2019-2020...2019/04/17 · bydd cylchoedd meithrin a ti a fi newydd yn derbyn grant cychwynnol...
TRANSCRIPT
Yr Wyddfa Pen y Fan
Mynydd Du
Pecyn Gwasanaethau
i Gylchoedd Meithrin 2019-2020
2
Gwasanaeth Mudiad Meithrin Mynydd Du Pen y Fan Yr Wyddfa
**Gwasanaethau Newydd** yn 2019/20
Cardiau thema newydd cynllun ‘Croesi’r Bont’ i atgyfnerthu a chyfoethogi iaith
Llyfr ymwelwyr *newydd* sy’n cydymffurfio gyda gofynion data newydd
Adnoddau Gŵyl Dewin a Doti ac ymgyrchoedd hybu a hyrwyddo eraill
Gwasanaeth atgoffa nad yw adroddiadau wedi eu derbyn gan y Comisiwn
Elusennau
x x x
Mynediad at linell gymorth gyfreithiol (DAS) a weinyddir trwy’r polisi yswiriant Diogelwch
Cyfreithiol Masnachol i gynghori ar nifer o faterion perthnasol i fywyd y ddarpariaeth x x x
Cefnogaeth Swyddog Cefnogi penodol fydd yn darparu cymorth, cyngor, arweiniad a
gwasanaeth bugeiliol. Disgwylir iddynt gynnal o leiaf 6 ymweliad y flwyddyn. x x x
Cefnogaeth Tîm o Swyddogion Cefnogi, Dirprwy Reolwr Talaith a Rheolwr Talaith yn yr ardal, sydd yn darparu cyngor arbenigol ar ystod o
bynciau. x x x
Cyfle i wneud cais i Gronfa Grant Mudiad Meithrin. x x x
Grant cychwynnol ar gyfer unrhyw gylch sy’n cael ei sefydlu o’r newydd. x x x
Cyfle i wneud cais am grant argyfwng pan fo cylch mewn trafferthion
ariannol (noder mai £500 yw’r uchafswm). x x x
Cyfrifoldeb cyfreithiol y pwyllgor rheoli gwirfoddol yw pob agwedd o reolaeth y Cylch Meithrin. Rydym yma i’ch cefnogi yn y gwaith hwn. Byddwn yn darparu cyngor, arweiniad ac anogaeth i chi. Weithiau, byddwn yn eich herio hefyd fel ffrind beirniadol. Mae’r Pecyn Gwasanaeth hwn yn amlinellu ein holl wasanaeth i chi fel Cylch Meithrin. Fel y gwelwch, mae tri lefel gwahanol y gallwch ddewis sef cynllun Mynydd Du, cynllun Pen y Fan, a chynllun yr Wyddfa. Mae’r gwahaniaethau rhwng y tri chynllun yn cael eu hegluro isod. Mae angen i chi fel pwyllgor benderfynu pa gynllun gwasanaeth yr ydych yn dymuno ei ddewis a rhoi gwybod i ni yn Mudiad Meithrin erbyn 12/07/2019.
Gwasanaethau Mudiad Meithrin i Gylchoedd Meithrin
Yr Wyddfa
Pen y Fan
Mynydd Du
3
Mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol drwy academi (yn lleol, rhanbarthol ac ar-lein).
x x x
Gwahoddiad i fynychu cynadleddau/diwrnodau hyfforddiant a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
x x x
Gwahoddiad i gymorthfeydd cyffredinol lleol ar bynciau megis adnoddau dynol, cyllid, rheoli cylch.
x x x
Llyfr Mawr Piws.
x x x
Cylchlythyron cynhwysfawr yn darparu gwybodaeth am ddatblygiadau yn y maes gofal plant, cyfleoedd codi arian, arfer dda.
x x x
Hybysebu gwasanaeth y cylch trwy’r adran ‘Chwilio am Gylch’, Gwefan Mudiad Meithrin, eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol y Mudiad yn ogystal â hyrwyddo cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cylch.
x x x
Cyflenwad eang o adnoddau marchnata a chyhoeddusrwydd.
x x x
Hysbysebu swyddi ar wefan Mudiad Meithrin.
x x x
Llyfrau Cofnodi Damweiniau, Digwyddiadau, cyfrifon a chofrestr presenoldeb plant.
x x x
Plac cydnabyddiaeth o fod yn aelod o Mudiad Meithrin a chyrhaeddiad ansawdd Efydd (a thystysgrif aelodaeth blynyddol).
x x x
Cyfle i wneud cais am safon Arian a safon Aur (cynllun ansawdd ‘Safonau Serennog’)
x x x
Llyfrau Bach Piws (e.e. Staffio, Cyllid, Estyn, Diogelu Plant).
x x x
Mynediad at fewnrwyd Mudiad Meithrin ac Adnoddau e-Ddysgu.
x x x
Gwasanaeth a hyfforddiant uwch-sglilio iaith.
x x x
Yswiriant Eiddo (diogelwch yn erbyn colli neu difrod i eiddo) a Cholli Refeniw.
x x x
Yswiriant Indemniad Cyhoeddus, Cyflogwyr, Cynnyrch.
x x x
Cyfle i ennill gwobr sy'n cydnabod llwyddiannau gwirfoddolwyr a chylchoedd o fewn
amrywiol gategorïau yn Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin.
x x x
Hyfforddiant a chymorth wrth gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Gwiriad Diogelu a Gwahardd (GDG) ‘uCheck’.
x x x
Adnoddau Dysgu Amrywiol ar ffurf copi caled (CD, pecynnau hyfforddiant achlysurol ayyb).
x x x
Gwasanaeth Mudiad Meithrin
Mynydd Du
Pen y Fan Yr Wyddfa
4
140 o sticeri ‘Helpwr Heddiw’ a Phyped llaw Dewin. x x x
Yswiriant Indemniad Ymddiriedolwyr Elusen (*i bob lefel aelodaeth eleni*). x x x
Gwasanaeth Cyfieithu a phrawf ddarllen (trwy e-bostio [email protected],
dyraniad blynyddol o eiriau).
1,000 o
eiriau
2,000 o
eiriau x
Mynediad i raffl i ennill Parti Piws ac ymweliad gan y Prif Weithredwr. x x
Aelodaeth i ‘Clwb 100’ am flwyddyn gyfan. x x
Sefydlu'r cylch fel 'Sefydliad Corfforedig Elusennol' (SCE, neu CIO). x
Cost am 1 flwyddyn (Medi 2019 - Awst 2020) £149 £219 £299
Cofrestru ‘Cylch Ti a Fi’ *Am ddim unwaith eto eleni* £0 £0 £0
Baner deniadol ‘Cylch Meithrin’ neu ‘Cylch Ti a Fi’ ar gyfer eich safle £30 £30 £30
Cyfanswm
£179
£249
£329
Gwasanaeth Mudiad Meithrin Mynydd Du Pen y Fan Yr Wyddfa
Camau Nesaf
Dewiswch gynllun Mynydd Du, Pen y Fan neu Yr Wyddfa.
Cofier fod modd cofrestru fel cylch cyfansawdd (sy’n cynnwys y Cylch Ti a Fi) heb gost ychwanegol.
Mae modd ychwanegu baner deniadol ‘Cylch Meithrin’, ‘Cylch Ti a Fi’ neu ‘Cylch Meithrin/Ti a Fi‘ (dyluniad isod) am £30 ychwanegol.
50cm x 90cm
5
Cefnogaeth Swyddog Cefnogi penodol
Bydd Swyddog Cefnogi penodol ar gael ar gyfer
eich cylch fydd yn darparu cymorth, cyngor,
arweiniad a gwasanaeth bugeiliol. Bydd y
Swyddog yn:
ymweld â Chylch Meithrin o leiaf unwaith
pob hanner tymor i arsylwi ar bob agwedd
o fywyd y cylch ac i adnabod anghenion,
heriau, pryderon ac arfer da.
ymweld â chylchoedd Ti a Fi/meithrinfeydd
dydd o leiaf unwaith pob tymor.
ymateb i ymholiadau cyffredinol ar y ffôn a
thrwy e-byst.
Mynychu cyfarfodydd achlysurol y
pwyllgorau i ddarparu hyfforddiant
anwytho ac annog rheolaeth dda o fewn y
cylch.
Bod yn rhan o broses penodi Arweinydd
staff y cylch a bod yn rhan o banel penodi
staff eraill pan fo angen.
Helpu fel rhan o dîm i baratoi at arolwg
(AGC/Estyn/Cynllun
Ansawdd y Mudiad -
Safonau Serennog).
Fel rhan o dîm,
datblygu ac ehangu
gwasanaethau
Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a
datblygu darpariaethau newydd ble fo
bylchau wedi ei hadnabod.
Cefnogaeth Tîm o Staff Taleithiol Bydd modd i’r cylch dderbyn gwasanaeth
estynedig gan Reolwr Talaith, Dirprwy
Reolwr Talaith a Swyddogion Cefnogi eraill
sy’n arbenigo ar y materion canlynol:
Diogelu Plant Marchnata / Cyhoeddusrwydd
Codi arian / Ymgeisio am nawdd
Hyfforddi a Datblygu Staff Cynhwysiant
Iaith / Dilyniant i Addysg Gymraeg
Ti a Fi Adnoddau Dynol / Cyflogaeth
Rheoli ac Arwain Ansawdd a Safon (AGC, Estyn,
Dechrau'n Deg, Safonau Serennog)
Cyfnod Sylfaen
Rheoli Busnes
Cyllid
Arbenigedd Tîm ‘Cymraeg i Blant’
Cefnogaeth gan staff Mudiad Meithrin
Esboniad pellach am y gwasanaethau a gynigir
5
6
Cymorth Ariannol
Cronfa Grant Mudiad Meithrin Bydd cyfle i bob cylch wneud cais am grant. Bydd ystod o symiau ariannol rhwng £100 a £5,000 ar gael i Gylchoedd Meithrin drwy gystadleuaeth agored.
Grant Cychwynnol Mudiad Meithrin Bydd Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi newydd yn derbyn grant cychwynnol (£200 i Gylch Meithrin a £100 i Gylch Ti a Fi). Pwrpas y grant yw cynorthwyo’r Cylch i brynu nwyddau ac adnoddau angenrheidiol ar gyfer sefydlu Cylch o’r newydd. Grant Argyfwng Mudiad Meithrin Gall unrhyw Gylch Meithrin sydd mewn argyfwng ariannol wneud cais am grant. Wrth gyflwyno’r cais bydd disgwyl i’r cylch gyflwyno cynlluniau byr a hir dymor sy’n cadarnhau cynlluniau sydd mewn lle i drawsnewid y sefyllfa ariannol. Grantiau unwaith yn unig yw’r grantiau hyn a £500 yw’r uchafswm posib.
Cynigion Arbennig i gylchoedd meithrin a rhieni gan y cwmniau
yma:
Y Gorau o Gymru; Atebol; Sain; Mwnci; Crefftau'r Bwthyn a Si-lwli
Manylion pellach i ddilyn yn eich pecynnau cadarnhau!
7
Hyfforddiant
Mae cyfleoedd i ymestyn sgiliau ar gael drwy
Academi.
Mae modd i’r Cylch fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi,
datblygu a dysgu drwy Academi.
Bydd y cyfleoedd dysgu sy'n cael eu cynnig o dan faner Academi yn cwmpasu pob agwedd o
waith y Mudiad - o faterion ieithyddol, addysgol a gofal i faterion gweinyddol a rheoli.
Bydd yr hyfforddiant hwn hefyd yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd amrywiol, gan gyfuno cyrsiau
traddodiadol wyneb yn wyneb â chyrsiau modern ar-lein, lle gall yr unigolyn ddysgu ar adeg sy'n
gyfleus iddo ef/hi.
Bydd modd rhannu gwybodaeth, arferion da a syniadau gyda holl gymuned Mudiad Meithrin
drwy’r fewnrwyd hefyd.
Cynadleddau/diwrnodau hyfforddiant
Gwahoddir y Cylchoedd Meithrin i fynychu diwrnodau hyfforddiant a fydd yn darparu gwybodaeth
amrywiol a pherthnasol am waith y blynyddoedd cynnar. Bydd gweithgareddau ymarferol a
phecynnau adnoddau ar gael.
Cymorthfeydd lleol
Bydd cyfle i’r Cylchoedd fynychu sesiynau lleol yn achlysurol i dderbyn cyngor ar amrywiaeth o
faterion, gan gynnwys rheoli staff, materion cyllidebol, rheoli cylch, datblygu/materion busnes.
Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol – mae cyfle i fyfyrwyr gymhwyso i dderbyn y cymhwyster Lefel 3
Gofal Plant perthnasol.
www.meithrin.cymru/lefel3/
www.meithrin.cymru/7
8
Gwybodaeth
Adnodd digidol ar lein - adnodd i bwyllgorau rheoli gwirfoddol.
Ewch i: www.meithrin.cymru/i-bwyllgorau
Ffolder Llyfr Mawr Piws
Dyma’r ffolder sy’n darparu
gwybodaeth gynhwysfawr ar bob
elfen o reoli Cylch Meithrin. Mae
gwybodaeth gyffredinol ar agweddau
o waith Cylch Meithrin ynghyd
ag atodiadau cynhwysfawr yn
darparu gwybodaeth ar y canlynol:
Cyfansoddiadau
Trefnu a chynnal pwyllgorau
Polisïau amrywiol sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a
rheoleiddiol
Ffurflenni a chanllawiau i rieni a staff y cylch ar elfennau iechyd a
diogelwch, adnoddau dynol a chaniatâd gan rieni
Pecyn penodi a chyflogi staff sy’n cynnwys disgrifiadau swyddi,
canllawiau cyfweld a chytundebau cyflogaeth
Gwybodaeth a thempledi ar gynnal asesiadau risg
Llyfrau Bach Piws
Cylchlythyr tymhorol —
Bydd Mudiad Meithrin yn danfon cylchlythyr tymhorol i
bob cylch fydd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol
e.e. datblygiadau yn y maes gofal plant, cyfleoedd codi
arian, rhannu arferion da.
8
9
Hysbysebu gwasanaeth y cylch
Mae holl ddarpariaethau gofal plant Mudiad
Meithrin yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan
trwy ddefnyddio’r dudalen ‘chwilio am ofal
plant’. Mae rhieni a darpar-rieni yn gallu chwilio
am wasanaeth ofal plant trwy ddefnyddio map
rhyngweithiol. Mae manylion y cylch yn cael ei
ddarparu i’r rhieni sy’n disgrifio’r gwasanaeth,
amseroedd agor a manylion cyswllt. Mae hwn
yn gyfle gwych i farchnata a hyrwyddo
gwasanaeth y cylch. Rhaid i’r cylch ein hysbysu
o unrhyw newid i’ch gwasanaeth i ni
ddiweddaru’r wefan.
Adnoddau marchnata a chyhoeddusrwydd
Mae cyflenwad eang o daflenni marchnata a
chyhoeddusrwydd ar gael
un ai gan y Swyddogion
Cefnogi lleol, ar y
fewnrwyd, neu trwy
gysylltu ag adran
farchnata Mudiad
Meithrin. Gellir hefyd
farchnata unrhyw ddigwyddiadau yn y
cylchoedd trwy anfon gwybodaeth i’r adran
farchnata fel bod modd eu rhoi ar gyfrifon
Twitter, Facebook a gwefan y Mudiad.
Hysbysebu Swyddi
Mae cyfle i hysbysebu unrhyw swydd wag ar
safle swyddi Mudiad Meithrin. Hysbysebwyd
250 o swyddi llynedd a chafwyd 79,329 o
ymwelwyr i’r wefan.
Marchnata/Cyhoeddusrwydd
Adnoddau
Llyfrau Cofnodi Damweiniau, presenoldeb a chyfrifon Bydd copi caled o Lyfr Damweiniau/
Digwyddiadau, Llyfr Ymwelwyr, Llyfr
Cyfrifon a Chofrestr yn cael ei ddarparu i
bob cylch.
Plac yn cadarnhau aelodaeth gyda
Mudiad Meithrin (ynghyd â thystysgrif)
Bydd plac safonol yn cadarnhau bod y cylch
yn aelod o’r Mudiad ac yn cydymffurfio â’r
safonau disgwyliedig. Wrth gydymffurfio â’r
safonau disgwyliedig mae pob cylch yn
derbyn safon ansawdd efydd, bydd cyfle i
ymgeisio am safon Seren Arian a Seren Aur
o dan gynllun ansawdd y Mudiad sef
‘Safonau Serennog’. 9
10
E-lyfrgell Adnoddau Dysgu - Mae mynediad at filoedd o adnoddau
amrywiol drwy fewnrwyd Mudiad Meithrin.
Siop Dewin a Doti - Mae siop Dewin a Doti yn gwerthu nwyddau unigryw’r
Mudiad ac ar gael trwy’r wefan www.meithrin.cymru/siop.
Adnoddau Dysgu Amrywiol - Mae Mudiad Meithrin yn cynhyrchu
amrywiaeth eang o adnoddau dysgu yn benodol at ddefnydd y cylchoedd.
Byddant ar gael i’r cylch ar ffurf electroneg neu gopi caled yn ddibynnol ar lefel y gwasanaeth.
Y Fewnrwyd - Dyma adnodd cynhwysfawr tu hwnt sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i staff a
phwyllgorau’r cylchoedd gan gynnwys dogfennau a gwybodaeth diogelwch data, rheoli staff,
iechyd a diogelwch, iaith, marchnata ayyb.
Strwythur Cyfreithiol
Gwasanaeth atgoffa Mae’n ofynnol i bob cylch sydd ag incwm o £5,000 neu fwy gofrestru fel elusen gyda’r Comisiwn
Elusennol. Mae’n gyfrifoldeb ar bob elusen i hysbysu’r Comisiwn Elusennau am eu hincwm a'u
gwariant yn brydlon bob blwyddyn (erbyn diwedd mis Ionawr i’r rhan fwyaf o Gylchoedd
Meithrin). Gall effeithio ar enw da’r elusen, rhwystro ceisiadau grant, dylanwadu ar gytundebau a
thendrau ayyb os nad yw Cylch yn cydymffurfio. Byddwn yn danfon nodyn atgoffa ym Mis
Chwefror (trwy e-bost) i unrhyw Gylch Meithrin sydd heb gyflawni’i dyletswyddau adrodd
ariannol i’r Comisiwn Elusennau.
Sefydlu'r cylch fel 'Sefydliad Corfforedig Elusennol' Mae Mudiad Meithrin yn argymell bod pob cylch yn sefydlu ei hunan fel Sefydliad Corfforedig
Elusennol, sydd yn wahanol i sefydlu fel elusen arferol. Mae’r strwythur hwn yn rhoi mwy o
ddiogelwch i ymddiriedolwyr ac aelodau Pwyllgorau, yn enwedig pe byddai’r cylch yn gorfod cau
ac os byddai’r cylch yn fethdalwr. Mae’r Mudiad yn cynnig gwasanaeth i sefydlu’r cylch o dan y
drefn yma gyda’r Comisiwn Elusennol. Bydd hyn yn cynnwys:
pecyn sy’n cynnwys model o gyfansoddiad a’r ffurflenni hanfodol i’w cwblhau a’u harwyddo gan y Pwyllgor (bydd adran weinyddol Mudiad Meithrin yn mewnbynnu’r cais cychwynnol ar ran y cylch)
pecyn gwybodaeth sy’n darparu esboniad manwl o’r strwythur a sut i gydymffurfio i weithredu yn gywir
hyfforddiant anwytho i’r Pwyllgor yn esbonio’r strwythur, y diogelwch mae’n ei gynnig a sut i gydymffurfio â’r gofynion blynyddol (e.e. cyflwyno cyfrifon, awdit ar gyfrifon)
Gwasanaeth Yr Wyddfa yn unig
11
Yswiriant
Yswiriant Indemniad Cyflogwr
Diogelwch yn erbyn anaf i gyflogeion gan
gynnwys gwirfoddolwyr, hyfforddeion ayyb a/
neu niwed i’w heiddo. Mae terfyn o £10,000,000
ar gyfer unrhyw un digwyddiad.
Yswiriant Indemniad Cyhoeddus
Diogelwch yn erbyn anaf i aelod o’r cyhoedd
(unrhyw un nad yw’n gyflogai) a/neu niwed i’w
heiddo. Mae terfyn o £10,000,000 ar gyfer un-
rhyw un digwyddiad a thaliad (excess) o £100
ar gyfer pob colled.
Yswiriant Indemniad Ymddiriedolwyr Elusen Indemniad yn erbyn colled ariannol o ganlyniad i weithred anghyfiawn ar ran ymddiriedolwr, llywodraethwr neu reolwr. Mae hyn yn cynnwys costau amddiffyniad i’r endid/ Mae terfyn in-demniad o £100,000 ar gyfer unrhyw un dig-wyddiad mewn unrhyw un cyfnod yswirio. Mae taliad (excess) o £1,000.
Yswiriant Cynnyrch
Diogelwch yn erbyn anaf i’r cyhoedd (unrhyw un nad yw’n gyflogai) a/neu niwed i’w heiddo yn deillio o gynnyrch a gyflenwyd (e.e gwenwyn bwyd o frechdan mewn bore coffi). Mae terfyn o £10,000,000 ar gyfer unrhyw un digwyddiad mewn unrhyw un cyfnod yswirio. Mae taliad (excess) o £100 ar gyfer pob colled.
Yswiriant Diogelwch Cyfreithiol Masnachol Costau cyfreithiol hyd at £250,000 wrth ddelio gydag anghydfod cytundeb, anghydfod cyflogaeth ac ymchwiliadau HMRC, gan gynnwys ffioedd proffesiynol. Mynediad at linellau cymorth cyfreithiol amrywiol trwy gwmni DAS. Os oes problem adnoddau dynol cyfeiriwch y peth at y llinell gymorth.
Yswiriant Colli Refeniw Indemniad ar gyfer colled neu leihad mewn incwm o ganlyniad i golled niwed i eiddo e.e. os oes tân neu lifogydd. Does dim taliad (excess).
Yswiriant Anonestrwydd Gweithwyr Indemniad am golledion eiddo, gan gynnwys arian, a achoswyd yn uniongyrchol o ganlyniad i weithredoedd o dwyll neu anonestrwydd gan unrhyw aelod o staff/aelod o’r pwyllgor. Terfyn yr indemniad yw £25,000. Mae taliad (excess) o £500 ar gyfer pob colled. Yswiriant Eiddo (Taliad ‘excess’ : £100)
Diogelwch ar gyfer niwed i eiddo cyffredinol / addasiadau tenant: £30,000 swm yswirio-adeilad yn unig
Adeiladau dros dro: £5,000
Nwyddau cyfrifiadurol: £2,000 swm yswirio-adeilad yn unig
Cyfrifiadur symudol (lap-top): £700 swm yswirio (diogelwch mewn unrhyw fan yn y DU)
Arian: tu allan i oriau busnes arferol mewn sêff wedi ei gloi- £2,500 tu allan i oriau busnes arferol ddim mewn sêff wedi ei gloi - £500
Gwydr: diderfyn
Cynhwysydd storio: £3,000 gan gynnwys nwyddau wedi ei storio mewn cynhwysydd wedi ei gloi
11
12
Arall Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin
Bydd pob cylch yn cael cyfle i gael ei enwebu am wobr sy'n
cydnabod llwyddiannau staff a gwirfoddolwyr cylchoedd o fewn
amrywiol gategorïau. Bydd gwahoddiad i’r rhai fydd wedi
cyrraedd y 3 uchaf i fynychu’r Seremoni Gwobrau flynyddol i
dderbyn gwobr arbennig a chydnabyddiaeth.
Yn y Seremoni hon hefyd bydd cyfle i anrhegu staff a
gwirfoddolwyr sydd wedi cyflawni 20 mlynedd o wasanaeth i’r
Mudiad, ynghyd â chyhoeddi enillwyr y prif grantiau.
Gwiriadau Diogelu a Gwahardd (DBS, CRB gynt)
Mae Mudiad Meithrin eisoes wedi dod i gytundeb gyda
chwmni ‘uCheck’ i brosesu gwiriadau GDG y cylchoedd
(manylion llawn yn y daflen wybodaeth ynghlwm). Trwy’r
cytundeb yma mae’r ffi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth
wedi’i hepgor i bob Cylch Meithrin. Fe fydd eich Swyddog
Cefnogi lleol ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth yn ôl
yr arfer ar gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac fe fydd y
swyddog cefnogi gweinyddiaeth ar gyfer y dalaith ar gael
i gynnig hyfforddiant lleol ar sut i gynnal y gwiriadau.
Mae’n broses syml a chyflym i gofrestru, trwy lenwi
ffurflen fer (gweler gyferbyn) ac mae modd cynnal
gwiriadau ar liniadur neu dabled:
12