adolygu trefi

6

Upload: mrs-serena-davies

Post on 12-Jul-2015

60 views

Category:

Documents

8 download

TRANSCRIPT

Gwahanol fathau o aneddiadau

Ceir nifer o aneddiadau gwahanol, ond dyma’r 4 pwysicaf i chi:

1. Tref farchnad

2. Tref ddiwydiannol

3. Tref borthladd

4. Tref wyliau

Termau Pwysig

Anheddiad

Swyddogaeth

Tref farchnad

Tref ddiwydiannol

Tref wyliau

Tref borthladd

yw ble mae pobl yn prynu a gwerthu

yw ble mewnforir ac allforir nwyddau

yw ble mae pobl yn byw

yw ble mae pobl yn gwneud pethau

yw’r rheswm dros sefydlu tref

Cwblhewch y brawddegau isod trwy ysgrifennu’r enwau a’r brawddegau cywir gyferbyn a’i gilydd yn eich llyfrau.

Swyddogaeth Anheddiad

Gwelir ffatrïoedd mewn trefi diwydiannol.Swyddogaeth tref

ddiwydiannol oedd gwneud pethau mewn ffatrïoedd

(gweithgynhyrchu).

Yn y porthladd mae dociau. Yma daw nwyddau i mewn o wledydd

tramor a dyma ble byddai ffatrïoedd yn danfon eu cynnyrch

i wledydd tramor.Yr enw ar y nwyddau o wledydd eraill yw

mewnforion. Yr enw a roddir ar y nwyddau sy’n cael eu hanfon

tramor yw allforion.

Datblygodd y trefi marchnad pan oedd

mwyafrif poblogaeth Prydain yn ffermwyr. Dyma ble arfera ffermwyr prynu

a gwerthu nwyddau e.e. hadau, offer ac anifeiliaid. O’u cwmpas mae banciau,

siopau a swyddfeydd.

Bydd pobl yn ymweld â threfi gwyliau er mwyn hamddena a

mwynhau eu hunain. Arhosant mewn

gwestai ac mae angen adloniant arnynt.

Edrychwch ar y disgrifiadau isod o aneddiadau.