care to co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu...

26
https://care.wales.coop / Sut i greu eich sianelau cyfryngau cymdeithasol Rydych chi’n gwybod pa sianel yw’r un iawn ar eich cyfer chi ac rydych wedi cynllunio eich strategaeth, felly mae’n bryd creu eich tudalennau. Dyma ganllawiau cam wrth gam i greu tudalennau Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram. Facebook 1) I ddefnyddio Facebook fel busnes, bydd angen i chi neu rywun o’ch tîm fod â chyfrif Facebook personol eisoes. Os nad oes gennych un, gallwch greu un ar y dudalen gofrestru trwy nodi eich enw cyntaf; eich cyfenw; eich cyfeiriad ebost; cyfrinair newydd; eich pen-blwydd a’ch rhyw. 2) Pan fyddwch yn agor Facebook am y tro cyntaf bydd yn mynd â chi i’r hafan. Yng nghornel dde yr hafan ceir cwymplen ar ffurf saeth ger ‘Home’ lle gallwch glicio ar Create Page. Care to Co-operate

Upload: others

Post on 23-Aug-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

Sut i greu eich sianelau cyfryngau cymdeithasol

Rydych chi’n gwybod pa sianel yw’r un iawn ar eich cyfer chi ac rydych wedi cynllunio eich

strategaeth, felly mae’n bryd creu eich tudalennau. Dyma ganllawiau cam wrth gam i greu

tudalennau Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram.

Facebook

1) I ddefnyddio Facebook fel busnes, bydd angen i chi neu rywun o’ch tîm fod â chyfrif

Facebook personol eisoes. Os nad oes gennych un, gallwch greu un ar y dudalen

gofrestru trwy nodi eich enw cyntaf; eich cyfenw; eich cyfeiriad ebost; cyfrinair

newydd; eich pen-blwydd a’ch rhyw.

2) Pan fyddwch yn agor Facebook am y tro cyntaf bydd yn mynd â chi i’r hafan. Yng

nghornel dde yr hafan ceir cwymplen ar ffurf saeth ger ‘Home’ lle gallwch glicio ar

Create Page.

Care to Co-operate

Page 2: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

3) Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen hon, lle byddwch yn dewis y math o dudalen y

mae arnoch eisiau ei chreu. Rydym yn argymell creu tudalen fel “cause or

community”. Pan fyddwch yn clicio ar hyn, gofynnir ichi ddewis enw.

4) Yna gofynnir ichi lwytho llun proffil a llun clawr. Byddem yn eich cynghori i

ddefnyddio eich logo fel eich llun proffil ac yna gallech gael llun mwy cyffredinol fel y

llun clawr, fel isod, neu faner sy’n fwy perthnasol i ymgyrch yr ydych yn ei chynnal ar

hyn o bryd. Y maint angenrheidiol ar gyfer llun clawr o ansawdd da yw 851 x 315

megapicsel.

Llun proffil Llun clawr

Page 3: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

5) Nesaf, ychwanegwch enw defnyddiwr. Mae enw defnyddiwr yn ffordd haws o chwilio

am eich tudalen e.e. @WalesCooperativeCentre.

6) Nawr, ysgrifennwch rywfaint am yr hyn yr ydych yn ei wneud, ac fe’i dangosir dan

adran ‘about’ eich tudalen (gweler enghraifft Wales Co-Operative).

Cliciwch ar ‘add a short description’, ac yna llenwch yr adran honno â’ch lleoliad;

amseroedd agor; gwybodaeth am y busnes; manylion cyswllt; rhowch ddolen i’ch

gwefan; rhowch grynodeb o’r hyn yr ydych yn ei wneud; rhowch unrhyw wybodaeth

gyffredinol; soniwch am unrhyw gynnyrch sydd gennych ac, yn olaf, rhowch eiriau

allweddol sy’n berthnasol i’r hyn yr ydych yn ei wneud e.e. ‘charity; care; public and

government service’. Bydd hyn yn ymddangos fel isod.

Page 4: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

7) Er mwyn denu dilynwyr, gallwch ddechrau trwy wahodd eich ffrindiau personol i

hoffi’r dudalen. Os bydd rhywun yn hoffi eich tudalen, bydd yr hyn y byddwch yn ei

gyhoeddi ar y dudalen yn ymddangos yn eu ffrwd newyddion. Po fwyaf o bobl sy’n

hoffi eich tudalen, gorau’r croeso y bydd y dudalen yn ei gael. Gweler yr adnodd

Build your following er mwyn cael rhagor o gynghorion.

8) Gallwch osod gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cyfrif, fel y gall mwy

nag un person reoli’r ffrwd gymdeithasol. Efallai na fydd hyn yn gwbl angenrheidiol,

ond os ydyw, gallwch wneud hyn trwy glicio ar Settings > page roles ac yna roi enw

neu gyfeiriad ebost person er mwyn pennu swyddogaeth iddynt. Isod fe welwch y

gwahanol swyddogaethau ar hyd y brig a’r cyfrifoldebau y mae’r rhain yn eu rhoi ichi

i lawr yr ochr. Rydym yn argymell y dylai un person fod yn weinyddwr (Admin, yn

gallu rheoli’r dudalen gyfan) ac yna eraill yn olygyddion (Editor, gan olygu eu bod yn

gallu cyhoeddi ar y dudalen a’i rheoli ond nad ydynt yn gallu pennu swyddogaethau i

Page 5: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

bobl na chael gwared ar swyddogaethau ychwaith.

9) Yna gallwch ychwanegu postiadau gyda naill ai ddelwedd neu fideo. I’w llwytho,

cliciwch ar yr eicon camera, yna clicio ar ‘upload image or video’. Os oes arnoch eisiau

llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu

i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo.

10) Pan fyddwch yn llwytho fideo, fe welwch y sgrin isod. Bydd angen ichi ychwanegu

teitl ar gyfer eich fideo, ac yna ddisgrifiad. Bydd y disgrifiad yn ymddangos dan y

fideo, fel postiad arferol, a byddwch yn ei ddefnyddio i ychwanegu cyd-destun.

Gallwch ychwanegu ‘tagiau’ sy’n berthnasol i’ch fideo megis ‘care’, ‘charity’ ac ati.

Bydd angen ichi hefyd aros i’r fideo lwytho hyd at 100% yn y gornel dde cyn

cyhoeddi’r postiad.

Page 6: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

11) Gallwch hefyd amserlennu delweddau, fideo neu bostiadau cyffredinol i gael eu

cyhoeddi’n awtomatig ar amser neu ddiwrnod penodol. Yr oll sydd angen ichi ei

wneud yw clicio ar y saeth ger ‘publish’, dewis ‘schedule’ ac yna ddewis y dyddiad a’r

amser (gan ddefnyddio’r cloc 24 awr) pryd yr hoffech i’r neges gael ei chyhoeddi’n

fyw.

Page 7: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

Twitter

1) Mae Twitter yn wahanol i Facebook, gan nad ydych yn cysylltu busnes â chyfrif

personol sy’n bodoli eisoes. Bydd angen ichi ddechrau trwy greu cyfrif Twitter

penodol ar gyfer eich sefydliad. Gwneir hyn trwy fynd i’r wefan a chofrestru.

2) Cewch eich annog i ddewis enw defnyddiwr – megis @CaretocooperateWales, er

enghraifft. Bydd pobl yn chwilio amdanoch trwy ddefnyddio @ ac yna eich enw

defnyddiwr.

3) Yna bydd angen ichi wneud yr un fath ag ar gyfer Facebook ac ychwanegu llun proffil

a baner Twitter, fel y gwelwch isod.

Page 8: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

4) Mae Twitter yn eich cyfyngu i 280 o nodau, sy’n golygu bod yn rhaid ichi fod yn

glyfar o ran yr hyn yr ydych yn ei ysgrifennu a sut yr ydych chi’n eich disgrifio eich

hun. I greu disgrifiad ohonoch chi’ch hun, fel y gwelir isod, bydd angen ichi fynd i’ch

proffil > clicio ar ‘edit profile’ yn y gornel dde > a rhoi disgrifiad byr; eich lleoliad;

eich gwefan; a dewis cynllun lliwiau ar gyfer eich cyfrif.

Isod ceir enghreifftiau o ddisgrifiad Canolfan Cydweithredol Cymru ac enghraifft

Cowshed o sut i olygu proffil.

5) Gallwch weld faint o bobl yr ydych yn eu dilyn a faint o bobl sy’n eich dilyn chi ar frig

eich proffil dan eich llun clawr.

Page 9: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

6) Gallwch fynd i mewn i’ch proffil trwy glicio ar eicon eich llun proffil ar frig Twitter.

Gallwch hefyd fynd i’ch hafan, lle gwelwch yr holl negeseuon Twitter gan bawb yr

ydych yn eu dilyn; yr adran ‘moments’ gyda straeon newyddion perthnasol a

negeseuon trydar poblogaidd; y ganolfan hysbysiadau lle cewch ddiweddariadau

ynghylch unrhyw un sydd wedi eich dilyn/aildrydar/hoffi eich negeseuon; ac adran

negeseuon lle gall pobl yr ydych chi’n eu dilyn ac sy’n eich dilyn chi’n ôl anfon

negeseuon preifat atoch. I anfon neges drydar newydd, cliciwch ar y botwm ‘Tweet’

yn y gornel dde.

7) Rhaid i’ch neges drydar fod yn llai na 280 o nodau, a gallwch ychwanegu dolenni,

lluniau, fideo, GIFs, eich lleoliad ac arolygon barn. I ddefnyddio hashnod,

defnyddiwch yr arwydd hashnod ac yna’r gair i’w ddilyn, heb ofod e.e.

#Care2Cooperate

8) I ychwanegu llun neu fideo, byddwch yn clicio ar yr eicon mynydd a dewis y ffeil y

mae arnoch eisiau ei llwytho o’ch cyfrifiadur. Yna gallwch dagio pobl yn y llun, megis

pobl berthnasol y mae arnoch eisiau iddynt weld eich negeseuon trydar ac yr hoffech

ymwneud â hwy.

Page 10: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

9) I ychwanegu fideo, gwnewch yr un peth eto a dewis y fideo. Os hoffech, gallwch

olygu’r fideo i’w gwneud yn fyrrach, os nad oes arnoch eisiau iddi fod yn rhy hir. Yr oll

sydd angen ei wneud yw symud y bar offer dan y fideo yn ei flaen.

Page 11: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

10) Bydd eich hafan ar Twitter yn edrych yn debyg i hyn a bydd yn dangos negeseuon

trydar, aildrydariadau a’r negeseuon y mae’r bobl yr ydych yn eu dilyn wedi eu hoffi.

Bydd hefyd yn dangos hashnodau sy’n ‘trendio’ yn eich ardal, yn ogystal ag

awgrymiadau ynghylch pwy i’w dilyn yn seiliedig ar eich dilynwyr chi a’r bobl yr ydych

chithau eisoes yn eu dilyn.

LinkedIn

1) Yn debyg iawn i Facebook, rhaid ichi’n gyntaf fod â chyfrif LinkedIn personol er mwyn

gallu creu tudalen ar LinkedIn. Gallwch wneud hyn ar wefan LinkedIn trwy roi eich

cyfeiriad ebost, eich enw a gwybodaeth amdanoch.

2) Pan fyddwch wedi creu eich tudalen bersonol gallwch symud ymlaen i’ch tudalen

waith. Gellir cyrraedd hon trwy gyfrwng yr eicon ‘work’ yn y gornel dde uchaf. Yna

byddwch yn dewis ‘create a company page’.

Page 12: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

3) Yna bydd angen ichi greu enw cwmni a dewis URL.

Gwiriwch y cyfan, ac yna clicio ar ‘create page’.

Page 13: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

4) Yna fe welwch eich tudalen wag lle bydd angen ichi fewnosod ‘llun proffil’ a ‘llun

clawr’. Dylai’r rhain fod yn gyson â’r rhai sydd gennych ar Facebook a Twitter.

5) Yna llenwch eich disgrifiad â 200-2,000 o eiriau. Dylai hwn fod yn grynodeb o’r hyn yr

ydych yn ei wneud a’r hyn sydd gennych i’w gynnig, yn debyg iawn i’ch disgrifiad ar

Facebook.

Page 14: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

6) Yna gallwch wneud eich tudalen yn fwy penodol trwy ddewis maint eich cwmni; y

math o ddiwydiant; blwyddyn ei sefydlu; y math o gwmni; lleoliad y swyddfa (gellir

cynnwys mwy nag un).

7) Gallwch hefyd ychwanegu arbenigeddau sydd o ddiddordeb i’ch busnes.

Page 15: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

8) Dan ‘Admin tools’ gallwch bennu swyddogaethau i wahanol bobl yn eich busnes.

Dewiswch ‘Page admins’ o’r gwymplen ‘Admin tools’ a welir isod.

9) Yna fe welwch y swyddogaethau isod a gallwch eu pennu i’r bobl yr ydych yn

Page 16: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

gysylltiedig â hwy ar LinkedIn. Ar dudalen dechreuwyr, dim ond y ddau isod y bydd

angen ichi eu defnyddio, ac, yn fwyaf tebygol, dim ond ‘designated admin’:

‘Designated admin’: yn caniatáu i gyflogeion olygu tudalen eich cwmni,

ychwanegu gweinyddwyr eraill a phostio diweddariadau.

‘Direct sponsored content poster’: yn caniatáu i farchnatwyr yn eich cwmni

rannu cynnwys ar y ffrwd newyddion.

10) I ysgrifennu neges, rydych naill ai’n mynd i’ch ffrwd newyddion neu i’ch tudalen ac yn

llenwi’r blwch ar y brig. Gallwch ychwanegu delwedd neu fideo yma trwy ddewis yr

eicon camera, a fydd yn mewnosod y ddelwedd, neu’r eicon fideo, a fydd yn

mewnosod fideo.

Page 17: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

Instagram

1) Bydd angen ichi lawrlwytho’r ap Instagram eich iPhone neu Android. Gellir hefyd ei

gyrchu trwy gyfrwng gwefan Instagram, ond bydd hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gallwch

ei weld a’i bostio.

2) Yna bydd arnoch eisiau sefydlu eich Instagram fel tudalen fusnes, trwy ddewis ‘Edit

Profile’ a dewis ‘try Instagram business tools’.

Page 18: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

3) Cewch eich annog i greu cyswllt â’ch tudalen Facebook, a dyna sydd orau i’w wneud.

Cewch restr o’r tudalennau sydd eisoes wedi’u cysylltu â Facebook ar y ddyfais

honno – dewiswch y dudalen.

4) Yna bydd angen ichi ychwanegu categori ar gyfer eich proffil – gall hwn fod yn

‘companies and organisations’. Gallwch hefyd ychwanegu opsiynau cysylltu megis rhif

ffôn a chyfeiriad ebost.

5) Yn yr adran ‘about you’ rydych yn ychwanegu eich llun proffil – defnyddiwch logo

eich brand; eich enw e.e. ‘Care to Cooperate Wales’; eich enw defnyddiwr e.e.

‘Care2cooperate’; URL eich gwefan; a brawddeg fer neu slogan sy’n egluro’r hyn yr

ydych yn ei wneud.

Page 19: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

6) Gallwch ddefnyddio Instagram i lwytho delweddau, fideos a straeon. Gall ‘stori’

gynnwys delweddau neu fideo a bydd yn para am 24 awr yn unig, a gallwch hefyd

ychwanegu testun, dolenni a thagio pobl fel y byddech yn ei wneud â phostiad

arferol.

7) I lwytho llun neu fideo i’ch hafan rydych yn gwasgu ar y symbol ‘adio’ yng nghanol y

dudalen hafan neu eich proffil. Mae’n cysylltu â’r lluniau a’r fideos sydd ar gael ar eich

ffôn.

Llun proffil,

ond dyma

hefyd lle

gallwch greu

‘stori’.

Gwasgwch a

dal y llun

proffil i

ychwanegu

llun at eich

stori 24 awr.

Dyma lle bydd

y lluniau yr

ydych yn eu

postio yn

ymddangos ar

eich proffil.

Dyma lle

mae angen

i chi wasgu

er mwyn

ychwanegu

llun

newydd i’ch

proffil.

Yma gallwch

weld faint o bobl

sydd wedi hoffi

eich llun

Gwasgwch

yma i fynd yn

ôl i’r hafan.

Page 20: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

8) I lwytho llun, dewiswch y llun, dewiswch ei faint neu ychwanegwch sawl llun trwy

ddewis y ddelwedd sawl sgwâr yn y gornel.

Page 21: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

9) Yna gwasgwch ‘next’, a fydd yn mynd â chi i’r sgrin hidlo, lle gallwch ddewis effaith

i’w rhoi ar eich delwedd neu eich fideo. Sgroliwch i’r chwith i weld pa hidlyddion eraill

sydd ar gael.

Dewiswch lun o

albwm lluniau

eich camera.

Dewiswch

faint y llun

trwy ei binsio

fel ei fod yn

ffitio o fewn y

ffrâm.

Ychwanegwch

sawl llun mewn

‘ffrâm’ neu

sawl llun un ar

ôl y llall.

Page 22: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

10) Wedi ichi ddewis eich hidlydd, gwasgwch ‘next’ eto. Yna byddwch yn ychwanegu

disgrifiad o’ch delwedd neu fideo a gallwch hefyd dagio’r lleoliad a’r bobl yr ydych yn

eu hadnabod yn y ddelwedd. Pan fyddwch wedi gorffen, gwasgwch ‘share’.

Page 23: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

11) Bydd eich delwedd yn ymddangos ar eich proffil ac ar eich hafan. Ar yr hafan, gallwch

weld holl luniau’r bobl yr ydych yn eu dilyn, yn ogystal â’u holl storïau ar hyd y brig.

Tagiwch ffrindiau,

neu bobl y mae

arnoch eisiau

iddynt weld eich

delwedd.

Llwythwch eich

llun/fideo yn

syth i unrhyw

rai o’r cyfrifon

cyfryngau

cymdeithasol

eraill sydd

gennych

wedi’u cysylltu.

Ychwanegwch

eich lleoliad yn

seiliedig ar eich

olrheiniwr canfod

lleoliad ar eich

ffôn.

Dyma lle gallwch

weld ac anfon

negeseuon

uniongyrchol.

Page 24: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

12) Pan fydd arnoch eisiau ychwanegu stori, bydd sgrin fel yr un isod yn ymddangos. I

ychwanegu llun neu fideo, gwasgwch ‘normal’. I ffilmio rhaid ichi ddal ‘normal’ i lawr

ac yna ei ollwng pan fydd arnoch eisiau i’r fideo stopio. Gallwch lithro’r sgrin i’r

chwith i weld pa opsiynau eraill sydd ar gael, megis hidlyddion a gwahanol effeithiau.

Dyma lle

gallwch

ychwanegu a

gweld eich

stori eich hun,

yn ogystal â

rhai’r bobl yr

ydych yn eu

dilyn.

Page 25: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

13) I ychwanegu testun i’ch stori gallwch dapio yn unrhyw le ar y ddelwedd a bydd blwch

testun yn ymddangos.

Page 26: Care to Co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo

https://care.wales.coop

/

Dyma lle

gallwch

newid ffont y

testun.

Dyma lle

gallwch

newid lliw y

testun.