ennill y dwbl!...ennill y dwbl! ! !!! ! yn ystod eisteddfod genedlaethol maldwyn a’r gororau 2015...
TRANSCRIPT
-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐
Ennill y Dwbl!
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 derbyniodd Carrie Jones (Bl.6) gadair Barddas wrth ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu'r gerdd orau i blant Bl.5/6. Enw’r gerdd fuddugol oedd ‘Mordaith’. Darllenodd ei cherdd yn y Babell Lên o flaen aelodau enwog Ymryson y Beirdd. Cyflwynwyd copi o’i cherdd mewn ffrâm hyfryd . Daeth Megan Jones a Nia Jones yn gydradd 2ail yn y gystadleuaeth . Enillodd yr ysgol yr adran am yr ysgol orau. Dyma oedd achlysur i’w gofio. Mae barddoniaeth Carrie i’w weld ar dudalen 7. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili, enillodd Nia Jones (Bl.6 ) - cefnither i Carrie, y wobr 1af am ysgrifennu barddoniaeth Bl5/6. ‘Mordaith’ oedd enw ei cherdd hithau hefyd. Am glod! Mae’n amlwg fod yna rhywbeth yng ngwaed y teulu! -‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐-‐
Ysgol Dafydd Llwyd Ffôn 01686 622162
Lôn Y Parc
Y Drenewydd Gwefan yr Ysgol: www.dafyddllwyd.powys.sch.uk
YSGOL DAFYDD LLWYD
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15
HYDREF 2015 RHIFYN 14
Llywodraethwyr yr Ysgol Categori Enw Diwedd Cymuned Hywel Lovgreen 01/03/2019 Cymuned Llyr Ap Dafydd 01/03/2019 Cymuned Hywel Glyn Jones 31/08/2017 Pennaeth Siân Elizabeth Davies Awdurdod Addysg Lleol Marian Wyn Wilson 31/08/2019 Awdurdod Addysg Lleol Menna Jones 31/12/2017 Awdurdod Addysg Lleol John Benjamin Evans 31/12/2016 Cyngor Y Dre Rina Judith Clarke 31/01/2017 Rhiant Rhydian Williams 31/08/2017 Rhiant Jonathan Rees 31/08/2019 Rhiant Christopher Davies 31/08/2019 Rhiant Sharon Davies 31/08/2017 Staff Llinos Anne Green 30/09/2017 Athro Darryn Green 31/08/2019
Athrawon Ysgol Dafydd Llwyd Pennaeth: Mrs Siân Davies Dirprwy dros dro: Mrs Elin Yewdall a Mrs Eryl Edwards Meithrin: Miss Callyn Toms Derbyn: Ms Debbie Gilbert Bl 1: Mrs Eryl Edwards Bl 2: Mrs Lisa Prince Bl 3: Mrs Elin Yewdall Bl 4/5: Miss Betsan Llwyd / Mrs Anwen Jarman / Mrs Mererid Lewis Bl 5/6: Miss Angharad Davies Cydlynydd Anghenion Arbennig: Mrs Eryl Edwards Cynorthwywyr: Mrs Darlene Clifton, Miss Janet Davies, Mrs Anne Green, Mrs Eleri Green, Mrs Bethan Jones, Mrs Pauline Morgan, Mrs Sharon Williams, Miss Toni Green, Miss Josie Herdman, Mrs Sam Davies, Mrs Menna Wilson, Miss Bethan Thomas, Mrs Ruth Faber a Miss Ffion Evans, Ysgrifenyddes: Mrs Sheila Bebb Gweledigaeth Ysgol Dafydd Llwyd Y mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo’r weledigaeth y dylai plant a staff ‘Anelu’n Uchel ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel Ysgol am adeiladu ar sylfaen cadarn y gorffennol, i ddatblygu’r presennol ac anelu at ddyfodol llwyddiannus.
Gwerthoedd yr ysgol Gwerthoedd Ysgol Dafydd Llwyd yw Parch, Tegwch, Cyfeillgarwch ac Ymdrech gyda Chymreictod yn ganolig iddynt i gyd. Polisïau’r Ysgol Adolygir polisïau’r Ysgol bob blwyddyn. Hysbysir y rhieni o bob newid trwy lythyr.
Gwyliau Ysgol 2015/16 Tymor yr Hydref 2015 2 Medi - 18 Rhagfyr Hanner tymor - 26 Hydref – 30 Hydref Diwrnodau di-ddisgybl – 1 Medi, 2 Tachwedd Tymor y Gwanwyn 2016 11 Ionawr – 18 Mawrth Hanner tymor - 15 – 19 Chwefror Tymor yr Haf 2016 5 Ebrill - 19 Gorffennaf Hanner tymor - 30 Mai - 3 Mehefin Diwrnodau di-ddisgybl - 4 Ebrill, 18 & 19 Gorffennaf Oriau’r Ysgol Bore: 8.55 - 12.00 (Egwyl: 10.35 - 10.50) Amser cinio: Babanod 11.50 - 1.05 Plant Iau 12 - 1.05 Prynhawn: 1.05 - 3.30 (Meithrin: 1.05 - 3.20)
Nodyn gan y Corff Llywodraethol Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn ysgol unigryw gan mai hi yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg penodedig gyntaf yng Ngogledd Powys. Mae’r ysgol yn hybu pob agwedd drwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn. Mae’r ethos Gymraeg yn amlwg drwy adeiladau’r ysgol ac ar yr iard. Gofynnir i rieni gefnogi pob gweithgaredd ac i gadw at yr holl bolisïau. Absenoldeb heb ei Awdurdodi 2014/15 % Absenoldeb heb ei awdurdodi = 1.0% Absenoldeb a ganiatawyd = 2.8%. Presenoldeb 96.2%
Mynediad i’r Anabl Mae pob man yn yr ysgol yn gyraeddadwy i i bobl ag anableddau.
Annwyl Rieni, Mae blwyddyn academaidd 2014/15 wedi bod yn un brysur tu hwnt i’r ysgol unwaith eto. Fel Cadeirydd rwy’n ymweld â’r ysgol yn rheolaidd. Ar bob ymweliad rwy’n synnu ar ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff, ymddygiad a pherfformiadau arbennig y plant, y cyffro a’r hwyl maent yn eu cael, ond yn bwysicach, fel ysgol Gymraeg, eu sgiliau Iaith. Fe ddwedais i hyn llynedd, ond rwyf am ei hailadrodd. Mae gennyf barch o’r mwyaf i chi rieni di-‐gymraeg sydd am i’ch plant cael y cyfle i dyfu fyny gyda dwy iaith. Mae hi’n glod i’r ysgol, ac yn rhoi boddhad mawr i mi yn bersonol, i weld cyn disgyblion yr ysgol yn llwyddo mewn gwahanol yrfaoedd, ac yn defnyddio’r Iaith yn naturiol. Gobeithiaf o ddifri y bydd holl blant Ysgol Dafydd Llwyd yn parhau gyda’u haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg i sicrhau datblygiad ieithyddol a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r Iaith yn hyderus, fel pobol ifanc, ac oedolion. Heboch chi rieni, ni fase’r ysgol yn ffynnu, ac yn sicr, ni faswn ar drothwy symud i mewn i ysgol newydd sbon -‐ ysgol a fydd yn rhoi’r cyfleoedd gorau i’r plant. Mae’n amser mor gyffrous i ni gyd! Mi fydd cyfle i chi gyd ymweld â’r ysgol yn y flwyddyn newydd. Ar lefel academaidd, mae’n rhaid llongyfarch y plant ar eu canlyniadau yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft cafwyd cynnydd ym Mathemateg ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a CA2, gyda 100% o flwyddyn 2 yn cyrraedd deilliant 5+ (46% yn ddeilliant 6) a 94% o flwyddyn 6 yn cyrraedd deilliant 4+ (47% yn ddeilliant 5+). Ardderchog. Rwyf yn ymwybodol iawn o’r pwysau cynyddol mae Llywodraeth Cymru, a swyddogion Cyngor Sir Powys, yn rhoi ar ysgolion i godi safonau a chanlyniadau, ac mae’r holl staff wedi ymateb i’r her yn arbennig unwaith eto eleni. Hoffwn ddiolch o waelod nghalon i’r staff, dan arweiniad arbennig Mrs Davies, am eu hymrwymiad diflino i’r plant ac i’r ysgol. Unwaith eto, yn y flwyddyn a aeth heibio, mae plant yr ysgol wedi cael profiadau heb eu hail, ac wedi llwyddo mewn cymaint o wahanol feysydd. Ni wnaf enwi na rhestru -‐ mae’r adroddiad hon yn cynnwys digon o enghreifftiau o lwyddiannau a phrofiadau’r plant. Hoffwn ddymuno yn dda i Miss Betsan Llwyd a symudodd i fod yn bennaeth parhaol yn Ysgol Dyffryn Banw, i Mrs Menna Jones ar ei hymddeoliad fel athrawes CPA ac i Mrs Pauline Morgan wrth iddi orffen fel cynorthwyydd CA2. Diolch o galon hefyd i Mrs Meinir Ward a Mr Dan Owen wrth i’w cyfnod fel llywodraethwyr dod i ben. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Ffrindiau’r Ysgol am eu gwaith caled yn trefnu digwyddiadau llawn hwyl i godi arian i’r ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf. Er y byddwn mewn adeilad newydd yn y flwyddyn newydd, gyda’r holl adnoddau newydd, mae toriadau i gyllidebau yn her fawr i bob ysgol, ac mi fyddwn yn parhau i fod yn werthfawrogol iawn o holl ymdrechion y Ffrindiau. Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi rieni am eich holl gefnogaeth i’r ysgol. Mi rydym yn ysgol hapus a llwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at flwyddyn arall o brofiadau a llwyddiannau arbennig, ac yn enwedig i symud i’n cartre’ newydd. Hywel Lovgreen, Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethwyr
Blaenoriaethau Cynllun Gwella Ysgol 2014/5.
• Adolygu a mireinio’r ddarpariaeth ym Mathemateg. • Herio'r disgyblion mwy abl a thalentog ar draws yr ysgol. • Codi safonau ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm yn y ddwy iaith ond yn arbennig yn
y Gymraeg erbyn diwedd CA2. • Parhau i sefydlu’r systemau monitro a hunan arfarnu drwy’r ysgol gan ddatblygu rôl yr Uwch
Dim Reoli a’r Llywodraethwyr. • Paratoi ar gyfer y symudiad i’r safle newydd
Adroddiad y Pennaeth .
Bu’n flwyddyn adeiladol ym mhob ystyr - yr adeilad newydd yn datblygu ‘n gyflym, newidiadau allweddol o ran staff a chynnydd da i’w weld yng nghanlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol. Mae ymrwymiad a gwaith caled y disgyblion, staff a Llywodraethwyr yn cyfrannu ‘n helaeth at lwyddiant parhaol yr ysgol. Rwyf yn hynod falch o’r ffaith fod plant Ysgol Dafydd Llwyd yn sicr yn gwrtais ac maent yn arddangos ymddygiad arbennig o dda. Mae hyn yn bwysig iawn i mi. Pleser o’r mwyaf oedd gweld disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau. Roeddwn yn hynod falch i weld a chlywed popeth cysylltiol ag Ysgol Dafydd Llwyd ym Mhrifwyl ein cenedl. Yn ystod y flwyddyn, roedd yn rhaid ffarwelio a 2 aelod o staff gwerthfawr sef Miss Betsan Llwyd a Mrs Pauline Morgan. Diolch yn fawr iawn i’r ddwy am eu cyfraniad a’u harbenigedd i’r ysgol. Bu’n flwyddyn brysur wrth baratoi ar gyfer ein symudiad i’r ysgol newydd. Roedd ein hymweliad cyntaf i’r adeilad a cherdded drwy’r ystafelloedd yn brofiad eithriadol ac yn un yr ydym wedi aros am flynyddoedd lawer. Mae Ionawr 11 yn agosáu a chyfnod newydd cyffrous ar y gorwel........... Siân Davies
Cyfarfod y Llywodraethwyr gyda Rhieni.
Ni fu galw dros gynnal cyfarfod o’r Llywodraethwyr gyda’r Rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion ( Cymru 2013) yn ystod y flwyddyn addysgol 2014/15.
Pe byddai rhieni am ofyn am gyfarfod gyda chorff Llywodraethol bydd angen i’r rhieni fodloni 4 gofyniad statudol wrth alw cyfarfod sef;
• Rhaid i rieni 10% o’r disgyblion cofrestredig, neu rieni 30 o’r disgyblion cofrestredig ( pa un bynnag sydd isaf) arwyddo deiseb yn gofyn am gyfarfod;
• Rhaid mai diben y cyfarfod yw trafod materion sy’n ymwneud â’r ysgol; • Y nifer fwyaf o gyfarfodydd y gall rieni ofyn amdanynt o fewn unrhyw flwyddyn
ysgol yw 3; • Rhaid bod yna ddigon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i ganiatáu
cyfarfod. At hynny;
• Rhaid cynnal y cyfarfodydd cyn diwedd cyfnod o 25 diwrnod. • Mae’r cyfnod o 25 diwrnod yn cychwyn y diwrnod ar ôl derbyn y ddeiseb, ond nid
yw’n cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod ysgol. • Os oes angen cynnal cyfarfod arall o ganlyniad i ddeiseb wahanol, ni fydd y cyfnod o
25 ddiwrnod yn dechrau tan y diwrnod ar ôl cynnal y cyfarfod arall. • Rhaid bod digon o ddyddiau ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gynnal cyfarfod cyn diwedd
y cyfnod o 25 diwrnod. • Bydd cyfarfodydd yn agored i holl rieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, y
Pennaeth ac unrhyw un arall a wahoddir gan y corff llywodraethol. • Mae’n rhaid i hysbysiad y cyfarfodydd i’r rhieni gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y
cyfarfod ynghyd â’r mater neu faterion i’w trafod.
Darpariaeth Chwaraeon Yr Ysgol am 2014-15
Nofio Bu i flynyddoedd 3, 4,5, a 6 gael hyfforddiant nofio am 10 wythnos yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn. Bu tîm o’r ysgol yn nofio yng nghystadleuaeth gala’r Urdd yn nhymor yr Hydref ac yna yng ngala Ysgolion Maldwyn. Athletau Cafodd disgyblion Bl.5 a 6 gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth athletau dan do yn Maldwyn. Daeth myfyrwyr Coleg Powys am 10 wythnos i hyfforddi Bl.3-6. Mae ein disgyblion yn mwynhau pnawn dydd Gwener. Pêl-rwyd Cynhaliwyd clwb ar ôl ysgol i Fl.5/6 ac fe lwyddodd tîm yr ysgol i fynd drwodd i’r rhanbarth. Trawsgwlad Unwaith eto aeth CA2 draw i Barc Dolerw i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ysgolion Y Drenewydd.
Tenis Cafwyd hyfforddiant tenis yn ystod y flwyddyn. Bu timoedd yr ysgol yn cystadlu mewn cystadlaethau gan obeithio gwelwn ni rhai yn Wimbledon yn y dyfodol.
Mabolgampau Cafwyd diwrnod llwyddiannus i’r diwrnod mabolgampau. Llongyfarchiadau i’r anlynol ar ennill y marciau mwyaf eleni yn ein mabolgampau ysgol;
Cyfnod Sylfaen
Bl. M = Elin a Lewis. Bl. D = Cerys a Ffion, Evan a William. Bl. 1 = Loyce a Morgan. Bl. 2 = Ffion ac Archie. Bl. 3 = Tirion a Mark. Bl. 4 = Holly a Zac. Bl. 5 = Tilly a Toby. Bl. 6 = Carrie a Tomas.
Pêl Droed Cynhaliwyd Clwb Pêl Droed amser cinio a bu’r timau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau yn ystod y flwyddyn . Diolch Unwaith eto rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn helpu hyfforddi, cludo a chefnogi ein disgyblion trwy’r flwyddyn. Hefyd diolch i bawb sydd yn trefnu holl weithgareddau chwaraeon ar hyd y flwyddyn academaidd. Mae ein disgyblion yn hynod o lwcus o’r cyfleodd.
Llangrannog
Aeth criw o ddisgyblion o Flwyddyn 5 a 6 i Langrannog gyda Miss Davies, Mrs Yewdall a Mr Lovgreen ar gwrs gloywi iaith. Mae’n gyfle ardderchog i’r disgyblion gael gyfathrebu a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y Gymraeg. Gyda llawer o ysgolion eraill o Bowys yn y gwersyll yr un pryd mae pawb yn gwneud ffrindiau newydd gydag amryw yn dod i adnabod rhywun newydd fydd yn mynd i’r ysgol uwchradd yr un pryd a nhw.
Ar y Cwrs Antur
Yn paratoi am y disgo
Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.
• Barddas; Carrie yn derbyn ei chadair ac yn darllen ei cherdd yn y Babell Len. Megan Jones a Nia Jones yn dod yn gydradd 2ail. Yr Ysgol yn ennill y wobr am yr ysgol orau.
• Caitlyn yn aelod o’r Dawns Flodau. • Côr yr ysgol yn canu ym Mhabell CYTÛN a Menter Maldwyn. • Rhys yn canu ei orau yn rhagbrawf Unawd dan 12. • Disgyblion yn rhan o Gôr Plant yr Eisteddfod. • Arddangosfa o wybodaeth, ffeithiau ac arfer dda yr ysgol. • Gwaith celf Bl 5 ym Mhabell Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Eisteddfod i’w chofio!!
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili. Lawr i’r de y tro hwn ac i Gaerffili. Clod aruthrol oedd gweld Nia Jones yn ennill 1af- y fedal aur, yn yr adran Barddoniaeth i Fl.5/6. FFANTASTIG! Y Band Roc unwaith eto yn parhau gyda’u llwyddiant o ennill medal ers 10 mlynedd bellach - ennill y 3ydd wobr - Gwych! Gwefr oedd gweld y grŵp dawnsio disgo yn perfformio mor egnïol yn y rhagbrawf - arbennig iawn. Y côr hefyd yn hyderus ac yn sicr ac yn canu o’u gorau. Pleser llwyr oedd cefnogi Tomas, Owen a Rhys yn y grŵp lleisiol a hefyd Rhys yn yr Unawd i Fl3/4. Diolch i’r plant am eu gwaith caled, i’r staff am eu hyfforddi ac i’r rhieni am eich cefnogaeth.
Dyma’r ddwy gerdd a enillodd wobrau
Ysgol Goedwig.
Mae’r Ysgol Goedwig wedi cael ei gweithredu dros nifer o flynyddoedd. Ystyr yr Ysgol Goedwig yw gweithio yn yr awyr agored, astudio bywyd gwyllt, a deall beth yw cynefinoedd gwahanol. Rydym yn defnyddio offer i gynllunio pethau allan o bren. Rydym wedi cynllunio a gwneud cyllyll pren, bwydwyr adar, tai adar, tai i drychfilod a rhawiau bach i’r ardd. Hefyd ceir gyfle i dyfu planhigion a garddio. Datblygir sgiliau meddwl a llafar. Defnyddiwn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wrth gynllunio’r gwersi.
Neges wrth Mrs Pauline Morgan Hoffwn ddiolch i’r Llywodraethwyr, Staff, rhieni a disgyblion am eu cefnogaeth a’i haelioni yn ystod fy amser fel Cynorthwywraig Dysgu yn Ysgol Dafydd Llwyd. Pan ddechreuais weithio yn yr Uned Gymraeg ryw 17 ,mlynedd yn ôl. Feddyliais i byth faint y byddem yn glynu wrth fath Ysgol wych, Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda thîm ymroddedig. Roedd yn benderfyniad anodd iawn i adael Dafydd Llwyd a chymerid Swydd llawn amser yn Ysgol Hafren. Dros y blynyddoedd gwelais lawer iawn o ddisgyblion yn mynd a dod, pob un yn arbennig. I mi, y gwaith mwy pleserus oedd gweld disgyblion oedd yn cael trafferthion yn dysgu goresgyn eu problemau. Rwyf wedi cael profiadau gwerthfawr iawn ac fe fyddaf yn mynd a llawer o atgofion melys gyda mi. Dymunaf bob llwyddiant a hapusrwydd yn y dyfodol anturus sydd o’ch blaen. Mrs Pauline Morgan.
Ffeil o ffeithiau Miss Barnett
Enw llawn: Sioned Mair Lloyd Barnett Man geni: Amwythig Addysg: Ysgol Hafren/Ysgol Dafydd Llwyd Ysgol Uwchradd Caereinion Prifysgol Bangor Diddordebau: Mynd allan am fwyd, siopa, pêl droed, nofio a mynd ar wyliau. Lliw llygaid: Glas Taldra: 5 troedfedd 6 modfedd Hoff liw: Pinc Hoff le: Barcelona a thŷ mam a dad. Hoff bwnc: Daearyddiaeth/Hanes Hoff fwyd: Cinio rhost Hoff raglen deledu: Coronation Street neu The Only Way Is Essex Fy swydd gyntaf: Gweithio yn Club Sport, Y Drenewydd
Os oedd rhaid i mi fynd â thri pheth ar ynys ddirgel, buaswn yn mynd â: Ffôn symudol, gwely, siocled.
Ffeil o ffeithiau - Darryn Green
Enw llawn -‐ Darryn Ifor Green Man geni -‐ Aberystwyth Addysg -‐ Ysgol Gynradd Pencae, Caerdydd Uned Gymraeg Ysgol Hafren Ysgol Uwchradd Caereinion Prifysgol Y Drindod Dewi Sant Diddordebau – Chwaraeon a chymdeithasu Lliw llygaid -‐ Glas Taldra -‐ 5'10 Anifeiliaid anwes -‐ Dim diolch! Hoff le -‐ Stadiwm y Mileniwm Hoff fwyd -‐ Cinio dydd Sul Cas fwyd -‐ olives Hoff raglen teledu -‐ Scrum V Swydd gyntaf -‐ stondin pysgod a sglodion yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003 Os oedd rhaid mynd a 3 peth ar ynys ddirgel ; pêl rygbi, sach gysgu a..........cwch!
Adroddiad-SENCo
Yma yn Ysgol Dafydd Llwyd, mae gan bob plentyn yr hawl i brofiadau bythgofiadwy a’r cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Fel staff, rydym yn sicrhau bod plant ag Anghenion Arbennig yn cael pob chwarae teg trwy gynllunio’n fanwl, creu a defnyddio adnoddau effeithiol a gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol. Mrs Anwen Jarman a Miss Callyn Toms yw’r athrawon SENCo yr ysgol y flwyddyn yma. Maent wedi mynychu’r ‘Fforwm Senco’ a chael cyfle i drafod unigolion mewn cyfarfodydd consultation. Cafodd yr Ysgol hyfforddiant mewn tueddiadau dyslecsia yn ddiweddar. Yn deillio o hwn mae staff yr ysgol yn fwy ymwybodol o strategaethau i helpu disgyblion. Rydym hefyd yn defnyddio cynllun newydd ‘Nessy’ ar gyfer disgyblion sydd â thueddiadau dyslecsia. Darperir Cynllun Addysg Unigol i bob plentyn sydd ar y rhestr Anghenion Arbennig ac mae targedau a chanlyniadau plant grwpiau ymyrraeth yn cael eu cofnodi ar Fapiau Darparol.