Download - Amddiffyn y genedl
Amddiffyn y genedl
Darganfyddiad Cyfeiriad Radio
(RDF: Radio Direction-finding)
Llinell amser radar
Ffeithiau am radar
Diagramau radar a gweithgareddau
1935 19451937 1939 1941 1943
Dechreuodd wyddonwyr Prydain arbrofi gydag offer darganfod cyfeiriad
radio, RDF.
Roedd Llynges yr Almaen wedi creu set
radar oedd yn gweithio yn 1934.
‘Arbrawf Biggin Hill’’.Arbrofion ymarferol ar radar
wnaethpwyd gan yr RAF.
Ychwanegwyd 17 gorsaf radar newydd i’r gadwyn o orsafoedd
‘Chain Home’ ar hyd arfordir Lloegr.
Awst 1940. Mae’r Luftwaffe yn targedu gorsafoedd radar
yn y gobaith am ‘ddallu’ Prydain.
Yn y Môr Tawel roedd radar wedi canfod awyrennau llu awyr Japan oedd ar fin ymosod ar ganolfan llynges yr Unol Daleithiau, yn Pearl Harbour.
Cafodd y signalau eu hanwybyddu!
Wrth fomio dinas Hamburg yn yr Almaen, roedd
awyrennau Prydain yn gollwng stribedi
alwminiwm. Roedd y stribedi hyn yn ymyrryd yn ddifrifol ar sgriniau radar yr
Almaenwyr.
Radar – Ffeithiau Diddorol
Defnyddiwyd offer ymyrryd ar radar yn helaeth yn ystod y
dyddiau’n arwain at Oresgyn Ewrop (Dydd-D). Y bwriad oedd
rhwystro’r Almaenwyr rhag canfod pryd a ble byddai milwyr
Prydain a’r U.D.A. yn glanio.
Y gorsafoedd radar oedd amddiffyniad cyntaf Prydain. Roedden nhw’n helpu i ganfod awyrennau’r gelyn cyn iddyn nhw gyrraedd Ynysoedd Prydain.
Byddai’r signalau’n cael eu taflu o drosglwyddyddion radio ac ar draws y sianel. Byddai’r signalau’n bownsio nôl i’r gorsafoedd derbyn radar. Roedd awyrennau’r gelyn yn ymddangos fel ‘smotiau’ ar y sgrin radar.
Roedd y ‘smotiau’ hyn yn rhoi darlun eithaf cywir o faint, safle, uchder a phellter cyrch gelyn oddi wrth arfordir Prydain.
Sut mae Radar yn gweithio?
Mae trosglwyddydd yn anfon signal radio i’r awyr mewn hyrddiadau byr. Os yw’r signal yn cyfarfod â gwrthrych (awyren) bydd y signal radio’n cael ei adlewyrchu nôl at dderbynnydd. Bydd hyn yn ymddangos ar sgrin radar fel naid neu bigyn ar linell wastad, hir.
Roedd modd defnyddio hyn i weithio allan yn fras gyfeiriad, pellter ac uchder yr awyren. Byddai’r wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen i’r Ystafell Reoli. Yna, byddai awyrennau ymladd yn cael eu sgramblo a byddai Rheolaeth Awyrennau Ymladd yn cyfeirio’r awyrennau hynny at y targed.
20 40 60Curiad EcoDarged – mae bod dros y marc 60 yn
golygu bod yr awyrennau 60 milltir i ffwrdd.
Derbyn gwybodaeth o’r gorsafoedd derbyn radar.
Mae’r Ystafell Hidlo Gwybodaeth ym mhencadlys Rheoli Awyrennau Ymladd yn dechrau plotio cyrchoedd y gelyn.
Pasio gwybodaeth ymlaen i Bencadlys y Grŵp.
Mae Corfflu’r Gwylwyr yn anfon gwybodaeth ychwanegol at y rheolwyr fel y daw awyrennau’r gelyn i’r golwg.
Mae sgwadronau’n cael eu sgramblo yn ôl yr angen ac yn cael eu tywys at awyrennau’r gelyn gan y rheolwyr.
Cliciwch ar y sgrin i ddilyn llif y wybodaeth
Roedd y gorsafoedd radar yn anelu i ganfod signalau dros y Sianel (Môr
Udd).
Gorsaf Chain Home, Dover
Gallai erialau derbyn y mastiau radar fod hyd at 350 troedfedd o uchder.
Er bod y mastiau’n ymddangos yn fregus roedden nhw’n dargedau anodd
i’r Luftwaffe eu taro.
*RDF oedd yr enw gwreiddiol ar radar – (Radio Direction Finding).
Does dim syndod fod gorsafoedd radar yn dargedau allweddol
i’r Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain. 12 Awst Ymosododd 14 o awyrennau Bf 109 y Luftwaffe ar orsafoedd radar, yn
cynnwys Pevensey, Rye, Dover a Ventnor.
Roedd maint bychan y gorsafoedd yn eu gwneud yn dargedau anodd eu taro. Roedd tair o’r pedair gorsaf yn gwbl weithredol eto erbyn diwedd y dydd.
15 Awst Unwaith eto, effeithiwyd ar orsafoedd radar Pevensey a Rye pan dorodd bomiau’r Luftwaffe y prif wifrau trydan. Digwyddodd yr un peth i orsaf radar Foreness a doedd ‘run o’r tair gorsaf yn gweithio am y rhan fwyaf o’r dydd.
16 Awst Gorchmynodd Goering i beidio ymosod ar orsafoedd radar Prydain rhagor. Mae’n ymddangos fel penderfyniad tyngedfennol, ond roedd Goering yn benderfynol o ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar dargedu prif feysydd awyr Prydain. Gwnaeth hyn “yng ngolwg y ffaith nad oes yr un
ohonynt (y gorsafoedd radar a ymosodwyd arnynt) wedi cael eu dinistrio hyd yn hyn.”
Pencadlys Rheoli Awyrennau
Ymladd
Maes Awyr
Corfflu’r Gwylwyr
Allwch chi farcio gyfeiriad llif y wybodaeth ar y diagram?
Pencadlys Grŵp
‘Ystafell Rheoli Sector’
Gorsafoedd Radar
Pencadlys Rheoli Awyrennau
Ymladd
Maes Awyr
Pencadlys Grŵp
‘Ystafell Rheoli Sector’
Gorsafoedd Radar
Corfflu’r Gwylwyr
Allwch chi farcio ar y diagram gyfeiriad llif y wybodaeth?
Gosodwch y wybodaeth gywir yn y blychau gwag.
Y rhain oedd amddiffyniad cyntaf Prydain
RDF
Cafodd y Luftwaffe drafferth mawr targedu a tharo’r rhain.
GweithredyddionDarganfyddiad Cyfeiriad Radio (Radio Direction
Finding) oedd yr enw gwreiddiol ar radar.
Gorsafoedd radar
Mastiau radar
Yn aml roedd y rhain yn gallu amcangyfrif maint, safle, uchder a phellter rhengoedd awyrennau’r
gelyn.
Beth rydych chi’n gallu ei gofio am radar a sut roedd yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel
Byd?
Ysgrifennwch baragraff byr sy’n disgrifio’r system amddiffynnol
oedd yn bodoli i amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau o’r awyr?
Radar
Grwpiau
Gwylwyr
Plotwyr
Sgwadronau