digwyddiadau: amgueddfa genedlaethol y glannau
DESCRIPTION
Digwyddiadau: Tachwedd 2014 – Chwefror 2015TRANSCRIPT
1
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tachwedd 2014 – Chwefror 2015
Digwyddiadau
ww
w.am
gu
edd
facymru
.ac.uk 0300 111 2 333
Dathlu Dydd
Gwyl Dewi Sad 28 Chwefror
12pm – 4pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tafell o fara brith AM DDIM gyda phaned o de neu goffi ffilter.Llenwch y daleb er mwyn ei defnyddio.
Cod post
_______________________
Un daleb i bob person ar bob ymweliad. Daw’r cynnig i ben ar 28 Chwefror 2015.
Dewch draw!
Ymlaciwch
O ddigwyddiadau Nadoligaidd i ffilmiau, gwyddoniaeth a sgyrsiau gwych, bydd rhywbeth i bawb yn y Glannau dros y gaeaf.
Cadwch lygad am y pabi coch sy’n dangos pa ddigwyddiadau ac arddangosfeydd fydd yn adrodd hanes dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
Dweud eich dweud!
Cofiwch lenwi Taflen Adborth yn y dderbynfa
er mwyn cael dweud eich dweud am ein
gwasanaeth.
yng
GlannauNghaffi’r
Rhannwch eich profiad! Hoffwch ni ar Facebook /waterfrontmuseum
Dilynwch ni ar Twitter @the_waterfront
Dywedwch wrth y byd trwy wefan Trip Advisor!
Ble ydyn ni? Dafliad carreg o arfordir arbennig Bae Abertawe, a phum munud ar droed o ganol y ddinas, mae’r Amgueddfa yn yr Ardal Forwrol sy’n llawn atyniadau diddorol a hanesyddol. I lawrlwytho Llwybr y Marina a dechrau cynllunio’ch diwrnod, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk
Ar y bwsEwch i www.cymraeg.traveline-cymru.info am amserlenni ac arosfannau.
Ar y fforddO’r tu allan i Abertawe, gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 a dilyn yr arwyddion brown. O’r tu mewn i Abertawe, mae’r Amgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth, drws
nesaf i Ganolfan Hamdden Abertawe (LC). Ar gyfer teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post SA1 3ST.
Ar y trên Mae Abertawe ar brif lein Paddington Llundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd i Gaerfyrddin a’r gorllewin, ac i orsafoedd y canolbarth ar lein Calon Cymru.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol) 3
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ffordd Ystumllwynarth, Ardal Forwrol, Abertawe SA1 3RD (029) 2057 3600 (galwadau cyfradd leol).
Gwybodaeth i YmwelwyrCyfleusterau• Siop roddion
• Caffi a man chwarae i blant
• Mynediad a pharcio i’r anabl
• Cadeiriau olwyn ar gael drwy ofyn
• Cyfleusterau newid cewyn
• Ty bach Lleoedd Newid
• Dolen sain ar gael
• Loceri
• WiFi am ddim
• Maes parcio talu ac arddangos (ar bwys LC, Ffordd Ystumllwynarth).
Ymweliadau Grŵp Diwrnod delfrydol ar gyfer grwpiau. Archebwch ymlaen llaw i gael:
• Taith dywys am ddim
• Gostyngiad o 10% yn y caffi (o wario o leiaf £5 y pen)
• Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen)
• Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau.
Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk cyn teithio’n unswydd.
Dylunio gilladvertising.com
MYNEDIAD AM D
DIM
MYN
EDIAD AM DDIM
4 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Tachwedd Sad 8 a Sul 9 Tach12.30pm-3.30pm Pin Pabi fydd yn Para am Byth
Dewch i greu broetsh siâp pabi ar gyfer Sul y Cofio gan ddefnyddio blodau defnydd.
Sad 8 Tach11am Taith Gerdded Dylan Thomas: Uplands
Taith lenyddol arbennig dan arweiniad Peter Thabit Jones o gwmpas man geni Dylan a chael cipolwg diddorol ar ei fywyd cynnar. Taith: hawdd Man cyfarfod: Uplands TavernMae’r daith yn dibynnu ar dywydd ffafriol.
Gwe 7 Tach10am Amser Canu’r Llygod Lleiaf
Dewch i gyflwyno’r Gymraeg i’ch baban a dysgu geiriau a brawddegau syml i’w defnyddio adre. Sesiwn gan Twf.
Gwe 7 Tach10.30amClwb y Llygod Bach: Y Gaeaf
Galwch draw gyda’ch plantos i chwarae, creu, canu, symud a chyfarfod â Morys, llygoden fach yr Amgueddfa. Bydd celf a chrefft a chaneuon a straeon dwyieithog.
Gyda Menter Iaith Abertawe, Twf, Mudiad Meithrin a’r Urdd.
Llun 27 Hyd-Sul 2 Tach12.30pm-3.30pmCreu Tri Pheth Cŵl â Gwelltyn
Crefftau clyfar gan gynnwys gwibiwr chwim a gêm pêl yn arnofio.
Sad 1 Tach 10.30amClonc ar y Cei
Taith o’r orielau yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phaned am ddim.
Maw 4, 11, 18 a 25 Tach 10.30am-12.30pmClwb Llyfrau
Dewch i drafod llyfrau ac awduron hen a newydd! Thema mis Tachwedd yw awduron Cymreig neu lyfrau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
plant dan 5
hyd at flwydd
oed
Sul 9 Tach10am-3pmMarchnad y Marina Marchnad stryd newydd sbon yn Sgwâr Dylan Thomas yn cynnig amrywiaeth o fwyd ffres blasus a chrefftau cartref cain.
5
Sul 9 Tach2pm Taith Gerdded Dylan Thomas: Y Marina Taith lenyddol arbennig dan arweiniad Peter Thabit Jones o safleoedd cyfoes a hanesyddol sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas. Taith: hawddMan cyfarfod: Derbynfa’r AmgueddfaMae’r daith yn dibynnu ar dywydd ffafriol.
Sul 9 Tach 2.30pmA Month in the Country (PG 1987)
Sad 15 a Sul 16 Tach12.30pm-3.30pmCreu ’Tash Mis Tashwedd!
Dewiswch o blith y mwstashys hanesyddol i ddathlu mis Tashwedd!
Sad 15 Tach11amRhyfel yn Oes y Croesgadau: Dau Fyd yn Gwrthdaro
Yr Athro John France (Prifysgol Abertawe) yn trafod gwahanol ddulliau
ymladd y croesgadwyr a’r Saraseniaid yn yr oesoedd canol. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
Sad 15 Tach1pm a 3pmGwyddoniaeth Stryd:Rhyfeddodau’r gaeaf a sut i greu pelen eira anhygoel
Ymunwch â ni i drafod gwyddoniaeth wych y gaeaf.
Sad 22 Tach 11amLle Dylan
Ymunwch â Ceri Thomas, yr artist, curadur a hanesydd celf o Abertawe, i drafod ei gelf, ei arddangosfa, Lle Dylan, yn yr Amgueddfa a byw yng nghartref cyntaf Dylan Thomas. Sgwrs gyda Hilly Janes, bywgraffydd Dylan Thomas.
Sad 22 Tach2pmPortread o Dylan Thomas
Ymunwch â Hilly Janes, bywgraffydd Dylan Thomas wrth iddi son am ei thad, yr artist Alfred Janes, y mae
ei bortread o’i gyfaill y bardd i’w gweld yn yr Amgueddfa. Sgwrs gyda Ceri Thomas, artist, curadur a hanesydd celf.
Sad 22 a Sul 23 Tach11.30am, 1pm a 2.30pmCalendr Adfent 3D
Dewch i greu calendr Adfent 3D.
Gwe 28 Tach7pm Gwin ar gyfer y Nadolig
Tocynnau £15/£12.50. Ar gael o siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600.
Sad 29 a Sul 30 Tach 10am-4pmFfair WerddLlond lle o gynnyrch organig, masnach deg, lleol, gwyrdd ac wedi’u hailgylchu yn ein ffair boblogaidd. Trefnir gan y Ganolfan Amgylchedd.
oed 7-12
oed 6+
Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
6 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Sad 6 Rhag1.30pmY Stondin Grefftau: Torch Nadoligaidd
Defnyddio iorwg lleol, pren sinamon ac orennau sych i greu addurn naturiol. Darperir y deunyddiau. £5 y pen.
Sul 7 Rhag3pm (Cymraeg) 2pm (Saesneg)Nadolig Plentyn yng Nghymru (U 2009)
Sul 7 Rhag, 2pmNadolig Plentyn yng Nghymru: Cyfarfod â’r Cynhyrchydd
Dewch i gwrdd â’r cynhyrchydd sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Michael Jeffrey, o gwmni Brave New World Productions a chlywed am greu’r ffilm o waith Dylan Thomas.
Sad 6 Rhag12pm-3.30pmGwyddoniaeth Stryd: Deg eiliad i greu eira!
Cipolwg llawn hwyl ar wyddoniaeth yr wyl a sut i greu eira mewn eiliadau.
Sad 6 Rhag11am Crefftau Cynnil i Blant: Ceirw Llychlyn
Dewch i dorri siapiau o dempled a’u rhoi at ei gilydd i greu pen carw Llychlyn 3D i addurno’ch stafell wely. £2.50 y plentyn.
Gwe 5 Rhag10am Amser Canu’r Llygod Lleiaf
Gweler tud. 4.
Gwe 5 Rhag10.30amClwb y Llygod Bach: Y Nadolig
Gweler tud. 4.
Sad 6 Rhag 10.30amClonc ar y Cei
Gweler tud. 4.
Sad 6 Rhag 12pm-4pm Diwrnod Hwyl yr Ŵyl
Gyda theulu anhygoel y pengwiniaid animatronig, crefftau i blant, carolau ac ymweliad gan Siôn Corn!
RhagfyrAmgueddfa Genedlaethol y Glannau
oed 7-12
plant dan 5
hyd at flwydd
oed
oed 7+
© Brave New World Productions
7
Merch 11 Rhag 7pmNoson Gwis y Nadolig
Rowndiau cerddoriaeth, gwybodaeth gyffredinol, gwrthrych cudd a ffilmiau Nadoligaidd. Bydd gwobrau!Tocynnau £3.50 y pen (gan gynnwys gwydraid o win y gaeaf a danteithion ar y bwrdd) o siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600. Timau o 6 ar y mwyaf.
Gwe 12-Sul 14 Rhag10am-4pm Ffair Wydr NadoligaiddGwaith gwydr a wnaed â llaw gan fyfyrwyr Ysgol Gwydr Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Sad 13 Rhag10am-4pm Ffair ‘Vintage’ a Gwaith Llaw y NadoligGwledd o hen bethau a nwyddau a wnaed â llaw dewch i brynu’r anrheg unigryw berffaith.
Sad 13 Rhag 2pmTân yn yr Awyr
Ymunwch ag Andrew Lound a Chymdeithas Seryddol Abertawe i glywed hanes dramatig digwyddiad ‘Tunguska’, 1908.
Sul 14 Rhag10am-3pmMarchnad y MarinaGweler tud. 4.
Sul 14 Rhag2.30pmRoy Noble: Yn ôl i’r Dyfodol
Ymunwch â seren y teledu a’r tonfeddi, Roy Noble, wrth iddo olrhain ei daith at enwogrwydd a chael bod yn llais cyfarwydd yng nghartrefi Cymru. Bydd cyfle arbennig i gwrdd â Roy a chael ei lofnod ar eich llyfr o 3.30pm ymlaen.
Sad 20 Rhag11amTua’r Gorllewin: Taith y Dwyreinydd Jones
Sgwrs gan yr Athro Michael Franklin (Prifysgol Abertawe) am Syr William Jones. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
Sad 20 Rhag2pm Frozen 3D (PG 2014)
Sul 21 Rhag2pm It’s a Wonderful Life (U 1946)
Sad 27-Merch 31 Rhag a Gwe 2-Sul 4 Ion12.30pm-3.30pm Calendr Cytserau sy’n Tywynnu yn y Tywyllwch
Galwch draw i greu calendr cytserau cwl mewn pryd i ddathlu’r flwyddyn newydd!
Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
8 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Sul 25 Ion 1pm-4pm Nodau Pêr y DelynDewch i glywed y delynores ddawnus Shelley Fairplay wrth iddi lenwi’r Amgueddfa â nodau pêr y delyn. Yna cewch glywed perfformiad cyhoeddus cyntaf ensemble newydd o fyfyrwyr o Gaerdydd, Dynamic Harps.
Sul 25 Ion 12pmGweithdy Telynau Bach
Dewch i roi tro ar delyn fach yng nghwmni’r delynores, Shelley Fairplay. Bydd yn dangos y delyn bedal, y delyn Geltaidd a’r delyn fach. Nifer benodol o lefydd, archebwch wrth gyrraedd.
Y mis hwn, byddwn ni’n diosg diflastod y gaeaf ac yn trafod llyfrau sy’n gwneud i chi wenu.
Sad 17 a Sul 18 Ion12.30pm-3.30pmCreu Bwydwr Adar
Sad 17 Ion11amCartwnau’r Rhyfel Byd Cyntaf
Sgwrs gan yr Athro Chris Williams (Prifysgol Caerdydd) am gartwnau Rhyfel Byd Cyntaf Joseph Morewood Staniforth. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
Sul 18 Ion2.30pmThe Penguin King 3D (U 2012)
Sad 24 a Sul 25 Ion12.30pm-3.30pm Hudlath Hyfryd Santes Dwynwen
Galwch draw i greu hudlath hyfryd fydd yn cynnwys gair o Gymraeg i ddathlu’r hen draddodiad Cymreig.
Sad 10 Ion10.30amClonc ar y Cei
Gweler tud. 4.
Sad 10 a Sul 11 Ion12.30pm-3.30pmPypedau Llwy’r Fari Lwyd
Dewch i ddathlu’r traddodiad Cymreig hwn trwy greu pyped pen ceffyl i fynd adre gyda chi.
Sad 10 a Sul 11 Ion12.30pm-3.30pmChwarae’r Llwyau
Ymunwch â’r chwaraewyr llwy campus Pat Smith a Ned Clamp fydd yn perfformio ar eich cyfer ac yn arwain gweithdy.
Sul 11 Ion 10am-3pmMarchnad y MarinaGweler tud. 4.
Maw 13, 20 a 27 Ion10.30am-12.30pmClwb Llyfrau
Dewch i drafod llyfrau ac awduron hen a newydd!
IonawrAmgueddfa Genedlaethol y Glannau
9
Sad 31 Ion 11am Gwaith a Buddugoliaeth: Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf
Sgwrs gan Robert Protheroe-Jones (Amgueddfa Genedlaethol y Glannau) am gyfraniad y Cymry at ymdrech y rhyfel. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
Maw 3, 10 a 24 Chwe10.30am-12.30pmClwb Llyfrau
Dewch i drafod llyfrau ac awduron hen a newydd! Y mis hwn, byddwn ni’n diosg diflastod y gaeaf ac yn trafod llyfrau sy’n gwneud i chi wenu.
Gwe 6 Chwe10am Amser Canu’r Llygod Lleiaf
Gweler tud. 4.
Gwe 6 Chwe10.30amClwb y Llygod Bach: Cariad
Gweler tud. 4.
Sad 7 Chwefror 10.30amClonc ar y Cei
Gweler tud. 4.
Sad 7 Chwe11amCrefftau Cynnil i Blant: Pegiau
plant dan 5
hyd at flwydd
oed
oed 7+
Dewch draw i greu bwrdd pegiau neu ddalwyr nodiadau i’w rhoi ar yr oergell. £2.50 y plentyn.
Sad 7 Chwe1.30pm Y Stondin Grefftau: Pegiau
Dewch i droi pegiau cyffredin yn fwrdd nodiadau hardd i gadw trefn ar eich lluniau a phapurach. Darperir y deunyddiau – croeso i bawb o bob gallu. £5 y pen.
Sul 8 Chwe10am-3pmMarchnad y MarinaGweler tud. 4.
Sul 8 Chwe10am-4pmArwerthiant Ail-law ar AmrantO wrthrychau’r gorffennol i nwyddau cartref, ategolion, llyfrau a thrugareddau, rydych chi’n siwr o gael bargen. Trefnwyd ar y cyd â Smock Vintage, e-bostiwch [email protected] am fanylion stondinau.
Chwefror
Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
10 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Hanner tymor
Sad 14 Chwe2pmCwis i Blant
Cwis hanner tymor sy’n siwr o wneud i chi grafu pen! Bydd gwrthrychau dirgel, clipiau cartwn a gwobrau. Dim mwy na 6 ym mhob tîm.
Sad 14 Chwe7pmCwis Sant Ffolant
Dewch at eich gilydd i gystadlu yn y rowndiau cerddoriaeth, gwrthrych cudd a ffilmiau rhamant. Bydd gwobrau! Tocynnau £3.50 y pen (gan gynnwys gwydraid o win a danteithion ar y bwrdd) o siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600. Timau o 6 ar y mwyaf.
Hanner tymor
Sul 15 Chwe2.30pmMaleficent (PG 2014)
Hanner tymor
Llun 16-Sul 22 Chwe11.30am, 12.30pm, 2pm a 3pmAddurno Llusern Lwcus
I ddathlu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd, dewch i droi llusern bapur blaen yn addurn lliwgar.
Sad 21 Chwe 11amHanes Cudd Anabledd ym Meysydd Glo Prydain, 1780-1880 Sgwrs gan Daniel Blackie (Prifysgol Abertawe) fydd yn datgelu’r hanes cudd hwn gan ddefnyddio gwaith ymchwil newydd i hanes cymdeithasol diwydiant glo Prydain. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
oed 7-11
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Sad 14 Chwe11am‘Avenging Angels’
Sgwrs â lluniau gan Glenys Davis, awdur Avenging Angels, am ei gwaith ymchwil i flynyddoedd cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
Hanner tymor
Sad 14 a Sul 15 Chwe12.30pm – 3.30pmCelf Anferth: Cariad
Dewch i’n helpu ni i greu llinell anferth o eiriau i’w hongian o gwmpas yr Amgueddfa i ddathlu Sant Ffolant. Gyda’r artist Carlos Pinatti.
Sad 14 Chwe 2pmLesbiaid mewn Ffuglen Gymreig Sgwrs mis LHDT gan Dr Kirsti Bohata(Prifysgol Abertawe).
11
Hanner tymor
Sad 21 Chwe1pm a 3pmSioe Wyddoniaeth: Swigod a Balŵns
Sioe hanner tymor yn trafod holl fwrlwm a hwyl swigod a balwns.
Sad 28 Chwe11amY Rhyfel Byd Cyntaf: Y Frwydr ar y Moroedd Sgwrs â lluniau gan Ray
Savage am ran y Llynges Frenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanes.
Sad 28 Chwe12pm-4pmDathlu Dydd Gŵyl Dewi
Ymunwch â ni i ddathlu Cymru a Chymreictod – o grefftau i gorau ac o ddreigiau i gennin Pedr!
Sad 28 Chwe a Sul 1 Mawrth12.30pm-3.30pmPypedau Dreigiau sy’n Symud
Dewch i greu draig ag adenydd sy’n symud neu ben draig danllyd o gwpan papur.
Arddangosfeydd
Bob dydd 10am – 5pm
Tan Sul 15 Mawrth
Gwaith a Buddugoliaeth: Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf Mentrodd degau o filoedd o Gymry i frwydro yn Ewrop rhwng 1914 a 1918. Ond yn ôl yng Nghymru fach, roedd miloedd hefyd yn gweithio yn y diwydiannau hanfodol – yn eu plith y menywod a oedd yn rhan o’r gweithlu am y tro cyntaf. Bydd yr arddangosfa hon yn edrych ar eu cyfraniad, y broses gynhyrchu, yr effaith ar ymdrech y rhyfel, ac effaith y rhyfel ar ddiwydiant Cymru.
Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
12 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Tan Sul 30 TachLle DylanYm 1934, gadawodd Dylan Thomas 5 Cwmdonkin Drive am Lundain. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, aeth Ceri Thomas, a aned yn Llundain, i fyw yng nghartref y bardd yn Abertawe a dechrau creu gwaith celf gan ddwyn ysbrydoliaeth o eiriau, enw ac ardal Dylan.
Tan Sul 1 Chwe Dylan Thomas gan Alfred Janes Cyfle arbennig i weld portread o Dylan Thomas gan ei gyfaill, Alfred Janes.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Sad 8 Tach-Sul 22 Chwe Cofeb – Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy WydrMae’r arddangosfa hon gan Ysgol Gwydr Abertawe yn dangos detholiad o gartwnau (dyluniadau ar gyfer y gwydr) a gweithiau celf cyfoes sy’n ymateb i’r rhyfel.
Sad 6 Rhag-Sul 29 MawrthCalchMae project Calch yn ymchwilio, yn cadw ac yn dehongli’r chwarelau calchfaen ac odynnau calch yn Chwarel Herbert, ger Brynaman. Dyma arddangosfa sy’n trafod y diwydiant yng Nghymru a llwyddiannau’r project cymunedol hwn.
Sad 31 Ion-Sul 22 MawrthByw ar Bwys y MôrYn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Forwyr 2013, comisiynodd Porthladd Aberdaugleddau’r portreadau hyn o bobl sy’n ennill eu bywoliaeth ar y môr. Cafodd y ffotograffau eu tynnu gan ddisgyblion Ysgol Aberdaugleddau i godi ymwybyddiaeth am gyfraniad llongwyr syn gweithio yn Sir Benfro.
Tan fis MawrthGeiriau Dylan: Llwybr Llenyddol y Glannau Dewch i ddilyn dyfyniadau o waith Dylan Thomas a ddewiswyd gan y bardd ac arbenigwr ar Dylan Thomas, Peter Thabit Jones.
Arddangosfeydd
‘Tillerman (Green and Dying)’, olew ar fwrdd
© Philip Newman, Arweinydd Tîm,Gwarchodfa Natur Forol Skomer
Bob dydd 10am – 5pm