trafod economeg

6
Trafod Economeg PWNC DAN SYLW: Cyrchnodau Datblygiad y Mileniwm a Thu Hwnt RHIFYN 1

Upload: wjec-cbac

Post on 25-Jul-2016

242 views

Category:

Documents


8 download

DESCRIPTION

PWNC DAN SYLW: Cyrchnodau Datblygiad y Mileniwm a Thu Hwnt

TRANSCRIPT

Page 1: Trafod Economeg

Trafod Economeg

PWNC DAN SYLW:Cyrchnodau Datblygiad y Mileniwm a Thu Hwnt

RHIFYN 1

Page 2: Trafod Economeg

Yn sicr gwnaeth yr MDGs godi ymwybyddiaeth yn y gymuned ryngwladol, ac mae cefnogaeth yr Arlywydd Obama yn yr Unol Daleithiau wedi helpu yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Yn ddiweddar, yn dilyn addewid y Prif Weinidog Cameron, y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y G7 i barchu ei hymrwymiad i sicrhau neilltuo 0.7% o’i Chynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC) ar gyfer cymorth tramor. Mae’r ffigur o 0.7% yn darged gafodd ei osod gan y CU yn 1970 ar gyfer economïau datblygedig

i helpu i hyrwyddo datblygiad economaidd mewn gwledydd Llai Economaidd Ddatblygedig (LlEDd). Fodd bynnag, mae cynnydd ynglŷn â’r wyth MDG wedi bod yn anghyson yn ystod y 15 mlynedd ers 2000. Mae rhai cymunedau wedi mynd tuag yn ôl, hyd yn oed, ond yn aml mae hyn wedi bod o ganlyniad i lywodraethu gwael a gwrthdaro.

MDG rhif 1 oedd lleihau tlodi eithafol, gan haneru’r gyfran o bobl sy’n byw ar lai na $1.25 y dydd rhwng 1990

Cyrchnodau Datblygiad y Mileniwm a Thu Hwntgan R. S. Nutter (Prif Arholwr)

Roedd Cyrchnodau Datblygiad y Mileniwm (MDGs: Millennium Development Goals) yn wyth cyrchnod datblygiad rhyngwladol gafodd eu sefydlu yn Uwchgynhadledd y Mileniwm oedd wedi’i chynnal gan y Cenhedloedd Unedig (CU) yn y flwyddyn 2000. Roedd hefyd gyfanswm o 21 targed gafodd eu gosod i gyflawni’r cyrchnodau hyn. Roedd pob un o aelod wladwriaethau’r CU yn ymrwymedig i helpu i gyflawni’r MDGs canlynol erbyn 2015.

Trafod Economeg • Rhifyn 1 • Tudalen 1

Gwella iechyd y famTargedu HIV/AIDS,

malaria a chlefydau eraill

Page 3: Trafod Economeg

a 2015. Yn wir mae’r nifer byd-eang o bobl mewn tlodi eithafol wedi gostwng o 1.9 biliwn yn 1990 i 836 miliwn yn 2015. Mae’r ffigur hwn yn ymddangos yn drawiadol, ond mae’n bosibl egluro’n rhannol y gostyngiad i gyflawni’r cyrchnod hwn gan dwf economaidd yn China sydd wedi codi miliynau o bobl China allan o dlodi. Er hynny, mae tlodi absoliwt yn Affrica is-Sahara wedi gostwng gan fwy na chwarter ers 1990.

Roedd MDG rhif 2 yn canolbwyntio ar gyflawni addysg gynradd i bawb, gan fod llythrennedd a rhifedd yn gallu cynnig llwybr allan o dlodi eithafol. Yn fyd-eang, mae nifer y plant nad ydynt yn mynd i’r ysgol wedi gostwng o 100 miliwn yn 1990 i 57 miliwn yn 2015. Affrica is-Sahara sydd wedi cael y cynnydd mwyaf, gyda chofrestru mewn ysgolion yn codi o 52% yn 1990 i 80%

heddiw. Nid yn unig nifer y plant mewn addysg sydd o bwys, fodd bynnag; mae ansawdd yr addysg maen nhw’n ei chael yn cyfrif hefyd. Mae hwn yn llawer mwy anodd ei feintioli. Er enghraifft, mae nifer anghyfartal o israddedigion yn Affrica is-Sahara yn astudio ar gyfer graddau yn y gwyddorau cymdeithasol (sy’n gysylltiedig â swyddi mewn llywodraeth) yn hytrach na graddau mewn gwyddoniaeth, peirianneg ac economeg amaethyddol.

Bwriad MDG rhif 3 oedd hyrwyddo cydraddoldeb y rhywiau. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, nid yw rhoi grym i fenywod wedi cael ei gyflawni ac mae anghydraddoldebau enfawr yn parhau rhwng y rhywiau. Mae’r rhain o safbwynt mynediad i addysg, hawliau tir, cyfranogiad yn y broses wleidyddol a chyrraedd swyddi uwch yn y gymuned busnes. Mae ffactorau diwylliannol a chrefyddol wedi dal menywod yn ôl mewn llawer o wledydd ac yn aml mae mesur cynnydd ynglŷn â’r cyrchnod hwn yn anodd. Mae’n dal i fod yn faes pryder parhaus gan fod menywod yn fwy tebygol o fod yn fwy tlawd na dynion

yn y rhan fwyaf o wledydd. Yn ôl adroddiad diweddar gan y CU, mae cyfraddau cyflogaeth menywod yn fyd-eang wedi bod yn cynyddu yn arafach, o’u cymharu â dynion,

Yn fyd-eang, mae nifer

y plant nad ydynt yn

mynd i’r ysgol wedi

gostwng o 100 miliwn

yn 1990 i 57 miliwn yn

2015.

Trafod Economeg • Rhifyn 1 • Tudalen 2

Page 4: Trafod Economeg

hefyd. Ar y llaw arall, mae tua dwy ran o dair o wledydd sy’n datblygu wedi cyflawni cydraddoldeb y rhywiau mewn addysg gynradd ac mae gan 90% o wledydd fwy o fenywod yn eu seneddau nag yn 1995, ond mae hyn yn aml o sail isel iawn. Mewn rhai gwledydd, mae mentrau microgyllid fel Banc Grameen yn helpu mwy o fenywod i gychwyn busnesau.

MDG rhif 4 oedd lleihau marwolaethau plant. Mae gostyngiad wedi bod ym marwolaethau plant dan 5 oed o 12 miliwn yn 1990 i 6 miliwn yn 2015. Mae cyfradd marwolaethau plant wedi gostwng o 90 i 43 marwolaeth am bob 1,000 o enedigaethau byw. Fodd bynnag, nid yw wedi llwyddo i gwrdd â tharged yr MDG, sef gostyngiad o ddwy ran o dair o’i gymharu ag 1990. Mae canran y plant sy’n derbyn brechlyn y frech goch yn fyd-eang wedi codi o 73% yn 2000 i 84% yn 2013. Bydd hyn yn helpu i leihau marwolaethau plant yn y dyfodol, yn yr un ffordd â dileu’r frech wen yn fyd-eang rai blynyddoedd yn ôl.

Bwriad MDG rhif 5 yw gwella iechyd y fam. Mae cyfradd marwolaethau mamau yn fyd-eang wedi gostwng bron hanner o 380 am bob 100,000 o enedigaethau byw yn 1990 i 210 yn 2013. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod y gostyngiad o ddwy ran

o dair sydd wedi’i nodi yn nharged yr MDG yn dal heb ei gyrraedd. Mae nifer y genedigaethau sydd â phersonél iechyd medrus yno wedi codi o 59% yn 1990 i 71% yn 2014.

Roedd MDG rhif 6 yn targedu HIV/AIDS, malaria a chlefydau eraill. Nid yw’r targed o atal a dechrau gwrthdroi ymlediad HIV/AIDS erbyn 2015 wedi cael ei gyflawni, ond gostyngodd nifer yr heintiadau newydd o HIV o 3.5 miliwn yn 2000 i 2.1 miliwn yn 2013. Gostyngodd cyfradd marwolaethau oherwydd twbercwlosis 45% rhwng 1990 a 2013, a chafodd hyd at 6 miliwn o farwolaethau oherwydd malaria eu hatal drwy ddefnyddio mesurau syml fel tabledi a gwell iechydaeth. Er hynny, mae 1.3 miliwn o bobl yn marw oherwydd malaria bob blwyddyn, ac mae 90% o’r rhain yn blant dan 5 oed.

MDG rhif 7 oedd sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol. Cafodd y targed o haneru’r gyfran o bobl sydd heb fynediad i well ffynonellau dŵr ei gyflawni yn 2010, sef 5 mlynedd yn gynnar. O ganlyniad mae 2.6 biliwn o bobl wedi cael mynediad i well dŵr yfed ers 1990. Fodd bynnag, mae 663 miliwn o bobl ledled y byd yn dal heb fynediad i ddŵr yfed digon da.

MDG rhif 8 oedd datblygu partneriaeth fyd-eang ar gyfer datblygiad rhwng gwledydd Mwy Economaidd Ddatblygedig (MEDd) a gwledydd Llai Economaidd Ddatblygedig (LlEDd). Rhwng 2000 a 2014, roedd cymorth

O ganlyniad mae 2.6 biliwn o bobl wedi cael mynediad i well dŵr yfed ers 1990.

Trafod Economeg • Rhifyn 1 • Tudalen 3

Page 5: Trafod Economeg

datblygu tramor o wledydd MEDd i wledydd sy’n datblygu wedi cynyddu 66% yn nhermau real, gan gyrraedd $134.8 biliwn (£80.3 biliwn). Fodd bynnag, ar wahân i’r DU, dim ond 5 gwlad oedd wedi cyflawni targed cymorth y CU o 0.7% o CMC yn 2013 neu fynd y tu hwnt iddo. Sweden, Norwy, Luxembourg, Denmarc a’r Emiradau Arabaidd Unedig yw’r gwledydd hyn, ond mae’r Iseldiroedd wedi cyflawni’r targed yn gyson yn y gorffennol.

Daeth yr MDGs i ben yn 2015. Ym mis Medi 2015 cymeradwyodd y CU y Cyrchnodau Datblygiad Cynaliadwy (SDGs: Sustainable Development Goals) gyda’r bwriad o gyflawni’r rhain dros y 15 mlynedd nesaf hyd at 2030. O fewn

y 17 SDG mae cyfanswm o 169 targed sy’n manylu ar yr union bethau mae’n rhaid eu cyflawni er mwyn cyrraedd pob cyrchnod. Er enghraifft, mae’r targedau dan gyrchnod un (dim tlodi) yn cynnwys gostwng nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi gan o leiaf hanner erbyn 2030, a dileu tlodi eithafol (pobl sy’n byw ar lai na $1.25 y dydd). Dan gyrchnod pump (cydraddoldeb y rhywiau), mae targed o ddileu trais yn erbyn menywod, ac mae gan gyrchnod 16 (heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cryf) darged o hyrwyddo rheolaeth cyfraith a mynediad cyfartal i gyfiawnder.

Mae’r SDGs yn llawer mwy uchelgeisiol na’r MDGs, gan nodi’n llawer mwy manwl yr hyn sy’n gorfod cael ei gyflawni. Dim ond 8 MDG oedd yn bodoli, gyda 21 targed. Fodd bynnag, mae cyfanswm o 17 SDG ac 169 targed, ac maent wedi cael eu beirniadu am fod yn rhy niferus ac oherwydd na allant gael eu mesur mewn gwirionedd. Er enghraifft, sut ydych chi’n mesur gostyngiad mewn gwahaniaethu yn erbyn menywod? Hefyd mae gwir bryder y bydd

Hefyd mae gwir bryder y bydd rhai

gwledydd yn dewis a

dethol y cyrchnodau

maen nhw eisiau eu

cyflawni.

Trafod Economeg • Rhifyn 1 • Tudalen 4

Page 6: Trafod Economeg

rhai gwledydd yn dewis a dethol y cyrchnodau maen nhw eisiau eu cyflawni.

Mae’r SDGs wedi’u hanelu at bob gwlad yn hytrach na dim ond gwledydd LlEDd (fel yn achos yr MDGs). Mae mwy o ffocws ar gyfiawnder, swyddi, llywodraethu da a rhoi grym i fenywod hefyd. Mae rhai dadansoddwyr yn credu bydd yn rhaid gwario symiau enfawr o arian er mwyn cyflawni’r cyrchnodau hyn. Bydd yn rhaid i lywodraethau ymddwyn yn wahanol tuag at eu pobl a bydd yn rhaid i gwmnïau preifat newid eu harferion busnes, yn enwedig cwmnïau amlwladol mawr.

Ynglŷn â’r pwynt olaf, mae Lise Kingo, Cyfarwyddwr Gweithredol Compact Byd-eang y CU, wedi dweud: ‘Mae disgwyl i fusnesau heddiw fod yn rhan o’r datrysiad i heriau mwyaf ein byd – o argyfyngau hinsawdd a dŵr, i anghydraddoldeb a thlodi – fel sy’n cael eu nodi yn y Cyrchnodau

Datblygiad Cynaliadwy. I gwmnïau sy’n barod i dderbyn yr agenda, mae’r SDGs yn darparu llwyfan i ddangos cyfrifoldeb, dilyn cyfle ac arloesi, ac ysbrydoli busnesau eraill i fod yn rhan o hyn.’

Daeth yr SDGs i rym ym mis Ionawr 2016, ond mae amheuon ynglŷn â faint sy’n gallu cael ei gyflawni yn realistig cyn 2030. Er hynny, mae consensws bod angen adeiladu ar yr MDGs a bod y 17 SDG yn werth gweithio tuag atyn nhw dros y 15 mlynedd nesaf. Amser fydd yn dangos a yw’r SDGs yn gallu bod yn fwy na gobeithion ofer yn unig.

Gwaith dilynol:

http://www.bbc.co.uk/news/world-34347198

http://www.bbc.co.uk/programmes/b06drxls

http://www.bbc.co.uk/news/world-asia-33337787

http://www.bbc.co.uk/news/world-africa-34908108

http://www.bbc.co.uk/programmes/p032ml8h

Mae disgwyl i fusnesau heddiw fod

yn rhan o’r datrysiad

i heriau mwyaf ein

byd

Cydnabyddiaethau’r Delweddau:Sefydliad Datblygu Tramorhttps://www.flickr.com/photos/overseas-development-institute/2577909266/Sefydliad Hashoohttps://www.flickr.com/photos/hashoofoundation/6205922257/Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladolhttps://www.flickr.com/photos/dfid/16709494293/in/album-72157651831276617/

Trafod Economeg • Rhifyn 1 • Tudalen 5