iechyd y cyhoedd amgylcheddol yng nghymru adolygaid
TRANSCRIPT
Iechyd y Cyhoedd
Amgylcheddol Yng Nghymru Adolygaid Blynyddol 2014/15
Hydref 2015
Tim Diogelwch Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru
. Trosolwg Gwasanaeth, nod ac amcanion Cynnwys
Trosolwg o’r gwasanaeth, nod ac amcanion
1
Rhai o’n cyflawniadau 2
Cyfeiriad strategol 3
Gweithgaredd y gwasanaeth
4
Cyfrannu at iechyd a lles yng Nghymru
5
Radon mewn ysgolion 6
Carbon monocsid 7
Halogi tir 8
Dŵr yfed 8
Ansawdd aer 9
Newid yn yr hinsawdd 10
Tywydd eithafol 10
Atal anafiadau 11
Cydweithredu 12
Gweithio gydag awdurdodau cynllunio
12
Gweithio gyda thân ac achub
12
Digwyddiad dadhalogi 13
Dadhalogi sych 13
Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd
14
Grŵp Gweithredu Diogelwch Iechyd Byd-eang
14
Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol
14
ARCOPOL 15
Ymarfer Dragon 15
Ymarfer Megacyma 15
Trosolwg ac edrych ymlaen
16
Iechyd y Cyhoedd Amgylcheddol Yng Nghymru
Adolygaid Blynyddol 2014/15
“Mae’r adroddiad hwn eto’n dangos lled y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yng Nghymru a phwysigrwydd gwaith systemau yn cyflenwi gwasanaeth
amserol, effeithiol ac effeithlon.
Mae’r gefnogaeth a roddwyd i gynhadledd NATO ym mis Medi 2014, a’r gwaith i leihau effeithiau llygredd aer a newid yn yr hinsawdd wedi bod yn nodedig.”
Dr Quentin Sandifer (Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yw adnabod, asesu a rheoli peryglon amgylcheddol (ac eithrio ffactorau biolegol) all gael effaith niweidiol ar iechyd. Yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddfa Cymru Canolfan Ymbelydredd, Cemegau a Pheryglon Amgylcheddol Public Health England (CRCE-Cymru) yn cydweithio i ddarparu cyngor a chymorth amgylcheddol arbenigol annibynnol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Ceir cymorth hefyd gan arbenigwyr epidemioleg, tocsicoleg ac arbenigwyr eraill ar draws y ddau sefydliad a thu hwnt. Ategir ein Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gan fframwaith cytûn sy’n hwyluso gwaith adweithiol (i fynd i’r afael â phryderon iechyd cyhoeddus amgylcheddol) a phrosiectau rhagweithiol (i ddeall mwy am gyswllt a pherthynas iechyd, ac mae’n cysylltu â phenderfynyddion ehangach).
Nod y gwasanaeth:
Gweithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth i leihau cyswllt â pheryglon amgylcheddol a salwch o ganlyniad i hynny, a chefnogi’r gwaith o greu amgylcheddau a chymunedau iach, teg a chynaliadwy. Amcanion:
Gweithredu’n briodol a chymesur i amddiffyn iechyd y boblogaeth
Datblygu dulliau casglu a dadansoddi data i lywio gweithredoedd
Gwneud gwaith ymchwil a datblygu gyda phartneriaid academaidd a phartneriaid eraill
Archwilio a gweithredu ar bwyntiau dysgu i wella cyflenwi gwasanaeth yn barhaus
Cydweithredu a chyfathrebu â’r gymuned amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ehangach a’r cyhoedd yn gyffredinol
“Mae adroddiad eleni’n amlygu rhai o’r cyflawniadau allweddol ar draws Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU a’r Byd. Mae hyfforddiant yn cael ei gyflenwi fydd yn cefnogi cynllunio a pharodrwydd ar gyfer argyfyngau, asesu risg a rheoli digwyddiadau yn fyd-eang.
Mae wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol ac yn un yr wyf yn hapus i’w hardystio.” Dr Jill Meara (Cyfarwyddwr Dros Dro, Canolfan Ymbelydredd, Cemegau a Pheryglon Amgylcheddol (CRCE) Public Health England)
Page 2
Rhai o’n cyflawniadau 2014/15
Datblygwyd prosiectau i asesu baich llygredd aer, halogi dŵr yfed ac anafiadau
yn y cartref ar iechyd
Cyflwynwyd arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid i’n helpu i wella’r gwasanaeth
a gyflwynir
Gweithiwyd gydag asiantaethau eraill i gynllunio, paratoi ar gyfer a rheoli
agweddau iechyd y cyhoedd cynhadledd NATO Medi 2014 yng
Nghasnewydd
Parhau i weithio’n rhyngwladol a chyflenwi
hyfforddiant ar yr amgylchedd a rheoli’r perygl i iechyd yng Ngwlad Thai
Sefydlwyd system gwyliadwriaeth digwyddiadau cemegol byd-eang i’n galluogi i fonitro tueddiadau a phatrymau o ran math, amlder ac effeithiau
Dyluniwyd a chyflenwyd hyfforddiant asesu risg aml
-asiantaeth i gynyddu arbenigedd, galluogrwydd
a gallu trwy ein Rhaglen Hyfforddiant Tîm Rheoli
Digwyddiadau a phrosiect ARCOPOL
Cyhoeddwyd cyngor ar Dywydd Eithafol yn
cwmpasu llifogydd, gwres eithafol ac oerfel eithafol
Gweithiwyd gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i wella trefniadau
hysbysu a lansio adrodd am ddigwyddiadau ar
-lein
Cefnogwyd Llywodraeth Cymru i roi rhaglen Radon mewn Ysgolion ar waith
Cydweithredwyd gydag
Awdurdodau Lleol i fonitro
lefelau carbon monocsid (CO) mewn cartrefi ledled
Cymru, codwyd ymwybyddiaeth o
beryglon CO ymysg gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol, cyflwynwyd addysg i grwpiau
cymunedol, hyfforddiant i fydwragedd, a
dosbarthwyd dros 500 o larymau CO
Rheolwyd risgiau sy’n gysylltiedig â
thros 160 o ddigwyddiadau a digwyddiadau ac
ymholiadau amgylcheddol, a chymerwyd rhan
mewn chwe ymarfer brys mawr
Datblygwyd algorithm gyda
Phartneriaethau Iechyd Dŵr i helpu i
reoli’r peryglon iechyd sy’n
gysylltiedig â chyflenwadau dŵr yfed wedi eu halogi
â phlwm
Datblygwyd cynlluniau strategol a gweithredol i flaenoriaethu a hwyluso
ein gwaith gyda’n partneriaid
Cefnogwyd cyflwyno peilot o system rybuddio am lygredd aer, airAware, ym Mhort Talbot
Cefnogwyd ymdrechion Llywodraeth Cymru a LRF i
baratoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd
Parhawyd i weithio gyda’r tîm Adolygu Marwolaethau Plant er mwyn
gweithredu argymhellion adolygiad thematig marwolaethau arddegwyr
mewn cerbydau modur 2013
Codwyd proffil iechyd cyhoeddus amgylcheddol yng
Nghymru trwy gyflwyniadau ar destunau
amrywiol mewn cynadleddau yng
Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
Eiriolwyd cyflwyno Trwyddedau Gyrru Graddedig i wella diogelwch ar y ffyrdd
Datblygwyd canllaw i gefnogi cynllunwyr i ymgysylltu’n gynnar ag Iechyd y Cyhoedd
Partneriaeth / gweithio systemau
Prosiectau
Archwilio a datblygu
gwasanaethau
Hyfforddiant Gweithio
Rhyngwladol
Ymateb i ddigwyddiad Rheoli risg /cynllunio am
argyfwng
Strategic direction
Page 3
Mae’r GIG yng Nghymru wedi datblygu strategaeth drosfwaol i amddiffyn a
gwella iechyd y cyhoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â’r CRCE-W
gyda’i arbenigedd ar y cyd ym meysydd iechyd y cyhoedd, asesu risg, y
gwyddorau amgylcheddol, epidemioleg a thocsicoleg, yn cefnogi ac yn cyfrannu
at y strategaeth hon. Mae hyn o gymorth i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau
mwy effeithiol ac effeithlon i amddiffyn a gwella iechyd.
Mae mwy o fanylion ar ein cyfraniad (a sut y byddwn yn ei fesur) ar gael yng
Nghynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru (IMTP 2015/16-
2017/18 ) a Blaenoriaethau Cenedlaethol Public Health England
Mae ein cynllun gwaith integredig tair blynedd (a’n cynllun gweithredol
blwyddyn isod) yn nodi ein hymrwymiad i waith i leihau a chynyddu ein deallt-
wriaeth o’r baich ar iechyd y cyhoedd yn sgil peryglon amgylcheddol yng
Nghymru a gwella ein prosesau a’n harferion cynllunio a bod yn barod am argy-
fyngau. Byddwn yn cyflawni hyn trwy waith diogelu iechyd traddodiadol, ond
yng nghyd-destun penderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd er mwyn
hybu iechyd a lles ar y cyd. Byddwn yn parhau i seilio ein hymarfer ar y dystiol-
aeth orau sydd ar gael a lle y bo’n briodol, ar safbwynt arbenigol. Byddwn yn
parhau i ddatblygu dulliau arloesol a chyfoes o addysgu a hyfforddi ac i ddat-
blygu cymhwysedd a gallu a gwella ansawdd gwasanaeth. Byddwn hefyd yn
parhau i gyfrannu’n rhyngwladol, gan ddarparu gwasanaeth lleol yn seiliedig ar
arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd ein gwasanaeth yn parhau i esblygu. Bydd angen parhau i reoli ac ymateb i beryglon i iechyd y cy-
hoedd yn sgil digwyddiadau a pheryglon amgylcheddol, gyda chymorth cynllunio a bod yn barod am argyfyngau a datblygu ymateb.
Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu rhaglen waith fwy hyblyg a rhagweithiol i greu tystiolaeth o’r baich ar iechyd (yn cynnwys am-
rywiadau ac anghydraddoldebau) sy’n gysylltiedig ag ystod eang o beryglon amgylcheddol. Bydd y dull hwn yn ychwanegu gwerth
i’n gwasanaethau ni a gwasanaethau pobl eraill trwy hwyluso gweithredu mwy cydweithredol ac wedi ei dargedu i leihau effeithiau
ac anghydraddoldebau.
Ein cynllun gweithredol cytûn ar gyfer 2015/16:
Cyfarwyddiad Strategol
Amcan Gweithred Cynyddu dealltwriaeth o beryglon amgylcheddol ac effaith ar iechyd
Asesu lefelau cyswllt gwaelodlin ar gyfer CO mewn anheddau domestig Deall baich iechyd yn ymwneud â llygredd aer yng Nghymru i lywio’r gweithredu Deall baich iechyd llygru halogi dŵr yfed Lleihau’r effaith ar iechyd y cyhoedd yn sgil effeithiau newid yn yr hinsawdd a
digwyddiadau eithafol Ymateb i Ddigwyddiadau Amgylcheddol a phryderon iechyd
Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol acíwt a chronig Ymateb i ymholiadau ac ymgynghoriadau iechyd cyhoeddus amgylcheddol
Gweithredu’n rhyngweithiol i amddiffyn a gwella iechyd y cyhoedd
Adnabod a gweithio gydag eraill i atal cyswllt â CO ymysg aelodau’r cyhoedd Nodi cyfleoedd i wella’r gyfundrefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol yng Nghymru Lleihau’r potensial am effeithiau iechyd yn sgil halogi tir Eirioli dangosyddion iechyd cyhoeddus amgylcheddol ar gyfer Cymru Lleihau cyswllt â radon mewn ysgolion yng Nghymru Lleihau effaith peryglon yn ymwneud â thai Lleihau baich anafiadau yng Nghymru Asesu a lleihau effaith sŵn amgylcheddol ar iechyd y cyhoedd
Cynyddu arbenigedd, gallu a chadernid
Cynyddu galluogrwydd, arbenigedd a gallu asiantaethau i ymateb i ddigwyddiadau Lleihau effaith CBRN/digwyddiadau deunyddiau peryglus
Datblygu ffyrdd newydd o weithio
Dylunio a datblygu cronfa ddata Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol newydd a rennir i gefnogi gweithgareddau gwyliadwriaeth
Cydweithredu gwell rhwng partneriaid Iechyd y Cyhoedd a’r Awdurdod Cynllunio Defnyddio technegau GIS i wella gwaith a chynnyrch gwasanaethau Cryfhau cydweithredu gyda phartneriaid a chodi proffil Iechyd Cyhoeddus
Amgylcheddol yng Nghymru Gwella ansawdd y gwasanaeth yn barhaus
Nodi, cofnodi a gweithredu i fynd i’r afael â phwyntiau i’w dysgu o argyfyngau a llywio ymatebion yn y dyfodol
Archwilio ansawdd gwasanaeth
Gweithgarwch gwasanaeth 2014/15
Page 4
Caiff ein gweithgareddau i gyd eu cofnodi mewn cronfa ddata sy’n cefnogi cydweithio effeithiol ac effeithlon. Yn ystod 2014/15,
derbyniwyd 127 o ymholiadau a rheolwyd 40 o ddigwyddiadau cemegol. Gan fod hon yn system oddefol a bod y gwaith sydd ei
angen i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiad penodol yn amrywio’n sylweddol, mae’n anodd rhagweld beth mae’r newidiadau yn y
niferoedd hyn o un flwyddyn i’r llall yn ei olygu. Mae gwelliannau i waith partneriaeth yn debygol o arwain at fwy o adroddiadau
ac mae’n nodedig bod bob un o’r 22 awdurdod lleol a phob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio’r gwa-
sanaeth yn rheolaidd. Bydd yr arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid a roddwyd ar waith yn ddiweddar, yn y dyfodol, o gymorth i ni
adolygu a gwella’r gwasanaeth yr ydym yn ei gyflenwi.
Awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yw’r defnyddwyr gwasanaeth mwyaf cyson, ond mae Lly-
wodraeth Cymru, Tân ac Achub, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac aelodau’r cyhoedd hefyd yn gofyn am gy-
morth a chyngor yn rheolaidd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn ymgynghoriadau caniatâd amgylcheddol, polisi a thechnegol; mae ymateb i’r rhain yn gofyn am lawer o adnoddau, ond maent yn adlewyrchu’r ffaith ein bod bellach yn ymgysylltu â’r prosesau hyn yn gynt nag o’r blaen. Mae hyn yn golygu y gellir nodi a mynd i’r afael ag effeithiau posibl datblygiadau ac ymgynghoriadau ar iechyd yn gynt. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Adrannau Brys, i wella hysbysu ynghylch digwyddiadau cemegol ac amgylcheddol. Er mwyn cefnogi hyn rydym wedi dylunio a chyflenwi rhaglen hyfforddi ar gyfer Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd awdurdodau lleol, NRW, Byrddau Iechyd ac eraill i amlygu budd ymgysylltu ag iechyd y cyhoedd yn gynnar.
02468
1012141618
Wal
es w
ide
Brid
gend
Nea
th P
ort
Talb
ot
Swan
sea
Blae
nau
Gw
ent
Caer
phill
y
Mon
mou
thsh
ire
New
port
Torf
aen
Ang
lese
y
Conw
y
Den
bigh
shir
e
Flin
tshi
re
Gw
yned
d
Wre
xham
Card
iff
Val
e of
Gla
mor
gan
Mer
thyr
Tyd
fil
Rhon
dda
Cyno
n Ta
f
Carm
arth
en
Cere
digi
on
Pem
brok
eshi
re
Pow
ys
Abertawe Bro Morgannwg
Aneurin Bevan Betsi Cadwaladr Cardiff & Vale
Cwm Taf Hywel Dda Powys
Tota
l num
ber o
f inc
iden
ts a
nd e
nqui
ries
Local Authority by Health Board
Enquiries and incidents by location
2013/14
2014/15
05
1015202530354045
Nu
mb
er
Type of enquiry
2013/14
2014/15
Page 5
Cyfrannu at wella iechyd a lles yng Nghymru
Mae ein dull o wella iechyd a lles poblogaeth Cymru yn un
‘system gyfan’; mae’r amgylchedd yn un o lawer o bender-
fynyddion iechyd (yn cynnwys ffactorau diwylliannol, ethnig,
cymdeithasol, economaidd, biolegol a genetig) sy’n dylan-
wadu ar ein hiechyd a’n lles ar y cyd.
Mae amgylchedd iach, gydag, er enghraifft, aer glân, tir,
bwyd maethlon a dŵr yfed, yn hyrwyddwr cryf ar gyfer
iechyd da mewn unigolion a’r boblogaeth. I helpu i gyflawni
hyn, rydym yn gweithio’n agos ac yn gydweithredol gyda
phartneriaid, fel Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru,
Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd. Rydym yn
defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi’r achos dros
ataliaeth ac ymyrraeth gynnar er mwyn:
gwella’r amgylchedd trefol a gwledig a chreu cymunedau
iach, cynaliadwy
gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng
Nghymru
ymateb i ddigwyddiadau naturiol a rhai wedi eu creu gan
fodau dynol
cefnogi a hyfforddi gweithwyr iechyd y cyhoedd yn ym-
wneud ag effaith yr amgylchedd ar iechyd a lles
addysgu cymunedau
hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol
darparu gwybodaeth a data gwyddonol
Mae’r enghreifftiau penodol o’r ffordd yr ydym yn gwneud
hyn yn cynnwys y canlynol:
mae ein gwaith ar ansawdd aer a materion tir halogedig
yn cysylltu ag ymdrechion i newid ymddygiad i helpu i
greu cymunedau iach, cynaliadwy a mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau amgylcheddol ac anghydraddolde-
bau iechyd
mae ein gwaith gyda Dim Smygu Cymru, bydwragedd
cymunedol a chydweithwyr tai i ddefnyddio’r ymdrechion i
leihau smygu yn ystod beichiogrwydd a hwyluso’r gwaith o
nodi cyswllt â charbon monocsid
amcangyfrif baich clefydau sy’n gysylltiedig â llygredd aer
amgylcheddol yng Nghymru ac archwilio cysylltiadau â
statws cymdeithasol ac economaidd, i gefnogi cynlluniau a
pholisïau trafnidiaeth egnïol yng Nghymru
ein cysylltiadau ag Adrannau Cynllunio awdurdodau lleol i
eirioli dros beryglon i iechyd cyhoeddus amgylcheddol ac
er mwyn i atebion gael eu hystyried fel mater o drefn
mewn rheolyddion datblygu
dehongli dangosyddion iechyd ac economaidd-
gymdeithasol perthnasol yn ein hymatebion i ganiatâd a
chynlluniau amgylcheddol
gweithio gyda gwneuthurwyr polisïau i adlewyrchu iechyd
cyhoeddus amgylcheddol gwell mewn polisïau, er
enghraifft defnyddio a rheoli tir yng Nghymru yn cynnwys
hyrwyddo rhandiroedd a mannau gwyrdd
gweithio gyda chydweithwyr mewn adrannau tai i wella
dealltwriaeth a’r berthynas rhwng amgylchedd y cartref ac
iechyd; er enghraifft, eirioli gosod larymau carbon
monocsid mewn tai preifat a chyhoeddus
gwella iechyd plant trwy ymgyrchoedd i godi
ymwybyddiaeth o beryglon yn y cartref a gyflwynir gan
bresenoldeb plwm a pherygl o anafiadau
hybu amgylcheddau iach fel rhan o’r agenda iechyd a lles
ehangach
rhoi cyngor annibynnol ac awdurdodol i Lywodraeth
Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid
eraill ar gynaliadwyedd, fel rheoli tir a gwastraff halogedig,
canlyniadau peryglon amgylcheddol naturiol i iechyd y
cyhoedd, yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, radon a
digwyddiadau eithafol, ac addasiadau ar eu cyfer.
Ffynhonnell: Cymru iachach,
hapusach a thecach. Iechyd Cy-
hoeddus Cymru
Radon yw’r ffynhonnell fwyaf o gyswllt ag ymbelydredd i
boblogaeth y DU. Mae’n nwy ymbelydrol sy’n digwydd yn
naturiol, sy’n bresennol ar draws y DU. Mae crynodiadau’n
amrywio yn ôl daeareg leol.
Gall mapio nodi adeiladau a phoblogaethau sydd mewn
perygl mewn Ardaloedd wedi eu Heffeithio gan Radon
(RAA). Fodd bynnag, nid yw’n bosibl pennu lefelau
gwirioneddol radon o fewn eiddo unigol heb fonitro.
Ym mis Rhagfyr 2014, dechreuodd Llywodraeth Cymru (LlC)
raglen ymwybyddiaeth radon mewn ysgolion. Nod y
rhaglen hon oedd cynorthwyo ysgolion i amddiffyn iechyd
disgyblion a staff, trwy gydymffurfio â deddfwriaeth
bresennol iechyd a diogelwch. Roedd yn ofynnol i ysgolion
o fewn, neu’n agos at RAA, fonitro lefelau radon ac, os
oedd angen, adfer hyn.
Nid yw plant yn arbennig o sensitif i radon, ond wrth
leihau’r cyswllt mewn ysgolion, mae’r cyswllt gydol oes a’r
perygl o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn lleihau.
Amcangyfrifir bod 818 o ysgolion yng Nghymru mewn RAA,
gyda 218 arall yn ddigon agos i gyfiawnhau monitro ar gyfer
radon.
I gefnogi’r gwaith hwn, rydym wedi:
Blaenoriaethu ac asesu risg ysgolion mewn neu’n
agos at RAA
Darparu cyngor iechyd y cyhoedd trwy daflen
gynghori, cwestiynau cyffredin, datganiadau drafft
i’r wasg a llythyr i rieni/llywodraethwyr
Cynnal digwyddiad hyfforddiant cenedlaethol ar
gyfer ysgolion a’u rheolwyr adeiladau gyda sgyrsiau
gan arbenigwyr wedi eu darparu gan PHE
Codi ymwybyddiaeth ymysg ystod ehangach o
weithwyr iechyd cyhoeddus amgylcheddol yng
nghynhadledd Sefydliad Siartredig Iechyd yr
Amgylchedd (CIEH)
Er mwyn gwerthuso effaith y fenter hon byddwn yn
cynorthwyo LlC i bennu nifer yr ysgolion sydd wedi cynnal
asesiad risg radon ac, os oes angen, yn cymryd camau
adfer. Byddwn hefyd yn monitro diddordeb y cyhoedd a’r
cyfryngau a’r galw am wasanaethau iechyd, er mwyn llywio
ymyriadau yn y dyfodol.
I ganfod mwy am ein gwaith ar radon, cysylltwch â Kristian James
Page 6
“Mae Radon yn gyfrifol am ryw 1,100 o farwolaethau yn
sgil canser yr ysgyfaint bob blwyddyn; y rhan fwyaf
ohonynt ymysg smygwyr presennol neu gyn-smygwyr”
(Adroddiad AGIR, Mehefin 2009: Radon and Public Health.
Report of the Independent Advisory Group on Ionising
Radiation).
Ffig1 Map mynegol o ardaloedd wedi eu heffeithio gan radon yng Nghymru a Lloegr a gynhyrchwyd gan Public Health England ac Arolwg Daearegol Prydain.
http://www.ukradon.org/information/ukmaps/englandwales
Gall Radon effeithio ar unrhyw adeilad, p’un ai’n weithle neu’n gartref.
I ganfod mwy ewch i
www.ukradon.org
Radon yn y Rhaglen Ymwybyddiaeth Ysgolion
Rydym wedi bod yn gysylltiedig â nifer o fentrau i leihau
baich CO ar iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Rheoli gwenwyn CO yn y GIG
Er mwyn cefnogi staff mewn adrannau achosion brys ac
ymarfer cyffredinol i reoli achosion o wenwyn CO a hefyd i
sicrhau bod ffynhonnell y CO yn cael ei drin yn iawn,
datblygwyd algorithm a ddosbarthwyd ledled Cymru gan y
Prif Swyddog Meddygol fel rhan o wythnos Ymwybyddiaeth
CO ym mis Tachwedd 2014.
Rydym hefyd yn ymateb yn rheolaidd i ddigwyddiadau CO,
gan weithio gyda’r awdurdodau lleol a’r gwasanaethau tân
ac achub.
Cydweithrediaeth Dim Smygu Cymru
Mae Dim Smygu Cymru’n gweithio gyda bydwragedd
cymunedol i gefnogi’r ymdrechion i leihau smygu yn ystod
beichiogrwydd. Mae smygu’n cael ei ganfod trwy “brawf
anadl” sy’n mesur lefelau CO; gallai darlleniadau uchel
ymysg y rheiny nad ydynt yn smygu fod yn arwydd o gyswllt
â CO.
Mae’r profion hyn felly’n gyfle i reoli achosion o CO heb eu
canfod eto. Mae cynlluniau peilot o’r dulliau bellach ar y
gweill.
Monitro CO a rhoi larymau gan awdurdodau lleol
Cafodd swyddogion awdurdodau lleol (ALlau) fonitorau CO
i’w defnyddio yn ystod ymweliadau preswyl fel mater o
drefn. Fe wnaeth swyddogion mewn 10 ALl fonitro lefelau
CO yn ystod pob ymweliad cartref dros gyfnod o bedair
wythnos yn Ionawr a Chwefror 2015.
Gwnaed cyfanswm o 442 o ymweliadau, roedd gan 412 o
gartrefi lefelau CO o 0. Mewn dau gartref, roedd y lefelau CO
yn peri pryder a chymerwyd camau ar unwaith i fynd i’r afael
â hyn.
Derbyniodd trigolion 368 o gartrefi'r cynnig o wybodaeth am
CO, tra bod 369 wedi derbyn larwm CO.
Prosiect addysg ardal dechrau’n deg a chymunedau yn
gyntaf
Datblygodd Plant yng Nghymru sesiwn addysg fer (10
munud) a gyflwynwyd i 5 grŵp rhieni a’u plant ar draws De
Ddwyrain Cymru.
Mynychwyd y sesiwn gan 70 o rieni a gafodd becyn
gwybodaeth a larwm CO.
Yn ystod sesiwn ddilyniant / werthuso wythnos yn
ddiweddarach, roedd gwybodaeth am achosion o wenwyn
CO, symptomau ac ataliaeth wedi cynyddu’n sylweddol
Arolwg staff Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cynhaliwyd arolwg staff byr i astudio gwybodaeth ac
ymwybyddiaeth o CO a hefyd i ddysgu mwy am gysylltiad â
CO a defnydd o larymau.
Derbyniwyd ymatebion gan 101 o staff, gyda 43% eisoes yn
defnyddio larwm CO gartref. Cafodd 81 o bobl eu cynnwys
mewn ‘raffl’ i dderbyn un o’r 20 o larymau CO am ddim.
I ganfod mwy am ein gwaith ar CO, cysylltwch â Sarah Jones
Carbon Monocsid (CO)
Page 7
We need to better understand the burden of disease associated with drinking water in Wales. Drinking water is provided to the general public through public water supplies and private water supplies. The main recognised risks to human health relate to microbiological contamination causing infectious intestinal disease, and chemical contamination where chronic disease is more of a risk. At present we simply do know what, if any, are the public health impacts of drinking water in Wales. It is accepted that the main risks to human health relate to microbiological contamination causing infectious disease but we know little on the impacts of chemical contamination which may present a chronic risk to health. Even for infectious disease, surveillance of outbreaks can be variable and there is a lack of data on the incidence of outbreaks and cases of disease that may be associated with drinking water in Wales. Public Health Wales and CRCE Wales are committed to better understanding the burden of disease associated with drinking water supplies in Wales. We have initiated a project to identify, scope and map geographical or population-specific differences relating to water quality and health in Wales. Our aim is to identify, quantify and rank health
Page 8
Mae gan Gymru etifeddiaeth o dir halogedig; o ganlyniad i
dreftadaeth ddiwydiannol. Yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru (LlC) bapur ymgynghorol i gael safbwyntiau rhanddeiliaid
allweddol er mwyn helpu i lunio cyfeiriad polisi’r dyfodol ar
halogi ac unioni tir.
O ganlyniad, cafodd grŵp cynghori arbenigol (yn cynnwys
cynrychiolwyr o iechyd y cyhoedd, awdurdodau lleol (ALlau),
Arolwg Daeareg Prydain, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth
Safonau Bwyd ei sefydlu. Nod y grŵp hwn yw mynd i’r afael â’r
materion a godwyd gan yr ymgynghoriad, yn ogystal â meysydd
fel gweithredu polisïau.
Yn ddiweddar, mae’r Grŵp wedi cynghori LlC ar ddefnyddio
lefelau sgrinio categori 4 (C4SL) yng Nghymru. Mae’r rhain yn
set newydd o lefelau sgrinio generig sydd yn fwy ymarferol, ond
yn dal yn rhagofalus iawn, na’r dulliau presennol. Maent yn
cyfuno gwybodaeth am docsicoleg iechyd dynol, asesu cyswllt a
lefelau cwmpasol normal halogwyr er mwyn amcangyfrif
Halogiad Tir
crynodiadau halogwyr mewn pridd sy’n bresennol ar lefel
dderbyniol isel o ran risg. Mae’r datganiad hwn yn egluro’r
defnydd o’r lefelau hyn wrth asesu risg tir halogedig, yn arbennig
telerau cynllunio, a bydd o gymorth i sicrhau cysondeb
cymhwyso ledled Cymru.
Rydym hefyd yn aelod o grŵp tir halogedig Cymru gyfan sy’n cael
ei arwain gan ALl. Nod y grŵp hwn yw nodi a rhannu arfer da
wrth asesu ac unioni tir a sicrhau cysondeb o ran asesu risg a
chyngor iechyd.
Rydym hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i ALlau a LlC ar dir
halogedig penodol a materion unioni. Mae’r ymholiadau
diweddar yn ymwneud â risg yn sgil asbestos mewn pridd, plwm
mewn gerddi preswyl a phryderon ynghylch byw gerllaw
safleoedd tirlenwi.
I ganfod mwy cysylltwch â Kristian James ([email protected])
neu Andrew Kibble ([email protected])
Dŵr yfed
Mae problemau gyda chyflenwadau dŵr cyhoeddus a phreifat o
ansawdd gwael yn dal i fodoli ac yn creu baich iechyd nad ydym
yn ei ddeall yn llawn.
I fynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnal nifer o brosiectau; rydym
yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Iechyd Dŵr i fynd i’r afael â
phroblemau gyda phlwm mewn dŵr yfed. Amcangyfrifir bod gan
35-40% o eiddo bibau plwm a bod y rhain yn fwy tebygol o fod
wedi eu hadeiladu cyn 1970, ac mewn ardaloedd tlotach, mwy
difreintiedig. Yn ogystal, defnyddir sodor plwm ar systemau
gwres canolog caeëdig a gellir ei ddefnyddio ar ddamwain ar
bibau dŵr yfed.
Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon pibau plwm yn isel.
Mae pobl yn aml yn credu bod y ffaith fod y Cwmni Dŵr wedi
amnewid pibau gwasanaeth plwm wedi mynd i’r afael â’r brob-
lem. Os cânt eu hysbysu wedyn bod eu dŵr yn torri’r safonau
dŵr yfed a/neu fod ganddynt bibau plwm, gall hyn beri pryder o
ran eu hiechyd ac iechyd eu plant.
Rydym yn gweithio gydag eraill i gynyddu ymwybyddiaeth y
cyhoedd a gwella’r ffordd y caiff digwyddiadau eu trin. I gefnogi
hyn mae algorithm wedi cael ei ddatblygu sy’n nodi pryd i ry-
buddio ynghylch iechyd y cyhoedd, pa gyngor i roi i gwsmeriaid,
pryd i sefydlu tîm rheoli digwyddiad ac opsiynau i leihau’r perygl
yn cynnwys ail-samplu ac archwilio ac amnewid pibau plwm. Y
nod yw sicrhau cysondeb wrth ymdrin â methiannau'r safon
plwm yng Nghymru, gwella asesiadau risg iechyd y cyhoedd a
sicrhau ymateb cyflym i gwsmeriaid.
I ganfod mwy cysylltwch ag Andrew Kibble ([email protected])
neu Huw Brunt ([email protected])
Ffig. 2. Dosbarthiad crynodiad llygredd aer cymedr blynyddol ar lefel LSOA yn ôl amddifadedd
Ffig. 1. Patrymau dosbarthiad ar gyfer: a) Crynodiadau llygredd aer NO2; a b) statws amddifadedd.
Page 9
Ansawdd Aer
aer a chyfraddau marwolaethau pob achos ac anadlol, a
derbyniadau cardiofasgwlaidd ac anadlol i’r ysbyty.
Mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gellir cyflawni mwy o
fanteision iechyd lleol trwy fynd i’r afael â llygredd aer a
ffactorau sy’n dylanwadu ar amddifadedd gyda’i gilydd, yn
hytrach nag ar wahân. Gall gweithredoedd fel hybu teithio
egnïol (cerdded a beicio) leihau llygredd aer a chreu buddion
iechyd y cyhoedd, ond ni ddylid eu cyfyngu i’r ardaloedd mwyaf
llygredig a mwyaf difreintiedig, ond dylid eu hystyried gydag
anghenion iechyd eraill. Dylai lleddfu gael ei dargedu mewn
ardaloedd lle gellir creu manteision iechyd a lleihau
anghydraddoldebau.
Mae ystyried problemau llygredd aer lleol mewn cyd-destun
ehangach iechyd y cyhoedd yn hanfodol i wella effaith bosibl
LAQM ar iechyd y cyhoedd. Mae angen i ni bellach ddefnyddio’r
wybodaeth hon i gefnogi datblygiad cyfundrefn LAQM well yng
Nghymru sydd wedi ei hintegreiddio’n llawn i Iechyd y
Cyhoedd.
I ganfod mwy cysylltwch â Huw Brunt ([email protected])
Y llynedd, fe wnaethom adrodd bod problemau llygredd aer lleol
yn parhau yng Nghymru ac yn berygl cynyddol i iechyd y rheiny
sy’n byw yn y cymunedau sy’n cael eu heffeithio; gall amrywiadau
o ran cyswllt â llygredd aer greu baich clefydau anghymesur, sy’n
cael ei waethygu gan ‘berygl triphlyg’ amddifadedd, llygredd a
nam ar iechyd.
Nod cyfundrefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol y DU (LAQM), a
sefydlwyd ym 1997, yw nodi a mynd i’r afael â phryderon llygredd
aer lleol ac amddiffyn iechyd. Er gwaethaf ei wreiddiau a’i
fwriadau cryf o ran iechyd y cyhoedd (safonau’n seiliedig ar
iechyd, cyswllt ac asesu risg, cydweithredu a gweithredu’n
seiliedig ar dystiolaeth), mae proses LAQM yn gul ac mae’n methu
hyrwyddo ystyried problemau llygredd aer mewn cyd-destun
iechyd y cyhoedd ehangach. O ganlyniad, mae cyfleoedd wedi cael
eu colli i asesu anghenion ac effaith ar iechyd ar y cyd â
phroblemau llygredd aer, targedu ymyriadau mewn meysydd lle
mae’r angen mwyaf o ran iechyd, cysylltu gweithredu ag
ymyriadau iechyd y cyhoedd ehangach a gweithio’n gydweithredol
i amddiffyn iechyd a lleihau llygredd aer ac anghydraddoldebau
iechyd.
Cynhaliwyd astudiaeth ecolegol i asesu cysylltiadau lleol rhwng
llygredd aer (nitrogen deuocsid a deunydd
gronynnol), canlyniadau iechyd (yn cynnwys
clefydau marwolaethau cardiofasgwlaidd ac
anadlol) a statws amddifadedd.
Canfuwyd amrywiad sylweddol ar lefel leol mewn
crynodiadau llygredd aer a statws amddifadedd
(Ffig. 1). Fe wnaethom hefyd ganfod bod
ardaloedd ‘mwyaf’ a ‘lleiaf’ difreintiedig yn profi
lefelau llygredd aer uwchlaw’r cyfartaledd (yn
arbennig NO2); roedd crynodiadau, ar gyfartaledd,
ar eu huchaf yn yr olaf (Ffig. 2). Roedd cysylltiadau
cadarnhaol sylweddol yn bodoli rhwng llygredd
We need to better understand the burden of disease associated with drinking water in Wales. Drinking water is provided to the general public through public water supplies and private water supplies. The main recognised risks to human health relate to microbiological contamination causing infectious intestinal disease, and chemical contamination where chronic disease is more of a risk. At present we simply do know what, if any, are the public health impacts of drinking water in Wales. It is accepted that the main risks to human health relate to microbiological contamination causing infectious disease but we know little on the impacts of chemical contamination which may present a chronic risk to health. Even for infectious disease, surveillance of outbreaks can be variable and there is a lack of data on the incidence of outbreaks and cases of disease that may be associated with drinking water in Wales. Public Health Wales and CRCE Wales are committed to better understanding the burden of disease associated with drinking water supplies in Wales. We have initiated a project to identify, scope and map geographical or population-specific differences relating to water quality and health in Wales. Our aim is to identify, quantify and rank health
Page 10
Newid yn yr Hinsawdd
Mae ein planed yn cynhesu ac, o ganlyniad, mae’n newid ein
hinsawdd. Mae hyn yn cyflwyno heriau sylweddol i iechyd y
cyhoedd trwy waethygu problemau iechyd y cyhoedd presen-
nol, gan greu bygythiadau newydd posibl i iechyd a gwaethygu
anghydraddoldebau. Bydd angen i wasanaethau iechyd addasu’r
ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi a’u hystâd eu
hunain.
Ffig 1 Effeithiau hinsawdd ar iechyd, Hughes et al (2011), addaswyd o
Capon a Hanna (2009) a Berry et al (2011)
Rydym yn cymryd rhan mewn adolygiad o beryglon iechyd i
lywio Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd 2017 (CCRA) sy’n cael
ei oruchwylio gan Is-bwyllgor Addasu’r DU (ASC).
Mae angen mwy o ymchwil ar y rhyngweithio rhwng ffactorau
hinsawdd, amgylcheddol ac ymddygiadol sy’n effeithio ar iechyd
y cyhoedd. Mae newid yn yr hinsawdd yn drawsbynciol felly
mae’n rhaid i gynlluniau addasu iechyd gael eu hystyried ynghyd
â chynlluniau eraill.
I ganfod mwy cysylltwch â Kristian James ([email protected] )
Nododd Asesiad risg newid yn yr hinsawdd y DU (CCRA) 2012 y
peryglon canlynol i Gymru
Gaeafau mwynach – gostyngiad mewn marwolaethau a
salwch yn ymwneud ag oerfel. Llai o lygredd aer?
Hafau poethach – mwy o farwolaethau a derbyniadau i’r
ysbyty’n ymwneud â gwres, yn bennaf yr henoed a rheiny â
salwch hirdymor
Gallai cynnydd mewn osôn ar lefel y ddaear yn yr haf
waethygu cyflyrau anadlol presennol
Hafau cynhesach, sycach—cynnydd mewn gweithgareddau
awyr agored (gallai’r buddion iechyd orbwyso’r cynnydd
posibl yng nghanser y croen a achosir gan newidiadau yng
ngolau’r haul, golau UV a chymylau).
Llifogydd—cynnydd mewn problemau iechyd meddwl, am-
haru’n sylweddol ar ddarpariaeth gofal iechyd.
Bydd yr adolygiad ar gyfer CCRA 2017 yn archwilio
Peryglon a gyflwynir gan:-
Amgylchedd Dan Do / Gorwresogi / Llygredd aer dan do,
niwed yn sgil llifogydd a dŵr, halogi biolegol / Clefydau a
gludir mewn dŵr a blodeuo algaidd / Sychder / Clefydau
a gludir mewn bwyd /Tymoroldeb / Paratoi ac ymddy-
giad bwyd/ Aeroalergenau e.e. Paill /Ymbelydredd UV /
Clefydau a gludir mewn fectorau / Rhyngweithio â lly-
gredd aer / Llygrwyr Hinsawdd Byrdymor e.e. Carbon Du
Ffactorau hanfodol ffordd o fyw ac ymddygiad e.e.
Cydbwysedd y perygl o ganser y croen yn erbyn y cynnydd
manteisiol mewn gweithgaredd awyr agored a chynhyrchu
mwy o Fitamin D
Negeseuon ar gyfer grwpiau targed penodol e.e. yr ifanc a’r
henoed
Sut y gall lleihau gollyngiadau nwy tŷ gwydr leihau effeithiau
ar iechyd
Tywydd eithafol
Mae gwybodaeth amserol am dywydd eithafol yn galluogi
unigolion a chymunedau i weithredu er mwyn diogelu eu
hunain, eu cymdogion, eu ffrindiau a’u perthnasau rhag
problemau iechyd y gellir eu hosgoi a gallant gefnogi gweith-
wyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ofalu am bobl
sydd mewn perygl. Mae ymyriadau llwyddiannus yn dibynnu
ar gyfathrebu amserol rhwng partneriaid.
Rydym yn rhoi rhybudd a chyngor pan fydd rhagolygon y
tywydd yn eithafol. Ym mis Ionawr 2015 fe wnaethom lunio
“Tywydd Eithafol, Rhybuddion a Chyngor Iechyd y Cyhoedd
ar gyfer Cymru 2015”; ffynhonnell rhybuddion a chyngor am
iechyd y cyhoedd i’w ddefnyddio a’i rannu gan asiantaethau
partner. Mae’n nodi’r trefniadau ar gyfer rheoli cyhoeddi a
dosbarthu’r cyngor yng Nghymru.
Mae’r canllaw mewn tair rhan:-
Rhan 1 Tywydd Eithafol o Oer
Rhybudd a chyngor ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
Rhybuddion a chyngor i’r
cyhoedd
Rhan 2 Tywydd Eithafol o Boeth
Rhybudd
Cyngor ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
Cyngor am Iechyd y Cyhoedd
Cyngor i’r rheiny sy’n trefnu digwyddiadau cyhoeddus mawr
Cyngor i’r rheiny sy’n edrych ar ôl plant
Rhan 3 Cyngor am Lifogydd
Cyngor Iechyd: Gwybodaeth gyffredinol yn dilyn llifogydd
Sut i lanhau’n ddiogel
Llifogydd ac iechyd meddwl: gwybodaeth hanfodol ar gyfer ymatebwyr rheng flaen
Gwybodaeth gyffredinol am iechyd meddwl yn dilyn llifogydd
Ymdopi heb brif gyflenwad dŵr
Atal Anafiadau
Page 11
Anafiadau yw un o brif achosion marwolaeth ac anabledd ym
mhob grŵp oedran, ond yn arbennig ar gyfer pobl o dan 45
oed. Fodd bynnag, gellir osgoi ac atal llawer o’r baich hwn ar
iechyd a’r gwasanaethau iechyd.
Rydym wedi bod yn eirioli cyflwyno trwyddedau gyrru
graddedig (GDL) i leihau’r baich o wrthdrawiadau gyrwyr ifanc.
Gallai’r ymyrraeth hon, sydd eisoes yn cael ei defnyddio ar
draws UDA, Canada, Seland Newydd ac Awstralia, leihau baich
gwrthdrawiadau, damweiniau a marwolaethau sy’n gysylltiedig
â gyrwyr ifanc o 20 i 30%. Yn wahanol i Gymru ar Alban, mae
gan Ogledd Iwerddon y grym i lunio’i deddfwriaeth trwyddedu
gyrwyr ei hun a bydd math o GDL yn cael ei gyflwyno yn 2017.
Rydym wedi bod yn cynghori Cynulliad GI ar ddatblygu’r
ddeddfwriaeth hon ac yn gweithio gyda Choleg Prifysgol
Llundain i ddatblygu gwerthusiad ohoni.
I gefnogi hyn, yn 2013, roeddem yn gysylltiedig ag Adolygiad
Thematig o Farwolaethau Plant yn canolbwyntio ar
farwolaethau pobl ifanc 13 i 17 oed mewn cerbydau modur.
Roedd yr adolygiad hwn nid yn unig yn argymell, ymysg pethau
eraill, y dylid gweithredu GDL, ond hefyd na fyddai’r adolygiad
yn cael ei ystyried yn gyflawn nes bod yr holl argymhellion wedi
cael eu gweithredu. Mae’r cyfnodolyn Injury Prevention
newydd dderbyn papur ar yr adolygiad hwn i’w gyhoeddi ac
mae’r adolygwyr yn y maes yn cymeradwyo’r dull hwn.
Byddwn hefyd yn arwain yr adolygiad thematig nesaf, o
farwolaethau trwy foddi ymysg plant a phobl ifanc, yn nhymor
yr Hydref 2015.
Rydym wedi cyfrannu at geisiadau adolygiad grŵp ar gyfer
arloesi diogelwch beiciau modur.
Mewn cydweithrediad â phartneriaid y sector cyhoeddus a
gwirfoddol, yn cynnwys Gofal a Thrwsio, awdurdodau lleol, Age
Cymru a chlinigwyr, rydym hefyd wedi bod yn ceisio codi
ymwybyddiaeth o’r ffaith y gellir atal cwympo. Mae llawer o
bobl yn cymryd bod cwympo yn rhan o heneiddio ond gellir,
mewn gwirionedd, cymryd camau syml i leihau’r perygl. I
gefnogi ein hymgyrch ymwybyddiaeth, arolygwyd clinigwyr a
gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phobl hŷn eu
hunain, i ganfod beth yn eu barn nhw oedd y tri ffactor risg
pwysicaf o ran cwympo. Ymatebodd dros 600 o bobl a’r
ffactorau risg a nodwyd oedd peryglon yn yr amgylchedd,
cryfder a chydbwysedd gwael a hanes o gwympo. Mae ymgyrch
bellach wedi cael ei datblygu a chaiff ei lansio ar 1 Hydref, gyda
chymorth flachddawnsfeydd ar draws Cymru a Lloegr.
Mae cael data o ansawdd uchel ar niferoedd yr anafiadau sy’n
cael eu trin mewn adrannau brys neu’n cael eu derbyn i ysbytai
yn anodd. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol
Abertawe i ddatblygu’r data hyn a chreu Adroddiad Baich
Anafiadau Cymru i ddangos y baich ar iechyd a gwasanaethau
iechyd.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu ymyrraeth llosgiadau a sgaldiadau. Nod y prosiect hwn yw addysgu rhieni a neiniau a theidiau am beryglon diodydd poeth. I ganfod mwy cysylltwch â Sarah Jones ([email protected] )
We need to better understand the burden of disease associated with drinking water in Wales. Drinking water is provided to the general public through public water supplies and private water supplies. The main recognised risks to human health relate to microbiological contamination causing infectious intestinal disease, and chemical contamination where chronic disease is more of a risk. At present we simply do know what, if any, are the public health impacts of drinking water in Wales. It is accepted that the main risks to human health relate to microbiological contamination causing infectious disease but we know little on the impacts of chemical contamination which may present a chronic risk to health. Even for infectious disease, surveillance of outbreaks can be variable and there is a lack of data on the incidence of outbreaks and cases of disease that may be associated with drinking water in Wales. Public Health Wales and CRCE Wales are committed to better understanding the burden of disease associated with drinking water supplies in Wales. We have initiated a project to identify, scope and map geographical or population-specific differences relating to water quality and health in Wales. Our aim is to identify, quantify and rank health
Page 12
Cydweithredu
Mae ein gwaith ond yn bosibl oherwydd cydweithredu. Mae’r tîm yn aelodau gweithredol o ystod eang o grwpiau arbenigol a thechnegol. Mae aelodaeth o’r grwpiau hyn nid yn unig yn codi proffil ein gwasanaeth a’r hyn y gall ei gyflenwi ond mae hefyd yn sicrhau bod materion iechyd cyhoeddus amgylcheddol ar yr agendâu cysylltiedig niferus.
Gweithio gydag Awdurdodau Cynllunio
Mae cydweithredu parhaus gyda’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio,
Llywodraeth Cymru ac Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd
Cymru (WHIASU) wedi parhau i feithrin trefniadau gwaith
agosach. Trwy’r cydweithredu hwn rydym wedi codi proffil y
gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi’r broses gynllunio mewn
ALlau.
Mae gwaith ar y gweill i wella ein perthynas ag Awdurdodau
Cynllunio Lleol (ACLl). Mae angen i ni sicrhau bod materion
iechyd y cyhoedd yn cael eu hasesu’n barhaus mewn ceisiadau
cynllunio perthnasol a dderbynnir gan ACLlau. Felly rydym wedi
creu canllaw byr ac algorithm ar gyfer ACLlau i nodi pan fydd
angen am dystiolaeth a chefnogaeth iechyd y cyhoedd yn ystod
cyfnodau strategol a rheoli datblygiad cynllunio. Mae ymgysylltu
cynnar yn y broses yn galluogi deialog ystyrlon
am oblygiadau iechyd peryglon amgylcheddol a’r
mesurau sydd eu hangen i ddiogelu cymunedau.
Rydym yn darparu ymateb pwrpasol i geisiadau
cynllunio, yn cynnwys:-
Asesiadau risg arbenigol, annibynnol yn
ymwneud ag iechyd y cyhoedd
Cyd-destun lleol iechyd y cyhoedd
Lleoliadau derbynyddion sensitive wedi
eu mapio
Cyfeiriad at ddatganiadau sefyllfa iechyd
y cyhoedd presennol
Argymhellion
Ein her nawr yw dod yn rhan o’r broses yn gynt
hyd yn oed, cyn i’r cais gael ei wneud, gan
bwysleisio pwysigrwydd ystyried iechyd y cyhoedd o’r
dechrau. Rydym wedi datblygu papur briffio a thrafod a
byddwn yn defnyddio’r rhain i nodi cyfleoedd i gydweithredu
ag ACLlau.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: [email protected] neu
Gweithio gyda Gwasanaethau Tân ac Achub
Mae ymyrraeth gynnar o ran iechyd y cyhoedd mewn
digwyddiadau yn lleihau cyswllt y cyhoedd â llygrwyr a’r galw ar
bartneriaid y gwasanaeth iechyd. Yn ystod adolygiad blynyddol y
llynedd, nodwyd anghysondebau wrth adrodd ynghylch
digwyddiadau a chytunwyd ar gytundeb i weithio gyda’n gilydd
gyda’r gwasanaethau tân ac achub.
I gefnogi hyn, rydym wedi cyfarfod â holl swyddogion ystafell
reoli'r gwasanaethau tân ac achub ac wedi darparu hyfforddiant
ar rôl iechyd y cyhoedd wrth reoli digwyddiadau. Nod hyn oedd
codi ymwybyddiaeth o’n rôl ni a thrafod ble y gallwn
gynorthwyo’r ymateb tân ac achub. Mae’r arwyddion cynnar
yn awgrymu bod hysbysu ynghylch digwyddiadau wedi
cynyddu.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Paul Callow
Page 13
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i ymateb i ystod
o ddigwyddiadau amgylcheddol yn cynnwys tanau a
ffrwydradau (sy’n creu plu mwg gwenwynig), gollyngiadau
cemegol ac olew gwresogi, heintio cyflenwadau dŵr a gwenwyn
carbon monocsid. Rydym yn helpu i reoli unrhyw beryglon
cysylltiedig i iechyd y cyhoedd a achosir gan gyswllt â chemegau
neu halogi aer, tir a dŵr. Yn dibynnu ar eu natur a’u graddfa, gall
digwyddiadau gynnwys un neu ddau aelod o’r Tîm am ychydig
oriau yn unig neu ymateb dwys a pharhaus am ddiwrnodau neu
wythnosau. Yn ogystal, mae rhai digwyddiadau yn gyffredin tra
bod gan eraill nodweddion mwy anarferol.
Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2014, fe’n hysbyswyd am
ddigwyddiad yn siop Ikea yng Nghaerdydd. Roedd aelodau o’r
staff a siopwyr wedi nodi llid ar eu croen a phothelli ar ôl cael
cyswllt â llwch o focsys oedd yn cael eu tynnu o gerbyd
dosbarthu. Caewyd y siop ar unwaith a’i gwacáu. Aeth yr
unigolion oedd wedi eu heffeithio i Adran Achosion Brys Ysbyty
Athrofaol Cymru, gan fynd â samplau o’r pecynnau wedi eu
halogi gyda nhw.
Cymerodd y Gwasanaeth Tân ac Achub samplau o’r llwch a
chadarnhau yn ddiweddarach bod nwy crisialog dagrau ynddo.
Roedd y symptomau’n cyd-fynd â chyswllt â’r cemegyn hwn.
Cafodd y digwyddiad lawer iawn o sylw yn y wasg.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Huw Brunt
Ymateb i ddigwyddiadau
Datblygu Cyfarwyddyd newydd Dadheintio Sych
Mae dadheintio, datblygu’r canllawiau a’i weithredu, yn enghraifft wych o gydweithredu ar waith. Mae canllawiau gweithredol ar ddadheintio cemegol wedi newid yn ddiweddar ar ôl diwedd prosiect ORCHIDS a ariennir gan yr UE (Optimisation through Research of CHemical Incident Decontamination Systems). Nododd y prosiect hwn y ffyrdd gorau o ymdrin ag ystod o halogwyr a sefyllfaoedd cemegol. O ganlyniad, mae’r rhaglen Ymateb Gweithredol Cychwynnol y Swyddfa Gartref (IOR) a’r Rhaglen Rhyngweithiadwyedd Gwasanaethau Brys ar y Cyd (JESIP) wedi newid yr ymagwedd tuag at dadheintio cemegol. Mae’r newidiadau’n ymwneud yn benodol â halogi gyda chemegau nad ydynt yn gostig. Dangosodd ORCHIDS, ar gyfer cemegau nad ydynt yn gostig, bod dadheintio gan ddefnyddio deunydd amsugnol, fel cadachau neu dywelion papur, i flotio yn hytrach na rhwbio’r croen, yn tynnu’r halogwyr yn effeithiol, ac yn bwysig iawn, yn lleihau yn gyflym effeithiau posibl mwy o amsugno cemegol drwy’r croen. O ganlyniad, dadwisgo ac yna dadheintio sych yw’r drefn bellach ar gyfer rheoli dadheintio gan gemegau nad ydynt yn gostig. Fel arfer, ni fydd cemegau nad ydynt yn gostig yn creu unrhyw newidiadau amlwg ar unwaith ar y croen ond gall cemegau fel asidau ac alcalïau achosi poen, pothelli neu afliwiad. Mewn rhai achosion, efallai na fydd alcalïau yn achosi poen ar unwaith yn dilyn cyswllt. Ar gyfer bob heintiwr (costig) arall lle mae dadheintio yn cael ei nodi, y drefn yw dadheintio gwlyb o hyd. Yng Nghymru, mae’r Gwasanaeth Ambiwlans, tri Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Byrddau Iechyd yn gweithredu’r newidiadau hyn o ran trefniadau dadheintio. Er mwyn sicrhau bod pob sefydliad yn gweithio’n ddidrafferth ac er mwyn mynd i’r afael â
rhai o’r agweddau gweithredol yn ymwneud â’r newid i ddadheintio sych, byddwn, gydag Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cynnal dau weithdy ar ddadheintio sych yn nhymor yr Hydref 2015. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Andrew Kibble ([email protected]) neu Daniel Rixon ([email protected]).
Ffynhonnell: http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/ikea-evacuated-staff-taken-hospital-8054891?pageNumber=3
Daeth y Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (IHR) diwygiedig i rym ar
15 Mehefin, 2007. Mae’r rhain yn gofyn i Aelod-wladwriaethau
ganfod, asesu, adrodd ac ymateb i argyfyngau iechyd y cyhoedd
posibl sydd yn peri pryder rhyngwladol ar bob lefel o lywodraeth,
ac i adrodd ar ddigwyddiadau o’r fath yn gyflym i Sefydliad
Iechyd y Byd er mwyn pennu a oes angen ymateb byd-eang wedi
ei gydlynu.
Ynghyd â Gweithgor Digwyddiadau Cemegol GHSAG, rydym yn
datblygu deunyddiau addysgu a hyfforddi ar agweddau cemegol
IHR. Bydd y deunyddiau yn gymysgedd o gyflwyniadau,
astudiaethau achos rhyngweithiol a chanllawiau, yn ogystal â
llyfryddiaeth. Cânt eu cyflenwi fel pecyn e-ddysgu o bell
rhyngweithiol modiwlar a byddant yn ategu hyfforddiant a
chanllawiau presennol, fel yr hyn sydd yn IHR Atodiad 2. Bydd y
deunyddiau hyn yn dangos agweddau amrywiol ar
ddigwyddiadau cemegol y mae angen eu hasesu a byddant yn
amlygu heriau penodol, fel canfod, gwyliadwriaeth, dosbarthu
amgylcheddol, trafnidiaeth, tynged a pharhad.
Mae sefyllfaoedd sy’n cael eu datblygu yn cynnwys digwyddiad
llygredd afon, tân gwyllt, digwyddiad morwrol, bwyd wedi ei
halogi, rhyddhau cemegau yn fwriadol a digwyddiad ag achoseg
anhysbys. Bydd y sefyllfaoedd a’r ddogfen benderfyniad ategol
ar gael i’w llwytho i lawr a gellir eu defnyddio mewn
astudiaethau grŵp bach. Bydd rhestrau darllen a dolenni i
adnoddau gwybodaeth allweddol hefyd yn cael eu cynnwys.
Bydd fersiwn beta yn cael ei roi ar brawf ar ddiwedd 2015.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â David Russell
([email protected]) neu Andrew Kibble
Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol
Grŵp Gweithredu Diogelwch Iechyd Byd-eang System Hysbysu & Adrodd Cynnar
Page 14
Mae’r system Hysbysu ac Adrodd Cynnar (EAR) yn offeryn ar y we
sy’n defnyddio meini prawf chwilio wedi eu teilwra i nodi
digwyddiadau cemegol a nodwyd trwy ffynonellau byd-eang y
cyfryngau. Mae’r system yn rhan o brosiect ehangach parhaus ar
hysbysu ac adrodd yn gynnar sy’n cael ei oruchwylio gan GHSAG
y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn gynghorydd technegol iddynt.
Yn dilyn yr adolygiad peilot a gynhaliwyd gan CC Sefydliad Iechyd
y Byd ar gyfer rheolaeth iechyd y cyhoedd o ddigwyddiadau
cemegol, mae tueddiadau a phatrymau byd-eang wedi cael eu
nodi fydd yn cyfrannu at gynllunio a pharodrwydd o ran iechyd y
cyhoedd yn y dyfodol.
Bydd gweithgor yn dwyn y canlynol ymlaen:
Datblygu termau chwilio penodol i hwyluso’r gwaith o nodi a
nodweddion digwyddiadau o’r fath.
Adolygu digwyddiadau ymhellach ac adrodd i Sefydliad
Iechyd y Byd wedi hynny.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â David Russell
Rydym yn arwain Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd
(WHO CC) ar gyfer Digwyddiadau Cemegol a thros y flwyddyn
ddiwethaf rydym wedi parhau i ddatblygu ac ymestyn ei rhaglen
addysgu a hyfforddi. Mae WHO CC hefyd wedi parhau i
ddatblygu cysylltiadau â Sefydliad Ymchwil Chulabhorn (CRI) yn
Bangkok, gan gyfrannu at weithdy hyfforddi ar asesu Risg
Amgylcheddol ac Iechyd yn Sefydliad Cenedlaethol Iechyd
Amgylcheddol a Galwedigaethol yn Hanoi (Fietnam) ym mis
Tachwedd wedi ei ddilyn gan symposiwm asesu risg i iechyd
dynol yn Bangkok ym mis Rhagfyr. Cafodd y berthynas ei
chryfhau gan ymweliad noddwr y CRI, Ei Huchelder Brenhinol y
Dywysoges Chulabhorn, â CRCE ym mis Mawrth.
Mae’r addysgu wedi cael ei wella trwy ddatblygu modiwlau e-
ddysgu ar gyfer rheoli digwyddiadau cemegol a morwrol o ran
iechyd y cyhoedd. Mae’r deunyddiau hyn hefyd wedi cael eu
cymeradwyo gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd fel modiwlau a
allai gyfrannu at radd Meistr.
Mae WHO CC wedi parhau; trwy gysylltiadau â’r Grŵp
Gweithredu Diogelwch Iechyd Byd-eang (GHSAG), i gyfrannu at
ddiogelwch iechyd byd-eang gyda datganiad sefyllfa ar
ddadheintio anafusion lluosog, arloesi gwyliadwriaeth fyd-eang o
ddigwyddiadau cemegol a datblygu offeryn ar y we ar gyfer
blaenoriaethu risg cemegol. Mae’r Ganolfan wedi ymestyn ei
gweithgareddau ymchwil, gan oruchwylio myfyrwyr ôl-radd o
Brifysgsol Athens, Prifysgol Oman a Phrifysgol Fetropolitan
Caerdydd mewn tocsicoleg glinigol ac amgylcheddol. Bydd
rhaglenni yn y dyfodol yn cydweithredu â chanolfannau
academaidd yn y DU ac yn rhyngwladol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â David Russell [email protected])
Canolfan Cydweithio WHO
Page 15
Morol
Ymarfer Megacyma
Exercise Megacyma took place on the 10th March 2015. The
exercise was run as a table-top exercise relating to a potentially
significant coastal flooding event. Play centred on Strategic Co-
ordinating Group (SCG) meetings in South Wales, Gwent and the
South WCynhaliwyd Ymarfer Megacyma ar 10 Mawrth 2015.
Cynhaliwyd yr ymarfer hwn fel ymarfer pen bwrdd yn ymwneud
â digwyddiad llifogydd arfordirol a allai fod yn sylweddol. Roedd
y gweithgaredd yn canolbwyntio ar gyfarfodydd Grŵp Cydlynu
Strategol (SCG) yn Ne Cymru, Gwent a De Orllewin Lloegr. Ar y
cyd â’r cyfarfodydd hyn cafwyd cyfarfodydd Pwyllgor Hapddig-
wyddiadau Sifil Cymru ac roedd cynrychiolwyr o Swyddfa’r Cabi-
net ar gael i efelychu gweithgaredd COBR. Cymerodd fwrdd yn
cynnwys cwmnïau cyfleustodau a seilwaith hefyd ran yn yr
ymarfer. Cafodd yr Ymarfer ei baratoi gan Grŵp Llifogydd
Cymru y mae gennym gynrychiolwyr arno. Cafodd pwyntiau
dysgu eu nodi, yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o’n canlla-
wiau tywydd eithafol a bydd hyn yn cael ei fwydo i’n gwaith
gyda’r Pwyllgor Diogelu Iechyd er mwyn sicrhau bod camau
priodol yn cael eu cymryd gan bob partner i fynd i’r afael â’r
pwyntiau hyn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Daniel Rixon
ARCOPOL
Rydym yn gynyddol gysylltiedig â chynllunio ac ymateb i
ddigwyddiadau llygredd morwrol. Rydym wedi bod yn
gweithio’n agos gydag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
(MCA) ar Gynllun Hapddigwyddiadau Cenedlaethol y DU –
Trosolwg Strategol ar gyfer Ymatebion i Lygredd Morwrol
Gosodiadau Morgludiant ac ar y Môr (NCP). Rydym yn aelodau o
Grwpiau Amgylcheddol Sefydlog Cymru ar gyfer Argyfyngau
Morwrol a gweithgor Cadeiryddion Grŵp Amgylcheddol
Cenedlaethol y DU gyfan. Roedd yr ymarferion a ddisgrifiwyd
yma wedi eu dylunio i roi’r NCP ar brawf a gwnaethom
gyfraniadau sylweddol i’r ddau.
Mae CRCE Cymru yn dal i chwarae rôl weithredol ym mhrosiect
llygredd morwrol yr Undeb Ewropeaidd, ARCOPOL, gyda chyfnod
terfynol y prosiect (Llwyfan ARCOPOL) i fod i ddod i ben ym mis
Medi 2015. Roedd hyn yn cynnwys lledaenu’r offer a
ddatblygwyd gan ARCOPOL ar gyfer ymateb iechyd y cyhoedd i
ddigwyddiadau morwrol. Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno
deunyddiau ac offer a ddatblygwyd gan EPH fel pecyn cymorth
blaenoriaethu Sylweddau Peryglus a Niweidiol (HNS) a llawlyfr
cyfathrebiadau risg a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus
Cymru, i ymatebwyr a chynllunwyr trwy 3 gweithdy yn y DU ac
Ewrop.
Rydym hefyd wedi datblygu fforwm ar y we ar draws Ewrop ar
gyfer rhannu a lledaenu arfer da ar lygredd morwrol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Paul Harold ([email protected])
Ymarfer Dragon
Cynhaliwyd Ymarfer Dragon ym mis Medi 2014; roedd yn ymarfer ymateb byw
aml-asiantaeth i ollyngiad olew â’r nod o roi NCP ar brawf. Roedd y sefyllfa yn
cynnwys llong a gosodiad ar y môr, mewn amser real ac roedd effeithiau i Gymru
a Lloegr. Cynhaliwyd yr ymarfer dros 2 ddiwrnod, gyda thros 180 o bobl allweddol
yn cynnwys 39 o asiantaethau gwahanol yn cynnwys Llywodraeth y DU, diwydiant,
awdurdodau lleol, ymatebwyr cyntaf a grwpiau amgylcheddol (GAau) o Ogledd
Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.
Roedd yr ymarfer yn cynnwys defnyddio offer Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y
Glannau (MCA), defnyddio contractwyr a chysylltiadau ag awdurdodau lleol a’r
ffordd y caiff yr elfennau hyn eu cydlynu. Agwedd benodol ar y sefyllfa fyw oedd y
drafodaeth am chwistrellu gwasgarwyr. Roedd materion eraill yn cynnwys rheoli
gwastraff a rôl yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Is-adran Cadernid ac
Argyfyngau fel sianel ar gyfer cyfathrebu rhwng llywodraeth ganolog a lleol mewn
cyfathrebiadau trawsffiniol. Aeth yr
ymarfer yn dda ond amlygodd yr
angen am weithdrefnau cyfathrebu ac
uchafiaeth ar gyfer SEG mewn
digwyddiadau ar draws ffiniau. Cafodd
adroddiad terfynol gydag
argymhellion llawn ei lunio gan yr
MCA.
Page 16
Cysylltwch â Ni
Trosolwg & Edrych Ymlaen
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cydgrynhoi ein gwaith
partneriaeth, gan gydweithredu’n agosach nag erioed gyda phartneriaid presennol a datblygu rhaglenni gwaith newydd
gyda nhw, yn ogystal â cheisio sefydlu partneriaethau newydd
mewn ystod ehangach o leoliadau. Mae gwaith partneriaeth a
chydweithredu’n ategu popeth a wnawn; hebddo ni fyddem yn
cael ein hysbysu am sefyllfaoedd lle mae angen gweithredu’n
ymwneud ag iechyd y cyhoedd, neu ni fyddem yn gallu
cyflenwi rhaglenni gwaith rhagweithiol. Ein cyflawniad mwyaf
nodedig yn y cyd-destun hwn mwy na thebyg yw’r gweithgor
Carbon Monocsid sy’n dod â chynrychiolwyr ynghyd o faes
iechyd y cyhoedd, tân ac achub ac awdurdodau lleol, ynghyd
â’r trydydd sector a’r diwydiant diogelwch nwy, yn cynnwys
peirianwyr a gwneuthurwyr larymau. Cafodd y grŵp ei sefydlu
ar ddechrau 2014 ac mae eisoes wedi cyfrannu at nifer o
brosiectau codi ymwybyddiaeth, addysg a dosbarthu larymau.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi bod
yn gysylltiedig â chynllunio a pharodrwydd ar gyfer nifer o
ddigwyddiadau mawr sydd wedi digwydd yn y DU ac yng
Nghymru, sef Gemau Olympaidd 2012 a Chynhadledd NATO
2014. Gan nad oes unrhyw ddigwyddiadau proffil uchel o’r
fath wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae gennym
bellach gyfle i adolygu, cynllunio a sefydlu hyfforddiant ac
ymarferion er mwyn sicrhau cynnal sgiliau a galluogrwydd,
bod pwyntiau dysgu a nodwyd mewn achosion ac ymarferion
blaenorol yn cael eu gweithredu a bod pobl a systemau yn
barod.
Bydd ein cynlluniau gweithredol a strategol dros y 3 blynedd
nesaf yn rhoi cyfeiriad. Bydd y rhain yn ein galluogi ni i fonitro
cynnydd a sicrhau ein bod yn parhau i wella ansawdd y
gwasanaethau yr ydym yn eu cyflenwi er mwyn bodloni
anghenion Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yng Nghymru, yn
ogystal â rhai ein partneriaid.
Ein Cyfeiriad: Iechyd Cyhoeddus Cymru Y Deml Heddwch ac Iechyd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NW derbynfa (cyffredinol): 02920 402 508 Swyddfa Iechyd Cyhoeddus Cymru : 02920 402 478 Ebost : [email protected] Rhyngrwyd: www.iechydcyhoedduscymru.wales.nhs.uk / www.publichealthwales.org Mewnrwyd: nww.publichealthwales.wales.nhs.uk Cyfeiriad: PHE CRCE Cymru Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, Swyddfa CRCE Cymru : 02920 416 388 Ebost : [email protected] Rhyngrwyd: www.gov.uk/government/organisations/public-health-england
Y Tîm
Iechyd Cyhoeddus Cymru Public Health England CRCE Cymru O’r chwith: Kristian James, Daniel Rixon, Huw Brunt, Sarah Jones O’r chwith: Paul Callow, Paul Harold, David Russell, Andrew Kibble, Ed Huckle, Deborah Purnell