radiotherapy for brain tumours at velindre hospital · web viewbyddwch bron yn sicr yn colli eich...

23

Click here to load reader

Upload: lamkhue

Post on 11-Apr-2019

214 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Radiotherapi ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd yn Ysbyty Felindre

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dod i Ysbyty Felindre i gael triniaeth radiotherapi.

Bydd y llyfryn yn esbonio sut mae eich triniaeth yn cael ei chynllunio a’i rhoi. Bydd yn trafod sgîl-effeithiau posibl a bydd yn rhoi gwybod i chi sut i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.

Mae geirfa ar du blaen y llyfryn hwn i’ch helpu i ddeall unrhyw eiriau a allai fod yn anghyfarwydd i chi.

Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Gobeithio y bydd yn ateb eich cwestiynau. Holwch ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ydym wedi eu hateb.

Dewch â rhestr o’r holl feddyginiaethau rydych yn eu cymryd gyda chi bob tro rydych yn dod i Felindre.

Mae gwybodaeth i gleifion ar gael ar wefan FelindreEwch i: www.wales.nhs.uk/cancercentre

Ni chaniateir ysmygu y tu mewn i Ysbyty Felindre nac mewn unrhyw le ar dir yr ysbyty. Os oes angen help arnoch i roi’r gorau i ysmygu, gofynnwch i ni.

Mae’r wybodaeth hon wedi’i seilio ar dystiolaeth ac yn cael ei hadolygu’n flynyddol

1

Page 2: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Cynnwys

TudalenGeirfa 2Beth yw radiotherapi? 3Y tîm radiotherapi 3Trefniadau cludiant 4Cynllunio eich radiotherapi 5Dechrau triniaeth 7Cymryd steroidau yn ystod radiotherapi 10Sgîl-effeithiau 11Sgîl-effeithiau tymor hir 13 Gorffen triniaeth 14 Rhifau cyswllt 15Llinellau cymorth a gwefannau 15

Geirfa

Cemotherapi – triniaeth ar gyfer canser sy’n defnyddio cyffuriau

Sganiwr CT – peiriant sy’n defnyddio pelydrau-x i gymryd lluniau manwl o’ch ymennydd

Cyflymydd Llinellol (LA) – peiriant sy’n defnyddio ymbelydredd ynni uchel i roi triniaeth radiotherapi

Sganiwr MRI – peiriant sy’n defnyddio magnetedd i gymryd lluniau manwl o’ch corff

Tiwmor – twf annormal o gelloedd a allai fod yn ganseraidd

2

Page 3: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Beth yw radiotherapi?Mae eich meddyg wedi penderfynu y byddech yn elwa o gwrs o radiotherapi i’ch ymennydd.

Mae radiotherapi yn driniaeth ar gyfer tiwmorau sy’n defnyddio ymbelydredd ynni uchel. pelydrau-x fel arfer. Mae math a dos yr ymbelydredd byddwch yn ei gael yn cael eu cyfrifo’n ofalus i niweidio’r celloedd canser; mae hyn yn eu hatal rhag rhannu’n iawn, felly maen nhw’n cael eu dinistrio. Bydd eich triniaeth yn cael ei chynllunio i osgoi cymaint o feinwe iach â phosibl. Fodd bynnag, effeithir ar ychydig o feinwe iach, sy’n achosi sgîl-effeithiau. Byddwn yn dweud mwy wrthych am hyn ar dudalen 11. Gellir rhoi radiotherapi ar ei ben ei hun, ar ôl llawdriniaeth neu yn lle lawdriniaeth. Gellir ei roi hefyd gyda neu ar ôl cemotherapi.

Y tîm radiotherapi fydd yn gofalu amdanoch Oncolegydd Clinigol yw’r meddyg sy’n gyfrifol am eich gofal. Bydd ef neu hi yn penderfynu ar eich triniaeth radiotherapi. Bydd y driniaeth yn cael ei chynllunio gan dîm o ffisegwyr a radiograffyddion cynllunio. Tîm o radiograffyddion therapiwtig fydd yn rhoi’r driniaeth i chi.

Mae Felindre yn ysbyty addysgu, felly efallai y bydd eich tîm yn cynnwys radiograffydd sy’n fyfyriwr, myfyriwr nyrsio neu fyfyriwr meddygol. Os nad ydych eisiau i fyfyriwr fod yn bresennol yn ystod eich apwyntiad yn y clinig neu yn ystod eich triniaeth, rhowch wybod i’ch meddyg neu radiograffydd.

3

Page 4: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Byddwn yn gofyn am eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni bob tro rydych yn dod i’r adran radiotherapi i osgoi unrhyw ddryswch. Yn ystod eich triniaeth, byddwch yn cael eich gweld gan y tîm gwybodaeth, cefnogi ac adolygu. Mae’r tîm hwn yn cynnwys radiograffyddion arbenigol sydd â hyfforddiant ychwanegol i’ch cynghori ynglŷn â’r ffordd orau i fynd i’r afael ag unrhyw sgîl-effeithiau. Gallant hefyd ragnodi meddyginiaeth i helpu. Byddant yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar unrhyw bryderon ymarferol, ariannol neu emosiynol a allai fod gennych. Os ydych yn meddwl y byddai siarad gyda’r tîm yn eich helpu, mae eu rhif ffôn ar dudalen 15.

Faint o driniaethau fydd eu hangen arnaf?Mae radiotherapi fel arfer yn cael ei roi i chi o ddydd Llun i ddydd Gwener fel claf allanol. Bydd nifer y triniaethau sydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar nifer o ffeithiau amdanoch chi a’ch math penodol o diwmor. Bydd eich meddyg yn penderfynu faint o driniaethau sydd orau i chi.

Cael cemotherapi gyda radiotherapiOs ydych yn cael cemotherapi, byddwn yn esbonio’r rhan hon o’ch triniaeth ac yn rhoi gwybodaeth ar bapur i chi.

Cludiant i ac o FelindreMae cludiant ysbyty ar gael, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio eu cludiant eu hunain. Os hoffech ddefnyddio cludiant ysbyty, rhowch ddigon o rybudd i ni. Mae galw mawr am gludiant, felly bydd angen i chi fod yn barod i aros am beth amser i gael eich casglu a’ch dychwelyd adref. Mae lleoedd yn brin, felly ystyriwch deithio ar eich pen eich hun. Gall rhai

4

Page 5: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

elusennau lleol drefnu cludiant hefyd (gweler tudalen 15). Hefyd, gall cleifion sydd yn derbyn budd-daliadau penodol hawlio costau teithio – gofynnwch pan fyddwch yn dod i gael eich triniaeth.

Cynllunio eich radiotherapiEr mwyn cynllunio eich triniaeth radiotherapi, bydd angen i chi gael sgan CT. Mae’n bwysig cadw eich pen yn hollol llonydd yn ystod eich triniaeth; i wneud hyn, bydd angen i chi wisgo mwgwd. Bydd y mwgwd yn cael ei wneud yn arbennig i chi yn ein hystafell fowldio, sydd yn rhan o’r adran gynllunio yn nhu blaen Ysbyty Felindre.

Mae’r mwgwd triniaeth yn cael ei wneud allan o ddalen blastig yn llawn tyllau, felly byddwch yn gallu anadlu’n normal trwy eich trwyn a’ch ceg. Bydd yn gorchuddio tu blaen eich wyneb a’ch pen. Byddwch yn ei wisgo ar gyfer eich sgan CT ac ar gyfer eich triniaeth radiotherapi. Wrth wneud eich mwgwd triniaeth, byddwn yn gofyn i chi orwedd ar wely caled sydd â handlenni i’w dal a phadiau bach sy’n gorffwys yn gyffyrddus ond yn gadarn ar eich ysgwyddau. Bydd hyn yn eich cadw yn y safle cywir ar gyfer eich triniaeth. Byddwn yn defnyddio darn o blastig cynnes i gymryd argraffiad o’ch pen. Ni ddylai hyn deimlo’n anghyffyrddus. Byddwch yn teimlo’r plastig yn cael ei ymestyn dros eich wyneb a’i roi yn ei le. Bydd y mwgwd yn cael ei adael ymlaen am 10 munud i oeri’n gyfan gwbl, yna byddwn yn ei dynnu i ffwrdd.

5

Page 6: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Gwisgo’r mwgwd

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y mwgwd triniaeth yn ffitio’n dda, a wnewch chi:

eillio neu drimio eich barf yn fyr iawn beidio â defnyddio chwistrell gwallt ar gyfer yr

apwyntiad hwn wisgo dillad llac y gellir eu tynnu’n hawdd.

Ar ôl i’ch mwgwd gael ei wneud, byddwch yn cael sgan CT wrth wisgo eich mwgwd.

Rydym yn defnyddio peiriant o’r enw sganiwr CT (tomograffeg gyfrifiadurol) a hefyd, sgan MRI i helpu i gynllunio eich triniaeth. Mae’r sganiau hyn yn rhoi lluniau manwl i’ch meddyg o’r ardal sydd angen ei thrin.

Yn ystod eich sgan CT, byddwch yn gorwedd yn yr un safle ag yr oeddech yn yr ystafell fowldio, ac yn gwisgo eich mwgwd. Ni fyddwch yn gweld nac yn teimlo dim. Bydd y radiograffyddion yn gadael yr ystafell i droi’r sganiwr ymlaen,

6

Page 7: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

ond byddan nhw’n cadw llygad agos arnoch drwy ffenestr fawr. Mae’r sgan yn cymryd tua 10 munud fel arfer.

Os nad ydych eisoes wedi cael sgan MRI, bydd hyn yn cael ei wneud yn ein hadran pelydr-x. Efallai y byddwch yn cael apwyntiad ar wahân i’r sgan CT ar gyfer hyn. Mae’r sgan yn cymryd tua 30 - 45 munud fel arfer.

Yn ystod yr apwyntiad hwn, efallai y byddwch yn gweld eich meddyg os nad ydych wedi llofnodi ffurflen ganiatâd ar gyfer triniaeth. Bydd y meddyg yn trafod y buddion a’r risgiau sydd ynghlwm â chael radiotherapi. Eich penderfyniad chi yw cael y driniaeth, felly trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych cyn llofnodi’r ffurflen ganiatâd.

Os ydych chi eisoes wedi llofnodi eich ffurflen ganiatâd i gael triniaeth yn ystod eich apwyntiad fel claf allanol, efallai mai’r radiograffyddion cynllunio yn unig y byddwch yn eu gweld.

Dechrau triniaethMae’n bosibl y bydd rhywfaint o wythnosau rhwng cynllunio eich sgan a dechrau eich triniaeth, oherwydd yr amser mae’n ei gymryd i gynllunio eich triniaeth a phryd mae’r slot rhydd nesaf ar eich peiriant triniaeth.

Yn ystod eich apwyntiad cynllunio, byddwn yn gofyn os yw’n well gennych gael eich triniaeth yn y bore neu’r prynhawn. Byddwn yn ceisio trefnu eich apwyntiadau i gyfateb â’r amser sydd orau gennych, ond ni allwn warantu y bydd hyn yn digwydd. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion arbennig a allai effeithio ar eich apwyntiadau, fel:

angen cludiant7

Page 8: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

cael unrhyw driniaeth arall (cemotherapi er enghraifft) anawsterau personol (fel cyfrifoldebau gofalu)

Byddwn yn anfon llythyr atoch neu’n eich ffonio gyda’ch apwyntiad cyntaf. Byddwn yn rhoi gweddill eich apwyntiadau i chi pan fyddwch yn dod ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Os oes gennych broblem gyda’r apwyntiad, ffoniwch y clerc trefnu radiotherapi cyn gynted â phosibl. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 15. Os yw’r peiriant ateb yn dod ymlaen, gadewch eich enw a’ch rhif ffôn yn araf ac yn eglur. Byddwn yn dychwelyd eich galwad cyn gynted â phosibl.

Eich triniaeth radiotherapi gyntafOs ydych yn glaf allanol, dewch i fynedfa’r adran radiotherapi sydd yng nghefn yr ysbyty. Rhowch eich enw a’ch llythyr i’r derbynnydd yn ystafell aros yr adran radiotherapi. Byddan nhw’n dweud wrthych ble i eistedd ac aros, neu’n eich cyfeirio chi’n syth at eich peiriant triniaeth.

Os ydych yn glaf preswyl, bydd un o borthorion yr ysbyty fel arfer yn dod i’ch casglu chi ac yn mynd â chi at y peiriant triniaeth. Gallwch gael triniaeth unrhyw amser o’r dydd, yn dibynnu pryd mae slot rhydd ar y peiriant triniaeth.

Os ydych i fod i gael cemotherapi a radiotherapi ar yr un diwrnod, byddwn yn gofyn i chi ei gasglu o’n fferyllfa ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth.

Bydd eich radiograffyddion yn siarad â chi cyn i chi gael eich triniaeth gyntaf. Byddwn yn esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod eich triniaeth ac yn dweud wrthych beth yw’r sgîl-

8

Page 9: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

effeithiau posibl y gallech eu dioddef. Byddwn yn rhoi taflen wybodaeth i chi ar ofalu am eich croen yn ystod eich triniaeth. Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ynghylch eich triniaeth. Efallai y bydd angen i chi ail-lofnodi eich ffurflen ganiatâd cyn i chi gael eich triniaeth gyntaf.

Weithiau, mae peiriannau yn gallu torri yn ystod eich triniaeth. Mae hyn yn gallu achosi oediadau ac weithiau, bydd rhaid canslo eich apwyntiad ar y diwrnod hwnnw. Byddwn yn egluro hyn yn fwy manwl i chi ar eich diwrnod cyntaf.

Mae mathau gwahanol o beiriannau triniaeth, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu triniaeth ar beiriant Cyflymydd Llinellol (LA). Mae gan bob un rif, felly, er enghraifft, gallech gael eich triniaeth ar LA 4 neu LA 5. Efallai y bydd y peiriannau LA yn edrych ac yn swnio’n wahanol, ond maen nhw’n rhoi’r un driniaeth i chi.

Yn ystod eich triniaeth radiotherapi Yn yr ystafell driniaeth, byddwn yn gofyn i chi orwedd ar y gwely yn yr un modd ag y gwnaethoch ar gyfer eich sgan cynllunio, a gwisgo eich mwgwd. Bydd y radiograffyddion yn eich rhoi chi yn eich safle yn ofalus ac yn symud y peiriant. Bydd angen i chi aros yn llonydd ac anadlu’n normal.

Gall eich triniaeth gael ei rhoi o onglau gwahanol. Ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth, byddwn yn gwirio eich safle ym mhob un o’r onglau hyn cyn gadael yr ystafell i ddechrau eich triniaeth. Gall y peiriant gael ei reoli a’i symud i’r onglau triniaeth gwahanol gan y radiograffyddion y tu allan i’r ystafell. Pan mae’r peiriant yn symud, gallai ddod yn agos atoch ond ni fydd yn cyffwrdd â chi. Pan mae’r peiriant yn cael ei droi ymlaen, ni

9

Page 10: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

fyddwch yn teimlo dim, ond efallai y byddwch yn ei glywed yn hymian.

Bydd y radiograffyddion yn eich gwylio chi drwy’r amser ar fonitorau teledu. Os ydych yn teimlo’n anghyffyrddus tra bod y peiriant ymlaen, chwifiwch eich llaw. Gallwn droi’r peiriant i ffwrdd ac ailddechrau’r driniaeth pan rydych yn gyffyrddus eto.

Fel arfer, ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth, ac yn rheolaidd wedi hynny, byddwn yn tynnu lluniau o’r ardal sy’n cael ei thrin; efallai y byddwch yn gorwedd ar y gwely am ychydig funudau’n ychwanegol tra bod hyn yn cael ei wneud. Mae’r lluniau’n cael eu defnyddio i’n helpu ni i benderfynu os ydych chi yn y safle cywir ar gyfer eich triniaeth.

Bydd angen i chi orwedd yn llonydd ar y gwely am tua 10-15 munud. Bydd y driniaeth ei hun (pan fyddwch yn clywed sŵn hymian) fel arfer ond yn cymryd ychydig funudau. Pan fydd eich triniaeth wedi gorffen, bydd y gwely ar lefel uchel, felly arhoswch yn llonydd nes bod y radiograffyddion wedi gostwng y gwely. Gallwch wedyn ddod oddi ar y gwely a gadael yr ystafell driniaeth.

Cymryd steroidau yn ystod radiotherapiEfallai y bydd angen i chi gymryd tabledi steroid fel Dexamethasone. Mae steroidau yn cael eu defnyddio i leihau chwyddo yn eich ymennydd o ganlyniad i lawdriniaeth neu eich triniaeth radiotherapi. Dylech gymryd eich tabledi steroid yn y bore, gyda bwyd. Y rheswm dros hyn yw fel nad ydynt yn cynhyrfu eich stumog ac yn ei gwneud yn anodd i chi fynd i gysgu gyda’r nos.

10

Page 11: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Mae’n bwysig peidio â stopio eu cymryd yn sydyn. Pan fydd hi’n amser stopio cymryd y tabledi hyn, bydd y dos yn cael ei leihau’n raddol. Bydd eich radiograffydd adolygu’n dweud wrthych pryd i ddechrau lleihau’r dos. Os ydych yn cael radiotherapi, mae’n bwysig dweud wrth eich radiograffyddion triniaeth cyn gynted â phosibl os yw’r dos wedi’i leihau ar unrhyw adeg arall.

Sgîl-effeithiau tymor byr triniaeth radiotherapi Mae unrhyw sgîl-effeithiau y byddwch yn eu dioddef fel arfer yn dechrau ar ôl tua phythefnos o driniaeth. Mae’r sgîl-effeithiau yn effeithio ar rannau’r corff rydym yn eu trin yn unig. Mae radiotherapi yn parhau i weithio tu mewn i’ch corff am hyd at 10 diwrnod ar ôl i chi orffen eich triniaeth, felly bydd unrhyw sgîl-effeithiau rydych yn eu dioddef yn parhau am y cyfnod hwn hefyd. Ar ôl 10 diwrnod, byddwch yn dechrau teimlo’n well, ond mae amser gwella pawb yn wahanol.

BlinderGall radiotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Dylech wrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond parhewch â’ch gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo y gallwch wneud hynny. Mae rhaid pobl yn gwneud tipyn o ymarfer corff fel cerdded i’w helpu i deimlo’n llai blinedig.

Colli gwalltByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Weithiau, mae’r gwallt yn cael ei golli am byth. Os bydd yn tyfu’n ôl, gall gymryd tua 2 i 3 mis ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Gall eich gwallt newydd edrych a

11

Page 12: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

theimlo’n wahanol. Efallai y bydd yn tyfu’n ôl yn glytiog i ddechrau.

Yn ystod eich triniaeth, dylech olchi eich gwallt â siampŵ mwyn, fel siampŵ baban, a brwsio eich gwallt gan bwyll.

Gallwn drefnu wig os hoffech chi gael un. Mae gennym daflen hefyd sy’n sôn mwy am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch radiograffyddion am ragor o wybodaeth.

Adweithiau ar y croenEfallai y bydd eich croen yn troi’n binc ac yn teimlo’n gynnes ac yn dyner; gallai fod yn sych ac yn goslyd hefyd. Byddwn yn eich annog i barhau i ofalu am eich croen yn y ffordd arferol yn ystod y driniaeth; byddwn yn trafod sut i ofalu am eich croen gyda chi pan rydych yn cael eich triniaeth gyntaf.

Cur PenWeithiau, gall y driniaeth achosi cur pen a gwneud i chi deimlo’n sâl. Os fydd hyn yn digwydd, efallai y byddwn yn rhoi tabledi i chi, gan gynnwys steroidau, i helpu i leihau’r sgîl-effeithiau hyn.

Teimlo’n sâl a salwchWeithiau, gall y driniaeth wneud i chi deimlo’n sâl neu fod yn sâl; rhowch wybod i ni ar unwaith os fydd hyn yn digwydd, gan y gallwn roi meddyginiaeth i’ch helpu gyda hyn.

Sgîl-effeithiau tymor hir

12

Page 13: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Gall triniaeth ar gyfer tiwmor yr ymennydd gael effeithiau tymor hir. Mae’r rhain yn effeithio ar nifer fach o oedolion yn unig. I’r rhan fwyaf o bobl, mae buddion y driniaeth, o bell ffordd, yn gorbwyso’r risgiau.

Mae sgîl-effeithiau hwyr yn brin erbyn hyn, oherwydd ein bod yn gallu cynllunio triniaeth radiotherapi yn gywir iawn. Dim ond ardal y tiwmor sy’n derbyn dosau uchel o ymbelydredd. Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda’ch meddyg. Yn anffodus, ni allwn ddweud ymlaen llaw pwy fydd yn dioddef effeithiau tymor hir a phwy fydd ddim, ac ni allwn ragweld graddau nac effaith y sgîl-effeithiau hwyr.

Gall sgîl-effeithiau hwyr ddatblygu fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben. Yn anffodus, mae sgîl-effeithiau hwyr fel arfer yn barhaol. Gallant waethygu’n araf hefyd.

Gall y driniaeth wneud i wythiennau bach yn yr ymennydd greithio a blocio. Mae hyn yn lleihau’r cyflenwad gwaed i rannau bach o’r ymennydd, felly gall rhai celloedd yr ymennydd farw. Mae’n anodd dweud pan mor ddifrifol y gall y symptomau hyn fod. Efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn dioddef o’r symptomau canlynol:

Problemau’n meddwl yn glir neu’n rheoli tasgau nad oedd yn broblem i chi cyn hynny

Cof gwael Dryswch Newid i’ch personoliaeth Symptomau o’ch tiwmor gwreiddiol Colli clyw

13

Page 14: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Trafferth gyda hormonau Pilenni

Gorffen triniaethAr ddiwedd eich triniaeth, byddwn yn trefnu dyddiad ac amser lle allwn ni eich ffonio chi adref i wneud yn siŵr eich bod chi’n iawn. Gallwn drafod sgîl-effeithiau a chynnig cymorth a chyngor os oes angen.

Byddwn hefyd yn rhoi apwyntiad dilynol i chi gyda’ch meddyg fel claf allanol ychydig wythnosau ar ôl gorffen eich triniaeth i weld sut ydych chi’n teimlo. Bydd rhif ffôn eich tîm adolygu ar y ffurflen apwyntiad i gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw bryderon.

14

Page 15: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

Rhifau ffôn cyswllt

Ysbyty Felindre 029 2061 5888

Clercod trefnu radiotherapi 029 2019 6836

Tîm 029 2061 5888 est 6421Gwybodaeth, Cefnogi ac Adolygu

Ystafell fowldio 029 2031 6213

Cludiant o Aberdâr-The Rowan Tree 01443 479369

Cludiant o Ben-y-bont ar Ogwr – Sandville 01656 743344

Cludiant o Ferthyr - Cancer Aid 01685 379633

Llinellau cymorth a gwefannauLlinell gymorth rhad ac am ddim Tenovus 0808 808 1010

Cymorth Canser Macmillan 0808 808 0000 www.macmillan.org.uk

Brain Tumor Buddies 01688 400687www.btbuddies.org.uk

Brain Tumour Action 01506 436164www.braintumouraction.org.uk

Brain Tumour UKwww.braintumour.org.uk 0845 450 0386

15

Page 16: Radiotherapy for brain tumours at Velindre Hospital · Web viewByddwch bron yn sicr yn colli eich gwallt yn y rhan o’ch pen sy’n cael ei thrin. Gall hyn ddigwydd yn ystod neu

F.PI 19 Rhifyn 7 Rhag 2013

16