blwyddyn rhyngwladol golau: dathliadau cymru...17. 17 medi: darlithoedd dan nawdd rhwydwaith ymchwil...
TRANSCRIPT
-
Blwyddyn Rhyngwladol Golau: Dathliadau Cymru
K. Alan Shore
Academi Ffotoneg Cymru ym Mangor
Photonics Academy of Wales @ Bangor (PAWB)
Prifysgol Bangor, Ysgol Peirianneg Electronig,
Stryd y Deon, BANGOR LL57 1UT
CRYNODEB
Wrth drefnu digwyddiadau yng Nghymru i ddathlu Blwyddyn Rhyngwladol Golau,
pwysleisiwyd gweithgareddau oedd yn cynnwys ystod eang o’r cyhoedd, gyda
phwyslais ar bobl ifanc. Yn yr erthygl yma, cynigir blas o’r digwyddiadau a
drefnwyd.
0. Cyflwyniad
Yn sgil y datganiad gan y Cenhedloedd Unedig ar 20 Rhagfyr 2013 yn seiliedig ar
gais gan Gymdeithas Ffisegol Ewrop (EPS) i ddynodi 2015 fel Blwyddyn
Rhyngwladol Golau (BRyG), aeth Academi Ffotoneg Cymru ym Mangor (PAWB) ati
i drefnu cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru i gefnogi BRyG. Lluniodd PAWB
gynllun bras ar gyfer gweithgareddau BRyG yng Nghymru ond, ar yr un pryd,
ceisiodd fewnbwn gan eraill a fyddai’n cyfrannu at y gweithgareddau.
Y bwriad gwreiddiol oedd darparu nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus i ddangos
pwysigrwydd golau mewn cynnal a gwella bywyd. Gwelwyd bod angen i’r
gweithgareddau gael eu cynnal ar draws Cymru ac yn ddwyieithog.
Disgwyliwyd y byddai ambell i sefydliad allweddol yn cydweithio i hyrwyddo’r
digwyddiadau. I’r perwyl hwn, cysylltwyd â’r Sefydliad Ffiseg yng Nghymru,
Academi Ffotoneg Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhagwelwyd hefyd y
gellid disgwyl cyfraniad i’r gweithgareddau gan gyrff fel Swyddfa Prif Gynghorydd
Gwyddonol Cymru, yn ogystal â chyrff diwydiannol a masnachol.
-
1. Sefydliadau Cefnogol
Cafwyd ymatebion cadarnhaol o sawl cyfeiriad. Yn hytrach na cheisio llunio rhestr o
ymatebion ar sail eu pwysigrwydd honedig, cyflwynir yr ymatebion yn ôl trefn amser.
Y sefydliad cyntaf i ymateb oedd y Gymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC). Ar y
pryd, roedd yr awdur yn aelod o Gyngor CDdC a chyflwynodd bapur ar FRyG i’r
Cyngor. Yn unionsyth, cynigiodd Dr Lynn Williams, Prif Weithredwr CDdC ar y
pryd, nawdd ar gyfer Darlith Nadolig i Ysgolion ar y testun Cemeg a Golau.
Cyflwynwyd y ddarlith ym Mangor cyn Nadolig 2014 ac felly dechreuodd BRyG yng
Nghymru yn gynnar a chyda clec!
Mae CDdC yn noddi darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn
Eisteddfod Maldwyn 2015 cynigwyd y ddarlith fel rhan o weithgareddau BRyG.
Traddodwyd y ddarlith gan yr awdur.
Cafwyd cefnogaeth frwd i FRyG gan Fforwm OpToelectrONic (Ffoton) Cymru.
Dewiswyd 2015 fel BRyG oherwydd nifer o ben-blwyddi nodedig, ac yn cyd-fynd â
hyn, roedd Ffoton Cymru yn dathlu pen-blwydd yn ugain oed yn 2015. Hefyd yn
2015 roedd Academi Ffotoneg Cymru yn ddeg oed.
Gwnaethpwyd cais llwyddiannus i Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro
Julie Williams, am gefnogaeth foesol ac ariannol ar gyfer gweithgareddau BRyG, ac
yn arbennig ar gyfer Lansiad Cymru BRyG. Nodir gyda chryn werthfawrogiad y
gefnogaeth a dderbyniwyd.
Yn ogystal â’r gefnogaeth gan sefydliadau sydd yn ymwneud â gwyddoniaeth a
Ffotoneg, daeth cefnogaeth o nifer o gyfeiriadau annisgwyl: diolch i Amgueddfa
Genedlaethol Cymru ac yn arbennig i Dr Jana Horak am gofleidio’r FRyG gydag egni
a dychymyg, gan drefnu gweithgareddau o dan ymbarél ‘Daeareg a Golau’.
Fe wnaeth Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, o dan arweiniad Ann Atkinson,
fabwysiadu golau fel thema Gŵyl 2015.
Mae canolfan hwylio Plas Heli, Pwllheli, a agorodd yn swyddogol ym mis Rhagfyr
2015, wedi cynnwys ffotoneg yn ei hadeiladwaith.
-
2. Rhaglen Gweithgareddau
Gweithiodd Academic Ffotoneg Cymru, Bangor, gyda nifer o sefydliadau i gynnig
rhaglen o weithgareddau er mwyn cyflwyno pwysigrwydd golau a thechnoleg golau
(ffotoneg) i ystod eang o bobl. Y nod oedd trefnu digwyddiad bob mis. Yn y diwedd
trefnwyd dros ugain o ddigwyddiadau, yn cynnwys rhai rhyngwladol. Roedd nifer o’r
digwyddiadau yn y Gymraeg.
Calendar Digwyddiadau Cymru BRyG
Dyma’r digwyddiadau y gwnaeth yr Academic Ffontoneg naill ai eu trefnu neu ddod
yn ymwybodol ohonynt.
2.1 Gweithgareddau
1. 17 Rhagfyr 2014: Darlith Nadolig i Ysgolion, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ‘Cemeg a
Golau’.
2. 20/21 Ionawr 2015: Lansiad Byd-eang BRyG, UNESCO, Paris.
-
3. 5 Chwefror: Lansiad Cymru BRyG, Caerdydd (gweler 2.2 isod).
4. 31 Mawrth – 2 Ebrill: Cynhadledd SIOE Caerdydd.
5. 16–18 Chwefror: Dosbarth meistr gyda myfyrwyr Ysgol Friars, Bangor, dan arweiniad Ray Davies, PAWB.
6. 4 Mawrth: Sesiwn Arloesi Ffotoneg OpenIQE – OpTIC, Arddangosfa PAWB.
-
7. 14 Mawrth: Arddangosfa Bydoedd Cudd, Gŵyl Wyddoniaeth Bangor.
8. 25 Mawrth: Diwrnod cyflwyno prosiectau EESW, Venue Cymru, Llandudno. Prosiectau Ysgol Friars, Bangor: Roof Prism Optical Compass; Fibre Optic Laser Speckle
Cardiopulmonary Resuscitation (CPR); Blind Person’s Stair Ascending/Descending Sensor;
Ray Davies, PAWB.
9. 21 Ebrill; ‘Synnwyd gan Olau’ – Cymdeithas Phoenix, Kidderminster.
10. 16 Mehefin: Goleuadau Llachar a Pheirianneg, Rhwydwaith Knowledge Transfer, OpTIC Glyndŵr.
-
11. 20 Mehefin / 25 Gorffennaf / 15 Awst: ‘Daeareg a Golau’, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd; Ray Davies, PAWB.
12. 29 Mehefin – 2 Gorffenaf: ‘Educational and Training in Optics and Photonics (ETOP) 2015’, Bordeaux, Ffrainc – cyflwyniad gan K. Alan Shore.
13. 5–10 Gorffenaf: Cwrs Ffotoneg, Coleg Desborough, Ray Davies, PAWB.
14. Gorffenaf – Awst: Dosbarthiadau meistr PAWB ar gyfer ysgolion a cholegau, Ray Davies.
-
15. 4 Awst: ‘Grym Golau’ – Darlith Eisteddfodol Cymdeithas Ddysgedig Cymru gan K. Alan Shore a than gadeiryddiaeth yr Athro Ken Morgan.
16. 2 Medi: ‘International Year of Light’ - darlith gan K. Alan Shore, Prifysgol Technoleg Taiyuan, Shanxi, Tsiena.
17. 17 Medi: Darlithoedd dan nawdd Rhwydwaith Ymchwil Peirianneg Cymru, Canolfan Dylan Thomas. ‘The Year of Light’: darlith gan K. Alan Shore.
18. 25 Medi: Lightfest @ Prifysgol Aston, Birmingham.
-
19. 1 Hydref: Gweithdai PAWB i ysgolion fel rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, yn cynnwys perfformiad o gerddoriaeth golau dan arweiniad Ray Davies yn Eglwys
Gadeiriol Llanelwy. Cafwyd sylw hefyd gan Science Café, Radio Wales.
20. Tachwedd: Darlith ‘Grym Golau’ gan K. Alan Shore, Ysgol Bro Morgannwg.
21. 27 Tachwedd: Darlith Gyhoeddus Flynyddol Peirianneg, Prifysgol Bangor : Syr Michael Berry, Prifysgol Bryste, ‘Quantum Mechanics and the Democratization of Music’.
-
22. 2 Rhagfyr: agoriad swyddogol canolfan hwylio Plas Heli, Pwllheli.
-
23. 14/15 Rhagfyr: Sesiynau Hyfforddi Prosiect Ffotoneg EESW PAWB ar gyfer myfyrwyr Coleg Menai, dan arweiniad Ray Davies.
2.2 Lansiad Cymru BRyG
Tynnir sylw arbennig at Lansiad Cymru BRyG. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 5
Chwefror yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd. Noddwyd y digwyddiad yn ffurfiol
ac yn ariannol gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth. Cafwyd anerchiadau gan Mrs Hart; yr Athro Julie Williams, Prif
Gynghorydd Gwyddoniaeth Cymru; Karin Burger, SPIE (Cymdeithas Ryngwladol
Opteg a Ffotoneg) Ewrop; Dr Louise Jones o’r eKnowledge Transfer Network a Dr
Beth Taylor, Cadeirydd Pwyllgor BRyG y DU. Cadeirydd y lansiad oedd yr awdur
presennol. Cafwyd arddangosfeydd gan gwmnïau ffotoneg a sefydliadau cefnogol.
Ymhlith yr arddangoswyr roedd CDdC, a dalodd gostau Simon Gough Photography, a
ddarparodd rai o’r delweddau canlynol.
Siaradwyr yn Lansiad Cymru BRyG (o’r chwith i’r dde): K. Alan Shore, Dr Louise Jones,
yr Athro Julie Williams, Edwina Hart AC, Karin Berger a Dr Beth Taylor.
(Cymdeithas Ddysgedig Cymru / Simon Gough Photography)
Cyfrannodd Karin Berger yn hael iawn o’i hamser wrth drefnu’r lansiad, gan
gynnwys darparu arddangosfeydd cefndir gan SPIE a ddaeth yn unionsyth o lansiad
byd-eang BRyG ym Mharis. Diolchir hefyd i Dr Zubaida Sattar a Daniel Roberts am
-
ddod ag esiamplau o weithgareddau Academi Ffotoneg Cymry ym Mangor (PAWB)
i’r lansiad. Mae Dr Sattar yn ymchwilydd a ariennir gan Rwydwaith Ymchwil
Peirianneg Cymru; mae Dan yn fyfyriwr PhD sy’n derbyn cefnogaeth gan y Coleg
Cymraeg Cenedlaethol.
Karin Berger
(Cymdeithas Ddysgedig Cymru / Simon Gough Photography)
Ymwelwyr â stondin un o’r cwmnïau
(Cymdeithas Ddysgedig Cymru / Simon Gough Photography)
-
Ymwelwyr â stondin PAWB yn cael eu haddysgu gan Daniel Roberts (chwith) a Zubaida Sattar (de)
(Toby Shannon, IoP)
3. Y dyfodol
Gan ei bod yn bwysig creu diddordeb parhaol yn y testunau a gafodd sylw yn ystod
Blwyddyn Rhyngwladol Golau, telir sylw at weithgareddau tu hwnt i 2015. Mae’n
dda nodi bod gan PAWB uchelgais i greu Sialens Cynllunio Ffotoneg fel modd o
gynnig cyfle i bobl ifanc i gael profiad uniongyrchol o ffotoneg.
Yn lansiad byd-eang BRyG, dywedodd yr Athro John Dudley, Llywydd Cymdeithas
Ffisegol Ewrop a phrif symbylydd BRyG: “Chawn ni ddim ond un Flwyddyn
Rhyngwladol Golau ac mae i fyny i ni wneud y gorau ohoni.”
Credir bod Cymru wedi cyfrannu yn dda i’r flwyddyn bwysig hon.
Cydnabyddiaethau: Dymuna’r awdur ddiolch am gefnogaeth ariannol Prif
Gynghorydd Gwyddoniaeth Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Rhwydwaith
Ymchwil Peirianneg Cymru.