gwers 8: blwyddyn eich geni - let's count · 2019-05-23 · gwers 8: blwyddyn eich geni ystod...

7
Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011. Dyma flwyddyn priodas frenhinol y Tywysog William a Kate Middleton hefyd. Roedd 56.1 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011, sef cynnydd o 7 y cant (3.7 miliwn) ers 2001. Roedd 27.6 miliwn o ddynion a 28.5 miliwn o ferched yn y ddwy wlad. Yn 2011, nododd pedwar o bob pum preswyliwr (81 y cant, 45.5 miliwn) yng Nghymru a Lloegr fod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn. TROSOLWG O'R WERS Mae'r wers hon wedi'i dylunio ar gyfer plant a gafodd eu geni yn 2011 ond gellir ei haddasu ar gyfer plant a gafodd eu geni mewn blynyddoedd eraill. Bydd y plant yn dysgu am y flwyddyn 2011 drwy edrych ar ddata cyfrifiad y flwyddyn honno a gellid ychwanegu at y wybodaeth hon drwy ymchwilio i ddigwyddiadau yn ystod 2011. AMCANION DYSGU Defnyddio'r data hyn i lywio ein gwybodaeth am y gorffennol. Ymchwilio i ddigwyddiadau yn y gorffennol. GEIRFA ALLWEDDOL Cyfrifiad, Ymchwil, Hanes BYDD ANGEN Y CANLYNOL ARNOCH Y canllaw i athrawon ar ddefnyddio gwefan Nomis i ddod o hyd i ddata Cyfrifiad 2011 sy'n ymwneud ag ardal leol eich ysgol. Gwybodaeth arall o Gyfrifiad 2011 (defnyddiwch y Dolenni Defnyddiol trosodd) Mae'n bosibl y byddwch am ymchwilio i ddigwyddiadau o 2011 er mwyn ychwanegu at y rheini a awgrymir yng nghynllun y wers. Gallwch lawrlwytho’r cynllun gwers hwn, siartiau PDF ategol a sleidiau’r cyflwyniad PowerPoint o wefan Gadewch i ni Gyfrif!, www.gadewchinigyfrif.org.uk.

Upload: others

Post on 09-Jun-2020

5 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

Gwers 8: Blwyddyn Eich GeniYSTOD OEDRAN CA2AMSER 1 awrCYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau

CYFLWYNIADCynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011. Dyma flwyddyn priodas frenhinol y Tywysog William a Kate Middleton hefyd. Roedd 56.1 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011, sef cynnydd o 7 y cant (3.7 miliwn) ers 2001. Roedd 27.6 miliwn o ddynion a 28.5 miliwn o ferched yn y ddwy wlad. Yn 2011, nododd pedwar o bob pum preswyliwr (81 y cant, 45.5 miliwn) yng Nghymru a Lloegr fod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn.

TROSOLWG O'R WERS Mae'r wers hon wedi'i dylunio ar gyfer plant a gafodd eu geni yn 2011 ond gellir ei haddasu ar gyfer plant a gafodd eu geni mewn blynyddoedd eraill. Bydd y plant yn dysguam y flwyddyn 2011 drwy edrych ar ddata cyfrifiad y flwyddyn honno a gellid ychwanegu at y wybodaethhon drwy ymchwilio i ddigwyddiadau yn ystod 2011.

AMCANION DYSGUDefnyddio'r data hyn i lywio ein gwybodaeth amy gorffennol. Ymchwilio i ddigwyddiadauyn y gorffennol.

GEIRFA ALLWEDDOL Cyfrifiad, Ymchwil, Hanes

BYDD ANGEN Y CANLYNOL ARNOCH• Y canllaw i athrawon ar ddefnyddio gwefan Nomis i ddod o hyd i ddata Cyfrifiad 2011 sy'n ymwneud ag ardal leol eich ysgol.

• Gwybodaeth arall o Gyfrifiad 2011 (defnyddiwch y Dolenni Defnyddiol trosodd)

• Mae'n bosibl y byddwch am ymchwilio i ddigwyddiadau o 2011 er mwyn ychwanegu at y rheini a awgrymir yng nghynllun y wers.

Gallwch lawrlwytho’r cynllun gwers hwn, siartiau PDF ategol a sleidiau’r cyflwyniad PowerPoint o wefan Gadewch i ni Gyfrif!, www.gadewchinigyfrif.org.uk.

Page 2: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

2

Blwyddyn Eich GeniGWEITHGAREDDAU

Y dyniaethau(Blwyddyn 6)

CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD AC AMCANION DYSGU:

NomisI chwilio am ddata lleol a chenedlaethol o gyfrifiadau blaenorol (gweler Gwers 1 am ragor o ganllawiau).www.nomisweb.co.uk/Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru a Lloegrwww.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/2011censuskeystatisticsforenglandandwales/2012-12-11Gweler Siart 4, Dolenni Defnyddiol, am ragor o wybodaeth.

Deall cysyniadau hanesyddol megis parhad a newid, achos a chanlyniad, tebygrwydd, gwahaniaeth a phwysigrwydd a'u defnyddio i greu cysylltiadau, gwrthgyferbyniadau, dadansoddi tueddiadau, creu cwestiynau sy'n gymwys yn hanesyddol a llunio eu barn strwythuredig eu hunain, yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau a dadansoddiadau.

1. Gofynnwch i'r plant ym mha fis a pha flwyddyn y cawsant eu geni. Gallech gasglu'r data hyn mewn siart ac edrych am unrhyw batrymau. Bydd rhai plant yn yr un dosbarth wedi cael eu geni yn 2011, a rhai yn y flwyddyn flaenorol. (Gallech ddefnyddio sleidiau'r cyflwyniad Powerpoint a/neu PDF Siart 1, Pryd y cawsom ein geni? o www.gadewchinigyfrif.org.uk).

2. Trafodwch sawl plentyn a aned yn 2011 o gymharu â blwyddyn arall. Trafodwch y gwahaniaeth mewn niferoedd a'r rhesymau posibl dros hyn.

3. Rhannwch ddigwyddiadau allweddol o 2011 â'r dosbarth. Gallai hyn gynnwys priodas y Tywysog William a Kate Middleton, gwyddonwyr yn profi bod siarcod yn lliwddall a ffilm newydd Harry Potter.

Mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu canolbwyntio ar ganfyddiadau gwyddonol, ffeithiau am y DU (er enghraifft pwy oedd y Prif Weinidog), digwyddiadau poblogaidd (megis caneuon pop oedd ar frig y siartiau (gweler PDF Siart 2, Caneuon ar frig y siartiau yn 2011 y gellir ei lawrlwytho i arbed amser i chi!) neu newyddion y byd.

4. Lluniwch daflen ffeithiau 'gwir neu gau?' am 2011 er mwyn annog y plant i nodi ffeithiau am y flwyddyn honno, yn seiliedig ar ddata'r cyfrifiad ac ymchwil arall. Gallech hefyd gynnwys ffeithiau o 2001 a'r flwyddyn bresennol. Gall y plant geisio rhoi'r ffeithiau yn eu trefn i benderfynu a ydynt yn ffeithiau am 2011 neu flwyddyn arall. (Gweler PDF Siart 3, Taflen Ffeithiau a sleid y cyflwyniad Powerpoint y gellir eu lawrlwytho.)

Rhowch destunau neu ddolenni gwe i'r plant fel y gallant ymchwilio i'r digwyddiadau yn fwy manwl. (Gweler Siart 4, Dolenni Defnyddiol a sleid y cyflwyniad Powerpoint y gellir eu lawrlwytho.)

5. Gan ddefnyddio'r hyn y maent wedi'i ddysgu am flwyddyn eu geni, bydd y plant yn gweithio mewn grwpiau bach i greu poster, gwaith celf neu daflen ffeithiau i gynrychioli'r flwyddyn. Gan beidio ag anghofio cynnwys eu penblwyddi!

DOLENNI DEFNYDDIOL

Page 3: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

Blwyddyn Eich Geni: Siart 1Pryd y cawsom ein geni?

Mis 2010 2011

Medi

Hydref

Tachwedd

Rhagfyr

Ionawr

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

Gorffennaf

Awst

Page 4: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

Blwyddyn Eich Geni: Siart 2Caneuon a gyrhaeddodd y brig

yn y siartiau yn 2011

What's My NameGrenadeWe R Who We RPrice TagSomeone Like YouDon't Hold Your BreathSomeone Like You On The FloorParty Rock AnthemThe Lazy SongGive Me EverythingChanged The Way You Kiss MeDon't Wanna Go HomeLouderGlad You CameShe Makes Me WannaSwagger JaggerPromises Don't GoHeart Skips A BeatStay AwakeAll About TonightWhat Makes You BeautifulNo RegretsLoca People We Found LoveRead All About ItWe Found LoveWishing On A StarDance With Me TonightCannonballWherever You Are

15/01/201122/01/201105/02/201112/02/201126/02/201126/03/201102/04/201109/04/201123/04/201121/05/201128/05/201118/06/201102/07/201116/07/201123/07/201106/08/201113/08/201120/08/2011 27/08/201103/09/201110/09/201117/09/201124/09/201101/10/201108/10/201115/10/201105/11/201119/11/201110/12/201117/12/201124/12/201131/12/2011

Rihanna gyda DrakeBruno MarsKeshaJessie J gyda BobAdeleNicole ScherzingerAdeleJennifer Lopez gyda PitbullLmfao/Lauren Bennett/GoonrockBruno MarsPitbull/ne-yo/afrojack/nayerExampleJason DeruloDj Fresh gyda Sian EvansWantedJls gyda DevCher Lloyd NeroWretch 32 gyda Josh Kumra Olly Murs gyda Rizzle KicksExamplePixie LottOne DirectionDappySak NoelRihanna gyda Calvin HarrisProfessor Green gyda Emeli SandeRihanna gyda Calvin HarrisArtistiaid Rownd Derfynol X Factor2011

Olly MursLittle MixMilitary Wives/Gareth Malone

12124112413221211111111113231111

TEITLDYDDIAD ARTIST WYTHNOSAUAR Y BRIG

Page 5: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

Blwyddyn Eich Geni: Siart 3Taflen Ffeithiau

Gwir Gau

Digwyddodd hyn ym mlwyddyn Cyfrifiad 2011

Page 6: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

Blwyddyn Eich Geni: Siart 3B: Taflen FfeithiauGall y plant dorri'r ffeithiau allan a phenderfynu lle y maent am eu gosod ar y bwrdd.

Yna gallant gofnodi'r atebion ar sleid 5 y Powerpoint.

Priododd Kate Middleton a'r Tywysog William. GWIR.Enillodd Manchester United Uwch Gynghrair Lloegr. GWIR.Enillodd Andy Murray Wimbledon. GAU (Enillodd yn 2012 a 2016).Gwnaeth y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr osod record byd newydd (am wrthdaro dau belydr a oedd yn cynnwys mwy o ronynnau nag erioed o'r blaen). GWIR.Rhedodd Tim Peake farathon yn y gofod. GAU (Rhedodd y ras yn 2016).Priododd Beyonce a Jay Z. GAU (Gwnaethant briodi yn 2008).

Atebion yr Athro am 2011

EnilloddAndy Murray Wimbledon.

Rhedodd Tim Peake farathon

yn y gofod

PriododdKate

Middletona'r Tywysog

William.

Gwnaeth y Peiriant

Gwrthdaro HadronauMawr osod record byd

newydd.

Priododd Beyonce a

Jay Z.

Enillodd Manchester United Uwch

Gynghrair Lloegr.

Page 7: Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni - Let's Count · 2019-05-23 · Gwers 8: Blwyddyn Eich Geni YSTOD OEDRAN CA2 AMSER 1 awr CYSYLLTIADAU CWRICWLAIDD Blwyddyn 3 – 6 Dyniaethau CYFLWYNIAD

Blwyddyn Eich Geni: Siart 4Dolenni Defnyddiol

NomisI chwilio am ddata lleol a chenedlaethol o gyfrifiadau blaenorol (gweler Gwers 1 am ragor o ganllawiau)www.nomisweb.co.uk/

Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru a Lloegrwww.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/2011censuskeystatisticsforenglandandwales/2012-12-11

www.officialcharts.com/chart-news/all-the-number-1-singles__7931/

www.premierleague.com/tables

www.wimbledon.com/index.html

www.livescience.com/13849-lhc-particle-accelerator-world-record.html

www.gov.uk/government/history/past-prime-ministers