cefnogaeth i rieni a chymorth ariannol gyda chostau gofal ... care/for parent… · • gael...
TRANSCRIPT
Cefnogaeth i rieni a chymorth ariannol gydachostau gofal plant
2
Gall gofal plant ymddangos yn gostus, ond cyn i chi benderfynu na allwch ei fforddio,cofiwch fod hawl gan y mwyafrif o deuluoedd dderbyn cymorth ariannol.
Cymorth ariannol gydachostau gofal plant
Mae’r cymorth yma’n cynnwys:
1. Credyd Treth Plant
2. Credyd Treth Gwaith
3. Elfen gofal plant y credyd treth gwaith
4. Cynlluniau cymorth lleoedd a help llaw
5. Addysg ran amser yn rhad ac am ddim ibob plentyn 3 a 4 oed
6. Talebau gofal plant gan rai cyflogwyr
7. Cynllun Cymeradwy Gofal Plant
8. Dechrau’n Deg
1. Credyd Treth Plant
Mae Credyd Treth Plant yn cefnogi teuluoedd sydd â
phlant. Gallwch hawlio hwn a ydych mewn swydd
neu beidio. Gall bob teulu sydd â phlant ac sy’n
derbyn incwm o hyd at £58,000 y flwyddyn (neu hyd
at £66,000 y flwyddyn os oes plentyn iau na blwydd)
hawlio’r credyd yn yr un ffordd. Caiff y Credyd Treth
Plant ei dalu’n uniongyrchol i’r person sydd â’r prif
gyfrifoldeb am ofalu am y plentyn neu’r plant.
Gallwch ei ddefnyddio i dalu eich costau gofal plant,
ond nid taliad am ofal plant ydyw’n benodol.
3
2. Credyd Treth Gwaith
Mae Credyd Treth Gwaith yn cefnogi pobl sy’n
gweithio (dim ots a ydynt yn gyflogedig neu’n
hunangyflogedig) ac sy’n derbyn incwm isel. Mae’n eu
helpu drwy ychwanegu at eu henillion. Caiff y Credyd
Treth Gwaith ei dalu i’r person sy’n gweithio 16 awr
neu fwy bob wythnos. (Os ydych yn gyfrifol am
blentyn neu berson ifanc, gallwch hawlio Credyd
Treth Gwaith os ydych yn 16 oed neu’n hyn ac yn
gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.) Gyplau – os yw’r
ddau ohonoch yn gweithio 16 awr neu fwy bob
wythnos – mae’n rhaid i chi ddewis pa un ohonoch
fydd yn derbyn y taliad. Ni allwch dderbyn Credyd
Treth Gwaith os nad ydych yn gweithio. Os ydych yn
fyfyriwr nyrsio sy’n derbyn bwrsari neu grant, ni
fyddwch fel arfer wedi’ch ystyried yn rhywun sy’n
gweithio felly ni fyddwch yn gallu cael Credyd Treth
Gwaith heblaw eich bod yn gwneud gwaith arall gyda
chyflog am o leiaf 16 awr yr wythnos neu os oes
gennych bartner sy’n gwneud hynny.
3. Elfen gofal plant y credyd treth gwaith
Gydag Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith efallai
y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol gyda
chostau gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. O
fis Ebrill 2006 cynyddodd cyfran y costau sy’n cael eu
talu yn elfen gofal plant y credyd treth gwaith i 80%,
yn amodol ar gostau uchaf o £175 ar gyfer 1 plentyn
a £300 ar gyfer 2 neu fwy o blant. Nid yw Credyd
Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith yn effeithio ar
daliadau Budd-dal Plant, sy’n cael eu talu ar wahân. I
gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Gymorth
Credyd Treth Cyllid a Thollau EM ar 0845 300 3900.
4. Cynlluniau cymorth lleoedd a help llaw
Mae rhai o’r cynlluniau yma’n darparu arian
ychwanegol i ddarparwyr gofal plant a/neu
deuluoedd sydd ar incwm isel neu fudd-daliadau
penodol, fel eu bod yn gallu fforddio derbyn gofal
plant o safon. Mae rhai o’r cynlluniau yma’n galluogi i
ddarparwyr gynnig gwasanaeth hollgynhwysol i bob
plentyn beth bynnag fo’u hanghenion. I gael
manylion y cynlluniau yn eich ardal chi, cysylltwch
â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
5. Lleoedd rhan amser mewn addysg gynnaryn rhad ac am ddim
Yn ogystal, cofiwch fod hawl i bob plentyn 3 a 4 oed
yng Nghymru gael lleoedd rhan amser mewn addysg
gynnar yn rhad ac am ddim.
6. Talebau Gofal Plant
Efallai bod rhai cyflogwyr yn cefnogi gwirfoddolwyr
drwy ddarparu Talebau Gofal Plant iddynt.
4
7. Cynllun Cymeradwy Gofal Plant
Mae’r Cynllun Cymeradwy Gofal Plant (CASW) yn
gynllun gwirfoddol i ofalwyr nad oes gofyn iddynt
gofrestru gyda AGGCC ac sy’n gofalu am blant rhwng
0 a 7 oed. Ei amcanion yw codi safonau gofal yn y
cartref a chaniatáu i fwy o rieni sy’n defnyddio’r math
yma o ofal plant gael Elfen Gofal Plant y Credyd Treth
Gwaith neu ddefnyddio Talebau Gofal Plant.
Gall unrhyw un, heblaw perthynas agos, sy’n darparu
gofal plant yng nghartref y plentyn wneud cais i ddod
yn weithiwr gofal plant cymeradwy.
I gael eu cymeradwyo dan y cynllun yma, mae’n rhaid
i weithwyr gofal plant:
• fod yn 18 oed neu’n hyn
• feddu ar gymhwyster Lefel 2 yn y blynyddoedd
cynnar a gofal plant
• gael tystysgrif cymorth cyntaf
• fod wedi derbyn cliriad y Swyddfa Cofnodion
Troseddol (CRB)
• o fis Hydref 2009, mae gofyn iddynt gofrestru
gyda’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA).
8. Dechrau’n Deg
Blynyddoedd cyntaf bywydau plant yw’r pwysicaf a’r
rhai sy’n sylfaenol i’w gallu i ddatblygu i’w potensial
llawn. Mae ein rhaglen Dechrau’n Deg wedi’i llunio’n
benodol i dargedu plant ar y cyfle cyntaf, yn ein
cymunedau difreintiedig, i wneud newid sylweddol
yn eu bywydau.
Mae Dechrau’n Deg wedi’i dargedu at y grwp oedran
0-3 mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru ac yn
amcanu i ddylanwadu ar ganlyniadau positif yn y
tymor canolig a thymor hir. Mae wedi’i seilio ar
dystiolaeth ryngwladol o’r hyn sy’n gweithio.
Yng nghalon y rhaglen mae gofal plant rhan amser,
rhad ac am ddim o ansawdd da ar gyfer plant 2-3
oed. Mae Dechrau’n Deg hefyd yn darparu:
• gwell gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
• mynediad i Raglenni Rhianta a
• mynediad i sesiynau Iaith a Chwarae
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol
0300 123 7777.
Cymorth ariannol gydachostau gofal plant
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n llinell gymorth ar 0844 736 0260
neu ewch i www.childcareapprovalschemewales.co.uk
5
Mae Genesis Cymru 2 yn brosiect sydd wedi’i fwriadu’n benodol i helpu pobl iorchfygu nifer o’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu pan fyddent eisiau dysgu sgiliaunewydd neu ddychwelyd i’r gwaith.
Genesis Cymru 2
Mae’n rhoi cymorth ychwanegol i’r bobl hynny sydd
ei angen i gymryd y camau cyntaf i ddysgu neu
weithio.
Gall ymgynghorydd Genesis weithio ochr yn ochr
â chi i adeiladu eich hyder – naill ai yng
nghyfforddusrwydd eich cartref eich hun gydag
neu mewn grwp yn eich cymuned.
Gall yr ymgynghorydd eich helpu chi i gymryd y
camau syml i addysg neu waith. A fesul dipyn, dangos
y ffordd i chi, gan gychwyn gyda chyrsiau blasu byr
AM DDIM i adeiladu eich hyder.
Fydd yr ymgynghorydd yn trafod gyda chi ba
gymwysterau rydych eu hangen ar gyfer y math o
waith rydych yn chwilio amdano, rhoi cyngor i chi
ar y cyrsiau sy’n iawn i chi, a hyd yn oed dangos i
chi sut i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith a
gwaith gwirfoddol.
Gall hefyd eich helpu â’r pethau sydd efallai’n eich
rhwystro rhag cymryd rhan mewn hyfforddiant neu
waith. Er enghraifft, help i ffeindio gofal plant, neu
grantiau i dalu ffioedd cwrs, teithio a chostau offer.
Gallwch gael y manylion cysylltu gan eich
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar
0300 123 7777.
Mae Genesis Cymru 2 wedi’i gyllido’n rhannol gan
Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd drwy Raglenni
Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Rhaglenni
Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Dwyrain Cymru.
6
Cydbwyseddbywyd a gwaithMae Cydbwysedd Bywyd a Gwaith yn ymwneud â mwy na dim ond teuluoedd a gofalplant. Mae’n ymwneud â sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn y gall pobl ei gyflawniyn y gwaith ac yn y cartref, a rhoi o’u gorau ar yr un pryd i bob agwedd o’u bywydau.
Mae nifer o gyflogwyr yn cynnig hyblygrwydd yn y
gwaith. Mae eraill yn cynnig buddion megis Talebau
Gofal Plant, egwyl mewn gyrfa neu gymorth i ganfod
gofal plant.
Mae cyfreithiau newydd yn nodi buddion
Cydbwysedd Bywyd a Gwaith allai eich helpu i dreulio
mwy o amser gyda’ch plant/plentyn a’i gwneud hi’n
haws i chi drefnu gofal plant.
Mae’r buddion posibl o ran y cydbwyseddbywyd a gwaith yn cynnwys:
• gweithio hyblyg
• absenoldeb rhiant
• absenoldeb i fabwysiadu
• amser o’r gwaith ar gyfer eraill sy’n ddibynnol
arnoch
Gall eich GwasanaethGwybodaeth i Deuluoedd lleol
roi rhagor o wybodaeth i chi amyr hyn y mae gennych hawl
iddo. Gallent hefyd eich cyfeirioat sefydliadau eraill allai eich
helpu efallai.
7
Mae Canolfan Byd Gwaith yn gorff gweithredol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).Cafodd Canolfan Byd Gwaith ei lansio ym mis Ebrill 2002, gan ddod â’r GwasanaethCyflogaeth ynghyd â rhannau o’r Asiantaeth Budd-daliadau oedd yn darparugwasanaethau i bobl o oedran gweithio.
Nod Canolfan Byd Gwaith yw:
• helpu mwy o bobl i gael swydd gyda chyflog
• helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag
• i roi’r gefnogaeth i bobl o oedran gweithio y
mae ganddynt hawl iddi os na allent weithio
Canolfan Byd Gwaith
8
Canolfan Byd GwaithCynghorwyr personolMae cynghorwyr personol yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig cyngorymarferol ar bob cam o chwilio am waith.
Gallent eich helpu:
• os nad ydych yn siwr beth hoffech ei wneud
• pan fyddwch angen cyngor am eich opsiynau
a chynllunio ymlaen llaw
• pan fyddwch yn chwilio am waith
• pan fyddwch eisiau cael hyfforddiant ar gyfer
swydd
• ar ôl i chi ddechrau gweithio
Gall eich cynghorwr personol hefyd:
• weithio allan faint yn well y gallech fod yn ariannol
trwy fod mewn swydd
• esbonio effaith cychwyn gweithio ar eich budd-
daliadau neu gredydau treth
• esbonio pa fudd-daliadau neu gredydau treth y
gallech fod â hawl iddynt pan ddechreuwch weithio
• gael gafael ar gyngor arbenigol am gyflogaeth os
oes gennych anabledd neu broblem iechyd
• eich helpu i ganfod gofal plant cofrestredig o
ansawdd da yn eich ardal
• helpu gyda chostau mynd i gyfarfodydd,
cyfweliadau am swyddi neu hyfforddiant, gan
gynnwys costau teithio a chostau gofal plant
cofrestredig
9
Credydau Treth Gwaith achymhellion ariannol eraill
Efallai bod hawl gennych i gael
Credyd Treth Gwaith (gan
gynnwys cymorth tuag at gostau
gofal plant) a buddion ariannol
eraill pan ddechreuwch weithio
mewn swydd. Gall eich cynghorwr
personol esbonio
Ble i fynd i gael rhagor owybodaeth
I ganfod rhagor am wasanaethau
Canolfan Byd Gwaith ewch i
www.direct.gov.uk
Os ydych yn chwilio am waith gall
ein gwasanaeth ffôn, Canolfan
Byd Gwaith, eich helpu.
Ffoniwch Canolfan Byd Gwaith ar
0845 6060 234.
Os oes gennych anawsterau
clywed neu siarad, gallwch
ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn
testun ar 0845 6055 255 a bydd
ein cynghorwyr yn eich helpu.
(Byddwch yn ffonio am gost
galwad lleol ond gallai’r gost fod
yn uwch ar ffôn symudol). Neu,
gallwch gysylltu â’ch swyddfa
Canolfan Byd Gwaith ar
0845 604 3719 (Saesneg) neu
0845 604 4248 (Cymraeg).
10
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn wasanaeth gwybodaeth rhad ac amddim i BOB rhiant a gofalwr sydd â phlant rhwng 0 a 19 oed.
Gwasanaethau Gwybodaethi Deuluoedd (GGD)
Maent yno i roi gwybodaeth a chyngor i chi i’ch helpu
i ganfod a dewis gofal plant. Gallent hefyd eich helpu
i ganfod rhagor am yr ystod o wasanaethau i blant,
teuluoedd a phobl ifainc sydd ar gael yn eich ardal.
Gallwch naill ai ffonio neu ymweld â’ch Gwasanaeth
Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Byddwch yn gallu
siarad gyda phobl sy’n gallu esbonio pa wasanaethau
plant a gofal plant sydd ar gael yn eich ardal. Gallent
eich cynghori am unrhyw gefnogaeth ariannol y mae
hawl gennych i’w derbyn i’ch helpu i dalu cost eich
gofal plant.
Nhw yw eich man cychwyn delfrydol os oes gennych
unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn ymwneud
â’ch teulu. Felly ffoniwch nhw’n gyntaf.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i’w gael
ymhob awdurdod lleol. Ffoniwch 0300 123 7777
i ganfod yr un sydd agosaf atoch chi. Neu, ewch
i’r adran ‘Cysylltiadau Defnyddiol’ ar wefan
www.ChwaraeDysguTyfuCymru.gov.uk
*sef Gwasanaethau Gwybodaeth Plant
(GGP) gynt
11
CMK-22-07-459 19096 Choosing Childcare Booklets 978 0 7504 5570 1