adroddiad blynyddol 2012/13 - tai calon community housing · 2019. 11. 18. · blynyddol ar gyfer...
TRANSCRIPT
-
Gadewch i ni fynd â chi ar daith wrth i ni gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol 2012-2013 gyda balchder
wrth galon eich cymuned
www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon
Adroddiad Blynyddol 2012/13
-
Helo, a chroeso i’n Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2012-13Rydym yn falch i fod yn gwneud gwahaniaeth. Dyma ail a rhan fwy ffurfiol ein Hadroddiad Blynyddol. Mae’n dweud wrthych beth ydym yn ei reoli, beth yw ein hincwm a sut y gwnaethom ei wario.
Mae hefyd wybodaeth am ein Bwrdd, sydd yn bennaf gyfrifol am Gartrefi Cymunedol Tai Calon. Jen Barfoot, y Prif Weithredydd, a’r Tîm Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am redeg y busnes o ddydd i ddydd.
Gadewch i ni ddechrau drwy ddweud wrthych amdanom ni:
Lansiwyd Cartrefi Cymunedol Tai Calon ym mis Gorffennaf 2010 ar ôl iddo ddod yn gyfrifol am y cartrefi a arferai gael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent.
Ni yw’r landlord cymdeithasol mwyaf ym Mlaenau Gwent gyda mwy na 6,100 o gartrefi ar draws y tri chwm sy’n rhan o’r fwrdeisdref.
Rydym yn sefydliad “dim er elw” ac yn gwmni cymunedol cydfuddiannol, sy’n golygu ein bod yn ail-fuddsoddi unrhyw arian dros ben yn ôl i’r busnes y mae ein haelodau yn berchen arno.
Mae gennym 280 aelod o staff yn cynnwys saith prentis. Mae nifer fawr o’n staff yn byw yn y fwrdeisdref.
Ceisiwn ddefnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol i’r graddau mwyaf posibl. Rydym eisiau cadw cymaint ag sydd modd o’r arian a dderbyniwn ym Mlaenau Gwent i greu swyddi a hybu economi’r ardal.
2
Ein CenhadaethCyflawni ein haddewidion, gan wella cartrefi a bywydau
Ein GweledigaethByddwn yn cyflenwi cartrefi a gwasanaethau ardderchog i wneud ein cymunedau yn falch
Ein GwerthoeddByddwn yn:
• Cadw ffocws ar denantiaid
• Gwrando a dysgu• Bod yn ardderchog• Dangos parch• Bod yn agored
Dyma’r hyn y credwn ynddo...
-
3
Helo, fi yw Philip Crozier, Cadeirydd Tai Calon.
Bu’n flwyddyn arbennig o brysur ac rydym wedi cyflawni llawer.
Gyda diwygiadau lles Llywodraeth
y Deyrnas Unedig ar y gorwel, fe wnaethom ailstrwythuro’r ffordd y gweithiwn. Fe wnaethom greu Timau Cymdogaeth, gan symud mwy o staff i’n cymunedau.
Hwy yw ein llygaid a’n clustiau a’r bobl y gallwch fynd atynt i gael cyngor a help. Maent yn dyrannu ein cartrefi, yn delio gydag unrhyw ymholiadau am eich tenantiaeth neu gymdogaeth. Gallant hefyd gynnig cefnogaeth ymarferol i chi, fel dangos i chi sut i drefnu eich arian.
Rwy’n falch iawn i ddweud ein bod wedi cael y graddiad uchaf, “Pas” ar gyfer ein hail adroddiad Hyfywedd Ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys adolygiad manwl o gynllun busnes a pherfformiad ariannol Tai Calon a gellid cael gradd Methu, Pas neu gyda monitro pellach neu Bas.
Cawsom hefyd achrediad Lefel 3 gan y Fforwm Llywodraethiant. Mae hyn yn golygu bod y Bwrdd wedi ennill y safon uchaf ar gyfer y ffordd y mae’n llywodraethu ein busnes.
Ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf mae’n Prif Weithredydd, Jen Barfoot.
Bydd y flwyddyn nesaf yn llawn heriau i chi. Er na allwn wneud i’r dirwasgiad na newidiadau budd-dal Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiflannu, byddwn yn parhau i weithio gyda chi i wneud yn sicr fod
pethau’r gorau y gallant fod. Mae hyn yn golygu parhau i weithio ein ffordd drwy’r addewidion a wnaed i chi pan ddaethom yn berchennog eich cartrefi.
Eleni, byddwn yn gosod miloedd mwy o geginau, ystafelloedd ymolchi, toeau, ffenestri a drysau. Byddwn hefyd yn gweithio’n galed i wella cynhesrwydd ac effeithiolrwydd cartrefi drwy wella insiwleiddiad a systemau gwresogi. Gobeithio y bydd hyn mewn partneriaeth gyda chwmni a all ddod â pheth cyllid grant gydag ef i helpu’r arian sydd gennym i fynd ymhellach.
Byddwn yn ymweld â’ch cymunedau i ofyn sut y gallwn wella eich cymdogaeth. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n galed i sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth gorau oll y gallwn ei ddarparu.
Ni fyddai dim o’r hyn a wnawn yn bosibl heb y partneriaethau yr ydym wedi’u creu ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella’r bartneriaeth rhwng tenantiaid, Bwrdd, staff a rhanddeiliaid eraill. Diolch i bawb ohonoch, ac rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall.
-
4
Fflatiau
Byngalos
Byw â Chymorth
Tai 2 ystafell wely
Tai 3 ystafell wely
Tai 4 a mwy ystafell wely
Felly, sut ydym ni wedi gwneud dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf?
797
488 309
1,451
3,069
62
Cartrefi yn ôl ardal
Nantyglo652
Brynmawr498 Blaenau
401Swffryd183
Abertyleri811
1577
Tredegar
Glynebwy 2054
Pa gartrefi ydym ni’n eu rheoli a ble maen nhw?
Mae nifer y cartrefi wedi gostwng gan 8 i 6,176 yn ystod 2012/13 fel canlyniad i denantiaid yn cymryd eu hopsiwn o “Hawl i Brynu”.
-
5
Safon Ansawdd Tai CymruMae Tai Calon yn gwario £111 miliwn erbyn 2015 i ddod â’i holl gartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru.
Hyd yma rydym wedi gwario £32.3 miliwn, ac wedi gwneud y gwaith gosod dilynol.
Yr hyn rydym wedi'i wneud
Targed 2012/13
Gwir 2012/13
Targed ers trosglwyddo
Gwir ers trosglwyddo
Ceginau 1540 1543 2579 2646
Ystafelloedd ymolchi 1330 1332 2116 2137
Ailweirio 570 688 945 1195
Toeau 726 552 1406 1270
Gwresogi 1200 1349 2450 2671
Number of ComplaintsRhai a gredai fod y rhaglen gweithiau gwella yn dda neu’n ardderchog
Targed
95%
Number of ComplaintsRhai a gredai fod y gwaith a gwblhawyd yn eu cartref yn dda neu’n ardderchog
Fe wnaethom hefyd ofyn i denantiaid beth oedd eu barn am yr hyn rydym wedi’i wneud.
Gwir
93%Targed
97%Gwir
99%
Number of ComplaintsRhai a gredai fod y rhaglen gweithiau gwella yn dda neu’n ardderchog
Targed
97%
Number of ComplaintsRhai a gredai fod y gwaith a gwblhawyd yn eu cartref yn dda neu’n ardderchog
Gwir
95%Targed
97%Gwir
95%
Gwasanaethau Eiddo
-
6
Cynghorwyr Ynni Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom recriwtio Cynghorwyr Ynni gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo. Maent yn rhoi cyngor rhad ac am ddim a rhwydd ei deall ar bopeth o sut i ganfod tariffau rhatach, delio gyda dyledion tanwydd a deall biliau ynni a dulliau rheoli gwresogi.
Prosiect Arbed Ynni Carbon (CESP)Gosodwyd insiwleiddiad waliau allanol ar tua 540 o gartrefi a adeiladwyd mewn dull an-safonol fel rhan o’r Prosiect Arbed Ynni Carbon (CESP). Cafodd 570 o systemau gwresogi eu hadnewyddu hefyd. Yn aml roeddem yn adnewyddu’r gwresogi ac yn gosod insiwleiddiad yn yr un eiddo fel rhan o’r prosiect £8 miliwn a ran-ariannwyd gan gwmni ynni E.on. Mae’r prosiect hefyd wedi helpu i ostwng allbwn carbon o fewn Blaenau Gwent drwy fwy na 90,000 tunnell fetrig.
Rydym yn awr yn gobeithio cael mwy o gyllid i insiwleiddio tua 1,800 o gartrefi eraill yn ystod y chwe mlynedd nesaf dan gynllun newydd o’r enw Eco.
Rhaglen Gwella’r AmgylcheddRydym wedi dechrau gwaith ar y prosiect mwy na £10 miliwn i wella’r amgylchedd yn eich cymuned. Fel bob amser, bydd gan denantiaid ran helaeth yn y broses penderfynu, a allai gynnwys unrhyw beth o well llwybrau troed i ddarparu ardaloedd chwarae a gofod ar gyfer rhandiroedd.
-
7
Mae gennym hefyd: Llesddeiliaid (h.y. pobl sy’n berchen fflatiau yn ein hadeiladau)
Garejys (yr ydym yn eu rhentu i breswylwyr)
Safleoedd masnachol (yn cynnwys siopau)
Byw â Chymorth
Cartrefi Eraill
Tai/Fflatiau/Byngalo 1 ystafell wely £59.42 £59.52
Tai/Fflatiau/Byngalo 2 ystafell wely £63.31 £62.07
Tai/Fflatiau/Byngalo 3 ystafell wely – £63.02
Tai 5 ystafell wely – £61.93
Ein rhenti wythnosol cyfartalog yn ystod 2012/13
Yn ystod y flwyddyn ariannol 2012/2013, rydym wedi gosod y cartrefi dilynol:
Incwm • Roedd ôl-ddyledion rhent ddiwedd
Mawrth 2013 yn £342,919 sy’n gyfwerth â 1.7% o’n hincwm rhent.
• Ein targed oedd cadw ôl-ddyledion dan 2.00%.
• Ar gyfartaledd, roedd gan denantiaid mewn ôl-ddyledion ychydig dros 4 wythnos o rent yn ddyledus.
= 335= 1,096
= 26 gyda 5 ohonynt yn wag ar 31/3/13Fflatiau
Byngalos
Byw â Chymorth
Tai 1 ystafell wely
Tai 2 ystafell wely
Tai 3 ystafell wely
Tai 4 ystafell wely
141
165
1
55
40
78
2
-
8
Canmoliaeth a ChwynionRydym yn hoffi pan ydych yn dweud wrthym yr hyn a wnaethom yn dda...
Number of ComplaintsYn ystod y flwyddyn ariannol cawson neges o ganmoliaeth.246
Rydym hefyd eisiau gwybod pan allem fod wedi gwneud rhywbeth yn well.
Dros y flwyddyn fe gawsom 191 o gwynion, ac er yn is na’r flwyddyn flaenorol (244), nid ydym yn hunanfodlon ac anelwn geisio’n galetach.
Nifer y cwynion ...
Cadarnhawyd 70Heb eu cadarnhau 92Cadarnhau’n rhannol 23Amhendant 6
Cafodd y cyfan eu hateb a’u datrys o fewn yr amserlen a gytunwyd.
Roedd y nifer fwyaf o gwynion, ychydig dros 60, ynglŷn ag atgyweiriadau a wnaed gan ein staff ein hunain a chontractwyr. Cawsom 98 cwyn ar hyn y llynedd.
Roedd y grŵp mwyaf wedyn tua 50 cwyn yn ymwneud â gwaith gwella a wneir yn eich cartref. Cawsom 46 yn y 12 mis blaenorol.
Roedd mwy na thraean yr holl gwynion (32%) am ddiffyg gweithredu ar ein rhan.
Beth ydym ni’n ei wneud amdano?• Rydym yn gwella’r ffordd yr ydym yn delio gyda’r holl atgyweiriadau, o’r
funud y cânt eu hadrodd i ni, i pryd y cawsant eu cwblhau.• Rydym yn craffu ar ein ffyrdd o weithio i wella ein gwasanaeth cyffredinol i chi.• Rydym yn gweithio’n galed i ddatrys unrhyw broblemau cyn y chwyddant i fod
yn gŵyn.• Rydym yn edrych ar wella ein gweithdrefn gwynion i weld os gallwn wneud y
broses yn rhwyddach i chi ei defnyddio.• Rydym bob amser yn ceisio gwneud yn well.
-
Philip Crozier Cadeirydd
Fred Davies Is-gadeirydd, Cadeirydd
Pwyllgor Asedau a Hyrwyddwr Bwrdd
Lesddeiliaid
Elaine Townsend Aelod Bwrdd, Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad,
Archwilio a Risg a Hyrwyddwr Bwrdd Gosod a
Rheoli ein Cartrefi
Andrew Bateson Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr Bwrdd Gwella ein Cartrefi
Shirley Ford Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr
Bwrdd Gwerth am Arian
Nigel Perring Aelod Bwrdd
Steve Porter Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr
Bwrdd Llywodraethiant
Margaret Retallick Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr Bwrdd Cwmni Cymunedol
Cydfuddiannol
Bwrdd Tai Calon sy’n penderfynu ar bolisïau a chyfeiriad ein busnes. Mae hefyd yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion a’n targedau.
Mae gan y Bwrdd 15 aelod, pum tenant, pum aelod annibynnol a phum aelod a enwebwyd gan Gyngor Blaenau Gwent. Mae hefyd un aelod cyfetholedig.
Y Bwrdd 2012/13
Philip White Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr
Bwrdd Atgyweirio ein Cartrefi
Roy Jones Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr
Bwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Keith Chaplin Aelod Bwrdd
Jim McIlwee Aelod Bwrdd a Hyrwyddwr
Bwrdd Partneriaethau a Rhanddeiliaid
Keren Bender Aelod Bwrdd
Graham Bartlett Aelod Bwrdd
Bernard Willis Aelod Bwrdd
Debbie Green Cyfetholai a Hyrwyddwr
Bwrdd Cyllid a Risg
9
-
Darllen y cyfrifon Sut i ganfod rhai o’r ffigurau allweddol
Daw’r ffigurau yn yr adroddiad yma o’r Cyfrifon Statudol ar gyfer Cartrefi Cymunedol Tai Calon Cyfyngedig.
Mae ffigurau heb gromfachau’n dangos yr arian sy’n dod i mewn i Tai Calon; mae’r ffigurau heb gromfachau’n dangos yr arian sy’n mynd allan.
Y ffigur allweddol cyntaf yw’r un ar gyfer “incwm” ar ben y Cyfrif Incwm a Gwariant. Mae hyn yn dangos i Tai Calon dderbyn bron £19.7 miliwn yn 2012-2013. Daeth fwy na £19.4 miliwn o renti a thaliadau gwasanaeth.
Mae’r ffigurau “costau gweithredu” yn dangos
fod y gwasanaethau y gwnaethom eu darparu i denantiaid yn costio cyfanswm o fwy na £21.1 miliwn. Mae’r ffigur yma’n cynnwys eitemau megis cost rhedeg ein gwasanaethau tai, ein gwasanaethau atgyweirio, ein swyddfa a chyflogau staff.
Mae Tai Calon hefyd yn derbyn £4.2 miliwn mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru. Sicrhawyd hyn fel rhan o’r cytundeb i drosglwyddo cartrefi i Tai Calon o Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent a gyda chyllid ychwanegol fe’n galluogodd i gynyddu pob cartref i Safon Ansawdd Tai Cymru. Ar ôl rhoi ystyriaeth
i incwm a gwariant arall, gadawodd hyn ni gyda ‘diffyg am y flwyddyn’ o £2.667 miliwn cyn rhoi ystyriaeth i’n gwariant ar Waith Sylweddol (Safon Ansawdd Tai Cymru/CESP), h.y. roedd ein gwariant yn £2.667 miliwn yn fwy na’n hincwm.
Mae’r ffigur ar dop y Fantolen yn dangos y gwerth a wariwyd ar adnewyddu cartrefi drwy raglen Safon Ansawdd Tai Cymru. Er bod llawer o’n stoc tai yn hŷn, mae eu gwerth (a ddangosir dan “asedau diriaethol: eiddo tai) wedi cynyddu gan £10.5m. Cafodd y cynnydd yma ei greu gan y gwaith ar gartrefi tenantiaid ers trosglwyddo.
Pethau ariannol
10
-
Am y flwyddyn a ddiweddodd
31 Mawrth 2013 £’000
Am y flwyddyn a ddiweddodd
31 Mawrth 2012£'000
Trosiant 19,684 19,334
Costau gweithredu (21,085) (17,924)
Gwarged/(Diffyg) Gweithredu (1,401) 1,401
Gwarged ar werthu asedau sefydlog 188 635
Llog derbyniadwy 4 3
Llog derbyniadwy a chostau tebyg (1,458) (868)
Incwm/(gwariant) eithriadol (0) (0)
Gwarged/(diffyg) ar weithgareddau cyffredin (2,667) 1,180
Datganiadau Ariannol Cryno
Cyfrif Incwm a Gwariant
11
Am y flwyddyn a ddiweddodd
31 Mawrth 2013£'000
Am y flwyddyn a ddiweddodd
31 Mawrth 2012£'000
Asedau tai 21,441 10,939
Asedau sefydlog eraill 2,792 1,486
Asedau cyfredol 4,159 3,202
Ymrwymiadau cyfredol (13,456) -
Ymrwymiadau hirdymor (15,000) (13,334)
Ymrwymiadau Pensiwn LGPS (6,710) (4,476)
(6,774) (2,183)
Cyfalaf a chronfeydd cadw (6,774) (2,183)
Mantolen
-
Os hoffech gael y llyfryn hwn ar CD sain, mewn Braille, mewn print bras, mewn iaith arall neu ar fformat y gallwch ei ddarllen ar gyfrifiadur personol, cysylltwch â ni.
If you would like this booklet on audio CD, in Braille, in large print, in an alternative language or in a format you can read on a PC please contact us.
Jeśli chcesz broszury na CD audio, w alfabecie Braille’a, dużą czcionką, w innym języku lub w formacie można odczytać na komputerze prosimy o kontakt.
Ymwelwch â’n swyddfeydd neu ysgrifennu atom yn:Cartrefi Cymunedol Tai Calon, Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau, Blaenau Gwent NP13 3JW
Ein ffonio ar: 0300 303 1717
Anfon neges testun at taicalon i 60030, gyda’ch neges yn dilyn.
Ffacs: 01495 290 501
Anfon e-bost atom i: [email protected]
Ein canfod ar y we yn: www.taicalon.org