safleoedd strategol cdll | coridor trafnidiaeth y gogledd ... · manylion project | wedi ei leoli...
TRANSCRIPT
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 0
Safleoedd Strategol CDLl | Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin Hydref 2019
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 1
Atebolrwydd ac Ymwadiad
Tra bod pob gofal rhesymol wedi ei gymryd wrth baratoi’r ddogfen hon i sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir ynddi yn gywir, mae’r ddogfen hon, ei chynnwys, enwau, testun a delweddau a gynhwysir yn y ddogfen, wedi eu cyflwyno ‘FEL MAE’ a heb warant o unrhyw fath, naill ai wedi ei ddatgan neu ei awgrymu. I’r raddfa eithaf o fewn cyfreithiau y DU, mae Cyngor Sir Sir a Dinas Caerdydd (‘Y Cyngor’) yn ymwadu ag unrhyw warant wedi ei ddatgan neu ei awgrymu, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i warantau a awgrymir parthed gofal rhesymol, ansawdd boddhaol neu addasrwydd ar gyfer pwrpas tebyg a heb dresmasu ar deitl.
Mae’r ddogfen yn cynnwys arweiniad a nodiadau ar rai agweddau o’r gyfraith fel y medrant effeithio ar berson cyffredin. Maent wedi eu bwriadu ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid ydynt yn creu cyngor cyfreithiol neu broffesiynol. Ni ddylid dibynnu arni fel sail ar gyfer unrhyw benderfyniad neu achos cyfreithiol. Nid yw’r Cyngor yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled a ddigwydd oherwydd dibyniaeth ar y ddogfen hon. Mae’r gyfraith yn newid drwy’r amser felly dylid ceisio cyngor arbenigol bob tro.
I’r graddau a ganiateir gan y cyfreithiau cymwysiadol, ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled canlyniadol neu niwed, boed yn uniongyrchol, yn ddamweiniol neu yn arbennig, i unrhyw ddefnyddiwr (naill ai yn codi o gytundeb, camwedd yn cynnwys esgeulustod neu fel arall) sydd yn codi allan o neu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r ddogfen hon.
Ni chaiff cynnwys y ddogfen hon lyffetheirio’r Cyngor wrth iddo ymarfer ei weithgarwch statudol, gan gynnwys,
heb gyfyngiadau i gyffredinolrwydd y blaenorol, ei weithgarwch fel Awdurdod Cynllunio Lleol neu awdurdod
Priffyrdd Lleol.
Mae’r cynlluniau a’r darluniau a nodir yn y ddogfen hon yn ymwneud â phrojectau byw ac felly gallant newid.
Gellir gweld manylion ymgynghoriadau cynllun diogelwch priffyrdd yn www.caerdydd.gov.uk
Ffotograffau, Mapiau a Darluniau - © Cyngor Caerdydd/© Datblygwr Cysylltiedig
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 2
Cyflwyniad
Mae gan Gaerdydd wyth Safle Strategol (sy'n cynnwys 500 neu fwy o anheddau a/neu ddefnyddiau
cyflogaeth sylweddol), a ddyrannwyd drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i helpu i ddiwallu'r angen am
gartrefi a swyddi newydd ledled y ddinas.
Er mwyn helpu i sicrhau nad yw trigolion y cymunedau hyn yn gwbl ddibynnol ar eu ceir a’u bod yn
gallu cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud eu siwrneiau dyddiol, darparwyd
cyfres o welliannau priffyrdd a thrafnidiaeth ochr yn ochr â'r datblygiadau newydd.
Yn cysylltu Safleoedd Strategol C, D ac E ag ardaloedd cyfagos, gan gynnwys canol y ddinas, ceir nifer o
welliannau dros y blynyddoedd nesaf ar Goridor y Gogledd Orllewin (sy'n cynnwys yr A4119 Llantrisant
Road a llwybrau eraill yng nghyffiniau'r safleoedd), gan gynnwys mesurau blaenoriaeth bws a
thrafnidiaeth gyflym i helpu i wneud amseroedd siwrneiau yn fyrrach ac yn fwy dibynadwy. Bydd
projectau hefyd yn cynnwys ehangu a gwella rhwydwaith beicio a cherdded Caerdydd i helpu i annog
mwy o deithiau ar feic ac ar droed.
Cynhyrchwyd y ddogfen fonitro hon i roi crynodeb rheolaidd o weithgarwch datblygu ar hyd Coridor y
Gogledd Orllewin. Mae'n cynnwys manylion y projectau hynny sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd,
gwaith a gynllunnir, a gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar.
Safle Strategol A: Ardal Fenter Ganolog Caerdydd / Hwb Trafnidiaeth Ranbarthol
Oddeutu 2000 o gartrefi
Safle Strategol B: Cyn Waith Nwy, Ferry Road:
Oddeutu 500 o gartrefi, gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig
Safle Strategol C: Gogledd Orllewin Caerdydd:
Lleiafswm o 5,000 o gartrefi, gyda chyflogaeth a defnyddiau cymunedol eraill
Safle Strategol D: I’r Gogledd o Gyffordd 33 ar yr M4
Oddeutu 2,000 o gartrefi, gyda defnyddiau cymunedol, cyflogaeth a Pharcio a Theithio
Safle Strategol E: I’r De o Greigiau:
Oddeutu 650 o gartrefi, gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig
Safle Strategol F: Gogledd Ddwyrain Caerdydd (i'r gorllewin o Bontprennau):
Oddeutu 4,500 o gartrefi, gyda chyflogaeth a defnyddiau cymunedol eraill
Safle Strategol G: I'r dwyrain o Ffordd Gyswllt Pontprennau:
Oddeutu 1,300 o gartrefi, gyda defnyddiau cymunedol cysylltiedig
Safle Strategol H: I’r De o Barc Busnes Llaneirwg
Safle cyflogaeth strategol.
E
D
F G
H
C
A
B OS Maps: © Crown copyright and database rights [2019]
Ordnance Survey 100023376
Coridor y Gogledd Orllewin
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 3
Trosolwg Coridor y Gogledd Orllewin
E
D
C
Clos Parc Radyr
Gorsaf Radur
Gorsaf
Danescourt
M4, Cyffordd 33 Parcio a Theithio
Gorsaf y
Tyllgoed
Gorsaf Waungron Cyfnewidfa Waungron
Y Gyfnewidfa Drafnidiaeth Ganolog
Gorsaf Ninian
Park
Gorsaf Caerdydd Canolog
Trosolwg Coridor y Gogledd Orllewin:
C Safle Strategol C (Gogledd Orllewin Caerdydd)
D Safle Strategol D (Tir i’r Gogledd o’r M4 C33)
E Safle Strategol E (I’r De o Creigiau)
Prif ffyrdd
Rheilffordd
Coridor Trafnidiaeth Gyflym Dangosol*
Llwybrau beicio oddi ar y ffordd ychwanegol
Cyffyrdd newydd/uwchraddedig yn y dyfodol
Gorsafoedd Rheilffordd
Cyfnewidfeydd Trafnidiaeth yn y dyfodol
Cyfleuster Parcio a Theithio yn y dyfodol
* Dangosir holl lwybrau posibl y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Bydd gwaith pellach yn pennu'r llwybr a'r aliniad mwyaf priodol.
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 4
Cynigion yn Ymwneud â Choridor y Gogledd Orllewin
Mae nifer o welliannau a rhaglenni seilwaith arfaethedig yn berthnasol i Goridor y Gogledd Orllewin:
Teithio Llesol: Mae Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol y Cyngor yn nodi llwybr beicio sylfaenol
sy'n ymestyn o Ganol Caerdydd, trwy Landaf ac yn dilyn aliniad wedi'i warchod ar hyd y rheilffordd
segur trwy safleoedd datblygu strategol C, D ac E. Mae gwelliannau eraill yn cynnwys darparu
cyfleusterau beicio oddi ar y ffordd a chyfleusterau cerdded ar hyd Llantrisant Road, i'r gogledd o
Danescourt Way, datblygu prif ffordd feicio sy'n cysylltu Canol y Ddinas a Chaerau a Threlái drwy
Leckwith Road a datblygiad tai Melin Elái, a datblygu llwybrau beicio eilaidd.
Rhwydwaith Bysiau Strategol: Mae'r Cyngor yn datblygu rhaglen dreigl o welliannau i seilwaith er
mwyn helpu i leihau amseroedd siwrneiau bws, gwella dibynadwyedd amser teithio a hwyluso
cyflwyno gwasanaethau newydd. Bydd y mesurau'n cynnwys lonydd bysiau newydd a darparu
cyfnewidfeydd lleol er mwyn ymestyn yr ystod o gyrchfannau y gellir eu cyrraedd ar fws, ac felly
ymestyn dewisiadau teithio.
Metro De Cymru: Mae cynlluniau gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer datblygu
Metro sy'n cysylltu rhanbarth ehangach De Ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys coridor rheilffordd
ysgafn posibl o ganol Caerdydd i Ogledd Orllewin Caerdydd trwy safleoedd strategol C, D ac E, a hefyd
yn cysylltu â Thonysguboriau a Phont-y-clun yn Rhondda Cynon Taf.
Rhaglen Gwella Mynediad i Orsafoedd Lleol: Gwelliannau i'r amgylchedd o amgylch gorsafoedd
rheilffordd lleol a fydd yn hwyluso mynediad o'r ardal gyfagos a throsglwyddiad i foddau eraill. Mae'r
mesurau arfaethedig yn cynnwys arwyddion, gwelliannau cerdded a gwybodaeth i deithwyr.
Rhaglen Parcio a Theithio: Mae’r cynigion ar gyfer datblygu cyfleuster parcio a theithio yng Nghyffordd
33 yn unol â'r safle strategol yn yr ardal hon a allai ymyrryd â thraffig ar yr A470, i'r gogledd o
Gaerdydd. [Darperir y cyfleuster parcio a theithio ar yr M4, Cyffordd 33 gan ddatblygwyr Safle Strategol
D ac mae’n rhan o’r caniatâd cynllunio i’r safle].
Rhaglen Priffyrdd - Gwelliannau Cyffordd Strategol a Gwelliannau Priffyrdd Strategol: Mae'r
rhaglenni hyn yn cynnwys gwelliannau arfaethedig i gyffyrdd a phriffyrdd er mwyn rheoli gwytnwch y
rhwydwaith, gwella mynediad a diogelwch ffyrdd, a hwyluso teithio a datblygu cynaliadwy.
Rhaglen Diogelwch ar y Ffyrdd: Gwelliannau seilwaith i ymdrin â phryderon diogelwch ffyrdd lleol
penodol, a darparu cyfleusterau gwell ar gyfer teithiau ar droed ac ar feic.
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 5
Cyfraniadau Datblygwyr
Mae datblygu safleoedd strategol Caerdydd yn seiliedig ar ddull uwchgynllunio, lle darperir seilwaith
ategol fel ysgolion, siopau a chyfleusterau cymunedol ochr yn ochr â'r cartrefi newydd a'u cysylltu â
chyfres o goridorau trafnidiaeth gynaliadwy. Yn ogystal â'r gwaith ar y safle hwn, bydd cyfraniadau
datblygwyr tuag at Goridor y Gogledd Orllewin yn cymryd tair ffurf:
Gwaith Gwella Trafnidiaeth:
Bydd y datblygwyr yn cynnal cyfres o weithiau gwella trafnidiaeth ger eu Safleoedd Strategol. Bydd y
gwaith hwn yn uwchraddio seilwaith cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar hyd Coridor y
Gogledd Orllewin, gan gynnwys gwella'r cysylltiadau â'r ardaloedd cyfagos a chreu mynedfeydd
newydd i'r safleoedd.
Cyfraniadau A106 (Ariannol)
Hyd yma, cafwyd cyfraniadau A106 (ariannol) gwerth tua £26m tuag at welliannau priffyrdd a
thrafnidiaeth ar draws Coridor ehangach y Gogledd Orllewin, gan gynnwys darparu gwasanaethau bws
i'r datblygiadau. Telir y cyfraniadau hyn mewn rhandaliadau ochr yn ochr â chamau cysylltiedig y
datblygiadau. Mae rhywfaint o'r seilwaith trafnidiaeth allweddol a ddarperir trwy'r cyfraniadau hyn yn
cynnwys:
Mesurau blaenoriaeth bysiau, gan gynnwys lonydd bysiau ar yr A4119, A48, St Fagans Road a
Fairwater Road
Trosi cylchfannau yn Bridge Road, Tangmere Drive a Waterhall Road i reolaeth signalau traffig
Llwybrau beicio ar y ffordd
Llwybr beicio oddi ar y ffordd rhwng Rhodfa'r Gorllewin a'r A4119 Heol Isaf
Gwelliannau gostegu traffig a gwelliannau gostegu a beicio yn Pwllmelin Road a Fairwater Road
Croesfannau newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr a gwelliannau eraill i gerddwyr a beicwyr
Parthau 20mya a nodweddion gostegu traffig
Uwchraddio troedffyrdd a ffyrdd cerbydau
Cynlluniau Teithio Preswyl
Bydd datblygwyr hefyd yn cynhyrchu Cynllun Teithio Preswyl ar gyfer eu safleoedd, a fydd yn cynnwys
manylion cynigion a thargedau i gyfyngu neu leihau nifer y siwrneiau un-teithiwr i'r safle a hyrwyddo
teithio trwy ddulliau cynaliadwy. Fel rhan o bob cynllun teithio, cynigir tocyn bws a thaleb beic £50 i
ddeiliad preswyl cyntaf pob annedd.
Gellir gweld manylion pellach am y gweithgareddau datblygu presennol ym mhob un o Safleoedd Strategol Caerdydd yn: www.caerdydd.gov.uk > Cynllunio> Monitro Gweithgareddau Datblygu Mawr.
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 6
Projectau presennol | Llantrisant Road (Rhwng cylchfan Waterhall Road a chyffordd Heol Isaf). Manylion Project | Wedi ei leoli rhwng
cylchfan Waterhall Road (tua’r de
ddwyrain) a chyffordd Heol Isaf (tua’r
gogledd orllewin), bydd y project hwn yn
creu cylchfan newydd sy'n darparu
mynediad i Safle Strategol C ac i'r orsaf
betrol gyfagos.
Bydd y gwaith ar hyd y rhan hon o’r coridor
yn cynnwys:
Darparu lôn fysiau i mewn, sy'n
cysylltu â'r gwaith priffyrdd cyfagos
ar gyffordd Heol Isaf.
Llwybr troed newydd ar hyd ochr
orllewinol y ffordd
Llwybr defnydd a rennir (cerdded/
beicio) ar hyd ochr ddwyreiniol y
ffordd
Gosod dwy groesfan twcan
(croesfannau i gerddwyr/beicwyr) yn
cysylltu â chysylltiadau llwybrau
troed cyfagos
Croesfan i gerddwyr/beicwyr
gerllaw'r orsaf betrol
Rhaglen | Amserlennwyd y gwaith hwn i
gael ei gwblhau yn gynnar yn 2020.
Pecyn Gwaith: 4
Adolygiad: V
Heol Isaf
© Aecom
Cynllun y briffordd ddangosol
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 7
Projectau Presennol | Llantrisant Road, cyffordd Heol Isaf.
Manylion Project | Wedi ei leoli ar gyffordd yr
A4119 (Llantrisant Road) a’r B4262 (Heol Isaf),
bydd y project hwn yn golygu dileu’r gylchfan
bresennol, a chreu cyffordd a reolir bedair
ffordd, gyda phwynt mynediad newydd i’r
datblygiad Plasdwr ehangach.
Bydd y gwaith ar hyd y rhan hon o’r coridor yn
cynnwys:
Darparu lôn fysiau i mewn, sy'n cysylltu
â gwaith priffyrdd cyfagos
Cyfleusterau croesi cerddwyr ym mhob
un o'r pedair cyffordd
Lonydd beicio ar y ffordd gerbydau a
llinellau stop blaenoriaeth ar gyffyrdd
Troedffyrdd yn cysylltu â'r ardaloedd
cyfagos
Llwybrau beicio a rennir a rhai wedi’u
gwahanu oddi ar y gerbytffordd.
Rhaglen | Amserlennwyd y gwaith hwn i gael ei
gwblhau yn gynnar yn 2020.
Pecyn Gwaith: 3
Adolygiad: P
Heol Isaf
Llantrisant Road
© Aecom
Cynllun y briffordd ddangosol
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 8
Projectau Presennol | Llantrisant Road, rhwng cyffyrdd Heol Isaf a Gorsaf Clos Parc Radyr.
Manylion Project | Wedi ei leoli ar hyd yr A4119
(Llantrisant Road), rhwng cyffyrdd Heol Isaf (tua’r
dwyrain) a Chlos Parc Radyr (tua’r gorllewin),
bydd y project hwn yn creu dau bwynt mynediad
newydd i Safle Strategol C.
Bydd y gwaith ar hyd y rhan hon o’r coridor yn
cynnwys:
Creu llwybr troed newydd a llwybr beicio
ar wahân ar hyd ochr ddeheuol y ffordd
Cysylltiad â hawl dramwy gyhoeddus
bresennol tua'r de ddwyrain
Croesfan twcan (cerddwyr/beicwyr) yn
croesi ar ffin ogledd-orllewinol y gwaith,
gan ddarparu cysylltiad â hawl dramwy
gyhoeddus bresennol
Darparu lôn fysiau i mewn a lloches bws
Rhaglen | Amserlennwyd y gwaith hwn i gael ei
gwblhau yn gynnar yn 2020.
Pecyn Gwaith 2
Adolygiad U
Heol Isaf
Llantrisant Road
Clos Parc Radyr
© Aecom
Cynllun y briffordd ddangosol
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 9
Projectau Presennol| Llantrisant Road rhwng cyffyrdd Heol St Y Nil a Cardiff Road
Manylion Project | Wedi ei leoli ar gyffordd
Llantrisant Road a Cardiff Road, bydd y project
hwn yn creu dau bwynt mynediad newydd i Safle
Strategol D. Bydd y gwaith i’r rhan hon o’r
coridor yn cynnwys:
Llwybrau troed a ffyrdd beiciau wedi eu
gwahanu, gyda choridor gwyrdd cysylltiedig
Cyfleusterau croesi i gerddwyr a beicwyr
gyda signalau
Darpariaeth feicio ar y ffordd gerbydau
Darpariaeth arosfannau bws a llochesi bws
Rhaglen | Mae'r gwaith yma am gael ei gwblhau
yn 2019.
Pecyn Gwaith:
Adolygiad:
Llantrisant Road
Cardiff Road
© Parsons Brinckerhoff
Cynllun y briffordd ddangosol
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 10
Gwaith Cynlluniedig | Llantrisant Road, rhwng Goitre Fach a Chlos Parc Radyr Manylion Project* | Mae cynlluniau rhagarweiniol yn cael eu paratoi ar hyn o bryd ar gyfer y rhan o'r coridor a fydd yn cysylltu rhwng y gwaith cyfredol yn Fferm Goitre Fach tua’r gorllewin a Chlos Parc Radyr tua’r dwyrain. Bydd y gwaith ar hyd y rhan hon o’r coridor yn cynnwys:
Cyffordd newydd a reolir gan signalau yn
creu pwyntiau mynediad gogleddol a
deheuol newydd i ddatblygiad Plasdwr.
Darpariaeth feicio ar y ffordd ac oddi ar y
ffordd.
Cyfleusterau croesi i gerddwyr a beicwyr
gyda signalau
Lôn fysiau i mewn
Llwybrau troed newydd ar hyd ochr ogleddol
a deheuol Llantrisant Road
*Gall y manylion newid. Pecyn Gwaith: Adolygiad:
Heol Isaf Llantrisant Road
Clos Parc Radyr
© Arup
Cynllun y briffordd ddangosol
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 11
Gwaith a Gwblhawyd yn Ddiweddar| Llantrisant Road (cyffordd newydd yn hen Fferm Goitre Fach).
Manylion Project | Wedi ei leoli i’r Gogledd o
hen fferm Goitre Fach, bydd y project hwn yn
uwchraddio’r A4119 ar hyd ffin y safle a chreu
cyffordd newydd a reolir gan signalau wrth
fynedfa’r datblygiad. Bydd y gwaith ar hyd y
rhan hon o’r coridor yn cynnwys:
Darpariaeth troedffyrdd a llwybrau
beicio
Pwyntiau mynediad i gerddwyr i'r safle
Cyfleusterau croesi gydag arwyddion i
gerddwyr a beicwyr ar draws
Llantrisant Road
Cyfleuster croesi bwrdd uwch ar draws
Llantrisant Road
Darpariaeth arosfannau bws a llochesi
bws
Gorffennwyd y gwaith yma yn 2019.
Llantrisant Road
© Phoenix Design Partnership
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 12
Gwaith a Gwblhawyd yn Ddiweddar
Sophia Close
Gwelliannau signalau cyffordd a chroesfan i gerddwyr
Pont Heol y Castell
Lonydd beicio i mewn ac allan a chyfleusterau croesi i gerddwyr
wedi'u huwchraddio
Heol y Gadeirlan Isaf
Lôn fysiau i mewn a lôn feicio ar y ffordd gerbydau allan. Parth
20mya newydd.
Heol y Gadeirlan
Dwy groesfan sebra newydd ger Plasturton Place a Sneyd Street
Llantrisant Road, rhwng cyffordd Bridge Road a Gorsaf Danescourt
Creu lôn fysiau i mewn a darparu llwybr troed / llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd.
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 13
Gwaith a Gwblhawyd yn Ddiweddar
Llantrisant Road, rhwng cyffordd Bridge Road a Gorsaf Danescourt
Uwchraddio o gyfleuster croesi pelican i groesfan twcan.
Pentrebane Road, i’r gorllewin o Beechley Drive
Creu mynedfa newydd i Safle Strategol C yng Nghae St Fagans, gyda darpariaeth llwybrau troed a ffordd feicio.
Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin | Hydref 2019 | 14