welsh rambler

7
TUDALEN 1 RHIFYN 67 M ae Cerddwyr Cymru yn galw am gyllid newydd ar gyfer llwybrau cyhoeddus yn arbennig ar gyfer cynlluniau newydd awdurdodau lleol i wella llwybrau. Bydd angen i’r cyllid newydd ddod oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol. Dylai hwn ynghyd â’r cyllid sydd gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd ddod ag arian ychwanegol i mewn o Ewrop a ffynonellau eraill. Gelwir y cynlluniau newydd hyn ar gyfer llwybrau yn Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT/ROWIPS) ac mae pob awdurdod lleol wedi bod yn eu paratoi. Maent yn cynnwys asesiad o ddyheadau lleol a’r adnodd ei hun. Maent hefyd yn cynnwys datganiad o weithredu sy’n rhoi manylion am yr hyn a fydd yn cael ei wneud i wella llwybrau, yr amserlen a’r gost. Yna bydd y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn glir. Pan ystyriwyd hyn ddiwethaf yn 2003 nododd arolwg Cyngor Cefn Gwlad Cymru fod angen £26 miliwn i sicrhau bod llwybrau mewn cyflwr da (yn ogystal â’r costau rheoli nad oeddent wedi eu cynnwys). Bydd llawer o aelodau wedi cyfrannu at neu byddant yn y broses o gyflwyno eu sylwadau ar gyfer y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT). Mae rhai CGHT yn dal heb eu trin a rhoddir y rhaglen ar dudalen 4. O’u plaid, mae’r CGHT wedi bod drwy broses o ymgynghori lleol, a byddant yn ddogfennau i seilio cais arnynt ac maent yn gynlluniau statudol 10 mlynedd. Maent yn rhoi man cychwyn ar gyfer newid cyflwr y llwybrau oherwydd ar hyn o bryd yng Nghymru dim ond 41% o lwybrau sy’n hawdd eu defnyddio ac yn bwysig maent yn cynnig cyfle i ddal awdurdodau i gyfrif. Mae gan y CGHT eu beirniaid hefyd, cerddwyr sy’n bryderus y byddant yn cynnig ffordd o roi’r gwaith o gynnal y llwybr cyffredin o’r neilltu drwy greu hierarchaeth o lwybrau a fydd yn arwain at gynnal dim ond rhannau o’r rhwydwaith. Byddai’r amheuwyr yn dweud os ydynt yn cael cefnogaeth gan bawb, yna ni fydd buddiannau’r cerddwr yn cael sylw dyledus! Fel cynrychiolwyr, bydd yn rhaid i ni sicrhau bod buddiannau’r cyhoedd sy’n cerdded yn cael goruchafiaeth drwy leisio’r diddordeb hwnnw’n lleol ac rydym hefyd yn rhoi sylwadau ar bob Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drwy eu dadansoddi yn erbyn set o feini prawf safonol. Mae John Trevelyan yn helpu gyda’r gwaith hwn. Croeso i Gerddwyr M ae Prestatyn a Meliden wedi cael llwyddiant mawr gyda’r prosiect ‘Croeso i Gerddwyr’. Yn yr haf enillodd y gymuned y wobr gyntaf yng Nghymru yn Sioe Frenhinol Cymru. Cyflwynwyd y wobr gan Weinidog dros Gynaliadwyedd a Thai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Jane Davidson, (gweler llun) i Malcolm Wilkinson, gwirfoddolwr a cherddwr. I ddathlu’r digwyddiad hwn yn Hydref 2007 ymunodd cerddwyr â’r Cynghorydd June Cahill, Maer Prestatyn, Roger Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Kate Ashbrook, Cadeirydd Y Cerddwyr a Gwen Goddard o gymuned Hebden Bridge am ddiwrnod gwych o gerdded mewn lle sy’n dod yn fwy a mwy pwysig i gerddwyr ac ymwelwyr. Llwybrau yn y Dyfodol Y YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

Upload: terry-evans

Post on 15-Mar-2016

259 views

Category:

Documents


1 download

DESCRIPTION

The Newsletter of the Ramblers Society in Wales. Printed "work and turn" English and Welsh

TRANSCRIPT

Page 1: Welsh Rambler

TUDALEN 1

RHIFYN 67

Mae Cerddwyr Cymru yn galwam gyllid newydd ar gyfer

llwybrau cyhoeddus yn arbennig argyfer cynlluniau newyddawdurdodau lleol i wella llwybrau. Byddangen i’r cyllid newydd ddod oddi wrth yCynulliad Cenedlaethol. Dylai hwn ynghyd â’rcyllid sydd gan awdurdodau lleol ar hyn o brydddod ag arian ychwanegol i mewn o Ewrop affynonellau eraill.

Gelwir y cynlluniau newydd hyn ar gyferllwybrau yn Gynlluniau Gwella HawliauTramwy (CGHT/ROWIPS) ac mae pobawdurdod lleol wedi bod yn eu paratoi. Maentyn cynnwys asesiad o ddyheadau lleol a’radnodd ei hun. Maent hefyd yn cynnwysdatganiad o weithredu sy’n rhoi manylion amyr hyn a fydd yn cael ei wneud i wella llwybrau,yr amserlen a’r gost. Yna bydd y ffigur ar gyferCymru gyfan yn glir. Pan ystyriwyd hynddiwethaf yn 2003 nododd arolwg Cyngor CefnGwlad Cymru fod angen £26 miliwn i sicrhaubod llwybrau mewn cyflwr da (yn ogystal â’rcostau rheoli nad oeddent wedi eu cynnwys).

Bydd llawer o aelodau wedi cyfrannu at neubyddant yn y broses o gyflwyno eu sylwadau argyfer y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy(CGHT). Mae rhai CGHT yn dal heb eu trin arhoddir y rhaglen ar dudalen 4.

O’u plaid, mae’r CGHT wedi bod drwybroses o ymgynghori lleol, a byddant ynddogfennau i seilio cais arnynt ac maent yngynlluniau statudol 10 mlynedd. Maent yn rhoiman cychwyn ar gyfer newid cyflwr y llwybrauoherwydd ar hyn o bryd yng Nghymru dimond 41% o lwybrau sy’n hawdd eu defnyddio acyn bwysig maent yn cynnig cyfle i ddalawdurdodau i gyfrif.

Maegan y CGHT

eu beirniaidhefyd, cerddwyr sy’n

bryderus y byddant yncynnig ffordd o roi’r gwaith o gynnal y llwybrcyffredin o’r neilltu drwy greu hierarchaeth olwybrau a fydd yn arwain at gynnal dim ondrhannau o’r rhwydwaith. Byddai’r amheuwyryn dweud os ydynt yn cael cefnogaeth ganbawb, yna ni fydd buddiannau’r cerddwr yncael sylw dyledus!

Fel cynrychiolwyr, bydd yn rhaid i nisicrhau bod buddiannau’r cyhoedd sy’ncerdded yn cael goruchafiaeth drwy leisio’rdiddordeb hwnnw’n lleol ac rydym hefyd ynrhoi sylwadau ar bob Cynllun Gwella HawliauTramwy drwy eu dadansoddi yn erbyn set ofeini prawf safonol. Mae John Trevelyan ynhelpu gyda’r gwaith hwn.

Croeso iGerddwyrMae Prestatyn a Meliden wedi cael

llwyddiant mawr gyda’r prosiect‘Croeso i Gerddwyr’. Yn yr haf enillodd ygymuned y wobr gyntaf yng Nghymru yn SioeFrenhinol Cymru. Cyflwynwyd y wobr ganWeinidog dros Gynaliadwyedd a ThaiCynulliad Cenedlaethol Cymru, JaneDavidson, (gweler llun) i Malcolm Wilkinson,gwirfoddolwr a cherddwr.

I ddathlu’r digwyddiad hwn yn Hydref 2007ymunodd cerddwyr â’r Cynghorydd JuneCahill, Maer Prestatyn, Roger Thomas, PrifWeithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, KateAshbrook, Cadeirydd Y Cerddwyr a GwenGoddard o gymuned Hebden Bridge amddiwrnod gwych o gerdded mewn lle sy’n dodyn fwy a mwy pwysig i gerddwyr ac ymwelwyr.

Llwybrau yn y Dyfodol

YYR ELUSEN SY’N

GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:19 AM Page 1

Page 2: Welsh Rambler

TUDALEN 2

HYDREF 2007Y

Helo eto ……Mae wedi bod yn haf gwlyb i bawb gyda gordyfiant mwy nag arfer

dros y llwybrau. Rydym yn dal i dynnu’r drain o’n bysedd o’r gamfaddiwethaf y buom yn tocio canghennau oddi arni. Mae pryderon yngl_nâ chlefyd Clwy’r Traed a’r Genau yn bryder i bawb sy’n malio am gefngwlad.

Rydym yn hynod o falch fod y Gweinidog newydd, Jane DavidsonAC, yn rhoi mynediad fel un o’i dau flaenoriaeth ynghyd â’r materhynod bwysig o newid hinsawdd. Cawsom amser gwlyb iawn yn SioeFrenhinol Cymru ac amser gwych yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn

yr Wyddgrug, gweler y lluniau isod. Fel bob amser, diolch yn fawr i’ngwirfoddolwyr.

Ar yr ochr staffio, rydym wedi estyn croeso cynnes i Celia Wyn Parri sydd wedi ymunoâ ni fel Gweinyddydd Swyddfa ac wedi ffarwelio â Martin Dowson sydd wedi dychwelyd i’wardal enedigol yr oedd mor hoff ohoni yn Ardal y Peak ac wedi ymuno â Chyngor DinasSheffield i weithio gyda Mannau Gwyrdd a Mynediad.Wrth i mi ysgrifennu hwn rydym yn hysbysebu swyddnewydd i weithio ar brosiectau a chyllid gydaphwyslais arbennig ar hawliau tramwy.

Mae gennym hefyd Brif Weithredwr newydd ar gyferPrydain, Tom Franklin, cyn-bennaeth ‘Living Streets’sy’n adnabod Y Cerddwyr yn dda oherwydd roeddemwedi cydweithio yn agos ag ef ar gais y Loteri, aarweiniodd at ddyfarniad o £3.5 miliwn i hyrwyddocerdded yn Lloegr. Edrychwn ymlaen at weithio gydaTom.

Mwynhewch gerdded!Beverley Cyfarwyddydd Cymru

Diweddaru’rLlawlyfr YmarferolCyhoeddwyd ‘Getting Greens Registered’am y tro cyntaf ym 1994. Mae’r ail argraffiadhwn, gan John Riddall, wedi ei ddiwygio a’iddiweddaru’n drwyadl i gynnwys, ynarbennig, y newidiadau pwysig a wnaed ganDdeddf Tiroedd Comin 2006 a llysoedd ygyfraith. Mae’r argraffiad hwn yn nodi’rddeddf fel y mae ar 6 Ebrill 2007. Mae’nberthnasol i Gymru a Lloegr.

Mae’r llyfr hwn yn llawlyfr ymarferol iunrhyw un sy’n dymuno cofrestru darn o dirfel grîn i dref neu bentref. Mae’n rhoidisgrifiad syml o’r camau sy’n angenrheidiol.Bydd o fudd i unigolion, grwpiau cymunedol,tirfeddianwyr, cynghorau lleol ac awdurdodaulleol eraill. Dyma’r cyngor manylaf o bellffordd a gyhoeddwyd erioed ar gyferawdurdodau cofrestru ac ymgeiswyr ar ypwnc hwn.

Mae John Riddall MA (TCD) ynfargyfreithiwr a chyn ei ymddeoliad roedd ynUwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ymMhrifysgol Leeds. Mae ei lyfrau yn cynnwys‘Land Law’, ‘Jurisprudence’, ‘The Law ofTrusts’ a chyda John Trevelyan, ‘Rights ofWay: A guide to law and practice’. Mae’n Is-Gadeirydd y Gymdeithas Mannau Agored.

NORMAN SLATER.Bu Norman farw ar 26 Medi, 2007. Roedd ynysbrydoliaeth a gynigiodd ei ymrwymiad, eiegni a’i hiwmor i’r Cerddwyr. Cyfrannodd ynstrategol tra’n gwasanaethu ar BwyllgorGwaith Cymru a Phwyllgorau ArdalMorgannwg ac i Grwp Caerdydd mewn llawero ffyrdd meddylgar ac ymarferol.

Coffad

Cymdeithas y Cerddwyr, 3 Iard y Cowper,Ffordd Curran, CAERDYDD. CF10 5NB

Ffon: 029 2064 4308 • Ffacs: 029 2064 5187Ar y we: www.ramblers.org.uk

e bost: [email protected]

Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn elusen gofrestredig (rhif1093577) ac yn gwmni a gyfyngir gan warant yng Nghymru a

Lloegr (rhif 4458492).Swyddfa gofrestredig: Camelford House, 87-89 Albert

Embankment, Llundain, SE1 7TW.

Beverley Penney

2007RHAGFYR1af – DiwrnodHyfforddiant ynglynâ Llwybrau, y Drenewydd

2008IONAWR12 – CCB Gogledd Cymru

MAWRTH15 – CCB Ceredigion

EBRILL12-13 – Cyngor Cymru, Aberystwyth

Chwith: Eisteddfod Genedlaethol 2007.Uwch ac uwchben: Sioe Frenhinol Cymru 2007.

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:19 AM Page 2

Page 3: Welsh Rambler

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 3

Y

Sut y daethoch i fod ynymwneud â cherdded a phamei fod yn arbennig yn awr?Roeddwn arfer nofio’n rheolaidd igadw’n iach ac i geisio cadw fymhwysau i lawr. Awgrymodd un oGerddwyr Islwyn y dylwn ymuno a’rgrwp. Dechreuais gerdded ar fymhen fy hun i ddechrau oherwyddroeddwn yn ansicr a fyddwn yn ffitioi mewn gyda’r lleill yn y grwp. Panbenderfynais ymuno ag un o’rteithiau canfûm fy mod ynadnabod amryw o’r lleill. Roedd yngrwp cyfeillgar iawn, ac mae pawbsy’n dod ar y teithiau yn caelcroeso. Mae’n arbennig iawn ynawr am yr un rheswm ag yr oeddy pryd hynny. Rwy’n byw yn uno rannau prydferthaf y wlad.Mae pobl yn dweud wrthyf ydylwn gadw hynny’n gyfrinach, oherwyddnad ydym eisiau gweld hyrddiau o bobl yn dod yma.Rwy’n lwcus iawn o allu camu’r tu allan i’r drwsffrynt a chael cymaint o deithiau hyfryd i ddewisohonynt.Pam wnaethoch chi ymuno â’rCerddwyr?Rwy’n meddwl fy mod wedi ymuno â’r Cerddwyrcyn imi ddechrau cerdded gyda grwp. Ymunais ar ôldarllen am von Hoogstraten yn ‘The Guardian’.Roedd yr erthygl yn crybwyll y ffaith fod aelodau’rCerddwyr yn ymladd i gael yr hawl tramwy wedi eihail-agor ac roedd arnynt angen cyllid.Pa un yw eich hoff le i gerdded ynddo?Unrhyw rai o’r mynyddoedd sy’n hygyrch o’mcartref. Mae’r daith i ben Twmbarlwm bob amser ynun i lonni’r ysbryd. Pwy fyddai eich hoff bartner cerdded?Alfie, y ci, nid y chwaraewr rygbi! Rwy’n mwynhaucerdded gydag aelodau grwp Y Cerddwyr Islwyn.Rydym yn grwp bach a chyfeillgar. Ond rwyf ynmwynhau cerdded ar ben fy hun hefyd. O ddifrif,hoffwn fynd â Derek Brockway ar daith leol. Dylai’rardal gael sylw yn ‘Weatherman Walking’. ‘Weatherman Walking’ yn cyfarfod â’r AthrawesMathemateg Aflonydd!A oes gennych hoff ddarn o gitcerdded?Mae fy GPS wedi fy helpu i ysgrifennu’r pecyn odeithiau lleol. Rwy’n hoff o declynnau technolegol,ond dim ond rhai o’r botymau rwyf yn eudefnyddio, ond er hynny, mae hwn wedi bod ynamhrisiadwy. Rwy’n falch iawn fy mod wedi myndati o’r diwedd a chynhyrchu pecyn wedi eilamineiddio o 13 o deithiau cerdded i gyd yn ardalcoedwig Cwm Carn. Rwy’n gwerthfawrogi’r grant agefais oddi wrth Y Cerddwyr Gwent Fwyaf ac rwyf

eisoes wedi dechrau ar y pecyn nesaf o deithiaucerdded.Beth yr hoffech ei gyflawni gyda’rCerddwyr?Hoffwn gynyddu aelodaeth Y Cerddwyr Islwyn fel ygallwn gynnal mwy nag un rhaglen gerdded.Hoffwn gael yr awdurdod lleol hefyd i hyrwyddo’rardal hon ar gyfer cerdded.Pa un oedd y digwyddiad mwyafdoniol yn ymwneud â cherdded ydaethoch ar ei draws?Mae’n ddrwg gen i ond fedra’ i ddim meddwl am uny gellid ei argraffu! Fel y dywedais mae CerddwyrIslwyn yn grwp cyfeillgar a gellir clywed chwerthindrwy’r amser wrth inni gerdded. Y flwyddynddiwethaf ar ein Taith Mins Peis cynhaliwyd honmewn niwl trwchus iawn. Pan eisteddon ni i lawro’r diwedd wrth y safle picnic roedd yno wledd ofins-peis, siocledi a gwin cynnes. Byddai cerddwyreraill yn sicr wedi cael tipyn o syndod o glywedcarolau yn cael eu canu’n wresog yn y niwltrwchus!Sut y daethoch i gymryd rhan yn ygrwp?Gofynnwyd i mi a fyddwn yn Ysgrifennydd i grwpCerddwyr Islwyn yn y Cyfarfod CyffredinolBlynyddol cyntaf i mi ei fynychu. Mae hynny’ndangos pa mor fach yw’r grwp a chyn lleied o boblsydd gennym sy’n teimlo bod ganddynt yr amserneu’r arbenigedd i fod yn un o’r swyddogion – ondrydym yn gweithio ar hynny.Pam fod cerdded yn arbennig i chi?Rwy’n siwr fod unrhyw un sy’n mynd allan am dro,nid dim ond y rhai hynny sy’n cerdded fel hobi, yncael y teimlad iwfforig rhyfeddol hwnnw o fewn

deng munud o gychwyn ar eu taith. Mae pobl yndweud wrthyf i y gallwch gael yr un teimlad yn ygampfa, ond does dim modd cymharu’r ddaubrofiad. Mae’n eich atgoffa’n gyson o ba mor lwcusyr ydym i fyw mewn lle mor hardd.

WORKING FOR WALKERS Welsh

PROFFIL >>>

Mae Maggie Thomas ynysgrifennydd Grwp CerddwyrIslwyn ac yn aelod o BwyllgorGwaith Cymru

Maggie – a’i chariad tuag at Islwyn

Uchod: Golygfa o un o hoffdeithiau cerdded Maggie –Twm Barlwm.

Ar y chwith: Hoff bartnercerdded Maggie – Alfie

Ar y dde: Maggie’n cyfarfodag Iolo Williams

Mae Maggie wedi cynhyrchu pecyn wedi eilamineiddio ardderchog o 13 o deithiau cerddedsydd ar gael yn ardal Islwyn.

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:20 AM Page 3

Page 4: Welsh Rambler

TUDALEN 4

HYDREF 2007Y

Yr Arfordir Copr – Taithgylchol 14 milltirCawsom y syniad am yr Arfordir Copr wrth inni glirio llwybr rhwng Mynydd

Parys (y fwynglawdd copr fwyaf yn y byd yn y 18fed ganrif) a phorthladdAmlwch. Cawsom y dodrefn oddi wrth y Cyngor, ychwanegwyd naw o gamfeydd, dwybont, chwech o byst cyfeirbwyntio, cliriwyd dwy filltir o lystyfiant a gosodwyd 150 ogyfeirbwyntiau unigryw wedi eu dylunio gan Gymdeithas y Cerddwyr a dalodd amdanynthefyd. Mae’r daith yn dilyn arfordir Ynys Môn, heibio Ffynnon Sant Eilian ac yna safle ei dygweddi o’r 6ed ganrif lle ceir eglwys o’r 12fed ganrif a adeiladwyd er anrhydedd iddo ychydig ymhellach imewn i’r tir. Ymlaen wedyn i Point Lynas, a bleidleisiwyd fel un o’r mannau gorau yng Nghymru i wyliomorfilod. Ymlaen wedyn i Ddulas gan fynd heibio llawer o safleoedd hanesyddol, ac yna i mewn i’r tir ar hydllwybrau hynafol y mwyngloddwyr i Fwynglawdd Parys ac i lawr hen ffordd y mwyn at ein man cychwyn.

Y giang o wirfoddolwyr a fu’n gweithio ar y llwybr yn Ynys Môn

Dywed Bob Seabrook, Swyddog LlwybrauPowys fod Rhanbarth Powys wedi pwyso

am Swyddog Gorfodi ac mae’n teimlo’n falchfod hyn yn gweithio’n dda, gydagweithdrefnau cyfreithiol yn cael eu rhoi arwaith yn gyflym i gael y llwybrau cyhoeddusar agor.

Cam arall pwysig a gyflawnwyd fu trechu caisi ddileu llwybr march yn Llanbadarn Fynydd,a fu’n broses hir. Meddai Bob, “Roedd y cyfanyn werth yr ymdrech i ddiogelu’r llwybrmarch dymunol hwn.”

Yn dilyn ymlaen o’rgwaith llwyddiannus

gyda’r Cynghorau Tref aChymuned yng Nghonwy maeprosiect peilot newydd ynmynd i gael ei lansio ynddiweddarach eleni a fydd yndechrau partneriaeth waithnewydd rhwng Cymdeithas yCerddwyr ac Un Llais Cymru,y corff cenedlaethol drosGynghorau Tref a Chymunedyng Nghymru.

Meddai Mike Mills, SwyddogHawliau Tramwy dros YCerddwyr, “Mae dros 700 ogynghorau tref a chymunedyng Nghymru, sy’ncynrychioli haen o lywodraethsydd agosaf at gymunedaulleol. Mae’r cymunedau ynamrywio o aneddiadau gwledig bychain i drefimawr. Ond yr hyn sydd gan gynghorau tref achymuned yn gyffredin yw eu bod i gyd ynymdrechu i wella ansawdd bywyd i bobl leol.”Rydym yn awyddus i weithio gyda’rpartneriad perthnasol ar y prosiect hwn.

“Cyflawnir llawer o waith cynghorau lleoldrwy ymarfer ystod o bwerau a dyletswyddaustatudol ac mae’r rhain yn cynnwys rhaihawliau a phwerau pwysig sy’n ymwneud âhawliau tramwy.” Ychwanegodd Mike Mills,“Mae’n wir na all unrhyw awdurdod aralladnabod y llwybrau lleol cystal ag y gallcynghorau lleol, a llais y cyngor lleol yn aml afydd yn tynnu sylw’r awdurdod lleol pan fogweithredu yn angenrheidiol. Mae cynghorautref a chymuned yn rhoi cyfraniad gwerthfawri ddemocratiaeth leol, gan ymgysylltu â phoblleol, meithrin a chydlynu gweithredu sifil,gweithio gyda phobl leol i ddatblygugweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol i boblleol a chyfathrebu’r dyheadau hynny i’r holl

rai hynny sy’n gyfrifol am strategaethau lleola chyflwyno gwasanaeth. Mae hon yn haenbwysig o lywodraeth a all chwarae rhan fawrmewn cyflwyno gwelliannau i rwydwaith yllwybrau yng Nghymru. Mae pobl leol mewnsefyllfa dda i ddeall problemau lleol acystyriwn fod eu rôl yn holl bwysig o rancyflwyno gwelliannau.”

Mae Un Llais Cymru yn rhoi gwasanaeth,cyngor a chanllawiau i gynghorau sy’naelodau ac yn hyrwyddo buddiannau’r sectorar y lefel genedlaethol, gan ddylanwadu arddatblygu polisi a gweithio’n agos gydaphartneriaid allweddol i sicrhau y gallcynghorau lleol wasanaethu eu hetholaethauyn effeithiol. Maent yn rhoi cyfleoedd hefyd igynghorau rwydweithio a rhannu arferiongorau, er enghraifft drwy’r 16 o BwyllgorauArdal ar draws Cymru a’n PwyllgorCynghorau Lleol Mwy sy’n datblygu ar hyn o bryd. Eu gwefan ywwww.unllaiscymru.org.uk.

LLWYBRAU >>>

Llwybrau PowysUn Llais Cymru

Mike Mills yn cyflwyno copi newydd o ‘Rights of way, a Guide toLaw and Practice’ i Simon White, Prif Weithredwr Un Llais Cymru.

Mwynglawdd copr Mynnydd Parys

Dyddiadau cau ar gyferymgynghoriadau CGHT/ROWIP

Ymgynghoriadau sydd wedi euMabwysiadu a ChyhoeddiRhondda Cynon Taf AbertaweCBS Caerffili Wrecsam Awdurdod Parc Cenedlaethol BannauBrycheiniogCBS Merthyr Tudful Cyngor Sir Fynwy

Ymgynghoriadau sydd wedi eu Cwblhau Ynys Môn Cyngor Sir PowysCyngor Sir Bro MorgannwgCaerdydd GwyneddBlaenau Gwent Sir BenfroSir Gaerfyrddin

Ar y GweillAuthority Closing Date 2007Ceredigion mis Hydref/TachweddConwy mis Hydref

Dyddiadau ymgynghori i’w cyhoeddi:Pen-y-bont ar Ogwr Sir DdinbychSir y FflintCastell Nedd Port TalbotCasnewydd Torfaen

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:20 AM Page 4

Page 5: Welsh Rambler

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 5

Y

Mae hyfforddiant yn ymwneud â llwybrau yng Nghymru yn parhau i ddenu gwirfoddolwyr sy’nymwneud â llwybrau lleol gydag 16 o bobl yn mynychu’r diwrnod hyfforddiant diweddaraf yn Ne

Cymru a gynhaliwyd yn Sefydliad Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ar 22 Medi. Meddai Mike Mills, adrefnodd ddigwyddiadau’r diwrnod, “Mae’r ffaith fod cymaint owirfoddolwyr wedi rhoi eu hamser gwerthfawr ar ddydd Sadwrn yndestament gwirioneddol i’w brwdfrydedd a’u hymrwymiad iGymdeithas y Cerddwyr ac i lwybrau yng Nghymru. Mae hyn yndangos yn eglur beth yw gwerth digwyddiadau o’r fath” ychwanegodd,“er bod ein dyddiau hyfforddi yn canolbwyntio ar sylfeini cyfraithllwybrau rydym wedi ceisio sicrhau bod y sesiynau yn briodol ar gyferystod eang o bobl, sy’n amrywio o weithwyr profiadol sy’n ymwneudâ’r llwybrau troed i’r aelodau hynny sydd ychydig yn chwilfrydig ac yrhoffent wybod mwy am sut y gallent gymryd rhan mewn gwaith ynymwneud â’r llwybrau.”

Meddai Mike eto, “Mae hyfforddiant yn ymwneud â llwybrau yngNghymru wedi esblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ateb anghenion ein haelodau a’n gwirfoddolwyr.Trwy gyfuniad o gwisiau sy’n ymwneud â llwybrau, ffilmiau, ymarferion gr_p, modiwlau hyfforddi ffurfiola thrafodaethau mwy cyffredinol ar faterion yn ymwneud â llwybrau, mae gan y digwyddiadau hyn bellachapêl eang”. Gobeithir y bydd dyddiau hyfforddi yn esblygu ymhellach dros y misoedd a’r blynyddoedd syddi ddod i ddenu eraill a allai rannu ein dymuniad i ehangu gwaith yr elusen.

Trefnwyd i gynnal y diwrnod hyfforddi nesaf ar gyfer Canolbarth Cymru ac fe’i cynhelir ddydd Sadwrn,Rhagfyr 1af ym Mhlas Dolerw, y Drenewydd, Powys. I gael gwybodaeth bellach neu i archebu eich lle,cysylltwch â Celia Parri yn Swyddfa Cymru neu e-bostiwch hi ar [email protected]

Uchod: Ymestyn y celloedd llwyd yn y CwisLlwybrau yn ystod y diwrnod hyfforddi

Chwith: Iawn … felly pryd nad yw rhwystryn rhwystr o gwbl?

Isod: Maggie Thomas, Gwyn Lewis a TonyYule yn dal eu tlws wrth iddynt ennill yrymarferiadau hyfforddi i’r grwpiau.

Mae Cynghorau Cymuned wedi ymuno gydaChymdeithas y Cerddwyr yng Nghonwy yn

eu hymgyrch i wella llwybrau yn y Sir. Daeth 35 owirfoddolwyr Y Cerddwyr Cymru ynghyd ar 14Gorffennaf yng Nghanolfan Glasdir, Conwy iddatblygu eu sgiliau i warchod llwybrau yngNghymru ac agorodd y Cynghorydd SylviaChallinor, Cadeirydd Pwyllgor Llwybrau CyngorTref Llanrwst weithgareddau’r diwrnod fel rhan obartneriaeth waith newydd a chyffrous. Meddai’rCynghorydd Challinor, “Rydym yn croesawu’rCerddwyr i Lanrwst ac rydym yn hynod o falch fodein dau sefydliad bellach yn gweithio gyda’n gilyddi ddod o hyd i ateb i broblemau difrifol y Sir ynglynâ llwybrau troed”. (Gweler llun )

Meddai Mike Mills, Swyddog Hawliau TramwyCymdeithas y Cerddwyr a arweinioddweithgareddau’r dydd, “Mae’n wych fod ycynghorau cymuned yng Nghonwy wedi derbyn yrher i ddiogelu eu llwybrau lleol a’u bod yn awr yncysylltu’n uniongyrchol â’r Cyngor ynglyn â’rmaterion hyn. Mae gweithgor ymgyrchCymdeithas y Cerddwyr wedi gweithio’n galed argreu partneriaethau lleol ac ynghyd â Llanrwst,wedi sicrhau llwyddiant nodedig gyda chwech ogynghorau cymuned a thref eraill yn mynegididdordeb yn ein gwaith”.

Ychwanegodd Mike: “Mae Cyngor Sir Conwywedi tanberfformio yn gyson o ran cynnal eullwybrau gyda bron 80% ohonynt yn anodd neu ynamhosibl eu defnyddio. Mae Dangosyddion

Perfformiad diweddar Llywodraeth CynulliadCymru yn gosod llwybrau Conwy yn bendant arwaelod y tabl cynghrair perfformiad. Rydym ynpwyso arnynt i weithredu’n gyflym i gael eu hollhawliau tramwy mewn cyflwr da ac rydym ynpwyso ar gynghorau tref a chymuned eraill ichwarae eu rhan i wneud i hyn ddigwydd”.

Parhaodd Mike, “Mae Conwy yn Sir hardd acychydig iawn y mae rhwydwaith o lwybrau na ellireu defnyddio yn ei wneud i hyrwyddo hyn. Maetwristiaeth sy’n gysylltiedig â cherdded yncyfrannu rhyw £548 miliwn y flwyddyn at economiCymru ac mae’r manteision pwysig i iechyd a ddaw

yn sgil cerdded yn golygu bod hyn yn dod agarbedion enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.Os dymuna Conwy dderbyn eu cyfran deg o’rmanteision hynny, yna mae angen i’w llwybrau fodmewn cyflwr da.”

Bydd Anne Penketh, Max Grant a David Tindall,gyda chefnogaeth Mike Mills yn swyddfaCymdeithas y Cerddwyr Cymru, yn canolbwyntioar fynd â’r ymgyrch yn ei blaen dros y misoeddsydd i ddod. Mae ar ymgyrchoedd llwyddiannusangen cefnogaeth felly os hoffech fwy o wybodaetham sut y gallwch chi gymryd rhan yna cysylltwchag Anne Penketh ar 01492 622887.

Cynghorau Tref a Chymuned ynDerbyn Her yr Ymgyrch yng Nghonwy

Brwdfrydedd mawr dros Hyfforddiantyn ymwneud â Llwybrau yng Nghymru

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:20 AM Page 5

Page 6: Welsh Rambler

TUDALEN 6

HYDREF 2007Y

Cerrig Camu / SteppingStones (CC/SS)Mae’r rhaglen o deithiau cerdded rhwydd

Cerrig Camu/Stepping Stones (CC/SS)wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd. Dros ycyfnod hwnnw trefnwyd 531 o deithiau cerddeddrwy gydol y flwyddyn gan 21 o grwpiau. Maegennym 211 o arweinwyr teithiau wedi euhyfforddi mewn grwpiau ar draws Cymru a hydyma mae amcangyfrif o 7,500 o gerddwyr wedicymryd rhan yn y prosiect.

Hyfforddiant i ArweinwyrTeithiau Cerdded ym mhobmanHoffai Y Cerddwyr Cymru gynnig ein hyfforddiantnewydd ac sydd wedi ei wella i arweinwyr teithiaucerdded i holl grwpiau Cerrig Camu/SteppingStones p’run ai ydynt yn penderfynu cymryd rhanyn y rhaglen CC/SS ai peidio. Efallai eich bod yngofyn pam y dylwn i, arweinydd teithiau cerddedprofiadol, ddod i ddiwrnod hyfforddi? Bydd ydiwrnod yn gwneud i chi ganolbwyntio ar beth ywtaith rwydd – y rhai sy’n debygol o ddod i gerdded,cyflymder taith, materion yn ymwneud ag iechyd achynllunio taith o’r fath. Byddwch yn cael cyfle igysylltu â grwpiau eraill Y Cerddwyr a rhannusyniadau a phrofiadau. Mae’r cwrs am ddim iaelodau Cerddwyr Cymru a darperir nodiadau ar

gyfer y cwrs a chinio. Galwch Anwen Parkerheddiw i drefnu eich diwrnod hyfforddi eich hun argyfer arweinwyr teithiau!

Cynhelir y diwrnod hyfforddi nesaf ym mis Ionawryn Ne Cymru. Bydd y cwrs yn dechrau am10.00am ac yn gorffen am 3.00pm. Mae’rhyfforddiant yn agored i bawb a allai fod yn ystyriedbod yn arweinydd teithiau byr.

£150 ar gael i grwpiauMae Pwyllgor Gwaith Cyngor Cymru wedi cytuno igynnig grant o hyd at £150 y flwyddyn i grwpiausy’n trefnu rhaglen o deithiau cerdded byr CC/SS.Os oes gan eich grwp raglen o deithiau cerdded byryna cysylltwch ag Anwen i ddarganfod sut i hawlioeich arian.

Y daith ddelfrydolWrth drefnu eich rhaglen o deithiau byr CC/SSceisiwch sicrhau ei bod yn cynnwys y nodweddioncanlynol:

Rheolaidd: o leiaf unwaith y mis (er bod einhymchwil yn dangos bod teithiau wythnosol ynrhai sydd â galw amdanynt hefyd)Hanner diwrnod: gorffen erbyn 12.00pmByr: 3 - 5 milltirLleol: O fewn taith 30 munud mewn bws neu drêno’r man cychwynDefnyddio cludiant cyhoeddusWedi cael cyhoeddusrwydd da: defnyddiwchwefan eich grwp, eich rhaglen o deithiau cerdded,posteri gwag CC/SS a ‘Walks Finder’ ar-lein YCerddwyr yn ogystal â’ch cyfleoedd lleol eich hun igael y cyhoeddusrwydd mwyaf posibl i’ch teithiau.

Enillydd cystadleuaeth FfotograffauLlongyfarchiadau i Mr Alan Spiller o Ddinas Powys am y ffotograff hudolus hwn o dan y teitl‘Goleuni’r gaeaf – Gwlyptiroedd Casnewydd’. Mae’n ennill rycsac, drwy garedigrwyddCotswold Outdoor. Byddai dda gennym weld mwy o lluniau oddi wrth chi i gyd.

HYRWYDDO CERDDED >>>

Mae Cerddwyr Cymru wedi cynhyrchutaflen cyngor sy’n rhoi gwybodaeth am

drefnu teithiau cerdded hawdd rhwng 3 a 5milltir, o fath a ddylai apelio at ystod eang ogerddwyr. Fe’i bwriedir yn bennaf ar gyfergwirfoddolwyr gyda grwpiau Cerddwyr lleoler ei fod yn cynnwys gwybodaeth am unrhywun sy’n cynnal ac yn trefnu teithiau byrrach.

Drwy drefnu ystod ehangach o deithiaucerdded gan gynnwys dewisiadau byrrach arhwyddach gallwn apelio at y cyhoedd ynehangach yn ogystal â nifer fawr o aelodau’rCerddwyr na wneir darpariaeth ar eu cyfer arhyn o bryd gan ein teithiau i grwpiau.

Taflen Cyngor ynghylchTrefnu Teithiau Byrrach

Mae’r daflen cyngor ar gael oddi wrth Cerddwyr Cymru – mae’rmanylion cyswllt isod.

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:20 AM Page 6

Page 7: Welsh Rambler

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 7

Y

HYRWYDDO CERDDED >>>

Wedi diflasu gyda theithiau arferol YCerddwyr? Chwilio am daith gerdded

wahanol? Yna beth am roi cynnig arddefnyddio’r rheilffordd yn hytrach na’ch car iddechrau eich taith?

Mae ‘Troeon Trên’ yn galluogi pobl ifwynhau cerdded heb y straen o ddefnyddiocar. Mae’r trên hefyd yn rhoi cyfle i fwynhauagwedd wahanol ar gefn gwlad o gysur eichsedd yn y trên – a chyfle braf i eistedd yn ôl acymlacio ar y ffordd adref!

Mae gan Gymru rwydwaith ardderchog oreilffyrdd gwledig sy’n hygyrch o drefi aphentrefi ar draws y wlad. O linell DyffrynConwy yn y Gogledd; i linellau’r Cambrian aChalon Cymru (sydd gyda’i gilydd yngwasanaethu Powys, Ceredigon, Gwynedd aSir Gaerfyrddin), hyd at linell Rheilffordd y DeOrllewin i Sir Benfro; a heb anghofiorheilffyrdd y Cymoedd. Maent i gyd yn rhomynediad ardderchog i wlad gerddedardderchog.

Fel gyda llawer o deithiau cerdded yn einrhaglenni, cynigir amrywiaeth o bellteroedd agraddau. Bydd llawer yn deithiau cylchol, ondmae Troeon Trên yn rhoi cyfleoedd newydd igerdded o un orsaf i’r llall.

Sefydlwyd Troeon Trên ym 1987, gan grwpcraidd oedd yn darparu teithiau cerdded yngNghanolbarth Cymru a’r Gororau. Dros nifer oflynyddoedd, maent wedi datblygu dewislen o

gannoedd o deithiau cerdded – sydd i gyd ofewn taith ddychwel y gallwch ei gwneudmewn diwrnod o’r Amwythig.

Yn awr mae Troeon Trên yn ehangu ac ymmis Ionawr 2008 bydd rhaglen ar gyfer Cymrugyfan yn cael ei lansio ar y cyd ag Arriva TrainsWales. Bydd y rhaglen yn cynnig dros 100 odeithiau cerdded ar draws Cymru. Beth amddal y trên o Gaerdydd ar fore braf o haf iLanilltyd Fawr ar yr arfordir treftadaeth igerdded ar hyd y clogwyni gyda golygfeydddraw at arforlin Gwlad yr Haf? Neu beth amgrwydro o amgylch y Trallwng yn y Gwanwyngyda’i lu o adeiladau ffrâm bren gyda thaithhamddenol i’w cherdded yn dilyn hynny oamgylch gerddi Castell Powis.

Bydd rhaglenni Troeon Trên wedi euhargraffu ar gael o’r holl orsafoedd perthnasolyng Nghymru ac maent ar gael hefyd o’rCanolfannau Croeso lleol. Bydd y rhaglen argael hefyd i’w lawrlwytho o wefan Y Cerddwyr.Os na allwch aros tan fis Ionawr, yna gelliredrych ar y rhaglen gyfredol ynwww.ramblers.org.uk/wales/railrambles

A yw troeon trên yn rhan o raglen eichgrwp chi? Hoffech chi i’r teithiau cerddedhyn gael eu hychwanegu at raglen Cymrugyfan a fydd yn cael ei dosbarthu iorsafoedd lleol ar y llwybrau ac iGanolfannau Croeso. I ddarganfod mwygalwch Anwen (manylion gyferbyn).

GRWPIAU ~ GRWPIAU ~ GRWPIAU ~ GRWPIAU

Troeon Trên

Ayw eich grwp chiwedi trefnu

teithiau rhwng 26Rhagfyr a 2 Ionawr?Yna hysbysebwch nhwar ‘Walks Finder’ ar-lein Y Cerddwyr ihyrwyddo eichteithiau cerddedymhellach i aelodau arhai nad ydynt ynaelodau. Dyma’ramser perffaith i ddenu aelodau newydd sy’nbwriadu dechrau ar eu hadduned BlwyddynNewydd drwy ymuno â’r Cerddwyr. Gellircynnwys pob gradd a phellter. Mae posteridwyieithog y gellwch chi eu llenwi ar gaeloddi wrth Y Cerddwyr Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am ypynciau ar y tudalennau hyncysylltwch ag Anwen Parker

ar 029 2064 4308 neu e-bostiwch

[email protected]

Teithiau CerddedGwyl y Gaeaf

Ffoto: Nick Treharne

rambler_67_CYMRAEG 21/11/07 10:20 AM Page 7