ar lan - amazon s3s3-eu-west-2.amazonaws.com/media.techniquest.org/wp... · 2017. 9. 8. · trefnu...
TRANSCRIPT
-
Adnoddau Cefnogi
Ar lan y mor
TechniquestStryd StuartCaerdyddCF10 5BW
F: 029 20 475 475www.techniquest.org
-
www.techniquest.org
Ar lan y mor
Crynodeb
Mae Delyth y ddraig yn treulio diwrnod tawel ar y traeth pan mae’n clywed rhywun yn wylo. Mae Penny’r Môr-leidr wedi colli ei thrysor! Helpwch Delyth i ddatrys problemau ynglŷn â phlanhigion, anifeiliaid, cynefinoedd a’r tywydd wrth iddi gynllunio’i ffordd ar wgweithgareddau ar y llwyfan wrth helpu a hyd yn oed ddod wyneb yn wyneb â siarc yn theatr wyddoniaeth Techniquest! Allen nhw helpu Penny i ganfod ei thrysor?
Mae’r sioe theatr wyddoniaeth hon yn datblygu sgiliau a gwybodaeth y disgyblion drwy adrodd stori. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o arddangosiadau rhyngweithiol a hyd yn oed yn cael cyfle i gymryd rhan ar y llwyfan!
Hawlfraint
Gall athrawon atgynhyrchu’r deunyddiau canlynol heb dorri hawlfraint, cyn belled y gwneir copïau ar gyfer defnydd yn eu hysgolion eu hunain. Rhaid cael caniatâd Techniquest cyn atgynhyrchu’r deunyddiau hyn at unrhyw bwrpas arall.
Cydnabyddiaethau
Diolch yn arbennig i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd St Mellons, Ysgol Gynradd Pendoylan ac Ysgol Gynradd Parc Roath am eu cefnogaeth a’u syniadau.
1
Ar Lany Môr
-
www.techniquest.org2
Gan weithio mewn grwpiau, gofynnwch i’ch disgyblion ddewis un ffotograff o’r rhai a dynnwyd ohonynt yn ystod eu hymweliad. Dylai’r disgyblion gyflwyno’r llun o’u dewis i’r dosbarth a disgrifio’r hyn sy’n digwydd yn y ffotograff. Defnyddiwch y cwestiynau hyn i gael mwy o wybodaeth gan y disgyblion: • Pwy sydd yn y ffotograff hwn? • Ffotograff o beth yw hwn? • Pam ydych wedi dewis y ffotograff hwn? • O oes rhywun wedi canfod rhywbeth tebyg
mewn ffotograff arall? • Beth wnaethoch ei fwynhau am yr
arddangosyn hwn?• A oes cysylltiad rhwng yr arddangosyn hwn
a’r sioe a welsoch? Beth?• Beth arall a welsoch yn Techniquest?• Beth a ddysgoch ar eich ymweliad?• Pa ran o’r ymweliad oedd orau gennych
chi? Pam?
Defnyddio’ch Ffotograffau
Ar Lany Môr
-
www.techniquest.org3
Llwybr ArddangosYm mhob un o’r ffotograffau canlynol, mae Delyth yn gofyn cwestiwn sy’n gysylltiedig â’r sioe neu’r arddangosyn. • Rhowch sialens i’r disgyblion ateb y
cwestiynau. • Gofynnwch i’r disgyblion a wnaethant
ddefnyddio’r arddangosyn yn y ffotograff yn ystod eu hymweliad. Beth wnaethant ddarganfod amdano?
• Pa arddangosiadau eraill wnaethant ganfod oedd yn gysylltiedig â’r sioe? Beth wnaethant ddarganfod wrth archwilio’r rhain?
• Gall y disgyblion wneud llun o’u hoff arddangosyn. Gallant ychwanegu swigod meddwl, fel y rhai yn y ffotograff o Delyth, i egluro pam eu bod yn ei hoffi.
Gall disgyblion e-bostio eu sylwadau a’u lluniau o’u hamser yn Techniquest i:
Bydd Delyth yn dewis ei hoff e-bostion a ffotograffau a bydd y rhain yn cael eu harddangos yn Techniquest. Cofiwch chwilio amdanynt y tro nesaf y byddwch yn ymweld.
Ar Lany Môr
-
Beth
mae
’r m
orgr
ug
yma
yn e
i fw
yta?
Sut
m
aent
yn
sym
ud e
u bw
yd i’
w n
yth?
ww
w.t
echn
ique
st.o
rg
Ar
La
ny
Mô
r
-
Pa anifeiliaid sy’n byw mewn compost? Beth allwn ei roi yn y
bin compost?
www.techniquest.org
Ar Lany Môr
-
Pa greaduriaid sy’n byw yn ac o gwmpas Bae
Caerdydd?
www.techniquest.org
Ar Lany Môr
-
Sut alla i agor y clo? Ar ba bethau eraill y
ceir cloeon?
www.techniquest.org
Ar Lany Môr
-
www.techniquest.org8
Ynysoedd CerddorolBeth sydd ei angen arnoch: • Tudalennau papur newydd. • Chwaraewr CD. • CD o gerddoriaeth wahanol.
Beth i’w wneud:• Dyma fersiwn môr ladron o’r
gêm barti glasurol “Cadeiriau Cerddorol”.
• Gosodwch dudalennau o bapur newydd ar lawr y neuadd neu fuarth. Bydd angen un dudalen bapur newydd yn llai na nifer y disgyblion.
• Chwaraewch y gerddoriaeth. Dylai’r disgyblion symud o gwmpas yr ystafell. Gallant smalio eu bod yn nofio i ychwanegu at y syniad eu bod yn symud o gwmpas grŵp o ynysoedd.
• Stopiwch y gerddoriaeth ar hap. • Pan fo’r gerddoriaeth yn stopio,
dylai disgyblion neidio ar yr ynys agosaf. Dylech weiddi “môr-ladron” i ychwanegu at y cyffro a’r hwyl.
• Dim ond un disgybl gaiff sefyll ar bob darn o bapur. Mae’n rhaid i’r disgybl sydd heb ynys adael y gêm. Gallech ddweud eu bod wedi cael eu dal gan y môr-ladron!
• Cyn i chi ailddechrau’r gerddoriaeth, tynnwch un darn o bapur ymaith.
• Parhewch i chwarae nes y ceir un enillydd.
Gofynnwch i’r disgyblion:• Pa mor hawdd oedd canfod
ynys? • A ddysgoch unrhyw ffyrdd
o sicrhau eich bod bob tro’n canfod ynys?
• A lanioch chi a ffrind ar yr un ynys o gwbl? Sut benderfynwyd pwy ddylai gamu oddi wrthi?
Xim faccus a porem vent.Ecum restius-dame conecer ferionsequis quo volo et alicien-tem suntur as t
Et lant fugit por modisint ex eseque repedipid eos qui dolupis experias de same nis sus aut verspi-entium ius dolorum as aut eliam que
Ar Lany Môr
-
www.techniquest.org9
Acwariwm Bocs EsgidiauBeth sydd ei angen arnoch:• Bocs Esgidiau• Paent glas• Brwsh paent• Cerdyn• Llinyn• Siswrn• Pensiliau neu greonau• Papur sidan gwyrdd• Sticeri• Glud
Beth i’w wneud:• Paentiwch y tu mewn i’r bocs
esgidiau yn las a’i adael i sychu. • Rhowch y bocs i sefyll ar ei ochr
(fel yn y llun). • Torrwch sipiau gwymon yn y
papur sidan gwyrdd. Glynwch y rhain ar wal gefn y bocs ac ar hyd y gwaelod.
• Lluniwch a lliwiwch siapiau pysgod. Gallech hefyd lunio seren fôr, cranc, octopws neu unrhyw greadur y môr y gallwch feddwl amdano.
• Torrwch o gwmpas y siapiau hyn. Efallai y byddwch eisiau gofyn i oedolyn i’ch helpu gyda’r torri.
• Gofynnwch i oedolyn eich helpu i wneud twll ar dop bob creadur y môr. Bwydwch linyn drwy’r twll a gwneud cwlwm.
• Gwnewch dyllau ar hyd top y bocs. Bwydwch y llinyn drwy’r tyllau i hongian eich creaduriaid y môr.
Ar Lany Môr
-
www.techniquest.org10
Trefnu Creaduriaid y Môr• Isod ceir llawer o wahanol greaduriaid y môr*. Gyda
chymorth oedolyn, torrwch o gwmpas y lluniau. • Sut allwch chi osod y creaduriaid y môr mewn grwpiau
gwahanol? • Pam y dewisoch eu trefnu fel hyn? • Nawr trefnwch hwy i wahanol grwpiau.• Sut wnaethoch roi trefn arnynt y tro hwn? Pam y
dewisoch eu trefnu fel hyn?• Beth sy’n gyffredin rhwng y creaduriaid yma? Sut maent
yn wahanol?
* Nid i raddfa
Ar Lany Môr
-
www.techniquest.org11
Dat
blyg
iad
Pers
onol
a
Chy
mde
ithas
ol,
Lles
ac A
mry
wia
eth
Ddi
wyl
liann
ol
Sgili
au Ia
ith,
Llyth
renn
edd
a C
hyfa
thre
bu
Dat
blyg
iad
Mat
hem
ateg
ol
Gw
ybod
aeth
a
Dea
lltw
riaet
h o’
r Byd
Dat
blyg
iad
Cor
fforo
l
Dat
blyg
iad
Cre
adig
ol
Ar Lany Môr
Cartrefi anifeiliaid - gweithgaredd llawr yn Techniquest
Pysgota môr dwfn - gweithgaredd llawr yn Techniquest
Trefnu cregyn y môr - gweithgaredd llawr yn Techniquest
Ynysoedd cerddorol - gweithgaredd ôl-sioe
Acwariwm bocs esgidiau - gweithgaredd ôl-sioe
Trefnucreaduriaid y môr - gweithgaredd ôl-sioe
Sioe theatr wyddoniaeth Ar Lan y Môr
Llwybr arddangos yn Techniquest