gwanwyn 2017 - newydd€¦ · sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 ydych chi’n chwilio...

24
Gwanwyn 2017 W Newydd B @NewyddHousing Lansio cydweithrediad tai Rhydyfelin Gwelwch dudalen 12 Enwi tai yn y Barri yn ‘Newbourne’ Gwelwch dudalen 17 Dyfarnu £60,000 i Rooms4U Gwelwch dudalen 3 Galw tenantiaid y Drenewydd: ennillwch arian! Gwelwch dudalen 7

Upload: others

Post on 06-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

Gwanwyn 2017

W NewyddB @NewyddHousing

Lansio cydweithrediad

tai RhydyfelinGwelwch dudalen 12

Enwi tai yn y Barriyn ‘Newbourne’

Gwelwch dudalen 17

Dyfarnu £60,000 iRooms4U

Gwelwch dudalen 3

Galw tenantiaid yDrenewydd:ennillwch arian!

Gwelwch dudalen 7

Page 2: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

2 tai newydd

Croeso i rifyn ygwanwyn ocylchgrawn Cipolwg!Cynnwys

Dyfarnu £60,000 i Rooms4U 3

Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4

Ydych chi’n chwilio am swydd? 5

Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6

Galw tenantiaid y Drenewydd: ennillwch arian! 7

Tenant problemus yn cael ei droi mas yn y Barri 8

Peidiwch â’i anwybyddu, reportiwch e… 9

Eich anifeiliaid anwes: canlyniadau arolwg 10

Pwy fydd yn gofalu am eich anifail anwes os na allwch chi? 11

Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio’r fenter tai cydweithredol 12

Alltwen yn ennill gwobr am fod yn ‘Visibly Better’ 13

Rydym yn lle gwych i weithio ynddo 14

Un o breswylwyr Rhydyfelin yn ennill gwobr genedlaethol 15

Gofod gwastraff yn eich cymuned? 16

Enwi datblygiad tai Ffordd Woodlands 17

Gallech chi gael Kindle Fire 18

Cylchgrawn Schoogle yma i aros 18

Gwersi cyfrifiadur i chi 19

Hawthorn Kicks ar waith 19

Os nad ydych yn ein gadael i’r tŷ, rydych mewn perygl… 20

Arolygu eich cartref 21

20 ffordd o leihau ynni 22

Cipolwg mewnfformataugwahanol Os hoffech gopi o’r cylchgrawn Cipolwgmewn ieithoedd neu fformatau eraill,gan gynnwys Braille, ffont fras, neuar dâp neu gryno-ddisg, maent argael drwy gysylltu â Mared Edwardsar 02920 005412 neu ar [email protected] hefyd ddefnyddio eingwasanaeth Llinell Iaith i siarad gydarhywun yn eich dewis iaith.Cysylltwch â Newydd drwy ffonio0303 040 1998.

Cynllun yr Iaith Gymraeg Mae gennym Gynllun yr Iaith Gymraega gymeradwywyd gan Fwrdd yr IaithGymraeg gynt. Mae’r Cynllun a’rAdroddiad Monitro ar gael osgofynnwch amdanyn nhw, neu ewchi adran ‘Llyfrgell’ ein gwefan. Mae eingwefan bellach yn gwbl ddwyieithog.

CYMRAEG

Amdanom ni Rydyn ni’n rhoi ein tenantiaid a’ncwsmeriaid yn gyntaf ym mhopetha wnawn. Rydyn ni’n gymdeithas taielusennol gyda bron i 3,000 o gartrefio ansawdd uchel i’w rhentu a’ugwerthu yn ne a chanolbarth Cymru.

Page 3: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

3www.facebook.com/newydd

Bydd Newydd yn cydweithio â Chyngor BroMorgannwg, a’u partneriaid Tai Wales &West, Cymdeithas Tai Hafod a ChymdeithasTai United Welsh, i ddatblygu a hyrwyddomodel o rannu cartref ar gyfer pobl o dan 35oed, ac maent eisoes wedi peilotio sawleiddo sy’n cael ei ddefnyddio fel llety arennir. Bydd y prosiect hefyd yn ymwneud âlandlordiaid preifat yn y gobaith y byddanthwy hefyd yn gallu cynnig opsiynaufforddiadwy i’w rhannu.

Beth yw llety sy’n cael ei rannu?Mae llety sy’n cael ei rannu yn cynnwys dauneu fwy o bobl yn rhannu ardaloeddcymunedol fel lolfa, cegin ac ystafell ymolchi,ond ddim yn rhannu ystafell wely. Gall eiddoamrywio o ran maint, unrhyw beth o fflat 2ystafell wely i dŷ 10 ystafell wely.

Fyddai gennych chi neu rywun rydychchi’n ei adnabod ddiddordeb mewnrhannu llety? Bydd angen i chi gofrestru gyda Homes4U iddechrau, sef y gofrestr dai ar gyfer y sir, acyna bydd angen i chi gwblhau prosesymgeisio lawn drwy Rooms4U. Gall unrhywymgeisydd sydd ar hyn o bryd ddim wedicofrestru gyda Homes4U, wneud hynnydrwy ymweld â Swyddfeydd Dinesig Y Barri,Holton Road, Y Barri, CF63 4RU, drwygwblhau ffurflen gais ar-lein ar dudalennauHomes4U ar wefan Cyngor Bro Morgannwg,neu drwy ffonio 01446 709840.

Fel rhan o’r broses ymgeisio bydd hefydangen i ymgeiswyr gwblhau Gweithdy Lletya Rennir, a gynhelir gan Parod i Denantiaethy Fro, cyn cael eu derbyn ar y prosiect.

Mae Newydd wedi derbyn cyllid gan Crisis UK i arwain Rooms4U, prosiect tai ihelpu pobl sengl a than 35 oed ym Mro Morgannwg fydd yn cael eu heffeithiogan Gyfradd Rhannu Ystafell, cynllun sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2019.

Dyfarnu £60,000 i Rooms4U

I ddilyn Rooms4U ar y cyfryngau

cymdeithasol ewch i

@Rooms4UWales ar Twitter neu

www.facebook.com/Rooms4UWales

Ddiwedd 2016 penodwyd HazelDavies, uchod, i reoli Rooms4U. Oshoffech fwy o wybodaeth amRooms4U, cysylltwch â hi ar [email protected] neuffoniwch 02920 005480.

Page 4: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

4 tai newydd

Debyd uniongyrchol

Mae’n debyg mai talu drwy ddebyduniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu hebsefyll mewn ciw. Mae’r arian yn mynd ynsyth o’ch cyfrif banc a bydd eich rhent yncael ei dalu’n brydlon bob amser. Oshoffech chi dalu drwy ddebyd uniongyrchol,cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylionisod os gwelwch yn dda.

Swyddfa’r Post neuPayPointAr ddechrau eich tenantiaethbyddwn yn archebu cerdyntalu rhent i chi. Defnyddiwcheich cerdyn talu rhent blebynnag y gwelwch chi’rarwydd PayPoint i dalu eichrhent gydag arian parod neusiec e.e. Swyddfa’r Post, eichsiop leol, siop bapur newyddneu orsaf betrol. Gwnewch yn siŵr eich bodyn cadw’r dderbynneb.

RhyngrwydGallwch wneudtaliad ar-lein hefydarwww.newydd.co.ukdrwy glicio ar ‘Tŵls

Tenantiaid’ ac wedyn ‘Talu eich rhent’.Gallwch hefyd reoli yr holl wybodaeth ameich tenantiaeth, gan gynnwys talu rhentdrwy greu eich cyfrif eich hun drwy fynd arwww.newydd.co.uk/myaccount. Byddangen i chi wybod eich rhif tenantiaeth: maear eich datganiadau rhent; os nad oes gennychchi un, ffoniwch ni ar 0303 040 1998.

Dros y ffônGallwch ffonio Newyddar 0303 040 1998 i dalueich rhent drwyddefnyddio cerdyncredyd neu ddebyd.

Banc neugymdeithasadeiladuGallwch hefyd drefnu idalu’ch rhent yn sythgyda’ch banc neugymdeithas adeiladu drwy

ddefnyddio archeb sefydlog gan ddyfynnurhif cyfeirnod eich cyfrif, a’ch enw cyfrif sefNewydd Housing Association 1974 Ltd.

Ffôn clyfarOs ydych yn defnyddio ffônclyfar, mae ffordd newydd odalu’ch rhent. Mae Allpay wedilansio ap newydd y gellir eilawrlwytho yn rhad ac am ddim,a fydd yn ei gwneud yn llawerhaws i dalu’ch rhent.

Arian parodOs ydych yn talu eichrhent i ni drwyddefnyddio arianparod, gwnewch ynsiŵr eich bod yn gofynam dderbynneb cyngynted ag y byddwch

yn rhoi’r arian i ni os gwelwch yn dda. Niellir rhoi derbynneb yn ddiweddarach osydych wedi rhoi arian parod i ni.

Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth

Page 5: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

5@newyddhousing

Gofynnodd gwirfoddolwyr GarddGymunedol a Rhandir y Barri iNewydd redeg Cwrs Bwyd Cymunedola Sgiliau Maeth a gynhaliwyd ganRwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymruym mis Tachwedd 2016.

Gan fod y rhandir yn cynhyrchu ffrwythau allysiau ffresh flwyddyn ar ôl blwyddyn,roedd y gwirfoddolwyr am gyfuno eugwybodaeth o dyfu gyda’u gwybodaeth o’rhyn sy’n faethlon. Fe wnaethant ddysgu suti leihau halen, siwgr a braster yn eu deietdrwy ddefnyddio’r ‘Eatwell Guide’.

Dywedodd Alex, gwirfoddolwr yn yr ardd,“Fe wnes i wir fwynhau’r cwrs tair wythnos,roedd yn hwyl a dysgais lawer. Rwy’nsylweddoli bod modd gwella fy neiet fellybyddaf yn defnyddio’r ‘Eatwell guide’ i fy helpu.”

Cwrs bwyd a maeth yng NgarddGymunedol a Rhandir y Barri

Ydych chi’n chwilio am swydd? Os mai’r ateb yw ‘ydw’, gallwn eich helpu gyda:• Gwella eich hyder• Dysgu sgiliau newydd• Ennill cymwysterau (galwedigaethol) achrededig• Chwilio am swyddi• Ysgrifennu neu ddiweddaru eich CV• Ymarfer sgiliau cyfweliad

I dderbyn diweddariadau rheolaidd ynghylchcyflogadwyedd, does dim ond rhaid i chi glicio “like”ar dudalen Facebook Newydd drwy fynd iwww.facebook.com/newydd. Drwy hoffi’n tudalen,gallwch ffindio mas pa glybiau swyddi a phahyfforddiant sydd ar gael i chi yn eich ardal leol. Neufel arall, cysylltwch â Jackie Holly ar 02920 005476/07501 466694 neu [email protected] amfwy o wybodaeth.

Llongyfarchiadau i Sion Willding oTalbot Green sydd wedi pasio’nllwyddiannus ddau gwrs achrededigyn ddiweddar sef COSHH, a codi achario. Hyd yn oed yn well na hynnyac yn ennill ei hat-tric, pasiodd Sionei brawf CSCS yn llwyddiannus gydani hefyd, sy’n rhoi cerdyn llafurio 5mlynedd iddo. Mae Sion yn awr wediderbyn gwaith yn adran adeiladuLeekes. Dymunwn y gorau i ti yn ydyfodol Sion!

Page 6: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

6 tai newydd

Yn ystod misoedd Awst a Medi’rllynedd fe wnaethon ni ofyn idenantiaid Newydd sy’n talu tâlgwasanaeth, a oedden nhw’n hapusgyda’r gwasanaeth neu beidio. Fe wnaethon ni ofyn a yw gwasanaethau felcynnal a chadw’r tiroedd, a’r glanhau, o safonddigon uchel ac a yw’r contractwyr yn gwneudgwaith da. Dangosodd yr arolwg bod 88%ohonoch yn hapus gyda’r gwasanaethauystâd; mae hyn yn cymharu â 91% yn 2015.

Anfonwyd mwy o ganlyniadau ac adbortho’r arolwg i denantiaid ar ddiwedd misChwefror eleni.

Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd?

Os hoffech fwy o wybodaeth am eich

gwasanaethau ystâd, neu os hoffech

gymryd rhan mewn arolygiad ystadau

misol gyda’ch swyddog tai, cysylltwch â

Neil Chambers ar 02920 005496 neu e-

bostiwch [email protected]

os gwelwch yn dda.

Cystadleuaeth Newyddyn ei flodau 2017Gallwch roi eich gardd chi neu arddcymydog i chi yng nghystadleuaeth arddioflynyddol Newydd, yn y categorïau a ganlyn:

• Gardd unigol orau• Gardd byw’n annibynnol orau• Gardd gymunedol orau• Basged grog orau neu focs ffenest• Llecyn llysiau neu dŷ gwydr gorau• Defnydd gorau o ddeunyddiau wedi eu

hailgylchu• Gardd berlysiau orau• Nodwedd ddŵr orau

Tynnir llun o bob gardd, a bydd y ceisiadauyn cael eu beirniadu ar y 5ed o Orffennaf.Rhoddir gwybod i’r enillwyr yn fuan wedyn.

Os hoffech gystadlu, cysylltwch â Tracy,eich Swyddog Adfywio Cymunedol, ar02920 005477, 07899 665818 [email protected] os gwelwchyn dda. Dyddiad cau yw 18eg o Fehefin.

Enillydd yr Amazon Fire Tablet oeddMr Stillman o Jacksons Quay.

LLONGYFARCHIADAU!

Bydd enillydd pobcategori yn ennill £50!

Page 7: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

7www.facebook.com/newydd

Bydd y 5 tenant cyntaf i arwyddo fel aelodo’r Cambrian Credit Union yn cael:• £2 o ffi ymuno wedi’i dalu• £5 o flaendal cychwynnol wedi’i dalu i’ch

cyfrif cynilo, yn ogystal â...• £20 wedi’i dalu i gyfrif Christmas Savers!

Does dim ond rhaid i chi sicrhau eich bodchi’n talu tri thaliad ar wahân i un o’chcyfrifon cynilo gyda Cambrian Credit Unioncyn Hydref 1af i gael derbyn eich bonwsNadolig.

Meddwl tybed beth yw Undeb Credyd?Cambrian Credit Union yw’r undeb credydmwyaf yng Nghymru. Maent yn cynnigcynilion a benthyciadau i bobl sy’n bywneu’n gweithio yng ngogledd a chanolbarthCymru, gan gynnwys Powys.

Er bod y cynnyrch a gynigir yn debyg i’r hyny byddech yn ei gael mewn banc – mae’rethos yn wahanol iawn. Mae’n gwmnicydweithredol ariannol, sy’n golygu ei fod yneiddo i’w aelodau. Mae gan bob aelod hawlcyfartal i ddweud ei farn ar faterion sy’neffeithio ar yr undeb credyd – drwy bleidleisioyn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gwasanaethau sydd ar gael:• Cyfrifon cynilo i oedolion a phlant • Cynllun Save for Christmas • Benthyciadau o rhwng £50 a £15,000!• Cynllun Cynilo Cyflogres• Gostyngiadau ar-lein • Cyfleoedd gwirfoddoli• A llawer mwy...

Galw tenantiaid yDrenewydd: ennillwch arian!Mae Newydd wedi ymuno â Cambrian Credit Union yn y Drenewydd igynnig cyfle i 5 tenant lwcus ennill ychydig o arian.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa

Cambrian yn y Drenewydd ar 01686 623741, e-

bostiwch [email protected] neu

galwch i mewn yn y swyddfa yn 20 Broad Street, Y

Drenewydd, Powys, SY16 2NA. Ceir gwybodaeth

hefyd ar wefan www.cambriancu.com

Page 8: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

8 tai newydd

Tenant problemus yn cael ei droi mas yn y Barri

Mewn partneriaeth â Bro Ddiogelach aHeddlu De Cymru, bu Cymdeithas TaiNewydd yn gweithio’n agos â phreswylwyrHeol y Llongau i gasglu datganiadau athystiolaeth, o ganlyniad i ddefnydd ogyffuriau, aflonyddu, a cherddoriaeth uchelyn fflat Richard Shorney dros gyfnod o 9 mis.

Er iddo gael cyfleoedd i wella ei ymddygiad,parhaodd cymdogion bregus i ddioddefoherwydd nifer o ddigwyddiadau oedd ynaflonyddu ar eu cymuned, ac felly ym misHydref 2016, rhoddodd y Llys Sirol yngNghaerdydd Orchymyn Ildio Meddiant o’reiddo er mwyn troi Richard Shorney mas o’ieiddo.

Dywedodd Robert Kidd, Swyddog TaiNewydd, “Er iddo gael nifer o gyfleon inewid ei ymddygiad ac i ystyried eigymdogion wrth fyw ei fywyd o ddydd iddydd, parhaodd Richard Shorney i darfu ary gymuned glòs sydd yn yr ardal. Nid oeddgennym ddewis ond cymryd camaucyfreithiol i’w droi allan o’i eiddo. Fe hoffemddiolch i’r preswylwyr sy’n byw yn Heol yLlongau am eu cefnogaeth gyson wrth einhelpu ni i gael y canlyniad hwn. Nid ydym ynfodlon goddef ymddygiad o’r fath yn eincymunedau a byddwn yn cymryd camau iunioni unrhyw achosion o ymddygiadgwrthgymdeithasol.”

Yn dilyn cyfres o gwynion gan breswylwyr yn yr ardal, cafoddRichard Shorney o Heol y Llongau yn y Barri ei droi mas o’i eiddooherwydd ymddygiad afreolus.

Gall unrhyw un o denantiaid Newyddsy’n dymuno rhoi gwybod i ni am

enghreifftiau o ymddygiadgwrthgymdeithasol wneud hynny drwy

alw Newydd ar 0303 040 1998, wrthfynd i’n gwefan www.newydd.co.uk

neu drwy roi gwybod i’r Heddlu ar 999 neu 101.

RHYBUDDTROI MAS

Page 9: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

Dywedwch wrthym beth sydd angen ei

wella neu ei symud, drwy ffonio 0303 040

1998, e-bostio [email protected],

wrth gofrestru â Fy Nghyfrif ar

www.newydd.co.uk/myaccount neu

tecstiwch ni ar 07539 115115. Mae lluniau’n

help mawr ac os gwelwch yn dda rhowch

gymaint o fanylion ag y gallwch am leoliad y

broblem.

9@newyddhousing

Peidiwch â’i anwybyddu, reportiwch e…Rydym angen i chi gydweithio â ni i wella eich cymuned. Reportiwch ypethau a ganlyn i ni cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda, er mwyn ini allu gweithio gyda’n gilydd i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw:

Wedi cael llond bol ar sbwriel yn eich ardal?

Lawrlwythwch yr ap LitterGram yn rhad ac am ddim ar eich ffôn!

Defnyddiwch bŵer eich ffôn a’r cyfryngaucymdeithasol i dacluso Prydain.Snapiwch e – Defnyddiwch eich ffôn idynnu lluniau o sbwriel a digwyddiadaueraill.Rhannwch e – Lanlwythwch eich lluniaui LitterGram a’u rhannu ar y cyfryngaucymdeithasol.Sortiwch e – Mae cynghorau’n canfodmannau sy’n dew o sbwriel ac yntacluso’r llanast.

Dod yn Llysgennad Ystâd

Cymerwch feddiant o’ch ystâd, eich strydneu eich bloc o fflatiau, ac arolygwch eichardal gydag un o’n Swyddogion Tai. Gallwchddweud wrthym am y materion mae eichcymuned yn eu hwynebu, a gallwch einhelpu i sylwi ar bethau sydd angen eugwella neu eu symud! I ddod yn LlysgennadYstâd cysylltwch â ni gan ddefnyddio’rmanylion uchod.

Baw ci Sbwriel cyffredinol, ynenwedig mewn ardaloedd

o lwyni

Waliau wedidymchwel

Ffensys wedi torri

Gwair mewn landeria’r cap pen ar goll

Parcio carafanau Gerddi blêr Tanau

Gwastraff wedi’iheintio mewn bagiau

ailgylchuTipio

anghyfreithlon

Ceir wedi eugadael

Page 10: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

10 tai newydd

Eich anifeiliaid anwes: canlyniadau’r arolwgYn ddiweddar, adolygodd y Grŵp Craffu’r ffordd mae Newydd yn delioag anifeiliaid anwes; dyma eu canfyddiadau.

Sut wnaethon ni gynnalein hadolygiad?• Cyfweld staff a’r RSPCA• Cynnal ymweliadau arfer orau

a chymharu esiamplau • Adolygu polisi a ffordd Newydd

o weithredu • Archwilio data• Cynnal arolwg tenantiaid

Arfer dda Newydd:• Cael polisi cadarn a ffyrdd cadarn o

weithredu wrth ddelio â chwynionam anifeiliaid anwes

• Staff profiadol, hyfforddedig• Cydnabod budd anifeiliaid anwes a

dangos gofal am eu lles• Defnyddio synnwyr cyffredin wrth roi

caniatâd i gadw anifail anwes

• Gwella’r broses o wneud cais, i sicrhaubod perchennog anifail anwes yn gwybodbeth yw eu cyfrifoldebau a beth fydd yndigwydd os ydynt yn berchennog anghyfrifol.

• Sicrhau, drwy’r broses ymgeisio, fod cŵn achathod yn cael microsglodyn i gydymffurfioâ’r ddeddfwriaeth.

• Darparu gwybodaeth ddefnyddiol idenantiaid, ar y wefan ac yn y cylchgrawnCipolwg.

• Cynhyrchu taflenni gwybodaeth am sut ifod yn berchennog cyfrifol ar anifeiliaidanwes, microsglodion, prynu ci, rheolicŵn mewn llefydd cyhoeddus,

gwasanaethau lleol fel fets, cyswllt RSPCA,gwasanaeth profedigaeth anifail anwes, awardeniaid cŵn lleol.

• Cynghori ar ddewisiadau eraill heblawbod yn berchennog ar anifail anwes, e.e.gwirfoddoli mewn cartrefi lleol i gŵn neugathod, maethu tymor byr neu helputeulu a ffindiau.

• Cyfeirio at wasanaeth gosod microsglodynam bris isel, neu’n rhad ac am ddim.

• Ystyried datblygu rhaglen hyfforddiantperchennog cyfrifol ar anifeiliaid anwes.

• Cynnig am Housing Footprint Award yrRSPCA.

Mae angen aelodau newyddMae’r Grŵp Craffu am recriwtio aelod

newydd eleni. Dylai’r person hwn fod âdiddordeb byw mewn archwilio a gwella

gwasanaethau Newydd. Os oes diddordebgennych, cysylltwch â Tracy os gwelwch yndda. Yn ddelfrydol mae’r grŵp am recriwtioo ardaloedd sydd heb gynrychiolaeth, e.e.Glyn-nedd, Talbot Green a Gilfach Goch.

Dyma’r argymhellion a gafwyd gan y Grwpiau Craffu ac adderbyniwyd gan Fwrdd ac Uwch Dîm Rheoli Newydd:

Arolwg nesaf y Grŵp Craffu fydd cymryd

golwg fanwl iawn ar Adfywio Cymunedol.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau

ynghylch sut gellir gwella’r gwasanaeth hwn,

cysylltwch â Tracy ar 02920 005447, 07899

665818 neu [email protected]

os gwelwch yn dda.

Page 11: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

11www.facebook.com/newydd

Pwy fydd yn gofalu am eich anifailanwes os na allwch chi?Yn drist iawn, gwelsom gynnyddyn y nifer o anifeiliaid anwes sy’ncael eu gadael yn ein heiddo panmae tenantiaid yn symud mas,neu’n marw, neu’n mynd i’rysbyty am gyfnod. Yn aml nidydym wedi gallu canfod neb iofalu am yr anifeiliaid.

Yn ddiweddar rydym wedi cryfhau ein polisianifeiliaid anwes gan ddilyn rhai o argymhellionPanel Craffu Newydd, a nawr mae’n rhaid idenantiaid roi manylion am ofalwyr mewnargyfwng i’w hanifeiliaid anwes rhag ofn y byddtenant yn methu â gofalu am eu hanifeiliaid.

Os oes gennych chi anifail ac rydych

yn gallu rhoi manylion i ni am ofalwr

mewn argyfwng, cysylltwch â’n Tîm

Gwasanaethau Cwsmeriaid ar

0303 040 1998 neu e-bostiwch ni

[email protected] os

gwelwch yn dda.

Page 12: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

12 tai newydd

Mewn partneriaeth â Chyngor BwrdeistrefSirol Rhondda Cynon Taf, cyflogodd Newyddgwmni Weston Contractors i lwyr adnewyddublociau o fflatiau gwag er mwyn creu mentertai cydweithredol ar gyfer pobl leol, gan alluogitenantiaid i ymgymryd â pheth rheolaeth droseu cartrefi eu hunain o fewn cymuned glòs.

Roedd y gwaith adnewyddu yn fflatiauShakespeare Rise, sy’n werth cyfanswm o£745,000, yn cynnwys ystafelloedd ymolchinewydd, ceginau, toeon, ac ardaloeddcymunedol. Bydd y deunaw fflat maeNewydd yn berchen arnynt yn sylfaen i’rfenter gydweithredol a elwir ynShakespeare Gardens.

Gyda chefnogaeth y Cydffederasiwn TaiCydweithredol a Chanolfan CydweithredolCymru, mae aelodau wedi bod yn cyfarfodyn wythnosol ers misoedd lawer i ddod iadnabod ei gilydd cyn iddyn nhw symud imewn. Maent wedi cymryd rhan mewn

gweithdai yn ogystal â phenderfynu padasgau i’w cyflawni wrth iddynt ddatblygu.Gallai’r aelodau ymgymryd â thasgauatgyweirio dydd i ddydd, glanhau ffenestri acardaloedd cymunedol, addurno, a garddioyn gyfnewid am ostyngiad yn y rhent a’r tâlgwasanaeth. Bydd Newydd, fel y landlord,yn parhau i fod yn gyfrifol am yr holl brifdasgau cynnal a chadw a gwiriadau diogelwch.

Dywedodd Bernard Coombes, “Rwyf wedibod yn un o fechgyn Rhydyfelin am y rhanfwyaf o’m hoes a phan wnes i adael y Fyddinroeddwn am ddod nôl gartref. Roeddwnwrth fy modd pan ddes i’n aelod o’r co-op,mae’r ffordd y cafodd ei adnewyddu yma ynwych. Mae ystafell wlyb yn fy fflat sy’nddelfrydol i mi. Yn well na dim, mae pawbmor gyfeillgar, rydym yn cefnogi’n gilydd.Rydw i mor hapus yma, mae bod yn rhan o’rco-op yn fy ysbrydoli i godi’n y bore. Rydym igyd yn cyfarch ein gilydd â ‘Bore da’ neu‘Bnawn da’ a dyna holl bwynt y peth.”

Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio’r fentertai cydweithredol gyntaf yn Rhydyfelin Lansiodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau aPhlant, y fenter tai cydweithredol Shakespeare Gardens yn Rhydyfelinddydd Iau 6ed Hydref, y gyntaf o’i fath i Newydd.

Page 13: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

13@newyddhousing

Yn dilyn addasiadau i’r cynllun ger Aberdâr,mae Cymdeithas Tai Newydd wedi cyflawniSafon Platinwm Visibly Better RNIB Cymruam y gwaith a wnaed yn Alltwen i helpupobl sydd wedi colli eu golwg i aros yn eucartrefi am fwy o amser.

Gwnaed newidiadau sylweddol, fel llwybrmynediad llydan a gwastad o gwmpas yradeilad, storfa sgwteri, a gatiau llydain, isicrhau bod tenantiaid sydd wedi colli eugolwg yn gallu symud o gwmpas amwynhau treulio amser yn y gerddi hebboeni am fynediad a diogelwch.

Tu mewn i’r adeilad mae pob llawr wedi’ibeintio’n lliw gwahanol i alluogi tenantiaid iganfod ble maen nhw, ac mae golau gwellyn yr ardaloedd cymunedol, a lliwiaugwrthgyferbyniol ar y waliau er mwyn idenantiaid fedru gwahaniaethu rhwngamryfal eitemau yn yr ystafell. Mae’rnewidiadau hyn hefyd o fudd i denantiaidanghofus, neu rai sydd â phroblemausymudedd.

Mae tenantiaid hyfforddedig Newydd wediasesu’r gwaith yn feirniadol, gwaith a wnaedgan y contractwyr R&M Williams, gydachefnogaeth Cathryn Hughes o RNIB Cymru.Drwy gydol y broses fe wnaethant sicrhaubod y gwaith yn safonol ac yn addas ar gyfereu cyd-denantiaid.

Dywedodd Sandra Rehman, un odenantiaid Newydd ac Asesydd CynllunRNIB Cymru, “Mae’r newidiadau hyn yngwneud gwahaniaeth mor anferthol i’r rhaisy’n cael anhawster i symud o gwmpasAlltwen; mae’n edrych yn wych. A minnauddim yn gweld yn dda fy hun, rwy’n teimlo’ngryf y dylem wneud cymaint ag y gallwn iwneud bywyd yn fwy gweledol i’r rhai sydd ânam ar eu golwg.”

Cyflwynwyd Gwobr Safon Platinwm RNIBCymru i Paul Roberts, Prif WeithredwrNewydd gan Cath Hughes, Swyddog VisiblyBetter RNIB Cymru, ar 18fed o Hydref mewnte dathlu yn Alltwen.

Gall tenantiaid Alltwen, cynllun byw’n annibynnol ar gyfer pobl 55 oed athrosodd, nawr fyw’n annibynnol am fwy o amser diolch i newidiadausylweddol yn y cynllun sy’n cynnal pobl sydd wedi colli eu golwg.

Alltwen yn ennill gwobr am fod yn ‘Visibly Better’

Page 14: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

14 tai newydd

Ni yw un o’r llefydd gorau iweithio ynddo ledled y DU

Dywedodd Hana Morgan, SwyddogCorfforaethol Newydd, “Rwy’n mwynhaudod i’r gwaith bob dydd, mae’n teimlo felteulu yma. Rwyf wedi ffurfio perthynaswaith wych gyda phobl ym mhob rhano’r sefydliad ac ym mhob adran ac maepawb yn helpu, ni waeth beth. Rydym yngwerthfawrogi’n gilydd; mae’n deuluNewydd.”

Gyda chyfanswm o 3,000 o gartrefi ar rentac ar werth ledled canolbarth a de Cymru,a 100 o staff, mae 80% o weithwyrNewydd yn teimlo bod eu rheolwr yncymryd diddordeb yn eu lles ac mae 75%yn hapus â’r cydbwysedd sydd rhwng eubywyd yn y gwaith a’u bywyd gartref.

Fe’i hystyrir fel y darn mwyaf dwys oymchwil a wnaed drwy’r wlad ar destunymgysylltu â gweithwyr; mae’r holl sgoriaua graddau a asesir gan Best Companiesyn seiliedig ar farn y gweithwyr; ac mae’rholiaduron yn cael eu diweddaru’nflynyddol i adlewyrchu’r pryderon sy’n ygweithle ar hyn o bryd. Daeth Newydd iblith y 10 uchaf yn y DU o ran ffactorau fellles, arweinyddiaeth a thegwch.

Wyddech chi fod Newydd nawr ynrhif 17 ar restr The Sunday TimesTop 100 Best Not For ProfitCompanies To Work For 2017?

Rydym yn postio manylion am swyddi,

prentisiaethau, a chyfleon profiad gwaith

ar ein tudalen Facebook a’n gwefan yn

rheolaidd. “Hoffwch” ein tudalen

www.facebook.com/newydd i gael

gwybodaeth bellach, neu ewch i

www.newydd.co.uk

Page 15: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

15www.facebook.com/newydd

Yn dilyn proses gyfweld drwyadl, a chyflwyniad, fedrechodd Lyn gystadleuaeth gref o’r sector tai yngNghymru i ennill y wobr nodedig sy’n cydnabodunigolyn neu grŵp sydd wedi mynd yr ail filltir ac ymae eu hangerdd, brwdfrydedd a’u hymroddiad wedigwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl eraill.

Yn ei chyflwyniad canolbwyntiodd Lyn ar ei chyrhaeddiadmwyaf clodwiw, sef y ffordd y mae hi wedi dylanwaduar y gwelliannau a wnaed i wasanaethau Newydd. Drwyweithio ochr yn ochr â’i chyd-denantiaid yn trafod acyn gwella polisïau a dulliau o weithio, mae hi’n teimlobod y newidiadau dilynol a weithredwyd gan ysefydliad wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i’rgwasanaeth a ddarperir i denantiaid.

Yn dilyn blynyddoedd o gymryd rhan mewn gweithdaia chyfarfodydd i wella gwasanaethau, daeth Lyn ynaelod o Fwrdd Newydd yn 2009. Ar hyn o bryd hi ywDirprwy Gadeirydd y Bwrdd a Hyrwyddwr AdfywioCymunedol y Bwrdd.

Un o breswylwyr Rhydyfelin ynennill gwobr tai cenedlaethol Mae Lyn Bond, un o denantiaid Newydd sy’n byw yn Rhydyfelin gerPontypridd, wedi ennill ‘Gwobr Pencampwr Tai’ yng Ngwobrau Tai Cymru2016, a drefnwyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru.

Dywedodd Lyn, “Mae ennill y wobr hon yn

gyrhaeddiad anferth i fi. Roeddwn i ar ben fy

nigon pan roddwyd fi ar y rhestr fer, heb sôn

am ennill! Fe hoffwn i ddiolch i Newydd a’r

Sefydliad Tai Siartredig Cymru am eu

cefnogaeth a’u hyfforddiant dros y

blynyddoedd. Rwy’n gobeithio parhau gyda’r

gwaith rwy’n ei wneud, a pharhau i gymryd

rhan a gwneud gwahaniaeth, mewn ffordd

swil a gwylaidd fel bob amser!”

Page 16: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

16 tai newydd

Prosiect wedi ei ariannugan Gronfa GymunedolNewydd yw Space Saviours,ac mae’n cynnig cefnogaethi denantiaid a phreswylwyr idrawsnewid gofod gwag.

Gyda help Tîm Adfywio Cymunedol Newydd,mae Space Saviours yma i’ch helpu i gynllunioprosiect – o welyau plannu wedi’u codi, ibarciau sglefrio!

Drwy gyfrwng gweithdai Space Saviours achefnogaeth gan bartneriaid, gall eich cymunedddod yn fwy hyderus i gyfoethogi’r gofodaulle rydych yn byw drwy gynllunio gwych.

Oes gofod gwastraff yn eichcymuned? Gall SpaceSaviours helpu

Os oes gennych brosiect mewn

golwg ar gyfer eich cymuned, neu

os ydych am ddarganfod mwy am y

cynllun, cysylltwch os gwelwch yn

dda â Tracy, Swyddog Adfywio

Cymunedol, ar 02920 005477 neu

[email protected]

Page 17: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

17www.facebook.com/newydd

Dewiswyd ‘Newbourne Place’ yn enw i’rdatblygiad fflatiau gwerth £3.5 miliwn arFfordd Woodlands ar ôl cael cannoedd ogeisiadau gan fwy na 60 o bobl.

Mr John Lamb a Mr Stephen Edmonds yw’rddau unigolyn lwcus a gafodd wobr o £50 arôl awgrymu’r enw ‘Newbourne’, gangysylltu’r safle â’i orffennol. Yn ystod yr AilRyfel Byd cafodd y ddau gartref nyrsys oeddar Ffordd Woodlands eu trawsnewid ynuned famolaeth ar gyfer gwrageddswyddogion RAF, cyn dod yn YsbytyMamolaeth y Barri yn 1955.

Mae gan y ddau enillydd gysylltiadau agYsbyty Mamolaeth y Barri. Cafodd MrStephen Edmonds a’i wraig eu geni yno, acmeddai, “Rwyf wrth fy modd fy mod wediennill y wobr; dwi ddim yn meddwl mod iwedi ennill dim byd ers i mi fod yn 13mlwydd oed! Mae’n brofiad arbennig iawngan fod gen i a fy ngwraig gysylltiad personolâ’r safle gan i ni fod yn fabanod newydd-anedig yno ein hunain. Bydd yr arian yn caelei wario ar y plant, diolch Newydd.”

Prynwyd y safle gan Newydd ym misMawrth 2016 gan ddefnyddio benthyciadgan gynllun ‘Tir ar gyfer Tai’ LlywodraethCymru. Mae’r fflatiau newydd sbon yma arFfordd Woodlands yn cael eu hadeiladu ganPegasus Development mewn partneriaeth âChyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru.

Mae angen i bobl leol sydd â diddordebmewn rhentu un o’r fflatiau un a dwyystafell wely hyn, unwaith y byddant ynbarod, gofrestru gyda Homes4U, y gofrestrtai lleol a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg.

Enwi Datblygiad Tai FforddWoodlands yn ‘Newbourne’ arôl Ysbyty Mamolaeth y Barri Mae Newydd wedi enwi datblygiad tai newydd ar safle hen YsbytyMamolaeth y Barri o ganlyniad i gystadleuaeth i bobl leol.

Ym mis Ionawr, dechreuodd y gwaith adeiladu ar hen safleGwesty Trehafod, Ffordd Trehafod ym Mhontypridd. Mae’rdatblygiad hwn, sy’n werth £1 miliwn, yn cynnig 8 fflat unystafell wely, a thŷ-tref pedair ystafell wely a fydd ar gael i’wrhentu i bobl leol. Gobeithio y bydd y datblygiad hwn ynbarod erbyn y gwanwyn 2018.

Datblygiad tai newydd ym Mhontypridd

Page 18: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

18 tai newydd

Gyda lansiad llwyddiannusSchoogle Magazine ym misTachwedd, mae Newydd, HAPI aFull Circle wedi cael cyllid ganraglen y Loteri Fawr ‘Arian i BawbCymru’ i barhau i gynhyrchu’rcylchgrawn ar gyfer disgyblionysgolion cynradd.

Prosiect cylchgrawn yn seiliedig ar glwstwr oysgolion yw Schoogle, wedi ei greu gan blantYsgol Gynradd y Ddraenen Wen, Ysgol GynraddHeol y Celyn, Ysgol Gynradd Ffynnon Taf,Ysgol Gynradd Coedpenmaen ac YsgolGynradd Parc Lewis yn Rhondda Cynon Taf.

Mae creu’r cylchgrawn yn helpu’r plant iddatblygu eu sgiliau llythrennedd, sgiliauTGCh, a hyrwyddo ymwneud o fewn ygymuned. Mae erthyglau Schoogle yn caeleu hymchwilio, eu hysgrifennu, a’u cynlluniogan y plant, ac maent yn ymchwilio ithemâu maent yn teimlo’n gryf yn eu cylch.

Os ydych yn byw yn ardal RhCT cadwch lygadyn agored am y cylchgrawn, a fydd yn cael eigyhoeddi ganol mis Gorffennaf.

Rydym yn gofyn i denantiaid ymaelodi âphrosiect chwe mis, sy’n anelu at helpu igael mwy o bobl ar-lein.

Os byddwch yn cymryd rhan yn y prosiectac yn defnyddio tabled Kindle Fire igyfathrebu â ni, cewch gadw’r tabled ar ôlcymryd rhan! Fel rhan o’r ddêl mae disgwyl ichi ryngweithio â Newydd a defnyddio MyAccount i gysylltu â ni, talu’r rhent, gwirioeich balans rhent, a rhoi gwybod am waithtrwsio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ar gyfer tenantiaid sydd ddim yn hyderusynghylch defnyddio tabled, neu sydd erioedwedi defnyddio Fy Nghyfrif o’r blaen, gallwngynnig hyfforddiant un-wrth-un yn eichcartref, neu mewn sesiwn digidol galw-i-mewn sy’n cael ei redeg yn eich llyfrgell leol.

Ein dêl ddigidol: gallech chi gael Kindle Fire

Mae cylchgrawn Schoogle yma i aros

Os ydych yn dymuno cymryd rhan

yn y prosiect hwn, cysylltwch os

gwelwch yn dda â Scott Tandy ar

07584 501 216 neu e-bostiwch

[email protected]

Am wybodaeth bellach, neu i weld

sut gallwch hysbysebu yn y

cylchgrawn hwn, cysylltwch os

gwelwch yn dda â Scott Tandy ar

07584 501 216 neu e-bostiwch

[email protected]

Page 19: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

19@newyddhousing

Os ydych angen help i ddefnyddio’r rhyngrwydneu i wneud rhywbeth ar gyfrifiadur, tabledneu ffôn, yna dewch draw i’r Dydd GwenerDigidol bob dydd Gwener 10am – 12pm yneich llyfrgell leol.

Gallwn eich helpu wrth i chi ddechrau myndar-lein, dangos i chi sut i ddefnyddio pethaufel Skype, gallech arbed arian drwy ddefnyddio’rrhyngrwyd, a gallwn eich dysgu sut i gadw’nddiogel ar-lein. Ar Hyb HAPI, Masefield Wayyn Rhydyfelin, gallwn hyd yn oed eich helpui chwilio am swyddi, neu greu CV.

Am wybodaeth bellach, ewch i’ch llyfrgellleol yn Rhondda Cynon Taf ar ddyddGwener rhwng 10am a 12pm neu cysylltwchâ Scott Tandy, arbenigwr digidol Newydd ar07584 501216 neu [email protected]

Mae Dydd Gwener Digidol yn brosiect sy’ncael ei gynnal mewn partneriaeth rhwngNewydd, Cymunedau’n Gyntaf, CymunedauDigidol Cymru, Llyfrgelloedd RhCT, Grŵp TaiCymunedol Cynon Taf, Cymdeithas TaiHafod a Trivallis.

Yn dilyn llwyddiant sefydlu BarryKicks yn Colcot Astroturf mewnpartneriaeth ag YmddiriedolaethDinas Caerdydd, mae’r prosiecthyfforddiant rhad ac am ddimnawr ar waith yn Hawthorn hefyd.

Bob dydd Iau rhwng 5-6pm, gall pobl ifanc 14-19 oed gael hyfforddiant pêl-droed rhad ac amddim yn Hawthorn Astroturf ger Rhydyfelin.Does dim ond rhaid i chi ddod draw ar y dydd!

Wedi’i sefydlu ym mis Medi, mae’r prosiect BarryKicks eisoes yn cael effaith wrth i ddeg o boblifanc gael eu dewis i fynychu twrnamaint pêl-droed rhanbarthol yn Nhŷ Chwaraeon Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ddiweddar.

Cafodd Louis Green, Keenan Davies, CarwynDavies, Robin Morgan, Elis Jones a LloydOxenhan amser gwych yn y twrnamaint yngNghaerdydd.

Os gwyddoch am rywun fyddai’n hoffi caelhyfforddiant pêl-droed am ddim yn y Barrineu Hawthorn Kicks cysylltwch os gwelwchyn dda â Scott Tandy ar 07584 501216 neue-bostiwch [email protected]

Hawthorn Kicks ar waith

Mae Dydd Gwener Digidol yn brosiect newydd cyffrous a gynhelir ledled Rhondda Cynon Taf i’ch helpu chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod i fynd ar-lein.

Dydd Gwener Digidol: gwersicyfrifiadur rhad ac am ddim i chi

Page 20: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

20 tai newydd

Rhoi gwybod arein gwefan amwaith atgyweirioEwch i www.newydd.co.uk a chlicio ar‘Tŵls Tenantiaid’. Fe welwch y botwm‘Gwaith Trwsio’ yna. Bydd angen i chi lanw’rffurflen a rhoi hynny o wybodaeth i ni agsy’n bosib, gan gynnwys lluniau os gallwch.Dyma ffordd hawdd, ddi-ffws, o roi gwybodam waith atgyweirio! Peidiwch â defnyddio’radnodd hwn ar gyfer gwaith brys, ffoniwch0303 040 1998 os gwelwch yn dda.

Newyddion cynnal a chadw

Mae Newydd wedi ymrwymo i sicrhaubod pob tenant yn teimlo’n ddiogela diddos yn eu cartrefi, yn enwediglle mae offer nwy yn y cwestiwn.

Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i roigwasanaeth blynyddol i’n holl offer nwy acrydym yn gweithio’n hynod galed i sicrhaubod y gwasanaeth yn cael ei gwblhau.

Er gwaethaf bygythiad amlwg gwenwyncarbon monocsid, parhawn i gael problemauwrth geisio cael mynediad at fwyleri nwy i roigwasanaeth iddynt.

Er eich diogelwch, mae’n hanfodol ein bodyn rhoi gwasanaeth i’ch bwyler. Os na chawnfynediad ato bydd camau mwy difrifol yncael eu cymryd i leihau’r risg, sydd tu hwnt iamgyffred, y gall fod marwolaethau posiboherwydd nad yw offer nwy wedi cael ei wirio.

Dywedwch wrthym os gwelwch yn dda osnad ydych ar gael ar gyfer apwyntiad syddwedi’i drefnu. Cysylltwch â ni drwy ffonio0303 040 1998 rhwng 9am a 5pm, tecstio07539 115115, neu [email protected]

Contractwr cynnala chadw newydd

Yn ystod mis Rhagfyr 2016 dechreuodd LCBConstruction Ltd weithio ar ein trefniadaucynnal a chadw o ddydd i ddydd ym MroMorgannwg, Caerdydd a Thor-faen. Efallai ygwelwch eu faniau’n mynd o gwmpas y wlad!

Mae LCB Construction Ltd wedi ei sefydluar Ffordd Penarth, Caerdydd, ac mae wedicyd-weithio â Newydd am nifer o flynyddoeddar waith cynnal a chadw cynlluniedig, ondnawr bydd yn helpu i gyflawni atgyweiriadauymatebol. Edrychwn ymlaen at weithiogyda’r cwmni.

Gallwn yn awr osod synhwyryddcarbon monocsid yn eichcartref yn dilyn pobgwasanaeth nwyblynyddol. Os nad ydychwedi derbyn eichsynhwyrydd, cysylltwch âni os gwelwch yn dda ganddefnyddio’r manylion uchod.

Os nad ydych yn ein gadael i’r tŷ, rydych mewn perygl…

Hawliwch eich synhwyryddcarbon monocsid RHAD ACAM DDIM

Page 21: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

2121www.facebook.com/newydd

Eleni byddwn yn arolygu eiddo yn ymannau hyn:• Tor-faen • Penarth • Y Barri

Nodwch os gwelwch yn dda na fyddpob eiddo yn yr ardaloedd hyn yn caeleu harolygu. Rhoddir gwybod ynysgrifenedig i’r tenantiaid yr effeithirarnynt yn nes at yr amser y gwneir yrarolygon, a bydd eich llythyr yn datganpwy fydd yn galw heibio a phryd. Byddyr arolygwr angen cael mynediad i’chcartref am tua awr.

Yr enillwyr lwcus yw:

Ebrill 2016: Miss L Ping o AberdârMai 2016: Mr I Davies o RydyfelinMehefin 2016: Mrs J Chicken o AberdârGorffennaf 2016: Ms O’Brien o’r BarriAwst 2016: Miss R Froude o’r BarriMedi 2016: Mrs M Clements o SullyHydref 2016: Mrs D Shepheard o BenarthTachwedd 2016: Mrs CA Stuart-Torrie o’rBont-faenRhagfyr 2016: Ms AG Mortimer o’r Barri

Arolygu eich cartref: Tor-faen, Penarth a’r Barri

1. Sicrhau ein bod yn cydymffurfio âSafon Ansawdd Tai Cymru

2. Gwirio cyfraddiad effeithlonrwyddynni eich cartref

3. Edrych ar gyflwr y canlynol:

• Toeon, estyll tywydd a landeri

• Drysau a ffenestri

• Cegin

• Ystafell ymolchi a thŷ bach

• Ffin gerddi, er enghraifft ffensysneu waliau

• Palmant allanol/dreif

Gobeithiwn arolygu pob eiddounwaith bob pum mlynedd i:

Yn ystod yr arolwg diwethaf yn2016, cawsom fynediad i ddimond 427 o gartrefi mas o 502. Osnad ydych yn rhoi caniatâd i nigael mynediad i’ch cartref, efallaiy byddwch yn colli mas arwelliannau.

Wnaethoch chiennill Diolch i’r holl denantiaid a lanwoddyr arolwg ar ein gwasanaethatgyweirio, a’i ddychwelyd. Anfoniryr holiadur hwn atoch unwaithmae’r atgyweiriad wedi ei gwblhauyn eich cartref. Os anfonwch chi e’nôl atom bydd eich enw’n mynd iraffl i ennill £100.

£100?

Page 22: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

22 tai newydd

1. Diffoddwch y goleuadau pan mae’rystafell yn wag Mae bwlb golau 100 wat sydd ymlaenam ddwy awr bob dydd yn costio tua£3.20 bob chwarter.

2. Diffoddwch eitemau diangen Gall cyfrifiadur sydd ymlaen am ddwyawr bob dydd gostio tua £2 bobchwarter i’w redeg.

3. Peidiwch â gadael eitemau mewncyflwr segurDiffoddwch ffyrnau a microdonau bobtro mae’n bosib (mae ailosod y cloc ynbris bach i’w dalu).

4. Gwnewch y gorau o olau naturiolGwnewch yn siŵr fod llenni a bleindiauar agor led y pen yn hytrach na throi’rgolau ymlaen. Glanhewch y ffenestri, tumewn a thu fas, yn rheolaidd.

5. Trowch y peiriant golchi i lawr i 30C Mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiauglanhau modern yn gweithio’n iawn ar ytymheredd hwn, ac mae’r arbediad ynniyn werth chweil.

6. Pan ewch i ffwrdd am fwy na diwrnoddiffoddwch bopeth sy’n bosib

7. Peidiwch â gadael charger ffônsymudol ymlaen Defnyddiwch switsh amser gan mai dimond 2 neu 3 awr maen nhw’n cymryd iailwefru.

8. Agorwch ddrws yr oergell a’r rhewgellam gyfnodau mor fyr â phosib Mae hyn er mwyn lleihau cynhesu.

9. Dylech ferwi dim ond cymaint o ddŵrag sydd ei angen arnoch yn y tegell Os ydych yn byw mewn ardal dŵr caled,cadwch y tegell yn ddi-gen i gadw’reffeithlonrwydd yn uchel.

10. Gwnewch y gorau o’ch defnydd o’r ffwrnDrwy goginio cymaint ag sy’n bosib ar yrun pryd. Os oes gennych ffwrn ddwbldefnyddiwch yr un leiaf, neu’r microdon.

11. Wrth brynu cyfarpar newydd,cymharwch eu defnydd o ynni

12. Peidiwch â sychu dillad yn y sychwros yw’r tywydd yn addas ar gyfer eupegio ar lein tu fas Mae sychwr yn defnyddio llawer o drydan.

13. Os oes gennych fwy nag un ffôndiwifr prynwch ffôn confensiynol igymryd lle un ohonyntGall plygiau gwefru’r ffonau hyn gostiohyd at £1 yr un bob chwarter i’w rhedegyn barhaus.

14. Cadwch yr oergell a’r rhewgell yn llawn,ac arwynebau oeri yn lân a di-lwchDefnyddiwch gynwysyddion wedi’u selio ilanw gofod gwag.

15. Wrth goginio llysiau, defnyddiwchdim ond digon o ddŵr i’w gorchuddioTrowch y gwres i lawr fel eu bod ynmudferwi, a defnyddiwch y sosban leiafun.

16. Rhowch gaead ar sosbenni a phadelliffrio Gall hyn leihau’r ynni sydd ei angen odros 50%.

17. Dewiswch gylch mewnol hob cylchdeuolI sicrhau mai dim ond y sosban sy’ncynhesu ac nid yr aer o’i chylch. Peidiwchbyth â rhoi sosban fach ar hob mawr.

18. Rhowch gynnig ar ddefnyddio poptypwysau a/neu bot coginio araf Mae popty pwysau yn coginio bwyd yngyflymach oherwydd y pwysedd ucheltu mewn. Mae potiau coginio’n araf yncaniatáu i bopeth gael ei goginio ar yrun pryd ac yn araf, ac felly mae’ndefnyddio llai o drydan.

19. Agorwch ddrws y ffwrn mor anaml âphosib wrth goginio Glanhewch y gwydr yn nrws y ffwrn i chigael gweld y bwyd heb agor y drws.

20. Rhowch gynnig ar lanw’r bath â dŵroer yn gyntaf Wrth baratoi bath, llanwch ef drwy roi’rdŵr oer i mewn yn gyntaf i leihau’rcyfaint o ddŵr poeth a ddefnyddir.

20 ffordd i leihau’r ynni a ddefnyddiwch

Page 23: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd:

23@newyddhousing

Arbedwch arian:

Mae llawer ohonom yn talu ein biliau nwy a thrydan heb wirio aallen ni arbed arian, ond gallwn wneud pethau syml:

gwiriwch eichbiliau ynni

Darllenwch eich mesurydd ynrheolaidd – sicrhewch nad yweich biliau’n seiliedig arddarlleniadau amcangyfrifedig

Newidiwch i filio ar-lein –

gallai hyn arbed hyd at 10% i chi

Ceisiwch osgoi mesuryddiontalu ymlaen llaw – fel arfermae’r rhain yn ddrutach

Os ydych mewn anhawster

ariannol, rhowch wybod i’ch

darparwr – gall gytuno ar

gynllun talu

Cymharwch brisiau –defnyddiwch wefancymharu prisiau

Sefydlwch ddebyduniongyrchol misol –

gallai hyn arbed hyd at

10% i chi

Ffôn: 0303 040 1998Tecstio: 07539 115 [email protected]

Cymdeithas Tai NewyddTŷ Cadarn, 5 Village Way,Tongwynlais CF15 7NE

W NewyddB @NewyddHousing

Page 24: Gwanwyn 2017 - Newydd€¦ · Sut i dalu eich rhent a’ch tâl gwasanaeth 4 Ydych chi’n chwilio am swydd? 5 Hapus gyda’ch gwasanaethau ystâd? 6 Galw tenantiaid y Drenewydd: