y gloran gorffennaf

12
y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr 20c rhifyn 273 2il gyfrol gorffennaf 12 Digwyddiad hanesyddol oedd dewis Christine James [Mumford gynt] o Donypandy yn Archd- derwydd newydd Cymru, a hynny am ddau reswm. Hi yw'r ferch gyntaf i lenwi'r swydd a hefyd, hi yw'r ddysgwraig gyntaf i ym- gymryd â'r swydd bwysig hon. Cafodd Christine ei magu yn Nhonypandy a derbyn ei haddysg yn Ysgol Sir y Merched, Y Porth. Yno, dysgodd y Gymraeg yn ail iaith a mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf a doethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifys- gol Cymru, Aberyst- wyth. Ar hyn o bryd mae hi'n ddarlithydd yn Academi Hywel teifi ym Mhrifysgol Abertawe ond yn byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Cafodd ei siomi ar yr ochr orau gan ymateb pobl ir cyhoeddiad am ei phenodiad gyda phawb yn croesawu'r ffaith bod dysgwraig o ferch yn cael yr anrhydedd. Dywed Christine, "Mewn gwirionedd, mae'r symudiad yma'n adlewyrchu'r symudi- adau sydd wedi bod yn digwydd o fewn yr Eisteddfod, ac o fewn Cymru yn gyffredino. Dw i ond yn sumbol i'r hyn sydd ar waith yn barod. Dros y blynyd- doedd diwethaf, mae mwy a mwy o ferched wedi bod yn ennill y prif wobrau, er enghraifft. Ac mae dysgwyr y Gymraeg yn dod yn fwy amlwg yn y Gymru gy- foes. Cynrychioli rhyw- beth sydd ar waith yn barod ydw i." Mae Christine yn aelod o'r Orsedd er 2002 ac yn 2005 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau gyda chasgliad o gerddi yn ymateb i luniau. Bydd yn cymryd at ei dyletswyddau newydd yn Eisteddfod Gened- laethol Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf a'i nod yw llwyddo i arwain y prif seremoniau'n "gynnes ac mewn ffordd annwyl, ond yn bennaf oll, mewn ffordd a fydd yn rhoi sylw i'r enillwyr. Dathlu llwyddiannau pobol eraill fydd y nod." Bydd penodiad Chris- tine James yn hwb syl- weddol hefyd i ddysg- wyr yn gyffredinol. Y Prifardd Robat Powell o Lyn Ebwy oedd y dys- gwr cyntaf i gipio cadair y Genedlaethol a Chris- tine oedd y gytaf i ennill y goron. "Dw i ddim yn ddysgwraig ragor, ond dw i wedi dysgu Cym- raeg. Mae hynny yn bwynt pwysig. Dw i'n teimlo bod dysgwyr y Gymraeg yn gallu teim- lo'n ddihyder, teimlo na fydden nhw byth yn cyrraedd, gweld y siaradwyr brodorol gy- maint ar y blaen iddyn nhw. Dw i'n gobeithio bydd y ffaith fy mod i wedi fy ethol yn Archd- derwydd yn hwb ac yn ysbrydoliaeth, yn dan- gos i ddysgwyr bod yna fodd dysgu Cymraeg i safon uchel ac mae drysau yn agor." Fel y dywedodd y ddar- lledwraig, Catrin Beard, "yn bwysicach na bod y fenyw gyntaf a'r dysgwr cyntaf, hi yw'r unigolyn mwyaf addas - doeth, pwyllog a chall. newyd- dion da iawn." Yn natu- riol, mae pawb o'r ardal hon sy'n adnabod Chris- tine yn ategu hynny, yn ymfalchio yn ei llwyddi- ant ac yn dymuno'n dda iddi wrth iddi ddechrau ar gyfnod newydd a chyffrous yn ei hanes. MERCH O'R RHONDDA'N ARCHDDERWYDD NESAF CYMRU

Upload: anne-baik

Post on 07-Mar-2016

237 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

papur bro misol blaenau'r rhondda fawr

TRANSCRIPT

Page 1: Y Gloran  Gorffennaf

y gloranpapur bro blaenau’r rhondda fawr

20crhifyn 273 2il gyfrol

gorffennaf 12

Digwyddiad hanesyddoloedd dewis ChristineJames [Mumford gynt] oDonypandy yn Archd-derwydd newyddCymru, a hynny amddau reswm. Hi yw'rferch gyntaf i lenwi'rswydd a hefyd, hi yw'rddysgwraig gyntaf i ym-gymryd â'r swyddbwysig hon. CafoddChristine ei magu ynNhonypandy a derbyn eihaddysg yn Ysgol Sir yMerched, Y Porth. Yno,dysgodd y Gymraeg ynail iaith a mynd ymlaen iennill gradd dosbarthcyntaf a doethuriaeth yny Gymraeg ym Mhrifys-gol Cymru, Aberyst-wyth. Ar hyn o brydmae hi'n ddarlithydd ynAcademi Hywel teifi ymMhrifysgol Abertaweond yn byw yn yr

Eglwys Newydd,Caerdydd.

Cafodd ei siomi ar yrochr orau gan ymatebpobl ir cyhoeddiad am eiphenodiad gyda phawbyn croesawu'r ffaith boddysgwraig o ferch yncael yr anrhydedd.Dywed Christine,"Mewn gwirionedd,mae'r symudiad yma'nadlewyrchu'r symudi-adau sydd wedi bod yndigwydd o fewn yrEisteddfod, ac o fewnCymru yn gyffredino.Dw i ond yn sumbol i'rhyn sydd ar waith ynbarod. Dros y blynyd-doedd diwethaf, maemwy a mwy o ferchedwedi bod yn ennill y prifwobrau, er enghraifft.Ac mae dysgwyr yGymraeg yn dod yn fwy

amlwg yn y Gymru gy-foes. Cynrychioli rhyw-beth sydd ar waith ynbarod ydw i."

Mae Christine yn aelodo'r Orsedd er 2002 ac yn2005 enillodd Goron yrEisteddfod GenedlaetholEryri a'r Cyffiniau gydachasgliad o gerddi ynymateb i luniau. Byddyn cymryd at eidyletswyddau newyddyn Eisteddfod Gened-laethol Sir Ddinbych yflwyddyn nesaf a'i nodyw llwyddo i arwain yprif seremoniau'n"gynnes ac mewn fforddannwyl, ond yn bennafoll, mewn ffordd a fyddyn rhoi sylw i'r enillwyr.Dathlu llwyddiannaupobol eraill fydd y nod."Bydd penodiad Chris-tine James yn hwb syl-

weddol hefyd i ddysg-wyr yn gyffredinol. YPrifardd Robat Powell oLyn Ebwy oedd y dys-gwr cyntaf i gipio cadairy Genedlaethol a Chris-tine oedd y gytaf i ennilly goron. "Dw i ddim ynddysgwraig ragor, onddw i wedi dysgu Cym-raeg. Mae hynny ynbwynt pwysig. Dw i'nteimlo bod dysgwyr yGymraeg yn gallu teim-lo'n ddihyder, teimlo nafydden nhw byth yncyrraedd, gweld ysiaradwyr brodorol gy-maint ar y blaen iddynnhw. Dw i'n gobeithiobydd y ffaith fy mod iwedi fy ethol yn Archd-derwydd yn hwb ac ynysbrydoliaeth, yn dan-gos i ddysgwyr bod ynafodd dysgu Cymraeg isafon uchel ac maedrysau yn agor."

Fel y dywedodd y ddar-lledwraig, Catrin Beard,"yn bwysicach na bod yfenyw gyntaf a'r dysgwrcyntaf, hi yw'r unigolynmwyaf addas - doeth,pwyllog a chall. newyd-dion da iawn." Yn natu-riol, mae pawb o'r ardalhon sy'n adnabod Chris-tine yn ategu hynny, ynymfalchio yn ei llwyddi-ant ac yn dymuno'n ddaiddi wrth iddi ddechrauar gyfnod newydd achyffrous yn ei hanes.

MERCH O'R RHONDDA'NARCHDDERWYDD NESAF CYMRU

Page 2: Y Gloran  Gorffennaf

MERCHEDAR Y BLAENUn o'r newidiadaumwyaf a welwyd ynystod yr hanner canrif aaeth heibio yw'r newider gwell yn statws yferch. Mae dwy stori yny rhifyn hwn o'r Gloranyn adlewyrchu'r newidhwnnw - y naill ywhanes gwraig fusnes leolyn cipio gwobr gened-laethol bwysig, a'r llallyw'r newyddion amwraig o'r Rhondda yncael ei dewis yn Archd-derwydd Cymru. Dauhanesyn i'w croesawu'ngalonnog.Er bod y fam draddodi-adol yn un o eiconaubywyd y cymoedd, ac erei bod yn cael eihystyried yn frenhines arei haelwyd ei hun, digoncyfyng oedd eichyfleoedd, tan yn ddi-weddar, i ymestyn eihadenydd yn y gymdei-thas o'i chwmpas. Ynwir, roedd rhagfarn ynerbyn gwragedd ynrhemp, gydag athrawe-sau, er enghraifft, yngorfod rhoi'r gorau i'wswyddi unwaith y byd-dent yn priodi. Câigwragedd eu gwaharddrhag bod yn aelodau orai clybiau a phrin ygwelid merch yn bresen-

nol ar lan y bedd mewnangladd. "Gwrywod ynunig" oedd y gorchy-mun, er bod un cyhoed-dwr capel wedi cael eilysenwi a'i anfarwoli amoes yn sgil cyhoeddi,"Gwiwerod yn unig"!Mae'n dda gweld bod ydyddiau hynny drosoddgan fod y rhagfarau hynyn gwneud drwg igymdeithas yn gyffredi-nol. Yn ein hysgolionmae canlyniadau arho-liad merched yn trarhagori ar rai'r bechgyn.Byddai anwybyddu'rffaith hon yn ein hamd-difadu o rai o dalentaugorau ein cymdeithas naallwn fforddio eu han-wybyddu. Nid bod y se-fyllfa bresennol ynberffaith o bell fforddgyda rhy ychydig oferched i'w gweld mewnrhai meysydd, yn en-wedig mewn byd busnesac uchel swyddi'rgyfraith. Yn rhyfeddiawn, y corff sy ar hyn obryd yn cael ei gollfar-nu'n gyffredinol am an-wybyddu hawliaumerched yw'r eglwys -gan gynnwys yr eglwyswladol a'r Pabyddion.Pryd gwelwn ni esgobneu archesgob o ferch?Prin y gellir amddiffynyr agwedd hon gan gyrffsy'n cyhoeddi bod pob

unigolyn yn gyfartal oflaen Duw!Mae'n gwestiwn addylen ni greu rhestraubyr o wragedd yn unigwrth benodi gan fodhynny hefyd yn aw-grymu na all merchedgystadlu â dynion. Ceirdigon o enghreifftiausy'n gwrthbrofi'r gredhon ond mae gofyncymell mwy o wragedd ifentro i'r meysydd llemaent yn brin ar hyn obryd. Allwn ni ond gob-eithio y gwelwn ni gyn-nydd yn eu nifer ymmhob maes yn y dyfodolagos. Yn y cyfamser,gadewch inni ymfalchioyn llwyddiant einmerched lleol a dymunorhwydd hynt iddynt i'rdyfodol.

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISONgyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

golygyddol

e-bost: [email protected]

y glorangorffennaf 2012

YN Y RHIFYN HWNChristine James -1

Golygyddol-2Wonderstuff/Adfer

Eisteddfod Treorci-3Rhydwen -4NEWYDDIONTREHERBERT

TREORCICWMPARCY PENTRE

TON PENTRE/Y GELLI/YSTRAD

- 5-6-7-8-9Aduniad Bechgyn

Ysgol Sir Y Porth -10Ysgolion/Prifysgolion

-10-11-12

y gloran

2

BUSNESAU'RARDALYn ddiweddar, cipioddAlison Chapman,perchennog siop anrhe-gion 'Wonderstuff',Stryd Bute, Treorciwobr genedlaethol amFenter. Erbyn y NosonWobrwyo a gynhaliwydyng Ngwesty'r RoyalLancashire yn Llundain,roedd pump o siopauanrhegion o bob rhan oBrydain wedi cyrraedd yrhestr fer, ond y ferch oDreorci a enillodd y brifwobr am ddangosmenter a dychymygwrth hybu ei busnes.

Gwnaeth dyfeisgarwchAlison wrth deilwra eichynnyrch i fanteisio arachlysuron arbennig ynyr ardal hon argraff fawrar y beirniaid. Yn ystodGŵyl Gerdd Treorci yllynedd ac ymweliad yFflam Olympaidd eleni,addaswyd ffenestri'rsiop at yr achlysur ac ar-brofwyd mewn dulliau oddenu cwsmeriaid. Yrun fath adeg y Nadolig.Bob blwyddyn trefnirarddangosfeydd a chys-tadleuthau ganddi sy'ngweddu i'r achlysur acmae lleoli caffi bach

drosodd

Page 3: Y Gloran  Gorffennaf

yng nghefn ei busneswedi bod yn gynlluncraff gan fod llif cyson ogwsmeriaid yn gorfodcerdded trwy brif ran ysiop i'w gyrraedd.

CefndirCafodd Alison ei maguyn Y Gelli ac aeth iYsgol Gyfun Tonypandycyn symud ymlaen iwneud gradd yn ygyfraith ym MhrifysgolMorgannwg. Er iddidderbyn gradd Ll.B oddiyno, penderfynodd fen-tro i faes busnes, a phansymudodd i fyw iDreorci yn 2000,agorodd siop anrhegionWonderstuff ar y strydfawr. Dywed, fodd byn-nag, ei bod wedi elwa arddilyn cwrs gradd achodi sgiliau defnyddioliawn ar y ffordd. Mae'rsgiliau hynny bellach ynei chynorthwyo i ddat-blygu'n wraig fusnesfentrus a llwyddiannus.Does dim pall ar ei br-wdfrydedd a'i syniadau.

Ar 21 Gorffennaf, er en-ghraifft, mae hi'n gobei-thio trefnu FfairGrefftau Traddodiadol /Vintage Craft Fair ynneuadd y Dderwen, Tre-orci fydd yn cynnigcyfle i fusnesau achrefftwyr lleol arddan-gos a gwerthu eu nwyd-dau ac mae hi'nawyddus i ddatblygu, ary cyd a busnesau eraill,raglen o achlysurontebyg trwy gydol yflwyddyn. Ei gobaith ywdenu mwy o gwsmeriaidi siopau'r ardal yn gyf-fredinol a thrwy hynnyrhoi hwb i economi'rdref. Pob lwc iddi gyda'imenter. Wrth ddatblyguei busnes, mae Alisonwedi dangos brwd-frydedd, blaengaredd adychymyg, rhinweddaua sicrhaodd iddi BrifWobr ManwerthwyrPrydain, gwobr a ystyriryn gyfwerth ag Oscarymhlith manwerthwyryr ynysoedd hyn.

3

ALISON CHAPMAN -WONDERSTUFF, TREORCI

ADFER EISTEDDFODTREORCIAr y Sulgwyn yr arferid cynnal Eisteddfod 'Semi-National' flynyddol Treorci yn y Parc a'r Dâr.Cwmni'r Ocean, a'i ysgrifennydd gwladgarol,gweithgar, W.P.Thomas oedd y prif hyrwyddwyrdros y blynyddoedd ond, yn anffodus, daeth ytraddodiad i ben yn y chwedegau. Eleni, foddbynnag, mae gwraig ifanc o Dreorci am geisioailgynnau'r fflam. Bwriad Rhiannon Williams-Hale yw cynnal eisteddfod undydd yn Ysgol Gy-nradd Treorci, ddydd Sadwrn, 30 Mehefin.

Gyrfa AmrywiolCerddor yw Rhiannon sy'n hanu o'r Barri. Cafoddei haddysg gynnar yn Ysgol Gynradd Gymraeg ydref cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd EsgobLlandaf, Caerdydd. Yn rhyfedd iawn, gwraig oDreorci a ymsefydlodd yn y Barri, Marion Mal-lam [gynt Williams] fu un o'r dylanwadau mwyafar ei gyrfa gerddorol. Ganddi hi y cafodd Rhian-non wersi piano a'i galluogodd i ennill ysgolori-aeth i Academi Frenhinol Llundain. Aeth ymlaen iennill sawl gradd a diploma yno a dod maes o lawyn gyfeilydd i nifer o gorau meibion, gan gyn-nwys Treorci, Pen-y-bot ar Ogwr a Phontarddu-lais. Dros y blynyddoedd cafodd y fraint ogyfeilio i nifer o gantorion adnabyddus, gan gyn-nwys Rebecca Evans, Shan Cothi, Rhys Meirion,Elin Manahan-Thomas a Fflur Wyn. Flwyddyn ynôl bu'n perfformio Requiem Brahms gyda NicolaRose a'r English Baroque Choir yn Eglwys SantIoan yn Smith Square, Llundain.

Athrawes GerddEr 1995 bu'n gweithio fel athrawes gerdd breifatyn ei chartref, gan hyfforddi cantorion, pianyd-dion a dysgu theori. Cafodd gryn llwyddiant yn ymaes. Ymhlith ei disgyblion mae Leanne Cody aaeth ymlaen i astudio'r piano yn Ysgol GerddChetham, Manceinion cyn graddio yn y dosbarthcyntaf o Goleg Cerdd y Gogledd. Y mis diwethafroedd Leanne yn perfformio yn Neuadd Wigmore,Llundain. Diddordeb arall sydd gan Rhiannon ywarwain. Bu'n arwain ac yn cyd-arwain nifer ogorau gan gynnwys Côr Merched Ynysybwl aChôr meibion Cwmbach a chwaraeodd ran yn

parhad ar dudalen 8

Page 4: Y Gloran  Gorffennaf

4

Rhydwen Williams oeddun o'r cymeriadau mwyaflliwgar a diddorol i erioedgael ei eni yng NghwmRhondda. Fe'i ganed yn1916 yn 41 Stryd Tre-harne, Y Pentre, yn fab ilowr a hanai o Sir yFflint, Thomas Williamsa'i wraig Margaret. Roeddy teulu'n aelodau selogym Moriah, capel yBedyddwyr a chafodd ygweinidog, Parch RobertGriffiths, gryn dylanwadar y crwt ifanc. Oherwyddtlodi a chyni'r cyfnod,gorfodwyd y teulu i ym-fudo i Christleton, SwyddGaer [Cheshire] yn 1931ac yno, yn ei arddegaucafodd Rhydwen nifer ofân swyddi distadl.Treuliodd beth amser yndilyn cyrsiau yng nghole-gau Bangor ac Abertawe,ac yntau'n wrthwynebyddcydwybodol, bu'ngwasanaethu gydag un ounedau dyngarol y Cryn-wyr yn Lerpwl ddechrau'rAil Ryfel Byd. Fodd byn-nag, erbyn 1941 cafodd eihun yn ôl yn y Rhondda,yn weinidog ar Ainon,Ynyshir. Yn 1943 pri-ododd â Margaret Daviesa flwyddyn yn ddiwed-

darach, ganed eu mab, yrarlunydd, Huw Rhydwen[1944 - 2006].

Dechrau barddoniDyma'r adeg ydechreuodd ddatblygu'nfardd. Ymunai â chyfar-fodydd Cylch Cadwganyn y Pentre yng nghartrefGwyn a Kate Bosse-Grif-fiths a chymysgu gydabeirdd a llenorion eraill ogyffelyb bryd fel PennarDavies, Kitchener Daviesa Gareth Alban Davies.Yn Eisteddfod Gened-laethol Aberpennar, 1946enillodd y goron am eigerdd 'Yr Arloeswr' amanteisiai llawer o ra-glenni'r BBC yn gyson arei lais llefaru soniarus a'iddawn actio. Ymadawoddag Ynyshir yn 1946 ganfynd yn weinidog iResolfen yng NghwmNedd ac wedyn i Bont-lliw ger Abertawe. Buyno tan 1959 pan ddaethyn aelod o staff CwmniTeledu Granada, yngyfrifol am raglenniCymraeg. Yno cafoddgyfle i hogi ei ddoniauysgrifennu sgriptiau achynhyrchu a llwyddodd iddenu llawer o bobl da-

lentog i gyfrannu i'w ra-glenni.

Byw i'r eithafRoedd Rhydwen yn bywbywyd i'r ymylon. Hoffaiwin a bwyd da, ceircyflym a holl rialtwch ytheatr. Teithiai o gwmpasCymru yn darllen gwei-thiau Daniel Owen adoedd arian yn golygufawr ddim iddo ond ei fodyn gyfrwng iddo fwyn-hau. Wrth reswm, doeddy nodweddion hyn ddimwrth fodd awdurdodau'rBedyddwyr a bu gwrth-daro o dro i dro tra oeddyn weinidog. Er hynny,fe'i hystyrid yn bregethwrdramatig a phwerus. Yn1964, cipiodd goron yrEisteddfod Genedlaetholunwaith yn rhagor am eigerdd boblogaidd 'YFfynhonnau' a ddarluniaiadfywiad y Gymraeg yn yRhondda, ond efallai tawei waith pwysicaf oedd y'nofel fywgraffyddol'"Cwm Hiraeth a gyhoed-dwyd yn dair rhan, 'YBriodas {1969}, 'Y SiôlWen {1970) a 'DyddiauDyn' (1973}. Adroddhanes ei deulu trwygyfnod cythryblus o

hanes y Cwm a wnânt agweld hwnnw trwy lygaidei ewyrth Siôn, med-dyliwr a bardd, a droddyn erbyn syniadau'r capela gwleidyddiaeth cymod-lon Mabon gan droi atsosialaeth filwriaethus.Mae anhrefn ddiwydian-nol ddechrau'r ganrif, gangynnwys Terfysg Tony-pandy, Streic 1926 adirwasgiad y tridegau ollyn cael eu disgrifio yn-ghyd ag ymdrechiongwrol Cymry cyffredin ioroesi yn wyneb y fathgyni. Dyma'y ymgaisfwyaf uchelgeisiol ynGymraeg neu Saesneg ibortreadu'r cyfnod.Yn 1981, dioddefoddstrôc, ond er gwaethafpopeth, daliodd i weithiogan olygu'r cylchgrawn'Barn' yn llwyddiannusiawn rhwng 1980 - 1985.Yn 1991 ymddangosoddcasgliad cyflawn o'i fard-doniaeth. Erbyn hynroedd yn byw yn Aberdâra bu farw yn YsbytyMerthyr yn 1997. ColloddCymru awdur toreithiog achollodd y Rhondda uno'i meibion mwyaf lliw-gar a thalentog.

GWYR Y GLORANRHYDWENWILLIAMSLLENOR, DARLLEDWRA BARDD 1916 - 1997

^

Page 5: Y Gloran  Gorffennaf

TREHERBERTCynhelir arddangosfayn llyfyrgell Treherberti ddangos cynlluniau’rCyngor i wella diogel-wch y ffordd yn StrydBute. Bwriedir symudy groesfan ar waelodTreherbert lan at y banca'r llall i fyny dipyn o’isafle presennol. Bydd ycroesfannau newydd ynrhai “Puffin”. Hefydbwriedir ymestyn ycorneli yn Stryd Buteallan er mwyn rhoigwell cyfle i yrwyrweld wrth ymuno â’rstryd fawr.

Mae aelodau capelBlaenycwm yn ymunoâ chapeli bedyddwyrCymanfa DwyrainMorgannwg i gyflwynogwaith gan VerinaMatthews o Gaerdydd afu farw ym mis Ebrill.Bydd dros 100 o ganto-rion yn perfformio“Duw’r Enfys” ar 7Gorffennaf yn Soar Fr-wdamos, Penygraig.Diolch i Marc JonWilliams o TabernaclCaerdydd sy wedi tre-fnu’r achlysur a hefydyn arwain y côr. Maehwn yn gyfle i’r capelidalu teyrnged i’r

ddynes arbennig hon.Llongyfarchiadau i'rParch a Mrs Ivor Rees,gynt o Benyrenglynond bellach oAbertawe, ar ddathlueu Priodas Aur y mishwn. Hefyd i'w merchLythan, sydd ynweinidog yn Lloegr, arennill gradd MA mewndiwinyddiaeth fugeiliolyn ddiweddar.Yn fuan iawn ar ôl ad-newyddu Heol y Rhi-gos mae wyneb yffordd wedi treulio ar ytroeon. Ym mis Gorf-fennaf mae’r cyngor ynmynd i ailraeanu’rrhannau diffygiol.

Llongyfarchiadau iDaniel a Medi Daviesar enedigaeth eumerch,Martha. Hefyd iRhys a Laetitia Daviesar enedigaeth eu merchLouise. Cafodd y ddaufrawd, gynt o Clos ySantes Fair, eu babanodnewydd yn yr un wyth-nos. [Llongyfarchiadauhefyd i'w tad-cu a'umam-gu balch, Gerainta Merryl Davies (Gol.)]Llongyfarchiadau iHenri Williams, gynt oStryd Scott, ar achlysurei ben-blwydd yn 100

mlwydd oed. Gada-wodd Mr WilliamsGymru yn y 40au iweithio yn Birming-ham ond mae’n dal isiarad Cymraeg ac yncadw cysylltiad âchapel Blaenycwm.

Cynhaliwydgwasanaeth o ddiolch-garwch yn ei gapel ynBirmingham cyn caelparti arbennig. Tei-thiodd rhai o’i deulua’i ffrindiau oDreherbert i ymuno yny dathliadau.

Roedd pawb yn falch oglywed am lwyddiantRachel Stephens oEileen Place a enilloddcystadleuaeth y gân osioe gerdd ynEisteddfod yr Urdd ynddiweddar. Ar hyn obryd mae Rachel yn as-tudio ym Mhrifysgol yDrindod Dewi Sant,Caerfyrddin. Byddnawr yn mynd ymlaen igystadlu am Ysgolori-aeth Bryn Tefel. llongy-farchiadau a phobllwyddiant iddi i'r dy-fodol.

TREORCIMae aelodau Bethle-hem, Hermon, Provi-dence ac Eglwys SanMatthew am ddiolch ogalon i bawb yn yrardal a gyfrannodd morhael yn ystod wythnosCymorth Cristnogol.Casglwyd cyfanswm o£2,510 at yr achos dahwn sy'n ceisio gwellabywydau tlodion y Try-dydd Byd.Yn rhan o ymgyrchaelodau Hermon ar ranCymorth Cristnogol,cynhaliwyd NosonGoffi yn y festri yng

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’RMIS OS GWELWCH YN DDA

newyddion lleol EICHGOHEBWYRLLEOL :Rhowch wybodiddyn nhwos byddwch chieisiau rhoirhywbeth ynY GLORAN

Treherbert:GERAINT aMERRILL DAVIES

Cwmparc:D.G.LLOYD

TreorciMARY PRICE

Y Pentre:TESNI POWELLANNE BROOKE

Ton Pentre a'rGelli:HILARYCLAYTONGRAHAM JOHN

5

Page 6: Y Gloran  Gorffennaf

nghwmni Côr Merchedy WI o dan arweiniadMary Price. Cafwydamrywiol eitemau gany côr ac adroddiadaugan Anna Brown aKathleen Evans. Daethcynulleidfa dda ynghydi fwynhau'r noson a ll-wyddwyd i godi bron£350. Mae swyddogiony capel am ddiolch ibawb a gyfrannodd ac awnaeth teisen ar gyfery noson.

Diflannodd Treorci odan gwmwl o lwchddydd Sul a dydd Llun22 / 23 Mehefin wrth i'rCyngor rhoi wynebnewydd ar y fforddfawr trwy'r dref.Cafodd siopwyr a

thrigolion y Stryd Fawrdrafferth i gadw'r llwchdraw ac effeithiwyd ynarbennig ar y rheinyoedd yn dioddef o an-hwylderau'r frest. Ll-wyth o fân gerrig oeddheb gael ei olchi'n iawngafodd y bai gan yCyngor sy'n ymddi-heuro am unrhyw an-hwylustod a achoswyd.

Ddydd Sadwrn. 14Gorff. bydd Cylch Mei-thrin Hermon yn cynnalFfair Haf yn festri'rcapel. Disgwylir ybydd yno amrywiolstondinau a llu o weith-gareddau ar gyfer plantac edolion. Cofiwchgefnogi.Pob dymuniad da i Mr

Mal Witticase, StrydStuart sydd ar hyn obryd yn Ysbyty'r heath,Caerdydd, ar ôl derbynllawdriniaeth. Dy-munwn iddo bob cysurac adferiad buan.Pob dymuniad da i MrsBetty Jones, Tŷ Betha-nia ar ei phen-blwyddoddi wrth ei theulu, eiffrindiau a'i chymdo-gion.Cynhaliodd aelodauEglwys Sant MatthewFfair Haf lwyddiannusiawn ddechrauMehefin. Trefnwydstondinau amrywiol achystadleuthau agemau ar gyfer pob oedyn ogystal â raffl. Aethyr elw at gronfa'reglwys. Diolch i bawb

a fu'n helpu ac a gefno-godd yr achlysur.Roedd yn flin ganbawb glywed bod MrsEirlys Davies, StrydNinian, wedi dioddefcwymp arall tra yn arosgyda'i mab, Howard, ynLlundain. Anfonwn atibob dymuniad da amadferiad llwyr a buan.Mae Côr WI Treorci'nweithgar iawn yn yrardal hon ond hefyd ynmentro i ardaloedderaill o dro i dro. Y mishwn byddant yn perf-formio yng NgilfachGoch. Dymunwn id-dynt bob hwyl ar eutaith.Y gantores - bianydd,Daryl Sherman a'i bandoedd yr artistiaid

CARPETS ʻNʼ CARPETS117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349

Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni adewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton,Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewchgroeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich

siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.� Mesur cynllunio a phrisio am ddim� Storio a chludiant am ddim� Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer� Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa� Credydd parod at £1,000� Gosodir eich carpet gan arbenigwy� Gwarantir ansawdd� Ol-wasanaeth am ddim� Cyngor a chymorth ar gael bob amser� Dewiswch eich carped yn eich cartref� Gellir prynu a gosod yr un diwrnod� Gosod unrhyw bryd� Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol� Carpedi llydan at 10ʼ5”� Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad� Y dewis mwyaf yn yr ardal� Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop

50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYNo GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR

MILOEDD o BATRYMAU aCHYNLLUNIAU yn ein

HARDDANGOSFADDEULAWR

Dewch yma-Cewch werth eich arian

Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop osam fargen arbennig

CARPETS ʻNʼ CARPETSAr agor 6 diwrnod 8.30-5.30

Hefyd amser cinio ddydd Sul

6

Page 7: Y Gloran  Gorffennaf

gwadd yng NghlwbJazz y Rhondda pangynhaliwyd sesiwn ll-wyddiannus iawn yngNghlwb Rygbi Treorci,nod Fawrth. 3 Gorffen-naf.Pob dymuniad da amadferiad llwyr a buan iMrs Iris Thomas, StrydDumfries, sydd bellachgartref ar ôl derbynllawdriniaeth yn Ys-byty Brenhinol Mor-gannwg.Cynhaliodd PwyllgorCancer UK TreorciNoson Gaws a Gwinlwyddiannus ynNeuadd Eglwys SantMatthew, nos Iau 17Mehefin. Trefnwydsesiwn o fingo ac adlo-niant yng ngofal Chris-tine Tucket, Treherbert.llwyddwyd i godi £880at yr achos da hwn.

Mae'r Pwyllgor am ddi-olch i bawb am eucefnogaeth a hefyd ibawb a gyfrannodd ynystod y Casgliad Strydpryd y llwyddwyd igodi £780. Mae'rpwyllgor hwn yn ar-bennig o weithgar a'rcriw bach o bobl yn ll-wyddo'n rhyfeddol igodi arian yn flynyddolat Cancer ResearchUK.Ddydd Iau, 19 Gorffen-naf, aeth aelodau ClwbHenoed Treorci ar wib-daith i Weston-super-Mare. Gobeithio iddyntgael amser da athuwydd da yn ogytal!

CWMPARCDaeth nifer fawr iangladd Mrs Lilian

Jenkins yn eglwys StSiôr ar 29 o Orffennaf idalu teyrnged am aelodffyddlon dros lawer oflynyddoedd. Yr oeddyn 92 oed. Chy-dymdeilir â’i tri maba’u teuluoedd yn eucolled.

Cydymdeimlir hefyd âtheulu Ken ReesSpencer, Heol y Parc afu farw diweddMehefin. Bu Ken ynaelod gweithgar o BlaidCymru yn y Ward, yndrysorydd yn y gangenac yn ymgeisydd mewnetholiadau lleol. Col-lodd ei wraig, Alice raiblynyddoedd yn ôl athreuliodd ei flynyd-doedd olaf mewncartref gofal yn Aber-pennar. Er yn ddi-Gym-raeg, roedd yn Gymro

i'r carn a gweithiodd yngaled dros y Blaid ynyr ardal. Cy-dymdeimlwn â'iffrindiau a'i deulu yn eucolled.

Mae’n ddrwg glywedbod Tad Brian Tayloryn dal yn dost ac ynanabl i wasanaethu. Ary Sul 24ain o Fehefingwasanaethwyd gan yTad Thomas WatkinsStryd Tallis gynt.

Mae’n ddrwg glywedfod Barry WatkinsMorgan Terrace wedicwympo ac mae ar hyno bryd yn yr ysbyty.Dymunnwn adferiadiddo yn fuan.

Roedd yn flin ganbawb glywed am far-wolaeth Mrs Beryl

7

Page 8: Y Gloran  Gorffennaf

8

Breeze, 18 Crown Av-enue. Roedd Beryl ynhanu o Railway Terrace,Cwmparc ond wedi ym-gartrefu ers tro ynYnyswen. Bu'n weithgariawn yn yr ymgyrch igadw fflatiau Crown Av-enue a gweithiai'n gysonyn codi arian at achosionda, yn enwedig Tŷ Hafan,trwy ei gwaith gwau. Bu'nadrodd ei hatgofion cyn-nar am y Nadolig i ddarl-lenwyr Y Gloran ynrhifyn Rhagfyr y llynedd.Coffa da amdani.

Y PENTREDyw Des Hughes, LlysSiloh, ddim wedi bod yndda yn ddiweddar ondmae ei holl gyfeillion ynfalch ei fod yn gwellaerbyn hyn ac yn gobeithioy cafodd e ddiwrnod i'rbrenin pan fu'n dathlu eiben-blwydd ddyddMawrth, 2 Gorffennaf.

A sôn am ddiwrnod i'rbrenin [neu'r frenhinesefallai!], daeth pawb yn yLlys ynghyd i ddathlu Ji-wbili Ddiemwnt y Fren-hines. Fel y gwelch yn yllun ar dudalen 9, MajorWestwood a'i wraig o Fy-ddin yr Iachawdwriaethoedd y prif westeion.Cafwyd te parti rhagorol achyfle i bawb ddangos eugwybodaeth (neu an-wybodaeth) wrth gystadlumewn cwis. Mrs West-wood enillodd y wobr

gyntaf!

Cynhaliwyd Anifersari'rBobol Ifainc sy'n perthyni Fyddin yr Iachawd-wriaeth yn eu pencadlysyn Stryd Carne ddyddSul, 17 Mehefin. Cymer-wyd rhan gan nifer fawro'r aelodau a chafoddpawb amser da iawn.

Ar ddydd Sadwrn, 14Gorffennaf cnhaliwyd di-wrnod gan y Fyddin yndwyn y teitl, 'SportingChance'. Y pwrpas fydddathlu dyfodiad y GemauOlympaidd i Lundain ac igoroni'r cyfan caiff bawbgyfle i fwynhau te mefusa hufen!Pob dymuniad da i famTesni Powell, ein gohe-bydd yn y Pentre, syddheb fod yn dda iawn ynddiweddar. Dymunwniddi bob cysur a rhwyd-dineb. [Gol.]

TON PENTREAr 24, Mehefin, daethcynulleidfa o dros 100 yn-ghyd i ddathlu JiwbiliArian cysegru EglwysIoan Fedyddiwr, Ton Pen-tre. Yr offeiriad aphregethwr oedd yr YParchedicaf Barry Mor-gan, Esgob Llandaf acArchesgob Cymru. Ar-weiniwd y gwasanaethgan y Tad haydn England- Simon S.S.C., offeiriady plwyf a gafodd gymorthrhai o gyn-offeiriaid y

llwyddiant diweddar Only Boys Aloudyng nghystadleuaeth Britain's Got Tal-ent wrth iddi hyfforddi un adran o'r côrhwnnw. Yn dilyn marwolaeth sydynJohn Jenkins cafodd ei phenodi'n ar-weinydd Côr Meibion Pen-y-bont, côry bu'n cyfeilio iddo rhwng 2003 - 08.Gyda'r holl lwyddiant hwn y tu cefniddi, gellir disgwyl y bydd ei menterddiweddaraf o adfer Eisteddfod Treorciyn llwyddo, ond mae angen cefnogaethy cyhoedd. Felly ar 30 Mehefin dewchyn llu i'r ysgol Gynradd, Heol Glyncoli.Cynhelir yr eisteddfod rhwng 9.15 a.m.- 5.45 p.m. a bydd gwledd o gerddori-aeth yn eich aros a chyfle i glywed tal-entau newydd lleol. Pris y tocynnau yw£2 oedolion a £1 i blant. Gobeithio taweisteddfod eleni fydd y gyntaf olaweroedd.[O.N. 30 Mehefin: A barnuwrth nifer y bobl a fynychodd yreisteddfod gyntaf, bu'n llwyddiant ys-gubol. Cawn ragor o'r hanes yn rhifynnesaf Y Gloran.]

ADFER EISTEDDFODTREORCI parhad o dud 3

Page 9: Y Gloran  Gorffennaf

9

plwyf, gan gynnwys yTad Peter Coleman.Darllenwyd yllithoedd o'r HenDestament [ill dwy oLyfr Esaiah] gan MrGraham John a ymd-deolodd yn ddiweddaro fod yn Ysgrifen-nydd y Fywoliaeth.

Roedd yn dda ganbawb weld Mr KeithThomas yn bresennolyn nathliadau'reglwys o gofio gy-maint o waith awnaeth yng nghyfnodcynnar yr adeiladnewydd. Bu Keith ynwael ers peth amserac mae ei gyd-aelo-dau i gyd yn dymunoiddo bob cysur a

rhwyddineb i'r dy-fodol.Yn ddiweddar, ymd-deolodd Mr StephenPumford ar ôl gwei-thio yn y GwasanaethIechyd Cenedlaetholam 37 mlynedd.Stephen yw Darl-lenydd Plwy Ystrady-fodwg a dymunir iddoymddeoliad hir, iach ahapus gan ei hollgyfeillion.

Roedd yn ddrwg ganbawb glywed nad ywMr Brian Morris, Up-lands, YstradRhondda yn dda ogwbl y dyddiau hyn.Bu Brian yn gaeth i'rysbyty ers peth amserac mae ei gyfeillion

yn dymuno iddo bobcysur a gofal.

Erbyn hyn, mae ClwbPêl-droed Ton Pentrewedi dod yn lleoliadpoblogaidd ar gyfercynnal po math o wei-thgareddau, hyd ynoed gan gyrff oardaloedd eraill.Ddydd Gwener, 13Gorffennaf, er en-ghraifdft, roeddCyfeillion Ysgol Gy-nradd Treorci yn cyn-nal eu dawns Hafyno. Gan dechrau am7 o'r gloch, pris to-cynnau oedd £10.Roedd y gerddoriaethfyw a'r disgo o danofal Mark Langley.O hyn ymlaen, cyn-

helir cyfarfodyddPACT Y Pentre a'rTon ar ddydd Mawrthcyntaf pob mis ynYstafell ddydd LlysNazareth rhwng 6 -7pm. Bydd y Cyngh.Shelley Rees-Owen aMaureen Weaver ynbresennol i ymateb iunrhyw ymholiadaugan etholwyr.

Dyna’n rhifyn olaf oNewyddion Lleol tanmis Medi ond maeebost Y Gloran ynaros ar agor i’chlluniau a’ch pytiau,sylwadau neuerthyglau trwy misAwst. Mwynhewch ygwyliau a’r tywyddbraf!!! (AB)

Pawb yn Llys Siloh, Y Pentre yn dathluʼr Jiwbili

Page 10: Y Gloran  Gorffennaf

10

ysgoliona phrifysgolion

NEWYDDIONYSGOL G GYNYSWEN

NEWYDDIONYSGOL G GBRONLLWYN

NEWYDDIONYSGOL G GBODRINGALLT

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMERRHONDDA

NEWYDDIONYSGOL GYFUNTREORCI

ADUNIAD CYN-DDISGYBLION YSGOL SIR Y BECHGYN, Y PORTHYn ddiweddar, trefnodd 10 o gyn-ddisgyblion oedd wedi dechrau yn Nosbarth 1 yn Ysgol Sir y Bechgynym mis Medi 1942, 70 o flynyddoedd yn ôl, gwrdd ar 28 Mehefin yng Nghasgwent [Chepstow] i ddathlu'rachlysur. Doedd nifer ohonynt heb weld ei gilydd er 1948. Cawsant ddiwrnod wrth eu bodd yn hel atgofionam ddigwyddiadau, cyfoeswyr ac athrawon yn ogystal â thrafod eu hynt a'u helynt personol. Trefnwyd ydiwrnod gan John Isaacs, cyn-brifathro Ysgol Gyfun Llanrhymni sy'n hanu o Lwynypia ond bellach ynbyw yn Llandaf.

Yn y llun (o'r chwith i'r dde + eu hysgolion cynradd) – Doug Meredith (Ton Pentre), Graham Woosnam(Y Porth), John Isaacs (Llwynypia), Douglas Green (Penyrenglyn), John Evans (Ton Pentre), JohnWithey (Bodringallt), Roger Williams (Ton Pentre), Graham Lewis (Penyrenglyn), Ivor Rees (Penyreng-lyn), Mal Jones (Bodringallt).

Page 11: Y Gloran  Gorffennaf

11

NEWYDDIONYSGOL G GYNYSWEN

NEWYDDIONYSGOL G GYNYSWEN

ysgolionaphrifysgolion

Mae plantmeithrinYnyswenwedi tyfuwniwns aletys.

Seren Bl 2Yn y ParcPam mae’n braf rwy’nhoffi mynd i’r parc.Rwy’n hoffi mynd ar ysiglen. Weithiau fi myndar y bicyn i’r parc.rydw’i yn mynd ar ychwyrligwgan. Mae e’nmynd yn gyflym iawniawn. Mae ci yn y parc.

Rydw’i yn hoffi mynd ar y si-so. Mae e’n mynd lan a lawr. Dyna hwyl a sbri!

Llun OlimpaiddganFaith PlummerBl 6

Page 12: Y Gloran  Gorffennaf

12

NEWYDDIONYSGOL GYFUNCYMERRHONDDA

HWYLEIN SADWRN PONTIOCafodd disgyblion Blwyddyn 6 lawer o hwyl ynystod ein Sadwrn Pontio ar Fehefin 25ain. Roeddcyfle iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o wei-thgareddau, gam gynnwys gweithdai Colur Theatrig

, sgiliau Sycras, Graffiti a Drama. Edrychwn ym-laen at groesawu’r holl ddisgyblion i’r ysgol un-waith eto ar Orffennaf 3ydd! Diolch i E3 ac i’nGweithwraig Ieuenctid, Sarah Stone am eu cefno-gaeth i’r diwrnod, ac i holl arweinwyr y sesiynau.

Dyma luniau'r côr a'rcôr merched o Ysgol yCymer a enillodd ynEisteddfod yr Urdd

LLWYDDIANTYSGUBOLEISTEDDFOD ERYRI 2012Ar ôl misoedd o baratoi, teithiodd dros 80 o ddisgy-blion, ynghŷd â staff a theuluoedd y disgyblion , yrholl ffordd o Gwm Rhondda i ardal Caernarfon igystadlu mewn pedair ar bymtheg o gystadlaethauamrywiol iawn – o ddawnsio disgo, i gerdd dant adrama. Bu’n Eisteddfod hynod o wlyb a mwdlyd,ond bu hefyd yn Eisteddfod hynod lwyddiannus i’rCymer wrth i’r ysgol gipio tair gwobr gyntaf a dwydrydedd wobr. Dyma’r canlyniadau –Parti Llefaru dan 15 – CyntafParti Merched dan 15 – CyntafMonolog dan 19 – Sarah Louise Jones – CyntafCôr SATB dan 19 – TrydyddDawns Stepio Unigol i Ferched dan 15 – Nia Rees –TrydyddYn naturiol, rydym yn hynod falch o bob un disgybla gynrychiolodd yr ysgol yn yr Eisteddfod arbennighon ac ymfalchiwn yn y ffaith ein bod yn medrucyd-weithio gyda disgyblion mor dalentog ac ym-roddgar. Dymunwn ddiolch yn ddidwyll hefyd i hollgefnogwyr ffyddlon Y Cymer am bob cefnogaeth –er gwaetha’r mwd a’r glaw!Yn ogystal, dymunwn longyfarch Adran Bro Tâf,Adran y Cwm ac Ysgol Gynradd Gymraeg Bo-dringallt ar eu llwyddiant.Llongyfarchiadau anferth hefyd i un o gyn-ddisgy-blion Y Cymer ar ei llwyddiant ysgubol ynEisteddfod yr Urdd eleni. Enillodd Rachel Stevens,sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf ym Mhri-fysgol y Drindod Dewi Sant, y wobr gyntaf yngnghystadlaeuath Unawd allan o Sioe Gerdd dan 25.Fe fydd Rachel nawr yn cystadlu yng nghys-tadleuaeth bwysig ‘Ysgoloriaeth Bryn Terfel’ yn yrHydref. Llongyfarchiadau anferth i ti Rachel!Ynbendant, rhoddwyd talentau gorau Cwm Rhondda ary map unwaith eto eleni!