yr adroddiad blynyddol 2012

18
Yr Adroddiad Blynyddol 2012 Nightingale House Hospice Hospis Tŷ’r Eos Gofal Lliniarol Arbenigol

Upload: becky-bowyer

Post on 09-Mar-2016

234 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Nightingale House Hospice Annual Report 2012 in Welsh

TRANSCRIPT

Page 1: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Nightingale House HospiceHospis Tŷ’r Eos

Nightingale House HospiceHospis Tŷ’r Eos

Gofal Lliniarol Arbenigol

Cover_FINAL.indd 210/04/2013 16:29

Page 2: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Datganiad BwriadauDarparu gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol i gleifion sy’n dioddef o waeledd penodol a fydd yn bygwth hyd oes ac sy’n byw o fewn dalgylch Gogledd Ddwyrain Cymru a’r gororau a chefnogi eu teuluoedd mewn amgylchedd llawn gofal. Gweneir hyn gan dim amlddisgylaethol a dderbyniodd hyfforddiant arbenigol ar gyfer darparu rheolaeth symptomau, asesiadau, gofal terfynol, a chefnogaeth emosiynol cyson i berthnasau a gofalwyr, cefnogaeth galar, addysg a gwybodaeth.

Aelodau Pwyllgor Cyfarwyddwyr/YmddiriedolwyrMr M Edwards (President), Mrs E Griffiths (Chair), Dr N Braid (Vice-Chair), Mrs P Valentine (Company Secretary), Mr M H Phillips, Mrs A Wood, Mr A Morse, Mrs J Lowe, Mrs E Walker, Dr J Duguid, Mr N Davies, Mr C Burgoyne, Dr H Paterson (appointed June 2012), Mrs J Hinchcliffe (resigned February 2012).

Hospis Tŷ’r Eos Heol Caer Wrecsam LL11 2SJ.

Cydnabyddiaeth a diolch i: Gareth Brooks, Icon Imagery and Posib.

Sefydliad Hospis a Chanolfan Cymorth Canser Wrecsam Rhif Elusen Gofrestredig: 1035600 Company Number 02906838 (Registered in England & Wales).

Ffon: 01978 316 800www.nightingalehouse.co.uk

Welsh version.indd 2 05/04/2013 15:22

Page 3: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

1

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 2

Prif Weithredwr 4

Cyfarwyddwr Nyrsio 6

Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol 8

Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm 10

Rheolwr Cyswllt y Gwirfoddolwyr 12

Rheolwr Cyllid 14

Adroddiadau Ariannol 15–16

Cynnwys

Welsh version.indd 1 05/04/2013 15:22

Page 4: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Eluned GriffithsCadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Yn ystod 2012, aeth y dirwasgiad economaidd yn ei flaen ac o ganlyniad bu’n flwyddyn anodd arall i’r Hosbis. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i reoli ein costau cynnal, mae’r rhain yn dal i gynyddu efo chwyddiant tra bo ein cyllid statudol yn dal i leihau mewn termau real. Fodd bynnag, pleser mawr i mi yw gallu dweud ein bod wedi bod yn llwyddiannus o ran codi’r arian sydd ei angen i gynnal y safon uchel o ofal lliniarol arbenigol y mae’r Hosbis yn ei gynnig.

Trwy ymroddiad, gwaith caled a chefnogaeth ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr rydym yn parhau i ddarparu gofal lliniarol o’r radd flaenaf i’r cleifion hynny a’u teuluoedd y mae arnynt ei angen. Mae’n bwysig hefyd er lles y cleifion a’r gweithwyr, bod Tŷ’r

Eos o flaen y gad efo datblygu gofal lliniarol. Mae hyn wedi ei gyflawni trwy ddatblygu lefelau uchel o addysg a hyfforddiant i’r gweithwyr a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil perthnasol.

Mae Hosbis Tŷ’r Eos wedi llwyddo i gyflawni ei nodau yn ystod 2012 oherwydd arweiniad ac arbenigedd y tîm/timau rheoli ac ymroddiad y gweithwyr i gyd o ran sicrhau ein bod wedi cadw o fewn cyllidebau ariannol heb beryglu safonau. Gyda hyn oll, o ganlyniad i waith caled ac arloesi’r tîm cynhyrchu incwm cafwyd mwy o incwm o fanwerthu, ailgylchu a digwyddiadau trydydd parti ac incymau loteri a wnaeth fwy na digolledu rhag y lleihad dealladwy yn yr incwm o ddigwyddiadau trwy docyn a chorfforaethol yn sgil y dirwasgiad .

Trwy ymroddiad, gwaith caled a chefnogaeth ein

gweithwyr a’n gwirfoddolwyr rydym yn parhau i

ddarparu gofal lliniarol o’r radd flaenaf i’r cleifion

hynny a’u teuluoedd y mae arnynt ei angen.

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr2 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012 ‸

Welsh version.indd 2 05/04/2013 15:22

Page 5: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Gave so much with genuine

care and kindness

Patient May 2011

Fe wnaeth ein gwirfoddolwyr, grŵp o bobl o bob oed a phob math o sgiliau, gefnogi’r Hosbis trwy weithio efo’n cleifion, yn y siopau, y swyddfa codi arian ac efo pob maeth o ddigwyddiad o lenwi bagiau, casgliadau ar y stryd, y loteri a llawer mwy sy’n rhy niferus i’w henwi.

Bydd y cynigion gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal diwedd oes ac ad-drefnu BIPBC yn dod ‰ heriau o’r newydd yn y blynyddoedd sydd ar ddod. Nid ydym ni, yn Fwrdd Ymddiriedolwyr, yn hunanfodlon ac wrthi’n barod yn rhoi rhaglen o ddatblygu’r bwrdd ar waith er mwyn ychwanegu at ein gwybodaeth a’n sgiliau, yn ogystal ‰ dechrau cynllunio’n strategol er mwyn sicrhau ein bod yn barod i addasu i’r amgylchiadau newidiol y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol agos.

Yn Hosbis Tŷ’r Eos rydym wedi ymrwymo i wella profiad y cleifion efo clefydau sy’n bygwth eu bywydau sy’n dod i mewn i’n gofal ac ni fydd modd gwneud hyn oni bai ein bod yn sicrhau bod arweinyddiaeth dda a meddwl clir yn ein cynllunio ar gyfer y dyfodol.

O’m rhan fy hun a’m cyd ymddiriedolwyr, rwy’n diolch i bawb a gymerodd ran i sicrhau bod yr Hosbis wedi cyflawni ei tharged o ran incwm ac i’n gweithwyr medrus ac ymroddedig am ddal ati i ddarparu’r gofal o ansawdd uchel y mae ein cymuned yn ei haeddu ac wedi dod i’w ddisgwyl. ‘Mae fy ail fwydyn yn Gadeirydd wedi bod yn haws

oherwydd cefnogaeth, gwaith caled ac agwedd broffesiynol fy nghyd ymddiriedolwyr, gweithwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. Diolch o waelod calon i bob un ohonoch.

Dywedodd ein cleifion . . .

"Gweithwyr sy’n tosturio ac yn deall, a fu’n gymorth i ni fynd drwy’r sefyllfa yma."

Awst 2012

Welsh version.indd 3 05/04/2013 15:22

Page 6: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Pan eisteddais i ysgrifennu fy adroddiad, anodd oedd credu bod 12 mis wedi mynd a dod fel seren wib ac roedd rhaid erbyn hyn i mi droi fy meddwl at yr hyn yr oeddwn i’n mynd i’w ddweud ynglŷn â 2012. Fodd bynnag, hawdd iawn oedd hynny a gallaf roi gwybod ein bod wedi cael blwyddyn lwyddiannus arall o ran darparu gofal o’r radd flaenaf i gleifion, gofalwyr a theuluoedd a’r cwbl yn rhad ac am ddim yn y fan darparu.

Mae’r llwyddiant hwn wedi ei gyflawni yn erbyn ansicrwydd ariannol sy’n parhau yn yr economi, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn wedi gosod pwysau enbyd ar ein gallu i godi arian efo’n gweithgareddau traddodiadol ym maes codi arian. Mae ein cynllunio tymor canolig o ran ehangu gweithgareddau codi arian fel y loteri a siopau wedi dwyn ffrwyth ac rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr arian sy’n dod o’r meysydd hyn.

Mae llwyddiant, yn fy marn i, yn ymwneud nid yn unig ‰ lefel ac ansawdd y gwasanaethau i gleifion gan y t”m clinigol, ond mae’n ymwneud hefyd ‰’r gefnogaeth a geir gan bob adran yn y sefydliad yn cynnwys gweinyddiaeth, arlwyo, cyfleusterau cadw tŷ, siopau a chynhyrchu incwm o ran sicrhau y cyflawnir y nodau hynny ar gyfer y cleifion. Mae ein llwyddiant yn wirioneddol yn ymdrech t”m ac mae pob gweithiwr wedi cyfrannu o ran sicrhau ein bod wedi cadw ein gwario yn unol ‰’n cyllideb wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny yn ystod cyfnod ariannol anodd iawn.

Ochr yn ochr ‰’n gweithwyr, mae gennym ein llu ffyddlon o wirfoddolwyr sy’n rhan annatod o’n llwyddiant wrth weithio ym mhob agwedd ar waith yr Hosbis ac na fyddai modd, hebddynt hwy, i ni ddarparu’r gwasanaethau a wnawn. Diolch o galon i bob un.

Gallaf roi gwybod ein bod wedi cael blwyddyn

lwyddiannus arall o ran darparu gofal o’r radd

flaenaf i gleifion, gofalwyr a theuluoedd . . .

The care during my stay has

been exceptional in every way

with lots of TLC (tender loving

care) compassion and humour

Patient, June 2011

John SavagePrif Weithredwr

Prif Weithredwr4 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012 ‸

Welsh version.indd 4 05/04/2013 15:23

Page 7: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

‘Fodd bynnag, ni fyddai dim o’r llwyddiant hwn yn bosibl heb gefnogaeth ein cymuned leol. Yn 2012, £2.49 miliwn oedd cost cynnal gwasanaethau’r Hosbis a 23% yn unig o hyn a ddaeth o ffynonellau statudol. Daeth y gweddill o’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, yn cynnwys unigolion, grwpiau a chefnogwyr corfforaethol a sicrhaodd, pob un, ein bod wedi gallu darparu’r gwasanaethau sy’n hanfodol i’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu a byddwn yn ddiolchgar am byth am y cymorth hwnnw sy’n parhau.

Mae’n hanfodol bwysig hefyd ein bod yn parhau efo mentrau i sicrhau ein bod yn gallu cadw costau cynnal y cyfleusterau mor isel ag y bo modd a phleser i mi yw nodi mai llwyddiant mawr oedd y prosiect panel heulol ffoto-foltaig yr adroddwyd amdano’r llynedd ac a osodwyd ym mis Mawrth a’i fod wedi bod yn fodd i arbed mwy na £18,000 yn y flwyddyn gyntaf. Rydym yn dal i ystyried amrywiaeth o brosiectau er mwyn sicrhau y gallwn ni gadw costau mor isel ag y bo modd a sicrhau trwy hynny y gallwn ni wario cymaint ag y bo modd ar wasanaethau i’r cleifion.

Bydd y deuddeg mis nesaf yr un mor anodd o ran cyllid â’r deuddeg mis a aeth heibio ac rwyf felly yn annog pob un o’n cefnogwyr i helpu i ddod o hyd i ddulliau o gynyddu eu cefnogaeth er mwyn sicrhau y gallwn ni barhau â’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Dywedodd ein cleifion . . .

"Mae’r dull o weithredu yn hollol gyfannol, sy’n beth gwych."

Mai 2012

Welsh version.indd 5 05/04/2013 15:23

Page 8: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Bob blwyddyn mae’r adroddiad blynyddol yn rhoi i ni’r her o grynhoi ein gweithgareddau yn y tîm nyrsio, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, gwaith cymdeithasol a chaplaniaeth a’r timau sy’n ein cefnogi efo cadw tŷ, arlwyo a chymorth gweinyddol. Mae hyn bob amser yn her oherwydd bod cymaint o bethau yn ystod cyfnod o 12 mis y byddai eu rhannu yn beth gwerthfawr.

Mae ein gwasanaethau, gan bob adran, yn dal i ganolbwyntio ar dair prif egwyddor - cyflawni safonau gofal uchel i gleifion a theuluoedd, archwilio sail dystiolaeth er mwyn datblygu arfer trwy gymryd rhan mewn ymchwil briodol a sicrhau darpariaeth o ansawdd da trwy raglen wedi ei chynllunio o archwilio a gwerthuso gwasanaethau.

Mae t”m nyrsio ein huned cleifion mewnol yn dal i ddefnyddio’r broses hon o archwilio a gwerthuso gwasanaethau er mwyn gwella a lle bo angen newid arfer seiliedig ar dystiolaeth briodol a sicrhau bod newid yn cael ei roi ar waith yn ddiogel trwy hyrwyddo addysg, mentora a hyfforddi ein t”m.

Mae’r t”m hefyd wedi cynnig arweiniad efo nifer o archwiliadau rhanbarthol pan oedd hosbisau ledled Gogledd Cymru yn cymharu ein harfer, nid yn unig yn erbyn Safonau Cenedlaethol, ond hefyd yn erbyn ei gilydd mewn proses o adolygu arfer cymheiriaid. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd ein t”m cleifion mewnol yn rhan o brosiect cenedlaethol a oedd yn cymharu dibyniaeth cleifion a baich gwaith nyrsio rhwng 16 o hosbisau ac unedau gofal lliniarol.

. . . mae ein gwaith yn parhau trwy ymroddiad

ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr a thrwy eich

cefnogaeth chi i’n gwaith.

The care during my stay has

been exceptional in every way

with lots of TLC (tender loving

care) compassion and humour

Patient, June 2011

Tracy LivingstoneCyfarwyddwr Nyrsio

Cyfarwyddwr Nyrsio6 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012 ‸

Welsh version.indd 6 05/04/2013 15:23

Page 9: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

‘Bydd y canlyniadau ar gael yn 2013 a byddant yn cynnig mwy o wybodaeth i hysbysu darpariaeth ein gwasanaeth cleifion mewnol wrth fynd ymlaen.

Mae ein ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch genedlaethol i wella gwasanaethau ailsefydlu i gleifion efo cancr o amser canfod y clefyd hyd ddiwedd oes a mynd i’r afael â symptomau gofidus a all ddod i ran pobl yn dilyn triniaethau ar gyfer cancr neu effeithiau’r clefyd. Mae symptomau fel diffyg anadl, blinder, pryder, anhawster symud a phoen ac ati, yn gallu mynd yn wanychol tu hwnt ac effeithio ar ansawdd bywyd. Mae pwyslais y gwaith hwn ar helpu eich hun.

Mae’r dull hwn o weithredu, sef helpu eich hun, yn cael ei hwyluso hefyd gan ein t”m caplaniaeth sy’n cynnig addysg a chymorth i gleifion a gofalwyr er mwyn datblygu nerth ynddynt hwy eu hunain i ymdopi ‰’u diagnosis a’u cyflwr. Hefyd, mae’r caplan wedi gwneud gwaith ymchwil yn ystod y flwyddyn er mwyn canfod y dull asesu gofal ysbrydol mwyaf priodol i’w ddefnyddio mewn lle fel hosbis.

Mae cynnal nerth mewnol a lles emosiynol ein cleifion yn croesi ffiniau proffesiynol pob aelod o’n t”m; mae ein t”m gwaith cymdeithasol yn parhau

i gefnogi cleifion a theuluoedd gyda chynllunio ar gyfer eu rhyddhau i fynd adref a chynnig cyngor a chymorth ymarferol hefyd wrth gysylltu ag asiantaethau allanol eraill. Mae hyn yn cynnwys datblygu perthnasau therapiwtig efo cleifion a theuluoedd ac oherwydd hyn rydym wedi cymryd y cam o ddyrannu ‘amser gwarchodedig’ penodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar y wardiau ac yn yr uned ddydd.

Mae’r uned ddydd ac uned y cleifion allanol wedi cael blwyddyn o gyfnerthu datblygiad y Rhaglen Dydd Llun yr adroddwyd amdani yn ystod 2012, ac maent yn parhau i archwilio’r modd y darperir gwasanaethau allgymorth yn y dalgylch.

Mae’r flwyddyn wedi bod yn flwyddyn o heriau a llwyddiannau ym mhob adran a phob tîm ond mae ein gwaith yn parhau trwy ymroddiad ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr a thrwy eich cefnogaeth chi i’n gwaith. Diolch i chi unwaith eto am eich cymorth a’ch ymrwymiad sy’n parhau i’n gwasanaethau.

Dywedodd ein cleifion . . .

"Wnaethon nhw roi hyder a chysur i mi ac roedden nhw wastad yn barod i siarad a helpu yn ystod yr adegau

hynny pan oeddwn i’n teimlo’n isel. Fedra’ i mo’u canmol nhw

digon."

Mehefin 2012

Welsh version.indd 7 05/04/2013 15:23

Page 10: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Mae’r flwyddyn 2012 i 2013 wedi rhoi llawer o heriau clinigol newydd i’r t”m meddygol. Mae’r t”m wedi gofalu am 222 o bobl a ddaeth i uned y cleifion mewnol yn ystod y flwyddyn, ac am 232 a fynychodd ein clinigau cleifion allanol meddygol lliniarol.

Mae nifer o resymau y bydd cleifion yn cael ei derbyn i’r uned cleifion mewnol. Mae oddeutu 40% o’r bobl yn cael eu derbyn er mwyn rheoli symptomau ac mae oddeutu 60% yn cael eu derbyn am ofal terfynol yn ystod dyddiau neu wythnosau olaf bywyd. O’r bobl hyn, mae 64% yn cael eu derbyn yn syth o’u cartrefi ac 17% o Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae’r 19% sy’n weddill yn dod o ysbytai cymunedol neu ganolfannau trin cancr.

Tuedd sy’n cynyddu yw’r cynnydd graddol o ran cyflyrau heb fod yn niweidiol y mae’n rhaid iddynt ddod i mewn i uned y cleifion mewnol. Mae’r rhain wedi cyfrif am 7% o’n derbyniadau yn ystod y flwyddyn, y rhan fwyaf yn gyflyrau niwro-ddirywiol, diffyg y galon a chyflyrau’r ysgyfaint.

Un rhan yn unig o’n cyfrifoldebau meddygol yw uned y cleifion mewnol. Yn ogystal â’r uchod, rydym yn darparu cymorth ac adolygiad meddygol i uned ddydd ein Hosbis a welodd 1108 yn ei mynychu drwy’r flwyddyn, ac wedi rhoi cymorth i’r adran ffisiotherapi a’r tîm profedigaeth.

Ar hyn o bryd, mae ein tîm meddygol yn fy nghynnwys i, yn Gyfarwyddwr Meddygol Cyswllt a’n Meddyg Arbenigol sy’n gweithio naw sesiwn yr wythnos. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi

Mae’r tîm wedi gofalu am 222 o bobl a ddaeth i

uned y cleifion mewnol yn ystod y flwyddyn, ac

am 232 a fynychodd ein Clinigau Cleifion Allanol

Meddygol Lliniarol.

The care during my stay has

been exceptional in every way

with lots of TLC (tender loving

care) compassion and humour

Patient, June 2011

Dr Nigel MartinCyfarwyddwr Cyswllt Meddygol

Cyfarwyddwr Cyswllt Meddygol8 Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012 ‸

Welsh version.indd 8 05/04/2013 15:23

Page 11: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

‘datblygu cysylltiadau agos iawn efo’r tîm meddygol lliniarol yn Ysbyty Wrecsam Maelor. Arweinydd y tîm sy’n gweithio efo ni ar gontractau mygedol yw’r Athro Matthew Makin ac yntau hefyd yw ein hymgynghorydd ymweliadol mewn meddygaeth liniarol ac mae’n un o’n tîm ar-alwad. Mae gweddill y tîm yn cynnwys Cofrestrydd Arbenigol sydd o dan hyfforddiant i fynd yn ymgynghorydd a Darlithydd Clinigol mewn meddygaeth liniarol. Ar ben hyn, mae gennym yn aml Swyddog Un Tŷ Blwyddyn Sylfaen am gyfnodau atodol o bedwar mis; mae’r meddygon hyn yn eu blwyddyn gyntaf wedi cymhwyso ac yn dal i fod yn bendant iawn mewn swyddogaeth dan hyfforddiant.

Mae’r cysylltiadau yr ydym wedi eu meithrin efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o safbwynt meddygol lliniarol yn ogystal ag oncoleg, wedi bod, yn fy marn i, yn un o fuddugoliaethau mawr yr Hosbis. Mae hynny nid yn unig o ran cynnig profiad a hyfforddiant i feddygon iau, ond hefyd wrth wneud hynny, o ran sicrhau cadw’r tîm yn gyffredinol yn gyfarwydd â’r datblygiadau diweddaraf a’u cadw rhag bod ar wahân, yn feddygol, o’r arferion prif-ffrwd. Un o’r prif gamau ymlaen oedd dechrau’r drefn o ‘gyfnewid swyddi’ rhwng ein meddyg arbenigol a’r Meddyg Arbenigol Oncoleg sy’n cynorthwyo Uned

y Seren Wib yn Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae’r cyfnewid yn digwydd un diwrnod bob wythnos. Nid yn unig y mae hyn wedi selio’r cysylltiadau rhwng yr unedau, ond hefyd mae wedi rhoi mwy o brofiad i’r ddau ddoctor o feysydd arbenigo ei gilydd, sydd yn ei dro yn fantais i’n cleifion. Mae gan hyn hefyd y fantais ychwanegol a gwerthfawr o gynnig gwasanaeth di-dor i’n cleifion wrth symud rhwng oncoleg a meddygaeth liniarol.

Fel y gwnes i sôn yn y paragraff cyntaf, mae meddygaeth liniarol a gofal hosbis yn datblygu. Nid yn unig y mae llawer o bobl sy’n dioddef gan gancr yn byw yn hirach efo therapïau newydd, sy’n golygu’n aml mai cyflwr mwy cronig yw cancr, ond derbynnir hefyd y gallwn ni gynnig cymorth a chefnogaeth efo llawer o gyflyrau eraill nad ydynt yn niweidiol a rheoli symptomau. I’r diben hwn, mae’n dod yn hanfodol ein bod yn parhau i feithrin cysylltiadau agos efo arbenigeddau meddygol eraill er mwyn gallu rhannu gofal am y cleifion, a sicrhau hefyd ein bod, yn feddygol, yn cadw’n gyfarwydd â’r arferion diweddaraf .

Dywedodd ein cleifion . . .

"Fyddai pethau ddim yn gallu bod dim

gwell."

Medi 2012

Welsh version.indd 9 05/04/2013 15:23

Page 12: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Bob blwyddyn pan fyddaf yn ysgrifennu fy adroddiad blynyddol, mae fy meddwl yn troi bob amser at y cymorth a gawsom ni drwy gydol y flwyddyn a llwyddiant ein gweithgareddau codi arian. Hyd yn oed yn ystod blynyddoedd a fu’n anodd iawn yn economaidd, mae ein cymuned leol wedi dal ati i’n cefnogi ni er mwyn sicrhau y gallwn ni gynnig gofal lliniarol yn rhad ac am ddim i’r bobl hynny y mae arnynt ei angen, a mawr yw ein diolch am y cymorth hwnnw sy’n parhau.

At ei gilydd, trwy ein codi arian cyffredinol, yn cynnwys yr hyn a gafwyd trwy ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan yr Hosbis, y gymuned leol a chyfraniadau cyffredinol, cafwyd oddeutu £1 miliwn o’r £2.5 miliwn sydd eu hangen i gynnal yr Hosbis drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys £25,000

wedi ei godi gan ein Grwpiau Cymorth rhanbarthol, y mae llawer ohonynt wedi ein cefnogi ers sefydlu’r Hosbis, ac mae’n cynnwys arian wedi ei godi gan ein Grŵp Cymorth diweddaraf, sef Ffrindiau’r Hosbis, Rhosddu, a sefydlwyd yn ystod 2012. Er bod nifer y cerddwyr yn lleihau’n raddol o flwyddyn i flwyddyn, mae Taith Gerdded Hanner Nos y Merched yn dal i fod ein digwyddiad mwyaf llwyddiannus, wedi dod ‰ mwy nag £80,000 i mewn ar gyfer 2012.

Mae dechrau codi 5 ceiniog yr un am fagiau siopa plastig yng Nghymru wedi bod yn fantais i Dŷ’r Eos oherwydd bod ASDA a Sainsbury yn ogystal, yn eu haelioni mawr, wedi rhoi’r cyfraniadau i ni, gan godi mwy na £10,000 yn ystod y flwyddyn.

Rydym yn lwcus iawn ein bod yn derbyn cymorth gwych gan fusnesau lleol ac yn ystod 2012 cawsom rodd gan Redrow Homes tuag at ein rhaglen

. . . mae Taith Gerdded Hanner Nos y Merched yn

dal i fod ein digwyddiad mwyaf llwyddiannus, wedi

dod â mwy na £80,000 i mewn ar gyfer 2012.

The care during my stay has

been exceptional in every way

with lots of TLC (tender loving

care) compassion and humour

Patient, June 2011

Caroline SiddallCyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm

Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm10Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012 ‸

Welsh version.indd 10 05/04/2013 15:23

Page 13: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

‘adnewyddu gwelyau. Trefnodd busnesau lleol fel EADS a Barclays digwyddiadau codi arian ar ein rhan i godi arian i’r Hosbis.

Nid arian yw’r unig fath o gymorth y byddwn yn ei gael. Wnaethon ni ddefnyddio cymaint ag yr oedd modd ar y car a roddodd Stoneacre Motor Group, Wrecsam i ni. Mae pob gweithiwr cyflog a gwirfoddolwr yn defnyddio’r car hwn pan fydd yn gweithio oddi ar y safle er mwyn lleihau unrhyw gostau teithio. Trwy garedigrwydd mawr Radio-Active Communications fe gawson ni ddefnyddio setiau radio dwy ffordd ar gyfer pob un o’n digwyddiadau yn ystod 2012 a oedd yn fodd i ni arbed llawer o arian mewn costau llogi.

Rydym yn ystod ail flwyddyn grant tair blynedd gan Blant mewn Angen y BBC i helpu i dalu am Release, ein gwasanaeth profedigaeth i blant. Hefyd, wnaethon ni dderbyn grant o £5,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Marjorie Boddy.

Dal i dyfu wnaeth ein busnes manwerthu ac ar gyfer 2012 rhoddodd elw oddeutu £160,000. Heb os nac oni bai, mae ein siop newydd ar Lôn Rhosnesni wedi datblygu i fod yn siop ddodrefn lewyrchus efo’r elw yn llawer mwy na’r disgwyl. Wnaethon ni elwa hefyd ar ddatblygu ein hincwm o ailgylchu ac

mae hyn wedi codi o £50,000 yn 2011 I £64,000 yn 2012. Yn ystod y flwyddyn hon rydym hefyd wedi dechrau hawlio cymorth rhodd ar werthu dodrefna nwyddau trydanol a gafwyd yn rhodd ym mhob un o’n siopau. Rydym yn ddiolchgar am gymorth y gymuned a gyfrannodd eu dillad, trugareddau o bob maeth a dodrefn dieisiau, sy’n fodd i ni gadw stoc yn ein siopau elusennol. Rydym hefyd yn derbyn cymorth gan fusnesau fel Westbridge Furniture yn Nhreffynnon sy’n parhau i’n cefnogi.

Efo’r cymorth parhaol y byddwn yn ei gael gan gwmni canfasio allanol rydym wedi cynyddu ein haelodaeth o’r loteri ac wedi gwneud elw iach iawn o fwy na £400,000.

Wrth i ni ddechrau pob blwyddyn, rydym bob amser yn ymwybodol o faint yr her sydd o’n blaenau o ran codi arian. Fodd bynnag, bob blwyddyn rydym yn teimlo ar ben ein digon efo’r cymorth y byddwn yn ei gael gan ein cymuned. Ar ran ein cleifion, eu teuluoedd a’n gweithwyr, hoffwn ddiolch i chi am eich cymorth parhaol. Heb hyn fyddai’r Hosbis ddim yn bod.

Dywedodd ein cleifion . . .

"Does dim byd yn ormod o drafferth, gan y glanhawyr,

y gwirfoddolwyr, y cogyddion, y nyrsys neu’r

doctoriaid."

Hydref 2012

Welsh version.indd 11 05/04/2013 15:23

Page 14: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Heb ein llu o wirfoddolwyr parod bob amser fyddem ni ddim yn gallu cynnal yr Hosbis a chynnig yr amrywiaeth o wasanaethau a wnawn. Yn ystod 2012, mae m wy na 500 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu bron i 60,000 o oriau i gynorthwyo ein cleifion, eu teuluoedd a’n gweithwyr. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio ym mhob rhan o’r Hosbis, yn cynnwys ein huned cleifion mewnol, gofal dydd, y dderbynfa, helpu yn y gegin, cynorthwyo efo’r gwaith gweinyddol, gweithio yn ein siopau elusen, gofalu am ein gerddi hardd a helpu efo’r nifer anferthol o ddigwyddiadau a gweithgareddau i godi arian sydd gennym. Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth sy’n parhau.

Er nad yw nifer y gwirfoddolwyr wedi newid rhyw lawer rydym wedi gweld gwirfoddolwyr yn mynd

a dod yn ystod 2012. Un o fanteision niferus gwirfoddoli yw bod pobl yn gallu datblygu sgiliau newydd ac mae hyn yn aml yn dod â chyfleoedd i gael gwaith parhaol, tra bydd llawer o’n myfyrwyr ar raglen y bobl ifanc yn ymadael â ni wrth iddynt fynd i addysg bellach.

Mae ein Rhaglen Wirfoddoli Pobl Ifanc wedi parhau i ddod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod 2012. Rydym yn gallu cynnig i bobl Ifanc dros 18 oed y cyfle i wirfoddoli yn yr Hosbis gan roi’r cyfle iddynt weithio mewn amgylchedd gofal iechyd, sy’n atgyfnerthu eu CVau a cheisiadau i brifysgolion yn ogystal â datblygu sgiliau craidd eraill.

Yn ystod 2012 rydym wedi datblygu swyddogaethau gwirfoddoli eraill yn y gegin ac yn y gwaith gofal

. . . rhown groeso cynnes i bob un o’n gwirfoddolwyr

newydd. Mae eu brwdfrydedd yn heintus ac yn

bywiogi’r Hosbis o’r newydd.

The care during my stay has

been exceptional in every way

with lots of TLC (tender loving

care) compassion and humour

Patient, June 2011

Val ConnellyRheolwr Cyswllt y Gwirfoddolwyr

Rheolwr Cyswllt y Gwirfoddolwyr12Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012 ‸

Welsh version.indd 12 05/04/2013 15:23

Page 15: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Val ConnellyRheolwr Cyswllt y Gwirfoddolwyr

‘dydd er mwyn adlewyrchu anghenion yr Hosbis sy’n newid. Mae gwirfoddolwyr newydd yn dod ‰ sgiliau ychwanegol i Dŷ’r Eos a rhown groeso cynnes i bob un o’n gwirfoddolwyr newydd. Mae eu brwdfrydedd yn heintus ac yn bywiogi’r Hosbis o’r newydd.

Yn ystod 2012 wnaethon ni lansio rhaglen recriwtio gwirfoddolwyr newydd ac o ganlyniad i hynny cafwyd 220 o wirfoddolwyr newydd yn gweithio o leiaf un awr i’r Hosbis. Yr un pryd rydym wedi datblygu trefn newydd o hyfforddi a mentora ar gyfer gwirfoddolwyr newydd er mwyn rhoi cymorth i bob un. Yn ddiweddar, wnaethon ni lwyddo i gyflwyno system negesau testun yn ddull effeithlon o ran amser a chost o gyfathrebu efo gwirfoddolwyr sy’n cynorthwyo efo digwyddiadau codi arian yr Hosbis.

Hoffem ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr am roi mor hael o’u hamser i gefnogi Hosbis Tŷ’r Eos.

Ystadegau ar gyfer 2012 r o wirfoddolwyr wedi cyfrannu 59,821 o oriau i D’'r Eos.

r 52 o wirfoddolwyr wedi eu recriwtio ar Raglen Wirfoddoli'r Bobl Ifanc

r 220 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu oriau am y tro cyntaf.

Dywedodd ein cleifion . . .

"Mae’r gofal yn 100%. Lle hyfryd yn wir."

Chwefror 2012

Welsh version.indd 13 05/04/2013 15:23

Page 16: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Neil WilliamsRheolwr Cyllid

Rheolwr Cyllid14Hospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012

£Ffeithiau a ffigyrau r £6,800 bydd hwn yn talu am yr Hosbis

am 1 diwrnod

r ££406,000 wedi ei godi gan y Loteri

r 46% o gynnydd yn y swm y mae'r Loteri wedi ei godi

r 24% o gyfanswm yr incwm yn dod o'r Loteri

r 71 o ddyddiau o ofal am gleifion wedi eu hariannu drwy'r Loteri

r ££176,000 —’ y swm a godwyd gan siopau elusennol yr Hosbis

r 6% o gynnydd yn y gwerthu trwy siopau elusennol

r ££3.55 miliwn o gyfanswm incwm grw’p ar gyfer y flwyddyn

r 13% —’ swm yr incwm wedi ei dderbyn gan y Bwrdd Iechyd Lleol

r ££681,000 wedi ei godi trwy roddion

r 118 o ddyddiau o ofal am gleifion wedi eu hariannu trwy roddion

r ££242,000 wedi ei godi trwy ddigwyddiadau codi arian yr Hosbis

r 42 o ddyddiau o ofal am gleifion wedi eu hariannu trwy ddigwyddiadau codi arian

Neil Williams

Incwm 2012Amrywiol

2%Grantiau

Cyfyngedig2%

Loteri 24%

Gwerthiant Siopau/

Ailgylchu 16%

Buddsoddiadau1%

Digwyddiadau 7%

Cymunroddion12%

Rhoddion19%

Llywodraeth Cymru 4%

Bwrdd Iechyd Lleol

13%

Incwm Grwp£3.55 miliwn

Sut y defnyddir yr arian i ddarparu gofal cleifon a theuluoedd

Therapiau Cyflenwol

3%

Cymorth Cymdeithasol ac Emosiynol 5%

Meddygol 14%

Therapi Galwedigaethol

3%

Ffisiotherapi 7%

Uned Cleifion Mewnol

59%

Uned Dyddiol 7%

Addysg 2%

Welsh version.indd 14 05/04/2013 15:23

Page 17: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

Neil WilliamsRheolwr Cyllid

Neil WilliamsCymorth

Cymdeithasol ac Emosiynol 5%

Adroddiadau AriannolDatganiad Cyfunol y Gweithgareddau Cyllidol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant). Blwyddyn yn dod i ben 31 Rhagfyr 2012.

CronfeyddAnghyfynedig

Cronfeydd Cyfyngedig

Diwedd Blwyddyn31 Rhag

2012

Diwedd Blwyddyn 31 Rhag

2011

£ £ £ £ADNODDAU INCWMAdnoddau incwm o gronfeydd cynhyrchu

Incwm gwirfoddol — Grantiau a rhoddion 1,587,309 22,694 1,610,003 1,358,202Gweithgareddau cynhyrchu incwm 1,654,382 - 1,654,382 1,541,738Incwm o fuddsoddiadau 53,233 - 53,233 36,023

Adnoddau incwm o weithgareddau elusennol 172,550 63,798 236,348 259,169Adnoddau eraill a dderbyniwyd — elw o werthiant asedau sefydlog - - - 104,840CYFANSWM YR INCWM A DDERBYNIWYD 3,467,474 86,492 3,553,966 3,299,972

ADNODDAU GWARIANTCostau cynhyrchu incwm

Costau cynhyrchu arian yr Hosbis 391,915 3,067 394,982 391,849Gweithgareddau marchnata masnachol 979,093 1,924 981,017 867,750Costau rheoli buddsoddiadau 6,429 - 6,429 6,361

Gweithgareddau elusennol 1,931,431 143,230 2,074,661 2,028,246Costau trefnu 8,338 - 8,338 7,676Eraill (3,219) - (3,219) - CYFANSWM ADNODDAU GWARIANT 3,313,987 148,221 3,462,208 3,301,882Adnoddau net i memn / (talu allan) adnoddau cyn trosglwyddo ac elw a cholledion eraill 153,487 (61,729) 91,758 (1,910)Trosglwyddo rhwng cronfeydd 5,180 (5,180) - -Elw / (colledion) na sylweddolwyd ar asedau fuddsoddiad 95,021 - 95,021 (108,671)Colledion / elw a sylweddolwyd ar asedau fuddsoddiad (8,434) - (8,434) 41,873Symudiadau net y cronfeydd 245,254 (66,909) 178,345 (68,708)Cyfanswm y cronfeydd ar 1 Ionawr 2012 3,005,204 2,111,229 5,116,433 5,185,141CYFANSWM Y CRONFEYDD AR 31 RHAGFYR 2012 3,250,458 2,044,320 5,294,778 5,116,433

Welsh version.indd 15 05/04/2013 15:23

Page 18: Yr Adroddiad Blynyddol 2012

£

Financial ReportsAdroddiadau Ariannol

£Adroddiadau AriannolHospis Ty’r Eos | Adroddiad Blynyddol 2012

‸16

MANTOLEN CYFUNOL Ar 31 Rhagfyr 2012.

Grwp2012

Grwp 2011

£ £ASEDAU SEFYDLOGAsedau diriaethol 3,106,235 3,121,737Buddsoddiadau 1,163,539 1,048,699

4,269,774 4,170,436

ASEDAU CYFREDOLBuddsoddiadau - 152,426Stoc 24,720 23,831Dyledwyr 149,176 98,376Arian yn y banc ac mewn llaw 1,172,740 961,209

1,346,636 1,235,842

Credidwyr — symiau i’w talu o mewn blwyddyn (309,397) (277,345)ASEDAU CYFREDOL NET 1,037,239 958,497

Cyfanswm asedau llai dyledion cyfredol 5,307,013 5,128,933

Darpariaeth ar gyfer dyledion a chostau (12,235) (12,500)

ASEDAU NET 5,294,778 5,116,433

CRONFEYDDCronfeydd anghyfyngedig 3,250,458 3,005,204

Cronfeydd cyfyngedig 2,044,320 2,111,229

CYFANSWM ARIANNOL 5,294,778 5,116,433

English version.indd 1710/04/2013 15:34