mag penwedd rhag 2010 - penweddig :: hafan...y 30 prif brosiect yng nghymru gan dîm o’r...

4
Tymor yr Hydref / Gaeaf 2010 Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig C roeso Annwyl Ddarllenydd, Croeso i rifyn yr Hydref / Gaeaf o Pobl Penweddig. Ynddo rwy’n gobeithio y cewch flas ar fywyd yr ysgol a chyfle i ddathlu rhai o lwyddiannau’r ysgol dros y misoedd diwethaf. Mae canlyniadau arholiadau yr ysgol eleni yn rhai rhagorol – y gorau yng Ngheredigion. Llongyfarchiadau i bawb. Cafwyd llwyddiannau hefyd mewn meysydd eraill gan gynnwys perfformio a chwaraeon, technoleg a gwyddoniaeth ynghyd â’r ieithoedd a’r celfyddydau. Gobeithio y cewch fwynhad wrth ddarllen y rhifyn hwn. Gwenallt Llwyd Ifan Canlyniadau Gwych i Ddisgyblion TGAU Penweddig Unwaith eto daeth llwyddiant mawr i ran disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig gyda chyfradd pasio o 100%. Roedd 37% o’r holl ganlyniadau yn raddau A neu A* a 87% yn raddau uwch ( A*, A, B neu C) . Dyma ganlyniadau gorau’r ysgol ers 1989. Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion a’u hathrawon a diolch i’r rhieni am eu cefnogaeth. Cafodd 81% o’r disgyblion 5 TGAU ar radd A* i C a chafodd 95% o’r disgyblion 5 TGAU ar radd A* i G. Yn ogystal, llwyddodd 100% yn y cyrsiau Lefel Mynediad. Canlyniadau Rhagorol i Ddisgyblion Lefel A Penweddig Daeth llwyddiant mawr i ran disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig gyda chyfradd pasio o 99.5%. Roedd 40% o’r holl ganlyniadau yn raddau A neu A* a 85% yn raddau uwch ( A*, A, B neu C) . Pob dymuniad da i’r holl ddisgyblion yn y dyfodol. P OBL PENWEDDIG P OBL PENWEDDIG www.penweddig.ceredigion.sch.uk GYTS Cychwynnodd ein blwyddyn ysgol newydd gyda phenodiad pwyllgor GYTS am y flwyddyn 2010-2011. Penodwyd Mari Fflur Rowlands a Rhun Penri yn llywyddion, a Trystan ap Owen a Rhiannon Hincks yn is-lywyddion. Y trysoryddion am y flwyddyn hon yw Mared Ellis a Gareth Jones, a phenodwyd Timothy Ansell, Cadan ap Tomos, Aoife Mahon, Eoin Mahon, Gwilym Sims-Williams ac Elen Jones yn ysgrifenyddion a swyddogion hysbys. Swogs GYTS eleni yw James Edwards, Rachel Evans, Mathew Evans, Lowri Davies, Efa Edwards, Alaw Eldridge, Ffion Griffith, Catrin Howells, Rhian Jones, Rhydian Phillips, Aled Thomas a Llŷr Thomas. Cynhaliwyd y gweithgaredd cyntaf nos Iau, yr 16eg o Fedi, gyda swyddogion GYTS yn cynnig noson o gemau parasiwt a helfa drysor. Mae yna amryw o weithgareddau eraill wedi’u trefni ar gyfer y disgyblion iau yn ystod y flwyddyn i ddod, gan gynnwys noson ffilm, gemau pêl-droed pum pob ochr a sesiwn ddawns. Cadan ap Tomos Bl 12 Gwefan yr Ysgol Mae gwefan diwygiedig yr ysgol bellach ar-lein. Er ein bod yn parhau i weithio ar ei chynnwys ac yn archwilio syniadau newydd, mae calendr yr ysgol yn llawn gwybodaeth . Mae hefyd tudalen a fydd yn gallu helpu disgyblion a rhieni gyda gwaith cartref. www.penweddig.ceredigion.sch.uk Bydd ail noson agored anffurfiol blwyddyn 6 ar Ionawr 12fed 2011. Croeso i bawb!’

Upload: others

Post on 27-Jan-2021

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Tymor yr Hydref / Gaeaf 2010Noddir Pobl Penweddig gan Gymdeithas Cyfeillion Penweddig

    CroesoAnnwyl Ddarllenydd,

    Croeso i rifyn yr Hydref / Gaeaf o Pobl Penweddig. Ynddo rwy’n gobeithio y cewch fl as ar fywyd yr ysgol a chyfl e i ddathlu rhai o lwyddiannau’r ysgol dros y misoedd diwethaf. Mae canlyniadau arholiadau yr ysgol eleni yn rhai rhagorol – y gorau yng Ngheredigion. Llongyfarchiadau i bawb. Cafwyd llwyddiannau hefyd mewn meysydd eraill gan gynnwys perff ormio a chwaraeon, technoleg a gwyddoniaeth ynghyd â’r ieithoedd a’r celfyddydau. Gobeithio y cewch fwynhad wrth ddarllen y rhifyn hwn. Gwenallt Llwyd Ifan

    Canlyniadau Gwych i Ddisgyblion TGAU Penweddig Unwaith eto daeth llwyddiant mawr i ran disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig gyda chyfradd pasio o 100%. Roedd 37% o’r holl ganlyniadau yn raddau A neu A* a 87% yn raddau uwch ( A*, A, B neu C) .

    Dyma ganlyniadau gorau’r ysgol ers 1989.

    Llongyfarchiadau mawr i’r disgyblion a’u hathrawon a diolch i’r rhieni am eu cefnogaeth.

    Cafodd 81% o’r disgyblion 5 TGAU ar radd A* i C a chafodd 95% o’r disgyblion 5 TGAU ar radd A* i G. Yn ogystal, llwyddodd 100% yn y cyrsiau Lefel Mynediad.

    Canlyniadau Rhagorol i Ddisgyblion Lefel A Penweddig Daeth llwyddiant mawr i ran disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig gyda chyfradd pasio o 99.5%. Roedd 40% o’r holl ganlyniadau yn raddau A neu A* a 85% yn raddau uwch ( A*, A, B neu C) .

    Pob dymuniad da i’r holl ddisgyblion yn y dyfodol.

    POBL PENWEDDIGPOBL PENWEDDIGwww.penweddig.ceredigion.sch.uk

    GYTSCychwynnodd ein blwyddyn ysgol newydd gyda phenodiad pwyllgor GYTS am y fl wyddyn 2010-2011. Penodwyd Mari Ffl ur Rowlands a Rhun Penri yn llywyddion, a Trystan ap Owen a Rhiannon Hincks yn is-lywyddion. Y trysoryddion am y fl wyddyn hon yw Mared Ellis a Gareth Jones, a phenodwyd Timothy Ansell, Cadan ap Tomos,

    Aoife Mahon, Eoin Mahon, Gwilym Sims-Williams ac Elen Jones yn ysgrifenyddion a swyddogion hysbys. Swogs GYTS eleni yw James Edwards, Rachel Evans, Mathew Evans, Lowri Davies, Efa Edwards, Alaw Eldridge, Ffi on Griffi th, Catrin Howells, Rhian Jones, Rhydian Phillips, Aled Thomas a Llŷr Thomas.

    Cynhaliwyd y gweithgaredd cyntaf nos Iau, yr 16eg o Fedi, gyda swyddogion GYTS yn cynnig noson o gemau parasiwt a helfa drysor. Mae yna amryw o weithgareddau eraill wedi’u trefni ar gyfer y disgyblion iau yn ystod y fl wyddyn i ddod, gan gynnwys noson ffi lm, gemau pêl-droed pum pob ochr a sesiwn ddawns.

    Cadan ap Tomos Bl 12

    Gwefan yr YsgolMae gwefan diwygiedig yr ysgol bellach ar-lein. Er ein bod yn parhau i weithio ar ei chynnwys ac yn archwilio syniadau newydd, mae calendr yr ysgol yn llawn gwybodaeth . Mae hefyd tudalen a fydd yn gallu helpu disgyblion a rhieni gyda gwaith cartref.

    www.penweddig.ceredigion.sch.ukBydd ail noson agored anff urfi ol blwyddyn 6 ar Ionawr 12fed 2011. Croeso i bawb!’

  • Llongyfarchiadau i swyddogion newydd yr ysgol am 2010-2011. Fe etholwyd Tomos Dafydd, Megan Lewis, Rhodri ap Dafydd, Heledd Griffiths, Elain Jones, Gwenan Jones, Gwion Llŷr a Dyfrig Williams o blith myfyrwyr Blwyddyn 13.

    Daw Tomos Dafydd, y Brif Fachgen, o Bow Street ac y mae’n astudio’r Cyfryngau, Drama a Llenyddiaeth Saesneg gyda’r bwriad o astudio ffilm ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau gwylio rygbi a chwarae dros Benweddig ac Aberystwyth.

    Yn ei helpu eleni mae’r Brif Ferch, Megan Lewis, sy’n dod o Lanfihangel y Creuddyn. Pan fo’r amser gyda hi mae’n mwynhau cymryd rhan yng ngweithgareddau CFfI Trisant, helpu ar y fferm a llefaru ac actio. Eleni mae Megan yn astudio Addysg Grefyddol, Cymraeg a Daearyddiaeth Safon Uwch a bwriada ddilyn cwrs gradd mewn Cymraeg y flwyddyn nesaf.

    Bwriad Rhodri ap Dafydd ar ôl astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Busnes Safon Uwch eleni yw mynd ymlaen i’r Brifysgol i barhau â’i astudiaeth o TGCh. Mae Rhodri, sy’n dod o Oginan, yn hoffi chwarae golff a phêl-droed.

    Mae Heledd Griffiths o Aberaeron yn hoffi cymdeithasu, sgïo a chanu’r piano ond mae angen trefn arni er mwyn astudio pedwar pwnc Safon Uwch hefyd sef Bioleg, Cemeg, Cerddoriaeth a Mathemateg. Mae hi’n gobeithio bydd llwyddiant yn y pynciau hyn yn ei galluogi i astudio meddygaeth y flwyddyn nesaf.

    Cymdeithasu yw un o hoff bethau Elain Jones o Rydyfelin, ynghyd â bod yn aelod o gôr Ger y Lli ac ymddiddora hefyd mewn materion cyfoes. Gobeithia astudio Ffrangeg a Chymraeg yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf. Eleni mae Elain yn dilyn cyrsiau Safon Uwch mewn Cymraeg, Ffrangeg a Mathemateg.

    Mae Gwenan Jones hefyd yn astudio’r Gymraeg

    Rhes gefn: Heledd Griffiths, Rhodri ap Dafydd, Dyfrig Williams, Elain Jones, Gwion Llŷr a Gwenan JonesRhes flaen: Megan Lewis a Tomos Dafydd

    Swyddogion Newydd yr Ysgol ynghyd ag Addysg Grefyddol a Llên Saesneg. Dymuna barhau â’i hastudiaeth o’r Gymraeg yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf. Mae Gwenan yn aelod o CffI Llangwyryfon.

    Daw Gwion Llŷr o Landre ac y mae’n astudio’r Gymraeg a Drama ar hyn o bryd. Hoffai ddilyn cwrs Theatr a’r Cyfryngau yn y Coleg neu’r Brifysgol. Bydd ei sgiliau ‘Parkour’ o fudd iddo, felly.

    Astudio milfeddygaeth yw dymuniad Dyfrig Williams, sy’n byw yn Llangwyryfon. Ar gyfer hyn dewisodd Cemeg, Bioleg a Mathemateg. Mae’n ymddiddori mewn materion amaethyddol a chefnogi CFfI Llangwyryfon.

    Y mae’r swyddogion eleni yn edrych ymlaen yn fawr at drefnu a chymryd rhan yng Ngwasanaeth y Nadolig a’r Gwasanaeth Gwobrwyo. Byddant hefyd yn cynorthwyo gyda threfnu Eisteddfod yr ysgol y flwyddyn nesaf.

    Clwb Gwaith CartrefCynhelir Clwb Gwaith Cartref bob prynhawn ar ddiwedd y diwrnod ysgol yn y Ganolfan Adnoddau. Mae’n gyfle i ddisgyblion ddefnyddio adnoddau argraffedig ac electronig ynghŷd â derbyn cymorth gan aelod o staff. Un defnyddwraig o’r cyfleuster yw Lucy Scott, Bl 8:

    “Pob dydd Iau dw i’n mynd i’r Ganolfan Adnoddau i wneud fy ngwaith cartref. Mae Mr Watkins yn rhoi cymorth i mi gyda fy Nghymraeg. Es i i Ysgol Comins Coch ac mae’r hanner awr rwy’n cael yn y Ganolfan yn helpu fy Nghymraeg i wella. Mae’n siawns i mi gael gwybod beth sydd yn anghywir. Dw i’n meddwl os ydych yn cael anawsterau gyda’ch Cymraeg mewn unrhyw bwnc, mae dod i’r Ganolfan ar ôl ysgol yn gallu helpu llawer.”

    Mae’r Clwb Gwaith Cartref ar agor o 1530 – 1630 dydd Llun – dydd Iau ac o 1530 – 1600 ar ddydd Gwener

    Clybiau’r YsgolMae’r Clwb Cynganeddu wedi cychwyn dan arweiniad medrus y Pennaeth ac y mae’n cwrdd yn wythnosol. Mae’r Clwb Gwyddbwyll eisoes wedi cychwyn yn ystod yr awr ginio dan ofal Mrs Rachel Jenkins.

  • Gwobr am Lunio MapLlongyfarchiadau i Timothy Ansell o flwyddyn 12 am ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth ar gyfer bobl ifanc i lunio mapiau. Enillodd Tim yr anrhydedd, sef Junior Mapmaker Award, ynghyd â £50, ddechrau mis Hydref. Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd gan y Gymdeithas Fapiau Brydeinig a Swyddfa Graffeg Ddŵr y Deyrnas Unedig a rhoddir gwobrau bob dwy flynedd. Dewisodd Tim lunio map o ardal Y Bermo, gan gyfuno lluniau lloeren a mapiau Arolwg Ordnans o’r ardal. Defnyddiodd ben inc a phensiliau lliw i wneud y map terfynol. Tipyn o gamp!

    Arweinyddion y Dyfodol

    Yn ddiweddar trefnwyd cwrs antur ac arweinyddiaeth RYLA (Rotary Youth Leadership) ar gyfer ugain o bobl ifainc gan Glwb Rotari Aberystwyth. Yn y llun gwelir Angharad Edwards

    Llwyddiant Dyfais Newydd ym MhenweddigMae ‘Gwobrau Arloesol CBAC’ yn dathlu gwaith Lefel-A dyfeisgar a gwahanol o safon uchel o fewn Dylunio a Thechnoleg. Dewiswyd y 30 prif brosiect yng Nghymru gan dîm o’r Cynulliad, diwydiant, busnes, Addysg Uwch a CBAC. Y mae prosiect Dafydd Morgan, sydd newydd orffen ei astudiaethau Lefel-A, yn un o’r 30 buddugol. Llongyfarchiadau iddo am gynllunio melin hawdd i’w thrin a arddangoswyd yn Venue Cymru, Llandudno ar y 27ain a’r 28ain o Fedi ac yn Stadiwm SWALEC, Gerddi Soffia, Caerdydd ar yr 11eg a’r 12fed o Hydref. Cafodd y dyfeisiau oll eu beirniadu ymhellach yng Nghaerdydd.

    6 Cwrs Galwedigaethol Newydd Penweddig!Mae’r ysgol eisoes yn cynnig Lefel 2 Peirianneg, Gofal Plant, Arlwyo a Phrosesu Tetsun ym mlynyddoedd 10 & 11 a Lefel 3 Gofal Plant ym mlynyddoedd 12 & 13. Ers mis Medi 2010 mae disgyblion blwyddyn 10 wedi gallu dewis dilyn y cyrsiau newydd Lefel 2 Amaethyddiaeth a Lefel 2 Cefn Gwlad ac Amgylchedd. Mae disgyblion blwyddyn 12 wedi gallu dewis dilyn y cyrsiau newydd Lefel 3 Peirianneg, Lefel 3 BTEC Chwaraeon ac Awyr Agored a Lefel 3 Amaethyddiaeth. Yn newydd i’r arlwy CA4 a CA5 hefyd mae’r cwrs Trin Gwallt. Astudir y cyrsiau hyn i gyd ar safle’r ysgol.

    a Kathryn Botting a fu’n ffodus i fynychu’r cwrs 5 noson yn Nolygaer, Canolfan Addysg Awyr Agored ym Mannau

    Brycheiniog. Gyda nhw mae Mr Alun John, trefnydd y cwrs, ac Is-gadeirydd y Clwb Rotari, Sonia Dobson. Bu raid i Angharad a Kathryn roi cyflwyniad i’r clwb am eu profiadau a oedd yn cynnwys canŵio, ogofa, abseilu a morwriaeth. Elfen o’r cwrs oedd derbyn hyfforddiant mewn un maes a dysgu’r sgil i eraill. Dewisodd Angharad a Kathryn forwriaeth a oedd yn cynnwys darllen mapiau a deall cyfeirnodau grid.

    3

  • 4

    Gwnewch Le, Jonsi !Llongyfarchiadau i Sam Ebenezer am ennill cystadleuaeth Be the Presenter i gyd-gyflwyno skillscymru, a gynhaliwyd yn Stadiwm y

    Mileniwm yn ddiweddar. Yn ogystal â chael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd o’r byd gwaith, fe’i dewiswyd i gyfweld arddangoswyr, pobl o’r byd teledu, llysgenhadon sgiliau a gweinidogion y Cynulliad. Wrth ffilmio dros y pedwar diwrnod, cafodd gipolwg i mewn i’r sgiliau angenrheidiol i ddilyn gyrfa ym myd teledu.

    Top of the BenchAeth pedwar disgybl i gynrychioli Ysgol Penweddig yng nghystadleuaeth “Top of the Bench” ar 12fed o Hydref. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gymdeithas Frenhinol Cemeg yn Neuadd Gregynog. Roedd dwy gystadleuaeth sef ateb cwestiynau a thyfu crisialau. Roedd cystadlu brwd rhwng yr wyth ysgol a llwyddodd Penweddig i gyrraedd y rownd cyn-derfynol yn y rhan ateb cwestiynau ond fe’u curwyd gan y tim buddugol sef Aberaeron. Daethant yn ail yn y gystadleuaeth tyfu crisialu. Llongyfarchiadau i Megan Haf Bl 11, Christopher Gillison Bl 10, Mabli Mair Bl 9, a Tomos Williams Bl 9.

    ‘Y Diwrnod Cyntaf’ gan Catrin Pugh-Jones 7LDechreuodd fy niwrnod cyntaf ar yr ail o Fedi. Fy nhaith i’r ysgol ar droed oedd dechrau’r diwrnod a oedd o’m blaen. Teimlais yn nerfus ond yn gyffrous ar yr un pryd. Pan gyrhaeddais roedd fy ffrindiau yn aros amdanaf y tu allan i’r llyfrgell achos doedden nhw ddim yn gwybod ble i fynd. Ond darganfyddodd Talesia bod rhaid inni fynd i’r neuadd. Dilynon ni hi. Dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth bach ac wedyn fe symudon ni ymlaen i’n dosbarthiadau cofrestru. Doeddwn i ddim yn siŵr o unrhyw beth. Ar ôl y pedair gwers cyntaf a chyda chinio ar y gweill, dechreuodd sŵn rymblan yn fy mola a oedd yn fy ngwneud yn fwy newynog. I ginio fe ges i basta a botel o ddŵr. Symudon ni ymlaen at ein dwy wers gyntaf o’r dydd ac ym Mhenweddig. Yn gyntaf cawsom Saesneg ac yna Ffrangeg. Roedd Saesneg yn ddiddorol achos nawr mae gyda ni ddau lyfr gwahanol. Un ar gyfer iaith a’r llall ar gyfer ein hymarferion. Pan symudon ni ymlaen at Ffrangeg cwrddon ni â’n hathrawes, Madame Owen. Mae hi’n garedig iawn ac yn dda iawn mewn Ffrangeg. Dechreuon ni’r wers gyda chyflwyniad Powerpoint am eiriau Ffrangeg a chwestiynau. Daeth diwedd y wers yn gyflym. Felly wrth inni fynd adref daliodd fy ffrindiau y bws ac fe gerddais adref gyda gwaith cartref yn fy mag.

    Diwrnod ABCh

    Cafwyd diwrnod hynod o lwyddiannus ar y 1af o Chwefror pan gafodd yr ysgol gyfan ddiwrnod ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol). Cafwyd profiadau arbennig a chyfle i drafod syniadau pwysig. Roedd rhai o’r profiadau yn cynnwys delio ag arian, cymorth cyntaf, sgiliau astudio, trafod themâu bwlian trwy farddoniaeth, diogelwch a sgiliau coginio. Edrychwn ymlaen at y diwrnod ABCh nesaf ar 11eg o Dachwedd.

    Cynrychioli Cymru

    Llongyfarchiadau i Megan Turner Bl 11 a Stephen Williams Bl 10 am gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd Prydain ac Iwerddon a gynhaliwyd yng Ngweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar. Er i dîm Gogledd Iwerddon ennill y gystadleuaeth gyfan o dan 18, fe ddaeth Megan yn 14eg yn y gystadleuaeth dan 16 ac

    fe ddaeth Stephen yn 5ed yn y gystadleuaeth dan 14. Da iawn iddynt am gynrychioli Cymru.