· web viewgwirfoddol o dan 25 oed. mae kelly wedi cwblhau'r hyfforddiant sy'n...

3
Astudiaeth Achos - Gwirfoddolwyr ifanc yn cefnogi ysbytai Caerdydd Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn canfod ffyrdd newydd o gynnwys gwirfoddolwyr ifanc yn eu gwaith er budd cleifion mewn ysbytai. Mae oedolion sy'n gwirfoddoli wedi bod yn helpu ysbytai Caerdydd ers blynyddoedd lawer, gan siarad â chleifion ar y wardiau a helpu cleifion allanol ac ymwelwyr i ddysgu eu ffordd o gwmpas. Mae cyllid dwy flynedd a gafwyd gan Sefydliad Pears wedi golygu bod modd cyflogi swyddog gwirfoddoli arbenigol i ddatblygu gwaith gwirfoddoli gyda phlant a phobl ifanc. Sefydlwyd tîm Pwyllgor Gwaith Ieuenctid, gydag aelodau rhwng 14 a 25 oed, i roi adborth a gwneud awgrymiadau ynghylch datblygu gwaith gwirfoddoli sy'n addas i bobl ifanc. Mae'r tîm yn cwrdd yn fisol gyda Kelly Marlow, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Ieuenctid. Mae ymchwil yn awgrymu y dylai gweithgareddau ieuenctid o ansawdd uchel fod yn heriol, y dylent gael effaith gymdeithasol gadarnhaol, caniatáu dilyniant at gyfleoedd newydd, bod wedi'u hymgorffori ym mywyd person ifanc, galluogi myfyrio am y gweithgaredd a'i werth, a chael eu harwain gan bobl ifanc. Mae'r rhain wedi dod yn chwe egwyddor sy'n gysylltiedig ag Ymgyrch #iwill . Yn ysbryd #iwill, mae tîm y Pwyllgor Gwaith Ieuenctid wedi addasu'r systemau cymorth a recriwtio presennol i'w gwneud yn

Upload: others

Post on 10-Feb-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1:  · Web viewgwirfoddol o dan 25 oed. Mae Kelly wedi cwblhau'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ddatblygu'r rhaglen, a fydd yn dod ag 'arwyr' ifanc i'r wardiau, gyda llechi ipad gan

Astudiaeth Achos - Gwirfoddolwyr ifanc yn cefnogi ysbytai Caerdydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn canfod ffyrdd newydd o gynnwys gwirfoddolwyr ifanc yn eu gwaith er budd cleifion mewn ysbytai.

Mae oedolion sy'n gwirfoddoli wedi bod yn helpu ysbytai Caerdydd ers blynyddoedd lawer, gan siarad â chleifion ar y wardiau a helpu cleifion allanol ac ymwelwyr i ddysgu eu ffordd o gwmpas. Mae cyllid dwy flynedd a gafwyd gan Sefydliad Pears wedi golygu bod modd cyflogi swyddog gwirfoddoli arbenigol i ddatblygu gwaith gwirfoddoli gyda phlant a phobl ifanc.

Sefydlwyd tîm Pwyllgor Gwaith Ieuenctid, gydag aelodau rhwng 14 a 25 oed, i roi adborth a gwneud awgrymiadau ynghylch datblygu gwaith gwirfoddoli sy'n addas i bobl ifanc. Mae'r tîm yn cwrdd yn fisol gyda Kelly Marlow, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Ieuenctid.

Mae ymchwil yn awgrymu y dylai gweithgareddau ieuenctid o ansawdd uchel fod yn heriol, y dylent gael effaith gymdeithasol gadarnhaol, caniatáu dilyniant at gyfleoedd newydd, bod wedi'u hymgorffori ym mywyd person ifanc, galluogi myfyrio am y gweithgaredd a'i werth, a chael eu harwain gan bobl ifanc. Mae'r rhain wedi dod yn chwe egwyddor sy'n gysylltiedig ag Ymgyrch #iwill.

Yn ysbryd #iwill, mae tîm y Pwyllgor Gwaith Ieuenctid wedi addasu'r systemau cymorth a recriwtio presennol i'w gwneud yn fwy addas i bobl ifanc. Mae'r amserlen ar gyfer recriwtio wedi'i byrhau drwy hysbysebu cyfres o ddyddiadau cau ar gyfer gwneud cais (sy'n golygu llai o aros am y cyfle nesaf i fynd i sesiwn sefydlu), mae mwy o'r hyfforddiant sefydlu yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb, gyda disgwyl llai o ddarllen, ac mae arweiniad yn cael ei roi ar yr hyn y dylid ei wisgo mewn digwyddiad recriwtio.

Page 2:  · Web viewgwirfoddol o dan 25 oed. Mae Kelly wedi cwblhau'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ddatblygu'r rhaglen, a fydd yn dod ag 'arwyr' ifanc i'r wardiau, gyda llechi ipad gan

Erbyn hyn, gall gwirfoddolwyr mor ifanc ag 16 oed gymryd rhan ar wardiau penodedig. 'Mae cynnwys gwirfoddolwyr ifanc yn gofyn am ddull gwahanol' meddai Kelly, 'Mae eu hanghenion nhw'n wahanol. Rydyn ni'n cynnig rhagor o gefnogaeth i bobl ifanc, fel trefnu iddyn nhw wirfoddoli mewn parau ar wardiau yn hytrach na fesul un, darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb ychwanegol ar sut i gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth a sesiynau goruchwylio i sicrhau lles y gwirfoddolwyr eu hunain.'

Mae'r tîm gwirfoddoli yn darparu gwybodaeth ar gyfer gwirfoddolwyr a staff wardiau sy'n egluro rhai pethau i'w gwneud a phethau i beidio â'u gwneud, sy'n sicrhau cyfleoedd gwirfoddoli llwyddiannus. 'Mae angen atgyfnerthu ffiniau yn barhaus fel bod dealltwriaeth glir o'r hyn y mae'n briodol i wirfoddolwyr ei wneud. Mae treulio amser yn siarad gyda chleifion yn flaenoriaeth uchel' meddai Kelly. Anogir staff i gysylltu â'r tîm i drafod lleoliadau neu ffyrdd newydd i wirfoddolwyr allu cymryd rhan.

Myfyrwyr fferylliaeth yn cael profiad ar y wardiau

Yn dilyn cais gan Brifysgol Caerdydd, trefnwyd lleoliadau gwirfoddol ar gyfer 120 o fyfyrwyr fferylliaeth. Maen nhw'n mynd i sesiwn sefydlu gyffredin, ac yna, mewn tair carfan o 40 o wirfoddolwyr, maen nhw'n ymgymryd â blociau o waith gwirfoddol am ddwyawr yr wythnos am gyfnodau o ddwy neu dair wythnos, rhwng mis Medi a mis Mawrth.

Ar y ward, maen nhw'n gwneud yr un gwaith â gwirfoddolwyr eraill, gan gefnogi cleifion drwy sgwrsio cyfeillgar a gwneud tasgau ymarferol. Cynigir hyfforddiant, er enghraifft mewn gofal dementia, er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth o brofiad llawer o gleifion oedrannus.

Dyma'r ail flwyddyn o weithio gyda myfyrwyr fferylliaeth, ac mae'r rhaglen yn cael ei gwerthuso gan y brifysgol a thîm gwasanaethau gwirfoddol Caerdydd a'r Fro ar hyn o bryd. Y gobaith, drwy'r lleoliadau yma, yw y bydd fferyllwyr y dyfodol yn cael cipolwg gwerthfawr ar fywyd ar wardiau ysbytai ac anghenion cleifion.

Arwyr digidol ar y ffordd

Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i recriwtio arwyr digidol gwirfoddol o dan 25 oed. Mae Kelly wedi cwblhau'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ddatblygu'r rhaglen, a fydd yn dod ag 'arwyr' ifanc i'r wardiau, gyda llechi ipad gan Gymunedau Digidol Cymru, i gynorthwyo cleifion i gyflawni tasgau digidol.Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Chymorth Trydydd Sector Cymru (WCVA ac 19 cyngor gwirfoddol sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid

Page 3:  · Web viewgwirfoddol o dan 25 oed. Mae Kelly wedi cwblhau'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ddatblygu'r rhaglen, a fydd yn dod ag 'arwyr' ifanc i'r wardiau, gyda llechi ipad gan

eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli o ran cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae tudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni at flogiau, straeon achos ac erthyglau diweddar.