beth ydi esgeuluso - schoolbeat: home...ysmygu achosi niwed difrifol i iechyd – gall achosi...

10

Upload: others

Post on 27-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Beth ydi esgeuluso

    Annwyl Gydweithiwr,

    ERTHYGL NODWEDDBeth ydi Esgeuluso Plant? ........................................................................................................... p 2-3O dan y sbotolau – Nicotin ....................................................................................................... p 4-5Sgwteri hunan gydbwyso a chludwyr personol .......................................... p 6Beth Nesa’?..................................................................................................................................................... p 6-7Be’ sy’n newydd?Gwrthsafiad a Pharch ........................................................................................................................ p 8Cyflwyniad gwasanaeth ar Eithafiaeth ......................................................................... p 9O’r wasg!Mewnwelediad gweinidogion i rôl SHCY mewn ysgolion .................... p 10

    2

    Mae cylchlythyr yr haf yn llawn gwybodaeth, cyngor a newyddion i’chcynorthwyo chi a’ch ysgol. Esgeuluso plant yw testun erthyglnodwedd y tymor hwn.

    Ystyr esgeuluso ydi methu â diwallu anghenion corfforol,emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn,sydd yn debygol o arwain at amharu ar les yr unigolyn hwnnw(er enghraifft, amharu ar ddatblygiad plentyn).

    Y diffiniad ar gyfer Cymru...

    ”“

    Cynnwys...

    Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Cymru)

    Mae pedwar prif faes i esgeuluso plant: CORFFOROL – anghenion sylfaenol plentyn,e.e. bwyd a dillad, ddim yn cael eu diwallu

    ADDYSGOL – diffyg cefnogaeth i ddysgu EMOSIYNOL – anwybyddu neu beidio rhoianogaeth i blentyn, eu hynysu neu eu gwrthod

    MEDDYGOL – peidio sicrhau bod plentyn yncael gofal iechyd, gan gynnwys gofal deintyddol

    Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich seibiant dros y Pasg.

  • Dylai pawb sy’n gweithio ym maes addysg rannu’r un dyhead i gadwplant a phobl ifanc yn ddiogel. Os bydd gan unrhyw aelod o staff‘bryderon’ neu ‘ffeithiau hysbys’ ynghylch plentyn, yna dylent ddweudwrth yr Unigolyn Diogelu Dynodedig (UDD) yn yr ysgol.

    Cyfrifoldeb PawbY llynedd adnabuwyd

    24,300 o blant fel rhai oeddangen eu diogelu rhagesgeulustod Ffynhonnell: Ystadegau cynllun diogelu plantLloegr ac ystadegau cofrestr diogelu plantGogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru (2015)

    ”“Pethau y byddwch efallai yn sylwiarnyn nhw yn yr ysgolOs ydych yn poeni fod plentyn yn cael eiesgeuluso neu ei gam-drin, cadwch lygadam newidiadau mewn: ymddygiad perthnasau â phlant eraill emosiynau neu’r ffordd maen nhw’ngweld eu hunain.

    perfformiad yn yr ysgol perthynas â’u rhieni.

    Os bydd plentyn yn dweud wrthych eubod nhw neu berson ifanc arall yn cael euhesgeuluso neu eu cam-drin, dyma’r hyn ydylech ei wneud:

    dangos i’r plentyn eich bod wediclywed yr hyn maen nhw’n ei ddweuda’ch bod yn cymryd y peth o ddifri

    annog y plentyn i siarad, ond niddylech ofyn cwestiynau arweiniol

    osgoi torri ar draws pan mae’rplentyn yn dweud wrthych chi bethsydd wedi bod yn digwydd

    peidio â gwneud i’r plentyn ailadroddy peth drosodd a throsodd

    egluro pa gamau y maen rhaid i chieu cymryd, mewn ffordd sy’n addasar gyfer oed a dealltwriaeth y plentyn

    peidio addo y byddwch yn cadw’rpeth yn gyfrinach

    nodi ar bapur yr hyn ddywedodd yplentyn cyn gynted ag y gallwch, ganddefnyddio’r union eiriau os ynbosibl.

    Gwnewch nodyn o’r dyddiad, amser,lleoliad a phwy oedd yn bresennol ynystod y drafodaeth.

    Ni ddylech siarad â’r unigolyn sy’n caeleu cyhuddo.

    Er bod adnabod yr arwyddion ac ymyrrydcyn gynted â phosibl yn hollbwysig, dydyhi byth rhy hwyr i helpu plentyn. Gallwchffonio’r heddlu, y gwasanaethaucymdeithasol neu’r NSPCC ar 0808 8005000.

    3

    Gall plant gysylltu â MEIC neu ChildLine 24/7.Am gyngor ac arweiniadcyffredinol ynghylchdiogelu plant, gallwchgysylltu â’ch SwyddogHeddlu CymunedolYsgolion (SHCY)

  • 4

    NicotinO dan y SBOTOLAU...

    Risgiau gall goddefiant a dibyniaeth arysmygu achosi niwed difrifol iiechyd – gall achosi emffysema,broncitis, clefyd y galon, strôc achanser.

    amcangyfrifir fod ysmygu yncyfrannu at 120,000 ofarwolaethau cynamserol yn yDU bob blwyddyn

    oherwydd ei fod yn achosiproblemau â chylchrediad ygwaed mae cysylltiad rhwngysmygu a cholli coesau abreichiau gyda thua 2000 o bobly flwyddyn wedi eu heffeithio

    NicotinDaw tybaco o ddail y planhigyn tybaco.Mae’r dail yn cynnwys cyffur o’r enwNicotin, sy’n gyffur caethiwus drosben. Mae unrhyw gyffur sy’n cael eiysmygu yn mynd i’r ymennydd yngyflym. Pan fydd ysmygwr yn anadlu imewn, bydd y nicotin yn cyrraedd yrymennydd mewn tua 8 eiliad.

    Ar Hydref 1 2015 daeth yn anghyfreithlonysmygu mewn car (neu gerbydau eraill)gydag unrhyw un iau na 18 yn bresennol.Newidiwyd y gyfraith i ddiogelu plant aphobl ifanc rhag peryglon mwg ail law.

    Erbyn hyn gellir rhoi dirwy o £50 i yrrwrcerbyd ac i’r person sy’n ysmygu os oesrhywun iau na 18 yn y cerbyd. Mae’rgyfraith yn berthnasol i bob gyrrwr yngNghymru a Lloegr gan gynnwys gyrwyr17 oed a rhai sydd â thrwydded dros dro.

    Ysmygu a’r gyfraithErs mis Hydref 2007 mae wedi bod ynanghyfreithlon gwerthu cynnyrch tybacoi unrhyw un o dan 18 oed yng Nghymru,yr Alban a Lloegr. Mae hyn yn cynnwyscynnyrch fel sigaréts, sigarau, tybaco,pibellau a phapurau sigaréts. Mae’nanghyfreithlon ysmygu mewn llecyhoeddus oherwydd yr effaith y maemwg tybaco yn ei gael ar bobl eraill.

  • 5

    Mwg ail law – bob tro y bydd plentynyn anadlu mwg ail law bydd ynanadlu miloedd o gemegau. Maehyn yn eu rhoi mewn perygl oddioddef cyflyrau difrifol gangynnwys meningitis, canser,broncitis a niwmonia. Gall hefydwneud asthma yn waeth.

    Mae merchedbeichiog sy’nysmygu ynperyglu iechydeu babi ac yndebygol o gaelbabi ysgafnachnag y dylai fod,

    Os mai tabledi neu bowdwrydi o – sut ‘da chi’n gwybod oddifrif be’ sydd ynddo? ‘Da ni’ngwybod fod SSN yn aml yn caeleu gwneud allan o bob math obethau afiach...Janet Roberts – Rheolwr Llinell GymorthDAN24/7

    Tasg CA2 Is RhGCYCGGwers am dybaco

    www.schoolbeat.orgEwch i’r adran athrawon a disgyblion ar

    Manylion cyswllt DAN 24/7 – LlinellGymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru Ffôn – Am ddim 0808 808 2234 Gwefan – www.dan247.org.uk i gaelgwybodaeth am gyffuriau a manylionam asiantaethau yn eich ardal leol

    Neges Testun – Tecstiwch y gair DANa’ch cwestiwn i 81066

    Cyfryngau cymdeithasol – gellir caelnegeseuon preifat at Twitter aFacebook Facebook via DAN 24/7Llinell Gymorth Cyffuriau acAlcohol Cymru

    Twitter –Neges breifat @dan_247

    “”Mae gan DAN 24/7 adran wybodaetharbennig am SSN sy’n cynnig cyngorac arweiniad ar gyfer defnyddwyr,

    rhieni a gofalwyr.

    Y pwnc llosg ar hyn o bryd i DAN24/7 ydy SylweddauSeicoweithredol Newydd (SSN).

    CefndirMae DAN 24/7 yn wasanaeth cyswlltCymru gyfan dwyieithog, am ddim,cyfrinachol a hawdd ei gael sy’n rhoicefnogaeth a gwybodaeth i blant aphobl ifanc ac yn gallu eu cyfeirio atasiantaethau eraill all eu helpu gydagamrywiaeth o broblemaucamddefnyddio sylweddau.

    am ragor o wybodaeth.

  • 6

    Sgwteri

    Ym mis Hydref 2015,gofynnodd arolwg ganSwyddfa ComisiynyddPlant Cymru o’r enwBeth Nesa? i bron 7,000 oblant, pobl ifanc ac oedolion bethoedden nhw’n ei feddwl y dylai’rComisiynydd ganolbwyntio arno ynystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

    Cyhoeddwyd y canlyniadau ym misChwefror 2016.

    Beth Nesa’/What Next?

    Mae sgwteri hunan gydbwyso, ynenwedig byrddau hofran, ynboblogaidd iawn ymysg plant aphobl ifanc.

    Mae’n drosedd dan Adran 72 oDdeddf Priffyrdd 1835 i reidio neuyrru cerbyd ar y palmant yngNghymru a Lloegr. Cyngor yr Adran Trafnidiaeth yw ydylid gwisgo dillad diogelwchpriodol bob amser.

    Caiff cludwyr personol, megis y ‘Segway’eu pweru â thrydan ac maent yn cludoteithiwr sy’n sefyll ar blatfform sydd arddwy olwyn neu fwy. Byrddau hofran yw‘Segway’ heb y golofn ganolog a’rhandlen. Mae’n nhw’n gallu teithio argyflymder o hyd at 12 mya.

    Y GyfraithAllwch chi ddim ond reidio sgwter hunangydbwyso heb ei gofrestru ar dir sydd yneiddo preifat a hynny gyda chaniatâdperchennog y tir. Oherwydd eu bod yncael eu hystyried yn gerbydau modur,byddai’r sawl sy’n eu reidio yn destunCyfraith Traffig y Ffyrdd.

    HunanGydbwyso a

    Chludwyr Personol

    Dangosodd y canlyniadau maiprif flaenoriaethau plant oedd:

    Plant 3 - 7 oed Mwy o lefydd i chwarae Mwy o arian i deuluoedd

    Plant 7 - 11 oed Stopio bwlio Helpu plant a theuluoedd nadoes ganddynt ddigon o bres

    Gwneud ardaloedd lleol yn fwydiogel i blant

  • 7

    Beth fydd yn digwydd i’rwybodaeth?Bydd y wybodaeth a gasglwyd felrhan o’r prosiect Beth Nesa? yn caeldylanwad mawr ar sut y byddswyddfa’r Comisiynydd yn gweithio yny dyfodol agos. Yn ystod y tairblynedd nesaf bydd y swyddfa’ncanolbwyntio ar y canlynol:

    Iechyd meddwl a lles a thaclo bwlio Tlodi ac anghydraddoldebcymdeithasol

    Chwarae a hamddena Diogelwch (yn y gymuned, yr ysgolac yn y cartref)

    Codi ymwybyddiaeth o’rConfensiwn Ewropeaidd arHawliau’r Plentyn a hyrwyddo eifabwysiad ar draws ygwasanaethau cyhoeddus

    Helpu pobl ifanc sydd angencymorth a gofal wrth iddyntsymud tuag at fod yn oedolion

    Gallwch weld rhagor o wybodaetham yr arolwg, gan gynnwys crynodebllawn o’r canlyniadau, ar wefan yComisiynydd Plant:

    www.childcomwales.org.uk

    Dywedodd yroedolion a ymateboddi’r arolwg y byddentyn hoffi gweld Gwell cefnogaeth ar gyfer plantsy’n poeni neu’n teimlo’n isel

    Plant a phobl ifanc yn cael eudiogelu rhag trais achamdriniaeth yn y cartref

    Mwy o help i blant a theuluoeddnad oes ganddynt ddigon oarian

    Pobl ifanc rhwng11 - 18 Gweithredu er mwyn atal poblifanc rhag cael eu bwlio

    Diogelu plant rhag trais achamdriniaeth yn y cartref

    Llefydd gwell i bobl ifanc dreulioamser yn yr ardal leol

  • Gofynnwch i’ch SHCY amragor o arweiniad.

    Mae’r holl SHCYwedi caelhyfforddiant ac yngyfarwydd â’rpecyn cymorth.

    8

    GWRTHSAFIAD A

    PHARCHCyflwyniadMae Deddf Gwrthderfysgaeth aDiogelwch 2015 y DU wedi rhoidyletswydd gyfreithiol ar bob ysgoli rwystro pobl ifanc rhag cael euradicaleiddio ac i sicrhau fod ymater hwn yn cael y sylw dyladwy.

    Yr hyn y dylai ysgolion eiwneud ar unwaith Cynnal adolygiad o

    gydymffurfiad yr ysgolâ DGD (2015) ganddefnyddio’r teclyn hunan asesu achytuno ar gynllun gweithredu i fyndi’r afael â meysydd lle mae angendatblygu ymhellach

    Sicrhau fod yr Uwch UnigolynDynodedig (UUD) a’r llywodraethwrsy’n arwain ar ddiogelu plant wediderbyn yr hyfforddiant priodol

    Sicrhau fod UUD a staff allweddoleraill yn gwybod sut i atgyfeirio aphwy yw’r unigolion cyswllt allweddolyn yr Awdurdod Lleol y dylid cyfeiriodysgwyr y mae pryderon yn eu cylchatynt

    Sicrhau y bydd systemau hidlo’r we yrysgol yn cadw dysgwyr yn ddiogel abod yn ymwybodol o risgiaucysylltiedig a’r defnydd o’r amrywiaetheang o dechnolegau digidol y maegan ddysgwyr fynediad iddynt

    Gofalu fod yr holl staff yn ymwybodolo’r arwyddion y gallai dysgwr fod ynagored i’w radicaleiddio.

    Beth mae hyn yn ei olygu i’ch ysgol chi?Mae Llywodraeth Cymru wedidiweddaru eu harweiniad gwreiddiol:Gwrthsafiad a Pharch. DatblyguCydlyniad Cymunedol - dealltwriaethgyffredin ar gyfer ysgolion a’ucymunedau (2011) Mae’r arweiniad newydd a’r pecyncymorth yn cefnogi ysgolion i ddiwallu eudyletswyddau dan DdeddfGwrthderfysgaeth a Diogelwch (DGD)(2015) i gadw dysgwyr yn ddiogel. Mae’rdogfennau ar gael ar wefan LlywodraethCymru.

    Gwrthsafiad a Pharch, DatblyguCydlyniad Cymunedol Gwrthsafiada Pharch: arweiniad diweddaredig(2016)

    Teclyn hunan asesu Gwrthsafiada Pharch (2016)

    Bydd disgwyl i bob ysgol ddangossut y maent yn rhoi’r sylw dyladwy iDGD (2015) ac Estyn fydd yn atebolam hyn. Gweler arweiniad atodolEstyn http: http://Arweiniad Atodol:Diogelu mewn ysgolion a UCDau.(2015)

    Beth sy’n newydd?

  • Cyflwyniad PowerPoint Newyddwedi’i anelu at CA4

    9

    Mae’r cyflwyniad yn edrych ar ymaterion perthnasol i stereoteipio,rhagfarn a chamwahaniaethu sy’ngallu arwain at droseddau casineb.Bydd y mewnbwn ar gyfercyfarfodydd boreol yn canolbwyntioar radicaleiddio a’r arwyddion i gadwllygad amdanynt.

    Bydd disgyblion yn dysgu beth ydyeithafiaeth ac o ble i gael cymorthos ydyn nhw’n poeni am rywun.

    Nod ‘GAN BWYLL A DYSGWCH Y FFEITHIAU’ yw codiymwybyddiaeth o beth ydi eithafiaeth a lleihau ofnau poblifanc ynghylch terfysgaeth er mwyn eu helpu nhw i deimlo’nfwy diogel.

    Mae PwyntTeulu Cymru yn wasanaethdwyieithog NEWYDD ar gyfer rhieni,gofalwyr ac unrhyw un sy’n gyfrifol amunigolyn ifanc yng Nghymru.

    Mae Pwynt Teulu Cymru yn deall y gally rhyngrwyd fod yn rhwystr i raiteuluoedd o ran cyfathrebu, felly gallrhieni ddefnyddio llinell gymorth ygwasanaeth er mwyn cael help ichwilio am, a chael cyngor amhleidioldrwy negeseuon testun, dros y ffônneu sgwrs ar-lein.

    Gwefan www.familypoint.cymru Facebook @familypointcymru/Twitter @familypointcymLlinell gymorth Neges Testun: 07860052905

    Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru dyma’rlle i fynd am wybodaeth a chyngor ideuluoedd ar bopeth o weithgareddau lleol agofal plant i gymorth gyda materion ariannol,llety a chadw plant yn ddiogel ar-lein.

    Mae’r wefan yn un y gellir ei defnyddio’nhawdd ar bob math o declynnau gangynnwys ffôn symudol ac mae’n cynnwystudalen ar gyfer bob sir sy’n orlawn, oddolenni defnyddiol, i wasanaethau lleol agwybodaeth gyswllt hollbwysig yn ogystal âchyfleuster chwilio cyflym a dibynadwy ermwyn gwybod y diweddaraf am rianta,arbed arian ayyb. Caiff digwyddiadau lleolhefyd euhysbysebu trwyddefnyddio’rcyfryngaucymdeithasol.

  • 10

    O’r wasg!

    Dilynwch ni ar Twitter a Hoffwch ni ar Facebook

    MewnwelediadGweinidogion i rôlSHCY mewnysgolion

    Roedd disgyblion Ysgol Gyfun y Bari ynfalch o groesawu Vaughan Gething AC,Dirprwy Weinidog Iechyd a Jane HuttAC, Gweinidog Cyllid a Busnes yLlywodraeth i’w hysgol y tymordiwethaf. Gwyliodd Mr Gething a Mrs. Hutt wers yrhaglen ysgolion ar SylweddauSiecoweithredol Newydd yn cael eichyflwyno gan SHCY Mudie.Meddai Mr. Gething “Roedd sylw’rdisgyblion wedi’i hoelio’n llwyr ar ywers.” Aeth ymlaen i weld dramâu aysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan ydisgyblion i ddangos pa mor bwysig yw

    gwaith y SHCY mewn perthynas â’u lles.Roedd y ddau Weinidog wrth eu bodd yncael y cyfle i gymryd rhan mewn gwersam bwnc mor bwysig!