[aelod o’r tîm iechyd yr amgylchedd] [enw’r awdurdod lleol] [cyfeiriad yr awdurdod lleol]
DESCRIPTION
[Manylion y cyfarfod]. Mudo o’r [enw’r cynllun presennol] i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol yn [enw’r awdurdod lleol]. [Aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd] [Enw’r Awdurdod Lleol] [Cyfeiriad yr Awdurdod Lleol] : [rhif ffôn perthnasol] E-bost: [cyfeiriad e-bost perthnasol]. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Mudo o’r Mudo o’r [enw’r cynllun [enw’r cynllun presennol] presennol] i’r Cynllun Sgorio i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol Hylendid Bwyd Cenedlaethol
yn yn [enw’r awdurdod lleol][enw’r awdurdod lleol]
[Aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd][Enw’r Awdurdod Lleol][Cyfeiriad yr Awdurdod Lleol]: [rhif ffôn perthnasol]E-bost: [cyfeiriad e-bost perthnasol]
[Manylion y cyfarfod]
Beth fydd y cyflwyniad hwn yn ei drafod?
• Beth yw’r cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol?
• Pam a sut y mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu a phryd gaiff ei gyflwyno?
• Pam ddylai [enw’r awdurdod lleol] fudo i’r cynllun cenedlaethol?
• Sut y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi’r cynllun?
• Beth yw’r manteision i ddefnyddwyr a busnesau lleol?
• Beth yw’r goblygiadau i adnoddau’r Tîm Diogelwch Bwyd?
Beth yw’r cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol?
• Menter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol/yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
• Rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am safonau hylendid safleoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harchwilio i weld a ydynt yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol – mae’r sgôr yn adlewyrchu canfyddiadau’r archwiliad.
• Ei ddiben yw galluogi cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus am y safleoedd lle maent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd a, thrwy hynny, annog busnesau i wella’u safonau hylendid.
Beth yw’r cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol?
• Fel rhan o’r cynllun, rhoddir sgôr hylendid i dai bwyta, tecawês, caffis, siopau brechdanau, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd a safleoedd gwerthu bwyd eraill, ynghyd â busnesau eraill lle gall defnyddwyr fwyta neu brynu bwyd.
• Mae chwe sgôr hylendid gwahanol ar gael – mae’r sgôr uchaf yn tystio bod busnes yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol at safon dda iawn.
• Cyhoeddir yr holl sgoriau ar wefan genedlaethol ac anogir busnesau i’w harddangos ar eu safle – ‘Scores on the Doors’ fel y cânt eu galw.
Pam a sut y mae’r cynllun cenedlaethol yn cael ei ddatblygu?
• Mae’n cael ei ddatblygu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
• Rhoddir cyngor ac arweiniad am ei ddatblygiad gan Grŵp Rhanddeiliaid y DU Gyfan.
• Mae’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol (gan gynnwys LACORS a’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd), defnyddwyr a’r diwydiant bwyd, ynghyd â swyddogion yr Asiantaeth, y Weithrediaeth Gwell Rheoleiddio a’r Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol.
Pryd gaiff y cynllun ei gyflwyno?
• Erbyn hyn, cytunwyd ar brif elfennau fframwaith y cynllun:
- pa fusnesau i’w cynnwys;
- sut i gyfrifo’r sgoriau;
- y rhagofalon i sicrhau bod busnesau’n cael eu trin yn deg (proses apelio, hawl i ymateb a system i geisio sgôr newydd pan fydd gwelliannau wedi’u gwneud).
Pryd gaiff y cynllun ei gyflwyno?
• Mae elfennau eraill y cynllun wrthi’n cael eu datblygu:
- y symbolau a’r disgrifyddion i’w defnyddio ar gyfer y gwahanol sgoriau;
- y gweithdrefnau i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu’n gyson o fewn ac ar draws awdurdodau lleol;
- y wefan a’r gronfa ddata genedlaethol i ddarparu un pwynt lle gall defnyddwyr gael gafael ar sgoriau pob busnes sy’n rhan o’r cynllun.
• Dylai’r system fod yn barod i’w chyflwyno ym mis Gorffennaf neu fis Awst eleni, ond gall awdurdodau lleol gychwyn paratoi er mwyn iddynt fod yn barod i lansio’r cynllun.
Pam ddylai [enw’r awdurdod lleol] gyflwyno’r cynllun cenedlaethol?
• Er bod [enw’r cynllun lleol] wedi bod yn llwyddiant, mae manteision ychwanegol o weithredu’r model cenedlaethol.
• O gael un cynllun yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd yn helpu i sicrhau cysondeb i fusnesau ac eglurder i ddefnyddwyr ar draws ffiniau awdurdodau lleol.
• Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r cynllun.
• Toreth o gynlluniau lleol
Sut y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi awdurdodau lleol sy’n gweithredu’r cynllun?
• Canllawiau ynghylch cyflwyno a gweithredu’r cynllun.
• Deunydd hyrwyddo a marchnata.
• Hyfforddiant cysondeb i swyddogion diogelwch bwyd yr awdurdodau lleol.
• Gwefan a chronfa ddata genedlaethol a chymorth/hyfforddiant TG perthnasol.
• Cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n mabwysiadu’r cynllun yn gynnar gan ddau swyddog iechyd yr amgylchedd ar secondiad i’r Asiantaeth o awdurdodau lleol.
• Grŵp Mabwysiadwyr Cynnar.
• Cymorth grant.
• Gweithgareddau hyrwyddo cenedlaethol.
Beth yw’r manteision i ddefnyddwyr a busnesau lleol?
• O ran defnyddwyr, bydd y gweithgareddau hyrwyddo cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella dealltwriaeth o’r sgoriau hylendid bwyd ac yn eu helpu i ddefnyddio’r cynllun. Gallant gymharu busnesau â’i gilydd yn hwylus, nid yn unig yn eu hardal, ond hefyd yn ehangach.
• O ran busnesau, bydd yn rhoi sicrwydd iddynt eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gyson o’u cymharu â busnesau sy’n cystadlu â nhw yn lleol ac yn ehangach.
• Bydd modd i unrhyw fusnes, beth bynnag fo’i faint neu’i natur, gyflawni’r sgôr uchaf.
Beth yw’r goblygiadau i adnoddau’r Tîm Diogelwch Bwyd?
• Seilir y cynllun o amgylch y rhaglen ymyriadau hylendid bwyd a gynlluniwyd i ysgafnhau unrhyw faich.
• Mae cefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cadw unrhyw gostau sefydlu a chostau parhaus yn isel.
• Y brif effaith fydd ceisiadau gan fusnesau i gael sgôr newydd pan fydd gwelliannau wedi’u gwneud, oherwydd bydd ymweliadau ailsgorio’n digwydd tu allan i’r rhaglen ymyriadau a gynlluniwyd.
• Mae’r Asiantaeth yn sylweddoli hyn ac yn ymrwymo i gadw golwg fanwl ar y mater i sicrhau nad yw’n peryglu’r gwaith o ddiogelu iechyd y cyhoedd.
• Gwahaniaethau rhwng y cynlluniau lleol a chenedlaethol.
• Rhagor o wybodaeth:
- ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: www.food.gov.uk/hygieneratings
- Gan y Tîm Diogelwch Bwyd: [Enw a rhif ffôn y swyddog]
Rhagor o wybodaeth a chwestiynau?