae'n debyg bod sawl un arall wedi holi cynhynny. Jyst gobeithio na fydd Doris, na nebarall chwaith, yn chwythu corwynt arall yn ydyfodol!!Noson ElusennolCynhaliwyd noson lwyddiannus iawn ynNeuadd Pontrobert i godi arian i WardOncoleg Plant Ysbyty Telford acYmddiriedolaeth Harry Johnson - dwy elusensydd wedi chwarae rhan fawr ym mywyd BrynJones, Green Hill dros y chwe mis diwethaf.Daeth cynulleidfa gref i gefnogi a mwynhaumochyn rhost ac adloniant yng nghwmni’r‘Twurzels’. Gwnaed elw sylweddol o 1,600 i’wrannu rhwng yr elusennau.

Delyth, Eleri, Myra, Bryn, Carol a Morfudd fu’n cynorthwyo yn y noson elusennol

DOLANOG

CydymdeimladAnfonwn ein cofion at Emyr a theulu Melindwr, Llwydiarth yn dilyn marwolaethMrs Glenys Jones ac estynnwn ein cydymdeimlad at ei chwaer Mrs PhyllisDavies a’r teulu ym Mrynmawr.LlongyfarchiadauRoedd prysurdeb a dathlu mawr yn Ty-Isaf ar ddydd San Ffolant yn dilyngenedigaeth Hefin Geraint Lewis, mab bach cyntaf i Rhian a Mark - a hynnybythefnos yn gynnar - anrheg perffaith.Llongyfarchiadau gwresog i chi ac i'r teidiau a neiniau i gyd sef Bethan GlynIsaf a Kevin, Geraint a Bella, Caenymynydd ac i Elfet Lewis, Brynhyfrydsydd yn Hen Daid i Hefin bach.Mwy o newyddion daPleser o'r mwyaf yw cael llongyfarch Janet Jones, Ty ar y graig a JamieLewis, Ty'n Rhos ar eu dyweddiad. Mae'r ardal gyfan yn anfon eu cyfarchion acyn dymuno hapusrwydd a phob bendith i chi yn y dyfodol.Darlithoedd y GanolfanMae'n draddodiad bellach gan y Ganolfan i drefnu darlithoedd yn ystod mis Chwefrorac eleni cafwyd sgyrsiau gan Jan Evans o'r RSPB yn Llanwddyn, Richard Churcham Fapiau’r Degwm yn ardal Dolanog, ac yna i orffen bu Ian Stanistreet yn trafod eiwaith gyda'r 'Olduvai Gorge Coring Project' yng Ngogledd Tanzania.Cymdeithas y MerchedNoson yng nghwmni Alwyn Jones o Benybontfawr gafwyd y mis hwn. Mae Alwynyn aelod o Galon Cymru ac yn rhoi dosbarthiadau ar Gymorth Cyntaf i blant acoedolion. Cawsom ein dysgu yn y pethau sylfaenol sydd mor bwysig, a’n gwneudni i sylweddoli ein diffyg gwybodaeth ar bwnc a allai achub bywyd.Noson addysgiadol oedd yn gwneud i ni werthfawrogi a cheisio cofio’r cynghorionroddwyd gan Alwyn. Diolchwyd iddo gan Gwyneth. Llinos a Jenny oedd yng ngofaly baned, a Mair enillodd y raffl

Page 13: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 1313131313

MM aldwynenterMererid Haf Roberts

01686 610 [email protected]

Y Ladis yn dod i berfformio yn BanwAr nos Wener y 17eg o Fawrth am 8 o’r glochmi fydd sioe ‘Y Ladis’ yn dod i berfformio yngNghanolfan Y Banw yng nghwmnni CarysHuw, Nia Medi a Mair Tomos Ifans. Mae’rsioe yn fwrlwm o liw, geiriau, cerddoriaeth ahwyl ac wedi ei hysbrydoli gan luniau enwogMenywod Cymreig Ruth Jên Evans oDalybont. Cafodd y sioe ei pherfformio ynwreiddiol ar gyfer Eisteddfod GenedlaetholMeifod 2015 ac fe’i disgrifir fel “Sioe hwyliog,

awrgrymog Gymreig sydd ddim yn addas iblant bach na phobl cul eu meddwl!” Amdocynnau cysylltwch â Catrin Hughes, un oolygyddion Plu’r Gweunydd neu Nia yn MenterMaldwyn.Cais am luniau – Diwrnod RyanBydd Ebrill22ain eleni ync o f n o d id e u g a i nmlynedd ersmarolwaeth yd i d d a n w rp o b l o g a i d dRyan Davies. Mae cysylltiadau ganddo âMaldwyn ac ardal Llanfyllin yn benodol.Roedd ei dad yn weithiwr yn Y Dolydd, yr henwyrcws pan roedd Ryan yn ifanc. Fel rhan o’rdathliadau rydym yn gwneud cais i bobl oeddyn adnabod a chofio Ryan ddod â hen luniau

ohono i Lyfrgell Llanfyllin neu drwy lawAlwenna Evans [manylion cysylltu yn YrYsgub]. Bydd y diwrnod yn gydweithrediadrhwng y Gymuned a Menter Maldwyn. Maeposib hefyd i chi gysylltu gyda Menter Maldwynos oes gyda chi unrhyw straeon diddorolamdano.Mae Diwrnod Ryan yn cael ei drefnu ar gyferdydd Sadwrn y 22ain o Ebrill mewn gwahanolleoliadau yn Llanfyllin ac mi fydd mwy owybodaeth am yr achlysur yn rhifyn nesaf yPapur Bro.Sesiynau Cymry BachEdrychwch ar wefan eich llyfrgell leol amddyddiadau sesiynau Cymry Bach. Sesiynaucanu, symud a stori yw rhain sy’n cael eurhedeg ar y cyd gyda Rhianon, swyddogCymraeg i Blant. Bydd Cymry Bach Llanfyllinnesaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener 17eg oFawrth am 2 o’r gloch a Chymry Bach YTrallwng ar y 14eg o Fawrth am 1:30 yp.

Rhys Mwyn yn y Cwpan PincDrwy’r gwynt a llifogydd mi fentrodd Rhys Mwyn draw i’r Cwpan Pinc fore Iau, 23ain o Chwefror i gynnal sgwrs am ei lyfr diweddaraf ‘Cam aralli’r Gorffennol’. Roedd yn fore difyr iawn er gwaethaf’r ffaith na chafwyd y baned, gan nad oedd trydan yn yr adeilad ar ôl y storm!Mae ein dyled yn fawr i bobl fel Glenys James sy’n mynd at gr@p dysgwyr Y Cwpan Pinc bob bore Iau. Yn y llun gwelir Glenys James gyda chriwy dysgwyr yng nghwmni Rhys Mwyn a’i dad.

LLANLLUGANI.P.E. 810658

Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu

Dros 10 mlynedd o brofiad yn y maes

Cysylltwch i drafod eich ceisiadaucynllunio, apeliadau,amodau S106 a mwy

07771 553 773 /[email protected]

CEFIN PRYCE YR HELYG

LLANFAIR CAEREINION

Ffôn: 01938 811306

Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

Gwaith Cerrig

Arwyddion y gwanwynMae’r daffodils wedi dod allan i lawr wrth yrargae, maent yn codi calon, ac mae’rgwanwyn yn dod.A.T.B. Ar y nos Iau olaf yn Chwefror cynhaliwydcyfarfod olaf y tymor, yn Hen Ysgoldy’r Cwm.Mae John a Sarah Yeomans, Llwynybrainwedi cael siaradwyr diddorol bob wythnos.Tymor yr wyna rwan felly bydd pawb yn brysurddydd a nos.O diar Ganol mis Chwefror cwympais i lawr stepiauyn nh~ fy nghymydog a thorri dau asgwrn ynfy nghoes - y tibia a’r fibia. Gosodwyd dau blâtyn fy nghoes, a’r bore trannoeth dywedodd yconsultant wrthyf, “you are going to get up andsit in the chair for dinner, your leg is strongernow than before and walk to strengthen themuscles.” Felly bu, ac mae wedi bod ynboenus. Am nad oedd plaster ar y goes cefaisfynd adref ar ôl pedwar diwrnod. Nôl i’r ysbyty yn gynnar mewn wythnos ac fe dynnwyd ypwythau i gyd allan. Ond mae’n mynd i gymryd

amser i’r poenau fynd. Diolch am y cardiaua’r negeseuon ffôn sy’n codi fy nghalon. DorisBeth welais yng ngardd y “plas”,(TyddynBrongoch)...na, nid cennin Pedr ond cwch!Taflu fy nghap i ganol y baw yn llawer gwellna’r cwch. Tymer ofnadwy gan Doris!

DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

Pob math o waith adeiladu at eich gwasanaeth

ADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYR

Ffôn: 01938820387 / 596Ebost: [email protected]

Page 14: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

1414141414 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

gan Wyn ei nai. Mae’n rhyfedd meddwl nachlywn ef yn gweiddi “Sumai Wa” eto, ond maegennym oll ein hatgofion melys ohono. Dymaergyd arall i gefn gwlad yr ardal hon – maecymeriadau fel Meirion yn brin erbyn hyn.Diolchwn am gael ei adnabod, a gorffwysedmewn hedd.Croeso i’r Gwanwyn!

CynefinAlwyn Hughes

Cofio MeirionBu farw Meirion Hughes, Llechwedd Bach yFoel ar Chwefror 14eg ar ôl gwaeledd hir. Ynun o saith o blant fe’i magwyd yn ardalLlangynog, ac roedd yr ardal hon yn agos iawnat ei galon, yn enwedig Cwm Pennant.Bu’n gweithio ar nifer o ffermydd yn ardalDyffryn Tanat am flynyddoedd, cyn symud iffermydd yn ardal Rhuthun a Phwllheli ynweithiwr diwyd ac uchel ei barch. Roedd yngyfarwydd â’r hen ddull o amaethu – gweloddddiwedd oes y ceffyl a dyfodiad y tractorcyntaf sef y Fordson bach. Nid gwaith hawddoedd trin yr offer yma ar lechweddi serth rhanuchaf Dyffryn Tanat, ond fe lwyddodd Meirionheb unrhyw anffawd mawr. Cofiaf ef yn dweudwrthyf am ffermwr yn hau hadau gyda llaw arlechwedd garw iawn – rhy arw i fynd â rowlyno – yr hyn a wnaeth oedd gyrru defaid yn ôla blaen dros yr hadau – hyn yn gwneud yr ungwaith â’r rowl.Dro arall cefais wers ganddo ar sut i hogipladur – gwelaf ef yn awr yn sefyll ar fuarthLlechwedd Bach a llafn y bladur dros unysgwydd, tra hogai gyda’r garreg hogi oedd ynei law arall. Roedd ganddo ddiddordeb mawrmewn casglu hen greiriau ac roedd ganddogasgliad gwerth ei weld. Penderfynodd gaelymadael â’r casgliad gan eu gwerthu yn SioeLlanfair yn 2008. Cefais y fraint o’i gynorthwyoac fe gefais lawer o wybodaeth a hwyl gydaMeirion. Llwyddodd i gasglu swm sylweddolo rai cannoedd o bunnoedd, ac fe roddodd ycyfan i achos da Lingen Davies a fu’n gymorthiddo pan oedd yntau’n sâl. Gwelir rhai o’rcreiriau yn y llun – mae separator a nifer o’rpethau llai gennyf i yma bellach, tra mae’r ffidlhau ym meddiant Huw Gors.Roedd Meirion yn berson hwyliog a chyfeillgaroedd yn mwynhau tynnu coes. Roedd ynmwynhau sgwrsio gyda phawb – nid oedd ynberson tawel. Byddai’n siarad ar dop ei lais aphan âi i hwyl byddai’n rhoi pwt i rywun yn eifraich yn gyson i bwysleisio pwysigrwydd yrhyn a ddywedai!Roedd ganddo wybodaeth anhygoel amddaearyddiaeth Prydain – treulioddflynyddoedd yn gweithio mewn ffatrioedd arhyd a lled y wlad. Roedd yn grefftwr da wrthnatur a bu’n gweithio i Gyngor Sir Powys amflynyddoedd cyn iddo ymddeol. Mae ôl eiwaith yn dyst i’w allu ar lawer o bontydd a

waliau dros ardal eang. Roedd corau meibionyn un o’i ddiddordebau pennaf, ac roedd yngryn awdurdod yn y maes hwn.Roedd yn stocman da ac fe gafodd ei ddefaidbrisiau uchel mewn seli megis Cann Offis bobtro. Gwelir ei ddawn fel crefftwr ymhobman arhyd tir Llechwedd Bach – roedd popeth fel pinmewn papur bob amser.Bu Meirion yn gwerthu wyau yng NghwmBanw am flynyddoedd – deuai yma ar foreSul, credaf fod “delifro” wyau yn job diwrnod,oherwydd rhaid oedd cael sgws dda gyda’rholl gwsmeriaid!Roedd yn drwsiadus ei wisg bob amser a buef a Dilys yn mwynhau teithio a mynd am dro– roedd cael mynd allan am ginio Dydd Sulyn achlysur o bwys i’r ddau.Cafodd Meirion salwch difrifol tua dengmlynedd yn ôl ond brwydrodd drwyddi achafodd flynyddoedd hapus nes y daeth yrhen aflwydd yn ei ôl. Nid oedd yn un amgwyno – edrychai ar yr ochr orau bob amser.Dirywiodd ei iechyd ond brwydrodd yn galedhyd y diwedd – roedd yn dal i yrru o gwmpashyd y diwedd bron.Mae ein cydymdeimlad yn ddwys iawn gydaDilys, ei briod a fu’n hynod ofalus ohono hyd ydiwedd. Gwnaeth y ddau bartneriaeth dda –Meirion yntau yn gofalu am Dilys pan nad oeddhithau yn holliach.Daeth tyrfa dda i dalu’r gymwynas olaf iddo –hyn yn dyst o’i boblogrwydd dros ardal eang,a rhoddwyd teyrnged hynod o effeithiol iddo

D Jones Hire

TyntwllLlangadfanY Trallwng

PowysSY21 0QJ

Chwalwr KTwo 6 tunnell Rear DischargerRitchie 3.0M Grassland Aerator

Dylan: 07817 900517

ANDREANDREANDREANDREANDREW W W W W WWWWWAAAAATKITKITKITKITKIN CyfN CyfN CyfN CyfN Cyf.....

Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330

Adeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr Tai acai acai acai acai acEstyniadauEstyniadauEstyniadauEstyniadauEstyniadau

GwGwGwGwGwaith Bricaith Bricaith Bricaith Bricaith Bric, Bloc neu, Bloc neu, Bloc neu, Bloc neu, Bloc neuGerrigGerrigGerrigGerrigGerrig

Froneithin,Llanfair Caereinion

01938 810242/01938 811281 [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

TANWYDD

OLEWON AMAETHYDDOL

POTELI NWY

BAGIAU GLO A CHOED TAN

TANCIAU OLEW

BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

ANIFEILIAID ANWES

A BWYDYDD FFERM

Gwelais rifft llyffant ar Chwefror 19 a gweloddGeraint Dolau rai yr un dydd. Mae’r tywyddmwyn a gwlyb yma wedi golygu fod llawer pwlla ffos yn llawn ohonynt bellach. Ni chefaisunrhyw gofnod am ddyfodiad y gylfinir – maentwedi prinhau yn aruthrol – mae cân ‘Gog CwmNant’ a’r gornchwiglen neu’r pi-wit yn brysurddiflannu o gefn gwlad, fel gwnaeth yr eos(nightingale) a rhegen yr ~d (corncrake) o’ublaen.

Page 15: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017 1515151515

O’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANGwyndaf Roberts

CYSTADLEUAETHSUDOCW

ENW: _________________________

CYFEIRIAD: ____________________

____________________________________

____________________________________

Er iddi fod yn fis bach a’r amser yn fyr igwblhau’r Sudocw, llwyddodd 33 i gwblhau’rpôs a’i anfon i mewn mewn pryd.Llongyfarchiadau i’r canlynol am ei gwblhau:Linda Roberts, Abertridwr; J. Jones, YTrallwng; Gwyndaf Jones, Llanbrynmair;Delyth Davies, Capel Bangor; Ifor Roberts,Llanymawddwy; Eirlys Edwards, Pontrobert;Noreen Thomas, Amwythig; Megan Roberts,Llanfihangel; Annie Ellis, Penycoed; DavidSmyth, Foel; Enid Jones, Machynlleth;Heulwen Davies, Llangadfan; Beryl Jacques,Cegidfa; Ann Lloyd, Rhuthun; Linda James,Llanerfyl; David Palin, Arddlîn; HeatherWigmore, Troed-yr-Ewig; Anne Wallace,Craen; Mavis Lewis, Firbank; Cleds Evans,Llanfyllin; Eirwen Robinson, Cefncoch;Rhiannon Gittins, Llanerfyl; Eluned Davies,Pen-yr-Herber; Carwen Jones, Derwenlas;Myra Chapman, Pontrobert; Eleri Llwyd Jones,Llanfyllin; Oswyn Evans, Penmaenmawr;Kate Pugh, Llanymynech; Gwyneth Williams,Cegidfa; Maureen Jones, Talar-Deg; EirysJones, Dolanog; Glenys Richards, Pontrobertac Arfona Davies, Bangor.I mewn â’r enwau i’r fasged olchi a’r enwcyntaf allan o’r fasged ac yn ennill tocyngwerth £10 i’w wario yn un o siopau Charlie’soedd Eirys Jones, Derwen, Dolanog.Anfonwch eich atebion at Mary Steele,Eirianfa, Llanfair Caereinion, Y Trallwm,Powys, SY21 0SB neu Catrin Hughes, LlaisAfon, Llangadfan, Y Trallwm, Powys, SY210PW erbyn dydd Sadwrn, Mawrth 18. Byddyr enillydd lwcus yn derbyn tocyn gwerth £10i’w wario y tro hwn eto yn un o siopau Charlie’s.

KATH AC EIFION MORGAN

yn gwerthu pob math o nwyddau,Petrol a’r Plu

POST A SIOPLLWYDIARTH Ffôn: 820208

Yn y flwyddyn 43 Oed Crist hwyliodd byddino 40,000 o ddynion o dan Aulus Platius ardraws y Sianel a glanio yn ne ddwyrain YnysPrydain. Erbyn OC 47 roedd rhan sylweddolo’r wlad wedi’i choncro ond bu rhaid disgwyltan y flwyddyn 60 cyn y llwyddodd yRhufeiniaid i ddifa Derwyddon Ynys Môn achwalu’r llennyrch sanctaidd.Fe gredir i rai o Geltiaid tir mawr Ewrop ymfudoi Brydain oddeutu 600 Cyn Crist ac i ddiwyllianty newydd ddyfodiaid ymledu ymhlith y trigolionblaenorol. Nid yn unig y bu ganddyntddylanwad crefyddol ar y wlad ond daeth yriaith Frythoneg i fodolaeth yn y cyfnod hyd ateni Iesu Grist. Fe arhosodd y cof am yr hendduwiau yn hir iawn yn y tir ac mae awgrymbod yn eu plith gred am un ysbryd dwyfol.Erys y cof am eu duwiau yn yr enwau Nudd,Lleu a Mabon sydd ar gael yn y Gymraegheddiw.Ni wyddom yn union pryd y daeth Cristnogaethi Gymru gyntaf ond erbyn i Rufain golli gafaelar Brydain yn y flwyddyn 410 roedd cenhadonCristnogol ar waith ymhlith y Brythoniaid.Brythoneg oedd iaith y wlad yn 400 ond erbyn700, Cymraeg oedd iaith y trigolion. Yn ycyfnod hwn hefyd roedd Cristnogaeth wedicael gafael cadarn ar y tir ac am ganrif a mwyo’r flwyddyn 500 ymlaen fe wawriodd Oes ySaint.O’r Aifft y daeth yr arfer o feudwyaeth ondyma datblygodd y celloedd o bridd a choed ifod yn ganolfannau addoliad ac addysg ac ynllecynnau cysegredig i gladdu’r meirw. Er nachodwyd eglwysi parhaol ar y safleoedd hyny pryd hynny, dyma oedd y llecynnau a ddaethyn Llannau ganrifoedd wedyn.Lladin oedd iaith crefydd o’r llannau syml i’rcanolfannau mwy megis Glyn Rhosyn yngnghyfnod Dewi Sant. Er mai’r drefn Babyddola ddilynwyd o’r dechrau roedd nodweddion‘Celtaidd’ i’r eglwys ar dir Cymru. Pan ddaethAwstin, ar gais y Pab, i Gaergaint yn 597 iennill y Saeson i Grist, ni dderbyniodd yCymry ei awdurdod drostynt er bod GregoriFawr wedi deddfu’n swyddogol yn 603 maiAwstin oedd pennaeth yr eglwys ym Mhrydain.Roedd yr anghydfod yn dal i fudlosgi panysgrifennwyd Buchedd Dewi gan Rhygyfarchfel rhan o’r cais i amddiffyn annibyniaeth T~Ddewi rhag awdurdod Caergaint.Dal ei thir wnaeth yr Eglwys Gatholig er iGymru ddioddef ymosodiadau o sawl cyfeiriadgan gynnwys ymgyrchoedd y Sacsoniaid a’rLlychlynwyr yn eu tro. Pan goncrwyd Prydaingan y Normaniaid yn 1066 daeth trefnboliticaidd a chrefyddol newydd i fodolaeth.Ymhen canrif roedd eglwysi cadeiriol wedi’ucodi a’r rhan fwyaf o’r mynachlogydd wedi’usefydlu. Daeth y plwyfi i fodolaeth yr un pryd

ac o dan y drefn esgobol fe fu hi’n bosibgorfodi awdurdod Caergaint ar yr holl wlad.Dyna’r drefn a barhaodd yn lled llwyddiannusnes i Harri’r VIII, wedi’i helyntion priodasolgyda Catherine o Aragon, sicrhau deddf ynNhachwedd 1534 a’i gwnaeth yn bennaethar Eglwys Loegr (a Chymru). Canlyniad hynoedd i’r Pab ei esgymuno o’r EglwysBabyddol. Dyma’r brenin a oedd yn 1521wedi cyhoeddi llyfr yn amddiffyn saith sac-rament Eglwys Rhufain rhag ymosodiadauLuther yn 1517 ac a barodd i’r Pab roi iddo’rteitl ‘Fidei Defensor’ sef amddiffynnydd yffydd!Un o ganlyniadau’r ysgaru crefyddol hwn oeddyr ymgyrch i ddiddymu’r mynachlogydd.Erbyn cyfnod Harri’r VIII, tai bychain oeddabatai Cymru gydag incwm o £3000rhyngddynt. Roedd eu hoes aur wedi bod acyn dilyn y Pla Du 1348-50, collwyd incwm adylanwad. Yn dilyn ymosodiadau OwainGlynd@r (1400-1415) roedd y rhan fwyaf o’rabatai mewn stad ddrwg iawn. Wrth i’r taigeisio cynilo, peidiodd yr arfer o gynnigaddysg a lletygarwch ac nid oedd arfer rhaio’r abadau i briodi a chael plant yn dderbyniolgan yr awdurdodau na’r werin. Er mai Lladinoedd iaith addoliad nid oedd trefn ar gael iaddysgu offeiriaid yn ddigonol. Mewn mwynag un man byddai plant yr offeiriaid yngweinyddu yn lle eu tad ond gan nad oeddyntwedi derbyn addysg ffurfiol, gafael gwan iawnoedd ganddynt ar ystyr y geiriau a ddefnyddidganddynt. Fe adroddir am un plwyf lle nadoedd yr offeiriad yn gallu adrodd Gweddi’rArglwydd o’i gof. Nid oedd y werin ynymddwyn yn briodol chwaith. Ceir sôn amaddolwyr yn osgoi’r bregeth gan chwarae pêly tu allan i’r eglwys ond yna heidio i mewnwrth glywed rhywun yn gweiddi bod y sacra-ment ar fin dechrau.Nid yw’n syndod felly i Harri’r VIII lwyddo iysbeilio’r mynachlogydd yn ddirwystr ac iEglwys Loegr Brotestannaidd sefydlu hebormod o wrthwynebiad. Fe fu ymgais ynystod teyrnasiad byr Mari i adfer yr hen ffyddond gyda’i marwolaeth hi yn 1558 daeth cyfleolaf yr Eglwys Gatholig i ddal gafael ymMhrydain i ben.Er mai Eglwys Loegr oedd yr EglwysBrotestannaidd gyntaf ym Mhrydain, fegododd eraill y faner hefyd. Fe fu’rPiwritaniaid yn weithredol yma a bu’r henAnnibynwyr a’r Bedyddwyr cynnar ar y tir.Wynebodd y bobl hyn erledigaeth gyda rhaifel y Crynwyr yn chwilio am ryddid mewngwlad arall. Erbyn 1735 roedd Cymru ynaeddfed am ddiwygiad arall a daeth hwnnwyn dilyn gwaith Hywel Harris ac eraill. Priodolfelly ym mlwyddyn dathlu tri chanmlwyddiantgeni William Williams Pantycelyn a dechrau’rDiwygiad Protestannaidd trwy weithredoeddMartin Luther bum canrif yn ôl, yw cofio amyr eneidiau dewr hynny o bob enwad aceglwys a aberthodd eu bywydau dros EfengylIesu Grist.

Garej Llanerfyl

Ffôn LLANGADFAN 820211

Arbenigwyr mewn atgyweirioGwasanaeth ac MOT

Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.

Ffôn: 01650 531210

Page 16: 420 Mawrth 2017 60c CEFNOGI ELUSENNAU LLEOL ‘Y LADIS’jonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/... · cert golff! Diddorol nodi sut mae’r clybiau wedi addasu i ddefnyddio

1616161616 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2017

COLOFN MAIgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Roberts

CWIS AR GRWYDYR

Am newid dyma gwis o rai mannau yngyngyngyngyngNghymruNghymruNghymruNghymruNghymru – tybed faint fedrwch chi eu henwi?Mae nifer o’r lluniau (a pob lleoliad) wediymddangos mewn erthyglau blaenorol ac ymae’r rhai ar y chwith i gyd o ardal y Pluchwith i gyd o ardal y Pluchwith i gyd o ardal y Pluchwith i gyd o ardal y Pluchwith i gyd o ardal y Plu.TTTTTocyn £10ocyn £10ocyn £10ocyn £10ocyn £10 Charlie’s i’r un efo’r nifer fwyaf orai cywir – os bydd rhai yn gyfartal, tynnirenw o het. AtebionAtebionAtebionAtebionAtebion erbyn Mawrth 17erbyn Mawrth 17erbyn Mawrth 17erbyn Mawrth 17erbyn Mawrth 17 i DewiRoberts – dewi77dewi77dewi77dewi77dewi77@btinternet.combtinternet.combtinternet.combtinternet.combtinternet.com;Brynaber, Llangadfan, Trallwm, SY21 0PN.Pob lwc!

1.

3.

5.

7.

9 .9 .9 .9 .9 .

2.

6.

8.

10.

COLOFN MAI

4.

Mae’n gyfnod gwneud marmalêd ac mifydd orennau Seville yn ein siopydd hydddiwedd Mawrth, tymor hirach eleni nagarfer dywed y papurau! Yr oren Seville yw’rorau ar gyfer gwneud marmalêd gan bod eisudd yn sur, ei chroen yn drwchus ac ynhawdd ei bilio, llawer o hadau ac ychydig o‘bith’ sy’n cyfrannu at y pectin i dwchu’rmarmalêd.

Dydi’r Sbaenwyr ddim yn gwneudmarmalêd ac yn aml gwelir cannoedd oorennau yn cael eu gadael i orwedd ar yllawr hyd nes iddynt bydru. Credir bod

eu maeth yn llesol fel gwrtaith i’r pridd.Cafodd orennau eu tyfu gyntaf yn y DwyrainCanol yn ystod y 9fed ganrif. Dywedhanes bod yr oren yn symbol o grefydd irai o’r tylwythau a byddent yn dawnsio ogwmpas yr orennau mewn rhyw fath oddefod neu seremoni.Cenhadwyr, masnachwyr ac ymchwilwyrSbaenaidd fu’n gyfrifol am gludo’r oren i Ewropa’r Amerig yn ystod y 16 a’r 18fed ganrif.Mae’n ddoeth peidio paratoi gormod ofarmalêd ar y tro gan bod llwyth mawr yncymryd mwy o amser i ferwi ac felly yn medrulleihau’r blas. Gwell yw troi’r llwy un ffordd ynunig, bydd hyn yn gwasgaru’r ewyn a’ryswigod yn fwy effeithiol na throi nôl ac ymlaen.

Rhaid peidio â chysuro ein hunain ein bod ynderbyn y fitaminau B a C yn y marmalêd ganbod y rhain yn cael eu dinistrio yn ystod ybroses boeth yn y crochan. Blas a ffibr yw prifrinweddau marmalêd.Mae amrywiaeth mawr o ffyrdd y gallwnddefnyddio marmalêd mewn bwydydd safri amelys.* Taten Bôb – coginio’r daten, ei hollti yn eihanner, gosod marmalêd a darnau o ‘avocado’yn yr hollt a chaws cryf ar yr wyneb a nôl i’rffwrn nes i’r caws doddi.* Gan bod marmalêd yn cael ei alw yn freniny jamiau, beth am ei defnyddio yn y pwdin aelwir yn ‘Queen of Puddings’.* Mae diwrnod y ponca cyn hir, felly dyma gyfleda i roi eich marmalêd Seville i lenwi’r poncaboeth a’u mwynhau gyda balchder mai eichmarmalêd chi ydi o!