asac adacd sach dlm - hawarden business park€¦ · balancing pond aerotech advanced composite...
TRANSCRIPT
AEROSPACEADVANCED MANUFACTURING
RESEARCH & DEVELOPMENT
HIGH-TECH ENGINEERINGAUTOMOTIVELABORATORYWAREHOUSING
Dylunio ac Adeiladu unedau diwydiannol / warws ar werth neu i’w osodym Mhenarlâg, Sir y Fflint CH5 3US 20,000-150,000 troedfedd sgwâr
O FEWN ARDAL FENTER
GLANNAU DYFRDWY
ENTER
Dim ond 6 milltir i’r gorllewin o ganol dinas Caer ac o fewn 2 filltir o’r A55, mae Parc Busnes Penarlâg yn caniatáu i gwmnïau gael lleoliad mewn ardal fenter sefydledig wrth fwynhau buddion nodedig y ffordd o fyw yng Ngogledd Cymru.
Mae pentref Penarlâg gyda’i hamrywiaeth o fwytai a chyfleusterau lleol ac ystod
Parc Manwerthu Brychdyn o fasnachwyr cenedlaethol megis Tesco, BHS, Boots, Next a Costa o fewn taith 5 munud mewn car.
Mae’r Maes Awyr cyfagos wedi denu buddsoddiad sylweddol gan Airbus ac mae’n un o’r safleoedd cyflogaeth pwysicaf yng Ngogledd Cymru.
Ymhlith y cwmnïau mawr eraill sydd wedi cael eu denu i’r ardal mae Toyota, Raytheon, BAE Systems, ac Alcontrol tra bod amrywiaeth eang o fusnesau gan gynnwys canolfannau galwadau, gweithgynhyrchu prif ffrwd, busnesau bio-fferyllol, prosesu bwyd a logisteg oll yn masnachu gerllaw.
croesoi Barc Busnes Penarlâg – Sir y Fflint rhan o Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy
Deiliaid Lleol
Design Consultants
MANOR LANE
B5125AIRBUS (EAST)
AIRBUS (WEST)
BROUGHTON RETAIL PARK
HAWARDEN BUSINESS PARK
HAWARDEN INDUSTRIAL ESTATE
A5104 TO CHESTER
6 MILES
CHESTER CITY CENTRE
pam
Parc Busnes Penarlâg?Mae Parc Busnes Penarlâg yn cynnig y lleoliad delfrydol i ddeiliaid busnes doeth sy’n edrych am fan masnachu newydd sbon a chydbwysedd ardderchog rhwng gwaith a bywyd. Os oes gofyn am beirianneg o’r radd flaenaf, labordai / Ymchwil a Datblygu, gweithgynhyrchu, dosbarthiad neu ddatrysiad eiddo gwbl bwrpasol, gall y tîm datblygu ym Mharc Busnes Penarlâg gyflawni’ch disgwyliadau a darparu adeiladau o ansawdd uchel i fodloni’ch union anghenion.
Mae Parc Busnes Penarlâg Mae Parc Busnes Penarlâg yn un o safleoedd cyflogaeth strategol pwysicaf Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru. Mae’r parc busnes cyfredol yn ymestyn i 40.5 erw ac fe’i dyrannir i lety B1, B2 a B8.
Mae’r datblygiad uwchgynlluniedig hwn yn gallu lletya adeiladau unigol hyd at 13,935 metr sgwâr (150,000 troedfedd sgwâr) ar blotiau wedi’u gwasanaethu’n llawn a’u lleoli o fewn amgylchedd wedi’i dirlunio a’i gysylltu gan seilwaith newydd y safle.
Ardal Fenter Glannau DyfrdwyMae Parc Busnes Penarlâg wedi’i leoli o fewn un o’r saith safle yng Nghymru y’u clustnodwyd yn Ardaloedd Menter gan Lywodraeth Cymru. Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yw un o’r ardaloedd gweithgynhyrchu mwyaf modern a llawn sgiliau uchel yn y DU ac uchelgais Llywodraeth Cymru yw gwneud Glannau Dyfrdwy yn ganolfan flaenllaw ar gyfer uwch-weithgynhyrchu ac uwch-dechnoleg.
Yn ychwanegol i’rgefnogaeth busnes a gynigir gan Lywodraeth Cymru, mae gan gwmnïau sydd wedi’u lleoli o fewn yr ardal fynediad at ystod o gefnogaeth bellach a chymhelliannau ariannol, gan gynnwys cynllun cyfraddau busnes dewisol.
Cymorth grantiauMae Penarlâg wedi’i leoli mewn ardal Haen 2 a gynorthwyir a gall ddeiliaid bod yn gymwys am gefnogaeth cyllido. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Busnes Cymru ar Ffôn: 03000 603 000.
Band eang cyflym iawnGall fusnesau elwa o wasanaethau wedi’u cyflwyno dros y rhwydwaith ffeibr optig FibreSpeed, o ffeibr tywyll i gylchedau preifat pwrpasol o safon fusnes. Mae gan ein partneriaid ddatrysiadau arloesol ar gyfer y sawl sy’n defnyddio llawer o ddata gyda thraffig sy’n allweddol i’r busnes neu ddatrysiadau band eang mwy sylfaenol ar gyfer busnesau llai. Ewch i www.fibrespeed.co.uk am ragor o wybodaeth.
Mae Rhwydwaith BT Openreach hefyd yn gwasanaethu Parc Busnes Penarlâg, gan ddarparu gwasanaethau ether-rwyd cyflym iawn a chyda gwasanaethau band eang cyflym iawn wrthi’n cael eu cyflwyno. Trwy fanteisio o ddau Weithredwr Rhwydwaith, a’u darparwyr gwasanaethau, mae Parc Busnes Penarlâg yn darparu dewis unigrwydd ac yn cynnig cystadleuaeth a gwydnwch ardderchog.
Airbus
Mae safle Airbus ym Mrychdyn, sydd wrth ymyl Parc Busnes Penarlâg, yn elfen hanfodol o Adain Canolfan Ragoriaeth y DU. Caiff tua 100,000 o swyddi eu creu yn y DU gan waith adenydd Airbus, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol trwy gytundebau cyflenwyr.
Mae safle Brychdyn yn gyfrifol am gydosod yr adenydd ar gyfer holl awyrennau Airbus.
Mae’n cyflogi mwy na 6,000 o bobl, y rhan fwyaf ym maes gweithgynhyrchu a’r gweddill ym maes peirianneg a swyddogaethau cefnogi.
y datblygwyrMae Parc Busnes Penarlâg yn cael ei ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Pochin’s Ltd. Hyd yma, mae tua 150,000 troedfedd sgwâr o lety eisoes wedi cael ei ddatblygu ar draws 8 adeilad.
Mae Pochin’s Ltd ymhlith y prif grwpiau adeiladu a datblygu yn y Gogledd Orllewin. Amrywiaeth sy’n parhau i fod yn ddilysnod gweithgareddau eu his-adran gontractio, gan bwysleisio’u gallu i fodloni anghenion llym y marchnadoedd diwydiannol/masnachol, addysg/gofal iechyd ac adwerthu/hamdden.
www.pochins.com
BalancingPond
BalancingPond
Aerotech
Advanced composite training
& development centre
PLOT 6Design & Buildavailable up to20,000 sq ft
Gardner Aerospace
SIRA
ALcontrol Laboratories
Tarvin PrecisionAvila
Newces
Design & Build Available
Existing Buildings
KEY
PLOT 1Design & Buildavailable up to150,000 sq ft
PLOT 2Design & Buildavailable up to100,000 sq ft
O.N. Mae’r cynllun hwn yn fynegol yn unig a dylai’r sawl â diddordeb gyfeirio at www.hawardenbusinesspark.co.uk am opsiynau dylunio ac adeiladu
HOLYHEAD
BANGORCHESTER
LIVERPOOL
MANCHESTER
WREXHAM
HAWARDEN
HOLYHEAD
BANGORCHESTER
LIVERPOOL
MANCHESTER
WREXHAM
HAWARDEN
ylleoliad
Location Commuting time
Chester 13 mins
Deeside 11 mins
Flint 21 mins
Holyhead 1 hr 33 mins
Liverpool 38 mins
Manchester 1 hr
Wrexham 27 mins
A55 6 mins
M56 16 mins
M6 43 mins
Hawarden Airport 5 mins
Liverpool Airport 45 mins
Manchester Airport 45 mins
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag un o’r asiantau neu ewch i’w wefan www.hawardenbusinesspark.co.uk
A41
A55
A5115
A483
A5104
A548
A540A5116
A56
M56J11 J15
A55
BROUGHTON
B5125
B5125
B5104
B5129
A550
A494
QUEENSFERRY
M56Warrington
M6
ManorLane
A55North Wales Expressway
SAT NAV: CH5 3US
B5129
CHESTER
CHESTER ROAD
M53
B5125
MANOR LANE
MANO
R LA
NE
HAWARDENAIRPORT
Deddf Camliwio. Mae JLL a Legat Owen eu hunain ac ar ran gwerthwyr neu brydleswyr arfaethedig yn hysbysu: Ni ellir gwarantu cywirdeb unrhyw ddisgrifiad, dimensiynau, cyfeiriadau at amod, caniatâd angenrheidiol at ddefnydd a deiliadaeth a manylion eraill yn y ddogfen hon ac mae ar gyfer cyfarwyddyd cyffredinol yn unig a ni ddylai darpar brynwyr neu denantiaid ddibynnu arnynt i ddatgan neu gynrychioli ffeithiau, a dylent fodloni eu hunain eu bod yn gywir. Nid oes gan JLL na Legat Owen neu unrhyw un o’u weithwyr neu gynrychiolwyr unrhyw awdurdod i wneud neu roi unrhyw gynrychiolaeth neu warant neu gynnig cytundeb o unrhyw fath mewn perthynas â’r Eiddo os yw hyn ar ran y darpar brynwyr neu denantiaid o JLL a Legat Owen.
HOME