mentergarwch - annibynwyr.org · y frechdan emynau cyfarwydd - ond hoffwn feddwl fod y bara’n...
TRANSCRIPT
CROESO MAWRMae dwy Eglwys Annibynnol fywiog yn y brifddinas sef EglwysMinny Street lle mae’r Parch. Owain Llyr Evans yn weinidog acEbeneser sydd o dan weinidogaeth y Parch. Alun Tudur.
Braint fawr i ni yw cael croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol iGaerdydd gan ddymuno yn dda i’r holl Eisteddfodwyr fydd yn tyrruyma. Dyma ychydig o wybodaeth am yr eglwysi.
EGLWYS MINNY STREETEglwys gynnes, agored a bywiog yw Minny Street, Caerdydd.Gyda’n gilydd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yr ydym yn gweithio i weldcariad Duw yng Nghrist yn ffynnu yn ein plith.
Yn ychwanegol at raglen gymdeithasol lawn, amrywiol acatyniadol, a’r cyfan oll yn nwylo aelodau talentog a ffyddlon yrachos, mae gennym y darpariadau pwysicaf a chreadigol mewnaddoliad a defosiwn, astudiaeth a thrafodaeth, ysgol Sul achyfarfodydd rheolaidd yn benodol i bobl ifanc.
Mae ein haddoliad boreol yn gynnes, deuluol a bywiog –10:30am.
Am 9:30am bob ail Sul yn y mis cawn oedfa fer, hanner awr, yny festri, yng ngofal yr aelodau iau, sydd bob amser yn hwyliog abendithiol. Cawn bwt o frecwast gyda’n gilydd ar ôl yr oedfa hon.
Mae ein haddoliad hwyrol am 6:00, yn fwy traddodiadol efallai -y frechdan emynau cyfarwydd - ond hoffwn feddwl fod y bara’nffres a’r cynnwys yn faethlon.
Eglwys Gymraeg yw Minny Street, ond estynnir croeso mawr ibawb sy’n dysgu’r iaith. Ceir cyfle i chwi ymarfer y Gymraeg ynein plith, a rhoddir pob cefnogaeth i chwi gan gyfeillion yr eglwys.
Lleolir Minny Street yng nghanol ardal Cathays, neu’r WaunDdyfal, oddi ar Crwys Road.
EBENESER CAERDYDDY mae Ebeneser yn deulu o bobl Iesu Grist sy’n awyddus i rannu’rnewyddion da gydag eraill a dysgu gyda’n gilydd sut i fod yngymuned o Gristnogion sy’n gwasanaethu’r Arglwydd a’n cyd-ddynmewn cariad.
Yn ein gweithgareddau wythnosol y mae cyfle i addoli,cymdeithasu, chwerthin, wylo, bwyta a phaneidio. Y mae llu ogyfleoedd i addoli’r Arglwydd, yn gyfoes a thraddodiadol, iastudio’r Beibl ac i weddïo ac i wasanaethu cyd-ddyn. Os ydych arymweliad â Chaerdydd y mae croeso i chi daro heibio i weld bethsydd yn digwydd. Byddai’n wych eich gweld.
Nid oes gennym adeilad ar hyn o bryd ond ar fore Sul rydym ynaddoli am 10.00am yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd – CF141AD – ac ar nos Sul am 5.30pm rydym yn cynnull yn Eglwys yDdinas Windsor Place – CF10 3BZ.
Ewch i’n tudalen facebook: Ebeneser Caerdydd, neu dilynwch niar trydar @ebencaerdydd
Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 151 Rhif 31/32 Awst 2/9, 2018 50c.
Wrth groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol iGaerdydd y mae cryn anesmwythyd wedibod gan rai oherwydd y bydd yr Eisteddfodhon yn wahanol i’r arferol. Yn ôl ym misIonawr eleni pennawd erthygl ar CymruFyw oedd: ‘Ansicrwydd stondinwyr amleoliadau Eisteddfod Caerdydd.’ Clywydpryderon a grwgnach hefyd am faintioli’rstondinau, gwahardd cŵn ar y maescarafanau, trefniadau parcio, amser yroedfa bore Sul a lleoliad Maes B.
Oherwydd lleoliad y prif weithgareddauym Mae Caerdydd, roedd manylion ynhwyrach yn cyrraedd y wasg ac oganlyniad roedd eisteddfodwyr yn betrus idrefnu. Erbyn hyn fe ymddengys fod ydarnau wedi disgyn i’w lle a bod popeth ynbarod i groesawu’r miloedd o ymwelwyrfydd yn heidio i’r ŵyl. Gwyddom yn ddafod unrhyw fath o newid a mentergarwchyn codi gwrthwynebiad a phrotest.
Er hynny rhaid canmol trefnwyr yrEisteddfod am eu parodrwydd ifentro i dir newydd ac i arbrofigydag Eisteddfod ddinesig. Mae’nrhaid i’r ŵyl ddatblygu er mwynbod yn berthnasol ac yn gyfoes acer mwyn pontio â’r genhedlaethnesaf o Gymry. Y peth rhwyddafiddynt fod wedi ei wneud fyddaiaros yn eu hunfan gan gadw pethaufel y buont.
MENTERGARWCH
Y mae gwers yma i’n heglwysi ninnau.Di-fudd yw i ni rygnu ymlaen i wneud yrun pethau, yn enwedig pan fo’r pethauhynny’n amherthnasol i’r helyw odrigolion Cymru heb sôn am einhieuenctid. Dylem ddilyn esiampl yrEisteddfod gan fod yn fwy mentrus acanturus gyda’n ffydd a’n gweithgareddau.Trwy’r cwbl mae’r Arglwydd yngoruwchlywodraethu ac yn ein defnyddioyn ei waith. Rhaid ymysgwyd er mwynbod yn eglwysi byw a pherthnasol sydd ynrhannu Iesu Grist yn effeithiol, hwyliog,llawen a chreadigol. Ar ddechrau llyfr yrActau fe ddyfynnir geiriau’r proffwyd Joel:
A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, meddDuw: tywalltaf o’m Hysbryd ar bawb; abydd eich meibion a’ch merched ynproffwydo; bydd eich gwŷr ifainc yn caelgweledigaethau, a’ch hynafgwyr yngweld breuddwydion; hyd yn oed ar fynghaethweision a’m caethforynion, yn ydyddiau hynny, fe dywalltaf o’m Hysbryd,ac fe broffwydant. (Act 2:17-18)Yma dywedir y bydd yr Ysbryd Glân yn
rhoi i feibion a merchedbroffwydoliaethau, gweledigaethau abreuddwydion. Onid yw hyn yn cynnwysmentergarwch a gweledigaethau newydd igymhwyso Efengyl gras Duw i’n cyfnodni? Angen pennaf cenedl y Cymry heddiwyw Iesu Grist. Gweddïwn y bydd yrEisteddfod yn un llwyddiannus i bawbsydd ynghlwm â hi.
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Awst 2 /9, 2018Y TYST
Traddododd y Parchedig Olaf Davies eibregeth olaf fel gweinidog EglwysGydenwadol Emaus, Bangor ar fore 22Gorffennaf i gynulleidfa anrhydeddus iawnyn cynnwys yr aelodau presennol a nifer ogyn-aelodau a chyfeillion yr eglwys. Arddiwedd yr oedfa, a chyn i bawb symud i’rfestri i fwynhau lluniaeth ysgafn,cyflwynwyd tysteb i Olaf fel arwydd owerthfawrogiad yr eglwys a llu ogaredigion o’i arweiniad dros yblynyddoedd.
Wedi gyrfa o wasanaethu eglwysi’rBedyddwyr yn y de a’r gogledd, sefydlwydOlaf, ac yntau eisoes yn weinidog arEglwys Bedyddwyr Penuel, Bangor ynweinidog hefyd ar Eglwys AnnibynnolPendref, Bangor yn 2015. Arweiniodd Olafy broses o uno’r ddwy eglwys, a phenllanwei arweiniad cadarn a sensitif oedd gweldcreu Eglwys Gydenwandol Emaus, Bangoryn 2017. Yng ngeiriau’r Parchedig DensilMorgan, bu Olaf ‘yn bregethwr gwych, ynfugail gofalus, yn arweinydd doeth ac yngyfaill i’w bobl’ a dangosodd yrhinweddau hynny, yn ogystal â’i hiwmora’i urddas, yn gyson ar hyd eiweinidogaeth. Crisialwyd y cyfan mewncywydd teyrnged iddo gan y ParchedigJohn Gwilym Jones.
Pen-blwydd Hapusi’r TabernaclDolgellauYm mis Mehefin 2018 cynhaliwydgwasanaeth arbennig i ddathlu 150 ers agoradeilad Eglwys y Tabernacl Dolgellau.Dechreuodd y Parchedig Hugh Pugh o’rBrithdir bregethu ym Mhenbrynglas acerbyn 1808 fe brynwyd adeilad yMethodistaidd ym Mhen Ucha’r Dre argyfer cynnal oedfaon yr Annibynwyr.Olynydd Hugh Pugh oedd y ParchedigCadwaladr Jones ac o dan ei weinidogaethdros gyfnod o dros 40 mlyneddllewyrchodd achos yr Annibynwyr ynNolgellau. Daeth yn amlwg bod angenadeilad newydd mewn lleoliad mwycyfleus. Yn rhagluniaethol daeth saflerhwng Y Lawnt a Phenbryn ar gael ac aedati i godi arian. Dengys mantolen yr eglwysar gyfer 1868 i’r adeilad gostio bron i£2,500.Newyddion Y DyddGwelir adroddiad am agoriad yr adeilad ynrhifyn cyntaf papur wythnosol Y Dydd agyhoeddwyd am y tro cyntaf ym Mehefin1868 a cheir detholiad ohono yma: ‘Maint yaddoldy yw 58 troedfedd wrth 42 oddimewn, ac eistedda ynddo 700. Ycynllunydd yw y Parch. T. Thomas,Glandwr; yr adeiladwyr, Jones a Davies ...Y mae iddo front ardderchog, a thynna sylwdieithriaid fel prif adeilad y dref. Y mae odano ystafell helaeth i gadw yr ysgolSabbathol, annedd-dy, a vestry-room.’DathluYn ystod yr oedfa ddathlu olrheiniwydhanes yr eglwys o dan ofal Tecwyn Owen achyfeillion, a chanwyd un o emynau’r cynweinidog, y Parchedig O. M. Lloyd.Darllenwyd cyfarchion gan y cyn-weinidogion y Parchedigion Hywel WynRichards ac Angharad Griffith. Cafwydeitemau cerddorol gan rai o aelodau’reglwys. Hyfrydwch oedd cael tystio idderbyn pedwar o blant yr eglwys, Annest,Celt, Non a Nêst yn aelodau cyflawn. Yn dilyn yr oedfa cafwyd te bendigedig
yn y festri a chyfle i gymdeithasu ac edrychar arddangosfa o ffotograffau ac atgofionaelodau a chyn aelodau ac arteffactau afenthycwyd gan Archifdy Gwynedd.
Euron Hughes
Olaf a Helen ar ôl llwyddo i dorri’r gacen
Olaf a’i YmddeoliadHeddiw a ddoe nawr a ddwed:i Olaf, trwm yw’n dyled.Yn hael a theg i’n plith ddaethâ golud ei fugeiliaeth.Olaf a glywsai alwadi’r un gwaith, ’run daith â’i dad;dawn ei fam wedyn a fedd, ac eli ei hymgeledd.Pregetha, llefara’i farn,ergydia â her gadarn,a geiriau’r Gair agoredyw llwybrau llym grym ei gred.Ond ei ras a glywir, dro,ym mwyniant y cymuno:a pherlau munudau’r nefyn ei islais a’i oslef.A’r un modd gysuron mwyno reddf ei gryfder addfwyn, a’i eiriau ef ar awr dromyn dyner fraich amdanom.Yn awr, yn Olaf, mwynha,yn haeddiannol, hamddena;mwynha haul cwmni Helen,y fun ddoeth a’r fwynaidd wên,a rho oriau i’r wyrionyn llanc dy Orffennaf llon.
John Gwilym Jones
Rhai o blant ysgol Sul Emaus yn mynegi eudiolch i Olaf a Helen ar gân
OLAF YN FLAENAF
Awst 2 /9, 2018 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y TYST
CYFARFODYDD COFIADWYCEREDIGION
Roedd Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr yn Aberaeron yr haf hwn yn achlysurwirioneddol hanesyddol a chofiadwy am sawl rheswm. Daeth dros 700 o bobl ynghyd mewnpafiliwn mawr ger capel Neuadd-lwyd mewn achlysur dramatig oedd yn adrodd hanes yddau genhadwr – David Jones a Thomas Bevan a’u teuluoedd – aeth oddi yno 200 mlyneddunion yn ôl i genhadu ym Madagascar.
Y cenhadon Cymreig roddodd ffurf ysgrifenedig i iaith lafar yr ynys fawr honno, cyncyfieithu’r Beibl i’r Falagaseg. Roedd y ffaith bod hanner cant o bobl Madagascar, gangynnwys cyn-arlywydd y wlad, yn bresennol ar gyfer y dathliadau yn rhyfeddol.
Ffilmiwyd yr Oedfa Ddathlu yng nghapel y Tabernacl ger harbwr Aberaeron gan uned ffilmyr Annibynwyr, a’i darlledu’n fyw dros y rhyngrwyd i bedwar ban byd. Credir mai dyma’rtro cyntaf i unrhyw enwad yng Nghymru wneud hyn.
Ac fe lansiwyd Apêl Madagascar, gyda’rbwriad o godi arian sylweddol tuag atprosiectau i godi safon bywyd pobol ar yrynys, lle mae 70% o’r boblogaeth o 26miliwn yn byw mewn tlodi. Annogwyd yrholl eglwysi Annibynnol i godi arian tuagat yr achos arbennig hwn. Bydd yr Apêl ynrhedeg o Gyfarfodydd BlynyddolAberaeron 2018 hyd at GyfarfodyddBlynyddol Rhydymain 2019.
Roedd yn achlysur cofiadwy, hefyd, ammai dyma oedd y tro olaf i’r Parchg DdrGeraint Tudur draddodi anerchiadflynyddol. Bydd yn ymddeol fis nesa ar ôl12 mlynedd yn y swydd – cyfnod a weloddyr Undeb yn cael enw fel enwad blaengariawn yng Nghymru, a thrwy CWM(Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang), ar drawsy byd. Ei olynydd yw’r Parchg DyfrigRees, Pen-y-bont ar Ogwr.
Y Parchg Dyfrig Rees
tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Awst 2 /9, 2018Y TYST
WYNEBAU O’R UNDEB
Yn yr oedfa o fawl yn yTabernacl, Aberaeron, febregethodd y Parch. GutoPrys ap Gwynfor effeithiola chofiadwy ar Iesu felArglwydd.
Fe’n gwahoddwyd yngynnes i GyfarfodyddBlynyddol yr Undeb2019 a gynhelir ynRhydymain gan yParch. Iwan LlewelynJones.
Y Parch. Ken Williamsdraddododd yfeirniadaeth eleni argystadleuaeth yrysgolion Sul am gwpanDenman.
Ysgol Sul Pencae, Cylch Ceinewydd, gipiodd y Cwpan a£200 eleni am gywaith cyflawn diddorol gwahanol, yneffeithiol i’w ddarllen fel llyfr, neu i’w arddangos yngnghanol ystafell ‘ar ei draed’ i’w weld o bob cyfeiriad – tublaen a thu ôl.
Dadorchuddio gofeb David Griffiths a symudwyd ofynwent Capel y Graig Machynlleth i fynwent Neuadd-lwyd.
CENHADAETH I’R SWISTIR Taith genhadol i Lausanne a
Genefa rhwng 3–17 Medi, 2018Ychydig fisoedd yn ôl penderfynais byddwnyn ymuno i fynd ar daith genhadol iBrifysgol Genefa gyda’m heglwys leol ynRhydychen, St Ebbe’s. Rwyf wedi fynghyffroi wrth feddwl am y cyfle newyddhwn y mae Duw wedi ei roi i mi gaelrhannu’r newyddion da am Iesu Grist gydamyfyrwyr yn y Swistir. Gobeithiaf ddod â’rhyn a ddysgaf yn Genefa yn ôl i Gymru ermwyn wynebu’r her o ddod â’r CymryCymraeg yn ôl at Iesu.
Pam y Swistir?Efallai eich bod yn gofyn, ‘Pam y Swistir?Onid yw’r Swistir eisoes wedi clywed ynewyddion da am Iesu Grist?’ Er bod 8.4miliwn o bobl yn byw yn y Swistir, dim ond6% ohonynt sy’n mynychu eglwys leol. Ynwir, yn ddiweddar nodwyd bod nifercynyddol o bobl y Swistir yn gadael yreglwysi oherwydd diffyg gweinidogion acansicrwydd diwinyddol. Er bod y Swistir yngysylltiedig â rhai o ddiwinyddion mwyaf yDiwygiad Protestannaidd, gan gynnwysJohn Calvin a Huldrych Zwingli, dim ondychydig o fyfyrwyr prifysgol sydd wediclywed ac ymateb i’r newyddion da am IesuGrist a’i groes. Bellach dim ond 219 ogenhadon sy’n gweithio yn y Swistir sef 1 i
bob 38,356 o bobl. Yn wir, fel y dywed yrApostol Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid:
Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alwarno os ydyn nhw ddim wedi creduynddo? A sut maen nhw’n mynd i greduynddo heb glywed amdano? Sut maennhw’n mynd i glywed os ydy rhywunddim yn dweud wrthyn nhw? A phwysy’n mynd i ddweud wrthyn nhw hebgael ei anfon? Dyna mae’r ysgrifausanctaidd yn ei olygu wrth ddweud:“Mae mor wych fod y rhai sy’ncyhoeddi’r newyddion da yn dod!
(Rhufeiniaid 10:14-15)Manylion: annog ac efengyluCychwynnwn ein pythefnos trwy fynychufforwm myfyrwyr y GBEU (Les GroupesBibliques des Écoles et Universités) agynhelir ar lannau llyn Genefa rhwng 8– 12Medi. Bwriad y gynhadledd hon yw casgluCristnogion sy’n astudio ym mhrifysgolionFfrengig y Swistir at ei gilydd a’u hannoga’u harfogi i rannu eu ffydd gyda’u cyd-fyfyrwyr. Yn ystod yr wythnos, bydd tîm St.Ebbe’s yn pregethu, arwain astudiaethauBeiblaidd a seminarau. Wedi hynny, rhwng13–14 Medi, byddwn ni’n gadael llynGenefa i gynorthwyo ymgyrchoedd wythnosy glas yr undebau Cristnogol ym MhrifysgolGenefa a Phrifysgol Lausanne.
Sut allwch chi gefnogi?Gallwch gefnogi trwy weddïo y byddwn nifel tîm yn unedig gan ganolbwyntio arDduw a’r newyddion da am Iesu Grist, bethbynnag yw’r heriau a wynebwn. Hefyd,gallwch weddïo drosof fi’n bersonol ganofyn i Dduw rhoi cyfleodd clir i mi rannuam Iesu Grist a’i gariad gyda’r bobl. Rwyfhefyd angen cymorth ariannol. Bydd fynhaith yn costio oddeutu £755 ac rwyf yndibynnu ar yr Arglwydd i ddarparu ar gyferEi waith. Mae hyn yn cynnwys fy nghostauteithio, llety, adnoddau a bwyd. Deallaf osna fedrwch gefnogi yn ariannol ondgwerthfawrogaf os gallwch weddïo drosof.Os ydych eisiau gwybod mwy edrychwch arfy nhudalen Crowdfunding:www.justgiving.com/crowdfunding/swissmission.
Yn rhwymau’r Efengyl,Gwilym Tudur
Sut i gysylltu?Rhif ffôn: 07972 687430E-bost: [email protected] ||[email protected]: 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS. JustGiving:www.justgiving.com/crowdfunding/swissmission
Awst 2 /9, 2018 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 9Y TYST
Rhwng Dwy ŴylWrth i mi ysgrifennu’r erthygl olygyddolhon yr ydym rhwng dwy ŵyl Gymreig, sefy Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd a’rEisteddfod Genedlaethol a gynhelir eleniyng Nghaerdydd. Y mae’r ddauddigwyddiad rhyngddynt yn adlewyrchuarweddau amrywiol o’n diwylliant a’neconomi fel cenedl. Dangosant ein goluddiwylliannol a’n cyfoeth amaethyddolmewn amrywiol ffyrdd, o gaws igynghanedd, o gneifio i gelfyddyd gain allawer, llawer mwy. Mae’r holl bethau awelir yn fynegiant o’n hunaniaeth felcenedl ac o’r ffaith ein bod yn unigrywymhlith teulu cenhedloedd y byd. Nid einbod yn well nac unrhyw genedl arall, ondrydym yn gallu sefyll ysgwydd wrthysgwydd gyda chenhedloedd y byd ynrhan o greadigaeth liwgar Duw.Cenhedloedd y crëwrFel Cristnogion fe gredwn bodcenhedloedd wedi eu creu gan Dduw acyn rhan o’i fwriad o fewn i ddynoliaeth. Ynyr Hen Destament gwelwn Dduw yn creucenedl arbennig – sef Israel – i fod ynoleuni i’r cenhedloedd eraill ac ynladmerydd i genadwri Duw. Ac yn ydiwedd o’r genedl honno y deuaiGwaredwr yr hollfyd, Iesu Grist. Felly, rhano fwriad Duw yw cenhedloedd a rhoddganddo Ef yw’r amrywiaeth o ieithoedd adiwylliannau sydd o’n cwmpas. Nid hapcymdeithasegol yw cenedl a’i nodweddioni’w dibrisio a’i difa ar sail datblygiadaugwleidyddol ac economaidd. Ond rhanwerthfawr o greadigaeth y Creawdwr. Maehanes tŵr Babel a’r Pentecost yn dangos
yn glir wrthwynebiad Duw i unffurfiaeth a’iawydd i weld amrywiaeth o fewn iddynoliaeth.Deled dy DeyrnasFel, Cristnogion yng Nghymru y mae Duwyn galw arnom i dystio i newyddion daIesu Grist ymhlith ein pobl ein hunain allwyddo gwaith Teyrnas cyfiawnder Duw.Rhan o’n gwaith, felly, yw diogelu einhunaniaeth fel cenedl gan wrthsefyllunffurfiaeth lle mae’r cryf yn diddymu’rgwan. Y ffordd orau i genedl wneud hynnyyw trwy edrych ar ôl ei buddiannau eihunan. Daw geiriau Taffi i’r cof, yn ‘Bully(Prydeindod neu Seisnigrwydd), Taffi(Cymro) a Paddy (Gwyddel)’ – o waithcrafog Emrys ap Iwan ym 1880, lle ydywedodd Taffi wrth Paddy,
‘Pa les i ti wingo yn erbyn yranocheladwy? Cred ddarfod creu’r byd iwasanaethu Mr Bully, a darfod creu MrBully i lywodraethu’r byd. Tafl y syniad amymlywodraeth i blith pethau Utopaidd.Paham y chwenychi dy lywodraethu dyhunan, a’n meistr caredig yn dweud wrthytyr ymgymer ef â’r drafferth i’thlywodraethu? Bydd foddlon; canys fymhrofiad i ydyw hyn: bod gwasanaethu ynhaws gwaith nag arglwyddiaethu … ac yrwyf yn sicr fod y farn hon yn uniawn;oblegid o enau Mr Bully y cefais hi.’PrydeindodWrth i ni baratoi i ymadael â’r UndebEwropeaidd nid yw’n ymddangos y gŵyr
neb beth sydd ar droed. Ond feymddengys bod ymdrech gan yllywodraeth yn San Steffan i gadarnhau’rUndeb a Phrydeindod ar draulCymreictod. Gwelwyd hynny ynddiweddar gyda’r broses od aphlentynnaidd, o ail enwi Pont Hafren acail-frandio cynnyrch Cymreig fel rhaiPrydeinig heb sôn am dorri addewidiontrwy wrthod nawdd i ddatblygiadau pwysigyng Nghymru. Mae’n amlwg bodLlywodraeth Sant Steffan wirioneddol ynpryderu am y Deyrnas Gyfunol ac y gallaiein hymadawiad ag Ewrop berianniddigrwydd a rhwygiadaucymdeithasol dwfn. Felly, cadarnhânt yrUndeb drwy hyrwyddo Prydeindod – syddfel arfer yn ddiwylliannol Seisnig –militariaeth, y Frenhiniaeth a chyhwfanJac yr Undeb ar bob adeilad cyfleus. Maerhywun yn deall eu pryder am yposibilrwydd o anhrefn cymdeithasol ondonid oes ffordd amgenach i hyrwyddoharmoni na’r hen ffordd Brydeinllydgormesol a hen ffasiwn?SicrwyddFel Cristnogion yng Nghymru yn y cyfnodanodd hwn y mae angen gwirioneddol i nifod yn ‘halen y ddaear’ a ‘goleuni’r byd’.Yn bobl sy’n dylanwadu’n iachus ar eincymunedau trwy hyrwyddo cyfiawnder,cymod a gobaith ac nid yn cuddio yn eincapeli gan obeithio y bydd rhywun yn taroheibio. Y gobaith mwyaf i genedl y Cymry,fel y bu erioed, yw Iesu Grist ac felly gelwirarnom i gyhoeddi a byw’r Efengyl yn eingwlad gan garu ein pobl a’u hannog i’wgydnabod fel Arglwydd. Wrth gamu ianwybod y dyfodol y mae un sicrwydd i’wgael o hyd, ac mae hwnnw i’w ganfod ynNuw.
Alun Tudur
Golygyddol
Pawb ar y bws…ac ar y trên!‘Pawb ar y bws!’ oedd hi ganol Gorffennaf pan aeth llond bwso aelodau capeli Annibynnol ardal Hendy-gwyn a Sanclêr ar eupererindod flynyddol.
Capel Blaen-y-coed oedd y man cyntaf yr ymwelwyd ag efac fe wnaethom ymuno ag aelodau Blaen-y-coed ar gyferoedfa. Yna ymlaen i’r Gangell, cartref yr emynydd Elfed, lle yrhoddwyd hanes Elfed i ni gan Mrs Page.
Yn y prynhawn aethpwyd ymlaen i Gapel Neuaddlwyd(gweler y llun) o ble yr aeth y cenhadon i Fadagascar 200mlynedd yn ôl. Yn dilyn gair o groeso gan Enfys James,
adroddwyd hanes y capel gan Marina James. Cafwyd holl hanes achyffro’r cenhadon yn mynd i Fadagascar 200 mlynedd yn ôl.
Galwyd yn Aberaeron a chafwyd swper yn Ffostrasol ar yffordd adref. Diwrnod i gofio a diolch i bawb a gyfrannodd mewnunrhyw ffordd.
Bythefnos yn gynt, ‘Pawb ar y trên!’ oedd hi ar ddiwrnod tripyr ysgol Sul i Ddinbych y Pysgod. Ar ddiwrnod hyfryd fe wnaethpawb ddal y trên o Hendy-gwyn cyn mwynhau diwrnod llawn arlan y môr.
Guto Llywelyn
tudalen 10 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Awst 2 /9, 2018Y TYST
Adroddiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol 6Undeb Aberaeron 2018
Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn ynrhoi crynodeb o Adroddiad yr YsgrifennyddCyffredinol y Parch. Dr Geraint Tudur ganrannu gyda darllenwyr y Tyst y prifbwyntiau a godwyd ganddo.
Tri Chadeirydd fu i’r Cyngor yn ystod fynghyfnod. Gyda hiraeth yr ydym yn cofioGwyneth Morus Jones o hyd, ac yr ydymyn diolch fel Undeb ein bod wedi cael eibenthyg. Ar ei hôl hi, daeth y Dr FionaGannon; Fiona ddibynadwy, ddoeth,gymwynasgar a gweithgar. Diolch, Fiona.Ac yna, Dafydd Roberts, ‘Dafydd Tir-du’fel y byddwn yn ei adnabod. Nid ydychbyth yn siŵr ai yw Dafydd yn tynnu eichcoes ai peidio! Un peth sy’n sicr, fedrwchchi ddim treulio deg munud yn ei gwmniheb gael eich cyfoethogi, na hebchwerthin! Pobl ardderchog yw’r rhain, unac oll.RhagflaenwyrOs wyf wedi cyflawni unrhyw beth felYsgrifennydd Cyffredinol, rwy’n draymwybodol mai oherwydd fy mod wedicael sefyll ar ysgwyddau pobl eraill y maehynny. Mae dau o’m rhagflaenwyr, a’ugwragedd, wedi bod yn arbennig o garedigâ mi mewn nifer o wahanol ffyrdd. Rwy’ncredu mai camp Derwyn Morris Jones aDewi Myrddin Hughes, fel ei gilydd, oeddeu bod wedi sefydlogi’r Undeb mewncyfnod o gefnu mawr, cyfnod o drai, acwedi gwneud hynny i’r fath raddau bodrhywun fel fi wedi gallu dod wedyn adefnyddio’r llwyfan yr oeddent hwy wediei osod i arbrofi gyda rhai pethau newydd.Am hynny, ac am eu gwaith dygn mewncyfnod anodd, rwy’n diolch iddynt, ac yndiolch am bob cymorth, cyngor achefnogaeth y bu i mi eu derbyn ganddynttra wrth fy ngwaith.CaredigionWrth gwrs, mae eraill sydd wedi bod yngymwynaswyr mawr â’r Undeb yn ystod fynghyfnod i, ac yr wyf eisoes wedi cyfeirioar rai ohonynt wrth son am weithgarwch yflwyddyn. Ond mae eraill hefyd. Erenghraifft, mae dyled yr Undeb hwn, aminnau, yn aruthrol fawr i’r cyfreithiwr,David Jones, sydd wedi rhoi blynyddoeddo wasanaeth a chyngor i ni. Yna, maeWayne Hawkins, Ysgrifennydd CenhadolCWM Ewrop. Yn ein holl ymwneud agCWM, ym mhob trafodaeth, gyda phobcais grant yr wyf wedi ei baratoi, maeWayne wedi bod yn gyfaill cywir, yn unhawdd troi ato ac yn un parod eigymwynas. Rwy’n hynod ddiolchgar i’rddau hyn am bob cymwynas ac am euhaelioni ysbryd a’u cyfeillgarwch, a da ywcael cydnabod fy nyled iddynt yma heddiw.
Maddeuwch i mi, ond mae tri arall ymae’n rhaid i mi eu henwi, ond nid mewnunrhyw drefn arbennig! Y gyntaf ywEurwen Richards, yr ail yw Gwylfa Evansa’r drydedd yw Margaret Davies,Caerdydd. Yr hyn y mae’r cyfeillion hynwedi ei wneud yw nid yn unigcynrychioli’r Undeb yn gyson mewnamrywiol gyfarfodydd, ond hefyd arbedcryn dipyn arnaf fi’n bersonol a chaniatáu imi roi sylw i bethau eraill. Diolch diffuantiddynt. Yr wyf wedi bod, ac yn parhau ifod, yn ddyledus iawn i’r tri.Staff yr UndebGadewch i mi yn awr ddweud rhywbethwrthych am staff yr Undeb. Mae’n anoddcyfleu beth mae’r tîm hwn o bobl wedi eiwneud a’i gyflawni yn ystod y flwyddynsydd wedi mynd heibio. Roedd gen ifeddwl mawr ohonynt y llynedd ynRhydaman, ond erbyn hyn maef’edmygedd ohonynt, a’m dyled iddynt, ynanfesuradwy. Dyma’r bobl nad yw’r ungymwynas yn ormod iddynt, y bobl sy’nfodlon mynd gyda chwi’r ail a’r drydeddfilltir. Dyma’r rhai sy’n fodlon gweithio’nhwyr yn ddirwgnach er mwyn cwblhautasgau, a dyma’r bobl sy’n cynnalbreichiau ei gilydd trwy rannu
UNDEB YR ANNIBYNWYRCYMRAEG
Cyfrolau DathluDaucanmlwyddiantGlaniad Cenhadon
Madagascar1818-2018
David Griffiths, Gwynfe, oedd uno’r cenhadon aeth allan i
Fadagascar ac ef oedd yn bennafgyfrifol am gyfieithu’r Beibl i’rFalagaseg. Ysgrifennodd Hanes
Madagascar yn Gymraeg, ond elenicyfieithwyd y gwaith i Saesneg a
Malagaseg.
Pris y cyfrolau: £10 yr un
I’w cael naill ai o Dy John Penri (01792-795888)
neu gan Swyddogion Adnoddau yr Undeb,
Casi Jones (yn y gogledd) a Robin Samuel (yn y de).
Capel Pant-tegYn dilyn dadgorffori’r achos, mae
aelodau Pant-teg yn awyddus igynorthwyo eglwysi eraill
a fyddai’n falch o ddefnyddio’rdodrefn ac ati sydd yn yr adeiladau. Ni chodir tâl am yr eitemau hyn, ondgofynnir yn garedig am gyfraniadau i
Apêl Madagascar Undeb yrAnnibynwyr.
Os ydych yn chwilio am eitemaupenodol, neu os hoffech chi holi
ynghylch rhyw eitem a roddwyd i’rachos gan eich teulu yn y gorffennol,
cysylltwch â Fiona Gannon: 07966 192097
cyfrifoldebau, a chwerthin. Yn eu gofaldros waith yr Undeb, yn eu gofal drosof fi,yn eu hymroddiad i waith yr Efengyl a’rDeyrnas, ni chewch well! Mae pob unohonynt yn arbenigo yn ei faes, yngyfoethog mewn doniau ac yn gwblymroddedig o ran eu hysbryd. Yr unig bethddywedaf i yw hyn: gyfeillion, gofalwchamdanynt i’r dyfodol.
Awst 2 /9, 2018 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 11Y TYST
Rhaid mai capel Soar y Mynydd, fry ymmynydd-dir eang Elenydd rhwng Tregarona Llanwrtyd, yw’r mwyaf anghysbell arhamantus yng Nghymru. Codwyd y capelbach gwyngalchog mewn man cysgodol arlan afon Camddwr yn 1822, a hynny arysgogiad y Parchg Ebenezer Richard, tad yrAelod Seneddol enwog Henry Richard – yrApostol Heddwch. Rhoddwyd y tir gandeulu Nantllwyd, sy’n dal yn aelodau yno. Ymwelydd enwogMae’r oedfaon a gynhelir yno bob haf odan arweiniad pregethwyr gwadd yn denupererinion o bell ac agos. ’Nôl ym misMehefin 1986 cefais y fraint o gwrdd âJimmy Carter, cyn-arlywydd yr UnolDaleithiau, yn Soar. Gŵr bonheddig aChristion diymhongar, mor wahanol ymhobffordd i’r arlywydd presennol. Roedd ynaros gyda chyfaill yn Llanddewibrefi ac ynawyddus i gael blas go iawn o Gymru:pysgota gyda Moc Morgan, mwynhauNoson Lawen, ymweld â Soar y Mynydd ahyd yn oed troi ei law at gneifio dafad arfferm yng Nghwrtycadno! Wrth i ni sefyllar argae uchel Llyn Brianne yn syllu ardraws y gronfa anferth sy’n disychedi SirGâr ac Abertawe gofynnodd i mi os oedd ydŵr yn mynd i Loegr. Roedd yn amlwg âdiddordeb yn hanes Tryweryn, gan iddo
arwain ymgyrch lwyddiannus i rwystrocynllun i godi argae ar draws yr afon Flintyn Georgia, a fyddai wedi boddi tiroedd yllwythi brodorol. Afonydd yn sychuDaeth hyn i gyd ’nôl i’m cof wrth deithio arhyd y ffordd droellog, hir o Randirmwyn arhyd ymylon Llyn Brianne i Soar yngynharach y mis yma. Aeth hanner cantohonom o Ofalaeth Bröydd Myrddin arbererindod i’r capel bach, a’r tywydd – feloedd hi pan fu Carter yno – yn fendigedig.Wrth groesi’r bont dros afon Tywiuwchlaw’r gronfa, synnwyd bod yr afonbron yn sych. Wrth fwynhau’r heulwen a’rgolygfeydd trawiadol, roedd pawb yngwerthfawrogi’r air-con yn y bws – a gyrrugofalus Arwel ar hyd y ffyrdd cul uwchlawsawl dibyn serth.
Pregeth fendithiolRhyngom ni, y ffyddloniaid, ac un neuddau arall, roedd y capel bach yn gysuruslawn. Ein gweinidog, y Parchg Emyr GwynEvans, oedd yn arwain yr oedfa. Arferaieglwysi’r Parchg Emyr Lyn Evans, syddbellach yn rhan o’r ofalaeth newydd, fyndyno gyda’u gweinidog ar y Sul penodolhwn yn y gorffennol. Roedd y canu’n codi’rto, a chafwyd pregeth rymus gan EmyrGwyn ar y geiriau Gras, Cariad aChymdeithas o’r fendith sydd morgyfarwydd i ni gyd. Gydag awel dyner ybryniau yn chwythu trwy’r drysau agored,a’r gwenoliaid yn hedfan ’nôl ac ymlaeno’u nythod dan y bondo, pa le gwell iglywed neges Iesu, oedd ei hun yn arfercilio i’r mynydd i fod yn nes at ei Dad?
DiolchDoedd neb ar frys i fynd o Soar ar bnawnmor hyfryd, ond roedd swper yn disgwyl ypererinion yn nhafarn y Cottage gerLlandeilo. Diolch yn fawr i bawb amwneud y trefniadau, i bobol Soar am ycroeso, ac i’r Parchg Emyr Gwyn Evans amwasanaeth hyfryd fydd yn aros yn y cof amamser hir.
Alun Lenny
Beryl Morgan ar ddydd ei phen-blwydd
Cyrraedd y CantDechrau mis Gorffennaf, dathlodd MissBeryl Morgan, gynt o Bassett Terrace aColdstream Street, aelod hynaf Libanus,Pwll, ei phen-blwydd yn gant oed. BuBeryl yn aelod ffyddlon a gweithgar ynLibanus pan oedd hi’n iau.Llongyfarchwn hi’n wresog a dymunwnyn dda iddi i’r dyfodol.
BEIBL MALAGASEGMrs Glenys Morgan, Jerwsalem, Gwynfe, wediiddi dderbyn copi o’r Beibl mewn Malagaseg ynystod Oedfa Ddathlu Daucanmlwyddiant Glaniady Cenhadon Cyntaf ym Madagascar yn yTabernacl, Aberaeron ar ddydd Sadwrn, 9Mehefin
O fewn clawr y Beibl, gwelir y geiriau,Cyflwynir y Beibl hwn i eglwys Jerwsalem,Gwynfe, gan Undeb yr Annibynwyr Cymraegar achlysur dathlu daucanmlwyddiant glaniady cenhadon o Gymru ym Madagascar ar 18Awst 1818, ac i nodi cyfraniadau ThomasBevan, David Jones, David Johns ac, ynarbennig, David Griffiths i’r dasg enfawr ogyfieithu’r Beibl i’r Falagaseg, a chyflwyno’rEfengyl i bobl Madagascar. Trwy euhymdrechion hwy y sefydlwyd dolen rhwngein dwy genedl a fydd yn parhau am byth.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. (2 Thesaloniaid 3:18)
Aberaeron, 9 Mehefin 2018
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 12 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Awst 2 /9, 2018Y TYST Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]
GolygyddAlun Lenny
Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Cysylltiad gyda dau o genhadon MadagascarTra roedd aelodau capel y Tabernacl,Hendy-gwyn yn paratoi oedfa ar y thema‘Cenhadon’ yn ddiweddar, fe ddaeth i’ramlwg fod dwy ohonynt a chysylltiad gydadau o’r cenhadon. Dyma nhw i egluromwy.Janet DucrocqGwraig o Pwll ger Llanelli oedd JanetDucrocq. Fe wnaeth basio yr arholiad ifynd i ysgol ramadeg Llanelli ond d’oeddyna ddim lle yn yr ysgol. Oherwydd hyn fewnaeth hi a nifer o ferched eraill cael eisymud i ysgol ramadeg Hendy-gwyn, SirGaerfyrddin. Fe ddaeth Janet i aros gyda nifel teulu yn Rhydycwrt, Hendy-gwyn.Roeddwn i yn 6 mlwydd oed a Janet yn 11.Ei henw yr adeg hynny oedd JanetRowlands. Ar ôl bod gyda ni tua 4mlynedd fe symudodd i fyw gydag un arallo aelodau’r Tabernacl sef fy modrybCynthia Evans a’i gŵr Jimmy. Ar yr adeghynny rodden nhw yn byw yn BeckenhamHouse, Hendy-gwyn.Galwad i’r genhadaethAr ôl gadael ysgol ramadeg Hendy-gwynac ar ôl bod yng Ngholeg Bryste ac ynSelly Oak, Birmingham fe benderfynoddJanet ei bod eisiau bod yn genhades a’i bodam fynd i Fadagascar. Cynhaliwydgwasanaeth neilltuo yng nghapel LibanusPwll ger Llanelli cyn iddi fynd iFadagascar. Tra’r oedd ym Madagascar fewnaeth Janet gwrdd â Ffrancwr ifanc o’renw Julian Ducrocq ac fe wnaethant briodiym Madagascar. Ar ôl cyfnod yn Lebanonfe wnaethant fynd i fyw yn Ffrainc lleganwyd eu merch Catherine. Bu farw Janetyn sydyn ar ddechrau Rhagfyr 2005 ac fe’icladdwyd yn Ffrainc. Dyna ychydig ohanes diddorol Janet Ducrocq a’r cysylltiadgyda minnau a gyda’r Hendy-gwyn.
Elizabeth White
Eleni, fel maedarllenwyr y Tystyn gwybod, maeUndeb yrAnnibynwyrCymraeg yn dathlu200 mlynedd ersi’r cenhadoncyntaf fynd oGymru iFadagascar. Yndigwydd bod,roedd un ohonynt,sef David Griffiths,yn hen hen henhen ewythr i DianeEvans ar ochr eithad. Mae gwraig arall o’r Hendy-gwynyn perthyn i David Griffiths hefyd sefRuby Jones. Yn ogystal, trwy gyd-ddigwyddiad, mae Diane yn byw ynBeckenham House, Hendy-gwyn, lle bu’rgenhades Janet Ducroucq yn byw am raiblynyddoedd.David GriffithsCafodd David Griffiths, ei eni ar 20Rhagfyr, 1792 yng Ngwynfe sydd rhwngLlangadog a Brynaman ar waelod yMynydd Du. Penderfynodd ef yn ifanc eifod eisiau mynd i Fadagascar fel cenhadwr.Aeth i Academi Neuadd-lwyd gerAberaeron, i Wrecsam ac i Gosport. Yna feordeiniwyd ef yng nghapel AnnibynnolGwynfe ar 27 Gorffennaf, 1820 i fynd iFadagascar fel cenhadwr. Dechreuodd efa’i wraig Mary ar y daith i Fadagascar ar21 Ionawr, 1921. Roedd y daith yn para 3mis ac fe wnaethant gyrraedd ar ddiweddmis Ebrill.Mynd i FadagascarAm yr ugain mlynedd nesaf fe wnaeth
daflu ei hunan mewn i’rgwaith o fod yn genhadwryn Madagascar. Un o’rpethau a wnaeth oeddcyfieithu’r Beibl i iaithMadagascar am y trocyntaf. Fe gafodd DavidGriffiths a’i wraig 8 oblant. Fe wnaeth un o’iferched briodi GriffithJohn, y Cenhadwr a aeth iChina. Ar ôl ugainmlynedd fe wnaeth yrawdurdodau ynMadagascar droi yn erbynCristnogion a bu rhaid iDavid Griffiths ddod yn ôl
i Gymru. Ond er ei fod yn ôl yng Nghymruroedd ei galon o hyd yn Madagascar. Feysgrifennoddy llyfr cyntaferioed arhanesMadagascar.Mae’r llyfrnewydd gaelei ail-gyhoeddi iddathlu 200mlynedd ersi’r Cenhadonfynd iMadagascar.Bu farw DavidGriffths yn Machynlleth ar 21 Mawrth,1883 yn 71 mlwydd oed. Rhoddwydllechen ar wal Capel y Graig Machynlleth igofio amdano a bellach mae’r llechenhonno yng nghapel Neuadd-lwyd,Ceredigion. Dyna hanes y cenhadwr DavidGriffiths, fy hen hen hen hen ewythr.
Diane Evans
Beddfaen David Griffithsa symudwyd o’r Graig,
Machynlleth iNeuaddlwyd eleni
Diane Evans a Elizabeth White
Oedfa Cenhadon