rheolydd polisi a rhaglenni - chcymru.org.uk macnamara rheolydd polisi a rhaglenni cartrefi...
TRANSCRIPT
Croeso i Gynhadledd Tai Fawr 2017 CHC. Dyma ddigwyddiad y flwyddyn i lawer o swyddogion tai cymdeithasol gan ei fod yn rhoi cyfle ar gyfer rhwydweithio gyda chydweithwyr mewn ystod o ddisgyblaethau sy'n delio gyda'r un materion a'r cyfleoedd â chi. Mae hyn yn ogystal â dau ddiwrnod llawn ar bynciau a sesiynau a gafodd eu llunio o amgylch eich adborth. Mae ein sesiwn gyntaf yn gosod y llwyfan ar gyfer y gynhadledd 'amgylchedd sy'n newid drwy'r amser' ac fe'i dilynir gan siaradwyr a gweithdai fydd yn codi cwr y llen ar bynciau perthnasol yn cynnwys delio gydag ymestyn credyd cynhwysol, paratoi ar gyfer rhaglenni newydd a deddfwriaeth fel Rhentu Cartrefi, Rhentu i Brynu a Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a rôl cymdeithasau tai yn yr economi sylfaen. Yn adladd trychineb arswydus Grenfell, byddwn hefyd yn clywed gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng fydd yn rhoi arweiniad ar sut i ymateb yn effeithlon ac effeithol i sefyllfaoedd argyfwng. Am y tro cyntaf croesawn ganlyniad Gwobr Creu Creadigrwydd CHC i'r gynhadledd ac, fel mewn blynyddoedd diweddar, rydym yn cynnal Parth Datblygu arbennig ar Ddiwrnod 1. Bydd yr Arddangosfa hefyd yn rhoi digonedd o gyfleoedd i gwrdd gyda sefydliadau a all eich helpu gyda heriau bob dydd a rhannu eu harbenigedd. Edrychwn ymlaen at eich croesawu dros y deuddydd ar gyfer yr hyn sy'n argoeli bod yn ddigwyddiad cyffrous a defnyddiol iawn. Hayley MacNamara Rheolydd Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru Sponsors: Noddwyd Bathodynnau’r Gynhadledd drwy garedigrwydd Asbri Planning
Noddwyd y Derbyniad Diodydd drwy garedigrwydd Ark Consultancy
Media partners:
Cynhadledd Tai Fawr Gwesty Metropole, Llandrindod | 5/6 Hydref 2017 Diwrnod 1
9.00 am Cofrestru
9.45am Croeso/Cadeirydd…
Sian Lloyd, Darlledwraig a Newyddiadurwraig, Cadeirydd y
Gynhadledd
9.55 am Amgylchedd sy'n newid drwy'r amser
Paul Tenant, Prif Weithredydd Dros Dro, Cymdeithas y Gyfraith
Ystafell David Spencer
Bydd Paul yn defnyddio ei brofiad fel cyn Brif Weithredydd Orbit
Housing a'i swydd newydd fel Prif Weithredydd Dros Dro
Cymdeithas y Gyfraith i'n harwain drwy ei daith o newid
trawsnewidiol a sut y gellir ei weithredu i gymdeithasau tai, sy'n
awr yn gorfod dod yn fwy gwydn ac amrywiol mewn amgylchedd
heriol.
10.40 am Cyflwyno Gwobr Creu Creadigrwydd John Chown
Ystafell David Spencer
Yn newydd i'r gynhadledd hon, byddwn yn canfod pwy sydd
wedi ennill Gwobr Creu Creadigrwydd 2017.
17 mlynedd yn ôl, sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru gynllun
gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am berson arbennig - Pat
Chown. Rhoddodd Pat ran helaeth o'i bywyd i helpu eraill a
threuliodd lawer o'i gyrfa yn helpu i gyflawni anghenion tai pobl
yng Nghymru.
Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd a ffyrdd newydd o ymateb i
faterion dydd i ddydd.
Datgelir popeth.
10.50 Ail-lansio yswiriant cynnwys MyHome
Edwina O’Hart CHC a Chris Tarrier
Gwrandewch am y bartneriaeth rhwng Thistle Insurance a CHC
sy'n darparu buddion pwrpasol i aelodau a thenantiaid fel rhan o
gynllun yswiriant cynnwys 'My Home'.
11:00am Lluniaeth a Rhwydweithio
11.30am Credyd Cynhwysol - Delio gyda'r adladd
Richard D'Souza, Pennaeth Credyd Cynhwysol, Uned Tai
Strategol, Adran Gwaith a Phensiynau
Ystafell David Spencer 1 a 2
Bydd Richard yn rhoi diweddariad ar gynnydd rhaglen lawn
ymestyn Credyd Cynhwysol yng Nghymru yn ogystal â
datblygiadau ar y porth landlordiaid a gwelliannau eraill i'r
system Credyd Cynhwysol.
12.15pm Sesiwn Gweithdy…
Tasglu'r Cymoedd
Ian Wilison, Sheffield Hallum University
Bydd Ian yn trafod sut mae JRF yn cefnogi Tasglu Rhanbarthol
y Cymoedd i ddynodi'r problemau llesiant a thai unigryw a
brofwyd yn yr ardal. Bydd hefyd yn rhoi ei sylwadau dechreuol
ar argymhellion ar gyfer darpariaeth tai y dyfodol yn y Cymoedd.
Rhentu Cartrefi - Beth yw'r camau nesaf?
Simon White, Llywodraeth Cymru
Bydd Simon yn rhoi diweddariad ar y gwaith a wnaethpwyd i
gynllunio gweithredu Bil Rhentu Cartrefi yn ogystal â throsolwg
o'r camau nesaf. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod
materion.
My Home
Chris Tarrier, Thistle Insurance
Mae Thistle Insurance Services yn gweithio mewn partneriaeth
gyda CHC i roi cynllun yswiriant cynnwys My Home i'w
haelodau ar ddim cost i'r aelod. Mae'r cynllun yn galluogi
aelodau i helpu eu preswylwyr i gael mynediad i bolisi yswiriant
cynnwys cartref fforddiadwy heb y rhwystrau traddodiadol y
gallent eu disgwyl.
Creu Creadigrwydd
Cyhoeddi enw'r enillydd
Dewch i glywed gan bob un o'r prosiectau ar y rhestr fer ar gyfer
gwobr eleni.
Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol - Y gwersi a ddysgwyd hyd yma
Ian Simpson, Cartrefi Cymunedol Bron Afon a Jen Griffiths,
Cyngor Sir y Fflint
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn clywed am brofiadau Cyngor Sir
y Fflint a Chartrefi Cymunedol Bron Afon am ymestyn y
Gwasanaeth Llawn yn eu hardaloedd. Bydd y landlordiaid yn
rhannu eu dulliau o baratoi am y Credyd Cynhwysol a'r gwersi a
ddysgwyd.
1.00pm Cinio, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
2.00pm Sesiwn Is-lawn…
Datganoli Cyllid Tai â Chymorth
Paul Webb, Llywodraeth Cymru
O fis Ebrill 2019, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn
bwriadu datganoli cyllid tai â chymorth, uwchben y gyfradd
Lwfans Tai Lleol, i Gymru. Buom yn gweithio gydag aelodau i
ddeall yn llawn raddfa a chost cyflenwi tai â chymorth yng
Nghymru. Bydd Paul yn rhoi diweddariad gan Lywodraeth
Cymru.
O'r sesiwn yma bydd cynrychiolwyr yn:
Cael dealltwriaeth o'r newidiadau i Fudd-dal Tai
Cael dealltwriaeth o'r broses o ddatganoli cyllid tai â
chymorth
Cael cyfle i ddylanwadu ar y polisi
2.00pm Sesiwn Is-lawn…
Ymagweddau cymdeithasau tai at effaith cymdeithasol
Stephen Russell, Housemark a Steve Cranstan, United Welsh
Bydd Stephen Russell yn trafod ymchwil a gynhaliodd gyda Midland Heart ac yn amlinellu ei sylwadau ar sut y gall cymdeithasau tai drin gwerth cymdeithasol. Bydd Steve Cranston yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gynrychiolwyr ar gynnydd gweithgor effaith cymdeithasol CHC eleni a'r camau nesaf arfaethedig i gefnogi'r sector gyda mesur effaith cymdeithasol.
2.00pm Sesiwn Is-lawn…
Beth yw Tai yn Gyntaf?
Arwel Jones, Cyngor Sir Ynys Môn
Bydd y sesiwn yma'n edrych ar Tai yn Gyntaf, sut mae'n gweithio ac ar gyfer pwy mae'n gweithio, ac yn edrych sut y gall cymdeithasau tai Cymru gefnogi'r model.
3.45pm Lluniaeth, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
3.15pm Sesiwn Gweithdy…
Rhentu i Brynu
Naheed Hussain, Llywodraeth Cymru
Bydd Naheed yn trafod y cynlluniau ar gyfer cynllun Rhentu i
Brynu Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd i landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig gyflenwi'r cynnyrch newydd hwn.
Cam Gweithredu Rhentu Cartrefi - y Goblygiadau Cyfreithiol
Jamie Saunders, Grŵp Tai Coastal
Bydd y sesiwn yma'n ymchwilio ymhellach beth yw goblygiadau
cyfreithiol y Ddeddf Rhentu Cartrefi.
InCommunities
Adrienne Reid, InCommunities
Bydd InCommunities yn esbonio sut maent wedi manteisio o
gyflwyno system newydd a symlach ar gyfer dyrannu tai
cymdeithasol a thrafod y gwersi y maent wedi'u dysgu am yr
hyn mae cwsmeriaid ei eisiau..
Y Gyfnewidfa Rent
Kirsty Walton, Grŵp Tai Coastal
Mae'r Gyfnewidfa Rhent yn helpu tenantiaid cymdeithasol i
adeiladu hanes credyd cadarnhaol i gael mynediad cyfartal i
wasanaethau ariannol. Bydd Tai Coastal yn trafod sut y maent
wedi defnyddio gwybodaeth defnyddwyr i dargedu adnoddau a
theilwra gwasanaethau.
Crisis – Tai a Digartrefedd
Nick Morris, Crisis Cymru
Fel rhan o flwyddyn 50fed pen-blwydd Crisis, buont yn datblygu
cynllun i ddod â digartrefedd i ben ym Mhrydain.
Bydd y sesiwn yma’n rhoi cyfle i gynrychiolwyr gyfrannu at y
cynllun a sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i bolisi ac
ymarfer tai i atal a diweddu digartrefedd
4.15pm Diogelu data - sicrhau fod yr holl sefydliad wedi paratoi ar gyfer y newidiadau
Stephen Thompson, Darwin Gray
Ystafell David Spencer
Daw Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) i rym ar 25 Mai
2018. Aiff Stephen â chi drwy sut y gall cymdeithasau tai baratoi
ar gyfer y rheoleiddiad newydd yn ystod y misoedd nesaf.
4.30pm Yr Economi Sylfaen, Sut y gall cymdeithasau tai gymryd rhan
Kevin Morgan, Prifysgol Caredydd
Ystafell David Spencer
Bydd y sesiwn yn ymchwilio syniadau Kevin am annog economi
lleol cynhwysol a chryf a sut y gall sefydliadau angor fel
cymdeithasau tai chwarae rôl.
5.15pm Diwedd Diwrnod 1
7.30pm Noddwyd y Derbyniad Diodydd drwy garedigrwydd Ark Consultancy
8.00pm Cinio'r Gynhadledd
Diwrnod 2
9.00 am Cofrestru
9.30 am Cartrefi Rhyng-genhedlaeth
Dr. Gea Sijpkes, Prif Swyddog Gweithredol, Humanitas
Deventer
Ystafell David Spencer
Bydd Dr. Sijpkes yn dweud ei stori ysbrydoledig o ganolfan
preswyl a gofal Humanitas, cyfleuster gofal hirdymor yn nhref
Deventer ar lan afon yn nwyrain yr Iseldiroedd. Yn gyfnewid am
30 awr o waith gwirfoddol y mis, gall myfyrwyr aros mewn
ystafelloedd gwag yno yn rhad ac am ddim. Bydd Gea yn
dweud wrthym beth oedd sbardun y prosiect, sut mae'n gweithio
a pha wersi a gafodd eu dysgu.
10.15 am Cefnogi Cymunedau mewn Argyfwng - Gwersi Grenfell
Tony Thompson, Cadeirydd, Cymdeithas Cynllunio Argyfwng
David Spencer 1&2
Yn dilyn y tân trasig yng ngorllewin Llundain, bydd y sesiwn
yma'n gyfle i glywed gan arbenigwyr ac ystyried sut y gall timau
rheoli asedau a chynnal a chadw ymateb yn ystyrlon i'r tirlun
newid digwyddiadau a sicrhau fod eich tenantiaid yn ddiogel yn
eu cartrefi.
11.00 am Lluniaeth, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa
Cynllun Cyflogadwyedd
Edwin Williams, Llywodraeth Cymru
Nod Cynllun Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru yw
symleiddio rhaglenni cyflogadwyedd presennol, gwella gweithio
traws-sector a thargedu grwpiau allweddol.
Celcian ac Annibendod: Diweddariad ar un o'r problemau mwyaf mewn tai
Neil Morgan, Darwin Gray
Bydd y sesiwn yma'n edrych ar agweddau ymarferol a
chyfreithiol celcian ac annibendod ac yn cynnwys materion fel
marwolaeth, torri gwaharddebau a dirmyg llys.
Cartrefi iKosie – Datrysiad?
Andrew Eastabrook
Byth y gweithdy hwn yn dangos sut y defnyddir Cartrefi iKosie i
atal digartrefedd mewn pobl dan 35 oed a dangos sut y gallant
11.30 am Sesiwn Gweithdy ...
Cafodd Cymdeithasau Tai eu procio
Joshua Dowdall a Rhodri Thomas, Cymdeithas Tai Taf
Roedd Dirnadaeth Ymddygiadol yn weithdy poblogaidd yng
nghynhadledd y llynedd. Bydd eleni yn dilyn lan sut y mae
sefydliadau yn y sector wedi gweithredu ar egwyddor procio a
beth fu'r canlyniadau.
weithredu fel carreg gamu i symud pobl o hostelau a
sefydliadau eraill a reolir i’w llety eu hunain, lle gallant fyw’n
annibynnol
Gwir Gost Iechyd a Diogelwch
John Fisher, Ark Consultancy
Bydd John yn trafod sut y gall landlordiaid wella iechyd a
diogelwch preswylwyr tra’n gostwng costau gweithredu
Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol - Y gwersi a ddysgwyd hyd yma
Ian Simpson, Cartrefi Cymunedol Bron Afon a Jen Griffiths,
Cyngor Sir y Fflint
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn clywed am brofiadau Cyngor Sir
y Fflint a Chartrefi Cymunedol Bron Afon am ymestyn y
Gwasanaeth Llawn yn eu hardaloedd. Bydd y landlordiaid yn
rhannu eu dulliau o baratoi am y Credyd Cynhwysol a'r gwersi a
ddysgwyd..
12.30 pm A yw disgwyliadau cwsmeriaid yn tyfu'n gyflymach nag y medrwn eu diwallu?
Helen Reynolds, Social for the People
Ystafell David Spencer
Wrth i'r defnydd o dechnoleg ddigidol dyfu sy'n rhoi mynediad
24/7 i denantiaid a'r cyhoedd i sefydliadau, sut y gallwn ddelio â
disgwyliadau cynyddol cwsmeriaid?