hanesion gŵyl gwanwyn dathlu creadigrwydd mewn pobl...

8
Wrth inni baratoi ar gyfer ein pen-blwydd yn ddeg mlwydd oed ym mis Mai, hoffem roi blas i chi o’r hyn a wnaethom ni y llynedd a’r hyn sydd gennym ar y gweill ar gyfer Gŵyl Gwanwyn eleni. Cadwch lygad am fwy o gyhoeddiadau maes o law! Gŵyl sy’n cael ei chynnal ledled Cymru bob blwyddyn trwy gydol mis Mai yw Gwanwyn, i ddathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn. Dechreuodd yr ŵyl yn 2007 a chaiff ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn dathlu ein degfed pen-blwydd yn 2016 ac rydym yn benderfynol o sicrhau mai gŵyl eleni yw’r fwyaf a’r gorau hyd yn hyn. Mae Gwanwyn yn dathlu’r cyfnod hŷn fel amser a chyfle ar gyfer adnewyddu, twf a chreadigrwydd. Ein nod yw cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan yn y celfyddydau, boed yn gelfyddyd gweledol, drama, adrodd straeon, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth, ffotograffiaeth neu ffilm. Rydym ni hefyd yn dosbarthu cynllun grantiau cymunedol y mae pobl yn eu defnyddio i gynnal gweithgareddau celfyddydol mewn pob math o leoliadau, o gartrefi gofal i theatrau, ac o gestyll i ganolfannau siopa. Yn aml, yn y digwyddiadau llai y mae Gwanwyn ar ei gorau, ac er mwyn eich cynorthwyo chi i wneud synnwyr o bopeth ac i ledaenu eich syniadau da a’ch ysbrydoliaeth mor bell ag sy’n bosibl, hoffwn eich croesawu chi i gylchlythyr cyntaf Gwanwyn. Hwyl! Yn ogystal, hoffem ymgysylltu â’ch hanesion a’ch atgofion chi o Gwanwyn. Cysylltwch â ni er mwyn eu rhannu nhw gyda ni ar Facebook a Twitter, a thrwy wefan Gwanwyn: http://gwanwyn.org.uk/ cy/ . Peidiwch ag anghofio ein dilyn ni er mwyn cael y newyddion diweddaraf o Gwanwyn a’n ffrindiau. Mawrth 2016 Hanesion Gŵyl Gwanwyn Dathlu creadigrwydd mewn pobl hŷn Croeso i Gwanwyn Wrth inni baratoi ar gyfer ein pen-blwydd yn ddeg mlwydd oed ym mis Mai, hoffem roi blas i chi o’r hyn a wnaethom ni y llynedd a’r hyn sydd gennym ar y gweill ar gyfer Gŵyl Gwanwyn eleni. Cadwch lygad am fwy o gyhoeddiadau maes o law!

Upload: others

Post on 05-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Wrth inni baratoi ar gyfer ein pen-blwydd yn ddeg mlwydd oed ym mis Mai, hoffem roi blas i chi o’r hyn a wnaethom ni y llynedd a’r hyn sydd gennym ar y gweill ar gyfer Gŵyl Gwanwyn eleni. Cadwch lygad am fwy o gyhoeddiadau maes o law!

    Gŵyl sy’n cael ei chynnal ledled Cymru bob blwyddyn trwy gydol mis Mai yw Gwanwyn, i ddathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn. Dechreuodd yr ŵyl yn 2007 a chaiff ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn dathlu ein degfed pen-blwydd yn 2016 ac rydym yn benderfynol o sicrhau mai gŵyl eleni yw’r fwyaf a’r gorau hyd yn hyn. Mae Gwanwyn yn dathlu’r cyfnod hŷn fel amser a chyfle ar gyfer adnewyddu, twf a chreadigrwydd. Ein nod yw cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd

    rhan yn y celfyddydau, boed yn gelfyddyd gweledol, drama, adrodd straeon, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth, ffotograffiaeth neu ffilm.

    Rydym ni hefyd yn dosbarthu cynllun grantiau cymunedol y mae pobl yn eu defnyddio i gynnal gweithgareddau celfyddydol mewn pob math o leoliadau, o gartrefi gofal i theatrau, ac o gestyll i ganolfannau siopa.

    Yn aml, yn y digwyddiadau llai y mae Gwanwyn ar ei gorau, ac er mwyn eich cynorthwyo chi i wneud synnwyr o bopeth ac i ledaenu eich syniadau da a’ch ysbrydoliaeth mor bell ag sy’n bosibl, hoffwn eich croesawu chi i gylchlythyr cyntaf Gwanwyn. Hwyl!

    Yn ogystal, hoffem ymgysylltu â’ch hanesion a’ch atgofion chi o Gwanwyn. Cysylltwch â ni er mwyn eu rhannu nhw gyda ni ar Facebook a Twitter, a thrwy wefan Gwanwyn: http://gwanwyn.org.uk/cy/. Peidiwch ag anghofio ein dilyn ni er mwyn cael y newyddion diweddaraf o Gwanwyn a’n ffrindiau.

    Mawrth 2016

    Hanesion Gŵyl Gwanwyn Dathlu creadigrwydd mewn pobl hŷn

    Croeso i Gwanwyn

    Wrth inni baratoi ar gyfer ein pen-blwydd yn ddeg mlwydd oed ym mis Mai, hoffem roi blas i chi o’r hyn a wnaethom ni y llynedd a’r hyn sydd gennym ar y gweill ar gyfer Gŵyl Gwanwyn eleni.

    Cadwch lygad am fwy o gyhoeddiadau maes o law!

    http://gwanwyn.org.uk/cy/�http://gwanwyn.org.uk/cy/�http://gwanwyn.org.uk/cy/�http://gwanwyn.org.uk/cy/�

  • 2 2

    Lladd Amser yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

    Perfformiodd Jobina Tinnemans, y gyfansoddwraig o dras Cymreig-Iseldiraidd, ei darn Lladd Amser i gynulleidfaoedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

    Mae Tinnemans yn cydweithio ag unigolion nad ydynt yn gerddorion ac mae ei darn diweddaraf yn cynnwys pump gwëwr yn defnyddio nodwyddau arbennig sydd wedi’u haddasu er mwyn cynhyrchu tirlun electroneg wrth iddynt symud.

    Y perfformiad oedd canolbwynt diwrnod oedd hefyd yn cynnwys ymddangosiad gan gwmni dawns TAN, sef y grŵp dawnsio i bobl hŷn, a graffiti, bitbocsio a gweithdai parkour.

    ‘Nid ydw i’n gwybod sut i ddiffinio ieuenctid, ond i mi, ieuenctid yw 50 oed. Felly, mae’n hyfryd bod yr ŵyl hon yn cael ei chynnal ar gyfer pobl dros 50 oed, ac i’w anrhydeddu.

    Roedd fy mlynyddoedd euraid i rhwng 40 a 65 oed, sy’n weddol hen ynddo’i hun.

    Mae gan bobl hŷn gymaint i’w gynnig i gymdeithas. Mae nifer ohonom yn byw mewn cartrefi nyrsio, fel petasem yn cael ein heithrio a’n cadw o’r golwg. Mae angen defnyddio ein doethineb, gwybodaeth a phrofiad. Mae angen i ni deimlo’n rhan o’r byd ac mae gwyliau fel hon yn help mawr.

    Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Merthyr oherwydd dwi ddim wedi rhoi cyngerdd ers tri mis ar ddeg oherwydd salwch. Cefais lawdriniaeth frys ym mis Ebrill y llynedd, gan ddod yn agos iawn at farw.

    Felly, bydd sioe nos Sadwrn yn ddathliad personol ac rwy’n bwriadu mynd â’r maen i’r wal o hyn mlaen.’

    Peggy Seeger ar Ŵyl Agwedd Merthyr

    Ychydig cyn ei hymddangosiad yng Ngŵyl Agwedd ym mis Mai, roedd gan Peggy Seeger, y gantores werin fyd-enwog o’r Unol Daleithiau, lawer i’w ddweud mewn cyfweliad gyda WalesOnline.

    Uchafbwyntiau 2015

  • 3

    Sylw i Grŵp Celfyddyd mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

    Mae grant cymunedol gan Gwanwyn wedi helpu pobl sy’n dioddef o glefyd Parkinson i ddysgu sut i ymdopi â’u cyflwr mewn ffordd annisgwyl.

    Cydweithiodd Grŵp Celfyddyd mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â chwmni dawns TAN o Gastell-nedd Port Talbot i hyfforddi ffisiotherapyddion i gynnal gweithdai dawns gyda’u cleifion.

    Mae ymarfer corff seiliedig ar ddawns yn gwella cydsymudedd, cryfder ac ystwythder. Yn ogystal, mae’n gallu cynhyrchu dopamin yn yr ymennydd, sy’n ein

    helpu ni i reoli ein symudiadau. Gydag afiechyd Parkinson, mae niwed i’r celloedd yn achosi’r ymennydd i beidio â chynhyrchu dopamin, ac mae therapi o’r math hwn yn gallu helpu i arafu’r broses.

    Mynychodd deuddeg ffisiotherapydd ac un therapydd galwedigaethol sesiwn dawns TAN yn Ysbyty Singleton. Yna, aeth hyfforddwyr TAN â’r

    ffisiotherapyddion i sesiynau dilynol gyda chleifion Parkinson mewn lleoliadau gwahanol, lle cawsant gyfle i ymarfer yr hyn roeddent wedi’i ddysgu. Mae cwmni dawns TAN wedi parhau i ymweld â’r grŵp yng Ngorseinon ac, ar hyn o bryd, mae’r cwmni wrthi’n sefydlu

    grŵp dawns wythnosol i ddioddefwyr afiechyd Parkinson yn y pentref.

    Efallai mai’r rhan bwysicaf o ddefnyddio dawns fel triniaeth yw ei bod yn weithgaredd hwyliog sy’n gwneud pobl yn hapusach ac yn gryfach eu cymhelliant. Dywedodd un o’r mynychwyr bod y sesiynau yn ei helpu i glirio’i ben ac i barhau i fyw ei fywyd.

    ‘Rydych yn ceisio cydsymud eich corff a rhaid defnyddio’ch meddwl trwy gydol y sesiwn. Roedd yn ddifyr tu hwnt.’

    Mae’r arbenigedd sydd wedi cael ei ledaenu gan gwmni dawns TAN yn ystod Gŵyl Gwanwyn eisoes yn ffurfio rhan bwysig o’r ystod o dechnegau a ddefnyddir i frwydro clefyd Parkinson yn Ne Cymru ac mae’n debygol o wella ansawdd bywyd nifer o bobl.

    Corws Forget Me Not yn perfformio yng Nghastell Caerffili

    Elusen wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw Corws Forget Me Not sy’n cynorthwyo pobl sy’n dioddef o ddementia a’u teuluoedd trwy gynnal gweithdai canu a chreadigol wythnosol. Cyflwynodd y côr berfformiad ar thema bwyd yn neuadd wledda fawreddog Castell Caerffili i gynulleidfa o ffrindiau a theulu.

    Cysylltwch â 02922 362064

  • Cymdeithas Ffotograffiaeth Dinefwr Delweddau o arddangosfa Cymdeithas Ffotograffiaeth Dinefwr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin. Bydd y grŵp yn dychwelyd yno ym mis Mai i arddangos gwaith ac i recriwtio aelodau newydd.

    I gael mwy o wybodaeth, ewch i: http://www.dinefwrphotographicsociety.co.uk/

    Cydnabyddiaeth (clocwedd o’r darlun uchaf ar y chwith): Liz Burton, Gareth Jones, Will Loynton, Paul Norrington, Jacqueline Hartley, Dorian Jones.

    4

    http://www.dinefwrphotographicsociety.co.uk/�

  • Mae Denni Turp yn arwain grwpiau ysgrifennu cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghaernarfon a Phwllheli fel rhan o’i swydd, sef Swyddog Maes Gogledd Cymru Celfyddydau

    Anabledd Cymru. Mae aelodau’r grwpiau yn dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor, gan gynnwys iselder, nam ar y clyw, arthritis a sglerosis ymledol. Mae Denni yn awdur ac yn fardd sydd wedi ennill sawl gwobr.

    Yn eich barn chi, ydy agweddau pobl tuag at anableddau ac iechyd meddwl yn newid? Hoffem feddwl eu bod nhw, ond mewn gwirionedd mae nifer fawr o bethau sydd angen eu newid o hyd. Cefnogir y safbwynt hwn gan ystod o waith ymchwil a thystiolaeth ystadegol mewn pob math o feysydd, gan gynnwys canfyddiadau’r cyhoedd, agweddau a chyflogaeth. Roedd rôl Celfyddydau Anabledd Cymru yn Little Sparks, sef yr Ŵyl Celfyddydau Iechyd Meddwl gyntaf, yn rhan o’n hymrwymiad i hyn, ac rydym wrthi’n trefnu digwyddiad mwy fyth yn 2016.

    Sut gwnaethoch chi ddechrau gweithio gyda Gwanwyn? Enillais gystadleuaeth Gwanwyn Tŷ Newydd yn 2012 a, thrwy hynny, roeddwn yn ymwybodol o gyhoeddiad grŵp ysgrifennu Montage Ynys Môn, a gafodd ei ariannu gan Gwanwyn yn 2014. Roedd hi’n gwneud synnwyr i mi wneud cais ar ran grŵp ysgrifenwyr Cymreig Celfyddydau Anabledd Cymru oherwydd roedd pob aelod dros 50 oed ac roedd ansawdd yr ysgrifennu mor uchel.

    Y llynedd, sicrhaodd y cyhoeddiad ‘Dyma Ni’ ymddangosiad i’ch grŵp yn Gŵyl Arall, sef gŵyl lenyddiaeth, y celfyddydau a ffilm yng Nghaernarfon. Sut brofiad oedd hynny? Roedd yn brofiad ardderchog! Cawsom anogaeth a chefnogaeth gan Eirian James o siop lyfrau Palas Print, ac fe drefnodd hi lansiad ar ein rhan yn ei siop.

    5

    Aelodau Dyma Ni yn darllen yn Gŵyl Arall, Gorffennaf 2015

    60 eiliad yng nghwmni Denni Turp

    Cafodd Eirian ei synnu ar yr ochr orau gan ansawdd y gwaith ac, o ganlyniad, trefnodd hi le i ni yn Gŵyl Arall. Roeddwn ni wrth ein boddau ac, ar brynhawn hyfryd a braf yng Nghaernarfon, ar lwyfan mewn gardd â mur o’i chwmpas (dim llai na waliau Rhufeinig!), darllenodd aelodau’r grŵp ddarnau o Dyma Ni.

    Pa gyngor sydd gennych i bobl sydd eisiau dechrau ysgrifennu? Nid ydw i’n ystyried fy hun yn rhywun a ddylai roi cyngor i neb, ond gallaf rannu rhai o’r pethau rydw i wedi eu dysgu gan bobl eraill. Darllenwch, darllenwch, darllenwch. Peidiwch â stopio darllen. Ceisiwch ysgrifennu bob dydd, mewn dyddiadur neu gyfnodolyn. Peidiwch ag ysgrifennu er mwyn ennill bywoliaeth. Nid oes llawer o bobl yn llwyddo i wneud hynny. Ysgrifennwch oherwydd mai dyna beth rydych yn caru ei wneud, oherwydd mai dyna pwy ydych chi, ac nid oes modd osgoi hynny. Os oes modd, ymunwch â grŵp ysgrifennu er mwyn derbyn (a rhoi) adborth. Golygwch yr hyn rydych yn ei ysgrifennu. Mae angen gwella pob drafft cyntaf.

    Mae mwy o wybodaeth am grwpiau ysgrifenwyr Celfyddydau Anabledd Cymru, gan gynnwys Dyma Fi (i’w lawrlwytho), ar-lein: http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/

    http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�http://www.disabilityartscymru.co.uk/whats-on/are-you-writingydych-chin-ysgrifennu/�

  • Mae gen i atgofion eglur o fynd gyda fy mam i ddosbarth cwiltio ym Maes-yr-Haf pan oeddwn i tua saith mlwydd oed. Cefais fy synnu o weld cymaint o fenywod wrthi’n gweithio ar y fframiau cwiltio. Roedd oddeutu pedair ffrâm a chwe menyw yn pwytho wrth bob un. Yn hwyrach, dysgais mae arddull clwt cyfan oedd hwn, sydd hefyd yn cael ei alw’n arddull cwiltio Cymreig.

    Fel merch ifanc yn fy arddegau, cefais fy nghyflwyno i frodwaith a trapunto, neu cwiltio Eidalaidd, gan Mrs Evans a’i merch, Margaret, yn ystod dosbarthiadau crefft Clwb Ieuenctid Tonypandy.

    Ar ôl i fy ngŵr a minnau werthu ein siop fara ac ymddeol ym 1990, ymunais â dosbarthiadau crefft Sefydliad y Merched Treherbert a chael y pleser o gwiltio unwaith yn rhagor.

    Un diwrnod yn 2002, cysylltodd aelod o CwmNi â fi i ofyn a oedd gennyf unrhyw syniadau am gynlluniau grant Cymunedau’n Gyntaf ac fe awgrymais i Gymuned Cwiltio. Roedd grant ar gael a sefydlwyd Grŵp Cwiltio Treherbert. Rydym yn cwrdd ym Mhrosiect Pen-yr-Englyn, lle mae Julie Spiller a’i staff wedi bod yn gymwynasgar tu hwnt. Rydym yn cwrdd bob dydd Mawrth i drafod cynlluniau newydd, rhaglenni crefft ar y teledu, cpori trwy gylchgronau cwiltio a chynorthwyo ein gilydd gyda phrosiectau.

    Ysbrydolwyd prosiect Gwanwyn y llynedd gan fagiau a welsom mewn cylchgronau crefft. Dysgodd ein tiwtor dechnegau arbennig i ni ac roedd pawb yn hapus gyda’u bagiau

    gorffenedig, gan gynnwys yr unig ddyn sy’n aelod o’r grŵp. Roedd ein teuluoedd a’n ffrindiau yn hapus hefyd – ac felly roedd yn rhaid i ni wneud mwy o fagiau ar gyfer pen-blwyddi a’r Nadolig. Fy nghyngor i ar gyfer cynnal digwyddiad Gwanwyn llwyddiannus yw i ddod o hyd i leoliad pleserus ac offer a deunyddiau addas. A pheidiwch ag anghofio eich synnwyr digrifwch! Cyswllt: 01443 777 097

    6

    Siarad am gwiltiau gyda Barbara Doughty o Grŵp Cwiltio Treherbert

  • Ym mis Awst, gorffennodd yr artist gweledol Emma Prentice ei chyfnod preswyl cARTrefu cyntaf yng nghanolfan Sunrise Senior Living Caerdydd, gydag arddangosfa o waith a grëwyd gan y preswylwyr yn ystod y saith wythnos flaenorol.

    Roedd yr arddangosfa yn llwyddiant ysgubol, gyda’r preswylwyr, eu ffrindiau a’u teuluoedd, ynghyd ag aelodau Age Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring yn mynychu’r digwyddiad.

    Roedd amrywiaeth a chreadigrwydd y gwaith yn brawf o frwdfrydedd a thalent y preswylwyr wrth iddynt ymgysylltu â sesiynau cARTrefu Emma wythnos ar ôl wythnos.

    cARTrefu

    Prosiect Celfyddydau mewn Cartrefi Gofal cyffrous Age Cymru yw cARTrefu, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.

    Dechreuodd y prosiect y llynedd a bydd yn cael ei gynnal tan 2017 ac, erbyn hynny, byddwn wedi cydweithio â 128 o gartrefi gofal ledled Cymru.

    Nod y prosiect yw darparu cyfleoedd i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl i gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol proffesiynol o ansawdd da. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd un artist proffesiynol ar bymtheg sy’n angerddol am weithio gyda phobl hŷn yn cwblhau wyth cyfnod celfyddydol preswyl mewn wyth cartref gofal gwahanol.

    Mae artistiaid cARTrefu wedi’u rhannu’n bedwar grŵp: y Celfyddydau Gweledol, y Celfyddydau Perfformio, Geiriau a Cherddoriaeth. Rydym ni eisiau i’r bobl hŷn brofi pethau nad ydynt erioed wedi’u gwneud o’r blaen, felly rydym wedi penodi arweinydd band samba, gwneuthurwr ffelt, ffotograffydd, beirdd berfformwyr a mwy!

    Wyth mis yn unig ers dechrau’r prosiect, rydym ni eisoes wedi darparu 115 o sesiynau celf rhad ac am ddim. Bydd cymynrodd cARTrefu yn parhau ar ôl i’r prosiect ddod i ben oherwydd mae’r artistiaid yn helpu staff y cartrefi gofal i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i barhau i ddarparu’r sesiynau celf ar eu pennau eu hunain.

    7

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Reg Noyes, Cyd-drefnydd Prosiect cARTrefu: [email protected].

    mailto:[email protected]

  • Sut dechreuoch chi chwarae’r sacsoffon?

    Dechreuais chwarae yn dair ar ddeg oed. Llogodd fy mam a fy mrawd sacsoffon i mi fel anrheg Nadolig ac nid ydw i wedi edrych nôl. Mae fy nheulu cyfan yn gerddorol ac roedd fy nhad yn chwarae’r sacsoffon yn y fyddin, er nad oeddwn yn gwybod hynny tan iddo sôn am y peth un diwrnod.

    Mae’r sacsoffon yn edrych fel offeryn anodd i’w chwarae. Oes gennych chi unrhyw gyngor i rywun sy’n dechrau dysgu?

    Rydw i wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn cynnal sesiynau i ddysgwyr newydd. Mae’n hanfodol cael cymorth rhywun sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Bydd dysgu’r pethau sylfaenol cyn cychwyn yn arbed oriau o rwystredigaeth i chi os ceisiwch ddechrau gyda llyfr neu fideo cyfarwyddiadol.

    Beth yw eich barn chi ynghylch dechrau dysgu offeryn cerddorol yn hwyrach mewn bywyd?

    Fy arwyddair yw ‘Nid ydych byth yn rhy hen i ddysgu’. Yn 2015, rhoddais wers dwy awr i ddyn 93 oed o Gas-gwent ac rydym wedi cadw mewn cysylltiad ers hynny. Nid yw’n gallu teithio i Gaerdydd i gael gwersi, ond mae wrth ei fodd yn chwarae cerddoriaeth yn ei fflat! Mae’r rhan fwyaf o fy myfyrwyr yn dysgu’r sacsoffon yn hwyrach mewn bywyd ac wedi meddwl gwneud cynnig arni ers blynyddoedd maith. Mae gweithdai grŵp yn ardderchog o ran dysgu a chwerthin gyda phobl eraill, yn ogystal â chwrdd â ffrindiau newydd. Ddoe, priododd dau o’n haelodau ei gilydd a mynychodd nifer o aelodau’r grŵp y dathliadau.

    Beth ydych chi’n ei gynllunio ar gyfer Gwanwyn eleni?

    Eleni, byddwn yn cydweithio â Jazz Jam yn ystod Gŵyl Jazz y Fro (20-22 Mai). Rydym yn bwriadu cynnal gweithdy a sesiwn byrfyfyr jazz gyda band byw, lle bydd croeso i bobl un ai wrando ar y sesiwn neu ymuno yn yr hwyl a rhoi’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn y

    gweithdy ar waith. Yn ogystal, rydw i’n ystyried cynnal gweithdy blasu, lle bydd cyfle i bobl alw i mewn i chwarae’r sacsoffon am ugain munud. Dyma beth da i’w gynnig i bobl os nad ydynt yn siŵr a ydynt eisiau ymrwymo i brynu offeryn.

    Beth yw’r gyfrinach am gynnal digwyddiad Gwanwyn llwyddiannus?

    Cael hwyl a chreu awyrgylch hamddenol. Gwrando ar bobl a gweithio gyda nhw. Meddwl am syniadau newydd a’u rhoi nhw ar waith, gofyn am adborth a bod yn barod i newid eich dull addysgu, ac ymrwymo i sicrhau bod y profiad dysgu yn llawn mwynhad a hwyl.

    Cysylltwch â http://www.saxforfun.co.uk/

    Gwanwyn Age Cymru Tŷ John Pathy 13/14 Neptune Court Vanguard Way Cardiff , CF24 5PJ

    029 2043 1555 [email protected] www.gwanwyn.org.uk http://www.ageuk.org.uk/cymru/

    https://www.facebook.com/gwylgwanwynfestival

    @GwanwynAgeCymru

    8

    Y gair olaf gyda Beverley Gough o Sax For Fun

    http://www.saxforfun.co.uk/�mailto:[email protected]�http://www.gwanwyn.org.uk/cy�http://www.ageuk.org.uk/cymru/�https://www.facebook.com/gwylgwanwynfestival�https://www.facebook.com/gwylgwanwynfestival�https://www.facebook.com/gwylgwanwynfestival�https://www.facebook.com/gwylgwanwynfestival�https://twitter.com/GwanwynAgeCymru�