a ydw i'n addas
TRANSCRIPT
A ydw i’n addas i fod yn Arweinydd Digidol?
MAE ARWEINYDD DIGIDOL YN:
1. Hoff iawn o bethau
DIGIDOL!
2. Barod i roi ychydig o’i amser
rhydd e.e. un awr ginio yr
wythnos
3. Barod i helpu eraill
4. Awyddus i rannu syniadau
gydag eraill
BETH FYDDA I YN CAEL ALLAN O’R RÔL?
i) Cyfleoedd cyffrous i gymryd rhan
mewn gweithgareddau newydd
ii) Cyfloedd i addysgu eraill e.e. staff!
iii) Y posiblrwydd o helpu Ysgol y Preseli
i symud ymlaen gyda’i defnydd o
adnoddau digidol e.e. Twitter,
iPads, YouTube, adnoddau “Web
2.0”, gemau cyfrifiadurol...
iv) Profiadau newydd o weithio gyda
phobl eraill e.e. o Ysgol y Frenni, y
gymuned leol ac ati
v) Profiadau arloesol a fydd yn edrych
yn WYCH ar eich CV!
vi) Cyfloedd i rwydweithio gyda
ffrindiau a chysylltiadau newydd
e.e. Arweinyddion Digidol ysgolion
eraill, disgyblion ysgolion cynradd ac
ati
vii) Cyfleodd i ddatblygu eich sgiliau: nid
yn unig TGCh, ond hefyd sgiliau
cyfathrebu, gweithio ag eraill ac yn
y blaen
viii) Cyfloedd i fynychu digwyddiadau
cyffrous a rhannu eich syniadau e.e.
Eisteddfod...
ix) A llawer, LLAWER mwy!
SUT ALLAF YMGEISIO I FOD YN ARWEINYDD DIGIDOL?
Cyflwynwch eich cais i Mrs Serena Davies erbyn dydd MAWRTH, RHAGFYR 18fed
Cewch:
a) Cwblhau ffurflen gais ar bapur a’i rhoi i Mrs Davies
b) Cwblhau ffurflen gais yn ddigidol a’i e-bostio i Mrs Davies
c) Ateb y 3 chwestiwn mewn modd creadigol (e.e. drwy fideo, sain, poster,
cartŵn, animeiddiad, cyflwyniad Pwynt Pŵer/Prezi...) a’i e-bostio (neu ei roi ar
USB a’i roi i Mrs Davies)
arweinyddiondigidolpreseli.blogspot.com