ymunwch gwarchod glöynnod byw yng nghymru cylchlythyr
TRANSCRIPT
14
Cynhyrchwyd y
cylchlythyr hwn trwy
garedigrwydd grant oddi
wrth Gyngor Cefn Gwlad
Cymru. Fe'i golygwyd
gan staff Gwarchod
Glöynnod Byw. Nid yw'r
syniadau a fynegir yma o
angenrhaid yn
adlewyrchu barn
Gwarchod Glöynnod Byw.
Prif Swyddfa Gwarchod Glöynnod Byw
Manor Yard, East Lulworth, Wareham,
Dorset BH20 5QP 01929 400209
E-bost:[email protected]
www.butterfly-conservation.org •Mae Gwarchod Glöynnod Byw / Butterfly Conservation yn elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (254937) ac yn yr Alban (SCO39268).Gwarchod Glöynnod Byw yw’r elusen yn y DU sy’n gweithredu i achub glöynnod byw, gwyfynod a’u cynefinoedd. Trwy weithio gyda rhychwant eang o bartneriaid, rydym yn gweithredu trwy: Gynghori perchnogion a rheolwyr tir ynghylch cynnal ac adfer cynefinoedd pwysig. Prynu a rheoli tir er lles glöynnod byw a gwyfynod sydd mewn perygl, a rhywogaethau gwyllt eraill. Cyflawni arolygon, monitro a gwaith ymchwil hanfodol arall. Lobio llywodraethau a'u hasiantaethau i ddylanwadu ar bolisi ynghylch defnyddio'r tir. Bod yn bartner gweithredol i fudiad Gwarchod Glöynnod Byw Ewrop
Gwarchod Glöynnod Byw Cymru 10 Rhes Calvert, Abertawe SA1 6AR 01792 642972 Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth, Cymru Clare Williams, Swyddog Cadwraeth George Tordoff, Ecolegydd Monitro Judy Burroughs, Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gwefannau Canghennau Cymru www.northwalesbutterflies.org.uk www.southwales-butterflies.org.uk
Mae Gwarchod Glöynnod
Byw yn dra diolchgar i'r
sefydliadau canlynol yng
Nghymru sydd wedi
gwneud ein gwaith yn
bosibl:
Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth
Cymru, Y Grid Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Oakdale, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Bro Morgannwg a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gallwch chi gefnogi gwaith hanfodol Gwarchod Glöynnod Byw trwy ymaelodi heddiw. Fel aelod fe dderbyniwch chi becyn croeso, ein cylchgrawn tra dethol Butterfly dair gwaith y flwyddyn, siart adnabod ac aelodaeth yn eich Cangen leol.
Mae ein Canghennau'n trefnu mwy na 700 o achlysuron cyhoeddus yn ymwneud â glöynnod byw a gwyfynod trwy gydol y flwyddyn, ac fe allech chi chwarae rhan ynddynt. Cewch chi ymaelodi ar-lein ar www.butterfly-conservation.org neu'n galw ni ar 01929 406015.
Ymunwch â ni
Ymunwch trwy Ddebyd Uniongyrchol i gael aelodaeth 15 mis am bris 12
Wedi'i argraffu ar bapur 100% ail-gylchedig
Pa ffordd well o ddathlu bioamrywiaeth Cymru na darllen ein Cylchlythyr 2010? Mae'n galonogol gweld amrywiaeth eang yr unigolion sy'n helpu i gofnodi a chadw glöynnod byw a gwyfynod. Mae'n gwych gweld plant yn rhyfeddu wrth ddysgu am fyd amryfal gwyfynod yn Ysgol San Siôr neu sylweddoli'r llwyddiannau mawr sy'n bosibl wrth inni ymdrechu i achub glöyn byw sydd mewn perygl o ddiflannu megis Brith y Gors ym Mynydd Mawr. Mae ein holl brosiectau yng Nghymru'n dibynnu ar frwdfrydedd unigolion ymroddedig. Ond does dim rhaid teithio ymhell. Trwy chwilio am lindys yn yr ardd, gwylio Mentyll Cochion ar goeden corn carw neu geisio adnabod y gwyfynod sy'n heidio trwy'ch ffenestr liw nos, cewch gyfle i flasu amrywiaeth hyfryd y bywyd sydd o'n cwmpas. Hwyrach y cofiwn ni 2009 fel blwyddyn goresgyniad y Mentyll Tramor. Cymerwch amser felly i ddysgu mwy am ein glöynnod byw a'n gwyfynod yn 2010.
2010 Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth – Ymunwch!
Gellir ymuno â Gwarchod
Glöynnod Byw ar-lein ar
www.butterfly-conservation.org
neu drwy alw 01929 406015
Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr Blynyddol 2010
Mantell Dramor jim Asher
2
Daw partneriaeth Prosiect Mynydd Mawr
rhwng Gwarchod Glöynnod Byw Cymru a
Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) i ben
ym mis Mawrth 2010.
Mae hanner cynefinoedd addas neu
ddichonol Brith y Gors yn ardal y prosiect
wedi'u hamddiffyn bellach dan gytundebau
rheolaeth gyda thirberchnogion. Dyna 110
o hectarau o borfa Rhos - 60 hectar yn ein
cytundebau pwrpasol, a'r gweddill yn
derbyn cyllid amaeth-amgylcheddol neu
SSSI neu grantiau eraill.
Porir y caeau hyn yn yr haf gan wartheg
neu ferlod, i greu'r cynefin tuswog sydd ei
angen ar lindys Brith y Gors. Rydym wedi
gosod mwy na 1½ cilomedr o ffensys
newydd, ynghyd â chlwydi a chafnau dŵr i
hyrwyddo pori. Rydym wedi clirio mwy na
6 hectar o brysgoed, mieri a Chreulys Iago, er mwyn adennill y glaswelltir
a oedd wedi mynd ar goll trwy esgeulustod.
Eleni mae Richard Smith a Lyn Gander wedi parhau i chwilio am
gynefinoedd Brith y Gors mewn ardal o 10,800 o hectarau o gwmpas
Mynydd Mawr, ar ran Cyngor Sir Gâr (CSG). Mae'r canlyniadau'n cael eu
coladu ar hyn o bryd. Daethant o hyd i gannoedd o hectarau o welltir llaith
â'r potensial i gynnal y rhywogaeth hon, ynghyd â nifer o nythfeydd Brith y
Gors nas darganfuwyd o'r blaen.
Yr hyn sydd wedi symbylu'r arolwg hwn yw'r ffaith bod Cross Hands yn
cael ei dargedu fel canolfan i fusnesau a thai newydd gan Lywodraeth y
Prosiect Mynydd Mawr
Rydym yn gweithio ers
chwe blynedd gyda
pherchnogion tir ger Cross
Hands, Sir Gâr, i reoli eu tir
er lles Brith y Gors.
Deborah Sazer, Swyddog Prosiect Mynydd Mawr
Llun: D Sazer
13
Cofnodion Gwyfynod Hanesyddol Mae dau brif set cenedlaethol o ddata cofnodi gwyfynod yn cael eu darparu ar gyfer Cofnodwyr Gwyfynod Sirol ac, yn y pendraw, yr NMRS. Amcangyfrifir bod 10 miliwn o gofnodion gwyfynod o'r rhwydwaith o faglau goleuni Rothamsted wedi cael eu dosbarthu i Gofnodwyr Gwyfynod Sirol i gael eu dilysu a'u hymgorffori yn eu setiau data lleol. Rydym yn ddiolchgar iawn i elusen Rothamsted Research ac i Ian Woiwod yn arbennig am y cyfraniad hwn at yr NMRS. Yn ogystal, mae mwy na 600,000 o gofnodion gwyfynod o'r Cynllun Cofnodi Lepidoptera blaenorol, a fu ar waith o ddiwedd y 1960au tan y 1980au cynnar, wedi cael eu cyfrifiaduro gan Ganolfan y Cofnodion Biolegol (BRC). Mae'r holl wybodaeth a oedd ar y cardiau cofnodi gwreiddiol a anfonwyd i'r Cynllun wedi cael eu cadw ar ffurf electronig. Mae'r set data'n cynnwys cofnodion ar gyfer 863 o rywogaethau macro-wyfyn, ac mae'n nodedig am y ffaith iddo gwmpasu 84% o diriogaeth Prydain, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel ar lefel sgwariau 10km. Mae tua 139,000 o'r cofnodion yn set data Canolfan BRC yn dod o Gymru, a'r amcangyfrif syfrdanol yw bod cwmpas y cofnodi yng Nghymru'n cyrraedd 92.5% ar gyfartaledd. Bydd y setiau data hanesyddol hyn yn darparu gwaelodlin i alluogi'r NMRS i gyflawni asesiad manwl gywir o'r newid yn nosbarthiad y gwahanol rywogaethau. Byddant hefyd yn tynnu sylw at y “tyllau gwynion” i hyrwyddo cofnodi targededig mewn ardaloedd lle bu'r cofnodi blaenorol yn ddiffygiol. Ar hyn o bryd mae set data'r BRC yn cael ei wirio'n ganolog, ond bydd y cofnodion yn cael eu dychwelyd i Gofnodwyr Gwyfynod y Siroedd yn gynnar yn 2010. Diolch o galon felly oddi wrth dîm Gwyfynod yn Cyfrif i'r Dr. Mark Hill a'i dîm yn y BRC am eu camp odidog a'u cyfraniad gwerthfawr at y setiau data sirol a gwaith yr NMRS. Daliwch i Gyfrif Mae prosiect Gwyfynod yn Cyfrif yn parhau yn 2010, er bod prif grant Cronfa Treftadaeth y Loteri'n dod i ben yn yr haf. Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn benderfynol o gadw'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol newydd yn rhedeg yn y tymor hir, ac yn chwilio am ffynonellau cyllid amgen. Mae cofnodi'n mynd yn ei flaen fel arfer ac mae'na ddigon o fylchau i'w llenwi yng Nghymru. Bydd rhagor o ddigwyddiadau hyfforddiant yn cael eu cynnal yn ystod 2010; ewch at wefan y prosiect felly i weld y manylion. Pa un a ydych chi'n cofnodi gwyfynod yn rheolaidd, ynteu'n dechrau ymddiddori, mae yna lu o ffyrdd o gymryd rhan ym mhrosiect Gwyfynod yn Cyfrif a'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol yn 2010. Pob lwc wrth hela gwyfynod!
I gael gwybodaeth reolaidd am ddatblygiadau Gwyfynod yn Cyfrif ac NMRS, ymunwch â'r rhestr bostio trwy gysylltu â Laura Wiffen ar 01929 406009 neu [email protected].
12
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae prosiect Gwyfynod yn Cyfrif wedi symud ymlaen yn sylweddol at godi ymwybyddiaeth am wyfynod a datblygu'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol (NMRS). Yn ystod 2009, trefnasom dri digwyddiad hyfforddiant a phum cyfarfod cyhoeddus ynghylch gwyfynod yng Nghymru, sy'n golygu ein bod wedi cynnal 15 o sesiynau
hyfforddiant di-dâl ac 17 o gyfarfodydd cyhoeddus ynghylch gwyfynod yng Nghymru ers 2007. Tyfodd cronfa ddata'r NMRS yn sylweddol yn 2009 wrth i Gofnodwyr Gwyfynod y Siroedd gyflwyno eu setiau data lleol. Mae'n cynnwys yn agos i wyth miliwn o gofnodion am wyfynod bellach o 99 o siroedd hynafol ledled y DU. ! Mae'r cynnydd hwn wedi ei gwneud yn bosibl i baratoi mapiau dosbarthiad dros dro ar gyfer pob
rhywogaeth gwyfyn mawr ar wefan y prosiect, www.mothscount.org. Bydd y mapiau hyn yn rhoi'r diweddariad cyntaf ers degawdau yn achos y rhan fwyaf o wyfynod, a'r mapiau hygyrch cyntaf erioed ar gyfer y 300 o rywogaethau a gynhwysir dan yr enw Geometridae. Fe gaiff y mapiau eu diweddaru'n rheolaidd a byddant yn darparu gwybodaeth ac adborth defnyddiol ar gyfer cofnodwyr gwyfynod ynghylch newidiadau yng nghynefin gwahanol rywogaethau yn ogystal â'u galluogi i weld eu cofnodion am wyfynod mewn cyd-destun ehangach. Diolch o galon i holl Gofnodwyr Gwyfynod y Siroedd ac i'r unigolion i gyd sy'n olrhain hynt a helynt gwyfynod am eu cyfranogiad a'u cefnogaeth. Erys nifer fach o setiau data sirol fydd yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bydd y Cofnodwyr Sir wedi cwblhau mewnbynnu, dilysu a fformatio eu cofnodion. Diolch i'r ffaith bod yr Isadain Felen Fawr wedi cael ei chofnodi ar raddfa mor eang, mae'n bosibl inni gael darlun da, ar sail ei dosbarthiad yng nghronfa ddata'r NMRS, o lwyrdeb ac ansawdd cofnodion gwyfynod yn gyffredinol. Mae'n debyg bod absenoldeb ymddangosiadol y gwyfyn hwn o ardal 10km sgwâr benodol yn datgelu lefelau cofnodi isel. Mae'n amlwg ar sail y map darpariaethol ar gyfer y rhywogaeth hon (Ffig. 1) fod cofnodi gwyfynod effeithiol yn digwydd ledled y siroedd hynafol yng Nghymru y mae gennym ddata amdanynt. Mae'r data a gasglwyd o'r rhwydwaith o faglau goleuni Rothamsted dros y cyfnod 1968-2002 yn dangos dirywiad o 97% ym mhoblogaeth Seffyr y Ffyrch. Adlewyrchir y gostyngiad hwn yn y boblogaeth gan ddirywiad yn y dosbarthiad sydd i'w weld yn amlwg eisoes ar fap darpariaethol yr NMRS o Gymru.
Gwyfynod yn Cyfrif: Y Diweddaraf Richard Fox Rheolwr Arolygon
Ffig 1 Isadain Felen Fawr
Ffig 2 Seffyr y Ffyrch
Mae mwy na
hanner y setiau
data ar gyfer
siroedd hynafol
Cymru wedi
cael eu derbyn
hyd yn hyn, gan
gynrychioli
mwy na 615,000
o gofnodion!
3
Cynulliad a CSG. Mae'r datblygiad yn cynnwys ffordd newydd y bwriedir
iddi dorri ar draws cynefin Brith y Gors, gan gynnwys rhan o'r Ardal
Cadwraeth Arbennig (ACA/SAC). Gwyddom fod ar Frith y Gors angen
blociau mawr cysylltiedig o'i gynefin er mwyn iddo oroesi yn y tymor hir.
Ar ben hyn, nodwyd bod y boblogaeth ym Mynydd Mawr yn un o'r ychydig
rai sy'n debygol o oroesi yn y tymor hir.
Dyna pam mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru'n cydweithio'n glòs ag
ecolegwyr CSG a CCGC i sicrhau na bydd y datblygiadau hyn yn
niweidio'r boblogaeth hanfodol bwysig hon. Gwaetha'r modd, nid yw ein
cynlluniau ar gyfer prosiect tirwedd ehangach o gwmpas Mynydd Mawr
wedi derbyn cyllid. Mae yna lu o gynigion cynllunio ar gyfer yr ardal sydd
heb gael eu prosesu eto, ac yn y cyfamser ni ellir cydweithredu yng
nghyswllt ein cynlluniau ni. Fe barhawn ni i weithio at ddatblygu cynllun
hirdymor i ddiogelu dyfodol Brith y Gors a'r holl rywogaethau gwyllt eraill
sy'n byw ar ein porfeydd Rhostir yn Sir Gaerfyrddin.
Brith y Gors Llun: D Sazer
4
Yn ôl y llenyddiaeth mae'r Clai Smotyn Sgwâr
yn dirywio fel rhywogaeth; fe'i ceir yn nwyrain
Lloegr yn bennaf, ac anaml y caiff ei gofnodi
yng Nghymru a'r Alban.
Gwyfyn amhendant ei farciau ydyw, ac mae'n hawdd ei
gymysgu â'i berthnasau mwy cyffredin, yn enwedig os
yw'r marciau hynny wedi treulio. A minnau wedi dod ar ei
draws mewn tri lleoliad tra phell o'i gilydd yn Sir
Frycheiniog yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, rwy'n
dechrau amau a ydyw mor wirioneddol brin yng
Nghymru ag yr oeddem yn dychmygu, ynteu a ydym yn
methu â'i weld?
Ym mis Mai bues i'n ddigon ffodus i ymweld ag Ardal
Hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn yng
Nghaerwent yn ne ddwyrain Sir Fynwy, yng nghwmni
Oliver Howells (Ystadau Amddiffyn). Saif yr ardal 720
hectar hon ar frigiad o galchfaen carbonifferaidd yn
bennaf, a chanddi 400 o hectarau o laswelltir gan
gynnwys pum gwaun a ddynodwyd yn Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a maint sylweddol o
goetir.
Ers 2004 mae hyfforddiant milwrol ar y tir hwn wedi cynyddu ddeg gwaith, gan
droi mynediad i ddibenion cadwraethol yn fwy anodd o lawer. Adeg ein
hymweliad yr oedd tua 25% o'r safle dan waharddiad, ond serch hynny
llwyddasom i gofnodi 16 o Wibwyr Brith ac 8 o Wibwyr Llwyd, mewn gwahanol
leoliadau ledled y safle.
Daeth uchwafbwynt yr ymweliad wrth imi rwydo gwyfyn bach a oedd yn hedfan
ar hyd perth, y gwelwyd yn hawdd mai Dolennwr Llwydfelyn (Minoa murinata)
ydoedd. Bu hyn yn syndod, gan fod y larfâu'n ymborthi ar Laethlys y Coed
(Euphorbia amygdaloides), ac o bosibl y blodau a'r blod-ddail, ac nid oedd Oliver
na minnau wedi gweld y planhigyn hwn o fewn y wersyll filwrol. Aethom ati i
Martin Anthoney
LLun: David Green
Y Clai Smotyn A ydy e'n wir brin yng Nghymru? Norman Lowe
Llun: David Green
Dolennwr Lwydfelyn
11
Dark Green Fritillary Photo:
hefyd. Ddaru ni weld lindysyn y Siobyn
Gwelw yn ymborthi ar y cymysgedd yn
ogystal â phryf clust, crachen ludw a
miltroediaid.’
Mae cynnwys gwyfynod ym maes
llafur yr ysgol yn dod â sawl mantais.
Mae brwdfrydedd y plant yn heintus,
ac nid oes angen i'r athro fod yn
arbenigwr. Mae'n anochel y bydd
gwyfynod yn cael eu camadnabod ar y cychwyn, a
dyfeision ni enwau hyd yn oed i rai ohonynt, ond ar ôl
ychydig roedden ni'n adnabod y rhywogaethau'n gywir ac
erbyn hyn rydyn ni'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at y
data sy'n cael eu casglu gan gofnodydd y sir.
Rydyn ni wedi crogi rhwyd gwyfynod yng nghyntedd yr
ysgol, ac rydyn ni'n magu gwahanol rywogaethau
gwyfynod, gan roi i'r plant y cyfrifoldeb am fwydo'r lindys.
Y llynedd mi lwyddon ni i ddeor wyau Gwalchwyfyn y
Benglog a'u magu nes iddynt gyrraedd eu llawn dwf.
Dwi ddim wedi cysylltu gweithgareddau dal gwyfynod y
plant ag unrhywbeth ar y cwricwlwm.
Mae gweld eu mwynhad ac ennyn eu
diddordeb yn ddigon i mi, ond petai
rhyw arolygydd o ESTYN eisiau gweld
tystiolaeth, yna hyd y gwela i mi
fyddai'n ddigon iddo wylio'r plant yn
trafod ai Maen Cennog ynteu Faen
Croesog sydd o'u blaenau; gweld y
disgyblion yn astudio lluniau yn y llyfr
maes ac yn penderfynu a yw'r
amserau hedfan yn cyfateb – tra'n
astudio'r marciau ar adenydd y
gwyfyn.
Mae gan blant
chwilfrydedd
naturiol ynghylch
pethau byw. Y peth agosaf at yr
olwg ddisgwylgar
sy'n dod dros eu
hwynebau wrth i'r
fagl gael ei hagor a'r
blychau wyau gael
eu hastudio yw pan
agorir bocs o
siocledi.
Diolch o galon i Julian Thompson am ei gymorth a'i amynedd gwerthfawr
gyda'r plant.
Ellis a Blaen Brigyn
10
Dechreuasom ni gydag un fagl. Dyna i gyd sydd eisiau!
Cost: tua £100.
Y fagl a ddefnyddir amlaf yw Magl Gwyfyn y Rhos sy'n
rhedeg ar fatrïau ailwefriadwy, a osodir yng Ngardd
Pilipalod yr Ysgol neu mewn gwahanol gynefinoedd yn
ardal Conwy. Mae'r plant yn cael cyfle i gymharu'r
gwahanol gynefinoedd hyn ac i weld bod gan rai
rhywogaethau ofynion penodol o ran eu cynefin. Maent
hefyd yn medru monitro'r newidiadau tymhorol yn y
nifer a'r rhywogaethau sy'n cael eu dal.
Mae'r plant wedi dechrau dal gwyfynod yn eu cartrefi
hyd yn oed a dod â nhw i'r ysgol mewn cynhwyswyr o
bob math. Mae rhai rhieni hwythau wedi dal 'byg'
brwdfrydedd y plant fel petai, ac yn dod yn gwmni
ynghyd â'u plant i'r swyddfa er mwyn dysgu beth yn
union oedd y gwyfyn hwnnw a hedfanodd i mewn i'r
stafell ymolchi.
Mae gennym ddwy Fagl ‘Robinson’ (lampau Anwedd Arian Byw) hefyd, a
ddefnyddir yn yr hwyr yn ystod cyfarfodydd dal gwyfynod yn yr ysgol. Yn ystod y
digwyddiadau hyn rydym yn arfer gwneud cymysgeddau Fictorianaidd a allai
ddenu gwyfynod. Meddiannwyd cegin
yr ysgol gennym er mwyn berwi'r
potsh gludiog hwn! ‘Mi gyrhaeddon ni Bensychnant efo
cwpanaid o'r cymysgedd gludiog braf
sy'n denu gwyfynod. Mae o'n drewi, ac
os cewch chi dipyn ohono ar eich bys
mi drowch chi'n fagnet gwyfynod!
Ddaru ni ei arllwys ar y goeden a'i
frwsio i mewn. Ac...... mi lwyddon ni i
ddenu Ôl-Adain Gopr i yfed y
cymysgedd. Gwelson ni Wladwr Du,
Melyn y Llwyf a Melyn y Rhafnwydd
Gwyfynod yn Ysgol San Siôr Ian Keith Jones,
Rysáit i wneud Cymysgedd Gludiog i Ddenu Gwyfynod
Tun 454g o Driagl Du 1Kg o Siwgr Brown (gorau po dywyllaf) 500ml o Gwrw Coch.
Llwyd y Ffawydd
5
Byddwn wrth fy modd o'ch cynghori ynghylch ble dylech chi chwilio amdano, ond
gan fod y llyfrau'n datgan bod ei larfâu'n ymborthi ar Ddanadl cyffredin, Llysiau'r
Parlys / Briallu Tal a Breswch y Cŵn / Cwlwm yr Asgwrn (a phlanhigion cyffredin
eraill efallai) ac chan fod y gwyfyn wedi cael ei gofnodi
mewn rhychwant eang o gynefinoedd, ni fyddai hynny'n
rhy ddefnyddiol efallai.
Os dewch chi ar draws gwyfyn nad yw'n ddigon porffor i
fod yn Glai Porffor felly, yn rhy dywyll i fod yn Glai
Deusgwar a chanddo adenydd mwy llydan na'r rhan
fwyaf o Gleiau Tri Smotyn, mae'n werth ystyried ai Clai
Smotyn Sgwâr ydyw. Efallai ei fod yn fwy cyffredin nag
yr ydym wedi dychmygu!
Cais llwyddiannus am reolaeth frys i achub y Dolennwr Llwydfelyn Mae angen gwaith rheoli ar frys ar Goedwig yr Hendre, cartref allweddol i'r
Dolennwr Llwydfelyn yn Nyffryn Gwy. Mae'n ymddangos nad yw'r gwyfyn hwn yn
bresennol ond mewn un ardal fach gymynedig, y mae ei haddasrwyd yn dirywio
wrth i'r llystyfiant ddychwelyd. Mae planhigyn bwyd y larfâu i'w weld ar nifer o
rodfeydd a chymynfeydd ledled y goedwig. Ond mae'r mannau hyn naill ai'n rhy
agored neu'n cynnal rhy ychydig o Laethlys y Coed i
ddarparu cynefin bridio addas. Diolch i grant oddi wrth
Gronfa Bioamrywiaeth Cymru, fe ymgymerir â micro-
reolaeth ar yr ardal lle mae'r gwyfyn yn byw trwy'r gaeaf
2010 i gynnal y boblogaeth nes y gellir gwneud y
rhodfeydd cyfagos yn fwy addas a chreu system o
goedlannau. Clare Williams, Swyddog Cadwraeth
Mae angen cymorth gwirfoddol i helpu i gribinio llystyfiant wedi'i dorri a thocion, cynhyrfu'r tir, a chanlyn arni â'r rhaglen arolygu a gwylio. Galwch ni i roi help llaw!
chwilio amdano, ac o'r diwedd daethom o hyd i Laethlys y Coed yn tyfu ar ymylon
lôn wrth ochr y ffens derfyn. Gwelsom bedwar Dolennwr Llwydfelyn arall hefyd.
Mae'r Dolennwr Llwydfelyn yn rhywogaeth flaenoriaethol dan Gynllun Gweithredu
Bioamrywiaeth y DU a welir yn bennaf mewn dwy brif ardal ar ynys Prydain, sef
canolbarth deheuol Lloegr ac am y ffin rhwng Lloegr a De Cymru. Mae wedi cael
ei gofnodi ar bedwar safle arall yn nwyrain Sir Fynwy, ond mae'n debyg ein bod
wedi darganfod y nythfa fwyaf gorllewinol ar yr ynys.
Y Clai Smotyn, llun : A. Driver
6
Mae fy nghynllun peilot i gyfethol cwmnïau i'n helpu
gyda Gwyfynod yn Cyfrif yn graddol ehangu, wrth i 2
gwmni ar wahân i fy un fy hyn ymuno, ac er bod eu
cyfraniad braidd yn symbolaidd hyd yn hyn, rydym wedi
dechrau o leiaf.
Yn 2009 daethpwyd o hyd, ymhlith eraill, i: Esgynnwr
Mai, Carpiog Tywyll, Pwtyn y Wialen Aur, Carpiog y
Cyll, Chwimwyfyn Rhithiol a Chastan Goch, ynghyd â nifer dda o Risgl Smotyn
Sgwâr Bach, Gwensgodau Ôladain Dywyll a Rhisgl yr Helyg.
Bu 2009 yn flwyddyn dawel i bilipalod ar yr ystad. Hyd yn oed ar ôl ystyried bod
gwanwyn 2008 wedi bod yn un da, ymddengys i niferoedd y Gwibiwr Llwyd a
Gweirlöyn Bach y Waun leihau, er bod nifer dda o Wibwyr Brith a Gleision
Cyffredin i'w gweld ar y ddau safle rwy'n arfer ymweld â hwy amser cinio. Yn
ffodus mae'r ardal enfawr o brysgoed wrth ochr safle fy nghwmni i yn cael ei
chadw ar agor gan sgrialwyr lleol sy'n creu labyrinth o “rodfeydd” ac eangderau o
laswellt byr. Ychydig iawn o Frithribiniau Gwynion oedd i'w gweld, er bod y
rhywogaeth hon yn ffynnu i'r dwyrain o'r ystad yn ôl pob tebyg.
Mae'r stad yn gyfoethog hefyd mewn fflora, ac yn
enwedig y Tegeirian Gwenynog hyfryd a llu o Friallu
Mair Sawrus. Mae teloriaid yn niferus iawn hefyd, yn
enwedig y Troellwr Bach dirgelaidd (2 bâr). Cawn
obeithio y bydd 2010 yn heulog!!
Gosododd un o wirfoddolwyr rheolaidd Cangen De
Cymru, Gareth Tonks, nodyn yng Nghylchlythyr Grŵp
Glöynnod Byw a Gwyfynod Sir Fynwy ar y
rhyngrwyd, ar ôl cael ciplolwg cynnar o Fantell Goch.
Er syndod mawr fe dderbyniodd ebost oddi wrth rywun
a oedd yn chwilio amdano. Mae'n ysgrifennu:
“Daeth y neges oddi wrth fy merch hirgolledig nad oeddwn i wedi'i gweld ers pan oedd hi'n groten fach 36 blynedd yn ôl. Diolch i Fantell Goch a welais ym mis Mawrth 08, rwyf yn ôl mewn cysylltiad â'm merch i. Mae hithau'n dwlu ar bilipalod hefyd.”
Pilipala'n aduno teulu stori i dwymo'r galon!
Yr annisgwyl yn
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam Mark Taylor
Carpiog Tywyll Llun: D Green
9
Symudodd tîm y Trefi Taclus i mewn i glirio'r prysgoed a'r mieri mewn cwpl o
ddyddiau. Y canlyniad oedd cynnydd yn y maint o fioledau a fydd, gobeithio, yn
golygu mwy o löynnod byw ar y safle yn 2010. Fe weithiodd y Tîm hefyd gyda
Changen De Cymru o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a chyflawnodd waith tebyg yn
Hirwaun a Thonyrefail er lles Brith y Gors.
Mae CGD yn annog grwpiau i ymgymryd â phrosiectau ac yn eu cynorthwyo i
sicrhau cyllid ar gyfer cyfarpar, hyfforddiant, yswiriant ayyb. Mae CGD yn
gweithredu cynllun grantiau bach hefyd i alluogi grwpiau cymunedol i brynu'r
cyfarpar angenrheidiol ar gyfer prosiectau o'r fath. Fe roddasom gyllid yn
ddiweddar i brynu llif gadwyn a chyfarpar diogelwch ar gyfer Grŵp Coed Y Bwl
(Bro Morgannwg) sy'n rheoli safle Cwm Alun er lles y Fritheg Frown.
Mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru mae gan lawer o awdurdodau lleol dimau
‘Trefi Taclus' sy'n gallu cynorthwyo. Mae swyddogion prosiect gan CGD yn ardal
pob awdurdod lleol - cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd
ar gael yn eich ardal chi.
Mae'r holl fanylion cysylltu i'w cael ar www.keepwalestidy.org.
Cysylltwch â [email protected] ac fe rodda i chi mewn cysylltiad â'ch swyddog prosiect CGD agosaf.
Cwm Clydach cyn …. .. ac ar ôl
Prosiect partneriaeth yw Trefi Taclus rhwng CGD a phob un o'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae'n cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru, a'i nod yw "Cynorthwyo pobl Cymru i
dderbyn cyfrifoldeb am ansawdd eu hamgylchedd lleol”.
8
Mae gan Cadwch Gymru'n Daclus (CGD) swyddogion
prosiect wedi'u lleoli mewn cymunedau ledled Cymru,
sy'n cynnig cyngor a chymorth arbenigol. Maent yn
annog cymunedau i fabwysiadu eu hardal leol a helpu
gwirfoddolwyr i ymgymryd â
rhychwant o brosiectau gwella'r
amgylchedd gan gynnwys:
casglu sbwriel, cynnal a chadw
llwybrau, gwella mynediad er lles
pobl anabl, datblygu gerddi
cymunedol a rheoli cynefinoedd.
Gellir cynnwys amddiffyn
rhywogaethau sydd mewn perygl
a rheoli cynefinoedd yn y cylch
gorchwyl hwn.
Gall CGD helpu i reoli
cynefinoedd er lles glöynnod
byw. Mae gan bob Awdurdod Lleol ddull gwahanol o drefnu gwaith Trefi Taclus yn ei ardal, ond yma yn
Rhondda Cynon Taf mae'r awdurdod lleol yn cyflogi pum
dyn sydd wedi'u hyfforddi'n llawn i
ddefnyddio torwyr prysgoed, strimmers a
llifiau cadwyn. Maent yn helpu prosiectau
Trefi Taclus, sy'n gallu cynnwys gwarchod
pilipalod.
Cafwyd esiampl dda o'u gwaith yn 2009
ym Mro Clydach. Mae'r safle'n cynnal
poblogaeth dda o Frithion Perlog Bach a
Brithion Gwyrdd (mae'r ddwy rywogaeth
yn ymborthi ar Fioled y Cŵn) ond roedd
yn dechrau cael ei dagu gan helyg a mieri
a oedd yn dechrau amharu ar y maint o'r
planhigyn bwyd hwn a oedd ar gael i'r
lindys.
Cadwch Gymru'n Daclus a Glöynnod Byw
Ben Williams
Swyddog Prosiect CGD Rhondda Cynon Taf
Credwch neu
beidio, mae
Cadwch
Gymru'n Daclus
yn gwneud
llawer mwy na
chasglu sbwriel.
Fel rhan o
brosiect ‘Trefi
Taclus' mae'n
gwella
cynefinoedd i
bilipalod
:Britheg Werdd, Llun: Jim Asher
7
Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn awyddus bob amser i gefnogi prosiectau myfyrwyr. Yn 2009 cyflawnodd Alice Smith astudiaeth o'r Fritheg Berlog Fach. Roeddem am weld sut mae'r rhywogaeth yn ymddwyn mewn tirwedd agored yn sgil y gwaith blaenorol yng Nghoedwig Clocaenog
Helpodd Dave Thorpe, cofnodydd glöynnod byw sirol Gwynedd i leoli sawl safle ar lethr ger Llanberis. Ymgymerodd Alice ag astudiaeth Marcio, Rhyddhau, Ail-ddal a mapio ansawdd y cynefin gan gymharu gwahanol ddulliau o asesu amgylchiadau. Nododd fod y gwrywod a ymddangosai'n gynnar yn ymwasgaru o'r clytiau bridio bach gwlyb i'r llethrau rhedynog o gwmpas nes bod y benywod yn ymddangos . Yn ogystal olrheiniodd symudiadau nifer fach o unigolion rhwng y clytiau hyn. Ar hyn o bryd mae Alice yn paratoi ei chanlyniadau er gyfer ei MSc.
Mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru'n cadw rhestr o brosiectau sy'n addas ar gyfer israddedigion a graddedigion. Yn 2010 rydym yn gobeithio cefnogi ymchwil i Wyfyn Gwent a chymhariaeth rhwng poblogaethau glöynnod byw ar ffermydd Tir Gofal a rhai nad ydynt yn rhan o gynllun Tir Gofal. Rydym yn gallu cynnig cymorth ymarferol ac, mewn rhai achosion, treuliau teithio. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb gysylltu â Russel Hobson.
Myfyrwyr ymchwil
dan y sbotolau
Russel Hobson
Pennaeth Cadwraeth
CWRS AR LÖYNNOD BYW A'U GWAHANOL GYNEFINOEDD
Os carech chi ddysgu mwy am sut i adnabod glöynnod byw a'u gofynion o ran cynefin, ymunwch â'r cwrs hwn a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth. Mae'n cynnwys 8 sesiwn o 2 ½ awr a 7 cyfarfod maes. Mae'r cwrs yn dechrau ar 26ain Mehefin 2010 ac yn gorffen ar 14eg Awst 2010. Am fwy o wybodaeth ewch at www.aber.ac.uk/sell neu e-bostiwch i [email protected] neu [email protected] Ffôn: 01970 621580
TAITH GERDDED DYWYSEDIG I WELD GLÖYNNOD BYW
Rhan o wythnos ‘Achubwn y Pilipalod'
Byddwn yn trefnu dwy daith gerdded wahanol ar ymweliad â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn y Canolbarth. Mae'r teithiau cerdded yn dechrau am 10 yb ac 1 yp ddydd Sul 25ain Gorffennaf 2010 o Faes Parcio Cors Caron ar y B4343, 2 filltir i'r gogledd o Dregaron. Cyfeirnod Grid SN 693625 Arweinydd: Red Liford. I gael mwy o fanylion galwch 01974 282672
Bryn Bigil, lleoliad yr astudiaeth Alice Smith
Digwyddiadau