cyfarchiad gan aldyth williams€¦ · ‘teido’ ar y gwaelod. dyma eiriau’r pennill olaf o’i...

8
Cyf 5280 Pris 50c Gwener, Medi 4ydd 2020 Wythnosolyn y Bedyddwyr SEREN CYMRU Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected] Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt. Cyfarchiad gan Aldyth Williams Llywydd Etholedig Undeb Bedyddwyr Cymru Capel Seion Newydd Treforus. Yno mae’r cloc gyda’r geiriau AWR DUW YN GALW ar wyneb y cloc, yn lle’r rhifau arferol. Gobeithio’n wir y cawn ei weld y flwyddyn nesaf adeg yr Undeb.

Upload: others

Post on 10-Feb-2021

6 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Cyf 5280 Pris 50cGwener, Medi 4ydd 2020

    Wythnosolyn y BedyddwyrSEREN CYMRU

    Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.

    Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected]

    Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt.

    Cyfarchiad gan Aldyth WilliamsLlywydd Etholedig Undeb Bedyddwyr Cymru

    Capel Seion Newydd Treforus. Yno mae’r cloc gyda’r geiriau

    AWR DUW YN GALW ar wyneb y cloc, yn lle’r rhifau arferol.

    Gobeithio’n wir y cawn ei weld y flwyddyn nesaf

    adeg yr Undeb.

  • 2Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 2020

    GolygyddGwaddVincent WatkinsCarmel Pontlliw

    Diolch am DrugareddDarlleniad:Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus Pennod 1, adnodau 12 - 17

    Diolchgarwch am DrugareddYr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a’m nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a’m penodi i’w wasanaeth; myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl. Gorlifodd gras ein Harglwydd arnaf, ynghyd â’r ffydd a’r cariad sy’n eiddo i ni yng Nghrist Iesu. A dyma air i’w gredu, sy’n teilyngu derbyniad llwyr: “Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid.” A minnau yw’r blaenaf ohonynt. Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a’m gwneud felly yn batrwm i’r rhai fyddai’n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol. Ac i Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a’r anweledig a’r unig Dduw, y byddo’r anrhydedd a’r gogoniant byth bythoedd! Amen.

    Wrth droi at Caneuon Ffydd Rhif 175, sef emyn Thomas William, Bethesda’r Fro, sylwer fod yr emyn wedi’i sylfaeni ar gymal o adnod a welir yn y darlleniad uchod (1 Tim 1 :13) Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid. A minnau yw’r blaenaf ohonynt. Ond cefais drugaredd. Dyna oedd profiad yr Apostol Paul.

    O’th flaen, O Dduw, rwy’n dyfod gan sefyll o hirbell;pechadur yw fy enw, ni feddaf enw gwell;trugaredd rwy’n ei cheisio, a’i cheisio eto wnaf,trugaredd imi dyro, rwy’n marw onis caf.

    Pechadur wyf, mi welaf, O Dduw, na allaf ddim;rwy’n dlawd, rwy’n frwnt, rwy’n euog, O bydd drugarog im;rwy’n addef nad oes gennyf, drwy mywyd hyd fy medd,o hyd ond gweiddi, “Pechais!” Nid wyf yn haeddu hedd.

    Mi glywais gynt fod Iesu, a’i fod ef felly nawr,yn derbyn publicanod a phechaduriaid mawr;O derbyn, Arglwydd, derbyn fi hefyd gyda hwy,a maddau’r holl anwiredd heb gofio’r camwedd mwy.

    Ceir ymateb dyn a Duw i ofn yn yr emyn hwn. Ofn yn aml sy’n peri ein bod yn gosod pellter rhyngom a phobl neu bethau eraill. Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni mor aml am beidio ag ofni, yn wir fe gyfrifir ei fod yn dweud hynny wrthym 365 o weithiau - un ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn. Ofn ymateb Duw iddo mae Thomas William - ofn ymateb Duw i’w bechod. Dyna pam mae’n sefyll o hir bell, gan apelio yn unig at drugaredd Duw a chofio, yn wyneb ei bryder a’i ofn, fod Iesu yn derbyn publicanod a phechaduriaid mawr. Mae’n galw’r rhai isaf eu stad i droi oddi wrth eu drygioni, i ddod ato ac i ddibynnu arno. Nid sefyll o hirbell fyddant mwyach ond mwynhau cymdeithas felys ac agos at Dduw yng Nghrist. ‘Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist’ (Eff 2: 13).

    GweddïwnArglwydd Iesu, ffrind pechadur, diolchaf i ti fod cariad yn bwrw allan bob ofn, ac nad oes raid imi ‘Sefyll o hir bell’ mwyach. Diolch am ein dwyn yn ôl at y Tad Nefol a maddau pob pechod a bai, heb gofio’n camwedd mwy. Amen.

    Gweddi wrth baratoi ar gyfer y dyfodol

    Arglwydd Dduw, awdur, lluniwr a chyfeiriwr amser – addolwn di. Addolwn di am bwy ydwyt ynot dy hun, am beth wnaethost er ein mwyn drwy Iesu Grist, am yr hyn a fyddi’n cyflawni ynom a thrwom drwy dy Ysbryd Glân. Arglwydd, cyffeswn i ti fod y flwyddyn hon wedi dod â heriau annisgwyl i’n llwybrau. Gweddïwn dros y byd; dros y rhai sy’n galaru oherwydd effeithiau Covid 19, dros y rhai fu’n gwasanaethu drwy’r adeg anodd, a’r rhai sy’n cynllunio ar gyfer y dyfodol ansicr sydd o’n blaenau. Ac wrth i ni feddwl sut y medrwn ni agor ein capeli’n ddiogel gofynnwn i ti ein harwain. Yr ydym am fod yn weision doeth yn y genhedlaeth hon. Dysga ni mai ‘ofn yr Arglwydd yw dechrau doethineb.’ Arglwydd, yr ydym yn ildio’n hunain i ti drachefn. A wnei di ein helpu i roi’n bryd ar gyflawni dy genhadaeth di yn y byd. Dysga ni beth yw’r pethau rheiny o’n gorffennol y dylem eu rhoi o’r neilltu. Dysga ni beth yw’r pethau newydd y dylem eu hyrwyddo i’r dyfodol. Dysga ni beth yw’r pethau sydd angen i ni eu cadarnhau yn y presennol. Rho i ninnau dy Obaith di. Gobaith anorchfygol, creadigol a hyderus. Arglwydd yr ydym yn cyflwyno’n dyfodol i ti. Helpa ni i fod yn ddoeth. Er mwyn Iesu Grist. Amen

    Coronavirus neu Beidio bydd Cwlwm ar y We!

    Wel ffrindiau, fe ddaeth yn adeg cywain i’r ysgubor yng Ngharn Ingli, 97 Ffordd y Coleg, Rhydaman, SA18 2BT eto ac er na fydd y Cwlwm yn ymddangos fel cychgrawn i chi ei ddal yn eich llaw am yr ail waith eleni, fe all y rhai ohonoch sydd â chyfrifiadur neu ipad neu ffon symudol fynd ar y wê i’w ddarllen. Ond wrth gwrs, rhaid i mi gael deunydd i’w gyhoeddi! Os nad ydych yn troi allan i unrhyw fan arbennig meddyliwch am roi gair ar bapur neu anfon ebost atai. Fe allwch ysgifennu am unrhyw beth a phopeth o rysetiau i son am eich hoff emyn, o dips garddio i synfyfyrion am Covid. Cofiwch amdanaf os gwelwch yn dda er mwyn i mi gael cofio amdanoch chi! Bendithion a chadwch yn ddiogel, Einir.Carn Ingli, 97 Ffordd y Coleg,Rhydaman, SA18 2 BTneu [email protected]

  • Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 20203

    Nodiadau’r Parchg. Ben Williamserthygl gan John Samuel

    Fe’m codwyd yn eglwys Bethel, Abernant, Aberdâr ac yno y’m bedyddiwyd. Cofiaf yn arbennig am festri’r capel a’r seddau a ellid eu troi’n fyrddau a’r pulpud bach gyda lluniau rhai o gyn-weinidogion y capel yn gwylio dros bawb. Y tri oedd John Fuller Davies, John Mills a Benjamin Williams.

    Daeth John Fuller Davies yn syth o’r coleg yn Hwlffordd i Abernant ym 1869. Yn ei gyrddau ordeinio cymerwyd rhan gan nifer o weinidogion, yn eu plith D. S. Davies, Cwmdâr a’i dad Daniel Davies, Login. D. S. Davies a olynodd ei dad fel gweinidog Login am lawer blwyddyn. Y mab sy’n adnabyddus o hyd fel Dafis Login. Roedd John Fuller Davies yn boblogaidd iawn yn y pentref. Cafodd ei ddewis fel un o rifwyr y Cyfrif Cenedlaethol ym 1871 a gwelir ei lawysgrifen gain ar ddogfennau’r cyfrif hwnnw. Er i’r frech wen daro’r brodorion yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno, aeth o gwmpas ei waith fel bugail ei aelodau yn ddewr iawn. Nid syndod oedd iddo gael ei ladd gan yr un clefyd y flwyddyn ganlynol.

    Brodor o Abernant oedd John Mills, a aeth yn weinidog ar eglwysi Treuddyn a Choedllai yn Sir y Fflint. Yn y flwyddyn 1876 estynnwyd galwad iddo ddychwelyd i’w fam eglwys i fod yn weinidog arni. Bugail ffyddlon a phoblogaidd oedd am dros ddeng mlynedd ar hugain, hyd ei farw ym 1909.

    Ordeiniwyd Ben Williams yn Ninbych ym 1893, lle y bu am bedair blynedd cyn symud i eglwys y Tabernacl, Llwynhendy ym 1897. Gwasanaethodd yn llwyddiannus yno am un mlynedd ar bymtheg hyd ddiwedd Rhagfyr 1913, gan symud i Fethel, Abernant, ugain mlynedd yn union i’r dyddiad y’i hordeiniwyd yn Ninbych. Bu’n weinidog ar eglwys Bethel hyd ei farw ym 1932. Yn y flwyddyn 1942 etholwyd ei fab, John Edward Williams yn ysgrifennydd ar eglwys Bethel, swydd a lanwodd â graen arbennig am yn agos i ddeunaw mlynedd.

    Anfonodd Helen George, perthynas i mi, barsel ataf yn y post, ychydig amser yn ôl. Mae ei mam, Margaret Whitmarsh a oedd, fel Helen, yn aelod ym Methel hyd at ddatgorffori’r achos rai blynyddoedd yn ôl, yn byw yn Abernant hyd heddiw. Roedd ei mam yn clirio’r cartref o hen bapurau ei theulu pan ddaeth ar draws pecyn o lyfrau a phapurau arbennig. Beth oedd yn y pecyn? Llyfrau nodiadau’r Parchg. Ben Williams o ddechrau ei weinidogaeth yn Abernant. Ar gychwyn y nodiadau, soniodd dipyn bach am ei hanes ei hun yn Ninbych a Llwynhendy. Croniclodd fanylion am bob priodas ac angladd y bu’n gwasanaethu ynddynt tra’n weinidog yn Abernant, gan enwi, gyda chyfeiriad, pob unigolyn a berthynai i’r eglwys. Ond ei falchder mwyaf oedd yn y bedyddiadau a gyflawnodd, 267 ohonynt, yn ystod ei weinidogaeth ym Methel.

    Rhestrwyd ganddo hefyd enwau’r holl fechgyn a ymunodd â’r lluoedd arfog yn ystod y rhyfel byd cyntaf, 46 ohonynt, gan nodi’r rhai a laddwyd yn y frwydr honno.

    Roedd llyfr bach clawr meddal yno hefyd - casgliad o farddoniaeth syml a phenillion a gyfansoddodd Ben Williams, bob un bron â rhyw gyfeiriad crefyddol neu foesol ynddo. Un pennill yn unig sydd yn yr iaith Saesneg. Pennill yw hwnnw i gyfarch ei ŵyr, Berwyn Williams, a anwyd yn ddall, wrth iddo ddathlu ym 1931 ei ben-blwydd yn dair oed, gyda’r llofnod ‘Teido’ ar y gwaelod. Dyma eiriau’r pennill olaf o’i eiddo sydd yn y casgliad. Y teitl yw ‘Na wylwch’.

    Na wylwch ffrindiau, nid yw’r bedd yn fedd i deulu Duw;Porth yw sy’n arwain fry i hedd, Nef-gartre’ i fythol fyw.Mae cysgod Duw i bawb o’i blant yn troi pob garw le yn ardd i geinciau melys dant Glân engyl gwynion Ne’.

    Y Parchg. Ben Williams gyda diaconiaid Bethel Abernant, 1928

    Bu eglwys Bethel yn aelod o Gymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg ar hyd ei bodolaeth. Trwy garedigrwydd Marc John Williams,Y Tabernacl, Caerdydd, fe fydd cartref diogel i’r llyfrau a’r papurau hyn yn archif y Gymanfa honno yng Nghaerdydd o hyn ymlaen.

    PulpudMin y Ffordd

    Bob mis fe fydd neges newydd yn ymddangos ar hysbysfwrdd Capel y Tabernacl yn Gaerdydd. Mae’r neges hwn yn ein hatgoffa nad yw Iesu yn hunan-ynysu, ond ar gael unrhyw bryd i ni droi ato. Diolch am y negeseuon gwerthfawr hyn.

  • CYFIAWNDER

    gan Desmond Davies

    Cyn symud tŷ y llynedd arferwn fynd heibio, bron yn ddyddiol, i gofgolofn y Cadfridog Syr Thomas Picton ar ben Rhiw’r Gofeb yng Nghaerfyrddin. Droeon sefais i edrych arni, a chyffroi o’m mewn wrth sylwi ar enwau’r brwydrau y bu’r gwrthrych â rhan ynddynt (ef oedd y swyddog uchaf ei safle i gael ei ladd ym Mrwydr Waterloo), gan fod y cyfan yn clodfori rhyfel a Phrydeindod afiach. Fe’m cythruddwyd ymhellach wrth gofio hanes Picton fel perchennog caethweision, a’i greulodeb di-dostur tuag atynt, yn enwedig yn dilyn ei apwyntiad yn rheolwr Trinidad yn 1796. Adnabuwyd ef fel “Teyrn Trinidad”. Erbyn hyn y mae’r hyn y dylid ei wneud â’r gofadail o dan ystyriaeth, ac y mae ymgyrch ar droed i symud y portread olew o Picton sy’n crogi uwchben sedd y barnwr yn hen Lys y Goron yn Neuadd y Dref – man lle yr arferid gweinyddu cyfiawnder. Daw geiriau o Emyn Mawl Mair i’r cof: “tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau/a dyrchafodd y rhai distadl” (Luc 1: 52). Fel y gwyddom, canlyniad yw hyn oll i lofruddiaeth George Floyd, y gŵr croenddu a dagodd i farwolaeth o ganlyniad i bwysau pen-glin plismon ar ei wddf, a’r truan yn methu anadlu. Cododd hyn gwestiwn y gamdriniaeth y mae pobl dduon yn dal i ddioddef ohoni o ganlyniad i ragfarnau hiliol, ynghyd â’r camddefnydd cwbl annynol a wnaed ohonynt fel caethweision. Gwir a ddywedwyd mai hiliaeth yw mam caethwasiaeth, ac apartheid yw ei phlentyn.

    M.L.K.Yn anochel, â’r meddwl yn ôl at ymgyrchoedd Martin Luther King Ieu., a’i anerchiad ysgytiol wrth gofeb Lincoln yn Washington D.C. ar 28 Awst 1963: “Y mae gen i freuddwyd y gwelaf y genedl hon yn codi ryw ddydd i fyw yr hyn a ddywed un o erthyglau ei chyfansoddiad ... fod pob dyn yn gydradd.” Y gwir yw fod nifer o ddywediadau y gwron hwn wedi eu serio ar ein cof.“Pwysicach ansawdd cymeriad na lliw croen.” “Rhaid ymwrthod â thrais dwrn, trais tafod a thrais calon.” (Dyma’r adduned a argraffwyd ar gerdyn aelodaeth pawb a fynnai ymuno â’i fudiad.) “Penderfynais lynu wrth gariad; y mae casineb yn faich rhy drwm i’w gario.” “Dymunaf fod yn frawd i’r dyn gwyn, nid yn frawd-yng-nghyfraith iddo.” Mor, mor berthnasol yw’r geiriau uchod i’r sefyllfa gythryblus sy’n bodoli heddiw. Yr hyn a bwysleisiant yw bod yn rhaid i brotestwyr ymwrthod â dulliau treisgar; bod yn rhaid ymchwilio ar fyrder i bolisïau heddluoedd America; a bod yn rhaid i lywodraethau ar draws y byd, trwy arweinyddiaeth adeiladol a chadarn, ac o bosibl trwy ddeddfwriaeth newydd, sicrhau na fydd pobl yn profi anfantais ac anghydraddoldeb oherwydd lliw croen. Meddai Martin Luther King am y ffordd ddi-drais: “Gan Iesu y dysgwyd hi; gan Gandhi y profwyd ei bod yn gweithio.” Roedd Gandhi ei hunan yn drwm o dan ddylanwad y Bregeth ar y Mynydd (darllenai rannau ohoni bob bore), ac roedd yr egwyddor y gweithredai arni, sef satyagraha (satya: gwirionedd, a hwnnw’n gyfystyr â chariad; graha: grym; felly, grym cariad), yn un a gafodd ddylanwad creiddiol ar Martin Luther King.

    BECAFel mae’n digwydd, nid colofn Picton yw’r unig beth a godwyd ar yr ynys hon ar ganol y ffordd i lawr i Ffynnon Job yng Nghaerfyrddin. Yno hefyd plannwyd plac bychan, crwn yn dynodi’r ffaith mai yn y fan honno y bu Merched Beca yn ymgynnull yn 1843 ar gyfer yr hyn a elwid yn Orymdaith y Ffaglau. Oddi yno ymosodwyd, yn ystod oriau mân 27 Mai 1843, ar dollty Heol Dŵr. Dinistriwyd y giât, ynghyd â tho tŷ ceidwad y safle, ond, fel yr oedd Rebeca ei hunan wedi gorchymyn, ni wnaed unrhyw niwed i Henry Thomas a’i deulu. Achoswyd terfysgoedd Beca gan y cam mawr a ddioddefai ffermwyr wrth iddynt orfod talu tollau anghymesur wrth fynd â’u cynnyrch i’r farchnad, neu galch o’r odynau yn ôl i’w tiroedd, neu lo i gynhesu ei ffermdai. Yr arwyddair ar faner Beca oedd: “Cyfiawnder A Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni Oll”. Yn ddiau yr oedd geiriau’r proffwyd o Tecoa yn anogaeth gref iddynt: ”Ond llifed barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref.”Uchel ac amlwg-i-bawb yw colofn Picton; mewn cymhariaeth, bychan a di-nod yw’r cofnod i Beca (a llawer, mae’n siwr, yn mynd heibio heb sylwi arno), ond y mae’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a gynrychiolir gan y ddau yn aruthrol: gormes a chaethiwed gan y naill; tlodi, dioddefaint, a’r gri am ryddid gan y llall. Mae’n arwyddocaol iawn fod y ddeubeth yn sefyll mor agos at ei gilydd – y peth uchel, anferth, a’r peth bychan, anamlwg - a’r gwrthgyferbyniad rhyngddynt mor fawr.

    NOTTYr un math o olygfa a welir wrth ddringo i fyny i hen sgwâr y farchnad yng nghanol y dref. Mae’r gofeb i’r Cadfridog Syr William Nott yn y fan honno yn fawrwych, ond y plac pres ar ei godre, sy’n dynodi’r ffaith mai dyna lle y llosgwyd yr Esgob Ferrar i farwolaeth yn 1555, yn dywyll a disylw. Picton a Nott, Beca a Ferrar: pwy ohonynt sy’n wirioneddol fawr? Medd Iesu, “Pwy bynnag ... fydd yn ei ddarostwng ei hun ... dyma’r un sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd”(Mathew 18: 4). Credai Waldo â’i holl galon y deuai dydd “pan fydd mawr y rhai bychain”, a phan “na fydd mwy y rhai mawr”. Nid mewn grym ond mewn gwasaneth; nid mewn trais ond mewn tosturi; nid mewn hunanbwysigrwydd ond mewn gwyleidd-dra y gorwedd gwir fawredd. Dyma un o egwyddorion sylfaenol teyrnas Crist, sydd yn herio ac yn chwyldroi safonau’r byd. “Pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi” (Marc 10: 44). Pan safaf yn Sgwâr Nott ni allaf beidio â meddwl`am yr olygfa honno yn ôl yn 1950 pan benliniai Toyohiko Kagawa (a oedd ar y pryd ar ymweliad â gwledydd Prydain, ac yn annerch yn y Tabernacl, Caerfyrddin, a’r capel yn orlawn), ynghyd â’r Parchg. James Thomas wrth gofeb Ferrar, a’r ddau, yn ôl yr hanes, yn offrymu gweddi dawel, y naill mewn Siapanaeg a’r llall yn Gymraeg. Dyna oedd mawredd yng ngwir ystyr y gair.

    4Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 2020

  • RHIANTAgan Peter Harries Davies

    Pwy sy’n rhianta? Beth yw rhianta? Pam bod angen rhianta? Sut mae rhianta? Dyma rai gwestiynau pwysig ynglyn â rhianta. Yn draddodiadol cysylltir rhianta â rhieni. Mae’r teulu estynedig beth bynnag yn bwysig o ran estyn cyngor a chymorth i’r rhieni yn y gwaith hwn. Mae’r Beibl yn cyhoeddi bod Duw wrth greu dyn yn wryw ac yn fenyw wedi bwriadu iddynt fwynhau cwmni cariadus ei gilydd gan luosogi’r hil ddynol (Genesis 1:28). Dyma darddiad y teulu a drefnodd Duw er lles pobl er Ei ogoniant. Cofiwn i Dduw anrhydeddu’r teulu trwy Ymgnawdoliad Ei Fab yn aelod o deulu dynol. Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun ac felly gwnaeth Duw iddo ymgeledd cymwys (Genesis 2:18). Lluniodd wraig iddo o’i gorff ei hun (Genesis 2:21-3), y ddau ohonynt wedi’u creu ar lun a delw Duw ac felly’n gydradd â’i gilydd (Genesis 1:27). Oherwydd hyn mae’r gwryw yn ymuno (neu briodi) â’r fenyw (Genesis 2:24). Hanfod y berthynas yw’r uniad rhywiol rhyngddynt ac felly mae’r sawl sy’n cyd-fyw (i.e. mewn cyfathrach rywiol â’i gilydd ond heb briodi’n gyfreithiol) yn briod mewn gweithred. Delfryd Duw yn Ei greadigaeth oedd bod y berthynas rhwng y gwryw a’r fenyw yn un barhaol (Mathew 19:6). Ond, tarfwyd arni gan bechod ac felly marwolaeth (Mathew 22:30). Yr unig beth, ar wahân i angau, all dorri’r cwlwm priodasol yw godineb - neu buteindra (Mathew 5:32). Dyma’r unig sail dros ysgariad. Ymhlyg yn hyn mae’r posibilrwydd o ailbriodi. Yn ôl Effesiaid 3:14-5 mae pob teulu (Groeg: patria) yn rhagdybio bodolaeth tad (Groeg: pater). Mae’r fam yn dangos cariad tuag at ei phlentyn (Eseia 66:13). Gyda’i gilydd magant y plant a ddaw i’w rhan fel rhoddion o law Duw (Salm 127:3). Gwaith y tad yw caru’i wraig (Effesiaid 5:25), gofalu am ei deulu (1Timotheus 5:8) a meithrin ei blant (Effesiaid 6:4). Mae’r fam hithau i barchu’i gŵr (Effesiaid 5:22) gan rannu yn y gwaith o ofalu am y teulu a magu’r plant. Mae’r plant hwythau i ufuddhau i awdurdod eu rhieni (Exodus 20:12 ac Effesiaid 6:1-3). Delfryd gwreiddiol Duw oedd ar i’r teulu gynnig cartref clyd a diogel i rieni fagu’u plant. Ond chwalwyd hapusrwydd y teulu dynol cyntaf gan lofruddiaeth Cain o’i frawd Abel. Byth oddi ar hynny blinwyd teuluoedd gan anghytgord mewnol a phwysau allanol. Ond mae Duw yn galw’i Hun yn amddiffynnwr y weddw a’r plant amddifaid gan ofalu amdanynt (Salm 68:5-6). Mae Exodus 22:22-4 yn dangos cryfder Ei ofal dros y bobl hyn. Canmolir y gofal hwn gan Dduw y Tad (Iago 1:27). Mae yna gyfrifoldeb ar yr eglwys gyfan am y plant yn ei mysg. Adeg cyflwyno plentyn mae’r rhieni’n addo ei fagu yn y Ffydd Gristnogol. Mae’r eglwys hefyd yn addo cynorthwyo’r rhieni i fagu’u plentyn yn y Ffydd Gristnogol. Mae hyn yn golygu gweddïo dros y plentyn, ei ddysgu, ei gynghori, ei gyfarwyddo a’i gynorthwyo boed mewn gair neu weithred. Mae rhianta’n golygu magu plant. Mae hyn yn meddwl gweini i anghenion amrywiol plant. Mae hyn yn waith pwysig i rieni ei gyflawni.

    Mae hawl gan rieni i ddisgyblu plant ond hefyd cyfrifoldeb i’w hyfforddi (Effesiaid 6:4). Nid gwaith yr ysgol yn unig yw addysgu plant ond swyddogaeth y rhieni hefyd. Yn ogystal â hyn mae rhieni â gofal ysbrydol am eu plant. Ni waherddir cosb gorfforol gan y Beibl ond rhydd bwyslais ar gyfarwyddo plant (Diarhebion 3:1). Mae angen rhianta am fod plant ag anghenion amrywiol. Y nod yw eu bod yn tyfu’n feddyliol, yn gorfforol, yn ysbrydol ac yn gymdeithasol (Luc 2:52). Llawenydd yw gweld plant yn prifio’n hapus ac yn aeddfedu’n gyfrifol. Mae angen rhianta mewn ffordd gadarn a chynnes. O ran canllawiau gellid dweud byddwch yn gariadlawn, yn wrandawgar, yn ganmoliaethus, yn gyson ac yn deg.

    Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 20205

    Ffydd yn y Cartref

    Adnodd newydd i blantmewn cyfnod hunan-ynysu

    yn trafod ‘GOBAITH’

    Er mwyn cefnogi ffydd yn y cartref mae Cyngor Ysgolion Sul wedi datblygu adnodd newydd sy’n cynnwys cylchgrawn maint A5 i blant, sy’n agor i fyny i greu poster A3 lliwgar gyda digon o le i ysgrifennu a lliwio ynddo, ynghyd â 25 o sticeri a 4 cerdyn post lliwgar sy’n cynnwys gêm, adnod i’n calonogi a syniadau crefft. Mae’r pecyn yn dilyn thema ‘gobaith’ ac yn ein hatgoffa o adnod yn Eseia, ‘Bydd y rhai sy’n pwyso ar yr Arglwydd yn cael nerth newydd’. Mae’r rhain ar gael gennym am £1 yr un trwy archebu 5 neu fwy neu 80c trwy archebu 25 neu fwy. Mae cludiant am ddim. Gyrrwch eich archeb (gyda sieciau yn daladwy i Cyngor Ysgolion Sul) at Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH. Neu ebostiwch eich archebu i [email protected] a gallwn anfon anfoneb PayPal i chi dalu gyda cerdyn.

    Mae dal llawer o ansicrwydd ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd i Ysgolion Sul a Chlybiau Ieuenctid CIC at fis Medi, ond byddwn yn dal i dderbyn cyngor gan Cytûn a Llywodraeth Cymru, ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf hynny ar ein gwefan.

  • Gweddïau cyfnod y Diwygiad

    Cyfeirir at Gymru yn aml fel ‘gwlad y gân a’r diwygiadau’ ac efallai, wrth glywed y gair diwygiad, daw darlun o gapeli gorlawn yn llawn o bobl yn canu’n hwyliog i’r meddwl. Ond mae diwygiad yn llawer mwy na hynny. Mae diwygiad yn arwydd o dywalltiad grymus yr Ysbryd Glân yng nghalonnau a meddyliau dynion a merched wrth iddynt ddod i berthynas newydd, neu berthynas agosach â’r Iesu. Mae diwygiad yn newid bywydau unigolion, teuluoedd, cymunedau, a chenhedloedd hyd yn oed.

    Yn fwy na’r un wlad arall, fe gafodd Cymru ei dylanwadu a’i ffurfio yn ysbrydol, diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol gan nifer o ddiwygiadau ar hyd y blynyddoedd. Wrth inni gofio’r Pentecost, diolchwn am ddiwygiadau’r gorffennol a gyfrannodd cymaint at ddatblygiad ein cenedl ac erfyniwn am ddiwygiad newydd yn ein gwlad. Wrth inni hiraethu am gael profi diwygiad newydd yn ei holl rymuster, cofiwn fod pob diwygiad yn dechrau gyda gweddi. Gweler isod ddwy stori o’r archif sy’n tystio i ddylanwad a nerth gweddi yn niwygiadau’r gorffennol…

    Diwygiad Gweddi 1859Roedd Diwygiad 1859 yn ddiwygiad wedi’i wreiddio mewn gweddi. Yn ei gyfrol ar hanes y Diwygiad a gyhoeddwyd yn 1860, tystiodd y Parchedig Thomas Phillips i adfywiad ysbryd gweddïgar ar draws y wlad: Mae’r Arglwydd wedi achosi i’w bobl deimlo'r angen am ddiwygiad yn fwy nag erioed, diwygiad nid yn unig yn y byd ond hefyd o fewn yr

    eglwys ac mae’r teimlad hwn yn mynegi ei hunain mewn gweddi, gweddi ddwysach nag mewn unrhyw gyfnod mewn cof […] mae cyfarfodydd gweddi wedi cael eu cynnal ym mhob math o lefydd ac wedi’u mynychu gan bob math o bersonau.[…] Ym mhob un lle, o enau a chalonnau’r miloedd sydd wedi mynychu, un weddi sydd wedi esgyn i fyny i’r orsedd; ‘Arglwydd, Bywhau Dy waith ymysg y blynyddoedd’ Fel yr adroddwyd gan weinidogion Aberaeron: Ni all iaith fynegi’r daioni mawr mae Duw wedi’i wneud yn ein plith! Nid oes gennym eiriau i fynegi ein diolchgarwch am y fath ymweliad bendithiol a gafwyd yn sgil y tywalltiad hwn o’i Ysbryd. Mae’r newid i’w weld ym mhob man - mae ein cyfarfodydd gweddi yn orlawn ac mae ysbryd gweddi nerthol wedi cydio yn yr eglwysi. Mae nifer gweddïwyr gweddigar wedi cynyddu’n rhyfeddol. Tystiodd Bedyddwyr Trefyclo a Llanandras i’r un ysbryd gweddi adnewyddedig hefyd: “O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni”. Iddo ef y byddo’r clod! Y mae’r Arglwydd wedi tywallt ei Ysbryd yn y diwygiad mawreddog hwn mewn ymateb i weddïau taer ei bobl. Mae’n wirionedd gogoneddus, oni fyddai’r eglwys gyfan yn ei sylweddoli - Duw a glyw weddi fydd. “Mae’r diwygiad hwn yn ddiwygiad o ysbryd gweddigar sy’n mynegi ei hun mewn undod Cristnogol”. Detholiad o ‘The Welsh Revival 1860’, Thomas Phillips

    Diwygiad 1903Ychydig cyn ei farwolaeth ym mis Ionawr 1903, ysgrifennodd David Howell, Deon Tyddewi, erthygl yn galw ar ei gyd-Gymry i weddïo am gael ateb i’r hyn a gredai oedd prif angen Cymru. Galwodd Howell, a oedd ei hun wedi profi grym Diwygiad 1859,

    ar i Gristnogion Cymru gydweddïo am ddeffroad ysbrydol. Roedd Howell yn deall mai gweddi oedd wrth wraidd pob diwygiad. Ymhen ychydig fisoedd atebwyd ei weddi gyda thywalltiad nerthol Diwygiad 1904/05. Prif angen Cymru – Beth ydyw? […] ADFYWIAD YSBRYDOL! Pe ceid ond dau neu dri mewn ardal i ymuno, ac ymrwymo, ac ymroi a’u holl galon i erfyn ac ymbil am gyflawniad o’r addewidion a’r anogaethau hyn, a dyfalbarhau i wneud hynny, a disgwyl yn hyderus a diflino am wrandawiad, y mae mor sicr, meddaf, a bod Duw wedi’u llefaru y caent eu cyflawni. Nid gweddi ffurfiol, glaear, ymadroddus, ond taerineb di-ildio; math o ymaflyd yn Nuw fel Jacob, gyda sicrwydd hyderus, diysgog, a diamheuol, am atebiad, sydd yn effeithiol i’n dwyn i gyd feddwl a Duw. Ddarllenydd! A wnei di dy ran yn y gwaith bendigedig hwn? A wnei di ymgysegru i wneud hyn yn brif wrthrych dy ddymuniad foreu a hwyr a chanol dydd? Ac a wnei di dy oreu i ddwyn eraill i gydweithredu a thi, fel ag i greu cylch o ymbilwyr? Mawr yw dy fraint a – mawr yw dy gyfrifoldeb! Dalier sylw – pe gwybyddwyd mai hon yw fy nghenadwri olaf i’m cydwladwyr ar hyd a lled Cymru [...] dyma hi – sef mai prif angen fy ngwlad a’m cenedl annwyl ar hyn o bryd yw – Adfywiad Ysbrydol trwy Dywalltiad neilltuol o’r Ysbryd Glân. Y Dysgedydd, Ionawr 1903,tt12-19

    Allan o becyn gweddi Undeb Bedyddwyr Cymru

    6Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 2020

  • Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 20207

    Trindod Faen – neu Dair Pabellgan Einir Jones

    Pan gawsom ni’r hawl i deithio mewn dalgylch o fwy na phum milltir y daith gyntaf gymron ni oedd dros y Mynydd Du, rownd Tro’r Gwcw ac i lawr i Langadog a Llandeilo ac adref. Dim aros, cofiwch. Dim paned. Dim ond gyrru a syllu ar harddwch y cwilt o glytiau gwyrdd o amgylch Gwynfe oddi tanom a rhyfeddu at lesni’r awyr uchel ar y dydd cyntaf hwnnw o ryddid. Yr ail daith? (Oherwydd roedd hi’n bwrw’r Sadwrn dilynol). I ble aethon ni ar y Sadwrn braf nesaf? Wel dros Fynydd y Gwair tu ôl i ni yma yn Rhydaman a heibio i Gapel y Baran (A) a adeiladwyd yn 1805. Lle bendigedig yw’r Baran ar ddiwrnod teg ac fe allwch edrych oddi yno dros yr aceri gwag heibio i simneuau Port Talbot yn vapo’n ddiog a draw am Ddyfnaint a bae Abertawe a drosodd am Benrhyn Gŵyr a sir Benfro o’r gwaundir moel o amgylch yr hen le. I lawr â ni wedyn ar y ffordd gul sy’n edrych dros ran ganol Cwm Tawe. Ar ôl cyrraedd y gwaelod yn ardal Rhyd y Fro medde fi wrth John, “Cer lan ar yr hewl heibio’r Traveller’s Rest a dros y mynydd i ddod allan yn ardal Cwmllynfell.” Roedd John wedi bod ar y ffordd hon ddwywaith yn ei oes meddai ond allai ddim cofio’r hewl o gwbwl ond doeddwn i ddim erioed wedi bod arni er ein bod yn byw yr yr ardal. Enw oedd arwydd Rhiw Fawr i mi (man lle ganwyd Watcyn Wyn?) ac atgof am Eic Davies (tad Huw Llywelyn) yn procio yn rhywle. Ond roedd yr hen ffordd fach gul a serth wedi pasio arwydd eglwys Llangiwc yn agor allan fel ffán mewn ysblander rhyfeddol ar y topiau. Ac yno, yng nghanol lle’n y byd, roedd capel o bopeth, capel bach y Gwrhyd (A). Adeiladwyd 1856. Fe arhoson ni i dynnu llun o’r lle cyn teithio dros y bryniau ac edrych ar gysgodion y cymylau yn gorwedd yn glytiau tywyll yma ac acw ar y mynyddoedd glas yn y pellter. Lawr â ni wedyn i Gwmllynfell ei hunan, a’r gyffordd sydyn fel diwedd taith ar rollercoaster yn aros yn stond, ac adref. Ac fe ddechreuais i feddwl. Meddwl am hen gapel bach y Bedyddwyr yng Nghwmgerddinen ar ochor arall y mynydd. Gerasim yw ei enw gyda llaw. Adeiladwyd yn 1830. Roedd yr hen dadau yn adnabod eu hysgrythurau oherwydd Mynydd yn Samaria yw Gerasim, dros y ffordd i fynydd Ebal. Roedd adlais da rhwng y ddau fynydd meddai ysgolheigion ac fe’i defnyddiodd Joshua yn ddeche ddigon ar gyfer siantio bendithion a melltithion Duw os byddai’r genedl yn ufudd neu ddim. Does dim addoldy yn Gerasim bellach, dim ond adeilad sydd wedi ei brynu gan gymdeithas seciwlar a phreifat os deallais yn iawn, ond mae’r fynwent yn dal i gael ei defnyddio. Wal gerrig foel o’i amgylch. Hen stablau wedi syrthio’n ddarnau gan henaint gerllaw. Ffordd hir yn arwain trwy’r brwyn a’r glaswellt gwyllt tuag ato oddi ar y ffordd fach fynyddig ac untrac o’r Garnswllt i Felindre. Tebyg iawn i’r ffordd i’r Baran a dweud y gwir heblaw bod un capel unig ar ochr orllewinol y mynydd ac yn edrych draw am y Frenni Fawr a Foel Eryr ac yn perthyn i’r Bedyddwyr a’r llall ar yr ochr ddwyreiniol ac yn perthyn i’r Anibynnwyr. Mae’r Baran yn dal i fynd gyda llaw a’r fynwent daclus fel pin mewn papur a’r adeilad mewn diwyg hyfryd ac arbennig o dda. Bum yno yn pregethu sawl tro ac ar bob math o dywydd. Ac yna, ymhellach draw ar fynydd y Gwrhyd i’r gogledd-orllewin, mae Capel y Gwrhyd, a wn i ddim oes oedfaon yno ai peidio a dweud y gwir. Felly mae’r drindod o faen a sment yn cynrychioli un capel wedi cau, un ar agor, ac un wyddom ni ddim. (Nid bod neb ar agor yn y cyffiniau yma ers mis Mawrth!) Mae’r tri chapel yma yn hen iawn. Roedden nhw wedi eu hadeiladu i bwrpas ar lês o 999 o flynyddoedd fel canolfanau i gredinwyr lleol o ffermydd cyfagos. Roedden nhw hefyd yn ddigon

    pell o’r dyffrynoedd mwy poblog ac yn swatio yn dawel yn eu rhedyn a’r brwyn cysgodliw pan oedd atgofion o erledigaeth yn broblem. Fel y daeth yr Ymneilltuwyr yn fwy derbyniol a dim angen leisans bellach i gynnal cwrdd codwyd capeli newydd mewn mannau haws ac îs ac ar fin y ffordd fawr lle gallai pawb eu gweld a’u mynychu’n rhwydd. Saron yw merch eglwys y Baran ar gyrion Rhydyfro. (Bu y diweddar Barchg Idwal Jones Llanrwst yno yn weinidog gynt – awdur Galw Gari Tryfan gynt a phregethwr tra diddorol). Mae’n bosib mai Capel Cwmllynfell ar y tro wrth fynd allan o’r pentref a lle mae cofeb Watcyn Wyn yn cysgodi rhwng y coed ceirios yw merch eglwys Capel y Gwrhyd. Yn sicr, Noddfa Garnswllt yw merch eglwys Gerasim. Pob un ifancach mewn pentref o ryw fath fe sylwch. Ond doedd yr hen addolwyr yn tough gwedwch? Adeiladu eu mannau diarffordd i addoli ar bennau mynyddoedd ar batshyn o dir fferm lle nad oedd cyfannedd hawdd nac arlliw o gysgod. Hyfryd ar ddiwrnod ffein i ni wrth basio yn y car i edmygu’r olygfa fendigedig ar y Sadwrn ond meddyliwch am y Sul gynt a hithau’n ddyfnder gaeaf, y glaw, y stormydd, yr eira a’r rhew ac angen cyrraedd y capel oer a di-drydan trwy gerdded neu farchogaeth. Fe fydden ni i gyd wedi edrych ar ragolygon y tywydd ar y nos Sadwrn ac wedi danto, jibo, gif yp mewn chwinc!Gan i mi fod i mewn yn Gerasim pan oedd y Parchedig Olaf Davies yn pregethu ar achysur dathliad mi wn bod y pulpud ar y wal hir o’r adeilad hirsgar, yn union fel cynllun y Baran. Mae galeri yn y ddau gapel. (Maent yn debyg iawn o ran ffurf i’r Hen Gapel ger Pontarddulais (A) a adeiladwyd eto yn fras yr un cyfnod siwr o fod, ac hefyd i Gapel Undodaidd Pen Rhiw yn Sain Ffagan a Soar y Mynydd hefyd os cofiai.) Wn i ddim am y Gwrhyd. Chwiliais ar lein a chael llun o’r tu allan ond welais i run o’r tu mewn. Ie, Trindod Faen. 3 man i addoli yn yr uchelderau geirwon heb rhyw lol fodern o feddal fel gwres canolog a dŵr rhedegog. Tri man er hynny lle bu Duw yn siarad gyda’i bobl yn y gorffennol pell. Er gwaethaf beiau’r praidd a’r bugail yn sicr i chi, rhaid bod rhyw nerth rhyfedd yn - a chan - y tadau gynt i gasglu meini a llifio pren a rhoi cragen o gerrig i ffurfio adeilad arbennig i gyfarfod â’u Duw. Ac er y gerwinder, neu efallai o’i herwydd yn wir, oherwydd yr ymdrech galed honno fel un Jacob ym Mheniel, roedd - ac mae yn dal - rywbeth ar ôl yno o’r ysbryd oedd yn cymell pobl draw ym mhob tywydd gynt. Tybed â yw perchnogion newydd Gerasim yn teimlo rhywbeth o beth a fu wrth eistedd yn yr hen le ac yfed Coke a bwyta Penguins. Tybed â yw ymwelwyr pellenig â’r Baran yn profi rhywfaint o’r sancteiddrwydd od o gynefin sydd yn y mawn o’i amgylch lle mae cyrff eu hynafiaid wedi eu claddu dan y coed bytholwyrdd isel, gwydn, hynafol? Tybed â yw teithwyr digrefydd heddiw sy’n edmygus o olygfa glir a glas am gyfeiriad Cwm Nedd yn pasio’r Gwrhyd ac yn sylweddoli bod hwn yn lle tenau, lle bu Duw yn cwrdd ac yn siarad â’i bobl yn uchelder y bryniau?Meddai’r emyn;

    Rhaid yw dringo uwch y bydI gael cwmni Duw o hyd.Teml hardda’r Cristion ywPen y Mynydd gyda Duw.

    Roedd yr hen dadau wedi ei deall hi. Dringo’r mynydd ar fy nghliniau geisiaf meddai Pantycelyn. Oedd, roedd rhywbeth yno yn y mannau agored a digysgod rheini. Ac mae yno o hyd. “Gwnawn yma dair pabell” meddai Pedr mewn sioc ar ben Hermon. “Fe hoffwn i ddal y profiad a’i gadw am ysbaid os nad am byth”. Ac fe lwyddodd yr hen dadau i wneud. Er eu bod hwy wedi hen fynd a’u henwau wedi eu curo gan dymhestloedd oddi ar eu beddau hyd yn oed, mae Duw yn dal yno heddiw yn disgwyl pob dringwr, pob un sydd am gysylltu ag Ef.

  • 8Seren Cymru Gwener, Medi 4ydd 2020

    Dros gyfnod yr haf, fe fyddwn yn neilltuo tudalen gefn Seren Cymru ar gyfer cynnwys oedfa bwrpasol ar gyfer addoliad ar yr aelwyd. Mae’r dudalen hon yn cael ei pharatoi yn wythnosol gan y Parchedig Ddr Watcyn James, gweinidog eglwys Y Garn, Bow Street, a golygydd papur enwadol wythnos y Presbyteriaid, sef Y Goleuad. Diolch am gydweithrediad parod Y Goleuad er mwyn cael rhannu’rdudalen werthfawr hon gyda darllenwyr Seren Cymru. Diolch am yr oedfa gyfoethog a bendithiol.8 Y Goleuad Gorffennaf 31, 2020

    • Wythnos nesaf – Cyfarwyddyd i agor drachefn •

    Yn dawel, yn guddiedig, o'r golwg, bydd Teyrnas Nefoedd yn cynyddu nes dod yn goeden fawr, neu lefain sy'n lefeinio'r cwbl.

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

    GWEDDIO Arglwydd ein craig a’n prynwr, einBugail da, a ddoi di atom heddiw ermwyn i’n meddyliau a’n deall, einserchiadau a’n hewyllys gael eucyffwrdd gennyt. Gad i ni eistedd gydathi, a chael ein bendithio ynot ti, a chaelein bywhau trwot ti. Arglwydd, trugarhawrthym drwy dy Ysbryd Glân. Yn IesuGrist. Amen

    EMYN 592: Ysbryd Glân

    DARLLEN: Mathew 14:13-21 –Porthi’r Pum milCyd-destun yr hanes a gofnodir yw body newyddion wedi cyrraedd Iesu bodHerod yn credu mai Ioan Fedyddiwr yrun a laddwyd ar ei orchymyn, wedi eiatgyfodi, oedd Iesu. Pan glywodd Iesuhyn, heblaw am dristau am golli eigefnder, am golli un nad oedd ‘nebmwy’ nag ef yn bod (11:11), am welddiwedd gyrfa’r ‘Elias sydd ar ddod,’mae’n sifir ei fod yn ymwybodol bod ysylw gwleidyddol bellach wedi ei droi a’iganolbwyntio, arno ef. Roedd ysefydliad crefyddol eisoes wedi troi ynei erbyn ac yn cynllwynio i’wladd.(12:14)

    Ar yr un pryd, o ddarllen efengyl Ioanmae’n amlwg bod yna elfen ogynllwynio ar ran arweinwyr y dorf.Teithiasant i’r ‘lle unig, o’r neilltu’ yr oeddIesu wedi cilio iddo gyda’i ddisgyblion ialaru. Roedd lleoliad y digwyddiad yn ôlIoan ar gyrion, ond y tu hwnt, i ffiniaullywodraeth a dylanwad Herod Antipas.Mae’n amlwg, yn ôl Ioan, bod y dyrfaam gipio Iesu i’w wneud yn freninarnynt. A chawn rhai esbonwyr ynawgrymu bod y cyfrif o 5,000 heblaw‘gwragedd a phlant’ yn awgrymu bodgwragedd a phlant yn absennol o ‘rali’oedd yn llawn o emosiwn gwleidyddol.Mwy tebygol, fodd bynnag, yw bodMathew yn adleisio trefn o gyfrif awelwyd wrth nodi bod ‘tua chwechan mil o wªr traed, heblawgwragedd a phlant’ wedi gadael yrAifft (Exodus 12:37)

    Wrth sylwi ar y testun yn fanylachnodwn:

    1. Ymateb Iesu: gwelsom cyn hyn bodIesu’n dweud amdano’i hun ei fod yn‘addfwyn’. A nodwyd wrth edrych arMath. 11:28 bod y gras sydd yn yrArglwydd Iesu Grist yn datgelu’nhangen ac yn cwrdd â’r angen ei

    hun. Ac mae angen y ‘torfeydd’ a’i‘dilynasant’ (ad 13) yn cyffroi tosturiIesu. Dyma’r bugail da sy’n cyflawniaddewidion Duw – ‘byddaf fi fyhunan yn chwilio am fy mhraidd agofalu amdanynt...’ (Eseciel 34:11)Er iddo gael ei wrthod yn Nasareth(13:34) ac er i Ioan gael ei ferthyruroedd dyfnder y trueni a’r angen awelsai yn galw ar ddyfnder tosturi’rArglwydd. Peidiwn byth â meddwl ynwahanol. Ein hangen am Waredwr,am noddfa, am dosturi barodd i’rArglwydd ddod ei hun i fyd amser ahanes yn Waredwr tosturiol, ynnoddfa ddigonol.

    2. Her Iesu: nid dim ond mewnegwyddorion i’w trafod y gwelwydtosturi Iesu. Fel y cafodd eiddisgyblion eu galw i fod gydag efac i fod yn dystion i’w ddaioni ef, ynawr caiff y disgyblion eu galw, nid ynunig i adnabod angen, ond hefyd iymateb i’r angen. Nid digon ywdweud wrth y dorf i fynd i brynubwyd. ‘Rhowch chwi rywbeth’ yw eialwad arnynt. Nid digon gweldangen byd heddiw. Gwnewchchwithau rywbeth am y peth meddaiIesu. A meddyliwch am yr hollelusennau, yr holl fudiadau syddwedi ei symbylu gan yr alwad.

    3. Darpariaeth Iesu: ‘dewch â hwyyma’ oedd ei orchymyn. Bara aphysgod – bwyd cyffredin gwerinGalilea. Ac eto yn nwylo Iesu maeiddynt arwyddocâd neilltuol. GydagIesu dônt yn rhagflas o’r wleddFeseianaidd hir-ddisgwyliedig. Yngyntaf cawsant wahoddiad ieistedd – i ledorwedd – er mwyngwledda gyda’r Meseia. Nid byr brydi’w fwyta ar frys, ond egwyl i’wryfeddu, swper wedi ei ddarparu i’ranghenus gan Iesu ei hun. Ac yn yddarpariaeth rasol hon daw’r‘eglwys’ yn rhan o’r fendith. Yn rhano’r ateb. Ond Iesu yw’r darparwr. Eifendith, ei lawnder sy’n bodloninewyn y dorf.

    4. Mwy na phroffwydi?: yn yrysgrythurau Iddewig gwelwnhanesion am Foses yn darparumanna a chig i’r bobl yn yr anialwch.Ond nid Moses, mewn gwirionedd,ddarparodd y gynhaliaeth. Duw eihun, achubwr y bobl a ddarparoddfwyd iddynt. Ond y mae yma Unoedd yn fwy na Moses. OherwyddIesu, yr Un a’i bendithiodd yn awr

    yw’r darparwr. Ac onid oedd Eliseushefyd wedi lluosogi torthau i’rnewynog. Ond y mae yma un sy’nfwy nag Eliseus.

    5. Bendith Iesu: Nid damweiniol ywiaith a geirfa Mathew. Y mae ymaadlais o eiriau cyfarwydd iGristnogion wrth fwrdd y Cymun.Wedi ‘bendithio... torrodd’ y torthaui’w rhannu. Do fe gafodd y dyrfa eudigoni, ac roedd digonedd dros ben.Mae Iesu’n fendithiwr helaeth, ynddarparwr helaeth, yn digoni, ynbodloni, yn bendithio’r rhai sy’neistedd gydag ef ac yn ei gwmpeini.Ac ni phallodd ei allu. Ni pheidioddei dosturi. Nid ataliwyd ei law. Ac i nifel unigolion yn unigedd y byd a’iheriau; i fyd sy’n newynog amgyfiawnder, am arweinydd triw ageirwir a thrugarog mae Iesu’n arosi ni eistedd yn ei gwmni a swperugydag ef ac yntau gyda ninnau(Datg. 3:21).

    GWEDDIO Dad, pan edrychwn ar y byd a’ihelbulon, ei drafferthion, ei ddioddefaint,a’i gelwydd, rhyfeddwn dy fod ynparhau i fod yn amyneddgar tuag at dygread, a thuag at y ddynolryw a grëwydar dy lun a’th ddelw. Pan edrychwn ardy eglwys yn ein gwlad, ar wendid, arlesgedd dy bobl, ein hofnau a’n diffyghyder rhyfeddwn dy fod yn parhau iarddel dy blant. Ond yr wyt ti yn driw, ynffyddlon, yn gadarn, yn fywyd, ac maedy gariad tuag atom yn arswydus oanorchfygol. Heb atalfa, heb rwystr, hebdroi’n ôl. Diolch am ein caru i’r eithaf.A diolch na all eithafion bywyd eingwahanu oddi wrth dy gariad angerddolyng Nghrist.

    Gweddïwn dros y byd … Dros fudiadaudyngarol Cristnogol fel CymorthCristnogol, Tear Fund, Barnabas, OpenDoors, a Christnogion yn Lesotho.Diolch am fedru cynorthwyo dy eglwysa bod yn rhan o’r ddarpariaeth. Diolchnad yw’r cwpanaid o ddfir oer aestynnwn yn dy enw heb ei wobr.

    Cofiwn am ein bröydd, ein capeli, eingweinidogion, ein blaenoriaid eincynulleidfaoedd wrth i ni geisio cynllunioi’r dyfodol.

    GWEDDI’R ARGLWYDD.

    EMYN 488: Am Iesu Grist

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.