adroddiad tîm rheoli ynni'r ysgol · o'r arolwg hwn, rydym wedi darganfod fod llawer o...
TRANSCRIPT
Adroddiad Tîm Rheoli
Ynni'r Ysgol
Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt
Dydd Iau 22ain o Chwefror 2018
Cefnogi ysgolion a'u cymunedau gyda chynaliadwyedd a datblygu myfyrwyr ers 2007
Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn buddsoddi mewn Ardaloedd Gweldig
Caiff ei gefnogi gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Tudalen 2 o 23
A project
delivered
by:
Caiff y prosiect ‘Pobl Ein Dyfodol’ ei ddarparu gan:
Mark Stead
Uwch Reolwr Prosiect – Addysg
01452 835068
Owen Callender
Uwch Reolwr Prosiect - Gwasanaethau Busnes
01597 828875
Aled Owen
Rheolwr Prosiect
07792 693874
Nodyn Ymwadiad
Tra bod pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau bod yr wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn gywir, ni all yr awduron dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled
neu ddifrod gall ddigwydd o ganlyniad i unrhyw beth a wna’r darllenwyr. Yr awduron yn unig sy’n gyfrifol dros gynnwys y papur hwn.
Tudalen 3 o 23
A project
delivered
by:
Tabl cynnwys
Rhagarweiniad ................................................................................................................................................................................................... 4
Cydnabyddiaeth............................................................................................................................................................................................... 4
Disgrifiad Cyffredinol o’r Ysgol ............................................................................................................................................................ 5
Perfformiad Ynni’r Ysgol ........................................................................................................................................................................... 6
Defnydd Ynni Presennol ...................................................................................................................................................................... 6
Data Gollyngiadau Carbon ................................................................................................................................................................. 7
Tystysgrif Arddangos Ynni ................................................................................................................................................................. 8
Prif ddarganfyddiadau o’r arolwg ynni .......................................................................................................................................... 9
Goleuadau ....................................................................................................................................................................................................... 9
Peiriannau trydanol ................................................................................................................................................................................. 11
Gwresogi ......................................................................................................................................................................................................... 12
Defnydd ynysu ........................................................................................................................................................................................... 14
Ynni adnewyddadwy ............................................................................................................................................................................ 15
Camau blaenoriaethu ................................................................................................................................................................................ 18
Atodiadau ............................................................................................................................................................................................................ 19
Atodiad 1: Goleuadau (Math) – Taflen Grynhoi ................................................................................................................ 19
Atodiad 2: Goleuadau (Defnydd) – Taflen Grynhoi ...................................................................................................... 20
Atodiad 3: Peiriannau Trydanol– Taflen Grynhoi............................................................................................................ 21
Atodiad 4: Gwresogi – Taflen Grynhoi .................................................................................................................................... 22
Atodiad 5: Defnydd Ynysu – Taflen Grynhoi ..................................................................................................................... 23
Tudalen 4 o 23
A project
delivered
by:
Rhagarweiniad Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio fel rhan o’r prosiect Pobl Ein Dyfodol gaiff ei redeg gan Asiantaeth Ynni Severn Wye a’i gefnogi gan y Cynllun Datblygu Gwledig a Chronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n amlygu darganfyddiadau arolwg ynni gafodd ei gynnal ar 22/02/18 ac yn rhoi rhai argymhellion hanfodol ar sut mae modd lleihau biliau’r ysgol a gwella ei pherfformiad addysg.
Cydnabyddiaethau Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio gan:
Bran Davies (B9), Alex Jenkins (B9), Tanwen Bradley (B7), Izzie Powell (B7), Ffion Price (B7), Menna Protheroe (B7), Bryony Chew (B8), Elidh Hughes (B8), Ella Jones (B9), Rhys Lewis (B9), Lucy Ballard (B10), Finlay Chew (B10), Grace Davies (B10), Charlie Jones (B10), Will Davies (B9), Amelia Morgan (B11) a Shaun Davies (B7). Mae'r myfyrwyr canlynol wedi cyfrannu data at yr adroddiad: Jay Shah, Sophie Wild, Cameren Price, Ben Wild, Harvey Wyatt, Katherine Brown, Theresa Latham, Bethany Smith, Ffion Bufton a Daisy Lynch. Diolch hefyd i Mrs Kennedy am drefnu'r tîm ac i Mr Mears am roi gwybodaeth ar gyfer ein hadroddiad.
Tudalen 5 o 23
A project
delivered
by:
Disgrifiad Cyffredinol o’r Ysgol Mae Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol uwchradd gymysg, dwyieithog i ddisgyblion rhwng 11-18 oed. Mae ganddi 551 o ddisgyblion ar hyn o bryd gyda 92 disgybl yn y Chweched Ddosbarth. Mae'r ysgol yng nghanolbarth Cymru yn nhref Llanfair-ym-Muallt a'r disgyblion yn dod o ddalgylch gwledig mawr. Mae'r ysgol yn ganolfan i addysg cyfrwng Cymraeg. Cafodd adeiladau gwreiddiol yr ysgol eu hadeiladu yn 1896 gyda'r adeilad mwyaf diweddar, Y Bwyty, yn newydd yn 2006. Mae'r ysgol wedi cymryd rhan mewn llawer o fentrau Ysgolion Eco a Choedwig, wedi adeiladu tŷ gwydr allan o boteli plastig wedi'u hailgylchu, plannu gardd, gweithio gyda phartneriaid tramor ar brosiectau Comenius yn seiliedig ar ddŵr a gwastraff ac ar hyn o bryd yn gweithio ar Polli:Nation - prosiect addysgiadol a bioamrywiaeth gaiff ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Tudalen 6 o 23
A project
delivered
by:
% of cost
Electricity Gas
Perfformiad Ynni’r Ysgol
Defnydd Ynni Presennol Prif ffynonellau ynni Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ydy nwy a thrydan.
Defnydd Blynyddol
2016
Cost Flynyddol
2016
Gwasanaeth KWh % o gyfanswm
y defnydd £
% o gyfanswm y
gost
Trydan (Cyfanswm) 365,251 42.4% £43,149 81.9%
Gwres (Cyfanswm) 496,608 57.65% £9,519 18.1%
Cyfanswm 861,859 100% £52,668 100%
Ar y cyfan, cafodd 861,859 kWh o ynni ei ddefnyddio yn 2016 yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, 249,557 yn llai na 2014. Roedd trydan yn cyfrif 365,251kWh (42.4%) a nwy yn cyfrif 496,608kWh (57.6%).
Siartiau pei yn dangos defnydd a chost gwahanol ffynonellau ynni yn 2016
Rydym yn defnyddio mwy o nwy na thrydan er bod trydan yn cyfrif mwy na 4/5 o gyfanswm y gost flynyddol. Fel y gwelwch, tra bod trydan yn cyfrif dim ond 42.4% o gyfanswm y defnydd ynni, roedd yn cyfrif 81.9% o’r holl gost. Mae hyn gan fod trydan yn ddrutach na nwy.
% of consumption
Electricity Gas
% o ddefnydd % o’r gost
Trydan Trydan
Nwy Nwy
Tudalen 7 o 23
A project
delivered
by:
Data gollyngiadau carbon
Mae’r tabl isod yn dangos y gollyngiadau CO2 sy’n codi o ddefnydd pob math o danwydd yn ein hysgol:
Math o Danwydd
Gollyngiadau CO2 blynyddol - tunelli
Cyfateb i nifer o gartrefi
Nifer o falwnau parti byddai’n eu
llenwi
Nifer o goed fyddai angen eu plannu er
mwyn gwneud iawn am y
gollyngiadau
Trydan 163 27 16,279,968 814
Gwres 105 18 10,528,595 526
Cyfanswm 268 45 26,808,563 1,340
Gollyngiadau Carbon Deuocsid Blynyddol o ddefnydd ynni yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt yn ystod 2016
Gyda'i gilydd bu i ddefnydd ynni ein hysgol arwain at ollwng 268 tunnell o CO2 i'r awyrgylch. Mae hyn yn cyfateb i tua 45 cartref a byddai'n llenwi dros 26,800,000 o falwnau parti. Byddai angen plannu 1,340 o goed bob blwyddyn er mwyn gwneud iawn am y gollyngiadau hyn. Trydan oedd yn achosi'r gollyngiadau mwyaf ac felly roedd yr effaith amgylcheddol fwyaf hefyd yn deillio o drydan.
Tudalen 8 o 23
A project
delivered
by:
Tystysgrif Arddangos Ynni Mae gofyn i ysgolion ddangos ‘Tystysgrif Arddangos Ynni’. Mae hon yn dangos sut mae’r ysgol yn cymharu gydag ysgol gyffredin. Fel y gwelwch o’r dosbarthiad isod, mae ein hysgol yn nosbarth D gyda sgôr o 86. Y sgôr ar gyfartaledd i ysgolion ydy 100 sy’n golygu bod ein hysgol yn defnyddio llai o ynni nag ysgol gyffredin.
Caiff hefyd ei ddadansoddi ar gyfer trydan a nwy. Fel y gwelwch o’r tabl isod, mae ein hysgol yn defnyddio llai o danwydd gwresogi nag ysgol gyffredin ond llawer mwy o drydan.
Gwres Trydan
Defnydd ynni ein hysgol (kWh/m²/yr)
66 54
Defnydd ynni ysgol gyffredin (kWh/m²/yr)
143 40
Tudalen 9 o 23
A project
delivered
by:
Prif ddarganfyddiadau o’r arolwg ynni
Goleuadau Mae golau gan amlaf yn cyfrif tua 10% o gyfanswm defnydd ynni ysgol ond yn cyfrif hyd at 25% o’r gost gan fod trydan gan amlaf yn llawer iawn drutach na thanwydd gwresogi. Felly, mae modd gwneud arbedion sylweddol trwy wella'r math o olau sydd mewn ysgol a sut gaiff ei ddefnyddio a’i reoli.
Prif broblemau ddaeth i’r golwg Camau awgrymedig
Roedd llawer o fylbiau fflworoleuol aneffeithiol T12 (13) a T8 (144)
Newid y tiwbiau T12 am rai T8 pan fyddant yn dod i ben
Newid tiwbiau T8 gyda goleuadau LED
Roedd y golau ymlaen mewn llawer o'r 'stafelloedd er eu bod yn wag
Ei gynnwys fel rhan o’n hymgyrch codi ymwybyddiaeth am ynni
Gosod goleuadau sy'n synhwyro symudiad yn y toiledau, ystafelloedd newid a choridorau tywyll
Roedd goleuadau sawl 'stafell ymlaen er bod digon o olau dydd naturiol
Ei gynnwys fel rhan o’n hymgyrch codi ymwybyddiaeth am ynni
Gosod synwyryddion lux yr un pryd a chaiff synwyryddion symudiad eu gosod
Roedd y goleuadau i gyd ymlaen yn llawer o'r 'stafelloedd pan mai dim ond ambell i olau oedd ei angen
Ei gynnwys fel rhan o’n hymgyrch codi ymwybyddiaeth am ynni
Labelu'r switshys goleuadau er mwyn dangos yn eglur pa rai sy'n rheoli'r goleuadau sydd agosaf at y ffenestri
O'r arolwg hwn, rydym wedi darganfod fod llawer o oleuadau yn yr ysgol. Fodd bynnag, tydy'r goleuadau hyn ddim y rhai gorau. Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio llawer o oleuadau T8, nid dyma'r rhai gorau o ran defnydd ynni. Pe bai'r goleuadau hyn yn cael eu newid am rai LED, buasai'r ysgol yn arbed llawer o ynni yn ogystal ag arbed arian.
Fe welsom hefyd fod llawer o'r goleuadau wedi'u gadael ymlaen mewn 'stafelloedd gweigion. Fel rhan o'n ymgyrch codi ymwybyddiaeth am ynni byddwn yn annog pobl i ddiffodd y golau pan mai nhw fydd yr olaf i adael yr ystafell. Byddwn hefyd yn eu hannog i ddiffodd y golau pan fydd digon o olau dydd naturiol gan fod llawer o'r goleuadau ymlaen er bod digon o olau dydd naturiol. Mae hefyd pethau technegol all helpu i ddatrys y problemau hyn. Rydym yn awgrymu gosod synwyryddion symudiad yn y toiledau, ystafelloedd newid a choridorau tywyll a synwyryddion symudiad a lux yn y dosbarthiadau fel bod y golau yn diffodd pan fydd yr ystafell yn wag ac yn diffodd yn araf yn awtomatig wrth i olau dydd naturiol gynyddu.
Y broblem olaf oedd bod y goleuadau i gyd ymlaen yn llawer o'r ystafelloedd pan mai dim ond ambell i olau oedd ei angen. Fel arfer roedd hyn yn digwydd pan mai dim ond rhan fach o'r ystafell oedd yn cael ei defnyddio ac weithiau gan fod gan yr ardal agosaf at y ffenestr ddigon o olau dydd naturiol doedd dim angen i'r goleuadau hyn fod ymlaen. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, byddwn yn labelu'r switshys sy'n rheoli'r goleuadau agosaf at y ffenestri ac yn gofyn i'r athrawon eu gadael wedi'u diffodd oni bai bod wirioneddol eu hangen ymlaen.
Tudalen 10 o 23
A project
delivered
by:
Rydw i'n teimlo bod y problemau hyn gyda'r goleuadau yn rhai hawdd i'w datrys ac felly yn bwyntiau dilys i'w cyflwyno i’r ysgol gan eu bod yn broblemau mae modd eu datrys yn eithaf hawdd.
Roedd goleuadau yn aml yn cael eu gadael ymlaen yn y toiledau a'r ystafelloedd newid.
Fe allwn osod synwyryddion symudiad yma.
Byddwn yn annog pobl i ddiffodd y goleuadau sydd agosaf at y ffenestri pan fydd digon o olau dydd naturiol.
Tudalen 11 o 23
A project
delivered
by:
Peiriannau trydanol Mae peiriannau trydanol yn defnyddio nifer sylweddol o drydan mewn ysgolion. Mae modd lleihau hyn drwy sicrhau fod y peiriannau wedi’u diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae modd gwneud hyn trwy newid arferion yn ogystal â defnyddio rheolaeth awtomatig.
Prif broblemau ddaeth i’r golwg Camau awgrymedig
Roedd 81 cyfrifiadur wedi'u gadael ymlaen trwy'r holl ysgol
Gosod y cyfrifiadur i fynd i gysgu ar ôl 10 munud
Gwirio fod y feddalwedd sy'n diffodd y cyfrifiadur yn awtomatig yn gweithio yn iawn
Roedd 81 sgrin cyfrifiadur wedi'u gadael ymlaen
Ei gynnwys fel rhan o’n hymgyrch codi ymwybyddiaeth am ynni
Roedd 5 taflunydd wedi'u gadael ymlaen trwy'r holl ysgol
Ei gynnwys fel rhan o’n hymgyrch codi ymwybyddiaeth am ynni
Roedd rhai peiriannau wedi'u gadael ymlaen dros nos
Gosod amserydd ar y peiriant oeri dŵr yng nghoridor yr adeilad newydd ac ar y llungopïwr yn TG2
Y prif broblemau yn yr holl ysgol ydy eu bod nhw bob tro yn gadael y cyfrifiaduron a sgriniau'r cyfrifiaduron ymlaen (sy'n defnyddio tua 200 wats ar gyfer cyfrifiadur a sgrin cyfrifiadur). Roedd hon yn broblem yn TG1, TG2, TG3, TG4 a chyda sawl cyfrifiadur arall yn yr ysgol. Er mwyn datrys y broblem hon rydym yn argymell sicrhau bod y cyfrifiaduron yn mynd i gysgu ar ôl 10 munud (ar hyn o bryd dydy'r cyfrifiaduron ddim yn mynd i gysgu o gwbl) a gwirio bod y feddalwedd sy'n diffodd y cyfrifiadur yn awtomatig yn gweithio'n effeithiol (mae'r feddalwedd wedi'i gosod ond wrth inni siarad gyda'r athrawon cawsom wybod nad oedden nhw'n gwybod a oedd yn gweithio'n effeithiol). Ar gyfer y sgriniau, byddwn yn annog pobl i ddiffodd sgriniau'r cyfrifiaduron ar ôl gorffen eu defnyddio fel rhan o'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth. Byddwn hefyd yn annog yr athrawon i ddiffodd y taflunyddion ar ôl gorffen eu defnyddio. Dim ond 5 oedd wedi'u gadael ymlaen (roedd y rhan fwyaf i fyny'r grisiau yn y prif adeilad) ond oherwydd eu watedd uchel bydd hyn yn gwastraffu llawer o ynni. Yn olaf, rydym yn argymell gosod amseryddion ar y peiriant oeri dŵr yng nghoridor yr adeilad newydd ac ar y llungopïwr yn TG2 gan fod y rhain gan amlaf wedi'u gadael ymlaen dros nos.
Tudalen 12 o 23
A project
delivered
by:
Gwresogi Gwres gan amlaf ydy’r defnydd ynni mwyaf a'r drutaf mewn unrhyw ysgol ac mae modd gwneud arbedion sylweddol trwy wneud newidiadau rhad a syml. Mewn gwirionedd, mae modd lleihau costau gwresogi o hyd at 30% trwy newid y gosodiadau amser a thymheredd.
Prif broblemau ddaeth i’r golwg Camau awgrymedig
Mae'r gwres wedi'i osod yn rhy uchel
Lleihau gosodiadau amser a thymheredd
Tydy'r falfiau yn yr ystafell boeler ddim wedi'u hynysu
Gosod siacedi ynysu Velcro-fix ar y falfiau
Roedd 17 gwresogydd wedi'u rhwystro
Symud y pethau hyn sy'n eu rhwystro
Roedd 19 gwresogydd heb falfiau thermostatig (TRVs)
Gosod TRVs
Y brif broblem yn ein hysgol ydy bod yr ystafelloedd yn rhy boeth. Y tymheredd ar gyfartaledd oedd 22°C yn yr adeilad newydd ac i lawr grisiau yn yr hen adeilad a 23°C i fyny'r grisiau yn yr hen adeilad. Y tymheredd gaiff ei awgrymu ar gyfer ystafell ddosbarth gyda phobl o'n hoedran ni ydy 19°C. Rydym yn awgrymu lleihau'r amser mae’r gwres ymlaen o 10 munud yr wythnos a gostwng y tymheredd o 0.5°C yr wythnos nes bod pobl yn dechrau dweud ei bod hi’n oer. Yna, mae modd mynd yn ôl un cam er mwyn dod o hyd i'r tymheredd gorau posibl. Gall hyn arbed hyd at 32% ar filiau gwresogi heb unrhyw gost i'r ysgol.
Fe sylwon hefyd fod y falfiau yn ystafell boeler y brif ysgol heb eu hynysu. Bydd hyn yn arwain at golli llawer o wres. Dylem osod siacedi ynysu o amgylch y falfiau hyn er mwyn cadw'r gwres i mewn.
Problem arall ydy bod gwresogyddion wedi'u rhwystro gan gypyrddau. Rydym yn cydnabod bod dod o hyd i le gwag yn broblem yn y dosbarthiadau a'r stordai; fodd bynnag, byddai effeithlonrwydd gwresogi yn cynyddu'n sylweddol petai'r pethau hyn yn cael eu symud, gan leihau faint o ynni ac arian gaiff ei wastraffu.
Roedd hefyd 19 gwresogydd heb falfiau thermostatig (TRVs). Mae hyn yn golygu bod athrawon methu â rheoli'r gwres ac felly yn gorfod agor y ffenestri yn hytrach. Dylai TRVs gael eu gosod ar y gwresogyddion hyn oedd i gyd yn adeilad yr hen ysgol.
Tudalen 13 o 23
A project
delivered
by:
Tymheredd a bod yn gyfforddus yn ein hysgol
Mae’r tabl isod yn dangos y tymheredd ar gyfartaledd yn y ‘stafelloedd dosbarth mewn gwahanol rannau o’r ysgol. Lle mae’r tymheredd yn uwch na’r tymheredd awgrymedig, mae’r arbedion posibl wedi’u nodi, gan ddangos faint o ynni byddai modd ei arbed trwy ostwng y tymheredd. Mae hyn yn seiliedig ar arbediad o 8% ar gyfartaledd wrth ostwng tymheredd y gwres o 1°C.
Bloc Cyfartaledd tymheredd
y ‘stafell ddosbarth
Arbediad posibl os caiff y
tymheredd ei ostwng i 19°C
Fyny'r grisiau yn yr hen ysgol
23°C 32%
Lawr grisiau yn yr hen ysgol 22°C 24% Adeilad newydd 22°C 24%
Tudalen 14 o 23
A project
delivered
by:
Defnydd Ynysu Yn gyffredinol, er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni rydym ni’n anelu at rwystro aer cynnes rhag gadael adeiladau. Fodd bynnag, petai adeilad wedi’i gau yn gyfan gwbl byddai’r aer yn sydyn yn troi yn glòs a myglyd. Felly mae angen cyfnewid ychydig o’r aer o’r tu allan. Fodd bynnag, mae modd gwneud arbedion sylweddol o ran defnydd ynni trwy leihau’r lefel o wres sy’n dianc o adeiladau ac o’r rhwydwaith dosbarthu gwres.
Prif broblemau ddaeth i’r golwg Camau awgrymedig
142.5m o bibelli heb eu hynysu Gosod defnydd ynysu o amgylch y pibelli
Ffenestri gwydr sengl Ychwanegu gwydro eilaidd (byr dymor)
Newid am ffenestri gwydr dwbl (hir dymor)
Pobl yn gadael y ffenestri a'r drysau ar agor tra bod y gwres ymlaen
Gosod posteri sy'n dweud wrth bobl am gau'r ffenestri a'r drysau a chynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth
Ffenestri a drysau gyda drafft yn y brif ysgol Gosod pethau sy'n rhwystro drafftiau
Waliau ceudod yn yr hen adeilad heb eu llenwi
Gosod defnydd ynysu yn y waliau ceudod
Dim ond 100mm o ddefnydd ynysu sydd yn nho yr hen adeilad
Ychwanegu mwy o ddefnydd ynysu fel bod 270mm yno, sef yr hyn gaiff ei awgrymu
Ar y cyfan, mae nifer fawr iawn o bibelli sydd heb eu hynysu. Er mwyn datrys y broblem hon, fe allwn ynysu'r pibelli gyda defnydd ynysu tiwb. Mae hefyd llawer o ffenestri gwydr sengl. Yn y byr dymor, fe allwn ychwanegu gwydro eilaidd ar y ffenestri hyn (sy'n llawer rhatach) gyda’r bwriad o'u newid am ffenestri gwydr dwbl yn yr hir dymor. Roedd hefyd llawer o ffenestri a drysau gyda drafft. Fe allwn ychwanegu pethau sy'n rhwystro drafftiau er mwyn cadw'r gwres i mewn.
Problem arall ydy bod pobl yn gadael y ffenestri a'r drysau ar agor tra bod y gwres ymlaen. Mae hyn yn gwastraffu ynni thermol. Er mwyn datrys y broblem hon dylem sicrhau fod gan bob gwresogydd TRV ac yna annog yr athrawon i'w defnyddio er mwyn troi'r gwres i lawr yn hytrach nag agor y ffenestri. Fe allwn hefyd roi posteri ar ddrysu allanol yn gofyn i bobl eu cadw ar gau er mwyn arbed ynni.
Daethom i wybod, gan y gofalwyr, bod y waliau yn yr hen adeilad heb eu llenwi gydag ynysydd wal geudod felly mae llai o ynysydd ac mae'r gwres yn mynd trwy'r waliau yn bennaf felly mae hwn yn fater o frys. Mae angen llenwi'r waliau hyn gydag ynysydd wal geudod fel nad oes angen cymaint o wres ac er mwyn arbed arian.
Hefyd, dim ond 100mm o ddefnydd ynysu sydd yn nho yr hen adeilad. Mae angen ychwanegu mwy o ynysydd fel bod 270mm yno, sef yr hyn gaiff ei awgrymu.
Tudalen 15 o 23
A project
delivered
by:
Ynni adnewyddadwy Mae gan ein hysgol, Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, baneli solar eisoes ar do'r neuadd chwaraeon. Fodd bynnag, mae posibilrwydd o osod mwy o baneli yn yr ysgol ar ran arall o'r to.
Yn dilyn arolwg gan ymgynghorydd ynni adnewyddadwy cymwys, mae modd i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ddefnyddio 168 m2 o do'r brif ysgol. Byddai cynhwysedd y system Solar PV hon yn tua 27.72kWp.
Ar hyn o bryd, byddai system o'r maint hwn yn costio £30,492 i'w gosod.
Fodd bynnag, gyda'r cyfraddau presennol, byddai Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt yn gallu cynhyrchu incwm o £4,144 y flwyddyn am 20 mlynedd gan roi cyfanswm incwm o £82,878 dros gyfnod bywyd y system.
Byddai hyn yn golygu bod y system Solar PV yn ad-dalu'r buddsoddiad gwreiddiol ym mhen 7.4 blynedd.
Safle Addas
Byddai'r to goleddf sy'n wynebu am y de-orllewin (yn y llun isod) yn ddelfrydol er mwyn gosod PV. Mae'r to i'w weld mewn cyflwr da, ond bydd angen cael cadarnhad gan rywun sy'n gosod PV er mwyn cadarnhau ydy o'n addas i osod PV arno.
Senario Gosod
Mae'r tabl a'r ciplun uchod yn dangos y cynhyrchiad ynni a'r senarios ariannol ar gyfer system 27.7kWp, fyddai'n cymryd tua 170m2 o'r to goleddf.
Builth High School Solar PV Benefit Calculator: Scenario 1
System Sizing by Area Generation Breakdown Panel Data
Available roof area 168.0 m2 Annual generation 24,809 kWh Panel type Mid Performance
Approx maximum capacity 27.72 kWp - Offset units 19,848 kWh Specific peak output 165 W/m2
System Capacity & Export - Deemed exported units 12,405 kWh Annual output 895 kWh/kWp
PV system chosen capacity 27.7 kWp
Solar collection factor (shading) 100 % Annual Revenue Breakdown With 'D+' rated EPC:
Current electricity tariff 12.5 p/kWh Feed-In Tariff payment 1,047£ FIT LEVELS TABLE - NOV 2017
kWh used on-site (offset) 80 % Export bonus payment 624£ Solar PV - up to 4kW 4.00 p/kWh
Deemed export rate 50 % Import savings 2,473£ Solar PV - 4-10kW 4.00 p/kWh
Feed-In Tariff Band Total Benefit 4,144£ Solar PV - 10-50kW 4.22 p/kWh
Payment for ALL generation 4.2 p/kWh Solar PV - 50-250kW 1.89 p/kWh
Bonus for exported units 5.0 p/kWh Economics
Full installed COST 30,492£
Cost per kWp 1,100£
Basic ROI 13.6%
Simple Payback 7.4 years INSTALLED COSTS TABLE
Solar PV - up to 4kW 1,375£ /kWp
Solar PV - 4-10kW 1,200£ /kWp
Solar PV - 10-25kW 1,150£ /kWp
Solar PV - 25kW+ 1,100£ /kWp
Notes:
Irradiance dataset for Cardiff used.
Tudalen 16 o 23
O'r tabl isod, fe allwn weld bod gosod system PV yn y safle hwn yn ddichonadwy.
Manylion y System Senario 1
Cynhwysedd y system (kWp)
27.7
Taliad tariff bwydo i mewn (FIT) ar gyfer yr HOLL gynhyrchiad (p/kWh)
4.22
Bonws ar gyfer unedau wedi'u hallforio (p/kWh)
5.03
Cynhyrchiad blynyddol (kWh)
24,809
Unedau offset (kWh) 19,848
Unedau wedi'u hallforio (kWh)
12,405
Taliad tariff bwydo i mewn
£1,047
Arbedion mewnforio £2,473
Taliad bonws allforio £624
Cyfanswm incwm/arbedion blynyddol
£4,144
Cost gosod llawn £30,492
Ad-daliad syml 7.4
Cyfanswm incwm/arbedion dros 20 mlynedd
£82,878
Elw ar fuddsoddiad % 13.6%
Tudalen 17 o 23
Camau blaenoriaethu Rydym yn cydnabod na fydd modd gwneud popeth rydym wedi'i awgrymu yn syth. Felly, rydym wedi ystyried yr holl gamau rydym wedi'u hawgrymu a'u cyfyngu i'r rhai rydym yn credu fydd fwyaf buddiol i'r ysgol. Mae’r rhestr fel a ganlyn:
Ein 12 cam awgrymedig:
1 Newid y tiwbiau T12 am rai T8 pan fyddant yn dod i ben
Newid tiwbiau T8 gyda goleuadau LED
2 Gosod goleuadau sy'n synhwyro symudiad yn y toiledau, ystafelloedd newid a choridorau tywyll
3 Gosod yr holl gyfrifiaduron i fynd i gysgu ar ôl 10 munud
Gwirio bod y feddalwedd sy'n diffodd y cyfrifiaduron yn awtomatig yn gweithio yn iawn
4 Gosod amserydd ar y peiriant oeri dŵr yng nghoridor yr adeilad newydd ac ar y llungopïwr yn TG2
5 Lleihau'r amser mae’r gwres ymlaen o 10 munud yr wythnos a gostwng y tymheredd o 0.5°C yr wythnos nes bod pobl yn dechrau dweud ei bod hi’n oer. Yna, mae modd mynd yn ôl un cam er mwyn dod o hyd i'r tymheredd gorau posibl.
6 Gosod siacedi ynysu ar y falfiau yn ystafell boeler y brif ysgol
7 Symud y pethau sy'n rhwystro unrhyw wresogydd
8 Gosod defnydd ynysu pibelli o amgylch pibelli sydd heb eu hynysu
9 Ychwanegu gwydro eilaidd ar bob ffenestr gwydr sengl
10 Gosod defnydd ynysu waliau ceudod yn y prif adeilad
11 Ychwanegu mwy o ddefnydd ynysu yn y prif adeilad fel bod 270mm yno, sef yr hyn gaiff ei awgrymu
12 Gosod system Solar PV 27.72 kWp
Mae'r tabl uchod yn mynd i'r afael â'r mesuriadau technegol. Yn ychwanegol at hyn, byddwn yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth er mwyn annog arferion cadarnhaol ymysg y staff a’r disgyblion.
Tudalen 18 o 23
Atodiadau Atodiad 1: Goleuadau (Math) – Taflen Grynhoi
Bloc CYFANSWM
Math Prif adeilad Lawr grisiau yn y brif ysgol Adeilad newydd
2ft T12 2 2
3ft T12 0
4ft T12 9 9
5ft T12 2 2
6ft T12 0
2ft T8 2 16 18
3ft T8 48 4 52
4ft T8 28 6 34 68
5ft T8 6 6
6ft T8 0
2ft T5 12 12
3ft T5 28 49 77
4ft T5 14 1 15
5ft T5 1 84 85
6ft T5 0
LED 11 11
CFL 15 36 51
Arall 0
Tudalen 19 o 23
Atodiad 2: Goleuadau (Defnydd) – Taflen Grynhoi
Problem Bloc CYFANSWM
Fyny'r grisiau yn y brif ysgol Lawr grisiau yn y brif ysgol Adeilad newydd
Nifer o ‘stafelloedd gwag gyda’r golau
ymlaen
0 7 11 18
Nifer o ‘stafelloedd lle’r oedd y golau
ymlaen er bod digon o olau dydd
naturiol
4 12 4 20
Nifer o ‘stafelloedd lle’r oedd yr holl oleuadau ymlaen er mai dim ond
ambell un oedd ei angen – gan ei bod
hi’n braf
6 9 2 17
Nifer o ‘stafelloedd lle’r oedd yr holl oleuadau ymlaen er mai dim ond
ambell un oedd ei angen – gan nad
oedd llawer o bobl yn y ‘stafell
8 7 0 15
‘Stafelloedd fyddai’n elwa o synwyryddion
deiliadaeth
9
16
2
27
Tudalen 20 o 23
Atodiad 3: Peiriannau Trydanol – Taflen Grynhoi
Problem Bloc CYFANSWM
Fyny'r grisiau yn y brif ysgol Lawr grisiau yn y brif ysgol Adeilad newydd
Nifer o gyfrifiaduron ymlaen ar ôl gorffen eu defnyddio
18 58 5 81
Nifer o sgriniau cyfrifiaduron ymlaen ar ôl gorffen eu defnyddio
20 56 5 81
Nifer o beiriannau eraill ymlaen ar ôl
gorffen eu defnyddio
3 1 1 5
Peiriannau fyddai’n elwa o switsh
amseru
Dim Llungopïwr yn TG2 Peiriant oeri dŵr yn y coridor 2
Tudalen 21 o 23
Atodiad 4: Gwresogi – Taflen Grynhoi
Math o wres Bloc CYFANSWM
Fyny'r grisiau yn yr hen adeilad Lawr grisiau yn yr hen adeilad Adeilad newydd
Gwresogyddion 19 13 1 33
Twymwyr Darfudol 0 5 0 5
Gwresogi dan y llawr 0 1 11 12
Dim gwres 0 0 0 0
Arall 3 0 1 4
Nifer o wresogyddion heb TRVs
Bloc Fyny'r grisiau yn yr hen adeilad Lawr grisiau yn yr hen adeilad Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer 6 13 0 19
Bloc Nifer o ‘stafelloedd gafodd eu cofnodi ar y tymheredd hwn Cyfartaledd tymheredd y bloc hwn
15°C 16°C 17°C 18°C 19°C 20°C 21°C 22°C 23°C 24°C 25°C 26°C
Fyny'r grisiau yn yr hen adeilad
1 6 3 4 5 3 23°C
Lawr grisiau yn yr hen adeilad
2 1 2 2 5 6 2 2 5 22°C
Adeilad newydd
2
3
4
2
22°C
Gwresogyddion sydd wedi’u rhwystro
Bloc Fyny'r grisiau yn yr hen adeilad Lawr grisiau yn yr hen adeilad Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer 9 8 0 17
Tudalen 22 o 23
Atodiad 5: Defnydd Ynysu – Taflen Grynhoi
Pibelli heb ynysydd
Bloc
Prif Ysgol (fyny'r grisiau) Prif ysgol (lawr grisiau) Adeilad newydd CYFANSWM
Hyd
29m 112.5m 1m 142.5m
Ffenestri gwydr sengl
Bloc
Prif Ysgol (fyny'r grisiau) Prif ysgol (lawr grisiau) Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer
22 103 0 125
Lleoliadau
Ystafell staff, Saesneg, Ieithoedd, Daearyddiaeth, Cymraeg, Mathemateg
Drama, DT, TG, Gwyddoniaeth
Ffenestri gyda drafft
Bloc
Prif Ysgol (fyny'r grisiau) Prif ysgol (lawr grisiau) Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer
24 13 2 29
Lleoliadau
C3
Ffenestri ar agor tra bod y gwres ymlaen
Bloc
Prif Ysgol (fyny'r grisiau) Prif ysgol (lawr grisiau) Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer
7 0 5 12
Tudalen 23 o 23
Drysau allanol gyda drafft
Bloc
Prif Ysgol (fyny'r grisiau) Prif ysgol (lawr grisiau) Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer
2 1 1 4
Drysau allanol ar agor tra bod y gwres ymlaen
Bloc
Prif Ysgol (fyny'r grisiau) Prif ysgol (lawr grisiau) Adeilad newydd CYFANSWM
Nifer
2 1 1 4
Lleoliadau
HS; E2 D2 C4