gwasanaeth llysoedd ei mawrhydi - justice.gov.uk · 2014. 5. 22. · gorchmynnwyd gan dŷ'r...

Post on 29-Mar-2021

1 Views

Category:

Documents

0 Downloads

Preview:

Click to see full reader

TRANSCRIPT

Gwasanaeth Llysoedd

Ei Mawrhydi Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2010-11

Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2010-11

Un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder oedd Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol i'r Senedd yn unol ag Adran 1(4) Deddf Llysoedd 2003.

Cyflwynwyd y cyfrifon i Dŷ'r Cyffredin yn unol ag Adran 7 Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Cyflwynwyd y cyfrifon i Dŷ'r Arglwyddi drwy Orchymyn Ei Mawrhydi.

Gorchmynnwyd gan Dŷ'r Cyffredin i'w argraffu ar 5 Gorffennaf 2011.

HC1281 Llundain: Y Llyfrfa £20.50

© Hawlfraint y Goron 2011 Cewch ailddefnyddio'r wybodaeth hon (ac eithrio'r logos) yn ddi-dâl ar unrhyw fformat neu mewn unrhyw gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/ neu anfonwch e-bost: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk. Os ydym wedi cyfeirio at unrhyw wybodaeth sydd o dan hawlfraint trydydd parti, bydd angen ichi gael caniatâd perchennog yr hawlfraint honno. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn atom ni yn Nhîm Cyfathrebu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, 8fed Llawr, 8.41, 102 Petty France, Llundain SW1H 9AJ neu anfon e-bost hmcts.communications@hmcts.gsi.gov.uk Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael i'w lwytho i lawr yn www.official-documents.gov.uk ac ar ein gwefan yn www.justice.gov.uk ISBN: 9780102973990 Argraffwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi. ID 2439096 07/11 Fe'i hargraffwyd ar bapur sydd ag o leiaf 75% o'i ffibr wedi'i ailgylchu.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 1

Cynnwys

Tud

Rhagarweiniad 2

Rhagair 3

1 Golwg gyffredinol 4

Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi 4

Llywodraethu GLlEM 5

Y Weinyddiaeth Cyfiawnder 5

2 Ein Llwyddiannau yn 2010-11 6

Ein llwyth gwaith 6

Ein perfformiad o'i gymharu â'r Blaenoriaethau ar gyfer Newid 6

Anrhydeddau a gwobrau 11

Ein perfformiad o'i gymharu â Dangosyddion Perfformiad Allweddol 12

3 Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2010-11 14

Adroddiad y Prif Weithredwr 14

Datganiad ynglŷn â chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu 21

Datganiad ynglŷn â Threfniadau Cadw Trefn Mewnol GLlEM 2010-11 22

Adroddiad ynglŷn â Thaliadau 29

Tystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol i Dŷ'r Cyffredin

34

Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

36

Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2011 37

Datganiad ynglŷn â Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

39

Datganiad Llif Arian ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011 40

Nodiadau ynglŷn â'r Cyfrifon ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

41

Atodiadau

A Ffynonellau data ac ansawdd y data 85

B Dogfennau a dolenni cysylltiedig 87

Rhagarweiniad

Mae'n dda gennym gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2010-11 Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM), a oedd, tan 31 Mawrth 2011 yn un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Ar 1 Ebrill 2011, cafodd GLlEM ei uno â'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd gan ffurfio Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

Yn ystod y cyfnod y mae'r adroddiad hwn yn ymwneud ag ef, mae staff y llysoedd wedi sicrhau buddion sylweddol i ddefnyddwyr drwy gydweithio â'u cydweithwyr yn y tribiwnlysoedd er mwyn adeiladu'r asiantaeth newydd. Yr allwedd i'r gwaith hwn yw bod y llysoedd a'r tribiwnlysoedd yn debyg mewn llawer ffordd, nid dim ond o ran yr achosion sy'n mynd drwyddynt, ond hefyd am eu bod yn cynorthwyo'r farnwriaeth ac yn darparu gwasanaeth o safon. Mae gwaith amhrisiadwy GLlEM yn y blynyddoedd ers iddo fynd ati yn y lle cyntaf i uno gweinyddiaeth yr holl lysoedd, ac eithrio'r Goruchaf Lys, yn sylfaen gadarn i'r asiantaeth newydd.

| Rhagair 2

Y Gwir Anrh Kenneth Clarke, Cwnsler y Frenhines Y Gwir Anrh. Arglwydd Judge Yr Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder Cymru a Lloegr

Rhagair

Yn y cyhoeddiad hwn, ceir chweched adroddiad blynyddol GLlEM - ei adroddiad olaf. Mae'n dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud dros ddeuddeng mis diwethaf gwaith GLlEM rhwng 1 Ebrill 2010 a 31 Mawrth 2011.

Eleni, llwyddwyd i wneud cynnydd da o ran deall anghenion ein cwsmeriaid yn well, ac wrth ddiwallu'r anghenion hynny, rydym wedi parhau i hyrwyddo dulliau gweithio'r rhaglen 'Lean' er mwyn lleihau ein costau a symleiddio'n prosesau gan ddarparu gwell gwasanaethau byth i ddefnyddwyr y llysoedd. O 1 Ebrill 2011 ymlaen, drwy weithio fel un sefydliad, bydd y llysoedd a'r tribiwnlysoedd yn gallu gwneud rhagor eto.

Rydym wedi gweithio'n glos gyda'n cydweithwyr yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder i fwrw ymlaen â'n Strategaeth Sifil ac i gefnogi gwaith yr Adolygiad Cyfiawnder Teulu a gwneud y system cyfiawnder troseddol yn fwy effeithlon. Eleni, datblygwyd cynlluniau i resymoli ein Hystâd, gan ymgynghori yn eu cylch a dechrau eu rhoi ar waith. Bydd y gwaith hwn yn hollbwysig o ran darparu gwasanaethau modern ac effeithlon yn y dyfodol ac mae'n glod i ansawdd ein staff eu bod wedi cyflawni'r gwaith hwn mewn ffordd mor fedrus a chyflym. Gyda'n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, rydym wedi gweithio i fapio'r prosesau ar gyfer integreiddio ein gwasanaethau ac wedi dechrau ar waith datblygu model gweithredu newydd ar gyfer yr asiantaeth newydd.

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i'n staff i gyd a dymunwn roi teyrnged iddynt am y ffordd y maent wedi parhau i ddarparu gwasanaethau o safon, er gwaetha'r hinsawdd ariannol lem sydd ohoni, a'r ansicrwydd sy'n codi wrth sefydlu asiantaeth newydd a gweithio mewn ffyrdd newydd. Rydym yn ddiolchgar i'r staff i gyd am eu hymrwymiad a'u dycnwch ac mae'r llwyddiannau a restrir yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r rhinweddau hynny.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 3

Peter Handcock CBE Sir Duncan Nichol CBE Prif Weithredwr GLlEM Cadeirydd Bwrdd GLlEM

4 | Golwg gyffredinol

1 Golwg gyffredinol

Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM)

Nod

Mae gan bob dinesydd, yn unol â'i wahanol anghenion, yr hawl i gael cyfiawnder yn brydlon, ni waeth a yw wedi dioddef yn sgil trosedd, yn ddiffynnydd a gyhuddir o droseddu, yn gredydwr, yn ddefnyddiwr mewn dyled, yn blentyn sy'n wynebu'r risg o niwed, ynteu'n cadw busnes ac yng nghanol anghydfod masnachol.

Amcanion

Hyrwyddo system cyfiawnder fodern, deg, effeithiol ac effeithlon sydd ar gael i bawb ac sy'n ymateb i anghenion y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Cynorthwyo barnwriaeth annibynnol i weinyddu cyfiawnder.

Sicrhau'r gwerth gorau am arian.

Gwella perfformiad ac effeithlonrwydd yn barhaus ar draws pob agwedd ar waith y llysoedd gyda golwg ar gyfraniad priodol gan y farnwriaeth.

Cydweithredu ag amrywiaeth o sefydliadau ac asiantaethau cyfiawnder, gan gynnwys y proffesiynau cyfreithiol, i wella'r gwasanaeth i gymunedau lleol.

Mwy o ymddiried yn y system cyfiawnder a mwy o barch ati.

Cyflawni rhagoriaeth fel cyflogwr.

Yn ystod oes yr adroddiad hwn, roedd ein blaenoriaethau'n cynnwys y blaenoriaethau strategol a ganlyn, ynghyd â chyfres o weithgareddau galluogi allweddol i ategu gwireddu ein nod a'n hamcanion:

Blaenoriaethau strategol

Gweithio gyda'r farnwriaeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i sicrhau bod y System Cyfiawnder Troseddol yn gweithio'n fwy effeithlon, yn fwy cyflym ac yn fwy ymatebol i'r cyhoedd.

Sicrhau bod y llysoedd teulu'n gweithredu'n fwy effeithlon, yn gyflymach, yn fwy tryloyw ac yn fwy ymatebol, a hynny ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r llysoedd hynny, ac yn benodol ar gyfer plant agored i niwed.

Sicrhau, lle bydd angen i achosion ddod gerbron y llysoedd sifil, eu bod yn cael eu trin mewn ffordd mor effeithlon ag y bo modd a bod gwasanaethau i ddefnyddwyr yn cael eu gwella.

Darparu system gorfodi ratach, gyflymach a mwy cymesur sy'n sicrhau llawer mwy o gydymffurfio â gorchmynion llys.

Gweithgareddau galluogi allweddol

Datblygu ystâd llysoedd sydd wedi'i moderneiddio, sy'n addas at y diben ac sy'n manteisio i'r eithaf ar adnoddau.

Sicrhau bod busnes GLlEM yn fwy effeithlon, yn darparu gwell gwasanaethau a gwerth am arian.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 5

Datblygu sgiliau arweinwyr ym mhob rhan o'n sefydliad er mwyn iddynt fod yn hyderus wrth gyflawni eu dyletswyddau a gallu cyfrannu at waith corfforaethol trawsnewid GLlEM a'r system cyfiawnder ehangach.

Datblygu gwasanaethau TG sy'n ategu trefn gweinyddu cyfiawnder effeithiol ac effeithlon ac yn lleihau costau.

Llywodraethu GLlEM

Y Bwrdd

Rhoddodd yr Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus awenau a thrywydd cyffredinol GLlEM yn nwylo Bwrdd GLlEM.

Cyfarfu'r Bwrdd yn rheolaidd o dan gadeiryddiaeth anweithredol Syr Duncan Nichol CBE.

Gweddill aelodau'r Bwrdd oedd dau aelod anweithredol arall, tri aelod barnwrol a oedd, gyda'i gilydd, yn cynrychioli'r Arglwydd Brif Ustus a'r farnwriaeth, un o swyddogion y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cynrychioli'r Arglwydd Ganghellor, y Prif Weithredwr a thri aelod gweithredol arall o uwch dîm GLlEM.

Ystyriodd y Bwrdd ystod eang o faterion, gan gyflwyno adroddiad bob chwarter am faterion allweddol a oedd yn ymwneud â pherfformiad i'r Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus.

Mae rhestr o aelodau Bwrdd GLlEM ar 31 Mawrth 2011 i'w gweld yn Rhan 3 o'r adroddiad hwn.

Prif Weithredwr

Y Prif Weithredwr oedd yn gyfrifol am y gwaith beunyddiol ac ef yn bennaf oedd yn cynghori'r Bwrdd a thrwy'r Bwrdd, yn cynghori'r Gweinidogion Cyfiawnder. Cyfarfu'r Prif Weithredwr â'r Arglwydd Brif Ustus a'r Uwch Farnwr Llywyddol yn rheolaidd i drafod materion megis cyllidebau, yr ystâd ac uwch benodiadau. Cyfarfu'r Prif Weithredwr hefyd â thîm y Cyfarwyddwyr Gweithredol yn ôl y gofyn i ganolbwyntio ar fesurau perfformiad allweddol ym mhob awdurdodaeth, i weld problemau hollbwysig a chanfod atebion ymarferol iddynt, ac i drafod materion gweithredol allweddol.

Y Weinyddiaeth Cyfiawnder

Mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn goruchwylio gweinyddiaeth y llysoedd. Mae cwmpas ei waith yn eang, ac mae'n darparu gwasanaethau uniongyrchol i oddeutu naw miliwn o bobl bob blwyddyn ledled y Deyrnas Unedig drwy gyfrwng y llysoedd, y tribiwnlysoedd, y carchardai, rheoli troseddwyr a'r llu o bartneriaid sy'n gweithio yn y maes.

Ym mis Hydref 2010, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cyfuno Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i greu un sefydliad newydd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM a ddechreuodd weithredu ar 1 Ebrill 2011.

Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd wedi cyhoeddi adroddiad ar wahân sy'n disgrifio'i lwyddiannau yn 2010-11 ac mae hwnnw ar gael gan y Llyfrfa Ar-Lein yn www.tsoshop.co.uk

6 | Ein Llwyddiannau yn 2010/11

2 Ein Llwyddiannau yn 2010-11

Ein llwyth gwaith

Yn 2010-11, cwblhawyd 1.8 miliwn o achosion troseddol yn y llysoedd ynadon, a 156 mil o achosion yn Llys y Goron. Yn y llysoedd sirol, cychwynnwyd 1.6 miliwn o hawliadau sifil a chafwyd 105 o filoedd o geisiadau teulu cyfraith gyhoeddus a chyfraith breifat. Cafwyd 36 mil arall o geisiadau teulu yn y llysoedd achosion teulu.

Gwrandawyd pedair mil a hanner o apeliadau a cheisiadau i apelio yn Adran Droseddol y Llys Apêl ac yn Adran Sifil y Llys Apêl, gwrandawyd pedair mil o apeliadau a cheisiadau am hawl i apelio. Yn yr Uchel Lys, cychwynnwyd 37 mil o hawliadau sifil, cyhoeddwyd cyfanswm o 12 mil o achosion yn y Llys Gweinyddol, bron 10 mil ohonynt yn Llundain, a'r gweddill yn y pedair canolfan ranbarthol. Cychwynnwyd 256 mil o Grantiau cynrychiolaeth gan y Gwasanaeth Profiant, a 20 mil o orchmynion gan y Llys Gwarchod.

Ein perfformiad o'i gymharu â'r Blaenoriaethau ar gyfer Newid

Darparu gwell gwasanaeth a gwerth am arian

Blwyddyn pan ddechreuodd ein rhaglen Newid ddwyn ffrwyth oedd 2010-11. Cyflwynwyd system newydd i bennu faint o staff yr oedd eu hangen mewn gwirionedd er mwyn ymateb i ofynion ein llysoedd ac i ddyrannu ein cyllid. Ceir rhagor o fanylion ynglŷn â chostio gweithgareddau allweddol yn ein model Costio sy'n Seiliedig ar Weithgarwch (ABC). Defnyddiwyd ABC am y tro cyntaf eleni wrth bennu'r dyraniad ariannol rhanbarthol ar gyfer gweithredu ein llysoedd ynadon ac rydym wedi datblygu model ar gyfer gweinyddu Llys y Goron a ddefnyddir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM i bennu dyraniadau ariannol yn 2011-12. Buom yn gweithio hefyd gydag Uned Rhagweld a Modelu'r Weinyddiaeth Cyfiawnder i sicrhau trefn fwy tryloyw a chywir wrth ragweld faint o ddiwrnodau eistedd y bydd eu hangen er mwyn ymateb i'r galw.

Bwriad ein rhaglen 'Lean' oedd sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu'n rhai effeithlon a'u bod yn gost effeithiol, a dyma a fydd wrth wraidd y ffordd y bydd yr asiantaeth newydd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, yn gweithredu. Ei nod fydd sicrhau newid sylfaenol yn ein diwylliant gweithio, gan ddefnyddio trefn rheoli perfformiad amlwg drwy Fyrddau Rheoli Timau a chyfarfodydd tîm dyddiol sy'n para 10 munud ac yn cynnwys ein staff i gyd mewn ymarferion datrys problemau. Sefydlwyd y rhaglen ym mis Medi 2008 ac eleni, cynhaliwyd digwyddiadau Gweithredu 'Lean' mewn rhagor o lysoedd a swyddfeydd, 181 ohonynt, sy'n golygu bod 409 o lysoedd a swyddfeydd bellach wedi ymwneud â'r rhaglen ac nad oes ond 78 ar ôl. Eleni, lledaenwyd 15 Gweithdrefn Gweithredu Safonol (SOP) arall. Bob mis, byddwn yn arbed 66,500 o oriau amser staff yn sgil yr arloesi a ddatblygwyd drwy roi 'Lean' ar waith.

Rydym hefyd wedi creu tair esiampl o swyddfa yn Llysoedd Ynadon Sefton, Rhydychen a Plymouth er mwyn i staff llysoedd o bob cwr o'r wlad allu ymweld â hwy i ddysgu gwersi i'w rhoi ar waith yn eu llysoedd hwythau. Ynghyd â'r canolfannau perfformiad rhanbarthol a chenedlaethol, mae'r rhain wedi ein helpu ni i ganolbwyntio ar wella'r gwasanaeth i'n cwsmeriaid.

Cafodd mwyafrif ein Huwch Weision Sifil, ynghyd â nifer fawr o Benaethiaid Gweithrediadau a Chlercod Ynadon eu hyfforddi i arwain sefydliad 'Lean' ac mae gennym fwy na 100 o staff sydd wedi'u hyfforddi'n asiantau newid 'Lean'. Gall y rhain ein cynorthwyo i wella'r busnes.

Eleni, cyflwynwyd 'Sgyrsiau Tîm' fel rhan o'n strategaeth genedlaethol i greu mwy o gyfleoedd i bobl gyfathrebu wyneb yn wyneb. Mae sgyrsiau tîm yn cynnig fframwaith i

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 7

reolwyr gynnal sgyrsiau go iawn, ystyrlon â'u timau ynglŷn â'r materion o bwys sy'n wynebu'r sefydliad. Cwblhawyd ein Rhaglen Datblygu Arweinwyr i bob rheolwr ar Fand C ac uwch. Yn sgil hyn, datblygwyd cyfres o chwe sgwrs strwythuredig ynglŷn ag arweiniad ac mae 117 o'n rheolwyr wedi'u hyfforddi i hwyluso'r rhain. Rydym wedi dechrau lledaenu hyn i dros dair mil o'n staff Band D sydd â chyfrifoldebau arwain uniongyrchol gan sicrhau bod yr wybodaeth a'r sgiliau y bydd ein huwch-reolwyr yn eu hennill drwy'r Rhaglen Datblygu Arweinwyr yn cael eu rhannu drwy'r asiantaeth.

Ym mis Hydref, lledaenwyd fframwaith rheoli talent newydd i holl staff Band B ac uwch. Mae'r fframwaith yn gyfrwng i'r staff a'u rheolwr weld cyfleoedd i ddysgu er mwyn meithrin sgiliau neu er mwyn dringo drwy'r gwasanaeth sifil. Yn ein harolwg sgiliau, gwelwyd pa aelodau o'r staff y mae eu cymwysterau addysg ar hyn o bryd yn is na gofynion addewid sgiliau'r llywodraeth a chynigiwyd cyfle iddynt i gyd ddatblygu sgiliau generig neu sgiliau penodol ym maes gwaith llys drwy ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Ym mis Mawrth 2011, roedd 81 y cant o'r staff wedi cwblhau ein hyfforddiant codi ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Yn sgil ein strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, cynhaliwyd gweithdai codi ymwybyddiaeth arbennig i staff y rheng flaen ynglŷn ag Iechyd Meddwl, nam ar y golwg ac Anabledd.

Mae'n hollbwysig rheoli ystâd y llysoedd yn effeithlon er mwyn darparu gwasanaethau llys cost effeithiol. Ym mis Mehefin, lansiwyd ymgynghoriadau ynglŷn â'r gwasanaethau llys a ddarperir yng Nghymru a Lloegr ac uno ardaloedd cyfiawnder lleol. Cafwyd dros 2,500 o ymatebion i'r ymgynghori gan y cyhoedd a'n rhanddeiliaid, ac ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddodd Gweinidogion y caeid 93 o lysoedd ynadon, 49 o lysoedd sirol ac yr unid nifer o ardaloedd cyfiawnder lleol.

Rhoddwyd cychwyn ar y rhaglen eisoes, a bydd y llysoedd cyntaf yn cau ym mis Ebrill 2011. Trosglwyddir y gwaith i lysoedd cyfagos a fydd golygu bod eu cyfraddau defnyddio'n uwch, a llai o adegau pan na fydd ystafelloedd ein llysoedd yn cael eu defnyddio. Y nod fydd cynyddu oriau defnyddio'r llysoedd ynadon o 64 y cant i oddeutu 75 y cant a bod llysoedd sirol yn eistedd ar nifer sy'n nes at 200 diwrnod y flwyddyn yn hytrach na'r 180 presennol. Nid yn unig y bydd cau'r llysoedd hyn yn cael gwared ar adeiladau llysoedd sy'n cael eu tanddefnyddio neu sy'n rhy hen i'w pwrpas, ond bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn ail-fuddsoddi £28m dros gyfnod yr adolygiad o wariant er mwyn uwchraddio a moderneiddio cyfleusterau nifer fawr o'r llysoedd ynadon a'r llysoedd sirol.

Yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, dechreuwyd gweithredu mewn Canolfan Cyfiawnder Troseddol newydd yn Ne Swydd Warwick ac mewn Canolfan Cyfiawnder Sifil newydd ym Mryste, a ddaeth hefyd yn gartref newydd i Gofrestrfa Profiant Rhanbarth Bryste. Fel rhan o'r strategaeth ehangach i wella capasiti a chyfleusterau'r llysoedd ynadon yn Llundain, rydym wedi bwrw ymlaen i adeiladu Llys Ynadon newydd yn Westminster, ar safle hen Lys Ynadon Marylebone. Bydd yr adeilad hwn yn cynnwys 10 o ystafelloedd llys a dylai fod yn barod i'w ddefnyddio ddiwedd 2011. Talwyd amdano'n rhannol drwy werthu nifer o adeiladau nad oedd mo'u hangen, gan gynnwys Llys Ynadon Dinas Westminster a fydd yn cau pan fydd yr adeilad newydd wedi'i gwblhau.

Rydym wedi parhau i ddefnyddio ein hadeiladau hyd yr eithaf drwy gyfrwng ein rhaglen integreiddio. Yn y flwyddyn y mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â hi, mae'r llysoedd sirol yn Barnsley, Dudley, Mansfield, Stockport, a Wrecsam, i gyd wedi gadael eu hen adeiladau a bellach yn rhannu adeilad â llys ynadon yn eu hardal. Cwblhawyd gwaith hefyd i droi llys Ynadon Amersham yn Llys y Goron. Symudodd swyddfa gorfodi dirwyon Hinckley i Lys Ynadon Hinckley a threfnwyd i Gofrestrfa Profiant Rhanbarth Leeds rannu adeilad â'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd. Symudodd Tîm Gorfodi Canolog Northumberland i rannu adeilad y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn North Shields. Symudodd Tîm Gorfodi Canolog Cymru ynghyd â'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Lys Ynadon newydd Port Talbot.

8 | Ein Llwyddiannau yn 2010/11

Yn sgil ein hymrwymiad parhaus i arbed ynni, llwyddwyd i ostwng gollyngiadau carbon ystâd y llysoedd 11,000 tunnell. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at arbed dros £1.3m ar ein gwariant ar ynni a hynny ar ben y gostyngiad o £1.2m a sicrhawyd yn 2009-10. Llwyddwyd i wneud hyn drwy reoli adeiladau'n well, drwy newid ymddygiad a thrwy fuddsoddi mewn technolegau carbon isel a chamau effeithlonrwydd ynni, er enghraifft drwy osod celloedd ffotofoltaig (paneli solar) yn Llys Cyfun Leeds. Rydym yn falch o ddweud bod Llysoedd Barn Caersallog, a agorwyd yn 2009, wedi ennill Gwobr Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) yn 2010, am fod yr adeilad yn esiampl o fri o gynllunio cynaliadwy.

Gwnaethpwyd cynnydd da gyda'n strategaeth i'r llysoedd sifil ddarparu'r seilwaith ar gyfer swyddfeydd cefn a defnyddio'r rhyngrwyd fel cam cyntaf wrth gysylltu â'r llysoedd sifil, ac fe gwblhawyd hynny ar 31 Rhagfyr 2010. Drwy ein gwaith blaenorol i sefydlogi ein system XHIBIT, llwyddwyd i ganolbwyntio ar sicrhau gwelliannau eleni. Ym mis Ebrill 2010, cyflwynwyd cyfleuster Adfer ar ôl Argyfwng, gan ddilyn hynny drwy ddiweddaru system TG ar raddfa fawr, ychwanegu ffurflenni newydd, gwelliannau y bu hir ddisgwyl amdanynt ac a awgrymwyd gan staff y llysoedd ac eraill. Diweddarwyd ac ailgyhoeddwyd ein Canllawiau i Borth XHIBIT ar gyfer yr Heddlu gan ddilyn hyn gyda chyfres o sioeau lôn i staff Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

Eleni, drwy newid System Busnes Gweithredu Llysoedd yr Ynadon, gan gynnwys trwsio dros 400 o ddiffygion yn system Libra, llwyddwyd i wneud y system yn fwy sefydlog gan sicrhau ei bod yn segur yn llai aml a'i bod yn perfformio'n well. Mae'r newidiadau hyn wedi ein cynorthwyo i fod yn fwy effeithlon ar raddfa ehangach yn y llysoedd ynadon a bydd yn ein galluogi i gyflwyno newidiadau i'r busnes yn y dyfodol. Sefydlwyd cysylltiadau newydd â'r system gydag asiantaethau erlyn, megis Transport for London, Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Mersey Travel, gan ddarparu mynediad o bell i Dimau Troseddwyr Ifanc. Mae'r cysylltiadau hyn yn golygu bod sefydliadau cyfiawnder troseddol yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y llysoedd yn gyflymach ac yn fwy hwylus ac nad oes yn rhaid i'n staff na staff ein partneriaid cyfiawnder troseddol ail-fwydo data i'r system.

Dechreuwyd y flwyddyn drwy gyflwyno Bichard 7, sy'n awtomeiddio trosglwyddo canlyniadau'r llysoedd ynadon i Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu sydd ar waith ym mhob llys. Yna, ychwanegwyd gwelliannau sylweddol iddo, gan gynyddu nifer yr achosion sy'n cael eu trosglwyddo'n awtomatig 6.5 y cant.

Trawsnewid cyfiawnder troseddol

Yn Llys y Goron, cefnogwyd cynlluniau'r Uwch Farnwr Llywyddol er mwyn sicrhau bod pobl yn pledio'n euog cyn gynted byth ag y bo modd ac er mwyn gwella busnes Llys y Goron drwy gyflwyno dull mwy cadarn ar gyfer rheoli achosion.

Ym mis Mehefin, cwblhawyd lledaenu Prawf Modd Llys y Goron ar gyfer cymorth cyfreithiol drwy'r wlad. Erbyn hyn, gofynnir i bob diffynnydd yn Llys y Goron sy'n dymuno gwneud cais am gymorth cyfreithiol gyfrannu at gost hynny os yw'r modd ganddo.

Dyma'r flwyddyn gyntaf lawn lle y trosglwyddwyd gwybodaeth ynglŷn â chanlyniadau gwrandawiadau llysoedd ynadon yn awtomatig i Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Mae hyn wedi cynyddu'n sylweddol gyfran yr achosion sy'n cael eu bwydo i Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu o fewn 10 diwrnod calendr. Ym mis Mawrth 2011 roedd 91.4 y cant o'r holl ganlyniadau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (o'u cymharu â tharged cenedlaethol 75 y cant).

Eleni, rydym wedi cyflwyno SOPs 'Lean' yn Llys y Goron ac yn y llysoedd ynadon. Mae'r SOPs hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud ein gwaith mewn ffordd fwy cyson, a hefyd yn

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 9

bod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddileu gweithgareddau gwastraffus ond gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn dal i ddarparu'r gwasanaeth sy'n ofynnol.

Yn gefn i'r gwaith a wnaethpwyd ar y cyd eisoes â'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, wrth gyhoeddi'r canllawiau Making it Count in Court, ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddwyd pecyn i'w hategu. Mae hwn ar gael drwy wefan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Wrth ddatblygu'r pecyn hwn, rydym yn helpu ardaloedd lleol i adolygu eu trefniadau ar gyfer ymdrin â phobl ifanc yn y llys troseddol a'u gwneud yn fwy effeithiol.

Ym mis Medi 2010, cyhoeddwyd gwerthusiad o'n Llysoedd Iechyd Meddwl peilot a hefyd cyhoeddwyd gwerthusiad o'n Llysoedd Cyffuriau Arbennig peilot ym mis Ionawr 2011. Bu'r cynlluniau peilot llwyddiannus hyn ar waith mewn nifer o lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr. Ar sail y dystiolaeth a gynigir ganddynt, rydym bellach yn datblygu opsiynau ar gyfer sut y gellid rhoi egwyddorion datrys problemau ar waith yn fwy eang yn y llysoedd er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sy'n gwneud i bobl aildroseddu.

Llysoedd teulu effeithlon tryloyw ac ymatebol

Ar 20 Ionawr 2010, cyhoeddodd y Llywodraeth Adolygiad Cyfiawnder Teulu, ac ym mis Gorffennaf, noddwyd ein hail gynhadledd ar gyfiawnder teulu gan wneud cyfraniad manwl i'r adolygiad hwnnw. Ym mis Tachwedd 2010, cynhaliwyd cynhadledd arall gan ysgrifenyddiaeth yr Adolygiad, gan geisio barn pobl am gynigion a ystyrid ar y pryd. Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddodd yr Adolygiad adroddiad dros dro.

Drwy roi'r rhaglen 'Lean' ar waith, rydym wedi gweithio gyda'n staff, gyda'r farnwriaeth a chydag asiantaethau sy'n gysylltiedig â gwaith teulu i ddileu gweithgareddau gwastraffus. Rydym wedi dechrau datblygu ystod o SOPs a ledaenir i'r llysoedd teulu yn y flwyddyn sy'n dod.

Eleni, ar y cyd â'r farnwriaeth, rydym wedi rhoi cynlluniau newydd ar waith gan y Grŵp Adnoddau Teulu a Chyflawni sydd wedi parhau i wella'r system cyfiawnder teulu bresennol. Drwy'r cyfarwyddiadau ymarfer newydd a gyhoeddwyd gan Lywydd yr Adran Teulu, yn sgil y Rhaglen Cyfraith Breifat ddiwygiedig, llwyddwyd i leihau ein hamserau aros ar gyfer gwrandawiadau cyntaf. Maent hefyd wedi ein galluogi i wella prosesau cyhoeddi a rhestru ceisiadau.

Rydym wedi gwireddu ein hymrwymiad i gyfathrebu'n well ag asiantaethau partner ym maes cyfiawnder teulu ac, yn benodol, i wella ein perthynas waith â'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS). Mae ein gwaith gyda CAFCASS drwy'r Grŵp Adnoddau Teulu a Chyflawni wedi helpu i feithrin ein perthynas â chyrff eraill ar lefel rhanbarth ac ar lefel ardal. Mae digwyddiadau 'Lean' ar y cyd rhwng GLlEM a CAFCASS wedi cyflymu prosesau cyfeirio gwybodaeth ynglŷn ag achosion newydd at CAFCASS a CAFCASS Cymru. Mae hyn yn golygu bod archwiliadau'r heddlu'n digwydd yn gyflymach a bod y gwrandawiadau cyntaf yn fwy effeithiol.

Eleni, dyrannwyd arian ar gyfer 4,000 o ddiwrnodau eistedd ychwanegol ar gyfer gwaith Cyfraith Gyhoeddus er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y llwyth gwaith a lleihau oedi. Cwblhawyd sefydlu 42 o Grwpiau Gwella Perfformiad Lleol yn Lloegr, lle bydd rhanddeiliaid allweddol yn archwilio materion sy'n ymwneud â pherfformiad mewn achosion Cyfraith Gyhoeddus ac yn rhoi newidiadau ar waith i leihau oedi. Darparwyd yr ysgrifenyddiaeth gennym ar gyfer pob un o'r grwpiau hyn gan gyfrannu hefyd at orolwg strategol ar achosion gofal drwy ein haelodaeth o'r Bartneriaeth Perfformiad Genedlaethol.

Rydym wedi parhau i gefnogi ymdrechion i gynyddu cyfran yr anghydfodau teulu a ddatrysir drwy gyfryngu. Ym mis Tachwedd, aeth y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol ati i

10 | Ein Llwyddiannau yn 2010/11

symleiddio'r amgylchiadau ar gyfer eithrio ymgeiswyr cymorth cyfreithiol o sesiynau Gwybodaeth ac Asesu Cyfryngu ar gyfer Teuluoedd (FMIA). Eleni, buom yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Cyfiawnder a'r farnwriaeth i ddatblygu'r Protocol Ymgeisio newydd ar gyfer FMIAs a gyhoeddwyd ar 23 Chwefror 2011. Wrth baratoi i'w roi ar waith, mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i roi gwybodaeth i'r sawl sy'n rhan o achosion teulu, boed y rheini'n cael arian cyhoeddus neu beidio, er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyfryngu fel dull amgen o ddatrys anghydfod.

Eleni, rydym wedi gweithio gyda'r farnwriaeth a chydag asiantaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith teulu, er mwyn canfod gweithgareddau gwastraffus yn ein prosesau a'u dileu. Sefydlwyd esiamplau da o Lysoedd Teulu 'Lean' yng Nghaerdydd, yn Lerpwl ac ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu. Mae'r llysoedd hyn yn datblygu SOPs mewn ystod eang o dasgau teulu a chyn bo hir, caiff y rhain eu rhannu â'n holl lysoedd teulu.

Adolygwyd Rheolau'r Llys Gwarchod gan Lywydd gweithgor y Llys Gwarchod yn ystod 2010-11 ac yn sgil hyn, cyflwynwyd ffurflenni newydd ar gyfer gwneud cais am wasanaeth a rhoi hysbysiadau. Mae'r ffurflenni'n un rhan o bump o faint y ffurflenni blaenorol sy'n golygu eu bod yn symlach ac nad oes angen treulio cymaint o amser yn eu llenwi.

Gwell llysoedd sifil

Eleni, cynhaliwyd prosiect peilot yn Coventry yn ogystal â chynlluniau eraill yn Rhanbarth y De Ddwyrain i weld pa fanteision a ddeilliai o ganoli'r cyswllt ffôn â'r llysoedd sirol. Hyd yn hyn, mae'r peilot wedi dangos y gellir datrys canran sylweddol o faterion yn ystod y cysylltiad cyntaf hwnnw a heb orfod cyfeirio'r achos at y llysoedd. Mae'r data cynnar hefyd wedi ein galluogi i ddeall yr ymholiadau mwyaf cyffredin yn well, ac, am y tro cyntaf, rydym wedi gallu amcangyfrif nifer y galwadau a gaiff y llysoedd sirol gan gwsmeriaid. Bydd gwaith y rhaglen beilot yn mynd rhagddo er mwyn cael rhagor o ddata dros gyfnod hwy ond mae'r arwyddion cynnar yn dangos bod canoli yn ein helpu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon a bydd yn ein galluogi i weld beth y gallwn ei wneud i leihau nifer y galwadau diangen.

Rhwng mis Mai a mis Medi 2010, symudwyd gweinyddu camau cynnar hawliadau am ddyledion o 102 o'n llysoedd sirol i waith swyddfeydd cefn ein canolfannau busnes gan adael i'r staff sy'n gweithio yn y llysoedd ganolbwyntio ar reoli achosion a rhoi cymorth barnwrol ar gyfer hawliadau sy’n destun anghydfod. Yn sgil symleiddio prosesau busnes drwy dechnegau Lean, llai o orbenion rheoli ac arbedion maint eraill, llwyddwyd i brosesu’r gwaith hwn yn rhatach o lawer ac yn y flwyddyn ddilynol, ac roedd cyfanswm y gostyngiad yng nghyllidebau'r rhanbarthau perthnasol, sef £1.73m, yn adlewyrchu hyn.

Eleni, cwblhawyd gosod terfynellau talu â cherdyn ym mhob llys sirol, gan alluogi defnyddwyr y llys sirol i dalu ffioedd a dyledion gyda chardiau credyd a debyd yn y fan a’r lle. Gall y staff ddefnyddio’r terfynellau hefyd i brosesu taliadau dros y ffôn. At hynny, rydym wedi rhoi cardiau ‘AllPay’ i bobl y mae angen iddynt wneud taliadau o dan orchmynion gweinyddu er mwyn iddynt dalu gydag arian parod mewn lleoliadau megis siopau papur newydd a swyddfeydd post. Mae hyn wedi gostwng nifer y taliadau a wneir yn y llys yn y fan a’r lle neu drwy’r post.

Aeth ein gwasanaeth Hawliadau Arian Ar-lein yn fyw ddiwedd mis Mai 2010, gan gynnig gwell perfformiad a gwell diogelwch i ddefnyddwyr. Ar ôl ei huwchraddio, mae'r fersiwn hon yn gwbl gyson â threfniadau’r Diwydiant Cardiau Talu a gall hawlwyr yn awr gychwyn mwy na 50 o hawliadau ar y tro.

Ym mis Ebrill 2010, holwyd dros 400 o ddefnyddwyr rheolaidd Canolfan Swmp Llys Sirol Northampton a dangosodd y canlyniadau fod 85 y cant naill ai'n fodlon iawn neu'n eithaf bodlon ar y gwasanaeth a gânt.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 11

Eleni, rydym wedi gweithio i sicrhau bod ein Gwasanaeth Cyfryngu ar gyfer Hawliadau Bach mor effeithlon ag y bo modd drwy wella cynhyrchedd ein cyfryngwyr a chynyddu nifer yr atgyfeiriadau barnwrol. Ym mis Ebrill, gosodwyd targed o 550 o sesiynau cyfryngu yn ystod y flwyddyn i bob un o’n cyfryngwyr, sef cyfartaledd o ychydig dros 45 y mis. Llwyddwyd i gyrraedd 44.25 ac mae hyn yn newid mawr o'i gymharu â pherfformiad y flwyddyn gynt pan nad oedd ein cyfryngwyr ond yn llwyddo i gwblhau 35.3 sesiwn cyfryngu y mis.

Eleni, gwelwyd cynnydd o 4.4 y cant yn nifer y sesiynau cyfryngu a gwblhawyd o 10,174 i 10,622 er bod nifer yr atgyfeiriadau wedi gostwng 15 y cant sy’n cyfateb i ostyngiad yn nifer yr anghydfodau drwyddi draw. Er hynny, gwelwyd gostyngiad bychan yn nifer y sesiynau cyfryngu a arweiniodd at setliad o 7,329 i 7.293 (0.49 y cant).

Anrhydeddau a gwobrau

Yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2010, cafodd Thirza Mullins, Dirprwy Glerc yr Ynadon yn Llys Ynadon Camberwell Green, Llundain ei gwneud yn Swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) a chafodd Stephen Burrows, Pennaeth Diogelwch yn y Llysoedd Barn Brenhinol ei wneud yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE). Cafodd Norman Draper, Clerc yr Ynadon yng Nglannau Mersi ei wneud yn OBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2011 a gyhoeddwyd ar 31 Rhagfyr 2010.

Cyflwynwyd 149 o enwebiadau yng nghynllun Gwobrau Cenedlaethol GLlEM 2010. Daeth y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’u henwebwyr i gyd i’r seremoni yn y Llysoedd Barn Brenhinol ar 30 Medi.

12 | Ein Llwyddiannau yn 2010/11

Ein perfformiad o'i gymharu â Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Dangosyddion Perfformiad Perfformiad

Llys y Goron Targed 2010-11 2009-10 2008-09

DPA 1 Canran yr achosion yn Llys y Goron a gychwynnwyd o fewn y cyfnod targed 78% 77.01% 78.4% 79.7%

Cynnal Cyfradd Treialon Aneffeithiol 2009-10 13% 13.5% 13.0% 12.1%

Cyfran y diwrnodau y bydd rheithwyr yn eistedd mewn treialon yn ystod cyfnod eu gwasanaeth2 70% 68.3% 67.2% 62.8%

Yr amser ar gyfartaledd y bydd tystion yn aros cyn cael eu galw i lys³

2 awr 30 mun

2.01 (Meh)2.07 (Tach)

2.11 (Meh) 2.03 (Tach)

2.16 (Meh) 2.06 (Tach)

Cyfran y tystion sydd i’w galw i’r llys a alwyd o fewn 2 awr³

60% 61.2% (Meh)56.5% (Tach)

57.6% (Meh) 60.4% (Tach)

59.4% (Meh) 59.8% (Tach)

Llysoedd ynadon

DPA 2 Lleihau’r amser ar gyfartaledd rhwng cyhuddo a chwblhau achosion oedolion a gyhuddir i 6 wythnos neu lai

<6 wythnos

6.6 wythnos 6.9 wythnos 6.8 wythnos

Nifer y gwrandawiadau ar gyfartaledd a gynhaliwyd ar gyfer pob achos yn y llysoedd ynadon 2.25 2.17 2.26 2.33

Cynnal Cyfradd Treialon Aneffeithiol 2009-10 18.6% 17.5% 18.6% 18.6%

DPA 3 Cynhyrchu canlyniadau llysoedd yr ynadon a’u hanfon at yr heddlu: 95% mewn 3 diwrnod gwaith 100% mewn 6 niwrnod gwaith

86.5%97.1%

83.9% 95.7%

75.6% 88.8%

Yr amser ar gyfartaledd y bydd tystion yn aros cyn cael eu galw i lys3

1 awr 30 mun

1.22 (Meh)1.24 (Tach)

1.20 (Meh) 1.25 (Tach)

1.35 (Meh) 1.23 (Tach)

Cyfran y tystion a oedd i’w galw i’r llys a alwyd3. o fewn awr

60% 51.8% (Meh)50.0% (Tach)

53.2% (Meh) 49.2% (Tach)

54.1% (Meh)

51.9% (Tach)

o fewn 2 awr 80% 80.9% (Meh)79.9% (Tach)

81.2% (Meh) 79.8% (Tach)

81.7% (Meh) 79.9% (Tach)

Gorfodi Gorchmynion y Llys

DPA 4 Cyfradd talu cosbau ariannol4 85% 93.2 % 85.8% 84.7%

DPA 5 Canran yr holl Gosbau Cymunedol i’w datrys o fewn 25 niwrnod ar ôl y methiant perthnasol i gydymffurfio 60% 69.3% 67.4% 61.8%

1 Cychwynnwyd 76.5% y cant o achosion diffynyddion a anfonwyd i dreial o fewn 26 wythnos i'w hanfon at Lys y Goron gan y llysoedd ynadon; Cychwynnwyd 70.7% o achosion traddodi diffynyddion i dreial o fewn 16 wythnos i'w traddodi gan lysoedd ynadon; cychwynnwyd 86.9% o apeliadau o fewn 14 wythnos i gyflwyno'r apêl a chychwynnwyd 92.9% o'r achosion a draddodwyd ar gyfer dedfryd o fewn 10 wythnos i'r traddodi

2 Mae treialon Llys y Goron yn gymhleth. Ni fydd rhai'n cael eu cynnal ar y diwrnod fel y bwriadwyd oherwydd nad yw'r partïon yn barod am y treial, oherwydd bod y diffynnydd y pledio'n euog neu oherwydd bod treial arall yn rhedeg yn hwyr ac am y rhesymau hyn, nid oes modd i bob rheithiwr eistedd ar dreial bob dydd yn ystod eu gwasanaeth rheithgor. Cyflwynwyd y targed yn 2009-10

3 Mesurir perfformiad o'i gymharu â thargedau amser aros tystion drwy gynnal arolygon ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mehefin ac ym mis Tachwedd.

4 Cyfrifir y gyfradd talu drwy rannu swm y dirwyon a gesglir mewn blwyddyn â swm y dirwyon a bennir. Gall yr arian a gesglir gynnwys dirwyon a chosbau ariannol eraill a bennir yn y flwyddyn honno neu mewn blynyddoedd blaenorol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 13

Llysoedd sifil

DPA 6 Cynyddu cyfran yr hawliadau bach a amddiffynnir a gwblheir drwy ddull ar wahân i wrandawiad (setliad) 65% 71.6% 74% 72%

Cyfran yr achosion cyflym ac aml-drac a amddiffynnir ac a gwblheir drwy ddull ar wahân i wrandawiad 87% 84.7% 87% 87%

DPA 7 Cynyddu cyfran yr hawliadau bach a amddiffynnir a gwblheir (o’u derbyn i’r gwrandawiad terfynol) o fewn 30 wythnos. 70% 71.6% 68% 65%

Dangosyddion Perfformiad Perfformiad

Llysoedd teulu Targed 2010-11 2009-10 2008-09

DPA 8 Canran yr achosion gofal a goruchwyliaeth sy’n sicrhau canlyniad terfynol i’r plenty5 o fewn 30 wythnos o fewn 50 wythnos o fewn 80 wythnos

26%66%92%

17.3%49.6%84.9%

AMH6 AMH6

Cyflawni dros ein cwsmeriaid

DPA 9 Elfen ‘bodlon iawn’ arolwg defnyddwyr llysoedd GLlEM i’w chynnal ar lefel llinell sylfaen arolwg blwyddyn 2 (2007-08), sef 41%, neu’n uwch >41% AMH7 40% 42%

Cwynion a gafodd ymateb gan yr Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid o fewn 15 niwrnod gwaith 90% 90.7% 92.5% N/A8

Cwynion a gafodd ymateb gan y llysoedd o fewn 10 niwrnod gwaith 90% 88.8% 91.7% N/A8

Cwynion a gafodd ymateb gan swyddfeydd Ardal o fewn 10 niwrnod gwaith9 90% 88.6% 91.8% N/A8

Cofnodwyd 20,839 o gwynion yn 2010-11 gan gwblhau 89% o fewn y targed

5 Cyflwynwyd targed traws-asiantaeth i leihau oedi diangen mewn achosion gofal yn 2010-11, ac mae gan bob asiantaeth ei helfen ei hun i'w chyflawni.

6 Cyflwynwyd targedau newydd a chyhoeddi data yn 2010-11.

7 Yn sgil cynigion ar gyfer asiantaeth gyfun newydd i'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd, rhoddwyd y gorau i'r rhaglen Arolygon Boddhad Cwsmeriaid blynyddol ar gyfer 2010-11. Ar 14 Hydref 2010, cyflwynodd yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig yn y senedd a oedd yn cynnwys y canlynol: 'Ni fyddai comisiynu arolygon newydd ar gyfer 2010-11 yn werth da am arian oherwydd prin fyddai gwerth y canlyniadau ac ni fyddent ar gael nes bod yr asiantaeth newydd wedi'i chreu. Felly, rwyf wedi penderfynu na ddylai'r arolwg a ddefnyddiwyd i baratoi adroddiad ynglŷn â'r dangosydd perfformiad hwn fynd yn ei flaen. Mae GLlEM yn dal yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth da i holl ddefnyddwyr y llysoedd drwy Gymru a Lloegr. Mae defnyddwyr yn dal yn fodlon iawn gydag 82% o ddefnyddwyr y llysoedd yn fodlon drwyddi draw, a 40% o'r rheini'n 'fodlon iawn'. Bydd gwasanaeth integredig newydd y llysoedd a'r tribiwnlysoedd yn dal i wella'r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer defnyddwyr y llysoedd a'r tribiwnlysoedd.

8 Cyflwynwyd y targed yn 2009-10.

9 Yn hwyr yn 2009, adolygwyd gweithdrefn trin cwynion GLlEM er mwyn ei gwneud yn feinach heb beryglu ansawdd y penderfyniadau. Yn sgil hynny ym mis Ionawr 2011, cyflwynodd GLlEM ddwy haen trin cwynion yn lle tair, gyda'r penderfyniad cychwynnol yn cael ei wneud ar lefel y llys ac wedyn petai achwynydd yn anfodlon, gallai apelio i dîm canolog. Roedd y rheini a ddefnyddiai'r llysoedd (gan gynnwys Grwpiau Cydraddoldeb) yn ffafrio proses trin cwynion ddwy haen gan mai dyma'r drefn leiaf cymhleth a hirwyntog ac oherwydd bod cyflymu'r broses penderfynu fel hyn yn golygu llai o straen meddwl i achwynwyr.

14| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

3 Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Adroddiad y Prif Weithredwr

Golwg Gyffredinol

Un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder oedd GLlEM, ac roedd yn gyfrifol am reoli gweinyddiaeth y llysoedd drwy Gymru a Lloegr, ac eithrio'r Goruchaf Lys, o dan gytundeb partneriaeth yn 2008 rhwng yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus.

Fe’i crëwyd drwy uno Gwasanaeth y Llysoedd Ynadon a’r Gwasanaeth Llysoedd yn sgil Rhaglen Gweinyddu'r Llysoedd Unedig. Daeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2005, gan ddwyn ynghyd Wasanaeth y Llysoedd Ynadon a’r Gwasanaeth Llysoedd i greu un sefydliad.

O ran ei strwythur, rhannwyd yr Asiantaeth yn chwe rhanbarth daearyddol a Chymru, a'r Prif Weithredwr, gyda chymorth y tîm gweithredol, oedd yn atebol am y gwaith beunyddiol ac am ddarparu gwasanaethau drwy'r llysoedd.

Dynodwyd Prif Weithredwr GLlEM yn Swyddog Cyfrifyddu’r Asiantaeth gan Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Rhoddodd yr Arglwydd Ganghellor a'r Arglwydd Brif Ustus awenau a thrywydd cyffredinol yr Asiantaeth yn nwylo Bwrdd GLlEM. Mae rhagor o wybodaeth am strwythur llywodraethu’r Asiantaeth i’w gweld yn adran Adroddiad Blynyddol y ddogfen hon.

Ar 1 Ebrill 2011, unodd GLlEM â’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i ffurfio Asiantaeth Weithredol newydd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Partneriaeth yw’r Asiantaeth newydd rhwng yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd.

Adroddiad y Prif Weithredwr yw sylwebaeth y rheolwyr, yn unol â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2010-11 (FReM).

Bwrdd GLlEM

Yn ystod 2010-11, a hyd at 31 Mawrth 2011, roedd Bwrdd GLlEM yn gyfrifol am benderfynu ar strategaeth ac am sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni drwy gynllunio effeithiol. Dyma aelodau Bwrdd GLlEM fu’n gwasanaethau yn ystod y flwyddyn:

Sir Duncan Nichol CBE Cadeirydd (hyd at 31 Mawrth 2011)

Chris Mayer CBE Prif Weithredwr (hyd at 30 Medi 2010)

Peter Handcock CBE Cyfarwyddwr-Cyffredinol Mynediad at Gyfiawnder, Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder (hyd at 30 Medi 2010);Prif Weithredwr (1 Hydref 2010 - 31 Mawrth 2011)

Owen Mapley Cyfarwyddwr Cyllid (hyd at 30 Tachwedd 2010)

Steve Gillespie Cyfarwyddwr Cyllid (1 Rhagfyr 2010 - 31 Mawrth 2011)

Alan Eccles Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Aelod o’r Bwrdd tan 31 Mawrth 2011)

Clare Pillman Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Aelod o’r Bwrdd 1 Mehefin 2010 - 7 Mawrth 2011)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 15

Anita Bharucha Cyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Integreiddio’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd, Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder (rhwng 1 Hydref 2010 a 4 Chwefror 2011)

Jonathan Booth Cyfarwyddwr, Diwygio Cyfiawnder Troseddol, Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder (5 Chwefror - 31 Mawrth 2011)

Guy Beringer Cwnsler y Frenhines Cyfarwyddwr Anweithredol (hyd at 31 Mawrth 2011)

Kenneth Ludlam Cyfarwyddwr Anweithredol (hyd at 31 Mawrth 2011)

Arglwydd Ustus Goldring Aelod Barnwrol (hyd at 31 Mawrth 2011)

Ei Anrh.Barnwr William Kennedy Aelod Barnwrol (hyd at 31 Mawrth 2011)

Barnwr Rh'th Michael Walker CBE Aelod Barnwrol (hyd at 31 Mawrth 2011)

Cyfarfu Bwrdd GLlEM naw gwaith yn ystod y flwyddyn. Mae manylion y taliadau i aelodau Bwrdd GLlEM a fu'n gwasanaethu yn ystod 2010-11 i’w gweld yn yr adroddiad ynglŷn â Thaliadau.

Nid oedd gan yr un aelod o’r Bwrdd unrhyw gyfarwyddiaeth na buddiant sylweddol arall a oedd yn gwrthdaro â’i gyfrifoldebau fel aelod o Fwrdd GLlEM. Hyd y gŵyr y Swyddog Cyfrifyddu, nid oes dim gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohonynt. Mae’r Swyddog Cyfrifyddu wedi cymryd pob cam rhesymol i wneud ei hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod yr archwilwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.

Yn sgil uno GLlEM a’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, cynullwyd Bwrdd newydd ar 1 Ebrill 2011 gan ddisodli'r ddau fwrdd ar wahân a oedd gan GLlEM a’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd gynt.

Bwrdd Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

O 1 Ebrill 2011 ymlaen, Bwrdd Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM sy'n gyfrifol am bennu strategaeth yr Asiantaeth newydd ac am sicrhau ei bod yn cael ei gwireddu drwy gynllunio effeithiol. Dyma aelodau’r Bwrdd:

Robert Ayling Cadeirydd

Peter Handcock CBE Prif Weithredwr

Steve Gillespie Swyddog Cyllid ac Adnoddau

Shaun McNally CBE Cyfarwyddwr Troseddu

Kevin Sadler Cyfarwyddwr Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Francis Dobbyn Cyfarwyddwr Anweithredol

Alison White Cyfarwyddwr Anweithredol

Yr Arglwydd Ustus Carnwath CVO Aelod Barnwrol

Yr Arglwydd Ustus Goldring Aelod Barnwrol

Y Barnwr Rhanbarth Michael Walker CBE

Aelod Barnwrol

Pwyllgor Archwilio GLlEM

Pwyllgor cynghori oedd Pwyllgor Archwilio GLlEM ac nid oedd ganddo ddim pwerau gweithredol. Bu'r Pwyllgor yn gefn i'r Swyddog Cyfrifyddu wrth iddo gyflawni ei gyfrifoldebau am lywodraethu, rheoli risg, cadw trefn a chynnig sicrwydd - hyd at a chan

16| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

gynnwys dyddiad cymeradwyo'r adroddiad hwn gan y Swyddog Cyfrifyddu. Cafodd Aelodau’r Pwyllgor 1/12fed o'u cyflog Pwyllgor blynyddol am gyflawni'r swyddogaeth hon.

Cyfarfu Pwyllgor Archwilio GLlEM bum gwaith yn ystod y flwyddyn a bu’r archwilwyr allanol yn bresennol ym mhob cyfarfod. Bu Pennaeth Archwilio Mewnol y Weinyddiaeth Cyfiawnder, sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau archwilio mewnol ar gyfer GLlEM, yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn hefyd. Dyma Aelodau’r Pwyllgor Archwilio:

Kenneth Ludlam Aelod Anweithredol a Chadeirydd y Bwrdd

Guy Beringer Cwnsler y Frenhines Aelod Anweithredol o’r Bwrdd

John McGorrigan OBE, YH Aelod Anweithredol

Ray Palmer Aelod Anweithredol

Norman Kirby Aelod Anweithredol

Y Barnwr Rhanbarth Michael Walker CBE

Aelod Barnwrol o’r Bwrdd

Mae manylion y taliadau i aelodau’r Bwrdd a fu’n eistedd ar Bwyllgor Archwilio GLlEM i’w gweld yn yr adroddiad ynglŷn â Thaliadau, yn unol â gofynion datgelu’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol.

Nid oedd yr un aelod o’r Pwyllgor Archwilio nac yn gyfarwyddwr nac ychwaith â buddiant sylweddol arall a oedd yn gwrthdaro â’i gyfrifoldebau fel aelod o Bwyllgor Archwilio GLlEM.

Ar ôl dyddiad llofnodi’r adroddiad hwn, ffurfir Pwyllgor Archwilio newydd ar gyfer Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM i fod yn gefn parhaus i Swyddog Cyfrifyddu Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM wrth iddo gyflawni ei gyfrifoldebau.

Archwilydd

Archwilir y Cyfrifon, sy’n cynnwys y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad ynglŷn â Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a’r Datganiad Llif Arian gan Reolwr ac Archwilydd Cyffredinol y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Talwyd £0.4m i’r archwilydd am archwilio Cyfrifon GLlEM ar gyfer 2010-11 (2009-10: £0.4m). Ni thalwyd dim i’r archwilydd am waith nad oedd a wnelo ag archwilio yn ystod y flwyddyn (2009-10: £0.1m).

Pensiynau

Gellir gweld manylion ynglŷn â sut yr ymdrinnir â chostau a rhwymedigaethau yn nodyn 1 i’r Cyfrifon, a cheir rhagor o wybodaeth am bensiynau yn nodyn 7.1 ynglŷn â'r Cyfrifon ac yn yr adroddiad ynglŷn â Thaliadau.

Taliadau

Polisi GLlEM oedd talu i gyflenwyr yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog ym mis Mai 2010, sef y dylid talu i gyflenwyr o fewn 5 niwrnod ar ôl derbyn anfoneb ddilys yn y cyfeiriad bilio cywir.

Ar gyfer 2010-11, talwyd 82% o’r anfonebau yn unol â'r telerau hyn o’i gymharu â tharged 80% ar gyfer y llywodraeth drwyddi draw (2009-10: 95% o fewn 10 niwrnod ar ôl derbyn anfoneb o’i gymharu â’r targed ar y pryd, 90%).

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 17

Strwythur cyfalaf

Ecwiti trethdalwyr yn llwyr oedd asedau net GLlEM, a hynny'n cynnwys y Gronfa Gyffredinol a’r Cronfeydd Ailbrisio y manylir yn eu cylch yn y Datganiad ynglŷn â Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr.

Prif risgiau ac ansicrwydd i'r busnes

Roedd GLlEM yn wynebu heriau a risgiau wrth gyflawni ei amcanion busnes. Roedd a wnelo'r rhain â sicrhau bod GLlEM yn gallu parhau i gyflawni ei brif amcanion yn effeithiol yn ystod cyfnod o newid sylweddol yn y sefydliad. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys camau i leihau costau gweithredu’n unol â chyfyngiadau cyllido, penderfyniadau i resymoli ystâd y llysoedd drwy gyhoeddi cau nifer o lysoedd a oedd yn cael eu tanddefnyddio (mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nodyn 9.4 ynglŷn â'r Cyfrifon) a chamau i leihau nifer y gweithwyr drwy reoli gwastraff naturiol a chynnig dewis i’r staff wneud cais am Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol (mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nodyn 7.1 ynglŷn â'r Cyfrifon). Roedd strategaeth rheoli risg fanwl ar waith ar bob lefel o’r sefydliad er mwyn sicrhau bod risgiau sefydliadol yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Mae Asiantaeth newydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn wynebu risgiau ac ansicrwydd tebyg wrth iddi fwrw ymlaen â'i gwaith, yn enwedig yng nghyswllt y newid sefydliadol sy'n ofynnol er mwyn integreiddio gwaith y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Adnoddau a rhanddeiliaid

Cytunwyd ar drefniadau llywodraethu, ariannu a gweithredu GLlEM yn y Ddogfen Fframwaith a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2008. Roedd hon yn egluro telerau cytundeb rhwng yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus ynglŷn â'r bartneriaeth rhyngddynt. Roedd egwyddorion y cytundeb hwnnw’n llywodraethu’r berthynas rhwng GLlEM ar y naill law a’r Arglwydd Ganghellor a’r farnwriaeth ar y llall.

Noddwyd GLlEM gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder drwy ddirprwyo £738.7m (2009-10: £744.0m) a phleidleisiodd y Senedd ar hynny o dan y Ddeddf Priodoli berthnasol. Yn ogystal â’r arian hwn, enillodd GLlEM refeniw ffioedd am wasanaethau i ddefnyddwyr y llysoedd ac mae ganddo’r hawl i gadw elfen o’r dirwyon a gesglir. Mae rhagor o wybodaeth am y ffrydiau refeniw hyn i’w gweld yn nodyn 6 ynglŷn â'r Cyfrifon.

Mae’r Cyfrifon hyn wedi’u paratoi ar sail busnes byw gan fod gweithgareddau GLlEM yn parhau o dan Asiantaeth newydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM o 1 Ebrill 2011 ymlaen.

Bu'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn darparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer GLlEM er mwyn i GLlEM gynnal ei fusnes. Roedd y rhain yn cynnwys adnoddau dynol, technoleg gwybodaeth, cyllid corfforaethol, gwasanaethau cyfreithiol a chaffael. Roedd y cydwasanaeth cyllid corfforaethol yn cynnwys rheoli’r darparwr gwasanaeth cyllid ac adnoddau dynol allanol, Liberata. Mae gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder gontract gyda'r cwmni hwnnw. Roedd y cydberthnasau hyn yn cael eu llywodraethu drwy femoranda dealltwriaeth. Bu GLlEM yn darparu gwasanaethau gweinyddol ar gyfer y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn prosesu profion modd a chymorth cyfreithiol. Llywodraethwyd hwn drwy femorandwm dealltwriaeth ynghyd â thargedau cytundeb lefel gwasanaeth.

Ni allai GLlEM ddarparu data am lefelau absenoldeb salwch cyfartalog ei weithwyr ar gyfer 2010-11.

18| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Adolygiad gweithredol ac ariannol

Perfformiad ariannol cyffredinol

Costau net GLlEM ar gyfer 2010-11 oedd £1,164.7m (2009-10: £1,088.4m).

Cyfanswm y gwariant, gan gynnwys costau nad oeddent yn arian parod, oedd £1,772.6m (2009-10: £1,700.8m) ac o’r swm hwnnw, y gwariant ar fusnes sifil oedd £612.5m (2009-10: £619.0m)

Cyfanswm y costau (ac eithrio costau nad oeddent yn arian parod) oedd £1,443.6 ar gyfer y flwyddyn (2009-10: £1,510.2m), gostyngiad o £66.6m yn ystod 2010-11 yn sgil rhaglen gynilo drwy'r Asiantaeth er mwyn ymateb i gyfarwyddebau arbed y Llywodraeth.

O blith cyfanswm y costau (ac eithrio costau nad oeddent yn arian parod), cyfanswm costau staff a'r farnwriaeth oedd £844.8m ar gyfer y flwyddyn (2009-10: £846.1m), cyfanswm costau gweithredu eraill oedd £456.0m (2009-10: £506.5m) a'r dibrisiant oedd £101.2m (2009-10: £115.3m). Mae rhagor o wybodaeth am y tri phrif gategori costau hyn isod.

Costau staff a'r farnwriaeth

Roedd costau staff a'r farnwriaeth yn cynnwys £15.3m (2009-10: £dim) o gostau ymadael yn gynnar ar gyfer y staff hynny a ddewisodd wirfoddoli i ymadael yn gynnar o dan gynllun Ymadael yn Gynnar y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Cynigiwyd y cynllun hwn i weithwyr dethol GLlEM yn ystod y flwyddyn.

Talwyd y costau ymadael yn gynnar yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ym mis Rhagfyr 2010. Roedd y costau ymadael yn gynnar yn cynnwys taliadau yn lle rhybudd ac iawndal yn lle rhybudd, lle oedd hynny'n berthnasol. Yn unol â thelerau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, ni thalwyd dim symiau ex-gratia i unigolion a benderfynodd ymadael â'r gwasanaeth o dan y cynllun gwirfoddoli i adael yn gynnar.

Ac ystyried costau gadael yn gynnar, gwelwyd cyflogau wythnosol a misol staff GLlEM yn gostwng £16.6m yn ystod y flwyddyn, arbediad a sicrhawyd drwy drosiant naturiol. Gwelwyd gostyngiad cyfartalog o 853 yn nifer y staff sy'n cyfateb i staff amser llawn yn 2010-11 (4.7% o ostyngiad) o'i gymharu â 2009-10. Ni chafwyd dim diswyddiadau gorfodol yn ystod y flwyddyn.

Costau gweithredu eraill (ac eithrio costau nad oeddent yn arian parod)

Cyfanswm y costau gweithredu eraill oedd £456.0m (2009-10: £506.5m). Gwariwyd £206.7m o'r cyfanswm hwn (2009-10: £232.7m) ar lenwi a chynnal ystâd y llysoedd. Llwyddodd GLlEM i arbed £26.0m ar y categori gwariant hwn drwy gyfyngu ar wario ar waith nad oedd yn hanfodol. Gwariwyd cyfanswm o £42.8m (2009-10: £42.1m) ar gostau rheithwyr, categori gwariant sydd wedi aros yn gyson â'r gwariant yn y flwyddyn flaenorol. Gwariwyd £31.4m (2009-10: £35.4m) ar gyfathrebu a chyflenwadau swyddfa), gan arbed £4.0m. Gwireddwyd hyn drwy dargedu'r ymdrechion ar leihau costau gweinyddu. Gwariwyd cyfanswm o £38.6m (2009-10: £54.8m) ar gostau staff a chostau barnwrol eraill gan gynnwys teithio a chynhaliaeth. Llwyddwyd i sicrhau'r gostyngiad hwn drwy ymgyrch i leihau teithio.

Dibrisiant

Y dibrisiant ar gyfer y flwyddyn oedd £101.2m (2009-10: £115.3m). Roedd y gostyngiad hwn oherwydd y gostyngiad yng ngwerth ystâd y llysoedd drwyddi draw yn ystod 2009-10 sydd yn ei dro wedi gostwng cost dibrisiant ar gyfer 2010-11.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 19

Costau nad ydynt yn arian parod

Cyfanswm y costau nad ydynt yn arian parod ar gyfer y flwyddyn oedd £329.0m (2009-10: £190.6m). Roedd £178.0m o'r costau hynny'n gysylltiedig â chynnydd yng ngwerth darpariaethau (2009-10: £155.6m - gostyngiad), £127.8m yn gysylltiedig ag adhawlio o fewn adrannau (2009-10: £144.3m) a £63.7m (2009-10: £dim) oherwydd amhariad ar eiddo ac offer. Yn erbyn y costau hyn, gosodwyd cynnydd o £51.6 (2009-10: £192.0 - gostyngiad) yng ngwerth teg eiddo ac offer.

Roedd tri phrif reswm dros y newid yn y costau nad oeddent yn arian parod yn 2010-11 o'u cymharu â chostau 2009-10. Y prif reswm oedd cynnydd yn y darpariaethau ar gyfer y diffyg wrth drosglwyddo pensiynau, diffyg o £182.2m (gwelwyd gostyngiad o £183.6m yn y darpariaethau yn 2009-10). Mae gwybodaeth fanwl am y darpariaethau hyn yn nodyn 17.1 ynglŷn â'r Cyfrifon.

Yr ail reswm yw'r amhariad o £59.4m a gofnodwyd ar gyfer yr eiddo hynny a oedd yn cael eu tanddefnyddio ac a glustnodwyd i'w cau yn ystod y flwyddyn (esbonnir hyn yn fwy manwl isod). Gosodwyd cynnydd o £51.6m yng ngwerth teg eiddo ac offer ar gyfer y flwyddyn erbyn y ddau gynnydd hyn yn y costau (o'i gymharu â'r gostyngiad o £192.0m yn 2009-10). Adferiad yn y sector eiddo masnachol oedd yn gyfrifol am hyn ac ar hyn y seilir gwerth llawer o ystâd y llysoedd.

Incwm

Cyfanswm yr incwm gweithredu ar gyfer y flwyddyn oedd £607.9m (2009-10: £612.4m). Incwm ffioedd oedd hyn yn bennaf ar gyfer gwasanaethau a roddir i ddefnyddwyr y llysoedd sifil, sef £463.9m (2009-10: £479.2m). Gostyngiad yn foliwm yr hawliadau arian newydd oedd yn bennaf gyfrifol am y gostyngiad o £15.3m yn y ffioedd sifil ar gyfer y flwyddyn a hynny yn sgil y dirywiad economaidd a wnaeth i ddefnyddwyr y llysoedd ystyried defnyddio llwybrau eraill ar gyfer mynd ar drywydd dyledion.

Rhaid cytuno â Thrysorlys EM ynglŷn ag amcan ariannol ar gyfer pob gwasanaeth sy'n codi ffioedd; dangosir manylion adennill ffioedd gwirioneddol a'r targedau yn nodyn 4 ynglŷn â'r Cyfrifon.

Cyfanswm incwm dirwyon, lle'r oedd gan GLlEM yr hawl i gadw elfen o'r dirwyon a dderbyniwyd, oedd £103.6m ar gyfer y flwyddyn (2009-10: £94.8m). Ymdrech ddygn i wella gweithgareddau gorfodi dyledion oedd yn gyfrifol am y cynnydd yn ystod y flwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth am refeniw dirwyon i'w gweld yn nodyn 1 ynglŷn â'r Cyfrifon, ar dudalen 40, ac yn nodyn 6 ynglŷn â'r Cyfrifon.

Cyfalaf

Buddsoddodd GLlEM £139.8m mewn asedau cyfalaf diriaethol yn ystod y flwyddyn (2009-10: £127.9m). O'r swm hwn, gwariwyd £58.3m ar wella llysoedd, £13.8 ar welliannau datblygu cynaliadwy a £4.4m ar ofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Rhai o'r prosiectau cyfalaf mawr y gwariwyd arnynt yn ystod y flwyddyn oedd £20.1m ar brosiect Llys Ynadon Westminster, £11.8, ar Lysoedd Ynadon Chelmsford a Colchester a £7.1m ar Lys y Goron yn Woolwich.

Cyhoeddodd Gweinidogion gynlluniau i gau 163 o lysoedd a oedd yn cael eu tanddefnyddio fel rhan o gynllun i resymoli'r ffordd y defnyddir ystâd y llysoedd. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nodyn 9.4 ynglŷn â'r Cyfrifon. Yn ystod y flwyddyn, aeth GLlEM ati i werthu wyth o'r eiddo hyn.

20| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Buddsoddwyd cyfanswm o £8.9m mewn asedau cyfalaf anniriaethol (2009-10: £22.3m).

Lle'r oedd gofyn, ailddatganwyd ffigurau cymharol ar gyfer 2009-10 er mwyn dangos newidiadau mewn polisïau cyfrifyddu, fel y'u dangosir ar dudalennau 48-49.

Creu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Unwyd GLlEM a'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd ar 1 Ebrill 2011 i greu Asiantaeth newydd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Partneriaeth yw'r Asiantaeth newydd rhwng yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd ac mae'n gyfrifol am weinyddu'r llysoedd troseddol, sifil a theulu a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, a'r tribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Peter Handcock CBE Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

27 Mehefin 2011

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 21

Datganiad ynglŷn â chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

O dan adran 7(2) o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, Mae Trysorlys EM wedi cyfarwyddo Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) i baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol (y Cyfrifon) ar y ffurf ac ar y sail a bennir yn y Cyfarwyddyd ynglŷn â Chyfrifon a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM ar 22 Rhagfyr 2010. Paratoir y Cyfrifon ar sail gronnus a rhaid iddynt roi golwg wir a theg ar gyflwr ariannol yr Asiantaeth a’i hincwm a’i wariant, yr enillion a'r colledion a gydnabyddir a’r llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Dynodwyd Prif Weithredwr GLlEM yn Swyddog Cyfrifyddu’r Asiantaeth gan Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Cyfiawnder

Wrth baratoi Cyfrifon GLlEM, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio a gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:

Cadw at y Cyfarwyddyd ynglŷn â Chyfrifon a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM, gan gynnwys y gofynion perthnasol ynglŷn â chyfrifyddu a datgelu, gan roi polisïau cyfrifyddu addas ar waith, a hynny'n gyson;

Llunio barn ac amcangyfrifon ar sail resymol;

Dweud a ddilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol yn unol â chyfarwyddiadau Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan ddatgelu ac esbonio unrhyw enghreifftiau perthnasol lle y gwyrir oddi wrth y safonau hyn yn y Cyfrifon;

Paratoi’r Cyfrifon ar sail busnes byw;

Sicrhau, hyd y gŵyr y Swyddog Cyfrifyddu, nad oes dim gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr yr endid yn ymwybodol ohoni. Mae’r Swyddog Cyfrifyddu wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod archwilwyr GLlEM yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.

Rhestrir cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu’n atebol amdanynt, cyfrifoldeb am gadw cofnodion priodol, ac am ddiogelu asedau GLlEM a pharatoi Cyfrifon GLlEM, ym Memorandwm y Swyddogion Cyfrifyddu a gynhyrchwyd gan Drysorlys EM ac a gyhoeddwyd yn 'Managing Public Money'.

Peter Handcock CBE Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

27 Mehefin 2011

22| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Datganiad ynglŷn â Systemau Cadw Trefn Mewnol GLlEM 2010-11

Cwmpas cyfrifoldeb

Gan mai fi oedd Swyddog Cyfrifyddu GLlEM, roeddwn yn gyfrifol am gynnal system cadw trefn fewnol gadarn a oedd yn cynorthwyo GLlEM i wireddu ei bolisïau, ei nodau a’i amcanion, gan ddiogelu ar yr un pryd yr arian a’r asedau cyhoeddus yr oeddwn yn bersonol gyfrifol amdanynt, yn unol â'm cyfrifoldebau yn ôl 'Managing Public Money'.

Fe’m penodwyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu GLlEM ar 1 Hydref 2010, ar ôl i Chris Mayer CBE ymadael â'r swydd ar 30 Medi 2010. Ar ôl cwblhau proses trosglwyddo fanwl a ffurfiol cyn dechrau ar fy swydd ar 1 Hydref 2010, rwy’n hyderus bod pob sicrwydd y manylir yn ei gylch yn y datganiad hwn ar waith cyn y dyddiad hwnnw.

Ar 1 Ebrill 2011, unodd GLlEM â’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i ffurfio Asiantaeth newydd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM a fi yw Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r corff hwn. Felly , daeth GLlEM i ben fel Asiantaeth annibynnol ar 31 Mawrth 2011. Serch hynny, parhawyd â'r trefniadau cadw trefn a ddisgrifir yn y datganiad hwn yn ystod yr uno.

A minnau’n Brif Weithredwr GLlEM, roeddwn yn gyfrifol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a hefyd i’r Arglwydd Brif Ustus am redeg, rheoli, perfformiad a datblygu GLlEM. A minnau'n Swyddog Cyfrifyddu GLlEM, roeddwn yn atebol i Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Cefais gymorth gan Fwrdd GLlEM, a oedd yn cynnwys Cadeirydd annibynnol, aelodau anweithredol a gweithredol, ac aelodau o’r farnwriaeth. Roedd Bwrdd GLlEM yn gyfrifol am arwain yr Asiantaeth ac am ei thrywydd cyffredinol. Roeddwn yn gyfrifol am waith beunyddiol GLlEM ac am arwain ei staff. Bûm yn gweithio o dan gyfarwyddyd cyffredinol y Bwrdd ac yn unol â dogfen fframwaith yr Asiantaeth. Bûm yn ymwneud yn rheolaidd â’r Ysgrifennydd Parhaol ac â’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i sicrhau bod sylw llawn yn cael ei roi i flaenoriaethau'r Gweinidog. Bu gennyf berthynas waith agos hefyd â’r Uwch Farnwr Llywyddol a oedd yn gweithredu ar ran yr Arglwydd Brif Ustus a chydag uwch gydweithwyr yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder a’i chyrff cyflawni.

Pwrpas y system cadw trefn fewnol

Bwriad y system cadw trefn fewnol yw rheoli risg ar lefel resymol yn hytrach na dileu pob risg o fethu, a hynny er mwyn gwireddu polisiau, nodau ac amcanion. Felly, ni all sicrhau effeithiolrwydd llwyr, dim ond effeithiolrwydd rhesymol. Seilir y system cadw trefn fewnol ar broses barhaus a bwriedir iddi ganfod a blaenoriaethu’r risgiau a allai atal yr adran a'r Asiantaeth rhag gwireddu eu polisiau, eu nodau a'u hamcanion, gwerthuso pa mor debygol yw hi y gwireddir y risgiau a beth fyddai effaith hynny, a’u rheoli mewn ffordd effeithlon, effeithiol a darbodus. Mae’r system cadw trefn fewnol wedi bod ar waith ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol, yn unol â chanllawiau’r Trysorlys.

Gallu i ymdrin â risg

Rwy’n cydnabod fy nghyfrifoldeb cyffredinol am reoli risg yn effeithiol drwy bob rhan o GLlEM. Gallaf gadarnhau i’r broses rheoli risg gael ei harwain gan Gyfarwyddwyr GLlEM a bod y staff wedi'u hyfforddi neu wedi'u harfogi i reoli risg mewn ffordd a oedd yn briodol ac ystyried eu hawdurdod a'u dyletswyddau. A minnau'n Brif Weithredwr, bûm yn arwain gwaith rheoli risg yn GLlEM ac yn gefn imi yn hyn o beth yn ystod 2010-11, roedd strwythur rheoli a oedd yn cynnwys:

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 23

Bwrdd GLlEM a oedd yn gyffredinol gyfrifol am lywodraethu corfforaethol o fewn GLlEM ac a gyfarfu'n rheolaidd drwy'r flwyddyn;

Pwyllgor Rheoli Risg GLlEM, a gadeirid gan Gyfarwyddwr Cyllid GLlEM. Dirprwyodd Bwrdd Cyfarwyddwyr GLlEM y prif gyfrifoldeb i'r Cyfarwyddwr Cyllid am reoli a goruchwylio risgiau strategol o fewn y sefydliad. Cyfarfu o leiaf bob deufis i arolygu ac ystyried y gofrestr risg gorfforaethol a gweld a oedd unrhyw fygythiadau newydd i amcanion GLlEM. Neilltuodd y Pwyllgor Rheoli Risg berchnogaeth ar bob risg ar lefel Cyfarwyddwr, yn sylfaen er mwyn cytuno ar ddulliau lliniaru a rheoli priodol;

Pwyllgor Archwilio GLlEM, a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth annibynnol gan bum aelod anweithredol ac un aelod barnwrol, a’u prif gyfrifoldeb hwy oedd bod yn gefn i’r Swyddogion Cyfrifyddu wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau am lywodraethu, rheoli risg, cadw trefn a sicrwydd;

Saith Pwyllgor Risg ac Archwilio Rhanbarthol a’u prif gyfrifoldebau hwy oedd bod yn gefn i’r Swyddogion Cyfrifyddu ac i Bwyllgor Archwilio GLlEM wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau yn rhanbarthau GLlEM. Ar ôl adolygu eu swyddogaethau, penderfynwyd diddymu'r pwyllgorau hyn o fis Tachwedd 2010 ymlaen a throsglwyddo’r cyfrifoldeb am reoli risg yn ôl i’r uwch reolwyr gweithredol yn y rhanbarthau. Rhoddwyd y trefniadau ar gyfer paratoi adroddiadau ynglŷn â risgiau a phroblemau ar waith drwy fframwaith adroddiadau mewnol safonol a oedd yn cynnwys defnyddio cofrestrau risg rhanbarthol. Byddai'r rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan uwch reolwyr rhanbarthol ac yn cael eu dyrchafu drwy'r system fel yr oedd yn briodol i'r fforymau perthnasol, megis pwyllgor Archwilio GLlEM, er mwyn iddynt hwythau gymryd camau pellach;

Fforwm Diogelwch Gwybodaeth GLlEM a gadeirid gan Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth ac a oedd yn cynnwys uwch staff gweithredol, barnwrol a chorfforaethol. Cyfarfu’r fforwm bob chwarter i adolygu ac asesu sut y rheolid y risg i wybodaeth o fewn GLlEM;

Rhwydwaith o swyddogion llywodraethu yng nghyfarwyddiaethau a rhanbarthau’r Asiantaeth i gydlynu gwaith adnabod risgiau mewnol ac allanol a phroblemau cadw trefn, gan baratoi adroddiadau ynglŷn â'r rheini a rhannu'r arferion gorau;

Bwrdd Newid GLlEM a gyfarfu’n rheolaidd drwy’r flwyddyn i gydlynu'r prif gynlluniau ar gyfer newid sefydliadol;

Pwyllgor Iechyd a Diogelwch GLlEM dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Perfformiad a Gweithrediadau (neu ei gynrychiolydd) ac a gyfarfu bob chwarter i ystyried risgiau a phroblemau iechyd a diogelwch a wynebai'r busnes.

Uno GLlEM a’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd

Fel y nodir uchod, ar 1 Ebrill 2011, unodd GLlEM â’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i greu Asiantaeth Weithredol newydd, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Ymgymerwyd â’r gweithgareddau uno drwy gyfrwng Rhaglen Integreiddio’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (y Rhaglen Integreiddio). Prif nodau’r rhaglen oedd sicrhau un strwythur gweinyddol, creu system cyfiawnder gyfun a chytuno â'r farnwriaeth ynglŷn â Dogfen Fframwaith newydd. Bwrdd y Rhaglen Integreiddio oedd yn gyfrifol am reoli’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â’r uno.

Y fframwaith risg a chadw trefn

Roedd fframwaith risg a chadw trefn ar waith drwy gydol y flwyddyn er mwyn adnabod, monitro, rheoli a pharatoi adroddiadau ynglŷn â’r risgiau neu’r bygythiadau a allai ddylanwadu ar wireddu amcanion yr Asiantaeth. Dyma’r prif nodweddion, yn ogystal â’r rheini a restrwyd eisoes yn y datganiad hwn:

24| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Polisi a fframwaith rheoli risg sy’n gyson â'r rheini sydd ar waith drwy’r Weinyddiaeth Cyfiawnder ehangach. Roedd y polisi’n pennu prosesau ffurfiol ar gyfer gweld risgiau, eu gwerthuso, eu rheoli a pharatoi adroddiadau yn eu cylch. Gwelwyd risgiau a allai fygwth cyflawni amcanion yr Asiantaeth a’u dadansoddi o ran eu heffaith ac o ran pa mor debygol oedd hi y gwireddid y risgiau hynny. Cyflwynwyd adroddiadau rheolaidd yn eu cylch ar lefel y Gorfforaeth, y Gyfarwyddiaeth, y Rhanbarth a'r Ardal.

Fframwaith asesu rheoli risg, dan gyfarwyddyd a rheolaeth tîm Llywodraethu Corfforaethol GLlEM, i asesu datblygu trefniadau rheoli risg fel disgyblaeth;

Proses a sicrhaodd fod risgiau GLlEM yn cael eu cyfleu i’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, fel yr oedd hynny’n briodol;

Neilltuo rolau penodol, gan gynnwys rôl Perchnogion Asedau Gwybodaeth a swyddog penodol i Reoli Risgiau Gwybodaeth yn GLlEM er mwyn gallu asesu a rheoli risgiau gwybodaeth yn effeithiol.

A hithau’n Asiantaeth weithredol, roedd gan GLlEM system fewnol ar waith drwy'r sefydliad i gadw trefn er mwyn hwyluso rheoli risg yn unol â gofynion Trysorlys EM. Roedd system cadw trefn fewnol GLlEM yn cynnwys strwythurau llywodraethu sefydledig yn gefn i’r fframwaith rheoli risg; ac ystod o brosesau cadw trefn mewnol i roi sicrwydd ariannol a gweithredol i’r rheolwyr, gan gynnwys:

Rhaglen Archwilio Mewnol effeithiol:

Darparu ac adolygu gwybodaeth rheoli’n rheolaidd, gan gynnwys adolygiadau rheolaidd gan reolwyr ar adroddiadau ariannol a gweithredol a oedd yn cymharu'r perfformiad â'r rhagamcanion;

Gweithdrefnau ariannol a gweinyddol gan gynnwys dirprwyo awdurdod ariannol a gwahanu dyletswyddau yng nghyswllt prosesau ariannol allweddol;

Cymeradwyaeth ffurfiol gan y Bwrdd i gynlluniau busnes cyfarwyddiaethau a’u hadolygu’n rheolaidd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr drwy gymharu'r cynlluniau hynny â'r perfformiad;

Rhaglen Sicrwydd GLlEM, sef, set o brosesau ac arfau i reolwyr gweithredol allu mesur ac asesu sicrwydd yng nghyswllt prosesau a dulliau cadw trefn allweddol o fewn eu cylch gorchwyl;

Prosesau'n ymwneud â risgiau a sicrwydd ym maes iechyd, diogelwch a gwarchodaeth, sydd wedi cael eu gorfodi’n gadarn a’u monitro’n barhaus. Oherwydd y newidiadau strwythurol mawr drwy bob rhan o'r sefydliad, ni fu modd cynnal rhaglen archwiliadau gwarchodaeth a diogelwch parhaus ar draws cangen weithredol y sefydliad. Serch hynny, cynhaliwyd hunanasesiadau ar sail meini prawf a bennwyd ar gyfer risgiau sy’n awgrymu bod dulliau cadw trefn ar waith yn gyffredinol a bod y rhan fwyaf o’r gofynion yn cael eu cyflawni o ran perfformiad. Mae angen gwella trefniadau adroddiadau ynglŷn â diogelwch rhag tân ac mae gwaith ar y gweill i barhau i wella’r cydymffurfio a’r canllawiau perthnasol;

Amgylchedd lle’r oedd y rheolwyr a’r staff allweddol ill dau’n gweld rheoli risg yn gyfle rhagweithiol i reoli'r risgiau a oedd yn bygwth amcanion yr Asiantaeth;

Cyfres o bolisïau rheoli risgiau twyll gyda’r nod o atal a chanfod gweithgarwch twyllodrus;

Rhaglen hyfforddi benodol ynglŷn â sicrwydd gwybodaeth;

Proses lle’r adolygwyd gweithdrefnau gweithredu safonol LEAN cyn eu rhoi ar waith drwy’r sefydliad.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 25

Roedd GLlEM fel Asiantaeth yn dibynnu hefyd ar y Weinyddiaeth Cyfiawnder er mwyn cynnal ei system cadw trefn fewnol. Roedd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn darparu nifer o wasanaethau ar gyfer yr Asiantaeth, gan gynnwys gwasanaethau Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Chaffael. Cafwyd sicrwydd ynglŷn â chadernid y system cadw trefn fewnol yng nghyswllt y gwasanaethau hyn drwy ddatganiadau sicrwydd gan ddarparwyr cydwasanaethau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder a thrwy ddulliau eraill. Yn ogystal â hynny, roedd Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol a Thechnoleg Gwybodaeth y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn aelodau o Fwrdd Cyfarwyddwyr GLlEM ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y risgiau a’r problemau a godai yn eu meysydd hwy eu hunain. Roedd Cyfarwyddwr Cyllid GLlEM yn aelod o Bwyllgor Caffael y Weinyddiaeth Cyfiawnder a oedd yn goruchwylio gweithgarwch caffael ar lefel weithredol yn y Weinyddiaeth Cyfiawnder drwyddi draw.

Dewiswyd ardal o fewn fframwaith GLlEM er mwyn adolygu'r system a oedd ar waith i ad-dalu treuliau a cholledion ariannol i ynadon. Daeth yn amlwg eleni y gallai'r prosesau a'r dulliau cadw trefn a oedd ar waith fod yn ddiffygiol a thynnwyd sylw at nifer o anghysonderau wrth weinyddu’r broses. Mae GLlEM eisoes wedi gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â sut y gellid gwella’r system cadw trefn yn y maes hwn ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu polisi symlach a chadarnach i weinyddu’r system.

Datganiad ynglŷn â Materion Cadw Trefn Mewnol 2009-10

Roedd y datganiad ynglŷn â Materion Cadw Trefn mewnol 2009-10 yn rhestru chwe pheth o bwys yn y cyswllt hwn. Mae dau o’r rheini’n dal i gael eu datgelu yn yr adroddiad hwn a rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf amdanynt yn rhan olaf y datganiad hwn. O ran y pedwar arall:

Trefniadau casglu incwm ffioedd achosion teulu

Sefydlwyd gwell gweithdrefnau a dulliau cadw trefn yn ystod y flwyddyn er mwyn mynd i’r afael â hyn ac nid yw’n cael ei ystyried yn broblem ddifrifol rhagor. Mae’r trefniadau’n dal i gael eu monitro er mwyn sicrhau nad yw’r peth yn codi eto.

Rhwymedigaethau treth

Cymerwyd camau lliniaru gyda golwg ar rwymedigaethau treth ac felly, ni thybir ei fod yn broblem ddifrifol rhagor.

Caffael ystadau

Mae camau cyfreithiol ar y gweill o hyd yng nghyswllt hwn ac fe allai son rhagor am y peth ragfarnu’r camau hynny. Cyflwynwyd gwelliannau priodol i brosesau cadw trefn mewnol ac ystyrir bod y mater hwn wedi’i gau bellach.

Trosglwyddo data trydydd parti

Rhoddwyd dulliau cadw trefn cymesur newydd a gwell prosesau ar waith er mwyn hwyluso trosglwyddo data swmpus mewn ffordd ddiogel. Mae’r prosesau hyn yn dal i gael eu monitro’n rheolaidd i sicrhau bod data’n cael eu diogelu’n ddigonol.

Adolygu effeithiolrwydd

A minnau’n Swyddog Cyfrifyddu, roeddwn yn gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system cadw trefn fewnol. Ategwyd gwaith adolygu effeithiolrwydd y system cadw trefn fewnol gan waith yr Is-adran Archwilio Mewnol a rheolwyr gweithredol yr Asiantaeth a oedd yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith hwnnw, ynghyd â sylwadau’r archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill. Cefais fy nghynghori ynglŷn â goblygiadau canlyniad fy adolygiad o effeithiolrwydd y system cadw trefn fewnol gan

26| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Fwrdd GLlEM, Pwyllgor Archwilio GLlEM a'r Pwyllgor Rheoli Risg. Lle bo gofyn, rhoddwyd cynllun ar waith i roi sylw i wendidau ac i sicrhau bod y system yn gwella’n barhaus.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i Fwrdd GLlEM ac i Fwrdd y Cyfarwyddwyr ynglŷn â phroffil risg GLlEM ac effeithiolrwydd y systemau cadw trefn mewnol drwy gyfrwng cofnodion Pwyllgor Archwilio GLlEM, y Pwyllgor Rheoli Risg a hefyd drwy adolygu adroddiadau perfformiad GLlEM. At hynny, sefydlwyd proses ffurfiol yn ystod y flwyddyn i roi crynodeb i Fwrdd GLlEM am y prif risgiau a oedd yn effeithio ar y sefydliad bob mis.

Cefais ddatganiadau chwarterol gan fy Nghyfarwyddwyr ynglŷn â'r system chadw trefn fewnol, ac roedd y rheini'n cynnwys materion a godwyd gan dimau'r cyfarwyddiaethau a'r timau rheoli rhanbarthol, gan drosglwyddo'r rheini wedyn i sylw'r uwch dimau rheoli iddynt eu hadolygu. Roedd y datganiadau hyn yn cynnwys cyflwyno adroddiadau am ffynonellau sicrwydd ar gyfer systemau cadw trefn mewnol ac yn ei dro, roedd hyn yn cynnig sicrwydd bod rheolwyr yn cydymffurfio â pholisïau gweithredol, â gweithdrefnau ac â'r dulliau cadw trefn a sefydlwyd. Lledaenwyd Rhaglen Sicrwydd GLlEM drwy'r sefydliad (ac eithrio ambell boced fechan arbennig o’r busnes). Roedd hon yn darparu ar gyfer cyflwyno adroddiadau ynglŷn â materion cydymffurfio ar y lefel weithredol. Mae’r staff wedi’u hyfforddi i ddefnyddio dulliau mesur sicrwydd ac arfau adrodd ac mae hyn bellach yn dwyn ffrwyth sylweddol wrth dynnu sylw rheolwr at broblemau ar y lefel weithredol y mae angen eu cywiro.

Bu Pwyllgor Archwilio GLlEM yn goruchwylio pa mor ddigonol ac effeithiol oedd prosesau rheoli risg a system cadw trefn fewnol GLlEM yn unol â'i gylch gorchwyl. Adolygwyd y gweithgarwch a gynlluniwyd a chanlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol gan y Pwyllgor a chafwyd diweddariadau rheolaidd gan y tîm Llywodraethu Corfforaethol ynglŷn ag ymateb y rheolwyr i’r materion a nodwyd. Adolygwyd y cofrestrau risg corfforaethol ganddo'n rheolaidd a bu'n goruchwylio paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Asiantaeth. Roedd gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio GLlEM lwybr rhydd a chyfrinachol (heb orfod ymwneud â rheolwyr) at Gadeirydd Pwyllgor Archwilio'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, yr Is-adran Archwilio Mewnol ac archwilwyr allanol yn ôl y gofyn.

Darparodd Isadran Archwilio Mewnol y Weinyddiaeth Cyfiawnder raglen gynhwysfawr o archwiliadau mewnol ar draws gweithgareddau GLlEM, gan weithredu’n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Llywodraeth. Cyflwynodd adroddiadau rheolaidd i Bwyllgor Archwilio GLlEM ac i Fwrdd GLlEM, gan gynnwys barn annibynnol y Pennaeth Archwilio Mewnol ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd llywodraethu'r Asiantaeth, ei system ar gyfer cadw trefn a rheoli risg ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwella. Yn sgil gwaith yr Is-adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2010-11, dyfarnwyd gradd Gwyrdd/Oren i'r Asiantaeth ac roedd hyn yn dangos bod trefniadau llywodraethu, rheoli risg a chadw trefn wedi’u sefydlu ond nad oeddent yn gweithredu’n effeithiol neu nad oeddent yn cael eu rhoi ar waith yn gyson. Roedd y radd hon yr un fath â’r radd a roddwyd ym mlwyddyn ariannol 2009-10 ac mae’n dangos bod yr Asiantaeth wedi cynnal yr un lefel o reolaeth er gwaetha’r newidiadau sylweddol a roddwyd ar waith.

Elfennau eraill o’r system cadw trefn fewnol a fu’n sail i’m hadolygiad ar effeithiolrwydd y system oedd:

Y Gweithgor Sicrwydd a sicrhaodd bod gan y sefydliad drefniadau effeithiol ar waith er mwyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gael sicrwydd ar y lefel weithredol. Mae’r Gweithgor Sicrwydd wedi parhau i gefnogi, monitro a datblygu rhagor ar Raglen Sicrwydd GLlEM eleni. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu fframwaith sicrwydd diwygiedig, cymesur, sy’n gweddu orau i anghenion sefydliad newydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 27

Fforwm Ymarferwyr Parhad y Busnes (ar lefel y Weinyddiaeth Cyfiawnder) i oruchwylio rheoli cynlluniau ar gyfer parhad y busnes sydd ar waith ledled y sefydliad. Yn ystod 2010-11, cynhaliodd GLlEM ‘brawf cysyniad’ ar y trefniadau ar gyfer parhad y busnes yn y safle adfer sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer Canolfan Swmp y Llys Sirol, sef un o ganolfannau prosesu swmp GLlEM. Ni fu'n bosibl cynnal prawf llawn ar y trefniadau oherwydd y byddai hyn yn cael cymaint o effaith ar weithgareddau busnes arferol. Roedd y prawf cyfyngedig yn llwyddiannus ond mi dynnodd sylw at nifer o faterion sydd naill ai wedi cael eu datrys erbyn hyn neu fod trafodaethau ar y gweill â chyflenwyr er mwyn eu datrys. Felly, o fewn cwmpas cyfyng y prawf, mae GLlEM wedi lleihau’r risg y gallai'r ganolfan golli gweithrediadau yn y dyfodol. Cynhelir prawf arall yn ystod 2011-12;

Datganiadau sicrwydd ynglŷn â chydwasanaethau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder;

Adroddiadau’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol – parhaodd GLlEM i wneud cynnydd o ran rhoi argymhellion adroddiadau'r Swyddfa a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar waith ynglŷn â Gweinyddiaeth a Gwerth am Arian Llys y Goron. Cyfyngiadau ariannol ar wario ar TG sy'n gyfrifol am fwyafrif y camau gweithredu hynny sydd heb eu cyflawni. Mae trefniadau amgen i fynd i’r afael â’r gwendidau mewn ffordd ratach wrthi’n cael eu harchwilio. Mae GLlEM hefyd wedi cefnogi’r Weinyddiaeth Cyfiawnder ehangach o ran y camau y mae angen eu cymryd yn ôl Adroddiad Rheoli Ariannol y Weinyddiaeth Cyfiawnder;

Adroddiad Blynyddol Trysorlys EM ynglŷn â Thwyll a gwaith y tîm Twyll ac Ymchwiliadau GLlEM;

Tîm Cymorth Sicrwydd Llysoedd GLlEM a gynhaliodd raglen ffurfiol o adolygiadau ar draws cangen weithrediadol y sefydliad, gan ddarparu cymorth, canllawiau ac argymhellion ar gyfer rheolwyr llysoedd a Chyfarwyddwyr Ardal ynglŷn â gwella'r ffordd o roi'r fframwaith sicrwydd ar waith bob dydd;

Adolygiadau sicrwydd ac ansawdd ar bortffolio’r rhaglenni, y prosiectau a'r cynlluniau newid, gan Fwrdd Newid GLlEM;

Polisi chwythu chwiban drwy drefniadau cydwasanaethau ar lefel y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Roedd datganiad y llynedd yn dangos nad oedd y trefniadau hyn yn effeithiol ar gyfer yr Asiantaeth.

Mae polisi newydd wedi’i ddatblygu ers hynny a rhoddir hwnnw ar waith yn Asiantaeth newydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM o fis Mehefin 2011 ymlaen

Bob blwyddyn, cynhelir asesiad risg gwybodaeth gan yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth ac fe’i hadolygir wedyn gan y Fforwm Diogelwch Gwybodaeth a Phwyllgor Archwilio GLlEM gan nodi’r risgiau a chamau i'w lliniaru. Roedd GLlEM o ddifrif ynglŷn â diogelwch gwybodaeth a lle’r oedd unrhyw golledion yn digwydd, roedd proses adrodd lawn ar waith. Lle’r oedd hynny’n briodol, cwblhawyd adroddiad i Weinidogion. Monitrwyd y tueddiadau’n drwyadl hefyd er mwyn sylwi ar unrhyw faterion a oedd yn codi.

Yn ystod eleni, mae GLlEM wedi rheoli nifer o fân ddigwyddiadau colli data ac ymdriniwyd â'r rhain gan baratoi adroddiad yn eu cylch yn unol â'r broses sydd wedi'i sefydlu a'r gweithdrefnau adrodd. Mae nifer y colledion yr adroddwyd yn eu cylch wedi cynyddu eleni a phriodolir hynny'n bennaf i well trefniadau adrodd gan ddangos bod rhai digwyddiadau a oedd heb eu cofnodi yn y gorffennol. Cymerwyd camau i liniaru effaith y digwyddiadau hyn, gan gynnwys, lle bo hynny’n briodol, cysylltiad â thrydydd partïon er mwyn ceisio gwella'u systemau a’u prosesau.

Cafodd y Comisiynydd Gwybodaeth dri chwyn. Roedd dau o'r rhain yn ymwneud â materion eithaf mân ac ymdriniwyd â hwy yn unol â’r polisiau Sicrwydd Gwybodaeth.

28| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Mae’r trydydd, er ei fod o bosibl yn bwysicach, wedi cael ei archwilio gan y Comisiynydd Gwybodaeth sydd wedi penderfynu na chymerir camau pellach oherwydd bod camau gwneud iawn wedi’u cymryd eisoes gan y sefydliad er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.

Bu GLlEM yn gweithio hefyd gydag aelodau’r farnwriaeth i liniaru'r risg o golli unrhyw ddata o fewn eu cylch gorchwyl. Mae nifer o golledion wedi digwydd eleni ac ystyrir bod tri o’r digwyddiadau hynny’n rhai o bwys. Archwilir y materion hyn yn annibynnol a chyflwyno adroddiad yn eu cylch drwy broses farnwrol ar wahân sydd y tu hwnt i gylch gorchwyl GLlEM.

Materion cadw trefn mewnol sylweddol

Tynnwyd sylw at y materion rheoli sylweddol a ganlyn yn ystod 2010-11:

Risgiau a materion diogelwch technegol

Achredir systemau allweddol sydd ym mherchnogaeth GLlEM gan Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth Cyfathrebu a Thechnoleg y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys systemau busnes allweddol a’r seilwaith a ddefnyddir i fynd i mewn i lawer o systemau.

Yn ystod y broses achredu a’r asesiadau risg, nodwyd nifer o nodweddion bregus a gwan, gan gynnwys monitro annigonol ar y system a rheoli annigonol ar ddrygwedd. Fe all materion o’r fath olygu bod y system yn fwy agored i fygythiadau. Mae Cyfadran Cyfathrebu a Thechnoleg y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn dal i weithio gyda pherchnogion y system, cyflenwyr a pherchnogion asedau gwybodaeth, i ganfod, pwyso a mesur a cheisio lliniaru nodweddion bregus fel hyn drwy wella prosesau, rhoi gwrthgamau technegol newydd ar waith neu drwy wella'r dulliau cadw trefn technegol a ddefnyddir ar hyn o bryd.

Ymchwiliadau parhaus

Roedd gan GLlEM swyddogion penodol i reoli twyll a digwyddiadau afreolaidd ac i ymchwilio iddynt. Cymharol ychydig oedd cyfanswm y rhain ar draws y sefydliad ond mae nifer fach o achosion y tybir eu bod yn fwy pwysig yr ymchwilir iddynt o hyd ar y cyd â’r heddlu, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau yr adroddwyd yn eu cylch yn y Datganiad Cadw Trefn Mewnol mewn blynyddoedd cynt lle mae'r ymchwiliadau’n parhau. Serch hynny, ni ellir datgelu rhagor o wybodaeth oherwydd fe allai hynny ragfarnu’r ymchwiliadau hyn.

Rwy’n hyderus bod y ddau fater cadw trefn uchod wedi cael eu hadolygu'n drwyadl a bod cynlluniau gweithredu cynhwysfawr ar waith i fynd i’r afael â’r gwendidau a welwyd.

Peter Handcock CBE Prif Weithredwr a Swyddfa Cyfrifyddu

27 Mehefin 2011

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 29

Adroddiad ynglŷn â Thaliadau

Mae’r tablau yn yr Adroddiad ynglŷn â Thaliadau hwn wedi cael eu harchwilio a chyfeirir atynt yn Nhystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i Dŷ'r Cyffredin.

Adroddiad ynglŷn â Thaliadau i aelodau’r Bwrdd

Y Prif Weinidog sy’n pennu polisi taliadau i uwch weision sifil ar ol cael cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch. Pennwyd cyflogau aelodau Bwrdd GLlEM gan Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn unol â rheolau Cod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil.

Dangosir manylion taliadau i aelodau Bwrdd GLlEM a fu’n gwasanaethu yn ystod 2010-11 isod:

2010-11 2009-10

Enw Rôl aelod y Bwrdd

Cyflog(ac eithrio

cyfraniadau pensiwn)

£000

Cyfateb i gyflog

blwyddyn lawn

(ac eithrio cyfraniadau

pensiwn)£000

Bonysau £000

Cyflog (ac eithrio

cyfraniadau pensiwn)

£000 Bonysau

£000

Sir Duncan Nichol CBE

Cadeirydd (hyd at 31 Mawrth 2011) 45 – 50 45 – 50 Dim 95 – 100 Dim

Chris Mayer CBE Prif Weithredwr (hyd at 30 Medi 2010) 60 – 651 125 – 130 5 - 10 125 – 130 Dim

Peter Handcock CBE Cyfarwyddwr-Cyffredinol Mynediad at Gyfiawnder, Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder (hyd at 30 Medi 2010); Prif Weithredwr (rhwng 1 Hydref 2010 a 31 Mawrth 2011) 70 – 75 140 – 145 5 – 10 Dim2 Dim2

Owen Mapley Cyfarwyddwr Cyllid (hyd at 30 Tachwedd 2010) 60 – 65 90 – 95 5 – 10 80 – 85 5 - 10

Steve Gillespie Cyfarwyddwr Cyllid (rhwng 1 Rhagfyr 2010 a 31 Mawrth 2011) 25 – 30 80 – 85 Dim Dim Dim

Alan Eccles Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Aelod o’r Bwrdd tan 31 Mawrth 2011) 140 – 145 140 – 145 5 – 10 Dim Dim

Clare Pillman Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Aelod o’r Bwrdd rhwng 1 Mehefin 2010 a 7 Mawrth 2011) 60 – 65 80 – 85 Dim Dim Dim

Anita Bharucha Cyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Integreiddio’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd, Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder (rhwng 1 Hydref 2010 a 4 Chwefror 2011) Dim3 Dim3 Dim3 Dim3 Dim3

Jonathan Booth Cyfarwyddwr, Diwygio Cyfiawnder Troseddol, Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder (rhwng 5 Chwefror a 31 Mawrth 2011) Dim4 Dim4 Dim4 Dim4 Dim4

30| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

2010-11 2009-10

Enw Rôl aelod y Bwrdd

Cyflog(ac eithrio

cyfraniadau pensiwn)

£000

Cyfateb i gyflog

blwyddyn lawn

(ac eithrio cyfraniadau

pensiwn)£000

Bonysau £000

Cyflog (ac eithrio

cyfraniadau pensiwn)

£000 Bonysau

£000

Guy Beringer Cwnsler y Frenhines

Cyfarwyddwr Anweithredol (hyd at 31 Mawrth 2011) 10 – 15 10 – 15 Dim 10 – 15 Dim

Kenneth Ludlam Cyfarwyddwr Anweithredol (hyd at 31 Mawrth 2011) 10 – 15 10 – 15 Dim 10 – 15 Dim

Arglwydd Ustus Goldring

Aelod Barnwrol (hyd at 31 Mawrth 2011) Dim5 Dim5 Dim5 Dim5 Dim5

Ei Anrhydedd y Barnwr William Kennedy

Aelod Barnwrol (hyd at 31 Mawrth 2011)

Dim5 Dim5 Dim5 Dim5 Dim5

Barnwr Rhanbarth Michael Walker CBE

Aelod Barnwrol (hyd at 31 Mawrth 2011) Dim5 Dim5 Dim5 Dim5 Dim5

Nodiadau: 1 Yn ogystal â symiau'r cyflogau a ddangosir uchod, talwyd swm i Chris Mayer CBE yn lle rhybudd wrth iddo ymadael a oedd rhwng £30,000 a £35,000 a thaliad yn lle'r hawl i wyliau a oedd wedi cronni rhwng £5,000 a £10,000. Roedd y taliadau hyn yn unol â thelerau cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil a gyflwynwyd gan y llywodraeth ym mis Rhagfyr 2010.

2 Eisteddodd Peter Handcock CBE ar Fwrdd GLlEM fel cynrychiolydd ffurfiol y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ystod 2009-10 a hyd at 30 Medi 2010.. Mae manylion y taliadau ar gyfer y cyfnod hwn wedi'u cynnwys yng nghyfrifon adnoddau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

3 Eisteddodd Anita Bharucha ar fwrdd GLlEM fel cynrychiolydd ffurfiol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae manylion y taliadau wedi'u cynnwys yng nghyfrifon adnoddau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

4 Eisteddodd Jonathan Booth ar fwrdd GLlEM fel cynrychiolydd ffurfiol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae manylion y taliadau wedi'u cynnwys yng nghyfrifon adnoddau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

5 Bydd aelodau barnwrol yn cael eu talu yn rhinwedd eu swydd fel barnwyr ac ni chawsant ddim taliadau ychwanegol fel cyfarwyddwyr GLlEM.

Ni thalwyd dim symiau ex-gratia i'r un aelod o'r Bwrdd a ymadawodd yn ystod y flwyddyn.

Ni chafodd yr un aelod o'r Bwrdd unrhyw fuddion ar wahân i arian yn ystod 2010-11 nac yn ystod 2009-10.

Mae cyflogau'n cynnwys symiau pensiynadwy a symiau amhensiynadwy ac yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill o bosibl: cyflogau gros; goramser; hawliau cadw i bwysoliad Llundain neu lwfansau Llundain; lwfansau recriwtio a chadw; lwfansau swyddfeydd preifat neu lwfansau eraill i'r graddau eu bod yn cael eu trethu yn y Deyrnas Unedig; ac unrhyw daliadau ex-gratia. Nid yw'r ffigurau a ddangosir yn cynnwys symiau sy'n ad-dalu treuliau uniongyrchol wrth gyflawni dyletswyddau unigolyn.

Telir tâl am berfformiad neu fonysau ar sail asesiad yn erbyn set o feini prawf cyson y bwriedir iddynt fesur perfformiad yr unigolyn o'i gymharu â'r amcanion a'r targedau a bennwyd ac y cytunwyd arnynt gan yr unigolyn a'i reolwr.

Mae gwerth ariannol buddion ar wahân i arian yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan y cyflogwr ag y bydd Refeniw a Thollau EM yn eu trin yn enillion trethadwy. Nid oedd dim symiau'n daladwy i drydydd partïon yng nghyswllt aelodau'r Bwrdd yn 2010-11.

Ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, ffurfiwyd bwrdd newydd, sef Bwrdd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (ar waith o 1 Ebrill 2011 ymlaen), gan ddisodli'r Byrddau Gwasanaeth ar wahân a fu gan GLlEM a'r Tribiwnlysoedd Serch hynny, ailgynullodd Bwrdd GLlEM ar ôl 31 Mawrth 2011 i adolygu ac argymell yn ffurfiol yr Adroddiad

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 31

Blynyddol a'r Cyfrifon i'r Prif Weithredwr eu llofnodi. Ni chafodd yr aelodau ddim tâl ychwanegol am gyflawni'r gwaith hwn.

Contractau gwasanaeth aelodau'r Bwrdd

Gwneir penodiadau'r Gwasanaeth Sifil yn unol â Chod Recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil, sy'n mynnu bod penodiadau'n cael eu gwneud ar sail haeddiant drwy gystadleuaeth deg ac agored, ond mae hefyd yn sôn am y posibilrwydd o wneud penodiadau o dan amgylchiadau eraill.

Cyflogir aelodau Bwrdd GLlEM ar gontractau penagored nes iddynt gyrraedd oedran ymddeol arferol. Mae contractau'r Uwch Wasanaeth Sifil yn para am gyfnod penodedig neu'n unol â'r penodiad pedair blynedd safonol.

Enw Dyddiad dechrau'r

contractCyfnod heb ddod i

benCyfnod rhybudd

Sir Duncan Nichol CBE 1 Ebrill 2008 AMH1 AMH1

Chris Mayer CBE 5 Rhagfyr 1974 Hyd at ymddeol 3 mis

Peter Handcock CBE 4 Ionawr 1971 Hyd at ymddeol 3 mis

Owen Mapley 23 Gorffennaf 2007 Hyd at ymddeol 3 mis

Steve Gillespie 22 Tachwedd 1976 Hyd at ymddeol 3 mis

Alan Eccles 1 Ebrill 2005 Hyd at ymddeol 3 mis

Clare Pillman 9 Tachwedd 1992 Hyd at ymddeol 3 mis

Anita Bharucha 23 Awst 1993 Hyd at ymddeol 3 mis

Jonathan Booth 2 Hydref 1989 Hyd at ymddeol 3 mis

Guy Beringer CF 1 Ebrill 2008 AMH1 AMH1

Kenneth Ludlam 1 Ebrill 2008 AMH1 AMH1

Arg. Ustus Goldring AMH2 AMH2 AMH2

Ei Anrhydedd y Barnwr William Kennedy AMH2 AMH2 AMH2

Barnwr Rhanbarth Michael Walker CBE AMH2 AMH2 AMH2

Nodiadau: 1 Daeth y contract i ben 31 Mawrth 2011. 2 Ni fydd aelodau barnwrol yn gweithredu o dan gontract.

Nid oedd dim darpariaeth yn y cyfrifon ar gyfer iawndal i Aelodau Bwrdd GLlEM ar 31 Mawrth 2011. Byddai terfynu'n gynnar, ac eithrio oherwydd camymddwyn, yn golygu bod yr unigolyn yn cael iawndal yn unol â thelerau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972.

Buddion a gwerthoedd trosglwyddo symiau sy'n cyfateb i arian parod (CETV)

pensiynau aelodau'r Bwrddd

Enw

Cynnydd/(gostyngiad) gwirioneddol yn y

pensiwn wrth gyrraedd oedran pensiwn a'r taliad

unswm cysylltiedig£000

Pensiwn cronnus wrth gyrraedd oedran

pensiwn a'r taliad unswm cysylltiedig ar

31 Mawrth 2011£000

CETV ar 31 Mawrth

2011£000

CETV ar 31 Mawrth

2010 £000

Cynnydd/(Gostyngiad)

gwirioneddol mewn

CETV£000

Sir Duncan Nichol CBE AMH1 AMH1 AMH1 AMH1 AMH1

32| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Enw

Cynnydd/(gostyngiad) gwirioneddol yn y

pensiwn wrth gyrraedd oedran pensiwn a'r taliad

unswm cysylltiedig£000

Pensiwn cronnus wrth gyrraedd oedran

pensiwn a'r taliad unswm cysylltiedig ar

31 Mawrth 2011£000

CETV ar 31 Mawrth

2011£000

CETV ar 31 Mawrth

2010 £000

Cynnydd/(Gostyngiad)

gwirioneddol mewn

CETV£000

Chris Mayer CBE (2.5) – 0 a(2.5) – 0.0 taliad unswm

(55) – 60 a (175) – 180 taliad

unswm

1,171 1,139 (3)

Peter Handcock CBE (2.5) – 0 adim taliad unswm

(85) – 90 a dim taliad unswm

1,802 1,705 (6)

Owen Mapley 0 – 2.5 dim taliad unswm

5 – 10 dim taliad unswm

41 32 6

Steve Gillespie 0 – 2.5 a(2.5) – 5.0 taliad unswm

30 – 35 a(95) – 100 taliad

unswm

620 555 28

Alan Eccles 0 – 2.5 adim taliad unswm

45 – 50 adim taliad unswm

749 665 2

Clare Pillman 0 – 2.5 a(0) – 2.5 taliad unswm

20 – 25 a(60) – 65 taliad unswm

320 278 4

Anita Bharucha AMH2 AMH2 AMH2 AMH2 AMH2

Jonathan Booth AMH3 AMH3 AMH3 AMH3 AMH3

Guy Beringer Cwnsler y Frenhines

AMH1 AMH1 AMH1 AMH1 AMH1

Kenneth Ludlam AMH1 AMH1 AMH1 AMH1 AMH1

Arglwydd Ustus Goldring AMH4 AMH4 AMH4 AMH4 AMH4

Ei Anrhydedd y Barnwr William Kennedy AMH4 AMH4 AMH4 AMH4 AMH4

Barnwr Rhanbarth Michael Walker CBE AMH4

AMH4 AMH4 AMH4 AMH4

Nodiadau: 1 Ni wneir cyfraniadau pensiwn ar ran aelodau anweithredol Bwrdd GLlEM. 2 Eisteddodd Anita Bharucha ar Fwrdd GLlEM fel cynrychiolydd ffurfiol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae'r buddion pensiwn wedi'u cynnwys yng nghyfrifon adnoddau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

3 Eisteddodd Jonathan Booth ar fwrdd GLlEM fel cynrychiolydd ffurfiol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae'r buddion pensiwn wedi'u cynnwys yng nghyfrifon adnoddau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

4 Bydd aelodau barnwrol yn cael eu talu yn rhinwedd eu swydd fel barnwyr ac ni chawsant ddim taliadau ychwanegol fel cyfarwyddwyr GLlEM.

Buddion pensiwn

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). O 1 Hydref 2002 ymlaen, roedd gweision sifil yn cael ymuno ag un o dri chynllun budd diffiniedig 'cyflog terfynol' statudol: clasurol, premiwm a chlasurol a mwy. Cynlluniau digronfa yw'r rhain, a bydd y Senedd yn pleidleisio bob blwyddyn i ddarparu arian i dalu am gost y buddion hyn. Bob blwyddyn, cynyddir pensiynau sy'n daladwy o dan y cynllun clasurol, y cynllun premiwm a'r cynllun clasurol a mwy yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Caiff pobl sy'n ymuno o'r newydd ar ôl 1 Hydref 2002 ddewis naill ai fod yn aelod o'r cynllun premiwm neu ymuno â threfniant 'prynu arian' o safon i randdeiliaid a bydd y cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylweddol at hyn (cyfrif pensiwn drwy bartneriaeth).

Yng nghyswllt y cynllun clasurol, bydd gweithwyr yn cyfrannu 1.5% o'u henillion pensiynadwy a byddant yn cyfrannu 3.5% yng nghyswllt y cynllun clasurol a mwy. Bydd buddion y cynllun clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o'r enillion pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn gwasanaeth; a hefyd bydd taliad unswm sy'n cyfateb i dair blynedd o bensiwn pan fydd rhywun yn ymddeol. Bydd buddion y cynllun premiwm yn cronni ar raddfa o 1/60fed o'r enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth; ni thelir taliad unswm yn awtomatig ond caiff aelodau ddewis trosi rhywfaint o'u pensiwn i'w

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 33

dderbyn ar ffurf taliad unswm. Amrywiad ar y cynllun premiwm yw'r cynllun clasurol a mwy, ond fe gaiff y buddion ar gyfer gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 eu cyfrifo'n fras yn yr un ffordd ag y bydd buddion y cynllun clasurol.

Trefniant pensiwn rhanddeiliaid yw'r cyfrif pensiwn drwy bartneriaeth. Bydd y cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol rhwng 3% a 12.5%, a dibynnu ar oedran yr aelod, i gynllun pensiwn rhanddeiliaid y bydd y gweithiwr yn ei ddewis. Nid oes yn rhaid i'r gweithiwr gyfrannu, ond os bydd yn gwneud hynny, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol i'r gronfa hyd at derfyn o 3% o'r cyflog pensiynadwy, a hynny ar ben cyfraniad sylfaenol y cyflogwr. Bydd cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.8% arall o'r cyflog pensiynadwy i dalu am gost gwarchod y buddion rhag risg drwy drefniant canolog (marwolaeth wrth wasanaethu ac ymddeol oherwydd afiechyd).

Mae rhagor o fanylion am drefniadau'r PCSPS i'w gweld yn www.civilservice-pensions.gov.uk.

Gwerthoedd trosglwyddo symiau sy'n cyfateb i arian parod

Gwerth cyfalafu buddion y cynllun pension yn ôl asesiad actiwari yw CETV, sef y buddion y mae aelod wedi'u cronni ar adeg benodol. Y buddion a brisir yw buddion cronnus yr aelod ynghyd â phensiwn unrhyw gymar a all fod a hawl i gael pensiwn yn sgil y cynllun. Taliad a wneir gan gynllun pensiwn yw CETV, neu drefniant i warantu buddion pensiwn mewn cynllun pensiwn arall, neu drefniant lle bydd aelod yn ymadael â chynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddion cronnus sydd yn eu cynllun blaenorol.

Mae ffigurau'r pensiwn a ddangosir yn berthnasol i'r buddion y mae'r unigolyn wedi'u cronni yn sgil eu haelodaeth o'r cynllun pensiwn yn ei chrynswth, nid dim ond yn ystod cyfnod eu gwasanaeth mewn swydd uwch y mae'r datgeliad yn berthnasol iddo. Mae ffigurau'r CETV ac unrhyw fanylion eraill ynglŷn â'r pensiwn yn cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r unigolyn wedi'i drosglwyddo i'r PCSPS ac y trosglwyddwyd taliad ar ei gyfer i'r Bleidlais Blwydd-daliadau Sifil sy'n cyfateb i rwymedigaethau'r pensiwn ychwanegol a ysgwyddir. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol sydd wedi'u cronni gan yr aelod yn sgil prynu blynyddoedd gwasanaeth ychwanegol o bensiwn yn y cynllun drwy dalu amdanynt eu hunain.

Cyfrifir CETVs yn unol â'r canllawiau a'r fframwaith a bennir gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwariaid ac nid ydynt yn rhoi sylw i unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu ostyngiad posibl mewn buddion sy'n codi yn sgil Treth Lwfans Oes a all fod yn daladwy pan fydd rhywun yn codi buddion y pensiwn.

Cynnydd gwirioneddol yng ngwerth y symiau a drosglwyddir sy'n cyfateb i arian parod

Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd yn y CETV y bydd y cyflogwr yn talu'n amdano. Mae'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronnus yn sgil chwyddiant a chyfraniadau a delir gan y gweithiwr. Mae hyn yn cynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddir o gynllun neu drefniant pensiwn arall ac mae'n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Peter Handcock CBE Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

27 Mehefin 2011

34| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Tystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol i Dŷ'r Cyffredin

Rwy'n tystio imi archwilio datganiadau ariannol Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi ("yr Asiantaeth") ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011 o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Mae'r rhain yn cynnwys y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Llif Arian, y Datganiad ynglŷn â Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr, a'r nodiadau cysylltiedig. Mae'r datganiadau ariannol hyn wedi cael eu paratoi'n unol â'r polisïau cyfrifyddu y cyfeirir atynt ynddynt. Rwyf hefyd wedi archwilio'r wybodaeth yn yr adroddiad ynglŷn â Thaliadau sydd, yn ôl yr adroddiad hwnnw, wedi cael ei harchwilio.

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu a chyfrifoldebau'r archwilydd

Fel yr esbonnir yn eglurach yn y Datganiad ynglŷn â Chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol ac am fod yn fodlon eu bod yn cynnig golwg gwir a theg. Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio ac ardystio'r datganiadau ariannol a pharatoi adroddiadau yn eu cylch yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Fe'u harchwiliais yn unol â'r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y Deyrnas Unedig ac Iwerddon). Mae'r safonau hynny'n golygu ei bod yn ofynnol i mi a'm staff gydymffurfio â'r Safonau Moesegol ar gyfer Archwilwyr a bennir gan y Bwrdd Arferion Archwilio.

Cwmpas archwilio'r datganiadau ariannol

Bydd archwiliad yn cynnwys cael tystiolaeth ynglŷn â'r symiau a'r datgeliadau yn y datganiadau ariannol er mwyn gallu teimlo'n rhesymol sicr nad oes cam-ddatgan sylweddol yn y datganiadau ariannol, boed hynny yn sgil twyll neu gamgymeriad. Mae hyn yn cynnwys asesu: a yw'r polisïau cyfrifo'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r Asiantaeth ac a ydynt wedi'u rhoi ar waith yn gyson a'u datgelu'n ddigonol; pa mor rhesymol yw'r amcangyfrifon cyfrifyddu arwyddocaol gan yr Asiantaeth; a chyflwyniad cyffredinol y datganiadau ariannol. At hynny, darllenais yr holl wybodaeth ariannol ac anariannol yn yr adroddiad blynyddol er mwyn canfod unrhyw anghysonderau sylweddol gyda golwg ar y datganiadau ariannol a archwiliwyd. Os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau neu anghysonderau o sylwedd, byddaf yn ystyried goblygiadau hynny o ran rhoi fy nhystysgrif.

At hynny, mae gofyn imi gael gwybodaeth sy'n ddigonol er mwyn rhoi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm yr adroddir yn eu cylch yn y datganiadau ariannol wedi'u rhoi ar waith at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Barn ynglŷn â Rheoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob cyswllt o sylwedd, mae'r gwariant a'r incwm wedi'u rhoi ar waith yn unol â'r dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Barn ynglŷn â'r datganiadau ariannol

Yn fy marn i:

Mae'r datganiadau ariannol yn rhoi golwg gwir a theg ar gyflwr materion ariannol yr Asiantaeth ar 31 Mawrth 2011, a'r gost gweithredu net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 35

Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi'n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf honno.

Barn ynghylch materion eraill

Yn fy marn i:

Mae'r rhan o'r adroddiad ynglŷn â Thaliadau sydd i'w harchwilio wedi'i pharatoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EM a wnaethpwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000;

Mae'r wybodaeth a roddir yn adroddiad y Prif Weithredwr ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratoir y datganiadau ariannol ar eu cyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol.

Adroddiad ynglŷn â materion anghyffredin

Nid oes gennyf ddim i'w ddweud ynglŷn â'r materion a ganlyn sy'n rhan o'm hadroddiad i chi, os, yn fy marn i:

Nad oes cofnodion cyfrifyddu digonol wedi'u cadw, neu nad oes datganiadau digonol ar gyfer fy archwiliad wedi'u derbyn gan ganghennau nad ymwelodd fy staff â hwy; neu

Nad yw'r datganiadau ariannol a'r rhan o'r adroddiad ynglŷn â Thaliadau sydd i'w harchwilio'n gytûn â'r cofnodion neu'r datganiadau cyfrifyddu; neu

Nad wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae gofyn imi eu cael ar gyfer fy archwiliad; neu

Nad yw'r Datganiad ynglŷn â Chadw Trefn Mewnol yn cydymffurfio â chanllawiau Trysorlys EM.

Adroddiad

Nid oes gennyf ddim sylwadau am y datganiadau ariannol hyn.

Amyas C E Morse

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol 157-197 Buckingham Palace Road Victoria Llundain SW1W 9SP

Dyddiad 29 Mehefin 2011

36| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

Nodiadau 2010-11

ailddatgan2009-10*

£000 £000

Refeniw 6 607,921 612,420

Costau staff a'r farnwriaeth 7 (844,812) (846,075)

Costau gweithredu eraill 8.1 (785,014) (697,141)

Dibrisiant 9 (101,203) (115,295)

Amorteiddiad 12 (13,505) (1,778)

Cost net gweithrediadau (1,136,613) (1,047,869)

Costau cyllid 8.2 (28,098) (40,529)

Costau net (1,164,711) (1,088,398)

* Mae gweddilliau 2009-10 wedi'u hailddatgan er mwyn adlewyrchu'r newidiadau o ran polisïau cyfrifyddu fel y'u gwelir ar dudalennau 48 i 49.

Yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, cynhwysir gwariant net ar raglenni, sef £1,149.4m (2009-10: £1,073.1m) a gwariant net ar weinyddu, sef £15.3m (2009-10: £15.3m).

Gwariant Cynhwysfawr Arall

Nodiadau 2010-11 ailddatgan

2009-10*

£000 £000

Costau net (1,164,711) (1,088,398)

Enillion/(colledion) net wrth ailbrisio eiddo ac offer yn ystod y flwyddyn 38,940 (90,546)

Enillion/(colledion) net ar ailbrisio asedau anniriaethol yn ystod y flwyddyn (332) 1,084

Cyfanswm gwariant cynhwysfawr (1,126,103) (1,177,860)

* Mae gweddilliau 2009-10 wedi’u hailddatgan i adlewyrchu newidiadau o ran polisïau cyfrifyddu fel y'u gwelir ar dudalennau 48 i 49.

Mae'r nodiadau ar dudalennau 39 i 80 yn rhan o'r cyfrifon hyn.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 37

Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2011

Nodiadau 31 Mawrth 2011

Ailddatgan 31 Mawrth 2010*

Ailddatgan 31 Mawrth 2009*

£000 £000 £000

Asedau anghyfredol

Eiddo ac offer 9 2,799,914 2,760,984 3,031,164

Eiddo buddsoddi 10 1,000 1,855 2,595

Asedau anniriaethol 12 71,378 67,396 45,309

Symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill 13

136 38,982 10,350

Rhagdaliadau prydlesi gweithredol 19 150 154 159

Cyfanswm asedau anghyfredol 2,872,578 2,869,371 3,089,577

Asedau cyfredol

Asedau a ddelir i'w gwerthu 11 20,252 4,103 3,055

Symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill 13

245,977 96,495 46,988

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo 14 55,323 153,046 239,450

Cyfanswm asedau cyfredol 321,552 253,644 289,493

Cyfanswm asedau 3,194,130 3,123,015 3,379,070

Rhwymedigaethau cyfredol

Symiau masnach a symiau taladwy eraill 16

342,224 311,130 254,306

Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau 17

31,914 32,030 18,313

Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol

374,138 343,160 272,619

Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol

2,819,992 2,779,855 3,106,451

Rhwymedigaethau anghyfredol

Symiau masnach a symiau taladwy eraill 16

252,455 256,084 266,862

Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau 17

425,099 267,447 443,262

Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol

677,554 523,531 710,124

Cyfanswm asedau llai cyfanswm rhwymedigaethau

2,142,438 2,256,324 2,396,327

Ecwiti trethdalwyr

Cronfa gyffredinol 1,901,204 2,045,345 2,086,109

Cronfeydd ailbrisio 241,234 210,979 310,218

Cyfanswm ecwiti trethdalwyr 2,142,438 2,256,324 2,396,327

38| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

* Mae gweddilliau 31 Mawrth 2010 a 31 Mawrth 2009 wedi'u hailddatgan i adlewyrchu'r newidiadau o ran polisïau cyfrifyddu fel y'u gwelir ar dudalennau 48 i 49.

Peter Handcock CBE Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

27 Mehefin 2011

Mae'r nodiadau ar dudalennau 39 i 80 yn rhan o'r cyfrifon hyn.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 39

Datganiad ynglŷn â'r Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

Nod-

iadau 2010-11 Ailddatgan 2009-10*

Cronfa

gyffredinolCronfeydd

ailbrisio CyfanswmCronfa

gyffredinolCronfeydd

ailbrisio Cyfanswm

£000 £000 £000 £000 £000 £000

Gweddill ar ddechrau'r cyfnod 2,045,345 210,979 2,256,324 2,086,109 310,218 2,396,327

Adnoddau net a gyflwynwyd adeg creu GLlEM

9 - - - 2,766 - 2,766

Arian gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder 738,700 - 738,700 744,000 - 744,000

Costau net ar gyfer y flwyddyn (1,164,711) - (1,164,711) (1,088,398) - (1,088,398)

Ailbrisio eiddo ac offer yn ystod y flwyddyn (4,522) 43,462 38,940 - (90,546) (90,546)

Ailbrisio asedau anniriaethol yn ystod y flwyddyn - (332) (332) - 1,084 1,084

Ailgategoreiddio'r elfen a wireddwyd o'r cronfeydd ailbrisio 12,875 (12,875) - 9,777 (9,777) -

Costau tybiannol 273,167 - 273,167 291,091 - 291,091

Symudiadau eraill 350 - 350 - - -

Gweddill ar ddiwedd y cyfnod 1,901,204 241,234 2,142,438 2,045,345 210,979 2,256,324

* Mae gweddilliau 2009-10 wedi'u hailddatgan i adlewyrchu newidiadau o ran polisïau cyfrifyddu fel y'u gwelir ar dudalennau 48 i 49.

Mae'r nodiadau ar dudalennau 39 i 80 yn rhan o'r cyfrifon hyn.

40| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Datganiad Llif Arian ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

Nod-

iadau 2010-11 ailddatgan

2009-10*

£000 £000

Llif arian yn sgil gweithgareddau gweithredu

Costau net (1,164,711) (1,088,398)

Addasu ar gyfer:

Costau tybiannol a chostau nad ydynt yn arian parod 15 586,949 451,965

Costau cyllid 8.2 28,098 40,529

Newidiadau symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill (110,609) (76,737)

Newidiadau symiau masnach a symiau taladwy eraill (6,123) 25,689

Symudiadau arian parod mewn darpariaethau (35,623) (33,119)

All-lif arian parod net yn sgil gweithgareddau gweithredu (702,019) (680,071)

Llif arian yn sgil gweithgareddau buddsoddi

Prynu eiddo ac offer (96,270) (89,172)

Arian yn sgil cael gwared ar eiddo ac offer 2,403 2,203

Prynu asedau anniriaethol 12 (8,941) (22,262)

All-lif arian parod net yn sgil gweithgareddau buddsoddi (102,808) (109,231)

Llif arian yn sgil gweithgareddau ariannu

Arian gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder 738,700 744,000

Elfen gyfalaf contractau Menter Cyllid Preifat (8,926) (8,926)

Elfen gyfalaf prydlesi cyllidol 92 71

Ad-daliadau ar fenthyciadau awdurdod lleol (3,293) (14,421)

Llog a dalwyd (12,984) (13,937)

Mewnlif arian parod net yn sgil gweithgareddau ariannu 713,589 706,787

Gostyngiad o ran gweddilliau trydydd parti (6,485) (3,889)

Gostyngiad net o ran arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo yn ystod y cyfnod 14 (97,723) (86,404)

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo ar ddechrau'r cyfnod 14 153,046 239,450

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo ar ddiwedd y cyfnod 14 55,323 153,046

* Mae gweddilliau 2009-10 wedi'u hailddatgan i adlewyrchu newidiadau o ran polisïau cyfrifyddu fel y'u gwelir ar dudalennau 48 i 49. Mae'r nodiadau ar dudalennau 39 i 80 yn rhan o'r cyfrifon hyn.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 41

Nodiadau ynglŷn â'r Cyfrifon ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011

1 Crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol

Rhestrir isod y prif bolisïau cyfrifyddu a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r Cyfrifon .

Sail y gwaith paratoi

Paratowyd y Cyfrifon yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2010-11 (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Mae'r polisïau cyfrifyddu sydd yn y FReM yn dilyn y Safonau Rhyngwladol ar gyfer Adroddiadau Ariannol (IFRS) a gyhoeddir gan y Bwrdd Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol (IASB) fel y'u dehonglir ar gyfer y sector cyhoeddus.

Arian cyfred gweithredol a chyflwyniadol GLlEM yw'r bunt sterling.

Paratowyd y Cyfrifon o dan y confensiwn costau hanesyddol, a'i addasu yn sgil ailbrisio eiddo ac offer, eiddo buddsoddi ac asedau anniriaethol.

Wrth baratoi Cyfrifon yn unol â'r IFRS, mae gofyn defnyddio amcangyfrifon cyfrifyddu beirniadol/hanfodol penodol. Mae hefyd gofyn i reolwyr ddefnyddio'u crebwyll wrth roi'r polisïau cyfrifyddu ar waith.

Gwariant ar weinyddu a rhaglenni

Nid yw'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr wedi'i rannu rhwng gwariant net ar weinyddu a gwariant net ar raglenni oherwydd nad yw gwariant ar weinyddu'n faterol berthnasol i GLlEM. Serch hynny, datgelir cyfanswm net y gwariant ar weinyddu ac ar raglenni yn unol â gofynion FReM. Categoreiddir gwariant net yn wariant ar weinyddu neu'n wariant ar raglenni yn unol â gofynion cyllidebol Trysorlys EM.

Refeniw

Mae Trysorlys EM yn caniatáu inni ymdrin â refeniw gweithredu, ac eithrio Treth Ar Werth adferadwy lle bo hynny'n berthnasol fel petai'n refeniw a roddir ar ffurf cymorth ac felly, mae GLlEM yn cydnabod hyn yn refeniw yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Credydir yr arian a ddaw gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn uniongyrchol i'r Gronfa Gyffredinol, yn unol â gofynion FReM.

Refeniw ffioedd

Mae refeniw ffioedd yn cynnwys symiau ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ar gyfer defnyddwyr y llysoedd sifil a'r llysoedd teulu. Cedwir yr elfennau sy'n berthnasol i waith nas cwblhawyd eto yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol fel refeniw gohiriedig. Yna ar ôl cwblhau'r gwasanaeth, cydnabyddir mai refeniw yw'r refeniw gohiriedig.

Natur ac amgylchiadau'r gwasanaeth unigol a ddarperir sy'n penderfynu pa bryd y cydnabyddir y ffioedd hynny'n refeniw. Ar gyfer y rhan fwyaf o lifau refeniw, ystyrir bod y gwasanaeth a ddarperir gan GLlEM yn dechrau ar unwaith pan dderbynnir y cais.. Felly, bydd y ffi'n cael ei chydnabod yn refeniw ar unwaith pan dderbynnir hi gyda'r cais.

Yng nghyswllt llifau refeniw ffioedd penodol, megis gwarantau ac asesiadau, amcangyfrifir y cyfnod y gwneir y cais ynddo (wythnos fel rheol) a phennir yr elfen ohiriedig felly.

42| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Ar gyfer llifau refeniw ffioedd eraill, megis deisebau, apeliadau a phrofiant, cedwir cofnodion penodol gyda golwg ar y gwasanaethau sy'n weddill a phennir y refeniw gohiriedig yn uniongyrchol ar sail y rhain.

Datgenir refeniw ffioedd net ar ôl tynnu ffioedd sydd wedi cael eu dileu neu y caniateir eithriad yn eu cylch (REMEX). Pennir cynllun REMEX yn y Gorchmynion Ffioedd a gymeradwyir gan y Senedd ac ni fydd GLlEM yn casglu ffioedd a ddilëir. Cytunir â Thrysorlys EM ynglŷn ag amcan ariannol adennill y costau'n llawn ar ôl tynnu REMEX er mwyn sicrhau na chaeir drws cyfiawnder ar neb oherwydd na allant fforddio'r ffioedd a bennwyd.

Dirwyon a chosbau ariannol a orfodir drwy'r drefn cyfiawnder troseddol

Mae'r llysoedd ynadon yn gyfrifol am gasglu dirwyon a chosbau ariannol a orfodir drwy'r drefn cyfiawnder troseddol.

Mae cosbau ariannol yn cynnwys: cosbau penodedig, gorchmynion atafaelu, costau erlynwyr a gorchmynion iawndal. Ad-delir derbyniadau cosbau ariannol yn uniongyrchol i adrannau priodol y llywodraeth neu i ddioddefwyr troseddau ac ni chânt eu hystyried yn refeniw gan GLlEM.

Refeniw dirwyon

Ildir dirwyon a dderbynnir i'r Gronfa Gyfnerthedig ac eithrio mewn amgylchiadau lle bydd gan GLlEM yr hawl i gadw elfen o'r symiau a gasglwyd. O dan amgylchiadau o'r fath, bydd GLlEM yn cydnabod refeniw dirwyon wrth eu derbyn. Ceir pedair prif lif refeniw:

1 Gorfodi gwarantau: Cedwir elfen o'r dirwyon a gesglir gan GLlEM ar ran adrannau eraill y llywodraeth i dalu am gost gwaith gorfodi dirwyon.

2 Cynllun cymhellion i gasglu dirwyon: Cedwir elfen ychwanegol o'r dirwyon a gesglir ar ran adrannau eraill y llywodraeth yn unol â'r cynllun cymhellion i gasglu dirwyon. Seilir y cynllun hwn ar gyfraddau casglu dirwyon ar gyfer y cyfnod.

3 Adennill asedau: Mae gan GLlEM yr hawl i gael 12.5% (2009-10: 12.5%) o'r arian o asedau a adenillir yn ystod y cyfnod ar ran adrannau eraill y llywodraeth sy'n cymryd rhan ac yn unol â'r hyn a gytunir.

4 Refeniw Deddf y Llysoedd: Derbynnir hwn tuag at roi cynlluniau ar waith sy'n gysylltiedig â lledaenu Deddf y Llysoedd 2003 drwy'r wlad.

Datganiad Ymddiriedaeth GLlEM

O 2010-11 ymlaen, mae Trysorlys EM yn mynnu bod adrannau'r Llywodraeth sy'n casglu refeniw sylweddol drwy drethi, tollau, dirwyon a chosbau, ar ran y Gronfa Gyfnerthedig, yn paratoi Datganiad Ymddiriedaeth annibynnol sy'n adrodd yn benodol ynglŷn â'r gweithgareddau ariannol sy'n berthnasol i gasgliadau o'r fath.

Felly, mae GLlEM, Asiantaeth Weithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder sy'n gyfrifol am gasglu dirwyon a chosbau ariannol a orfodir drwy'r system cyfiawnder troseddol, yn paratoi Datganiad Ymddiriedaeth annibynnol ar gyfer 2010-11 y dylid ei ddarllen ar y cyd ag Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol GLlEM.

Mae'r Datganiad Ymddiriedaeth yn ystyried dirwyon a chosbau a orfodir drwy'r system cyfiawnder troseddol yn refeniw sy'n daladwy yn y pen draw i'r Gronfa Gyfnerthedig, ar sail gros. Ymdrinnir â'r elfen o'r symiau a gesglir y mae gan GLlEM yr hawl i'w chadw fel incwm yn y Cyfrifon hyn fel gwariant yn y Datganiad Ymddiriedaeth, i adlewyrchu

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 43

gostyngiad yn y swm sy'n ddyledus i'r Gronfa Gyfnerthedig.

Costau tybiannol

Ariennir cyflogau a chostau nawdd cymdeithasol uwch farnwyr, sy'n annibynnol ar GLlEM, o'r gronfa gyfnerthedig ac fe'u cynhwysir yng Nghyfrifon GLlEM fel costau tybiannol. Bydd uwch farnwyr hefyd yn cael taliadau gwasanaeth hir o dan gytundeb â'r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Ceir darpariaeth ar gyfer y taliadau hyn yng nghyfrifon adnoddau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Costau tybiannol eraill yw taliadau i archwilwyr, rhent tybiannol ar eiddo sydd ym mherchnogaeth Corfforaeth Dinas Llundain a Bwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames, a thaliadau gorbenion adrannol a ailgodir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Adroddiadau ynglŷn â segmentau

Paratoir adroddiadau ynglŷn â segmentau gweithredu mewn modd sy'n gyson â'r adroddiadau mewnol a roddir i'r Prif Benderfynwr Gweithredol (CODM) Pennwyd mai'r CODM, a hwnnw'n gyfrifol am ddyrannu adnoddau ac asesu perfformiad y segmentau gweithredu, yw'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu.

Eiddo ac offer - tir ac adeiladau (gan gynnwys anheddau)

Ar y cyfan, cyfleusterau'r llysoedd yw'r tir a'r adeiladau (gan gynnwys anheddau). Dangosir tir ac adeiladau (ac eithrio gwaith wrth symud i mewn) yn ôl gwerth teg, ar sail prisiadau proffesiynol. Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), sy'n annibynnol ar GLlEM, sy'n gwneud y gwaith prisio yn unol â Llawlyfr Gwerthuso a Phrisio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), a elwir yn "Llyfr Coch" ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Pennir gwerth teg ar gyfer gwaith wrth symud i mewn drwy ddefnyddio Mynegai Prisiau Tendrau'r Gwasanaeth Gwybodaeth am Gost Adeiladu, fel y'i llunnir gan y RICS.

Prisir y tir a'r adeiladau ar sail dreigl flynyddol lle bydd y priswyr yn ymweld â 20% o'r tir a'r adeiladau, a lle bydd yr 80% arall yn cael ei brisio wrth ddesg. Prisir y rhan fwyaf o'r adeiladau gweithredol ar sail cost ddibrisiedig codi adeilad cyfatebol modern yn eu lle. Mesurir pob adeilad arall ar sail gwerth teg a bennir ar sail tystiolaeth y farchnad.

Pan fydd swm cario ased yn cynyddu yn sgil ailbrisio, cydnabyddir y cynnydd hwnnw yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr i'r graddau ei fod yn gwrthdroi gostyngiad yng ngwerth yr un ased wrth ei ailbrisio a gydnabuwyd gynt yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr. Credydir unrhyw gynnydd sy'n weddill yn uniongyrchol i'r Cronfeydd Ailbrisio. Bydd unrhyw ddibrisiant cronnus ar ddyddiad yr ailbrisio'n cael ei ddileu yn erbyn swm cario gros yr ased, a chaiff y swm net ei ailddatgan ar gyfer gwerth yr ased ar ôl ei ailbrisio.

Pan fydd swm cario ased yn gostwng yn sgil lleihad parhaol yng ngwerth yr ased oherwydd bod budd economaidd neu botensial gwasanaeth yn amlwg, caiff y gostyngiad ei briodoli'n uniongyrchol i Gostau Gweithredu Eraill yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, gydag unrhyw arian sy'n weddill yn y Cronfeydd Ailbrisio'n cael ei ryddhau i'r Gronfa Gyffredinol.

Pan fydd swm cario ased yn gostwng (ac eithrio yn sgil lleihad parhaol), cydnabyddir y gostyngiad yn y Gronfa Ailbrisio i'r graddau bod gweddill ar gael yng nghyswllt yr ased hwnnw. Priodolir unrhyw ostyngiad pellach sy'n fwy na gwargedau'r ailbrisio i Gostau Gweithredu Eraill yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Bob blwyddyn, trosglwyddir yr elfen sydd wedi'i hailbrisio, sef y gwahaniaeth rhwng dibrisiant sydd wedi'i seilio ar swm cario ailbrisiedig yr ased a briodolir i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant

44| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Net Cynhwysfawr a'r dibrisiant sydd wedi'i seilio ar gost wreiddiol yr ased, o'r Cronfeydd Ailbrisio i'r Gronfa Gyffredinol.

Cynhwysir costau dilynol yn swm cario'r ased neu fe'u cydnabyddir yn ased ar wahân, fel sy'n briodol, dim ond pan fydd yn debygol y daw buddion economaidd neu botensial gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r eitem i GLlEM ac y gellir mesur cost yr eitem mewn ffordd ddibynadwy. Datgydnabyddir swm cario'r rhan honno a ddisodlir. Priodolir pob gwaith atgyweirio a chynnal a chadw arall i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr yn ystod y cyfnod ariannol pan fydd yn codi.

Eiddo ac offer - asedau eraill

Mae asedau eraill yn cynnwys technoleg gwybodaeth, offer, dodrefn, darnau gosod a gosodiadau. Cynhwysir yr asedau hyn ar sail eu cost adeg eu prynu a chânt eu hailbrisio ar ddiwedd pob cyfnod adrodd gan gynnwys Rhifau'r Mynegai Prisiau ar gyfer Cyfrifyddu ar sail Costau Cyfredol (Swyddfa'r Ystadegau Gwladol).

Rhoddir cyfrif am ailbrisio asedau eraill a'r costau dilynol mewn ffordd gyson ar gyfer tir ac adeiladau uchod.

Asedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu

Prisir asedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu ar sail cost hanesyddol o fewn Asedau sydd Wrthi'n Cael ei Hadeiladu, ac ni chaiff y rhain eu dibrisio. Pan fydd ased yn barod i'w ddefnyddio, ni chaiff ei ystyried yn ased sydd wrthi'n cael ei adeiladu rhagor. Yna, tynnir ei werth cario o'r asedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu ac fe'i trosglwyddir i'r categori o asedau perthnasol. Bryd hynny, dibrisir yr ased yn unol â'r polisi cyfrifyddu dibrisiant.

Dibrisiant

Pennir y dibrisiant drwy ddefnyddio'r dull llinell syth i ddyrannu'r symiau a gaiff eu hailbrisio i'r gwerthoedd gweddilliol dros oes fuddiol yr asedau, yn ôl yr amcangyfrif. Dyma sut yr amcangyfrifir oes fuddiol:

Adeiladau rhydd-ddaliad (gan gynnwys anheddau)

yr oes sy'n weddill neu 60 mlynedd - pa un bynnag ydy'r byrraf

Adeiladau les-ddaliad (gan gynnwys anheddau)

yr oes sy'n weddill, cyfnod y brydles sy'n weddill neu 60 mlynedd - pa un bynnag ydy'r byrraf

Tir les-ddaliad yr oes sy'n weddill neu gyfnod y brydles sy'n weddill, pa un bynnag ydy'r byrraf

Technoleg gwybodaeth cyfnod y brydles sy'n weddill neu 7 mlynedd - pa un bynnag ydy'r byrraf

Offer cyfnod y brydles sy'n weddill neu 3-5 mlynedd pa un bynnag ydy'r byrraf

Dodrefn, darnau gosod a gosodiadau

cyfnod y brydles sy'n weddill neu 10- 20 mlynedd, pa un bynnag ydy'r byrraf

Ni phriodolir dibrisiant ar dir rhydd-ddaliad, ar eiddo buddsoddi, ar asedau a gedwir i'w gwerthu nac ar asedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu.

Adolygir oes fuddiol yr asedau a'u gwerthoedd gweddilliol, gan eu haddasu os yw hynny'n briodol, ar ddiwedd pob cyfnod adrodd. Pennir yr oes sy'n weddill gan adeilad yn ôl y rhaglen dreigl o brisiadau proffesiynol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 45

Gwaredu eiddo ac offer

Pennir enillion a cholledion wrth waredu eiddo ac offer drwy gymharu'r arian a geir â'r swm cario ac fe'u cydnabyddir o fewn Costau Gweithredu Eraill yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Pan werthir asedau a ail-brisir, trosglwyddir y symiau a gynhwysir yn y Cronfeydd Ailbrisio i'r Gronfa Gyffredinol.

Trafodion Mentrau Cyllid Preifat

Mae Trysorlys EM wedi penderfynu ei bod yn rhaid i gyrff y llywodraeth roi cyfrif am gynlluniau seilwaith Mentrau Cyllid Preifat, lle bydd y corff llywodraethu'n rheoli defnyddio'r seilwaith a'r budd gweddilliol yn y seilwaith ar ddiwedd y trefniant fel trefniadau consesiwn gwasanaeth. Felly, mae GLlEM wedi cydnabod Mentrau Cyllid Preifat 'ar Ddatganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol' fel eiddo ac offer ynghyd â rhwymedigaeth i dalu amdanynt. Cofnodir y gwasanaethau a geir o dan y contract fel treuliau gweithredu. Ymdrinnir â Mentrau Cyllid Preifat 'Oddi ar y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol' fel prydlesi gweithredol. Mae rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn i'w gweld yn nodyn 21.

Ar gyfer cynlluniau Mentrau Cyllid Preifat sydd 'ar y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol' gwahenir y taliadau unedol blynyddol yn gydrannau fel a ganlyn, gan ddefnyddio technegau amcangyfrif priodol lle bo angen:

Talu am werth teg gwasanaethau a dderbynnir;

Talu am ased y Fenter Cyllid Preifat, gan gynnwys costau ariannu.

Gwasanaethau a gafwyd

Cofnodir gwerth teg gwasanaethau a gafwyd yn ystod y flwyddyn o dan y penawdau gwariant perthnasol o fewn Costau Gweithredu Eraill.

Ased Menter Cyllid Preifat

Cydnabyddir ased Menter Cyllid Preifat fel eiddo ac offer, wrth i'r ased ddechrau cael ei ddefnyddio. Cyfalefir yr ased yn unol â gwerth teg yr eiddo neu'r offer neu'n unol â gwerth presennol y taliadau isaf, pa un bynnag ydy'r lleiaf. Felly, mesurir yr ased yn ôl ei werth teg yn unol â pholisi cyfrifyddu GLlEM ar gyfer pob dosbarth perthnasol o asedau.

Rhwymedigaeth Menter Cyllid Preifat

Cydnabyddir rhwymedigaeth Menter Cyllid Preifat ar yr un pryd ag y cydnabyddir ased y Fenter Cyllid Preifat. Fe'i mesurir yn y lle cyntaf yn ôl yr un swm â gwerth teg ased y Fenter Cyllid Preifat ac fe'i mesurir wedi hynny yn ôl cost amorteiddiedig. Bydd y rhwymedigaethau rhent cyfatebol, ar ôl tynnu taliadau ariannu, wedi'u cynnwys o dan symiau masnach a symiau taladwy eraill. Priodolir llog i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr dros gyfnod y trefniant a hynny ar gyfradd llog gyfnodol gyson ar weddill y rhwymedigaeth ar gyfer pob cyfnod.

Categoreiddio'r brydles

Categoreiddir prydlesi naill ai'n brydlesi cyllidol ynteu'n brydlesi gweithredol a dibynnu ar sylwedd y trefniant. Rhennir prydles tir ac adeilad ar ddechrau'r brydles yn ddwy brydles ar wahân, y naill ar gyfer y tir a'r llall ar gyfer adeiladau.

Prydlesi gweithredol

Categoreiddir prydlesi lle bydd y prydleswr yn cadw cyfran sylweddol o'r risgiau a'r gwobrwyon sydd ynghlwm wrth berchnogaeth yn brydlesi gweithredol. Priodolir taliadau o

46| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

dan brydlesi gweithredol (ar ôl tynnu unrhyw gymhellion a geir gan y prydleswr) i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, a hynny ar sail llinell syth dros gyfnod y brydles. Cydnabyddir rhent cysylltiedig yn y cyfnod y'i telir.

Cydnabyddir taliadau ymlaen llaw am lesddaliad a gategoreiddir yn brydles weithredol fel Rhagdaliad ar Brydles yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol ac fe gaiff y rheini eu hamorteiddio dros gyfnod y les.

Cydnabyddir refeniw prydlesi gweithredol, lle bydd GLlEM yn brydleswr, yn y refeniw a hynny ar sail llinell syth dros gyfnod y les.

Prydlesi cyllidol

Bydd GLlEM yn lesio rhywfaint o'i eiddo a'i offer gan bartïon eraill. Categoreiddir prydlesi eiddo ac offer lle bydd GLlEM yn ysgwyddo i raddau sylweddol yr holl risgiau a'r gwobrwyon sydd ynghlwm wrth berchnogaeth, yn brydlesi cyllidol. Cyfalefir prydlesi cyllidol ar ddechrau'r les ar sail gwerth teg yr eiddo neu'r offer a brydlesir neu ar sail gwerth presennol y taliadau prydlesi isaf, pa un bynnag ydy'r lleiaf. Cyfalefir taliadau ymlaen llaw am log lesddaliad a gategoreiddir yn brydles gyllidol fel rhan o'r ased.

Mae'r rhwymedigaethau rhent cyfatebol, ar ôl tynnu'r taliadau ariannu, wedi'u cynnwys o dan symiau masnach a symiau taladwy eraill. Priodolir llog i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr dros gyfnod y les ar gyfradd llog gyfnodol gyson ar weddill y rhwymedigaeth ar gyfer pob cyfnod. Cydnabyddir rhent cysylltiedig yn y cyfnod y'i telir.

Dadbrisir yr eiddo a'r offer a gafaelir o dan brydlesi cyllidol yn ôl oes fuddiol yr ased neu yn ôl cyfnod y brydles, pa un bynnag ydy'r byrraf, os nad oes sicrwydd rhesymol y bydd GLlEM yn dod yn berchen arni pan ddaw cyfnod y brydles i ben.

Eiddo buddsoddi

Mae eiddo buddsoddi'n cynnwys tir ac adeiladau rhydd-ddaliad nad ydynt yn cael eu defnyddio'n bennaf gan GLlEM. Rhoddir gwerth teg ar eiddo buddsoddi, ar sail prisiau'r farchnad fywiog wedi'u haddasu, os oes angen, ar gyfer unrhyw wahaniaeth yn natur, lleoliad neu gyflwr yr ased penodol hwnnw. Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), corff sy'n annibynnol ar GLlEM, fydd yn gwneud y gwaith prisio yn unol â Llawlyfr Gwerthuso a Phrisio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), a elwir yn "Llyfr Coch" ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Cofnodir newidiadau mewn gwerthoedd teg yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Pan gaiff eiddo buddsoddi ei brydlesu o dan brydles weithredol, bydd yr ased a brydlesir yn aros o fewn yr Eiddo Buddsoddi yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol. Cydnabyddir refeniw'r brydles dros gyfnod y brydles ar sail llinell syth.

Asedau anghyfredol a gedwir i'w gwerthu

Categoreiddir asedau anghyfredol yn rhai 'a gedwir i'w gwerthu' pan fydd eu swm cario i'w adennill yn bennaf drwy drafodiad gwerthu ac yr ystyrir bod gwerthiant yn hynod debygol. Datgenir gwerth asedau a gedwir i'w gwerthu yn unol â'u swm cario yn union cyn eu categoreiddio'n rhai 'a gedwir i'w gwerthu' a'u 'gwerth teg llai'r costau gwerthu', pa un bynnag o'r ddau fydd yr isaf. Bydd unrhyw amhariad wyrdroi amhariad wedi hynny'n cael ei gydnabod yn y Datganiad ynglŷn â'r Gwariant Net Cynhwysfawr. Ni ddibrisir asedau a gategoreiddir yn rhai a gedwir i'w gwerthu.

Asedau anniriaethol

Cydnabyddir costau datblygu sy'n uniongyrchol berthnasol i ddylunio a phrofi cynnyrch

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 47

meddalwedd canfyddadwy ac unigryw a reolir gan GLlEM yn asedau anniriaethol pan fyddant yn cyflawni'r meini prawf a ganlyn:

Mae'n dechnegol ymarferol cwblhau'r meddalwedd fel y bydd ar gael i'w ddefnyddio;

Mae'r rheolwyr yn bwriadu cwblhau'r meddalwedd a'i ddefnyddio;

Mae gallu ar gael i ddefnyddio'r meddalwedd

Bydd y meddalwedd yn creu manteision economaidd tebygol yn y dyfodol;

Mae adnoddau technegol, ariannol ac eraill digonol ar gael i gwblhau datblygu'r meddalwedd;

Mae ffordd ddibynadwy ar gael o fesur y gwariant a briodolir i'r meddalwedd wrth ei ddatblygu.

Cydnabyddir bod gwariant ar ddatblygu nad yw'n cyflawni'r meini prawf hyn yn draul wrth iddo godi. Os bydd costau datblygu wedi'u cydnabod yn draul mewn cyfnod blaenorol, ni fyddant yn cael eu cydnabod yn ased mewn cyfnod wedyn.

Caiff asedau annirnadwy mewn gwasanaeth eu hailfesur ar ddiwedd pob cyfnod adrodd gan ddefnyddio Rhifau'r Mynegai Prisiau ar gyfer Cyfrifyddu Costau Cyfredol (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Caiff asedau annirnadwy mewn gwasanaeth eu hamorteiddio ar sail llinell syth dros eu hoes fuddiol debygol, ac ni fydd y cyfnod hwnnw'n hwy na saith mlynedd.

Cydnabyddir y costau sy'n gysylltiedig â chynnal rhaglenni meddalwedd cyfrifiadurol yn draul wrth iddo godi.

Amhariad ar eiddo ac offer, ac asedau annirnadwy

Cynhelir adolygiad amhariad bob blwyddyn ar eiddo ac offer, ac asedau annirnadwy.

Priodolir amhariadau sy'n adlewyrchu gostyngiad parhaol yng ngwerth yr ased oherwydd budd economaidd neu botensial gwasanaeth amlwg yn uniongyrchol i Gostau Gweithredu Eraill yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, gydag unrhyw weddilliau yn y Cronfeydd Ailbrisio'n cael eu rhyddhau i'r Gronfa Gyffredinol.

Ar gyfer pob amhariad arall, cydnabyddir y gostyngiad yn y gronfa ailbrisio i'r graddau bod gweddill yn bodoli yng nghyswllt yr ased hwnnw. Priodolir unrhyw amhariadau sy'n fwy na gwargedau'r ailbrisio i Gostau Gweithredu Eraill yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo

Mae arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo a gofnodir yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol a'r Datganiad Llif Arian yn cynnwys arian mewn llaw, adneuau a gedwir ar alw gyda'r banciau, buddsoddiadau tymor hir hylifol iawn eraill gyda dyddiad aeddfedu gwreiddiol o dri mis neu lai, a gorddrafftiau banc.

Gweddilliau arian parod trydydd parti

Mae GLlEM yn dal nifer o wahanol weddilliau arian parod gwahanol ar ran trydydd partïon. Mae'r rhain yn cynnwys arian mechnïaeth yn bennaf a dderbynnir ac a gedwir tra bo achos troseddol yn mynd rhagddo, a symiau setlo trydydd parti lle bydd GLlEM yn gweithredu fel canolwr er mwyn setlo rhwng hawlwyr a diffynyddion.

Cynhwysir gweddilliau arian parod trydydd partïon yn y gweddill Arian parod a'r hyn sy'n

48| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

cyfateb iddo a ddatgelir yn nodyn 14 ac yn y gweddill Symiau masnach a symiau taladwy eraill yn nodyn 16, ac felly ni chânt ddim effaith net ar y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol.

Offerynnau ariannol

Cydnabyddiaeth

Cydnabyddir asedau ariannol a rhwymedigaethau ariannol sy'n codi yn sgil contractau ar gyfer prynu a gwerthu eitemau anariannol (megis nwyddau neu wasanaethau), a wneir yn unol â gofynion prynu, gwerthu neu ddefnyddio arferol GLlEM, ar yr adeg ac i'r graddau y bydd hynny'n digwydd. Cydnabyddir pob ased ac ymrwymiad ariannol arall pan ddaw GLlEM yn barti i ddarpariaethau'r contract ar gyfer derbyn taliadau neu eu talu.

Datgydnabod

Ystyrir datgydnabod ased ariannol pan ddaw'r hawliau contractaidd i lifau arian parod yr ased ariannol i ben, neu pan fydd GLlEM naill ai wedi trosglwyddo'r hawl contractaidd i dderbyn llif arian yr ased, neu wedi ysgwyddo rhwymedigaeth i dalu'r llifau arian hynny i un derbynnydd neu i fwy nag un, a dibynnu ar feini prawf penodol. Bydd GLlEM yn datgydnabod ased ariannol a drosglwyddir os trosglwyddir i raddau sylweddol yr holl risgiau a'r gwobrwyon sydd ynghlwm wrth fod yn berchen arno.

Categoreiddio a mesur

Categoreiddir asedau ariannol, ac eithrio Arian Parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo yn symiau Masnach a symiau derbyniadwy eraill ac fe'u mesurir ar ffurf cost wedi'i hamorteiddio.

Categoreiddir rhwymedigaethau ariannol yn symiau Masnach a symiau taladwy eraill ac fe'u mesurir ar ffurf cost wedi'i hamorteiddio.

Masnach a symiau derbyniadwy eraill

Asedau ariannol anneilliadol a chanddynt daliadau penodedig neu derfynadwy yw symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill ac ni chânt eu dyfynnu mewn marchnad fywiog. Mae symiau Masnach a symiau derbyniadwy eraill GLlEM yn cynnwys dyledwyr masnach a dyledwyr eraill, adneuau a blaendaliadau, refeniw cronnus, dyledwyr o fewn adrannau a dyledwyr rhyngadrannol. Cydnabyddir symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill i ddechrau ar sail gwerth teg ac fe'u mesurir ar ffurf cost wedi'i hamorteiddio gan ddefnyddio dull y gyfradd llog effeithiol. Dull o gyfrifo cost ased ariannol wedi'i hamorteiddio yw'r gyfradd llog effeithiol a dull o ddyrannu refeniw neu gost y llog dros y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio amcanlifau arian y dyfodol.

Amhariad ar asedau ariannol

Ar ddiwedd pob cyfnod adrodd, bydd GLlEM yn asesu a oes tystiolaeth wrthrychol fod amhariad ar ased ariannol neu ar grŵp o asedau ariannol. Bydd amhariad ar ased ariannol neu grŵp o asedau ariannol a bydd colledion amhariad yn digwydd os :

Bydd tystiolaeth wrthrychol o amhariad yn sgil colled ar ôl cydnabod yr ased yn y lle cyntaf a hyd at ddiwedd y cyfnod adrodd ('digwyddiad o golled');

yw'r digwyddiad o golled wedi effeithio ar amcanlifau arian yr ased ariannol yn y dyfodol neu ar y grŵp o asedau ariannol;

Oes modd amcangyfrif y swm mewn ffordd ddibynadwy.

Cofnodir asedau ariannol yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol net o unrhyw amhariad

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 49

Rhwymedigaethau ariannol

Cydnabyddir pob rhwymedigaeth ariannol i ddechrau ar sail gwerth teg, net o gostau unrhyw drafodion, ac wedyn, fe'u mesurir yn ôl cost wedi'i hamorteiddio gan ddefnyddio'r dull cyfradd llog effeithiol. Fe'u cynhwysir yn y rhwymedigaethau cyfredol, ac eithrio'r symiau sy'n daladwy fwy na deuddeg mis ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, sy'n cael eu categoreiddio'n rhwymedigaethau anghyfredol. Defnyddir y dull cyfradd llog effeithiol i gyfrifo'r llog ar rwymedigaethau ariannol sy'n cael eu cario yn ôl cost wedi'i hamorteiddio, ac fe'u priodolir i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Treth Ar Werth (TAW)

Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau GLlEM y tu allan i gwmpas TAW. Priodolir TAW nad oes modd ei hadennill i'r categori gwariant perthnasol neu fe'i cynhwysir yng nghost prynu cyfalaf asedau.

Newidiadau Peirianwaith y Llywodraeth

Ystyrir trosglwyddo cyfrifoldeb o'r naill ran o'r sector cyhoeddus i ran arall ohono yn elfen o newidiadau Peirianwaith y Llywodraeth a defnyddir egwyddorion cyfrifyddu ar gyfer uno. Bydd GLlEM yn rhoi'r egwyddorion hyn ar waith yng nghyswllt newidiadau ym Mheirianwaith y Llywodraeth sy'n berthnasol i'r Cyfrifon, ond ymdrinnir â throsglwyddiadau amherthnasol fel trafodion o fewn y llywodraeth.

Darpariaeth ar gyfer pensiynau

Mae'r rhan fwyaf o weithwyr presennol a chyn-weithwyr GLlEM yn dod o dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) ac mae aelodau'r Farnwriaeth yn dod o dan y Cynllun Pensiwn Barnwrol (JPS). Caiff y buddion pensiwn sy'n daladwy o dan y PCSPS eu hariannu'n flynyddol drwy gyfrwng adnoddau ar wahân y bydd y Senedd yn pleidleisio yn eu cylch bob blwyddyn. Ariennir cynllun y JPS o'r gronfa gyfnerthedig.

Cynlluniau buddion diffiniedig sawl-cyflogwr yw'r cynlluniau pensiwn. Ni all GLlEM ganfod faint o gyfran sydd ganddo o ran asedau a rhwymedigaethau gwaelodol y cynlluniau. Ymdrinnir â'r cynlluniau pensiwn fel cynlluniau cyfraniadau diffiniedig o fewn Cyfrifon GLlEM. Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn codi dyraniad ar gyfer cost flynyddol y cynlluniau pensiwn ar GLlEM, ac fe bennir hwnnw ar sail actiwaraidd. Mae'r tâl a godir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cael ei gydnabod fel cost gweithwyr yng Nghyfrifon GLlEM.

Mae GLlEM wedi cydnabod darpariaeth ar gyfer y diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn a gododd yn sgil trosglwyddo gweithwyr o Bwyllgorau'r Llysoedd Ynadon i GLlEM yn 2005, gan fod hyn yn rhwymedigaeth ychwanegol a gyfrifwyd o dan gytundeb ar wahân gyda'r PCSPS. Mae'r ddarpariaeth hon yn cael ei phrisio'n ffurfiol bob blwyddyn gan Adran Actiwari'r Llywodraeth ac mae'r swm sy'n cael ei gofnodi yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol yn adlewyrchu'r prisiad hwn.

Darpariaeth ar gyfer costau ymadael yn gynnar

Mae gofyn i GLlEM dalu cost ychwanegol buddion y tu hwnt i fuddion arferol PCSPS i weithwyr sy'n ymddeol yn gynnar, oni bai fod yr ymddeoliad hwnnw'n digwydd ar sail feddygol gymeradwy. Darperir cyfanswm y gost yn ei gyfanrwydd pan fydd y rhaglen ymadael yn gynnar neu'r cytundeb unigol yn rhwymo GLlEM. Mesurir y ddarpariaeth yn ôl gwerth presennol yr arian y mae gofyn ei wario i setlo'r rhwymedigaeth. Os yw'r effaith yn faterol berthnasol, disgowntir yr amcanlifau arian sydd wedi'u haddasu ar gyfer risg, gan ddefnyddio'r gyfradd nominal a bennwyd gan Drysorlys EM (2010-11: 5.6% a 2009-10: 4.6%) Mae'r cynnydd yn y ddarpariaeth gyda threigl amser yn cael ei gydnabod yn gost llog.

50| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Darpariaethau eraill

Cydnabyddir darpariaethau eraill pan fydd :

Rhwymedigaeth gyfreithlon neu ffeithiol ar GLlEM ar y pryd yn sgil digwyddiadau'r gorffennol;

Yn debygol y bydd gofyn defnyddio adnoddau er mwyn setlo'r rhwymedigaeth;

Y gellir amcangyfrif y swm mewn ffordd ddibynadwy.

Mesurir y ddarpariaeth yn ôl gwerth presennol yr arian y disgwylir y bydd gofyn ei wario i setlo'r rhwymedigaeth. Lle bydd yr effaith yn faterol berthnasol, disgowntir yr amcanlifau arian. Caiff y cynnydd yn y ddarpariaeth yn sgil treigl amser ei gydnabod yn gost llog.

Ni chydnabyddir darpariaethau ar gyfer colledion gweithredol yn y dyfodol.

Rhwymedigaethau posibl

Yn ogystal â'r rhwymedigaethau posibl a ddatgelir yn unol ag IAS 37, bydd GLlEM yn datgelu, at ddibenion adroddiadau i'r Senedd ac atebolrwydd, rwymedigaethau statudol ac anstatudol posibl penodol lle mae'n annhebygol y trosglwyddir budd economaidd, a hynny'n unol â'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y canllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus.

Lle bydd gwerth amser arian yn faterol berthnasol, mesurir rhwymedigaethau posibl y mae gofyn eu datgelu o dan IAS 37 fel symiau wedi'u disgowntio. Datgenir rhwymedigaethau posibl nad oes gofyn adrodd yn eu cylch o dan IAS 37 yn y swm yr adroddir yn ei gylch i'r Senedd.

Asedau posibl

Datgelir asedau posibl pan fydd ased posibl yn codi yn sgil digwyddiad yn y gorffennol ac mai'r unig ffordd o gadarnhau ei fodolaeth yw bod un digwyddiad ansicr yn y dyfodol neu fwy nag un digwyddiad o'r fath yn digwydd neu beidio ac nad yw hynny'n llwyr o dan reolaeth GLlEM.

Cronfa Gyffredinol

Credydir arian a geir gan y llywodraeth i'r Gronfa Gyffredinol o fewn Ecwiti Trethdalwyr yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol pan dderbynnir yr arian hwnnw.

Newidiadau o ran polisi cyfrifyddu a datgelu

Newidiadau o ran polisi cyfrifyddu

Prydlesi - IAS 17 (Diwygio)

Mae GLlEM wedi mabwysiadu'r IAS 17 diwygiedig ers 1 Ebrill 2010, sy'n mynnu bod prydles ar dir yn ddarostyngedig i feini prawf cyffredinol IAS 17 sy'n ymwneud â phrydlesi. Lle bydd prydles tir yn trosglwyddo i raddau sylweddol yr holl risgiau a'r gwobrwyon sydd ynghlwm wrth berchnogaeth y tir i'r prydlesai, yna, prydles gyllidol fydd y brydles honno; fel arall, prydles weithredol fydd hi.

Yn y gorffennol, byddai'r safon yn pennu mai prydles weithredol fyddai prydles ar dir ac iddi oes economaidd amhenodol, oni ddisgwylid i'r teitl gael ei drosglwyddo i'r prydlesai ar ddiwedd cyfnod y brydles.

Yn sgil mabwysiadu'r gwelliant, bu'n rhaid ailddatgan ffigurau cymharol y flwyddyn flaenorol. O'u cymharu â Chyfrifon 2009-10, mae hyn wedi arwain at gynnydd o £43.4m o ran Eiddo ac offer, gostyngiad o £19.1m o ran rhagdaliadau ar Brydlesi, cynnydd o £5.3 o ran symiau Masnach a symiau taladwy eraill, gostyngiad o £11.3m yn y gronfa Gyffredinol

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 51

a chynnydd o £30.3m yn y Cronfeydd Ailbrisio. Adlewyrchir y newidiadau hyn yng ngholofn ailddatgan 2009-10 y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol.

Prosiect Cysoni Trysorlys EM (Gweld yn Glir) - Gwariant tybiannol

Mae GLlEM wedi mabwysiadu gofyniad gwariant tybiannol diwygiedig 2010-11 FReM ers 1 Ebrill 1, sy'n golygu nad yw GLlEM yn codi costau cyfalaf tybiannol rhagor.

Cyn hynny, cynhwysid tâl a oedd yn adlewyrchu cost y cyfalaf a ddefnyddid gan GLlEM yn y costau cyllid. Pennwyd y tâl hwn gan Drysorlys ei Mawrhydi, sef 3.5% o werth cario asedau net ac eithrio: symiau'n ddyledus i'r gronfa gyfnerthedig neu ohoni, blaendaliadau o'r gronfa wrth gefn, arian parod a ddelid gan Swyddfa Talfeistr Cyffredinol EM, a symiau'n ddyledus i endidau yn nheulu'r Weinyddiaeth Cyfiawnder neu ohonynt drwy drafodion rhyngasiantaethol.

Yn sgil mabwysiadu'r gwelliant, bu'n rhaid ailddatgan ffigurau cymharol y flwyddyn flaenorol. O'u cymharu â Chyfrifon 2009-10, mae hyn wedi arwain at ostyngiad o £74.0m yng nghostau Cyllid a gostyngiad o £74.0m yn y Gronfa Gyffredinol. Adlewyrchir y newidiadau hyn yng ngholofn ailddatgan 2009-10 yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr ac yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol, yn y drefn honno.

Prosiect Cysoni Trysorlys EM (Gweld yn Glir) - Amhariad

Mae GLlEM wedi mabwysiadu IAS 36 FReM a addaswyd yn 2010-11 ers 1 Ebrill 2010, sy'n mynnu bod amhariadau sy'n digwydd oherwydd budd economaidd neu botensial gwasanaeth amlwg yn cael eu cofnodi'n uniongyrchol yn y Datganiad ynglŷn â'r Gwariant Net Cynhwysfawr gydag unrhyw weddill ar ôl ailbrisio'n cael ei ryddhau i'r Gronfa Gyffredinol.

Cyn hynny, byddai pob amhariad, ac eithrio ar gyfer asedau a gategoreiddid yn rhai 'a gedwid i'w gwerthu', yn cael eu cofnodi gyntaf yn erbyn unrhyw weddill a oedd ar gael ar ôl ailbrisio, ac wedyn ar y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Yn 2010-11, wrth fabwysiadu'r addasiad, gwelwyd cynnydd o £59.4m o ran costau gweithredu eraill, gostyngiad o £5.1m o ran Cronfeydd Ailbrisio a chynnydd o £5.1m yn y Gronfa Gyffredinol. Ni chafodd y newid hwn ddim effaith ariannol ar ffigurau cymharol y flwyddyn flaenorol.

Prosiect Cysoni Trysorlys EM (Gweld yn Glir) - Datganiadau Ymddiriedaeth

O 2010-11 ymlaen, mae Trysorlys EM yn mynnu bod adrannau'r Llywodraeth sy'n casglu refeniw sylweddol drwy drethi, tollau, dirwyon a chosbau, ar ran y Gronfa Gyfnerthedig, yn paratoi Datganiad Ymddiriedaeth annibynnol sy'n adrodd yn benodol ynglŷn â'r gweithgareddau ariannol sy'n berthnasol i gasgliadau o'r fath.

Felly, mae GLlEM, Asiantaeth Weithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder sy'n gyfrifol am gasglu dirwyon a chosbau ariannol a orfodir drwy'r system cyfiawnder troseddol, yn paratoi Datganiad Ymddiriedaeth annibynnol ar gyfer 2010-11 a dylid darllen hwnnw ar y cyd ag Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol GLlEM.

Mae Cyfarwyddyd Cyfrifon Trysorlys EM 2010-11 yn mynnu bod y Datganiad Ymddiriedaeth yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yr un pryd ag y cyflwynir Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol GLlEM. Yn 2010-11, mae Trysorlys EM wedi cytuno y ceir cyflwyno'r Datganiad Ymddiriedaeth ar wahân i Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol GLlEM. Felly mae dyddiad cyflwyno'r Datganiad Ymddiriedaeth ar ôl dyddiad llofnodi Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol GLlEM.

52| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Rhestrir prif ofynion adrodd y Datganiad Ymddiriedaeth ym Mhennod 13 o Lawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM). Mae rheolwyr GLlEM wedi adolygu'r gofynion hyn ac wedi penderfynu nad yw paratoi'r Datganiad Ymddiriedaeth yn cael effaith sylweddol ar Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol GLlEM.

Cyfeirir drwy'r nodiadau ynglŷn â'r Cyfrifon at weddilliau allweddol yr adroddir yn eu cylch yn y Datganiad Ymddiriedaeth.

Mabwysiadu safonau cyfrifyddu newydd yn gynnar

Ni fabwysiadwyd yr un safon cyfrifyddu newydd yn gynnar gan GLlEM yn ystod y flwyddyn.

Safonau cyfrifyddu newydd i'w mabwysiadu

IFRS 9 ‘Offerynnau ariannol:

Bwriad yr IASB yw y bydd IFRS 9 yn disodli Offerynnau Ariannol IAS 39: Cydnabod a Mesur yn ei gyfanrwydd. Cyhoeddwyd rhan gyntaf y cyfarwyddiadau, sef y penodau sy'n ymwneud â Chategoreiddio, mesur a rhwymedigaethau ariannol. Bydd rhannau diweddarach yn ymdrin â rhwymedigaethau ariannol a chyfrifyddu rhagfantoli. Mae IFRS 9 yn symleiddio'r ffordd y caiff asedau ariannol eu categoreiddio a'u mesur, gan ddileu'r categorïau niferus o asedau ariannol a bennir yn IAS 39, gan arwain at un dull ar gyfer trin amariadau. Mae'r safon newydd yn berthnasol i gyfnod cyfrifyddu sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2013 neu wedi hynny ac ni ddisgwylir iddi effeithio'n sylweddol ar GLlEM

IFRS 13 - Mesur gwerth teg

Cyhoeddodd yr IASB IFRS 13 ym mis Mai 2011 i hyrwyddo cysondeb o ran mesur gwerth teg ar draws sawl IFRS. Mae'n sefydlu un ffynhonnell o ganllawiau ar gyfer mesur pob gwerth teg, yn egluro sut y diffinnir gwerth teg (a'r canllawiau cysylltiedig) ac yn cryfhau datgeliadau ynglŷn â mesuriadau gwerth teg. Mae'r safon newydd yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2013 neu wedi hynny ac ni ddisgwylir iddi effeithio'n sylweddol ar GLlEM.

2 Amcangyfrifon a barnau cyfrifyddu hanfodol

Bydd amcangyfrifon a barnau'n cael eu gwerthuso’n barhaus ac fe’u seilir ar brofiad hanesyddol a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau ynglŷn â digwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Amcangyfrifon a thybiaethau cyfrifyddu hanfodol

Bydd GLlEM yn gwneud amcangyfrifon a thybiaethau ynghylch y dyfodol. Anaml y bydd yr amcangyfrifon cyfrifyddu yn sgil hyn, yn ol eu diffiniad, yn cyfateb i’r union ganlyniadau. Sonnir isod am yr amcangyfrifon a’r tybiaethau sydd yn peri risg sylweddol o ran achosi addasiad materol berthnasol i symiau cario'r asedau a'r rhwymedigaethau o fewn y flwyddyn ariannol nesaf.

Prisio’r eiddo a’r offer

Mae tir ac adeiladau (gan gynnwys anheddau) yn cynnwys cyfleusterau’r llysoedd yn bennaf. Dangosir tir ac adeiladau yn ôl eu gwerth teg wedi’i seilio ar brisiadau proffesiynol. Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy'n gwneud y gwaith prisio yn unol â Llawlyfr Gwerthuso a Phrisio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), a elwir yn "Llyfr Coch".

Prisir y rhan fwyaf o'r adeiladau ar sail cost dibrisiant darparu adeiladau modern cyfatebol yn eu lle. Mesurir pob adeilad arall yn ôl eu gwerth teg a bennir ar sail tystiolaeth y

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 53

farchnad. Mae gwerth tir ac adeiladau GLlEM yn amrywio wrth i gostau adeiladu newid ac yn sgil newid yng ngwerth cyfredol tir ac adeiladau ar y farchnad. Disgrifir y polisi cyfrifyddu ar gyfer tir ac adeiladau yn nodyn 1 a rhoddir gwybodaeth am y tir a’r adeiladau yn nodyn 9.

Darpariaeth ar gyfer diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn

Mae gwerth presennol rhwymedigaethau'r diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau a bennir ar sail actiwaraidd a gwerth yr asedau gwaelodol sydd i’w trosglwyddo i Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae’r asedau sydd i’w trosglwyddo’n cynnwys giltiau, bondiau, ecwitïau, arian parod ac eiddo. Felly, bydd elfennau o’r gwir rwymedigaeth sydd i’w hysgwyddo gan GLlEM yn ansicr o hyd, yn sgil nifer o ffactorau. Disgrifir y polisi cyfrifyddu ar gyfer diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn yn nodyn 1 a cheir rhagor o wybodaeth am y diffyg hwn yn nodyn 17.1.

Barnau hollbwysig wrth roi polisïau cyfrifyddu GLlEM ar waith

Cyfrifyddu prydlesi

Mae angen llunio barn wrth gategoreiddio prydlesi yn y lle cyntaf a phenderfynu ai prydlesi gweithredol ynteu brydlesi cyllidol ydynt. Lle codir prydles ar gyfer tir ac adeiladau gyda’i gilydd, bydd yn bosibl cyfalafu elfen yr adeilad ac elfen y tir fel prydlesi cyllidol ar wahân os byddant yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer prydles gyllidol. Oni chaiff taliadau'r brydles eu rhannu rhwng y tir a’r adeiladau yng nghontract y brydles, rhennir y taliadau ar sail gwerth y tir a’r adeiladau ar y farchnad pan roddir y brydles ar waith. Disgrifir y polisi cyfrifyddu ar gyfer prydlesi yn nodyn 1.

3 Dadansoddi segmentaidd

Gwybodaeth am segmentau

At ddibenion rheoli, trefnir GLlEM yn chwe Rhanbarth, GLlEM Cymru a Grwp y Llysoedd Barn Brenhinol.

At ddibenion adroddiadau ariannol, seilir fformat adroddiadau ynglŷn â'r segmentau ar y ffordd y bydd y Prif Benderfynwr yn monitro canlyniadau'r segmentau er mwyn gwneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau.

Dyma segmentau gweithredu GLlEM yr adroddir yn eu cylch:

Rhanbarth Llundain;

Rhanbarth Gogledd Ddwyrain Lloegr;

Rhanbarth De Ddwyrain Lloegr;

Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr;

Rhanbarth Canolbarth Lloegr;

Rhanbarth De Orllewin Lloegr;

GLlEM Cymru; a

Grŵp y Llysoedd Barn Brenhinol

Mesurir costau net segmentau gweithredu ar yr un sail â’r symiau cyfatebol yr adroddir yn eu cylch mewn datganiadau ariannol. Ni chafwyd dim trafodion rhwng segmentau yn y flwyddyn (2009-10:dim).

54| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Costau net

Rhestrir y gwasanaethau sy'n codi tâl ar y segmentau gweithredu yr adroddir yn eu cylch yn nodyn 1.

Yn y tablau isod, cyflwynir yr wybodaeth ariannol a werthusir gan y Prif Benderfynwr (ar gyfer GLlEM, y Prif Benderfynwr Gweithredol yw’r Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu) wrth benderfynu sut mae dyrannu adnoddau ac wrth asesu perfformiad.

Mae’r tabl isod yn cyflwyno costau net fesul segment gweithredu yr adroddir yn ei gylch ar gyfer y flwyddyn.

2010-11 Ailddatgan 2009-10

£000 £000

Rhanbarth Llundain (157,842) (159,114)

Rhanbarth Gogledd Ddwyrain Lloegr (108,963) (113,184)

Rhanbarth De Ddwyrain Lloegr (134,487) (140,104)

Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr (114,235) (119,372)

Rhanbarth Canolbarth Lloegr (129,169) (133,021)

Rhanbarth De Orllewin Lloegr (79,618) (85,352)

GLlEM Cymru (45,523) (49,069)

Grŵp y Llysoedd Barn Brenhinol (56,161) (56,504)

Costau net segment (825,998) (855,720)

Symiau eraill * (338,713) (232,678)

Costau net (1,164,711) (1,088,398)

Priodolir symiau eraill, £338.7m (2009-10: £232.7m) i’r costau canolog net nas dyrennir i segmentau y gellir eu dynodi. Mae’r newid o’r naill flwyddyn i’r llall yn bennaf oherwydd y symud yn y ddarpariaeth ar gyfer y diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn. Gweler rhagor o fanylion yn nodyn 17.1.

4 Ffioedd a thaliadau

Mae gofyn i GLlEM, yn unol â 'Managing Public Money' EM, ddatgelu canlyniadau perfformiad ar gyfer y meysydd gweithgarwch hynny lle codir ffioedd a thaliadau. Darperir yr wybodaeth a ganlyn at ddibenion Ffioedd a Thaliadau ac nid at ddibenion IFRS 8.

Dim ond gan fusnes sifil y mae ‘na system ffioedd llys ar waith i dalu ei gostau. Yr amcan polisi ac ariannol yw adennill cost lawn y prosesau sydd ar waith llai cost talu am ddiddymu ffioedd. Pwrpas y system diddymu ffioedd yw sicrhau na chaiff pobl eu hatal rhag defnyddio'r llysoedd os na allant mewn gwirionedd fforddio'r ffi.

Bydd GLlEM yn cyflwyno adroddiad am y segment busnes sifil o’i gymharu â’i bedwar llif busnes. teulu, sifil (llysoedd uwch); profiant diwrthwynebiad a sifil (llysoedd ynadon). Yn yr adolygiad diweddaraf o wariant gan y llywodraeth, Arolwg o Wariant 2010 (SR10), cadarnhaodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder ei bod yn dal yn benderfynol o ddarparu trefn ffioedd symlach fwy cynaliadwy sy'n sicrhau bod yr holl gostau'n cael eu hadennill ar gyfer cyfiawnder sifil, teulu a gweinyddol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 55

Refeniw ffioedd

gros

Refeniw a gollwyd

drwy REMEX

Refeniw Ffioedd

net Costau

Refeniw ffioedd

net /(costau)

Refeniw ffioedd

gros/(costau)

Adennill ffioedd canran

wirioneddol

Adennill ffioedd canran darged

£000 £000 £000 £000 £000

(Nodiadau 1,2)

£000 % (Nodyn 3 %

Busnes sifil

Teulu 117,597 (16,644) 100,953(235,873) (134,920) (118,276) 50 100

Sifil (llysoedd uwch) Nodyn 4) 338,564 (11,000) 327,564(342,129) (14,565) (3,565) 99 100

Profiant 16,715 (14) 16,701 (14,482) 2,219 2,233 115 100

Sifil (llysoedd ynadon) 18,829 (135) 18,694 (20,019) (1,325) (1,190) 94 100

Cyfanswm busnes sifil 491,705 (27,793) 463,912(612,503) (148,591) (120,798) 80 100

Cyfanswm busnes sifil 2009-10 507,092 (27,853) 479,239(619,004) (139,765) (111,912) 82 100

Nodiadau: 1 Mae’r costau uchod yn cynnwys costau barnwrol a ysgwyddir yn uniongyrchol gan y Gronfa Gyfnerthedig a

chost dybiannol ar gyfer yswiriant. 2 Cynhwysir cyfanswm yr adnoddau a wariwyd gan GLlEM ar foderneiddio systemau TG sifil a theulu. 3 Pennir y targed ar gyfer adennill ffioedd drwy ddefnyddio incwm gros o’i gymharu â gwariant; mae hyn yn

cydymffurfio â chanllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys EM ynghylch pennu ffioedd ‘ar sail cost’ Atodiad 6.2.

4 Mae Sifil (llysoedd uwch) yn cynnwys y Llys Gwarchod.

Mae GLlEM wedi cydnabod refeniw gwerth £144.0m (2009-10: £133.2m) a threuliau gwerth £1,160.1m (2009-10: £1081.8m) yng nghyswllt ei weithgareddau troseddol a’i weithgareddau busnes eraill.

Cyflwynodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder newidiadau i ffioedd teulu ar 1 Medi 2010. Seiliwyd y cynnydd ar gyfradd chwyddiant, gan ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Manwerthu ers dyddiad y cynnydd diwethaf, gyda'r rhan fwyaf o'r cynnydd mewn ffioedd wedi’i seilio ar gyfradd chwyddiant ers 2006 hyd at fis Mawrth 2010 (14.12%). Bydd y cynnydd bychan hwn hefyd yn gam effeithiol dros dro i leihau’r diffyg yn y ffioedd teulu nes daw canlyniad y diwygiadau cyfiawnder teulu a newidiadau mawr eraill yn hysbys.

Dyma'r gorchmynion sy’n ymwneud â ffioedd ar hyn o bryd:

Gorchymyn Ffioedd Achosion Sifil (Diwygio) 2009 [1498] sy’n diwygio Gorchymyn Ffioedd Achosion Sifil (Diwygio) 2008 [rhif 2853] a Gorchymyn Ffioedd Achosion Sifil 2008 Rhif 1053 (L.5),

Gorchymyn Ffioedd Achosion Teulu (Diwygio) 2010 [1916] sy’n diwygio Gorchymyn Ffioedd Achosion Teulu (Diwygio) 2009 [1499]. Gorchymyn Ffioedd Achosion Teulu (Diwygio) 2008 [ rhif 2856] a Gorchymyn Ffioedd Achosion Teulu 2008 Rhif 1054 (L.6),

Gorchymyn Ffioedd Profiant Diwrthwynebiad (Diwygio) 2009 [1497] sy’n diwygio Gorchymyn Ffioedd Profiant Diwrthwynebiad (Diwygio) 2008 [rhif 2854] a Gorchymyn Ffioedd Diwrthwynebiad 2004 Rhif 3120 (L.22); a

56| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon (Diwygio Rhif 2) 2010 [1917] sy’n diwygio Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon (Diwygio 2010 [731], Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon (Diwygio) 2009 [1496], Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon (Diwygio) 2008 [2855] a Gorchymyn Ffioedd Llysoedd Ynadon 2008 rhif 1052 (L.4).

5 Costau gweinyddu a rhaglenni

O blith cyfanswm y costau gweithredu net a ddangosir yn y Datganiad ynglŷn â'r Gwariant Net Cynhwysfawr, categoreiddir £15.3m (2009-10: £15.3m) yn gostau gweinyddu yn unol â gofynion cyllideb Trysorlys EM; costau rhaglenni yw’r costau eraill i gyd.

6 Refeniw

2010-11 2009-10

£000 £000

Refeniw ffioedd 463,912 479,239

Refeniw dirwyon 103,618 94,848

Refeniw rhenti 917 1,192

Refeniw amrywiol 39,474 37,141

Cyfanswm refeniw 607,921 612,420

Refeniw ffioedd

Mae refeniw ffioedd yn cynnwys symiau a dderbyniwyd gan y pedair llif busnes fel y'u dangosir yn nodyn 4.

Refeniw dirwyon

Mae gan GLlEM yr hawl i gadw'n refeniw elfennau o’r dirwyon a gesglir. Mae costau dirwyon yn cynnwys refeniw gorfodi gwarantau, refeniw Deddf y Llysoedd, refeniw cymhellion i gasglu dirwyon a refeniw adennill asedau. Cyfrannodd refeniw gorfodi gwarantu £66.6m (2009-10: £66.6m); cyfrannodd refeniw cymhellion i gasglu dirwyon £18.3m (2009-10: £10.6m); cyfrannodd refeniw adennill asedau £11.8m (2009-10: £10.7m) a derbyniwyd £6.9m (2009-10: £6.9m) o refeniw Deddf y Llysoedd tuag at roi cynlluniau ar waith sy’n gysylltiedig â lledaenu Deddf Llysoedd 2003.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am weithgareddau casglu dirwyon yn y Datganiad Ymddiriedaeth.

Refeniw rhenti

Mae refeniw rhenti'n cynnwys rhent eiddo buddsoddi, isosod a rhenti eraill a delir gan breswylwyr ystâd GLlEM.

Refeniw amrywiol

Roedd refeniw amrywiol yn cynnwys £0.8m (2009-10: £1.1m) o gynlluniau ehangach y farchnad: £4.7m (2009-10: £5.9m) o refeniw partneriaeth camerâu diogelwch, ffioedd beilïod: £18.5m (2009-10: £14.4m); taliadau gwasanaeth y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol: £12.1m (2009-10: £10.8m); a refeniw arall: £3.4m (2009-10: £4.9m).

7 Costau a niferoedd staff a'r farnwriaeth

Rhennir costau a niferoedd staff rhwng y rheini ar gyfer gweithwyr GLlEM a rheini ar gyfer aelodau’r farnwriaeth.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 57

Nodiadau 2010-11 2009-10

£000 £000

Costau staff 7.1 553,315 556,061

Costau’r farnwriaeth 7.2 291,497 290,014

Cyfanswm costau staff a’r farnwriaeth 844,812 846,075

7.1 Costau a niferoedd staff

2010-11 2009-10

£000 £000

Cyflogau misol ac wythnosol 437,856 453,412

Costau nawdd cymdeithasol 28,552 29,924

Cyfraniadau pensiwn y cyflogwr 72,571 73,820

Ymadael yn gynnar yn wirfoddol 15,285 -

554,264 557,156

Ychwaneger: Secondiadau i mewn 955 1,066

555,219 558,222

Llai: Adenillion yng nghyswllt secondiadau allan (1,904) (2,161)

Cyfanswm costau staff 553,315 556,061

Ym mis Rhagfyr 2010, cynigiodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder gynllun Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol i weithwyr dethol yn GLlEM. Roedd telerau’r cynllun a gynigiwyd yn unol â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ym mis Rhagfyr 2010. Mae costau’r Cynllun Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol yn cynnwys symiau a dalwyd i unigolion a dderbyniodd y cynnig ac y cymeradwywyd eu cais er mwyn iddynt adael yn 2010-11. Mae’n cynnwys taliadau yn lle rhybudd ac iawndal yn lle rhybudd lle'r oedd hynny’n berthnasol. Yn unol â thelerau cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, ni thalwyd symiau ex-gratia i unigolion a adawodd o dan y cynllun Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol.

Nid oedd dim diswyddiadau gorfodol yn ystod y flwyddyn.

Dyma grynodeb o’r nifer a adawodd o dan y cynllun. Oherwydd i’r cynllun Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol ddechrau yn 2010-11, nid oes modd cymharu â'r blynyddoedd cynt.

Cost y pecyn ymadael*

Nifer y diswyddiadau

gorfodol

Nifer yr ymadawiadau

gwirfoddol y cytunwyd arnynt

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael

yn ôl cost

<£10,000 - 4 4

£10,000-£25,000 - 32 32

£25,000-£50,000 - 80 80

£50,000-£100,000 - 91 91

£100,000-£150,000 - 25 25

£150,000-£200,000 - 9 9

58| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

£200,000-£250,000 - 1 1

£250,000-£300,000 - 1 1

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl math - 243 243

Cyfanswm cost adnoddau (£000) - 15,285 15,285

*Mae’r costau hyn yn cynnwys taliadau yn lle rhybudd ac iawndal yn lle rhybudd lle’r oedd y rheini’n briodol. Ni thalwyd dim symiau ex-gratia i unigolion a adawodd o dan y cynllun gadael yn gynnar yn wirfoddol.

Talwyd costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, cynllun statudol a wnaethpwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Rhoddir cyfrif llawn am gostau ymadael pan fydd GLlEM wedi cytuno y caiff rhywun ymadael a'i fod wedi ymrwymo i hynny. Lle bydd GLlEM wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, GLlEM , nid cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil fydd yn talu’r costau ychwanegol. Telir costau ymddeol oherwydd afiechyd gan y cynllun pensiwn ac nid yw’r rhain wedi’u cynnwys yn y tabl.

Nifer gyfartalog staff sy’n cyfateb i amser llawn a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys aelodau’r Bwrdd ond ac eithrio staff asiantaeth a chontract, oedd:

2010-11 2009-10

Cyfateb i amser llawn ar gyfartaledd

Cyfateb i amser llawn ar gyfartaledd

Pencadlys GLlEM 526 552

Rhanbarth Llundain 2,789 2,880

Rhanbarth Gogledd Ddwyrain Lloegr 2,522 2,612

Rhanbarth De Ddwyrain Lloegr 2,550 2,700

Rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr 2,468 2,578

Rhanbarth Canolbarth Lloegr 2,808 2,986

Rhanbarth De Orllewin Lloegr 1,706 1,830

GLlEM Cymru 965 1,015

Grŵp y Llysoedd Barn Brenhinol 1,104 1,138

Cyfanswm staff 17,438 18,291

Yn ogystal â nifer y staff sy’n cyfateb i amser llawn ar gyfartaledd a gyflogir, fel y’u rhestrir uchod, talodd GLlEM i 272 (2009-10:338) o staff asiantaeth a chontract.

Cynllun buddion diffiniedig aml-gyflogwr digronfa yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) sy’n paratoi ei gyfrifon ei hun, ond ni all GLlEM ddynodi ei gyfran o'r asedau a'r rhwymedigaethau gwaelodol ar ei gyfer. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2007. Mae'r manylion i'w gweld yng nghyfrifon adnoddau Blwydd-daliadau Sifil Swyddfa'r Cabinet (www.civilservice-pensions.gov.uk).

Ar gyfer 2010-11, roedd £72.6m (2009-10: £73.8m) yn daladwy i'r PCSPS ar ffurf cyfraniadau'r cyflogwr ar un o bedair cyfradd rhwng 16.7% a 24.3% o'r cyflog pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog. Adolygir cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd ar ôl i Actiwari'r Llywodraeth brisio'r cynllun yn ei gyfanrwydd. Mae cyfraddau'r cyfraniadau'n

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 59

adlewyrchu'r buddion wrth iddynt gronni, nid pan fydd y costau'n gostau mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu'r profiad a gafwyd wrth weithredu'r cynllun yn y gorffennol.

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau'r PCSPS. O 1 Hydref 2002 ymlaen, mae'n bosibl bod gweision sifil yn perthyn i un o dri chynllun buddion diffiniedig 'cyflog terfynol' statudol: clasurol, premiwm a chlasurol a mwy. Cynlluniau digronfa yw'r rhain, a bydd y Senedd yn pleidleisio bob blwyddyn i ddarparu arian i dalu am gost y buddion hyn. Bob blwyddyn, cynyddir pensiynau sy'n daladwy o dan y cynllun clasurol, y cynllun premiwm a'r cynllun clasurol a mwy, yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Caiff pobl sy'n ymuno o'r newydd ar ôl 1 Hydref 2002 ddewis naill ai fod yn aelod o'r cynllun premiwm neu ymuno â threfniant 'prynu arian' o safon i randdeiliaid a bydd y cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylweddol at hyn (cyfrif pensiwn drwy bartneriaeth).

Pennir cyfraniadau gweithwyr ar gyfradd o 1.5% o'r enillion pensiynadwy ar gyfer y cynllun clasurol ac ar gyfradd o 3.5% ar gyfer y cynllun premiwm a'r cynllun clasurol a mwy. Bydd buddion y cynllun clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o'r enillion pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth; a hefyd bydd taliad unswm sy'n cyfateb i dair blynedd o bensiwn pan fydd rhywun yn ymddeol. Bydd buddion y cynllun premiwm yn cronni ar raddfa o 1/60fed o'r enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth; ni thelir taliad unswm yn awtomatig ond caiff aelodau ddewis trosi rhywfaint o'u pensiwn i'w dderbyn ar ffurf taliad unswm. Amrywiad ar y cynllun premiwm yw'r cynllun clasurol a mwy, ond fe gaiff y buddion ar gyfer gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 eu cyfrifo'n fras yn yr un ffordd ag y bydd buddion y cynllun clasurol.

Trefniant pensiwn rhanddeiliaid yw'r cyfrif pensiwn drwy bartneriaeth. Bydd y cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol rhwng 3% a 12.5%, a dibynnu ar oedran yr aelod, at gynllun pensiwn rhanddeiliaid y bydd y gweithiwr yn ei ddewis. Nid oes yn rhaid i'r gweithiwr gyfrannu, ond os bydd yn gwneud hynny, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol i'r gronfa hyd at derfyn o 3% o'r cyflog pensiynadwy, a hynny ar ben cyfraniad sylfaenol y cyflogwr. Bydd cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.8% arall o'r cyflog pensiynadwy i dalu am gost gwarchod y buddion rhag risg drwy drefniant canolog (marwolaeth yn ystod gwasanaeth ac ymddeol oherwydd afiechyd).

7.2 Costau a niferoedd staff a'r farnwriaeth

Mae aelodau'r farnwriaeth yn annibynnol ar GLlEM. Telir costau eu cyflogres naill ai o'r gronfa gyfnerthedig, ar gyfer yr uwch farnwriaeth, neu'n uniongyrchol gan GLlEM ar gyfer aelodau eraill o'r farnwriaeth; cynhwysir pob cost yng Nghyfrifon GLlEM.

2010-11 2009-10

Cyflogau'r Cyflogau Cyfanswm Cyflogau'r Cyflogau Cyfanswm

60| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

uwch farnwriaeth

aelodau eraill y

farnwriaeth

uwch farnwriaeth

aelodau eraill y

farnwriaeth

£000 £000 £000 £000 £000 £000

Cyflogau misol ac wythnosol 128,461 81,168 209,629 129,403 78,789 208,192

Costau nawdd cymdeithasol 14,742 9,194 23,936 14,852 9,052 23,904

Cyfraniadau pensiwn y cyflogwr 41,238 16,694 57,932 41,511 16,407 57,918

Cyfanswm costau cyflogres y farnwriaeth 184,441 107,056 291,497 185,766 104,248 290,014

Talodd GLlEM gostau cyflogau 509 (2009-10: 498) o Farnwyr sy'n cyfateb i farnwyr amser-llawn. Talodd GLlEM hefyd am 57,076 o ddiwrnodau ychwanegol y telid ffi amdanynt (2009-10: 55,351 o ddiwrnodau y telid ffi amdanynt). Talwyd am gostau cyflogau 984 aelod arall o'r uwchfarnwriaeth (2009-10: 982 o aelodau) o'r gronfa gyfnerthedig.

Cynllun buddion diffiniedig aml-gyflogwr digronfa yw cynllun blwydd-daliadau'r farnwriaeth sy’n paratoi ei gyfrifon ei hun, ond ni all GLlEM ddynodi ei gyfran o'r asedau a'r rhwymedigaethau gwaelodol ar ei gyfer. Prisiwyd y cynllun yn llawn gan actiwarïaid ar 31 Mawrth 2009. Mae manylion i'w gweld yng nghyfrifon adnoddau'r JPS yn www.official-documents.co.uk.

Telir pensiynau barnwrol o'r gronfa gyfnerthedig lle y talwyd cyflog deilydd y swydd farnwrol o'r gronfa honno, neu o'r JPS os talwyd y cyflog o amcangyfrif cyflenwad yr adran. Mae blwydd-daliadau wedi'u cynnwys ar gyfer cyflogau barnwrol gan ddefnyddio cyfradd o 32.15%.

Mae'r buddion sy'n daladwy'n cael eu llywodraethu gan ddarpariaethau naill ai Ddeddf Pensiynau Barnwrol 1981 ar gyfer y deiliaid swyddi barnwrol hynny a benodwyd cyn 31 Mawrth 1995, neu Ddeddf Pensiynau ac Ymddeol Barnwrol 1993 ar gyfer y rheini sydd newydd eu penodi neu wedi'u penodi i swydd farnwrol wahanol ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 61

8 Costau gweinyddol eraill

8.1 Costau gweithredu eraill

Mae costau gweithredu eraill yn cynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn:

2010-11 Ailddatgan 2009-

10

£000 £000

Costau gweithredu

Llety, cynnal a chadw a phrif wasanaethau 206,707 232,729

Costau rheithwyr 42,813 42,063

Taliadau am wasanaethau 29,495 31,171

Cyfathrebu, cyflenwadau a gwasanaethau swyddfa 31,448 35,375

Costau gwasanaethau dan gontract 29,905 30,582

Gwasanaethau TG 16,417 17,802

Costau ymgynghorwyr 2,010 2,620

Costau staff eraill (gan gynnwys teithio a chynhaliaeth) 8,794 22,304

Costau barnwrol eraill (gan gynnwys teithio a chynhaliaeth) 29,812 32,494

Taliadau banc 3,887 3,178

Costau eraill 4,016 7,184

405,304 457,502

Prydlesi gweithredol

Costau rhentu eiddo 47,250 45,032

Gwariant arall 3,422 3,970

50,672 49,002

Costau nad ydynt yn arian parod

Talu i archwilwyr allanol - archwilio'r Cyfrifon 398 415

Talu i archwilwyr allanol - pontio IFRS - 100

(Elw)/colled net wrth waredu eiddo ac offer (90) 380

(Cynnydd)/gostyngiad yng ngwerth yr eiddo a'r offer (51,635) 191,960

Amhariad ar eiddo ac offer 63,679 -

Gostyngiad yng ngwerth teg eiddo buddsoddi 239 740

Gostyngiad yng ngwerth teg asedau a gedwir i'w gwerthu 75 231

Gostyngiad/(cynnydd) yng ngwerth teg asedau annirnadwy 292 (519)

Rhent tybiannol 1,783 1,988

Llinell syth taliadau prydlesi gweithredol 8,492 7,977

Rhagdalu am brydlesi gweithredol - amorteiddio 4 5

Cynnydd/(gostyngiad) mewn darpariaethau 178,045 (155,571)

Ad-daliadau o fewn adrannau 127,783 144,333

Gostyngiad yn amhariad cyfrifon derbyniadwy (27) (1,402)

329,038 190,637

Cyfanswm gweddill y costau gweithredu 785,014 697,141

62| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

8.2 Costau cyllid

Mae costau cyllid yn cynnwys y canlynol ar gyfer y flwyddyn:

2010-11

Ailddatgan 2009-10

£000 £000

Llog ar ddiffyg y trosglwyddiad pensiwn 9,968 20,553

Dirwyn disgownt ar ddarpariaethau i ben 5,146 6,039

Llog ar fenthyciad awdurdod lleol 2,268 2,685

Llog prydlesi cyllidol a mentrau cyllid preifat 10,716 11,252

Cyfanswm costau cyllid 28,098 40,529

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 63

9 Eiddo ac offer

2010-11

Tir ac eithrio

anheddau

Adeiladau ac eithrio

anheddau

Tir ar gyfer

anheddau AnheddauTechnoleg

Gwybodaeth Offer

Dodrefn darnau

gosod a gosodiadau

Asedau wrthi'n cael

eu hadeiladu Cyfanswm

Nodiadau 9.1, 9.3, 9.4

Nodiadau 9.1, 9.3, 9.4

Nodyn 9.2

Nodyn 9.2

£000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000

Prisiad neu gost

Ar ddechrau'r cyfnod 526,082 2,039,811 6,970 13,271 90,430 35,353 24,852 124,669 2,861,438

Asedau a gyflwynwyd yn sgil ffurfio GLlEM Nodyn 9.3. - - - - - - - - -

Ychwanegiadau 1,530 3,375 - - 1,397 3,996 2,398 127,134 139,830

Gwarediadau (320) (502) (330) (607) (104) (652) (43) (330) (2,888)

Ailbrisio (3,972) 13,682 253 (1,462) (2,812) 2,747 (1,115) - 7,321

Amhariad (20,150) (43,529) - - - - - - (63,679)

Ailgategoreiddio* - 98,280 - 1,092 2,724 376 15 (109,383) (6,896)

Asedau a ailgategoreiddiwyd yn asedau a gedwir i'w gwerthu (8,502) (8,882) - - - - - - (17,384)

Trosglwyddiadau i'r Weinyddiaeth Cyfiawnder - - - - (418) - - - (418)

Ar ddiwedd y cyfnod 494,668 2,102,235 6,893 12,294 91,217 41,820 26,107 142,090 2,917,324

Dibrisiant

Ar ddechrau'r cyfnod - - - - 71,922 18,095 10,437 - 100,454

Codwyd yn ystod y flwyddyn 316 81,041 11 783 11,416 5,334 2,302 - 101,203

Gwarediadau - - - - (89) (586) (15) - (690)

Ailbrisio (316) (81,041) (11) (783) (2,158) 1,495 (440) - (83,254)

Amhariad - - - - - - - - -

Ailgategoreiddio - - - - - - - - -

Trosglwyddiadau i'r Weinyddiaeth Cyfiawnder - - - - (303) - - - (303)

Ar ddiwedd y cyfnod - - - - 80,788 24,338 12,284 - 117,410

Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2011 494,668 2,102,235 6,893 12,294 10,429 17,482 13,823 142,090 2,799,914

*Yn ystod y flwyddyn, ailgategoreiddiodd GLlEM £6.9m net o Eiddo ac offer yn asedau

annirnadwy.

64| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Ailddatgan 2009-10

Tir ac eithrio

anheddau

Adeiladau ac eithrio

anheddauTir ar gyfer anheddau Anheddau

Technoleg gwybodaeth Offer

Dodrefn, darnau

gosod a gosodiadau

Asedau wrthi'n cael

eu hadeiladuCyfanswm

Nodiadau 9.1, 9.3

Nodiadau 9.1, 9.3

Nodyn 9.2

Nodyn 9.2

£000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000

Prisiad neu gost

Ar ddechrau'r cyfnod 509,404 2,276,681 5,285 12,235 79,470 29,816 22,329 131,051 3,066,271

Ailddatgan* 35,629 - 1,725 - - - - - 37,354

Ar ddechrau'r cyfnod (ailddatgan) 545,033 2,276,681 7,010 12,235 79,470 29,816 22,329 131,051 3,103,625

Asedau a gyflwynwyd yn sgil ffurfio GLlEM Nodyn 9.3. 525 2,241 - - - - - - 2,766

Ychwanegiadau 14,992 3,793 - - 437 3,734 2,236 102,678 127,870

Gwarediadau - (58) - - (898) (526) (3) (48) (1,533)

Ailbrisio (37,147) (344,293) (40) 599 11,326 642 290 - (368,623)

Amhariad - - - - - - - - -

Ailgategoreiddio 4,782 102,988 - 437 95 710 - (109,012) -

Asedau a ailgategoreiddiwyd yn asedau a gedwir i'w gwerthu (2,103) (1,541) - - - - - - (3,644)

Trosglwyddiadau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder - - - - - 977 - - 977

Ar ddiwedd y cyfnod 526,082 2,039,811 6,970 13,271 90,430 35,353 24,852 124,669 2,861,438

Dibrisiant

Ar ddechrau'r cyfnod - - - - 51,473 12,836 8,152 - 72,461

Ailddatgan* - - - - - - - - -

Ar ddechrau'r cyfnod (ailddatgan) - - - - 51,473 12,836 8,152 - 72,461

Codwyd yn ystod y flwyddyn 404 93,029 12 312 13,970 5,375 2,193 - 115,295

Gwarediadau - - - - (770) (414) (1) - (1,185)

Ailbrisio (404) (93,029) (12) (312) 7,249 298 93 - (86,117)

Amhariad - - - - - - - - -

Ailgategoreiddio - - - - - - - - -

Trosglwyddiadau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder - - - - - - - - -

Ar ddiwedd y cyfnod - - - - 71,922 18,095 10,437 - 100,454

Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2010 526,082 2,039,811 6,970 13,271 18,508 17,258 14,415 124,669 2,760,984

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 65

*Mae gweddilliau eiddo ac offer 2009-10 wedi'u hailddatgan yn sgil diwygio 'Prydlesi' IAS 17. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeirier at y Newidiadau yn y polisi cyfrifyddu a datgeliadau.

Nodiadau:

9.1 O dan dir ac adeiladau ac eithrio anheddau, cynhwysir asedau contract Menter Cyllid Preifat â'u gwerth net ar y llyfrau'n £193.1m (2009-10: £184.4m) a dibrisiant a briodolwyd yn y flwyddyn gwerth £4.0m (2009-10: £4.6m) hefyd asedau prydlesi cyllido â'u gwerth net ar y llyfrau'n £216.1m (2009-10: £197.3m) a dibrisio a briodolir yn y flwyddyn gwerth £7.1m (2009-10: £7.5m).

9.2 O dan Dir ar gyfer anheddau, cynhwysir prydlesi cyllidol â'u gwerth net ar y llyfrau'n £2.1m (2009-10: £1.8m) a dibrisiant a briodolwyd yn y flwyddyn gwerth £0.0m (2009-10: £0.01m). O dan Anheddau, cynhwysir asedau prydlesi cyllido â'u gwerth net ar y llyfrau'n £4.5,(2009-10: £4.4m) a dibrisiant a briodolwyd yn y flwyddyn gwerth £0.5m (2009-10: £0.01m).

9.3 Nid yw'r asedau a gyflwynwyd yn sgil ffurfio GLlEM, a ddangosir o fewn tir ac adeiladau ac eithrio anheddau, yn cynrychioli’r un (2009-10: pump) o'r eiddo sy'n weddill nas trosglwyddwyd i GLlEM yn 2005 yn sgil "Cynllun Trosglwyddo Eiddo (Diddymu Pwyllgorau Llysoedd Ynadon) 2005". Yn yr achosion hyn, datganwyd fod y trosglwyddo eiddo'n annilys mewn dyfarniad gan yr uchel lys yn 2005. Serch hynny, sicrheir yr hawl i ddefnyddio'r eiddo hyn at ddibenion y llysoedd ynadon drwy'r Cynllun Trosglwyddo Eiddo. Drwy gynnal trafodaethau wedyn â pherchnogion yr eiddo hyn, llwyddwyd i drosglwyddo'r teitl mewn ffordd ddilys.

Mae GLlEM yn ceisio negodi â pherchnogion y tri eiddo sy'n weddill (2009-10: tri) sy'n werth £2.6m (2009-10: £4.2m) i sicrhau trosglwyddiad dilys. O blith yr eiddo hyn, cofnodir dau (2009-10: dau) yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol gan nodi gwerth £2.5m (2009-10: £4.0m) oherwydd bod GLlEM yn ysgwyddo risgiau a gwobrwyon sydd ynghlwm â pherchnogaeth. Yn ystod 2009-10, cytunwyd ar deitl dilys ar gyfer 10 o'r eiddo yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol.

9.4 Fel rhan o adolygu rhesymoli parhaus y llysoedd, clustnodwyd i'w cau gyfanswm o 163 o adeiladau'r llysoedd a oedd yn cael eu tanddefnyddio i'w cau (categoreiddir wyth o'r rheini'n asedau a ddelir i'w gwerthu o 31 Mawrth 2011 ymlaen) dros y tair blynedd nesaf. Gan na ddisgwylir i'r llysoedd hyn ffurfio rhan o ystâd weithredol GLlEM rhagor yn y dyfodol, newidiwyd y dull o'u prisio ac yn lle eu seilio ar gost ddibrisiedig codi adeiladau yn eu lle, defnyddir gwerth teg llai'r costau gwerthu ar sail tystiolaeth y farchnad. Gan fod y newid hwn o ran dull prisio'n awgrymu gostyngiad parhaol yn eu gwerth, cyflwynwyd unrhyw amhariad yn syth i'r Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr, ac mae gweddill unrhyw Gronfa Ailbrisio wedi'i symud i'r Gronfa Gyffredinol.

Cyfanswm amhariad cau llysoedd ar gyfer 2010-11 oedd £59.4m (2009-10: £dim).

66| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

10 Eiddo buddsoddi

2010-11 2009-10

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 1,855 2,595

Gostyngiad yng ngwerth eiddo buddsoddi (239) (740)

Asedau a ailgategoreiddiwyd yn asedau a gedwir i'w gwerthu (nodyn 11) (616) -

Ar ddiwedd y cyfnod 1,000 1,855

Cydnabuwyd refeniw rhent eiddo buddsoddi gwerth £0.1m (2009-10: £0.1m) yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

Mae GLlEM yn prydlesu eiddo sy'n weddill ganddo o dan wahanol gytundebau sy'n dod i ben rhwng 2011 a 2012. Nid yw'r cytundebau hyn yn cynnwys opsiwn estyniad.

11 Asedau a ddelir i'w gwerthu

Fel rhan o adolygiad rhesymoli parhaus ar y llysoedd, mae GLlEM wedi ymrwymo i gynllun i werthu nifer o'r eiddo sydd dros ben ganddo (tir ac adeiladau) a ddefnyddid gynt i ddarparu gwasanaethau'r llysoedd. Dechreuwyd mynd ati o ddifrif i ganfod prynwr a chwblhau gwerthiant pob eiddo. Mae asiantau wrthi'n marchnata'r eiddo'n frwd. Mae'r eiddo ar gael i'w gwerthu yn eu cyflwr presennol ac mae'n debygol iawn y caiff yr eiddo eu gwerthu o fewn blwyddyn i ddyddiad categoreiddio'r Ased a gedwir i'w werthu yn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol.

Cynhwysir colled net ar waredu asedau a gedwir i'w gwerthu ar 1 Ebrill 1 2010 o £0.1m (elw net ar 1 Ebrill 2009 o £0.1m) yn yr elw/(colled) net adeg gwaredu eiddo ac offer o fewn Costau Gweithredu Eraill yn y Datganiad ynglŷn â Gwariant Net Cynhwysfawr.

2010-11 2009-10

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 4,103 3,055

Asedau a ailgategoreiddiwyd o eiddo ac offer (nodyn 9) 17,384 3,644

Asedau a ailgategoreiddiwyd o eiddo buddsoddi (nodyn 10) 616 -

Gostyngiad yng ngwerth teg asedau a gedwir i'w gwerthu (75) (231)

Gwarediadau (1,776) (2,365)

Ar ddiwedd y cyfnod 20,252 4,103

12

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 67

Asedau anniriaethol

2010-11

Technoleg

gwybodaeth

Asedau sydd wrthi'n cael eu

hadeiladu Cyfanswm

£000 £000 £000

Prisiad neu gost

Ar ddechrau'r cyfnod 17,162 54,487 71,649

Ychwanegiadau - 8,941 8,941

Gwarediadau - - -

Ailbrisio (753) - (753)

Ailgategoreiddio 65,314 (58,418) 6,896

Trosglwyddiadau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder 2,119 155 2,274

Ar ddiwedd y cyfnod 83,842 5,165 89,007

Amorteiddio

Ar ddechrau'r cyfnod 4,253 - 4,253

Codwyd yn ystod y flwyddyn 13,505 - 13,505

Gwarediadau - - -

Ailbrisio (129) - (129)

Ailgategoreiddio - - -

Trosglwyddiadau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder - - -

Ar ddiwedd y cyfnod 17,629 - 17,629

Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2011 66,213 5,165 71,378

*Yn ystod y flwyddyn, ailgategoreiddiodd GLlEM £6.9m net o Eiddo ac offer yn asedau annirnadwy.

68| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

2009-10

Technoleg

gwybodaeth

Asedau wrthi'n cael

eu hadeiladu Cyfanswm

£000 £000 £000

Prisiad neu gost

Ar ddechrau'r cyfnod 8,033 39,438 47,471

Ychwanegiadau 1,883 20,379 22,262

Gwarediadau - - -

Ailbrisio 1,916 - 1,916

Ailgategoreiddio 5,330 (5,330) -

Trosglwyddiadau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder - - -

Ar ddiwedd y cyfnod 17,162 54,487 71,649

Amorteiddio

Ar ddechrau'r cyfnod 2,162 - 2,162

Codwyd yn ystod y flwyddyn 1,778 - 1,778

Gwarediadau - - -

Ailbrisio 313 - 313

Ailgategoreiddio - - -

Trosglwyddiadau gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder - - -

Ar ddiwedd y cyfnod 4,253 - 4,253

Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2010 12,909 54,487 67,396

Cydnabuwyd gwariant am asedau annirnadwy sy'n fwy na throthwy cyfalafu GLlEM ond nad yw'n gymwys ar gyfer ei gyfalafu'n £dim (2009-10: £dim) yn draul yn y Datganiad ynglŷn â'r Gwariant Net Cynhwysfawr.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 69

13 Symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill

Dyma'r symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn ar 31 Mawrth:

2011 Ailddatgan

2010

£000 £000

Symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn:

Dyledwyr masnach 4,865 12,807

Dyledwyr eraill 37,763 3,070

TAW adenilladwy 17,823 9,363

Rhagdaliadau a refeniw cronnus 26,161 22,362

Dyledwyr o fewn adrannau 159,365 48,893

Cyfansymiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn 245,977 96,495

Dyma'r symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn ar 31 Mawrth:

2011 2010

£000 £000

Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn:

Dyledwyr eraill 127 38,976

Rhagdaliadau 9 6

Cyfansymiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn 136 38,982

Mae GLlEM yn dal symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill ar ran y mathau o sefydliadau a ganlyn ar 31 Mawrth:

2011 2010

Symiau sy'n ddyledus o

fewn blwyddyn

Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn

Symiau sy'n ddyledus o

fewn blwyddyn

Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn

£000 £000 £000 £000

Cyrff canolog eraill y llywodraeth 181,964 - 73,354 -

Awdurdodau lleol 902 - 3,909 -

Cyrff y GIG 12 - 24 -

Corfforaethau cyhoeddus a chronfeydd masnachu

225 - 385 -

Cyrff y tu allan i'r llywodraeth 62,874 136 18,823 38,982

Cyfanswm symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill

245,977 136 96,495 38,982

70| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

14 Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo

2011 2010

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 153,046 239,450

Gostyngiad net yn y gweddilliau arian parod (97,723) (86,404)

Ar ddiwedd y cyfnod 55,323 153,046

Delid y gweddilliau a ganlyn ar 31 Mawrth yn:

Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth 57,095 153,316

Banciau masnachol (1,951) (683)

Arian mewn llaw 130 375

Imprestau 49 38

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo 55,323 153,046

Yn ystod y flwyddyn, cwblhaodd GLlEM drosglwyddo rhai o'i drefniadau bancio o Swyddfa Tâl-feistr Cyffredinol EM i Wasanaeth Bancio'r Llywodraeth. (GBS)

Cedwir cyfrifon GBS ar gyfer Llysoedd y Goron, y llysoedd sirol a'r swyddogaethau canolog. At hynny, ar gyfer cyfrifon GBS, mae GLlEM yn cadw cyfrifon banc masnachol er mwyn i lysoedd yr ynadon adneuo arian, ac fe drosglwyddir y rheini'n rheolaidd wedyn i'r cyfrif canolog a gedwir gyda'r GBS.

Cynhwysir yng ngweddill y GBS uchod £16.2m (2009-10: £22.6m) a gedwir fel gweddilliau trydydd parti fel y'u dangosir yn nodyn 16.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo yng nghyswllt casglu dirwyon a chosbau i'w gweld yn y Datganiad Ymddiriedaeth.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 71

15 Nodiadau ynglŷn â'r Datganiad Llif Arian

Isod, ceir crynodeb o'r costau tybiannol a'r costau nad ydynt yn arian parod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben:

2010-11 Ailddatgan2009-10

£000 £000

Costau tybiannol

Costau barnwrnol y gronfa gyfnerthedig - cyflogau misol ac wythnosol

128,461 129,403

Costau barnwrol y gronfa gyfnerthedig - costau nawdd cymdeithasol

14,742 14,852

Taliadau i'r archwilydd allanol 398 515

Rhent tybiannol 1,783 1,988

Ad-daliadau adrannau 127,783 144,333

Costau tybiannol 273,167 291,091

Costau nad ydynt yn arian parod

(Elw)/colled net wrth waredu eiddo ac offer (90) 380

(Cynnydd)/gostyngiad yng ngwerth yr eiddo a'r offer (51,635) 191,960

Amhariad ar eiddo ac offer 63,679 -

Gostyngiad/(cynnydd) yng ngwerth teg asedau annirnadwy 292 (519)

Gostyngiad yng ngwerth teg asedau a gedwir i'w gwerthu 75 231

Rhagdalu am brydlesi gweithredol - amorteiddio 4 5

Gostyngiad yng ngwerth teg eiddo buddsoddi 239 740

Llinell syth taliadau prydlesi gweithredol 8,492 7,977

Newid o ran darpariaethau 178,045 (155,571)

Newid o ran amhariad cyfrifon derbyniadwy (27) (1,402)

Dibrisiant 101,203 115,295

Amorteiddio 13,505 1,778

Costau nad ydynt yn arian parod 313,782 160,874

Costau tybiannol a chostau nad ydynt yn arian parod 586,949 451,965

Yn ogystal â'r costau yn y tabl uchod, ysgwyddodd GLlEM draul llog nad oedd yn arian parod gwerth £15.1m (2009-10: £26.6m). Cynhwysir y costau hyn yn llinell y llog ar wyneb y Datganiad Llif Arian.

72| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

16 Dyledion masnach a dyledion taladwy eraill

Dyma'r symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn ar 31 Mawrth:

2011 2010

£000 £000

Symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn:

Treth a nawdd cymdeithasol 13,193 13,424

Credydwyr masnach 11,275 6,792

Credydwyr eraill 13,605 15,000

Gwyliau sydd wedi cronni 12,143 11,230

Ymadawiadau cynnar gwirfoddol 15,285 -

Croniadau a refeniw gohiriedig 103,685 102,751

Rhwymedigaethau o dan brydlesi cyllidol 79 74

Credydwr ar gyfer gwerth cyfalaf contractau menter cyllid preifat 8,926 8,926

Gweddilliau arian parod sy'n daladwy i adrannau eraill y llywodraeth 28,520 21,775

Gweddilliau arian parod trydydd parti 16,151 22,636

Credydwyr o fewn adrannau 119,362 108,522

Cyfansymiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn 342,224 311,130

Mae'r gwyliau sy'n cronni'n cynrychioli hawl unigolion i wyliau blynyddol o ddyddiad yr adroddiad ac a ddefnyddir yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mesurir y gwyliau hyn sy'n cronni yn ôl faint o fudd a gaiff aelodau GLlEM a'r farnwriaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â symiau Masnach a symiau taladwy eraill yng nghyswllt casglu dirwyon a chosbau i'w gweld yn y Datganiad Ymddiriedaeth.

Dyma'r symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn ar 31 Mawrth:

2011Ailddatgan

2010

£000 £000

Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn:

Credydwr ar gyfer gwerth cyfalaf contractau menter cyllid preifat 149,014 157,939

Credydwyr eraill 86,259 81,050

Rhwymedigaethau o dan brydlesi cyllidol 17,182 17,095

Cyfansymiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn: 252,455 256,084

Mae GLlEM yn dal symiau masnach a symiau eraill sy'n daladwy ar ran y mathau o sefydliadau a ganlyn ar 31 Mawrth:

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 73

2011 2010

ailddatgan

Symiau sy'n ddyledus o

fewn blwyddyn

Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn

Symiau sy'n ddyledus o

fewn blwyddyn

Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn

£000 £000 £000 £000

Cyrff canolog eraill y llywodraeth 174,279 - 157,044 -

Awdurdodau Lleol 6,571 42,113 7,076 45,406

Cyrff y GIG 17 - - -

Corfforaethau cyhoeddus a chronfeydd masnachu 120 - 164 -

Cyrff y tu allan i'r llywodraeth 161,237 210,342 146,846 210,678

Symiau masnach a symiau taladwy eraill 342,224 252,455 311,130 256,084

17 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau

Nodiadau 2011 2010

£000 £000

Darpariaethau ar gyfer diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn 17.1 344,000 178,000

Darpariaeth ar gyfer costau ymadael yn gynnar 17.2 108,621 117,667

Darpariaethau eraill 17.3 4,392 3,810

Cyfanswm darpariaethau 457,013 299,477

Daw'r rhwymedigaethau'n ddyledus fel a ganlyn ar 31 Mawrth:

2011 2010

£000 £000

Blwyddyn 31,914 32,030

Rhwng dwy a phum mlynedd 121,761 117,210

Mwy na phum mlynedd 303,338 150,237

Cyfanswm darpariaethau 457,013 299,477

17.1 Darpariaethau ar gyfer y diffyg yn y trosglwyddiad pensiwnn

2010-11 2009-10

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 178,000 367,018

Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth 182,232 (183,571)

Llog ar y diffyg yn y trosglwyddiad pensiwn 9,968 20,553

Defnyddiwyd yn ystod y flwyddyn (26,200) (26,000)

Ar ddiwedd y cyfnod 344,000 178,000

74| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Roedd Deddf y Llysoedd 2003 yn deddfu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau a chyfrifoldebau'r llysoedd ynadon i GLlEM. Yn sgil hynny, trosglwyddwyd oddeutu 8,000 o weithwyr a oedd o dan gontract cyflogaeth pwyllgorau llysoedd ynadon lleol i GLlEM ac roedd gofyn newid eu trefniadau pensiwn. Daeth y staff a drosglwyddwyd yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) ar 1 Ebrill 2005. Rhoddwyd yr opsiwn iddynt drosglwyddo'r buddion a oedd wedi cronni ganddynt i'r PCSPS.

Dewisodd oddeutu 6,000 o staff drosglwyddo'r gwasanaeth a oedd wedi cronni. Dewisodd y gweddill barhau i gadw'r buddion a oedd wedi cronni o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol perthnasol (LGPS). Nid yw'r LGPS yn gweithredu fel un gronfa. Cyfres o gronfeydd a weinyddir yn lleol ydyw.

Ar ôl iddynt ymddeol, bydd yr 8,000 o weithwyr a drosglwyddwyd yn cael eu pensiwn yn unol â buddion yr PCSPS sy'n berthnasol i'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2005 a dyddiad eu hymddeol. Bydd y 6,000 o weithwyr a ddewisodd drosglwyddo'r buddion pensiwn a oedd wedi cronni ganddynt yn cael cyfanswm eu pensiwn yn unol â buddion y PCSPS fel y cytunwyd arnynt.

Felly, roedd angen i'r PCSPS wybod faint o hawliau pensiwn a oedd wedi cronni ar gyfer y 6,000 o staff a drosglwyddwyd. Cytunodd GLlEM a Swyddfa'r Cabinet y byddai GLlEM yn talu swm wedi'i gyfrifo gan actiwari i adlewyrchu'r rhwymedigaeth i'r PCSPS a fyddai'n codi yn sgil cyfnodau gwasanaeth llywodraeth leol yr unigolion a drosglwyddwyd; a/llai swm i dalu am unrhyw ddiffygion/gwargedau a godai yn sgil yr asedau/rhwymedigaethau net ar gyfer yr unigolion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS).

Cytunwyd y byddai'r rhwymedigaeth pensiwn ar gyfer gwasanaeth yn y gorffennol yn cael ei gyfrifo ar 1 Ebrill 2005 gan actiwari'r PCSPS. Mae Adran Actiwari'r Llywodraeth (GAD) wedi amcangyfrif y rhwymedigaeth pensiwn ar 1 Ebrill 2005 ar gyfer y gweithwyr hynny sydd wedi dewis trosglwyddo'u gwasanaeth i'r PCSPS. Seiliwyd y cyfrifiad hwn ar nifer o dybiaethau actiwaraidd penodedig y mae GAD, Swyddfa'r Cabinet a GLlEM wedi cytuno arnynt. Gofynnwyd am gymeradwyaeth Trysorlys EM i'r trefniant hwn ond ni chafwyd cymeradwyaeth ffurfiol hyd yn hyn.

Mae dwy set allweddol o dybiaethau sy'n pennu'r rhwymedigaethau:

1 Y cytundebau o fewn y cynlluniau LGPS - a lofnodwyd gan yr actiwarïaid a chynlluniau'r LGPS sy'n pennu'r cronfeydd sydd ar gael, ac, yn achos cyfrannau negatif o gronfeydd, y taliadau i gynlluniau LGPS; a

2 Y tybiaethau y cytunwyd arnynt â'r PCSPS ar gyfer cyfrifo rhwymedigaethau'r PCSPS.

Yn sgil trosglwyddo'r gweithwyr o'r awdurdod lleol a oedd yn gweinyddu'r gronfa i'r PCSPS, mae gofyn i LGPS ddatgan sefyllfa gyllido net waelodol y gweithwyr sydd wedi'u trosglwyddo. Os bydd diffyg net oherwydd i'r LGPS gael ei dangyllido yn y gorffennol, yna bydd GLlEM yn atebol am y diffyg yn y LGPS yng nghyswllt y gweithwyr hynny. Serch hynny, os oedd gan y LGPS ddigon o arian ar gyfer y rhwymedigaethau a gedwid, yna, byddai cyfran berthnasol yr ased net yn cael ei throsglwyddo i'r PCSPS.

Fel rhan o'r cytundeb, cytunodd GLlEM i dalu'r diffyg net a gododd gan y PCSPS dros gyfnod o 10 mlynedd ar yr amod bod digon o arian ar gael, gan gynnwys y goblygiadau llog sy'n codi wrth fynd ati fel hyn. Ar y dechrau, yng nghyfrifon GLlEM 2005-06, darparwyd ar gyfer £268.0m.

Cyfrifir gwerth yr ased neu'r rhwymedigaeth pensiwn a drosglwyddwyd o'r LGPS unigol i'r PCSPS ar sail gwerth pob cynllun ar ddyddiad y trosglwyddo, ac nid ar 1 Ebrill 2005. Felly, mae rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â'r ased neu'r rhwymedigaeth a drosglwyddwyd

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 75

yn sgil newidiadau i'r LGPS ac amgylchiadau'r farchnad hyd at y pwynt pan derfynwyd y trosglwyddiad.

Ar 31 Mawrth 2011, cytunwyd ar werth y trosglwyddiad terfynol ar gyfer 32 o'r 41 cronfa LGPS. Ar gyfer y cronfeydd hynny lle y cytunwyd ar werthoedd trosglwyddo positif, talwyd symiau untro i'r PCSPS am werth y swm trosglwyddo positif. Gyda golwg ar y cronfeydd hynny lle y cytunwyd ar werthoedd trosglwyddo negatif, telir cyfres o 10 taliad blynyddol, sy'n cyfateb i werth y symiau trosglwyddo negatif y cytunwyd arnynt, i gronfeydd perthnasol y LGPS.

Ar 31 Mawrth, dyma lle'r oedd yr LGPS arni:

2011 2010

Cronfeydd wedi'u crisialu - cytuno ar werthoedd trosglwyddo positif 5 -

Cronfeydd wedi'u crisialu - cytuno ar werthoedd trosglwyddo negatif 27 -

Darparwyd sefyllfa ariannu gychwynnol, gan symud at gytundeb terfynol 5 34

Amcangyfrif o'r sefyllfa ariannu i'w ddarparu 4 7

Cyfanswm nifer y cynlluniau 41 41

Yn ogystal â'r rhwymedigaethau a grisialwyd drwy'r trosglwyddiad ar 1 Ebrill 2005, trosglwyddwyd rhwymedigaethau i GLlEM hefyd ar gyfer dau drosglwyddiad staff llai cyn hynny. Cynhwyswyd lwfans ar gyfer y rhwymedigaethau hyn yn y darpariaethau uchod.

Ar 31 Mawrth 2011, cytunwyd ar y rhwymedigaeth net sy'n ddyledus i gronfeydd y PCSPS neu i gronfeydd yr LGPS yng nghyswllt y 32 o gronfeydd a grisialwyd. Mae GAD wedi amcangyfrif ar gyfer y naw cronfa na chafwyd cytundeb terfynol yn eu cylch eto ar sail yr amcangyfrifon a ddarparwyd gan gronfeydd yr LGPS neu, lle nad yw'r rhain ar gael, amcangyfrifwyd gan gyfeirio at sefyllfa LGPS tebyg sydd wedi'u crisialu eisoes.

Mae'r rheolwyr wedi adolygu'r ymrwymiad go iawn ar gyfer y cronfeydd lle y cytunwyd ar werthoedd trosglwyddo terfynol, ynghyd ag amcangyfrif GAD ar gyfer y cronfeydd hynny nad ydynt wedi'u crisialu eto. Mae'r rheolwyr wedi gwneud y tybiaethau a ganlyn wrth benderfynu bod y ddarpariaeth ar gyfer y diffyg trosglwyddo pensiynau, sef £344.0m yn briodol:

Mae llog yn daladwy ar gyfradd dybiedig o 5.6%. Ar 31 Mawrth 2011, cynhwysir cyfanswm o £66.5m o log yn y ddarpariaeth uchod (2009-10: £56.6m);

Bydd Trysorlys EM yn cymeradwyo'r tybiaethau penodedig a wnaethpwyd ar 1 Ebrill 2005;

Bydd y naw cronfa LGPS sy'n weddill yn dangos gwargedau/diffygion yn unol â'r amcangyfrifon a ddarparwyd gan gronfeydd y LGPS, neu lle nad yw'r rhain ar gael, sefyllfa cronfeydd tebyg ar gyfartaledd.

76| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

17.2 Darpariaeth ar gyfer costau ymadael yn gynnar

2010-11 2009-10

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 117,667 90,373

Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth (4,939) 28,050

Dirwyn y disgownt i ben 5,146 6,039

Defnyddiwyd yn ystod y flwyddyn (9,253) (6,795)

Ar ddiwedd y cyfnod 108,621 117,667

Mae darpariaeth wedi'i gwneud ar gyfer costau digronfa buddion ymddeol yn gynnar rhai o staff y llys ynadon. Mae'r ddarpariaeth yn cynrychioli gwerth presennol costau'r buddion sy'n daladwy i staff ar Crombie a thelerau ymddeol yn gynnar llywodraeth leol.

Cynhwysir hefyd yn y costau ymadael yn gynnar ddarpariaeth ar gyfer costau digronfa ymddeol yn gynnar staff GLlEM yn y PCSPS. Mae darpariaeth wedi'i gwneud hefyd ar gyfer costau sy'n berthnasol i'r ad-drefnu a'r rhaglen moderneiddio.

Mae'r ddarpariaeth wedi'i chyfrifo drwy ddisgowntio'r amcanlifau arian yn y dyfodol gan ddefnyddio cyfradd nominal Trysorlys EM, sef 5.6% (2009-10: 4.6%).

Mae'r ddarpariaeth ar gyfer y costau ymadael yn gynnar a gofnodir uchod ar wahân i gostau'r cynllun Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol a gofnodwyd yn nodyn 7.1.

17.3 Darpariaethau eraill

2010-11 2009-10

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 3,810 4,184

Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth 752 (50)

Defnyddiwyd yn ystod y flwyddyn (170) (324)

Ar ddiwedd y cyfnod 4,392 3,810

18 Rhwymedigaethau cyfalaf

Dyma'r rhwymedigaethau cyfalaf dan gontract nad ydynt wedi codi eto ar 31 Mawrth:

2011 2010

£000 £000

Datblygu eiddo 41,362 50,854

Asedau anniriaethol 1,831 3,619

Cyfanswm rhwymedigaethau cyfalaf 43,193 54,473

19 Prydlesi gweithredol

Bydd GLlEM yn prydlesu gwahanol diroedd ac adeiladau o dan gytundebau prydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo. Mae'r tir a'r adeiladau'n cynnwys cyfleusterau'r llysoedd yn bennaf ac mae cyfnod y prydlesi hyn yn amrywio rhwng 3 a 125 mlynedd. Nid oes opsiynau prynu ar gael ar gyfer y prydlesi gweithredol, er bod gan rai gymalau cynyddu a thelerau adnewyddu. Negodir trefniadau adnewyddu gyda'r sawl sy'n rhoi'r

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 77

eiddo ar brydles yn unol â darpariaethau cytundebau brydles unigol.

Bydd GLlEM hefyd yn prydlesu gwahanol offer a cheir o dan gytundebau prydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo. Bydd telerau'r brydles yn para rhwng 1 a 14 blynedd.

Yn nodyn 8, datgelir y gwariant ar brydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo a briodolir i'r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn ystod y flwyddyn.

Dyma gyfanswm y taliadau lleiaf ar brydlesi yn y dyfodol o dan brydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo ar gyfer pob un o'r cyfnodau a ganlyn ar 31 Mawrth:

2011 Ailddatgan

2010

Tir ac

adeiladau Arall CyfanswmTir ac

adeiladau ArallCyfanswm

£000 £000 £000 £000 £000 £000

Nid yn hwyrach na blwyddyn 55,142 911 56,053 47,610 1,104 48,714

Yn hwyrach na blwyddyn ond nid yn fwy na phum mlynedd 210,901 766 211,667 181,952 847 182,799

Yn hwyrach na phum mlynedd 985,579 - 985,579 828,988 - 828,988

Cyfanswm rhwymedigaethau o dan brydlesi gweithredol 1,251,622 1,677 1,253,299 1,058,550 1,951 1,060,501

Pennir lleiafswm y taliadau ar y prydlesi uchod ar sail cytundebau'r brydles berthnasol. Nid yw'r taliadau ar brydlesi'n adlewyrchu cynnydd posibl a allai fod yn sgil adolygiadau seiliedig ar y farchnad.

Enillodd GLlEM refeniw o isbrydlesi gwerth £0.1m (2009-10: £0.1m).

Cyfanswm lleiafswm y taliadau i'w derbyn o dan isbrydlesi nad oes modd eu canslo yw £0.1m (2009-10:£0.1m)

Dyma weddilliau prydlesi gweithredol a delir ymlaen llaw o dan brydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo ar gyfer pob un o'r cyfnodau a ganlyn:

2010-11Ailddatgan 2009-10

£000 £000

Ar ddechrau'r cyfnod 154 159

Ychwanegiadau - -

Amorteiddio (4) (5)

Ailgategoreiddio - -

Ar ddiwedd y cyfnod 150 154

78| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

20 Prydlesi cyllidol

Bydd GLlEM yn prydlesu gwahanol adeiladau o dan gytundebau prydlesi cyllidol nad oes modd eu canslo.

Dyma gyfanswm y taliadau lleiaf ar brydlesi yn y dyfodol o dan brydlesi cyllidol nad oes modd eu canslo ar gyfer pob un o'r cyfnodau a ganlyn ar 31 Mawrth:

2011 Ailddatgan 2009-10

£000 £000

Nid yn hwyrach na blwyddyn 913 901

Yn hwyrach na blwyddyn ond nid yn fwy na phum mlynedd 3,826 3,756

Yn hwyrach na phum mlynedd 162,812 163,796

Lleiafswm taliadau ar brydlesi yn y dyfodol 167,551 168,453

Costau llog yn y dyfodol (150,290) (151,284)

Gwerth presennol y taliadau lleiaf ar brydlesi 17,261 17,169

Bydd GLlEM yn prydlesu gwahanol adeiladau o dan gytundebau prydlesi cyllidol nad oes modd eu canslo. Mae'r tir a'r adeiladau'n cynnwys cyfleusterau'r llysoedd yn bennaf ac mae cyfnod y prydlesi hyn yn amrywio rhwng 15 a 999 mlynedd. Nid oes opsiynau ar gael i brynu prydlesi cyllidol, er bod gan rai gymalau cynyddu a thelerau adnewyddu. Negodir adnewyddu gyda'r sawl sy'n rhoi'r brydles ar yr eiddo yn unol â darpariaethau cytundeb y brydles unigol.

Enillodd GLlEM refeniw ar isbrydlesi gwerth £0.1m (2009-10: £0.1m).

Cyfanswm y taliadau lleiaf i'w derbyn o dan isbrydlesi nad oes modd eu canslo yw £0.1m (2009-10:£0.1m)

21 Menter cyllid preifat

Mae GLlEM wedi gwneud wyth trefniant menter cyllid preifat ar gyfer consesiynau gwasanaeth. Dyma grynodeb o bob contract o'r fath:

Enw'r prosiect

Dyddiad dechrau'r

contractHyd:

(blyn.)

Datganiadar

waith/atal ySefyllfa

Ariannol

Gwerth cyfalaf cychwynnol (£m) Disgrifiad

Caer-wysg Tachwedd 2002

30 Ar waith 20.1 Darparu llys yn cynnwys pedwar llys troseddol, un llys sifil a phedair ystafell gwrandawiad i Farnwyr Rhanbarth Ar ddiwedd cyfnod y contract, bydd yr adeilad yn dychwelyd i GLlEM heb ddim cost.

Dwyrain Anglia

Hydref 2002

25 Ar waith 34.5 Darparu canolfannau Llys y Goron yn Ipswich a Chaergrawnt. Mae pum llys troseddol yn Ipswich; mae tri llys troseddol yng Nghaergrawnt. Ar ddiwedd cyfnod y contract, bydd yr adeiladau yn Ipswich ac yng Nghaergrawnt yn dychwelyd i GLlEM heb ddim cost.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 79

Sheffield Tachwedd 2002

25 Ar waith 7.7 Darparu Canolfan Gwrandawiadau Teulu yn Sheffield. Ar ddiwedd cyfnod y contract, caiff GLlEM ddewis caffael yr isbrydles am bris y farchnad agored neu am £2.0m pa un bynnag fydd y lleiaf.

Llysoedd Ynadon Swydd Derby

Awst 2001

27 Ar waith 29.5 Darparu llety â gwasanaeth ar gyfer llysoedd ynadon yn New Mills, Chesterfield a Derby. Gellir ymestyn cyfnod y contract (os cytunir ar delerau sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr) hyd at bum mlynedd.

Llysoedd Ynadon Henffordd a Chaerwrangon

Mawrth 2000

25 Ar waith 30.6 Darparu llety â gwasanaeth i'r llysoedd ynadon yn Bromsgrove, Kidderminster, Caerwrangon a Redditch. Gellir ymestyn cyfnod y contract am 10 mlynedd arall.

Llys Ynadon Manceinion

Mawrth 2001

25 Ar waith 32.9 Darparu llys 18 ystafell llys.

Llys Ynadon Glannau Humber

Mawrth 2000

25 Ar waith 21.6 Darparu llysoedd ynadon â gwasanaethau yn Hull, Beverley a Bridlington. Pan ddaw i ben, bydd gan GLlEM yr opsiwn o ailafael yn yr asedau am swm nominal sef £3.0m.

Llys Ynadon Avon a Gwlad yr Haf

Awst 2004

27 Ar waith 46.6 Darparu llety â gwasanaethau ar gyfer llysoedd ynadon a swyddfeydd ym Mryste, Weston-Super-Mare a Flax Bourton.

Dyma gyfanswm y taliadau lleiaf ar brydlesi yn y dyfodol o dan drefniadau Menter Cyllid Preifat nad oes modd eu canslo ar gyfer pob un o'r cyfnodau a ganlyn ar 31 Mawrth:

2011 2010

£000 £000

Nid yn hwyrach na blwyddyn 18,113 18,648

Yn hwyrach na blwyddyn ond nid yn fwy na phum mlynedd 67,092 69,235

Yn hwyrach na phum mlynedd 159,511 175,480

Taliadau lleiaf ar brydlesi yn y dyfodol 244,716 263,363

Costau llog yn y dyfodol (86,776) (96,498)

Gwerth presennol y taliadau lleiaf ar brydlesi 157,940 166,865

Bydd GLlEM hefyd yn talu tâl blynyddol am wasanaethau, sef £18.8m (2009-10: £18.2m). Cysylltir taliadau blynyddol yn y dyfodol â mynegai, fel rheol 2% y flwyddyn, ond fe all hynny amrywio'n unol â fformiwlâu sy'n seiliedig ar ofynion gweithredu.

22 Rhwymedigaethau ac asedau posibl

Rhwymedigaethau posibl

Mae GLlEM yn ymwneud â nifer o achosion cyfreithiol ynglŷn â hawliadau ex gratia, iawndaliadau a hawliadau eraill. Amcan gost setlo i GLlEM yw £7.8m (2009-10: £7.6m). At hynny, fel rhan o gynllun cau'r llysoedd, mae'n bosibl y bydd GLlEM yn terfynu nifer o brydlesi cyn iddynt ddod i ben. Os digwydd hynny, disgwylir mai cost eu terfynu fydd

80| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

£1.7m (2009-10: £dim).

Fel y manylir yn nodyn 9.3, canlyniad yr her yn yr Uchel Lys ym mis Gorffennaf 2005 yw nad yw GLlEM wedi gallu ysgwyddo'r rheolaeth dros nifer o eiddo y bwriedir iddynt ddod o fewn Cynllun Trosglwyddo Eiddo 31 Mawrth 2005. Mae GLlEM yn wynebu rhwymedigaeth llety bosibl ar gyfer yr eiddo nad ydynt o dan ei reolaeth eto.

Oni all GLlEM drosglwyddo perchnogaeth a rheolaeth yr eiddo hyn, fe all wynebu rhwymedigaethau llety i'r partïon sydd biau'r hawliau ar yr eiddo hwn yn y pen draw ac a fydd yn rheoli'r buddion economaidd gwaelodol. Ar sail gwerth rhent yr eiddo ar 31 Mawrth 2007, amcangyfrifir y gallai GLlEM fod yn agored i gostau ychwanegol hyd at £0.3m y flwyddyn (2009-10: £0.3m) a chyfanswm mwyaf y rhwymedigaethau posibl ers 1 Ebrill 2005 yn £2.0m (2009-10: £1.6m).

Asedau posibl

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yw'r Hawliwr yn achosion sifil yr Uchel Lys lle mae'n ceisio adennill hyd at £22.8m (ac eithrio llog a chostau) ar gyfer trafodion eiddo (sy'n ymwneud â First Avenue House, High Holborn, Llundain) yn 2002 a 2004. Rhestrwyd treial pum wythnos ar gyfer 2012.

23 Trafodion partïon cysylltiedig

Un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder yw GLlEM, sy'n cael ei hystyried yn barti cysylltiedig. Yn ystod y flwyddyn mae GLlEM wedi gwneud trafodion perthnasol â'r Weinyddiaeth Cyfiawnder ac ag endidau eraill yr ystyrir y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn brif endid arnynt. Dyma'r endidau eraill:

Y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd;

Swyddfa Cymru;

Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus;

Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol

At hynny, mae GLlEM wedi gwneud trafodion perthnasol gyda'r adrannau eraill a ganlyn o'r llywodraeth ac â chyrff canolog eraill y llywodraeth:

Yr Adran Gwaith a Phensiynau;

Dinas Llundain;

Cyngor Sir Hampshire;

Refeniw a Thollau EM;

Y Swyddfa Gartref:

Y Gwasanaeth Ansolfedd;

Awdurdod Heddlu Swydd Warwick;

Cyngor Dinas Birmingham;

Gwasanaeth Carchardai EM;

Adran Cyfreithiwr y Trysorlys.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â thrafodion â phartïon cysylltiedig yng nghyswllt casglu dirwyon a chosbau i'w gweld yn y Datganiad Ymddiriedaeth.

Cwmni preifat cyfyngedig drwy warant heb ddim cyfalaf cyfrannau yw Registry Trust Limited. Mae'n cynnal Cofrestr Dyfarniadau'r Llysoedd Sirol ar ran yr Arglwydd

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 81

Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Roedd y refeniw a gafwyd gan y Registry Trust Limited yn y flwyddyn yn £0.6m (2009-10: £1.0m) a chyfanswm gweddill y dyledwyr a oedd yn ddyledus i GLlEM ar 31 Mawrth 2011 oedd £0.1m (2009-10: £0.1m).

Yn ystod 2010-11 a 2009-10, nid oes yr un Aelod o'r Bwrdd na'r un parti cysylltiedig arall wedi gwneud unrhyw drafodion perthnasol â GLlEM.

Mae gan GLlEM nifer o drefniadau gyda'r Weinyddiaeth Cyfiawnder a'i hadrannau a gategoreiddir yn ad-daliadau o fewn adrannau. Mae'r taliadau hyn ar gyfer defnyddio asedau a gwasanaethau eraill, ac fe'u cofnodir fel gwariant yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr bob blwyddyn, wrth iddynt godi. Nid yw'n ymarferol gwahanu'r taliadau mewn ffordd ddibynadwy rhwng y rheini sy'n ymwneud ag asedau, a'r rheini sy'n berthnasol i wasanaethau eraill. Nid yw'r trefniadau hyn yn cynnwys dyddiad diweddu penodol. Mae'r taliadau hefyd yn cynnwys taliadau am elfennau nad oes a wnelont â phrydlesi yn y trefniadau.

24 Digwyddiadau ar ôl cyfnod yr adroddiad

Adroddiadau ariannol

Yn unol â gofynion IAS 10 'Digwyddiadau ar ôl Cyfnod yr Adroddiad', caiff digwyddiadau ar ôl y Datganiad o'r Sefyllfa Ariannol eu hystyried hyd at y dyddiad pan gaiff y Cyfrifon eu hawdurdodi i'w cyhoeddi. Yn ôl y dehongliad, yr un dyddiad yw hwn â dyddiad Tystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol.

Uno GLlEM a'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd

Unwyd y ddau gorff, sef GLlEM a'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd ar 1 Ebrill 2011 i ffurfio Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Partneriaeth yw'r endid newydd rhwng yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd ac mae'n gyfrifol am weinyddu'r llysoedd troseddol, y llysoedd sifil, y llysoedd teulu a'r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, a'r tribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn lle Bwrdd Gwasanaeth GLlEM a bwrdd y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd a oedd gynt yn gyrff ar wahân, ceir Bwrdd Gwasanaeth newydd ar gyfer Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Ystyrir yr uno yn newid Peirianwaith Llywodraeth ym mlwyddyn ariannol 2011-12.

Ymadawiadau gwirfoddol

Ar ôl 31 Mawrth 2011, derbyniodd unigolion gynnig i ymadael yn wirfoddol o dan y cynllun gadael yn gynnar yn wirfoddol y cyfeirir ato yn nodyn 7.1. Rhoddir cyfrif am y taliadau ymadael i'r unigolion hynny (gan gynnwys taliadau yn lle rhybudd ac iawndal yn lle rhybudd lle bo'r rheini'n berthnasol) ym mlwyddyn ariannol 2011-12.

Yn ogystal â'r ymadawiadau gwirfoddol uchod, ar ôl 31 Mawrth 2011, cynigiodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder ail gynllun Ymadael yn Gynnar yn Wirfoddol i weithwyr dethol yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Roedd telerau'r ail gynllun a gynigiwyd hefyd yn unol â chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil a gyflwynwyd gan y llywodraeth ym mis Rhagfyr 2010.

Ni fydd dim symiau ex gratia'n daladwy i unrhyw unigolion sydd wedi dewis neu a fydd yn dewis derbyn cynnig ymadael yn gynnar o dan y naill gynllun na'r llall.

25 Atebolrwydd

Cynhwysir y datgeliadau a ganlyn i gydymffurfio â gofynion adroddiadau cyfrifyddu'r llywodraeth.

82| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Cafwyd 1,174 (2009-10: 1,734) achos o golledion arian parod yr adroddwyd yn eu cylch, sef cyfanswm o £0.1m (2009-10: £0.3m). Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â sefyllfaoedd lle'r oedd anghysonderau bychain wrth dderbyn arian parod ar lefel y llysoedd;

Yn ystod y flwyddyn, dilëwyd cyfanswm o £0.1m o ddyledion (2009-10: £0.9m) gan ystyried nad oedd modd eu hadennill. Gynt, roedd y symiau hyn wedi'u cydnabod yn gostau amhariad yn y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr.

Roedd 7,515 (2009-10: 14,816) o achosion, cyfanswm o £1.5m (2009-10: £3.0m) lle diddymwyd y ffioedd i unigolion nad oeddent yn cael budd-daliadau prawf modd y llywodraeth. Yn yr achosion hyn, roedd GLlEM wedi caniatáu diddymu'r ffi ar sail y Canllawiau ar gyfer Gweinyddu System Consesiynau Ffioedd (EX160) a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder;

Yn ystod y flwyddyn, cafwyd 1,858 (2009-10: 5,254) o daliadau arbennig, cyfanswm o £1.4m (2009-10: £4.8m). Taliadau arbennig yw'r rheini sy'n mynd y tu hwnt i reolau gweinyddol neu rai nad oes dim gwarchodaeth statudol nac atebolrwydd cyfreithiol ar eu cyfer;

Y llog a dalwyd o dan Ddeddf Talu Dyledion Masnachol (Llog) yn hwyr 1988 oedd £dim (2009-10: £0.02m).

26 Offerynnau ariannol

IFRS 7 ‘Offerynnau ariannol: Datgeliadau', o dan yr offerynnau hyn, mae gofyn datgelu'r rôl a fu gan offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth gyflawni ei busnes.

Gan fod GLlEM yn cael ei ariannu drwy'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, nid yw'n agored i'r un risg ariannol na'r un risg ar y farchnad ag sy'n wynebu endid busnes. Bydd offerynnau ariannol hefyd yn chwarae llai o ran o lawer o ran creu neu newid risg nag a fyddai'n nodweddiadol o'r cwmnïau rhestredig y mae IFRS 7 yn bennaf berthnasol iddynt. Nid oes gan GLlEM bwerau i fenthyca na buddsoddi arian sy'n weddill ganddo a bydd ei asedau a'i rwymedigaethau ariannol yn codi o weithgareddau gweithredol beunyddiol yn hytrach na'u bod yn cael eu cadw er mwyn newid y risg sy'n wynebu GLlEM wrth ymgymryd â gweithgareddau.

Risg hylifedd

Ariennir GLlEM drwy arian a ddarperir gan y llywodraeth ac felly nid yw'n agored i risg hylifedd sylweddol.

Risg credyd

Bydd risgiau credyd yn codi o asedau ariannol GLlEM, sy'n cynnwys arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo, symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill ac asedau ariannol eraill. Yr hyn sy'n gwneud GLlEM yn agored i risg credyd yw'r posibilrwydd y gallai gwrth-barti beidio â chyflawni dyletswyddau ei gontract gan arwain at golled ariannol i GLlEM.

Mae'r risg credyd sy'n gysylltiedig â symiau derbyniadwy GLlEM yn fychan iawn gan fod y rhan fwyaf o weddilliau dyledwyr yn rhai gan gyrff eraill sy'n gysylltiedig â'r llywodraeth. Bydd y risg credyd sydd ynghlwm wrth symiau derbyniadwy hefyd yn cael ei fonitro gan y rheolwyr yn rheolaidd drwy adolygu sut mae symiau derbyniadwy'n heneiddio. Y golled fwyaf y mae GLlEM yn agored iddi yw gwerth cario'i asedau ariannol o fewn y Datganiad ynglŷn â'r Sefyllfa Ariannol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 83

Risg arian tramor

Nid oes gan GLlEM ddim refeniw na gwariant sylweddol o ran arian tramor ac felly nid yw'n agored i risg sylweddol yn y cyswllt hwnnw.

Asedau ariannol

Nodiadau 2011 2010

£000 £000

Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo 14 55,323 153,046

Dyledwyr masnach 13 4,865 12,807

Dyledwyr eraill 13 37,890 42,046

Refeniw cronnus 13 12,298 10,206

13 159,365 48,893

214,418 113,952

Cyfanswm asedau ariannol 269,741 266,998

Categoreiddir asedau ariannol, ac eithrio Arian Parod a'r hyn sy'n cyfateb iddo yn symiau Masnach a symiau derbyniadwy eraill ac fe'u mesurir ar ffurf cost wedi'i hamorteiddio.

Dyma broffil aeddfedu asedau ariannol:

Nodiadau 2011 2010

£000 £000

Cyfansymiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn 269,614 228,022

Cyfansymiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn: 127 38,976

269,741 266,998

Asedau anariannol

Rhagdaliadau 13 13,872 12,162

TAW adenilladwy 13 17,823 9,363

Cyfanswm asedau anariannol 31,695 21,525

Rhwymedigaethau ariannol

Nodiadau 20112010

restated

£000 £000

Credydwyr masnach 16 11,275 6,792

Credydwyr eraill 9,777 10,141

Croniadau 16 98,913 97,902

Credydwr ar gyfer gwerth cyfalaf contractau menter cyllid preifat 16 157,940 166,865

Gweddilliau arian parod sy'n daladwy i adrannau eraill y llywodraeth 16 28,520 21,775

Gweddilliau arian parod trydydd parti 16 16,151 22,636

84| Cyfrifon Blynyddol 2010-11

Credydwyr o fewn adrannau 16 119,362 108,522

Rhwymedigaethau o dan brydlesi cyllidol 16 17,261 17,169

Cyfanswm rhwymedigaethau ariannol 459,199 451,802

Categoreiddir rhwymedigaethau ariannol yn symiau Masnach a symiau taladwy eraill ac fe'u mesurir ar ffurf cost wedi'i hamorteiddio.

Dyma broffil aeddfedu rhwymedigaethau ariannol:

Nodiadau 2011 2010restated

£000 £000

Cyfansymiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn 293,003 276,768

Cyfansymiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn: 166,196 175,034

459,199 451,802

Rhwymedigaethau anariannol

Treth a nawdd cymdeithasol 16 13,193 13,424

Refeniw gohiriedig 16 4,772 4,849

Gwyliau sydd wedi cronni 16 12,143 11,230

Ymadawiadau cynnar gwirfoddol 16 15,285 -

Cymhellion prydlesi tymor hir 44,384 36,913

Benthyciadau awdurdodau lleol; 45,703 48,996

Cyfanswm rhwymedigaethau anariannol 135,480 115,412

Gwerthoedd teg

Mae gwerthoedd teg asedau a rhwymedigaethau ariannol GLlEM ar 31 Mawrth 2011 a 2010 yn cynnig amcangyfrifon o'u gwerth ar y llyfrau.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 85

ATODIADAU

Atodiad A: Ffynonellau data ac ansawdd y data

Mae'r atodiad hwn yn rhoi manylion cryno ffynonellau data ar gyfer y ffigurau a roddwyd yn yr adroddiad hwn, ynghyd â thrafodaeth fer am ansawdd y data. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn 'Judicial and Court Statistics 2010' drwy wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn www.justice.gov.uk/publications/statistics-and-data/courts-and-sentencing/index.htm

Llysoedd sirol (nid llysoedd teulu)

Defnyddiwyd y System Gwybodaeth Rheoli (MIS) i gyhoeddi'r wybodaeth hon, cyfleuster warws data sy'n defnyddio data systemau gweinyddol y llysoedd. Ffynhonnell data'r llysoedd sirol ym MIS yw system weinyddol 'CaseMan' a ddefnyddir gan staff y llys i reoli achosion. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth o safon dda am ddigwyddiadau o bwys a dyddiadau'r digwyddiadau hynny wrth i achos fynd ar ei hynt drwy system y llysoedd. Mae gweithdrefnau sicrwydd ansawdd ystadegol yn cynnwys gweld a dileu cofnodion dyblyg am yr un digwyddiad mewn achos, ac mae'n gwirio bod y data wedi'u casglu ar gyfer pob llys er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gyflawn. Serch hynny, mae niferoedd y gwrandawiadau hawliadau bach a threialon yn dibynnu ar fod staff y llys yn cofnodi codau canlyniadau gwrandawiadau'n gywir ar y system.

Llysoedd teulu

Cafwyd y data am y llysoedd teulu o system gweinyddu'r llys sirol yn bennaf, sef FamilyMan (drwy MIS), a ddefnyddir gan staff y llysoedd i reoli achosion ac mae'n cynnwys gwybodaeth o safon dda am hynt achosion drwy'r llysoedd teulu. Mae rhywfaint o ddata'n dod hefyd o gronfa ddata'r OPT. Mae gweithdrefnau sicrwydd ansawdd ystadegol yn cynnwys gweld a dileu cofnodion dyblyg am yr un achos ar y systemau gweinyddol, ac mae'n gwirio bod y data wedi'u casglu ar gyfer pob llys er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gyflawn.

Llys y Goron

Cafwyd y data am Lys y Goron o system gweinyddu Llys y Goron, CREST (drwy MIS), a ddefnyddir gan staff y llys i reoli achoson. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth o safon dda am ddigwyddiadau o bwys a dyddiadau'r digwyddiadau hynny wrth i bob achos fynd ar ei hynt drwy system Llys y Goron. Mae gweithdrefnau sicrwydd ansawdd ystadegol yn cynnwys adnabod a dileu cofnodion dyblyg, gwirio anghysonderau ymddangosiadol a gwirio i weld bod yr wybodaeth yn gyflawn.

Llysoedd Ynadon

Daw'r ystadegau ynglŷn ag achosion a gwblhawyd o'r gronfa ddata am berfformiad a elwir yn One Performance Truth (OPT), a ledaenwyd drwy'r llysoedd ynadon yn ystod 2007-2008 a bwydir gwybodaeth iddi o System Gwybodaeth Rheoli Libra a thrwy gasglu data â llaw. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth o safon dda am lwyth achosion llysoedd ynadon. Rhaid gwirio data a ddarperir gan y llysoedd a'u dilysu gan staff y llys cyn eu cyflwyno i gronfa ddata perfformiad OPT. Mae'r data a gesglir yn ganolog yn cael eu gwirio eto, gan gynnwys ymchwilio i anghysonderau ymddangosiadol yn y data.

Daw'r ystadegau ynglŷn ag effeithiolrwydd treialon a gofnodwyd a gorfodi cosbau ariannol o gronfa ddata perfformiad OPT hefyd.

86 | Atodiadau

Cesglir data ynglŷn â Thorri Cosbau Cymunedol gan y llysoedd ar system olrhain sy'n seiliedig ar MS Excel, a chesglir data ciplun yn ganolog. Mae'r daenlen yn cynnwys dilysu data allweddol, a chwblheir gwiriadau pellach yn ganolog gan archwilio anghysonderau yn y data.

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am brydlondeb y llysoedd ynadon bob chwarter gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Daw'r data hyn o'r Arolwg Cyfnodau, ac mae adroddiadau ynglŷn â hyn i'w gweld ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn: www.justice.gov.uk/publications/statistics-and-data/courts-and-sentencing/magistrates-times.htm.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon GLlEM 2010-11 | 87

Atodiad B: Dogfennau a dolenni cysylltiedig

Dogfen Fframwaith Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20110218200720/http://www.hmcourts-service.gov.uk/cms/aboutus.htm

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

www.justice.gov.uk/about/hmcts/index.htm

Gwasanaeth rheithgor

www.direct.gov.uk/ên/CrimeJusticeAndTheLaw/Juryservice/index.htm

Mynd i'r llys fel dioddefwr neu dyst

www.direct.gov.uk/ên/CrimeJusticeAndTheLaw/VictimsOfCrime/DG_070444

Cod Ymarfer Dioddefwyr Troseddau

www.direct.gov.uk/ên/CrimeJusticeAndTheLaw/Thejudicialsystem/DG_066863

Hawliadau Bychain

www.direct.gov.uk/ên/MoneyTaxAndBenefits/ManagingDebt/Makingacourtclaimformoney/index.htm

Mabwysiadu

www.direct.gov.uk/en/Parents/Adoptionfosteringandchildrenincare/AdoptionAndFostering/index.htm

Ystadegau barnwrol a'r llysoedd

www.justice.gov.uk/publications/judicialandcourtstatistics.htm

Cyhoeddwyd gan y Llyfrfa ac mae ar gael:

Ar-lein www.tsoshop.co.uk

Drwy'r post, dros y ffôn, y ffacs a'r e-bost

TSO Blwch Post 29, Norwich NR3 1GN

Archebion dros y ffôn/ymholiadau cyffredinol: 0870 600 5522

I archebu drwy Lein Uniongyrchol Rad y Senedd 0845 7 023474

Archebion ffacs: 0870 600 5533

Ebost: customer.services@tso.co.uk

Ffôn testun: 0870 240 3701

Y Siop Lyfrau Seneddol

12 Bridge Street, Parliament Square, Llundain SW1A 2JX

Archebion dros y ffôn/ymholiadau cyffredinol: 020 7219 3890

Archebion ffacs: 020 7219 3866

Ebost: bookshop@parliament.uk

Rhyngrwyd: http://www.bookshop.parliament.uk

TSO@Blackwell ac Asiantau Achrededig eraill

Gall cwsmeriaid archebu cyhoeddiadau hefyd gan:

Y Llyfrfa yn Iwerddon

16 Arthur Street, Belfast BT1 4GD

Archebion dros y ffôn/ymholiadau cyffredinol: 028 9023 8451 Archebion ffacs: 028 9023 5401

top related