strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd (ebrill...

70
Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Ebrill 2013 Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 1

Upload: others

Post on 18-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl

    Llifogydd

    Ebrill 2013

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 1

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Document Control Sheet

    Document Author: Charlotte Beattie Line Manager: Phil Harrison

    Revision History

    Date Version No Summary of Changes 22.10.12 2.2 General amendments and grammar 1.11.12 2.3 Final version 7.1.13 3.0 Final version following Consultation

    18.4.13 3.1 Welsh Government Minor Amendments

    Approvals

    Approved by Signature Date Version Charlotte Beattie 22.10.12 2.3

    Charlotte Beattie 18.4.13 3.1

    Distribution: Consultation Name Title Date Version Cadw; John Berry 18.4.13 3.1 Countryside Council for Wales

    Theresa Kudelska 18.4.13 3.1

    Environment Agency Wales

    Keith Ivens Linda Thomas

    18.4.13 3.1

    Clwyd Powys Archaeological Trust

    Mark Walters 18.4.13 3.1

    English Heritage; Judith Nelson 18.4.13 3.1 Natural England; General Consultations 18.4.13 3.1 Welsh Water Dwr Cymru

    Dominic Scott and Gemma Roberts

    18.4.13 3.1

    Dee Valley Water Morgan Thomas 18.4.13 3.1 Wales and West Stephen Magee 18.4.13 3.1 Scottish Power Linda Lewis 18.4.13 3.1 Severn Trent Tim Smith 18.4.13 3.1 Strategic Flood Group for Wrexham CBC

    18.4.13 3.1

    Trunk Road Agency David Cooil 18.4.13 3.1 The five adjoining local authorities of Cheshire West and Chester; Powys, Shropshire, Denbighshire and Flintshire;

    Sandra Carlisle Graham Astley Wayne Hope, Neil Parry, [email protected]

    18.4.13 3.1

    Canal and River Trust Alison Truman and Lucas Brown 18.4.13 3.1

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 2

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    (Formerly British Waterways); Forestry Commission; [email protected] 18.4.13 3.1

    Lead Local Member; Cllr Mark Pritchard 18.4.13 3.1 North East Wales Flood Risk Management Wales (FRMW) Member;

    Cllr Michael Edwards 18.4.13 3.1

    Wrexham Local Planning Authority

    Lawrence Isted-Head of Community Wellbeing and Development

    18.4.13 3.1

    United Utilities Not sent-No contact details 18.4.13 3.1 Network Rail (NR) Claire Wise 18.4.13 3.1 BRB Kevin Giles 18.4.13 3.1 British Telecom Not sent-No contact Details 18.4.13 3.1 Welsh Government Paul Critchley 18.4.13 3.1 General Public 18.4.13 3.1 WLGA Neville Rookes 18.4.13 3.1

    18.4.13 3.1 Welsh Government Final submission of documents to

    Jo Larner and Paul Critchley 18.4.13 3.1

    Wrexham Copyright. All Rights Reserved.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 3

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Cynnwys

    Page

    Crynodeb Gweithredol 5

    Cyflwyniad 6

    Atodiad A: Ffynonellau Perygl Llifogydd

    Atodiad B Grŵp Llifogydd Strategol Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) Cyngor Sir Wrecsam

    Atodiad C Polisi'r LLFA ar Gau Cyrsiau Dŵr

    Atodiad D: Systemau Draenio Cynaliadwy Rheoli Wrth y Ffynhonnell

    Atodiad E: Asiantaeth yr Amgylchedd: Paratowch eich Eiddo

    Atodiad F: Ffynonellau Eraill o Wybodaeth

    Atodiad G: Geirfa

    Awdurdodau a Swyddogaethau Rheoli Risg 10

    Egwyddorion ac Amcanion Rheoli Perygl Llifogydd Lleol 14

    Asesu Perygl Llifogydd Lleol 17

    Mesurau a Gynigir 20

    Gweithredu (Costau a Buddiannau) 27

    Cyllid 41

    Amcanion Amgylcheddol (Cynlluniau a Rhaglenni Eraill) 43

    Adolygu a Monitro 45

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 4

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Crynodeb Gweithredol

    Mae Strategaeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn amlinellu egwyddorion, amcanion a mesurau'r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol. Diffinnir y perygl o lifogydd lleol fel "dŵr ffo wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin, gan gynnwys unrhyw lyn, pwll neu gorff arall o ddŵr sy'n cael ei borthi gan gwrs dŵr cyffredin." Mae'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â rheoli'r perygl hwn o lifogydd naill ai ar ffurf dyletswyddau statudol neu bwerau caniataol sy'n deillio o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009. Adlewyrchir gweithrediad y dyletswyddau a'r pwerau hyn yn y mesurau arfaethedig a nodir yn Ffigur 1.6 ar gyfer y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.

    Rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA), yw dyrannu digon o gyllid i weithredu'r mesurau hyn. Mae'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn nodi mesurau sy'n ymwneud yn benodol ag asesu perygl llifogydd lleol sy'n gysylltiedig ag Asesiadau Cychwynnol o'r Perygl Llifogydd neu PFRAs. Mae'r mesurau yn torri ar draws adrannau'r Cyngor ac yn adlewyrchu'r angen am ymagwedd drawsddisgyblaethol a'r manteision a briodolir wrth reoli perygl llifogydd.

    Mae'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn seiliedig ar egwyddorion craidd datblygu cynaliadwy ac mae'n gydnaws ag amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.

    Heb Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ni ddefnyddir unrhyw ddulliau strategol er mwyn rheoli perygl llifogydd. Mae cydgysylltu'r rolau'n gysylltiedig â mesurau perygl llifogydd yn debygol o ddyblygu neu waethygu materion sy'n achosi perygl llifogydd yn lleol. Rhagwelir y bydd y rhain yn cynyddu dros y pum mlynedd ar hugain nesaf a thu hwnt, yn sgil y glaw trwm a'r tywydd cyfnewidiol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 5

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Cyflwyniad

    Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 1 yn gosod y cyfrifoldeb am "berygl llifogydd lleol" a ddiffinnir fel llifogydd sy'n deillio o gyrsiau dŵr cyffredin, gan gynnwys llynnoedd, pyllau neu unrhyw arwynebedd arall o ddŵr, dŵr ffo wyneb a dŵr daear ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) .

    Cyfrifir y perygl o lifogydd, fel y cyfeirir ato yn y Strategaeth Genedlaethol, drwy luosogi'r tebygolrwydd (h.y. y tebygolrwydd o lifogydd neu erydu'r arfordir) â'r canlyniadau (h.y. effeithiau'r llifogydd neu erydu'r arfordir). Fel arfer, caiff tebygolrwydd digwyddiad ei gyfleu naill ai ar ffurf canran tebygolrwydd neu fel y siawns mewn unrhyw flwyddyn, er enghraifft ar ffurf tebygolrwydd llifogydd blynyddol o 1% neu 1 siawns mewn 100 o lifogydd mewn lleoliad mewn unrhyw flwyddyn. Mae tebygolrwydd llifogydd yn dibynnu ar ffactorau, sy'n cynnwys patrymau tywydd, daeareg, topograffi a defnydd tir. Gall canlyniadau llifogydd amrywio, ac ym mhob achos bydd effaith y digwyddiadau'n wahanol. Ceir perygl i fywyd yn gysylltiedig â phob digwyddiad llifogydd ac erydu arfordirol, naill ai i fywydau'r rhai yr effeithir yn uniongyrchol arnynt, neu i fywydau'r rhai sy'n ceisio helpu'r bobl hynny. Gall y canlyniadau gynnwys difrod i adeiladau a strwythurau, carthffosiaeth a malurion yn llifo i mewn i adeiladau ac i'r strydoedd, difrod i seilwaith y rhwydwaith a rhwydwaith anhramwyadwy, colli da byw a thir amaethyddol ac effeithiau ar seilwaith allweddol (fel gwaith trin y cyflenwad dŵr a gorsafoedd pwmpio a gwaith trin carthffosiaeth a gorsafoedd cyfleustodau, ysbytai, gorsafoedd tân, y gwasanaeth ambiwlans, gorsafoedd heddlu a systemau cludiant, gan gynnwys y ffyrdd a'r rheilffyrdd) a'r amgylchedd o ran ansawdd ac ecoleg y dŵr a threftadaeth ddiwylliannol a thirweddol lleoedd.

    Yn y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010), Rhan 1, Isadran (1), mae'r diffiniad o "lifogydd" yn cynnwys unrhyw achos lle bydd tir nad yw fel arfer wedi'i orchuddio â dŵr bellach wedi'i orchuddio â dŵr. I ddibenion isadran (1) nid oes gwahaniaeth a yw'r llifogydd wedi'i achosi gan law trwm, afon sy'n gorlifo neu sydd wedi torri ei glannau; argae sy'n gorlifo neu y mae dŵr yn torri drwyddo; dyfroedd llanw; dŵr daear neu unrhyw beth arall, gan gynnwys cyfuniad o ffactorau. Nodir hefyd nad yw "Llifogydd" yn cynnwys (3) (a)) llifogydd o unrhyw ran o'r systemau carthffosiaeth, onid yw hynny wedi'i achosi'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan gynnydd yng nghyfaint y dŵr glaw (gan gynnwys eira ac unrhyw ddyddodiad arall sy'n mynd i mewn i'r system neu'n effeithio arni fel arall neu (b) llifogydd ar ôl i brif bibell ddŵr fyrstio (o fewn adran 219 yn Neddf Diwydiant Dŵr 1991)

    Er mwyn i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol asesu risg a chanlyniadau perygl llifogydd lleol, mae'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010) yn gosod sawl dyletswydd a phŵer statudol sy'n gysylltiedig â Rheoliadau Perygl Llifogydd 20092 ac yn adeiladu ar y rheoliadau hynny. Mae'r dyletswyddau a'r pwerau hyn yn goleuo'r mesurau a nodir yn y strategaeth hon, a bydd angen

    1 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/29/contents

    2 Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009, ar gael yn http://www.legislation.gov.uk/uksi/2009/3042/contents/made

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 6

    http://www.legislation.gov.uk/uksi/2009/3042/contents/madehttp://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/29/contents

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    iddynt gyd-fynd ag amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru. Yn Ffigur 1.0 isod, nodir y prif fathau o gyfrifoldebau dan sylw.

    Ffigur 1.0 Cyfrifoldebau Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

    Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod sawl dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn eu rôl newydd fel LLFA, gan gynnwys: ° llunio strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol; ° dyletswydd i gydymffurfio â'r Strategaeth Genedlaethol; ° cydweithio ag awdurdodau eraill, gan gynnwys rhannu data; ° dyletswydd i ymchwilio i bob achos o lifogydd o fewn ei ardal, hyd y bo'r

    LLFA o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n briodol. ° dyletswydd i gadw cofrestr o strwythurau a nodweddion sy'n debygol o

    effeithio ar y perygl o lifogydd; a ° dyletswydd i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. ° rôl o gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal a chadw systemau draenio

    cynaliadwy; ° Caniatâd Cyrsiau Dŵr Cyffredin;

    Yn ogystal â'r rhain, mae gan bob LLFA nifer o'r hyn a elwir yn bwerau caniataol. Pwerau yw'r rhain sy'n eu galluogi i wneud rhywbeth, ond nad ydynt yn eu gorfodi i wneud hynny, ac maent yn cynnwys: ° pwerau i ofyn am wybodaeth; ° pwerau i ddynodi strwythurau neu nodweddion penodol sy'n effeithio ar

    berygl llifogydd neu erydu arfordirol; ° ymestyn pwerau i ymgymryd â gwaith sy'n cynnwys camau rheoli perygl

    ehangach; a'r ° gallu i achosi llifogydd neu erydu arfordirol o dan rai amodau;

    O dan adran 10 yn Neddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010, ceir gofyniad statudol i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (LFRMS)

    Mae'r strategaeth yn bwysig am ei bod yn cyfuno rhaglen waith Grŵp Llifogydd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd. Mae'n ymwneud yn uniongyrchol â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2012-2016 a'r tair blaenoriaeth strategol allweddol, sef Economi, Yma a Ninnau, Strategaeth Gymunedol Wrecsam 2009-2020 ac amryfal gynlluniau a strategaethau o wahanol adrannau o'r Awdurdod ac o awdurdodau rheoli perygl llifogydd o fewn y Grŵp Llifogydd Strategol ar gyfer Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. (Atodiad A)

    Ar ôl mabwysiadu'r mesurau a nodir yn y strategaeth hon, byddant yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau rheoli gwasanaeth er mwyn sicrhau dull sy'n seiliedig ar risg a rheolaeth gyfannol ar gynlluniau, rhaglenni a phrosiectau. Y brif egwyddor sydd wrth wraidd y mesurau yw datblygu cynaliadwy (Adran 27

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 7

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010)3, ac mae Canllawiau Datblygu Cynaliadwy 2011 yn cael eu hadlewyrchu a'u bodloni drwy Gynllun y Cyngor. O dan y rolau cyfarwyddo a chydgysylltu a gysylltir â’r Swyddog Cydnerthu Rheoli Perygl Llifogydd a’r Tîm Cynllunio at Argyfwng yn Adran Lles a Datblygu Cymunedol y Cyngor.

    Mae'r dull strategol hwn yn bwysig gan fod ein hinsawdd yn newid, ac yn y blynyddoedd i ddod byddwn yn profi hafau sychach, poethach a gaeafau cynhesach a gwlypach. Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd lefelau'r môr yn codi, y ceir dwysedd uwch o law, ac y bydd llifogydd yn fwy mynych. Bydd mwy ohonom yn profi llifogydd, a bydd effeithiau llifogydd yn fwy difrifol. Bydd y perygl i fywyd, i'r economi a'r amgylchedd hefyd yn cynyddu ac yn cynnig cryn her.

    Yn ôl y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr mae'n ofynnol nodi'r canlynol yn yr LFRMS: ° Awdurdodau rheoli risg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; ° Y swyddogaethau rheoli perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir y gall

    yr awdurdodau hynny eu cyflawni mewn perthynasyng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsamyng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ;

    ° Yr amcanion ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol; ° Y mesurau a gynigir i gyflawni'r amcanion hynny; ° Sut a phryd y disgwylir i'r mesurau gael eu rhoi ar waith; ° Costau a buddiannau’r mesurau hynny, a sut y bwriedir talu amdanynt; ° Asesiad perygl llifogydd lleol i ddiben y strategaeth; ° Sut a phryd y dylid adolygu'r strategaeth, a; ° Sut mae'r strategaeth yn cyfrannu at gyflawni amcanion amgylcheddol

    ehangach.

    Mae Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn seiliedig ar ddull cyffredinol a ddangosir yn Ffigur 1.1 isod:

    3 Canllaw Datblygu Cynaliadwy 2011 http://new.wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/nationalstrat egy/guidance/sdguidance/?skip=1&lang=cy

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 8

    http://new.wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waterflooding/flooding/nationalstrat

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Ffigur 1.1 Dull cyffredinol Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar gyfer rheoli perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir.

    Asesu’r risgiau: Beth yw maint y risg nawr ac i’r dyfodol?

    Gosod amcanion: Beth ydym ni am ei gyflawni? (nodau a

    chanlyniadau)

    Penderfynu ar yr hyn y mae angen ei wne er mwyn cyflawni’r amcanion rheoli risg ud:

    Gweithredu ac adolygu: gwneud yr hyn a gynlluniwyd a gweld a yw wedi gweithio

    Rhaid i'r strategaeth hon fod yn gyson â'r trefniadau i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol cenedlaethol yng Nghymru, a rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ymgynghori ag awdurdodau rheoli risg y gallai'r strategaeth effeithio arnynt (gan gynnwys awdurdodau rheoli risg yn Lloegr) a'r cyhoedd, a chwblhau’r Strategaeth erbyn 31 Mawrth 2013. Cydnabyddir nad oes gan Wrecsam arfordir. Serch hynny, rhaid cyfeirio at reoli perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir gan fod angen cydymffurfio â'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.

    Asesiadau Amgylcheddol Strategol (SEAs) Arfarniad yw Asesiadau Amgylcheddol Strategol (SEAs) o effeithiau posib cynlluniau a rhaglenni (gan gynnwys strategaethau) ar yr amgylchedd, cyn eu cymeradwyo a'u mabwysiadu'n ffurfiol. Ystyrir y strategaeth leol hon yn gynllun statudol, felly bu'n rhaid cynnal SEA.

    Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (HRAs) Oherwydd potensial y strategaeth hon i effeithio'n sylweddol ar safleoedd cadwraeth natur rhyngwladol, sef Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPAs) a safleoedd Ramsar, bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ochr yn ochr â'r SEA. Bydd yr HRA wedi'i gynnwys yn rhan o’r broses SEA, a bydd casgliadau'r HRA yn cael eu cyflwyno ar ffurf crynodeb yn Adroddiad Amgylcheddol yr SEA. Cyflwynir crynodeb annhechnegol o'r Adroddiad Amgylcheddol ochr yn ochr â fersiwn ddrafft y Strategaeth.

    Asesiad Effaith Cydraddoldeb Mae Asesiad Effaith Cydraddoldeb EIA/0620 wedi’i gwblhau. Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 9

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Awdurdodau a Swyddogaethau Rheoli Risg

    Dyma'r diffiniad o Awdurdod Rheoli Risg yng Nghymru a geir yn Adran 6 (15) yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010: ° Asiantaeth yr Amgylchedd; ° awdurdod llifogydd lleol arweiniol; ° cyngor dosbarth ar gyfer ardal lle na cheir awdurdod unedol; ° awdurdod priffyrdd; ° bwrdd draenio mewnol ar gyfer ardal ddraenio fewnol; ° cwmni dŵr sy'n cyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag ardal yng

    Nghymru;

    Mae hyn yn golygu bod 31 o Awdurdodau Rheoli Risg i'w cael yng Nghymru. Rhestrir y rhain yn Atodiad C i Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2011. Ac er bod y Ddeddf yn cyfeirio’n benodol at Awdurdodau Rheoli Risg, mae'n bwysig cydnabod cyfraniad allweddol sefydliadau mewnol ac allanol eraill, a rhanddeiliaid sydd wedi'u rhestru yng nghanllawiau Tachwedd 2011 ar gyfer Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. Dangosir cydberthynas yr awdurdodau hyn yn Ffigur 1.2 isod:

    Ffigur 1.2 Diagram Llywodraeth Cynulliad Cymru, Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd o Awdurdodau Rheoli Risg.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 10

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Ar gyfer Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae'r Awdurdodau Rheoli Risg wedi'u rhestru yn Ffigur 1.3 isod.

    Ffigur 1.3 Awdurdodau Rheoli Risg

    Awdurdod Rheoli Risg Manylion cyswllt Awdurdod Llifogydd Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Arweiniol Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY

    (gan gynnwys yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer ffyrdd lleol)

    Rhif ffôn: 01978 292000 Minicom: 01978 292067 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.wrecsam.gov.uk

    Asiantaeth yr Amgylchedd Swyddfa Ardal y Gogledd Cymru Ffordd Penlan

    (Cyfoeth Naturiol Cymru -Ebrill 2013 (Cyngor Cefn

    Parc Menai Bangor Gwynedd

    Gwlad Cymru, y Comisiwn LL57 4DE Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Ffôn 08708 506506 e-bost: enquiries@environment-Amgylchedd Cymru). agency.gov.uk

    gwefan: www.envionment-agency.gov.uk Rhif Ffôn Llifogydd 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr) Type Talk 0845 602 6340

    Dyffryn Dyfrdwy Dyffryn Dyfrdwy Packsaddle Ffordd Wrecsam, Rhostyllen Wrecsam LL14 4EH Rhif Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01978 833200 Ffacs: 01978 846888 Llinell Gollyngiadau: 0800 298 7112 Argyfwng: 01978 846946 e-bost: [email protected] Gwefan: Grŵp Dyffryn Dyfrdwy

    Severn Trent Cwmni Severn Trent Water Cyf Cysylltiadau Cwsmeriaid Sherbourne House St Martin’s Road, Finham Coventry CV3 6SD Ffôn: 024 7771 5000 Gwefan: www.stwater.co.uk

    Dwr Cymru / Welsh Water Dŵr Cymru - Welsh Water * Heol Pentwyn Nelson Treharris CF46 6LY Rhif ffôn y brif swyddfa: 01443 452300 Gwasanaethau cwsmeriaid: 0800 052 0140 Gwefan: www.dwrcymru.co.uk

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) ar gyfer ei ardal weinyddol. Y Cyngor hefyd yw'r Awdurdod Priffyrdd.

    Corff cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru(Cyfoeth Naturiol Cymru) Prif nod yr Asiantaeth yw diogelu a gwella'r amgylchedd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Newidiwyd ei chylch gwaith a’i rôl yn sgil y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr. Yn ogystal â llifogydd o'r môr ac o afonydd, mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd gyfrifoldebau newydd yn gysylltiedig ag erydu arfordirol, a rôl oruchwylio

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 11

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    ehangach ar gyfer yr holl waith o reoli perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir yng Nghymru. Rôl ddeuol yw hon, ac mae wedi golygu newid yn rôl weithredol yr Asiantaeth, a chyflwyno rôl oruchwylio newydd ar gyfer gweithgarwch rheoli perygl llifogydd

    Mae Cwmnïau Dŵr a Charthffosiaeth nid yn unig yn gyfrifol am ddarparu dŵr ond hefyd yn gyfrifol am wneud trefniadau priodol i ddraenio dŵr budr, trin gwastraff, carthffosydd dŵr wyneb a charthffosydd cyfunol. Y cwmnïau hyn sydd bennaf gyfrifol am systemau dŵr a charthffosiaeth, a all gynnwys llifogydd o garthffosydd, pibellau neu brif bibellau dŵr sydd wedi byrstio, neu lifogydd a achosir yn sgil methiannau yn y system. Nid oes unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud i'r trefniadau gweithredol ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth o ran perygl llifogydd. Mae'r ddeddf rheoli llifogydd a dŵr yn gosod nifer o ddyletswyddau statudol ar gwmnïau dŵr a charthffosiaeth, gan gynnwys: ° dyletswydd i weithredu'n gyson â'r Strategaeth Genedlaethol; ° dyletswydd i roi sylw i strategaethau rheoli perygl llifogydd lleol a

    chanllawiau eraill; ° dyletswydd i gydweithredu ag Awdurdodau Rheoli Risg eraill gan

    gynnwys rhannu data;

    Mae'n ofynnol i'r holl awdurdodau rheoli risg (ar wahân i gwmnïau dŵr) weithredu mewn modd sy'n gyson â strategaethau lleol a chenedlaethol. Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth arall mewn modd a allai effeithio ar berygl llifogydd neu berygl ar hyd yr arfordir, rhaid i Awdurdod Rheoli Risg roi sylw i strategaethau lleol a chenedlaethol, ac i unrhyw ganllawiau cysylltiedig.

    Darparwyr Cyfleustodau a Seilwaith Nid yw darparwyr cyfleustodau a seilwaith megis Network Rail, cwmnïau ynni a chwmnïau telathrebu yn awdurdodau rheoli risg. Fodd bynnag, mae ganddynt ran hanfodol yn y gwaith o reoli perygl llifogydd, oherwydd gall eu hasedau fod yn bwysig wrth gynllunio ar gyfer llifogydd. Ar ben hynny, mae'n bosibl y bydd ganddynt asedau fel ceuffosydd, y bydd angen rhannu gwybodaeth amdanynt ag awdurdodau rheoli perygl llifogydd. Maent eisoes yn cynnal cynlluniau ar gyfer datblygu a chynnal y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn y dyfodol, ac mae'n bwysig iddynt gynnwys ystyriaeth o faterion rheoli perygl llifogydd yn rhan o'r broses gynllunio hon.

    Bydd gwneud hyn yn fodd i sicrhau bod eu hasedau a'u systemau yn gallu gwrthsefyll perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir, a'u bod yn gallu cynnal y lefel ofynnol o wasanaeth os ceir digwyddiad. Efallai y bydd darparwyr cyfleustodau a seilwaith yn dymuno buddsoddi amser ac adnoddau er mwyn datblygu a chyflwyno'r strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd, er mwyn gwireddu'r manteision sylweddol iddynt hwy eu hunain ac i'w cwsmeriaid, a ddaw yn sgil rheolaeth effeithiol ar berygl llifogydd.

    Perchnogion Eiddo a Phreswylwyr Cyfrifoldeb deiliaid tai a busnesau yw gofalu am eu cartref neu eu busnes, gan gynnwys ei amddiffyn rhag llifogydd. Er y gallai sefydliadau neu berchnogion eiddo eraill fod yn atebol am iddynt esgeuluso eu cyfrifoldebau eu hunain, ceir Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 12

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    llawer o achlysuron lle bydd llifogydd yn digwydd er bod yr holl bartïon wedi cyflawni eu cyfrifoldebau. O ganlyniad i hyn, mae'n bwysig i ddeiliaid tai, y mae eu cartrefi mewn perygl o lifogydd, gymryd camau i sicrhau bod eu tŷ wedi'i ddiogelu diogelu.

    Mae'r camau hyn yn cynnwys: ° gwirio a yw eu cartref mewn perygl o lifogydd o afon, o'r arfordir neu o

    ffynonellau llifogydd lleol ° sicrhau eu bod wedi gwneud paratoadau rhag ofn y ceir llifogydd ° cymryd camau i sicrhau bod eu tai wedi'u diogelu rhag llifogydd, naill ai

    drwy fesurau parhaol neu fesurau dros dro ° cymryd camau i sicrhau bod y tŷ yn gallu gwrthsefyll llifogydd, fel na fydd

    gormod o ddifrod os ceir llifogydd. ° lle bo modd, prynu yswiriant rhag llifogydd.

    Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru'n darparu gwybodaeth ynghylch a yw aelwydydd mewn perygl ai peidio. Nid yw'r wybodaeth am berygl llifogydd dŵr wyneb ar gael i'r cyhoedd bellach, ac mae hi'n llawer anoddach mapio'r perygl hwnnw, ond ceir rhywfaint o wybodaeth yn Asesiad Rhagarweiniol Risg Llifogydd Gwynedd.

    Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn rhoi cyngor ynghylch beth i'w wneud er mwyn paratoi aelwydydd ar gyfer argyfyngau. Mae hyn yn cynnwys sut i greu cynllun llifogydd a fydd yn eich helpu i benderfynu pa gamau ymarferol i'w cymryd cyn ac ar ôl llifogydd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru hefyd wedi llunio taflen sy'n rhoi cyngor ynghylch sut i wella gallu eich cartref i wrthsefyll llifogydd.

    Dogfen arall werthfawr y dylai deiliaid tai gyfeirio ati yw Cyfeiriadur Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â'r cynnydd sydd ar gael i helpu i amddiffyn cartrefi neu fusnesau rhag llifogydd.

    Perchnogion Glannau Afon Mae tirfeddianwyr, deiliaid tai a busnesau y mae eu heiddo'n gyfagos ag afon, nant neu ffos yn debygol o fod yn berchnogion glannau afon, ac yn berchen ar y tir hyd at ganol y cwrs dŵr gyda hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol cydnabyddedig. Dylai manylion y Gofrestrfa Tir gadarnhau hyn.

    Mae gan berchnogion glannau afon hawl i amddiffyn eu heiddo rhag llifogydd ac erydu (ar yr amod nad ydynt yn gwaethygu'r sefyllfa i eraill yn rhywle arall) ond yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen iddynt drafod sut i wneud hynny gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru neu Gyngor Gwynedd. Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal y gwely a glannau'r cwrs dŵr ac am sicrhau nad oes unrhyw beth yn rhwystro, yn gwyro neu'n llygru llif y cwrs dŵr. Ceir manylion llawn yn y ddogfen 'Byw ar y Lan' gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

    Egwyddorion ac Amcanion Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 13

  • .

    Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Egwyddorion Mae'r strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy, fel prif egwyddor drefniadol. Ceir diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn Ffigur 1.4 isod, a ddaw o Ganlyniadau a Dangosyddion Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned 2009 a Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth Cymru4

    Ffigur 1 4: Diffiniad o ddatblygu cynaliadwy “Gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol drwy ffyrdd sy’n:

    • hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal;

    • yn gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu cyfyngau’r amgylchedd hwnnw – gan ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear a chadw ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.”

    Mae ein dull o ymwreiddio datblygu cynaliadwy fel ein prif egwyddor drefniadol yn seiliedig ar dair egwyddor allweddol a sawl egwyddor ategol gefnogol. Dyma'r tair egwyddor allweddol:

    ° Agwedd hirdymor: sicrhau bod pob penderfyniad yn hyrwyddo lles cynaliadwy pobl a chymunedau yn y tymor hir, ac nad ydynt yn hyrwyddo datrysiadau byrdymor a fydd yn parhau i'n cadw'n gaeth i batrymau a ffyrdd o fyw anghynaliadwy;

    ° Integreiddio: sicrhau bod pob penderfyniad yn rhoi ystyriaeth lawn i'r amryfal ddeilliannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a geisir, ac yn eu hintegreiddio'n llwyr lle bo modd; a

    ° Chynnwys: ymgysylltu â'r bobl a'r cymunedau yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau hyn, a'u cynnwys, fel bod gweithio mewn partneriaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy yn troi'n rhan annatod o'r ffordd rydym yn gweithio.

    Gellir crynhoi'r egwyddorion ategol, a'u perthnasedd i berygl llifogydd ac erydu arfordirol, ac i Gynllun y Cyngor fel a ganlyn:

    Yma: ° Ôl-troed ecolegol isel: Wrth wneud unrhyw waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, dylid gweithio mewn harmoni ag adnoddau a phrosesau naturiol yn hytrach na'u gorddefnyddio. Dylid hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a sicrhau cyn lleied ag sy'n bosibl o wastraff fel ein bod yn sicr y bydd y gwaith o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ein helpu i leihau ôl troed ecolegol Cymru;

    4 Strategaeth Amgylcheddol 2006 http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/envstratforwales/?skip=1&lang=cy

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 14

    http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/envstratforwales/?skip=1&lang=cy

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    ° Sylfaen o dystiolaeth: Dylid seilio penderfyniadau ar dystiolaeth, ond lle ceir bygythiad o ddifrod difrifol neu ddifrod na ellir ei wrthdroi, ni ddylid defnyddio diffyg sicrwydd gwyddonol llawn fel rheswm dros ohirio mesurau cost-effeithiol i hyrwyddo dulliau cynaliadwy o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol;

    ° Y llygrwr i dalu: Dylai'r rhai sy'n achosi costau cymdeithasol ac amgylcheddol yn gysylltiedig â gwaith datblygu ysgwyddo'r costau hynny; Bydd angen asesu mesurau lliniaru ac iawndal yn rhan o gynigion datblygu ar gyfer rheoli perygl llifogydd;

    ° Adlewyrchu natur unigryw: Dylai dulliau cynaliadwy o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol adlewyrchu ac ymateb i anghenion a phroblemau neilltuol cymunedau, a'r gwahanol amgylchiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng ngwahanol rannau o Gymru.

    Economi: ° Costau a manteision llawn: Dylai meddwl am systemau cyfan a chostau oes gyfan fod yn ymagweddau allweddol. Hefyd, dylid cynnwys ystyriaeth o'r peryglon - yn enwedig i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau - a'r ansicrwydd yn gysylltiedig â gweithredu neu beidio gweithredu, yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau;

    Ninnau: ° Lles: Er mwyn gweithredu'r dull datblygu cynaliadwy, mae angen dull sy'n mwyafu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau yng Nghymru yn y tymor hir, gan fyw o fewn terfynau amgylcheddol ar yr un pryd. Sicrhau bod ein hamgylchedd naturiol yn parhau i ddarparu gwasanaethau ecosystem, ac nad yw'r genhedlaeth bresennol na chenhedlaeth y dyfodol yn agored i berygl cynyddol. Cynyddu gallu cymunedau, yr economi a'r amgylchedd naturiol, hanesyddol a chymdeithasol i wrthsefyll perygl llifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru, ystyr Lles yw cyflwr corfforol, cymdeithasol a meddyliol cadarnhaol. Er mwyn sicrhau lles, mae angen bodloni anghenion sylfaenol; mae'n rhaid i unigolion fod ag ymdeimlad o bwrpas; a rhaid iddynt deimlo'u bod yn gallu cyrraedd nodau personol a chymryd rhan mewn cymdeithas .

    Mae'r canlynol yn ychwanegu at les: ° cydberthnasau personol cefnogol; ° cymunedau cryf a chynhwysol; ° iechyd da; ° sicrwydd ariannol a phersonol; ° cyflogaeth sy'n talu; ac ° amgylchedd iach a deniadol.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 15

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    ° Dull Ymaddasu a Reolir: Mae'r dull ymaddasu a reolir (o Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd)5 o reoli perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir yn tynnu sylw at les fel egwyddor graidd. Mae'n sicrhau bod mesurau rheoli perygl ar gael i bawb, a bod y cymunedau mwyaf amddifadus yng Nghymru yn derbyn yr un lefel o wasanaeth a'r cymunedau cyfoethocaf. Mae cyflenwi systemau rheoli effeithiol ar gyfer perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir yn un ffordd o greu cymunedau cryf a diogel lle bydd pobl am fyw a gweithio ac y bydd busnesau am fuddsoddi ynddynt.

    Amcanion

    Yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (NFCRMS), nodir pedwar amcan cyffredinol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru. Mae'r dull datblygu cynaliadwy a'r canlyniadau a sicrheir wedi'u halinio'n agos â'r amcanion hynny.

    NFCRMS 1: Lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd;

    NFCRMS 2: Codi ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol, a’u cynnwys yn yr ymateb i’r perygl hwnnw;

    NFCRMS 3: Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol NFCRMS 4: Blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl

    mwyaf.

    O dan yr amcanion hyn, nodir un ar ddeg o is-amcanion a mesurau i'w cymhwyso ar raddfa leol drwy'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, ac fe geir mwy o wybodaeth am y rhain yn yr adran ar weithredu.

    Yn adroddiad cwmpasu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol, nodwyd cynlluniau a strategaethau sy'n berthnasol i'r LFRMS ar raddfa'r UE, y DU a Chymru ac ar raddfa leol. Mae'r strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn un o blith nifer o gynlluniau, asesiadau a rhaglenni sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ddŵr a llifogydd, ac mae cysylltiadau uniongyrchol rhyngddi â'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a'r Cynlluniau Rheoli Dalgylchoedd Afonydd. Cyfeirir at Gynlluniau Rheoli Traethlinau, Asesiadau Canlyniadau Llifogydd, Asesiadau Cychwynnol o Berygl Llifogydd a Chynlluniau Rheoli Dŵr Wyneb yn yr adran ar asesu perygl llifogydd.

    Bydd y Grŵp Llifogydd Strategol yn cyfarwyddo a chydgysylltu'r strategaethau, y cynlluniau a'r prosiectau a fydd yn cyfrannu at reoli perygl llifogydd yn Wrecsam neu'n effeithio ar y rheolaeth honno. Bydd angen ymgorffori canlyniadau'r strategaeth, ar ôl ei chyhoeddi, yng Nghynllun y Cyngor, gan fonitro perfformiad cysylltiedig. Yn y Strategaeth, nodir y mesurau sy'n berthnasol i rolau ac adrannau presennol sy'n rhan o'r Grŵp Llifogydd Strategol a ddangosir yn Atodiad A. Mesurau a Gynigir

    5 Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd 2011 http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/111231floodingclimatechangecy.pdf

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 16

    http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/111231floodingclimatechangecy.pdf

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Mae Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymrwymedig i sicrhau gwelliannau i ansawdd bywyd, gan ddarparu lle sy'n ffynnu'n economaidd, lle sy'n ddiogel, a lle sy'n rhoi gwerth ar ddinasyddiaeth, ysbryd cymunedol a chyfrifoldeb cymdeithasol. Lle sy'n gofalu am ei amgylchedd adeiledig a naturiol, a lle sy'n gofalu am iechyd pobl. Bydd cynnwys y canlyniadau yng Nghynllun y Cyngor yn sicrhau blaenoriaethau'r Cyngor, sef Ninnau, Yma ac Economi, a hynny'n seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol.

    Mae egwyddorion y dull hwn yn bwysig am eu bod yn dangos bod angen edrych ar weithgarwch rheoli perygl llifogydd mewn modd mwy strategol a chyfannol. Cyflawnir hyn mewn dwy ffordd - drwy fabwysiadu egwyddorion cyffredinol ar gyfer y dull gweithredu a thrwy gynnal asesiad amgylcheddol strategol o ganlyniadau a mesurau yn erbyn cwmpas ac amcanion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

    Cyflwynir y dulliau newydd hyn drwy Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a thrwy Reoliadau Perygl Llifogydd 2009. Darnau newydd o ddeddfwriaeth yw'r rhain sydd wedi datblygu o'r dull traddodiadol o reoli perygl wrth amddiffyn rhag llifogydd a ddangosir yn Ffigur 1.5 isod, a luniwyd yn sgil Adolygiad ac argymhellion Pitt a Firesight ar ôl Llifogydd 2007.

    Ffigur 1.5 Rheoli Perygl Llifogydd

    Mae i ddulliau draenio ac amddiffynfeydd traddodiadol eu rhan o hyd wrth reoli perygl llifogydd ac amddiffyn ein cymunedau drwy ddefnyddio argloddiau, waliau a systemau draenio ar bibellau lleol. Mae ein cymunedau wedi cynnwys rhwydwaith o'r nodweddion hyn o fewn y fwrdeistref. Ceir gofyniad i sicrhau bod asedau a seilwaith yn cael eu cynnal a'u cofrestru a bod seilwaith digonol yn cael ei ddarparu. Mae ein hamgylchedd naturiol o fewn ein cymunedau yn darparu asedau naturiol ac yn cynnig cyfleoedd am ddatrysiadau peiriannu meddal o fewn systemau draenio cynaliadwy.

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi penderfynu ar nifer o fesurau a gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Chynllun 2012-16 y Cyngor a'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Caiff y gweithgareddau arfaethedig eu disgrifio yn Ffigur 1.6 a'u rhifo L1-11. Mae'r mesurau a gynigir wedi cael eu hasesu yn erbyn amcanion 01-09 yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, ac yn ymwneud yn benodol ag asesu perygl llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 17

  • Ffigur 1.6 Amcanion a Mesurau a Gynigir yn y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd: Amcanion Canlyniadau Amcanion Asesiad Mesurau'r LFRMS (L1-11) Amserlen Dangosyddion Awdurdod Cenedlaethol Cynllun y Amgylcheddol (Byrdymor, Rheoli Risg/ Rheoli Perygl u Cyngor Strategol Wrecsam 5 mlynedd, Rhanddeiliad Llifogydd a ef

    n

    Tymor Canolig, perthnasol Pherygl ar hyd T

    r 5-10 mlynedd, yr Arfordir o

    l:

    Hirdymor 10 (Cymru) eg mlynedd +) NFCRMS 1: Lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd;

    Ym

    a a

    Nin

    nau

    a’r

    Am

    can

    Str

    at Ninnau: PE3, PE4, PE5; Yma, PL1 PL2, CY3, PL4

    SEAO1. Diogelu iechyd a lles pobl;

    L1. Gwella lefel y ddealltwriaeth o berygl llifogydd lleol a hyrwyddo dull strategol o reoli perygl llifogydd o fewn yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, Partneriaid a Rhanddeiliaid Perygl Llifogydd;

    Canol/hir Lefelau'r amddifadedd yn gysylltiedig â pherygl llifogydd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Lefel yr wybodaeth sylfaenol am berygl llifogydd. Allbynnau monitro perfformiad Strategol y Mesurau LFRMS yng Nghynllun y Cyngor

    LLFA, yr Awdurdod Priffyrdd, Awdurdod Cynllunio, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cwmnïau Dwr,

    om

    i,

    Ninnau: PE3, PE4, PE5; Yma, PL1 PL2, CY3, PL4

    SEAO2. Lleihau'r perygl o lifogydd a sicrhau bod datblygiadau newydd wedi'u lleoli y tu allan i barthau C1 ac C2 TAN a bod egwyddorion draenio cynaliadwy a dyluniadau sensitif i ddŵr yn cael eu

    L2. Hyrwyddo cynllun datblygu a dull gweithredu llwyddiannus yng nghyswllt materion perygl llifogydd er mwyn mynd i'r afael â materion fel ymgripiad trefol, gwrthsefyll, dyluniadau sy'n sensitif i ddŵr a systemau draenio cynaliadwy

    Canol/hir Faint o eiddo, seilwaith allweddol ac adeiladau cymunedol sydd mewn perygl o lifogydd, o wahanol ffynonellau; Gostyngiad yn y perygl o lifogydd i eiddo a busnesau presennol. Materion risg llifogydd sy'n goleuo dyraniadau'r cynllun datblygu lleol a briffiau'r cynllun datblygu. Nifer y datblygiadau sy'n cynnwys cynlluniau draenio cynaliadwy, hyd at safon fabwysiadwy y gellir ei chynnal.

    LLFA, yr Awdurdod Priffyrdd, yr Awdurdod Cynllunio, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cwmnïau Dŵr

    Eco

    n cymhwyso i bob datblygiad.

    L3. Sefydlu cofrestr rheoli asedau effeithiol sy'n cynnwys strwythurau dynodedig ac

    Hir Adolygiad blynyddol o strwythurau sy'n bodoli eisoes. Nifer y cynlluniau datblygu bob blwyddyn sy'n cynnwys

    LLFA, yr Awdurdod

    2-16

    amserlenni cynnal wedi'u seilio ar berygl. systemau draenio cynaliadwy, hyd at safon fabwysiadwy y gellir ei chynnal. Cyfanswm yr asedau perygl llifogydd ar y

    Priffyrdd, Asiantaeth yr

    1 gofrestr bob blwyddyn. Adolygiad blynyddol o Amgylchedd,

    20 gyfundrefnau cynnal a chadw. Nifer y cyfundrefnau cynnal Cwmnïau Dŵr

    or a chadw a adolygir bob blwyddyn. Nifer yr asedau a nodir

    ng drwy adroddiadau ymchwil.

    Cyn

    go

    r B

    wrd

    eist

    ref

    Sir

    ol W

    recs

    am, C

    ynllu

    n y

    Cy Ninnau: PE3

    Yma, PL1, PL2, CY3, PL4 ac Economi E2, E1 ac E3

    SEAO3. Sicrhau cyn lleied o effaith ag sy'n bosibl ar seilwaith hanfodol y presennol a'r dyfodol;

    L4. Casglu a choladu gwybodaeth am ddigwyddiadau llifogydd mewn modd effeithiol drwy ddefnyddio systemau gwybodaeth daearyddol a chronfeydd data i nodi a blaenoriaethu ffynonellau a chanlyniadau perygl llifogydd o fewn cymunedau

    Hir Nifer yr adroddiadau ymchwil a gyhoeddir bob blwyddyn. LLFA, yr Awdurdod Priffyrdd, yr Awdurdod Cynllunio, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cwmnïau Dŵr, Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Dinesig, Railtrack ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru;

    NFCRMS2: Codi Yma PL2, PL4 SEAO4. Gwarchod a L5. Hyrwyddo a datblygu'r posibilrwydd o Hir Nifer y systemau draenio cynaliadwy gwledig a ddefnyddir LLFA, yr ymwybyddiaeth gwella bioamrywiaeth a ddefnyddio dulliau naturiol i reoli perygl llifogydd ac neu a ddatblygir bob blwyddyn. Awdurdod pobl o berygl chadwraeth natur ym i reoli defnydd tir, fel bod mesurau rheoli Arwynebedd y tir a ddefnyddir i storio dŵr dros dro ymhell Priffyrdd, yr llifogydd ac erydu Mwrdeistref Sirol ffynhonnell ac arafu a storio llifogydd (systemau o ardaloedd lle ceir lefel uchel o berygl bob blwyddyn. Awdurdod arfordirol, a’u Wrecsam draenio cynaliadwy) yn cael eu defnyddio i leihau Nifer y cynlluniau a weithredwyd i ailgysylltu afonydd â Cynllunio, cynnwys yn yr Lle PL2, CY3 SEAO5. Gwarchod pridd dŵr wyneb ffo. gorlifdiroedd. Asiantaeth yr ymateb i’r perygl a chanddo'r ansawdd Nifer yr ardaloedd o fawnogydd a adferwyd, neu Amgylchedd, hwnnw; gorau a gwella ansawdd arwynebedd yr ardaloedd hynny. Cwmnïau Dŵr, Yr

    a chymeriad y dirwedd; Ardaloedd o orlifdir yn y fwrdeistref a ail-goedwigwyd Nifer Ymddiriedolaeth

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 18

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    6. Cynnal a gwella adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr;

    y toeau gwyrdd. Cyfanswm yr ardaloedd o balmant athraidd ar gyfer defnydd preswyl, busnes a diwydiannol ledled y fwrdeistref. Nifer y pyllau gwanhau dŵr wyneb Nifer y casgenni cynaeafu dŵr glaw ledled y Fwrdeistref. Nifer o achosion lle rhoddwyd caniatâd cwrs dŵr cyffredin bob blwyddyn. % y datblygiadau ar dir a ddatblygwyd o'r blaen. Nifer y wardiau o blith yr 20% o'r wardiau mwyaf amddifadus a chanddynt fynediad at

    Camlesi ac Afonydd Dinesig, Railtrack ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, Asiantaethau Datblygu Gwledig, Ymddiriedolaeth

    Ninnau PE3, PE4; Yma PL2, PL4

    SEAO6. Cynnal ac/neu wella cymeriad trefluniau, asedau a threftadaeth ddiwydiannol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam;

    L6. Mabwysiadu ymagwedd polisi sy'n gwrthwynebu cau cyrsiau dŵr cyffredin

    Byr

    L7. Ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd Canol

    Ninnau PE4, SEAO7. Cynnal a gwella PE3; Yma, PL1 adnoddau dŵr ac wasanaethau/cyflogaeth. Archeolegol

    PL2, CY3, PL4 ansawdd dŵr Ha o ddiffyg mewn mannau agored o fewn y Fwrdeistref. Clwyd Powys

    ac Economi E1, % o fannau gwyrdd hygyrch, fel y cânt eu diffinio gan

    E2 ac E3 Gyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Strategaeth Rhwydwaith Gwyrdd a'r gwelliant yng % y naturioldeb o fewn y Fwrdeistref Sirol drwy ddulliau neu brosiectau rheoli llifogydd. Nifer yr adroddiadau ymchwil a gyhoeddir bob blwyddyn, pan fo'n ymarferol. Nifer yr asedau a nodir drwy adroddiadau ymchwil.

    Ninnau PE4, PE3; Yma, PL1 PL2, CY3, PL4 ac Economi E1, E2 ac E3

    SEAO8. Gwarchod a Gwella Tirwedd ac Amwynder Gweledol Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

    NCFRMS 3: Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol; ac

    NFCRMS4:Blaen oriaethu buddsoddiad yn y cymunedau lle ceir y mwyaf o berygl

    Ninnau PE3, PE4, PE5; Yma, PL1 PL2, CY3, PL4; Economi E1, E2 ac E3.

    SEAO9. Addasu datblygiadau fel eu bod yn gallu gwrthsefyll yr effeithiau os ceir newid i'r hinsawdd;

    L8. Hyrwyddo mwy o gydnerthedd, ymwybyddiaeth a pharodrwydd yn y gymuned sy'n annog pobl i weithredu er mwyn cynnal asedau ac amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n eiddo preifat mewn modd cyfrifol.

    Canol Nifer y darparwyr seilwaith allweddol sydd wedi cofrestru ar y System wedi'i Thargedu i Rybuddio am Lifogydd. Nifer y grwpiau cymunedol sydd wedi cofrestru ar systemau Rhybuddio'r Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Nifer yr adroddiadau ymchwil a gyhoeddir bob blwyddyn. % yr adeiladau masnachol, neu'r adeiladau newydd neu'r adeiladau wedi'u hailwampio sy'n bodloni safon "da iawn" BREEAM. % y cartrefi a adeiladwyd yn newydd, neu a ailwampiwyd a wnaeth fodloni safon dda iawn CSH Nifer yr eiddo lle gosodwyd mesurau amddiffyn eiddo bob blwyddyn. Nifer y Cynlluniau Cymunedol a gynhaliwyd bob blwyddyn. Y Cyfarfodydd Partneriaeth Llifogydd ardal chwarterol a gynhaliwyd bob blwyddyn.

    LLFA, Yr Awdurdod Cynllunio, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chwmnïau Dŵr Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd

    L9. Gwella'r ymateb i ddigwyddiadau llifogydd, Hir Nifer y gweithgareddau a gynhelir bob blwyddyn i LLFA, Fforwm a'r gwaith adfer ar eu hôl gan unigolion, ymgysylltu â grwpiau. Lleol Cymru busnesau a sefydliadau ymateb i argyfwng Y Cyngor ac asiantaethau sy'n ymrwymedig i hyfforddi Gydnerth y

    Timau EMRT Gogledd ac Nifer yr ymholiadau a geir gan bobl ar faterion sy'n Asiantaeth yr yswiriant sy'n ymwneud â pherygl llifogydd. Amgylchedd, Paratoi a phrofi cynlluniau llifogydd aml-asiantaeth Cwmnïau Dŵr Adolygu a datblygu Cynlluniau Llifogydd Cymunedol.

    L10 Cynyddu hyd yr eithaf y cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth rhwng yr LLFA, partneriaid a rhanddeiliaid perygl llifogydd

    Hir Rhoi diweddariad blynyddol o wybodaeth ar y Gofrestr Risgiau Cymunedol. Nifer y gweithgareddau a gynhelir bob blwyddyn i ymgysylltu â grwpiau. Cynnal a datblygu Grŵp Cydgysylltu Llifogydd Gogledd Cymru. Nodi partneriaethau a chyfleoedd i gydweithio yn y

    LLFA, Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd ac Asiantaeth yr Amgylchedd,

    L11 Canfod prosiectau a rhaglenni fforddiadwy, gan fanteisio i’r eithaf ar arian o

    Hir

    ffynonellau allanol dyfodol ar gyfer y Corff Cymeradwyo SDCau Monitro'r gofrestr asedau'n flynyddol. Gwella'r gwaith o gasglu a chofnodi gwybodaeth llinell sylfaen.

    Cwmnïau Dŵr

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 19

  • Asesu Perygl Llifogydd Lleol

    Mae'r Asesiad Cychwynnol o Berygl Llifogydd yn Wrecsam (PFRA) (2011) yn creu llinell sylfaen ar gyfer gwybodaeth am berygl llifogydd lleol yn y strategaeth leol. Mae'n bwysig cymryd i ystyriaeth awdurdodau cyfagos Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Powys a Swydd Amwythig fel bo modd cynnal dadansoddiad sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd. Dangosir y Perygl Llifogydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Ffigur 1.8, ac fe'i rhestrir yn Ffigur 1.9 o’r PFRA (2011) ac mi fydd y wybodaeth yma’n cael ei defnyddio i lunio’r dull lefel uchel, wedi ei seilio ar beryglon, o weithredu’r mesurau

    Perygl Llifogydd Lleol Ceir llifogydd dŵr wyneb ar ôl glaw trwm sydd, oherwydd y cyfaint mawr o ddŵr, yn ormod i'r systemau draenio ei dderbyn. Am ei fod yn digwydd yn gyflym, ychydig iawn o amser arwain sydd ar gael ar gyfer rhybuddion. Gall cynnydd sydyn yn lefelau'r dŵr achosi llifogydd lleol, a fydd yn aml yn effeithio ar strydoedd unigol ac/neu eiddo gan nad yw'r rhwydwaith draenio'n gallu ymdopi. Nodai'r PFRA mai llifogydd dŵr wyneb oedd yr achos llifogydd mwyaf cyffredin, lle byddai dŵr ffo wyneb o arwynebeddau palmantog yn effeithio ar eiddo o dan lefel arwynebedd y ffordd, a lle nad oedd y systemau draenio'n ddigonol, neu lle'r oedd rhwystr yn y systemau hynny.

    Bydd llifogydd dŵr daear yn digwydd ar ôl i ddŵr godi o ddyfrhaen waelodol, neu o ddŵr sy'n llifo o darddiadau annaturiol. Mae hyn yn tueddu i ddigwydd ar ôl cyfnodau hir o law trwm parhaus, ac mae'r ardaloedd lle ceir y perygl mwyaf yn aml ar lefel isel, lle mae lefel y trwythiad yn fwy tebygol o fod yn agos at yr wyneb. Gwyddys bod llifogydd dŵr daear yn digwydd mewn ardaloedd sydd uwch ben dyfrhaenau mawr, er bod y math hwnnw o lifogydd yn cael ei gysylltu'n fwyfwy â thywod a graean ar orlifdir mwy lleol. Ni chanfu'r PFRA unrhyw gofnodion yn y gorffennol o lifogydd dŵr daear o fewn y Fwrdeistref Sirol.

    Bellach, yr enw newydd ar Ddyfrffyrdd Prydain yw'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Dinesig. I ddibenion y PFRA, darparai'r Ymddiriedolaeth fanylion y rhwydwaith camlesi. Nid oedd unrhyw gofnodion hanesyddol o gamlas yn gorlifo na phroblemau llifogydd yn tarddu o gamlas o fewn y Fwrdeistref Sirol, a oedd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer llifogydd sylweddol. Cafwyd ambell achos o gamlas yn torri/gorlifo yn yr ardal a effeithiodd ar ardaloedd gwledig. Digwyddodd dau o'r achosion hyn ar ôl i foch daear dyllu o dan y gamlas. Ni wnaeth y digwyddiad cyntaf, yn 2004, ond achosi llifogydd mewn ardaloedd gwledig. Cafwyd llifogydd o ganlyniad i'r ail ddigwyddiad yn 2009. Bu'n rhaid gwacáu 1 eiddo ac fe achosodd y dŵr ddifrod i gar. Digwyddodd y ddau achos uchod o amgylch pentref Bettisfield

    Llifogydd o Garthffosydd Yn aml, ceir llifogydd o garthffosydd pan fydd gormod o ddŵr wyneb yn llifo i mewn i'r rhwydwaith draenio. Rhoddodd Dŵr Cymru wybodaeth a oedd yn cadarnhau bod Dŵr Cymru wedi cofnodi cyfanswm o 155 o ddigwyddiadau llifogydd o garthffosydd ers 2001. Nid yw data mapio Severn Trent ar gael ar hyn o bryd. Mae Severn Trent yn datblygu proses i ddarparu'r wybodaeth hon i Awdurdodau.

    Rhyngweithio rhwng Perygl Llifogydd Lleol a Phrif Afonydd Canfuwyd yn y PFRA nad oedd digon o ddata ar gael i ffurfio casgliadau pendant ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod hyn yn gwaethygu llifogydd dŵr wyneb mewn rhai ardaloedd, er enghraifft ym Mangor Is-y-Coed pan fo

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 20

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Afon Dyfrdwy yn gorlifo. Digwyddodd hyn yn ystod y llifogydd mis Tachwedd 2000 pan nad oedd y falfiau fflap unffordd yn gallu agor. Roedd hyn oherwydd bod lefel yr afon uwch eu pen yn creu gwasgedd a gadwai'r fflapiau ar gau. O ganlyniad i hyn, cyflwynwyd Pympiau Cyfaint Uchel i dynnu'r dŵr wyneb ychwanegol i mewn i system yr afon.

    Ni nodwyd bod unrhyw ardaloedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn uwch na'r trothwy ar gyfer perygl sylweddol gyda phoblogaeth uwch na 5,000. Yn Asesiad Cychwynnol o Berygl Llifogydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (PFRA) 20116, nodwyd 20 ardal 1km sgwâr sy'n cynnwys 200 eiddo, 20 o fusnesau neu 1 seilwaith hanfodol. Mae'r rhain yn ardaloedd yn bodloni gofynion ardaloedd perygl llifogydd statudol am nad ydynt yn cynnwys 5,000 o bobl, ond mae iddynt bwysigrwydd lleol. Mae'r ardaloedd hyn i'w cael yn bennaf o amgylch Wrecsam, Stad Ddiwydiannol Llai, Stad Ddiwydiannol Wrecsam a phentrefi trefol Gwersyllt, Rhosllannerchrugog, Rhiwabon, Coed-poeth, Cefn Mawr, Acrefair, Y Waun a Glyn Ceiriog, Dyffryn Ceiriog. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r trothwy lleol hwn yn sail ar gyfer yr LFRMS, ac fe gefnogir hyn drwy barhau i gasglu gwybodaeth am ddigwyddiadau llifogydd lleol.

    Mae'r ardaloedd 1km2 yn y PFRA yn dangos y gallai perygl llifogydd lleol effeithio ar 20,696 eiddo. Dengys mapiau dŵr wyneb Asiantaeth yr Amgylchedd fod cyfanswm o 451 eiddo o fewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd dŵr wyneb. Dengys map Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer dŵr wyneb y gallai digwyddiad 1 mewn 30 effeithio ar 1922 eiddo, a dangosir bod 5,312 eiddo mewn perygl ar y map 1 mewn 200 ar gyfer dŵr wyneb. Hyd yma, cafwyd 383 o ddigwyddiadau llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol.

    Roedd y digwyddiadau llifogydd a gafwyd eleni 2012-2013 o fewn y Fwrdeistref Sirol yn amrywio o ran maint, ac achoswyd patrymau gwahanol o ddigwyddiadau yn eu sgil. Ym mis Ebrill, achosodd cyfnod hir o law trwm broblemau'n gysylltiedig â dŵr ffo wyneb a rhybuddion o lifogydd yn Acrefair a'r Orsedd. Roedd y digwyddiadau ym mis Gorffennaf ac Awst yn gysylltiedig â llifogydd dŵr wyneb a fflachlif ym mhentrefi trefol Gwersyllt, Gresffordd, Marford, Llai a Burton Green. Ym mis Medi, cafwyd digwyddiadau llifogydd ar hyd a lled y fwrdeistref gan achosi llifogydd dŵr wyneb a llifogydd o afonydd yn Alun a'r tir fferm o amgylch Holt, Rhedynfre a'r Orsedd.

    Mae'r ardaloedd perygl llifogydd yn Wrecsam wedi'u rhestru yn Ffigur 1.8 yn dangos y sgwariau PFRA mewn perthynas â'r ardaloedd cyngor cymuned, ac yn dangos faint o adeiladau, busnesau neu seilwaith y gallai llifogydd effeithio arnynt. Mae'r tabl yn cymharu'r wybodaeth ag Ardaloedd Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n Agored i Lifogydd Dŵr Wyneb a'r Map Llifogydd ar gyfer Dŵr Wyneb, ardaloedd llifogydd dŵr daear, yr amlinell llifogydd hanesyddol a pharthau llifogydd, llifogydd o gamlesi gan Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Dinesig, a llifogydd o garthffosydd gan Dŵr Cymru, a'r data hanesyddol am lifogydd a gipiwyd gan yr LLFA. Mae'r tabl hefyd yn dangos y cyslltiadau rhwng yr ardaloedd hyn ag ardaloedd polisi Cynllun Dalgylch Afon Dyfrdwy a Chynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy.

    Cynllun Rheoli Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Dalgylch Afon Dyfrdwy (2010) Perygl llifogydd yw cyfuniad o'r tebygolrwydd y ceir math penodol o lifogydd a chanlyniadau (neu effaith) y llifogydd os yw'n digwydd, o fewn cyfnod o flwyddyn. Gelwir hyn yn Debygolrwydd Gormodiant Blynyddol, a fynegir ar ffurf % AEP. Dyma'r

    6 Asesiad Cychwynnol o Berygl Llifogydd CBSW (2011) Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 21

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    tebygolrwydd y ceir math penodol o lifogydd (neu faint y llifogydd) o fewn blwyddyn. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn debygol o gynyddu'r perygl llifogydd, ac yn ôl amcanestyniadau UKC09, ceir newid sylweddol i'r glawiad a fydd yn codi i 90%; bydd gaeafau gwlypach yn golygu bod afonydd yn llifo'n uwch, yn enwedig o gyfuno hyn â'r cynnydd yn lefel y môr ac ym mynychder glaw eithafol o drwm. Mae'r prif ffynonellau perygl llifogydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys llifogydd o afonydd, llifogydd dŵr wyneb, rhywfaint o lifogydd o garthffosydd, llifogydd dŵr daear a llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin.

    Cafwyd llifogydd mewn sawl lleoliad yn Nalgylch Rheoli Llifogydd Afon Dyfrdwy (CFMP). Daw'r llifogydd o'r brif afon Ddyfrdwy a'i hisafonydd yn bennaf, ond hefyd o amryw o gyrsiau dŵr llai. Cofnodwyd llifogydd sylweddol ym 1890, 1946 a 2000. Mae CFMP 7 yn nodi nifer o ardaloedd poblog yr effeithir arnynt, gan gynnwys yr Orsedd, Holt, Wrecsam, Coed-poeth a Rhosllannerchrugog Yn 2000, cafwyd llifogydd eang ar draws y dalgylch i fannau lle na chafwyd llifogydd erioed cyn hynny.

    Yn nalgylch Afon Dyfrdwy, gallai digwyddiad 1% AEP effeithio ar tua 4,200 eiddo. Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ystyrir bod 100-500 eiddo yn Wrecsam ei hun ac ym Mangor Is-y-Coed, a rhwng 50 a 100 eiddo yng Nghefn Mawr mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn gyfwerth â pherygl llifogydd i 0.5% o'r boblogaeth yn 2010, a'r rheswm am hyn yw mai ardaloedd o dir isel amaethyddol yw llawer o'r ardal sy'n agored i lifogydd o ffynonellau afonol. Mae prinder y cofnodion hanesyddol yn gysylltiedig â llifogydd dŵr wyneb yn cyfyngu ar y data hyn.

    Mae'r CFMP (2010) yn cynnwys chwe ardal bolisi ar draws y dalgylch. Mae'r ardaloedd polisi hyn wedi'u hymgorffori yng nghynlluniau gweithredu'r is-ardaloedd. Rhestrir opsiynau polisi allweddol 2, 3 a 4 ar gyfer Wrecsam yn Ffigur 1.7 isod.

    Ffigur 1.7 Polisïau Wrecsam ar gyfer Rheoli Dalgylch Afon Dyfrdwy Polisi 2: Rhannau Canol Afon Dyfrdwy, Bangor Is-y-Coed a Dwyrain y Fwrdeistref Ardaloedd perygl llifogydd isel i ganolig lle gallwn leihau'r camau presennol i reoli perygl llifogydd ar y cyfan. Byddwn yn tueddu i gymhwyso'r polisi hwn pan fo'r lefel gyffredinol o berygl i bobl ac i eiddo yn isel i ganolig. Mae'n bosibl na fydd canolbwyntio ar barhau i gynnal yr amddiffynfeydd presennol i'r graddau yr ydym yn gwneud hynny ar hyn o bryd yn cynnig gwerth am arian, os gallwn ddefnyddio adnoddau i leihau'r perygl lle bydd mwy o bobl mewn perygl, a'r perygl hwnnw'n uwch. Felly, byddem yn adolygu'r camau a gymerir i reoli'r perygl llifogydd, fel eu bod yn gymesur â maint y perygl hwnnw/

    Polisi 3: Rhannau Isaf Afon Dyfrdwy (Yr Orsedd, Holt, Rhedynfre a Phrif Ran Afon Alun, I'r gorllewin o Wrecsam Ardaloedd perygl llifogydd isel i ganolig lle'r ydym yn rheoli'r perygl llifogydd presennol yn effeithiol ar y cyfan; Byddwn yn tueddu i gymhwyso'r polisi hwn lle bo'r peryglon yn cael eu rheoli'n briodol ar hyn o bryd, a lle na ddisgwylir i'r perygl llifogydd gynyddu'n sylweddol yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu ein dull, gan chwilio am welliannau ac ymateb i heriau neu wybodaeth newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg. Efallai y byddwn yn adolygu ein dull o reoli amddiffynfeydd llifogydd a chamau eraill i reoli perygl llifogydd, er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli'r perygl mewn modd effeithlon ac yn defnyddio'r dull gorau o reoli perygl llifogydd yn y tymor hwy.

    7 EA (2010) Cynllun Rheoli Dalgylch Afon Dyfrdwy Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 22

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Polisi 4: Wrecsam (Yr Orsedd i Erddig a Rhostyllen) Ardaloedd lle ceir perygl llifogydd isel, canolig neu uchel lle'r ydym eisoes yn rheoli'r perygl llifogydd yn effeithiol, ond lle gallai fod angen i ni gymryd camau pellach er mwyn cyd-fynd â'r newid yn yr hinsawdd; Byddwn yn tueddu i gymhwyso'r polisi hwn lle tybir bod y peryglon yn cael eu rheoli'n briodol ar hyn o bryd, ond lle disgwylir i'r perygl llifogydd gynyddu'n sylweddol yn y dyfodol. Yn yr achos hwn bydd angen i ni wneud mwy yn y dyfodol i gadw perygl a fyddai fel arall yn cynyddu o dan reolaeth. Er mwyn cymryd camau pellach i leihau'r perygl bydd angen cynnal arfarniad pellach i asesu a oes opsiynau i'w cael sy'n gymdeithasol ac yn amgylcheddol gynaliadwy, sy'n ddichonadwy o safbwynt technegol, ac y gellir eu cyfiawnhau'n economaidd.

    Mae'r is-ardaloedd sy'n berthnasol i Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys Is-ardal 1: Rhannau Uchaf Afon Dyfrdwy, Is-ardal 2: Prif Ran Afon Alun, Is-Ardal 3: Rhannau Canol Afon Dyfrdwy, Is-ardal 4: Wrecsam ac Is ardal 5: Rhannau Isaf Afon Dyfrdwy. Gyfer pob un o'r is-ardaloedd hyn, ceir rhestr i bartneriaid, amlinelliad o'r materion, amlinelliad o'r ymagwedd sydd ei hangen o ran polisi a'r camau sydd eu hangen ar gyfer gweithredu.

    Cynllun Rheoli Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Basn Afon Dyfrdwy (2009) Ystyrir Afon Dyfrdwy yn rhan o fasn ehangach o afonydd sy'n cynnwys yr afon, ei hisafonydd a’r aber. Mae tarddiad Afon Dyfrdwy heb fod ymhell o'r Bala, ac mae'r basn cyfan yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Llyn Tegid hyd at Aber Afon Dyfrdwy (Ardal Gwarchodaeth Arbennig), gan gynnwys cronfeydd dŵr Llyn Tegid, Celyn a Brenig. Mae Afon Dyfrdwy yn cynnwys bioamrywiaeth o werth uchel oherwydd ei statws isel o ran maetholion yn wreiddiol a’i chynefinoedd torlannol o ansawdd uchel. Rhan o’r hyn sy’n cyfrannu at y diddordeb ynddi yw nifer o rywogaethau sy’n nodweddu afonydd o ansawdd uchel a chanddynt lefelau isel o faetholion yn y dŵr. Dylid cyfeirio’n arbennig at y ffaith bod eog yr Iwerydd yn defnyddio Afon Dyfrdwy fel llwybr mudo er mwyn cyrraedd silfeydd (man i gladdu eu hwyau) yn yr afon, ac mae rhai o’r silfeydd hyn o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

    Yn ôl statws cyfredol yr amgylchedd dŵr yn y Cynllun Rheoli Basn Afon, mae 28% o'r dyfroedd wyneb bellach ar statws da neu well o ran ecoleg/potensial. Aseswyd ecoleg 108 o gyrff dŵr wyneb a bioleg 72 o gyrff dŵr wyneb. Mae Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid yn Ardal Cadwraeth Arbennig, ac mae’n agored i fesurau a phwysau penodol o ran rheoli perygl llifogydd yn gysylltiedig â darnau o afon sydd wedi’u troi’n gamlesi gan newid cynefinoedd, argloddiau’n dymchwel, lefelau maetholion, darparu dŵr yn lleol ac i rannau o Orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr, aflonyddwch yn sgil gweithgareddau hamdden, siltio o waith adeiladu a rhywogaethau ymledol.

    Cyfyngiadau

    Ceir cyfyngiadau ar y data a ddarparwyd, ac mae pob ffynhonnell o wybodaeth yn amrywio o ran ffurf a lefel y manylder. Nodwyd gwelliannau i’r system gofnodi, ac mae’r rhain wedi’u cynnwys fel mesur yn yr LFRMS. Ar ôl eu mabwysiadu a’u monitro, defnyddir y gwelliannau i wybodaeth am berygl llifogydd a gedwir gan yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn sail wrth benderfynu sut i reoli perygl llifogydd lleol a phenderfynu ar y trefniadau i adolygu’r strategaeth yn barhaus.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 23

  • Ffigur 1.8 Perygl Llifogydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 24

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    Ffigur 1.9 Ardaloedd Perygl Llifogydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

    PFRA Grid Reference

    Sgwariau Glas PFRA 2011

    Ardal Cyngor Cymuned

    FMSFW ac AstSWF 30 mlynedd Asiantaeth yr Amgylchedd (mwy Ebrill 09) Map Parthau Llifogydd EA 2009

    Partneria eth Llifogydd Ardal

    Nifer y Digwyddiadau Llifogydd Hanesyddol

    DG5 Carthffosi aeth

    Llifogydd Dŵr Daear

    Camlesi neu Byllau

    Camlesi neu Byllau

    Is-ardal Afon Dyfrdwy

    Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy

    Centre Point) Eiddo

    No of people (2.23)

    Eiddo /Unedau Busnes

    Seilwaith Hanfodol (Ffyrdd, is-orsaf,

    rheilffordd, ysbytai neu feddygfeydd,

    ysgolion/Meithrinfeydd, ardaloedd

    POS)

    Ydy neu Nac Ydy (1 in 30, 50, 75, 100 or 200)

    Oes (Blwyddy n a Math)

    Oes (Nifer a

    Math) No TBC 0 , FMSFW 1in 30

    No TBC 0 >75 PONDS

    3 5 MD

    Abenbury 49 109

    49 No TBC 0 >50 PONDS

    3 5 MD

    Isycoed 0 0

    0 No TBC 0 >75 PONDS

    4 4 MD E336500 N350400

    3 Wrexham Industrial Estate West

    Holt 3 7

    3

    WXM LINK ROAD FLOOD Z2/3, ASTSFW

    >, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 >255075 PONDS

    4 4 MD E334440 N352590 E333460 N352480 E334480 N351490

    E338550 N351440 E332500 N351600

    E334430 N350460

    E333460 N350460

    E332500 N350450

    E333470 N349470

    4 Wrexham Town Centre 5 Wrexham Town Centre 6 Wrexham Town Centre 7 Wrexham Town Centre 8 Wrexham Town Centre 9 Wrexham Town Centre 10 Wrexham Town Centre 11 Wrexham Town Centre 12 Wrexham Town Centre 13 Wrexham Town Centre

    Gwersyllt 40 89

    TBC A494, A483,

    Playing Fields ASTSFW >, FMSFW

    1in 30 No TBC 0 >25, FMSFW

    1 in 30 No TBC 0 >75 PONDS

    4 4 MD

    Rhosddu

    3401 7584

    TBC

    A483, University, Retail, Civic 4

    schools

    ASTSFW >, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 >75

    PONDS

    4 4 MD

    Acton 4399 9810

    TBC Acton Park ASTSFW >, FMSFW

    1 in 30 No TBC 22 >75 PONDS

    4 4 MD

    Holt

    0 0

    TBC A5156, Chester Road, Holt Road,

    ASTSFW >, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 >25, FMSFW

    1 in 30 No TBC 1 >25, FMSFW 1 in 30 No TBC 5 >25, FMSFW 1 in 30

    2012 TBC 0 >25, FMSFW 1 in 30

    No TBC 1 >25

  • Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013-2019

    E332910 N349590

    Abenbury

    48 107

    TBC Abenbury Road

    FLOOD Z2/3, ASTSFW >, FMSFW 1 in 30

    No TBC 6 , FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 , FMSFW

    1 in 30 No TBC 0 >50>75 PONDS

    ¾ 2/4/ UD

    Brymbo 1 2

    TBC None ASTSFW >, FMSFW

    1 in 30 No TBC 0 >50, FMSFW

    1 in 30 No TBC 1 >25, No TBC 0 >25,

    No TBC 0 >25, FMSFW

    1 in 30 No TBC 0 >25, FMSFW

    1 in 30 No TBC 0 >25, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 >25, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 >25, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0

    PONDS

    3 1 UD E328400 N338200

    19. Chirk

    Y Waun Sud

    41 91

    TBC

    Shropshire Union Canal, Railway Sports Ground,

    Sewerage Treatment Plant, Industrial Estate

    FLOOD Z2/3, ASTSFW >, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 >75

    PONDS CANAL

    3 1 UD E320400 N337200

    20 Glyn Ceiriog

    Llansantffr aid Glyn Ceiriog

    246 549

    TBC B5479 Disused

    Mine, School

    FLOOD Z2/3, ASTSFW >, FMSFW 1 in 30

    No TBC 0 , FMSFW

    1 in 30 TBC

  • Gweithredu

    Wrth weithredu, mae'n bwysig edrych ar fesurau yn ôl eu maint. Mae'r Asesiad Cenedlaethol o Berygl ar hyd yr Arfordir yng Nghymru'n rhoi trosolwg genedlaethol a strategol o'r cyd-destun llifogydd sy'n goleuo deilliannau'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, o ran asesiadau'n seiliedig ar risg leol.

    Bydd gweithredu'r Strategaeth Genedlaethol ar raddfa leol yn effeithio ar bob rhan o gymdeithas ac ar bob cymuned, a bydd manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn gysylltiedig â hynny. Wrth reoli ein cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol, rydym yn cyfrannu'n uniongyrchol at ansawdd bywyd y bobl, ac yn helpu i greu cymunedau cryf a diogel. Mae rheoli llifogydd yn llwyddiannus yn cyfrannu at ddarpariaeth gynaliadwy gwasanaethau cyhoeddus ehangach, gan gynnwys addysg, gofal iechyd a'r mannau lle bydd pobl yn byw ac yn gweithio.

    Amcangyfrifir mai £200 miliwn yw cyfanswm cost y difrod blynyddol yng Nghymru o ganlyniad i lifogydd. Drwy dargedu buddsoddiad ar raddfa genedlaethol, gall Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd a rhanddeiliaid perthnasol leihau effeithiau llifogydd a gostwng y ffigur blynyddol hwn. Mae cymunedau sy'n ymwybodol o'r peryglon ac yn barod ar eu cyfer yn fwy gwydn. Byddant yn adfer ynghynt a bydd y costau adfer i unigolion a busnesau'n llai. Drwy ddefnyddio dulliau naturiol, gall swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ychwanegu at y dirwedd leol a hanesyddol a chyfrannu at yr economi drwy greu cysylltiadau a mannau amwynder.

    The implementation whilst led by Welsh Government and the Flood Risk Management Authorities, of Lead Local Flood Authorities, Environment Agency and Local Planning Authorities and Category 1 and 2 Responders Civil Contingencies Act 2004. Mae'n cynnwys llawer o randdeiliaid perthnasol ar raddfa leol a chenedlaethol. The legislation behind the strategy documents site within the wider European Legislation Framework. Mae mesurau a deilliannau'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn seiliedig ar ddyletswyddau a phwerau caniataol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009.

    Bydd yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam weithredu'n gyson a rhoi sylw dyledus i'r strategaeth leol a chenedlaethol o fewn cynlluniau gwasanaethau, rhaglenni, prosiectau a strategaethau. Ceir adrannau o fewn yr Awdurdod Lleol a chanddynt swyddogaethau a fydd yn sicrhau neu'n cyfrannu at sicrhau deilliannau o fewn y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Bydd y Grŵp Llifogydd Strategol yn rhoi cyfarwyddyd i reoli cyfraniad a'r gwaith o gydgysylltu'r cyfrifoldebau hyn. Bydd angen ymgorffori'r deilliannau hyn mewn cynlluniau rheoli gwasanaeth a'u hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor 2012-2016 ac unrhyw adolygiadau dilynol.

    Trefnir gweithrediad mesurau a deilliannau yn ddwy ran gan amcanion 1 a 2 y Strategaeth Genedlaethol, o ran lleihau effeithiau a chodi ymwybyddiaeth, a 3 a 4 o ran darparu ymatebion effeithiol a pharhaus a blaenoriaethu buddsoddiad. Dangosir gweithrediad y rhain, a'r dangosyddion ar eu cyfer, mewn perthynas â'r themâu strategol yng Nghynllun y Cyngor, sef Ninnau, Yma ac Economi, yn Ffigur 1.6 uchod.

    Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (NFCRMS) yn pennu pedwar amcan cyffredinol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru:

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 27

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    NFCRMS 1: Lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd;

    NFCRMS 2: Codi ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol, a’u cynnwys yn yr ymateb i’r perygl hwnnw;

    NCFRMS 3: Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol NFCRMS 4: Blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

    Defnyddir yr egwyddor strategol 'trefnu' yn sail i ddeilliannau'r strategaeth. Ar gyfer pob un o'r pedwar amcan cenedlaethol, ceir cyfres o is-amcanion. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn genedlaethol, ond ceir rhai amcanion penodol a arweinir gan yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn dylanwadu ar yr amcanion eraill yn anuniongyrchol neu'n eu harwain. Is-amcanion y strategaeth genedlaethol ac amcanion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol sydd wedi'u hamlygu'n WYRDD sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad Amcanion y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Rhestrir y dangosyddion ar gyfer y mesurau a'r deilliannau hyn yn Ffigur 1.6. Ceir eglurhad o'r dewisiadau sy'n gysylltiedig â'r mesurau hyn ac asesiad o'u heffeithiau yn yr Adroddiad Amgylcheddol. Mi fydd y mesurau’n cael eu gweithredu gan ddull lefel uchel wedi ei seilio ar asesiad o’r peryglon, ac ar ddadansoddiad o’r ardaloedd sydd dan fwyaf o fygythiad (sydd yn Ffigur 1.9).

    Mae a wnelo'r ddau amcan cyntaf yn y Strategaeth Genedlaethol â lleihau effeithiau llifogydd ar unigolion a chymunedau drwy godi ymwybyddiaeth am berygl llifogydd a meithrin dealltwriaeth. Mae'r rhain yn amcanion a fydd yn gofyn am waith partneriaeth rhwng gwahanol Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd, o ystyried y cyfrifoldebau am reoli gwahanol ffynonellau o berygl llifogydd, gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyflawni'r rôl o oruchwylio'r holl ffynonellau perygl llifogydd

    Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am arwain mesurau is-amcan un, gydag ymglymiad a chymorth rhanddeiliaid eraill perthnasol. Mae llawer o'r mesurau o fewn y pedwar amcan cyffredinol, a'r deg is-amcan arall yn y Strategaeth Genedlaethol, yn seiliedig ar y mesurau hyn.

    Mae is-amcanion, ac eithrio mapiau erydu arfordirol a Chynlluniau Rheoli Traethlin yn achos 2 i 4, yn dylanwadu'n uniongyrchol ar Fesurau a Deilliannau un i un ar ddeg yn y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Yn yr un modd â'r strategaeth genedlaethol, bydd deilliannau un i chwech yn y strategaeth leol yn dylanwadu ar fesurau a dewisiadau. Bydd yn rhaid i'r holl awdurdodau rheoli risg a'r rhanddeiliaid perthnasol roi sylw dyledus i strategaethau cenedlaethol a lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a pherygl ar hyd yr arfordir, a bydd dyletswydd arnynt i weithredu mewn modd sy'n gyson â'r strategaethau hynny.

    Mae'r is-amcanion ynghyd ag amcanion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, wedi dylanwadu ar Fesurau Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Wrecsam a nodir ym mhob adran.

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 28

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    Amcan 1 a 2 yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol:

    Lleihau effeithiau llifogydd ac erydu arfordirol ar unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd;

    Codi ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol, a’u cynnwys yn yr ymateb i’r perygl hwnnw;

    Ffigur 1.10 Is-amcanion Cenedlaethol 1-6 Is-amcanion Cenedlaethol

    Mesurau

    1. Darparu Arweiniad a Chyfeiriad

    a. Darparu polisïau cenedlaethol cyffredinol ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol drwy Strategaeth Genedlaethol a chanllawiau cysylltiedig.

    Strategol ar Lefel Genedlaethol;

    b. Darparu canllawiau cenedlaethol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy wrth arfer swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. c. Darparu canllawiau cenedlaethol ar baratoi Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol gan Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol.

    d. Datblygu pecyn cymorth i helpu i godi ymwybyddiaeth y gymuned a pharatoi ar gyfer perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

    e. Datblygu Safon Genedlaethol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy a chanllawiau cysylltiedig. ff. Cynnal adolygiad o bolisïau cenedlaethol mewn perthynas â rheoli perygl erydu arfordirol gan gynnwys ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer cymunedau sy’n wynebu lefelau cynyddol o berygl. g. Datblygu polisi ariannu cenedlaethol a dull blaenoriaethu er mwyn asesu ceisiadau am gyllid ar gyfer yr holl weithgareddau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. h. Sefydlu egwyddor i sicrhau bod modd cael yswiriant llifogydd ar gyfer adeiladau a chynnwys yn lle’r Datganiad o Egwyddorion. i. Drafftio a chychwyn deddfwriaeth sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol fel y bo angen yn ystod oes y Strategaeth hon. j. Codi ymwybyddiaeth o oblygiadau perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar draws pob sector busnes yn ystod oes y Strategaeth hon. k. Darparu Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth am Ymaddasu i’r Newid yn yr Hinsawdd.

    2. Darparu Arweiniad a Chyfeiriad Strategol ar Lefel Leol

    a. Llunio map erydu arfordirol i Gymru;

    b. Llunio’r ail gyfres o Gynlluniau Rheoli Traethlin erbyn 2012 a’u gweithredu’n gymesur yn ystod oes y Strategaeth hon. c. Datblygu Rhaglen Creu Cynefinoedd Genedlaethol fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith Amgylchedd Naturiol. d. Datblygu Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. e. Cyflawni cyfrifoldebau statudol yn cynnwys y rhai a amlinellir yn

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 29

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a’r Rheoliadau Perygl Llifogydd.

    ff. Mapio’r holl ffynonellau perygl llifogydd yn briodol.

    g. Gweithredu’r Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd yn gymesur yn ystod oes y Strategaeth.

    3. Datblygu polisïau ar gyfer rheoli defnydd tir yn effeithiol a gwella gweithdrefnau rheoli datblygu lle y bo’n briodol;

    a. Datblygu Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n cynnwys darpariaethau digonol o ran perygl llifogydd ac erydu arfordirol. b. Cydymffurfio â gofynion Polisi Cynllunio Cymru a’r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol. c. Darparu cyngor priodol ar berygl llifogydd ac erydu arfordirol mewn perthynas â cheisiadau cynllunio.

    d. Cynnal Asesiadau Canlyniadau Llifogydd Strategol priodol mewn perthynas â cheisiadau cynllunio. e. Cymeradwyo a mabwysiadu systemau draenio cynaliadwy (SDCau) gan y Corff Cymeradwyo a Mabwysiadu SDCau. Cynnig cyngor a chanllawiau ar reoli defnydd tir yn briodol.

    4. Sefydlu amserlenni cynnal a chadw rheolaidd ar gyfer asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

    a. Datblygu cofrestr o strwythurau naturiol ac artiffisial sy’n debygol o gael effaith ar berygl llifogydd erbyn 2014.

    b. Sefydlu rhaglen cynnal a chadw briodol a rheolaidd ar gyfer asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

    c. Dynodi strwythurau naturiol ac artiffisial neu nodweddion sy’n debygol o gael effaith ar berygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod oes y Strategaeth.

    5. Erbyn 2026 sicrhau bod pawb sy’n byw mewn ardal lle mae perygl llifogydd yn ymwybodol o’r perygl a wynebir, canlyniadau’r perygl hwn a sut i fyw gyda’r perygl hwnnw

    a. Cynnal a datblygu Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru..

    b. Rhaglen ymwybyddiaeth gymunedol a gweithgareddau cynnwys y gymuned, gan ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Cynnwys y Gymuned Rheoli Perygl Llifogydd.

    c. Rhestru grwpiau o fewn y gymuned sydd mewn perygl, yn cynnwys unigolion sy’n agored i niwed. d. Datblygu Un Pwynt Cyswllt cenedlaethol ar gyfer ymholiadau ynglŷn â pherygl llifogydd.

    e. Cynnal ac ehangu Gwasanaeth Uniongyrchol Llinell Rhybuddion Llifogydd yn ystod oes y Strategaeth.

    6. Gwella lefel gwrthsefyll eiddo a chymuned

    a. Sicrhau bod mesurau gwrthsefyll llifogydd o safbwynt eiddo a’r gofynion am SDCau wedi eu cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu. b. Gwella ymwybyddiaeth o fesurau gwrthsefyll o safbwynt eiddo a chanllawiau ar eu defnyddio. c. Datblygu dull cynaliadwy o ariannu mesurau gwrthsefyll o safbwynt eiddo unigol. d. Darparu rhybuddion priodol mewn perthynas â phob ffynhonnell llifogydd

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 30

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    Er mwyn cyflawni mesurau'r strategaeth, bydd angen cyfathrebu a chydgysylltu, a'r defnydd o gronfa ddata a mapiau canolog sy'n defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol. Cafodd data llinell sylfaen ar gyfer digwyddiadau llifogydd eu mapio a'u defnyddio'n sail ar gyfer yr Asesiad Cychwynnol o Berygl Llifogydd (2011), ac er bod cyfyngiadau mawr ar y data hyn..... Mae'r wybodaeth hon wedi cyfrannu at greu trothwy ac iddo arwyddocâd lleol, sef 200 o bobl neu 20 eiddo amhreswyl neu fusnes neu un seilwaith hanfodol. Ac er nad yw’n cyrraedd trothwy presennol y PFRA (sy’n gorfodi cyhoeddi’r mapiau perygl), mi fydd adrannau 2 a 3 y Rheoliadau Perygl Llifogydd yn golygu bod rhaid cyhoeddi mapiau perygl llifogydd a chynllun rheoli perygl llifogydd.

    Wrth fabwysiadu egwyddorion da wrth reoli cynllunio datblygu, bydd yn rhaid ystyried sawl mater (TAN 5) sy'n berthnasol i Ardal Basn Afon Dyfrdwy, gan gynnwys lleoliadau tai, systemau draenio cynaliadwy, lleihau effeithiau ffisegol datblygu trefol, perygl llifogydd, dewisiadau trin carthion, mentrau i leihau'r llif i'r gwaith trin carthion, mesurau effeithlonrwydd dŵr, a lleihau maethynnau o lygredd gwasgaredig. Bydd angen i'r rhain gynnwys arolygon lefel prosiect o rywogaethau a warchodir a dylai asesiadau ar gyfer datblygiadau sy'n agos at yr afon a'i hisafonydd gynnwys yr effeithiau posibl ar ddyfrgwn. Bydd angen i gynigion a chynlluniau datblygu ddangos dealltwriaeth o faterion llifogydd dŵr wyneb a phwysigrwydd cynnal cyfraddau dŵr ffo maes glas a chreu gofod ar gyfer dŵr, a dylunio sy'n sensitif i ddŵr. Deall y materion sy'n gysylltiedig â datblygiadau ar hap ac ymgripiad trefol a chymryd i ystyriaeth y newidiadau i bwerau galw i mewn gweinidogion ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd (Circular 07/12)

    Bydd gwybodaeth ac ymgynghoriadau mewnol ar faterion sy'n ymwneud â pherygl llifogydd lleol yn ffurfio rhan bwysig o'r dadansoddiad ar gyfer penderfyniadau rheoli datblygu a'r cynllun datblygu lleol sydd ar ddod yng nghyd-destun Polisi Cynllunio Cymru, Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol a Nodiadau Cyfarwyddyd y Polisi Cynllunio Mwynau.

    Mae Llywodraeth Cymru'n adolygu'r broses cymeradwyo Rheoliadau Adeiladu ar hyn o bryd. Cafodd system sgorio ac arfarnu'r Cod Cartrefi Cynaliadwy ar gyfer SUR1 ac SUR2 ei diwygio yn sgil Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ond credydau dewisol yw'r rhain, ac nid ydynt yn ofynnol yn y system gyfredol. Dylai'r system newydd ymgorffori safonau'r Cod Cartrefi Cynaliadwy a safonau BREEAM a sicrhau bod SUR1 ac SUR2 yn cael eu hailbennu'n ofynion gorfodol. Mae Adran 42 yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ychwanegu adran 106B at Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ("Deddf 1991"). Mae adran 106B yn cynnwys darpariaeth sy'n nodi na chaiff unigolyn ond arfer yr hawl, o dan adran 106(1) yn Neddf 1991, i gysylltu ei ddraeniau neu ei garthffosydd â charthffosydd cyhoeddus ond os bydd yr amodau a nodir yn 106B (2) a (3) yn y Ddeddf honno wedi'u bodloni. Mae'r amodau hyn yn cynnwys gofyniad i'r unigolyn ymrwymo i gytundeb â'r ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan adran 104 yn Neddf 1991 i fabwysiadu'r garthffos neu'r draen ochrol cyn adeiladu carthffos neu ddraen ochrol.

    Mae Wrecsam yn Sir strategol yng Nghymru a'r DU ac mae ynddi amrywiaeth eang o asedau materol, sy'n cynnwys ei thirwedd naturiol ac amrywiol, amaethyddiaeth a thwristiaeth. Mae seilwaith trafnidiaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hollbwysig i'r boblogaeth, ac ar gyfer gwerthu nwyddau a gwasanaethau'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n bosib y bydd llifogydd yn effeithio ar bob un o asedau Wrecsam i raddau amrywiol. Gallai'r galw cynyddol am dwf tai a thwf economaidd gynyddu'r perygl

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 31

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    llifogydd mewn ardaloedd os na roddir sylw llawn i'r peryglon a'r ymagweddau rheoli yn y strategaeth leol wrth gynllunio a dylunio'r twf hwnnw Mae'n bwysig bod asedau newydd ar ffurf systemau draenio cynaliadwy yn cael eu hadeiladu at safonau cenedlaethol a'u bod wedi'u dylunio a'u cynnal yn rhan o'r system rheoli asedau perygl llifogydd.

    Bydd gwybodaeth ar fapiau (GIS) daearyddol am berygl llifogydd lleol yn gymorth i nodi adeiladau rhestredig a nodweddion pensaernïol ac archeolegol. Drwy nodi'r cyfyngiadau hyn, ni fydd y strategaeth yn gwrthdaro â'r amcanion o gadw a gwella cymeriad hanesyddol ac ymddangosiad yr ardaloedd hyn. Bydd cynigion rheoli llifogydd wedi’u cynllunio mewn modd sy’n cynnal ac/neu’n gwella cymeriad trefluniau, treftadaeth ddiwylliannol ac asedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd Asedau Hanesyddol, gan gynnwys adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig, ardaloedd cadwraeth, parciau cofrestredig a nodweddion archeolegol yn cael eu nodi drwy groesgyfeirio yn erbyn ardaloedd risg llifogydd lleol sydd wedi’u mapio.Drwy ddatblygu system wedi'i thargedu i rybuddio rhag llifogydd, bydd modd sicrhau rhybuddion penodol ynghylch digwyddiadau llifogydd a ragwelir ar gyfer seilwaith ac asedau yr effeithir arnynt. Ni fydd hyn yn costio llawer a bydd y manteision ychwanegol o ran parodrwydd a'r gallu i wrthsefyll yn golygu treulio llai o amser yn adfer, a gwario llai o arian yn gwneud hynny. Bydd datblygu system rhybuddion llifogydd wedi’i thargedu yn sicrhau y rhoddir rhybuddion manwl ynghylch digwyddiadau llifogydd a ragwelir ar gyfer seilwaith ac asedau yr effeithir arnynt gan risg llifogydd. Ychydig o gostau sy’n gysylltiedig â hyn, a bydd y budd ychwanegol o fod yn barod ac o fod yn fwy gwydn yn sicrhau ei bod hi’n cymryd llai o amser i wneud gwaith adfer, ac y byddwn yn mynd i lai o gostau.

    Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ceisio rheoli perygl llifogydd i seilwaith hanfodol ac asedau materol ledled y Sir. Gallai'r dewisiadau yn yr LFRMS newid mynychder a maint llifogydd, ac o ganlyniad i hynny ceir newidiadau (cadarnhaol a negyddol) i'r defnydd o dir gan effeithio ar hyblygrwydd a chynhyrchiant y tir hwnnw. Ceir potensial hefyd i'r strategaeth fod yn fuddiol a hefyd yn andwyol o ran mynediad i adnoddau mwynol ac echdynnu'r adnoddau hynny, ac o ran pysgodfeydd, ac mae potensial iddi ddiraddio ansawdd neu swyddogaeth pridd a allai effeithio ar ddefnydd tir yn y dyfodol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig o economi Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae potensial i'r LFRMS effeithio ar y dirwedd, sy'n atyniad pwysig i ymwelwyr â'r ardal. Mae 22 o wardiau'r Fwrdeistref Sirol yn wardiau gwledig, ac mae'r CFMP (2009) yn cysylltu'r perygl o lifogydd ag ardaloedd gwledig Bangor Is-y-Coed, Holt a Rhedynfre ac ardaloedd trefol sy'n cyffinio ag ardaloedd gwledig, fel Cefn Mawr a New Broughton. Mae'n bwysig nodi'r ardaloedd hyn a deall y perygl er mwyn canfod dulliau gweithredu naturiol. Gallai'r rhain gynnwys defnyddio coetiroedd wedi'u targedu fel clustogau ar hyd ymylon caeau ar ganol neu ar ran isaf llethrau, neu fasnau ymdreiddio a phlannu coetiroedd dros ardal ehangach yn y dirwedd fel y cyfeirir atynt ynWoodland for Water; Woodland measures for meeting Water Framework Directive Objectives.

    Mae i seilwaith gwyrdd rôl bwysig yn natblygiad cynaliadwy Gogledd Ddwyrain Cymru, Swydd Gaer ac ardal Cilgwri. Mae'r Cynllun Gweithredu Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Rhannau Isaf Afon Dyfrdwy yn dangos sut mae coridorau o afonydd, gan gynnwys afonydd, camlesi a nentydd, ynghyd â choridorau rheilffordd, ymylon ffyrdd, cloddiau, ffosydd a llwybrau beicio, llwybrau cerdded a hawliau tramwy yn un elfen mewn seilwaith gwyrdd. Mae ei sylfaen dystiolaeth yn dangos sut y gellir nodi mentrau buddsoddi a gwella drwy nodi ardaloedd lle ceir perygl llifogydd, a'u mapio yn erbyn mannau gwyrdd Mae'n darparu tystiolaeth o fentrau presennol o fewn yr ardal ranbarthol Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 32

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    sy'n cynnwys Stamford Brook a Phorth y Gogledd sy'n arddangos egwyddorion yr ymagwedd polisi hon at Rannau Isaf Afon Dyfrdwy, a'r camau sydd eu hangen. Mae'r cynllun gweithredu hwn trafod un o ddwy ardal y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd o dan y Fframwaith Seilwaith Gwyrdd.

    Bydd dulliau naturiol o reoli perygl llifogydd yn fwy cynaliadwy a chost-effeithiol nag amddiffynfeydd peirianneg galed, a gallant ddod â manteision eraill yn eu sgil i fywyd gwyllt ac amwynder mewn ardaloedd sydd wedi'u hadfywio a mannau trefol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynnal ymchwil ac mae tystiolaeth i ddangos manteision y dull hwn. Gall dulliau naturiol gynnwys technegau sy'n defnyddio tir i gadw dŵr dros dro draw o ardaloedd lle ceir lefel uchel o berygl, ailgysylltu afonydd â gorlifdiroedd, ymestyn cyrsiau dŵr i greu aliniad mwy naturiol, adfer mawnogydd, rhoi rhwystrau ar sianelau draenio annaturiol, plannu coedwigoedd o'r newydd ar orlifdiroedd, toeau gwyrdd, palmentydd athraidd, a phyllau gwanhau dŵr wyneb

    Drwy wella'r broses o gasglu data i un system fapio gyfun ar gyfer yr awdurdod lleol, bydd modd sicrhau bod gwahanol swyddogaethau'n ystyried neu'n rhoi sylw i berygl llifogydd lleol a'u natur gydberthnasol. Bydd hynny'n fodd i hwyluso'r gwaith o ddadansoddi a monitro patrymau digwyddiadau llifogydd mewn perthynas ag asedau a seilwaith presennol, gan dynnu sylw at faterion sy'n codi droeon, neu faterion yn gysylltiedig â gwaith cynnal. Drwy lunio amserlen flynyddol ar gyfer cynnal asedau, bydd modd sicrhau bod y ceisiadau y mae angen eu caniatáu ar gyfer cyrsiau dŵr cyffredin yn cael eu hamserlennu a bod modd cyfyngu ar broblemau'n gysylltiedig â dylunio, ecoleg neu'r dulliau y bwriedir eu defnyddio drwy gynnal trafodaethau cyn cyflwyno cais. Gall y broses ymchwilio a'r gofrestr asedau leihau costau'n gysylltiedig â difrod yn sgil llifogydd a lleihau'r gost o ailadrodd camau nad ydynt yn datrys materion sy'n gysylltiedig â ffynhonnell y llifogydd. Mesurau bychain, a allai arbed costau uwch yn y tymor hir sy'n gysylltiedig â'r perygl llifogydd parhaus y gallwn ei ragweld yn sgil y Newid yn yr Hinsawdd.

    Mae gan yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol bŵer caniataol i ddynodi strwythurau sy'n effeithio ar berygl llifogydd fel na all perchnogion addasu na thynnu'r strwythurau hynny o'u safle presennol. Cynhelir asesiad ar gyfer y weithdrefn ddynodi hon, ac mae'n rhaid bodloni pedwar amod er mwyn gallu ystyried dynodiad ffurfiol. Dyma'r pedwar amod dan sylw: Amod 1: bod yr awdurdod dynodi o'r farn bod bodolaeth neu leoliad y strwythur neu'r nodwedd yn effeithio ar berygl llifogydd neu berygl erydu arfordirol; Amod 2: bod gan yr awdurdod sy'n dynodi swyddogaethau rheoli perygl llifogydd neu erydu arfordirol sy'n gysylltiedig â'r perygl yr effeithir arno; Amod 3: nad yw'r strwythur neu'r nodwedd eisoes wedi'i ddynodi gan awdurdod arall; Amod 4: nad yw perchennog y strwythur neu'r nodwedd yn awdurdod dynodi;

    Gall dynodi asedau a’u cynnal leihau effeithiau llifogydd a gwella’r dulliau o reoli perygl llifogydd o fewn y Fwrdeistref. Roedd y digwyddiadau llifogydd a gafwyd eleni 20122013 o fewn y Fwrdeistref Sirol yn amrywio o ran maint gan achosi patrymau gwahanol o ddigwyddiadau. Ym mis Ebrill, achosodd cyfnod hir o law trwm broblemau'n gysylltiedig â dŵr ffo wyneb a rhybuddion o lifogydd yn Acrefair a'r Orsedd. Roedd y digwyddiadau ym mis Gorffennaf ac Awst yn gysylltiedig â llifogydd dŵr wyneb a fflachlif ym mhentrefi trefol Gwersyllt, Gresffordd, Marford, Llai a Burton Green. Ym mis Medi,

    Ebrill 2013 Fersiwn 3.1 33

  • 2019 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Wrecsam - Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013

    cafwyd digwyddiadau llifogydd ar hyd a lled y fwrdeistref gan achosi llifogydd dŵr wyneb a llifogydd o afonydd yn Alun a'r tir fferm o amgylch Holt, Rhedynfre a'r Orsedd.

    Mae'r digwyddiadau hyn yn arwain at achosion o lifogydd, ac mae'n rhaid cofnodi rhestr o wybodaeth sylfaenol ar gyfer yr holl achosion hyn ynghylch lleoliad, ffynhonnell, maint, ymateb a chamau dilynol os oes angen. Os bydd llifogydd yn effeithio ar un busnes neu eiddo preswyl mewnol, neu o fewn dim ag effeithio ar bedwar eiddo neu fwy, bydd angen llunio adroddiad ymchwil llifog