nadolig llawen a 2017 hapus inad- - mentercaerffili.cymru · penderfynodd pawb ysgrifennu stori...
TRANSCRIPT
Rhifyn 188 Pris 80c Mis Rhagfyr 2016
Papur Sir Caerffili: Cwm Aber, Ebwy, Rhymni a Sirhywi
Nadolig Llawen a 2017 Hapus INad-
PWYLLGOR A SWYDDOGION
Cadeirydd: Robert Dutt Ymgynghorydd: Ann Lewis
Trysorydd: Eyron Thomas [email protected]
Golygydd: Ben Jones [email protected] 02920 862428 07891916046
Ysgrifennydd: Marian Fairclough [email protected] 02920 885151
Ysgrifennydd Cofnodion: Ann Lewis Golygydd Lluniau: Mary Jones
Cynorthwy-ydd: Jan Penney Digwyddiadur: Lowri Jones [email protected]
Ieuenctid: Morgan Roberts, Swyddog Prosiect Llais, a Bethan Jones Menter Caerffili
Pwyllgor: Eirlys Thomas, Dafydd Islwyn, Gareth W.Willliams, a Dilys Williams
e-bost: [email protected] Gweplyfr/ Facebook: Papur Bro Cwmni
Gwefan: menter caerffili.cymru/
Croesawir erthyglau gan unrhyw un ond iddynt gyrraedd desg y Golygydd cyn
20fed diwrnod y mis cyn cyhoeddi.
Cedwir yr hawl i gwtogi neu newid erthyglau neu luniau yn unol â gofynion
golygyddol.
Argraffir gan Tower Print, Uned 12a, Ystâd Ddiwydiannol Tŷ Bedwas , Caerffili, CF83 8DW
Ariennir yn
rhannnol gan
Lywodraeth
Cymru
Oedfaon Capeli Cymraeg Caerffili
Tonyfelin Mis Rhagfyr : Bydd Y Parch Milton Jenkins gyda ni trwy gydol y mis
18fed o Ragfyr Oedfa deulu Nadolig yn y bore, Carol a Channwyll gyda’r hwyr
Dydd Nadolig Oedfa ddwyieithog yn y bore yn unig ( 9.30 )
1af o Ionawr : bore yn unig, Y Parch Milton Jenkins
8fed o Ionawr : bore a hwyr : Y Parch Milton Jenkins
15fed o Ionawr bore : Y Parch Arfon Jones Hwyr : Y Parch Milton Jenkins
22ain a’r 29ain o Ionawr i’w trefnu
Bethel 4ydd o Ragfyr. 10.30. Y Parchedig. Robin Samuel
11eg o Ragfyr 10.30. Gwananaeth y Plant.
18fed o Ragfyr 10.30 Beirdd y Nadolig.
6.00 Canwyll a Charol yn Nhonyfelin
25ain o Ragfyr . 9.30 Gwasanaeth byr i ddathlu'r Nadolig.
1af o Ionawr. 10.30 a 5.00. Yn Nhonyfelin
8fed o Ionawr. 10.30 Dr. John Gwynfor Jones
15fed o Ionawr. 10.30 a 5.00. Yn Nhonyfelin
22ain o Ionawr. 10.30. William Owen Jones
29ain o Ionawr. I'w gadarnhau
Aber-fan Fe fu plant Blwyddyn 6 yn llunio
cerddi i gofio am drychineb Aber-
fan. Fel sbardun gwyliodd y plant
Cantata Memoriwm.
Aber-fan a’i Angau
Trychineb Aber-fan gan Eleri Bwyta brecwast blasus,
Gwisgo gwisg ysgol yn gyflym,
Cusan a chwtsh olaf i rai,
Cerdded yn ling di long i’r ysgol.
Glaw swnllyd yn pitran patran,
Glaw yn pistyllu o’r awyr lwyd,
Y glaw yn taro pennau’r tai.
Cofrestr olaf “yma”,
Plant ac athrawon yn canu’n swynol,
Gwasanaeth olaf i rai
Gwastraff glo yn cwympo.
Gwastraff glo yn llithro’n gyflym,
Mynydd mud yn sefyll yn stond,
Tswmami o donnau du fel panther
du yn neidio.
Dim plentyn, a sŵn tristwch yn
gwasgaru
Dros y pentref,
Bron bob teulu yn crio ,
Perygl i ddod……
Pobl tân yn dod i safio’r plant
Glowyr yn palu am blant
Chwiban yn chwythu am dawelwch
Teuluoedd yn helpu
Plant ac athrawon wedi marw.
Angen codi Brwsio gwallt a dannedd
radio arno
Bath grêt, pacio cusan.
Mas gwlyb glaw glas
Pitran patran
Pitran patran
Bwrw hen wragedd a ffyn.
Cloch yn canu “bright
and beautiful” Harddcoch.
Cath fawr flin
Yn gorwedd “ofn”!
Sgrechian twrw,twrw,
Plannu’r plant.
Sioc ! Crio’n lledu. Plant,plant, plant. Help!
Sgrechian.
Distawrwydd . Aberfan yn Stopio!
Dim.
Chwilio ! Help ! Bwced.
Rhowch raw!
Dewch distawrwydd.
Sgrechian hapusrwydd.
Tristwch.
Angau Aberfan.
gan Maya
Ymweliad plant Blwyddyn 1 â Dan yr ogof
Es i Dan yr Ogof .
Gwisgais fel Strempan.
Gwisgais ddillad coch.
Gwelais i ddŵr ych a fi.
Clywais i
bang enfawr. Cerddais i
fyny'r ogof dywyll.
Es i Dan yr Ogof . Gwelais i
esgyrn aur hyfryd. Clywais i
Genau Cnoi yn chwyrnu.
Gwelais i ffrog ddu a het
sgleiniog.
gan Mali
Mae plant bach y dosbarth
meithrin wrth eu boddau gyda’r
crwban sydd ganddynt yn y
dosbarth ar hyn o bryd. Dyma
luniau Cadi a Medi- Rose o’r
crwban.
Mae yna ddeg gwahaniaeth rhwng y ddau lun yma.
Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw?
Posau’r Plant
Allwch chi ddod o hyd i 12
gair sy’n mynd o flaen
NADOLIG fel mae Coeden?
Sgwad Sgwennu Menter Caerffili
Cwrddodd y sgwad yng Nghastell Caerffili ar Nos Iau, Tachwedd y 3ydd ar gyfer noson o
ysgrifennu arswyd gyda’r bardd Aneirin
Karadog. I ddechrau’r sesiwn bu’r criw yn
ysgrifennu disgrifiadau’r synhwyrau; teimlo,
blasu, clywed, arogli a gweld; Blasu'r Ofn
(Logan) Arogli'r oerfel yn yr aer (Marus) Gweld
trychinebau’r dyfodol (Ifan).
Yna aeth y criw am dro o amgylch y castell er
mwyn deffro eu synhwyrau cyn dychwelyd i’r
castell i greu eu straeon. Roeddynt yn griw
dewr iawn a gwnaethant arsylwi ar gysgodion yn
y tywyllwch, synau’r gwyddau, arogl y tân gwyllt
a’r tywyllwch llwyr mewn rhai o’r ystafelloedd.
Penderfynodd pawb ysgrifennu stori arswyd. Dyma flas o’u gwaith;
Logan - “Galwodd Jeff ar ôl Bob, ond roedd o wedi cerdded yn barod i mewn i’r ystafell ddu
anghroesawgar. Galwodd Jeff amdano eto, ond doedd Bob ddim yno.”
Ifan - “Tywyllwch y nos yn oerfel mis Tachwedd, llwybreiddiodd y milwr unig rownd castell
ei frenin. Tywyllwch fel seler tŷ. Clywodd
yr awel ysgafn yn hedfan heibio’i glust.”
Morus - “Deffrodd Simon mewn ystafell
wag a thawel. Gallai weld dim ond waliau
llwyd diflas a chraciau tenau yn y wal oedd
yn gadael stribed bach o olau i mewn.
Cododd a gwelodd y nenfwd a’r tywyllwch
yn cau i mewn arno.”
Dwi’n sicr byddwn yn gweld mwy o waith y
tri uchod yn y dyfodol.
Pleser mawr yw cyhoeddi genedigaeth Noah William Ellis, mab i Catrin Griffiths a Rory
Ellis. Mae Catrin, wrth gwrs, yn gyn-ddisgybl Ysgol
Gymraeg Caerffili ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Wedi
cyfnod mamolaeth bydd Catrin yn cwblhau ei gradd ac yn
hyfforddi yn athrawes ysgol gynradd. Mae’r teulu ifanc yn
byw yn Rhŵs ar hyn o bryd a gwerthu ceir i Wessex,
Caerdydd yw gwaith Rory. Mae dyddiad eu priodas wedi’i
drefnu ar gyfer Gorffennaf yr 8fed yng Ngwesty St Mellons,
Caerdydd. A prin fod eisiau dweud fod nain a taid, Karen a
Hywel Griffiths, Machen, uwchben eu digon.
Y Dudalen Deuluol
Yn ein rhifyn diwethaf aeth enw un baban fach hardd ar goll. Anni Gwen oedd hi,a ganed
hi ar Fedi’r 27ain, yn chwaer fach i Alys Mai. Plant Aled a Lisa Huws, Rhiwbeina ydyn
nhw ac yn wyresi i Mrs Rhian Huws, Ffwrnes Blwm.
Gyda thristwch mawr yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth Thomas Parry
Head ar 26ain o Hydref 2016. Byddwch yn cofio Tom fel darllenwr a
chefnogwr brwd y papur Cwmni, ac aeth â’r papur o ddrws i ddrws am
nifer o flynyddoedd. Roedd Tom yn angerddol dros yr iaith Gymraeg, a
gyda chymorth ei wraig Vicky, gwnaeth ymgyrchu'n ddiflino ar gyfer ei
hyrwyddo a chynnal ei defnydd parhaol yn yr ardal leol. Deisebodd yn
ddi-baid gydag eraill am ddarpariaeth addysg gyfrwng Gymraeg yn y
fwrdeistref, ac roedd yn llwyddiannus gydag agor Ysgol Gymraeg
Caerffili, yn wreiddiol yn Senghennydd. Roedd yn hynod o falch bod ei
ddau fab wedi mynychu’r ysgol hon, cyn dod yn ddisgyblion Ysgol
Gyfun Rhydfelen. Parhaodd ei bedwar ŵyr ar lwybr addysg cyfrwng
Cymraeg trwy fynychu ysgolion cynradd Gymraeg lleol ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Roedd Tom yn hynod o falch o lwyddiannau ei blant, Ceri a Gareth, a’i wyrion, sy'n parhau
i ddefnyddio'r iaith Gymraeg hyd heddiw. Mae ei ŵyr hynaf Joshua wedi cymhwyso'n
ddiweddar fel athro ysgol uwchradd, ac mae ei ail ŵyr Ryan yn ei drydedd flwyddyn yn y
brifysgol, yn astudio Animeiddio. Mae ei ddwy wyres Lowri a Ffion â diddordeb yn y
cyfryngau; cwblhaodd Lowri ei Lefel A yn ddiweddar, ac mae Ffion wedi dechrau astudio
mewn coleg.
Ei gymynrodd i addysg gyfrwng Gymraeg ffyniannus fyddai defnydd parhaus o'r iaith er
mwyn ei chadw’n fyw.
Diolchwn i Josh Head, ŵyr Tom, am y deyrnged hyfryd hon i’w dad-cu.
Ein tristwch yw nodi marwolaeth y cyfaill Graham Lewis, gŵr Ann a thad Angharad. Bydd
gweddillion Graham yn dychwelyd i ardal Llanboidy, ardal ei fagwraeth. Magwyd Graham
yno gan un o’i bum chwaer wedi i’w fam farw pan oedd e ond yn chwe mlwydd oed. Yn
fyfyriwr yng ngholeg Abertawe, Prifysgol Cymru, graddiodd mewn Ffiseg cyn ennill
Tystysgrif Addysg i Raddedigion yno.
Daeth i Gaerffili yn athro i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Ysgol Gyfun Sant Martin yn dilyn
ad-drefnu addysg uwchradd ddechrau’r saithdegau. Yno cyfarfu ag Ann, yr athrawes
Gymraeg, a phriododd y ddau..
Dymunwn bob bendith i Ann ac Angharad.
am roi blas Affrica i chi gyda phrydau o cwdw ac
estrys lleol. Rhaid i mi gyfaddef roeddwn i'n
chwilio am fwy na dim ond cael blas o fwyd y
wlad. Wedi gloddesta ar y noson gyntaf roedd
Rex, gwarcheidiwr y nos yn ein hebrwng i'n
bythynod. Pam ein hebrwng? - clywaf chi'n
gofyn. Wel rhag ofn i un o anifeiliad y nos ddod i
chwilio amdanom ar gyfer ei swper. O, medde fi.
Roedd llewpard yn aml yn galw heibio a 'honey
badger' sy'n fil gwaith mileiniach nag unrhyw
lew. Roeddwn i'n hapus iawn i gael fy hebrwng.
I ddelio â phethau hinsoddol a
daearyddol (gan fy mod i'n ystyried fy hun
bellach yn awdurdod ar faterion Africanyddol),
am hanner y flwyddyn, eu gaeaf nhw, mae'r
bushveld yn sych fel sach ac nid oes glaw tan
ddyfodiad glaw tarannau yn eu haf nhw, a dyna
i chi be' ydy glaw pan ddaw. Mae hwnnw'n
dechrau tua'r adeg roedden ni'n cyrraedd. Roedd
peth glaw wedi bod, a dail wedi dod i rai o'r coed
ond i bob pwrpas, digon llwm oedd y wlad, 'drain
ac ysgall mall a’i medd'.
Fasaech chi ddim yn
galw'r wlad yn bert o
bell ffordd. Mae'r
tirwedd yn eithaf
undonog a gwastad
hefyd a'r lonydd yn
mynd yn syth fel saeth
i'r pellterau i droed
mynyddoedd
Drakensberg. Mae un
fantais o ddod ar
ddiwedd cyfnod y
sychder; dydy'r
nadroedd a'r sgorpions
ddim wedi dadebru eto.
Rhaid oedd codi am 4.50
y bore wedyn i fynd ar y
saffari cyntaf. Roedd
Rex yn curo ar y drws. Roedd rheino i'w gweld
wedi'r coffi a'r croissants boreol. Roedd y cerbyd
gyda Togara wrth y llyw yn ein haros a'i bartner
Crest yn eistedd wrth ei ochr ac o fewn dim o dro
wedi'r wawr roedden ni'n hyrddio ar hyd y bush.
Fy Mlog o Dde Affrica (rhan 1)
gan Gareth Williams
Togara ein hyrddiwr medrus
Jest i mi ddweud ar y dechrau nad ydw i'r
saffariwr mwyaf pybyr a fu erioed. Pan
ysgrifennodd R. Williams Parry -
'Benrhynion môr ac awyr nid i mi', rwy'n
dueddol o gydfynd ag ef, fel un a 'gâr ei
gymdogol goed'. Ond daeth y cyfle i fynd,
ac mi es.
Roedd hi'n glamp o siwrnai o
Heathrow i Cape Town. Penderfynais (gan
ei bod hi'n rhatach) fynd ar Ethiopian
Airways oedd yn golygu newid awyren yn
Addis Ababa wedi saith awr cyn hedfan
am chwech awr a hanner arall i gyrraedd
Cape Town. Cyfle i weld Ethiopia,
meddyliais i, ond roedd hi'n dywyll pan
gyraheddon ni a welon ni fawr mwy na
chaffis a siopau'r maes awyr. Cofiwch chi
mae menywod y wlad yn rhai hynod
hardd. Gallwn daeru bod Naomi Cambell
ei hun yn gweini coffi i mi. Yn ôl y wraig,
doedd y dynion ddim yn rhy ffôl chwaith.
Os ewch chi yno rywbryd, cofiwch bod y
ddinas bron i wyth mil o droedfeddi
uwchlaw lefel y môr a gall anadlu fod yn
sialens i un nad yw ei fegin yn gwethio'n
rhy effeithiol. Mae cyfundrefnau eu maes
awyr braidd yn amrwd hefyd. Wedi aros
noson yn Cape Town roedden ni yn yr
awyr eto am rhyw dair awr arall i deithio i
dref o'r enw Hoedspruit, i'r gogledd o
Johannesburg, yn ardal Parc Kruger, yn
rêl glôbtrotars! Roedd yn fodd i mi
sylweddoli pa mor fawr yw De Affrica. Gall
Cymru ffitio 57 gwaith i mewn iddi.
Wedi cyrraedd hebryngwyd ni i'n
swigen ddiogelwch ym moethusrwydd y
'lodge' oedd rhyw hanner awr o'r maes
awyr ar hyd is-lonydd o bridd, ac fe'n
cwrddwyd gan fenyw yn cynnig llieiniau i
ni sychu'r chwys o'n talcenni, ddim bod
angen gan nad oedd hi'n rhyw arbennig o
gynnes yn y bushveld y diwrnod hwnnw.
Roedd ein caban yn embaras o foethus,
gyda gwely mor fawr y gallwn i weld
gorwel iddo a bath o safon olympaidd.
Roedd y signal wi-fi yn glir fel cloch hefyd.
Pa anialdir anghysbell?!
Mae pobol De Affrica am eich
bwydo yn aml, yn gyson ac yn helaeth sy
ddim yn help i'r bogel. Maen nhw hefyd
Welson ni affliw o ddim am awr gyfan gyda'r cerbyd yn oedi
ar brydiau i ddadansoddi tipyn o dail eliffant. Roeddwn i'n
dechrau sylweddoli nad ydy bywyd gwyllt Affrica mor
amlwg a hynny a rhaid mynd i chwilio amdano, ond am
chwech o'r gloch yn y bore? Ond pan welwch
chi rheino neu giraff yn sydyn yn ymlwybro o'ch blaen yn
oerfel y bore yn hollol ddisymwth, mae o'n dipyn o waw
ffactor. Gadewais i Pat y wraig ymgymryd â'r saffaris boreol
ar ôl hyn. Mae natur llawer mwy anturus ganddi. Byddwn
i'n cyfyngu fy hun at y rhai mwy sidêt yn y prynhawn gyda
gin a thonic mewn rhyw lecyn addas.
Ond bydd dwy olygfa yn aros yn y cof. Y gyntaf oedd
gwylio llewes yn llusgo corff wildebeest at ei chenawon
nemor ddecllath oddi wrthym yn nerfus yn y cerbyd.
Gorchmynwyd i ni beidio a chodi i dynnu llun ac aros ar ein
heistedd. Roedd sefyll yn fygythiad iddynt a byddent yn
ymosod. Doedd dim rhaid dweud ddwywaith. Yr ail, a hyd yn
oed yn fwy trawiadol oedd carfan o eliffantod a glywid o
bellter anweledig yn tarannu trwy'r coed a'r canghennau a
choed cyfan yn torri wrth iddynt ddynesu. Yn sydyn roedden
nhw yno; rhyw ugain mewn un rhes ufudd y tu ôl i'r fam
oedd yn arwain ei thylwyth. Arhosent ambell waith i larpio a
bwyta'r rhisgl oddi ar y coed sychion cyn symud ymlaen.
Arhosodd un, braidd yn rhy hir, i rythu arnom. Chwythodd
wynt o'i thrwnc cyn penderfynu nad oeddem yn werth ein
bygwth a symud ymlaen. Waw!
Wrth adael Vuiami Lodge wedi'n pum niwrnod o
loddesta y cwestiwn yn fy mhen i oedd, pa mor wyllt oedd y
profiad? Wedi'r cwbwl, doedd y wildebeest, yr impala a'r
llewod yn eu dilyn ddim y crwydro'n rhydd dros anialdiroedd
Affrica, roedd clawdd a'i wifren drydan yn eu cadw nhw yn
ddiogel y tu mewn i'r 'reserve' er diddanwch i ni ymwelwyr.
Roedden ni'n symud ymlaen i Cape Town lle roedd waliau a
gwifrau trydan yn cadw pobol allan. Roedd un ffaith
anghyfforddus arall yn fy mhoeni; roedd y gweision i gyd yn
dduon a'r gweinyddwyr i gyd yn wyn. Pa newid De Affrica?
Agorodd y ffurfafen a disgynodd y glaw yn llen.
Dyma fy hoff lun o’r
daith gyfan
Canlyniadau Eisteddfod y Cymoedd 2016
Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
Unawd Bl 2-4 Jessica Williams Lena Davies Isabella Hopper
Unawd Bl 5-6 Celyn Rees Seren Williams Mali Davies
Llefaru Bl 2-4 Lena Davies Menna Carrol
Llefaru Bl 5-6 Awen Davies Seren Williams Ffion Roberts
Unawd offerynnol Blwyddyn 6 ac iau Siriol Alun Elliott Bell Seren Williams
Dawnsio Unigol Bl 6 ac Iau Morus Jones Awen Davies Liliana Davey
Perfformiad mwyaf addawol cynradd Celyn Rees am yr unawd Bl 5-6
Cyflwyniad cerddorol / theatrig Ysgol Ifor Bach
Cor Bl 6 ac Iau Ysgol Llwyn Celyn Ysgol Ifor Bach Ysgol Gartholwg
Dawnsio Grwp Bl 6 ac iau Ysgol Ynyswen
Unawd Bl 7-9 Nansi Rhys Adams Dafydd Veck Gethin Bennett
Unawd Bl 10-13 Morgan James Megan Sass Nel Lewis
Llefaru unigol oedran uwchradd Nansi Rhys Adams Efa Prydderch Iestyn Jones
Dawnsio unigol uwchradd Daniel Jones Osian Gruffydd Iestyn Jones
Unawd offerynnol uwchradd Heledd Gwynant Aisha Palmer Osian Gruffydd
Perfformiad mwyaf addawol
uwchradd
Heledd Gwynant am yr unawd offerynnol uwchradd
Unawd lleisiol agored Rhodri Trefor
Unawd offerynnol agored Heledd Gwynant
Unawd canu emyn Rhys Griffiths Aled John Lynwen John / Denzil
John
Unawd sioe gerdd agored Nansi Adams Rhys Griffiths / Ie-
styn Jones
Esme Cheadle
Llefaru unigol agored Glesni Euros
Grŵp llefaru agored Lleisiau Rhymni
Llenyddiaeth cynradd Luke Moverley Englyn Martin Huws
Llenyddiaeth uwchradd Erin Aled Cyfres o Luniau Lynda Ganatsiou
Limerig Denzil John Hunlun y Cwm Mali Crimmings
Cerdd John Emyr Llinell goll Ben Jones
Parti / côr gwerin agored Parti'r Efail Côr Godre'r Garth
Côr Agored Côr y Gleision Côr Godre'r Garth Côr Cwm Ni /
Bechgyn Bro Taf
Diolch i Mair Gwynant, Trysorydd yr Eisteddfod am gyflwyno’r wybodaeth hon.
Tra bo haul bach mis Tachwedd yn rhoi’r byd dros dro i’r bedd, rhoi’r dail dan garthen denau,
rhoi bendith gwlith ar eu gwlau, cyn i’r gwynt a’i helyntion
fwrw’i waedd hyd y fro hon, nes rheibio-rhwygo’r brigyn
bach dycnaf, yr olaf un, yn wâr â’n diolchgarwch
down ni’n driw at ford yn drwch o chwaneg, ford sy’n gwegian
dan sŵn cerdd, sŵn dawns, sŵn cân.
Cywydd Diolch
ar noson trosglwyddo’r awenau
Cyflwynwyd y cywydd hwn, wedi’i fframio’n briodol, i’r Parchedig Ddoctor R.Alun Evans i ddiolch iddo am sefydlu Eisteddfod y Cymoedd am fod yn Gadeirydd ers
y cychwyn a nawr yn Llywydd Anrhydeddus yw Ŵyl . Cyflwynwyd y gerdd gan Aled John, Cadeirydd newydd Eisteddfod y Cymoedd.
Dod ar alwad R. Alun heb os y deuwn bob un,
Alun a fynnodd holi ein calon a’n herio ni, R. Alun, gŵr a welodd
mai’r awr i fyw mwy ryw fodd yw’r gaeaf, awr i gywain
cynhaeaf trwm ein cwm cain! Alun glên, capten ein cad,
y gŵr a’i arf o gariad, y dyn â dawn adennill y seiliau saff fesul sill, dawn y dyfal ofalus,
y rhai ŵyr werth grynhoi’r us.
Heno, wrth roi’r awenau a llyw’r ras yn llaw yr iau,
mae hwn yn gwestiwn i gyd, yn awydd am griw diwyd, a gwêl nawr, ein bugail ni,
ein hateb: ‘daliwn ati!’, rhown air at air, nes dod haf
ein diolch o’r mis duaf. Mererid Hopwood
Fis Hydref diwethaf gofynnwyd i fi gyfrannu eitem ar orymdaith newyn Jarrow at raglen
Sunday Supplement Radio Wales. Roedd hanes y dynion diwaith a gerddodd o Jarrow i
Lundain yn Hydref 1936 yn gyfarwydd i mi, ac roeddwn yn barod i'w gymharu gyda'r
Siartwyr a gerddodd o'r cymoedd i Gasnewydd yn Nhachwedd 1839 – y ddwy garfan yn
ymgyrchu dros gyfiawnder.
Ond wrth i fi ymchwilio ymhellach i'r hanes, sylweddolais fod
cysylltiadau agosach o lawer i'w canfod – cysylltiadau na wyddwn i
ddim amdanynt, er i fi gael fy magu yn y cymoedd, yn ferch ac yn
wyres i lowyr. Yng nghymoedd De Cymru dechreuodd yr ymgyrch yn
y 1920au, pan benderfynodd y diwaith gerdded at yr awdurdodau i
ofyn am gyfiawnder, ac i dynnu sylw at enbydrwydd eu dioddefaint.
Yr olaf o gyfres o orymdeithiau'r newynog oedd yr un o Jarrow.
Roedd dirwasgiad y 20au wedi arwain at ddiweithdra enbyd yn yr
ardaloedd glofaol, a bu methiant Streic Gyffredinol 1926 yn ergyd
arall i'w gobeithion. Ar ben hyn i gyd, daeth y newyddion bod y
llywodraeth yn bwriadu lleihau yr hyn o gymorthdal a roddid i'r
diwaith a'u teuluoedd. Yn Hydref 1927 daeth rhyw 10,000 o bobl at ei gilydd yn y Rhondda,
i glywed anerchiadau gan arweinwyr y glowyr. Penderfynwyd y dylai cynrychiolwyr o blith
y diwaith gerdded i Lundain gyda'r bwriad o gyrraedd adeg dechrau seisiwn newydd y
Senedd ar Dachwedd 8fed, a cheisio siarad gyda gweinidogion y llywodraeth. Y gobaith
oedd y byddai'r rhai oedd yn gwneud y gyfraith yn gwrando ar y rhai a effeithid ganddi.
Ar ddechrau mis Tachwedd, cerddodd 270 o'r diwaith, o'r Rhondda a rhai o'r cymoedd
eraill, bob cam o'u cartrefi i Lundain. Ni chawsant lawer o groeso ar eu taith – a methiant
fu eu dirprwyaeth yn Llundain. Mudiad Cenedlaethol y Diwaith oedd yn trefnu'r cyfan, ac
roedd gan y mudiad hwn gysylltiadau agos â'r Blaid Gomiwnyddol. Oherwydd hynny roedd
yr ymgyrch yn wrthun i'r pleidiau gwleidyddol eraill, gan gynnwys y Blaid Lafur.
Serch hynny, llwyddodd yr orymdaith i dynnu sylw'r cyhoedd at y sefyllfa ofnadwy yn yr
ardaloedd a effeithiwyd waethaf gan y dirwasgiad ac i ennyn mwy o gydymdeimlad tuag at
y diwaith a'u teuluoedd. Felly trefnwyd
gorymdeithiau eraill yn Ne Cymru, ond roedd y
rhain yn anelu at roi pwysau ar yr awdurdodau
lleol ac ar yr undebau i ystyried dioddefaint y
diwaith.
Ond digon oer oedd eu croeso. Cerddodd 112 o
bobl o'r cymoedd i Fryste ym Medi 1931, gyda'r
bwriad o annerch cynhadledd Cyngres yr
Undebau Llafur. Gwrthododd y Gyngres roi
gwrandawiad iddynt, ac ar ben hynny,
ymosodwyd arnynt gan heddlu ar gefn ceffylau.
Defnyddiodd yr heddlu bastynau i chwalu'r
gwrthdystwyr newynog.
Parhau i orymdeithio wnaeth y diwaith, er gwaethaf popeth, a chynyddodd y mudiad.
Ymunodd 375 o Dde Cymru gyda dros 2,000 o orymdeithwyr o bob rhan o Brydain ar daith i
Lundain yn Hydref 1932, a gorymdeithiodd cannoedd eto y flwyddyn ganlynol i bencadlys
Cyngor Sir Gwent yng Nghasnewydd
Gorymdeithiau'r Newynog
O Ddifri’ wrth Ddwli y ’Dolig hwn
Eleni, cynhelir Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant ddydd Gwener, 16eg o Ragfyr. Bydd y dwli yn digwydd ledled Cymru wrth i gefnogwyr mewn ysgolion, swyddfeydd a chartrefi adael eu gwisg arferol yn y cwpwrdd, a gwisgo rhywbeth dwl, Nadoligaidd er budd Achub y Plant. Rydym yn annog pobl i addurno eu siwmperi yn y dull gwirionaf bosib - ewch amdani!
Ond mae ochr ddifrifol i’r holl ddwli hefyd. Drwy roi siwmper wirion ymlaen a chyfrannu £2 tuag at waith Achub y Plant (£1 os ydych mewn ysgol) bydd yr holl arian a gesglir yn mynd tuag at helpu plant mwyaf bregus y byd; boed hynny mewn gwersyll i ffoaduriaid neu ardaloedd rhyfelgar, yn dioddef o newyn neu drychineb naturiol, neu’n byw mewn tlodi yma yng Nghymru. Drwy wisgo siwmper wirion byddwch yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â phroblemau difrifol tu hwnt. Pecyn Codi arian Cymraeg ar gael i ysgolion a’r cyhoedd Gellir cofrestru ar www.christmasjumperday.org, ac unwaith i chi wneud hynny gellir dewis fersiwn Gymraeg o’r pecyn codi arian i’w lawrlwytho. Mae’r pecyn yn llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol a dwl i sicrhau y bydd eich Diwrnod Siwmper Nadolig yn llwyddiant.
Ymysg eraill, bydd siopau WH Smith yn cefnogi Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant eleni drwy greu dau dedi bêr arbennig o’r enw Benji a Bruno. Gwerthir y tedis mewn siopau WH Smith ledled Cymru â’r DU am £4.99, gyda £1 o bob gwerthiant yn mynd tuag at yr elusen.
Rydym hefyd yn partneru gyda Fisher-Price i newid y stori ar gyfer plant tlotaf y DU. Rhwng yr 2il o Dachwedd a’r 24ain o Ragfyr 2016, bydd £1 o werthiant 16 o deganau amrywiol o’u cyfres Laugh & Learn sy’n cael eu gwerthu drwy Argos arlein yn mynd tuag at gefnogi ein rhaglen grantiau yn y DU - Bwyta, Cysgu, Dysgu, Chwarae. Os am sgwrs yn y Gymraeg am Ddiwrnod Siwmper Nadolig neu waith Achub y Plant yn gyffredinol, cysylltwch â Rhian Brewster neu Eurgain Haf ar 029 20 396838 neu ebostiwch [email protected] neu [email protected]. Cewch fwy o wybodaeth hefyd ar ein tudalen Facebook @savethechildrenwales a Twitter @savechildrencym.
.Roedd gan yr ymgyrchwyr hyn ddeiseb i'w chyflwyno, yn gofyn i'r awdurdodau ystyried
cynigion ymarferol i wella sefyllfa'r diwaith a'u teuluoedd. Ond ofer fu'r gorymdeithiau hyn
hefyd.
Do, fe gafodd ymdeithwyr Jarrow well croeso gan yr awdurdodau yn 1936. Nid oedd cymaint
o ofn y Blaid Gomiwnyddol arnynt, ond hefyd - roedd rhyfel ar y gorwel, a gwyddai'r
llywodraeth y byddai angen dynion i wneud arfau ac i ymladd …
Un fu'n llygad-dyst i'r digwyddiadau hyn i gyd oedd y bardd Idris Davies o Rymni, ac
ymatebodd i ddioddefaint y cwm hwn yn y 1920au a'r 1930au mewn cerddi grymus megis
Gwalia Deserta. Bydd yr hanesydd Dr Siân Rhiannon, hefyd o Rymni, yn cyflwyno'r bardd a'i
waith i Gymdeithas Hanes CwmNi ar nos Iau, Rhagfyr 1af - dewch i glywed rhagor am ein
hanes anghofiedig!
Dr Elin Jones
Trydydd cyfarfod Cymdeithas Hanes Cwm Ni a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi
Penallta ar y pumed o Ragfyr y llynedd. Cymdeithas yw hon ar gyfer Cymry
Cymraeg a Dysgw y lefelau Hyfedredd Uwch. Thema’r sgwrs oedd “Englynion
y Nadolig”. Trafodwyd dau ddeg wyth englyn. Agorwyd y drafodaeth gydag
englyn gan Dyfnan - John Jones, Y Wigoedd, Rhos Cefn Hir, un o hoelion wyth
bro fy mebyd.
Nadolig 1955
Onid braint hyfryd ein bri yw eilio’n
Carolau o ddifri?
Canu llawen wedi’r geni
Ydyw’r nef a’n daear ni.
Daeth englyn Y Parchedig Ronald Griffith (1916-1977) i’r cof wrth grybwyll y Nadolig,
Gŵyl cwmni, gŵyl twrci, gŵyl tân – gŵyl yfed
Gŵyl afal ac oren,
Gŵyl hirdaith Santa weithian
Â’i gan mil teganau mân.
Ia, Santa Clôs i hogia Sir Fôn! Pryd y daeth Siôn Corn i’n geirfa tybed? Yr enw rhamantus “Santa”
sy’n englyn cywaith Penrhosgarnedd ar gyfer Talwrn y Beirdd. Y Parchedig John Gwilym Jones,
Penuel, Caerfyrddin, erbyn hyn, ydy ei awdur,
Nadolig Ers Talwm
Yr un dydd a fu’n hir yn dod – y llofft
Yn llwyth o ddarganfod,
Un nos un dydd o syndod
Y tŷ’n bert a Santa’n bod.
Fe weithiodd Y Parchedig John Gwilym Jones englyn i’r Baban Iesu ar achlysur arall,
Tyred – i weled a chredu – yn y gwellt
Gwêl y Gair yn cysgu
Ac yna cyhoeddi’n hy
Wrth y byd wyrth y beudy.
Yn naturiol, wedi trafod y baban Iesu, cyflwynwyd Mair a Joseff. Trafodwyd un gan Y
Parchedig O. M. Lloyd a hwn gan T. Arfon Williams (1935 - 1998)
Mair
Heno datgelwyd i minnau paham
Y mae pen y bryniau
Oll yn ole yn llawenhau
Mae’r achos yn fy mreichiau.
Canodd T. J. Harris, ein “Tomi ni” chwedl pobl Rhymni amdano, englyn i Joseff,
Fe rannodd â’i Fair hynod – yr annwyl
Feithriniad a’r cysgod;
Y dyn hwn, y saer di-nod
Bu dad i Fab y Duwdod.
Teulu bach stabl Bethlehem a’r cof amdano yn dwyn i go’ englyn “Teulu” gan Ymrysonwyr Sir Gâr
yn Y Bala, 1997,
Yn egin pob beichiogi – y mae Mair
Ac mae mhoen amdani
Ac yn nolen pob geni
Wyf am byth yn fy mab i.
Sylwadau Gerallt arno oedd, “Duw sy’n siarad – pob mam yn Fair yn ei olwg Ef a phob plentyn yn
Grist!”
Ydy, mae hi’n ddydd Nadolig yn rhywle bob dydd.
Englynion Nadolig Dafydd Islwyn
Ffoi i’r Aifft Taith Gerdded 140 milltir i gydsefyll gyda Ffoaduriaid
Heddiw, mae yna 65 miliwn o bobl yn ffoaduriaid ar draws y byd – y mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. I dynnu sylw at yr angen llethol sy’n eu gwynebu, bydd tîm o staff Cymorth Cristnogol a Cytun, (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) yn arwain taith gerdded noddedig ar draws Cymru, o Fethlehem (Sir Gaerfyrddin) i’r Aifft (Sir Ddinbych), gan godi arian tuag at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol.
Bydd y daith yn cychwyn gyda gwasanaeth ym Methlehem fore Sul Rhagfyr 4ydd ac yn teithio i fyny drwy Edwinsford, Llanbed, Tregaron, Aberystwyth, Ynyslas – lle y bwriedir croesi’r Afon Ddyfi mewn cwch, yn yr un modd â’r miloedd o ffoaduriaid sydd wedi ceisio croesi Môr y Canoldir. Ymlaen wedyn i Fachynlleth, Brithdir, Bala, Rhuthun a chyrraedd yr Aifft ar Ragfyr 15fed. Bydd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy i gloi’r daith nos Iau Rhagfyr 15fed am 7 o’r gloch gyda Esgob Gregory Cameron, Esgob Llanelwy yn pregethu.
Meddai’r Parch Aled Edwards, Cyfarwyddwr CYTUN, ‘Rwy’n falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r daith arbennig hon. Cefais y fraint o deithio i weld sefyllfa’r ffoaduriaid ar y ffin rhwng Serbia a Macedonia ac mae’n holl bwysig ein bod yn dal ar bob cyfle i godi llais ac i godi arian i leddfu’r angen mawr sy’n wynebu’r teuluoedd hyn sydd wedi ffoi rhag sefyllfaoedd enbyd yn ein byd.’
Meddai Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru – “Gyda thymor y Nadolig yn agosau, cofiwn fel y bu raid i Iesu a’i deulu ffoi i’r Aifft i ddianc rhag trais Herod. Heddiw, mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl sydd mewn sefyllfa debyg, gan ddarparu cymorth dyngarol megis bwyd, meddyginiaeth a phecynnau glendid, mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws y byd. Mae’r daith gerdded hon yn fodd nid yn unig i godi arian hanfodol i gynnal ein gwaith, ond hefyd i dynnu sylw i’w dioddefaint, a herio’r ffordd negyddol y mae’r cyfryngau a’r llywodraeth wedi bod yn portreadu ffoaduriaid.”
Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y daith. cafodd Anna Jane Evans, Cydlynydd Gogledd Cymru Cymorth Cristnogol rodd arbennig gan blant ysgol Sul Noddfa Caernarfon y Sul diwethaf – llun o droed pob plentyn a gair o anogaeth i’w chynnal ar y daith. ‘Roeddem eisiau lawnsio’r daith efo’r Ysgol Sul er mwyn iddyn nhw ddechrau codi arian’, meddai Llinos Morris, gweithiwr plant yr eglwys – ‘roedd y plant wrth eu boddau’n sgwennu’r negeseuon – ac un ohonynt eisiau rhoi dwy droed i Anna Jane rhag iddi feddwl bod rhaid hopian yr holl ffordd!’ Am fwy o wybodaeth, ac i gofrestru i gerdded y daith, neu rannau ohoni, neu i noddi’r cerddwyr, ewch i wefan Cymorth Cristnogol –
http://www.christianaid.org.uk/cymru/news/escape.aspx?Page=2
Atebion
Posau’r Plant.
Sawl un gawsoch chi’n gywir?
Merched y Wawr Cwm Rhymni
Ein cadeirydd y mis hwn oedd Rhian Huws. Cynhaliwyd noson hollol anffurfiol lle bu
croeso i ni ddod ag eitem a stori fach gogyfer â’r eitem.
Mae Marian Fairclough yn hannu o Fôn ac fe ddaeth â’r casgliad gan Siôn Gwilym - ‘Dywediada Gwlad y
Medra - geiriau ac ymadroddion llafar Môn’. Disgrifir y llyfr fel casgliad o eiriau ac ymadroddion yn iaith
lafar trigolion Ynys Môn, gan gynnwys ffraethinebau cyfoethog a nodiadau manwl. Bu tipyn o drafod a hel
atgofion - ac fe gynigwyd ymadroddion o ardaloedd eraill o Gymru. Gallen fod wedi treulio noson gyfan ar
y pwnc hwn.
Daeth Judith Griffiths a thegan meddal - cath fach - a gafodd gan ei thad ar ei phenblwydd yn flwydd. Yn
wahanol i’r teganau swnllyd sydd ar gael heddiw, roedd y gath fach hon yn symud yn dawel ac yn araf -
llonyddwch hollol. Roedden ni i gyd eisiau ei hanwylo!
Cawsom wers fer gan Eirlys Thomas ar
gyweiriadur sol-ffa ei thad. Roedden ni bron i gyd
yn gyfarwydd â gweld un o rhain adeg ein
plentyndod yn enwedig yn yr ysgolion Sul.
Llun oedd gan Gwyneth Davies o’r pabi glas -
pabi o’r Himalaya. Ffotograff a dynnodd hi ei hun
wrth grwydro un o erddi Cernyw oedd hwn.
Gwelodd e ben bore gyda diferion o law y bore yn
dal i lynnu ar y petalau. Enillodd y llun y wobr
gyntaf yng nghystadleuaeth ffotograff y
Rhanbarth ar y thema 'Glas a Melyn'. Aeth y llun
ymlaen i gystadleuaeth Radi Thomas yn y Sioe
Frenhinol gan gyrraedd yn agos i'r brig a chael
canmoliaeth uchel.
Wedi'r Sioe, aeth y llun ar goll am ryw ddeunaw mis! Yn y diwedd fe'i ffeindwyd yn 'saff' mewn bocs ar
silff un o swyddogion y Rhanbarth ymysg bocsys ar ôl iddi
symud tŷ!
Eitem Jenni Jones-Annetts oedd darn o bren wedi ei gerfio.
Ar ei hymweliad cyntaf â Seland Newydd fe aeth hi i
Bentre Byw y Maori yn Rotorua a chwrdd â cherfiwr o’r
enw Elvis! Cyn mynd yno am yr ail dro fe brynodd lyfr ar
lwyau caru o Sain Ffagan yn anrheg i Elvis a’i
gydweithwyr. Roedd wrth ei fodd a cherfiodd ddarn o
podocapus totara (coed mawr sy’n boblogaidd ar gyfer
cerfio sy’n tyfu yn y wlad honno) yn rhodd iddi.
Daeth Wilma Davies a darnau o sidan gyda gwaith llaw
cain a chelfydd ei Mam arnynt. Fe’n syfrdanodd ni braidd
pan ddywedodd taw sidan parachute oedd gyda ni o’n
blaenau.
Ym mis Rhagfyr byddwn yn ymuno â changhennau’r de-
ddwyrain yng ngwasanaeth Nadolig y Rhanbarth. Fe’i
gynhelir yn Y Tŷ Du (Rogerstone).
Gaynor Williams
MERCHED Y WAWR CWM RHYMNI
Noson yng ngofal
BRANWEN CENNARD,
Awdur a Chynhyrchydd
Rhaglenni Teledu
Nos Fercher, 18fed Ionawr
7.30
Ysgol Penalltau,
Cwm Calon,
YSTRAD MYNACH,
CF82 6AP
Croeso Cynnes
Lluniaeth Ysgafn
GWERSYLL YR URDD LLANGRANNOG
Ar ddechrau mis Hydref fe aeth disgyblion Blwyddyn 5-6 ysgolion cynradd Cymraeg ardal Caerffili i
Langrannog am benthwynos. Pawb wedi cael amser da. Diolch i ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol
Gyfun Cwm Rhymni am fynd gyda nhw i gynorthwyo fel SWOGS.
GALA NOFIO
LLongyfarchiadau mawr i bawb ddaeth ynghyd dydd Iau 17 Tachwedd yng Nghanolfan Hamdden
Pontypŵl i gymryd rhan yng Ngala Nofio flynyddol yr Urdd. Pawb wedi gwneud yn arbennig o dda.
Mae’r y canlyniadau i’w gweld ar wefan yr Urdd www.urdd.cymru. Bydd pawb ddaeth yn gyntaf yn
mynd ymlaen i gystadlu yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ar 21-22 Ionawr 2017.
LLYWYDD NEWYDD
Croeso i Lywydd newydd yr Urdd ar gyfer 2016-2017 sef LOIS DAFYDD o ardal Ceredigion
GWASANAETH SUL YR URDD
Cynhaliwyd Gwsanaeth Sul yr Urdd yn ardal Pontypŵl Ddydd Sul 20 Tachwedd. Diolch i Ysgolion
Panteg, Cwmbran, Bryn Onnen ac Ysgol Feithrin Pontypŵl am gymryd rhan a diolch arbennig i Diane
Ebo am arwain ac i Nerys Griffiths am gyfeilio.
JAMBORI CANOLFAN Y MILENIWM
Ddydd Llun 14 Tachwedd aeth dros 500 o ddisgyblion o ysgolion cynradd Cymraeg ardaloedd Rhanbarth
Gwent i gymryd rhan mewn Jambori yng Nghanolfan y Mileniwm yn y Bae yng Nghaerdydd. Pawb wedi
mwynhau yng nghwmni Gwenda Owen a Mr Urdd.
Cafodd disgyblion ysgolion cynradd ail iaith gyfle i fwynhau mewn Jambori mis diwethaf gyda Martyn
Geraint yn ardal Brynmawr ac Ysgol Lewis Pengam.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD 2017 Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2017
Gorymdeithiodd nifer fawr o bobl drwy dref Penybont ddydd Sadwrn, 8 Hydref i ddathlu dyfodiad
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Benybont, Taf ac Elái
fis Mai 2017.Cynhelir yr Ŵyl rhwng 29 Mai – 3 Mehefin
2017. Os gwnaethoch fwynhau stiwardio yn Eisteddfod
yr Urdd Caerffili yn 2015 fe wyddoch fod stiwardiaid yn
chwarae rhan allweddol yn y cyfnod cyn ac yn ystod
wythnos Eisteddfod yr Urdd.Mae’r Urdd yn dibynnu ar
gyfraniad gwirfoddolwyr yn fawr ac yn ddiolchgar am
unrhyw gymorth. Beth amdani? Am ragor o wybodaeth
cysylltwch â Ruth Morris ar [email protected] / 01678
541012 neu llwythwch y Ffurflen Stiwardio trwy’r linc
isod. http://www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/cefngoi/wisiau-helpu/
CHWARAEON
Pob lwc i dimoedd Rhanbarth Gwent sydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Pêl Rwyd Genedlaethol Uwchradd
yr Urdd yng Nghaerdydd Ddydd Iau 24 Tachwedd. Pob lwc hefyd i dimoedd pêl rwyd a rygbi ysgolion
cynradd a fydd yn cystadlu mewn 2 gystadleuaeth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar 1 Rhagfyr.
Helen Greenwood Swyddog Datblygu Rhanbarth Gwent 01495 350155
CLYBIAU YR URDD yn Neuadd y Gwyndy
Dydd Llun Pêl Droed a Rygbi Bach 4.30 – 5.15 Meithrin – Blwyddyn 2 £2.50
‘Bales a Warburtons Bach’
Dydd Mawrth Gymnasteg 4.30-5.30 Meithrin – Blwyddyn 2 £3
Dydd Iau Dawns 4.00-4.45 Meithrin/Derbyn £2.50
4.45-5.30 Blwyddyn 1 a 2
NEWYDDION TACHWEDD URDD GOBAITH CYMRU
Un funud fach….........
Rhyfedd yn tydi, yr eiliadau, y munudau, y cyfnodau byr yn aml sy’n aros yn y côf, nid y
digwyddiadau mawr. Fel yna yr oedd hi imi ddydd Sadwrn Tachwedd 12fed, y diwrnod cyn
Sul y Cofio.
Roeddwn i wedi teithio i’r gogledd er mwyn cyhoeddi yn y
Gymraeg ar yr uchelseinydd wrth i dîm pêl-droed Wrecsam
druan wynebu rhyw dîm anenwog arall ar y Cae Ras. Colli fu
hanes Wrecsam ond fe enillodd y dorf gryn dipyn o barch gen
i. Gofynnais am “Funud o dawelwch” er cof am y rhai a
gollodd eu bywydau wrth frwydro mewn rhyfeloedd.
Distawodd y dorf ac aeth y stadiwm yn dawel fel y bedd.
Fel yna oedd hi ryw bythefnos ynghynt hefyd pan ofynnais yn
ddwyiethog am funud o dawelwch wrth gofio y rhai a gollodd
eu bywydau a’r rhai a ddioddefodd wedyn yn Aber-fan yn
1966. Roedd llawer ar y Cae Ras yn cofio anwyliaid a fu farw
yn nhanchwa Gresffordd 1934 pan laddwyd 266 mewn
ffrwydriad dan-ddaearol. Yn rhyfedd yr unig sŵn a oedd i’w glywed y tro hwn oedd sŵn
adar bach yn hedfan uwchben y stadiwm.
Dychwelais i’r cwm er mwyn edrych ymlaen a gwylio tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Serbia
yng ngemau rhagbrofion Cwpan y Byd. Roedd Cymru wedi colli’n drwm yn Serbia yn 2012
o 6-1. Roedd y tîm yn dal o dan gysgod marwolaeth eu rheolwr blaenorol, Gary Speed. Ar
ddiwedd y gêm yn yr ystafell newid mewn munud dyngedfennol, fe ymbiliodd un o’r
chwaraewyr mwyaf profiadol, Craig Bellamy, ar i’r tîm symud ymlaen. Ie, cofio Gary ond
edrych ymlaen i’r dyfodol.
Bellach yn 2016 roedd tîm pêl-droed Cymru wedi cyflawni hynny. Roedd twrnament yr haf
pan gyrhaeddodd Cymru rownd gynderfynol Pencampwriaeth Ewrop cyn colli i Bortiwgal,
wedi cyflwyno atgofion melys iawn i bob Cymro a Chymraes. Pwy fedr anghofio
buddugoliaethau hanesyddol yn erbyn Rwsia a Gwlad Belg heb sôn am yr eiliad
fythgofiadwy pan sgoriodd Hal Robson-Kanu gôl orau’r gystadleuaeth? Ie, munudau
cofiadwy yn cyflwyno atgofion oes.
Felly, mawr oedd y disgwyl y byddai Cymru yn gallu talu’r pwyth yn ôl yn Stadiwm
Caerdydd. Bu tîm Cymru’n drylwyr, yn drefnus ac yn effeithiol fel arfer. Fe newidiwyd
patrwm chwarae arferol Cymru er mwyn cyfarfod â bygythiad yr ymwelwyr. Roedd popeth
yn mynd yn iawn wrth i Gareth Bale sgorio gôl agoriadol y gêm.
Roedd popeth yn mynd yn hwylus ond gyda dim ond pum munud yn weddill, fe
gyrhaeddoedd munud dyngedfennol y gêm. Cymru yn ymosod, y bêl yn cyrraedd Bale gyda
dim ond y golwr i’w guro. Fe ergydiodd, ond fe darodd y bêl y postyn. Fe dorrodd Serbia’n
rhydd, croesiad o’r dde a Mitrovic yn penio’r bêl i gefn y rhwyd.
Unwaith eto roedd munud wedi profi’n dyngedfennol. Bellach y mae gan Gymru Everest o
fynydd i’w ddringo os ydyn nhw am gyrraedd gemau Cwpan y Byd. Os am wireddu’r
freuddwyd unwaith eto, mae’n debyg bydd rhaid curo Iwerddon (y tîm ar y brig) oddicartref
a gartref. Ie, dim ond amser a fydd yn datgelu pa mor bwysig fydd y funud yna pan darodd
Bale y postyn yn un pen o’r maes cyn i Serbia sgorio yn y pen arall.
Dafydd Roberts
Coleg Gwent
Cyrsiau Dydd Sadwrn Pob un rhwng 09:15 a 15:45
03/12/16 Campws Dinas Casnewydd
14/01/17 Campws Pont-y-pŵl
04/02/17 Ysgol GyfunCwm Rhymni
04/03/17 Campws Brynbuga
08/04/17 LLAC Glyn Ebwy
13/05/17 Campws Pont-y-Pŵl
Mae’r Ysgolion Undydd yn cael eu
cynnal ar hyd a lled Gwent ar ddydd
Sadwrn am 5 awr o ddysgu.
£10 yn unig.
Coleg Gwent
Cyrsiau Penwythnos Pob un rhwng 8:45 a 17.00
18-19/03/17 Sad-Sul Campws Pont-y-pŵl
20-21/05/17 Sad-Sul Campws Pont-y-pŵl
24-28/07/17 Llun-Gwe Campws Pont-y-pŵl
30/06-02/07/17 Gwe-Sul Llambed
Mae’r Ysgol Haf yn cynnwys 30 awr o wersi
dros gyfnod o bum niwrnod. Bydd 8 lefel
Is Coed Ysgol Uwchradd Gymraeg newydd Casnewydd
Cyd-amseru perffaith ydoedd i ymgyrch sefydlu Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ddigwydd ar yr
un adeg â lansiad argymhellion yr Arglwydd Donaldson. Yn y naill cawn uchelgais i’r genedl
ac yn y llall cawn gam arall wrth wireddu uchelgais Casnewydd i fod yn ddinas ifanc ar dwf.
Cawn gyfle i ddatblygu cwricwlwm yr ardal a chyfle i adennill lle'r Gymraeg yn yr ardal hon.
Agorwyd drysau Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ar Fedi’r 5ed ac yr oedd yr ymgyrch i sicrhau
bod yr adeilad yn barod i groesawu’r 81 o ddysgwyr wedi derbyn cefnogaeth yr Adran
Addysg; nid yn unig wrth drefnu ond hefyd wrth ffurfio tîm o bobl oedd yn barod i symud
dodrefn a chlirio ystafelloedd yn ystod gwyliau’r haf.
Daw’r dysgwyr o Ysgolion Cynradd Y Ffin, Casnewydd ac Ifor Hael, ac fe roddwyd hafan i’r
ysgol am y ddwy flynedd gyntaf ar dir Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, sydd heb eto gyrraedd ei
llawn dwf. Dwy ysgol sy’n tyfu gyda’i gilydd. Dyma ysgolion yr ardal a oedd yn arfer cael ei
hadnabod fel Gwent Is Coed, sef teyrnas Teyrnon. Fe fydd yr ysgol yn symud i safle Dyffryn
ac fe fyddwn drws nesaf i Ysgol John Frost. Nid nepell o’r safle mae Gwern y Cleppa, lle
roedd Llys Ifor Hael a lle bu Dafydd ap Gwilym yn fardd y llys. Bydd cenhedlaeth o blant
Casnewydd yn darganfod o’r newydd wreiddiau’r Gymraeg yn eu hardal.
Mae gennym staff llawn angerdd o bob rhan o Gymru (gan gynnwys Casnewydd a Gwent) ac
rydym wrthi yn adennill enwau’r ardal. Rhoddwyd yr enw Allt yr Ynn ar ein hadeilad dros
dro cyntaf. Lliwiau’r ysgol yw lliwiau Casnewydd, sef coch a melyn. Mae’r logo ag elfennau
Celtaidd a hefyd tafod y ddraig ynddi. Mae cyngor yr ysgol wrthi yn chwilio am arwyddair ac
fe fyddwn yn cynnal ein hagoriad swyddogol ar yr ail o Ragfyr. Rhian Dafydd
Rhagfyr 7- Taith llwybr Taf (cyfeiriad Merthyr)-
Cwrdd ym maes parcio Canolfan Garddio
Caerffili CF15 7UN
Rhagfyr 14 - Draethen (10-12) + Cinio Nadolig
(12-1pm) - Cwrdd ym maes parcio Hollybush
Inn NP10 8GB (*Rhaid Cysylltu a talu £10
blaendal cyn 23 Tachwedd Cinio Nadolig)
Rhagfyr 21-Taith Llwybr Taf (Cyfeiriad
Ffynnon Taf) - Cwrdd ym maes parcio Canolfan
Garddio Caerffili CF15 7UN
Ionawr 4 - Cyfarfod cynllunio—Swyddfa Ment-
er Caerffili Suite 1, Parc St Margaret’s, Aberbargod, CF81
9FW
Teithiau Clwb Cerdded
10:00—12:00 Parti Nadolig Nos Fercher 7fed Rhagfyr Clwb Rygbi Penallta, Ystrad Mynach
Cerddoriaeth (Music) gan ALED RHEON Datrys Dirgelwch (Murder Mystery)
gan CwmniCwmNi Hog roast + pwdin Bar
Ffoniwch/phone 01495 333710 i archebu tocyn neu ebostiwch [email protected]