caneuon gwersyll
Post on 31-Dec-2015
130 Views
Preview:
DESCRIPTION
TRANSCRIPT
Caneuon GwersyllCaneuon Gwersyll
AderynAderyn MelynMelyn ArAr HydHyd Y Y NosNos BingbongBingbong BleBle Mae Daniel Mae Daniel CânCân Y Y CawrCawr CanuCanu Roc A Roc A RôlRôl DacwDacw Ti Ti YnYn EisteddEistedd DathlwnDathlwn GlodGlod ( (YmdeithganYmdeithgan
Yr Urdd) Yr Urdd) Daw Daw HyfrydHyfryd FisFis Don Y Don Y MeicrodonMeicrodon
Franz O Franz O WladWlad AwstriaAwstria HeiHei MistarMistar Urdd Urdd Hen Feic Peni-ffardding Fy Hen Feic Peni-ffardding Fy
NhaidNhaid Hen Wlad Fy NhadauHen Wlad Fy Nhadau Het Tri ChornelHet Tri Chornel Joio Yn Y JamboriJoio Yn Y Jambori Nant Y MynyddNant Y Mynydd Nefol DadNefol Dad Oes Gafr Eto?Oes Gafr Eto? Pen, Ysgwyddau, Coesau, Pen, Ysgwyddau, Coesau,
TraedTraed Sosban FachSosban Fach
ADERYN MELYN
Aderyn melyn i fyny yn y goeden banana, bananaAderyn melyn i fyny yn y goeden banana,
Cytgan:Paid a mynd i ffwrddPaid a fflio i ffwrddPaid a mynd i ffwrddPaid a fflio i ffwrddPaid a mynd i ffwrddPaid a mynd i ffwrdd nawrWw, 3,2,1, Cha Cha Cha.
Aderyn gwyrdd i fyny yn y goeden ciwcymber, ciwcymberAderyn gwyrdd i fyny yn y goeden ciwcymber, Cytgan
Aderyn coch i fyny yn y goeden tomato, tomatoAderyn coch i fyny yn y goeden tomato, Cytgan
Aderyn brown i fyny yn y goeden siocled, siocledAderyn brown i fyny yn y goeden siocled, Cytgan
Aderyn oren i fyny yn y goeden Fanta, FantaAderyn oren i fyny yn y goeden Fanta. Cytgan nôl
nôl
AR HYD Y NOS
Holl amrantau'r sêr ddywedant Ar hyd y nos,Dyma'r ffordd i fro gogoniantAr hyd y nos,Golau arall yw tywyllwchI arddangos gwir brydferthwch Teulu'r nefoedd mewn tawelwch Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena serenAr hyd y nos,I oleuo'i chwaer ddaearenAr hyd y nos,Nos yw henaint pan ddaw cystudd, Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd Rhown ein golau gwan i'n gilydd Ar hyd y nos.
nôl
BINGBONG
Cytgan:Bing, bong, bing bong be.Bing, bong, bing bong be.Bing, bong, bing bong be.Bing, bong, bing bong be.
Dau gi bach yn mynd i'r coedEsgid newydd ar bob droed,Dau gi bach yn dwad adre,Wedi colli un o'u sgidie. Cytgan
Ma' nhw'n dwedydd ac yn sônMod i'n caru yn Sir Fôn;Minnau sydd yn caru'n ffyddlonDros y dŵr yn Sir Gaernarfon. Cytgan
Mae Ffair y Borth yn nesu, Caf deisen wedi ei chrasu,A chwrw poeth o flaen y tânA geneth lân i'w charu. Cytgan
Bum yn claddu hen gydymaithA gododd yn fy mhen i ganwaith;Ac rwy'n amau, er ei briddo,Y cyfyd yn fy mhen i eto. Cytgan
BLE MAE DANIEL?
Ble mae Daniel?Ble mae Daniel?Yn ffau’r llewodYn ffau’r llewodAm beth?Am beth?Am iddi beidio addoli’r ddelw.
nôl
CÂN Y CAWRRoedd bachgen bach o’r enw Twm,Roedd rhywbeth yn ei boeni,Er bwyta bwydydd o bob math,Doedd Twmi ddim yn tyfu.Roedd ei ffrindiau i gyd yn fwy na fo,A Twmi yn bitw bychanBob nos a dydd roedd y bachgen pruddYn gwneud dim on breuddwydio am fod yn
Cytgan:Cawr mawrA’i ben o yn bell o’r llawrCawr mawrY mwyaf yn y byd.
Un diwrnod yfodd Twmi bachBotelaid o ffisyg hudol,Ac yna’n syth fe dyfod Twm yn gaaawr anhygoel.Fe dyfodd Twm yn fwy na’r tai,Yn fwy na’r coed a’r bryniau,A nawr ma’ Twmi o ddydd i ddyddA’i ben yn y cymylau, mae o’n Cytgan nôl
CANU ROC A RÔLMae fy nghorff yn teimlo’n aflonydd,Mae ‘na gyffro yn fy ngwaed,Rwy bron a marw eisiau symud,A neidio’n uchel ar fy nhraed.Mae fy llais i eisiau gweiddi,Does ‘na ddim dewis arall ar ôlOnd bloeddio, dawnsio, jeifio, joio, Canu roc â rôl.
Cytgan:Rwy’n canu roc a rôl yn y boreRwy’n canu roc a rôl yn y p’nawn,Rwy’n canu roc a rôl yn yr hwyrCenwch roc â rôl – bydd popeth yn iawn.
Rwy’n cribo ‘ngwallt yn ôl fel gwallt Elvis,Mae’r sgidiau swêd yn dynn am fy nhraed,Mae sn y drymiau’n cynnig y curiadDim ond cydio mewn gitâr sy raid,Pan ddaw sn y gân a’r rhythum i nghlustiauDoes ‘na ddim dewis arall ar ôlOnd bloeddio, dawnsio, jeifio, joioCanu roc a rôl. Cytgan nôl
nôl
DACW TI YN EISTEDD
Dacw ti yn eistedd y deryn du,Brenin y goedwig fawr wyt ti.Can, dere deryn,Can, dere deryn,Dyna un hardd wyt ti.
nôl
DATHLWN GLOD (Ymdeithgan yr Urdd)
Dathlwn glod ein cyndadau,Enwog gewri Cymru fu;Gwŷr yn gweld y seren ddisglairTrwy y cwmwl du,Ar ôl llawer awel groes,Atgyfodwn yn ein hoes,Hen athrawon dysg a moesCymru Fu.
CytganSain, Cerdd a chân,Hen Gymru lânHeddiw lanwo Gymru wen Cymru lân Plant Cymru fu, Hen Gymru gu, Codwn enw Cymru lân.
Bonedd gwlad gyda'u gwerin, Foesymgrymant ger ei bron,Merched mwyn a llanciauRhoddant gêd ar allor hon;Dewch a'i thelyn feinlais fwyn,Hen alawon syml eu swyn,Adlais odlau grug a brwyn Cymru Fu. Cytgan
nôl
DAW HYFRYD FIS
Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo' hirA chlywir y gwcw'n canu'n braf yn ein tirBraf yn ein tir, braf yn ein tir.Gwcw, gwcw, gwcw'n canu'n braf yn ein tir.
DON Y MEICRODON
Beth am bwdin reis, jeli neis,Neu deisen sbeis i Nain?Ac fe hoffwn i gael bwyd TseiniNeu gyrri o’r Dwyrain.Cau y drws – mae’r golau’n goch,Eiliad fer – sŵn y gloch.Tê neu swper unrhyw bryd,Don sy’n gwneud y gwaith i gyd.
Cytgan:
Don y meicrodon ydw i,Y brenin yn eich cegin chi,Byth yn meddwl mynd ar streic,Fi, Don y Meicro.
Beth am bryd go lew,Dau bysgodyn tewEfo sglodion silicôn.Bara lawr, dwy sosej fawrA wyau o Sir Fôn.Cau y drws – mae’r golau’n goch,Eiliad fer – sŵn y gloch.Tê neu swper – unrhyw bryd,Don sy’n gwneud y gwaith i gyd.
Cytgan
nôl
FFRANZ O WLAD AWSTRIA
Roedd Ffranz o wlad AwstriaYn iodlan ar fynydd mawrPan ddaeth cwymp mawr o eiraA’i fwrw’n fflat i’r llawr.
Cytgan:
Olia ci, olia cici ac olia cwcw,swish, swish,Olia cici ac olia cwcw,swish, swish,Olia cici ac olia cwcw,Olia cici ac o.
Roedd Ffranz o wlad AwstriaYn iodlan ar fynydd mawrPan ddaeth arth fawr ffyrnigA’i fwrw’n fflat i’r llawr. Cytgan
Roedd Ffranz o wlad AwstriaYn iodlan ar fynydd mawrPan ddaeth ci St BernardA’i fwrw’n fflat i’r llawr. Cytgan
Roedd Ffranz o wlad AwstriaYn iodlan ar fynydd mawrPan ddaeth ei annwyl gariadA’i gusannu’n fflat i’r llawr. Cytgan
Roedd Ffranz o wlad AwstriaYn iodlan ar fynydd mawrPan ddaeth tad ei annwyl gariadA’i saethu’n fflat i’r llawr. Cytgan
nôl
HEI, MISTAR URDD
Cytgan:Hei, Mistar Urdd yn dy coch, gwyn a gwyrddMae hwyl i’w gael ymhobman yn dy gwmni.Hei, Mistar Urdd, tyrd am dro ar hyd y ffyrddCawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru.
Gwelais di’r tro cyntaf ‘rioed yn y gwersyll ger y lli A chofiaf am yr hwyl fu yno’n hir Dyddiau hir o heulwen haf, y cwmni gorau fu Ac af yn ôl i aros cyn bo hir. Cytgan
Noson hir o aeaf oer, fe welais di drachefnDangosaist fod ‘na rywle i mi fynd.Dyma aelwyd gynnes iawn a chriw ‘run fath â fiA chyfle i adnabod llawer ffrind. Cytgan
Diolch i ti, Mistar Urdd, dangosaist i mi’n glirFod gennyt rywbeth gwych i’w roi i miGwersyll haf a chwmni braf mewn cangen ymhob tre’A gobaith i’r dyfodol ynot ti. Cytgan
nôl
HEN WLAD FY NHADAU
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,Tros ryddid gollasant eu gwaed.
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad.Tra môr yn fur i’r bur hoff bau,O bydded i’r hen iaith barhau.
nôl
nôl
HEN FEIC PENI-FFARDDING FY NHAID
Mae 'na rai sydd yn hoffi trafeilioYn gyfforddus a swel mewn M.G.,Mae rhai eraill yn dewis y bysus a'r trên Ond mae'n llawer iawn gwell gennyf fi -
Cytgan
Hen feic peni-ffardding fy nhaidWell sticio at hwnnw sydd raid,Bydd y dyrfa yn heidio i'm gweld i yn reidio Hen feic peni-ffardding fy nhaid.
Cytgan
Aeth y trip ysgol SuI rhyw ddiwmodDraw i Fangor am dro efo'r traen,Ond er cysgu yn hwyr ni chynhyrfais i ddim, A chyrhaeddais y ddinas o'u blaen.
Pan yn reidio ar spid ryw ben boreFe ddaeth plismyn mewn car ar fy ôl,Ond fe bedlais yn wallgo' â'm trwyn ar y bar,A phan stopiais rown i yn y North Pôl.
Cytgan
Mi bridaf fel pob creadur gwirionOs caf afael ar ferch fach gwerth chweil, Ond ni chrymaf 'run tacsi i'm cludo i'r llan, Mi af yno fy hunan mewn steil.
Cytgan
nôl
HET TRI CHORNEL
Mae gen i het dri chornel,Tri chornel sydd i'm het,Ac os nad oes tri chomel,Nid honno yw fy het.
JOIO YN Y JAMBORI
Rwy’n teimlo cân yn dodMae’r rhythm yn fyw,Rwy’n teimlo cân yn dodYmunwch â’r criw.Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed,Canu hon sydd rhaid.Joio yn y Jambori,Joio yn y Jambori.
Mae gen i ffrindiau da,Cyfeillion di-ri,Mae gen i ffrindiau da,A mae lle i ti.Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed,Canu hon sydd rhaid.Joio yn y Jambori,Joio yn y Jambori.
Mae’r iaith yn dod yn fywYng nghymoedd y DeMae’r iaith yn dod yn fyw,Fe fydd yma le.Cura dy ddwylo, Côd ar dy draed,Canu hon sydd rhaid.Joio yn y Jambori,Joio yn y JamboriJoio yn y Jambori,
Dere lawr i’r jambaPawb yn ‘neud y Samba,Dawnsio dawns y Mamba,La la la la Bamba,Dere lawr i’r Jambori!!
nôl
nôl
NANT Y MYNYDD
Nant y Mynydd groyw, loywYn ymdroelli tua'r pant,Rhwng y brwyn yn sisial ganu,ana bawn i fel y nant.Mewn a mas, mewn a mas (x4)
Grug y mynydd yn eu blodau,Edrych arnynt hiraeth ddug,Am gael aros ar y bryniauYn yr awel efo'r grug.Nôl a mlaen, nô1 a mlaen (x4)
Adar mân y mynydd uchelGodant yn yr awel iach;O'r naill drum i'r llall yn hedeg,O na bawn fel deryn bach.Lan a lawr, lan a lawr (x4)
Mab y mynydd ydwyf innauOddi cartref yn gwneud cân;Ond mae nghalon ar y mynyddEfo'r grug a'r adar mân.Troi a throi, troi a throi (x4)
NEFOL DAD
Nefol Dad, mae eto'n nosi,Gwrando lef ein hwyrol weddi Nid yw'r nos yn nos i ti;Rhag ein blino gan ein hofnau,Rhag pob niwed i'n heneidiau,Yn dy hedd, o cadw ni.
Cyn i'r caddug gau amdanom, Taena d'adain dyner trosom Gyda thi, tawelwch sydd;Yn dy gariad mae ymgeledd,Yn dy fynwes mae tangnefedd, Wedi holl flinderau'r dydd.
nôl
PEN, YSGWYDDAU, COESAU, TRAED
Pen, ysgwyddau, coesau, traed,Coesau, traed.Pen, ysgwyddau, coesau, traed,Coesau, traed.Llygaid, clustiau trwyn a cheg,Pen, ysgwyddau, coesau, traed.
nôl
nôl
OES GAFR ETO?
Oes gafr eto?Oes heb ei godroAr y creigiau geirwonMae'r hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wenIe finwen, finwen, finwen.Foel gynffonwen, foel gynffonwen Ystlys wen a chynffon wen, wen, wen.
Oes gafr eto?Oes heb ei godroAr y creigiau geirwonMae'r hen afr yn crwydro.
Gafr las, las, lasIe finlas, finlas, finlas.Foel gynffonlas, foel gynffonlasYstlys las a chynffon las, las, las. a.y.b.
SOSBAN FACH
Mae bys Meri Ann wedi brifoA Dafydd y gwas ddim yn iach;Mae’r baban yn y crud yn crioA’r gath wedi sgrapo Joni bach.
Cytgan:Sosban Fach yn berwi ar y tânSosban fawr yn berwi ar y llawrA’r gath wedi crafu Joni bach.
Dai Bach y SowldiwrDai bach y SowldiwrDai Bach y SowldiwrA chwt’i grys e mas Cytgan
Mae bys Meri Ann wedi gwella,A Dafydd y gwas yn ei fedd;Mae’r babi yn y crud wedi tyfuA’r gath wedi huno mewn hedd. Cytgan
nôl
top related