wjec a2 christianity topic 4 gce...1. y cyngor cenhadu rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol...

17
TAG Astudiaethau Crefyddol RS3 CHR: Astudio Cristnogaeth (U2) Topig 4 gan Gordon Reid

Upload: others

Post on 27-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

TAG Astudiaethau Crefyddol RS3 CHR: Astudio Cristnogaeth (U2)

Topig 4

gan Gordon Reid

Page 2: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

1

Astudiaethau mewn Cristnogaeth (U2)

_____________________________________________________________________ Pwnc 4: Cristnogaeth yn y Byd Modern

Y Mudiad Eciwmenaidd Ers y Refformasiwn rhannwyd yr Eglwys Gristnogol yn y Gorllewin yn Gatholigion a Phrotestaniaid. Ym marn llawer o Gristnogion y mae hyn yn groes i ddysgeidiaeth y Beibl am fod pob Cristion yn credu yn yr un Iesu Grist, yr un Beibl a’r un sacramentau o Fedydd a Chymun. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif yr oedd rhai Cristnogion ar y naill ochr a’r llall yn dyheu am ryw fath o undod, ac o’r dyhead hwn y datblygodd y Mudiad Eciwmenaidd. Sefydlwyd y Mudiad Eciwmenaidd (o’r gair Groeg oikumene, yn golygu ‘yr holl fyd cyfannedd’) yn 1910, yn dilyn cynnal Cynhadledd Genhadol y Byd yng Nghaeredin. Ei amcan yw dwyn ynghyd Gristnogion o bob enwad. Cynhadledd Caeredin 1910 Cynhadledd Caeredin a roddodd gychwyn i’r mudiad. Yr oedd ei chadeirydd egniol, J.R.Mott (1865-1955) yn benderfynol o sicrhau canlyniadau cadarnhaol iddi a bod rhywbeth yn digwydd yn ei sgil. Sefydlodd wyth comisiwn i baratoi deunyddiau a bu’n trafod gyda nifer fawr o arweinwyr

AMCAN Ar ddiwedd y pwnc hwn dylech allu:

• deall prif nodweddion y Mudiad Eciwmenaidd • gwerthuso i ba raddau yr effeithiodd y mudiad hwn ar strwythurau a chredoau

traddodiadol yr Eglwys Gristnogol • deall ystyr ac arwyddocâd Fatican II • deall a gwerthuso prif ddysgeidiaethau Diwinyddiaeth Rhyddhad • deall cenhadaeth a gwaith Taizé a Chyngor Eglwysi’r Byd • deall natur a thwf y Mudiad Carismataidd a Phentecostiaeth • gwerthuso’n feirniadol ddylanwad y Mudiad Carismataidd a Phentecostiaeth ar yr

Eglwys Gristnogol • gweld cysylltiadau rhwng y pwnc hwn a phynciau eraill yn yr uned hon.

Page 3: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

2

eglwysig a phobl eraill o ddylanwad, gan gynnwys Archesgob Caergaint. Y canlyniad fu i gynrychiolwyr gwybodus o groesdoriad eang o’r Eglwys Gristnogol ddod i’r gynhadledd. Arweiniodd hynny at ddatblygu dros y degawdau a dilynodd tair gwahanol gangen o eciwmeniaeth:

1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd.

2. Y Mudiad Ffydd a Threfn – i lunio neges Gristnogol unedig y gallai cenhadon ei chyhoeddi i Gristnogion newydd heb ofni rhaniadau diwinyddol.

3. Y Mudiad Bywyd a Gwaith – i gefnogi Cristnogion a oedd yn brwydro yn erbyn gorthrwm yn y byd.

Pwnc trafod: Pam y cododd Eciwmeniaeth yn yr Eglwys Gristnogol?

Newidiadau mewn Eciwmeniaeth Dros y blynyddoedd wynebodd eciwmeniaeth sawl rhwystr, gan gynnwys y ffaith i’r Eglwys Babyddol wrthod cymryd rhan am ei bod yn credu mai ganddi hi yn unig y mae holl wirionedd Cristnogaeth. Yn ei gylchlythyr Mortalium Animos datganodd y Pab Pius XI: ‘Ni all yr Esgobaeth Apostolaidd ar unrhyw gyfrif cymryd rhan yn y cynulliadau hyn ac nid yw’n gyfreithlon o gwbl i Gatholigion annog na chefnogi mentrau o’r fath. Pe gwnaent hynny, byddent yn cefnogi ffug-Gristnogaeth.’

Pwnc Seminar: A oedd yr Eglwys Babyddol yn iawn i gymryd y safbwynt hwn? Pam/ Pam ddim?

Y mae newidiadau eraill hefyd wedi rhwystro twf eciwmeniaeth:

• Cefnwyd ar genhadon a grwpiau cenhadol a chynnwys mwy o eglwysi.

• Arafodd hyn y mudiad a pheri iddo fynd yn sownd mewn manylion gweinyddol ac athrawiaethol.

• Mae’r eglwysi am gadw eu traddodiadau; y maent felly’n araf i gytuno i newid pethau.

• Nid yw’r Mudiad Eciwmenaidd yn flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o eglwysi.

• Ofnai rhai eglwysi y gallai Cyngor Eglwysi’r Byd dyfu i fod yn ‘arch-eglwys’.

Y mae pwyslais eciwmeniaeth hefyd wedi newid, a’r eglwys yn ymwneud mwy â materion gwleidyddol a chymdeithasol. Er gwaethaf gwrthwynebiad llawer o

Page 4: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

3

aelodau eglwysig sydd o’r farn y dylai’r eglwys osgoi gwleidyddiaeth, bu newid diwinyddol i gydnabod bod angen mynd i’r afael â dioddefaint dynol a chymhwyso egwyddorion Cristnogol at faterion gwleidyddol a chymdeithasol. Ond bu anawsterau ynglŷn â hyn hefyd, am fod llawer o Gristnogion yn ansicr a ddylai’r eglwys ymwneud â gwleidyddiaeth neu ynteu lynu at bregethu’r neges Gristnogol. Y mae o hyd dadlau brwd ar y pwnc, ond y mae’r rhan fwyaf o Gristnogion bellach yn derbyn bod pobl yn profi eu ffydd mewn gwahanol ffyrdd a gwahanol ddulliau o fyw. Mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn parhau i geisio gwell dealltwriaeth o’r gwahaniaethau hyn rhwng Cristnogion.

Pwnc Seminar: A ddylai’r Eglwys ymwneud â gwleidyddiaeth? Pam / Pam ddim?

Eciwmeniaeth yn y DU Wynebodd y Mudiad Eciwmenaidd anawsterau arbennig yn Lloegr oherwydd sefyllfa arbennig Eglwys Loegr a’i chysylltiadau â’r wladwriaeth a’r breintiau cyfreithiol a chymdeithasol sydd ganddi. Ar un ystyr, nid yw pob eglwys Gristnogol yn y DU yn gydradd â’i gilydd, gan fod yr Eglwys Anglicanaidd yn Lloegr, ond nid yng Nghymru na’r Alban, yn Eglwys Sefydledig ac yn ganolbwynt y Cymundeb Anglicanaidd byd-eang.

Pwnc trafod: A yw’n iawn rhoi safle mor arbennig i Eglwys Loegr?

Y sefyllfa eciwmenaidd yn y DU yw bod yr Eglwys Babyddol yn dal i fod ar wahân, ac y mae’r Eglwysi Rhyddion yn rhanedig ac ansicr. Galwodd esgobion Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru ar i bob Cristion gydweithio at eglwys unedig, gan gydnabod ‘realiti ysbrydol’ yr enwadau eraill a’r gwaith a wna Duw ynddynt. Fodd bynnag, un rhwystr i eciwmeniaeth yw pwyslais yr esgobion ar yr esgobyddiaeth hanesyddol. Dyma’r safbwynt bod yn rhaid i weinidogion yr Eglwys Gristnogol gael eu hordeinio gan esgob a gafodd ei hun ei ordeinio gan esgob, ac felly’n ôl hyd at apostolion cyntaf yr Eglwys fore. Gelwir hyn yr ‘olyniaeth apostolaidd’. Yn Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru nid oes yr un ordinasiwn nac offeiriadaeth arall yn ddilys. Yn ôl yr esgobion, ni all undod eglwysig ddigwydd nes bod yr enwadau eraill yn derbyn hyn. O ganlyniad, ni fu unrhyw ymgais lwyddiannus i uno Eglwys Loegr na’r Eglwys yng Nghymru â’r Eglwysi Rhyddion. Datblygiadau Diweddar Yn 1970 sefydlwyd y Comisiwn Anglican-Pabyddol Rhyngwladol. Dros y deng mlynedd nesaf adroddodd fod ‘cytundeb sylweddol’ rhwng yr Eglwys Babyddol a’r Eglwysi Cristnogol eraill ar bynciau megis Gweinidogaeth, Awdurdod a Chyfiawnhad trwy Ffydd. Yn y cyfamser, daeth yr Eglwys Gatholig yn fwy hyblyg ar fater priodasau rhwng Catholigion a Christnogion o enwadau eraill.

Page 5: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

4

Yn 1972 unodd Eglwysi Cynulleidfaol a Phresbyteraidd Lloegr i ffurfio’r Eglwys Unedig Ddiwygiedig. Yn ddiweddarach, gwahoddodd eglwysi eraill, yn cynnwys yr Eglwys yng Nghymru, i weddïo gyda hi am undod ac yn 1980 sefydlwyd Cyngor Cyfamodi yr Eglwysi. Y mae mudiadau eciwmenaidd yn dal i ddatblygu, yn enwedig lle y bydd Cristnogion o wahanol enwadau yn rhannu adeiladau ac yn addoli gyda’i gilydd. Datblygodd sawl grŵp eciwmenaidd mewn prifysgolion a cholegau, gan gynnwys Cymdeithas Gristnogol y Prifysgolion a’r Colegau. Tasg Ysgrifennu: (i) Archwiliwch ddatblygiad eciwmeniaeth yn y DU. (ii) ‘Ni fydd eciwmeniaeth byth yn llwyddo yn y DU.’ Aseswch y safbwynt hwn. Cyngor Eglwysi’r Byd Y mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn gymdeithas fyd-eang o 349 o eglwysi cenedlaethol a lleol sy’n anelu at undod Cristnogol. Fe’i lleolir yn y Ganolfan Eciwmenaidd yng Ngenefa, y Swistir, ac y mae’n cynnwys enwadau sy’n cynrychioli mwy na 590 miliwn o Gristnogion mewn 150 o wledydd, yn eu plith enwadau Uniongred a Phrotestannaidd ac Eglwysi Anglicanaidd Cymru a Lloegr. Nid yw’r Eglwys Babyddol yn aelod, ond bydd yn anfon sylwedyddion i gyfarfodydd y Cyngor a bu am lawer blwyddyn yn cydweithio’n agos ag ef. Daeth Cyngor Eglwysi’r Byd i fod yn dilyn llwyddiant y Mudiad Eciwmenaidd ym mlynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif ac uno’r Mudiad Ffydd a Threfn a’r Mudiad Bywyd a Gwaith. Prif waith y Cyngor heddiw yw cydlynu gwaith eciwmenaidd, crefyddol a chymdeithasol ledled y byd, yn gynnwys gwaith dros undod Cristnogol, hyrwyddo cenhadu Cristnogol, addoli a gweini i anghenion dynolryw trwy ddymchwel muriau, cynnal cyfiawnder a lledaenu’r neges Gristnogol. Mae’r Cyngor yn ymgyrchu dros heddwch a chyfiawnder mewn lleoedd lle y mae gorthrwm, ac yn gweithio o blaid heddwch a Christnogaeth ledled y byd. Bu’n ymgyrchu ar sawl mater cysylltiedig â hyn, yn cynnwys hilyddiaeth, yr amgylchedd, hawliau merched a phobl anabl, heddwch a gwaith ieuenctid. Ei fandad yw: ‘Dadansoddi a myfyrio ar gyfiawnder, heddwch a’r cread a’u perthynas â’i gilydd, hyrwyddo gwerthoedd ac arferion a fydd yn creu diwylliant heddychlon a gweithio tuag at gydsefyll gyda phobl ifainc, merched, pobl frodorol a phobl a orthrymir oherwydd eu hil neu eu cenedl.’ Y mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn ei ddisgrifio’i hun fel: ‘… cymdeithas o eglwysi sy’n cyffesu’r Arglwydd Iesu Grist yn Dduw ac yn Waredwr yn ôl yr Ysgrythurau ac felly’n ceisio cyd-gyflawni eu galwad gyffredin er gogoniant yr un Duw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân.’

Page 6: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

5

Pwnc Ymchwil: (i) Gwnewch restr o’r eglwysi a’r enwadau yn y DU sy’n aelodau o Gyngor Eglwysi’r Byd. (ii) Pam nad yw’r Eglwys Babyddol yn cymryd rhan yn uniongyrchol?

Ail Gyngor y Fatican Galwyd Ail Gyngor y Fatican (Fatican II) ynghyd gan yr Eglwys Babyddol i ystyried ei pherthynas barhaus â’r byd modern ac i feddwl am eciwmeniaeth ac adnewyddiad. Fe’i hagorwyd gan y Pab Paul VI ar 8 Rhagfyr 1965. Yr amcan oedd cynorthwyo’r Eglwys ac, yn arbennig, ei hoffeiriaid i ddefnyddio a chymhwyso Catholigiaeth at anghenion gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a gwyddonol yr oes fodern. Fe’i galwodd y Pab Ioan hi yn ‘... amser agor ffenestri’r Eglwys er mwyn i awyr iach ddod i mewn’. I’r perwyl hwn gwahoddodd Gristnogion o’r tu allan i’r Eglwys Gatholig i anfon sylwedyddion, a derbyniwyd y gwahoddiad gan lawer o’r enwadau Protestannaidd a gan Eglwys Uniongred y Dwyrain.

Pwnc trafod: A oedd y Pab Ioan XXIII yn iawn i alw ynghyd Fatican II?

Ym mis Medi 1963, cyhoeddodd y Pab Paul VI fod i Fatican II bedwar amcan bugeiliol:

• diffinio’n llawn natur yr eglwys • adnewyddu’r eglwys • adfer undod yr holl Gristnogion • cychwyn ymddiddan mwy cynhyrchiol â’r byd modern.

Gwnaethpwyd llawer o benderfyniadau anodd a dadleuol a oedd yn gwyrdroi canrifoedd o feddwl ac ymagweddu traddodiadol. Un penderfyniad o’r fath oedd Nostra Aetate a ddatganai nad oedd yr Eglwys Babyddol o’r farn mai’r Iddewon oedd yn gyfrifol am farwolaeth Crist: ‘Mae’n wir i’r awdurdodau Iddewig a’r rhai hynny a ddilynodd eu harweiniad bwyso am farw Crist; eto i gyd, ni ellir dal yr hyn a ddigwyddodd yn ystod ei ddioddefaint yn erbyn yr holl Iddewon yn ddiwahân, y rhai a oedd yn fyw ar y pryd nac ychwaith Iddewon heddiw. Er mai’r Eglwys yw pobl newydd Dduw, ni ddylid cyflwyno’r syniad bod Duw wedi gwrthod na melltithio’r Iddewon ... mae’r Eglwys ... yn llwyr ymwrthod â chasineb, erledigaethau, ac arddangosiadau o Wrth-Semitiaeth yn erbyn Iddewon bob amser, ni waeth gan bwy.’ Bwriad y Cyngor oedd moderneiddio’r Eglwys Gatholig Rufeinig. Yr oedd y Pab Ioan XXIII wedi sylweddoli bod yn rhaid i’r Eglwys fynegi’r ffydd mewn ffordd newydd a bod yn llai amddiffynnol ac awdurdodaidd – dywedodd fod angen llenwi’r Eglwys ag egni – yr hyn a alwai ef yn ‘Bentecost newydd’.

Page 7: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

6

Daeth y Cyngor i ben gyda datganiadau newydd a fyddai’n cysylltu’r ffydd Gatholig yn nes ag anghenion bywyd modern. Y datganiad mwyaf pellgyrhaeddol oedd y Lumen Gentium, a gynhwysai’r datganiad bod: ‘… un Eglwys Crist yr ydym yn y Credo yn addef ei bod yn un, yn sanctaidd, yn Gatholig ac yn apostolig, y comisiynodd ein Gwaredwr, ar ôl ei atgyfodiad, Pedr i’w bugeilio ac, ynghyd â’r apostolion eraill, i’w hehangu a’i chyfarwyddo gydag awdurdod, a’i chodi dros yr holl oesoedd yn “golofn ac yn brif gynhaliwr y gwirionedd”. Mae’r Eglwys hon, wedi’i chyfansoddi a’i threfnu fel cymdeithas yn y byd modern, yn bod yn yr Eglwys Gatholig, a lywodraethir gan olynydd Pedr a chan yr esgobion sydd mewn cymundeb ag ef ... serch hynny, gwelir sawl elfen o sancteiddiad ac o’r gwirionedd y tu allan i’w ffiniau gweladwy.’ Mewn geiriau eraill, yr oedd yr Eglwys Babyddol wedi symud yn sylweddol nes at yr enwadau Cristnogol eraill trwy ddatgan:

• bod yr Eglwys Gristnogol yn cynnwys pob Cristion, nid Catholigion yn unig;

• nad yr Eglwys Babyddol yw unig ffynhonnell iachawdwriaeth; • bod Duw’n defnyddio Cristnogion eraill a chrefyddau eraill i gynnig

iachawdwriaeth i gredinwyr. Pwnc Seminar Faint o newid a fu yn yr Eglwys Babyddol o ganlyniad i Fatican II? A allai, ac a ddylai’r Cyngor fod wedi mynd ymhellach? Sut? Taizé Urdd fynachaidd eciwmenaidd yw Cymuned Taizé. Fe’i lleolir ym mhentref Taizé, Saone-et-Loire, Bordeaux, Ffrainc, ac y mae ynddi 100 o frodyr o bob rhan o’r byd. Y mae’n gymuned hunangynhaliol ac ymrwymodd y mynachod i rannu â’i gilydd bopeth sydd ganddynt. Byddant yn gwisgo dillad cyffredin yn ystod y dydd a gwisgoedd gwynion gyda chwfl yn yr eglwys. Y mae’r gymuned yn un o’r mannau pererindota pwysicaf i Gristnogion; daw mwy na 100,000 o bobl yno bob blwyddyn i ymuno yn y gweddïau, yr astudiaethau Beiblaidd a’r gwaith cymunedol. Dros y Calan bydd Cymuned Taizé yn cynnal cyfarfod i Oedolion Ifainc Ewrop yn un o ddinasoedd Ewrop a daw degau o filoedd o addolwyr ifainc iddo. Wrth galon yr hyn y daethpwyd i’w adnabod fel ‘Profiad Taizé’ y mae gweddi a distawrwydd. Daw llawer o Gristnogion ifainc ynghyd i rannu dull y gymuned o fyw – i astudio’r Beibl a byw’r efengyl Gristnogol mewn ysbryd o lawenydd, symlrwydd a chymod. Sefydlwyd y Gymuned yn 1940 gan y Brawd Roger Schutz (bu farw 2005), fel grŵp eciwmenaidd a oedd yn ymroddedig i geisio heddwch a chyfiawnder yn

Page 8: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

7

y byd trwy weddi a myfyrdod, gyda’r brodyr yn cyd-fyw mewn ysbryd o garedigrwydd, symlrwydd a chymod. Pan sefydlwyd hi yn Ffrainc, a oedd yn dioddef o effeithiau’r Ail Ryfel Byd, dywedodd y Brawd Roger: ‘Yr oedd Ffrainc yn wlad dlawd a oedd wedi dioddef yn ystod y rhyfel, ond yn wlad a oedd yn rhydd yn fewnol ... achosodd gorchfygu Ffrainc gydymdeimlad nerthol. Pe gellid dod o hyd i dŷ yno o’r math y bûm yn breuddwydio amdano, gallai gynnig ffordd bosibl o gynorthwyo rhai o’r bobl a ddigalonnwyd fwyaf, rhai a amddifadwyd o fywoliaeth; a gallai dyfu i fod yn lle o dawelwch a gwaith.’ – ‘A Lifelong Commitment’ – gwefan swyddogol Taizé. Heddiw y mae’r gymuned yn cynnwys pobl a thraddodiadau addoli o bob rhan o’r byd – mae ei cherddoriaeth yn adlewyrchu llawer o wahanol ieithoedd ac yn cynnwys caneuon, siantiau ac eiconau o sawl traddodiad Cristnogol, yn eu plith Protestaniaeth, Catholigiaeth ac Eglwys Uniongred y Dwyrain. Datblygodd Taizé ddull unigryw o addoli a addaswyd gan eglwysi a chanolfannau Cristnogol ledled y byd. Golyga ganu ac ail-ganu siantiau a gweddïau, fel rheol wrth olau canhwyllau. Nid yw’r gerddoriaeth yn cynnwys dim ond brawddegau syml - llinellau o’r Salmau neu rannau eraill o’r Ysgrythur - a genir dro ar ôl tro i gynorthwyo’r addolwyr i fyfyrio a gweddïo. Rhwng y caneuon bydd cyfnodau o ddistawrwydd i annog meddwl a myfyrio. Cenir y caneuon mewn sawl iaith. Offrymir hefyd weddïau ffurfiol, a chynhwysir emynau, ymbiliau a darlleniadau o’r Beibl. Y mae rhai o frodyr Taizé yn gweithio gyda phobl anghenus a gorthrymedig rhai o wledydd tlotaf y byd a chynhelir mewn gwlad wahanol bob blwyddyn Gyfarfod Rhyngwladol Oedolion Ifainc i ehangu’r hyn a alwodd y Brawd Roger yn ‘Bererindod o Ymddiriedaeth ar y Ddaear’. Croesawodd Taizé hefyd lawer o arweinwyr Cristnogol, yn cynnwys cyn-Archesgob Caergaint, George Carey, a’r Pab Ioan Paul II, a’i galwodd yn ‘ffynnon o ddŵr’. Y mae Taizé yn ganolfan eciwmenaidd o bwys sy’n dwyn ynghyd bobl o bob enwad a diwylliant Cristnogol. I lawer, y mae’n arwydd o obaith mewn byd rhanedig. Tasg Ysgrifennu: (i) Archwiliwch gyfraniad Cyngor Eglwysi’r Byd a Taizé at undod Cristnogol. (ii) ‘Methiant yw eciwmeniaeth’. Aseswch y safbwynt hwn. Diwinyddiaeth Rhyddhad Mudiad yw diwinyddiaeth rhyddhad a gychwynnodd yn America Ladin yn 1960au ac sy’n ceisio gwahanu Cristnogaeth oddi wrth ei gwreiddiau gwleidyddol a diwylliannol am fod diwinyddion rhyddhad yn mynnu bod yr eglwys yn cefnogi llywodraethau a strwythurau grym sy’n gormesu ar aelodau

Page 9: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

8

gwannaf cymdeithas – y tlodion a’r gorthrymedig, sy’n chwilio am obaith mewn byd o dlodi ac anghyfiawnder. Y mae gwreiddiau’r mudiad yn nhlodi dybryd America Ladin, y bu ei phobl yn Gristnogion pybyr am ganrifoedd ond eu bod yn teimlo i’r Eglwys droi ei chefn arnynt a bod eu dioddefaint yn groes i ewyllys Duw ac i ddysgeidiaeth Crist. Pabyddol yw tarddiad diwinyddiaeth rhyddhad, ond y mae’n gwahaniaethu oddi wrth y safbwyntiau traddodiadol am ei fod yn ystyried yn y lle cyntaf amgylchiadau’r byd ac yna ar sut yr amlygir Duw yn hanes dynolryw. Daeth i amlygrwydd pan addawodd Ail Gyngor y Fatican archwilio Catholigiaeth yng ngoleuni amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y byd. Gwnaeth Cynhadledd Esgobion America Ladin yn Medellin yn 1968 y cyfaddefiad brawychus bod yr Eglwys Babyddol yn wir wedi cefnogi llywodraethau gormesol yn America Ladin ac y byddai’r Eglwys yn y dyfodol o blaid y tlodion. Ysgrifennodd Bonino yn Doing Theology in a Revolutionary Situation (Augsburg 1985): ‘Rhaid i ddiwinyddiaeth roi’r gorau i archwilio’r byd a dechrau ei drawsnewid’. Fodd bynnag, bu’r Eglwys Babyddol bob amser yn amheus o’r mudiad diwinyddiaeth rhyddhad oherwydd ei gysylltiadau Marcsaidd. Yng Nghynhadledd Esgobion Puebla yn 1979 dywedodd y Pab Ioan Paul II bod: ‘… rhaid i’r rhai hynny sy’n cyd-fwyta â Marcsiaeth ddefnyddio llwy hir.’

Pwnc trafod: A oedd y Pab Ioan Paul II yn iawn?

Yna, yn 1986, yn ei Instruction on Christian Freedom and Liberation, bu’r Pab yn fwy cymodol, a gwnaeth yr Eglwys gydnabod rhai ffurfiau ar ddiwinyddiaeth rhyddhad a rhoi blaenoriaeth uwch i helpu’r tlodion yn America Ladin. Yn ôl Bonino: ‘Y mae Duw yn amlwg ac yn ddigamsyniol o blaid y tlawd’. Ar y dechrau, yn y prifysgolion ac ymhlith y dosbarth canol addysgedig y ceid diwinyddiaeth rhyddhad ond y mae bellach yn rhan o fywydau pobl gyffredin America Ladin a lleoedd eraill. Bu cynnydd mewn ‘Cymunedau Eglwysig Sylfaenol’, sef grwpiau bychain o bobl gyffredin sy’n cwrdd i weddïo ac i roi sylw i’r materion cymdeithasol a gwleidyddol sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn Christology at the Crossroads (Orbis 1978), ysgrifennodd Sobrino: ‘Y tlodion yw’r ffynhonnell ddiwinyddol ddilys at ddeall gwirionedd ac arferion Cristnogaeth.’ Yn Introducing Liberation Theology (Orbis 1987) cysylltodd Leonardo Boff ddiwinyddiaeth rhyddhad â dysgeidiaeth Iesu Grist. Dywedodd i Iesu ddod i’r byd yn ddyn tlawd ac mai ei neges oedd bod a wnelo teyrnas Dduw â rhyddhau’r tlodion. Yn ôl Boff, cyfoethogion pwerus a gynllwynodd farwolaeth

Page 10: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

9

Iesu i rwystro llwyddiant ei genhadaeth. Mynnai y dylai cenhadaeth yr eglwys gynnwys nid yn unig dysgu ond ‘gwneud rhywbeth’. Dyma’r cysyniad o praxis neu ‘weithredu’, sy’n annog Cristnogion i newid cymdeithas ar ran y tlodion. Bydd diwinyddion rhyddhad yn sôn am ‘bechod strwythurol’, sef mai cymdeithas, nid unigolion, sy’n llwgr ac mewn angen am achubiaeth. Yn God of the Oppressed (Orbis 1997), ysgrifennodd James Cone: ‘A oes yna agenda gudd yn ein datganiadau diwinyddol sy’n peri bod yr eglwys fyd-eang yn fwy cyffyrddus gyda’r dosbarthiadau canol ac uwch nag y mae gyda’r tlodion?’ Yn A Theology of Liberation (SCM 1988) aeth Gustavo Gutierrez ymhellach a mynnu mai dyletswydd bwysicaf y Cristion oedd ymladd yn erbyn gormes ac mai eilbeth oedd diwinyddiaeth a ddylai adlewyrchu’r frwydr honno: ‘Man cychwyn diwinyddiaeth rhyddhad yw ymrwymiad i’r tlodion, y person ‘nad yw’n bod’. Oddi wrth y dioddefydd y daw ei syniadau.’ Galwodd Gutierrez y werin orthrymedig yn ‘amhersonau’ (Hombres Cactus - ‘pobl y cactws’). Roedd y bobl hyn yn cael eu hecsbloetio a hynny’n eu hamddifadu o’u hawl i fodolaeth gymwys fel bodau dynol. Neges Cristnogaeth, meddai, oedd ymladd dros y tlodion: ‘Cariad Duw ynom sy’n ein galluogi i garu eraill ... Duw’n ein caru ni fel pobl. Y mae Crist yn datguddio inni gariad y Tad. Ymgnawdolir cariad Duw at bobl yng nghariad pobl at ei gilydd – cariad rhieni, gwŷr a gwragedd, plant, cyfeillion – ac felly y cyflawnir ef.’ Galwodd y frwydr hon, ‘arfer cyd-gefnogaeth’, yn ‘ddewis o blaid y tlawd’, ac y mae’n gwbl ganolog i ddiwinyddiaeth rhyddhad. Heddiw, y mae o hyd yn America Ladin lawer o bobl dlawd a gorthrymedig. Arweiniodd newid yn strwythurau’r eglwys at nifer o ‘fudiadau poblogaidd’, er enghraifft y Mudiad Pobl Heb Dir a’r Mudiad Plant y Strydoedd, a gefnogir gan lawer o eglwysi Cristnogol fel ffordd y gall pobl broffesiynol gynorthwyo’r bobl fwyaf anghenus. Yn ôl Gutierrez: ‘Yr ydym o blaid y tlodion, nid am eu bod yn dda ond am eu bod yn dlawd.’ Fodd bynnag, dywed beirniaid diwinyddiaeth rhyddhad ei bod yn rhy or-syml ac yn osgoi diwinyddiaeth ddofn y mae a wnelo â phechod, iachawdwriaeth ac iawn. Y mae, meddent, wedi troi iachawdwriaeth yn broblem fydol ac yn anwybyddu’r dimensiwn ysbrydol. Tasg Ysgrifennu: (i) Archwiliwch gryfderau a gwendidau Diwinyddiaeth Rhyddhad. (ii) ‘Mae Diwinyddiaeth Rhyddhad yn ymwneud â gwleidyddiaeth, nid â chrefydd’. Aseswch y safbwynt hwn.

Page 11: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

10

Y Mudiad Carismataidd Mudiad cydenwadol i adnewyddu Cristnogaeth yw’r Mudiad Carismataidd. Nid eglwys mohono, ond term cyffredinol sy’n cynnwys nifer o grwpiau Cristnogol rhyngwladol ac enwadol sy’n pwysleisio’r gred y gall Cristnogion gael eu ‘llenwi â’r’ Ysbryd Glân neu eu ‘bedyddio ag ef’. Daeth yn fudiad poblogaidd oddi mewn i Brotestaniaeth a Chatholigiaeth yn y 1960au pan ddechreuodd nifer o oedolion ifainc yn y prif enwadau Cristnogol dderbyn athrawiaethau Pentecostaidd am fedydd â’r Ysbryd Glân a llefaru â thafodau. Daeth y safbwynt hwn i gael ei adnabod fel ‘Pentecostiaeth Newydd’, ond gwahaniaethodd y mudiad ei hun oddi wrth y Pentecostiaid a’i alw’i hun y Mudiad Carismataidd. Daw’r enw o’r geiriau Groeg charis (gras) a mata (doniau). Pwysleisia’r hyn a adwaenir fel doniau’r Ysbryd Glân (charismau), sy’n arwydd o bresenoldeb Duw. Cred Carismatiaid fod yr Ysbryd Glân yn rhoi gwahanol ddoniau ysbrydol i gredinwyr – dyma ddoniau gras Duw y sonia Paul amdanynt yn y Testament Newydd: ‘Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd; i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd; i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau. A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn ôl ei ewyllys, i bob un ar wahân.’ – 1 Corinthiaid 12:7-11

Pwnc trafod: Os yw’r Carismatiaid yn iawn, oni ddylai pob Cristion fod yr un fath â hwy?

Er bod Carismatiaid ym mhob un o enwadau’r Eglwys Gristnogol, sefydlodd rhai ohonynt weinidogaethau a mudiadau annibynnol, megis Mudiad y Winllan, Ymddiriedolaeth y Ffynnon a Mudiad Eglwys Newydd Prydain. Gellir gwahaniaethu rhwng Carismatiaid a Phentecostiaid. Er bod Carismatiaid yn rhannu’r gred yn noniau’r Ysbryd Glân, nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cefnogi’r safbwynt Pentecostaidd bod llefaru â thafodau yn brawf o fedydd â’r Ysbryd Glân. Nid ydynt ychwaith yn derbyn y safbwynt Pentecostaidd bod yn rhaid i Gristnogion gael eu bedyddio â’r Ysbryd Glân a bod presenoldeb mewnol yr Ysbryd Glân yn arwydd o iachawdwriaeth. Yn wir, tuedda’r rhan fwyaf o Gristnogion i addoli mewn dull traddodiadol. Yn Questions of Life (Kingsway 1993) esboniodd Nicky Gumbel eu safbwynt: ‘Y mae’r Ysbryd Glân yn preswylio ym mhob Cristion, ond nid pob Cristion sy’n llawn o’r Ysbryd Glân ... pan fydd pobl yn llawn o’r Ysbryd Glân, byddant yn tanio ar bob silindr ... pan fyddwch yn edrych arnynt, bron na allwch weld a theimlo’r gwahaniaeth.’

Page 12: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

11

Pwysleisiodd ysgrifenwyr eraill yr angen i brif ffrwd yr eglwysi Cristnogol a’r Carismatiaid barhau’n gryf. Yn Renewal and the Powers of Darkness (1983 DLT), dywed Leon Suenens: ‘Wrth galon byd llawn amheuaeth resymegol fe dorrodd yn sydyn brofiad newydd o’r Ysbryd Glân. Ac ers hynny lledodd y profiad hwnnw i fod yn fudiad Adnewyddu byd-eang ... Nid hen hanes yn unig yw’r hyn a ddywed y Testament Newydd wrthym am ddoniau’r Ysbryd – sy’n cael ei ystyried yn arwyddion gweladwy fod yr Ysbryd yn dod – oherwydd y mae eto’n bwnc amserol; rhaid i offeiriaid ac esgobion beidio â gadael i’r Adnewyddiad fynd heibio iddynt ond yn hytrach ei groesawu; ar y llaw arall, rhaid i aelodau’r Adnewyddiad gadw a meithrin eu cysylltiad â’r Eglwys.’

Pwnc Ymchwil: (i) Gwnewch restr o’r prif wahaniaethau rhwng credoau ac arferion Carismataidd a chredoau ac arferion Cristnogaeth draddodiadol. (ii) Pa resymau sy’n gallu cael eu rhoi am y gwahaniaethau hyn?

Pentecostiaeth Y mae Pentecostiaeth yn un o’r mudiadau Cristnogol sy’n tyfu gyflymaf – ef erbyn hyn yw’r trydydd, yn dilyn Catholigiaeth a Phrotestaniaeth. Nid eglwys ydyw, ond mudiad oddi mewn i Gristnogaeth sy’n rhoi pwyslais arbennig ar brofiad personol yr addolwr o Dduw trwy weithrediad yr Ysbryd Glân. Ffydd brofiadol ydyw. Y mae ei phwyslais nid ar addoli’n oddefol a darllen yr ysgrythurau ond ar addoli mewn dull bywiog ac egniol iawn. Y mae ei henw’n tarddu o Ddydd y Pentecost yn y Beibl, pan lanwyd apostolion Iesu â’r Ysbryd Glân ac y gwnaethant dderbyn nerth ysbrydol Duw: ‘Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.’ – Actau 2:1-4 Heddiw, ystyria Pentecostiaid fod ganddynt yr un egni ag a oedd gan y Cristnogion cynnar, a rhoddant bwyslais mawr ar ddoniau ysbrydol oddi wrth Dduw ac ar fedydd â’r Ysbryd Glân. Y maent yn rhan o’r hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel ‘Cristnogaeth Garismatig’ ac y mae mwy na 250 miliwn o addolwyr Pentecostaidd ledled y byd. Credant eu bod yn gyflawniad modern o broffwydoliaeth Joel: ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw: tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb; a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau, a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion … a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.' – Actau 2:17, 21

Page 13: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

12

Pwnc Seminar: Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng Cristnogaeth draddodiadol a

Phentecostiaeth? A yw’r gwahaniaethau hyn o bwys? Pam/ Pam ddim? Tarddiadau Pentecostiaeth Y mae gwreiddiau Pentecostiaeth yn y Mudiad Sancteiddrwydd Wesleaidd yn y 18fed ganrif. Ymateb ydoedd i stiffrwydd a ffurfioldeb yr eglwysi Cristnogol traddodiadol. Ar y pryd, tybiai llawer o Gristnogion yn America ac ym Mhrydain fod Cristnogaeth fodern wedi colli rhywfaint o nerth a bywyd yr Eglwys fore a theimlai rhai, a elwid yn efengyleiddwyr, fod angen chwilio am brofiad o’r Ysbryd Glân a bod â mwy o frwdfrydedd wrth gyhoeddi neges Crist i’r byd. Mynnent y dylai Cristnogion gael eu trawsffurfio, trwy nerth yr Ysbryd Glân, gan brofiad personol o wirionedd Crist. Yn 1901 y cychwynnodd Pentecostiaeth fodern, pan honnodd Agnes Ozman ei bod yn llawn o’r Ysbryd Glân a llefaru â thafodau yn Ysgol Feiblaidd Bethel, Texas. Dilynwyd hi gan eraill a thyfodd y mudiad, yn enwedig yng Nghenhadaeth Efengyl y Ffydd Apostolaidd yn Heol Azusa, Los Angeles, lle y cyhoeddai’r pregethwr William Seymour yr anfonai Duw Bentecost newydd pe bai pobl yn gweddïo am un, a dechreuodd ef a’i gynulleidfa lefaru â thafodau. O ganlyniad, bu newid mawr, a alwyd yn Ddiwygiad Heol Azusa, a dechreuodd pobl ddylifo i’r genhadaeth i fynd â’r tân yn ôl i’w heglwysi eu hunain. Yn fuan, tyfodd grwpiau Pentecostaidd ledled America ac Ewrop. Yn 1914 yr agorodd yr Eglwys Bentecostaidd gyntaf yn y DU. Yn 1915 sefydlodd y Cymro, George Jeffreys, Eglwys Bentecostaidd Elim yn Iwerddon. Dangosodd Data Cyfrifiad yr Eglwysi 2006 fod yna yng Nghymru 288,500 o Bentecostiaid, o’u cymharu â dim ond 278,00 o Fethodistiaid. Yr Eglwys Bentecostaidd yw’r grŵp Cristnogol sy’n tyfu gyflymaf. Cydnabu Jonathan Kerry o’r Eglwys Fethodistaidd: ‘Fel sawl enwad hanesyddol, mae’r Eglwys Fethodistaidd yn awr yn cael anhawster i ymateb i fudiadau newydd ysbryd Duw heb deimlo ei bod yn bradychu’r gorffennol. Y mae mudiadau eglwysig newydd fel Pentecostiaeth yn cario llai o bwysau traddodiad.’ Dywedodd y Dr David Voas o Brifysgol Manceinion fod hyn yn dangos bod: ‘mewnfudo o Affrica a lleoedd eraill wedi arwain at dwf mewn eglwysi Pentecostaidd, lle y mae’r dull o addoli’n fwy lliwgar.’

Pwnc trafod: A yw hyn yn iawn?

Page 14: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

13

Addoliad a chred Pentecostiaeth Bydd Pentecostiaid yn dilyn yr hyn a alwant yr ‘efengyl gyflawn’. Y maent yn credu mai gair Duw yw’r Beibl a’i fod yn cynnwys pedwar gwirionedd sylfaenol Pentecostiaeth, sef:

• mai Iesu yw ffynhonnell iachawdwriaeth (Ioan 3:16); • rhaid bedyddio pobl â’r Ysbryd Glân (Actau 2:4); • gall Duw iacháu’r corff (Iago 5;15); • fe ddaw Iesu eto i dderbyn pawb a achubwyd (I Thesaloniaid 4:16)

Pwnc Seminar:

Ym mha ffyrdd y mae pedwar gwirionedd sylfaenol Pentecostiaeth yn cytuno â Christnogaeth draddodiadol ac yn gwahaniaethu oddi wrthi? Un o’r elfennau mwyaf hanfodol mewn Pentecostiaeth yw’r angen am fedydd, sy’n cael ei ddeall mewn tair gwahanol ffordd:

• Bedyddio i gorff Crist - Trwy’r bedydd hwn daw’r credadun yn rhan o gorff Crist, yr Eglwys, ac fe’i hachubir. Ni ellir gweinyddu’r bedydd ond ar ôl i’r sawl a fedyddir gael tröedigaeth a chyflwyno’i fywyd i Iesu.

• Bedyddio trwy ddŵr – Yn y bedydd hwn bydd y credadun yn golchi ymaith yr hen hunan pechadurus ac yn dod allan yn aelod teilwng o’r Eglwys.

• Bedyddio â’r Ysbryd Glân - Bydd yr Ysbryd Glân yn llenwi’r credadun â nerth ysbrydol a chred - gelwir hyn yn ‘brofiad galluogol’; mae’n cael ei amlygu’n aml trwy fod y credadun yn cael y ddawn o lefaru â thafodau.

Credoau canolog y Pentecostiaid yw:

• mai’r Beibl yw gair diwall Duw; • trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu, maddeuir pechodau credinwyr a’u

cymodi â Duw; • golyga hyn eu bod wedi eu ‘haileni’ – eu bod wedi dewis, trwy ffydd,

derbyn Iesu yn Waredwr personol. Fel y nododd Duffield a van Cleave yn Foundations of Pentecostal Theology (1981 Foursquare Media): ‘Amod sylfaenol Pentecostiaeth yw ailenedigaeth. Trwy ras Duw y daw ailenedigaeth, trwy ffydd yng Nghrist a’i dderbyn ef yn arglwydd ac yn waredwr personol. Wedi ei aileni, caiff y credadun ei adnewyddu a’i gyfiawnhau, ei dderbyn i mewn i deulu Duw a’i sancteiddio.’

Page 15: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

14

Golyga hyn yr adfywir y credadun pan fydd farw ac y caiff fyw am byth yn y nefoedd. Cred Pentecostiaid fod yr Ysbryd Glân yn byw o’u mewn o’r eiliad yr ‘ailenir’ hwy – gelwir hyn yn ‘dywalltiad yr Ysbryd’, ac mae’n rhoi nerth a’r gallu i’r credadun i fyw bywyd gan ddilyn Crist, i dderbyn doniau ysbrydol oddi wrth Dduw ac i ymladd yn erbyn lluoedd drygioni. Y mae dull y Pentecostiaid o addoli yn llai ffurfiol ac yn rhoi mwy o fynegiant i’r emosiwn na dull y rhan fwyaf o’r traddodiadau Cristnogol eraill. Addolir â’r galon a’r corff, â’r enaid a’r meddwl. Cynllunnir yr holl addoliad - yr awyrgylch, y gerddoriaeth a’r parodrwydd i fod yn agored i ddoniau’r Ysbryd Glân - i fod yn brofiad o bresenoldeb Duw.

Sut y mae’r dull Pentecostaidd o addoli yn gwahaniaethu oddi wrth y dull traddodiadol Cristnogol o addoli? A yw’r gwahaniaethau’n bwysig?

Seminar:

Fel y gwna eglwysi Cristnogol eraill, defnyddia’r Pentecostiaid ddefodau a seremonïau yn gymorth i addoli – galwant y rhain yn ‘ordinhadau’. Er enghraifft, y mae’r ordinhad o fedyddio â dŵr yn arwydd allanol o lanhad mewnol oddi wrth bechod – ac y mae hyn yn hanfodol i iachawdwriaeth, ac y mae ordinhad y Cymun Bendigaid yn coffáu Iesu Grist. Fodd bynnag, y mae un gwahaniaeth mawr. Er bod llawer o eglwysi Cristnogol yn ystyried defodau o’r fath yn sacramentau, hynny yw, yn weithredoedd sy’n trosglwyddo gras Duw i’r credadun, nid felly’r Pentecostiaid. Yn hytrach, defnyddiant y term ‘ordinhad offeiriadol’ i ddynodi gweithred benodol o ras Duw ar y credadun. Y mae addoliad Pentecostaidd yn fywiog iawn a rhoddir pwyslais mawr ar gyfraniad y gynulleidfa. Cymysgedd ydyw o weddïo, canu, dysgu, dangos doniau’r Ysbryd, tystiolaethu a darllen y Beibl. Yn Introduction: American Pentecostalism, fe’i disgrifiodd Edmund Rybarczyk fel: ‘… dull bywiog a symudol o addoli trwy glapio a chwifio a chodi dwylo, dawnsio, martsio a chwympo yn yr Ysbryd, gweiddi, pregethu mewn dull galw ac ymateb, a synnwyr cyffredinol bod popeth yn ddigymell.’

Pwnc trafod: A yw Pentecostiaeth yn rhoi gormod o bwyslais ar gyfranogaeth y gynulleidfa?

I lawer o Bentecostiaid, yr agwedd bwysicaf ar addoli yw eu hymateb corfforol i bresenoldeb yr Ysbryd Glân. Y mae dwy wedd ar hyn. Diffiniwyd y gyntaf, ‘dawnsio yn yr Ysbryd’, fel a ganlyn gan Shane Clifton yn An Analysis of the Developing Ecclesiology of the Assemblies of God (ACU 2005): ‘… cyfranogwr unigol yn dawnsio’n ddigymell â’i lygaid ynghau heb daro yn erbyn pobl na gwrthrychau eraill, yn amlwg dan nerth a chyfarwyddyd yr Ysbryd Glân.’

Page 16: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

15

Gelwir yr ail yn ‘ladd yn yr Ysbryd’ ac fe ddigwydd pan fydd rhywun yn cwympo’n ôl, yn llawn o bresenoldeb Duw, wrth i bobl weddïo trosto. Nid yw Pentecostiaid yn bedyddio babanod am eu bod yn credu mai mater o ddewis yw bedydd. Yn hytrach, cyflwynir babanod i Dduw a’u bendithio. Mae llawer o addoliad y Pentecostiaid yn canolbwyntio ar ‘ddoniau’r Ysbryd’, sef y galluoedd goruwchnaturiol y mae Duw yn ei roi i gredinwyr (1 Corinthiaid 12) i ddangos ei bresenoldeb a’i rym, er enghraifft, proffwydo, iacháu’r cleifion a gwneud gwyrthiau. Un o’r doniau rhyfeddaf yw’r gallu i ‘lefaru â thafodau’ (glossolalia), sy’n tystio bod yr Ysbryd Glân yn preswylio o’ch mewn ac sy’n adleisio geiriau Crist: ‘bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant â thafodau newydd … rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant.’ – Marc 16:17-18

Pwnc trafod: Beth yw pwynt llefaru â thafodau?

Apêl Pentecostiaeth Fe all mai apêl fwyaf Pentecostiaeth yw ei bod yn cynnig sicrwydd ysbrydol deniadol wedi’i seilio ar brofiad uniongyrchol o Dduw – y math o sicrwydd sydd ddim i’w gael, fe ymddengys, yn yr eglwysi Cristnogol traddodiadol e.e. credoau am fedydd, ailenedigaeth a bywyd tragwyddol. Y mae hefyd yn llai anhyblyg ac yn gallu addasu’n haws i wahanol draddodiadau lleol, dulliau o addoli a syniadau diwylliannol. Yn American Originals (ACU 2007), dywed Paul Conkin: ‘Bu enwadau Pentecostaidd yn arbennig o lwyddiannus yn America Ladin ymhlith Catholigion mewn enw nad oeddent yn mynychu’r eglwys, ac yn enwedig ymhlith y rhai hynny a oedd ar waelod yr hierarchaeth gymdeithasol ac economaidd. Yn yr ystyr hon, Cristnogaeth i’r dosbarthiadau isaf o dlodion yw Pentecostiaeth.’ Yn The Pentecostal Gospel and Third World Culture (ACU 2006) dywed Allan Anderson: ‘Am fod dull y Pentecostiaid o addoli yn ddull digymell a llafar, yn hytrach na bod wedi’i angori mewn testun litwrgaidd, mae’n galluogi pob un yn y gynulleidfa i gymryd rhan heb ofni gwneud dim o’i le ac i rannu eu profiad arbennig hwy o Dduw a chael y gymuned gyfan i’w werthuso.’ Fodd bynnag, ychydig o effaith a gafodd Pentecostiaeth ar y sefydliad Cristnogol traddodiadol. Fe all mai’r rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o aelodau’r eglwysi Pentecostaidd yn dlawd ac yn perthyn i leiafrifoedd ethnig nad oes ganddynt fawr o rym yn y byd seciwlar.

Page 17: WJEC A2 Christianity Topic 4 GCE...1. Y Cyngor Cenhadu Rhyngwladol – i gysylltu’r gwahanol grwpiau â’i gilydd a threfnu cynadleddau ar faterion eciwmenaidd. 2. Y Mudiad Ffydd

16

Tasg Ysgrifennu: (i) Archwiliwch apêl y Mudiad Carismataidd a Phentecostiaeth. (ii) Aseswch i ba raddau y llwyddodd y Mudiad Carismataidd a Phentecostiaeth i wneud Cristnogaeth yn fwy perthnasol i’r byd modern.