ygloranmeh13

12
Ganol Mai dathlodd Albert Stubbs ei ben blwydd yn 100 oed. Roedd Albert yn byw yn Stryd Dumfries, Treorci ond bellach yn preswylio yng Nghartref Ystradfechan, Treorci. Mae e'n dal yn sionc ac yn fyrlymus ei sgwrs ac mae ei gof mor fyw ag erioed. Plismon oedd ei dad a gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymwelodd Albert â'i fedd yng Ng- wlad Belg rai blynyddoedd yn ôl. Ailbriododd ei fam ac ar ôl ymadael ag Ysgol Treorci, aeth Albert i wei- thio gyda'i lysdad yng nghwmni'r Ocean.Y swydd gyntaf a gafodd oedd peintio gwagenni glo ac, yn briodol iawn, i'w atgoffa am y cyfnod hwn, trefnodd staff Ystradfechan ei fod yn cael teisien pen blwydd ar ffurf wagen! Atgofion cynnar Mae e'n cofio'n dda am nifer o bethau o gyfnod ei ieuenctid. Yn 1927, aeth i Lundain i weld Dinas Caerdydd yn chwarae yn erbyn Arsenal yn rownd derfynol Cwpan Lloegr. Mawr oedd ei bleser o weld Caerdydd o dan gapteniaeth Fred Keenor yn ennill 1-0, yr unig dro i'r cwpan ymadael â Lloegr. Trwy gydol ei oes, bu'n dilyn Cardiff City a chofia fynd i Barc Ninian gyda'i ffrindiau ar adeg pan oedd yn gyffredin i gael 45,000 yn gwylio gemau. Ar ôl gêmau, yr antur oedd mentro i Tiger Bay am beint neu ddau ac mae e'n cofio clywed Shirley Bassey yn canu yno cyn iddi ddod yn seren ryngwladol. Roedd Tiger Bay yn ardal amlhiliol a lliwgar iawn yn y dy- ddiau hynny. Y flwyddyn ddilynol, 1928, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Dreorci, yr unig dro yn ei hanes iddi ymweld â Chwm Rhondda. Roedd Cwmni'r Ocean yn ganolog i'r trefniadau a bu Abert, ymhlith eraill, wrthi am wythnosau yn peintio'r sied wagenni an- ferth er mwyn cynnal yr arddangosfa gelf a chrefft ynddi. Yn ystod wythnos yr eisteddfod, caewyd yr Ocean a bu'r holl staff ynhlwm â threfniadau'r Ŵyl a ddenodd nifer o enwogion, gan gynnwys y cyn- Brifweinidog, Lloyd George. Adeg yr Ail Ryfel, ymunodd â'r ARP, y corff oedd yn gwarchod yr ardal adeg cyrchoedd awyr. Un noson, roedd ef ac ychydig eraill, gan gynnwys y Sarjant Gus Broughton ar y mynydd y tu ôl i fynwent Tre- orci pan sylwodd mewn un man fod y gwair a'r rhe- dyn wedi eu llosgi. Pan ddaethon nhw'n nes, gwelon nhw barasiwt a bom [land mine] ynghlwm ag ef. Doedd hi ddim wedi ffrwydro a maes o lawn daeth tîm o'r fyddin i'w datgy- malu. Gwnaethpwyd hyn- 20c y gloran ALBERT YN CYRRAEDD CANT parhad ar dud 3

Upload: anne-baik

Post on 25-Mar-2016

224 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

papur bro blaenau'r rhondda fawr misol 12 tudalen

TRANSCRIPT

Page 1: Ygloranmeh13

Ganol Mai dathlodd Albert Stubbs ei ben blwydd yn100 oed. Roedd Albert yn byw yn Stryd Dumfries,Treorci ond bellach yn preswylio yng NghartrefYstradfechan, Treorci. Mae e'n dal yn sionc ac ynfyrlymus ei sgwrs ac mae ei gof mor fyw ag erioed.

Plismon oedd ei dad a gafodd ei ladd yn y RhyfelByd Cyntaf ac ymwelodd Albert â'i fedd yng Ng-wlad Belg rai blynyddoedd yn ôl. Ailbriododd ei famac ar ôl ymadael ag Ysgol Treorci, aeth Albert i wei-thio gyda'i lysdad yng nghwmni'r Ocean.Y swyddgyntaf a gafodd oedd peintio gwagenni glo ac, ynbriodol iawn, i'w atgoffa am y cyfnod hwn, trefnoddstaff Ystradfechan ei fod yn cael teisien pen blwyddar ffurf wagen!

Atgofion cynnarMae e'n cofio'n dda am nifer o bethau o gyfnod eiieuenctid. Yn 1927, aeth i Lundain i weld DinasCaerdydd yn chwarae yn erbyn Arsenal yn rowndderfynol Cwpan Lloegr. Mawr oedd ei bleser o weldCaerdydd o dan gapteniaeth Fred Keenor yn ennill1-0, yr unig dro i'r cwpan ymadael â Lloegr. Trwygydol ei oes, bu'n dilyn Cardiff City a chofia fynd iBarc Ninian gyda'i ffrindiau ar adeg pan oedd yngyffredin i gael 45,000 yn gwylio gemau. Ar ôlgêmau, yr antur oedd mentro i Tiger Bay am beintneu ddau ac mae e'n cofio clywed Shirley Bassey yncanu yno cyn iddi ddod yn seren ryngwladol. RoeddTiger Bay yn ardal amlhiliol a lliwgar iawn yn y dy-ddiau hynny.

Y flwyddyn ddilynol, 1928, daeth yr EisteddfodGenedlaethol i Dreorci, yr unig dro yn ei hanes iddiymweld â Chwm Rhondda. Roedd Cwmni'r Oceanyn ganolog i'r trefniadau a bu Abert, ymhlith eraill,wrthi am wythnosau yn peintio'r sied wagenni an-ferth er mwyn cynnal yr arddangosfa gelf a chrefftynddi. Yn ystod wythnos yr eisteddfod, caewyd yrOcean a bu'r holl staff ynhlwm â threfniadau'r Ŵyl addenodd nifer o enwogion, gan gynnwys y cyn-Brifweinidog, Lloyd George.

Adeg yr Ail Ryfel, ymunodd â'r ARP, y corff oedd yngwarchod yr ardal adeg cyrchoedd awyr. Un noson,roedd ef ac ychydig eraill, gan gynnwys y SarjantGus Broughton ar y mynydd y tu ôl i fynwent Tre-orci pan sylwodd mewn un man fod y gwair a'r rhe-dyn wedi eu llosgi. Pan ddaethon nhw'n nes, gwelonnhw barasiwt a bom [land mine] ynghlwm ag ef.Doedd hi ddim wedi ffrwydro a maes o lawn daethtîm o'r fyddin i'w datgy-malu. Gwnaethpwyd hyn-

20cy gloran

ALBERT YN CYRRAEDD CANT

parhad ar dud 3

Page 2: Ygloranmeh13

Yn ddiweddar, yn anadun pwnc arall, mae dy-fodol y gwasanaethiechyd yn ne-ddwyrainCymru wedi bod o dansylw. Y rheswm am hynyw bod pedwar BwrddIechyd y rhanbarth, yn-ghyd â Bwrdd IechydPowys a'r GwasanaethAmbiwlans wedi bod ynystyried pa wasanethaui'w cynnig yn y chwe ys-byty o dan eu gofal sef,Caerdydd,Treforys,Cwmbrân,Merthyr Tudful Pen-y-bont ar Ogwr aLlantrisant.. Wrth iddyntddechrau ymgynghori â'rcyhoedd, daethant i'rcasgliad bod angencanolbwyntio rhaigwasanaethau arbenigol

mewn pump o'r chwe ys-byty a'u hawgrym ar hyno bryd yw peidio â chyn-nig y gwasanaethau hynyn Ysbyty BrenhinolMorgannwg, Llantrisant.Golyga hyn na fyddgwasanaethau newydd-anedig a mamolaeth danarweiniad meddygonymgynghorol,gwasanaethau cleifionmewnol plant a meddy-gaeth frys ar gyfer poblâ'r salwch ac anafiadaumwyaf difrifol ar gael ynLlantrisant a bydd rhaid igleifion yr ardal hon dei-thio i Gaerdydd, Merthyrneu Ben-y-bont i dder-byn triniaeth. Y ddadl oblaid hyn yw y bydd ynewidiadau yn effeithioar nifer fach yn unig o

gleifion tost iawn neu raisydd wedi eu hanafu'nddifrifol, ac y byddgwell triniaeth ar gael id-dynt ar ôl cyrraedd yr ys-byty.Mae pawb sy'n gwrth-wynebu'r newidiadauhyn yn tynnu sylw at raiffeithiau amlwg iawn.Rydyn ni'n byw mewncwm, ac i gyrraedd Pen-y-bont neu Ferthyr rhaidteithio ar hyd hewlyddmynydd sydd ar brydiauyn y gaeaf ar gau. Ar benhyn, nid yw'n hawddcyrraeddCaerdyddyn gyflymoherwyddcyflwrgwael yffyrdd a

maint y traffig arnynt.Gan fod derbyn triniaetho fewn yr awr gyntaf ynhanfodol bwysig mewnachosion brys, teimladllawer yw bod y cynllunhwn yn peryglu by-wydau. Pa mor dda byn-nag fydd y driniaeth,fydd hi fawr o werth osbyddwn wedi marw ar yffordd yno! Ychwanegirat ein pryder wrth innisylweddoli bod record yGwasanaeth Ambiwlansyn yr ardal hon amymateb yn gyflym gyda'rgwaethaf yng Nghymru.Oherwydd ei hanes di-wydiannol, mae mwy oafiechyd na'r cyffredinyn yr ardal ac ar benhynny mae lefelau tlodi'nuwch. Mae hyn yn cy-fyngu ar allu pobl i daluam ymweliadau â'r ys-byty ac mae trafnidiaethgyhoeddus i'r drosodd

2

golygyddoll

y gloranmehefin 2013YN Y RHIFYN HWN

Albert yn 100...1Golygyddol.. Statws Ysbyty Brenhinol

Morgannwg...2Y Gornel Iaith...3Elvira Henry ...4

Newyddion Lleol...5-8Teulu yn ailfyw

Trasiedi’r Rhyfel...8...9-10-11

Ysgolion...12

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davisongyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

DIRADDIO STATWS YSBYTY BRENHINOLMORGANNWG, LLANTRISANT?

Page 3: Ygloranmeh13

3

ny'n llwyddiannus ond bythefnos ar ôl hynny cafoddy swyddog oedd yn gyfrifol am y gwaith ei laddwrth ddirymu bom debyg yn Lloegr.Dywed Albert fod Treorci'n frith o gymeriadau lliw-gar yn ei ddyddiau cynnar, gan gynnwys Wil Dwl,Wil y Chwip, Dai Sand y Môr a Beni Baish. Cofia'rPentre yn ganolfan siopa lewyrchus gydag amry-wiaeth o siopau mawr.Erbyn hyn, mae e wedi ymddeol ers 40 mlynedd ond

yn hapus iawn ei fyd yn Ystradfechan lle mae'n der-byn gofal ardderchog. Yn anffodus, bu farw ei wraig,

Mari, rai blynyddoedd yn ôl ond mae eiferch Elizabeth, ei gŵr, Bob a'i wyresauSarah a Katie yn ymweld ag ef yngyson. Cafodd ddiwrnod i'r brenin arddydd ei ben blwydd a derbyn cardiauoddi wrth y Frenhines, Prif WeinidogCymru, Carwyn Jones a GweinidogCymru, David Jones. Ond ymfalchiaAlbert yn y ffaith fod ganddo lu ogyfeillion, llai enwog ond yn bwysig,serch hynny, ac mae'r 107 o gardiau adderbyniodd yn dystiolaeth o'u hoffterohono a'u parch ato! Dymunwn iddobob cysur a diddanwch i'r dyfodol, amawr yw ein diolch iddo am rannu eiatgofion â ni. Fe'i llongyfarchwn yn ga-lonnog ar yr achlysur nodedig hwn ynei hanes.

ALBERT YN CYRRAEDD CANTparhad

Y GORNEL IAITH PoblGair sy'n peri llawer o drafferth i siaradwyr Cym-raeg yw POBL. Enw benywaidd unigol ydyw yny Gymraeg ac felly dywedwn 'y bobl' . Rhaid trei-glo unrhyw ansoddair sy'n dilyn - y bobl bwysig;y bobl waethaf; y bobl ddrwg. Ar lafar yn amlmae tuedd i bobl ei drin fel enw lluosog a pheidioâ threiglo - pobol da; pobol mawr etc ond defnyddansafonol yw hyn.CyntGair bach od yw 'cynt'. Mae iddo ddau ystyr i)blaenorol, o'r blaen ii) yr hyn a fu, yr hen amser.Pan fydd yn golygu i) blaenorol [previous], doesbyth treiglad, hyd yn oed pan fydd yn dilyn enwbenywaidd e.e. y flwyddyn cynt; yr wythnos cynt.Fodd bynnag, pan olyga 'yr hyn a fu' [of yore, aperiod / object of the past], treiglir bob amser - ydyddiau dedwydd gynt; yn ystod fy ieuenctidgynt.

Statws Ysbyty parhad ysbytai fydd yn eing-wasanaethu'n anghyfleus ac yn annibynadwy.Er y bydd gwasanaethau sylfaenol ar gael ym mhobysbyty, teimlwn, oherwydd amgylchiadau cwbl uni-gryw yr ardal hon, fod rhaid cadw'r gwasanaethauarbenigol yn Llantrisant. Galwn felly ar bawb ifynegi eu barn yn glir ac yn groyw yn ystod y cyfnodo ymgynghori fydd yn para tan 19 Gorffennaf 2013.Gallwch wneud hyn trwy lenwi holiadur a gyhoeddirgan Opinion Research Services, datgan eich barntrwy ysgrifennu i Rhaglen De Cymru, BlwchSwyddfa Bost 4368, Caerdydd CF14 8JN neu yn ycyfarfodydd cyhoeddus a drefnir ledled de Cymru ade Powys. Cofiwch wneud gan y gall y cynigion hyneffeithio ar bob un ohonom yn ddiwahân.

Page 4: Ygloranmeh13

4

Mewn seremoni arben-nig a gynhaliwyd yn ddi-weddar, cafodd MissElvira Henry, gynt oDreherbert, ei derbyn ynAelod Benywaidd An-rhydeddus o GôrMeibion Treorci yngydnabyddiaeth am eichyfraniad i'r côr fel un-awdydd ac adroddwraig.Dywedodd David Bebb,cadeirydd y côr, "Ynystod y blynyddoedd di-wethaf, mae'r côr wedicydnabod cyfraniad ar-bennig merched i lwyd-diant y côr trwy dderbynyn Aelodau Er An-rhydedd rai cyn-gyfeily-ddion, unawdwyr achefnogwyr, ond, amryw reswm neu'i gilydd,ni chynigiwyd yr an-rhydedd honno i ElviraHenry. Trwy lwc, daeth

nith iddi atom ar ôl cyn-gerdd yn Amwythig[Shrewsbury] a'n hys-bysu bod Elvira nawr ynbyw ger Ystradgynlaisac yn dal i ymddiddoriyn hynt a helynt y côr.

Yn gynharach eleni,dathlodd ei phen-blwyddyn 90 oed a bwriad rhaio aelodau'r côr oeddpicio draw i'w chartref iddymuno 'Pen-blwyddHapus' iddi ar gân. Ynanffodus, oherwydd y ty-wydd drwg, fu hynnyddim yn bosib ac felly,heno cawn ddathliaddwbl trwy ei llongyfarchar gyrraedd 90 iddechrau, ac wedyncydnabod ei chyfraniadi'r côr.

Ei chefndirMagwyd Elvira Henryyn Nhreherbert lle y dysgodd am gerddori-aeth yn ysgol Sul eichapel lleol. Erbyn iddigyrraedd ei harddegaudaeth yn amlwg fodganddi lais soprano ar-bennig a mawr oedd ygalw am ei gwasanaethyn yr ardal. Yn 1962daeth i sylw John HaydnDavies, arweinydd CôrMeibion Treorci, a es-tynnodd wahoddiad iddiganu fel unawdyddmewn cyngerdd yng Ng-haerffili ar 1 Mai yflwyddyn honno. Dynaddechrau ei chysylltiadâ'r côr ac am y chweblynedd nesaf ymddan-gosodd gyd nhw mewncyngerddau ledledCymru a thu hwnt. Perf-

formiodd mewnpymtheg o gyngherddauyn ystod y blynyddoeddhyn gan ddod yn ffefrynmawr.

Ymddeolodd yn fuanwedyn gan symud iGwm Tawe lle mae'n dali fyw. Cawsom eichwmni yn 2010 panddaeth i seremonidadorchuddio'r plac glasar dafarn y Red Cow sy'nnodi sefydliad y côr yn1883. Ers hynny, cad-wodd mewn cysylltiad âni a chyfrannu'n hael ynariannol i'n gweithgared-dau. Diolchwn iddi amhynny. Felly,. ar ran CôrMeibion Treorci, mae'nbleser cyflwyno Aelo-daeth er Anrhydedd iMiss Elvira Henry."

CÔR YN ANRHYDEDDU ELVIRA HENRY

Page 5: Ygloranmeh13

5

newyddion lleolDEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN

ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDATREHERBERTMae'n flin gan bawb ynyr ardal bod y Corona-tion Delicatessen ar gor-nel Stryd Bute yn mynd igau fel siop fara ar 14Mehefin ar ôl blynyd-doedd maith owasanaethu'r gymuned.Ers i'r diweddar CliffDoughty roi'r gorau i'wchadw, bu'r siop boblo-gaidd hon dan ofalDavid a GlenysWilliams. Y newyddionda, fodd bynnag, yw ybydd y siop yn cael eiailagor gan David aGlenys a fydd yn gw-erthu dillad. Yn ogystal,maen nhw'n awyddus ihybu gwerthiant trwy'rwe. Pob lwc iddynt yneu menter newydd.Tristhawyd yr ardalgyfan o glywed ynewyddion am far-wolaeth sydyn AdrianBury o Dynewydd acyntau ond yn 43 oed.Cyn iddo ddechrau cy-mudo'n wythnosol iMiddlesborough i wei-thio, cadwai Adrian ysiop pysgod a sglodionar sgwâr y Wyndham.Dangoswyd y parchmawr ato yn yr ardal gany dyrfa fawr a ddaeth i'rgwasanaeth angladdol agynhaliwyd yng nghapelBlaen-y-cwm. Cy-dymdeimlwn yn gywiriawn â Shelley, eiweddw a Charlotte, eiferch yn eu profedigaeth.

Bu dathlu mawr yngnghlwb rygbi Treherbert,nos Wener, 17 Mai, arachlysur hanner can ml-wyddiant sefydlu'r clwbyn hen stiwt Pwll GloTydraw yn Stryd Wynd-ham, Tynewydd. Roeddy neuadd dan ei sanggyda nifer o gyn-gapteiniaid y clwb ynbresennol. Roedd yn ddacael cwmni DennisGethin, Llywydd UndebRygbi Cymru a Des Bar-nett, aelod o'r Undeb achwaraeodd drosDreherbert. llywyddwydy noson gan Neil Skym,cadeirydd y clwb achafwyd anerchiad do-niol a phwrpasol ganPhil Steele, aelod o dîmScrum 5 y BBC.

TREORCILlongyfarchiadau i MrsMair John, TerasTroedyrhiw nawr ondgynt o Deras Tynybedw,ar ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ynddiweddar. Mae MrsJohn yn aelod ffyddlon oFethlehem a hefyd oGlwb Cameo, Ton Pen-tre. Mae pawb yn dy-muno'n dda iddi i'rdyfodol.Roedd yn ddrwg ganbawb dderbyn y newyd-dion am farwolaeth MrPeter Jones, Stryd Rees,a hynny ond pythefnos

ar ôl marwolaeth eichwaer, MargaretWilkins. Roedd Peter ynŵr bonheddig a gafoddyrfa fel gwas sifil. Yn eiieuenctid roedd yn bel-droediwr talentog. Buwedyn yn ysgrifennyddclwb pêl-droed Tonyre-fail. Yn uchel ei barchgan bawb, mynychaiwasanaethau Byddin yrIachawdwriaeth ynselog. Cydymdeimlwnâ'i briod, Marilyn a'i fab,Marc Tewdwr sy'n ddar-lithydd prifysgol ynLlundain.Pob dymuniad da i MrBob Knape, Troedyrhiw,sydd wedi bod yn yr ys-byty yn ddiweddar. Maeei ffrindiau'n gobeithio ycaiff adferiad iechydllwyr a buan.Cafodd cefnogwyrpwyllgor Ymchwil iGancr UK Treorci nosongymdeithasol ddiddorola buddiol iawn yng ngh-wmni'r darlledwradnabyddus o Don Pen-tre, Dewi Griffiths, nosIau 23 Mai. SonioddDewi am rai o'i brofi-adau wrth weithio i'rBBC dros lawer o flyny-ddoedd a difyrru'r gy-nulleidfa luosog â'istoriau doniol a difrifol.Llwyddwyd i godi dros£500 at yr achos teilwnghwn a rhaid llongyfarchy pwyllgor gweithgar argodi bron £10,000 eleniyn unig. Mae'r pwyllgor

yn ddiolchgar iawn ibobl y lle am eu cefno-gaeth hael a chyson.Ddydd Sadwrn, 1Mehefin o ganol dyddymlaen cynhaliwyd yBig Gig ar yr Oval.Cafwyd perfformiadaugan nifer o fandiau lleolpoblogaidd a chafoddpawb ddiwrnod i'r breninyn eu sŵn.Ddydd Mercher, 29 Maiaeth llond bws o aelodauClwb Henoed Treorci ardaith i Gaerfyrddin.Cafodd pawb hwyl ynymweld â'r ganolfansiopa newydd a'r farch-nad. Bydd y wibdaithnesaf ym mis Gorffennafi Wlad yr Haf ac mae'rholl aelodau yn ddiolch-gar iawn i Eira Richardsa Joyce Morgan am ym-gymryd â'r holl drefni-adau.

EICH GOHEBWYRLLEOL:Rhowch wybodiddyn nhw os byd-dwch chi eisiaurhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert:GERAINT a MERRILL DAVIES

Treorci:MARY PRICE

Cwmparc:NERYS BOWENDAVID LLOYD

Y Pentre:TESNI POWELLANNE BROOKE

Ton Pentre a’rGelli:HILARY CLAYTONGRAHAM JOHN

Page 6: Ygloranmeh13

6

Os teimlwch fod gen-nych dalent arbennig acyn awyddus i'w harddan-gos, ewch i'r Parc a'r Dârar 29 Mehefin i gaelclyweliad ar gyfer 'Tre-orci's Got Talent'. Efallaidyma eich cyfle mawr -gwnewch y gorauohono!Bu aelodau Bethlehem,Hermon, Providence acEglwys San Matthewwrthi yn casglu at Gy-morth Cristnogol ym misMai. Maen nhw am ddi-olch i bawb a gyfrann-odd at yr achos teilwnghwn. Cyhoeddir y cyfan-swm a gasglwyd unwaithy bydd y trysorydd lleolwedi derbyn pob cyfra-niad.Llongyfarchiadau iWayne a Susan Thomas,Heol Gethin ar ddathlueu priodas aud yn ddi-

weddar a phob dymuniadda iddynt i;r dyfodol.Rhwng 21 - 25 Mai,cyflwynwyd dramaShakespeare, 'Love'sLabour's Lost' gan Play-ers Anonymous yn The-atr y Parc a'r Dâr.Cafodd yr actorion hwylarni o dan gyfarwyddydGordon Thomas. Rhaidrhoi clod arbennig i'rifancaf ohonynt, WilliamBuckland, oedd yn cym-ryd rhan y gwas bach,Mote. Cynhyrchiad nesafy cwmni fydd 'Ladies inRetirement' gan Regi-nald Denham a lwyfen-nir ym mis Medi.Mae aelodau Côr WITreorci yn anfon pob dy-muniad da at un o'r aelo-dau, Nan Price, ProspectPlace, sydd wedi bod yngaeth i'r tŷ gan afiechyders tro. Mae Nan yn

aelod selog o'r côr acmae pawb yn gweld eiheisiau'n fawr. Brysiwchi wella!Oherwydd yr atgyweiri-adau a'r gwelliannau awneir i Neuadd EglwysSant Matthew ar hyn obryd, bydd y WI yncwrdd dros dro ynNeuadd y Dderwen,Heol y Fynwent. Ysiaradwr, nos Iau, 6Mehefin oedd Jan Pricea trafododd farddoniaethddigrif.Mae Tesco wedi ail-gyflwyno cynlluniau i'rCyngor ar gyfer codiarchfarchnad ar y CaeMawr. Cynhaliwyd ard-dangosfa yn Neuadd yDderwen ddydd Gwener,7 Mehefin er mwyn ibobl y lle wneud eu syl-wadau. Disgwylir y byddy cais yn cael ei ystyried

gan Bwyllgor Cynllu-nio'r Cyngor yn yr hy-dref.

CWMPARCCafwyd perfformiad agwasanaeth unwaith etoeleni gan ddisgyblion yrysgol gynradd i goffau'rtrigolion lleol a golloddeu bywydau yn y blitz addigwyddodd 29 Ebrill.1941. Cyflwynwyd rhaio ddigwyddiadau a cha-neuon y cyfnod yn effei-thiol iawn gan y plant achwaraeodd y band presyn arbennig o dda. Di-lynwyd hyn ganwasanaeth yn yr arddgoffa. Roedd y Cyng.Doug Williams, maerRH.C.T. a'i wraig yn bre-sennol a chanwyd emy-nau priodol gan rai o

Page 7: Ygloranmeh13

7

aelodau Côr MeibionTreorci. Llongyfarchi-adau i'r ysgol ar drefnu'rachlysur.Trefnwyd ymgyrch cas-glu sbwriel yn y pentrefgan Lisa Taylor, un oathrawesau'r ysgol,ddydd Sadwrn 25 Mai. Ofewn dwy awr llwyd-dodd y plant a rhai o'rathrawon i lenwi 25sach. Hefyd yn bresen-nol roedd Ceri Davies oWasanaeth Gofal Stry-doedd y Cyngor a'rCyng. Emyr Webster. Yngoron ar y bore, cafodd yplant ymweliad ganRhys Cycle y mascot ail-gylchu sirol.Mae trefniadau ar droedar gyfer Ffair HafEglwys San Siôr a gyn-helir ddydd Sadwrn, 29Mehefin rhwng 10.30 -1p.m. Bydd stondinauamrywiol, lluniaeth ys-gafn a raffl ar gael. Felly,dewch yn llu i gefnogi'r

eglwys.Fel arfer bydd bore coffiCymraeg yn cael ei gyn-nal ar y bore Llun cyntafo'r mis rhwng 10 - 11a.m. Mae croeso bobamser i siaradwyr Cym-raeg a dysgwyr fel ei gi-lydd. Rhowch wybodi'ch ffrindiau os ydychchi am fwynhau clonc adysglaid!Nos Iau, 20 Mehefincynhelir cwis yn neuaddYsgol y Parc i godi arianat yr ysgol. Bydd ynoson ar gyfer oedolionyn unig a rhaid ffonio'rysgol ar 776601 i sicrhaubord. Y tâl mynediad yw£2 y pen ond ni chani-ateir mwy na 6 mewntîm. Trefnir lluniaeth ys-gafn a raffl yn ogystal.

Y PENTRE Roedd yn flin gan bawbdderbyn y newyddion

am farwolaeth Dr TudorEdwards, Pleasant View.Addysgwyd Dr Edwardsyn Ysgol Ramadeg yPentre ac aeth ymlaen iraddio mewn gwyddo-niaeth. Bu'n dysgu ynYsgol Gyfun y Porth acroedd yn aelod selog ynEglwys San pedr lle yrymddiddorai'n fawrmewn canu'r clychau.Cydymdeimlwn â'r teuluoll yn eu profedigaeth.Mae pawb yn Nhŷ'r Pen-tre yn dymuno 'Pen-blwydd Hapus Iawn' iRene Davies oedd yndathlu ar 18 Mehefin acmae preswylwyr LlysSiloh yn anfon yr unneges at eu warden,Diane Wakeford agafodd ei phen-blwyddar y 12fed.Bydd yr wythnosaunesaf yn rhai prysur achyffrous i aelodau Byd-din yr Iachawdwriaeth.Ar ddydd Sul, 7fed byd-

dant yn ffarwelio âBernie a Stephen West-wood a diolch iddynt ameu gwasanaeth i'r ardalond ddiwedd y mis es-tynnir croeso i'w holyn-wyr Major Maria-Rosaa'r Lefftenant MarkKent. Mae pawb yn dy-muno'n dda iddynt yn eugofalaeth newydd.Tristwch i bawb yn StrydRobert oedd derbyn ynewyddion am far-wolaeth Mari Beams.Cofiwn am ei theulu a'iffrindiau oll yn eu hi-raeth.Ar hyn o bryd maedeiseb wedi ei threfnu arlein gan aelodau PACT yPentre yn galw ar Ly-wodraeth Cymru aSenedd Ewrop i neilltuoarian ar gyfer adfywhau'rardal. Cofiwch fynd ar ywe i www.assembley-wales.org i arwyddo.Cynhelir cyfarfodyddPACT yn Nhŷ Nazareth

Page 8: Ygloranmeh13

am 6 o'r gloch ar nosLun cyntaf y mis. Croesoi bawb ddod yno i gwrddag aelodau'r heddlu lleola'r cynghorwyr.Cofiwch fod ChwaraePlant yn dal i ddigwyddbob dydd Mercherrhwng 3.30 - 5.15. Tre-fnir chwaraeon a gweith-gareddau amrywiol argyfer plant o bob oed.Dewch i ymuno yn yrhwyl.

TON PENTRE A’RGELLIPob dymuniad da amwellhad llwyr a buan iMrs Marilyn Jordan,Maendy Croft sydd yn yrysbyty ar ôl cwympo yny tŷ a thorri ei choes.Gwelir ei heisiau'n fawryng nghapel Hebron llemae hi'n ddiacon.Llongyfarchiadau i'rCynghorydd ShelleyRees-Owen ar gael ei

dewis gan Blaid Cymruyn ymgeisydd ar gyferetholiadau Senedd SantSteffan pryd y bydd ynherio'r Aelod Seneddolpresennol, Chris Bryant.Llongyfarchiadau hefydi Jill Evans A.S.E. argael ei dewis yn rhif 1 arrestr Plaid Cymru argyfer yr etholiadau iSenedd Ewrop y flwyd-dyn nesaf. Mae Jill wedicynrychioli Cymru ynSenedd Ewrop er 1999.Roedd yn dristwch ibawb dderbyn y newyd-dion am farwolaeth un odrigolion mwyafadnabyddus yr ardal, Mredward (Ted) Kyte,Stryd Canning Uchaf.Estynnwn ein cy-dymdeimlad cywiraf i'wdeulu yn ei hiraeth.Llongyfarchiadau iDavid Cynan Jones,plant ac sathrawon YsgolGynradd y Gelli ar ennillcystadleuaeth a drefn-wyd gan AmbassadorFire & Security Cyf. Y

wobr oedd I-pad Apple afydd yn ychwanegiadgwerthfawr at offercyfrifiadurol yr ysgol.Derbyniodd Mr Jones ywobr mewn cynhadleddprifathrawon a gynhali-wyd yn y Village Hotel,Yr Eglwys Newydd,Caerdydd.

Mae 10 aelod tîm snwcery Clwb Pêl-droed lleolyn hyderus y byddant yncodi £2,000 o ganlyniadi'r snwcerthon a gyn-haliwy unwaith eo eleni.Os digwydd hyn bydd ycyfanswm a godwyd ynystod y 22 flynedd di-wethaf yn cyrraedd£60,000 a'r cyfan ynmynd at elusen NyrsysMacMillan. Llngyfarchi-adau ar ymdrech arben-nig o wych.

Yn ddiweddar hefyd,cynhaliodd y Clwb Pêl-droed ei noson wobr-wyo. Y prif enillyddoedd Thomas Davies, un

o amddiffynwyr y tîm, aenillodd 4 o'r 6 gwobr,sef Chwaraewr y Flwyd-dyn ym marn y rheolwr,Chwaraewr y Flwyddynyn ôl ei gyd-chwaraewyr, Chwaraewry Clwb y Flwyddyn aChwaraewr y Flwyddynyn nhyb y cefnogwyr.Tipyn o gamp! JamieWearne, prif sgoriwr ytîm, enillodd wobr Gôl yFlwyddyn. Cyflwynwydy gwobrau gan JillEvans, ASE, Ysgrifen-nydd Cynghrair Cymru,Mr Ken Tucker, y cyng-horwyr lleol MaureenWeaver a Shelley Rees-Owen ynghyd â JohnBowen.

Pob lwc i'r First StepShop yn Heol Gelli syddwedi ychwanegu Caffi /Bwyty i'w busnes. Mawrobeithiwn y llwyddiffgan ei fod yn ychwane-giad diddorol i'rcyfleusterau a fwynheirgan drigolion yr ardal.

8

Ym mis Medi 1941lladdwyd Early Wilson,Americanwr o Texas, arFynydd y Rhigos, panwrthdrawodd ei awyrenâ'r mynydd ac yntau'n eihedfan mewn cymylautrwchus. Yn sydyn,cafodd ei hun yn is nachopa'r mynydd ac wrthgeisio codi'r awyren, gw-naeth hynny'n rhy sydyna thagodd yr injan. Disg-ynnodd yr Hawker Hur-ricane allan o reolaeth alladdwyd y peilot ifanc,22 oed. Roedd Early

Wilson yn aelod o Sg-wadron 79 un o'r Sg-wadronau Eagle oeddwedi ei leoli ar GominFairwood, Abertaweadeg y rhyfel a digwyd-dodd y ddamwain ynystod taith ymarfer uw-chben y Rhondda.

Cafodd ei gladdu ymmynwent Cilâ [Killay],Abertawe gan nad oeddyn arfer anfon cyrff yn ôli'w gwlad enedigol ynanterth y rhyfel. Ac yn-tau'n dod o Texas, go-

fynnodd Early Wilson agelai ymuno â sgwadronoedd yn gwasanaethmewn gwlad dwym acroedd i fod i symud i'rIndia y mis Mawrth can-lynol. Yn anffodus, daethei ddiwedd cyn iddo allugwireddu ei ddymuniad.

CyfrinacheddOherwydd sensoriaeth yLlu Awyr, ni ryddhawydnewyddion am yddamwain a dim ondpobl oedd yn byw yn ycyffiniau cyfagos oedd

yn gwybod amdani. Uno'r rhain oedd LenPearce oedd yn fachgenysgol 11 oed ar y pryd.Wrth iddo ddod adre o'rysgol y prynhawnGwener hwnnw, daethyn ymwybodol o awyrenyn hedfan yn isel a syl-weddoli ei bod mewntrafferth. Clywodd glec ygwrthdrawiad a gydarhai o'i ffrindiaudringodd y mynydd isafle'r ddamwain agweld darnau o'r Hurri-cane ar chwâl ar hyd y

TEULU'N AILFYW TRASIEDI'R RHYFEL

Page 9: Ygloranmeh13

9

lle. Cyn bo hir, cyrhaed-dodd yr heddlu i war-chod y safle a rhwystropobl rhag ei gyrraedd.

CofebMae 70 o flynyddoeddwedi mynd heibio ers ydigwyddiad, ond yn ddi-weddar, ymwelodd nithEarly Wilson, Dolcie'Dana' Ehlinger, 71oed, â Threherbert achael cyfle i ymweld â'rsafle gyda Len Pearce,sydd bellach yn eiwythdegau. Er nad oeddDolcie wedi ei geni panddigwyddodd yddamwain, cymeroddddiddordeb mawr ynhanes ei hewythr. Aethati i lunio cofiant iddo,'Letters From My Son',wedi ei seilio ar gasgliado lythyron yr anfonoddEarly at ei fam o'r adegpan oedd yn 10 oed tanei farwolaeth. Yn ŵrifanc, gweithiodd EarlyWilson fel ffotograffydda newyddiadurwr ynEfrog Newydd gansgrifennu erthyglau amrai o sêr y sinema, gangynnwys Audrey Hep-burn. Gobaith y teulu ywcodi arian i osod plac ynNhreherbert i gofnodi'rdigwyddiad hwn nadyw'n hysbys i'r rhanfwyaf o bobl yr ardal.

Erbyn hyn, Dr. Krys Williams yw ys-grifennydd cangen Tre-orci o Blaid Cymru acyma mae hi'n byw ac yngweithio fel cyfieithydddogfennau meddygol osawl un o ieithoedddwyrain Ewrop. Cafoddei geni yn Llundain, ynferch i deulu o ffoaduriaid o Wlad Pwyla dywed ei bod yn bosibbyw yn Ealing, lle cafoddei magu, bron yn gyfangwbl drwy'r Bwyleg. Âi i Ysgol Sad-wrn Bwylaidd bob wythnos, Pwylegoedd iaith ei changen hi o'r GirlGuides a dyna oedd iaith ei heglwysyn ogystal. Prynai'r teulu ei anghenionmewn siop Bwylaidd, 'Polski Skiep'.Yn naturiol, Pwyleg oedd iaith yr ael-wyd ac aeth i'r ysgol heb wybod gair o

Saesneg. Dywed ei bod wedigwrthryfela yn erbyn hyn yn ei hardde-gau a gwrthod siarad yr iaith. Er i'wthad ddweud, "Bydd Pwyleg ynddefnyddiol iti yn y dyfodol", chw-erthin a wnaeth. Ond, erbyn hyn, yn ôlKrys, 'Mae fy nhad yn chwerthin yn ynefoedd!'

Y TeuluEnw ei thad oedd Leon Jablonski a'imam oedd Urszula Jablonska. Ei henwbedydd hithau oedd Krystyna Fran-ciszka Jablonska, enw tipyn yn fwydieithr na Krys Williams, yr enw addewiswyd ganddi trwy weithrednewid enw yn 2006 pan ddaeth iGymru gyda'i phartner, Dr DavidWilliams a hanai o Benygraig. 'Deuaify mam o ddinas Lwow ac roedd 'nhadyn aelod o deulu Pwylaidd a drigaimewn pentref yn y gorllewin a oeddyn rhan o'r Almaen ar y pryd.' ebeKrys. 'Roedd 'Nhad yn gweithio ar yrheilffordd pan gafodd ei restio gan y

Rwsiaid a phan oedd mam yn 14 oedcafodd ei thad, oedd yn blismon, eisaethu'n farw gan y Rwsiaid a chlud-wyd y teulu i wersyll cadw yn Rwsia.Fodd bynnag, pan ymunodd Rwsia yny rhyfel yn erbyn y Natsiaid, sefydl-wyd Byddin Rydd Pwyl a daeth fy

O LUNDAIN I DREORCI VIA ZAGREB- PORTREAD O'R DR KRYS WILLIAMS

Krys yn dair blwydd oed, yngwisgo mewn dillad traddodiadol o Krakow

Leon Jablonski

Page 10: Ygloranmeh13

10

rhieni’n ‘Comms’ yn y fyddin honno. Mudon nhw iIrac, Yr Aifft, Monte Casino yn yr Eidal ac ymse-fydlu yn y diwedd yn Lloegr. Pobl ddosbarth gwei-thiol oedd fy rhieni. Cafodd 'Nhad waith fel plymwra pheirianydd gwres canolog gyda Wimpey tra bodMam yn gweithio tu ôl i'r cownter yn Woolworth.'

Ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Babyddol St Gregory yn Ealing, aeth Krys ymlaen iysgol uwchradd i ferched yn Hammersmith a maes olaw ennill gradd gyntaf mewn Patholeg Gellog adoethuriaeth mewn imiwnoleg ym MhrifysgolBryste. Priododd ei gŵr cyntaf oedd yn dod o Groa-tia a byw yn Zagreb yn y wlad honno am bummlynedd. Dechreuodd weithio mewn labordy ondgan nad oedd yn mwynhau'r gwaith cafodd swyddfel llyfrgellydd yng Nghyfadran gwyddorauChwaraeon a Hamdden ym Mhrifysgol Zagreb. Dy-ma'r adeg y dechreuodd hi gyfieithu o'r Groateg acweithiau Slofeneg i'r Saesneg.

Erbyn hyn, roedd ganddyn nhw ddwy ferch, Natashaac Erika a maes o law, symudodd y teulu i Loegr.Ymgartrefon nhw ym Mryste i ddechrau ac wedyn iSheffield lle gweithiai ei gŵr yn y brifysgol. Trayno, gweithiodd am 15 mlynedd i FRAME [Fund for

the Replacing of Animals in Medical Experiments]sy'n elusen wyddonol. Roedd y gwaith yn ddiddorolond yn galed iawn gan y golygai lawer o deithio.Meddai Krys, "Teimlwn fod pethau'n mynd yn drechna fi ond des i o hyd i wefan ar gyfer cyfieithwyr adechrau cael syniadau am ailgyfeirio. Erbyn hyn, dwi'n gweithio fel cyfieithydd meddygol ar fy liwt fyhun yn cyfieithu dogfennau o bwyleg, Croateg, Ser-beg, Slofeneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg i'rSaesneg."

DiddordebauMae gan Krys ddiddordeb mawr mewn cerddoriaethglasurol a gwerin. Mae hi'n canu'r ffidil gyda grŵpBristol Harmony sy'n arbenigo yng ngherddoriaetheglwysi pentrefol Lloegr rhwng 1700-1850 sy'ngymysgedd o'r clasurol a gwerin. Mae hi hefyd ynymddiddori yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymruac yn dysgu i ganu'r delyn. Diddordeb arall ywdysgu am yr Hen Aifft ac ymwelodd â'r wlad honnobum gwaith. Ond ar hyn o bryd mae dysgu Cymraegyn mynd â llawer o'i hamser.Ymgartrefodd yn Nhreorci gyda'i chymar David a fufarw, yn anffodus, yn 2010. "Des i gyda fe i weld yrardal lle y ganed ef a meddwl fod y Rhondda morhyfryd! Treulion ni rai dyddiau yn gyrru o gwmpas adewis Treorci oherwydd y theatr, y siopau, yr orsafa'r mynyddoedd. Dw i'n teimlo'n ddiogel iawn yma,mor wahanol i'r dinasoedd mawr. Bythefnos ar ôlmarwolaeth David, rown i'n ymarfer gyda ChôrCwm Rhondda ac wrth ganu yn Gymraeg, teimlocyswllt cryf iawn. Wrth yrru adre, roedd y cwm yneuraidd yn y machlud ac rown i'n gwybod, ergwaethaf popeth, fy mod i wedi dod o hyd i fy nghartref."

Urszula Jablonska

Gyda’i merched

Page 11: Ygloranmeh13

11

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Cymer Rhondda wedi dychwelyd o Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro ar ôlsicrhau llu o fedalau eto eleni. Teithiodd dros 70 o ddisgyblion a’u teuluoedd i Sir Benfro yn ystod gwyliau’rSulgwyn i gystadlu mewn deunaw o gystadlaethau. Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i bob un a gys-tadlodd ac a gynrychiolodd ein hysgol a’n cwm. Enillwyd 6 medal i gyd –

Gwobr 1af – Chloe Wilson a Nia Rees (Deuawd - 15)2il wobr – Côr yr Ysgol3ydd wobr – Côr Merched Bl 7, 8 a 9

Seren Hâf Macmillan (Llefaru Unigol +15)Sarah Louise Jones (Llefaru Unigol +19)

Yn ogystal, dyfarnwyd y drydedd wobr yng nghystadleuaeth gelf yr Urdd i Jenny Page o Flwyddyn 7.

Mae’r llwyddiannau yma yn profi gallu ein disgyblion i sefyll ysgwydd yn ysgwydd â thalentau gorau’rwlad a thu hwnt. Meddai Pennaeth yr Ysgol, Ms Rhian Morgan Ellis –"Mae'n fraint bod yn rhan o gymuned yr ysgol hon. Mae ymrwymiad ein disgyblion a'n staff a chefnogaethddibendraw ein rhieni ac aelodau'n cymuned, yn sicrhau cyflawniad a llwyddiant rhagorol yn barhaus i'nplant. Mae Cymru gyfan yn gwybod amdanom. Diolch o galon i bawb."

LLWYDDIANT YSGUBOL UNWAITH ETO YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

Page 12: Ygloranmeh13

12

Ysgol Gyfun Cymer RhonddaYsgo

l Gyfu

n Cym

er Rh

ondd

a

Cawson gyfle i ffarwelio gyda myfyrwyrhynaf yr Ysgol ar ddiwrnod olaf yr hannertymor. Diolchwn iddynt am bob cyfraniad ifywyd yr Ysgol a dymunwn y gorau iddynt

wrth iddynt gychwyn ar gyfnod newydd yneu bywydau. Gwn y byddant yn parhau yngenhadon gwych i’r Cymer!

FFARWEL BLWYDDYN 13