crynodeb o waith mudiad meithrin 4 5 10 · 4. ein darpariaethau mae cylchoedd meithrin,...
TRANSCRIPT
Crynodeb o waith Mudiad Meithrin
Ein prif amcanion a thargedau
Trosolwg o’n gwaith
Gair gan y Cadeirydd
Gan gan y Prif Weithredwr
Dewiniaith ar waith
Crynodeb a datganiad ariannol / archwilwyr
Aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr / Diolch
3
4
5
10
11
16
18
22
“Ein braint a’n nod yw hwyluso gofal ac addysg o safon yn Gymraeg i blant bach o bob
cefndir ym mhob cwr o’r wlad. Gwnawn hyn trwy ehangu’n gwasanaethau a
chefnogi’n aelodau fel rhan o’r ymdrech genedlaethol i drechu tlodi, darparu cyfleoedd
i bob plentyn yng Nghymru fanteisio ar brofiadau blynyddoedd cynnar cyfrwng
Cymraeg ac anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg.”
Yr her fawr sy’n wynebu Mudiad Meithrin yw goresgyn y rhwystrau i sicrhau gofal plant
ac addysg o safon yn Gymraeg ledled y genedl drwy:
gael gweithlu cymwys, proffesiynol a gofalus sy’n datblygu’n barhaus ac sydd â’r gallu i weithio ar lawr y cylch yn Gymraeg;
gefnogi darpariaethau (yn gylchoedd a fel arall) sy’n gallu cynnal eu gwaith a pharhau i gynnig ac ehangu gwasanaethau fforddiadwy i bob plentyn lleol drwy fod â chynllun busnes cryf mewn lle;
wneud yn siŵr fod pob teulu ym mhob cymuned yn deall manteision gofal plant ac addysg Gymraeg waeth beth fo’u hiaith, cefndir a phrofiad bywyd er mwyn cynyddu cyfraddau dilyniant i addysg Gymraeg;
weithio gyda phwyllgorau lleol o wirfoddolwyr i’w cefnogi a’u cynnal;
arwain ein haelodau i ymateb i ddatblygiadau megis y Cynnig Gofal Plant, y fframwaith arolygu a’r Strategaeth Iaith - ‘Cymraeg 2050’
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
“Ble bynnag mae ‘na blant, fe ddylai’r Mudiad – ac felly’r Gymraeg – fod yno”
2
Mudiad Meithrin: cymdeithas wirfoddol
genedlaethol o Gylchoedd Meithrin,
Cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol, sesiynau
meithrin a meithrinfeydd dydd Cymraeg
sy’n darparu profiadau blynyddoedd
cynnar, gwasanaeth gofal plant ac addysg
Cyfnod Sylfaen o ansawdd uchel
Cymraeg i Blant: cynllun i sicrhau
gweithgaredd gydlynus ym maes y
Blynyddoedd Cynnar gan sicrhau taith iaith
y plentyn o’r crud trwy’r Cylch Ti a Fi
ymlaen i’r Cylch Meithrin ac ymlaen i
addysg Gymraeg gan ddarparu
cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i
deuluoedd am fanteision addysg Gymraeg
trwy weithgaredd hwyliog fel tylino ac ioga
babi. Gwneir hyn oll er mwyn cynyddu
niferoedd siaradwyr Cymraeg a chefnogi
rhieni/gofalwyr .
Hyfforddiant: cynllun hyfforddiant Mudiad
Meithrin sy’n hyfforddi 100 o ddysgwyr y
flwyddyn i Diploma Lefel 3 Gofal, Dysgu a
Datblygiad Plant (gyda dilyswyr o’r enw
‘CACHE’) ac sy’n cynnal amrywiol gyrsiau
Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant mewn
ysgolion uwchradd trwy ‘Cam wrth Gam’
er mwyn cymhwyso i weithio yn y
blynyddoedd cynnar.
Academi: cartref i holl waith
hyfforddi, datblygu a dysgu Mudiad
Meithrin sy’n darparu cyfleoedd i
staff a gwirfoddolwyr a’n holl
ddarpariaethau ddatblygu ystod
eang o sgiliau a phrofiadau.
Ffeithiau allweddol:
Crynodeb o waith Mudiad Meithrin
257
5,423
7,925
Nifer o blant yn ein
Cylchoedd Ti a Fi
pob wythnos
1,900 o oedolion
a 2,035 o blant.
112
Amcangyfrif oedolion a plant unigryw yn sesiynau Cymraeg i Blant 2016/17
Nifer o ddilynwyr
Facebook a Trydar
12,563
Nifer o staff (llawn
a rhan amser)
Nifer Cylchoedd Meithrin sy’n
darparu ystod o wasanaethau
gan gynnwys clwb brecwast,
cinio, gofal cofleidiol a chlwb ar
ôl ysgol
2 Cylch Meithrin
12 Cylch Ti a Fi
Nifer cylchoedd
newydd (Meithrin a Ti
a Fi)
Nifer o blant pob
wythnos (Cylchoedd Meithrin
a meithrinfeydd)
3
67%
Canran o Gylchoedd
yn darparu’r Cyfnod
Sylfaen
23.4%
Canran o’r Cylchoedd sy’n
darparu drwy ‘Dechrau’n
Deg’
186
Nifer o ymgeiswyr sydd
wedi eu cymhwyso drwy
Cam wrth Gam 2016/17
Mae’n prif amcanion a thargedau blynyddol yn ymwneud â
sawl maes gweithgaredd a pholisi amrywiol sydd i gyd, yn
y pendraw, yn arwain at greu’r amgylchiadau sy’n galluogi
bodolaeth darpariaethau cynaliadwy, croesawgar a
chynnes (sef y cylchoedd a’r meithrinfeydd). Yn yr un modd,
anelwn at annog sector blynyddoedd cynnar cyfrwng
Cymraeg ffyniannus a chryf ble mae lles a diogelwch y
plentyn yn sylfaenol (yn unol â gweledigaeth Confensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant).
gynnal a chodi sgiliau’r gweithlu a datblygu rhaglen o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus trwy ‘Academi’
hybu ac annog gofal plant fel gyrfa
gyd-weithio gyda phartneriaid i ehangu mynediad a darpariaeth gofal plant a chwarae
ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfathrebu gyda rhieni, teuluoedd a’r gymuned am ofal plant ac addysg Gymraeg
gynrychioli’r sector gofal plant ac addysg gyda phartneriaid lleol, sirol a chenedlaethol
Gwnawn hyn trwy:
ddarparu cefnogaeth, arweiniad a chymorth i’n darpariaethau ar lawr gwlad ym mhob agwedd o’u gwaith
sefydlu darpariaethau o’r newydd er mwyn ehangu cyfleon gofal plant cyfrwng Cymraeg
sicrhau cymhwyso 100 o ymarferwyr blynyddoedd cynnar i weithredu’r Cyfnod Sylfaen ar draws y sector
gyfrannu i drafodaethau am ofal plant ac addysg Gymraeg yn lleol gan adnabod bylchau, cynllunio’n strategol a hyrwyddo addysg Gymraeg
gynorthwyo’n darpariaethau i gofrestru, godi ansawdd a dod yn “gylch o safon seren arian neu aur” (trwy gynllun ansawdd ‘Safonau Serennog’)
sicrhau fod pob plentyn ac oedolyn - waeth beth fo’u cefndir neu eu anghenion - yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o’n gwaith (sef cynhwysiant yng ngwir ystyr y gair)
4
Ein darpariaethau
Mae Cylchoedd Meithrin, meithrinfeydd dydd, Cylchoedd Ti a Fi a chlybiau ar ôl ysgol yn rhai esiamplau yn unig o’r mathau o ddarpariaethau sy’n aelodau o Mudiad Meithrin. Maent wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y wlad. Mae darpariaethau fel Cylchoedd Meithrin yn edrych i ymateb i alw rhieni a theuluoedd am ofal plant hyblyg a hwylus – i gynyddu oriau, i gynnig gofal dros ginio, i gael gofal ar ôl ysgol, i hwyluso trefniadau trafnidiaeth addas ac i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Mae bron i 67% yn ddarparwyr addysg y Cyfnod Sylfaen ac felly’n ddarostyngedig i arolygon ‘Estyn’ ac hefyd yn ddarostyngedig i AGGCC yn yr un modd. Mae’r ddau gorff rheoleiddiol yma felly’n gwarantu gwaelodlin safon ac ansawdd pob cylch. Yn yr un modd, mae cymarebau staff (sef nifer y staff i bob plentyn) yn uwch na’r gymhareb ofynnol mewn ysgolion. Mae nifer cynyddol o Gylchoedd Meithrin yn rhan o gynllun trechu tlodi Llywodraeth Cymru - Dechrau’n Deg - ac felly’n gwneud defnydd dwys o gynlluniau iaith a chwarae, Makaton, Elklan ayyb.
5
Ein poblCymuned o bobl yw Mudiad Meithrin gyda phwyllgorau
rheoli gwirfoddol, staff llawr gwlad, staff cenedlaethol,
dysgwyr ‘Cam wrth Gam’, aelodau pwyllgorau a
chymeriadau Dewin a Doti (wrth gwrs!) oll yn chwarae’u
rhan. Mae’n gymuned niferus o 3,500 a mwy. Anelwn at
gynnig amodau gwaith teg a chyson i’n gweithlu
cenedlaethol ac anwytho a chefnogi pob un sy’n
gwirfoddoli’n enw’r Mudiad. Drwy ‘Academi’, sef cartref holl
waith hyfforddi, datblygu a dysgu Mudiad Meithrin, cynigiwn
gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weithlu a
gwirfoddolwyr y Mudiad a’i gylchoedd a manteisiwn ar
gynlluniau hyfforddi amrywiol gan gynnwys hyfforddiant yn
lleol, yn rhanbarthol ac ar-lein. Cyfathrebwn gyda staff a
phwyllgorau ein darpariaethau drwy amryfal ddulliau:
cylchlythyr tymhorol a llythyrau, e-fwletinau, Twitter/
Facebook, y wefan a’r fewnrwyd a thrwy ymweliadau a
chyfathrebu cyson gan Swyddogion Cefnogi (sef yr aelodau
staff rheng flaen yn nhrefniadaeth Mudiad Meithrin). Er
mwyn gwobrwyo a dathlu arfer da, cydnabyddwn
lwyddiannau’n pobl (yn ein darpariaethau) drwy gynnal
Seremoni Gwobrau.
6
Ein hunaniaeth
Unwaith eto, mae hon wedi bod yn flwyddyn fyrlymus a phrysur iawn o ran marchnata, cyhoeddusrwydd a chodi arian gan fod y Mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 45 oed – ac fe wnaed hynny mewn steil trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau hwyliog yn ystod y flwyddyn! I ddechrau ar y dathliadau fe gyfansoddwyd ‘anthem’ newydd i’r Mudiad gan Carys John o’r enw ‘Un Teulu Mawr’, ac fe ganwyd hon i gloi pob sioe yn ystod Taith Gŵyl Dewin a Doti a gynhaliwyd gan Carys ar hyd a lled Cymru yn ystod mis Mehefin. Thema Gŵyl Dewin a Doti yn 2016 oedd ‘Pobl Sy’n ein Helpu’, ac fe gyfansoddwyd cd o ganeuon newydd a phecyn adnoddau i gyd-fynd â’r thema gan Carys John i’n holl ddarpariaethau.
Ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni fe lansiwyd agor enwebiadau i Seremoni Gwobrau gyntaf y Mudiad a gynhaliwyd fis Hydref yn Aberystwyth gyda’r cyflwynydd Arfon Haines Davies yn arwain y seremoni. Cafwyd bron i 200 o enwebiadau ar gyfer y naw categori, a gwahoddwyd y 3 uchaf o bob categori i ddod i’r seremoni ynghyd â’u cydweithwyr, teuluoedd a gwirfoddolwyr. Bu’n llwyddiant mawr gyda phawb yn gwerthfawrogi’r seremoni sy’n rhoi bri i’r gwaith gwych a wneir yn ein darpariaethau ar lawr gwlad.
7
8
Heb os un o ddigwyddiadau marchnata mwyaf y flwyddyn oedd ein hymgais i geisio torri record y byd trwy gynnal Parti Pyjamas Mwyaf y Byd ar 9fed Mai 2017. Dechreuwyd hyrwyddo’r syniad yn y Gynhadledd Staff a’r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol fis Hydref 2016, gan nodi tristwch Dewin nad oedd ganddo byjamas i fynd i’r parti.
Trwy ein partneriaeth ag Aykroyds (ffatri pyjamas yn y Bala) aed ati i gynnal cystadleuaeth i blant y cylchoedd ddylunio pyjamas addas i Dewin. Daeth Bethan o Gylch Meithrin Treuddyn y Fflint yn fuddugol, ac fe wnaeth gwmni Aykroyds bâr o byjamas yn arbennig i Dewin a chafodd Bethan bâr o’r rhai unigryw yma iddi hi ei hun hefyd. Cafwyd cystadleuaeth llunio stori ‘Dewin a Doti ar Daith’ i’r cylchgrawn WCW ar y thema pyjamas, gyda’r cylch buddugol, sef Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, yn gweld dyluniad o’r stori yn WCW yn ogystal ag yng nghylchgrawn Gŵyl Dewin a Doti 2017 a ddosbarthwyd i holl blant ein darpariaethau.
Ymysg digwyddiadau eraill i gyd-fynd â’r Parti Pyjamas cafwyd cystadleuaeth llunio cerdd ar y thema i fyfyrwyr Prifysgolion Cymru, cafwyd cerdd gan Anni Llŷn – Bardd Plant Cymru, cafwyd cystadleuaeth gorffen limrig ar raglen Bore Cothi, nifer o gyfweliadau ar wahanol raglenni radio a theledu gan gynnwys rhaglen Al Huws, Tomo, Bore Cothi, rhaglenni Cyw, TAG, Heno a Phnawn Da. Roedd angen 2,005 i dorri record y byd – chwalwyd y record yn deilchion wrth i 8,650 o bobl ledled Cymru gymryd rhan ym Mharti Pyjamas Mwyaf y Byd Mudiad Meithrin!
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Ein partneriaid
Oherwydd natur aml-weddog ein gwaith, a’n statws fel mudiad gwirfoddol sy’n darparu gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid fel y canlynol:
Llywodraeth Cymru: adrannau ‘Uned y Gymraeg mewn Addysg’ / Plant a Theuluoedd (Trechu Tlodi) – Dechrau’n Deg, Cymunedau’n Gyntaf, Hyfforddiant a Chymhwyso / y Cyfnod Sylfaen / Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mentrau Iaith Cymru / MIC, S4C, BBC Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Cymdeithas y Cyfieithwyr, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Dathlu’r Gymraeg, RhAG, Llenyddiaeth Cymru, WCW, Cwmni’r Frân Wen, Sioe Frenhinol Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Clybiau Plant Cymru (CPCKW), Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (Wales PPA), NDNA Cymru a PACEY Cymru;
Awdurdodau Lleol, AGGCC, Estyn a rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar ‘AWARE’;
Cyngor Gofal Cymru, Cyngor Gwirfoddoli Cymru (WCVA), Comisiynydd Plant, Comisiynydd y Gymraeg; Anabledd Dysgu Cymru
Corff dilysu ‘CACHE’, Colegau Cymru, Colegau Addysg Bellach, ysgolion cynradd ac uwchradd.
Yn ei hanfod, rydym yn awyddus i ehangu cwmpawd ein gwaith ac felly’n falch o gydweithio gydag ystod o sefydliadau a grwpiau amrywiol yn lleol ac yn genedlaethol.
9
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Gair gan y Cadeirydd
Dr Rhodri Llwyd Morgan
Hwn yw fy Adroddiad Blynyddol cyntaf fel Cadeirydd. Carwn gydnabod cyfraniad arbennig Rhiannon Lloyd yn y Gadair dros y cyfnod diwethaf a diolch iddi am eu harweiniad sicr a’i chefnogaeth barod wrth drosglwyddo’r dyletswyddau. Rwy’n ddiolchgar hefyd fod gennym ymhlith aelodau’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ystod effeithiol ac amrywiol dros ben o brofiadau, sgiliau ac arbenigeddau. Maent yn ein galluogi fel Bwrdd i gefnogi ein Prif Weithredwr Gwenllian a'r tîm yn eu gwaith ac i gynnal gweledigaeth y Mudiad drwy’r cyfnod nesaf gan adlewyrchu, fel sydd raid, ar yr anghenion lleol a chenedlaethol fel ei gilydd.
Hoffwn hefyd dalu terynged i gyfraniad eithriadol staff canolog y Mudiad Meithrin yn ystod y flwyddyn. Yn wyneb heriau sylweddol maent wedi parhau i gyflawni’n eithriadol a gallwn ymfalchïo fel Bwrdd yn y llwyddiannau niferus. Mae’n braf nodi y ceid cryn lwyddiant eto eleni yn cynnal a hyrwyddo safonau uchel y darpariaethau amrywiol ar lawr gwlad ochr yn ochr â’r gallu i ddatblygu cynlluniau newydd ac i arloesi.
Wrth gwrs, ar ben y gwaith mawr hwn rydym yn awchu fel Mudiad i chwarae ein rhan wrth gyrchu at y nod o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Mae cyflawniadau’r flwyddyn a aeth heibio yn ein gosod mewn sefyllfa dda i ymgymryd â’r her honno gyda hyder.
Rhodri
10
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Gair gan y Prif Weithredwr Dr Gwenllian Lansdown Davies
Mae gweithgaredd Mudiad Meithrin yn galeidosgop lliwgar, cyfnewidiol ac amrywiol o weithgareddau gwahanol sydd oll yn cyfrannu at wireddu’n prif amcanion a chefnogi’n haelodau. Braint yw cael bod wrth y llyw!
Bu hon yn flwyddyn o sefydlogi’n sefyllfa ariannol, o gryfhau a
dwysau y gwasanaethau a gynigir gennym i gylchoedd ac o
ddylanwadu ar benderfyniadau polisi er mwyn cefnogi’r
weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a’r
Cynnig Gofal Plant. Dyma drosolwg o weithgaredd mewn
gwahanol feysydd:
Cefnogi’n haelodau (y cylchoedd a’r meithrinfeydd)
Cynnig mwy o wasanaethau yn y Pecyn Gwasanaeth blynyddol i gylchoedd e.e. mynediad at linell gymorth arbenigol Adnoddau Dynol, cymorth ac arweiniad ar faterion cyfansoddiadol a chofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)
Parhau gyda chyfundrefn o ddosrannu grantiau’n seiliedig ar annog cylchoedd i oresgyn rhwystrau i gofrestru gydag AGGCC, i arloesi neu i ehangu gwasanaeth
Unioni arlwy hyfforddiant ‘Academi’ yn sgil adborth cylchoedd fel fod cysondeb gynyddol yn y cyrsiau a gynigir ym mhob rhan o’r wlad
11
Prif-ffrydio hyfforddiant a datblygu
Lansio canllaw newydd arfer da i arweinwyr Cylchoedd Ti a Fi gyda nifer o sesiynau hyfforddiant taleithiol
Hyfforddiant perthnasol i staff a gwirfoddolwyr llawr gwlad ledled Cymru dan fantell ‘Academi’ gyda phrosbectws tymhorol, darpariaeth ar-lein a hyfforddiant wyneb yn wyneb
Staff adran Adnoddau Dynol Mudiad Meithrin yn cyrraedd y 3 uchaf yng ngwobrau Adnoddau Dynol cenedlaethol Cymru
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
12
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Codi ansawdd a safon y ddarpariaeth llawr gwlad
Dyfarnu sêl Seren Arian gyntaf i Gylch Meithrin (yn sgil mabwysiadu cynllun ansawdd newydd ‘Safonau Serennog’)
84% o Gylchoedd Meithrin wedi derbyn arolwg Estyn ‘Da’ ar draws Cymru
Symud at gyfundrefn gwiriadau diogelwch (GDG) gyda chynllun uCheck gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd a safon i Gylchoedd Meithrin
Nifer o adrannau Blynyddoedd Cynnar, Dechrau’n Deg ac Addysg yn y Cynghorau Sir yn cydnabod ansawdd ein cynllun ‘Safonau Serennog’ ac yn mynnu bod Cylchoedd Meithrin sydd yn ddarparwyr addysg yn ennill y sêl Seren Arian
Cylch Meithrin Bodffordd, Ynys Môn, yn cael sylw yn Adroddiad Blynyddol ‘Estyn’ am arfer da
Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar
Cynnal sioeau Gŵyl Dewin a Doti dros Gymru gyfan yng nghwmni Carys John o gwmni poblogaidd ‘Ffa-La-La!’ dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mehefin
Cynnal Parti Pyjamas Mwyaf y Byd
Cydweithio i gynnal Seremoni Gwobrau gyntaf y Mudiad ynghyd â Chinio Dathlu ac Ocsiwn Addewidion – diwrnod byrlymus a llwyddiannus iawn a oedd yn benllanw wythnosau lawer o waith tîm. Braf iawn oedd gweld ymateb y staff a gwirfoddolwyr y cylchoedd
13
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Datblygu llawr gwlad (esiamplau o’n gwaith)
Rhoi cyflwyniad i ‘Fforwm Strategol y Blynyddoedd Cynnar’ yng Nghyngor Merthyr Tudful ar fanteision dwyieithrwydd a thrafod yr iaith yng nghyd-destun strategaeth y Sir ar gyfer y blynyddoedd cynnar a pholisïau’r Llywodraeth
4 Cyngor Sir yn nhalaith y gogledd ddwyrain / canolbarth wedi gweld gwerth yn y cynllun trochi iaith ‘Croesi’r Bont’ ac yn ariannu swyddog iaith. Y cynllun wedi ei ganmol gan Estyn mewn sawl arolwg
Bwrlwm wedi codi o fewn Cylchoedd Ti a Fi gyda 7 Cylch Ti a Fi newydd wedi eu sefydlu gyda 2 arall ddechrau Mai 2017 yn y gogledd ddwyrain
Agor Cylch Meithrin newydd yn ardal Bro Dysynni, Gwynedd
Cyd-weithio â Chyngor Ynys Môn i sicrhau lle i Gylchoedd Meithrin mewn dwy ysgol newydd
Derbyn cyllid gan Gynghorau Sir y de orllewin / canolbarth ar gyfer prosiectau penodol i gefnogi Cylchoedd Meithrin yn y dalaith
Ennill tendr Dechrau Deg Ceredigion sef, rheoli tri gwasanaeth: Cylchoedd Meithrin Aberteifi, Ffrindiau Bach Tegryn a Ffrindiau Bach yr Eos
Ennill tendr Cynllun Cyfeirio Sir Ceredigion sy’n cefnogi plant ag anghenion ychwanegol mewn nifer o Gylchoedd Meithrin
Ymateb i doriadau posib yng nghyllideb y cylchoedd yng Ngwynedd a Môn a sicrhau dim lleihad ar gyfer 2017-18
Rhoi cyflwyniad i ymwelwyr Iechyd Mynwy, Torfaen a Chasnewydd am fanteision dwyieithrwydd. Daeth y cyfle i godi ymwybyddiaeth am ddwyieithrwydd trwy gytundeb ar y cyd gyda WPPA, CPPC a PACEY yng Nghasnewydd hefyd.
Dylanwadu ac eirioli
Derbyn cydnabyddiaeth yn adolygiad annibynnol ffafriol (gan gwmni ‘Ymchwil Arad’) o gyflawniad prosiect ‘Cwlwm’ (a arweinir gan Mudiad Meithrin)
Lansio adran ‘Blog’ newydd ar wefan Mudiad Meithrin gydag erthyglau amrywiol am faterion pwysig i’r Blynyddoedd Cynnar
Cyfathrebu a mynychu cyfarfodydd cyson gyda phartneriaid, Aelodau Cynulliad, Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
Chwarae rhan flaenllaw wrth gydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y Cynnig Gofal Plant (darpariaeth 30 awr). Mae cefnogaeth a chydnabyddiaeth fod gofal cyfrwng Cymraeg yn hanfodol bwysig yn rhan o’r cynnig. Fe fydd y peilot yn cychwyn ym mis Medi 2017
Cyrraedd y 3 cyfrif fwyaf poblogaidd yn ystod ‘yr awr Gymraeg’ ar Trydar
Sefydlu partneriaeth gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a esgorodd ar gynnal 2 gwrs peilot Cymraeg i’r Teulu i deuluoedd ifanc yn Fflint/Wrecsam, llunio ac argraffu cylchgrawn Gŵyl Dewin a Doti i blant a chynnal holiadur i deuluoedd yn cywain barn am y math o wersi Cymraeg fyddai’n ddefnyddiol iddynt.
14
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Cyfoethogi ‘Cymraeg i Blant’
Trefnu hyfforddiant ioga babi er mwyn medru cynnig grwpiau ioga babi fel rhan o arlwy cynllun ‘Cymraeg i Blant’
Gweld nifer y grwpiau a nifer y mynychwyr cynllun ‘Cymraeg i Blant’ yn cynyddu’n gyson dros y flwyddyn
Derbyn cadarnhad y byddai’r cynllun yn datblygu’n gynllun Cymru-gyfan yn 2017-18
Cydweithio gydag ymgyrch ‘Dechrau Da’ a chydlynu gweithgaredd gyda gweithwyr sector iechyd fel bydwragedd ac ymwelwyr iechyd
Ehangu ‘Cam wrth Gam’
Sicrhau fod cant o ddysgwyr yn ennill cymhwyster cydnabyddedig Lefel 3 mewn Gofal Plant
Cryfhau cynllun ysgolion Cam wrth Gam er gwaethaf heriau cyllidol yr ysgolion, a hefyd ehangu gyda thair ysgol newydd yn ymuno yn y cynllun sef: Ysgol Gyfun Bryntawe, Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Derbyn nifer o ymgeiswyr trwy gynllun Ewropeaidd ‘Cynnydd ar gyfer Llwyddiant’ i gymhwyso i Lefel 3
Derbyn adroddiad canmoliaethus Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol corff dyfarnu CACHE yn cydnabod fod ein cynllun hyfforddiant cenedlaethol “yn gweithredu ar lefel uchel iawn ymhob agwedd o gyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd. Mae staff Cam wrth Gam yn cefnogi eu dysgwyr yn dda iawn drwy ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau a’u dealltwriaeth gan lwyddo i ennill eu cymwysterau.”
Datblygu’n is-adeiledd digidol
Penodi, anwytho, hyfforddi a rheoli Swyddog Cynorthwyol Digidol newydd
Trosglwyddo gwasanaeth e-bost i Office 365, symud nifer fawr o ddogfennau i One Drive er mwyn eu rhannu drwy Office 365 yn hytrach nag ar rwydweithiau mewnol, trosglwyddo pawb o Skype i Skype for Business
Ymgeisio am grantiau ym maes TGCh
Arwain gwaith polisi
Adolygu polisïau mewnol ar gyfer y Cylchoedd Meithrin gan ddarparu set o bolisïau newydd i bob Cylch Meithrin i addasu a mabwysiadu
Arwain a chydlynu maes polisi a hyfforddiant Amddiffyn Plant
Cyfrannu at weithgareddau rhwydweithiau polisi amrywiol yn ymwneud â chynhwysiant, lles, y Gymraeg
15
Bwriad Dewiniaith yw cynnig gweledigaeth ar gyfer gwaith Mudiad Meithrin a, thrwy
hynny, ddarparu fframwaith ar gyfer datblygu cynllun gweithredu (sydd yn rhoi siâp i’n
gwaith strategol). Dyma grynodeb felly o rai o dargedau eleni gan ddangos a wireddwyd
y cynllun ai pheidio:
Targed Dewiniaith Rhesymeg Gwireddwyd?
Adolygu cynllun ansawdd y ‘Cylch Rhagorol’ ar gyfer Cylchoedd Ti a Fi
Sicrhau gwaelodlin ansawdd uwch i’n Cylchoedd Ti a Fi
Mae cynllun newydd ‘Safonau Serennog’ wedi’i fathu ac ar fin ei lawnsio
Lawnsio cân a dawns Mudiad Meithrin
Er mwyn cyfrannu at yr ymdeimlad o un teulu mawr
Do, cyfansoddwyd a lansiwyd ‘Un Teulu Mawr’ gan Carys John o gwmni Ffa-la-la!
Cynyddu defnydd o gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’n amcanion
Er mwyn gwerthu buddiannau a manteision gofal ac addysg Gymraeg
Mae bron 8,000 yn ymwybodol o’n gwaith drwy’r cyfryngau hyn. Anelwn at gyrraedd 10,000.
Lawnsio Canllaw Ti a Fi i gefnogi gweithgaredd arweinyddion gwirfoddol a chyflogedig
Codi ansawdd y Cylch Ti a Fi a chynnig mwy o gefnogaeth gan y Mudiad
Mae’r canllaw wedi’i gyhoeddi mewn sawl cyfrwng a’i lansio yng Nghylch Ti a Fi Y Dreflan, Yr Wyddgrug. Cafwyd 12 sesiwn hyfforddi a mynychodd 123 o bobl y cyrsiau oedd yn cynrychioli 76 Cylch Ti a Fi unigryw.
Peilota Sesiwn Sadwrn Ymateb i ofynion teuluoedd sy’n gweithio
Trwy ‘Cymraeg i Blant’, cefnogwyd sawl digwyddiad ar y Sadwrn a pheilota grwpiau gweithgaredd i’r teulu
Sefydlu fforwm staff Rhoi llais i aelodau staff i eiroli ym mhob agwedd o weithgaredd y Mudiad
Mae’r forwm staff bellach wedi’i sefydlu gyda chynrychiolaeth o bob tîm
16
Targed Dewiniaith Rhesymeg Gwireddwyd?
Adolygu cyfansoddiad Mudiad Meithrin
Sicrhau addasrwydd y memorandwm ac erthyglau i anghenion cyfoes
Mabwysiadwyd y cyfansoddiad newydd yng yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2016
Lawnsio Cefnogwyr Mudiad Meithrin
Sicrhau fod cymdeithas o bobl tu hwnt i staff a gwirfoddolwyr presennol y Mudiad yn gallu teimlo’n rhan o waith y Mudiad.
Lansiwyd Cefnogwyr Mudiad Meithrin yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Mae gan y Gymdeithas dros 816 o gefnogwyr erbyn hyn.
Cynnal Seremoni Gwobrau
Codi bri staff a gwirfoddolwyr y cylchoedd a saernio’r ymdeimlad o berthyn i’r Mudiad
Cynhaliwyd y Seremoni Gwobrau gyntaf erioed yn ystod Hydref 2016
Ennill statws ‘Buddsoddwr mewn Pobl’
Er mwyn sicrhau ansawdd a safon ein gwaith fel Mudiad
Penderfynwyd cymryd mantais o gynllun cymharus amgen (sef ‘PQASSO’) a gynigiwyd yn Gymraeg ac wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith paratoi’n parhau.
Gwella gwasanaeth Adnoddau Dynol i’r cylchoedd
Mae Adnoddau Dynol yn her gynyddol i gylchoedd ac wedi ei adnabod fel bwlch ers amser
Cynigwyd gwasanaeth arbenigol trwy linell gymorth uniongyrchol i Cylchoedd Meithrin a chryfhawyd y tîm staff
Am ragor o fanylion am Dewiniaith, cysylltwch â [email protected] neu ewch i www.meithrin.cymru/
dewiniaith-gweledigaeth-mudiad-meithrin -2015-2025/
17
£’000
Cost Cyflogaeth 3,811
Grantiau a dalwyd 86
Costau prosiectau sirol 56
Cam Wrth Gam 65
Cynlluniau Cyfeirio 94
Dibrisiant ac amorteiddiad 3
Yswiriant 99
Costau Staffio a Theithio 246
Costau Adeiladau a Swyddfeydd 388
Costau Cynhyrchu Incwm 146
Costau arall 103
Cyfanswm Gwariant am 2016-17 5,097
£’000
Cyfanswm gwariant llai cyfanswm incwm
(87)
Cynnydd yng ngwerth buddsoddiadau 31
Incwm / (gwariant) net (56)
GWARIANT
£’000
Grantiau Mudiad Meithrin (cenedlaethol) 2,267
Grantiau Mudiad Meithrin (sirol) 446
Grantiau Cam Wrth Gam 469
Grantiau Cynlluniau Cyfeirio 221
Hyfforddi 147
Llog banc 1
Buddsoddiadau 9
Meithrinfeydd Cymru Cyf 1,234
Mabon a Mabli Cyf 17
Rhoddion a Chymynrodd 5
Aelodaeth ac Yswiriant Cylchoedd 81
Incwm Masnachol Arall 101
Incwm Arall 12
Cyfanswm Incwm am 2016-17 5,010
INCWM
Adroddiad Ariannol
Dyma Adroddiad Ariannol o Incwm a Gwariant am y flwyddyn o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017, ynghyd â Mantolen dyddiedig 31 Mawrth 2017.
18
£’000
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd – prosiect Cwlwm
324
Uned y Gymraeg mewn Addysg 1,406
Cymraeg i Blant 500
Grant Swyddog Datblygu’r Cyfnod Sylfaen 37
Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol – Cam wrth Gam 469
Awdurdodau Lleol
Cyngor Dinas Casnewydd 14
Cyngor Blaenau Gwent 48
Cyngor Sir Mynwy 4
Cyngor Sir Gwynedd 56
Cyngor Sir Conwy 35
Cyngor Sir Penfro 4
Cyngor Sir Ceredigion 157
Dinas a Sir Abertawe 7
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 27
Cyngor Sir Ddinbych 13
Cyngor Sir Fflint 74
Cyngor Sir Caerfyrddin 7
Awdurdodau Lleol – drwy Gynlluniau Cyfeirio
Cyngor Sir Ceredigion 100
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 28
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 40
Cyngor Sir Caerdydd 9
Cyngor Sir Gwynedd 26
Cyngor Sir Ynys Môn 18
Grantiau
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r canlynol am y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn. Ni fyddai gwaith y Mudiad wedi bod yn bosibl heb eu cefnogaeth.
19
£’000
ASEDAU SEFYDLOG
Asedau Sefydlog 2,325
Buddsoddiadau 513
2,838
ASEDAU CYFREDOL
Stoc 7
Dyledwyr 303
Arian yn y banc ac mewn llaw 968
1,278
CREDYDWYR
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn (282)
Asedau cyfredol net 996
Asedau net 3,834
CRONFEYDD
Cronfeydd cyfyngedig 3,035 Cronfeydd anghyfyngedig 796 Cronfeydd gwaddol 3
3,834
Mantolen 31 Mawrth 2017
DATGANIAD YR ARCHWILWYR I YMDDIRIEDOLWYR MUDIAD MEITHRIN Rydym wedi archwilio’r crynodeb ariannol hwn.
Cyfrifoldebau priodol yr ymddiriedolwyr a’r archwilwyr Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am baratoi’r crynodeb ariannol. Rydym wedi cytuno i adrodd i chi ein barn ar gysondeb y crynodeb ariannol gyda’r cyfrifon statudol llawn, a arwyddwyd ar 22 Mehefin 2017.
Sail ein barn Rydym wedi dilyn y gweithdrefnau yr ydym yn eu hystyried yn addas i sefydlu a yw’r crynodeb ariannol yn gyson â’r datganiadau ariannol cyfunol y paratowyd y rhain oddi wrthynt.
Ein barn Yn ein barn ni, mae’r crynodeb ariannol yn gyson â’r datganiadau ariannol llawn ac adroddiad ymddiriedolwyr Mudiad Meithrin am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2017.
PJE, Cyfrifwyr Siartredig Cyfrifwyr Siartredig ac Archwilwyr Cofrestredig, Llanbedr Pont Steffan
20
Adroddiad y Trysorydd - John Arthur Jones
Bu hon yn flwyddyn o sefydlogi sefyllfa ariannol y Mudiad. Mae’n braf gallu nodi yn sgil penodi Rheolwr Cyllid newydd – Dorian Evans – cafwyd sefydlogrwydd o ran sefyllfa staffio’r adran gyllid. Fe welwyd cynnydd yn yr incwm ar ffurf grantiau cenedlaethol ac er y bu lleihad o’r cynghorau sir yr ydym yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol ar bob cyfle. Diolchwn am eu cefnogaeth ac i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth barhaol i’r Mudiad. Ni fyddai gwaith y Mudiad yn bosibl heb eu cefnogaeth. Adolygodd yr Is-bwyllgor Cyllid a Staffio sefyllfa’r Mudiad (gyda mewnbwn gan y Tîm Strategol a’r Tîm Rheoli), a olygodd newidiadau sydd yn sail i gryfhau rheolaeth ariannol o fewn y Mudiad, ac sydd yn cynnig gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i’r dyfodol.
Cefnogaeth Ariannol Ariennir yr elusen yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, drwy gefnogaeth Uned y Gymraeg Mewn Addysg, Grant Datblygu Plant a Theuluoedd a Grant Rhaglen Hyfforddi Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg. Mae nifer y grantiau sirol a chynlluniau cyfeirio a dderbyniwyd gan Mudiad Meithrin wedi lleihau, ond rydym yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol ar bob cyfle. Mae Mudiad Meithrin yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth barhaol ac i’r Awdurdodau Lleol sy’n parhau i ariannu cefnogaeth sirol holl bwysig i gynnig y gefnogaeth gorau oll i ddarpariaethau’r Mudiad.
Gwirfoddolwyr Adolygwyd strwythur pwyllgorau cenedlaethol Mudiad Meithrin yn ystod y flwyddyn a sefydlwyd Bwrdd Cyfarwyddwyr fydd yn gyfrifol am graffu ar weithgaredd strategol y sefydliad. Bydd y Cyfarwyddwyr yn cwrdd yn fisol ac yn trafod gweithgaredd yr is-gwmnïau yn eu tro yn chwarterol. Mae’r elusen yn ddiolchgar iawn i’w holl wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu at bwyllgorau’r Mudiad dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ychwanegol, ceir mintai o wirfoddolwyr yn pwyllgorau sirol, ar bwyllgorau rheoli gwirfoddol y Cylchoedd Meithrin a thrwy gynlluniau penodol. Cydnabyddwn ein dyled i bob un ohonynt yn eu hamryw ddyletswyddau.
21
Aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr
Dr Rhodri Llwyd Morgan (Cadeirydd) Geraint James (Is-Gadeirydd) Rhiannon Lloyd (Cyn-Gadeirydd) John Arthur Jones (Trysorydd) Rhianwen Huws Roberts Mai Roberts Anita Evans Gari Lewis Caryl Elin Lewis Lowri Williams Huw Williams Siôn Tudur Alison Rees Edwards Annette Evans Nia Gwyndaf Corinna Lloyd Jones
adroddiad blynyddol 2016 - 2017
Diolch Carai Mudiad Meithrin ddiolch o waelod calon i bob un sy’n gweithio neu wirfoddoli, boed yn lleol neu’n genedlaethol, yn enw’r Mudiad. Diolch arbennig i’r aelodau hynny o staff adawodd y Mudiad yn ystod y flwyddyn aeth heibio.
Sut i gysylltu â ni a chlywed am ein gwaith Canolfan Integredig Mudiad Meithrin Boulevard de Saint-Brieuc Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1PD