cymru seiren activ8 - wwf

6
ACTIV8 WWF CYMRU NEWSLETTER SUMMER 2006 Contents WWF Cymru, Baltic House, Mount Stuart Square, Cardiff. CF10 5FH t: 029 2045 4970 f: 029 2045 1306 e: [email protected] SEiren CYLCHLYTHYR WWF CYMRU HYDREF 2007 Wyth o bob 10 o bobl yn poeni am foroedd Cymru Cymru Cymru Un Blaned Y Gweinidog yn helpu i hybu ein ymgyrch newydd Newyddion o’r cynulliad Beth sy’n digwydd yn y Senedd?

Upload: others

Post on 18-Dec-2021

8 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cymru SEiren ACTIV8 - WWF

ACTIV8WWF CYMRU NEWSLETTER SUMMER 2006

Contents

WWF Cymru, Baltic House, Mount Stuart Square, Cardiff. CF10 5FH t: 029 2045 4970 f: 029 2045 1306 e: [email protected]

SEirenCYLCHLYTHYR WWF CYMRU HYDREF 2007

Wyth o bob 10 o bobl yn poeni am foroedd Cymru

Cymru

Cymru Un Blaned Y Gweinidog yn helpu i hybu ein ymgyrch newydd

Newyddion o’r cynulliad Beth sy’n digwydd yn y Senedd?

Page 2: Cymru SEiren ACTIV8 - WWF

Croeso i Seiren Cymru!

Mae’n bosibl bod rhai ohonoch wedi’n gweld ni dros yr haf

mewn gwahanol ddigwyddiadau ledled Cymru. Buom

yng Ngwyl Bysgod Sir Benfro, Eisteddfod Ryngwladol

Llangollen, Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol yn yr

Wyddgrug. Yn y rhain buom yn lansio ac yn hybu cyfrifiannell ôl troed

ein hymgyrch Un Blaned, sy’n mesur effaith unigolyn ar y blaned.

Mae’r prawf ecolegol ar-lein newydd hwn – y gellir ei weld ar

wwf.org.uk/calculator – yn gofyn cwestiynau syml am eich ffordd o

fyw, megis pa mor aml ydych chi’n teithio dramor, sut ydych chi’n

gwresogi’ch cartref a ble’r ydych chi’n prynu’ch bwyd. Wedyn mae’n

cyfrifo sawl planed mae eu hangen ar gyfer eich ffordd o fyw. Yn fwy

na hynny, ar ddiwedd yr holiadur mae WWF yn awgrymu ffyrdd hawdd

ac ymarferol y gallwch leihau’ch effaith ar y blaned.

Ôl troed ecolegol cyfartalog person yng Nghymru yw 5.6 hectar byd-

eang – maint chwe maes rygbi, yn fras. Pe bai pawb yn y byd yn cael

yr effaith hon, byddai arnom ni angen 3.2 planed – ond mae hyn llawer

yn fwy na chyfartaledd y byd.

Mae newid yn yr hinsawdd yn un o symptomau’r ffordd yr ydym yn

gorddefnyddio adnoddau naturiol y blaned ar hyn o bryd, ond gallwn

ni i gyd wneud ein rhan i arbed adnoddau a brwydro yn erbyn cynhesu

byd-eang. Os ydym ni i gyd yn defnyddio pethau mewn ffordd gallach,

yn arbed ynni ac yn cwtogi ar ein gwastraff, gallwn gynhyrchu llai o

garbon deuocsid a throedio’n ysgafnach ar y Ddaear.

Darllenwch ragor i gael gwybod pa bobl enwog sydd wedi cefnogi’n

hymgyrch ac i weld beth fuom ni’n ei wneud mewn meysydd eraill o’n

gwaith ymgyrchu.

Morgan ParryPennaeth WWF Cymru

CYFLWYNIAD

3. Wyth o 10 o

bobl yn poeni am

foroedd Cymru

4. Digwyddiadau’r Haf Y Gweinidog yn helpu i hybu Cymru Un Blaned

6. Y Senedd Newyddion o’r

Cynulliad

WWF Cymru, Ty Baltig, Sgwâr Mownt Stuart, Caerdydd, CF10 5FH, ffôn: 029 2045 4970 ffacs: 029 2045 1306 e: [email protected] w: wwf.org.uk/wales

CONTENTS

^

^

© S

PE

PLO

WS

KI /

WW

F-U

WW

F C

YM

RU

© W

WF

CY

MR

U

FRON COVER IMAGES: © WWF CYMRU

© L

IZ S

MIT

H

Page 3: Cymru SEiren ACTIV8 - WWF

Ar Ddiwrnod Moroedd y Byd, 8 Mehefin, lansiodd WWF Cymru adroddiad Valuing Wales’ seas and

coast, a ddatgelodd fod bron wyth o bob deg o bobl Cymru’n poeni bod ein moroedd yn cael eu difrodi gan weithgareddau’r ddynoliaeth.

Y prif bryderon a fynegwyd gan bobl Cymru oedd yr effeithiau cynyddol y mae carthion a llygredd diwydiannol yn eu cael ar gynefinoedd morol, y perygl a achosir o hyd gan danceri olew mawr tebyg i’r Sea Empress sy’n teithio trwy rai o ardaloedd mwyaf sensitif moroedd Cymru a faint o sbwriel sy’n cael ei ollwng ar y traethau ac yn y môr.

Hefyd mae tri chwarter pobl Cymru’n credu bod gorbysgota’n bygwth iechyd a sefydlogrwydd ein moroedd. Er hynny dim

ond 29% sy’n teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniadau sy’n gyfrifol o ran yr amgylchedd wrth brynu

pysgod a bwyd môr. Mae hyn yn awgrymu y byddai cyfran helaeth o’r boblogaeth o blaid defnyddio bwyd môr mewn ffordd fwy cynaliadwy pe baent yn cael gwybodaeth ddigonol.

“Drwy wneud ychydig o newidiadau i’n ffyrdd o fyw megis dewis cynhyrchion

pysgod lleol a mynd â sbwriel adref o’r traeth, gallwn wella cyflwr ein moroedd a’n glannau’n aruthrol,” medd Dr Iwan Ball, Swyddog Polisi Morol WWF Cymru. “Ond yn bwysicaf oll, mae’r cyfrifoldeb am les ein moroedd yn nwylo gwleidyddion. Mae’n hanfodol bwysig iddynt gefnogi ymgyrch WWF i dynnu sylw at yr angen i’r mesurau iawn gael eu cynnwys mewn Deddf Forol i’r DU.”

Wyth o bob deg o bobl yn poeni am foroedd Cymru

“Drwy wneud ychydig o newidiadau i’n ffyrdd o fyw megis dewis cynhyrchion pysgod lleol a mynd â sbwriel adref o’r traeth, gallwn wella cyflwr ein moroedd a’n glannau’n aruthrol”

Cymru SIREN 3

Dau gogydd yn casglu ryseitiau cynaliadwy Mae dau gogydd enwog wedi cefnogi ymgyrch WWF Cymru i annog pobl i ddechrau coginio gyda physgod a bwyd môr sydd â logo’r Cyngor Stiwardiaeth Morol (MSC). Rhoddodd y cogyddion teledu Dudley Newbery a Ross Burden amrywiaeth o ryseitiau i ni sy’n defnyddio pysgod a bwyd môr sy’n cael eu dal mewn ffordd gynaliadwy. Dechreuasom hybu’r ryseitiau yn lansiad Gwyl Bysgod Sir Benfro yn Aberdaugleddau ddiwedd mis Mehefin.

^

Ewch i wwf.org.uk/cymru i gael gwybod mwy ac i lawrlwytho’r ryseitiau. Neu ewch i wefan yr MSC sef www.eng.msc.org i gael gwybod ble yn eich ardal chi y gallwch brynu pysgod a bwyd môr sydd wedi’u hardystio gan yr MSC.

© W

WF

CY

MR

U

Page 4: Cymru SEiren ACTIV8 - WWF

Bu Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, yn helpu i dynnu sylw at y ffordd y mae pawb yng Nghymru’n defnyddio mwy na’i gyfran deg o adnoddau naturiol y blaned yn ein digwyddiad ‘Cymru Un Blaned’ yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf.

Dywed WWF Cymru fod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ran bwysig i’w chwarae mewn helpu pobl i fyw o fewn gallu naturiol y blaned. Mae ein cartrefi, ein cymunedau a’n ffyrdd o fyw – yr hyn yr ydym yn ei brynu a’i ddefnyddio, yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio a’r hyn yr ydym yn ei wneud â’n gwastraff – i gyd yn cael effaith ar ein hamgylchedd.

“Pe bai pawb yn byw yn yr un ffordd ag yr ydym ni yng Nghymru, byddai arnom angen tair planed i’n cynnal,” dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru. “Mae ein gorddefnyddiaeth yn arwain yn uniongyrchol at newid yn yr hinsawdd,

difodiant rhywogaethau a methiant pysgodfeydd. Gallwn ddatrys y broblem hon trwy symud at ffyrdd o fyw gwahanol – ond gwell, iachach a hapusach – yr ydym ni’n eu galw’n ffyrdd o fyw Un Blaned.”

Ymunodd llawer o Aelodau’r Cynulliad ac arweinwyr pleidiau yn cynrychioli pob un o’r pedair prif blaid wleidyddol yn y digwyddiad i ddysgu mwy am Gymru Un Blaned.

Digwyddiadau’r haf

“Mae’n frawychus pa mor gyflym mae ein ffordd o fyw’n difrodi’r blaned”

Gweinidog yn helpu i hybu Cymru Un Blaned

Cymru SIREN 4

Ein cyfrifiannell ôl troed ar-lein

Buom hefyd yn brysur mewn digwyddiadau cyhoeddus pwysig yn ystod yr haf, yn hybu cyfrifiannell ôl troed ein hymgyrch Byw ar Un Blaned. Nod y gyfrifiannell ar-lein hon yw helpu defnyddwyr i ganfod ffyrdd y gallan nhw leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.Buom yn lansio’r gyfrifiannell ôl troed yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, lle daeth llysgennad WWF-UK, Terry Waite, i’n stondin i gael gwybod mwy am ein hymgyrch. Darganfu Branwen Gwyn, sy’n gyflwynydd ar deledu Cymru, fod ei ffordd o fyw angen cyfwerth â 2.57 planed, sy’n is na’r cyfartaledd yn y DU, sef 3.2.

Wyneb adnabyddus arall sy’n cefnogi WWF ac yn rhoi tipyn o sbeis yn ei ffordd werdd o fyw yw Melanie C. Aeth y Spice Girl ar lein i ddefnyddio ein cyfrifiannell ecolegol a darganfu fod ei ffordd o fyw angen 2.30 planed.

“Mae’n frawychus pa mor gyflym mae ein ffyrdd o fyw’n difrodi’r blaned,” medd Melanie. “Rhaid i ni leihau ein hôl troed i lefel un blaned, gan olygu y byddwn yn byw mewn cytgord â natur. Mae cyfrifiannell ôl troed ar-lein WWF yn ffordd wych o’n helpu ni i gyd i gael gwybod sut y gallwn fyw mewn ffordd wyrddach. Drwy wneud y dewisiadau iawn fel unigolion gallwn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd yng Nghymru ac o gwmpas y byd.”

Mae WWF Cymru wedi recriwtio pum gwirfoddolwr ôl troed arall o bob cwr o Gymru: Kate Hamer o’r Trallwng, Powys; Ruth Mullineux o Dreganna; Lucy Tibbot o Sblot, Caerdydd; Marc Richards o Aberystwyth, Ceredigion; a Richard Walton, Bae Caerdydd.I gael gwybod sut wnaethon nhw yn ein prawf ecolegol ewch i wwf.org.uk/cymru. Os hoffech chi fesur eich ôl troed ecolegol chithau a darganfod sut y gallwch leihau’ch effaith ar y blaned, ewch i wwf.org.uk/calculator

© W

WF

CY

MR

U

Page 5: Cymru SEiren ACTIV8 - WWF

Cymru SIREN 5

Cynhadledd Cymru Un Blaned

Ar Hydref 11, 2007 mae WWF Cymru yn trefnu cynhadledd Cymru Un Blaned yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Nod y gynhadledd yw dwyn ynghyd arweinwyr o Gynulliad Cymru, byd busnes, gwleidyddiaeth a’r gymdeithas sifil yng Nghymru.

Y gynhadledd fydd y llwyfan i lansio ymchwil ‘Cymru Un Blaned’ WWF Cymru. Mae’n amlinellu atebion, yn ogystal â heriau, i Gynulliad Cymru a’r sector preifat a’r sector cyhoeddus ar sut i weddnewid economi Cymru i ddefnyddio ynni ac adnoddau eraill mewn ffordd anhygoel o effeithlon.

Gyda’n gilydd, byddwn yn trafod gweledigaeth dyfodol Un Blaned – byd lle, erbyn 2050, gall pawb ym mhob man fwynhau bywyd o ansawdd da o fewn ei gyfran deg o adnoddau’r Ddaear a gadael lle ar gyfer lleoedd gwyllt a bywyd gwyllt.

“Rydym yn ystyried y gynhadledd hon fel y cam cyntaf ar ein taith tuag at Gymru Un Blaned. Un o ganlyniadau allweddol y diwrnod yw sefydlu tasglu a fydd yn arwain tuag at wireddu’r weledigaeth hon i Gymru,” medd Morgan Parry.

I gael mwy o wybodaeth ewch i wwf.org.uk/cymru

1 One Planet Living is a joint initiative with

© W

WF

CY

MR

U

Page 6: Cymru SEiren ACTIV8 - WWF

Mynd yn wyrdd mewn pythefnosMae WWF Cymru, ar y cyd gyda’r Llawlyfr Gwyrdd, wedi cynhyrchu’r Llawlyfr Gwyrdd Bach i Gymru, sy’n rhoi gwybodaeth mewn tameidiau bach a fydd yn eich helpu chi a’ch teulu i ymaddasu i ffordd o fyw fwy ecogyfeillgar.

Elfen allweddol o’r Llawlyfr Gwyrdd Bach yw cynllun a fydd yn helpu’r darllenwyr i fynd yn wyrdd mewn pythefnos a gwneud eu rhan i warchod y blaned a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Mae defnyddwyr yng Nghymru yn cydnabod fwyfwy fod yr hyn maen nhw’n ei brynu yn cael effaith ar yr amgylchedd. O ganlyniad maen nhw eisiau gwneud mwy i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, colli rhywogaethau a dinistrio coedwigoedd y byd,” medd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru. “Mae’r llawlyfr hwn yn nodi ffyrdd y gall defnyddwyr leihau eu hôl troed a helpu i symud Cymru o’i ‘ffordd o fyw tair planed’ tuag at Gymru Un Blaned.”

Lawrlwytho am ddim a chopïau am ddim!

BETH SY’N DIGWYDD YN Y CYNULLIADNEWYDDION O’R SENEDD

Fel y mae llawer yn cydnabod erbyn hyn, newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r

ddynoliaeth a bydd ein hymateb i’r her hon dros y ddeng mlynedd nesaf yn ein diffinio ni fel cenhedlaeth.

Bu WWF Cymru yn lobïo’n galed ar neges syml iawn yn y cyfnod cyn yr etholiad: ‘Gwireddu Cymru Un Blaned’.

I gyflawni hyn, awgrymasom dri mesur

• Lleihau ôl troed carbon Cymru o leiaf 3% bob blwyddyn

• Sefydlogi a lleihau ôl troed ecolegol Cymru i lefel Un Blaned

• Gwarchod amgylchedd morol Cymru trwy gefnogi deddfwriaeth ar gyfer Mesur morol sy’n sicrhau bod moroedd Cymru’n cael eu rheoli’n gynaliadwy trwy system gynhwysfawr o gynllunio gofodol morol

Felly i ba raddau y cyrhaeddwyd y consensws hwn ar yr amgylchedd yn y trafodaethau prysur a fu ar ôl Mai 3ydd?

Y polisi allweddol i fynd i’r afael â’n gollyngiadau cynyddol yng Nghymru yw’r nod i sicrhau lleihau carbon 3% bob blwyddyn erbyn 2011 mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Hwn yw’r ymrwymiad cyntaf i ni ei weld erioed yng Nghymru i darged i leihau gollyngiadau bob blwyddyn. Mae hyn i’w longyfarch – yn rhannol, mae’n un o’r pethau allweddol yr oedd WWF Cymru’n gofyn amdano.

Gwaetha’r modd, nid oedd dim sôn am y Mesur Morol hollbwysig yn y ddogfen Cymru’n Un. Mae arnom angen Deddf Forol newydd ar frys i ddiweddaru’r ffordd y rheolir ein

gweithgareddau ar y môr ac i warchod ein bywyd gwyllt morol. Rhaid i’r Ddeddf Forol sicrhau rheoleiddio mwy deallus a symlach

a phenderfyniadau mwy cydgysylltiedig gan y llywodraeth. Anfonwch e-bost at eich AS yn awr i sicrhau y caiff Deddf Forol y DU ei chyflwyno’n ddi-oed. Dim ond dwy funud mae’n cymryd ac mae pob e-bost yn cyfri. Ewch i wwf.org.uk/marineact/fairshare.asp

Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yn awr yw dechrau mynd i’r afael â’r problemau hyn gyda’r ymroddiad, y penderfyniad a’r weledigaeth y mae eu hangen. Credwn y gellir cael consensws trwy gyd-weledigaeth o Gymru well. Ydych chi eisiau gwybod beth allai’r fath weledigaeth fod? Ewch i living wwf.org.uk/oneplanet

Gwnaed cynnydd yn y ddogfen Cymru’n Un, ond eto ymddengys fod yna ddiffyg ymdeimlad o frys a gweledigaeth wleidyddol o hyd. Gyda Jane Davidson, rydym yn meddwl y gallai hynny fod ar fin newid…. Go to living wwf.org.uk/oneplanet

Sicrhau lleihau carbon 3% bob blwyddyn erbyn 2011 mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig

Cymru SIREN 6

Gallwch lawrlwytho ffeil PDF o’r Llawlyfr

Gwyrdd Bach i Gymru o wwf.org.uk cymru

neu greenguide.co.uk. Mae copïau printiedig ar gael am

ddim i sefydliadau, busnesau, elusennau,

ysgolion a chynghorau lleol eu dosbarthu. I ofyn am gopïau, anfonwch e-bost at [email protected]

© L

IZ S

MIT

H