pennaeth/headteacher: d w evans ba...

3
Ysgol y Dderwen Heol Spurrell, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1TG Ffôn: 01267 235598 Ebost: [email protected] Gwefan: www.ysgolydderwen.co.uk @ysgolydderwen Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MA 19 Gorffennaf 2017 Newyddion y Tymor Wrth gyrraedd diwedd blwyddyn academaidd mae’n braf edrych nôl ar holl lwyddiannau’r ysgol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, teimlwn ein bod wedi cynnal nifer o weithgareddau mewnol ac allgyrsiol, wedi croesawu ystod o ymwelwyr ac wedi anelu at roi ystod eang iawn o brofiadau toreithiog er mwyn cyfoethogi addysg ein plant. Gwerthfawrogaf ymdrechion a chefnogaeth y plant, y staff ac hefyd chi fel rhieni Ysgol y Dderwen. Ymfalchïwn yn fawr yng nghanlyniadau’r disgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Y nod yw bod plant y Cyfnod Sylfaen yn cyrraedd Deilliant 5, a braf yw datgan bod 97% o blant wedi cyrraedd y lefel yma ym mhob un maes. Yn well fyth cyrhaeddodd 59% o blant ddeilliant 6, un lefel yn uwch na’r disgwyl. Mae ein canlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn galonogol iawn hefyd. Y nod yw bod plant yn cyrraedd Lefel 4 erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n braf datgan bod 100% o blant wedi cyrraedd hyn. Roedd 57% o blant wedi cyrraedd L5, un lefel yn uwch na’r disgwyl. Mae ein canlyniadau ni yn uwch ar gyfartaledd nag ysgolion y Sir ac ysgolion eraill Cymru. Cydnabyddwn bod dal lle i wella ac fe anelwn ar bob achlysur i ymestyn ein disgyblion ac i gyd-weithio gyda chi i barhau i godi safonau ymhellach ar draws yr ysgol. Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod y tymor ym meysydd chwaraeon. Cafwyd buddugoliaethau wrth gystadlu yng nghystadlaethau rygbi, trawsgwlad, athletau, pêl droed a chriced. Braf hefyd oedd dathlu doniau cerddorol ein disgyblion yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli yng nghyngerddau y Proms. Cafodd nifer helaeth o’n disgyblion yr anrhydedd o berfformio ar lwyfan gyda nifer o ysgolion Sir Gâr. Llongyfarchiadau i bob un ohonoch. Y Ffair Haf a Her y 3 chopa Diolch o galon i chi gyd am gefnogi’r Ffair Haf ac i aelodau’r Gymdeithas Rhieni am drefnu’r stondinau. Llongyfarchiadau mawr hefyd i holl blant yr ysgol wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau busnes er mwyn gwerthu nwyddau. Codwyd dros £1500. Diolch hefyd i dadau’r Dderwen am godi dros £5000 wrth iddynt gwblhau her y 3 chopa yn ddiweddar. Am gamp a chanlyniad anhygoel! Arian Cinio. A wnewch chi sicrhau eich bod yn talu eich dyledion cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ac i orffen…. Dymuniadau gorau i Mrs. Ellis-Jones, Mrs. Eleri Soanes, Miss Ffion Jones, Mrs. Mari Rowlands, Miss Nia Willingale a Miss Lowri Revitt a fydd yn ein gadael ar ddiwedd y tymor. Diolchwn iddynt am eu gwaith a dymunwn yn dda i bob un ohonynt yn y dyfodol. Dymuniadau gorau hefyd i ddisgyblion blwyddyn 6 ac i’r teuluoedd sydd yn ein gadael ni ar ôl blynyddoedd maith. Bydd yr ysgol yn ail-gychwyn ar Ddydd Mawrth ,5ed o Fedi 2017. Ar ran staff yr ysgol, diolch yn fawr i chi gyd am eich cydweithrediad ac am eich cefnogaeth gadarnhaol yn ystod y flwyddyn. Mwynhewch eich gwyliau! Dylan Evans

Upload: others

Post on 15-Jul-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MAysgolydderwen.cymru/wp-content/uploads/2014/09/diweddhaf2017.pdf · nwyddau. Codwyd dros £1500. Diolch hefyd i dadau’r Dderwen am godi dros

Ysgol y Dderwen Heol Spurrell, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1TG Ffôn: 01267 235598

Ebost: [email protected] Gwefan: www.ysgolydderwen.co.uk

@ysgolydderwen

Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MA

19 Gorffennaf 2017 Newyddion y Tymor Wrth gyrraedd diwedd blwyddyn academaidd mae’n braf edrych nôl ar holl lwyddiannau’r ysgol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, teimlwn ein bod wedi cynnal nifer o weithgareddau mewnol ac allgyrsiol, wedi croesawu ystod o ymwelwyr ac wedi anelu at roi ystod eang iawn o brofiadau toreithiog er mwyn cyfoethogi addysg ein plant. Gwerthfawrogaf ymdrechion a chefnogaeth y plant, y staff ac hefyd chi fel rhieni Ysgol y Dderwen.

Ymfalchïwn yn fawr yng nghanlyniadau’r disgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Y nod yw bod plant y Cyfnod Sylfaen yn cyrraedd Deilliant 5, a braf yw datgan bod 97% o blant wedi cyrraedd y lefel yma ym mhob un maes. Yn well fyth cyrhaeddodd 59% o blant ddeilliant 6, un lefel yn uwch na’r disgwyl. Mae ein canlyniadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn galonogol iawn hefyd. Y nod yw bod plant yn cyrraedd Lefel 4 erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n braf datgan bod 100% o blant wedi cyrraedd hyn. Roedd 57% o blant wedi cyrraedd L5, un lefel yn uwch na’r disgwyl. Mae ein canlyniadau ni yn uwch ar gyfartaledd nag ysgolion y Sir ac ysgolion eraill Cymru. Cydnabyddwn bod dal lle i wella ac fe anelwn ar bob achlysur i ymestyn ein disgyblion ac i gyd-weithio gyda chi i barhau i godi safonau ymhellach ar draws yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod y tymor ym meysydd chwaraeon. Cafwyd buddugoliaethau wrth gystadlu yng nghystadlaethau rygbi, trawsgwlad, athletau, pêl droed a chriced.

Braf hefyd oedd dathlu doniau cerddorol ein disgyblion yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli yng nghyngerddau y Proms. Cafodd nifer helaeth o’n disgyblion yr anrhydedd o berfformio ar lwyfan gyda nifer o ysgolion Sir Gâr. Llongyfarchiadau i bob un ohonoch.

Y Ffair Haf a Her y 3 chopa Diolch o galon i chi gyd am gefnogi’r Ffair Haf ac i aelodau’r Gymdeithas Rhieni am drefnu’r stondinau. Llongyfarchiadau mawr hefyd i holl blant yr ysgol wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau busnes er mwyn gwerthu nwyddau. Codwyd dros £1500. Diolch hefyd i dadau’r Dderwen am godi dros £5000 wrth iddynt gwblhau her y 3 chopa yn ddiweddar. Am gamp a chanlyniad anhygoel!

Arian Cinio. A wnewch chi sicrhau eich bod yn talu eich dyledion cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.

Ac i orffen…. Dymuniadau gorau i Mrs. Ellis-Jones, Mrs. Eleri Soanes, Miss Ffion Jones, Mrs. Mari Rowlands, Miss Nia Willingale a Miss Lowri Revitt a fydd yn ein gadael ar ddiwedd y tymor. Diolchwn iddynt am eu gwaith a dymunwn yn dda i bob un ohonynt yn y dyfodol. Dymuniadau gorau hefyd i ddisgyblion blwyddyn 6 ac i’r teuluoedd sydd yn ein gadael ni ar ôl blynyddoedd maith.

Bydd yr ysgol yn ail-gychwyn ar Ddydd Mawrth ,5ed o Fedi 2017.

Ar ran staff yr ysgol, diolch yn fawr i chi gyd am eich cydweithrediad ac am eich cefnogaeth gadarnhaol yn ystod y flwyddyn. Mwynhewch eich gwyliau!

Dylan Evans

Page 2: Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MAysgolydderwen.cymru/wp-content/uploads/2014/09/diweddhaf2017.pdf · nwyddau. Codwyd dros £1500. Diolch hefyd i dadau’r Dderwen am godi dros

Ysgol y Dderwen Heol Spurrell, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1TG Ffôn: 01267 235598

Ebost: [email protected] Gwefan: www.ysgolydderwen.co.uk

@ysgolydderwen

Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MA

19 July 2017

This Term’s News As we approach the end of this academic year it is wonderful to reflect on all the successes of the school over the last year. We feel we have held numerous activities, within the school and through extra curricular events, welcomed many visitors and organized an abundance of experiences. These have enriched the education of our children. I appreciate the efforts and support by children, staff and you as parents of the school.

We are very proud of this year’s end of Key Stage results. The aim for children in the Foundation Phase is to be awarded an outcome 5 and it is wonderful to announce that 97% of children achieved this aim in all areas. It was even more pleasing to hear that 59% of children reached Outcome 6, one level greater than expected. We are also very proud of our key stage two results. The aim is for children to achieve Level 4 by the end of the juniors and it is with delight that 100% of the children achieved this aim in all core subjects. 57% of the children achieved Level 5 in all subjects, one level above the expected result. Our results are higher than the Local Authority and Welsh average. We recognise that there are still improvements to be made, and it our aim at all times to work together in order to further raise standards and for the children to achieve the best possible results. The school has been very successful during the term with many sporting achievements. Having competed in the Urdd Finals and the County’s Cross county competition, the children won high recognition in the rugby, football, athletics, cricket and cross county.

It was also wonderful to see so many pupils displaying their musical talents during the Proms concerts in the Ffwrnes Theatr, Llanelli with many other Carmarthenshire schools. Congratulations to you all.

Summer Fete and the 3 peaks challenge Thank you very much for supporting the Summer Fete this year and to the PTA for organising the events. Congratulations also to all the pupils as they developed their entrepreneurial skills creating materials to sell in the fete. We raised over £1500. Many thanks also to the Dderwen Fathers for completing and raising over £5000 during the 3 peaks challenge. A fantastic achievement and contribution!

Dinner Money Please could you ensure that your dinner fees are paid a.s.a.p.

And finally… Best wishes to Mrs. Eleri Ellis-Jones, Mrs Eleri Soanes, Ffion Jones, Mrs. Mari Rowlands, Miss Nia Willingale and Miss Lowri Revitt who leave us at the end of term. We thank them for all their hard work and wish them the very best for the future. Finally, all the very best to all the children in Year 6 and to the families who will be leaving us after many years.

School will re-start on Tuesday 5th of September 2017.

On behalf of the staff, many thanks for your co-operation and full support during the year. Enjoy your holidays!

Dylan Evans

Page 3: Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MAysgolydderwen.cymru/wp-content/uploads/2014/09/diweddhaf2017.pdf · nwyddau. Codwyd dros £1500. Diolch hefyd i dadau’r Dderwen am godi dros

Ysgol y Dderwen Heol Spurrell, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1TG Ffôn: 01267 235598

Ebost: [email protected] Gwefan: www.ysgolydderwen.co.uk

@ysgolydderwen

Pennaeth/Headteacher: D W Evans BA MA