art across the city€¦ · mae speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr...

11
ART ACROSS THE CITY SWANSEA, UK 21 March - 1 June 21 Mawrth - 1 Mehefin a LOCWS International Production www.artacrossthecity.com

Upload: others

Post on 30-Oct-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

ART ACROSS THE CITY SWANSEA, UK

21 March - 1 June21 Mawrth - 1 Mehefin

a LOCWS International Production

www.artacrossthecity.com

Page 2: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

WELCOMECROESO

Welcome to ART ACROSS THE CITY, an international public art festival located across the City of Swansea, Wales. Commissioned by Locws International, the exhibition includes temporary and permanent public art by a diverse range of emerging and established artists.

This year is our 15th anniversary and since 2000 we have commissioned over 100 artists to create new artworks for Swansea. For 2015, we have five new commissions from artists Michael Stumpf, Graham Dolphin, Emily Speed, Colin Priest and David Cushway, bringing you a range of projects from balloons, wild west monuments, Joe’s ice cream, land speed attempts and tap dancing boulders.

Eleven permanent commissions further support the programme including works by Jeremy Deller, DJ Roberts, Mark Folds, Pete Fowler, Bedwyr Williams, Sinta Tantra, Sean Puleston, Rik Bennett, Bermingham & Robinson and Niamh McCann.

Alongside the exhibition we have a diverse programme of events, outreach and education projects. Find out more at our new exhibition hub in Unit 11, Quadrant Shopping Centre or online. We hope you enjoy exploring Swansea and all it has to offer as you visit Art Across The City 2015.

David HastieDirector, Locws International

Croeso i CELF AR DRAWS Y DDINAS, gŵyl gelf gyhoeddus ryngwladol wedi ei lleoli ar draws dinas Abertawe. Mae’r arddangosfa, a gomisiynwyd gan Locws Rhyngwladol, yn cynnwys celf gyhoeddus barhaol a thros dro gan ystod amrywiol o artistiaid sefydledig a newydd.

Mae’n 15eg mlwyddiant i ni eleni, ac ers y flwyddyn 2000 rydym wedi comisiynu dros 100 o artistiaid i greu gweithiau celf newydd yn Abertawe. Yn 2015 mae gennym bum comisiwn newydd gan yr artistiaid Michael Stumpf, Graham Dolphin, Emily Speed, Colin Priest a David Cushway, a fydd yn dod ag amrywiaeth o brosiectau o falŵns, cofadeiliau o’r Gorllewin gwyllt, hufen iâ Joe’s, ymgeision am y record cyflymder tir, i gerfluniau eiconig.

Mae un ar ddeg o gomisiynau parhaol yn cefnogi’r rhaglen ymhellach gan gynnwys gweithiau gan Jeremy Deller, DJ Roberts, Mark Folds, Pete Fowler, Bedwyr Williams, Sinta Tantra, Sean Puleston, Rik Bennet, Bermingham a Robinson a Niamh McCann.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa mae gennym raglen amrywiol o ddigwyddiadau a phrosiectau estyn mas a phrosiectau addysg. Dysgwch ragor yn ein canolfan arddangos newydd yn Uned 11, Canolfan Siopa’r Quadrant neu ar-lein. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau archwilio Abertawe a phopeth sydd gan y ddinas i’w gynnig wrth i chi ymweld â Chelf Ar Draws Y Ddinas 2015.

David HastieCyfarwyddwr, Locws Rhyngwladol

1 2www.artacrossthecity.com

INFORMATION GWYBODAETHt: 01792 234444 | e: [email protected]: @Locws_Art | f: Locws Internationalw: www.artacrossthecity.com

SUPPORT FROM CEFNOGAETH GAN

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

DAVID & CHRISTOPHER LEWIS FOUNDATION

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

ARTISTS ARTISTIADAUDavid CushwayUnit 11, Quadrant Centre Chanolfan Cwadrant

Graham DolphinCivic Centre Grounds Tir y Ganolfan Ddinesig

Colin PriestSlip Bridge / Unit 11, Quadrant Pont y Slip / Quadrant

Emily SpeedCivic Centre Atrium Atriwm Y Ganolfan Ddinesig

Michael StumpfAmphitheatre Amffitheatr

D J RobertsKardomah Cafe Nghaffi Kardomah

Jeremy DellerSt Mary’s Car Park Maes Parcio’r Santes Fair

Pete Fowler58 High Street 58 Stryd Fawr

Sinta Tantra230 High Street 230 Stryd Fawr

Sean Puleston226 High Street 226 Stryd Fawr

Rik Bennett24 High Street 24 Stryd Fawr

Bedwyr WilliamsKingsway Ffordd y Brenin

Bermingham & RobinsonBrangwyn Hall Neuadd Brangwyn

Mark FoldsCwmdonkin Park Parc Cwmdonkin

Niamh McCannDylan Thomas Theatre Theatr Dylan Thomas

Page 3: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

3 4www.artacrossthecity.com

1

Cushway’s prototype for a record-breaking vehicle, designed in collaboration with UWTSD’s Institute of Sustainable / Automotive Design Department is made from clay, possibly the material least designed for speed. However, clay spearheaded the industrial revolution and has been at the forefront of great technical advancements. Despite its slow nature, clay has been essential in our need for speed and human achievement. Based in our Information Hub in the Quadrant Shopping Centre, this prototype for speed is stopped in its tracks as it slowly crumbles away whilst on display.

Mae prototeip Cushway o gerbyd i dorri record cyflymder tir, a gynlluniwyd ar y cyd â Sefydliad Dylunio Cynaliadwy UWTSD, wedi ei wneud o glai, sef, o bosibl, y deunydd lleiaf addas ei gynllun ar gyfer cyflymder. Fodd bynnag, clai oedd prif ysgogydd y chwyldro diwydiannol ac mae wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau technegol mawr. Er gwaethaf ei natur araf, bu clai yn rhan annatod o’n hymchwil am gyflymder a chyflawniad dynol. Wedi ei leoli yn ein Canolfan Wybodaeth yng Nghanolfan Siopa’r Quadrant, mae’r prototeip hwn, ac yntau ar drywydd cyflymder, wedi ei stopio’n stond, ac mae’n araf ddadfeilio tra caiff ei arddangos.

The ghost town of Swansea sits on the edge of Death Valley, California. Once a mining boomtown in the 1860’s, little of the town remains apart from a memorial. The connections with the city go beyond the place name, as it commemorates the hundreds of Welsh workers who made the trip to America and beyond to set up and run mines and foundries. Dolphin has recreated this memorial and placed it outside the Civic Centre, with ramshackle ‘Wild West’ signs made by local schools pointing to other Swansea namesakes across the world.

Tref anghyfannedd ar ymyl Death Valley, California yw Swansea. Roedd unwaith yn dref lofaol ffyniannus yn yr 1860au, bellach ychydig iawn o’r dref sydd ar ôl ar wahân i’r gofeb. Mae’r cysylltiadau â’r ddinas yn mynd y tu hwnt i enw’r lle, gan ei fod yn coffáu’r cannoedd o weithwyr o Gymru a deithiodd i America a thu hwnt i sefydlu a rhedeg pyllau glo a ffowndrïau. Mae Dolphin wedi ail-greu’r gofeb hon a’i lleoli y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig, gydag arwyddion sigledig yn steil y ‘Gorllewin Gwyllt’ wedi eu gwneud gan ysgolion lleol yn pwyntio at lefydd eraill o’r enw Swansea ar draws y byd.

Graham DolphinCivic Centre Grounds Tir y Ganolfan DdinesigSwansea Track 10

2

High up in the Civic Centre floats a huge cluster of helium filled balloons, each printed with a picture of the iconic building. As the temperature changes and passing visitors create shifts in the air, the balloons gently shimmer and dip around the atrium. Speed both celebrates and laments the passing of the building; Brutalist architecture; the loss of an equally loved and maligned building and what the future holds for the city. A limited amount of free balloons will be available from the Information Hub in the Quadrant Shopping Centre.

I fyny fry yn Atriwm y Ganolfan Ddinesig mae clwstwr enfawr o falwnau heliwm, pob un wedi’u hargraffu â darlun o’r adeilad eiconig. Wrth i’r tymheredd amrywio ac wrth i ymwelwyr basio ac achosi i’r awyr symud, mae’r balwnau’n pelydru ac yn araf symud o amgylch yr atriwm. Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth a ddaw o’r ddinas. Bydd nifer gyfyngedig o falwnau i’w cael am ddim o’r Ganolfan Wybodaeth yng Nghanolfan Siopa’r Quadrant.

4

Baywatch celebrates the vast sky and heritage along Swansea Bay. Coinciding with the centenary of The Slip Bridge, Priest has collated documents from the West Glamorgan Archive, made a silent documentary and will talk at the library to discuss this enduring local landmark. Working with Joe’s Ice Cream, Priest has commissioned a limited edition Swansea Bay Sundae, on sale in their Mumbles and Swansea parlours. (See Get involved p11)

Mae Baywatch yn dathlu’r awyr a’r dreftadaeth helaeth a geir ar hyd Bae Abertawe. Gan gyd-daro â chanmlwyddiant Pont y Slip, mae Priest wedi casglu dogfennau o Archifdy Gorllewin Morgannwg, gwneud rhaglen ddogfen dawel a bydd yn siarad yn y llyfrgell i drafod y tirnod lleol hirymarhous hwn. Gan weithio gyda chwmni hufen iâ Joe’s, mae Priest wedi comisiynu hufen iâ arbennig dros dro o’r enw Hufen Iâ Bae Abertawe, sydd ar werth ym mharlyrau hufen iâ’r Mwmbwls ac Abertawe. (Gweler Cymerwch Ran ar dudalen 12)

Colin PriestSlip Bridge / Joe’s Ice Cream Parlour / Unit 11, Quadrant Pont y Slip / Parlwr Hufen Iâ Joe’s / Uned 11, QuadrantBaywatch

3David CushwayUnit 11, Quadrant Centre Uned 11, Canolfan Siopa’r Quadrant Prototype

Emily SpeedCivic Centre Atrium Atriwm Y Ganolfan DdinesigConcrete Dreams

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

Page 4: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

5 6

5

Michael Stumpf brings an almost absurdist, punk rock approach to public art. Using the Amphitheatre as a setting, his three large sculptures references monolithic public art, industry and music. A tap-dancing boulder, One of Us, a coffeemaker, Stovetop, and a meteorite-like object, Pink Moon, temporarily occupy the Amphitheatre’s stage and seating, inviting you to take a seat or stand to join them in a debate about the nature of their ‘thing-ness’.

Daw Michael Stumpf a dull gweithredu sydd bron yn absẃrd, ac agwedd pync roc i fyd celfyddyd gyhoeddus. Gan ddefnyddio’r Amffitheatr fel lleoliad, mae ei dri cherflun mawr yn cyfeirio at gelfyddyd gyhoeddus, diwydiant a cherddoriaeth fonolithig. Dros dro, mae clogfaen sy’n dawnsio tap, One of Us, peiriant coffi, Stovetop, a gwrthrych tebyg i awyrfaen, Pink Moon, yn meddiannu llwyfan a seddau’r Amffitheatr, gan eich gwahodd i eistedd neu sefyll i ymuno â hwy mewn dadl ynghylch natur ‘petheu-dra’.

DJ Roberts’ neon artwork uses a line from a Dylan Thomas radio broadcast, Return Journey to Swansea. In the broadcast, Thomas tells of his return to Swansea in search of his former self, growing up in the town. We find him at one stage in the Kardomah Café with his friends, putting the world to rights. They talk about ‘music and poetry and painting and politics‘. They talk about ‘communism, symbolism, Bradman and Braque‘. They talk about “Michelangelo, ping-pong, ambition, Sibelius, and girls…”

Mae gwaith celf neon DJ Roberts yn defnyddio llinell o ddarllediad radio gan Dylan Thomas, Return Journey to Swansea. Yn y darllediad, mae Dylan Thomas yn sôn amdano’n dychwelyd i Abertawe ar drywydd ei fywyd ei hun yn cael ei fagu yn y dref. Fe’i gwelwn ar un pwynt yng nghaffi Karomah gyda’i ffrindiau, yn rhoi’r byd yn ei le. Maen nhw’n siarad am ‘gerddoriaeth a barddoniaeth ac arlunio a gwleidyddiaeth’. Maen nhw’n siarad am ‘gomiwnyddiaeth, symboliaeth, Bradman a Braque’. Maen nhw’n siarad am “Michelangelo, tenis bwrdd, uchelgais, Sibeliws, a merched…”

D J RobertsKardomah Cafe Nghaffi Kardomah

Michelangelo, Ping-Pong, Ambition, Sibelius, and Girls…

6

Pete Fowler’s largest piece of work to date celebrates Swansea’s most famous son, Dylan Thomas. The mural makes poetic and quirky reference to his writing with affectionate nods to Swansea. Fowler’s artwork is part of Art Across The High Street, a partnership project to improve the appearance of Swansea city centre funded by the Welsh Government, City & County of Swansea and Swansea BID.

Mae gwaith mwyaf Pete Fowler hyd yn hyn yn dathlu mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas. Mae’r murlun hwn yn cyfeirio, mewn modd barddonol ac anarferol at waith y llenor, gyda chyfeiriadau annwyl at Abertawe. Mae gwaith celf Fowler yn rhan o’r cynllun Celf ar Draws y Stryd Fawr, prosiect partneriaeth i wella golwg canol dinas Abertawe a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Dinas a Sir Abertawe a BID Abertawe.

8

www.artacrossthecity.com

A simple statement in black and white, More Poetry Is Needed sits on a large wall to the rear of the Quadrant Shopping Centre. Greeting visitors to the city centre, Deller’s plaintive request gets straight to the point. Everybody and everywhere could do with more poetry. Writer Rachel Trezise has responded by writing 6 micro-fictions to be distributed across bars and cafes in Swansea.

Datganiad syml mewn du a gwyn yw More Poetry Is Needed sydd wedi ei leoli ar wal fawr yng nghefn Canolfan Siopa’r Quadrant. Gan gyfarch ymwelwyr i ganol y ddinas, mae cais cwynfanus Deller yn hollol uniongyrchol. Gallai pawb a phob man wneud â chael rhagor o farddoniaeth. Mae’r awdures Rachel Trezise wedi ymateb drwy ysgrifennu 6 darn o lên-micro ffuglennol i’w dosbarthu ym mariau a chaffis Abertawe.

Jeremy DellerSt Mary’s Car Park Maes Parcio’r Santes Fair

More Poetry is Needed

7Michael StumpfAmphitheatre Amffitheatr

The Future Is A Process, Objects Converse On A Matter of Mutual Concern

Pete Fowler58 High Street 58 Stryd Fawr

Portrait Of The Artist As A Young Octopus

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

Page 5: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

87 www.artacrossthecity.com

9 Sean Puleston226 High Street 226 Stryd FawrWe Are Here

10 12Rik Bennett24 High Street 24 Stryd FawrTerpsichorean Trio

11Sinta Tantra230 High Street 230 Stryd FawrGreater Reality Of Elsewhere

Bedwyr WilliamsKingsway Ffordd y BreninLionheart And Lightsout

Sinta Tantra’s artwork layers abstract spreads of geometric colour with two giant golden palm trees, creating an ambiguous imagery that reflects her Balinese origin and Western upbringing. Tantra’s artwork is part of Art Across The High Street, a partnership project to improve the appearance of Swansea city centre funded by the Welsh Government, City & County of Swansea and Swansea BID.

Mae gwaith celf Sinta Tantra yn haenu ehangder haniaethol o liw geometrig gyda dwy balmwydden aur enfawr, gan greu delweddu amwys sy’n adlewyrchu ei gwreiddiau Balïaidd a’i magwraeth orllewinol. Mae gwaith celf Tantra yn rhan o’r cynllun Celf ar Draws y Stryd Fawr, prosiect partneriaeth i wella golwg canol dinas Abertawe a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Dinas a Sir Abertawe a BID Abertawe.

Sean Puleston reconnects the High Street with the heart of Swansea, being inspired by the city’s dynamic skyline as well as its worldwide reputation for excellence in stained glass. Puleston recognises that there is much to celebrate about Swansea’s future prospects, which he empathises with through the inclusive statement “We Are Here”, reaffirming our shared local and global significance.

Mae Sean Puleston yn ailgysylltu’r Stryd Fawr gyda chalon Abertawe, wedi’i ysbrydoli gan nenlinell ddynamig y ddinas yn ogystal â’r enw da byd eang am ragoriaeth gwydr lliw. Mae Puleston yn cydnabod bod llawer i’w ddathlu am ragolygon Abertawe yn y dyfodol, ac mae’n pwysleisio hynny gyda’r datganiad cynhwysfawr, “We are Here”, sy’n ail-gadarnhau ein harwyddocâd lleol a byd-eang.

Bedwyr Williams commemorates the cage-fighters dressed in drag for a night out, who stood their ground in the face of adversity and abuse. Captured on CCTV, the duo’s actions became an Internet hit. Williams pays tribute by casting the duos’ high heel footprints into brass and setting them into the pavement where the incident occurred, creating a lasting symbol against harassment and persecution.

Mae Bedwyr Williams yn coffáu’r ymladdwyr cawell wedi’u gwisgo fel menywod am noson allan a oedd wedi sefyll eu tir yn wyneb gelyniaeth a sarhad. Wedi’i ffilmio ar deledu cylch cyfyng, daeth gweithrediadau’r pâr yn enwog dros y rhyngrwyd. Mae Williams yn talu teyrnged drwy osod ôl-traed sodlau uchel y pâr mewn efydd a’u rhoi yn y palmant lle bu’r digwyddiad, gan greu symbol parhaus yn erbyn aflonyddu ac erledigaeth.

Rik Bennett’s mural on the High Street captures the essence of what the street once was, referencing the many dance halls, pubs and clubs that once thrived here. By doing so, Bennett is adding to the current reawakening that is taking place on this street, creating a new vibrancy and contributing positively to its regeneration and potential future.

Mae murlun Rik Bennett ar y Stryd Fawr yn dal hanfod yr hyn yr oedd y stryd yn arfer bod, gan gyfeirio at y neuaddau dawns, y tafarnau a’r clybiau niferus a oedd unwaith yn ffynnu yma. Wrth wneud hyn, mae Bennett yn ychwanegu at ailddeffro’r stryd sy’n digwydd ar hyn o bryd, gan greu bywiogrwydd newydd sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at ei adfywiad a’i ddyfodol posibl.

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

Page 6: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

9 10www.artacrossthecity.com

National Waterfront Museum Tel: 029 2057 3600 www.museumwales.ac.uk/swansea

Glynn Vivian Art Gallery Tel: 01792 516900 www.glynnviviangallery.org

Swansea Museum Tel: 01792 653 763 www.swanseamuseum.co.uk

Taliesin Arts Centre / Ceri Richards Gallery Tel: 01792 295526 www.taliesinartscentre.co.uk

Mission Gallery Tel: 01792 652016 www.missiongallery.co.uk

Elysium Gallery Tel: 07980 925449 www.elysiumgallery.com

Swansea Grand TheatreTel: 01792 475715 www.swanseagrand.co.uk

Dylan Thomas Centre Tel: 01792 463980 www.dylanthomas.com

Dylan Thomas Theatre Tel: 01792 473238 www.dylanthomastheatre.org.uk

Swansea Print Workshop Tel: 01792 464418 www.swanseaprintworkshop.org.uk

Volcano Theatre Tel: 01792 464790 www.volcanotheatre.co.uk

13 Mark FoldsCwmdonkin Park Parc CwmdonkinDylan’s Pencil

14 Niamh McCannDylan Thomas Theatre Theatr Dylan ThomasFlock Of Ospreys Looking For The Old Blind Sea Captain ...

15Bermingham & RobinsonBrangwyn Hall Neuadd BrangwynThe British Empire Panel Project

Other Cultural AttractionsAtyniadau Diwylliannol

Bermingham and Robinson have transformed the entrance windows into a giant kaleidoscope of light and colour, visible both inside and out, day and night, which is inspired by the panels held within. By sharing and working with Brangwyn’s ideals, Bermingham and Robinson have created a contemporary artwork using the very same strength of creative independence and determined artistic vision.

Mae Bermingham a Robinson wedi trawsnewid ffenestri’r mynedfeydd yn galeidosgop anferth o olau a lliw, sy’n weladwy o’r tu mewn a’r tu allan, yn ystod y dydd a’r nos, a ysbrydolwyd gan y paneli tu fewn. Drwy rannu a gweithio gyda delfrydau Brangwyn, mae Bermingham a Robinson wedi creu gwaith celf cyfoes gan ddefnyddio’r un annibyniaeth greadigol gref a’r weledigaeth gelfydd benderfynol.

During Mark Folds’ research visit to Cwmdonkin Park, he was inspired by the presence of a large tree stump standing at over 30 foot high, as well as the long association the park has with the poet Dylan Thomas. Dylan’s Pencil aims to engage people in thinking that something amazing, such as Dylan Thomas’ poetry, emerged from something so basic in this place.

Yn ystod ymweliad ymchwil Mark Folds â Pharc Cwmdoncyn, cafodd ei ysbrydoli gan bresenoldeb bonyn coeden mawr dros 30 troedfedd, yn ogystal â chysylltiad hir y parc â Dylan Thomas, y bardd. Nod Pensil Dylan yw ennyn pobl i feddwl bod rhywbeth anhygoel, megis barddoniaeth Dylan Thomas, wedi deillio o rywbeth mor sylfaenol yn y lleoliad hwn.

Niamh McCann’s mural, Flock Of Ospreys Looking For The Old Blind Sea Captain Who Dreams Of His Deceased Sea Fellows Under A Visiting African Sun, is a graphic representation of the James Harris Snr painting Swansea Bay in Stormy Weather. An African cigarette logo provides the red sun; the over looking ospreys are a Swansea logo and the title, combines all these and intimates the presence of a character from Dylan Thomas’s Under Milkwood. All these elements come together to create a landscape, which is both local and disparate.

Mae murlun Niamh McCann yn gynrychiolaeth graffig o baentiad James Harris yr hynaf, sef Swansea Bay in Stormy Weather. Arwyddlun cwmni sigarennau Affricanaidd sy’n rhoi’r haul coch; mae’r gweilch uwchben yn arwyddlun ac yn gyfeiriad at Abertawe, ac yn olaf, mae’r teitl yn cyfuno’r rhain i gyd ac yn mynegi presenoldeb cymeriad o Under Milkwood gan Dylan Thomas. Mae’r holl elfennau hyn yn dod ynghyd i greu tirlun sy’n lleol ac yn wahanol.

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

Page 7: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

GET INVOLVEDCYMRYD RHANART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

1211

Dewiswch o blith detholiad o weithdai sydd AM DDIM i bob oedran a gallu. Gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd yw’r rhain. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Gweithgareddau Canolfan 21 Mawrth - 31 Mai, 10am - 5pm dydd Mawrth - dydd Sadwrn / 11am - 4pm dydd SulUned 11, Canolfan QuadrantDewch i ymweld â Chanolfan Wybodaeth Celf ar Draws y Ddinas a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol a gweithgareddau cyhoeddus rhyngweithiol a hynny bob dydd. Casglwch eich map Celf ar Draws y Ddinas, neu fynd ar daith dywys am ddim o amgylch y ddinas yng nghwmni ein Tywyswyr Byw. Gallwch ychwanegu eich barddoniaeth i’r Gerdd Fawr sydd wedi ei hysbrydoli gan Dylan Thomas, rhoi cynnig ar ein Cystadleuaeth Arlunio Car Siwpersonig, a chymryd rhan ym mhob un o weithgareddau cyffrous y Ganolfan.

Gweithdai Arlunio Car SiwpersonigDydd Sadwrn a dydd Sul 4 a 5 Ebrill, 12pm -3pmAmgueddfa Genedlaethol y Glannau Galwch heibio i ddylunio car cyflym cyffrous yn ystod y gweithdy arlunio hwyliog hwn. Rhowch gynnig ar gystadleuaeth arlunio Celf ar Draws y Ddinas 2015 sydd wedi ei hysbrydoli gan gomisiwn newydd gan David Cushway, model maint llawn o brototeip ar gyfer car i dorri record cyflymder tir y gallwch ei weld yng Nghanolfan Wybodaeth Celf ar Draws y Ddinas yng Nghanolfan Siopa’r Quadrant. Mae’r gweithdai hyn AM DDIM ac yn addas i bob oedran.

Colin Priest: Sgwrs a ThaithDydd Sul 12 Ebrill, 2 pmLlyfrgell Abertawe, Yr Ystafell Ddarganfod Ymunwch â Colin Priest i glywed sgwrs AM DDIM ynglŷn â’i gomisiwn newydd ar gyfer Celf ar Draws y Ddinas 2015, cyfle unigryw i drafod a chymryd rhan mewn taith gerdded i un o dirnodau lleol mwyaf parhaol Abertawe, Pont y Slip. Yn dilyn hynny bydd taith i barlwr hufen iâ Joe’s i flasu Hufen Iâ Bae Abertawe a gomisiynwyd yn arbennig.

Gweithdai Arlunio Cymylau BaywatchDydd Sul 3 Mai a Dydd Sul 24 Mai, 11am – 3pmBae Abertawe ger grisiau Pont y SlipDewch draw i’r sesiynau hyn i arlunio ar y traeth ar ddau ddydd Sul gyda’r artist lleol David Marchant. Wedi ei ysbrydoli gan Baywatch, mae comisiwn newydd Colin Priest yn dathlu’r awyr a’r dreftadaeth helaeth a geir ar hyd Bae Abertawe. Mae’r digwyddiadau hyn yn sesiynau galw heibio AM DDIM sy’n addas i’r teulu cyfan.

Taith Ddirgel GerddorolDydd Sadwrn 23 Mai, 2pm - 4pmCyfarfod yng Nghanolfan Wybodaeth, Uned 11, Canolfan QuadrantYmunwch â ni yn y digwyddiad sy’n cloi Celf ar Draws y Ddinas 2015, dewch i glywed amrywiaeth o berfformiadau cerddorol gan dalentau lleol wrth inni deithio rhwng detholiad o weithiau Celf ar Draws y Ddinas.

www.artacrossthecity.com/getinvolved

Choose from a selection of FREE workshops for all ages and abilities. These are family friendly activities, children must be accompanied by an adult.

Art Across The City Hub ActivitiesSat 21st March – Sun 31st May10am – 5pm Tues – Sat / 11am – 4pm SunUnit 11, Quadrant Shopping CentreVisit the Art Across The City Information Hub and participate in daily creative workshops and interactive public activities. Collect your Art Across The City map, or take a free guided tour around the city with our Live Guides. You can add your poetry to our Dylan Thomas inspired Mega Poem, enter our Supersonic Cars Drawing Competition, and get involved with all of our exciting hub activities.

Supersonic Car Drawing WorkshopsSat 4th & Sun 5th April, 12pm – 3pmThe National Waterfront MuseumDrop-in and design an exciting fast car during this fun drawing workshop. Enter the Art Across The City 2015 drawing competition inspired by the new commission by David Cushway, a scale model of a prototype for a land speed record car that you can see in the Art Across The City Information Hub in the Quadrant Shopping Centre. These workshops are FREE and suitable for all ages.

Colin Priest: Talk & TourSun 12th April, 2pmSwansea Library, Discovery RoomJoin Colin Priest for a FREE talk about his new commission for Art Across The City 2015, a unique opportunity to discuss and participate in a walking tour to one of Swansea’s most enduring local landmarks, The Slip Bridge. This will be followed by a trip to Joe’s Ice-Cream Parlour to sample the specially commissioned Swansea Bay Sundae.

Baywatch Cloud Drawing WorkshopsSun 3rd & Sun 24th May, 11am – 3pmSwansea Bay near The Slip Bridge steps, Oystermouth RoadCome along to these beach drawing Sunday sessions with local artist David Marchant. Inspired by Baywatch, the new commission by Colin Priest that celebrates the vast sky and heritage along Swansea Bay, these events are FREE drop-in sessions suitable for the whole family.

Musical Mystery TourSat 23rd May, 2pm - 4pmMeet at Art Across The City Information Hub, Unit 11, Quadrant Shopping CentreJoin us for our closing event for Art Across The City 2015, hear a variety of musical performances from local talent as we travel between a selection of artworks around the city.

Page 8: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

1413

Guided ToursTo visit and learn more about Art Across The City artworks book a Free Guided Tour with a Locws Live Guide. For more information: Tel: 01792 234444Email: [email protected]

Learning and ResourcesUse our online resources to find questions and creative activities for each artwork. Our creative activities are designed for all ages and use materials easily found in every household such as pencils, paint, old magazines, cardboard, paper and glue. Send in pictures of your results and we will publish them on our website!

Locws SchoolsLocws International has established an ongoing educational programme called Locws Schools that sees schools from the Swansea area take part in site-specific arts projects. Locws Schools is run in conjunction with Arts in Education, City and County of Swansea. The projects are run by artist David Marchant and use Art Across The City events as inspiration.

To take part in a future Locws Schools programme or for more information contact [email protected]

www.artacrossthecity.com/getinvolved

Teithiau Dan ArweiniadI ddysgu mwy am weithiau Celf ar Draws y Ddinas archebwch le ar daith rad ac am ddim dan arweiniad tywysydd o Locws. I archebu lle neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Ffôn: 01792 234444Ebost: [email protected]

Dysgu ac AdnoddauDefnyddiwch ein deunyddiau ar-lein i ddod o hyd i gwestiynau a gweithgareddau creadigol ar gyfer pob un o’r gweithiau celf. Mae’r gweithgareddau wedi eu creu ar gyfer pobol o bob oed ac yn gwneud defnydd o ddeunyddiau sy’n gyffredin iawn ym mhob cartref, megis pensiliau, paent, hen gylchgronau, cardfwrdd, papur a glud. Anfonwch luniau o’r hyn rydych chi’n llwyddo i greu a fe wnawn ni eu cyhoeddi nhw ar ein gwefan!

Ysgolion LocwsMae LOCWS International wedi sefydlu rhaglen addysgol o’r enw Ysgolion Locws ac ynddi mae ysgolion o ardal Abertawe yn cymryd rhan mewn prosiectau celf ar safleoedd penodol. Mae Ysgolion Locws yn cael ei redeg ar y cyd â Chelfyddydau mewn Addysg, Dinas a Sir Abertawe. Mae’r prosiectau yn cael eu rhedeg gan yr artist David Marchant ac yn defnyddio digwyddiadau Locws International i’w hysbrydoli. I gymryd rhan yn y dyfodol yn rhaglen Ysgolion Locws, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

www.artacrossthecity.com/megapoem

Tawe Mega PoemOriginally commissioned in 2014, the Tawe Mega Poem continues to grow with thousands of online contributions. We want the public to get involved in writing the world’s longest, ongoing online poem. Inspired by the Dylan Thomas Centenary, Swansea and the artworks and workshops in Art Across The City, we want you to add your own lines. Award winning poet Rhian Edwards has written the opening lines and now it’s up to you to be inspired. We are looking for contributions from all over the world so send us your poetry!

Baptised by Vikings and anchored like Romein a brine basin of seven snapdragon hills,spills this marble town and city of laughter.A pother of ship sails, a smelting brume,Copperopolis, coal harbour, metal morphosisto fire-clay, alum, tin-plate and porcelain.To the coffee-ringed poems in the ruinsand scrawling ashes of the Kardomah Cafe.

www.artacrossthecity.com/megapoem

Cerdd Fawr TaweComisiynwyd Cerdd Fawr Tawe yn wreiddiol yn 2014 ac mae’n parhau i dyfu wrth i filoedd o gyfraniadau gael eu gwneud ar-lein. Mae arnom eisiau i’r cyhoedd gymryd rhan mewn ysgrifennu cerdd hwyaf, barhaus, ar-lein y byd. Gan dynnu ysbrydoliaeth o Ganmlwyddiant Dylan Thomas, o Abertawe ac o’r gweithiau celf a’r gweithdai sy’n rhan o Celf ar Draws y Ddinas, mae arnom eisiau i chi ychwanegu eich llinellau eich hunain. Mae’r bardd arobryn Rhian Edwards wedi ysgrifennu’r llinellau agoriadol a bellach eich tro chi yw cael eich ysbrydoli. Rydym yn chwilio am gyfraniadau o bedwar ban byd felly anfonwch eich barddoniaeth atom!

Ei bedyddio gan y Llu Du a’i hangori megis Rhufain Ym mhydew heli y saith bryn trwyn llo Dylifa’r dref farmor a’r ddinas chwerthin hon.Dadwrdd o hwyliau, mwrllwch yn mwyndoddi, Prifddinas y copr, hafan y glo, metamorffosis y metel I glai’r ffwrn, alwm, tunplat a phorslen.I’r cerddi coffi-gylchynog yn nadfeilion Lludw llawryfog Caffi’r Kardomah.

www.artacrossthecity.com/megapoem

GET INVOLVEDCYMRYD RHAN

Page 9: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

GWYBODAETH / INFOYMWELD / VISITINGART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

1615

Art Across The City is an exhibition of contemporary public art located across the City of Swansea. Commissioned and curated by LOCWS International, the exhibition presents artworks by a diverse selection of international and UK-based artists.

Mae Celf ar Draws y Ddinas yn arddangosfa o gelf gyhoeddus gyfoes a gynhelir ar draws Dinas Abertawe. Wedi’i chomisiynu gan LOCWS Rhyngwladol, mae’r arddangosfa’n cyflwyno gwaith celf gan amrywiaeth o artistiaid rhyngwladol ac o’r DU.

AdministrationDavid Hastie, DirectorGordon Dalton, Project ManagerRebecca Rendell, Arts Outreach CoordinatorCarla Shepherd, Project Assistant

Production & Installation TeamEifion PorterRik BennettRichard RobinsonAled Simons

Locws SchoolsDavid Marchant, Artist In ResidenceCaron McCollCarolyn DaviesLynne Bebb

VolunteersAnum Nadeem, Connor Cooper, Duncan Smith, Elinor Stephens, Ellie Ewart, Gemma Blair, Gemma Goodbourn, Graziella Corrente, Jodie Griffiths, John Roberts, Julia Manser, Kay Purdue Harvey, Kelly Boler, Molly Thirtle, Nazma Ali, Owen Martin, Redhab Jaffar, Rosie Greenaway, Ryan Courtier, Sarah Hanrahan, Sophia Shaw, Stuart Rodger and Wendy Harding

We are very pleased to announce the latest in our range of limited edition prints by our Art Across The City artists including Michael Stumpf, Graham Dolphin and Emily Speed.

The Giclee prints are all unframed A3, and printed on smooth 300gsm paper. They are signed and numbered individually by the artist, in an edition of 10. They are priced at only £100.00 each plus p+p via our website.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r print diweddaraf mewn argraffiad cyfyngedig o luniau gan artistiaid Celf ar Draws y Ddinas, megis Michael Stumpf, Graham Dolphin a Emily Speed.

Mae’r printiau Giclee mewn maint A3, heb eu fframio, ac wedi eu hargraffu ar bapur llyfn 300gsm. Maen nhw wedi eu llofnodi a’u rhifo’n unigol gan bob artist, ac mae 10 print ym mhob argraffiad. Y pris yw £100.00 yr un trwy ein gwefan, gyda phost a phecynnu’n ychwanegol.

Image © Graham Dolphin 2015

www.artacrossthecity.com/visiting

Visiting SwanseaSituated on the south west coast, Swansea is Wales’ second largest city, 50 minutes away from the capital, Cardiff. Easily accessible by all main transport routes, Swansea is a vibrant cultural city and provides the gateway to west Wales.

By RoadExit the M4 at junction 42 and follow the signs to the city centre. Pay and Display parking is available centrally close to the National Waterfront Museum. Sat Nav post code SA1 3ST. Estimated journey times:London 3 hr 37 min; Birmingham 2 hr 46 min; Bristol 1 hr 30 min

By RailSwansea is served by mainline services to London and all major cities. Tel: 08457 48 49 50 www.nationalrail.co.uk

By Bus or CoachSwansea is served by various companies including National Express, Megabus and Greyhound Coaches.

Local TransportCity Bus Station has local routes across the City and County of Swansea.Taxis: Station Cabs Tel: 01792 477477Yellow Cabs Tel: 01792 644446

AccommodationArt Across The City is pleased to recommend the Windsor Lodge as its partner hotel in Swansea. Tel: 01792 642158 www.windsor-lodge.co.uk

Useful Websiteswww.swansea.gov.ukwww.visitswanseabay.comwww.visitwales.co.uk

Ymweld ag AbertaweAbertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru ac mae wedi ei lleoli ar arfordir y de, 50 munud i ffwrdd o’r brifddinas, Caerdydd. Mae’n hawdd ei chyrraedd ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth, ac yn ddinas ddiwylliannol fywiog sy’n borth ar gyfer gorllewin Cymru.

Mewn Car Gadewch yr M4 ar gyffordd 42 a dilynwch yr arwyddion i ganol y ddinas. Mae maes parcio Talu ac Arddangos ar gael yn ganolog ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cod post ar gyfer y llywiwr lloeren: SA1 3ST.Amcan o hyd y daith:Llundain 3 awr 37 munud; Birmingham 2 awr 46 munud; Bryste 1 awr 30 munud

Ar DrênMae gwasanaeth trên i Lundain a phob dinas fawr.Ffôn: 08457 48 49 50 www.nationalrail.co.uk

Ar FwsMae amryw o gwmnïau yn gwasanaethu Abertawe, gan gynnwys National Express, Megabus a Greyhound Coaches.

Trafnidiaeth LeolMae gan orsaf fysiau Abertawe lwybrau lleol ar draws Dinas a Sir Abertawe.Tacsis: Ffôn: 01792 477477 / 01792 644446

LletyMae Celf ar Draws y Ddinas yn falch o argymell gwesty sy’n bartner i ni, y Windsor Lodge yn Abertawe.Ffôn: 01792 642158 www.windsor-lodge.co.uk

Gwefannau:www.swansea.gov.ukwww.visitswanseabay.comwww.visitwales.co.uk

Page 10: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

1817

ART ACROSS THE CITY SWANSEA, UK21 March - 1 June21 Mawrth - 1 Mehefin

www.artacrossthecity.com/visiting

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

ARTISTS ARTISTIADAUDavid CushwayUnit 11, Quadrant Centre Chanolfan Cwadrant

Graham DolphinCivic Centre Grounds Tir y Ganolfan Ddinesig

Colin PriestSlip Bridge / Unit 11, Quadrant Pont y Slip / Quadrant

Emily SpeedCivic Centre Atrium Atriwm Y Ganolfan Ddinesig

Michael StumpfAmphitheatre Amffitheatr

D J RobertsKardomah Cafe Nghaffi Kardomah

Jeremy DellerSt Mary’s Car Park Maes Parcio’r Santes Fair

Pete Fowler58 High Street 58 Stryd Fawr

Sinta Tantra230 High Street 230 Stryd Fawr

Sean Puleston226 High Street 226 Stryd Fawr

Rik Bennett24 High Street 24 Stryd Fawr

Bedwyr WilliamsKingsway Ffordd y Brenin

Bermingham & RobinsonBrangwyn Hall Neuadd Brangwyn

Mark FoldsCwmdonkin Park Parc Cwmdonkin

Niamh McCannDylan Thomas Theatre Theatr Dylan Thomas

ART ACROSS THE CITYCELF AR DRAWS Y DDINAS

MAP

Page 11: ART ACROSS THE CITY€¦ · Mae Speed yn dathlu ac yn gresynu colli hen bensaernïaeth lem yr adeilad; colli adeilad a oedd yr un mor annwyl ac atgas gan bobl, ac yn pendroni beth

ART ACROSS

THE CITYSWANSEA, UK

a LOCWS International Production

INFORMATION | GWYBODAETHt: 01792 234444 | e: [email protected] | w: www.artacrossthecity.comt: @Locws_Art | f: Locws International

WITH SUPPORT FROM | CEFNOGAETH GAN

Mae CELF AR DRAWS Y DDINAS yn ardd-angosfa o gelf gyhoeddus gyfoes a gynhelir ar draws Dinas Abertawe. Wedi’i chomisiynu gan LOCWS Rhyngwladol, mae’r arddangosfa’n cyflwyno gwaith celf gan amrywiaeth o artistiaid rhyngwladol ac o’r DU.

ART ACROSS THE CITY is an exhibition of contemporary public art located across the City of Swansea. Commissioned and curated by LOCWS International, the exhibition presents artworks by a diverse selection of international and UK-based artists.

DAVID & CHRISTOPHER LEWIS FOUNDATION