byw’n annibynnol

20
directpaymentscymru.org.uk byw’n annibynnol eich cylchlythyr taliadau uniongyrchol chwarterol Gwybodaeth gan Diverse Cymru am daliadau uniongyrchol ar gyfer defnyddwyr yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro Hydref 2016

Upload: others

Post on 17-Nov-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

directpaymentscymru.org.uk

byw’n annibynnoleich cylchlythyr taliadau uniongyrchol chwarterol

Gwybodaeth gan Diverse Cymru am daliadau uniongyrchol ar gyfer defnyddwyr yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro

Hydref 2016

Cyflwyniad Cwrdd â’r Tîm

Gobeithio bod eich profiadau yn y cyfnod byr ’rydych wedi’n hadnabod wedi bod yn rhai cadarnhaol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol. Dechreuodd 2016 yn brysur iawn gyda’r trosglwyddiad yn ogystal â’r heriau cynyddol o ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel ar adeg pan mae cyllidebau’n cael eu gwasgu. Ein nod ar ddechrau’r flwyddyn oedd codi ein proffil yng ngorllewin Cymru drwy gyfrannu at gynyddu cyfeiriadau ar draws y tair sir drwy ddarparu hyfforddiant i’r awdurdodau lleol, a chynnig sgyrsiau a chyflwyniadau i ofalwyr a fforymau/grwpiau anabledd.

Credwn ei bod yn bwysicach nac erioed i rannu’r wybodaeth ’rydym wedi’i gasglu dros 14 mlynedd o gefnogi pobl i fyw’n annibynnol wrth ddefnyddio eu taliad uniongyrchol. ’Rydym yn gwneud ymdrech barhaus i ymgysylltu a rhwydweithio’n fwy cyhoeddus, felly os ydych chi’n rhan o grwpiau mynediad, ffocws, neu anabledd, ac yr hoffech i ni roi sgwrs ar daliadau uniongyrchol, yna cysylltwch â fi, os gwelwch yn dda.

Hoffem groesawu Sioned Jones, ein Uwch ILA yng Nghaerfyrddin, yn ôl. Mae hi’n dychwelyd o gyfnod mamolaeth ar y 10fed o Hydref. Mae Sioned wedi bod yn mwynhau amser arbennig gyda’i mab bach hardd, Elis, ac ’rydym yn edrych ymlaen at ei chael yn ôl.

Camodd Kay Hughes i’r adwy yn lle Sioned, ac mae wedi gwneud gwaith ardderchog o reoli ardal Caerfyrddin a’r tîm Ymgynghorwyr Byw’n Annibynnol (ILA) dros y 9 mis diwethaf. Bydd yn dychwelyd i’w rôl fel ILA rhan amser, a hi hefyd fydd ein Hyfforddwr Cynorthwyydd Personol newydd, yn darparu cwrs achrededig gan Agored Cymru i’n criw o ddarpar PA.

Diolch calonnog i ti Kay gan dîm gorllewin Cymru!

Mae yna lawer o newyddion yn y rhifyn hwn, mwynhewch ei ddarllen.

Christina ThomasRheolwr Gwasanaeth Cefnogi Rhanbarthol Tîm Gorllewin Cymru

2

Cwrdd â’r Tîm

Christina ThomasRheolwr Gwasanaethau Cefnogi Taliadau Uniongyrchol Rhanbarthol07852 229 448

Kay HughesYmgynghorydd Byw’n Annibynnol/Hyfforddwr PA07852 228 845

Mai JenningsUwch Ymgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 229 440

Sally GrenfellUwch Ymgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 229 468

Alli ScottYmgynghorydd Byw’n Annibynnol07983 252 606

Cathryn HuntYmgynghorydd Byw’n Annibynnol07852 227 837

Emma ReesYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 227 047

Gemma GriffithsYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 374

Helen EvansSwyddog Cyflogres Taliadau Uniongyrchol a Chyfrifon Wedi’u Rheoli

Jane WilliamsSwyddog Gweinyddol

Karen BladenYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07495 899 277

Karen JamesYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 566

Leila MorrisYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 972

Llinos MaherYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 926

Mark PhillipsYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 227 569

Megan Griffith-SalterYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 388

Richard TruscottYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 210

Sioned JonesUwch Ymgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 229 413

Terri NashYmgynghorydd Byw’n Annibynnol 07852 228 104

3

4

Diweddariad Gwasanaeth

Mae Diverse Cymru’n ymroddedig i roi’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau wrth galon popeth a wnawn a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. ’Rydym yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o gefnogi pobl a gwella ein gwasanaethau presennol drwy wrando ar eich adborth, barnau a syniadau. Dros y naw mis diwethaf, ’rydym wedi ystyried eich adborth a gwneud y newidiadau canlynol:

• Prosesir cyflogres bob pedair wythnos bellach, sy’n golygu llai o waith i chi.• Mae gennym Uwch ILA yn rheoli pob ardal sirol bellach, sy’n gweithio gyda’r tîm

ILA yn y sir honno.• Mae gan bob un o’n defnyddwyr gwasanaeth ILA neu berson cyswllt dynodedig. • ’Rydym bellach yn cynnig gwasanaeth Cyfrifon Wedi’u Rheoli, sy’n cynnig

opsiwn gyda llai o straen drwy reoli eich taliadau uniongyrchol a’ch cyswllt gydag HMRC ar eich rhan. ’Rydym yn falch iawn o weld mwy a mwy o ddefnyddwyr gwasanaeth yn cofrestru i wneud hyn. Siaradwch gyda’ch ILA os hoffech chi gymryd mantais o’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn.

• Gallwn bellach reoli cyfraniad pensiwn eich PA ac, os ydych chi’n defnyddio Cyfrif Wedi’i Reoli, gallwn hyd yn oed sefydlu cynllun pensiwn i chi.

• ’Rydym wedi sefydlu grwpiau cefnogaeth cyfoedion ar wahân i Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

• Byddwn yn cynnig cwrs Cynorthwyydd Personol wedi’i achredu gan Agored Cymru i’n cronfa o ddarpar PA yn fuan.

• ’Rydym wedi ychwanegu llinell deleffon ychwanegol i’n swyddfa yng Nghaerfyrddin i’n helpu i ateb rhagor o alwadau yn ystod cyfnodau prysur. Gallwch nawr ein ffonio ar 01267 245 579 a 01267 245 580.

• Mae gennym gyfeiriad ebost newydd hefyd, [email protected], er mwyn cynnig ffordd amgen i chi gysylltu â ni.

Yn y rhifyn hwn o’r cylchlythyr rydym wedi cynnwys rhagor o erthyglau, yn cynnwys straeon newyddion da, ac ’rydym yn croesawu unrhyw adborth gennych am yr hyn yr hoffech ei weld mewn rhifynnau yn y dyfodol.

Cwestiynau Cyffredin

5

Beth yw hawl gwyliau fy PA?

Mae gennym grynodeb gwyliau blynyddol ar dudalen 7 ond gall eich ILA hefyd roi cyfrifydd gwyliau blynyddol i chi.

Gaf i roi codiad cyflog i fy PA?

Ein cyngor gorau yw cysylltu â’ch ILA a fydd yn gallu eich helpu gydag adolygiad cyllideb er mwyn sicrhau bod digon o arian gennych yn eich cyfrif i wneud hynny.

Mae tystysgrif DBS fy PA wedi mynd dros dair blynedd; oes angen iddyn nhw gael un arall?

Oes. Mae canllawiau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn argymell y dylid adnewyddu’r dystysgrif ar ôl 3 blynedd. Cysylltwch â’ch ILA, a fydd yn gallu’ch hysbysu pwy yw’r person cyswllt DBS yn eich ardal.

Pwy all roi cymorth i mi gyda chofnodion ariannol?

Nid oes gennym Weithwyr Cefnogaeth Cyfrif bellach, ond gall eich ILA ddarparu hyfforddiant i chi ar sut i’w cwblhau eich hunain os gallwch chi, neu os ydych chi’n cofrestru ar gyfer ein Cyfrifon Wedi’u Rheoli, ni fydd angen i chi gwblhau’r rhain.

Aeth dwy o’n Uwch ILA, Mai Jennings a Sally Grenfell, i gynrychioli Diverse Cymru ar y Memory Walk dros Alzheimer’s yn Llanelli.

Dywedodd Mai:“Daeth yr haul i’r golwg unwaith neu ddwy ac roedd pawb mewn hwyliau ardderchog, yn mwynhau’r daith gerdded ac yn annog ein gilydd. Diolch i bawb yng ngorllewin Cymru a’n noddodd, rhwng pawb llwyddom i godi tua £300”.

Cyfrifoldebau Cyflogwr

6

Gwyliau a Thaliadau Staff

Ers Ebrill 2009, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr ganiatáu i’w gweithwyr gael 5.6 wythnos o wyliau cyflogedig bob blwyddyn (pro rata i staff rhan amser). Ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio 5 diwrnod yr wythnos mae hyn yn cyfateb i 28 diwrnod y flwyddyn ac mae’n cynnwys gwyliau’r banc a gwyliau cyhoeddus. Dyma yw’r gofyniad isafswm statudol.

Isod mae canllaw sydyn i’ch helpu i gyfrifo hawliau gwyliau:

Patrwm Gwaith Hawl Gwyliau o Ebrill 1af 2009Llawn-amser (5 diwrnod yr wythnos) 28 diwrnod Rhan-amser (4 diwrnod yr wythnos) 22.4 diwrnodRhan-amser (3 diwrnod yr wythnos) 16.8 diwrnodWythnos 6 diwrnod 28 diwrnod (Uchafswm hawl statudol) Wythnos wedi’i chrynhoie.e. 36 awr mewn 4 diwrnod

201 awr y flwyddyn (36 awr x 5.6 wythnos)

Oriau blynyddol e.e. 1,600 awr ar gyfartaledd o 33.5 awr yr wythnos.

187.6 awr (33.5 awr x 5.6 wythnos)

Ym mis Ebrill 2016 daeth y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn gyfraith. Os yw PA yn 25 mlwydd oed neu’n hŷn, ac nad yw ym mlwyddyn gyntaf prentisiaeth, bydd hawl ganddynt i dderbyn o leiaf £7.20 yr awr.

Fel cyflogwr bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn talu’ch staff yn gywir, gan y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei orfodi’r un mor gadarn â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol blaenorol.

O fis Hydref 2016 dyma fydd y cyfraddau newydd:

• £7.20 yr awr – 25 mlwydd oed a hŷn• £6.95 yr awr – 21–24 mlwydd oed• £5.55 yr awr – 18–20 mlwydd oed• £4 yr awr – 16–17 mlwydd oed• £3.40 ar gyfer prentisiaid dan 19 neu rai 19 a hŷn sydd ym mlwyddyn gyntaf eu

prentisiaeth.

7

Gwasanaeth diweddaru’r DBS

’Rydym wrthi’n cynyddu’r nifer o bobl yn ein cronfa o bobl sy’n chwilio am waith fel Cynorthwywyr Personol (PA). Unwaith mae PA yn cofrestru i’n gwasanaeth cyfatebu maen nhw’n gallu gweld, ac ymgeisio am, swyddi gwag gyda’n defnyddwyr gwasanaeth. Yn ddelfrydol, hoffem fedru darparu gweithwyr yn syth o’r gronfa i’n defnyddwyr gwasanaeth, ond oni bai fod gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi’i ddiweddaru, sy’n caniatáu trosglwyddo o un swydd i’r llall, yna ni fedrwn gynnig y cyfleuster hwn.

Os oes gennych chi PA a fyddai’n hoffi oriau ychwanegol, yna gofynnwch iddyn nhw ymuno â’n gwasanaeth cyfatebu arlein ar ein gwefan a chynghori mai’r cyfle gorau i gynyddu eu siawns o gael gwaith yn syth yw cael DBS wedi’i ddiweddaru.

Noder – gwiriad DBS yw’r enw newydd ar wiriad Biwro Cofnodion Troseddol (Criminal Record Bureau), neu CRB.

BuddionMae’r gwasanaeth DBS ar-lein yn caniatáu i ymgeiswyr gadw’u tystysgrifau DBS yn gyfredol ac yn galluogi cyflogwyr i wirio tystysgrif DBS.

YmgeiswyrMae angen i chi gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth diweddaru, ac mae’n costio £13 y flwyddyn, i’w dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd yn unig. Nid oes cost os mai gwirfoddolwr ydych chi.

Sut i cofrestruOs nad ydych wedi gwneud cais am wiriad DBS eto, gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru gan ddefnyddio cyfeirnod y cais. Mae’n rhaid i’r DBS dderbyn eich cais o fewn 28 diwrnod.

Os ydych chi wedi ymgeisio eisoes, gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru gan ddefnyddio’ch rhif tystysgrif DBS. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 19 diwrnod i’r dystysgrif gael ei chyhoeddi.

Gallwch ddefnyddio system olrhain y DBS i weld cynnydd eich tystysgrif DBS. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth diweddaru i:

• weld eich manylion• fynd â’ch tystysgrif o un swydd i’r nesaf• rhoi caniatâd i gyflogwyr wirio’ch tystysgrif• gweld pwy sydd wedi gwirio’ch tystysgrif• ychwanegu neu dynnu tystysgrif

Am ragor o wybodaeth ewch at www.gov.uk/dbs-update-service

Gwybodaeth a Diweddariadau Cyflogres

8

’Rydym yn derbyn nifer o ymholiadau am y dyddiadau cyflogres newydd: pa bryd i anfon oriau’r PA atom, pa bryd y telir PA, ayyb. Gweler y tabl isod i weld pa bryd y dylid cyflwyno oriau ar gyfer pob cyfnod cyflog a pha bryd y bydd cyflog yn cael ei dalu i’r PA.

Dyddiadau cyflog PA

Angen ffonio i mewn gyda’r oriau os yn amrywiol ar y dydd Llun isod

Cyfnod Cyflog

03/10/2016 w/c 26/09/2016 05/09 - 02/10 31/10/2016 w/c 24/10/2016 03/10 - 30/1028/11/2016 w/c 21/11/2016 31/10 - 27/1119/12/2016 w/c 12/12/2016 28/11 -25/1223/01/2017 w/c 16/01/2017 26/12 - 22/0120/02/2017 w/c 13/02/2017 23/01 - 19/0220/03/2017 w/c 13/03/2017 20/02 - 19/03

Slipiau Cyflog

Mae system cyflogres Diverse Cymru yn cynhyrchu slipiau cyflog ychydig yn wahanol i’r rhai y mae’n debygol yr oeddech yn eu derbyn o’r blaen. Mae’r ddau gopi a dderbyniwch ychydig yn wahanol: mae cyfeiriad y cyflogwr ar gopi’r cyflogwr o’r slip talu., ac ni chofnodir hynny ar gopi’r PA.

Er mwyn lleihau gwastraff a helpu i amddiffyn yr amgylchedd byddem yn eich hannog i gofrestru ar gyfer slipiau cyflog di-bapur, ble’r anfonir copïau ar ebost.

HMRC

Y ffenestr amser chwarterol i dalu eich bil treth HMRC yw ar ôl y 5ed o Hydref 2016 ond dim hwyrach na 19eg o Hydref 2016.

’Rydym yn ymwybodol efallai nad yw rhai pobl wedi derbyn eu llyfr talu i mewn gwyn gan HMRC; os nad ydych chi wedi derbyn eich un chi hyd yma, ffoniwch ein swyddfa yng Nghaerfyrddin ar 01267 245 579 os gwelwch yn dda, fel arall, anfonwch ebost at [email protected] er mwyn i ni archebu un ar eich rhan.

Mae HMRC hefyd yn cynnig ac yn annog taliadau biliau treth chwarterol ar-lein.

Cod Treth HMRC’Rydym yn derbyn nifer helaeth o geisiadau gan ein defnyddwyr gwasanaeth yn gofyn i ni newid eu cod treth. Yn anffodus ni chaniateir i ni gysylltu ag HMRC ar eich rhan gyda’r mater hwn, ond gallwn eich cynghori am sut i fynd o gwmpas hyn. Unwaith y byddwch wedi gofyn am y newid gydag HMRC, bydden nhw’n cysylltu â ni a byddwn yn gallu parhau.

Cofrestriad AwtomatigMae hyn yn berthnasol i bob cyflogwr sydd gan o leiaf un aelod o staff ac nid i fusnesau’n unig mae’n berthnasol; os ydych chi’n cyflogi rhywun yn uniongyrchol i weithio i chi, fel PA, ’rydych chi’n gyflogwr a bydd angen sicrhau y bydd unrhyw weithwyr cymwys yn cael eu cofrestru ar bensiwn gweithle.

Mae’r Rheolydd Pensiynau yn anfon llythyrau allan ar hyn o bryd yn hysbysu pobl o’r hyn a elwir y “dyddiad gosod”. Mae’n hanfodol eich bod yn ymateb i unrhyw ohebiaeth a dderbyniwch gan y Rheolydd gan y gallai anwybyddu gwybodaeth a anfonir allan olygu dirwy.

Mae Diverse Cymru wedi sefydlu Gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau sydd ar gael i unrhyw un sy’n defnyddio cyflogres Diverse Cymru, felly anfonwch unrhyw lythyrau rheolyddol i swyddfa Caerfyrddin neu ebostiwch nhw at [email protected] ble gallwn fewnbynnu’r gwybodaeth ar eich rhan a’ch cynghori os bydd eich PA yn gymwys am gynllun pensiwn.

Sefydlwyd y National Employment Savings Trust (NEST) gan y Llywodraeth yn arbennig ar gyfer cofrestriad awtomatig. Maen nhw’n bodoli er mwyn sicrhau bod gan bob cyflogwr fynediad at gynllun pensiwn gweithle sy’n cwrdd ag anghenion y rheolau pensiwn newydd.

Am ragor o wybodaeth am NEST: nestpensions.org.uk neu 0300 020 0090

9

diverse cymru18 Stryd y FrenhinesCaerfyrddinSA31 1JT

Grwpiau Cefnogaeth Cyfoedion – Haf 2016

10

Buddion Grŵp Cefnogaeth CyfoedionMae grwpiau cefnogaeth cyfoedion yn dod â nifer o fuddion; gallent rymuso pobl i gefnogi ei gilydd ar sylfaen cyfartal a chadarnhaol, a chynnig rhywbeth sy’n seiliedig ar brofiadau a rennir.

Mae gwerth helpu eraill yn galluogi pobl i ddatblygu a rhannu eu gwybodaeth, sgiliau a’u profiadau. Mae defnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn taliadau uniongyrchol wedi cynnig cefnogaeth werthfawr i’w gilydd erioed drwy grwpiau cefnogaeth cyfoedion. Gallwch ddod o hyd i fanylion ein Grwpiau Cefnogaeth Cyfoedion nesaf ar dudalennau 14–19.Sir Benfro

Cawsom fore gwych yn yr Hilton Court Gardens yn mwynhau’r golygfeydd a’r gerddi trawiadol.

Derbyniom lawer o adborth defnyddiol am ein gwasanaeth taliadau uniongyrchol a siaradodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol, Leonie Wallace, gyda’r grŵp am y gwaith ehangach y mae Diverse Cymru’n ei wneud.

Caewyd y sesiwn gyda theisen a disgled am ddim a mynediad am ddim i’r gerddi.

Ceredigion

Cyfarfu’r grŵp yng Nghlwb Rygbi Aberaeron, yn yr tŷ gwydr yn edrych allan ar y traeth a’r arfordir.

Rhoddodd Michael Flynn, ein Cyfarwyddwr Dylanwadu a Phartneriaethau, sgwrs am ein amrywiaeth o wasanaethau a chasglodd syniadau am sut y gallem gynyddu ein ôl troed yn yr ardal.

Cawsom rannu syniadau a phrofiadau ar daliadau uniongyrchol a chafodd aelodau’r fforwm fwynhau sgons gyda jam a hufen.

Sir Gaerfyrddin

Roedd yr haul yn tywynnu yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol ar ddiwrnod braf o haf.

Cafodd y grŵp sgwrs gan Adele Goodwin, Rheolwr Ymgynghori, ar yr hyfforddiant achrededig newydd ar gyfer Cynorthwywyr Personol (PA) gan Diverse Cymru. ’Rydym yn anelu at hyfforddi sawl darpar PA newydd i helpu i lenwi’ch swyddi gweigion.

Cawsom rannu profiadau taliadau uniongyrchol ac edrych ar ffyrdd o ddenu aelodau newydd. Cafodd ein defnyddwyr gwasanaeth fynediad am ddim i’r Gerddi, a mwynhau teisen a disgled am ddim.

Gemau Paralympaidd Rio 2016

11

Grwpiau Cefnogaeth Cyfoedion – Haf 2016

Balch o fod yn Gymreig

Waw! Dwi’n siŵr y gwnewch chi oll gytuno bod Gemau Paralympaidd Rio 2016 yn dipyn o sioe, a croesawyd yr athletwyr Cymreig adref i seremoni yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Mae’r Gemau Paralympaidd bob amser yn llawn straeon hynod ac yn llawn ysbrydoliaeth, a doedd eleni ddim yn eithriad. Profodd ein athletwyr Team GB nad all unrhyw beth eu dal yn ôl a dangoswyd gwerth ymroddiad a gwaith caled, gan nad oes nawdd gan nifer ohonyn nhw i’w galluogi i fod yn athletwyr llawn-amser, ac mae’n rhaid iddyn nhw weithio i dalu’u ffordd rhwng cystadlaethau.

Mae yna glybiau chwaraeon anabledd arbennig ledled Cymru, ac nid yw byth rhy hwyr i gymryd rhan - www.chwaraeonanableddcymru.com

Newyddion

12

Grantiau Tanwydd y Gaeaf

Mae’r gaeaf yn nesáu, y nosweithiau’n mynd yn dywyllach a’r tywydd yn oeri, felly mae’n amser da i atgoffa pobl bod nifer o gynlluniau wedi’u hariannu gan y llywodraeth ledled y DU sy’n cynnig cymorth gyda chynhesu. Gallech arbed £140 ar eich bil trydan drwy’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnes (Warm Home Discount). Gallech hefyd fod yn gymwys i dderbyn taliad tanwydd tywydd oer a thaliad tanwydd gaeaf. Am ragor o wybodaeth, ewch at: www.gov.uk/browse/benefits/heating

Gallwch hefyd gael hyd at £1,000 tuag at gyfnewid eich hen foeler. Gweler www.government-grants.co.uk/boiler-grants

Yng Nghymru mae yna raglen tlodi tanwydd o’r enw Nyth. Drwy Nyth, mae gwelliannau i’r cartref ar gael i bobl yng Nghymru sydd yn derbyn budd-dal ar sail prawf modd ac yn byw mewn cartref sy’n anodd i’w wresogi.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0808 808 2244 neu ewch at www.nestwales.org

Cerdyn CEA (Cinema Association)

Mae’r Cerdyn CEA yn gynllun cerdyn cenedlaethol a ddatblygwyd ar gyfer sinemâu’r DU gan yr UK Cinema Association (UKCA), a adnabyddir gynt fel y Cinema Exhibitors’ Association (CEA). Cyflwynwyd y cynllun yn 2004 ac mae’n un ffordd i sinemâu sy’n cymryd rhan sicrhau eu bod yn gwneud addasiadau rhesymol i westeion anabl pan maen nhw’n mynd i’r sinema; yn benodol, mae’n sicrhau tocyn am ddim i rywun fynd gyda nhw.

’Rydych yn talu ffi flynyddol o £6 ac wedyn mae hawl gennych i fynd â rhywun gyda chi i’r sinema am ddim. Mae’r rhan fwyaf o sinemâu yn ei dderbyn, yn cynnwys sinemâu Odeon a Vue mwy. Mae ar gael i bobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn:

• Lwfans Byw’n Annibynnol (DLA);• Lwfans Gweini (AA);• Cofrestriad Person Dall;• Taliad Annibynniaeth Personol (PIP); a• Taliad Annibynniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP).

Am ragor o wybodaeth, ewch at www.ceacard.co.uk

Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofalwyr – Oeddech chi’n gwybod?

13

Dangosodd ystadegau bod tua 4,600 o bobl anabl yng Nghymru yn derbyn taliadau uniongyrchol ym Mawrth 2015.

Mae dros 60,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn gwasanaethau Gofal Cymunedol a gallai bob un o’r bobl hynny gael mynediad at daliadau uniongyrchol. Mae’r ffigurau hyn yn isel iawn o’u cymharu â Lloegr a’r Alban. Mae Taliadau Uniongyrchol wedi bod ar gael ers 20 mlynedd, ac mae’n siomedig gweld ffigurau mor isel pan ’rydym yn gwybod gymaint o effaith gadarnhaol y gallant ei gael ar fywyd pobl.

Yn Diverse Cymru, ’rydym yn cefnogi bron i 2,000 o unigolion yng ngorllewin Cymru ac yng Nghaerdydd drwy eu helpu i ddefnyddio’u pecyn taliadau uniongyrchol, sy’n golygu mai ni yw’r darparwr cefnogaeth Taliadau Uniongyrchol mwyaf yng Nghymru gyda blynyddoedd maith o brofiad a gwybodaeth yn y maes.

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ’rydym wedi bod yn brysur yn hyrwyddo egwyddorion newydd y Ddeddf drwy ddarparu hyfforddiant i awdurdodau lleol a grwpiau/fforymau gofalwyr ynglŷn â’r newidiadau diweddaraf i daliadau uniongyrchol fel y nodir yn y Ddeddf. Yn benodol, caiff gofalwyr dderbyn taliad uniongyrchol yn eu henw eu hunain bellach.

Cam cyntaf y broses hon bob amser yw cychwyn gydag asesiad gofalydd. Bydd yr asesiad yn edrych ar sut mae gofalu yn effeithio ar fywyd y gofalydd, yn cynnwys, er enghraifft, anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol, a p’un ai yw’r gofalydd yn gallu, neu’n fodlon, dal ati i ofalu. Dylai’r awdurdod lleol hysbysu’r gofalydd o ganlyniad yr asesiad, ac os oes canlyniadau cymwys yn cael eu hadnabod dylai’r gofalydd gael yr opsiwn i ddewis rhwng gwasanaethau sydd wedi’u trefnu yn uniongyrchol ar eu rhan neu dderbyn taliad uniongyrchol i brynu eu gwasanaethau eu hunain.

Pa bethau fyddai gofalydd yn defnyddio taliadau uniongyrchol ar eu cyfer?

Cynorthwywch Diverse Cymru i hyrwyddo taliadau uniongyrchol yng ngorllewin Cymru a rhannu’r wybodaeth gyda’ch teulu, ffrindiau neu gymydog. Cyfeiriwch bobl at ein cyfeiriad ebost gwybodaeth [email protected] neu cysylltwch â’n swyddfa yng Nghaerfyrddin ar 01267 245 579.

• costau tacsi• ffonau symudol• cyfrifiaduron• aelodaeth clwb ffitrwydd• dosbarthiadau hamdden

• cyrsiau hyfforddiant• cwnsela• gwersi gyrru• help gyda’r gwaith tŷ neu’r garddio

Newyddion Sir Gaerfyrddin

14

Mae Tîm Dysgu a Datblygu Sir Gaerfyrddin yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth wedi’i ariannu i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n gweithio o fewn Sir Gaerfyrddin.

Os oes gan eich Cynorthwyydd Personol ddiddordeb mewn derbyn hyfforddiant am ddim, yna ewch i’w gwefan i weld beth sydd ar gael.

www.datblygugweithusirgar.co.uk

Mae cyrsiau yn cynnwys:

• Ymgysylltu’n Ystyriol gyda Dementia• Ymwybyddiaeth hanfodol (diogelu)• Hyfforddiant Anableddau’r Synhwyrau• Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Dydd Mawrth15ed Tachwedd 10:45yb–3yh

Gorsaf Dân Llanelli, Rhodfa’r Gor� oraeth, Llanelli SA15 3PF

Bydd te a theisen am ddim ar gael, a sgwrs am ddiogelwch tân gan Wasanaeth Tân ac Achub CAGC. Bydd gwiriadau diogelwch tân yn cael eu trefnu hefyd. Dilynir hyn gan sesiwn cre� tau yn y prynhawn dan arweiniad Trysordy Treasure House.

Dewch i gwrdd ag eraill sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol, rhannu’ch profi adau, a dweud eich barn wrthym.

Mae’n hanfodol llogi eich lle! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:01267 245579 neu [email protected]

diversecymru.org.uk

Digwyddiad Cefnogaeth Cyfoedion Taliadau Uniongyrchol Sir Gaerfyrddin

15

Gofal Croesffyrdd Sir Gâr

Mae Gofal Croesffyrdd Sir Gâr yn elusen gofrestredig gyda swyddfeydd yng Nghaerfyrddin a Llanelli. Maen nhw’n bartner yn rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yr elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.

Mae eu gwasanaethau wedi’u teilwra i gwrdd ag anghenion y gofalydd unigol a’u teulu, yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau cymunedol eraill.

Mae Gofal Croesffyrdd Sir Gâr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gynorthwyo gofalwyr a’r bobl ’rydych chi’n gofalu amdanyn nhw, yn cynnwys:

• Gofal Amnewidiol i Oedolion a Phlant • Gofal Cartref i i Oedolion a Phlant • Gofal Parhaus a Lliniarol i Oedolion • Gofalu am blant gyda chyflyrau sy’n byrhau bywyd• Canolfannau dydd penwythnos (cyffredinol) – Tref Llanelli a Chwm Gwendraeth • Cyfleuster gofal dydd iechyd meddwl arbenigol (dementia canolig hyd at

ddwys) – Hafan Glyd, Caerfyrddin 5 diwrnod yr wythnos• Clwb cinio – Canolfan Gymunedol Llangennech bob Dydd Mercher• Cefnogaeth pan ddaw gofalu i ben • Gwasanaeth ymyrraeth ar gyfer digwyddiadau brys ac annisgwyl• Gwasanaethau Gwybodaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin

Grŵp Cefnogaeth Gofalwyr

Mae’r cyfarfodydd nesaf wedi’u trefnu at 26ain o Hydref, 16eg o Dachwedd a’r 21ain o Ragfyr 1–3yh yn eu Swyddfa Llanelli.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr ar 0300 0200 002 neu ewch at www.carmarthenshirecarers.org.uk

Newyddion Sir Benfro

16

Mae Grŵp Mynediad Sir Benfro yn elusen annibynnol sy’n anelu at hybu gwell myn-ediad at wasanaethau a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl ac annog cynghorau, dat-blygwyr a busnesau i ymroi i fodel cymdeithasol anabledd ac egwyddorion dyluniad cynhwysol fel y gall pawb, yn cynnwys pobl anabl, fwynhau’r un cyfleusterau yn gyfartal. Mae’r grŵp wedi bod yn rhan o nifer o ddatblygiadau cymunedol i gefnogi unigolion anabl yn Sir Benfro.

Y flwyddyn nesaf maen nhw’n trefnu cynhadledd o’r enw’r “Big Access Talk”, i’w gynnal yn Y Pafiliwn, Cae’r Sioe Sir, Hwlffordd ar 18 Mai 2017. Sesiwn cwestiwn ac ateb fydd hwn gyda swyddogion allweddol o’r cyngor a’r GIG sy’n gyfrifol am ddar-paru gwasanaethau.

Am ragor o wybodaeth am Grŵp Mynediad Sir Benfro, cysylltwch ag:Alan Hunt, Swyddog MynediadFfôn: 01437 [email protected]

Dydd Mercher 2il o Dachwedd 11yb

The Wickedly Welsh Chocolate Farm, 13 Ystâd Ddiwydiannol Llwyn Helyg (Withybush), Heol y Llwyn Helyg, Hwl� ordd, SA62 4BS

Bydd cyfl e i ymweld â’r man ‘Have a Go’ cyn y ‘Chocolate Demonstration Experience’!

Dewch i gwrdd ag eraill sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol, rhannu’ch profi adau, a dweud eich barn wrthym.

Mae’n hanfodol llogi eich lle! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:01267 245579 neu [email protected]

diversecymru.org.uk

Digwyddiad Grŵp Cefnogaeth Cyfoedion Sir Benfro

17

Gofalwyr Sir Benfro

’Rydych chi’n ofalydd os ydych chi’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu i blentyn anabl. Gallent fod yn berthynas, ffrind neu gymydog nad ydyn nhw’n gallu ymdopi gartref heb gymorth oherwydd salwch, oedran neu anabledd. Efallai eich bod yn teimlo eich bod yn darparu gofal fel rhan o’ch perthynas gyda nhw ac felly nid yn ystyried eich hunain yn ofalydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig dros ben i chi ddysgu pa hawliau sydd gennych i weld os oes unrhyw gefnogaeth ychwa-negol y gallech chi ei gael.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01437 764551Neu anfonwch ebost at: [email protected]

Cyrsiau Hyfforddiant gan y Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RDGGC)

Nod y bartneriaeth yw cyfrannu at ddatblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol, er mwyn hybu gweithio yn y maes gofal a chynyddu’r nifer o staff cymwysedig sy’n darparu gofal yn Sir Benfro.

Ar gyfer pwy mae hyfforddiant RDGGC?Mae RDGGC yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i bobl sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol. Mae’n rhaid i chi fod yn weithiwr gofal cyflogedig neu weithio i fudiad gwirfoddol sy’n gofalu am bobl yn Sir Benfro er mwyn bod yn gymwys i fynychu ein hyfforddiant.

Anfonir dyddiadau eu cyrsiau hyfforddi, yn ogystal â gwybodaeth arall, allan yn fisol. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn ac yr hoffech gael eich cynnwys ar y rhestr ebostio, cysylltwch â: [email protected]

Am fanylion pellach am unrhyw un o’r cyrsiau, cysylltwch â:Gweinyddwr RDGGC Ffôn: 01437 776 195

Dean Rowlands (Cymhorthydd Gweinyddol RDGGC) Ffôn: 01437 776 [email protected]

Newyddion Ceredigion

18

Dydd Mercher 9fed o Dachwedd 12:30–2:30yh

Canolfan Morlan, Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth, SY23 2HH

Bydd yno sgwrs a fi deo am ddiogelwch tân, a chyfl e i drefnu ymweliad cartref gan y Swyddog Diogelwch Tân.

Dewch i gwrdd ag eraill sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, rhannu eich profi adau, a rhoi eich barn i ni.

Mae’n hanfodol llogi eich lle! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:01267 245579 neu [email protected]

diversecymru.org.uk

Digwyddiad Cefnogaeth Cyfoedion Taliadau Uniongyrchol Ceredigion

Fforwm Gofalwyr Mae Fforwm Gofalwyr Ceredigion yn anelu at roi cyfle i ofalwyr ddod at ei gilydd i dderbyn gwybodaeth a chynnig cefnogaeth i’w gilydd.

Mae Fforwm Gofalwyr Ceredigion yn ei dyddiau cynnar, ac ’rydym wrthi’n ceisio cael gwybod gan ofalwyr yng Ngheredigion pa wybodaeth a chefnogaeth y maen nhw ei angen gan fforwm o’r fath a sut y gall honno gwrdd â’u hanghenion yn y modd gorau. Yn ystod y broses ddatblygu hon, mae’n cael ei hwyluso gan Uned Gofalwyr Ceredigion.

Dyddiad cyfarfod nesaf y Fforwm yw 16eg o Dachwedd 2016, 10:30–12:30.

Os hoffech fod yn aelod o Fforwm Gofalwyr Ceredigion neu hyd yn oed os mai dim ond cael rhagor o wybodaeth yr hoffech chi, cysylltwch â Catherine Moyle, Swyddog Cefnogaeth yr Uned Gofalwyr ar 01970 633564 neu anfonwch ebost at [email protected].

19

Cyrsiau Cynorthwywyr Personol

Mae Cyngor Ceredigion yn darparu hyfforddiant Cynorthwywyr Personol. Os hoffech ddysgu rhagor am hyn, ebostiwch [email protected].

Dewch i Ganu @ Bwyty Maes Mwldan

Dewch i ganu caneuon poblogaidd ac adnabyddus bob Dydd Mercher o 2–3yh hyd at 14eg o Ragfyr, ym Mwyty Maes Mwldan, Aberteifi.

Darperir te a bisgedi a chaiff unrhyw un fynychu am ddim. Mae canu mewn grŵp yn ffordd wych o ymlacio, cymdeithasu a chysylltu ag eraill.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cat.

Ffôn: 01239 571 121 neu anfonwch ebost at: [email protected] gan CFW ac fe’u cynhelir gan Singing Village er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer canu cynhwysol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio hybu a mwyhau iechyd a lles y sir er mwyn budd cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.

Mae Ceredigion Actif a darparwyr gweithgareddau chwaraeon a chorfforol lleol eraill yn chwarae rhan allweddol mewn cyflawni’r amcanion hyn a datblygiad sgiliau ar gyfer bywyd mewn chwaraeon drwy ddilyn llwybr chwaraeon a gweithgareddau sydd wedi’i seilio ar y gymuned.

Darganfyddwch pa ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal. Am ragor o wybodaeth, ewch at ceredigionactif.org.uk/follow.

Elusen unigryw yng Nghymru yw Diverse Cymru, sy’n ymroddedig i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifl, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredoau, rhyw ac chyfeiriadedd rhywiol

directpaymentscymru.org.uk

diversecymru.org.uk

01267 245 579 / 01267 245 580

[email protected]

Mae Diverse Cymru yn eleusen gofrestredig (1142159) ac yn gwmni wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (07058600)

Promoting equality for allHyrwyddo cydraddoldeb i bawb