asesiad ardrawiad iaith ysgolion dalgylch y gader · 2019. 5. 15. · 4 3. cyd-destun dalgylch y...

50
1 9 fed Ebrill 2014 ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER

Upload: others

Post on 09-Mar-2021

5 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

1

9fed Ebrill 2014

ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION

DALGYLCH Y GADER

Page 2: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

2

Cynnwys Rhif Tudalen

1. Cefndir 3 2. Methodoleg 3 3. Cyd-destun dalgylch y Gader 4 4. Cyd-destun sirol 6 5. Ardrawiad Iaith fesul Modelau ad-drefnu 10

Model 1 10 Model 2 14 Model 3 19 Model 4 23 Model 5 25 Model 6 26 Model 7 27 Model 8 28

6. Dyfarniad Sgôr Ardrawiad Iaith Modelau Trefniadaeth Ysgolion 29

7. Diweddglo 30 8. Atodiad A: Holiadur Iaith Ysgolion Cynradd Dalgylch Y Gader 32 Atodiad B: Diffiniadau o Grwpiau Ieithyddol 38 Atodiad C: Holiadur Iaith Ysgol Uwchradd Y Gader 39 Atodiad CH: Dyfarniad Sgôr iechyd ieithyddol dalgylch Y Gader (2014) 46

Page 3: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

3

1. Cefndir

Comisiynwyd Gweriniaith i lunio adroddiad cynhwysfawr yn dilyn cynnal asesiad ardrawiad ieithyddol o’r modelau a ystyrir yn nalgylch Y Gader. Ymgymerwyd â’r gwaith drwy gasglu a dadansoddi gwybodaeth ansoddol a meintiol gan Benaethiaid yr ysgolion dan sylw, gan hefyd ystyried data o ffynonellau eraill (e.e. Adroddiadau Estyn/ Adroddiadau Cyfrifiad Cenedlaethol) a gofynion ieithyddol Cenedlaethol (a Rhanbarthol/Sirol).

2. Methodoleg

Wrth gynnal ardrawiad iaith yn y 10 ysgol gosodwyd pwysiad ar 3 meincnod penodol sef:-

• Y dimensiwn academaidd o ran cyfrwng dysgu pynciau eraill a dysgu Cymraeg (hynny yw y “pwyslais ar osod sylfeini cadarn ar gyfer y Gymraeg yn y cyfnod meithrin, derbyn a CA1. Yn CA2, parheir i roi sylw i ddatblygu gafael disgyblion ar y Gymraeg gan roi sylw cynyddol i ddatblygu eu gafael ar y Saesneg”. Yn erbyn hwn y bydd cynnydd neu newid yn cael ei fesur, ac mae felly yn ystyriaeth bwysig wrth gynnal ardrawiad iaith. Yn achos addysg Uwchradd ystyriwyd hefyd CA2 a CA3, dysgu dwyieithog yn ogystal â TGAU Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith a darlun o’r sefyllfa o ran dewis gwneud pynciau TGAU trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Nid oes darpariaeth Safon Uwch yn Y Gader felly ni ystyriwyd y sefyllfa o ran Cymraeg Safon Uwch iaith gyntaf ac ail iaith.

• Yr ail ddimensiwn oedd defnydd iaith disgyblion hefo'i gilydd yn ystod oriau ysgol y tu hwnt i gyflwyniad gan athrawon mewn gwersi. Yma mae cefndir iaith cartref ac agweddau ieithyddol disgyblion yn dylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol o’r iaith sydd yn cyfrannu at lefel cyrhaeddiad oed perthnasol disgyblion.

• Y drydedd elfen yw pwyslais yr Ysgol ar greu naws ac ethos Gymraeg a Chymreig a’r bri a roddir i’r Cwricwlwm cenedlaethol a dinasyddiaeth Gymreig.

Mae’r ffactorau uchod yn dylanwadu dros amser ar agweddau, lefel cyrhaeddiad disgyblion yn yr iaith adeg arholiadau TGAU a Safon Uwch ac yn derfynol y defnydd ohoni fel person ifanc ac oedolyn. Ar lefel Cymru gyfan y sector addysg gynradd sydd wedi bod fwyaf blaengar o ran darparu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddisgyblion. Er mwyn cael data cyfredol am sefyllfa ieithyddol y 10 ysgol cwblhaodd pob ysgol holiadur (Atodiad A/B) at bwrpas asesu lefel cydymffurfiaeth a’r polisi iaith presennol ac er mwyn gosod modelau ad-drefnu mewn Ysgolion cyd-destun y sefyllfa gyfredol bresennol.

Page 4: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

4

3. Cyd-destun dalgylch Y Gader

Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac o ran ethos ysgolion dalgylch Y Gader (Chwefror 2014)

Sgôr cynaladwyedd ieithyddol Sgôr dirywiad ieithyddol Cyfanswm sgôr iechyd ieithyddol

1. Brithdir (46) +23 -0 23

2. Ieuan Gwynedd (18) +23 -1 22

3. Machreth (14) +19 -0 19

4. Ganllwyd (19) +19 -3 16

5. Clogau (25) +14 -1 13

6. Dinas Mawddwy (20) +14 -5 9

7. Llanelltyd (41) +9 -4 5

8. Y Friog (28) +13 -8 5

9. Cynradd Dolgellau (149) +10 -5 5

10. Y Gader (384) +6 -6 0 Ffynhonnell: Holiadur Iaith gan Ysgolion y dalgylch.

Ar sail y mesurydd uchod Ysgol Brithdir sydd a’r sgôr cynaladwyedd ieithyddol mwyaf cadarn hefo Ieuan Gwynedd a Machreth yn agos hefyd. Ar y pegwn arall mae’n debyg mai’r Ysgol Uwchradd sydd a’r sgôr iechyd ieithyddol isaf ond bod Y Friog a Llanelltyd hefyd yn arddangos nodweddion o ddirywiad ieithyddol dros amser.

Siart 1: % disgyblion yn ôl iaith y cartref – dalgylch Y Gader

Page 5: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

5

Tabl 2: Proffil iaith disgyblion ysgolion dalgylch Y Gader (Chwefror 2014)

Iaith Disgyblion

Nifer % o gartrefi Cymraeg Nifer a % o gartrefi Saesneg Nifer a % o gartrefi dwyieithog

Ganllwyd (19) 11 (55%) 9 (45%) 0 (0%)

Ieuan Gwynedd (18) 10 (55%) 2 (11.1%) 6 (33.3%)

Machreth (14) 7 (50%) 2 (14%) 5 (36%)

Y Gader (384) 191 (49.7%) 193 (50.3%) 0 (0%)

Brithdir (46) 22 (48%) 10 (22%) 14 (30%)

Dinas Mawddwy (20) 9 (45%) 2 (10%) 9 (45%)

Cynradd Dolgellau (149) 30 (20%) 119 (80%) 0 (0%)

Llanelltyd (41) 8 (19%) 9 (22%) 24 (59%)

Clogau (25) 2 (8%) 21 (84%) 2 (8%)

Y Friog (28) 0 (0%) 26 (93%) 2 (7%)

Cyfanswm 288 (40%) 372 (51.7%) 60 8.3%)

Glas – disgyblion o gartref Cymraeg, Coch – disgyblion o gartrefi Saesneg Gwyrdd – disgyblion o gartrefi dwyieithog. Y mwyaf tywyll yw’r lliw dyna’r % uchaf ymhob categori.

Mae’r darlun o ran proffil iaith disgyblion sydd o gartrefi Cymraeg yn adlewyrchu dalgylch lle mae’r Gymraeg yn colli ei thir - yn arbennig yn nhref Dolgellau. Cymhlethir y sefyllfa fwyfwy gyda dyfodiad tua thraean o ddisgyblion i Y Gader o ardaloedd glannau Meirionnydd, y tu allan i ddalgylch yr Ysgol (dalgylch Ardudwy, Harlech). Mewn rhai pentrefi gwledig y mae’r Gymraeg yn fwy cadarn ac yn cael ei adlewyrchu ym mhroffil iaith disgyblion ysgolion Y Ganllwyd, Ieuan Gwynedd a Machreth, Brithdir a Dinas Mawddwy. Nid felly mohoni yn Llanelltyd, Clogau nac Y Friog, ac yn achos Y Friog nid oes yr un disgybl o gartref Cymraeg. Cymaint annos felly cyflawni polisi iaith addysg y sir - yn arbennig o ran hybu defnydd cymdeithasol. Dengys ffigurau Cyfrifiad 2011 beth yw’r sefyllfa yn y dalgylch, gan gofio bod traean o ddisgyblion Y Gader yn dod o du allan i’r dalgylch hefyd. Mae canran y dirywiad yn uwch na’r ffigwr sirol (-3.6%) gyda dirywiad mawr yn y dref ac i raddau amrywiol mewn pentrefi. Tabl 3: % gallu siarad Cymraeg (2001-2011) dalgylch Y Gader

Dalgylch Y Gader % siaradwyr Cymraeg 2001

% siaradwyr Cymraeg 2011

% newid ers 2001

Dolgellau (De) 73% 67.1% -5.9%

Dolgellau (Gogledd) 67% 61.8% -5.2%

Brithdir a Llanfachreth/ Y Ganllwyd/ Llanelltyd 66% 63.2% -2.8%

Abermaw 43.5% 41.5% -2%

Llangelynnin 40.7% 35.9% -4.8%

Corris/ Mawddwy 60.4% 55.8% -4.6%

Dalgylch cyfan 58.4% 54.2% -4.2% Ffynhonnell: Cyfrifiad 2011 – Ystadegau i Wynedd, Uned Ymchwil Corfforaethol, Cyngor Gwynedd.

Page 6: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

6

4. Cyd-destun sirol

Fel rhan o’r ardrawiad iaith hwn aed ati i ganfod beth yw iechyd ieithyddol y dalgylch, ac fe’i disgrifir fel:

“Mae iechyd ieithyddol Ysgolion tref Dolgellau mewn cyflwr sy’n cyfateb i ddisgrifiad Gweddol gyda chanran ar gyfartaledd o 62%. Roedd 2 o’r 4 atebion o dan y trothwy 70% angenrheidiol i ddynodi sefyllfa iach neu gynaliadwy, a hynny yn seiliedig ar ganran y disgyblion o gartrefi Cymraeg a chanran y gymuned oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dengys bod elfennau penodol o ddirywiad ieithyddol ar waith - yn arbennig o ran mewnlifiad, dirywiad yn y Gymraeg fel iaith gyntaf Ysgol a defnydd cymdeithasol eang o’r Saesneg. Mae llwyddiant Ysgol Uwchradd Y Gader o ran trosglwyddo’r Gymraeg i ddisgyblion ail iaith fel y dônt yn hyfedr ynddi fel iaith gyntaf hefyd yn allweddol wrth gymhathu unigolion i’r diwylliant Cymreig. Yn anffodus mae’n debyg fod arfer cyffredin o’r Saesneg yn gymdeithasol yn llesteirio’r gwaith da hwnnw i raddau ond yn codi’r cwestiwn am debygolrwydd parhau a’r Gymraeg ar ôl gadael addysg statudol. Adlewyrchir hynny hefyd yng nghyd-destun demograffig tref Dolgellau. Gyda'i gilydd felly mae’n debygol iawn mai dirywio a cholli tir mae’r Gymraeg yn y dalgylch, ond bod y dirywiad hwnnw yn fwy graddol yn yr Ysgol nac yn y gymuned ehangach. Yr hyn sy’n galonogol yw “Gall 93% o’r disgyblion siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf ac mae pob disgybl a ddilynodd y Gymraeg fel mamiaith yn yr ysgol gynradd yn parhau i wneud hynny.”

Dyma sut mae’r perfformiad yma yn cymharu â dalgylchoedd eraill. Yn sirol, ond heb gynnwys dalgylchoedd Y Berwyn a Tywyn, byddai’r dyfarniad sgôr iechyd ieithyddol yn gosod Y Gader yn 9fed allan o 12 dalgylch, ac felly ymhlith y cohort lle mae dirywiad ieithyddol amlwg ar

waith.

Page 7: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

7

Tabl 4: Disgrifiad o sgôr iechyd ieithyddol dalgylchoedd Gwynedd

Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Gwynedd (Asesiad Ardrawiad Iaith 2011)

Disgrifiad iechyd ieithyddol (2011) 1

1. Brynrefail, Llanrug Da iawn

2. Syr Hugh Owen, Caernarfon Da iawn

3. Moelwyn Da iawn

4. Glan y Môr, Pwllheli Da iawn

5. Botwnnog Da iawn

6. Dyffryn Nantlle, Penygroes Da iawn

7. Dyffryn Ogwen, Bethesda Da

8. Eifionydd, Porthmadog Da

9. Y Gader, Dolgellau Gweddol 10. Ardudwy, Harlech Gwael

11. Tryfan, Bangor Gwael iawn

12. Friars, Bangor Gwael iawn

Y Berwyn, Y Bala Nid yw’r data wedi ei gasglu

Tywyn Nid yw’r data wedi ei gasglu

Tabl 5: Patrwm defnydd iaith gymdeithasol fesul dalgylch Gwynedd

Ysgolion uwchradd Gwynedd Clwb Brecwast Amser chwarae Yn adeiladau’r Ysgol Wrth y bwrdd amser cinio Yn y dosbarth Clwb ar ôl Ysgol

Syr Hugh Owen Amherthnasol Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg

Brynrefail Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg

Dyffryn Nantlle Amherthnasol Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Dyffryn Ogwen Amherthnasol Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg

Tryfan Amherthnasol Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg Cymraeg, gan amlaf

Friars Amherthnasol Saesneg Saesneg, gan amlaf Saesneg Saesneg, gan amlaf Saesneg, gan amlaf

Glan y Môr Amherthnasol Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Botwnnog Amherthnasol Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Eifionydd Amherthnasol Saesneg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Saesneg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Moelwyn Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Ardudwy Amherthnasol Saesneg Saesneg, gan amlaf Saesneg Cymraeg, gan amlaf Amherthnasol

Y Berwyn * Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Tywyn** - - - - - -

Y Gader*** Amherthnasol Saesneg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg 50% Saesneg 50%

Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Ffynhonnell: Asesiad Ardrawiad Iaith 2011* Asesiad Ardrawiad Iaith 2010 *** Asesiad Ardrawiad Iaith 2013 **Nid yw’r data ar gyfer Tywyn yn hysbys ond mae’n debygol o orffwys o fewn y band glas Saesneg trwyadl/ mwyafrifol ar sail ardrawiad iaith Ysgolion Cynradd y dalgylch (2010).

Mae’r hunan asesiadau uchod gan Ysgolion Uwchradd Gwynedd yn dangos fod 4 patrwm defnydd cymdeithasol gwahanol ar waith sef:

1. Patrwm defnydd iaith cymdeithasol Cymraeg trwyadl megis Ysgolion Syr Hugh Owen, Brynrefail, Dyffryn Ogwen 3

2. Patrwm defnydd iaith cymdeithasol Cymraeg mwyafrifol megis Ysgolion Dyffryn Nantlle, Tryfan, Glan y Môr, Botwnnog, Moelwyn ac Y Berwyn. 6

3. Patrwm defnydd iaith cymdeithasol cymysg/ amrywiol Cymraeg/Saesneg megis Ysgolion Ardudwy, Eifionydd ac Y Gader. 3 4. Patrwm defnydd iaith cymdeithasol Saesneg trwyadl/ mwyafrifol megis Ysgolion Friars (a Tywyn). 2

Yn gymdeithasol felly mae disgyblion Y Gader yn gorffwys o fewn patrwm cymysg iaith.

Page 8: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

8

Barn ysgolion am effeithiau ad-drefnu ysgolion ar y Gymraeg Yn yr holiadur iaith gofynnwyd y 3 cwestiwn ychwanegol isod. Tabl 6: Effeithiau ad-drefnu ysgolion ar y Gymraeg (1/2) Ad-drefnu Ysgolion

Effeithiau ad-drefnu ar safonau Cymraeg disgyblion

Manteision / anfanteision i’r Gymraeg o ran cyflawni polisi iaith addysg ôl ad-drefnu

Mesurau lliniaru effeithiau anfanteisiol

Cynradd Dolgellau

Dim Dim -

Ganllwyd O greu sefyllfaoedd ble mae’r Cymry Cymraeg yn y lleiafrif sylweddolir ei bod yn fwyfwy ymdrech i gynnal yr iaith.

Credir y byddai tipyn mwy o bwysau ar yr ysgolion i gyrraedd targedau’r polisi iaith pe bai mwy o ganran o’r plant o gartrefi di-Gymraeg nac sydd o gartrefi Cymraeg o fewn y sefydliad.

Digon o ymarferion trochi. Cynyddu ratio plentyn/oedolyn o fewn y dosbarthiadau / ar yr iard.

Cyflogi athrawon teithiol. / Sefydlu mwy o ganolfannau iaith ac ymestyn eu briff i gynnwys

plant ag angen gloywi eu Cymraeg, yn ogystal â hwyrddyfodiaid.

Cefnogaeth i argyhoeddi’r gymuned o ysbryd gweithgarwch yr ysgol o safbwynt y Gymraeg - mai Cymraeg a ddylid ei harddel fel yr iaith gyfathrebol gyda phob plentyn ar bob achlysur.

Dinas Mawddwy

Anfanteision -Dosbarthiadau mwy, mwy o blant yn ystod amseroedd chwarae / llai o oruchwyliaeth,

Manteision – Rhan o weithgareddau torfol (corau, partïon canu, aelodau o dimau,), mwy o adnoddau, mwy o gyllid, adnoddau diweddaraf e.e. TGCh, rhannu arbenigeddau athrawon, lleihau baich athrawon – canolbwyntio ar yr addysgu

Sicrhau bod y gweithlu i gyd yn medru siarad Cymraeg yn rhugl ac yn ei ddefnyddio gyda’r disgyblion

Brithdir O uno efo ardaloedd mwy Seisnig – byddai’n anoddach cadw safon y Gymraeg fel yr ydyn ni yn ei weld yma. Er bod dros 50% o’r plant yn dod o gartrefi lle mae 1 rhiant neu’r 2 yn ddi-Gymraeg – er hyn Cymraeg yw iaith y buarth yma.

Gallwn gyflawni Polisi Iaith Gwynedd fel yr ydyn ni heddiw - ond byddai’n anodd - o gael mwy o ddysgwyr i mewn. Mae’r mwyafrif yn Gymreigaidd iawn a byddem yn medru cynnal yr iaith Gymraeg mewn ysgol fwy - gyda phlant o gefndir tebyg i rhain yn y Brithdir.

Er mwyn i’r Cymry Cymraeg gael chwarae teg mewn ysgol ardal a fyddai’n cynnwys holl ysgolion y dalgylch byddai’n rhaid ystyried ffrydio/setio plant ar gyfer gwersi Cymraeg.

Ieuan Gwynedd

Credem y byddai safonau yn dirywio pe bai’r disgyblion yn rhannu ysgol hefo disgyblion o ardaloedd mwy Seisnig y dalgylch, yn enwedig felly safon eu hiaith lafar.

Byddai’n anoddach i ni gyflawni’r polisi nag yw hi ar hyn o bryd. Gan ein bod yn byw mewn ardal Gymreig rydym wedi gallu ymdopi â mewnfudwyr yn bur dda hyd yma oherwydd nad yw’r niferoedd yn fawr ond gyda nifer mwy helaeth o ddysgwyr byddai’n sefyllfa mwy heriol.

Er mwyn i’r Cymry Cymraeg gael chwarae teg mewn ysgol ardal a fyddai’n cynnwys holl ysgolion y dalgylch byddai’n rhaid ystyried ffrydio/setio plant ar gyfer gwersi Cymraeg.

Page 9: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

9

Tabl 6: Effeithiau ad-drefnu ysgolion ar y Gymraeg (1/2)

Ad-drefnu Ysgolion

Effeithiau ad-drefnu ar safonau Cymraeg disgyblion Manteision / anfanteision i’r Gymraeg o ran cyflawni polisi iaith addysg ôl ad-drefnu

Mesurau lliniaru effeithiau anfanteisiol

Llanelltyd Yn ddibynnol ar ba opsiwn sy’n cael ei gynnig, byddai sicrhau ethos ieithyddol yn haws i’w sicrhau mewn ysgol ardal wledig.

Hyn eto yn ddibynnol ar yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio gan Gabinet Gwynedd.

Mae’n angenrheidiol fod pob disgybl ym mhob ysgol/safle yn cael mynediad at addysg dwyieithog fel yr amlinellir ym mholisi iaith Gwynedd.

Machreth Os fydd safleoedd gwledig yn cael eu gwarchod yna nid wyf yn gweld yr ad-drefnu yn cael effaith ar safonau Cymraeg y disgyblion.

Beth bynnag fydd y newid dwi’n credu fod sicrhau parhad safleoedd gwledig yn bwysig ac yn mynd i fod yn gryfder o ran cyflawni polisi iaith addysg Gwynedd.

Sicrhau fod yna gydweithio agos rhwng ysgolion/safleoedd yr ardal gan sicrhau cysondeb o ran hyrwyddo'r Gymraeg ymhob gweithgaredd addysgol.

Y Friog Mae’r gymuned yn un weddol ddifreintiedig lle na welir llawer o rieni gyda char neu drafnidiaeth barod i fynychu gweithgareddau mewn ysgolion arall. Yn sicr ni fydd llawer o rieni yn gallu mynychu gweithgareddau a chyngherddau os ni fydd yr ysgol yn agos iddynt. Ni fyddent chwaith yn gallu rhoi'r cynnig i’w plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau, clybiau, gwersi neu chwaraeon ar ôl ysgol oherwydd cludiant i’r plant hynny. Yn ysgol Friog rydym yn cynnig ystod o weithgareddau all yr holl ddisgyblion gymryd rhan ynddynt, ac nid oes angen i’r rhieni gasglu plant mewn car neu gludiant cyhoeddus. Trwy gynnig clybiau a gweithgareddau ar ôl ysgol gallwn godi safonau Cymraeg y plant gan dargedu iaith gymdeithasol y plant. Gall gweithgareddau ar ôl ysgol fel rhan o’r gymuned cynnwys rhieni yn yr her o ddysgu iaith newydd.

Anfantais os nad oes ysgol yn agos i rieni er mwyn cefnogi gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig nifer o weithgareddau i annog a chefnogi'r rheini wrth iddynt ddarllen a siarad Cymraeg gyda’u plant. Gall y rhieni deimlo fel estroniaid heb y cyswllt rheolaidd a chefnogaeth barod i’w hyfforddi i gefnogi’r plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mantais i blant cydweithio gyda phlant o gartrefi Cymreig (er fel ysgol rydym yn annog ac yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau tebyg rhwng ysgolion a phlant yn barod).

Sicrhau cyswllt cryf rhwng rhieni a’r ysgol a rhan allweddol yr ysgol yn y Gymuned.

Clogau Fel arfer, po fwyaf yw’r nifer plant y lleiaf yw’r cyfathrebu yn y Gymraeg.

Ddim os ydy pob ysgol yn cadw at ganllawiau’r polisi. Ymrwymo’n llawn i’r siarter iaith.

Uwchradd Y Gader

Byddai effaith ad-drefnu’r ysgol ar safonau Cymraeg y disgyblion yn un positif am y rhesymau canlynol:

• Dilyniant yn y cynlluniau addysgu (Cymraeg a cyfrwng Cymraeg) trwy’r ysgol

• Cysoni dulliau dysgu ac addysgu trwy’r ysgol

• Cysondeb wrth hyrwyddo’r defnydd anffurfiol o’r iaith

• Ymrwymiad gan yr UDRh i godi safonau ar draws yr ysgol

Byddai manteision i’r Gymraeg o ran cyflawni polisi iaith addysg Gwynedd am y rhesymau canlynol:

• Un weledigaeth ar draws yr ysgol

• Yr holl staff wedi ymrwymo i’r un gweledigaeth a’r un polisi iaith

• Gweithredu un polisi iaith yn gyson trwy’r ysgol

• Dilyniant ieithyddol wrth symud o un Cyfnod Allweddol i’r llall.

-

Page 10: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

10

5. Ardrawiad Iaith fesul Modelau ad-drefnu

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Gwynedd 8 model posib dan ystyriaeth yn nalgylch Y Gader, ac amlinellir pob un yn yr adroddiad hwn. Lle mae manylion digonol wrth law, cyflwynir effeithiau tebygol pob model ar y Gymraeg er mwyn sefydlu pa fodelau sy’n cael yr effeithiau mwyaf negyddol a mwyaf cadarnhaol cyn bwrw ati i wyntyllu pa fodelau fyddai’n briodol ar gyfer trafodaeth bellach yn y dalgylch.

Model 1: Parhau gyda’r ‘status quo’ sef un Ysgol Uwchradd (Y Gader) a 9 Ysgol Gynradd. Dim newid i strwythur, lleoliad, dynodiad, rheolaeth na dalgylchoedd yr ysgolion presennol

Mae tabl 7 isod yn amlygu’r sefyllfa bresennol ymhob un o’r 10 ysgol a hynny o ran cyflawniad academaidd, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg a phwyslais yr Ysgol ar greu naws ac ethos Gymraeg a Chymreig a’r bri a roddir i’r Cwricwlwm cenedlaethol a dinasyddiaeth Gymreig. Mae’r wybodaeth yn seiliedig ar hunanasesiad Pennaeth pob Ysgol sef holiadur iaith a gwblhawyd ym mis Chwefror/Mawrth 2014. Yn erbyn pob model ystyrir agweddau penodol o dan y 3 pennawd (academaidd, defnydd iaith gymdeithasol a naws/ethos yr ysgol) cyn dod i farn gronnus am y model trwy osod effaith yn erbyn disgrifiad o effaith cadarnhaol, niwtral neu negyddol. Mae’r tri disgrifiad yma yn seiliedig ar waelodlin sef sefyllfa bresennol y dalgylch, ac felly yn golygu: Cadarnhaol: perfformiad yn debygol o gynyddu tu hwnt i’r sefyllfa bresennol.

Niwtral: perfformiad yn debygol o aros yn ddigyfnewid i’r sefyllfa bresennol.

Negyddol: perfformiad yn debygol o ostwng yn is na’r sefyllfa bresennol.

Page 11: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

11

Tabl 7: Sefyllfa Bresennol (1/3)

Model 1 “status quo’ Sefyllfa Chwefror 2014 Cynradd Dolgellau Ganllwyd Dinas Mawddwy Brithdir Cyfanswm nifer disgyblion 149 20 20 46

Cyflawniad yr Ysgol o ran CA1 Da iawn Da iawn Da iawn Da iawn

Gallu ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol CA2 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71%

Eithriadau i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf Ysgol Oes - hwyrddyfodiaid Nac oes Nac oes Nac oes

Safon Cymraeg y disgyblion :

Siarad Da iawn Da iawn Da iawn Da iawn

Ysgrifennu Da Da Da Da iawn

Darllen Da iawn Da iawn Da iawn Da iawn

Gwrando Da Da iawn Da iawn Da iawn

Carfan A 87% 100% 100% 100%

Nodwch Carfan B 0% 0% 0% 0%

% fesul Carfan C1 13% 0% 0% 0%

Carfan Carfan C2 0% 0% 0% 0%

Ieithyddol Carfan Ch 0% 0% 0% 0%

Cyflawniad yr Ysgol dros y 5 mlynedd diwethaf :

Cyrhaeddiad CA 1 Heb newid Heb newid Heb newid Heb newid

Cyrhaeddiad CA 2 Heb newid Heb newid Wedi dirywio Heb newid

Cymraeg fel iaith gyntaf Ysgol Heb newid Wedi dirywio Wedi dirywio Heb newid

Canran Carfanau A i Ch Bl. 6 Heb newid Heb newid? Wedi dirywio Heb newid

Cyson a’r targedau carfanau Heb newid Heb newid - Heb newid

Beth sydd i gyfrif am y sefyllfa yma Mewnfudo Mewnfudo lleol, Allfudo a Dylanwad cymunedol – diffyg

siarad Cymraeg

Mewnfudo a Lleihad yn niferoedd plant

-

Iaith : Cyfarfodydd Llywodraethwyr Dwyieithog (c.a.y.p.) Cymraeg Cymraeg Cymraeg

Cofnodion Dwyieithog Cymraeg Cymraeg Cymraeg

% o ddisgyblion

Disgyblion o gartrefi Cymraeg 30 (20%) 11 (55%) 9 (45%) 22 (48%)

Disgyblion o gartrefi Saesneg 119 (80%) 9 (45%) 2 (10%) 10 (22%)

Disgyblion o gartrefi dwyieithog 0 (0%) 0 (0%) 9 (45%) 14 (30%)

Mewnlifiad di-Gymraeg :

Eu hintegreiddio'n naturiol i'r Ysgol Da iawn Da iawn Da iawn Da iawn

Cynnal/adfer y Gymraeg yn Ysgol Da iawn Da iawn Da Da iawn

Clwb Brecwast - - - -

Iaith a ddefnyddir gan ddisgyblion:

Amser chwarae Saesneg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Yn adeiladau’r Ysgol Cymraeg, gan amlaf Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Wrth y bwrdd amser cinio Saesneg, gan amlaf Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Yn y dosbarth Cymraeg, gan amlaf Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Clwb ar ôl Ysgol - Cymraeg - Cymraeg

% staff ategol yr Ysgol sy'n ddwyieithog 100%-71% 100%-71% 20% neu lai 100%-71%

% ymwelwyr dwyieithog (Heddlu, Tân, Iechyd ayyb) 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71%

Ffactorau sy'n effeithio/ lliniaru ethos Cymraeg a Chymreig

Dim - - Rhuglder pawb, cadernid gweithredu’r polisi iaith + ethos

ysgol

Ysgol yn cynnal:

Diwylliant Cymreig) 100%Ydyw 100%Ydyw 100%Ydyw 100%Ydyw

% gweithgareddau cymunedol Ysgol Cymraeg 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71%

Disgrifio orau sefyllfa’r Gymraeg yn y ward/gymuned Graddol golli ei thir Graddol golli ei thir Iach Iach

Page 12: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

12

Tabl 7: Sefyllfa Bresennol (2/3)

Model 1 “status quo’ Sefyllfa Chwefror 2014 Ieuan Gwynedd Llanelltyd Machreth Y Friog Clogau Cyfanswm nifer disgyblion 18 41 14 28 25

Cyflawniad yr Ysgol o ran CA1 Da iawn Da iawn Da iawn Da iawn Da iawn

Gallu ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol CA2 100%-71% 100%-71% 100%-71% 70%-50% 100%-71%

Eithriadau i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf Ysgol Nac oes Oes – disgybl tramor hefo ADY

Nac oes Nac oes Nac oes

Safon Cymraeg y disgyblion :

Siarad Da iawn Da Da iawn Da Da

Ysgrifennu Da iawn Da Da Da Da

Darllen Da iawn Da Da Da Da

Gwrando Da iawn Da Da iawn Da Da iawn

Carfan A 0% 100% 100% 25% 100%

Nodwch Carfan B 100% 0% 0% 0% 0%

% fesul Carfan C1 0% 0% 0% 75% 0%

Carfan Carfan C2 0% 0% 0% 0% 0%

Ieithyddol Carfan Ch 0% 0% 0% 0% 0%

Cyflawniad yr Ysgol dros y 5 mlynedd diwethaf :

Cyrhaeddiad CA 1 Heb newid Heb newid Heb newid Wedi gwella Heb newid

Cyrhaeddiad CA 2 Heb newid Heb newid Heb newid Wedi gwella Heb newid

Cymraeg fel iaith gyntaf Ysgol Heb newid Heb newid Heb newid Wedi gwella Heb newid

Canran Carfanau A i Ch Bl. 6 Heb newid Heb newid Heb newid Wedi dirywio Heb newid

Cyson a’r targedau carfanau Heb newid Heb newid Wedi gwella Heb newid

Beth sydd i gyfrif am y sefyllfa yma Cefndir ieithyddol cartrefi disgyblion

Dylanwad cymunedol ac athrawon

Mewnfudo ac Allfudo Rhaglenni ymyrraeth a polisi

ysgol

Iaith : Cyfarfodydd Llywodraethwyr Cymraeg Dwyieithog (c.a.y.p.) Cymraeg Saesneg Dwyieithog (c.a.y.p.)

Cofnodion Cymraeg Dwyieithog Cymraeg Saesneg Dwyieithog

% o ddisgyblion

Disgyblion o gartrefi Cymraeg 10 (55.5%) 8 (19%) 7 (50%) 0 (0%) 2 (8%)

Disgyblion o gartrefi Saesneg 2 (11.1%) 9 (22%) 2 (14%) 26 (93%) 21 (84%)

Disgyblion o gartrefi dwyieithog 6 (33.3%) 24 (59%) 5 (36%) 2 (7%) 2 (8%)

Mewnlifiad di-Gymraeg :

Eu hintegreiddio'n naturiol i'r Ysgol Da iawn Da Da iawn Da iawn Da iawn

Cynnal/adfer y Gymraeg yn Ysgol Da iawn Da Da iawn Da Da iawn

Clwb Brecwast Cymraeg - - Cymraeg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Iaith a ddefnyddir gan ddisgyblion:

Amser chwarae Cymraeg Saesneg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf Saesneg, gan amlaf Cymraeg, gan amlaf

Yn adeiladau’r Ysgol Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Wrth y bwrdd amser cinio Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Yn y dosbarth Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

Clwb ar ôl Ysgol Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg, gan amlaf Cymraeg

% staff ategol yr Ysgol sy'n ddwyieithog 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71%

% ymwelwyr dwyieithog (Heddlu, Tân, Iechyd ayyb) 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71% 100%-71%

Ffactorau sy'n effeithio/ lliniaru ethos Cymraeg a Chymreig

Rhuglder pawb, cadernid gweithredu’r polisi iaith

Dim Dim Cymuned Seisnig – mewnfudo. Hybu’r iaith

Dim

Ysgol yn cynnal: Diwylliant Cymreig) 100%Ydyw 100% Ydyw 80% Ydyw 100% Ydyw 80% Ydyw

% gweithgareddau cymunedol Ysgol Cymraeg 100%-71% Dim 100%-71% 70%-50% 100%-71%

Disgrifio orau sefyllfa’r Gymraeg yn y ward/gymuned Iach iawn, dal ei thir Gweddol Iach Colli ei thir yn gyflym Gweddol

Page 13: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

13

Tabl 7: Sefyllfa Bresennol (3/3)

Model 1 “status quo’ Sefyllfa Chwefror 2014 Uwchradd Dolgellau

Cyfanswm nifer disgyblion 408

Cyflawniad yr Ysgol o ran CA3 Da iawn

Gallu ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol CA4 100%-71%

% yr holl ddisgyblion sy’n dilyn (a) hyd at 40% (b) rhwng 41-80% ac (c) 81%+ o’u holl bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

rhwng 41-80% rhwng 25% a 75% yn amrywio o fl Ysgol

81%+ rhwng 25% a 75% yn amrywio o fl Ysgol

nifer a % disgyblion sy’n sefyll arholiad TGAU Cymraeg yn 2012/13 iaith 1af 89.7% (61)

2il iaith 7.4% (5)

% llwyddiant TGAU Cymraeg iaith gyntaf a % llwyddiant TGAU Cymraeg ail iaith.

iaith 1af rhwng 55.7% a 63.3%

2il iaith rhwng 80% a 100%

% disgyblion sy’n sefyll arholiad Safon Uwch Cymraeg yn 2012/13 iaith 1af/ 2il iaith 0

Safon Cymraeg y disgyblion : Siarad Da

Ysgrifennu Da

Darllen Da

Gwrando Da iawn

Cyflawniad yr Ysgol dros y 5 mlynedd diwethaf : Cyrhaeddiad CA3 Wedi gwella

Cyrhaeddiad CA4 Heb newid

Cymraeg fel iaith gyntaf Ysgol Wedi dirywio

TGAU Cymraeg Heb newid

Safon Uwch Cymraeg iaith 1af ac 2il iaith -

Beth sydd i gyfrif am y sefyllfa yma Mewnfudo a dylanwad cymunedol

Iaith : Cyfarfodydd Llywodraethwyr Dwyieithog (c.a.y.p.)

Cofnodion Dwyieithog

% o ddisgyblion Disgyblion o gartrefi Cymraeg 191 (49.7%)

Disgyblion o gartrefi Saesneg 193 (50.3%)

Disgyblion o gartrefi dwyieithog ?

Mewnlifiad di-Gymraeg : Eu hintegreiddio'n naturiol i'r Ysgol Da

Cynnal/adfer y Gymraeg yn Ysgol Gweddol

Iaith a ddefnyddir gan ddisgyblion: Amser chwarae Saesneg, gan amlaf

Yn adeiladau’r Ysgol Cymraeg, gan amlaf

Wrth y bwrdd amser cinio Cymraeg/Saesneg, gan amlaf

Yn y dosbarth Cymraeg, gan amlaf

Clwb ar ôl Ysgol Cymraeg, gan amlaf

% staff ategol yr Ysgol sy'n ddwyieithog 100%-71%

% ymwelwyr dwyieithog (Heddlu, Tan, Iechyd ayyb) 100%-71%

Ysgol yn cynnal: Diwylliant Cymreig) Ydyw

% gweithgareddau cymunedol Ysgol Cymraeg 70%-50%

Disgrifio orau sefyllfa’r Gymraeg yn y ward/gymuned Gweddol - Graddol golli ei thir NODER: Mae testun/ystadegau coch yn dynodi patrwm neu awgrym o ddirywiad ieithyddol a testun/ ystadegau gwyrdd yn dynodi patrwm neu awgrym o gynaladwyedd ieithyddol.

Effaith ar iaith: Dim newid

Page 14: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

14

Model 2: “Collaboration trust” rhwng Ysgol Y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Aml-safle yn Friog a Llanelltyd ac Ysgol Aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy Golyga hyn:

• Parhau gydag Ysgol Gynradd Dolgellau

• Cau ysgolion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Llanelltyd a Friog i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, a Friog

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu “collaboration trust” rhwng Ysgol Y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau a’r ddwy ysgol ardal aml-safle

• Ysgolion gyda pennaeth, corff llywodraethu a chyllideb eu hunain

Yn ymarferol nid oes newid yn achos Ysgol Gynradd Dolgellau, Dinas Mawddwy, Y Friog nac Y Gader. Effaith ar iaith: Dim newid

(i) Model 2: Un Ysgol aml-safle Llanelltyd (disgyblion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd) ac Y Friog

Meini prawf ardrawiad iaith Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

86 disgybl 3 Ysgol ar safle Llanelltyd o... gartrefi Cymraeg: 24.5% (21)

gartrefi Saesneg: 45.3% (39)

gartrefi Dwyieithog: 30.2% (26)

Un safle cyfredol yn goroesi a disgyblion Y Friog yn aros yn eu hunfan. Felly newid ym mhroffil ieithyddol disgyblion o gartrefi Cymraeg yn cynyddu o 2% o ran disgyblion Llanelltyd, gostwng 43% o ran disgyblion Y Ganllwyd a chynyddu 13% o ran disgyblion Clogau. Nifer mwy o ddisgyblion a’r cohort cartrefi Saesneg a dwyieithog fyddai’n cyfateb i dros 75% o holl ddisgyblion yr Ysgol. Rhagdybiaeth y bydd newid ieithyddol negyddol ar raddfa arwyddocaol.

Negyddol

1. Nid yw cyfuno disgyblion Y Ganllwyd hefo rhai Llanelltyd a

Clogau yn cydweddu â phroffil iaith disgyblion o gartrefi Cymraeg fesul Ysgol yn Nhabl 2 uchod. Maent mewn dau begwn cyferbyniol.

2. Gwrthod y model ac ystyried rhai eraill sy’n llai negyddol eu heffaith ar y Gymraeg.

Page 15: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

15

1. Dysgu ac addysg Cymraeg/ dwyieithog

Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

(i) Cyrhaeddiad CA1, CA2, CA3 a CA4

Dim newid ar y sefyllfa bresennol gyda pherfformiadau da iawn yn y 3 Ysgol. Beth fyddai effaith twf mewn defnydd cymdeithasol o’r Saesneg ar ddisgyblion Cymraeg ail iaith ac iaith gyntaf?

Niwtral

Dim

(ii) Safon siarad, ysgrifennu, darllen a gwrando yn y Gymraeg

Dim newid o’r perfformiad da/ da iawn presennol. Oes perygl i berfformiad da iawn disgyblion Y Ganllwyd ddirywio oherwydd gostyngiad o 43% o gartrefi Cymraeg yn yr ysgol newydd a thwf tebygol iawn yn y defnydd cymdeithasol o’r Saesneg?

Niwtral

1. Cynllun Datblygu Ysgol a chynlluniau gwaith i alluogi Athrawon Cymraeg i osod modelau iaith cadarnhaol i ddisgyblion yn y dosbarth.

2. Ystyried ffrydio, cymysgu a grwpio disgyblion ar seiliau iaith ar gyfer rhai gweithgareddau dosbarth er mwyn sefydlu arferion ieithyddol da.

(iii) Disgyblion ail iaith yn dod yn siaradwyr iaith gyntaf

Gydag o leiaf 45% a mwy na thebyg hyd at 75% o’r holl ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg, y patrwm naturiol fyddai iddynt gymdeithasu’n eu hiaith gyntaf, Saesneg. Heb ymarfer a defnyddio cymaint ar y Gymraeg, ni fydd cynifer yn meistroli’r Gymraeg fel iaith gyntaf – ond mae’n amhosibl rhagweld graddfa’r effaith negyddol posibl. Beth fyddai effaith hynny wedyn ar y garfan llai (24%) o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg? Mae sefyllfa Cynradd Dolgellau yn awgrymu dirywiad ond eto’i gyd mae Llanelltyd, Clogau ac Y Friog i raddau llai yn gwrthbrofi hyn. Ond y gwahaniaeth amlwg yw mai ysgolion hefo llai na 50 disgybl ydynt, lle mae’ dylanwad staff dysgu ac atodol yn gallu bod yn fwy. Byddai gan yr ysgol yma 86 disgybl ac felly byddai’n annos bugeilio ac annog.

Niwtral

1. Cynllun Datblygu Ysgol a chynlluniau gwaith i alluogi Athrawon Cymraeg i osod modelau iaith cadarnhaol i ddisgyblion yn y dosbarth.

2. Ystyried ffrydio, cymysgu a grwpio disgyblion ar seiliau iaith ar gyfer rhai gweithgareddau dosbarth er mwyn sefydlu arferion ieithyddol da.

3. Cymorthyddion amser chwarae a cinio i dderbyn hyfforddiant ar ddulliau cymell defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn modd hwyliog a chadarnhaol.

4. Mabwysiadu gemau buarth i’w cynnal trwy’r Gymraeg.

(iv) Meithrin sgiliau dwyieithog hyderus

Dim rhagdybiaeth o newid o’r sefyllfa bresennol ond oni fyddai mas critigol (hyd at 65 allan o 86 disgybl neu 75%) mewn ysgol fwy yn llesteirio meithrin sgiliau dwyieithog cytbwys? Mae Cynradd Dolgellau yn awgrymu hynny ac felly hefyd i raddau llai Y Friog ond mae Llanelltyd a Clogau yn awgrymu i’r gwrthwyneb. Ond mae 3 o’r rhain yn ysgolion bach lle mae’n haws i staff dysgu ac atodol ddylanwadu ar ddisgyblion. Ni fyddai hynny yn bosibl i’r ru’n graddau mewn ysgol o 86 disgybl.

Niwtral

Fel uchod

(v) % Carfan Ieithyddol Blwyddyn 6

Dim newid o’r perfformiad da iawn gydag 100% yng Ngharfan A y 3 Ysgol bresennol. Niwtral

Fel uchod

Page 16: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

16

2. Defnydd Iaith disgyblion

Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

(i) Amser Chwarae

Rhagdybiaeth gref o newid arwyddocaol o’r patrwm presennol o ddefnyddio ‘Cymraeg, gan amlaf’ mewn 2 Ysgol, a mwy o ddilyn patrwm presennol Llanelltyd sef ‘Saesneg, gan amlaf’. Yn sgil dyfodiad mas critigol (hyd

at 65 allan o 86 disgybl neu 75%) o ddisgyblion o gartrefi Saesneg byddai 21 disgybl o gartref Cymraeg fwy neu thebyg yn cael eu Saesnegeiddio neu efallai yn creu carfan/peuoedd iaith llai trwy’r Gymraeg.

Negyddol

1. Cymorthyddion amser chwarae a cinio i dderbyn hyfforddiant ar ddulliau cymell defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn modd hwyliog a chadarnhaol.

2. Mabwysiadu gemau buarth i’w cynnal trwy’r Gymraeg. 3. Gwrthod y model ac ystyried rhai eraill sy’n llai negyddol

eu heffaith ar y Gymraeg.

(ii) Yn adeiladau’r ysgol

Fel uchod ond nid i’r ru’n graddau oherwydd ymyrraeth staff dysgu ac atodol ac mae arfer presennol mewn 2 Ysgol yw ‘Cymraeg’ a ‘Cymraeg, gan amlaf’ yn y drydedd.

Negyddol - Niwtral

Fel uchod

(iii) Wrth y bwrdd amser cinio

Fel uchod ond i raddau llai fyth gan mai’r patrwm presennol yn y 3 Ysgol yw ‘Cymraeg’.

Niwtral

Fel uchod

(iv) yn y dosbarth

Fel uchod

Niwtral

Fel uchod

(v) Clwb ar ôl ysgol

Fel uchod

Niwtral

Fel uchod

3. Cynnal naws ac ethos naturiol Gymraeg a bri ar y Cwricwlwm Cymreig

Un Pennaeth ac un Bwrdd Llywodraethwyr yn golygu bod modd gosod gweledigaeth newydd o ran addysg Gymraeg

Niwtral

1. Mabwysiadu gweledigaeth a delwedd sefydliadol Cymraeg a Chymreig o dan arweiniad Pennaeth a staff dysgu a chefnogaeth y bwrdd Llywodraethwyr a’r AALl i osod meincnodau penodol ar gyfer cynnal a cheisio atgyfnerthu’r Gymraeg ar y 2 safle.

2. Trwy’r ddelwedd cynnal gweithgareddau cymunedol a diwylliannol Cymreig.

Effaith ar Iaith: Cadarnhaol (+0.) Niwtral (9.5) Negyddol (-2.5)

Page 17: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

17

(ii) Model 2: Ysgol aml-safle Ieuan Gwynedd (cyfuno disgyblion Machreth, Ieuan Gwynedd, Brithdir) a Dinas Mawddwy

Meini prawf ardrawiad iaith Sylwadau

Effaith

Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

78 disgybl 3 Ysgol ar safle Ieuan Gwynedd o...

gartrefi Cymraeg: 50% (39)

gartrefi Saesneg: 18% (14)

gartrefi Dwyieithog: 32% (25)

Dau safle cyfredol yn goroesi a disgyblion Dinas Mawddwy yn aros yn eu hunfan. Yn achos safle Ieuan Gwynedd bydd proffil ieithyddol disgyblion o gartrefi Cymraeg yn newid sef 5% o ostyngiad o ran Ieuan Gwynedd, dim newid o ran Machreth a 2% o gynnydd o ran Brithdir. O graffu ar y dalgylch yma o’i chymharu ag eraill, mae cyfran o tua 39 neu 50% o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg yn eithaf arwyddocaol, yn fas critigol pwysig all ddylanwadu ar atgyfnerthu a chryfhau cyflawniad ieithyddol academaidd a chymdeithasol.

Cadarnhaol Amherthnasol

1. Dysgu ac addysg Cymraeg/ dwyieithog

Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

(i) Cyrhaeddiad CA1 a CA2

Atgyfnerthu’r sefyllfa bresennol gyda perfformiadau da iawn a 100-71% yn y 3 Ysgol.

Cadarnhaol Dim

(ii) Safon siarad, ysgrifennu, darllen a gwrando yn y Gymraeg

Gellir defnyddio’r mas critigol o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i osod modelau iaith i ddisgyblion ail iaith a chodi perfformiad presennol da iawn mewn 2 ysgol a da iawn/da mewn 1. Ond bydd carfan fwy o ddisgyblion Cymraeg ail iaith mewn un safle nac yn y dair ysgol flaenorol.

Cadarnhaol

1. Cynllun Datblygu Ysgol a chynlluniau gwaith i alluogi Athrawon Cymraeg i osod modelau iaith cadarnhaol i ddisgyblion yn y dosbarth.

2. Ystyried ffrydio, cymysgu a grwpio disgyblion ar seiliau iaith ar gyfer rhai gweithgareddau dosbarth er mwyn sefydlu arferion ieithyddol da.

(iii) Disgyblion ail iaith yn dod yn siaradwyr iaith gyntaf

Atgyfnerthu’r perfformiad da iawn presennol trwy fanteisio ar fas critigol siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Cadarnhaol

Fel uchod

(iv) Meithrin sgiliau dwyieithog hyderus

Fel uchod Cadarnhaol

Fel uchod

(v) % Carfan Ieithyddol Blwyddyn 6

Rhwng arweiniad staff dysgu a’r mas critigol siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf gellir codi perfformiad da iawn ar y cyfan presennol (rhwng 100% ac 80% yng Ngharfan A).

Cadarnhaol

Fel uchod

Page 18: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

18

2. Defnydd Iaith disgyblion

Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

(vi) Amser Chwarae

Atgyfnerthu’r patrwm iaith da iawn presennol gyda mas critigol o ddisgyblion o gefndir a’r Gymraeg yn briod iaith. Eto hefo mwy o gohort o ddisgyblion o gefndir Cymraeg ail iaith dylid gwylio nad oes carfanu ieithyddol yn digwydd.

Cadarnhaol

1. Cymorthyddion amser chwarae a cinio i dderbyn hyfforddiant ar ddulliau cymell defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn modd hwyliog a chadarnhaol.

2. Mabwysiadu gemau buarth i’w cynnal trwy’r Gymraeg.

(vii) Yn adeiladau’r ysgol

Patrwm o ddefnydd da iawn. Cymraeg yw’r priod iaith.

Cadarnhaol Dim

(viii) Wrth y bwrdd amser cinio

Fel uchod. Cadarnhaol

Dim

(ix) yn y dosbarth Fel uchod. Cadarnhaol Dim

(x) Clwb ar ôl ysgol Fel uchod. Cadarnhaol Dim

3. Cynnal naws ac ethos naturiol Gymraeg a bri ar y Cwricwlwm Cymreig

Un Pennaeth ac un Bwrdd Llywodraethwyr yn golygu bod modd gosod gweledigaeth newydd o ran addysg Gymraeg ac atgyfnerthu addysg Gymraeg yn y dalgylch. Cadarnhaol

1. Mabwysiadu gweledigaeth a delwedd sefydliadol Cymraeg a Chymreig o dan arweiniad Pennaeth a staff dysgu a chefnogaeth y bwrdd Llywodraethwyr a’r AALl i osod meincnodau penodol ar gyfer cynnal statws Cymraeg safle Ieuan Gwynedd.

2. Trwy’r ddelwedd cynnal gweithgareddau cymunedol a diwylliannol Cymreig.

Effaith ar Iaith: Cadarnhaol (+12.) Niwtral (0) Negyddol (-0.0)

Page 19: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

19

Model 3: Rhwydwaith Cydweithio rhwng ysgolion Clogau, Friog, Ganllwyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Dinas Mawddwy,

Cynradd Dolgellau ac Y Gader

Golyga hyn:

• Cau Ysgol Brithdir a symud y disgyblion i ysgolion Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy

• Cau Ysgol Machreth a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Ganllwyd

• Cau Ysgol Llanelltyd a throsglwyddo’r disgyblion i ysgolion Clogau, Ganllwyd a Friog

• Parhau gyda ysgol Y Gader, Cynradd Dolgellau, Clogau, Friog, Ganllwyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy

• Sefydlu rhwydwaith cydweithio rhwng yr ysgolion i gyd gan amserlennu cwricwlwm ar y cyd yn yr ysgolion cynradd

• Ysgolion i gyd gyda pennaeth a corff llywodraethu eu hunain

(i) Model 3: Cau Ysgol Brithdir a symud y disgyblion i ysgolion Ieuan Gwynedd a Dinas Mawddwy Gan nad oes modd adnabod hollt proffil iaith disgyblion Brithdir fyddai’n symud i’r naill ysgol na’r llall ystyriwyd sgôr iechyd ieithyddol (Tabl 2) a phroffil iaith cartref disgyblion (siart 3) y 3 Ysgol er mwyn gweld os ydynt yn ieithyddol gymhathol.

Tabl 8: Sgôr iechyd ieithyddol Ysgolion dalgylch Y Gader

Ysgol a safle o fewn y dalgylch Sgôr cynaladwyedd ieithyddol Sgôr dirywiad ieithyddol Cyfanswm sgôr iechyd ieithyddol

Brithdir (safle 1af) +23 -0 23

Ieuan Gwynedd (2il safle) +23 -1 22

Dinas Mawddwy (5ed safle) +14 -5 9

Tabl 9: Proffil iaith disgyblion Brithdir, Ieuan Gwynedd a Dinas Mawddwy (Chwefror 2014)

Iaith Disgyblion Nifer % o gartrefi Cymraeg Nifer a % o gartrefi Saesneg Nifer a % o gartrefi dwyieithog

Brithdir 22 (48%) 10 (22%) 14 (30%)

Ieuan Gwynedd 10 (55%) 2 (11.1%) 6 (33.3%)

Dinas Mawddwy 9 (45%) 2 (10%) 9 (45%)

Glas – disgyblion o gartref Cymraeg, Coch – disgyblion o gartrefi Saesneg Gwyrdd – disgyblion o gartrefi dwyieithog. Y mwyaf tywyll yw’r lliw dyna’r % uchaf ymhob categori. Yn seiliedig ar y tabl 2 graddio disgyblion yn ôl categori.

Page 20: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

20

Ar y cyfan mae’r 3 ysgol yn ieithyddol gymhathol ond bod arwyddion o ddirywiad ar waith yn Ninas Mawddwy o ran mewnfudo ac effaith hynny ar gyrhaeddiad CA2 ac ar y Gymraeg fel iaith gyntaf yr Ysgol. Adlewyrchir hynny hefyd yn y proffil staff ategol. Gallai dyfodiad rhai o ddisgyblion Brithdir fod yn gaffaeliad i geisio atgyfnerthu’r sefyllfa academaidd a chymdeithasol. Effaith ar iaith Cyffredinol: rhwng Cadarnhaol a Niwtral.

(ii) Model 3: Cau Ysgol Machreth a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Ganllwyd

Meini prawf ardrawiad iaith Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

34 disgybl o 2 Ysgol ar safle Y Ganllwyd o... gartrefi Cymraeg: 53% (18)

gartrefi Saesneg: 32.3% (11)

gartrefi Dwyieithog: 14.7% (5)

Un safle yn goroesi felly newid ym mhroffil ieithyddol disgyblion o gartrefi Cymraeg sef 3% o gynnydd o ran Machreth a 2% o ostyngiad o ran Y Ganllwyd. Parhau yn ysgol fechan o ran nifer ond yn endid ieithyddol cryfach mewn ardal o fewnlifiad. Gallai gyfrannu’n gadarnhaol at gynnal y Gymraeg yn yr ardal.

Cadarnhaol Amherthnasol

1. Dysgu ac addysg Cymraeg/ dwyieithog

Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

(i) Cyrhaeddiad CA1 a CA2

Gallai godi’r perfformiadau da iawn a 100-71% yn y 2 Ysgol.

Cadarnhaol Dim

(ii) Safon siarad, ysgrifennu, darllen a gwrando yn y Gymraeg

Gellir defnyddio’r mas critigol siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i osod modelau iaith i ddisgyblion ail iaith a chodi perfformiad presennol da iawn mewn 2 ysgol a da iawn/da mewn 1. Ond bydd carfan fwy o ddisgyblion Cymraeg ail iaith mewn un safle nac yn y dair ysgol flaenorol.

Cadarnhaol

1. Cynllun Datblygu Ysgol a chynlluniau gwaith i alluogi Athrawon Cymraeg i osod modelau iaith cadarnhaol i ddisgyblion yn y dosbarth.

2. Ystyried ffrydio, cymysgu a grwpio disgyblion ar seiliau iaith ar gyfer rhai gweithgareddau dosbarth er mwyn sefydlu arferion ieithyddol da.

(iii) Disgyblion ail iaith yn dod yn siaradwyr iaith gyntaf

Atgyfnerthu’r perfformiad da iawn presennol trwy fanteisio ar fas critigol siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Cadarnhaol

Fel uchod

(iv) Meithrin sgiliau dwyieithog hyderus

Fel uchod Cadarnhaol

Fel uchod

(v) % Carfan Ieithyddol Blwyddyn 6

Atgyfnerthu’r perfformiad da iawn presennol (100% Carfan A).

Cadarnhaol Fel uchod

Page 21: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

21

2. Defnydd Iaith disgyblion

Sylwadau Effaith Mesurau lliniaru effeithiau negyddol

(vi) Amser Chwarae Atgyfnerthu’r patrwm presennol ‘Cymraeg, gan amlaf’ ar waith gyda mas critigol o ddisgyblion o gefndir a’r Gymraeg yn briod iaith. Eto hefo mwy o gohort o ddisgyblion o gefndir Cymraeg ail iaith dylid gwylio nad oes carfanu ieithyddol yn digwydd.

Cadarnhaol 1. Cymorthyddion amser chwarae a cinio i dderbyn hyfforddiant ar ddulliau cymell defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn modd hwyliog a chadarnhaol.

2. Mabwysiadu gemau buarth i’w cynnal trwy’r Gymraeg.

(vii) Yn adeiladau’r ysgol Patrwm o ddefnydd da iawn. Cymraeg yw’r priod iaith.

Cadarnhaol Dim

(viii) Wrth y bwrdd amser cinio

Fel uchod Cadarnhaol Dim

(ix) yn y dosbarth Fel uchod Cadarnhaol Dim

(x) Clwb ar ôl ysgol Fel uchod Cadarnhaol Dim

3. Cynnal naws ac ethos naturiol Gymraeg a bri ar y Cwricwlwm Cymreig

Un Pennaeth ac un Bwrdd Llywodraethwyr yn golygu bod modd gosod gweledigaeth newydd o ran addysg Gymraeg. Cadarnhaol

1. Mabwysiadu gweledigaeth a delwedd sefydliadol Cymraeg a Chymreig o dan arweiniad Pennaeth a staff dysgu a chefnogaeth y bwrdd Llywodraethwyr a’r AALl i osod meincnodau penodol ar gyfer cynnal statws Cymraeg safle Ieuan Gwynedd.

2. Trwy’r ddelwedd cynnal gweithgareddau cymunedol a diwylliannol Cymreig.

Effaith ar Iaith: Cadarnhaol (+12.) Niwtral (0) Negyddol (-0.0)

(iii) Model 3: Cau Ysgol Llanelltyd a throsglwyddo’r disgyblion i ysgolion Clogau, Ganllwyd ac Y Friog Gan nad oes modd adnabod hollt proffil iaith disgyblion Llanelltyd fyddai’n symud i’r 3 ysgol, ystyriwyd sut mae sgôr iechyd ieithyddol (Tabl 2) a

phroffil iaith cartref disgyblion (siart 3) y 4 Ysgol er mwyn gweld os ydynt yn ieithyddol gymhathol.

Tabl 10: Sgôr iechyd ieithyddol Ysgolion dalgylch Y Gader

Ysgol a safle o fewn y dalgylch Sgôr cynaladwyedd ieithyddol Sgôr dirywiad ieithyddol Cyfanswm sgôr iechyd ieithyddol

Ganllwyd (4ydd) +19 -3 16

Clogau (5ed) +14 -1 13

Llanelltyd (7fed) +9 -4 5

Y Friog (8fed) +13 -8 5

Page 22: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

22

Tabl 11: Proffil iaith disgyblion Ganllwyd, Llanelltyd, Clogau ac Y Friog (Chwefror 2014)

Iaith Disgyblion Nifer % o gartrefi Cymraeg Nifer a % o gartrefi Saesneg Nifer a % o gartrefi dwyieithog Ganllwyd (19) 11 (55%) 9 (45%) 0 (0%)

Llanelltyd (41) 8 (19%) 9 (22%) 24 (59%)

Clogau (25) 2 (8%) 21 (84%) 2 (8%)

Y Friog (28) 0 (0%) 26 (93%) 2 (7%)

Mae Ganllwyd a Clogau yn ieithyddol gymhathol ond nid yw Y Friog, sy’n wynebu sawl agwedd o ddirywiad ieithyddol academaidd a chymdeithasol. O gyfeiriad ieithyddol mae’r Ysgolion sydd yn 4ydd a’r 5ed mwyaf ieithyddol iachus yn y dalgylch sef Y Ganllwyd a Clogau yn goroesi. Felly os yw’n fater o rieni yn dewis pa ysgol i’w plant, mae 2 o’r 3 ysgol yn gymharol ieithyddol iachus ond gallai hefyd arwain at nifer ychwanegol o ddisgyblion o gartrefi Saesneg a dwyieithog yn dewis mynd i Ysgol Y Friog, sydd heb yr un disgybl o gartref Cymraeg. Canlyniad hyn fyddai atgyfnerthu’r Saesneg fel priod iaith disgyblion yr Ysgol, a byddai’n cael ei hatgyfnerthu fel ‘Ysgol Saesneg’ ar lawr gwlad gyda hyd at 56 o ddisgyblion a fyddai i gyd o gartrefi Saesneg/dwyieithog. I raddau llai dim ond 2 ddisgybl o gartref Cymraeg sy’n Clogau ond bod perfformiad gyflawn yr ysgol yn uwch o lawer na’r proffil iaith. A fyddai mwy o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg hefyd yn cael effaith negyddol ar iechyd ieithyddol yr Ysgol hon? Gallai hynny osod her bellach i weithrediad polisi iaith addysg y sir. Ar hyn o bryd mae’n amhosibl rhagweld beth fydd proffil iaith newydd y 3 ysgol os yw Llanelltyd yn cau, ond gallai gyfrannu at effeithiau ieithyddol negyddol presennol Y Friog a chreu effaith negyddol o’r newydd ar Clogau. Oherwydd bod graddfa risg yn uwch felly, a’r angen i fod yn realistig iawn wrth ragweld effeithiau ar y Gymraeg – yn arbennig yn y dalgylch hwn, y casgliad yw y byddai’r model hwn yn negyddol. Effaith ar iaith: Negyddol.

(iv) Model 3: Sefydlu rhwydwaith cydweithio rhwng yr ysgolion i gyd gan amserlennu cwricwlwm ar y cyd yn yr ysgolion cynradd Gan nad oes manylion am natur ac amlder y cydweithio mae’n amhosibl ar hyn o bryd i gynnal ardrawiad iaith fanwl. Felly cynigir y cyfres o fesurau lliniaru isod gyda rhagrybudd i sicrhau na fyddai cydweithio yn cael effaith negyddol ar iaith, sydd yn bosibl oni ystyrir y materion isod a sylwadau Ysgolion am effeithiau ad-drefnu ysgolion yn Nhabl 4 uchod. Pe mabwysiedir y mesurau isod a defnyddio cryfderau ieithyddol rhai ysgolion gallai cydweithio gael effaith cadarnhaol ehangach ar iaith.

Mesurau lliniaru:

• Dylid ceisio cynllunio (a pheilotio’r) cydweithio rhwng ysgolion cynradd ar seiliau ieithyddol cymhathol fel yr amlinellir yn Nhabl 2 uchod.

• Gellir hefyd ceisio cyflwyno cydweithio rhwng ysgolion ieithyddol mwy cadarn ac ysgolion llai cadarn er mwyn ceisio atgyfnerthu hyfedredd a defnydd cymdeithasol ymhlith disgyblion. Oherwydd patrwm o fregustra ieithyddol yn yr ardal, mae mwy o risg hefo’r mesur hwn.

• Dylid monitro’r cydweithio i ganfod effaith a dylanwad gan sicrhau nad yw’n creu allbynnau ieithyddol negyddol ond yn creu cyfleoedd i gael effaith cadarnhaol.

• Cynllun Datblygu Ysgol a chynlluniau gwaith i alluogi Athrawon Cymraeg i osod modelau iaith cadarnhaol i ddisgyblion yn y dosbarth.

• Ystyried ffrydio, cymysgu a grwpio disgyblion ar seiliau iaith ar gyfer rhai gweithgareddau dosbarth er mwyn sefydlu arferion ieithyddol da.

• Dylid addasu unrhyw gynlluniau cydweithio sy’n cael effeithiau ieithyddol negyddol.

O fabwysiadu’r mesurau lliniaru gall y model rhwydwaith cydweithio gael effaith cadarnhaol posibl ar iaith – o ran dysgu ac addysgu, o ran

defnydd iaith disgyblion ac o ran cynnal naws ac ethos naturiol Gymraeg a bri ar y Cwricwlwm Cymreig. Effaith ar iaith cyffredinol:

Cadarnhaol.

Page 23: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

23

Model 4: Ysgol Ddilynol yn Nhref Dolgellau, Ysgol Aml-safle yn Friog a Llanelltyd, Ysgol Aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy Golyga hyn:

• Cau ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

• Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

• Cau ysgolion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Llanelltyd a Friog i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, a Friog

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Golygu 3 ysgol yn y dalgylch gyda pennaeth, corff llywodraethu a cyllideb ei hunain

• Bydd angen ystyriaeth fanwl i ddynodiad yr ysgolion newydd, gan bod 2 Ysgol Eglwysig yn cau - gall yr Ysgol Ddilynol neu un o’r ysgolion ardal gael eu dynodi gyda statws Eglwysig

(i) Model 4: Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

Ysgol Ddilynol Byddai gan Ysgol ddilynol sef ysgol Gynradd Dolgellau ac Y Gader un bwrdd Llywodraethwyr ac un Pennaeth fel un sefydliad, yn hytrach na 2 sefydliad cwbl ar wahân. Byddai un sefydliad hefo chyfrifoldeb dros dwf a datblygiad y Gymraeg disgyblion o 3-16 oed, yn sicrhau dilyniant a chysondeb iaith dros y tymor hir, gyda’r nod o gynyddu cyrhaeddiad a hyfedredd ieithyddol a chyflawni’r nod o greu dinasyddion hefo sgiliau ieithyddol cyfochrog. Gyda chyfrifoldeb cyflawn byddai modd cysoni dysgu iaith a sicrhau dilyniant yn unol ac un cenhadaeth sefydliadol y byddai staff dysgu’r Ysgol yn ei berchnogi a’i gyd-gyflawni. Byddai hyn yn arloesol ac yn cynnig cyfleoedd newydd i gynllunio caffael, datblygiad a hyfedredd iaith. Ar y llaw arall, byddai safleoedd presennol yn goroesi, ac ar lawr gwlad efallai na fyddai fawr o newid. Ar ben hynny hefyd mae oddeutu traean o ddisgyblion Y Gader yn all ddalgylch ac felly yn derbyn addysg Gynradd mewn ardal arall cyn dewis dod i Dolgellau am addysg Uwchradd. Fyddai’r cohort yma felly ddim yn elwa o dan gynllun ysgol ddilynol.

Trwy gynllunio dilyniant dysgu iaith ar draws y Cyfnodau Allweddol rhwng 3 ac 16 oed mae modd hefyd i sicrhau cysondeb cyfeiriad o ran annog a hyrwyddo’r Gymraeg yn gymdeithasol. Byddai mabwysiadu ethos a naws i’r sefydliad newydd sy’n gyson a chyfarwydd ar hyd taith addysg statudol disgyblion hefyd yn fanteisiol. Unwaith yn rhagor fyddai disgyblion all dalgylch Y Gader ddim wedi elwa o’r dimensiwn hwn. Er mwyn i un bwrdd Llywodraethwyr ac un Ysgol fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd ieithyddol all godi am y tro cyntaf trwy ddarpariaeth addysg 3-16 oed cyflwynir rhai mesurau pwrpasol isod.

Page 24: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

24

Cyffredinol

• Mabwysiadu gweledigaeth a delwedd sefydliadol Cymraeg a Chymreig o dan arweiniad Pennaeth a staff dysgu a chefnogaeth y bwrdd Llywodraethwyr a’r AALl i osod meincnodau penodol ar gyfer cynnal a cheisio atgyfnerthu’r Gymraeg ar y 2 safle.

• Mabwysiadu polisi Ysgol Ddilynol lle byddai staff dysgu ac ategol yn dechrau a chynnal sgyrsiau'n Gymraeg â disgyblion er mwyn gosod a chynnal naws Gymreig a meithrin defnydd beunyddiol o’r iaith ymhlith disgyblion.

• Mabwysiadu Cynllun Datblygu Ysgol a chynlluniau gwaith i alluogi Athrawon i osod modelau iaith cadarnhaol i ddisgyblion yn y dosbarth gyda dilyniant rhesymegol trwy’r Cyfnod Sylfaen ac i’r Cyfnodau Allweddol.

• Cynnal cyfleoedd hamdden a chwaraeon 3-16 oed trwy'r Gymraeg yn unig.

• Trwy ddelwedd sefydliadol, cynnal gweithgareddau cymunedol a diwylliannol Cymraeg a Chymreig.

• Ystyried ffrydio, cymysgu a grwpio disgyblion ar seiliau iaith ar gyfer rhai gweithgareddau dosbarth er mwyn sefydlu arferion ieithyddol da.

Safle Cynradd

• Cymorthyddion amser chwarae a cinio i dderbyn hyfforddiant ar ddulliau cymell defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn modd hwyliog a chadarnhaol.

• Mabwysiadu gemau buarth i’w cynnal trwy’r Gymraeg. Safle Uwchradd

• O ran dysgu dwyieithog sy’n digwydd ymhob pwnc ag eithrio Cymraeg, Saesneg a ieithoedd modern tramor dylid asesu, paratoi, cynllunio a darparu gwersi fydd yn gwarantu defnydd ymarferol cyfartal (50%) o’r Gymraeg fel nad yw dysgu dwyieithog yn arwain at sefyllfa lle mae llai na 50% o ddefnydd o’r Gymraeg yn digwydd mewn gwers boed wrth gyflwyno’n llafar neu gyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig (cyflwyniad PowerPoint, llawlyfr, aseiniad, gwaith cartref ayyb).

Effaith ar iaith: Cadarnhaol.

(ii) Model 4: Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Llanelltyd a Friog i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, a Friog Fe’i trafodir o dan Model 2 uchod. Effaith ar iaith: Negyddol isel

(iii) Model 4: Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy – Fe’i trafodir o dan Model 2 uchod. Effaith ar iaith: Cadarnhaol uchel.

Page 25: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

25

Model 5: Ysgol Ddilynol yn Nhref Dolgellau, Ysgol Aml-safle yn Friog a Llanelltyd, Ysgol Aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy – Ffedereiddio’r 3 ysgol Golyga hyn:

• Cau ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

• Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

• Cau ysgolion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Llanelltyd a Friog i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, a Friog

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Bydd angen ystyriaeth fanwl i ddynodiad yr ysgolion newydd, gan bod 2 Ysgol Eglwysig yn cau - gall yr Ysgol Ddilynol neu un o’r ysgolion ardal gael eu dynodi gyda statws Eglwysig

• Ffedereiddio’r 3 ysgol bydd yn golygu un pennaeth a un corff llywodraethu i ysgolion y dalgylch gyfan.

• Bydd yn creu “Ffederasiwn Ysgolion Dalgylch Y Gader”

(i) “Ffederasiwn Ysgolion Dalgylch Y Gader” sef ffedereiddio’r 3 ysgol yn golygu un pennaeth ag un corff llywodraethu i ysgolion y dalgylch cyfan

Byddai creu ffederasiwn dalgylch gyfan trwy ffedereiddio 3 ysgol (ddilynol Cynradd Dolgellau/ Y Gader ac 2 ysgol ardal aml-safle) yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb a chyd-ddyhead gydag un Pennaeth ac un corff Llywodraethwyr yn gosod a bugeilio’r agenda. Byddai’n fodd hefyd i sicrhau mwy o gysondeb wrth osod disgyblion yn ôl Carfan iaith blwyddyn 6.

A fyddai ardrawiad iaith gwahanol i Ysgol Llanelltyd o dan y Model hwn nag o dan Model 2 Effaith ar Iaith: Negyddol isel lle byddai’r Ysgol yn parhau’n sefydliad unigol? Pa effaith, os o gwbl, fyddai cyfundrefn ffederasiwn yn ei gael ar iaith gymdeithasol amser chwarae (ac i raddau llai, wrth y bwrdd amser cinio) disgyblion Ysgol Llanelltyd? Yr ateb mwyaf tebygol yw mai ychydig, y tu hwnt i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. O ran ceisio cynllunio’r addysg ieithyddol orau mae’r model mwy holistaidd hwn yn galluogi dyhead a gorolwg cyson ar draws sawl safle a chysondeb trwy gyfnod addysg statudol. A fyddai cyfundrefn ffederasiwn yn cynnig rhai manteision megis dilyniant mewn cynlluniau addysg rhwng 3 ac 16 oed, cysoni dulliau dysgu rhwng Ysgolion Cynradd eraill, gosod targedau i gynyddu safonau ac fel un sefydliad dalgylch cyfan mawr, mwy o adnoddau wrth law neu i’w rhannu er mwyn cyflawni’r targedau hyn? Nid yw’r model hwn felly ddim heb ei heriau a byddai hefyd

yn golygu colli rhai o’r ysgolion presennol sydd â dyfarniadau iechyd ieithyddol uwch sef Brithdir, Ganllwyd a Machreth ond byddai Ieuan Gwynedd yn ysgol wledig hefo proffil iaith cartref disgyblion Cymraeg o 50%. Effaith ar iaith: Cadarnhaol

Page 26: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

26

Model 6: Ysgol Ddilynol yn nhref Dolgellau ac un Ysgol Aml-safle wledig (safleoedd yn Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy – Ffedereiddio’r 2 Ysgol) Golyga hyn:

• Cau ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

• Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau

• Cau ysgolion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu un ysgol ardal aml-safle yn Llanelltyd, Friog, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion dalgylchoedd presennol Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Bydd angen ystyriaeth fanwl i ddynodiad yr ysgolion newydd, gan bod 2 Ysgol Eglwysig yn cau - gall yr Ysgol Ddilynol neu’r ysgolion ardal gael eu dynodi gyda statws Eglwysig

• Ffedereiddio’r 2 ysgol bydd yn golygu un pennaeth a un corff llywodraethu i ysgolion y dalgylch gyfan

• Bydd yn creu “Ffederasiwn Ysgolion Dalgylch Y Gader”

(i) “Ffederasiwn Ysgolion Dalgylch Y Gader” sef ffedereiddio’r 2 ysgol yn golygu un pennaeth a un corff llywodraethu i ysgolion y dalgylch gyfan

Byddai creu ffederasiwn dalgylch cyfan trwy ffedereiddio 2 ysgol (ddilynol Cynradd Dolgellau/ Y Gader ac un ysgol ardal aml-safle) yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb a chyd-ddyhead gydag un Pennaeth ac un corff Llywodraethwyr yn gosod a bugeilio’r agenda. Byddai’n fodd hefyd i sicrhau mwy o gysondeb wrth osod disgyblion yn ôl Carfan iaith blwyddyn 6.

A fyddai ardrawiad iaith gwahanol i Ysgol Llanelltyd o dan y Model hwn nag o dan Model 2 Effaith ar Iaith: Negyddol isel lle byddai’r Ysgol yn parhau’n sefydliad unigol? Pa effaith, os o gwbl, fyddai cyfundrefn ffederasiwn yn ei gael ar iaith gymdeithasol amser chwarae (ac i raddau llai, wrth y bwrdd amser cinio) disgyblion Ysgol Llanelltyd? Yr ateb mwyaf tebygol yw mai ychydig, y tu hwnt i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. O ran ceisio cynllunio’r addysg ieithyddol orau mae’r model mwy holistaidd hwn yn galluogi dyhead a gorolwg cyson ar draws sawl safle a chysondeb trwy gyfnod addysg statudol. A fyddai cyfundrefn ffederasiwn yn cynnig rhai manteision megis dilyniant mewn cynlluniau addysg rhwng 3 ac 16 oed, cysoni dulliau dysgu rhwng Ysgolion Cynradd eraill, gosod targedau i gynyddu safonau ac fel un sefydliad dalgylch cyfan mawr, mwy o adnoddau wrth law neu i’w rhannu er mwyn cyflawni’r targedau hyn? Nid yw’r model hwn felly ddim heb ei heriau a byddai hefyd

yn golygu colli rhai o’r ysgolion presennol sydd â dyfarniadau iechyd ieithyddol uwch sef Brithdir, Ganllwyd a Machreth ond byddai Ieuan Gwynedd yn ysgol wledig hefo proffil iaith cartref disgyblion Cymraeg o 50%. Effaith ar iaith: Cadarnhaol

Page 27: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

27

Model 7: Parhau gyda Ysgol Gynradd Dolgellau, a chreu Ysgol Ddilynol 3-16 oed dalgylch (ar safleoedd presennol ysgolion y Gader, Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy gyda dewis i ddisgyblion Machreth fynychu ysgol Gynradd Dolgellau neu’r Ysgol Ddilynol) – Ffedereiddio’r 2 Ysgol Golyga hyn:

• Parhau gydag Ysgol Gynradd Dolgellau

• Cau ysgolion Y Gader, Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Llanelltyd, Friog, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion uwchradd dalgylch Y Gader a disgyblion cynradd dalgylchoedd presennol ysgolion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy.

• Ysgol Ddilynol yn ysgol gymunedol ac Ysgol Gynradd Dolgellau’n parhau yn Ysgol Eglwysig

• Ffedereiddio’r 2 ysgol bydd yn golygu un pennaeth ac un corff llywodraethu i ysgolion y dalgylch cyfan

• Bydd yn creu “Ffederasiwn Ysgolion Dalgylch Y Gader”

(i) Parhau gydag Ysgol Gynradd Dolgellau

Nid oes newid i Ysgol Gynradd Dolgellau, gyda’i statws hefyd yn ddigyfnewid ond byddai’r colli allan ar fod yn rhan o fodel dilynol ehangach. Effaith ar iaith: Dim newid

(ii) Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Llanelltyd, Friog, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu disgyblion uwchradd dalgylch Y Gader a disgyblion cynradd dalgylchoedd presennol ysgolion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy. Oherwydd

graddfa’r model ysgol ddilyniant, gallai Ysgol ddilynol gyda hyd at 5 ysgol fyddai’n dilyn un gweledigaeth gynnig effeithiau mwy cadarnhaol ar iaith nac Ysgol Ddilynol rhwng 1 Ysgol Gynradd ac 1 Ysgol Uwchradd yn unig. Wedi dweud hynny y gwahaniaeth ar sail nifer disgyblion fyddai 533 (Cynradd Dolgellau ac Y Gader) a 595 (pob Ysgol ag eithrio Cynradd Dolgellau). A fyddai ardrawiad iaith gwahanol i Ysgol Llanelltyd o dan y Model hwn nag o dan Model 2 Effaith ar Iaith: Negyddol isel lle byddai’r Ysgol yn parhau’n sefydliad unigol? Pa effaith, os o gwbl, fyddai cyfundrefn ddilynol yn ei gael ar iaith gymdeithasol amser chwarae (ac i raddau llai, wrth y bwrdd amser cinio) disgyblion Ysgol Llanelltyd? Yr ateb mwyaf tebygol yw mai ychydig, y tu hwnt i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. O ran ceisio cynllunio’r addysg ieithyddol orau mae’r model mwy holistaidd hwn yn galluogi dyhead a gorolwg gyson ar draws sawl safle a chysondeb trwy gyfnod addysg statudol ond fod Cynradd Dolgellau y tu allan i drefn o’r fath. Gall cyfundrefn ddilynol gynnig rhai manteision megis dilyniant mewn cynlluniau addysg rhwng 3 ac 16 oed, cysoni dulliau dysgu rhwng Ysgolion Cynradd eraill, gosod targedau i gynyddu safonau ac fel un sefydliad dalgylch gyfan mawr, gallai fod a mwy o adnoddau wrth law neu i’w rhannu er mwyn cyflawni’r targedau hyn. Effaith ar iaith: Cadarnhaol

Page 28: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

28

Model 8: Ysgol Ddilynol Dalgylchol ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy Golyga hyn:

• Cau ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd, Friog, Machreth, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Brithdir a Dinas Mawddwy

• Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Llanelltyd, Friog, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy i wasanaethu holl disgyblion cynradd ac uwchradd dalgylch Y Gader

• Bydd angen ystyriaeth fanwl i ddynodiad yr ysgol newydd, byddai’n unai dileu darpariaeth addysg gynradd Eglwysig neu’n dileu darpariaeth addysg cymunedol cynradd ac uwchradd

• Bydd un pennaeth, un corff llywodraethol

(i) Ysgol Ddilynol Dalgylchol ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Friog, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy a chau Ganllwyd, Clogau, Machreth a Brithdir. Un pennaeth, un corff llywodraethol. Byddai mabwysiadu un

sefydliad dalgylch cyfan fel ysgol ddilynol yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb a chyd-ddyhead gydag un Pennaeth ac un corff Llywodraethwyr yn gosod a bugeilio’r agenda. Byddai’n fodd hefyd i sicrhau mwy o gysondeb wrth osod disgyblion yn ôl Carfan iaith blwyddyn 6.

A fyddai ardrawiad iaith gwahanol i Ysgol Llanelltyd o dan y Model hwn nag o dan Model 2 Effaith ar Iaith: Negyddol isel lle byddai’r Ysgol yn parhau’n sefydliad unigol? Pa effaith, os o gwbl, fyddai cyfundrefn ddilynol yn ei gael ar iaith gymdeithasol amser chwarae (ac i raddau llai, wrth y bwrdd amser cinio) disgyblion Ysgol Llanelltyd? Yr ateb mwyaf tebygol yw mai ychydig, y tu hwnt i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. O ran ceisio cynllunio’r addysg ieithyddol orau mae’r model mwy holistaidd hwn yn galluogi dyhead a gorolwg gyson ar draws sawl safle a chysondeb trwy gyfnod addysg statudol. Gall cyfundrefn ddilynol gynnig rhai manteision megis dilyniant mewn cynlluniau addysg rhwng 3 ac 16 oed, cysoni dulliau dysgu rhwng Ysgolion Cynradd eraill, gosod targedau i gynyddu safonau ac fel un sefydliad dalgylch gyfan mawr, gallai fod a mwy o adnoddau wrth law neu i’w rhannu er mwyn cyflawni’r targedau hyn. Nid yw’r model hwn felly ddim heb ei heriau a byddai hefyd yn golygu colli

rhai o’r ysgolion presennol sydd â dyfarniadau iechyd ieithyddol uwch sef Brithdir, Ganllwyd a Machreth ond byddai Ieuan Gwynedd yn ysgol wledig hefo proffil iaith cartref disgyblion Cymraeg o 50%. Yn y dalgylch yma, oherwydd y dirywiad ieithyddol cyffredinol, nid oes un model yn mynd i gynnig ardrawiad iaith cadarnhaol syml. Yn hytrach bydd yn gyfuniad o effeithiau cadarnhaol, niwtral a negyddol. Ynddo’i hunain mae hynny’n adlewyrchu cymhlethdod cynnal polisi iaith addysg yn academaidd ar y naill law a’r cynnydd yn y patrwm o siarad Saesneg yn gymdeithasol amser chwarae ac wrth y bwrdd amser cinio ar y llall. Deillia hynny o briod iaith mas critigol o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg yn sgil mewnfudo a dylanwad hynny ar deuluoedd Cymraeg. Mae hynny’n wir iawn am dref Dolgellau a phentrefi eraill megis Corris. Yn wyneb hynny felly mae Ysgol Uwchradd Y Gader yn cael cryn lwyddiant o ran trosglwyddo’r Gymraeg i ddisgyblion ail iaith fel y dônt yn hyfedr [yn y Gymraeg] fel iaith gyntaf ... yn allweddol wrth gymhathu unigolion i’r diwylliant Cymreig. Oherwydd hynny byddai model ysgol ddilyniant dalgylch gyfan yn cynnig y cyfleon gorau i gynllunio a darparu addysg Gymraeg a dysgu Cymraeg i ddisgyblion dalgylch Dolgellau. Effaith ar iaith: Cadarnhaol.

Page 29: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

29

6. Dyfarniad Sgôr Ardrawiad Iaith fesul model ad-drefnu Ysgolion

Modelau 1 - 8 Ardrawiad iaith

Model 1 sef parhau hefo’r ‘status quo’ sef un Ysgol Uwchradd (Y Gader) a 9 Ysgol Gynradd. Dim newid i strwythur, lleoliad, dynodiad, rheolaeth na dalgylchoedd yr ysgolion presennol.

Dim newid

Model 2 sef “Collaboration trust” rhwng Ysgol Y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Aml-safle yn Friog a Llanelltyd ac Ysgol Aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy. Ysgolion gyda pennaeth, corff llywodraethu a chyllideb eu hunain:

- “collaboration trust” rhwng Ysgol Gynradd Dolgellau, Y Gader a’r 2 ysgol ardal aml-safle isod sef: Dim newid

- Ysgol ardal aml-safle Llanelltyd (disgyblion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd) ac Y Friog Negyddol isel

- Ysgol ardal aml-safle Ieuan Gwynedd (cyfuno disgyblion Machreth, Ieuan Gwynedd, Brithdir) a Dinas Mawddwy Cadarnhaol uchel

Model 3 sef sefydlu rhwydwaith cydweithio rhwng yr ysgolion i gyd gan amserlennu cwricwlwm ar y cyd yn yr ysgolion cynradd ac ysgolion i gyd gyda pennaeth a corff llywodraethu eu hunain:

- Parhau gyda ysgol Y Gader, Cynradd Dolgellau, Clogau, Friog, Ganllwyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy Dim newid

- Cau Ysgol Brithdir a symud y disgyblion i ysgolion Ieuan Gwynedd a Dinas Mawddwy Cadarnhaol - Niwtral

- Cau Ysgol Machreth a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Ganllwyd Cadarnhaol uchel

- Cau Ysgol Llanelltyd a throsglwyddo’r disgyblion i ysgolion Clogau, Ganllwyd ac Y Friog Negyddol isel

Model 4 sef 3 ysgol yn y dalgylch gyda pennaeth, corff llywodraethu a chyllideb ei hunain:

- Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader a Cynradd Dolgellau Cadarnhaol

- Ysgol ardal aml-safle Llanelltyd (disgyblion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd) ac Y Friog Negyddol isel

- Ysgol ardal aml-safle Ieuan Gwynedd (cyfuno disgyblion Machreth, Ieuan Gwynedd, Brithdir) a Dinas Mawddwy Cadarnhaol uchel Model 5 - Ffederasiwn Ysgolion Dalgylch Y Gader sef ffedereiddio’r 3 ysgol yn golygu un pennaeth ac un corff llywodraethu i ysgolion y dalgylch cyfan:

Cadarnhaol

Model 6 sef Ysgol Ddilynol yn Nhref Dolgellau ac un Ysgol Aml-safle wledig (safleoedd yn Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy – Ffedereiddio’r 2 Ysgol sef:

Cadarnhaol

Model 7 sef parhau gyda Ysgol Gynradd Dolgellau, a chreu Ysgol Ddilynol 3-16 oed dalgylch (ar safleoedd presennol ysgolion y Gader, Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy gyda dewis i ddisgyblion Machreth fynychu ysgol Gynradd Dolgellau neu’r Ysgol Ddilynol) – Ffedereiddio’r 2 Ysgol:

- Ysgol Gynradd Dolgellau Dim newid

- Sefydlu Ysgol Ddilynol 3-16 oed dalgylch ar safleoedd presennol ysgolion y Gader, Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy a chau Ganllwyd, Clogau, Machreth a Brithdir gyda dewis i ddisgyblion Machreth fynychu ysgol Gynradd Dolgellau neu’r Ysgol Ddilynol.

Cadarnhaol

Model 8: Ysgol Ddilynol Dalgylchol ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Friog, a Dinas Mawddwy a chau Ganllwyd, Clogau, Machreth a Brithdir. Un pennaeth, un corff llywodraethol.

Cadarnhaol

Page 30: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

30

7. Diweddglo

Mae’r ardrawiad iaith hwn wedi ceisio amlygu beth fydd effaith mwyaf tebygol gwahanol fodelau ar y Gymraeg, a crynhoir hynny isod.

• Model 1 sef parhau hefo’r ‘status quo’ sef un Ysgol Uwchradd (Y Gader) a 9 Ysgol Gynradd. Dim newid i strwythur, lleoliad, dynodiad, rheolaeth na dalgylchoedd yr ysgolion presennol. Parhau o’r sefyllfa bresennol sydd yma ac felly nid oes unrhyw newid o ran effaith ar iaith.

• Model 2 sef “Collaboration trust” rhwng Ysgol Y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Aml-safle yn Friog a Llanelltyd ac Ysgol Aml-safle yn Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy. Ysgolion gyda pennaeth, corff llywodraethu a chyllideb eu hunain. Mae model 2 yn gyfuniad o ddim newid i Ysgolion tref Dolgellau, Y Friog a Dinas Mawddwy ond effaith negyddol isel (-2.5) ar ysgol aml-safle Llanelltyd oherwydd proffil iaith cartref disgyblion gydag ond 24% o gartrefi Cymraeg, effaith hynny o ran iaith amser chwarae ac i raddau llai iaith yn adeiladau’r ysgol. Byddai ysgol aml-safle Ieuan Gwynedd yn gadarnhaol uchel (+12) gan y byddai 50% o’r disgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith a sgil effaith dilynol hynny ar agweddau academaidd a defnydd cymdeithasol ac o ran naws ac ethos yr ysgol.

• Model 3 sef sefydlu rhwydwaith cydweithio rhwng yr ysgolion i gyd gan amserlennu cwricwlwm ar y cyd yn yr ysgolion cynradd ac ysgolion i gyd gyda penaethiaid a chyrff llywodraethol eu hunain. Yn absenoldeb manylion am amlder cydweithio a rhwng pa ysgolion, rydym wedi rhoi dyfarniad effaith ar iaith gofalus rhwng cadarnhaol a niwtral. Bydd angen manylion pellach i allu rhoi dyfarniad penodol.

O ran cau ysgol Machreth a throsglwyddo disgyblion i Ganllwyd wedyn, am yr un rhesymau ag ysgol aml-safle Ieuan Gwynedd ym model 2, mae’r model hwn hefyd yn rhoi dyfarniad cadarnhaol uchel (sgôr +12) ond y tro hwn mae proffil iaith disgyblion o gartrefi Cymraeg yn

uwch sef 53%. O ran cau ysgol Llanelltyd a throsglwyddo disgyblion i ysgolion Clogau, Ganllwyd ac Y Friog; nid oes modd sefydlu beth fyddai proffil iaith cartref disgyblion, sy’n golygu y rhoddir dyfarniad effaith negyddol gofalus gan y gallai greu sefyllfa lle byddai ysgol Y Friog yn denu mwyafrif o ddisgyblion o gartrefi Saesneg, ac felly wanhau peuoedd iaith un ysgol yn y dalgylch. Fel mas critigol gallai hyn hefyd gael effaith negyddol maes o law yn Y Gader. O ran model cydweithio, eto heb fanylion pellach, ystyriwyd yn ofalus mae’r dyfarniad effaith ar iaith mwyaf priodol fyddai cadarnhaol ond byddai angen ystyried cynlluniau cydweithio yn ofalus er mwyn cael y buddion ieithyddol academaidd a chymdeithasol gorau. Yn gronnus felly mae’r model hwn yn gyfuniad o effeithiau amrywiol – cadarnhaol-niwtral, cadarnhaol uchel a negyddol uchel posibl.

• Model 4 sef 3 ysgol yn y dalgylch gyda pennaeth, corff llywodraethu a chyllideb ei hunain. Fel model 3 mae model 4 yn gyfuniad o effaith cadarnhaol, negyddol isel a chadarnhaol uchel. Cadarnhaol o ran ysgol ddilynol Y Gader a Cynradd Dolgellau, negyddol isel o ran ysgol aml-safle Llanelltyd yn chadarnhaol uchel o ran ysgol aml-safle Ieuan Gwynedd (fel Model 2). Ni ragwelir unrhyw newid i Ysgol Y Friog na Dinas Mawddwy, gan y byddant yn goroesi ond heb fod yn derbyn disgyblion o ysgolion eraill.

Page 31: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

31

• Model 6 sef Ysgol Ddilynol yn Nhref Dolgellau ac un Ysgol Aml-safle wledig (safleoedd yn Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy – Ffedereiddio’r 2 Ysgol. Yn union fel model 5 cesglir mai effaith cadarnhaol a geir ond bod angen gweld manylion ffedereiddio i roi dyfarniad clir a phendant.

• Model 7 sef parhau gyda Ysgol Gynradd Dolgellau, a chreu Ysgol Ddilynol 3-16 oed dalgylch (ar safleoedd presennol ysgolion y Gader, Friog, Llanelltyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy gyda dewis i ddisgyblion Machreth fynychu ysgol Gynradd Dolgellau neu’r Ysgol Ddilynol) – Ffedereiddio’r 2 Ysgol. Canlyniad cymysg o ddim effaith o ran Cynradd Dolgellau a Cadarnhaol o ran ysgol ddilynol. Eto heb fanylion pellach mae’n amhosibl rhoi dyfarniad pendant.

• Model 8: Ysgol Ddilynol Dalgylchol ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Friog, a Dinas Mawddwy a chau Ganllwyd, Clogau, Machreth a Brithdir. Un pennaeth, un corff llywodraethol. Dyfarniad o effaith cadarnhaol sy’n cynnig cyfle i sicrhau cysondeb ar draws y dalgylch cyfan. Tra nad oes modd gosod pob model mewn trefn sgorio effaith ar iaith, casglwn fod y model hwn yn cynnig manteision arbennig o ran cynllunio a darparu addysg statudol fydd yn gyson ac yn deillio o un weledigaeth gyflawn yn hytrach na chyfeiriad amrywiol nifer o sefydliadau fydd, yn anorfod, a safbwynt amrywiol o ran dyhead i gyflawni polisi iaith addysg y sir a chreu dinasyddion ifanc hyfedr ddwyieithog. Mewn dalgylch lle mae’r Gymraeg yn wyneb sawl her sylfaenol, efallai’n wir mae cynllunio’r ddarpariaeth ar sail un weledigaeth sefydliadol yw’r ffordd orau i geisio cyflawni’r polisi iaith, gan ddefnyddio’r adnoddau staffio a dysgu mwy fyddai gan un sefydliad i’r defnydd gorau ar draws gwahanol safleoedd y dalgylch.

Mae’r ardrawiad iaith cychwynnol hwn wedi amlygu pa fodelau sy’n debygol o gael dim newid o’r drefn bresennol - megis model 1, model 3 o ran ysgol Y Gader, Cynradd Dolgellau, Clogau, Friog, Ganllwyd, Ieuan Gwynedd (Rhydymain) a Dinas Mawddwy a model 7 o ran Ysgol Gynradd

Dolgellau yn ogystal â rhai sy’n debygol o gael effaith negyddol - yn benodol Ysgol ardal aml-safle Llanelltyd (disgyblion Ganllwyd, Clogau, Llanelltyd) ac Y Friog a Cau Ysgol Llanelltyd a throsglwyddo’r disgyblion i ysgolion Clogau, Ganllwyd ac Y Friog ym Model 3. Ar ben hynny amlyga hefyd y modelau sy’n debygol o gael effaith cadarnhaol - megis Ysgol ardal aml-safle Ieuan Gwynedd (cyfuno disgyblion Machreth, Ieuan Gwynedd, Brithdir) a Dinas Mawddwy ym model 2 a 4, Cau Ysgol Machreth a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Ganllwyd ym model 3 . Gyda rhai modelau roedd yn bosibl rhagweld yn fanwl beth fyddai’r effeithiau cadarnhaol ond gydag eraill ni fu’n bosibl ar hyn o bryd oherwydd nad yw’n hysbys eto beth fydd dewisiadau ysgol rhieni neu am nad yw union fanylion “collaboration trust”, rhwydwaith cydweithio, ysgol ddilynol a ffederasiwn o ysgolion wedi eu diffinio’n fanwl o ran natur ac amlder cymysgu rhwng disgyblion ac ysgolion. O ganlyniad i’r uchod dylai’r adroddiad fod yn galluogi Awdurdod Addysg Gwynedd i gloriannu ardrawiad ieithyddol pob model cyn dod i benderfyniad ar restr lai o fodelau posibl i’w trafod a’u hystyried ymhellach. Dyma un o’r dalgylchoedd gwannach yn ieithyddol, ac felly bydd ceisio canfod unrhyw fodel sy’n mynd i roi effeithiau cadarnhaol drwyddi draw yn mynd i fod yn annos os nad amhosibl. Er hynny beth sydd yn amlwg yw graddfa llwyddiant amlwg mwyafrif yr ysgolion o ran cymhathu, gosod a meincnodi cyrhaeddiad da gan arwain at sefyllfa lle mae nifer helaeth o ddisgyblion yn gadael addysg statudol yn abl o ran hyfedredd yn y Gymraeg. Mae hynny’n digwydd yn erbyn cefndir o ddirywiad ieithyddol amlwg. Does dim amheuaeth bydd mwy o heriau yn wynebu’r dalgylch wrth gyflawni’r polisi iaith addysg dros y degawd nesaf ond gyda dyhead, chymorth, adnoddau digonol ac arweiniad sirol a lleol, gall y dalgylch barhau i arfogi pobl ifanc gogledd Meirionnydd gyda sgiliau hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’w gwneud yn ddinasyddion dwyieithog cyflawn.

Page 32: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

32

Atodiad A: Holiadur Iaith Ysgolion Cynradd Dalgylch Y Gader

Page 33: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

33

Page 34: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

34

Page 35: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

35

Page 36: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

36

Page 37: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

37

Page 38: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

38

Atodiad B: Diffiniadau o Grwpiau Ieithyddol

Page 39: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

39

Atodiad C: Holiadur Iaith Ysgol Uwchradd Y Gader

Page 40: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

40

Page 41: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

41

Page 42: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

42

Page 43: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

43

Page 44: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

44

Page 45: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

45

Page 46: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

46

Page 47: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

47

Page 48: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

48

Page 49: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

49

Page 50: ASESIAD ARDRAWIAD IAITH YSGOLION DALGYLCH Y GADER · 2019. 5. 15. · 4 3. Cyd-destun dalgylch Y Gader Tabl 1: Crynodeb o’r sefyllfa gyfredol – yn academaidd, cymdeithasol ac

50