gaeaf 2015 mental health ales d meddwl u wyr · 2019. 6. 19. · oseddol am fwy o fanylion am y...
TRANSCRIPT
-
y tu mewn...
mental health walesa special
crynodeb o’r newyddion ..........tud 2cyfweliad: Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jon Stratford ....... tud 4cyfweliad: Kay Davies, Hafal ......... tud 6ffocws: Oedolion Priodol ...... tud 7y diweddaraf o’r NCMH.................. tud 8
Rydym yn der
byn persbect
if yr
heddlu ar fate
rion – ac yn c
anfod
mwy am y gw
asanaethau ar
benigol
newydd yng N
ghymru sydd
yn
cefnogi pobl i
gael cymorth
er
mwyn eu hata
l rhag ail-dro
seddu
● Mae’r heddlu yn treulio mwy na 25
% o’u
hamser ar faterion iechyd meddwl
● Mae mwy na 70%o bobl sydd yn y c
archar
yn meddu ar ryw fath o broblem iec
hyd
meddwl
gaeaf 2015
Rhifyn Cyfiawnder
Troseddol
llais defnyddwyr gwasanaeth a gofalwy
r iechyd meddwl cymru
-
newyddion diweddaraf o’r byd cyfiawnder troseddol
Am fwy o fanylion am y stori hon, ewch os gwelwch yn dda i:
iechydmeddwlcymru.net 2
Mae Llywodraeth Cymru
yn cynnig rhoi hawliau
newydd i bobl sydd wedi
eu dal o dan adran 136
o’r Ddeddf Iechyd
Meddwl.
O dan y cynigion newydd, dylai pobl
sydd yn cael eu hamau o brofi
trafferthion iechyd meddwl a’n cael
eu dal o dan adran 136 gael eu
hasesu o fewn tair awr ac ni
ddylent gael eu dal yn nalfa’r
heddlu am fwy na 12 awr.
Mae Mesur Iechyd Meddwl 1983 yn
amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ar
gyfer pobl sydd angen cael eu dal er
mwyn cael eu hasesu a’u trin am
broblemau iechyd meddwl.
Mae Llywodraeth Cymru yn
ymgynghori ar ddiwygio’r Cod
Ymarfer i Gymru ar gyfer Deddf
Iechyd Meddwl 1983. Mae’n rhoi
cyfarwyddyd i unigolion, megis
clinigwyr, rheolwyr a staff ysbytai,
cartrefi gofal, eiriolwyr iechyd meddwl
a gweithwyr iechyd meddwl
proffesiynol ynghylch sut y dylid
gweithredu’r Ddeddf.
Mae’r Cod drafft newydd yn ystyried
y newidiadau sydd wedi eu gwneud i
ddeddfwriaeth berthnasol ers
ysgrifennu’r Cod gwreiddiol. Mae’r
rhain yn cynnwys anghenion Mesur
Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o ran
cynllunio gofal a thriniaeth ac
ehangu darpariaeth eiriolaeth iechyd
meddwl annibynnol.
Yn hanfodol, mae’r Cod drafft yn rhoi
mwy o bwyslais ar roi mwy o rôl i
gleifion, lle bo’n briodol, eu teuluoedd
a’u gofalwyr o safbwynt pob agwedd
o asesu a thrin, deall egwyddorion
Deddf Capasiti Meddwl 2005 a sut y
dylid ystyried y rhain o ran gofal a
thriniaeth ynghyd â’r rôl sydd i’w
chwarae gan eiriolwyr iechyd meddwl
annibynnol.
Yn ychwanegol at osod y cyfyngiad
cyfreithiol o 72 awr, nid yw’r Cod yn
cynnig unrhyw gyfnod amser o ran
asesu iechyd meddwl y bobl hynny
sydd wedi eu dal gan yr heddlu o dan
adran 136.
Mae’r Cod drafft newydd yn cynnig
na ddylid byth defnyddio gorsafoedd
heddlu fel lle diogel, oni bai mewn
amgylchiadau eithriadol. Dylid cynnal
asesiadau - mewn gorsafoedd
heddlu a llefydd eraill – o fewn tair
awr ac ni ddylid dal neb mewn gorsaf
heddlu am fwy na 12 awr.
Mae hefyd yn cynnig y bydd cynllun
gofal a thriniaeth statudol, os oes
angen, yn cael ei baratoi mewn llai
na 72 awr ar ôl mynd i’r ysbyty.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Mark
Drakeford:
“Ers creu Cod Ymarfer Cymru yn2008, mae deddfwriaeth, polisi,cyfraith achosion ac ymarferproffesiynol wedi cael eu newid a’udiweddaru, ac nid yw’r Codpresennol yn adlewyrchu hyn.
“Mae diweddaru a diwygio’r Cod ynrhan bwysig o sicrhau bod hawliaupobl yn cael eu hamddiffyn panfyddant yn cael eu cadw.
“Dwi’n annog pawb sydd â diddordebi wella’r Cod Ymarfer i ymateb i’rymgynghoriad hwn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Hafal
Alun Thomas:
“Rydym yn gwbl gefnogol o’r hyn ymae Llywodraeth Cymru yn eiwneud er mwyn diogelu hawliaupobl ag afiechyd meddwl difrifol hydyn oed yn fwy.
“Mae cyfyngu ar yr amser y maeperson yn medru cael ei ddal hebdderbyn asesiad ac ymatal rhagdefnyddio celloedd yr heddlu ermwyn dal pobl sydd ag afiechyd
meddwl, yn welliannau sylweddol yny fersiwn ddiwygiedig o’r Cod.
“Gyda mwy o ffocws ar yregwyddorion sy’n llywio megisurddas a pharch, tegwch achydraddoldeb, ymrymuso achwarae rhan a defnyddio dulliausydd lleiaf caeth a manteisio i’reithaf ar annibyniaeth, rydym yngweld parhad o ran ymrwymo igefnogi rhai o'r bobl mwyaf agored iniwed yng Nghymru wrth iddyntwella ac rydym yn annog cynifer obobl ag sydd yn bosib i ymateb i’rymgynghoriad yma.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan
Tachwedd 27.
Cynnig cyfyngiadau newydd ar ddal pobl ag
afiechyd meddwl yn y ddalfa yng Nghymru
Yr Athro Mark Drakeford AC,y Gweinidog Iechyd a
GwasanaethauCymdeithasol
-
Tach: Mae’r sioe gerddorol sydd
wedi ennill llu o wobrau, ‘Battle
Scars: A New Musical’, yn dychwelyd
i Gaerdydd mis hwn, a’n cael ei
pherfformio gan Theatr ALRIGHT.
Drwy wyntyllu’r themâu o hunan-
niweidio a phroblemau iechyd
meddwl ymhlith pobl ifanc, mae’r
ddrama yn ceisio lleihau stigma a
chreu cymuned lle y mae pobl yn
cael eu hannog i drafod problemau
iechyd meddwl. Bydd 'Battle Scars’
yn cael ei pherfformio yn Theatr yr
YMCA.
Hydref: Mae astudiaeth newydd gan
y Nuffield Trust a’r Health Foundation
yn awgrymu nad yw pobl yn Lloegr
sydd ag afiechyd meddwl yn elwa
drwy sicrhau bod eu hiechyd corfforol
yn cael ei reoli’n ddigonol. Yn ôl yr
ymchwil, roedd pobl ag afiechyd
meddwl wedi mynd i’r ysbyty gydag
achosion brys bum gwaith yn fwy’r
llynedd na phobl heb afiechyd
meddwl; er nad oedd y mwyafrif o’r
achosion yma’n ymwneud â’u
hanghenion iechyd meddwl.
Medi: Mae ‘Little Sparks’, gŵyl
newydd gyda digwyddiadau ar draws
Cymru er mwyn dangos y rôl a'r
berthynas rhwng iechyd meddwl a’r
celfyddydau, wedi cael ei lansio. Mae
‘Little Sparks’ yn cael ei gydlynu gan
Gelfyddydau Anabledd Cymru a
‘Making Minds’ ac yn cael ei ariannu
gan Gyngor Celfyddydau Cymru a
Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Medi: Mae ‘Wave Project Cymru’
wedi derbyn £142,000 o gyllid ar
gyfer prosiect ‘therapi syrffio’ i helpu
pobl ifanc yn Ne Cymru. Dyfarnwyd y
cyllid gan raglen Pobl a Llefydd y
Gronfa Loteri Fawr er mwyn cefnogi
300 o bobl ifanc dros y tair blynedd
nesaf. Nod y cwrs yw helpu pobl i
wella eu hiechyd meddwl, eu sgiliau
cymdeithasol a’u cyfleoedd bywyd
drwy ddysgu i syrffio.
Dathlwyd ein hymgyrch gerddorol
arloesol ar gyfer 2015, Gyda'n
Gilydd Nawr!, a arweiniwyd gan
bobl yng Nghymru ag afiechyd
meddwl a’u gofalwyr, yn y
Senedd, Caerdydd, ym mis Hydref.
Mynychwyd y digwyddiad gan
ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr
o Gymru benbaladr ac roedd
Vaughan Gething, y Dirprwy
Weinidog Iechyd (yn y llun ar y dde)
a noddwr y digwyddiad, David Rees,
Aelod Cynulliad dros Aberafan,
ymhlith y sawl a fu’n siarad yn y
digwyddiad.
Yn cael ei chefnogi gan Hafal,
Bipolar UK, y Sefydliad Iechyd
Meddwl a Diverse Cymru, mae’r
ymgyrch Gyda’n Gilydd Nawr! wedi
ymgysylltu gyda miloedd o bobl ag
afiechyd meddwl a’u gofalwyr ar
draws Cymru dros gyfnod yr haf.
Mae’r ymgyrch nawr wedi cwblhau ei
sioe deithiol ar hyd a lled y 22 sir yng
Nghymru ac roedd hyn wedi cynnwys
cynnal digwyddiad cerddorol byw ym
mhob un sir a oedd yn cynnwys llu o
berfformwyr – o unigolion yn
chwarae’r ‘blues’ a chorau meibion a
bandiau roc i ddrymwyr Affricanaidd.
Dywedodd Malcolm O’Callaghan,
aelod o’r Panel Defnyddwyr
Gwasanaeth a Gofalwyr sy’n arwain
yr ymgyrch:
“Mae Gyda’n Gilydd Nawr! wedidangos bod cerddoriaeth yn medrudwyn pobl ynghyd. Un o amcanionyr ymgyrch oedd ymgysylltu gydachynifer o bobl ag sydd yn bosibsydd wedi eu heffeithio gan afiechydmeddwl ac yn profi unigrwydd acarwahanrwydd ac mae wedi bod yngyffrous i weld sut y mae’r ymgyrchwedi llwyddo i gyrraedd y gynulleidfahon.
"Rydym wedi gweld nifer o wynebaunewydd mewn digwyddiadau lleol acrydym wedi rhoi gwybodaethallweddol ar sut i fynd i’r afael ag
unigrwydd i filoedd o bobl drwy eingwefannau, cyfryngau cymdeithasol,pamffledi, posteri a thrwy’rcysylltiadau yr ydym wedi meithringyda mudiadau eraill yn y gymuned.”
Dathlu ymgyrch genedlaethol Gyda’n
Gilyd Nawr! 2015 yn y Senedd
Yn gryno...
Medi: Mae’r Samariaid, wedi
lansio llinell gymorth newydd yn
rhad ac am ddim er mwyn helpu
mwy o bobl i gael mynediad at y
gwasaaneth hanfodol yma sy’n
cynnig cymorth 24 awr y dydd,
bob dydd o'r flwyddyn. Rhif
newydd y Samariaid yw 116
123. Ni fydd y rhif yn
ymddangos ar filiau ffôn.
crynodeb o’r newyddion
Am y newyddion diweddaraf, ewch i: iechydmeddwlcymru.net 3
-
C
C
C
C
C
cyfweliad
Mae Jon Stratford, Prif Gwnstabl Cynorthwyol(Cymorth) gyda Heddlu De Cymru, yn cadeirio Grŵp Iechyd
Meddwl Prif Swyddogion Heddlu Cymru. Rydym yn siarad
yma gyda’r PGC Stratford ynglŷn â'i rôl a'r materion
allweddol sydd yn wynebu’r heddlu wrth iddynt ddelio gyda
phobl mewn argyfwng.
Mae yna ychydig dros flwyddyn
ers i chi gychwyn eich rôl gyda’r
heddlu ym Mehefin 2014. Beth yw’r
materion sydd yn wynebu’r heddlu
o ran delio gyda phobl ag afiechyd
meddwl?
Mae yna gryn alw ar ein
gwasanaethau yn sgil anghenion
pobl ag afiechyd
meddwl.
Amcangyfrifir bod
mwy na 25% o amser
yr heddlu ar y rheng
flaen yn cael ei
dreulio yn delio gyda phobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl. Y brif
broblem yw Adran 136 a delio gyda
phobl mewn argyfwng (yr adran o’r
Ddeddf Iechyd Meddwl sydd yn
caniatáu’r heddlu i ddal rhywun am
hyd at 72 awr os mai dyma’r peth
gorau er mwyn diogelu’r person
hwnnw a’r bobl o’i amgylch).
Pa fath o berthnasau sydd rhwng
yr heddlu a’r gwasanaethau iechyd
meddwl statudol?
Rydym yn gweithio gyda thri bwrdd
iechyd, a hynny ar bob un lefel o’r
gwasanaeth heddlu. Mae’n berthynas
dda ond mae yna densiwn weithiau.
Mewn cyfnod o gynni, mi fyddai’n
anarferol pe na bai tensiwn - rydym
oll yn ceisio gwneud mwy gyda llai o
adnoddau. Nid ydym yn cytuno bob
tro ar sut i ddelio gydag argyfyngau
ond rydym yn gweithio gyda’n gilydd
mewn ffordd broffesiynol. Yn y
pendraw, mae’n well i’r defnyddiwr
gwasanaeth os ydym yn cynnal
perthynas iach gyda’n asiantaethau
partner.
A yw’r ‘tensiwn’ yma yn dod i’r
amlwg pan mae staff y ddalfa yn
cael problemau yn chwilio am
lefydd diogel amgen?
Mae’n bwysig cofio: ni yw’r
gwasanaeth sydd yma fel y cam olaf.
Pan fydd pawb arall wedi mynd adre’
- ni’n sy’n gorfod delio gyda phethau.
Ac ni fyddwn byth yn cerdded i
ffwrdd. Rydym yn gweld pobl sydd
mewn argyfwng, pobl sydd ar ben eu
tennyn. Rydym yn gweld yr effaith ar
y defnyddiwr gwasanaeth pan fydd
pethau’n dadfeilio ac mae’n ein
gwneud i ni deimlo’n angerddol o ran
sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n
gilydd er mwyn datrys y
problemau.
Roedd adroddiad yr
Ysgrifennydd Cartref
yn gynharach eleni yn
argymell na ddylid ystyried
celloedd yr heddlu fel llefydd
diogel o dan Adran 136. A yw
Heddlu De Cymru yn croesawu’r
newyddion yma?
Yn sicr. Mae’r ffaith bod pobl sydd yn
sâl yn cael eu tywys i gelloedd yr
heddlu yn annerbyniol. Yn y
blynyddoedd sydd i ddod, rwy’n sicr y
byddwn yn edrych yn ôl ar hyn ac yn
methu credu sut ydym wedi
caniatáu’r fath sefyllfa i barhau
gyhyd. Buaswn yn croesawu’r pŵer
sy’n cael ei gynnig gan unrhyw
ddeddfwriaeth sy’n datgan wrthym:
mae’n rhaid i hyn ddod i
ben. Pan na fydd modd i
ni osod pobl mewn
celloedd yr heddlu, bydd
rhaid canfod datrysiad
arall. Heb ddeddfwriaeth,
rwy’n ofni y bydd pawb yn
parhau i wneud hyn.
Mae’n annerbyniol ac yn
gorfod dod i ben.
Rwy’n credu fod angen mabwysiadu
dull pum pwynt tuag at atal 136:
1. Hyfforddiant gwell i swyddogion
yr heddlu - bydd pecyn
hyfforddi ar gael i’r holl
swyddogion heddlu o wanwyn
2016 fel ein bod yn medru bod
yn fwy ystyrlon a deall pobl ag
afiechyd meddwl.
2. Cyfathrebu gwell wrth ddod i
gysylltiad gyda phobl ag
afiechyd meddwl - opsiynau
brysbennu ar gyfer swyddogion
yn y stryd.
3. Opsiynau amgen i Adran 136 -
mae’r comisiynydd heddlu a
throseddu yn datblygu llety
diogel ar hyn o bryd sydd i’w
ddefnyddio yn hytrach na
chelloedd.
4. Byrddau Iechyd yn darparu
digon o welyau er mwyn diwallu
anghenion - os ydych yn edrych
ar y gyllideb ar draws Cymru,
mae’n werth biliynau. Rwy’n
amcangyfrif bod angen tua 10
gwely ar draws De Cymru a
rhaid bod modd cyflawni hyn.
Nid wyf yn derbyn y ddadl nad
ydym yn medru fforddio
gwelyau.
5. Prosesau adolygu ac
uwchgyfeirio mewn amser real -
ar hyn o bryd, rydym yn symud
ymlaen at y dasg nesaf cyn
gynted a bod rhywun
yn gadael yr orsaf
heddlu. Rhaid i ni
ddechrau meddwl:
beth allwn ni wneud
er mwyn atal hyn
rhag digwydd eto?
Dyma’r pum pwynt yr
wyf yn gwthio i’w cynnwys mewn
cynlluniau cyflenwi lleol ac ar gyfer
Cymru gyfan.
Rydych yn cadeirio Grŵp Iechyd
Meddwl Prif Swyddogion Cymru:
beth yw pwrpas y grŵp a pha
effeithiol ydyw o ran rhannu
arferion da?
Nod y grŵp yw adnabod a rhannu
arferion gorau ar draws Cymru a
datblygu dulliau sydd yn medru cael
Y brif broblem yw Adran136 a delio gyda phobl
mewn argyfwng
Mae’r ffaith bod poblsydd yn sâl yn caeleu tywys i gelloedd
yr heddlu ynannerbyniol
4 iechydmeddwlcymru.net
-
C
CC
C
C
C
eu cyflwyno’n genedlaethol. Mae yna
ystod o bartneriaid sydd yn cynnig
persbectif defnyddiol: Richard Lee o
Wasanaeth Ambiwlans Cymru, Mike
Hardy o Lywodraeth Cymru a
chynrychiolwyr o’r
Trydydd Sector
megis Alun Thomas
o Hafal a Janet
Pardue-Wood o
Mind Cymru. Yr
unig fordd i wella gwasanaethau ar
gyfer pobl ag afiechyd meddwl yw
gweithio gyda’n gilydd ar draws yr
holl bartneriaethau.
Beth yw ystyr cysylltu a
dargyfeirio a beth mae’n golygu ar
gyfer oedolion sydd yn agored i
niwed?
Mae yna gryn bwyslais ar hyn o bryd
i atal menywod rhag dod i mewn i’r
system cyfiawnder troseddol. Yn yr
hen ddyddiau, buaswn yn mynd ati i
arestio a mynd â hwy i’r llys. Os
ydych yn edrych ar y rhesymau pam
y mae menywod yn troseddu, mae fel
arfer yn ganlyniad i’w hamgylchiadau
yn hytrach na bod yn
droseddwyr profiadol.
Nid oes yna esgus
am droseddu, ond os
mai afiechyd meddwl
yw achos y troseddu,
onid yw’n well eu
cyfeirio at yr help a’r cymorth sydd ar
gael fel nad oes angen iddynt
droseddu eto?
Buasai llawer o bobl yn anghytuno
gyda hyn. Buasent yn dweud: ‘os
ydych yn troseddu, rydych yn
haeddu’r gosb.’ Dylem gasáu’r
drosedd yn hytrach na’r troseddwr.
Mae cynlluniau Brysbennu wedi eu
treialu yn Lloegr lle y mae
gweithwyr iechyd meddwl
proffesiynol yn mynd gyda’r
heddlu i ddigwyddiadau pan eu
bod yn credu bod pobl angen
cymorth iechyd meddwl ar frys.
Beth yw eich barn am y fath
gynlluniau?
Nid yw Cynlluniau Brysbennu mor
llwyddiannus â’r hyn a gredir. Mae
rhai cynlluniau o’r fath wedi bod yn
wrthgynhyrchiol. Rwyf wir yn credu
bod angen cyfathrebu gwell rhwng y
swyddog heddlu sy’n delio â rhywun
ag afiechyd meddwl ar y stryd a’r
cymorth iechyd meddwl sydd ar gael
er mwyn hwyluso’r cyfathrebu
hwnnw. Mae hyn yn medru cynnwys
nyrs iechyd meddwl yn y car neu
ymarferydd sydd yn ystafell
gyfathrebu'r heddlu - rwy’n ffafrio’r ail
opsiwn. Sut y byddai’r opsiwn gyntaf
yn gweithio mewn
ardaloedd
gwledig? A fydd
yna adnoddau ar
gael?
Beth yw’r Cerdyn Cadw’n Ddiogel
Cymru a beth y mae'r heddlu yn
ceisio ei gyflawni?
Mae’n caniatáu i bobl sydd ag
afiechyd meddwl, anableddau dysgu
neu unrhyw nodwedd debyg, i
gofrestru gyda ni ymlaen llaw. Drwy
wneud hyn, maent yn rhoi
gwybodaeth hanfodol i ni a allai fod o
gymorth pe bai rhaid delio â’r perosn
hwnnw mewn argyfwng yn y dyfodol.
Mae modd dangos y cerdyn i
swyddog yr heddlu sydd wedyn yn
medru cysylltu gyda’r ganolfan
gyfathrebu a dysgu sut i gyfathrebu’n
effeithiol gyda’r person dan sylw.
Mae’n helpu i osgoi
arestio pobl yn
ddiangen, ac yn
darparu cymorth
gwell i bobl. Buaswn
yn argymell bod
unrhyw berson sydd
yn agored i niwed yn cofrestru.
A ydych yn medru gwerthfawrogi y
bydd rhai pobl sydd yn agored i
niwed efallai yn pryderi i rannu
gwybodaeth bersonol gyda’r
heddlu?
Yn sicr. Bydd rhaid iddynt ymddiried
ynom. Nid rhyw fath o ymarfer
‘Orwellian’ amheus yw hyn sydd yn
ymwneud â chasglu gwybodaeth
pawb, ond mae’n ffordd i ni sicrhau
bod yna wybodaeth wrth law sydd yn
gwella’r modd yr ydym yn delio â
phobl sydd yn agored i niwed.
Mae prosiectau gan Hafal sydd yn
cael eu hariannu gan y Loteri Fawr
a Comic Relief ac yn anelu i
gynorthwyo pobl yn y System
Cyfiawnder Troseddol a’u hatal
rhag ail-droseddu: pam fod y
prosiectau Trydydd Sector yma
mor bwysig?
Nid yw’r asiantaethau statudol yn
medru gwneud pob dim. Mae
asiantaethau’r Trydydd Sector yn
medru cynnig gwasanaethau na
fyddai modd i asiantaethau statudol
i’w wneud. Maent yn deall ac yn
medru teilwra gwasanaethau er
mwyn diwallu anghenion defnyddwyr
gwasanaeth, a hynny mewn ffordd
sydd yn anodd i wasanaethau
statudol megis yr heddlu ac iechyd
i’w wneud.
Pam fod gwasanaeth Oedolyn
Priodol Hafal mor bwysig i Heddlu
De Cymru?
Mae’r Cynllun Oedolyn Priodol sydd
yn cael ei ddarparu gan Hafal yn
wych. Mae’r hen ddyddiau pan fu
rhaid i ni geisio cyfaddefiad wedi hen
ddiflannu; nid oes dim byd gwaeth
nag anghyfiawnder. Rydym yn deall
nad yw person sydd newydd ei
arestio yn mynd i ymddiried ynom.
Mae’n ymwneud â chyflwyno rhywun
newydd y mae’r sawl sy’n cael ei
ddal yn ymddiried ynddo ac yno’n
cynrychioli ei fuddiannau. Rydym
wedyn yn medru mynd ati i ganfod y
gwirionedd a dyma’r hyn sydd orau i
bawb.
Mae Iechyd Meddwl Cymru yn cael ei
gyhoeddi gan Hafal. Os oes gennych
unrhyw sylwadau, cysylltwch gyda ni
os gwelwch yn dda:
Hafal, hen Ysbyty Gellinudd
Lôn Catwg, Pontardawe,
Castell-nedd Port Talbot, SA8 3DX
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01792 832400
Facebook/Twitter: chwiliwch am Hafal
Mae asiantaethau’r TrydyddSector yn medru cynnig
gwasanaethau na fyddai moddi asiantaethau statudol i wneud
Dylem gasáu’r drosedd ynhytrach na’r troseddwr
5iechydmeddwlcymru.net
-
C
C C
6 hafal.org
cyfweliad: kay davies
Mae’r elusen iechyd meddwl
Gymreig Hafal wedi ehangu
ei gwasanaethau’n
ddiweddar i bobl ag afiechyd
meddwl sydd yn dod i
gysylltiad â’r System
Cyfiawnder Troseddol, a
hynny ar ôl sicrhau cyllid
gan y Loteri Fawr a Comic
Relief. Rydym yn siarad yma
â’r Rheolwr Cyfiawnder
Troseddol Kay Davies am y
prosiectau newydd yma yng
Nghymru - a pham eu bod
mor bwysig.
Rydych wedi derbyn cyllid yn
ddiweddar i ddatblygu
gwasanaethau yn y System
Cyfiawnder Troseddol yng
Nghymru. Dywedwch mwy
wrthym!
Ydym - mae’n gyfnod cyffrous i’r tîm
Cyfiawnder Troseddol. Eleni, rydym
wedi derbyn bron i hanner miliwn o
bunnoedd o’r Loteri Fawr er mwyn
darparu prosiect newydd - "Out of
the Blue" - yn Ardal Heddlu De
Cymru i gefnogi pobl ag afiechyd
meddwl i gael mynediad at gymorth
priodol. Ac roeddem wedi derbyn
£149,000 gan Comic Relief er mwyn
darparu prosiect arall, "Access to
Justice", a fydd yn darparu pwynt
cyswllt i bobl ag afiechyd meddwl yn
y System Cyfiawnder Troseddol. Ar
ben hynny, rydym wedi dechrau
darparu ein gwasanaeth Oedolyn
Priodol yn Ardal Heddlu Dyfed
Powys, a hyn ar ben y gwasanaeth
sydd ar gael yn Ardal Heddlu De
Cymru. (Mae mwy am y stori hon ar ydudalen gyferbyn...) Mae yna gyfreso wasanaethau gwych ar gael
gennym erbyn hyn.
Nod y gwasanaeth "Out of the Blue"
yw lleihau aildroseddu yn Ardal
Heddlu De Cymru a sicrhau bod
pobl ag afiechyd meddwl yn medru
derbyn y cymorth sydd angen arnynt.
Bydd yn darparu math newydd o
ymyrraeth ar gyfer unigolion sydd
wedi eu cyhuddo o droseddau lefel is
na sy’n dreisgar neu’r rhai hynny
sydd yn derbyn gorchymyn
gwasanaeth cymunedol; ac nid y rhai
hynny sydd wedi eu dedfrydu i
garchar. Bydd pob ymyrraeth yn
cynnwys cyfres o sesiynau gyda
gweithiwr “Out of the Blue” Hafal er
mwyn diwallu anghenion iechyd
meddwl na sydd wedi eu diwallu cyn
hyn a bydd yn cefnogi’r cleient tuag
at adferiad a’u hintegreiddio i mewn
i’r gymuned.
Mae "Access to Justice" yn ymwneud
yn fwy â darparu pwynt cyswllt unigol
i bobl ag afiechyd meddwl a’u
gofalwyr yn y System Cyfiawnder
Troseddol, gan roi mynediad iddynt
at gyngor arbenigol, gwybodaeth a
gwasanaethau cyfeirio. Ac mae hefyd
yn ymwneud â hyrwyddo
dealltwriaeth well o afiechyd meddwl
o fewn y System Cyfiawnder
Troseddol. Fel rhan o’r prosiect, mae
Hafal wedi apwyntio ‘Eiriolydd Iechyd
Meddwl’ er mwyn siarad am faterion
cyfiawnder troseddol ar lefel
genedlaethol.
Yn sicr, mae yna gynifer o bethau i’w
trafod – rydych yn teimlo weithiau
eich bod newydd gychwyn! Ond
mae’n wych ein bod wedi sicrhau
cyllid er mwyn darparu prosiectau
allweddol a datblygu arferion gorau a
fydd yn cael eu cyflwyno mewn
meysydd eraill hefyd yn y dyfodol.
Beth yw’r prif faterion iechyd
meddwl yn y System Cyfiawnder
Troseddol?
Ble mae dechrau? Mae yna lawer o
faterion sylweddol yn y System
Cyfiawnder Troseddol. Amcangyfrifir
bod tua 90% o bobl sydd yn y
carchar yn meddu ar broblem iechyd
meddwl, problem camddefnyddio
sylweddau neu anhwylder
personoliaeth; mae 70% yn meddu ar
ddwy broblem neu fwy a bydd tua 1
ym mhob 10 yn cael ei effeithio gan
afiechyd meddwl difrifol megis
sgitsoffrenia neu anhwylder
deubegynol. A’r carchar yw’r lle lleiaf
priodol ar gyfer person sy’n ddifrifol
sâl.
Mae pobl ag afiechyd meddwl yn
mynd drwy ddrysau troi o ran y
system gan nad oes yna
rwydweithiau addas ar gael, ac mae
hyn yn golygu bod rhai pobl sydd yn
agored i niwed yn arwain bywydau
cymhleth ac yn ail-droseddu. Dyma’r
hyn yr ydym yn ceisio ei atal: rydym
am gysylltu pobl â’r gwasanaethau
cymunedol sydd angen arnynt er
mwyn atal ail-droseddu. Mae
ymyrraeth yn medru trawsnewid
bywyd person a’i gynorthwyo i gael
yr help sydd angen arno. Ac mae’n
gwneud synnwyr ariannol hefyd,
oherwydd mae’n atal pobl rhag cael
eu dal yn y System Cyfiawnder
Troseddol pan mai’r hyn sydd angen
arnynt yw cymorth gan wasanaethau
iechyd meddwl.
Beth yw ymyrraeth "Out of the
Blue" arferol?
Mae yna asesiad cychwynnol o
anghenion sydd yn seiliedig ar
drafodaethau gydag asiantaethau
allweddol eraill megis y llys a staff y
gwasanaeth prawf a chwmnïau
adsefydlu yn y gymuned, a hynny er
mwyn asesu addasrwydd unigolion i
gymryd rhan. Rydym wedyn yn
gweithio gyda chleientiaid er mwyn
datblygu cynllun amcanion sydd yn
seiliedig ar fodel adferiad Hafal ac yn
edrych ar holl feysydd bywyd, o lety i
gyflogaeth, ac o gyllid i driniaethau.
Dyma’r cyfle i gyfeirio pobl at
wasanaethau yn y gymuned a allai
fod o gymorth iddynt. Wedi hyn,
rydym yn darparu nifer o sesiynau
ymyrryd er mwyn cefnogi’r person i
wireddu ei amcanion. Mae nifer y
sesiynau yn dibynnu ar yr asesiad o
anghenion a beth yw eu hamcanion.
Mae’r sgil-effaith yn medru bod yn
sylweddol. Er enghraifft, mae
cynorthwyo person i dderbyn triniaeth
ar gyfer afiechyd meddwl neu
esbonio’r budd-daliadau y maent yn
gymwys i’w derbyn yn medru
gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym
wedi gweld pobl yn trawsnewid eu
bywydau. Mae’n wych i’w weld.
Am fwy o wybodaeth am
wasanaethau Cyfiawnder
Troseddol Hafal, ewch os gwelwch
yn dda i: hafal.org
-
C
7
C
C
C
Roedd adroddiad gan y
Swyddfa Gartref ym 2015 yn
awgrymu nad yw hyd at
chwarter miliwn o bobl sy’n
agored i niwed yn cael eu
cefnogi gan "Oedolyn Priodol"
(Appropriate Adult) tra’n cael
eu dal gan yr heddlu - sefyllfa
sydd wedi ei ddisgrifio gan yr
Ysgrifennydd Cartref fel
“annerbyniol”. Rydym yn gofyn
i’r Oedolion Priodol Neil
Hussey a Jasmine Davis pam
fod y gwasanaeth y maent yn ei
ddarparu mor werthfawr - a
gwerth chweil.
Dywedwch wrthym am eich rôl fel
Oedolyn Priodol: beth yn union
yw’r rôl?
J: Fel Oedolyn Priodol, rydych yn
teithio i orsafoedd heddlu
gwahanol er mwyn gofalu am les
pobl sy’n agored i niwed ac i
hwylsuo’r cyfathrebu rhyngddynt
hwy a’r staff yn y ddalfa. Mae’r
bobl sy’n agored i niwed yn medru
dioddef iselder, Alzheimer's neu
anhwylder straen wedi trawma.
Rydym yno i ddiogelu eu
buddiannau – sicrhau eu bod yn
cael eu bwydo a’n derbyn dŵr
neu’n ymyrryd yn y cyfweliad os
oes yna gamddealltwriaeth neu
bod angen seibiant ar y person am
unhyw reswm.
N: Ar lefel sylfaenol, nod y rôl yw
sicrhau bod y person sy’n cael ei
ddal yn deall ei hawliau tra yn y
ddalfa. Wedi hynny, bydd y person
yn cael cyfarfod gyda’i gyfreithiwr.
Cyn y cyfweliad, mae’r Oedolyn
Priodol yn treulio amser gyda’r
person ar ben eu hunain er mwyn
sicrhau eu bod yn deall pob dim
sydd wedi digwydd iddynt. Rwyf
wedyn yn esbonio fy rôl yn ystod y
cyfweliad: rwyf yno i sicrhau bod y
person yn deall y cwestiynau a
goblygiadau’r cwestiynau sy’n cael
eu gofyn iddynt. Rwyf hefyd yn
esbonio’r cyfyngiadau arnaf; nid
wyf wedi fy hyfforddi’n gyfreithiol
neu’n gymwys yn y maes ac nid
wyf yn medru rhoi cyngor
cyfreithiol iddynt (rôl y cyfreithiwr
yw hynny). Rwyf hefyd yn dweud
wrthynt na ddylent ddatgelu dim
byd i’r Oedolyn Priodol a allai fod
yn rhagfarnus oherwydd mae
rheidrwydd cyfreithiol arnom i
rannu’r wybodaeth honno gyda’r
heddlu.
Pam ydych yn credu bod
gwasanaeth yr Oedolyn Priodol
mor bwysig?
J: Rwy’n credu fod y gwasanaeth
Oedolyn Priodol yn hynod bwysig -
mae’r cleientiaid yr wyf yn helpu yn
medru bod mewn penbleth yn sgil
proses yr heddlu ac angen y
person yno i ofalu amdanynt a
gwybod eu bod yno ar eu rhan
hwy. Mae’r ffaith nad wyf yn
gwisgo iwnifform yr heddlu yn
medru chwalu unrhyw rwystrau ac
mae’n bwysig bod person yn
teimlo fod rhywun yn eu cefnogi, a
hynny os ydynt wedi gwneud
rhywbeth o le ai peidio! Nid y
drosedd yw fy musnes i - rwyf yno i
ofalu amdanynt tra y maent yn y
ddalfa.
N: Mae yna gynifer yn cael eu dal yn
y ddalfa na sy’n deall y broses ac
yn dweud ‘ie’ mewn sefyllfaoedd
lle y dylent fod yn dweud ‘na’
neu’n gofyn am fwy o wybodaeth.
Yn sgil y ffaith ein bod wedi
cymhwyso fel Oedolion Priodol,
rydym yn medru cael gafael ar fwy
o wybodaeth nag aelodau teulu
neu ‘aelodau lleyg’. Yn dechnegol,
gallai’r heddlu agor y drws a gofyn
i unrhyw un fod yn Oedolyn
Priodol, ond yn sgil ein
hyfforddiant, rydym yn medru
chwarae mwy o ran wrth sicrhau
eu bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n
digwydd.
Jasmine: fel rhywun sydd wedi
graddio yn y gyfraith, sut ydych
chi wedi elwa o fod yn Oedolyn
Priodol?
J: Mi wnes i ymuno â’r gwasanaeth
Oedolyn Priodol pan oeddwn yn
astudio cwrs ôl-radd, sef y cam
olaf cyn dechrau gweithio yn y
sector gyfreithol. Dwry gydol fy
astudiaethau, roedd y gwasanaeth
yn cyd-fynd â’r hyn yr oeddwn yn
ei wneud ac wedi rhoi cyfle go
iawn i mi weld sut oedd pethau’n
gweithio o fewn gorsaf heddlu.
Wedi seibiant byr o’r gwasanaeth
yn sgil adleoliam gyfnod, mi wnes i
ddychwelyd, a hynny ar ben swydd
llawn amser yn y sector cyfreithiol.
Roedd hyn yn heriol gan yr
oeddwn yn medru canolbwyntio ar
y person tra’n gweithio yn y gorsaf
heddlu ond roedd fy swydd llawn
amser yn gwneud i ganolbwyntio
mwy ar y ffi a dalwyd ar ddiwedd y
gwasanaeth. Rwyf yn Oedolyn
Priodol llawn amser erbyn hyn ac
rwyf wrth fy modd gan nad wyf yn
gwybod ble fydd yn rhaid i mi fynd,
pwy fyddai’n cwrdd ayyb ond rwy’n
gwybod y byddaf yn cael effaith
bositif ar un person o leiaf.
Beth yw eich cyngor i rywun sydd
yn ystyried dod yn Oedolyn
Priodol?
N: Ewch amdani! Nid oes dau
ddiwrnod byth yr un fath. Gyda
phob un galwad, rydych yn mynd i
dir dieithr. Mae popeth yn newid
drwy’r amser.
J: Fy nghyngor i yw y dylech fwrw
golwg ar yr hyfforddiant o leiaf.
Mae pawb ohonom weithiau’n
mynd drwy gyfnod anodd ond mae
helpu rhywun arall i ysgwyddo’r
baich yn un o’r pethau gwerth
chweil y mae modd i ni gyd wneud.
Peidiwch â bod ofn mynd i orsaf
heddlu - fel yr wyf yn dweud wrth
ein defnyddwyr gwasanaeth, mae’r
heddlu yn broffesiynol ond eto’n
ofalgar ac yn gwerthfawrogi ein
help. Efallai y bydd rhaid i chi fod
ychydig yn hyblyg gydag oriau
gwaith neu leoliadau, ac efallai y
bydd rhai pethau yr ydych yn delio
gyda hwy yn ‘annymunol’ ond mae
staff cymorth gwych gennym sydd
yn medru sicrhau eich bod yn
ymdopi ac yn rhannu’r baich.
Mae Hafal yn darparu gwasanaeth
Oedolyn Priodol yn ardaloedd
heddlu De Cymru a Dyfed Powys.
Er mwyn canfod sut y mae modd i
chi ddod yn Oedolyn Priodol,
ewch i hafal.org neu e-bostiwch:
iechydmeddwlcymru.net
ffocws: oedolion priodol
-
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar
gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)
nawr wedi recriwtio mwy na
5000 o aelodau o’r cyhoedd
yng Nghymru i helpu gyda’i
hymchwil.
Mae’r Ganolfan, sydd yn cael ei
hariannu gan Ymchwil Iechyd a
Gofal Cymru, yn ymgymryd â
gwaith er mwyn deall ystod o
broblemau iechyd meddwl yn
well.
“Rydym yn hynod ddiolchgar ibawb sydd wedi ein cynorthwyo igyrraedd y garreg filltir hon,”dywedodd y cyfarwyddwr, yr Athro
Ian Jones.
“Mae recriwtio 5000 owirfoddolwyr wedi bod yn grynymdrech - nid yn unig gan ein tîmond y clinigwyr a’r gweithwyrproffesiynol sydd wedi gwneudcymaint i’n cynorthwyo a’npartneriaid yn y Trydydd Sector amudiadau ymchwil ar drawsCymru a thu hwnt.
“Yn fwy pwysig, ni fyddem wedi
cyflawni hyn oni bai am y boblhynny sydd â phrofiad o fyw âphroblemau iechyd meddwl acwedi penderfynu ein helpu gyda’nymchwil - ynghyd â’u partneriaid,teuluoedd a gofalwyr sydd hefydwedi eu cefnogi i wneud hyn.Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedigwirfoddoli - rydych yn chware rôlbwysig o ran gwella bywydau poblâ phroblemau iechyd meddwl yn ydyfodol.”
Mae’r NCMH yn ceisio recriwtio
miloedd mwy o wirfoddolwyr gyda
tharged o 10,000 o leiaf. Bydd
recriwtio nifer fawr o bobl yn
mynd i wella cywirdeb ac
effeithiolrwydd ymchwil y
Ganolfan.
Mae’r data a gasglwyd gan y
Ganolfan yn darparu’r deunydd
crai sydd angen ar ymchwilwyr er
mwyn deall achosion a chyflyrau
iechyd meddwl yn well gan
gynnwys anhwylder deubegynol,
anhwylder straen wedi trawma,
iselder, sgitsoffrenia a mwy - y
cam cyntaf tuag at ddiagnosis a
thriniaeth.
Dros y dair blynedd nesaf, bydd y
Ganolfan hefyd yn ymchwilio
ymddygaid heriol a phroblemau
iechyd meddwl ymhlith pobl ag
anableddau dysgu. Mae cymryd
rhan yn ymchwil NCMH yn
cymryd tua awr. Mae’n cynnwys
cwrdd ag ymchilydd hyfforddedig
yn eich carref, cwblhau ychydig o
holiaduron a rhoi sampl o waed –
os ydych yn fodlon gwneud hyn.
Mae modd i bobl sydd yn profi
problemau iechyd meddwl ac
sydd heb brofi problemau iechyd
meddwl i gymryd rhan - ac felly,
mae partneriaid, teuluoedd a
gofalwyr yn medru helpu gyda’r
ymchwil. Os hoffech gymryd
rhan, ewch i
www.ncmh.info/take-part neu
ffoniwch 029 2068 8401.
ncmh.info
Canolfan ymchwil Cymru
yn cyrraedd carreg filltir
gyda 5000 o wirfoddolwyr
y newyddion diweddaraf o’r ncmh...