y selar - rhagfyr 09/ionawr 10

24
RHIFYN 19 . RHAGFYR . 2009 y Selar MASTERS IN FRANCE PUMP PERL NIA MEDI Y DDAWNS RHYNG-GOL ADOLYGIADAU RHIFYN DATHLU 5 MLWYDDIANT Y SELAR BYD BACH FFLUR

Upload: y-selar

Post on 26-Mar-2016

236 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

1

RHIFY

N 19

. RHA

GFYR

. 20

09

y Selar

MASTERS IN FRANCE

PUMP PERL NIA MEDI

Y DDAWNS RHYNG-GOL

ADOLYGIADAU

RHIFYN DATHLU 5 MLWYDDIANT Y SELAR

BYD BACH

FFLUR

Page 2: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

8

Page 3: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3

16

4

8

DAU I’W DILYN

PUMP PERL - NIA MEDI

FFLUR DAFYDDGO

LYGY

DDO

L

14 y SelarRHIFYN 19 . RHAGFYR . 2009

MAST

ERS I

N FR

ANCE

Pwy fyddai’n credu ei bod hi’n bum mlynedd ers i’r rhifyn

cyntaf o’r Selar gael ei gyhoeddi! Cafodd y rhifyn cyntaf

hwnnw ei gyhoeddi yn Nhachwedd 2004, a phrosiect

newydd sbon y brodyr Gwynedd, Sibrydion, oedd ar y clawr

fel y prif gyfweliad. Mae hynny’n awgrymu faint sydd wedi

digwydd yn y sin gerddoriaeth ers y rhifyn hwnnw – erbyn

hyn, gellir dadlau mai’r Sibrydion ydy band mwyaf Cymru.

Yn yr 19 rhifyn ers y cyntaf hwnnw, mae’r Selar wedi

cyfweld degau o fandiau ac artistiaid Cymraeg yn cynnwys

Euros Childs, Gruff Rhys, Y Ffyrc, Frizbee, Gwibdaith Hen

Fran a Derwyddon Dr Gonzo i enwi dim ond rhai ohonynt.

‘Da ni’n amcangyfrif fod y cylchgrawn wedi adolygu

rhyw 150 o CDs Cymraeg, a hefyd wedi cyflwyno llwyth o

artistiaid newydd a chyffrous i ddarllenwyr Y Selar. Mae’r

Selar hefyd yn falch iawn o fod wedi gallu rhoi cyfle i nifer

o gyfranwyr ifanc a newydd i ysgrifennu i’r cylchgrawn. O

ystyried popeth, da ni’n di gwneud joban fach dda da chi’m

yn meddwl?

Ta waeth, digon am y gorffennol, ymlaen i’r dyfodol, a

da ni’n falch iawn fod y bobl neis yng Nghyngor Llyfrau

Cymru wedi penderfynu’n ddiweddar iawn eu bod am

gefnogi’r Selar am ddwy flynedd arall - allwch

chi ddim cael gwared ohonom ni mor hawdd

â hynny! Felly dyma rifyn bach neis i chi fel

anrheg Nadolig a chalennig blwyddyn newydd

wedi rholio mewn i un, a chofiwch - eli calon,

cwrw da!

OWAIN S

GOLYGYDDOwain Schiavone ([email protected])

DYLUNYDDDylunio GraffEG ([email protected])

MARCHNATAEllen Davies ([email protected])

CYFRANWYRGwilym Dwyfor, Telor Gwyn, Ceri Phillips, Hefin Jones, Casia Wiliam, Deian ap Rhisiart, Barry Chips, Shon Williams

Page 4: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

?4 myspace.com/mastersinfrance

MEISTRI

AELODAU I DDYSGU CHYDIG BACH AM Y ROCARS O GAERNARFON.I LANIO AR Y SIN. CERI PHILLIPS AETH I GWRDD Â RHAI O’R

Cefais y fraint o gyfweld Masters in France yn nhafarn y Black Boy yng Nghaernarfon. Yn anffodus dim ond dau aelod o’r band oedd ar gael, ond roedd hi’n bleser llwyr sgwrsio gyda Ed a Math, a dw i’n sicr y byddwch chi fel y gwnes innau’n mwynhau clywed hanes y band.

Math, oedd y cyntaf o’r ddau i gyrraedd, cymeriad tawel ond eto cwbl broffesiynol ei natur. Cawsom sgwrs am y sin roc ar hyn o bryd, a thrafod oblygiadau’r gêm rygbi rhyngwladol, Cymru’n erbyn Samoa, oedd ar fin dechrau!.

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Ed. Wedi iddo odro’i beint yn y bar dechreuais holi yngly^n â hanes y band gan holi am yr aelodau unigol. Penderfynodd Ed ddadansoddi Math, gitarydd y band, yn gyntaf:

Ed: Gweithiwr rili caled ‘di Math - bos y band i ryw raddau. Er bod bob un ohonom ni’n cyfrannu, mae gan Math syniadau da ac yn wych am drefnu gigs i ni’n gyson. Pe bai gena ni reolwr, fo sa’r boi!

Ows Ginsberg (gitar – gynt o’r Heights / Gogz)Math: Ma Ows Ginsberg yn foi llawn egni, ond dydi’r hen Ows ddim yn un o’r rai gorau allan ar sesh!Ed: Ia, eto ma ganddo fo syniadau da, ma’n chwaraewr gitâr rili da ac yn lluchio riffs newydd allan o hyd, boi da i gael mewn band.

Ow’s coch (bas – gynt o Frizbee)Ed: Eto, boi llawn egni a lyfli – fo di jocar

y band. Ma’n berson rili da i gael mewn band achos ma’n cadw pawb yn cool!Math: Ie boi da, dipyn o jocar!

Sïon Edwards neu Sea Bass! (drymiwr) Math: Sea Bass da ni’n alw fo, gan fod o’n hollol obsessed hefo pysgota, ac yn licio mynd am sesh – er, ma’ genna ni reol fod o’m yn cael yfed mwy na dau beint cyn unrhyw gig!Ed: Ia, mar’ boi’n troi fyny i bractis hefo gwialen bysgota a flies a ballu! Bet bod gena fo lwyth o fapiau o afonydd pysgota a stwff. Mad!

Ed (Canwr a chyfansoddwr y band)Math: Boi sy’n troi fyny i ganu, hehe. Ma’ ganddo fo lwyth o syniadau da, a fo di boi’r geiria’ a’r melodia’. Ed sy’n

CORNGYDA CHYN-AELODAU O’R HEIGHTS A FRIZBEE, MAE’N

DEBYG TAW MASTERS IN FRANCE YW’R SIWPYR-GRWP DIWEDDARAF

Page 5: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

5

cyfweliad: masterinfrance

sgwennu rhan fwyaf o’r caneuon, er da ni’n fand cydweithredol iawn!

Gwych felly dyna ni ychydig amdana chi fel aelodau unigol, ond pam galw’ch hunain yn ‘Masters in France’?Math: Wel, hollol syml rili, o gennai ffrind oedd eisiau gwneud ymchwil yn Ffrainc - ‘Masters in France’, a ddaru’r enw sticio!Ed: Ie, gawsom ni lwyth o drafodaethau yngly^n â be i alw’r band a dyna’r unig un ddaru sticio, ma’n ofnadwy o catchy.

Sut aethoch chi ati i ffurfio Masters in France?Ed: Fi a Math rili. Roedd y ddau ohono ni’n ysgrifennu caneuon ond doedd gennym ni’m band i’w chwarae nhw,

felly dyma ni’n cysylltu hefo Siôn ac Ows a daeth pob dim at ei gilydd.Math: Wel oedden ni gyd yn nabod ein gilydd ac oedd Frizbee wedi gorffen felly odd Ows ar gael ac Ows Ginsberg o’r Heights, felly roedd i’n gyfle gwych i greu band o safon.

Sut fysa chi’n disgrifio’ch cerddoriaeth chi?Ed: Funky indie, dyna sut gawsom ni’n disgrifio gan ferch oedd yn arbenigo mewn cerddoriaeth mewn gig yng Nghaerdydd. Mae Huw Stephens yn cymharu ni i Kasabian, ond dw i’n meddwl bod ni jyst yn swnio fel Masters in France i ddeud y gwir.Math: Fel band, dw i’n gobeithio bod ni’n creu cerddoriaeth unigryw, er bod ni

“WEITHIA MA’N BRAF CYNNAL GIG MEWN ARDALOEDD A LLEOLIADAU LLE DOES NEB YN ADNABOD NI

Page 6: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

6

efallai’n fand ‘funkie indie’ mae’n anodd iawn disgrifi o sut fath o gerddoriaeth rydym yn ei gynhyrchu. Er bod ni’n cael ein cymharu â Kasabian, dwi jyst isho ni gael ein hadnabod fel Masters in France, band sy’n ddim yn cael eu cymharu efo unrhyw beth arall.

Y gred ydi bod chi’n ceisio concro’r Sin Roc Saesneg? Da chi’n amlwg yn denu sylw yma yng Nghymru yn dilyn eich sesiwn gyda C2 ag ati, sut mae’n mynd dros Glawdd Offa?Ed: Rydan ni fel band yn gobeithio cael y cyfl e i ddatblygu i’n llawn botensial a felly da ni’n fentrus ac yn ceisio hyrwyddo’n cerddoriaeth i unrhyw un sy’n dewis mwynhau’n cerddoriaeth ni. Weithia ma’n braf cynnal gig mewn ardaloedd a lleoliadau lle does neb yn adnabod ni, ac mae’r adborth bositif da ni ‘di dderbyn yn dilyn ein gig diweddar yn Llundain wedi rhoi hwb i ni fel band! Ond eto mae’r gigs da ni’n cynnal yma yng Ngymru’n hollbwysig i ni fel band hefyd, da ni’n mwynhau sialens ac os ydi hynny’n golygu gigio ym mhob man, pam lai?Math: Band sy’n ceisio apelio at bob rhan o’r gymdeithas ydi ‘Masters in France’, er bo rhai pobl yn dewis neud issue o’r ffaith bod rhai bandiau’n dewis canu’n Saesneg, mae’n rhaid apelio at siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg. Os da ni mewn gig yng Nghaernarfon, da ni’n dewis canu’n Gymraeg, ond os ydyn ni’n cynnal gig yn Lerpwl neu yn Llundain yna da ni’n canu’n Saesneg - dyma’r ffordd orau er tegwch i bawb! Dyma’ wnaeth Gruff Rhys a Super Furry’s a ma’ pawb yn cefnogi nhw! Fel dd’wedodd Ed, da ni’n fand sy’n hoffi sialens.

Mae UK Greyhounds Tour (gigs cyson ma’r band ‘di drefnu yn hyrwyddo’r band ledled Deyrnas Gyfunol) wedi bod yn mynd ers bron i ddeufi s, sut mae’n mynd?Math: Mynd yn dda, lot fawr yn troi fyny i’r gigs ac yn mwynhau. Aeth gig Llundain yn rili da - tua 40 yn y gynulleidfa a doedden ni’m rili’n disgwyl gymaint â hynny!Ed: Da’ ni wedi derbyn adborth rili da hyd yn hyn ac oedd Llundain yn dda. Braf oedd chwarae i gynulleidfa oedd heb glywed dim amdanom ni ac yn rhoi adborth bosatif yn ôl, oedd yn golygu lot i ni fel band.

Be di’ch gig gorau hyd yn hyn?Ed: Dwni’m eto mae’n dibynnu.

“GES I ‘LAPDANCE’

GAN RYW

DDYNES

55MLWYDD

OED YN GIG

NI’N HOLE IN THE

WALL

Page 7: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

7

Gawsom ni dipyn o hwyl yn canu set acwstig yn Hole in the Wall yng Nghaernarfon! Math: Wel mae’n dibynnu’n llwyr, maen anodd iawn gwahaniaethu, er roedd y gig yn y Buffalo Bar yng Nghaerdydd yn wych, dim ond tua 20 o bobl oeddem ni’n disgwyl gweld yn y gynulleidfa ond dw i’n amau bod tua 150 yna ar y noson, roedd yr awyrgylch yn wych!

Sut mae pethau’n siapio gyda’r EP newydd ‘Nagazaki’? Math: Ma’n barod a fydd o allan ym mis Rhagfyr rhyw bryd!Ed: Ie ma’r EP’n barod, er da ni hefyd yn gweithio efo Jakakoyak a Mat Jones ar hyn o bryd – y bwriad ydi ‘remixio’ rhai o’n caneuon ni! Bydd y stwff ar gael ar ein Myspace ni - www.myspace.com/mastersinfrance

Oes gennych chi unrhyw storïau doniol neu droeon trwstan gyda’r band?Math: Ma gena ni lwyth ond mae’n anodd meddwl ar y spot. Er gafodd fi a Ow’s Ginsberg bach o antur yn Llundain, wnaethon ni gyrraedd heb unlle’i aros, felly yn hytrach na ymdrechu i chwilio am lety dyma fi a Ow’s yn penderfynu cysgu o dan gynfas glas yn rywle! Ond gafodd Ow’s i gicio yn ei ben gan ryw ddynes, felly gawsom ni’n gorfodi i chwilio am lety’n diwedd! (chwerthin).Ed: Ges i lapdance gan ryw ddynes 55mlwydd oed yn gig ni’n Hole in the Wall, doniol a wnaeth hi ddilyn ni ‘Morgan Lloyd’ fyd!

Caiff EP cyntaf Masters in France, Nagazaki, ei ryddhau ar 14 Rhagfyr

cyfweliad: masterinfrance

GIGS NESAF18 Rhagfyr – Morgan Lloyd, Caernarfon19 Rhagfyr – Rascals, Bangor23 Ionawr – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

“GES I ‘LAPDANCE’ GAN RYW DDYNES 55MLWYDD OED YN GIG NI’N HOLE IN THE WALL

CWESTIYNAU CYFLYMi) Pwy di’ch hoff gerddorion chi? Math: Eagles of Death Metal.Ed: Dw i braidd yn ffysi rili, Queen, cerddoriaeth Soul, Al Green, David Bowie, Tom Veck, Talking Heads! Mae aelod arall o’r band Siôn yn hoffi Stealey Dan! Math: Fel band, da ni’n hoffi stwff alternative.

ii) Pa albwm sydd wedi dylanwadu fwyaf ar eich bywyd chi? Ed: Neil Diamond, gan fod Dad fi’n gwrando arno fo, atgofion melys!Math: Fleetwood Mac, Tangle in the Night.

iii) Hoff gerddor neu fand sy’n y siartiau ar hyn o bryd?Math: Neb!Ed: Pwy sydd yn y siartiau ar hyn o bryd? Dim syniad!Math: Dydi’r gerddoriaeth rydym ni’n gwrando arni ddim yn cyrraedd y siartiau e.e White Denim.

iv) Beth sydd well gennych chi,’finyl’ neu ‘cd’?Math: Cd’n car, dw i’m yn meddwl bod ‘finyl’ rili’n gweithio’n mewn car, hehe!Ed: Tâp!! Mae’n hawdd trwsio tap!

v) Ym mha fath o awyrgylch da chi’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth?Math: Ar ben yn hun yn y car.Ed: Dw i’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth hefo earphones yn yng ngwely, cyn mynd i gysgu, neis!

vi) Be di’ch barn chi am y sin roc Gymraeg ar hyn o bryd?Ed: Da! Ma na lot o fandiau da gwmpas ar hyn o bryd fel Yr Ods, Zimmermans a Duffy!

vii) Sut buasech chi’n byw eich bywyd heb gerddoriaeth?Math: Dw i’n meddwl buasai fy mywyd i’n hollol ddiflas!Ed: Wel, dw i’n meddwl byswn ni’n cael ‘sex-change’ a hyfforddi’n hun i fod yn fôr-leidr, prynu llwyth o stwff anweddus a chreu sin roc yn hun ar y môr! (chwerthin).

vii) Fy hoff ddiwrnod o’r flwyddyn ydi ‘Ffw^ l Ebrill’, be di’ch atgof cyntaf ‘Ffw^ l Ebrill’ chi?Math: News at ten yn cyfaddef mae dweud celwydd oedden nhw am y busnes ‘extendio’ goliau ‘Premiership’!Ed: Dweud wrth met fi bo’ fi am ladd ei gi hefo sling! Ha!

Page 8: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

8

DAU I’W DILYNDAU ARTIST UNIGOL GWAHANOL IAWN I’W GILYDD, OND YR UN MOR GYFFROUS, SY’N DERBYN

SYLW DAU I’W DILYN YN Y RHIFYN HWN...

EL MONDOPwy: El Mondo ydy alter ego boi o’r enw Derwyn Jones sy’n byw yn Llangristiolus, ger Llangefni, “cymeriad neshi greu tra o’n i’n coleg yn Lerpwl ‘di Elmondo”. Mae Derwyn hefyd yn aelod o’r band Camel Club, sydd wedi bod yn gigio tipyn yn ardal Bangor, Caernarfon a Sir Fôn, ac sydd wedi rhyddhau eu EP cyntaf yn ddiweddar. Artist solo ydy El Mondo ar hyn o bryd ac mae’n dweud ei fod wrth ei fodd yn sgwennu a pherfformio’n Gymraeg a Saesneg ar y sin leol. Wedi dweud hynny, dywed “pan fydd yr EP allan fyddai angen band,

ac enw’r band fydd THE EL MONDO COLLECTIVE ... ella.”

Y Sw^ n: Mae’n siw^ r y byddech yn categoreiddio cerddoriaeth El Mondo fel ‘electronica’ ond mae’n dweud fod “na amrywiaeth o steils yn y melodïau lleisiol, o ganu gwerin i ganu gwlad”.

Ac mae’r amrywiaeth o ran arddull yn amlwg iawn yn y traciau sydd ganddo ar MySpace ar hyn o bryd. Yn sicr mae ‘na ystod eang o gerddorion wedi dylanwadu ar ei gerddoriaeth, “ma bandiau fel Pererin, The Incredible String Band a stwff cynnar Meic Stevens di dylanwadu ar fy ochor werinol i, ond ma SFA,

STEFFAN HUWPwy: ‘Band un dyn’ ydy Steffan Huw, sydd yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Glantaf, Caerdydd ar hyn o bryd. Mae’n ymddangos fod cerddoriaeth yn ei waed, ac wedi bod yn rhan bwysig o’i fywyd o oedran ifanc, fel yr eglura, “Ma offerynnau wastod wedi bod o gwmpas y ty^ - odd mam yn canu’r piano a dad yn trio chwarae’r mandolin! Felly roedd cerddoriaeth wastad wedi bod o gwmpas i’w glywed ers pan o’n i’n fach.” Ac mae Steffan yn dweud fod cyfansoddi wedi dod yn naturiol iddo, “Nath pethe newid pan brynes i fy ngitâr trydan cyntaf tua thair blynedd a hanner nôl. Fydden ni’n aml yn chware am orie’ ac wedyn mewn camgymeriad bron, fydden i’n dod lan a rhyw riff oni’n

www.myspace.com/steffanhuwband

“WRTH EI FODD YN SGWENNU A PHERFFORMIO’N GYMRAEG A SAESNEG AR Y SIN LEOL.

Page 9: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

9

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO:

David Gray, Dan Amor, Al Lewis

www.myspace.com/elmondooo Gorkys a stwff solo Gruff di helpu efo’r ochor seicadelic”. Mae ganddo feddwl mawr o’r cynhyrchydd sydd wedi cael gymaint o ddylanwad ar nifer o’r artistiaid hynny, “un o fy arwyr mawr ydy Gorwel Owen oherwydd y gwaith gwych mae o wedi cyfrannu tuag ato.”

Hyd yn hyn: Heblaw am gigio rhywfaint, ychydig iawn mae El Mondo wedi gwneud fel arall yn unigol. Wedi dweud hynny mae ganddo gwpl o draciau gwych ar ei dudalen MySpace, yn enwedig ‘Hwyl a Sbri’ a ‘Mr Violent Violence’ - sy’n

adlewyrchu dau begwn gwahanol iawn o’r gerddoriaeth. Gwych iawn.

Cynlluniau: Braf yw adrodd fod CD ar y gweill gan El Mondo, “dwi wrthi’n sgwennu EP yn y stiwdio fach yn EL Mondo central sef shed bach yn Llangristiolus”. Dywed fod ganddo lawer o gynlluniau ar gyfer y prosiect yn y dyfodol, ond ei fod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ysgrifennu’r gerddoriaeth i fynd ar yr EP. Y bwriad wedyn yw adeiladu band er mwyn gigio’n fwy eang.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO:

Badly Drawn Boy, Cyrion, Pink Floyd, Bill Withers

hoff o’i sw^ n.” Ond cerddor “ystafell wely yn unig” oedd am ddwy flynedd, nes iddo gyfnewid ei gitâr trydan am un acwstig, “dyna pryd nes i ddechre gymryd fy hunan o ddifrif gan recordio set o ganeuon a dechre gigio o gwmpas Caerdydd.” Y Sw^ n: Mae Steffan yn disgrifio’i gerddoriaeth fel “acwstig, melodig gyda digon o deimlad”. Mae hefyd yn hoffi sw^ n harmonica dros y gitâr, ac mae hynny’n elfen amlwg o’i gyfansoddiadau. “Dewch i un o’n gigs i rywbryd er mwyn clywed sut dwi’n swnio!” O ran ei ddylanwadau cerddorol, dywed “artistiaid sy’n cyfuno cerddoriaeth wych a geiriau gwych. Bruce Springsteen, John Mayer, Bob Dylan, Ryan Adams a The Killers yw’r rhai sy’n dod i’r meddwl yn syth.”

Hyd yn hyn: Mae enw Steffan Huw wedi ymddangos ar nifer fawr o bosteri gigs yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi bod yn canolbwyntio ar berfformio’n fyw yn y cyfnod hwnnw.” Mi fues i’n chware ar daith tafod Cymdeithas yr Iaith ynghynt yn y flwyddyn,

ac yna mi fues i’n chware gigs yn Mikwood Jam, Buffalo Bar a Chlwb y Diwc yn ddiweddar.” Mae hefyd wedi gwneud ymddangosiad ar raglen teledu Wedi 3 eleni, a chafodd wobr arbennig ‘cerddor gorau’r gystadleuaeth’ ym Mrwydr y Bandiau Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynlluniau: “Dwi wedi bod yn brysur yn ‘hibernato’ yn nhymor caled y gaeaf, gan ganolbwyntio ar sgrifennu mwy o ganeuon.” Wedi dweud hyn, mae Steffan yn bwriadu mynd i’r stiwdio i recordio EP yn fuan a fydd yn cael ei ryddhau fis Chwefror gobeithio. Os ydych chi am ei weld yn perfformio’n fyw, yna’r cyfle nesaf i wneud hynny fydd ar 28 Rhagfyr yn y Greek Taverna, Bangor Ucha’.

www.myspace.com/steffanhuwband

Page 10: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

10 www.myspace.com/kentuckyafc

‘Y Sgloduns’ – fatha Oscars miwsig Cymraeg, jesd bod nhw’n bodoli’n unig ar y bejan yma ia.

Wel wel wel, sut brofiad oedd y Dim-Dims i chi? Mi nesh i ddechrau 2000-09 yn morio mewn rhyddid anfoesol, yn poeni bo fi’n gaeth i’r dafarn. Ond erbyn diwedd y ddegawd mae gen i ddau sglodyn bach a dw i’n gaeth i betha gwaeth - rhaglenni plant Cyw, dim cwsg, dim rhyw.

Rhyfadd ydi bywyd ia?Ta waeth, pwy oedd band mwyaf

hanfodol y Dim-Dims? ... Kentucky AFC wrth gwrs, a gadewch i mi esbonio pam.

Tua canol y Dim-Dims roedd yr arobryn Anweledig wedi dechrau cilio ar ôl blynyddoedd o waith rhagorol, a doeddwn i jysd methu gweld o le ddeuai’r band Cymraeg nesaf i danio’r dychymyg.

Gyfeillion annwyl, ga i gyfaddef rhywbeth ofnadwy? Nesh i golli mynadd efo miwsig. A dim jesd miwsig Cymraeg, ond miwsig ffwl-sdop.

Kentucky oedd yr achubiaeth, gyda’r albwm oedd wedi ei henwi’n syml yn Kentucky AFC.Daeth y Ken-tyciaid i achub fy sîn, yn gigio a phlygio albwm gyntaf wefreiddiol oedd llawn dop o ganeuon cachboeth. Bob tro fydda i’n grempog diog ag angan plicio papur wal neu sgwennu colofn bop, fydda i’n rhoi’r albwm hon ar y blowar ac mae’n rhoi’r ffasiwn wmff i mi gyfeillion, mi gymra hi Roci Balboa ei hun i fy nal yn ôl.

Beth am gofio’r albwm mewn dull trefnus, cwbwl an-roc-a-rôl-aidd, gan gynnig sylw bach wrth restru’r caneuon yn eu trefn?1. Be Nesa - datganiad o fwriad. Cân i hedbangio iddi. Pync roc sy’n dwyn i gof albwm wefreiddiol The Big Three gan y 60 Foot Dolls. Dechrau delfrydol.2. 11 - yr unig gân dw i methu cymryd ati. Rhy Ramone-aidd ella? Sori.

GWOBRWYO BAND PWYSICA'R DIM-DIMS

3. Dallt? - Hedbangar arall. Rifftastig. Sw^ n dynion ifanc rhwystredig.4. Trafod Gwerthiant - llais gwych Endaf yn dod i’r amlwg ar y rompar yp-tempo yma. 5. Eitha Perig - “Mi ddarllennais bapur, a sylwi bod yna ddim byd yn digwydd i fi” ebe Endaf, a dyma ddisgrifiad perffaith o’r Dim-Dims. Cafwyd rhyfel yn Irac ar ôl chwalu tyrau America, ond yma yng Nghymru be ddigwyddodd? Dim yw dim gyfeillion.6. Bodlon - fersiwn drom o anthem. Dechrau fel pluen cyn ein waldio efo’r haearn. Y bass-lein yn flasus, yn gyrru’r grw^ f. A’r gytgan eironig. Bys yn dîn o gân.7. Ci Tawel Sy’n Cnoi - nid yw cocio hw^ p i ‘Gwesty Cymru’ Jarman erioed wedi swnio cystal. Cân berffiath os ti newydd gael bw^ t o ty^ gan dy ecs. 8. Be Gymerodd Hi - hwyliog, byrlymus,

harmonis hyfryd. Dim byd arloesol, jysd pop pwerus wedi ei gyflwyno’n urddasol, ti’mod?9. Ffeindio Esgus - agoriad canu gwladaidd hiraethus i drac sy’n dod fewn o’r mwd a sychu ei draed ar y cyrtans cyn sathru pilchard dy Fam. Y Mochyn!10. Iechyd Da - cyfyr o’r Gorky’s. Da.11. Diferu – rifftastig! Gitâr a bass yn croesbeillio’n ddiddorol iawn, wedyn llais Endaf yn seiren fod y cac wedi hitio’r ffansan. “Paranoia’n mynd yn waeth, eisiau cuddio” - allwn ni gyd deimlo poen y ddynol ryw yn fama.12. Rhwng y Gwir a’r Gwirion - rocar sdomplud, drymio hyfryd ddiog gan Gethin Garddwrn Meddal. 13. Marw Allan - llais Endaf yn aflonyddu’r enaid, gitârs pwerus, a hanes breuddwydion saith blwydd oed yn mynd i’r gwellt. Coron ar y cyfan.

Tasa rhywun mewn pyb yn dadla’r tos

am band gorau’r ddegawd, mi allai’n hawdd gyfeirio at y ffaith fod tri act wych wedi tyfu o Kentucky.

Yn gyntaf cafwyd combo Gethin Evans, sef y Genod Droog. Dim Kentucky, dim Genod Droog.

Cafwyd albwm orau’r flwyddyn eleni gan gyn-fasydd y grw^ p sef Mr Huw. Dim Kentucky, dim Hud a Llefrith.

A bydd unrhyw un sydd wedi mynd draw at maes peis Endaf Presley yn gwybod ei fod yntau ymhell o fod yn segur.

Felly’r Sglodun am fand pwysica’r Dim-Dims i Kentucky AFC.

COLOFN WOBRWYO ARBENNIG I DDATHLU DIWEDD

DEGAWD GAN HOFF SYLWEBYDD Y SELAR, BARRY CHIPS

Page 11: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

1111

Penblwydd hapus i gylchgrawn

y Selar

5

Page 12: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

12

MAE’R DDAWNS RYNG-GOLEGOL YN ABERYSTWYTH ERBYN HYN YN CAEL EI GWELD FEL UN O BRIF GIGS Y CALENDR Y TU HWNT I WYLIAU’R HAF GYDA HYD AT 1000 O FYFYRWYR CYMRAEG YN HEIDIO YNO’N FLYNYDDOL. TELOR GWYN OEDD YN EU MYSG AR RAN Y SELAR ELENI.

NOS WENER - BOB DELYN AC IWAN COWBOIS YN Y LLEW DU

Dim y Llew Du yw’r lle delfrydol i gynnal gig, gyda’r unig ardal digon mawr i gael llwyfan a chynulleidfa yn golygu cloi un fynedfa, ond aeth pethau yn eitha’ da dwi’n credu. Doeddwn i ddim yn disgwyl rhyw lawer gan y sain, ond mae Han yn hen law a gwnaeth job dda mewn lle anodd o gadw cydbwysedd rhwng yr offerynnau roc traddodiadol a’r adran bres a chwyth. Set eitha’ tawel gafwyd gan Iwan,

casgliad o’i ganeuon ei hunan a chyfyrs oedd yn gosod naws pseudo-werinol y noson i’r dim, a rhywbeth y gallai Bob Delyn adeiladu arno. Mae’n amlwg bod yr hyder sydd ganddo fel prif leisydd Cowbois rhos Botwnnog hefyd gydag e wrth ddal sylw cynulleidfa ar ei ben ei hun.

Falle taw fi sy jyst yn rhagfarnllyd achos ‘mod i’n hoffi Bob Delyn, ond mae rhywbeth am eu sw^ n unigryw, yn llenwi stafell a dyma a gaed unwaith eto. Roedd y set yn codi tempo wrth fynd drwy’r hen ffefrynnau cyn gorffen gyda ‘Trên Bach y Sgwarnogod’ egnïol a’r “Nos dawch nos dawch nos dawch …” traddodiadol. Gweithiodd y gig yn dda fel cyfanwaith, yn enwedig o’i gymharu â’r lineup chwithig braidd y diwrnod canlynol a dwi’n credu i bawb fynd adref (neu i’r Angel) yn hapus.

NOS SADWRN - Y DDAWNS RHYNG-GOL YN UNDEB Y MYFYRWYR

Doeddwn i erioed wedi clywed Nevarro o’r blaen, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod pa fath o gerddoriaeth i’w disgwyl, ond o’r cord cyntaf roeddwn i wrth fy modd. Dwi heb weld gymaint o ‘poseio’ ers i fi weld Mattoidz ac Ashokan yn yr un gig! Roedd gan y pedwar rhyw hyder digywilydd wrth iddyn nhw hawlio’r llwyfan a hoelio’n sylw. Band roc sy’n gwybod yn iawn eu bod nhw’n gawslyd ond ddim yn poeni iot yw’r rhain a mwynheais i bob eiliad o’r set, gan eu bod nhw’n gwneud mwy na chwarae’r gân. Os oes band ifanc arall am ddysgu sut i werthu’u hunain i gynulleidfa, ewch i weld Nevarro.

adolygiad: dawnsrhynggol2009

RHYNG GOLDAWNS

‘09Dwi wedi clywed sawl

person yn clodfori Yr Ods i’r cymylau, ond braidd yn ddiflas y buon nhw ym mhob gig welais i o’r blaen. Roedd y noson hon yn hollol wahanol fodd bynnag. Yn syml, jam hunanbwysig oedd y set a dwi’n ymwybodol bod sawl un wedi diflasu ar hyn a diflannu at y bar, ond roedd y roc seicadelic, yn tynnu’n drwm ar synths (a gwallt) o’r wythdegau yn apelio ata i, ac yn sicr ddim yn boring. Roedd hi’n amlwg nad oedd eu calon yn llwyr ynddi ond tase nhw’n rhoi ymdrech i jam tebyg yn y dyfodol bysen i’n llawer mwy tebygol o fynd i’w gweld nhw.

Synnu braidd wnes i pan welais i ar y lineup taw Al Lewis oedd wrthi nesaf oherwydd, er bod Al yn gitarydd a sgrifennwr talentog, dyw e ddim yn fy

“ BAND ROC SY’N GWYBOD YN IAWN EU BOD NHW’N GAWSLYD OND DDIM YN POENI IOT

Page 13: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

13

Yffach! Dyma fi nôl, ie, oedd y Cwis dwetha yn gwmint o ‘hit’ maen nhw wedi gwahodd fi nôl. ‘Sai’n cael lot o lwc gyda phobl yn gwahodd fi nôl ar ôl neud disgos iddyn nhw cofia - na chael yr arian ar ddiwedd y nos. “Forty pownd am hwnna! Gei di ugain a phaid byth dod nôl ‘to!” Wel, na beth odd e yn y Con Club, Aberaeron yn ddiweddar. Blydi Toris - licen i weld David Cameron yn trial symud y crowd fel i fi’n neud ar y carioci - ma’r crowd wastad yn ‘all shook up’ ‘da fi! Eh-heh!

‘Ta beth - oedd Winnie’n ishte ar ben y peiriant golchi ar spin cycle un diwrnod ac yn gweiddi “Oooo Trebor! Trebor! “am ryw reswm - mae wastad yn neud ni. “Trebor?” Wedais i - ‘sneb yn cofio Trebor Edwards dyddie ‘ma Winnie - ‘get with the rhaglen, luv’ gweiddais i o’r ‘sgubor isa’. Bryn Fôn maen nhw ishe dyddie ma’ - Bryn Fôn a www - pwy yw’r boi arall na - ie, Delwyn Siôn - na beth yw crwners y sin dyddie yma - it’s now or nefer bois bach.

Reit te, wi off i Dregaron nawr - barmitzvah yn Blaenpennal - pwy fyse’n meddwl - gobithio bod nhw’n lico Cat Stevens, na gyd weda i.Jyst i ti Winnie - dyma bum cwestiwn am heartthrobs Cymraeg i ferched bach Cymru:

1 Er bod Geraint Jarman yn cael ei gysylltu â Chaerdydd gaeth ei eni yn y gogledd – yn lle? 2 Beth yw enw ffilm newydd Gruff Rhys am Batagonia? 3 Beth welodd Meic Stevens ‘mewn ffermdy bach y wlad’ yn 1983? 4 Beth oedd teitl albwm diwethaf Gwilym Morus? 5 Mewn beth oedd cwpan Dyfrig Topper yn arnofio yn 1998?

Wel, mae Winnie’n meddwl bod nhw’n secsi ‘ta beth – well ‘da fi Aloma, Tony ac Aloma, – ffwooar!Nadolig Llawen bawb - chi’n gwbod lle ‘y fi ar gyfer Disgos Dolig. Yellow pajis - DISGOS, Llanybydder. Gwd nawr!

nharo i fel y person iawn i chwarae’r slot yma mewn gig rhyng-gol. Doedd dim bai ar y perfformiad, caneuon roc meddal da gyda harmonïau clos a sgiliau chwarae gwych, ac a bod yn deg, roedd y band fel tase nhw yn rhoi mwy o wmff nag arfer. Buasai wedi bod yn berffaith fel prif act ar ail lwyfan ‘tawelach’ ond ar y prif lwyfan, roedd hi fel petai pawb yn aros am barti disgwyliedig Gwibdaith.

Nawr, dwi ddim yn ffan o’r band yn bersonol ond mae cannoedd yn dwli arnyn nhw a chawson nhw mo’u siomi. Maen nhw’n fand sydd wastad yn llawn egni ac yn feistri ar yr hyn maen nhw’n ei wneud ac fe gawson nhw bawb i ddawnsio’n wyllt, ac ailddechrau’r gig ar ôl yr

‘egwyl’ yn y canol.Uchafbwynt y noson oedd

y Sibrydion. Maen nhw wedi bod wrthi ers yn agos i ugain mlynedd (Beganifs/Big Leaves) ac roedd eu profiad yn amlwg. Mae ganddyn nhw’r gallu, yr agwedd a’r caneuon i gyfareddu a chael cynulleidfa i ganu ac maen nhw hefyd wedi asio’r profiad ac egni ifanc Daf tu ôl y drymiau sydd mor gadarn ag unrhyw un yn y sin. Wnaethon nhw ddim syfrdanu ond wnaethon nhw ddim ein siomi ni chwaith.

Gig digon od fu Rhyng-gol 09 i mi felly, gyda Nevarro a Yr Ods yn codi fy ngobeithion am noson wych cyn perfformiadau da ond disgwyliedig gan y gweddill. Gig da heb ddigon o gic.

Ifan'Elfis'Ifans Cwis pop

1 Dinbych 2 Seperado! 3 Menyw yn y ffenest 4 The Dressing Gown Goddess 5 Dw

^rATEBION

Page 14: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

14 [email protected]

CATATONIA – E.P’S CRAI – 1993/1994Ges i bach o ‘stick’ ym mlwyddyn gyntaf coleg am i mi ddewis astudio fy nghwrs drwy’r Saesneg. Roedd cyflwyno pobl o Loegr a gwledydd eraill i gerddoriaeth Gymraeg a’r iaith Gymraeg yn un o’r pethe gwych wnaeth ddigwydd yn sgil y penderfyniad yma - rhywbeth na fyddai wedi digwydd tasen i wedi aros mewn ‘clic’ o bobl oedd yn credu fod cymysgu gyda dim ond pobl Cymraeg yn mynd i amddiffyn a chryfhau’r iaith Gymraeg. Diolch i Cerys a Catatonia, roedd eu cerddoriaeth yn arf gwych i gyflwyno pobl ddi-Gymraeg a phobl o wledydd tramor i brydferthwch yr iaith Gymraeg. Roedd ‘International Velvet’ a ‘Equally Cursed and blessed’ eisioes wedi cyrraedd y siartie ac yn boblogaidd iawn da’r myfyrwyr yn y coleg - dyma fynd ati felly i gyflwyno fy nghasgliad i o hen ganeuon Cymraeg Catatonia, a’r criw di-Gymraeg yn syrthio mewn cariad â chaneuon fel ‘Gyda Gwên’, ‘Difrycheulid’ a ‘Dimbran’ a thrwy hyn yn rhoi cynnig ar wrando ar Gorky’s Zygotic Mynci, Llwybr Llaethog a cherddoriaeth Gymraeg arall ... aeth hyn gam ymhellach gyda’r criw yn dod i gigs Cymraeg da fi, ac yn dechre llunio brawddegau yn Gymraeg hefyd!

Un o eiliadau hapusa fy mywyd i oedd sefyll ym Mharc Margam yn ystod eu gig ym 1999 a chlywed fy ffrindiau di-Gymraeg yn canu ‘Gyda Gwen’ gair am air, nerth eu pennau wrth i Cerys ganu’r gân wych yma! Roedd clywed fy ffrindiau yn canu’r gân a gweld Cerys ar y llwyfan wedi cyrraedd y brig

just yn deimlad hyfryd. Ma’r casgliad yma’n berlau llwyr – gyda

thraciau a rhai o’r geiriau mwyaf prydferth a theimladwy o’n i erioed wedi clywed yn yr iaith Gymraeg.

Bydd gennyf wastad barch mawr at Cerys Matthews, am wireddu ei breuddwydion, am fynd allan a chyflawni’r hyn oedd hi am wneud. Gobeithio, rhywbryd, bydd na aduniad - jyst am un noson er mwyn clywed eu halbwm olaf, ‘Paper Scissors Stone’ yn fyw. Gofynnes i’r cwestiwn yma i Owen Powell ar fy sioe unwaith a’i ymateb oedd ‘ie, when hell freezes over!’, ond mae’n debyg mae dyna oedd ateb Yr Eagles pan ofynnwyd yr un cwestiwn iddyn nhw ar ôl i’r band chwalu ... ac yna fe ddigwyddodd yr aduniad, a beth oedd teitl y daith? - ‘When Hell freezes over’ wrth gwrs! Allai ond byw mewn gobaith ...

LLWYBR LLAETHOG – MEGA TIDYPob tro fyddai am fynd allan i’r dre, nai chware’r albwm yma, a throi’r trac ‘Bethesda’ (remix SFA) lan yn uchel iawn a dawnsio o gwmpas fel ffw^ l! Dyma electro-dyb Cymraeg ar ei ore - mae’n amhosib

pump perl ...

MEDINIA

CYFLWYNYDD C2 A CHYN BRIF LEISYDD Y GRWP JOHNNY PANIC,

NIA MEDI SY’N DEWIS EI PUM HOFF ALBWM I NI Y TRO HWN.

MUSE - ORIGIN OF SYMMETRYPan o’n i’n fach ges i wersi piano, ac aeth hyn ymlaen tan fy arddegau. Gwneud gradd ar ôl gradd ac ymarfer fy Scales ac Arppegios ar nosweithiau braf o haf mewn stafell pan oedd fy ffrindiau i gyd allan yn chware ac yn creu hafoc o gwmpas pentref Y Tymbl! O’n i MOR jelys! Felly dyma rebelio yn llwyr a gwrthod cymryd mwy o wersi er mwyn rhyddhau fy hun i’r awyr agored gyda fy ffrindie! Do’dd gwersi piano jyst DDIM yn cw^ l, ac o’n i rili ddim yn gweld y pwynt. Blynyddoedd yn ddiweddarach dyma fi’n cael gafael ar yr albwm yma gan Muse, ‘Origin of Symmetry’ a chlywed sw^ n roc amgen anhygoel wedi cyfuno gyda rhediadau Arppegio piano clasurol, a hyd yn oed organ beipiau ar adegau. Dyna’r pwynt lle nes i ymfalchïo yn y ffaith mod i’n medru

ROEDD EU CERDDORIAETH YN ARF GWYCH I GYFLWYNO POBL DDI-GYMRAEG A PHOBL O WLEDYDD TRAMOR I BRYDFERTHWCH YR IAITH GYMRAEG

Page 15: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

15

rhoi’r albwm, neu unrhyw drac oddi ar yr albwm ymlaen heb eisie’ dawnsio’n wyllt a chynhyrfu’n lân! Ma’ Remix Tew Shady o ‘Vodya’ jyst yn glasur llwyr, ac o’n i mor falch i weld remics arall gan SFA o’r trac ‘Trouble Bubbles’ ar albwm newydd Llwybr Llaethog, Chwaneg.

Ma’n rhaid i fi gyfaddef nad o’n i wedi rili darganfod Llwybr Llaethog mewn ffordd fawr tan i fi glywed yr albwm yma ychydig

FAITHLESS – REVERENCEFaithless wnaeth wneud i fi syrthio pen a chlustie’ mewn cariad â cherddoriaeth ddawns.

Fi’n cofio clywed ‘Insomnia’ mewn clwb nos yn Abertawe am y tro cyntaf a jyst cael fy llorio gan nerth y gân. Nôl ym 1997 nes i ddarganfod cerddoriaeth ddawns a’r sin clybio mewn ffordd fawr. Do’n i ddim yn yfed alcohol ar y pryd, ac ambell waith yn gyrru i glwb nos fyddai ond yn agor am 2am a’r clybwyr i gyd yn dawnsio tan 12pm diwrnod wedyn! Maxi Jazz a Sister Bliss oedd fy arwyr, a Maxi Jazz yn perfformio pob gig fel petai e mewn confensiwn crefyddol - ac mewn ffordd dyna be oedd cerddoriaeth Faithless ar y pryd -crefydd newydd i genhedlaeth

newydd o glybwyr oedd yn caru’r nos ac yn osgoi golau dydd! Doedd e ddim yn ‘cool’ iawn i fod yn rhan o’r SRG a hefyd chware cerddoriaeth dawns fel hyn ar y pryd (wel dim ymysg fy ffrindiau i ar yr adeg yma!) ond o’n i jyst methu helpu’r peth ac ma cerddoriaeth ddawns yn parhau i chware rhan fawr yn fy mywyd i.

Cafodd Faithless gymaint o hits yn y cyfnod hynny ac o’n i methu cael digon ohonyn nhw! Ro’n i’n digwydd bod yn gweithio yn Llundain pan oedd Lleuwen Steffan yno yn recordio’r berl arall allen i gynnwys sef ‘Duw a w^ yr. Ar ôl mynd allan un noson, fi’n cofio ni’n galw mewn bwyty Kebab am 3 y bore ar ôl noson dda a Lleuwen yn gofyn y cwestiwn dwys hwnnw i mi; ‘Pwy di Duw Nia? Pwy ‘di Duw?’ a fy ateb syml i oedd ‘God Lleuwen ... is a DJ’! Ma Lleuwen yn parhau i chwerthin ac atgoffa fi o’r

flynyddoedd yn ôl, a nawr dwi’n hollol obsessed a nhw! Ar C2 bob Nos Wener ma’ na ‘Awr Llenwi’r Llawr’ yn digwydd ar fy rhaglen rhwng 12-1yb mewn awr i ni’n galw yn ‘Disco Nia Medi’! Ma na gymaint o brinder o stwff dawns a disco Cymraeg, ond diolch i John a Kevs, ma na gatalog o bethau allai fynd nôl atyn nhw pan dwi’n stryglo am drac dawns dda! Ma’ John a Kevs i fi fel dau Ddewin Electro Dyb sy’n byw mewn ogof yn

Grangetown yn aros am y chwyldro Electro Dyb! Gobeithio gwneith e gyrraedd yn fuan iawn ...

ELASTICA – ELASTICAElastica wnaeth gwmpasu’r cyfnod Brit Pop i mi, er mai ond un albwm wnaethon nhw ryddhau - roedd hi’n berl o albwm! O’n i’n caru Justine Frichman ac yn meddwl bod y gân ‘Connection’ un o’r hookes gore yn y byd, a ‘Car Song’ a ‘Vaseline’ yn esiamplau o sw^ n eiconig, ffwrdd-â-hi Justine Frichman! Fi’n falch mewn ffordd mai ond un albwm fu, sy’n gwneud hi hyd yn oed yn fwy o berl. Ro’dd y cyfnod Brit Pop yn gymaint o hwyl, gyda gornestau go iawn yn digwydd rhwng bandiau pan o’n nhw’n mynd mewn i’r siartiau - Pwy ohonoch chi, OASIS neu BLUR? Blur o’n i 100%! Dyw hynny ddim yn digwydd rhagor oherwydd dyfodiad X-Factor - ‘Jedward’ sy’n rhannu’r genedl nawr nid bandiau gwreiddiol, talentog (ond ma’ rhaid i fi gyfadde’ mod i yn dwli ar X-Factor!) Gymaint oedd fy nghariad tuag at fandie’ Britpop yr adeg fel Blur, Suede ac Elastica, nes i fynd ar goll yn ystod trip Ysgol i Lundain. Bwriad y trip oedd mynd i weld Miss Saigon, ond nes i fynd off i ddarganfod CAMDEN. Nes i dreulio orie’ yn rhyfeddu at y siopau lliwgar a’r bobl o bob lliw a llun yn cerdded lawr y stryd mewn steiliau punk, goth, indie a mwynhau bob eiliad o fynd ar goll! Nôl a fi wedyn i’r theatr ac ymuno â’r disgyblion eraill hanner ffordd drwy sioe Miss Saigon - ond o’n i mor nacyrd, nes i gysgu drwy’r finale ... ond o’dd e werth e.

chware’r piano a gweld gwerth yr hyn o’n i’n dysgu, a sut alle’r cefndir clasurol yma gael ei integreiddio mewn i unrhyw steil. Ma ‘New Born’, ‘Plug in Baby’ a ‘Feeling Good’ yn parhau i fod yn rhai o’m hoff dracie’ i erioed gan unrhyw fand yn y byd, a dwi byth yn blino clywed yr albwm. Nes i weld y daith ‘HAARP’ ar DVD blwyddyn ddiwethaf (nes i golli’r gig am fy mod yn America ar y pryd, gyted!) ac unwaith eto, cael fy hudo a’m syfrdanu gan dalent Mathew Bellamy, yn symud o’r gitâr flaen i’r grand piano ac yn chware fel meistr clasurol fydde Mozart ei hun yn browd ohono!

Erbyn hyn ma’ nhw’n feistri ar eu crefft ac yn cynhyrchu clasur ar ôl clasur. ‘Knights of Cydonia’ yw un o’m hoff ganeuon i erioed a dwi am gael e yn fy angladd! Wedodd Annie Mack, cyflwynydd Radio One, fod y gân yma’n ‘6 minutes and 10 secconds of pure genius’ ac odd hi’n llygad ei lle. Diolch i Muse, ma gen i Biano yn y tŷ, a dwi’n chwarae lot mwy ohono fe nawr nag o’n i yn fy arddegau ac yn gwerthfawrogi’r oriau hir hynny o ymarfer piano pan o’n i’n fach!

sgwrs honno a dwi’n dal i garu cân ‘God is a DJ’ gan Faithless ac mae’r geiriau “This is my Church, this is where I heal my

hurt, It’s in the world I become, content in the hum between voice and drum” dal yn neud i mi ymgolli’n llwyr yn fy hun.

Page 16: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

?16

“ “

BYD BACHYn gantores, nofelwraig a darlithydd mae’n debyg mai Ffl ur Dafydd yw un o bobl prysura’ Cymru! Serch hynny, cafodd amser i sôn dipyn wrth Y Selar am albwm newydd Ffl ur Dafydd a’r Barf, Byd Bach.

Mae’r albwm a gafodd ei recordio yn stiwdio Sonic One, Llangennech a’i chynhyrchu gan Tim Hamill newydd gael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd ar label Rasal. Dyma drydedd albwm Ffl ur ond yn wahanol i’r lleill, albwm gysyniadol yw hon, gyda’r mwyafrif o’r caneuon yn ymwneud â lleoliadau gwahanol yng Nghymru - lleoliadau sydd wedi dylanwadu ar ei bywyd a’i cherddoriaeth. Mae Ffl ur wedi byw ym mhob cornel o Gymru, mewn llefydd sy’n amrywio o Gaerdydd i Fynydd Llandygai, ac mae’r amrywiaeth hwn yn cael ei gynrychioli yn y gwahanol draciau. Dechreuais felly trwy ofyn, pam albwm gysyniadol? “Fel arbrawf yn fwy na dim, ac er mwyn gweithio

MAE BOD YN

RHAN O FYD

BACH CYMRAEG

A CHYMREIG YN

GALLU BOD YN

RHWYSTREDIG

ychydig bach yn wahanol i’r arfer. Fydden i byth wedi sgwennu rhai o’r caneuon yma heb y thema, ac ar lefel bersonol, dwi ‘di mwynhau edrych nôl ar fy nhaith ddaearyddol absw^ rd rownd Cymru a gweld sut mae ‘e wedi arwain at y math o berson ac artist ydw i nawr.”

Wrth gwrs mae stwff cysyniadol yn gymharol brin yn y Gymraeg. Cafwyd albwm werdd Gai Toms y llynedd ond ar wahân i hynny mae’n anodd meddwl am lawer o enghreifftiau diweddar. Gofynnais i Ffl ur a yw hi’n meddwl bod lle i fwy o’r math yma o beth. “Oes, yn sicr. Er bod ‘na snobyddiaeth am bethau fel hyn oddi wrth

buryddion y sin, sy’n credu fod y math yma o waith yn cyfyngu artist - os ti’n meddwl am y peth, ry’n ni fel Cymry wedi bod yn ymateb i thema ers cyn cof. Mae’n rhan o’n diwylliant ni, a does dim rheswm pam na allwn ni ymestyn hyn at y sin gerddorol a chael ychydig o hwyl gyda’r peth.”

Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae geiriau’r caneuon ar yr albwm yn sôn am y gwahanol leoliadau dan sylw ond mae fel pe bai’r gerddoriaeth hefyd yn adlewyrchu’r lleoedd hynny. Cyfl ëir naws gartrefol braf yn ‘Porthgain’ a cheir prysurdeb y ddinas yn treiddio trwy ‘Caerdydd’. Roeddwn i’n awyddus i wybod a oedd hyn yn rhywbeth bwriadol neu’n rhywbeth a ddaeth yn naturiol wrth gyfansoddi. “Nethon ni ddim cyfaddawdu gyda’r albwm yma – ni’n fand sydd yn licio pob math o gerddoriaeth, ac roedd e’n gwneud synnwyr fod yr arddull hefyd yn ‘teithio’ – gan fod pob lle mor wahanol.”

Un peth sy’n amlwg wrth wrando ar Byd Bach yw’r ffaith fod Ffl ur Dafydd wedi gweld llawer o Gymru, ond mae hi hefyd wedi teithio tipyn tu hwnt i Wlad y gân. Tybed felly a yw’r profi adau hynny wedi effeithio ar ei theimladau tuag at Gymru hefyd? “Wrth grwydro’r byd, yn enwedig y gwledydd mawr, ti’n sylweddoli bod ni’n lwcus i gael hunaniaeth sydd mor gryf - ac weithiau mae angen i ti fynd mas o Gymru i weld hynny. Ar y llaw arall mae bod yn rhan o fyd bach Cymraeg a Chymreig yn gallu bod yn rhwystredig - pawb yn nabod ei gilydd, a ti’n methu neud dim

DDIWEDD TACHWEDD FE LANSIODD FFLUR DAFYDD EI THRYDEDD ALBWM YNG NGHLWB Y CWINS

CYMRU. GWILYM DWYFOR AETH I WELD A OEDD HI’N BWRIADU CONCRO GWEDDILL Y BYD BACH. CAERFYRDDIN. RHWNG EI GWAITH LLENYDDOL A CHERDDOROL, MAE HI EISOES WEDI DECHRAU CONCRO

BYD BACH

FFLUR DAFYDD

Page 17: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

17

MAE GWNEUD ALBWM YN HWYL, MAE YSGRIFENNU NOFEL YN ARTAITH PUR.

“ “FFLUR DAFYDD

Page 18: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

18

byd heb fod rhywun yn dy feirniadu am wneud - yn enwedig os wyt ti’n artist. Y peth pwysig yw cario mlaen beth bynnag, a derbyn y da a’r drwg am fod mewn ‘Byd Bach’ - heb y tensiynau hynny, mae’n bosib na fyddwn i’n creu’r math yma o waith.”

‘A47Dim’ yw enw un o’r caneuon ar yr albwm ac nid Fflur Dafydd yw’r artist Cymraeg cyntaf i ganu am y ‘lle’ hwnnw - daw Geraint Løvgreen ac Iwcs a Doyle i’r meddwl! Gofynnais felly a oedd hi’n teimlo fod yna rhywbeth am yr hen lôn droellog sy’n ysbrydoli pobol! “Dwi’n meddwl fod yr A470 wedi ei greu er mwyn ein harteithio ni fel Cymry. Meddylia am y peth - er gwaethaf holl ddatblygiadau’r byd modern, ry’n ni’n dal i orfod teithio ar hyd hen lôn droellog, anwastad, ddiddiwedd, ac os ti’n gofyn i fi mae’n ffordd dda o gadw’r wlad yn rhanedig a sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn flin ac yn ddiamynedd ac i gwympo mas ymysg ein gilydd. Tasai heolydd teidi gyda ni, a’r teithiau rhwng de a gogledd yn haws, fe fydde pawb yn deall ein gilydd. Ond fydde hi’n fyd bach anniddorol tasen ni gyd yn byw mewn harmoni ...” Cyflëir y berthynas felys-chwerw yma i’r dim yn y gân.

Fy hoff gân i ar yr albwm yw’r trac olaf, ‘Yr Ymylon’, felly gofynnais i Fflur beth oedd hanes honno. “Mae hi’n gân sydd yn ffarwelio ag ambell sefyllfa emosiynol yn fy mywyd i, ac yn ffarwelio a’r albwm yn gyffredinol. Dwi ddim yn meddwl bydd ‘na albwm cweit fel hon eto, felly i fi, mae hi hefyd yn nodweddu diwedd cyfnod. Fel ma’r lyrics yn awgrymu ar y diwedd: ‘ddwedes i bopeth o’dd da fi i’w ddweud.’ Am y tro beth bynnag.” Yn sicr, mae hi’n ddiweddglo teilwng.

Does dim dwywaith fod yr albwm yma yn gweithio fel cysyniad. Mewn ‘byd bach’ fel Cymru mae pawb yn mynd i fod yn gyfarwydd ag o leiaf un neu ddau o’r lleoliadau dan sylw. Mewn theori dylai’r albwm werthu cyn i neb glywed y stwff felly, a go brin y bydd neb yn cael eu siomi

wedyn chwaith. Gyda hynny mewn golwg tybed a fyddai gan Fflur ddiddordeb gwneud y math hwn o beth eto. Oes mwy o deithio ar y gweill, ac os felly, a ydym yn debygol o weld albwm gysyniadol arall debyg yn y dyfodol? “Mae’n demtasiwn i gadw i fynd, Byd Bach 2, 3, 4 ond dwi’n credu bod rhaid cadw pethau’n ffres a symud ymlaen at syniadau newydd. Dwi’n bendant wedi setlo nawr yng Nghaerfyrddin, ac yn hapus iawn yn byw fel ‘townie’ yng nghanol metropolis y Gorllewin.”

BYD BACH VS. Y LLYFRGELL!Bydd darllenwyr diwylliedig Y Selar yn gwybod nad dyma unig gyhoeddiad Fflur Dafydd yn 2009. Hi enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn y ‘Sdeddfod ‘lenni gyda’i nofel Y Llyfrgell. Rhaid oedd cael cyn gorffen y cyfweliad felly frwydr fawreddog, Byd Bach Vs. Y Llyfrgell!

Pa un nes di fwynhau ei wneud fwyaf? “Mae gwneud albwm yn hwyl, mae ysgrifennu nofel yn artaith pur. Ond mae gweld y nofel

mewn print, yn enwedig pan wyt ti wedi creu rhywbeth oeddet ti’n meddwl oedd tu hwnt i dy allu, yn deimlad braf.”

Pa un oedd yr anodda’? “Y Llyfrgell, heb os. Misoedd hir a thywyll yn byw yn fy myd dychmygol, heb allu trafod y peth gyda neb, byth yn mynd allan, yn gaeth i’r cyfrifiadur ac yn bod yn gwbl anghymdeithasol!”

Pa un fydd fwyaf poblogaidd mewn 10 mlynedd? “Y Llyfrgell dwi’n gobeithio. Dwi ddim yn trio gwneud pwyntiau difrifol wrth sgwennu caneuon, dwi’n cael hwyl, ond mae’r nofel gobeithio yn dweud rhywbeth am y cyfnod ry’n ni’n byw ynddo nawr, ac fe fydd hi’n parhau i wneud.”

Pa un wnaiff werthu orau ti’n meddwl? “Gwerthodd Y Llyfrgell 3,000 o gopïau mewn tair wythnos – dwi’n amau’n fawr y bydd modd i Byd Bach ddal lan â hynny!”

2010

Wrth i’r cyfweliad a 2009 ddirwyn i ben rhaid oedd gofyn i Fflur beth oedd ei chynlluniau ar gyfer y flwyddyn, ac yn wir, y ddegawd newydd? “Dwi ‘di bod yn osgoi’r label ‘acwstig’ ers cyhyd – ond dwi’n meddwl bod hi’n bryd imi ildio iddo go iawn a

mynd nôl i botsian gydag unrhyw beth acwstig alla i ffeindio, offerynnau dwl fel yr iwcalili, a’r zither, a gweld beth ddaw. Mae gen i delyn hefyd sy’n hel llwch. Gewn ni weld. Dwi’n bwriadu tyfu’n hen yn gwbl anurddasol o fewn y ddegawd nesaf hefyd.” Fe fydd hi a’r

barf hefyd yn hyrwyddo Byd Bach mewn ambell i gig dros y gaeaf, ac os oes unrhyw un yn chwilio am anrheg Nadolig bach neis i rywun dros yr wythnosau nesaf syrffiwch draw i www.sainwales.com, neu heglwch hi’n hen ffasiwn i lawr i’ch siop leol.

2010

FYDDE HI’N FYD BACH ANNIDDOROL TASEN NI GYD YN BYW MEWN HARMONI ...“

Page 19: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

19

YN AWST 2007, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR WYDDGRUG, GLANIODD Y CREISION HUD! GYDA CHYSTADLEUAETH MOR GREF Â’R ODS A PROMATICS, HWY DDAETH YN FUDDUGOL YNG NGHYSTADLEUAETH BRWYDR Y BANDIAU MAES-B. ROEDD RHAID DISGWYL DROS FLWYDDYN ETO CYN I’R RHAI HUDOL O GAERNARFON LANSIO EU SENGL GYNTAF, OND, ROEDD HI’N WERTH YR AROS CANYS DAETH ‘FFYRDD GWYRDD’ I’R BYD! DYMA’R BAND YN CYFLWYNO YCHYDIG O GEFNDIR Y GÂN CYN DATGUDDIO’R GEIRIAU’N GYFLAWN I DDARLLENWYR LWCUS Y SELAR:

“Ma’ Ffyrdd Gwyrdd yn gân efo mwy nag un ystyr i’r geiria dwi’n meddwl. Da ni di trio creu teimlad eitha’ creepy a mysterious efo rhai llinellau fel “Mae’n rhedeg mewn i’r mwg” neu “mae’r swing yn swingio’n ‘slo, ond does ‘na neb arno fo.” Mi oeddan ni’n gwrando lot ar Klaxons a Foals pan sgwennom ni’r geiria, ac maen nhw’n aml efo geiria sydd yn anodd deall be’ maen nhw’n feddwl, ond sy’n creu teimlad creepy. Efallai y gall pobl edrych ar

Hud xMa’r dagrau’n

dod o’r sêr,

Ma’ petha ‘di mynd yn flêr.

Ma’r swing yn swingio’n slo

ond does ‘na neb arno fo.

Ar ôl tua saith, ti’n cychwyn

taith.

Cysgu trwm i guriad drwm.

Ti’n colli gwen, ti ‘di mynd

yn hen

mewn dim.

Wwww

Mae’n rhedeg mewn i’r mwg.

Mae’n gweld y da pan dwi’n g

weld y

drwg.Dwi’n saethu s

aethiad cam,

Dwi methu dallt ond dwi’m y

n gofyn

pam.Am hanner nos

mae’n wirion bost,

troi yn ôl rhag bod yn ffôl,

dwi ar y ffyrdd cenfigennus

wyrdd o

hyd.

Wwww

Tri deg eiliad...

linell fel “cysgu’n drwm i guriad drwm” fel syrthio i gysgu mewn rhywle swnllyd e.e. clwb neu hyd yn oed tacsi ar ffordd adra.

Ond mae gwir ystyr y geiriau yn mynd i aros efo’r Creision, sori. Ella fod yr ystyr yn gliriach wrth gyfieithu rhai llinellau...

GEIRIAU SY’N GYRRU’R GA^N?

Page 20: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

20 [email protected]

DEUWEDD ENDAF EMLYN

Mae bron yn 30 myned ers i Endaf Emlyn ryddhau Dawnsionara, ond tan ei berfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau y llynedd, chlywyd ddim smic yn y cyfamser gan Endaf y cerddor. Fel dipyn o ffan, dwi’n edrych ar gasgliad newydd o ganeuon fel hwn felly yn llawn chwilfrydedd, gan geisio dychmygu pa fath o bethau fu’n ffrwtian yn ei ddychymyg cerddorol ers cyhyd. Ond dwi’n sylweddoli’r peryglon hefyd o fynd at waith cwbl newydd a’i gymharu â’i stwff yn y gorffennol, o gofio pa mor wych ac o flaen eu hamser oedd ei gasgliadau yn y 1970au, a wthiodd gerddoriaeth roc Cymraeg, ynghyd â’i gyfoedion Geraint Jarman a Meic Stevens, i dir uwch.

Y newyddion da yw nad yw’r casgliad yn siom. Ond nid yw’n glasur llwyr chwaith. O ran steil, mae troed yn y gorffennol a throed yn y presennol. Byddai riffio a thema Steely-Dan-aidd ‘Neb ond y Blode’

RHAID

GWRANDOBYD BACH FFLUR DAFYDD A’R BARF Gyda chlustiau sgeptig y gwrandawais ar ‘Byd Bach’ y tro cynta. Y busnes ‘albwm gysyniadol’ ‘ma odd wedi codi ngwrychyn i braidd. Onid ydi galw albwm yn gysyniadol yn awgrymu mai cymysgedd ddi-drefn o nodau wedi eu dal ar hap fel pysgod o fôr ydi albyms pawb arall?!

Fodd bynnag - rant drosodd. Wedi i’r mwg i gyd glirio o nghlustia i mi ges i’n siomi ar yr ochr orau. Mae’r ‘road-trip’ yma yn bwrw golwg ar bopeth o’r naws hudolus hiraethus sy’n perthyn i’n ‘adra’ ni gyd; unigrwydd ein Prif Ddinas, a’r llwybrau trosiadol ‘da ni wedi dewis eu cerdded. Yndi, mae’r ddelwedd o daith lythrennol/emosiynol wedi ei blingo braidd erbyn diwedd y daith ond mae’r siwrna yn un bleserus.

Mae yma ambell gân –

‘Caerdydd’, ‘Pobol Bach’, ‘A47 Dim’, sydd â stamp ‘Fflur Dafydd

a’r Barf’ wedi ei serio arnynt, cymysgedd bop-jazz–ffync sydd yn sicr o gael pobl i bopio ar brynhawn braf yn Glyn Ebwy rha’ nesa.

Teimlaf mai goreuon ydi’r caneuon sy’n f’atgoffa o gerddoriaeth amrwd a gonest albwm gynta’r band, Coch am Weddill fy Oes. Yn enwedig ‘Penrhiwllan’ ac ‘Yr Ymylon’ sy’n llwyddo i ymdroi yn yr ymennydd am hir wedi’r gryno-ddisg orffen troelli.

Mae ambell gân yn llusgo (oedd angen stopio am betrol tybed?!) ac yn ailadroddus, ond ar y cyfan mae Byd Bach yn glod iddynt. Os ‘da chi eisoes yn ffan, ‘da chi’n sicr o fwynhau’r albwm hon - mae’n ein dal ac yn ein treiglo drwy dirlun ein gwlad … rhowch hi ar eich rhestr Sion Corn fory nesa a hop on.

8/10CASIA WILIAM

BYDD WYCH MEILYRMae llais canu Meilyr yn llais cyfarwydd i mi. Dwi’n cofio Manchuko, y band roedd yn brif leisydd arnyn nhw, yn dda iawn - band ffynci a chyffrous iawn o Glwyd na lwyddodd fyth i gyflawni eu potensial yn fy marn i. Dwi’n cofio meddwl bryd hynny fod llais Meilyr yn hynod o debyg i un Thom Yorke o Radiohead, ac mae hynny’n sicr yn parhau’n wir gyda’i waith diweddaraf. Er y gellir galw’r gerddoriaeth yn ‘arbrofol’, does ‘na ddim byd cymhleth am y caneuon - ma nhw wedi eu stripio lawr i’r eithaf, gyda dim ond cwpl o offerynnau yn gefnogaeth i’r llais iasol ar bob trac. Does ‘na ddim gor-gynhyrchu chwaith. Ep syml ond effeithiol sy’n gwneud y mwyaf o brif arf Meilyr sef ei lais unigryw.

6/10OWAIN SCHIAVONE

yn ffeindio’u lle yn ddigon cyfforddus ar Dawnsionara tra bod ‘Siarad Babi’, er perthnasedd a dychan ei thema am safon iaith cyflwynwyr radio, yn sgrechian ‘filler!’. Mae ‘Mae na Rhywun yn Gwylio’ yn gân gyfoes ond ystrydebol am lygaid y

DOCFEISTR

Nid yw’r Docfeistr cweit yn taro deuddeg fel cyfanwaith. Er bod yma draciau hyfryd gan artistiaid amrywiol, mae’r stori sydd wedi’i naddu rhwng y caneuon yn rhy wan i ddal yr holl beth at ei gilydd ... Docfeistr yn cael coffi, Docfeistr yn cael peint, Docfeistr yn cael shag. Ag ambell un yn marw yn y cyfamser. Braidd yn ddof a diddychymyg. Pam na fysa fo wedi ymweld â’r Sdeddfod, rali Cymdeithas yr Iaith neu gynhadledd shafio defaid Tregaron? Ta waeth, mae’r ddwy MC i’w llongyfarch yn harti am ysgogi’r ystod eang o dalentau i fynd ati i recordio caneuon ar un thema, sy’n cael eu llywio trwy foroedd lled ddoniol gan lais a sgrechiadau dramatig Rhodri Evan.

Cyfraniadau disgleiria’r albwm yw ‘Helpa’ - Llan Clan (harmonis hyfryd ag anobaith arwrol bywyd wedi’i ddal am byth ar sleisan o bop perffaith), ‘Gelyn’ - Mr Huw (sy’n toddi dipyn o ‘Dwylo dros y Môr’ fewn i’r gytgan yn glyfar o effeithiol), ‘Ellyll’ - Dyl Mei (cân brydferth am gragen o ddyn sydd wedi ei ddifrodi’n emosiynol, efo

feib epic Super Furry-ish) a ‘Yr Arfordir’ sef cerdd sy’n cael ei hadrodd yn ddirdynnol gan Tregeryn Prytherch-Jones i gyfeiliant motiff piano ‘Ellyll’ - hynod effeithiol.

Roedd ‘Meistr y Moroedd’ gan Pwsi Meri Mew a ‘Y cadw mi gei’ gan Gruff Rhys yn dda hefyd. Ac nid heb ei ddidwylledd ‘Y Creu’ gan Bryn Fôn, sy’n gorffen drwy sôn am flodau piso ar fedd. Pwy fysa wedi rhagweld honna?

Yr unig nodyn bym oedd y plodar ‘Docfeistres’ gan The Stilletoes, sy’n gân drwsgl am ddynas sy’n licio cael ei brifo. Ni swniodd sado masocistiaeth erioed mor pedestrian. Ac ni fydd ‘Lle mae’n cuddio?’ yn ei gwneud hi ar albwm greatest hits MC Saizmundo.

Ond mae digon yma i godi gwên, ‘Y Thongddrylliwr’ yn sôn am ddwyn nics a’r baledwr Harr Richards i’w glywed yn unionsyth ar ôl i’r Docfeister ddawnsio’r tango horizontal. Be’ ydi flawed masterpiece yn Gymraeg? Campwaith amherffaith. A’r clawr gore ers erioed.

7/10BARRY CHIPS

Brawd Mawr arnom, sy’n swnio fel Geraint Løvgreen ar ddiwrnod gwael.

Mae adlais o Tom Waits yn ei gyfnod Swordfishtrombones ar drefniant jugband ‘Lili’r Dwr’, er nad yw Endaf, yn ddoeth iawn, wedi troi i ruo mewn llais dwfn i efelychu’r trybadwr o Galiffornia.A sôn am ei lais, er bod treigl y blynyddoedd yn dangos ei ôl arno ambell waith, mae’n parhau’r un mor felfedaidd a llawn mynegiant. Mae gan ‘Gwenllian Fach’ alaw hyfryd hwiangerddol, sy’n sôn am ferch Llywelyn ap Gruffydd a gaethiwyd mewn lleiandy hyd ei hoes rhag iddi esgor ar etifedd i Llywelyn. Mae’r cyfeiliant clasurol ar ‘Y Llinyn Arian’ yn llawn awyrgylch tywyll, a gellid darllen a mwynhau geiriau’r gân fel cerdd ynddi ei hun, fel y gellid fel y rhan fwyaf o’r caneuon. Yn ôl y dystiolaeth yma, anodd meddwl am lawer gwell crefftwr geiriau nag o yn cyfansoddi caneuon yn y Gymraeg. Mae hefyd yn dda ei weld yn mynd ati i sgwennu caneuon mwy personol a datgelu rhywfaint o Endaf y dyn, rhywbeth

Page 21: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

21

adolygiadau

NAGAZAKI MASTERS IN FRANCE

EP cyntaf y band o Gaernarfon sy’n cynnwys Ows Coch gynt o Frizbee, ac Owain Ginzberg, gynt o’r Heights ac mae’n EP cyntaf arbennig o dda. O’r cychwyn cyntaf gyda ‘Milgi’ ma ‘na lwyth o gitars, a’r sw^ n indi-roc yna fyddech chi’n cysylltu â chyn fandiau’r aelodau - sori, ond mae ‘na debygrwydd amlwg sy’n gwneud y gymhariaeth yn anochel. Er bod hwn yn brosiect cerddorol cyntaf i dros hanner yr aelodau, ma ‘na brofiad amlwg tu cefn i’r band, a hynny’n amlwg gyda’r gerddoriaeth lawn ac aeddfed. Er bod yna sw^ n amlwg i’w cerddoriaeth, mae ‘na hefyd ddigon o amrywiaeth rhwng y caneuon, a dyna sy’n gwneud i mi feddwl eu bod nhw’n fwy diddorol na’r bandiau uchod.

7/10OWAIN SCHIAVONE

GLO AC OREN RACE HORSES

Weithiau ‘da chi eisiau prynu CD i rywun yn anrheg Nadolig, ond ’da chi ddim eisiau gwario decpunt arnyn nhw. Dyna pryd fydd pobl fel arfer yn prynu senglau ond yn anffodus does dim llawer o’r rheiny i’w cael yn y Gymraeg. Na phoener, achos ’Dolig yma, gallwch brynu sengl newydd Race Horses i’r ffrindiau hynny nad ydych eisiau gwario gormod arnynt!

Wedi dweud hynny, nid yw’n anrheg mor gas â hynny achos mae Glo Ac Oren, fel popeth arall sy’n dod o stabl y Race Horses, yn reit dda! Cân fach neis am hen gwpl hapus yn hel atgofion ar noswyl Nadolig yw hi. Mae hi’n dechrau’n araf ac roeddwn i’n disgwyl iddi ffrwydro unrhyw eiliad i’r gwallgofrwydd swrrealaidd Race Horsaidd sydd mor nodweddiadol o’i sioeau byw, ond wnaeth hi ddim. Ond wedi goroesi’r siom wreiddiol honno buan iawn y dechreuodd hi dyfu arnaf.

Un peth oedd braidd yn siomedig oedd y ffaith mai dim ond sengl yw hi, does dim ‘B-side’, ond efallai mai bod yn farus fyddai hynny gyda’r albwm, Goodbye Falkenburg ar ei ffordd ym mis Ionawr. Am rw^ an, mae Glo Ac Oren yn ddigon o fins-pei i aros cinio ’Dolig.

7/10GWILYM DWYFOR

YUCATAN ENLLI(Ar finyl neu i’w lawrlwytho)Unwaith eto yng Nghymru fach gwelwn grw^ p sy’n denu mwy o glod a bri o wledydd eraill nac o Gymru ei hun, ac mae hyn yn digwydd yn amlach na pheidio i’r grwpiau amgen fel Datblygu ac ia, Yucatan, er mor wahanol eu harddull. Mae eu gigio aml yn Lloegr a’r sylw caiff yr albwm yn Siapan a’i phecynnu Siapanëeg yn brawf.

Yr hyn sy’n taro’n syth yw bod natur y llais yn wahanol. Mae’r llais yn fwy … wel, yn fwy, ar Enlli nag oedd ar yr albwm. Mae’r miwsig yr un mor ystyriol, llyfn ac epig i fynd gyda’r llais cryfach ac mae’n gweithio, ond roedd yr arddull asio ar yr albwm hefyd yn gweithio. Be newch chi?

Mae 25 munud am ep 4 cân yn eitha maint. Nid grw^ p Jonsi yn y pnawn mo Yucatan. Sori Jonsi am bigo arnat eto ond mae gennyt deirawr pob dydd yn enw popeth. Mae caneuon Yucatan wastad yn disgyn yn ysgafn arnoch ac yn cymryd amser i’ch gorchuddio’n llwyr megis cwilt anferth, ac mae’r un peth yn wir gydag Enlli. Profiad ysgubol.

7/10HEFIN JONES

RYAN KIFT O’R OGOF

Siawns fod Ryan Kift bellach yn un o’n artistiaid mwyaf diwyd a chynhyrchiol, yn fodel o hunan-gyflawni ac yn esiampl i ni oll. Dylai rhywun gomisiynu ymchwil trylwyr i’w ddisgograffi yn ogystal ag i’r brecwast mae’r dyn yma’n ei daflu i’w geg fawr. Mae hefyd yn enwog am daflu ei gitâr dros ei gefn a chwarae yn y mannau mwyaf anarferol. Os nac ydi Ryan ar restr gig C2 debyg y bydd yn chwarae ar ben giât, bugeiliaid y wlad yn ymgasglu o’i flaen wrth i’r tir rewi, neu’n osgoi poteli’n ddi-hid mewn clwb tywyll i addolwyr satan yn Stuttgart. Peiriant.Yn dilyn Amsterdam, albwm oedd mor gyflym, gwallgo’, ac mor an-Kiftaidd byddai’n llai o syndod clywed John ac Alun yn trip-hopio’n benwan trwy eu halbwm Nadolig, neu Jen Jeniro’n concro siartiau Lloegr a’u fersiwn perffaith o Reach For the Stars (S-Club 7) wedi eu hymddangosiad ar X-Factor gyda’u dawnsio clap a throi, mae O’r Ogof yn arwain ni’n ôl yn gynnes i’r Kift cyfarwydd, tiwns celfydd o’r llais a geiriau ymhell o’r norm, yn ein bwydo gyda chymysgedd acwstig bywiog a dwys mewn casgliad 4 cân canmoladwy. Rhaid mynd mor bell a dweud mai dyma Ryan ar ei orau, ac mae fel pe bai hen gi ffyddlon yn ôl o flaen y tân.

8/10HEFIN JONES

a fu’n gymharol gyndyn i’w wneud yn y gorffennol. Er mod i’n hoff o’r trefniant jazz-ffwnc a’r chwarae crefftus ar y gân olaf, ‘Deuwedd’, llafurus yw’r alaw, ac mae’r casgliad yn gorffen ar nodyn braidd yn wag.Rhaid i mi gyfaddef na wnaeth Deuwedd argraff mor ffafriol â hynny arnai ar y gwrandawiad cyntaf, ond mae’n datgelu corneli newydd gyda phob gwrandawiad, ac mae gen i deimlad y bydd yn parhau i wneud hynny. Fodd bynnag, mae’n anodd osgoi dod i’r casgliad mai pur anwastad ar y cyfan yw ‘Deuwedd’. Er y bydd dilynwyr selog Endaf Emlyn (mintai a dyfodd yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf) yn falch iawn o’i weld yn ôl ac yn debyg o werthfawrogi ei comeback hirddisgwyliedig, mae’n gwestiwn os bydd Deuwedd yn canfod llawer o ddilynwyr o’r newydd iddo.

6/10 SHON WILLIAMS

CWSG ALUN BATTRICK

Mae’n eithaf anodd adolygu CD Gymraeg yn hollol ddiduedd achos ’da chi unai yn ’nabod neu o leiaf yn gwybod pwy ydi pawb yn y SRG mwy neu lai. Mae ’na rywbeth reit braf felly am ddod ar draws CD rhywun nad oes gennych chi syniad pwy ydi o!’Dwi erioed wedi clywed am Alun Battrick o’r blaen ond mae gan y boi diwns bach digon derbyniol chwarae teg. Sdwff acwstig ar y gitâr a phiano yn bennaf sydd ar yr EP. Miwsig gwydryn o win yn hytrach na miwsig wyth peint o Stella a

chwe Sambuca os liciwch chi, ond does ‘na ddim byd yn bod ar hynny o dro i dro. Gall y gerddoriaeth fynd braidd yn undonog ond mae ei lais o yn un digon hawdd gwrando arno.

Mae’r alawon yn gallu swnio fel Coldplay Cymraeg braidd sydd yn iawn os ’da chi’n licio Coldplay am ’wn i. Pedair cân Gymraeg sydd yma ac wedyn rhywbeth braidd yn bisâr yn fy marn i – dwy o’r caneuon, ‘Gad I Mi Fod’ a ‘Disglair’ eto! Union yr un caneuon ond â geiriau Saesneg! Od iawn.

5/10GWILYM DWYFOR

Page 22: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

22 [email protected]

Y GOLOFN WADD

SGANDALAU BREINDALIADAUgyda Deian Saizmundo

O’r diwedd, mae albwm epig y ‘Docfeistr’ yn cael ei rhyddhau, ac mae MC Saizmundo yn ôl ar ein tonfeddi. Mae rantiwr amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg hefyd yn ôl yn ysgrifennu i’r Selar gyda cholofn estynedig arbennig i ddeud ei ddeud.

Mae’n rhyfedd bod nôl yn sgwennu colofn yn Selar ar ôl blynyddoedd yn gwneud pethe eraill, sydd ddim yn ymwneud â thynnu blewyn o drwyn pobl! Mae’n neis cael bywyd tawel weithie! Ond dyma fi’n dadwneud hynny i gyd trwy ddechre sgwennu eto!

Felly, fel ail gyflwyniad dwi am son am y busnes breindaliadau PRS ‘ma - pwnc sy’n gyrru pobl i gysgu erbyn hyn mae’n siw^ r. Ond mae’n bwnc pwysig iawn i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg, ac i bawb sy’n prynu cerddoriaeth Gymraeg ac yn mynychu gigs. Ac felly mi af syth mewn iddi - mae angen chwalu ambell i fyth am y busnes breindaliadau ‘ma. Fel da chi’n gwybod, mae’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg yn ddibynnol ar ddau neu dri math o incwm sef breindaliadau, gwerthiant cynnyrch a thaliadau cyngherddau. Allan o’r rhain, breindaliadau yw’r ffynhonnell fwyaf a phwysicaf o bell bell ffordd, a hynny oherwydd bod gwerthiant yn Gymraeg yn gachu (heblaw am Bryn Fôn, Meinir Gwilym, Dafydd Iwan a.y.b.) a bod ffi da am berfformio yn brin iawn tu allan i gyngherddau mawr S4C, hedleinio Maes B, bla bla bla.

Dyma’r sefyllfa mae llawer o fandiau ac artistiaid Cymraeg yn gorfod ei hwynebu. Ac fel ymateb i hynny, mae

llawer o fandiau ers blynyddoedd wedi sefydlu eu labeli eu hunain i wneud yn fawr o’r pres cyhoeddi sy’n dod o’r breindal ar gyfer rhyddhau cynnyrch. Yno y mae’r dosh yn ôl yr hen ddywediad. Y broblem ydi, mae’r arian hwn sydd wedi galluogi nifer o labeli i ryddhau stwff amgen DIY yn gostwng yn anferthol. Nid cwmnïau fel Recordiau Sain, fel mae pawb yn ei ddisgwyl, sy’n dioddef ond y diwydiant Cymraeg i gyd - o’r mainstream i’r leftfield ac yn ôl. Y pendraw ydi fydd na doriadau mewn cynnyrch Cymraeg, a bydd rhaid i hoelion wyth y Sin Roc feddwl am ffyrdd eraill o sicrhau fod menter yn talu ffordd. Mae’n bosib y gallwn ni gynnal sin rhan amser ond ydan ni isio sin rhan amser gyda llai o gynnyrch yn cael ei rhyddhau? O bosib, fydd rhaid i rai o enwau adnabyddus y sin chwilio am waith yn y cyngor neu rywbeth? A fyddan nhw’n diflannu o’r sin o bosib?

Gan roi pen busnes mlaen, fedrwch chi ddim gwneud pres tymor hir ar werthu stwff fel crysau t, CDs ac ati mewn gigs – dio’m yn incwm sefydlog a does na’m llawer yn prynu mewn gigs Cymraeg y dyddie ‘ma beth bynnag. A fedri di ddenu mwy a threfnu mwy o gigs? Ma angen amser a phres i wneud hynny hefyd. Dydi trefnydd ddim yn gallu trefnu gigs am byth ar ewyllys da yn unig.

Be ydi’r ateb felly? Dilyn y diwydiant llyfrau trwy sefydlu rhywbeth cyffelyb i Gyngor Llyfrau Cymru? Mae yna fanteision ac anfanteision yn hyn, hynny

ydi pwy fydd â’r rheolaeth olygyddol - y wlad neu’r artist? Ryden ni’n wlad llawn grantiau yn barod! Ond mae’n rhaid edrych ar bob senario er mwyn creu incwm newydd i’r Sin. Yr ateb gorau yn fy marn i ydi sefydlu cymdeithas gasglu Gymreig. Menter uchelgeisiol a gwleidyddol ond mae’n werth edrych o ddifri ar hynny. Os caiff ei sefydlu’n iawn, fydd gan bawb ei ran ac wrth gwrs fydd pawb ddim yn hapus, ond o leia’ ryden ni yn gwneud rhywbeth am y peth i ddadwneud y golled ariannol.

Byddai’r beirniaid yn deud fod cerddorion Cymraeg wedi ei chael hi’n dda be bynnag, a bod artistiaid yn Lloegr ddim yn cael yr un graddau o bres fel hyn. Mae’r sin Eingl-Americanaidd yn anferthol, a fedri di ddim cymharu’r ddwy sin - ma fatha cymharu Afghanistan a’r Unol Daleithiau. Mae pethe’n dra gwahanol yng Nghymru a dyna pam fod sin mor fach a byrlymus wedi creu bandiau fel y Super Furry Animals a Catatonia. Mewn cynhadledd yng Ngw^ yl Sw^ n yn ddiweddar, dywedodd Guto Brychan fod bandiau Cymraeg wedi bod yn ‘gorffwyso ar ei rhwyfau’ yn y gobaith fod na freindal ar y ffordd. Petai Guto Brychan wedi bod mewn band, yna, fyswn i’n cymryd ei farn o ddifri ond, na, dydwi ddim. Yr eironi ydi, un o’r labeli fydd yn debygol o ddioddef o ganlyniad i’r toriadau hyn yw Copa. Tybed ddyle Copa fod wedi ymdrechu fwy i werthu CDs yn Lloegr yn lle dibynnu ar y breindal? Dim ond meddwl, gan mai egwyddorion y farchnad sy’n llywio penderfyniadau pobl fusnes lwyddiannus.

y [email protected]

Eisiau ymateb i’r golofn yma? E-bostiwch ni

Page 23: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

Huw StephensNos Lun a nos Fawrth am 10pmac ar

bbc.co.uk/c2

Mae ymgyrch Mantais yn hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Rydym yn annog myfyrwyr i fanteisio ar y cy�e i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog gan fod:

gwell opsiynau gyrfa drwy ddatblygu sgiliau dwyieithog

safon uchel o addysg

dewis eang o bynciau

mwy o arian… yn ystod y cwrs ac ar ôl graddio

Canolfan Addysg UwchCyfrwng CymraegY LlwyfanHeol Y ColegCaerfyrddin, SA31 3EQFfon: 0844 800 7375Ebost: [email protected],ac.uk

www.mantais.ac.uk

0844 800 7375

Page 24: Y Selar - Rhagfyr 09/Ionawr 10

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

ANRHEGION GAN SAIN I LENWI’R HOSAN DOLIG!

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY SAIN… AC AR GAEL YN EICH SIOPAU CYMRAEG LLEOL

iii llll

SSSSSSSSSSSSSSSSSSSIIIOOOOPPAU CCYYMMRRAEEEEEGGG LLEOOOLLL

CD £9.99 - Fflur Dafydd a’r Barf; Triawd y Coleg; Daniel Lloyd; Derwyddon Dr Gonzo; Al Lewis

CD £12.98 - Endaf Emlyn; Gemma

DVD £9.99 - Nadolig Plentyn yng Nghymru; Ari Awyren; Y Dywysoges Fach;Peppa Pinc; Cwm Teg; Y Teulu Mawr; Bob y Bildar; Tecwyn y Tractor