chwedl o gymru - adverse camber...chwedl o gymru croeso i’r perfformiad heddiw a diolch i chi am...

25
chwedl o Gymru

Upload: others

Post on 04-Feb-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • chwedl o Gymru

  • Crëwyd a pherfformiwyd ganMichael Harvey CyfarwyddLynne Denman CantoresStacey Blythe Cyfansoddwraig / Cerddor

    Comisiynwyd gan Adverse Camber ar y cyd â’r Felin Uchaf,Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a Chanolfan y CelfyddydauAberystwyth

    Dau hanner sydd i’r perfformiad gydag egwyl.

    02

    Cynhyrchiad Adverse Camber

    chwedl o Gymru

  • CROESO I’R PERFFORMIADHEDDIW A DIOLCH I CHI AM DDOD!Y stori wreiddiol sy’n ysbrydoli’r perfformiad yma yw un o’rgweithiau llenyddiaeth cynharaf a geir ym Mhrydain. Un obedair stori yw Pedwaredd Gainc y Mabinogi a ysgrifennwydmewn Cymraeg Canol ac sydd wedi’i lleoli mewn Prydainled-chwedlonol lle mae cymeriadau a digwyddiadau’n croesirhwng gwahanol deyrnasoedd y byd hwn a’r byd arall – ganadael marciau yn y dirwedd.

    Seiliwyd y fersiynau ysgrifenedig o’r storïau hyn, a geir ynbennaf mewn dwy lawysgrif ganoloesol, Llyfr Gwyn Rhyddercha Llyfr Coch Hergest, ar draddodiadau llafar cynharach olawer. Hyd at heddiw, mae’r storïau wedi parhau i ysbrydoligwaith creadigol a dehongliadau newydd gan artistiaid sy’ngweithio ar draws llawer o wahanol ffurfiau ar gelfyddyd.Maent hefyd yn ysgogi dadlau a thrafodaeth – gweler rhagordrosodd ac ar ein gwefan gan yr Athro Sioned Davies.

    Er yn rhan o gynhysgaeth lenyddol a llafar gyfoethog, rydymhefyd wedi canfod y stori, mewn ffordd ddigon iasol, yngyfoes. Bydden ni wrth ein boddau cael gwybod beth yw’chymateb, felly croeso i chi ddod i gysylltiad neu ddod i siarad âni ar ôl y perfformiad. Diolch o galon i’r holl unigolion asefydliadau lu sydd wedi ein helpu yn ystod siwrnai greadigol ydarn – gweler tudalen 26 am fwy o fanylion.

    Gobeithiwn y byddwch yn ei fwynhau!

    Naomi Wilds Cynhyrchydd 03

  • Michael, Lynne a Stacey yngweithio yn Nhomen y Mur

    04

  • Cyflwyno’rMabinogiDw i wedi hoffi gwrando ar straeon erioed,byth ers dyddiau’r teithiau misol gyda’rteulu i orllewin Cymru i ymweld â henfodrybedd ym mhentref brodorol ac annwylfy nhad, Pennal. Byddai’r daith yn cael eihatalnodi gan straeon lleol wrth i rainodweddion yn y dirwedd ddod i’r fei. Hydyn oed heddiw, fedra i ddim mynd heibio i’rllefydd hyn heb gofio’r storïau oedd yngysylltiedig â nhw. Ac yna, ar ‘ddiwrnodaueira’, pryd mai ychydig athrawon yn unig aallai wneud y siwrnai rewllyd i’r ysgol,byddai fy mhrifathro o dad yn cadw 350 oblant ifainc dan ei swyn yn neuadd yr ysgolgan adrodd straeon wrthyn nhw amFendigeidfran, Efnysien, Pwyll, Culhwch –straeon y Mabinogi. Dim ond ynddiweddarach, yn y Brifysgol, y dysgais iwerthfawrogi’r straeon hyn yn eu gweddCymraeg canoloesol wreiddiol ganddechrau deall pam mai darnau i’wperfformio oeddynt.

    Felly beth yn union yw’r Mabinogion? Gwallcopïo debyg iawn yw’r term am y gairmabinogi sy’n deillio o’r gair ‘mab’; y farngyffredinol yw mai ei ystyr gwreiddiol oedd‘ieuenctid’ neu ‘stori ieuenctid’ ac yn y pendraw, daeth i olygu ‘stori’ a dim byd mwy.Er gwaethaf llawer o themâu cyffredin, nidystyrid y straeon erioed fel grŵp organig acyn sicr nid gwaith awdur unigol ydynt.

    05

  • Ar ben hynny, yn wahanol ifarddoniaeth y cyfnod, mae‘awduron’ ein straeon yn ddienw,gan awgrymu nad oedd unrhywymdeimlad â ‘pherchenogaeth’ abod y testunau’n cael eu gweld felrhan o’r cof torfol. Mae eugwreiddiau’n gorwedd yn ytraddodiad llafar ac fel y cyfrywmaent yn adlewyrchu cywaithrhwng y diwylliannau llafar allenyddol, gan roi cipolwg diddoroli ni ar fyd y storïwr canoloesol, ycyfarwydd. Mae nodweddionperfformio megis strwythurepisodaidd, ailadrodd, fformiwlâullafar a deialog yn rhan annatodo’u gwead, yn rhannol oherwyddi’r ‘awduron’ etifeddu dulliauadrodd cyn-lenyddol ac ynrhannol oherwydd mewndiwylliant lle mai ychydig iawn allaiddarllen ac ysgrifennu, byddaistraeon a cherddi’n cael euperfformio o flaen cynulleidfa owrandawyr; hyd yn oed panfyddai testun yn cael ei gofnodi arfemrwn, gallwn gymryd y byddai’rmemrwn yn dod yn‘rhyngweithiol’ gan fod diffygllythrennedd cyffredinol yn mynnudarlleniadau cyhoeddus.

    Gyda Phedair Cainc y Mabinogi,rydym mewn tirwedd ddaearyddolgyfarwydd a chymdeithas sydd ynôl pob golwg yn cyn-ddyddiounrhyw ddylanwad Normanaidd.Yn wir, mae’r digwyddiadau yncael eu lleoli yn y Gymrugyn-Gristnogol lle mai ffigyraumytholegol yw’r prifbrotaganyddion. Er ei bod ynamheus a oedd eu harwyddocâdyn cael ei ddeall gan gynulleidfaganoloesol, mae’r themâumytholegol yn esgor ar straeonrhyfeddol: teithiau i baradwysarallfydol lle mae amser yn sefyllyn ei unfan a lle nad yw meidrolionyn heneiddio; y pair dadeni sy’ndod â rhyfelwyr marw yn fyw ondsy’n cipio eu lleferydd; trawsffurfiolle mae gwraig anffyddlon yn caelei throi’n dylluan. Ond mae’r rhainyn fwy na dim ond straeon hud alledrith llawn tyndra a chyffro.Roedd holl straeon y Mabinogi’ncyflwyno penblethau moesegoli’w cynulleidfa ynglŷn â materionmoesol, gwleidyddol a chyfreithiol.Nid oes unman lle mae hyn yn fwyamlwg nag ym Mhedair Cainc yMabinogi – y rhain sy’n cyfleu’nfwyaf effeithiol yr ymddygiadmoesol priodol sy’n hanfodol igymdeithas oroesi.

    06

  • Yn briodol ddigon, mae’rMabinogi yn cael ei ystyried ynglasur. Mae’n arbennig oberthnasol bod diddordebcynyddol yn y straeon ymysg ygymuned chwedleua heddiw. Niwyddom fawr iawn am sut ybyddent wedi cael eu perfformio– a fuasai cyfeiliant cerddorol, erenghraifft. Mae dehongliadcyfareddol Adverse Camber o’rBedwaredd Gainc yn rhoi i nigipolwg ar y byd canoloesolhwnnw gan ddangos sut gall ytestun ysgrifenedig ddod yn fywmewn profiad gwirioneddoltheatraidd.

    Sioned Davies

    Am gyfieithiad Saesneg o’rstraeon ynghyd â chyflwyniad anodiadau, gweler Sioned Davies, The Mabinogion(Gwasg Prifysgol Rhydychen,2007).

    Am fersiwn o'r testun mewnCymraeg gyfoes, gweler YMabinogion gan Dafydd aRhiannon Ifans a gyhoeddwydgan Gomer.

    Darllenwch fwy am sylwadauSioned ar y Bedwaredd Gainc arwww.adversecamber.org

    Bum yn wenfflamac wedyn llwch tuhwnt i bob dolur

    I was gleaming fireand then dustbeyond all pain

    o Lyfr Du Caerfyrddin

    07

  • Ffynonellau YsbrydoledigDechreuodd Breuddwydio Cae’r Nos mewn sgyrsiau ynystod taith Hunting the Giant’s Daughter, sioe flaenorol yrartistiaid hyn gyda’i gilydd. Soniwyd am Bedwaredd Gainc yMabinogi ac roedd yn gwrthod gollwng ei gafael.

    Daeth y cynlluniau’n fyw yn dilyn prosiect ysbrydoledig YMabinogi yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth yn 2015 aguradwyd gan Peter Stevenson. Roedd y prosiect yma’ncynnwys tor o ddoniau cymuned cyfarwyddiaid Cymru’nadrodd pob un o bedair cainc y Mabinogi, mewn dau grŵp odair dynes a dau grŵp o dri dyn, a hynny dros undydd yn unig.

    Yn dilyn hyn, treuliodd yr artistiaid amser gyda’r cyfarwyddwrPaula Crutchlow, y storïwr Dafydd Davies Hughes, yr artistMaria Hayes, y cynllunydd Sophia Clist a’r arbenigwraig laisPauline Down a hefyd yn y Felin Uchaf ar Benrhyn Llŷn, ganymweld â safleoedd lle digwyddodd y stori, yn gwneudgwaywffyn a rhannu cerddoriaeth a straeon. Darnau o henfarddoniaeth Gymraeg yn gymysg â deunyddiau crai haearn agwlân defaid. Bu llinellau ar ddalennau papur yn cysylltu’r hollanifeiliaid, planhigion a phryfaid yn y testunau gwreiddiol. Buplastig a broc môr yn gwthio am eu lle gyda darnau ofarddoniaeth, swynion a’r traddodiad canu salmau – canupwnc.

    Asiwyd y dylanwadau hyn â gwaith gwreiddiol yr artistiaid ganwaith creadigol yn Aberystwyth, Caerdydd, Merthyr Tudful ac ynôl yn y Felin Uchaf. Mae’r darn yn parhau i gael ei weithio yn ypair wrth gael ei berfformio.

    Gwaith creadigol yn y Felin UchafLlun: Chris Webb

    08

    V

  • Nid unffurf yw’r byd

    o Lyfr Du Caerfyrddin

    09

  • Cerddoriaeth Breuddwydio Cae’r NosMae Stacey Blythe a Lynne Denman yn canu gyda’i gilydd yn Ffynnoners dros 20 mlynedd, gan dynnu ar y seiliau cydgordiol sydd wedi’ugwreiddio’n ddwfn yn nhraddodiadau Ynysoedd Prydain, wedi’ucymysgu â bwrlwm dylanwadau jazz a’r felan. Y gweadau hyn yw’rsbardun i gyfansoddiadau gwreiddiol hiraethlon Stacey sy’n creu’rdirwedd glywedol arbennig sydd weithiau’n aflonyddu y mae’r stori ymaam frad, dial, serch ac anrhydedd yn cael ei chyflwyno drwyddi.

    Fe wnaeth rhai o’r cynhwysion cerddorol ar gyfer y darn yma lamu allano’r eiliad y dywedon ni ‘Pedwaredd Gainc y Mabinogi’. Cân werinGymraeg yw’r un agoriadol, ‘Mae’r ddaear yn glasu’, sy’n sôn am rymnatur. I mi, ceir adlais ohoni yn y stori pan fydd Blodeuwedd yn gweldGronw am y tro cyntaf wrth edrych draw tua’r coed.

    10

  • Cân arall y bu’n rhaid i ni eichynnwys oedd Breuddwyd, cângan Lynne, a recordiwyd ardrydydd albwm Ffynnon, AdarGwylltion. Teimlai ‘Y Gwŷdd’ ynberffaith ar gyfer yr ennyd pan fyddchwedleua hudol Gwydion ynbwrw swyn dros filwyr llys Pryderi.

    Daeth elfennau eraill i’r fei wrth i niweithio. Traddodiad llafarganusalmau yn y capeli yw Canu Pwnca glywir o hyd ym Mynachlog-dduyn y Sir Benfro. Yn ailadroddus acyn fesmereiddiol, bu ei arddull yndylanwadu ar ein holl swynion argân lle mae sylweddau’n cael eutrawsffurfio drwy hud a lledrith o’rnaill siâp i’r llall. Ymdrinnir â phobswyn yn wahanol gan fod y sefyllfayn y stori’n unigryw bob tro. Cenirymadrodd o Lyfr Du Caerfyrddinbob tro y ceir trawsffurfiad. Maemesurau barddonol megis yrenglyn gyda’i holl gynghannedd yncael eu gosod i gerddoriaethwreiddiol hefyd.

    Weithiau, mae cerddoriaeth ynatgyfnerthu’n gynnil gysylltiadauneu wahaniaethau rhwngcymeriadau. Ceir cymysgedd oalawon telyn traddodiadol Cymreiga gwreiddiol i Math a Gwydion.Gwydion biau’r slip jig; mae yn yrun cywair ag alaw Math gan eubod yn perthyn, ond mae alawGwydion yn droellog ac yn

    drawsacennog. Mae’r ddwy alawyn cydblethu â’i gilydd yngerddorol, fel y gwna’rcymeriadau’n ddramatig. Walsurddasol, syber yw fy nhrefniant argyfer arwydd-dôn Arianrhod, sy’nadlewyrchu ei hannibyniaethgadarn, wedi’i sefydlu yn ei llys a’ibywyd ei hun.

    Ceir adrannau sy’n bwriadol wthiowrth yr ymylon, gan beri i’n clustiaugeisio adfer yr anghytgord sy’nadlewyrchu rhai o’r elfennau mwyafanghyfforddus yn y stori nad ydyntchwaith yn cael eu datrys.

    Un o’n hegwyddorion arweiniol fucydraddoldeb rhwng y tri ohonon ni– mae yna adegau pan fydd Lynneyn cymryd drosodd y chwedleuamewn cân, neu pan fydd rhythmaudrwm Michael yn gyrru’rdigwyddiadau yn ei flaen, neu le dwinna’n newid y dirwedd gyda’r hyndw i’n ei chwarae. Yn union fel ybuon ni’n arbrofi gyda gwneudhaearn o ddeunyddiau naturiol yn yFelin Uchaf, felly yr ymddangosoddein themâu a dewisiadau cerddorolwrth i ni barhau i weithio â nhw. Yngerddorol, dw i’n dal i gadw ambellennyd yn rhydd ar gyfer byrfyfyrio ynein perfformiadau byw sy’n golygubod y sioe’n hollol unigryw i bobcanolfan.

    Stacey Blythe 11

  • GOGLEDDCYMRU/GWYNEDD

    Math fab Mathonwy ywarglwydd Gwynedd a chydag ef ymae’r stori’n dechrau. Brenin teg achyfiawn yw Math. Mae ganddohefyd bwerau hud a lledrith.

    Menyw ifanc yw Goewin sydd ârôl arbennig yn llys Math, sefsicrhau nad yw traed y brenin yncyffwrdd â’r ddaear ac eithrio aradeg rhyfel. Dim ond gwyryf sy’ngallu cyflawni’r rôl yma.

    Pen-dewin yw Gwydion, nai iMath, a dywedir mai ef yw’rcyfarwydd gorau a fu erioed ynhanes y byd. Rhoddir iddo’r dasg ogerdded ffiniau’r deyrnas i sicrhaubod popeth yn iawn. Mae o’ngwneud hynny yng nghwmni eifrawd Gilfaethwy, oherwydd nichaiff traed Math gyffwrdd â’rddaear.

    Brawd Gwydion yw Gilfaethwy.Yn ddistaw bach, mae wedi mopioefo Goewin ond yn ofni dweud dimam hyn rhag ofn i Math gaelgwybod.

    Menyw rymus ac annibynnol ywArianrhod sy’n byw yn ei chastellei hun i ffwrdd o lys Math. Mae’nceisio ei chadw’i hun ar wahân ondmae’n cael ei thynnu’n ôl iddigwyddiadau’r stori. ChwaerGwydion a Gilfaethwy yw hi.

    Mae Lleu Llaw Gyffes yn cael eieni o dan amgylchiadau rhyfedd alledrithiol yn ystod y stori. Mae’nperthyn i Gwydion ac Arianrhod.Arwr adnabyddus ym mytholegCymru yw Lleu, yn rhyfelwr ac ynddewin. Mae llawer o leoedd yngNghymru wedi’u henwi ar ei ôl.

    Mae Breuddwydio Cae’r Nos ynllawn hud a lledrith, eithafion athroadau o bob math, fel y mae eichymeriadau – dyma bwt bach amrai ohonynt:

    12

  • Menyw sydd wedi’i gwneud oflodau yw Blodeuwedd i fod ynwraig i Lleu. Ei stori hi yw un o’relfennau sy’n cael eu hailadrodda’u darlunio fynychaf o’rBedwaredd Gainc.

    Uchelwr a heliwr yw Gronw Pebrsy’n byw ger Tomen y Mur lle maellys Lleu a Blodeuwedd.

    DE CYMRU/DYFED

    Pryderi yw arglwydd Dyfed ac ynun o brif gymeriadau tair cainc arally Mabinogi. O anturiaethau ei dadyn Annwn a adroddwyd gynt yn ystori, mae gan Pryderi anifeiliaidnad oes neb arall wedi’u gweldyng Nghymru, sef moch, sydd âblas anhygoel arnynt yn ôl pobsôn.

    If anyone askswho has writtenthese verses, tell them it is one who dailylooks for heavenon a new earth

    Mab sydd yn disgwylbeunydd caelnef ar ddaearnewydd

    From Y Gwŷdd

    13

    O’r Gwŷdd

  • Pam yrholl ffyn? Yn ystod dyddiau cynnar gweithioar Breuddwydio Cae’r Nos buonni’n sôn am gael elfennau ar yllwyfan a allai symud o gwmpas abod yn dri dimensiwn gan gysylltu’rperfformwyr â’r gynulleidfa ynhytrach na’u gwahanu oddi wrth eigilydd. Nid cefnlen yn unig, felly.Ond beth?

    Yng nghartre Lynne, unwaith i miorffen syllu ar yr olygfa hardd syddganddi o Ddyffryn Teifi, dechreuais ifodio drwy un o lyfrau AndyGoldsworthy sydd ganddi a tharoar luniau o’i waith gyda’r cwmnidawns o Ffrainc, Ballet Atlantique,lle bu’r dawnswyr yn ymgorfforicoed yn eu gwaith a dyma fi’nmeddwl: “Pam lai?’

    Yng Nghanolfan y CelfyddydauAberystwyth, mi wnes i chwaraemig am hanner awr a llenwi’r cargyda chymaint o frigau ag y gallwni ac oherwydd y tywydd gwlyb ar ypryd, mi lwyddais i gasglu llawermwy o natur na bwriadais i’nwreiddiol.

    Yn rhyfedd ddigon, wnaeth nebgymryd y mymryn lleia o sylw wrth imi halio’r pentwr yma o goedmwsoglyd, drewllyd a gwlyb i’rstiwdio gron hyfryd yng Nghanolfany Celfyddydau. Fe wnaethon nichwarae gyda’r ffyn am oriau ganwybod eu bod yn fêts chwarae da,ond doedden ni wir ddim yngyfarwydd ag unrhyw gemau da(na diogel!) gyda ffyn.

    A dyma’r artist gweledol a dofwraigffyn Sophia Clist yn dod i’n hachubni. Corlannodd ffyn i’r buarth ger eihen ffermdy ar Dartmoor a chyda’rartist-gwneuthurydd BarnabyStone, impiodd ganghennau ar eigilydd mewn cyfuniadau newydd.Mi wnaethon ni eu gosod mewngofodau ymarfer yng Nghaerdydd aMerthyr a fesul tipyn, daethon ni inabod cyfeillion prennaidd y tîmmewn cyfres o ymdrechion profi amethu i roi pobl, ffyn, geiriau acherddoriaeth at ei gilydd.

    Dyw e ddim mor hawdd â mae’nswnio. Fodd bynnag, mi ddalion niati ac yn ara’, dechreuodd y ffynddod yn rhan o’r gêm ac a dweudy gwir ddechrau dangos eu hunain.Heb fawr o ymdrech i’w weld ar eurhan nhw, a chyda ’mond ychydigo help ganddon ni, daeth y ffyn yndraeth, cadwyn o fynyddoedd ar

    14

  • Mae Plastigau’n Newid einDNA – Mae’r CyfarwyddwrPaula Crutchlow yn ysgrifennuam sut mae ei hymchwil ymmaes DaearyddiaethDdiwylliannol i argyfwngbyd-eang llygredd plastig wedidylanwadu ar ei gwaith arBreuddwydio Cae’r Nos.Darllenwch fwy am hyn ar www.adversecamber.org

    15

    Ben Llŷn, milwyr marw achlwyfedig neu’n geirw ableiddiaid. Ac nid yn unighynny, fe ddaethon nhw hefydag ehangder a dyfnder i’remosiynau cymhleth a chroesyn y stori rydyn ni’n ceisio eidweud. Dydyn ni byth yn ceisiodarlunio dim byd - mae jyst einbod ni’n methu ymatal rhagalldaflu tebygrwydd, agwedd,emosiwn a bwriad ar y ffynwrth i’r stori ddatblygu.

    Peidiwch â gofyn i mi sut maennhw’n ei wneud e, y cwbwl dwi’n ei wybod yw, drwy ddod âbeth sydd y tu allan dan do athreulio digon o amser gydage, eich bod chi’n cyrraeddrhyw lefel gyfathrebu lle nadoes angen i chi ymaflydcodwm â chi’ch hun wrthgeisio darganfod ffordd ofynegi’r holl hynodrwydd achymhlethdod yn y storioherwydd, os ydych hi’ncymryd sylw, mi welwch chifod y ffyn yno o’ch blaen, ynegluro’r cyfan.

    Michael Harvey

  • Michael HarveyMae Michael Harvey yn cael eigydnabod yn eang fel un ochwedleuwyr cyfoes blaenllaw'rDU. Yn byw yng Nghaerdydd,mae Michael yn adrodd straeontraddodiadol o Gymru, y gwledyddCeltaidd a thu hwnt, ganymddangos yn rheolaidd mewngwyliau rhyngwladol mawr ymMhrydain, Ewrop, Gogledd a DeAmerica. “Mesmereiddiol” yw gairy Sunday Times i ddisgrifio eichwedleua ac yn ddiweddar, maewedi derbyn un o wobrau nodedigCymru Greadigol CyngorCelfyddydau Cymru.

    Bydd Michael yn aml yn cydweithioag artistiaid o wahanolddisgyblaethau a gwledydd i greugwaith arloesol newydd ar gyferamrywiaeth o gynulleidfaoedd.Mae galw cynyddol arno felhwylusydd ar gyfer chwedleuwyrperfformio ac mae’n arweinyddgweithdai dyfeisgar mewnysgolion. Mae Michael hefyd wediysgrifennu nifer o lyfrau a llyfrausain.

    www.michaelharvey.org

    16

  • Lynne Denman Mae repertoire Lynne Denman yncynnwys caneuon sydd wedi’ugwreiddio’n ddwfn ynnhraddodiadau, rhythmau,ieithoedd a thirweddau’r gwledyddCeltaidd. Mae Lynne wedi canucaneuon Cymraeg, Saesneg aFfrangeg newydd a thraddodiadolar gyfer cynulleidfaoedd ar bumcyfandir. Mae’n recordio ac ynteithio fel un o aelodau sefydlu’rensemble gwerin Ffynnon. Ynddehonglydd treftadaeth dawnus,bu Lynne yn ymchwilio ynghyd âchyfansoddi a pherfformiocerddoriaeth ar gyfer prosiectmawr yng ngogledd Cymru:Tywysogion Gwynedd.

    www.ffynnon.org

    17

  • Stacey BlytheCyfansoddwraig a pherfformwraigsydd wedi’i hyfforddi’n glasurol ywStacey Blythe ac mae wedicyfansoddi a pherfformio gydagOpera Genedlaethol Cymru,Theatr Ddawns GenedlaetholCymru, Y Rubicon, TheatrFfynnon, Cerddorfa GenedlaetholCymru, Gŵyl GelfyddydauAbertawe, Gŵyl y GwneuthurwyrCadwyni, Gŵyl GelfyddydauGogledd Cymru a NationalTheatre of Wales.

    Mae hi’n gerddor cyswllt gydaBale Cenedlaethol Lloegr, yngweithio gyda Cerddoriaeth Fyw Nawr fel mentor ac yn rhedeg gweithdai mewncerddoriaeth draddodiadol a chyfansoddi caneuon yn ogystal ag ar gyfer y delyn, acordion a’r llais.

    Mae’n perfformio ar ei phen ei hunyn ogystal â gyda Ffynnon acElfen, wedi perfformio ar yr OrientExpress, wedi chwarae i StephenSondheim ac wedi canu gyda BillyBragg a Michelle Shocked. Maewedi chwarae (gyda’i myfyrwyr oCBCDC) ar gyfer Elizabeth Taylor,Shirley Bassey a Thywysog Cymruym Mhlas Buckingham.

    Mae Stacey yn gyfarwyddwrcerdd ac yn hyfforddwraig ganu arepertoire yn yr Ysgol Ddrama yngNgholeg Brenhinol Cerdd a DramaCymru.

    www.staceyblythe.com

    18

  • Ynteu Wydyon goreu kyuarwyd yn y byt oed.

    And Gwydion wasthe best storyteller in the world.

    Hudodd gwchhudodd hwyliau

    Hudodd ledr hudodd garrai

    He conjured amagical boat andshoes out ofseaweed

    19

  • Y Tîm Creadigol Cyfarwyddwr:Paula CrutchlowArtist annibynnol a gwneuthuryddperfformiadau yw Paula Crutchlowsy’n gweithio fel cyfarwyddwr adramodydd gyda storïwyr,cerddorion, artistiaid dawns aphrosiectau ysgrifennu newydd ersdros ugain mlynedd. Ochr yn ochr âhyn, mae ei gwaith gyda’r gydweithfaartistiaid Blind Ditch yn creudigwyddiadau cydweithredol acannisgwyl mewn gofodau pob dydd,gan ddefnyddio’n aml ddulliaucyfranogol a chyfryngau digidol iymgysylltu â’r cyhoedd feldinasyddion sy’n meddwl a gwylwyrsy’n cyfrannu. Ar hyn o bryd, Paulayw’r Cynghorydd Artistig ar gyferAdverse Camber ac mae’n aelod ofwrdd gŵyl gelfyddydau amlgyfrwngB-side. Fel ysgolhaig acaddysgwraig, roedd yn DdarlithyddCyswllt mewn Theatr yng NgholegCelfyddydau Dartington yn Nyfnaintrhwng 2001 a 2010 ac mae hibellach yn Ymchwilydd Doethurolwedi’i ariannu gan y Cyngor YmchwilEconomaidd a Chymdeithasol mewnDaearyddiaeth Ddiwylliannol ymMhrifysgol Caerwysg.

    www.blindditch.org

    Cynllunydd:Sophia ClistA hithau o gefndir ym maescerfluniaeth, mae Sophia yn creugosodweithiau, setiau agwrthrychau i berfformwyr achynulleidfaoedd fyw ynddynt, eutrafod a’u trawsnewid. Mae llawero’i gwaith yn gydweithredol ac ynrhyngweithiol ac mae’n cydweithioag artistiaid yn y ddawns, theatr,cerddoriaeth, ffilm a’r cyhoedd.

    Mae ei gwaith diweddar yncynnwys Parallelist – Clay Gold aLaura Moody; Stretch yngNghadeirlan Caerwysg – SophiaClist gyda Nick Burge; The FlyingLovers of Vitebsk – TheatrKneehigh; Get Happy – Told by anIdiot; 16 Singers – KatherineMorley; Life Forces – Jane Mason;In This Place – Theatr Pentabus aHands Full a Phenomenal People –Fuel. Rhwng 1998 a 2008, ArtistCyswllt oedd Sophia iTheatre-Rites, gan gynllunio sioeauteithiol a safle-benodol ar gyfercynulleidfaoedd ifainc. RoeddSophia ar restr fer Prosiect YmchwilCoreograffig Jerwood II yn 2016.

    www.sophiaclist.co.uk20

  • Cynllunio Goleuo a Sain:Gethin Stacey Mae Gethin Stacey yn rhedegSound Hire Wales, gan ddarparusain a goleuo o ansawdd rhagoroli ddigwyddiadau mawr a mân ardraws y DU. Dyma ei bedweryddcynhyrchiad gydag AdverseCamber, yn cynllunio sain agoleuo ymatebol. Mae Sound HireWales â’i gartref yngNghaerfyrddin, yn darparu offer awneir yng Nghymru ac yngweithio gyda pheirianwyr saindwyieithog.

    www.soundhirewales.co.uk

    Cynhyrchydd: Naomi WildsSefydlodd Naomi Wilds AdverseCamber yn 2006 ac mae wedicynhyrchu teithiau cenedlaethol ycwmni hyd yn hyn, gan godi ariansylweddol at ddatblygu artistiaid,cynulleidfaoedd a’r cwmni ei hunac yn ehangu tîm AdverseCamber yn ystod y blynyddoedddiweddar i gynnwys cynhyrchwyrcyswllt ac arbenigwyr marchnatasy’n ymroddedig i ddod âpherfformiadau rhagorol igynulleidfaoedd ehangach a mwyamrywiol.

    Yn 2009, Naomi oedd un obedwar cynhyrchydd o ddwyraincanolbarth Lloegr i dderbynbwrsari o Gyngor CelfyddydauLloegr mewn cydnabyddiaeth o’igwaith. Astudiodd NaomiLenyddiaeth Saesneg ymMhrifysgol Leeds gan arbenigomewn datblygu llenyddiaethrhwng 1999 a 2008 fel rhan oRwydwaith Llenyddiaeth DwyrainCanolbarth Lloegr.

    www.adversecamber.org

    21

  • Cwmni cynhyrchuannibynnol yw AdverseCamber sydd â’i gartrefymhlith melinauhanesyddol Cromford ynSwydd Derby. Mae’rcwmni’n gweithredu felcatalydd, gan ddwynartistiaid, cynulleidfaoedd,partneriaid, canolfannau achyllidwyr ynghyd i greuperfformiadaugwefreiddiol gyda storïa acherddoriaeth.

    Ysbrydolir Adverse Camber ganddeunydd dychmygus y straeonllafar cyfoethog hyn, yr artistiaidsy’n gweithio gyda nhw a’rcynulleidfaoedd sy’n cael blas ar yprofiad o gael eu cludo i’r bydoeddy maent yn eu consurio. Rydym yncredu mewn profiadau a rennirrhwng artistiaid a chynulleidfaoedd,felly mae cyfarfyddiadau byw wrthgraidd popeth rydym yn ei wneud.

    Mae pob taith Adverse Camber yncychwyn gyda phroses greadigol,lle mae gan yr artistiaid gwreiddiolgyfle i weithio gyda chyfarwyddwr,cynhyrchydd a/neu gynllunydd sy’ngwrando ar eu dyheadau ar gyfer ydarn ac yn helpu i edrych ar yposibiliadau hynny, gan ysgogitrafodaeth a chynnig eu syniadaua’u harbenigedd eu hunain.

    Mae Adverse Camber yn hynodfrwdfrydig am gymryd risgiau ar rangwaith creadigol a gweithio gydagartistiaid sy’n ymestyn am orwelionnewydd. Mae’r rhaglen hon yn taflugoleuni ar y deunydd crai fu’n sail igreu’r darn hwn a’r gwaith manwlsy’n cyfuno parch at draddodiadauâ brwdfrydedd dros gael hyd ilwybrau newydd mewn diwylliantcyfoes.

    Mae’r darn hwn wedi’i wneud ynbosibl diolch i gefnogaeth criw obartneriaid gwirioneddol anhygoel -Felin Uchaf, menter gymdeithasolweledigaethol ar Ben Llŷn, diolchyn arbennig i DafyddDavies-Hughes, Ysgol y Gymraeg,Prifysgol Caerdydd a SionedDavies a hefyd diolch i ddoniaudisglair Canolfan y CelfyddydauAberystwyth /Gill Ogden a GŵylChwedleua Aberystwyth / PeterStevenson, yn ogystal â DavidAmbrose yng Ngŵyl Chwedleua TuHwnt i’r Ffin. 22

  • Diolch hefyd i Ceri Charles-Durrant, RobWhitehead, Nick Bache, Gavin Repton aBecka Rickard yn ogystal â’r holl bobl agefnogodd y broses greadigol drwygyfrannu a rhoi adborth ar hyd y ffordd.

    Rydyn ni’n gobeithio y byddwch ynmwynhau’r perfformiad yma ac yn ymunoâ ni ar gyfer mwy o deithiau AdverseCamber yn y dyfodol. ‘Hoffwch’ ni a rhoisylwadau ar Facebook, Trydar acInstagram a chofrestru i dderbyn eincylchlythyrau i gael y newyddion cyntaf amfwy o sioeau sy’n dod yn fuan.

    Rydym yn ddiolchgar i GyngorCelfyddydau Cymru, LlywodraethCymru/Y Loteri Genedlaethol a ChyngorCelfyddydau Lloegr/Y Loteri Genedlaethol,ein canolfannau partner a phawb yn nhîmcynyddol Adverse Camber.

    23

    Tîm Adverse Camber:

    Cynhyrchydd Naomi Wilds

    Cynghorydd Artistig Paula Crutchlow

    Swyddogion Marchnata Cyswllt Jenny Babenkoa Palmer Squared

    Swyddog Cysylltiadau CyhoeddusAngharad Wynne

    Cynhyrchydd CyswlltLouisa Davies

    Cynhyrchwyr Cyswllt CymruSandra Bendelow, Tamar Eluned Williams

    Cynhyrchydd Cynorthwyol Amy Marsh

    Swyddog Cyfranogi Cyswllt Jan Reynolds

  • www.adversecamber.org

    /adversecamberstories

    @adversecamber20

    adversecamberontour

    #legendofwales

    Ffotograffau wedi’u tynnu yng ngogledd Cymru gydachaniatâd caredig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol aPharc Cenedlaethol Eryri.

    Ffotograffiaeth: Chris Webb Photography

    Dylunio: Tom Partridge

    Felin Uchaf