cyngorcaerdydd crynodebo’rcynllungwella...iach genedlaethol a diwrnod dim ysmygu. hyrwyddwyd...

19
Prifddinad Falch Cyngor Caerdydd Crynodeb o’r Cynllun Gwella 2010/11

Upload: others

Post on 25-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Prifddinad Falch

    Cyngor Caerdydd

    Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Nododd Cynllun Corfforaethol 2010/13ddull o weithredu a oedd yncanolbwyntio mwy ar ganlyniadau ardraws y gwasanaethau cyhoeddus yngNghaerdydd, ac o ganlyniad mae wedi’istrwythuro o amgylch y canlyniadau ycytunwyd arnynt a’n blaenoriaethau argyfer cyflawni’r canlyniadau hyn dros 3blynedd y Cynllun.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Mae’r Cynllun Gwella’n cyflwyno ein cynnydd ynystod 2010/11 wrth gyflawni’r 8 amcan canlynol:

    • Mae pobl yng Nghaerdydd yn ddiogel ac ynteimlo’n ddiogel

    • Mae gan Gaerdydd economi ffyniannus allewyrchus

    • Mae pobl yng Nghaerdydd yn gwireddu eullawn botensial

    • Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw, gweithio achwarae

    • Mae gan bobl yng Nghaerdydd amgylcheddglân, deniadol a chynaliadwy

    • Mae pobl yng Nghaerdydd yn iach

    • Mae Caerdydd yn gymdeithas deg, gyfiawn achynhwysol

    • Mae’r Cyngor yn sicrhau canlyniadau gwell i’rddinas a’i dinasyddion drwy bartneriaethaucryf.

    Am ragor o wybodaeth darllenwch GynllunGwella’r Cyngor ar gyfer 2010/11 sydd ar gael arein gwefan, www.caerdydd.gov.uk neu drwygysylltu â thîm Gwybodaeth a Gwella’r Cyngor ar029 2087 3340.

    Rydym yn croesawu adborth ar y Cynllun Gwellaac ar Grynodeb y Cynllun Gwella. Gallwch anfoneich sylwadau naill ai dros e-bost [email protected], neu drwy’r post i Gwellianta Gwybodaeth, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir,Caerdydd, CF10 4UW.

    Rhagarweiniad

    TUDA L E N 2

    Cyngor Caerdydd

  • Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig iweithio mewn partneriaeth i greu dinassy’nddiogel ynyr ystyr ehangafposibl, alle mae gan ddinasyddion rymgwybodaetha’rhyder i deimlo’nddiogel.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    I ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwedrydym wedi gweithio ar wella’n adnodd gweithwyrcymdeithasol, cynnal adolygiad o allu a llwythgwaith ac adolygu ein prosesau Plant mewnAngen.

    Parhawyd â chamau gwella i ystyried adolygiadaucenedlaethol diweddar ar ddiogelu’rgwasanaethau oedolion a phlant, gan sicrhau bodyr holl ymchwiliadau’n cael eu cynnal gan staffsydd wedi cael hyfforddiant priodol a chyflwynosystem ddyletswydd, lle bydd cydlynydd ynsgrinio’r holl alwadau ynghylch Diogelu Oedolionsy’n Agored i Niwed.

    Rhoddwyd mwy o gydnabyddiaeth a mesuraudiogelwch i bobl sy’n agored i niwed ledledasiantaethau partner a’r gymuned yn ehangachdrwy sefydlu pwyllgor swyddog diogelu ardal ioedolion ar y cyd â’r Fro, i adeiladu ar waith y GrŵpGweithredu ar y Cyd a sefydlwyd yn ddiweddar.

    Cyngor Caerdydd

    Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Mae pobl Caerdydd yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel

    TUDA L E N 3

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    SCA/005 (a) Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith rhwngymholiad cychwynnol a chwblhau cynllungofal, gan gynnwys asesiadau arbenigol.

    33 30 30 � ☺SCC/034 Canran yr adolygiadau amddiffyn plant a

    gynhaliwyd o fewn y terfynau amser statudol ynystod y flwyddyn

    99.5 100 99.2 � �Mae'r perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn yn gyson uchel ac yn llawer uwch na'r trothwy o 70% a fyddai'n awgrymu nad oes unrhywfaterion arwyddocaol o ran rheoli'r llwyth gwaith.

    SCC/021 Canran yr adolygiadau plant sy'n derbyn gofala gynhaliwyd o fewn y terfynau amserstatudol yn ystod y flwyddyn.

    96.2 100 96.4 � �Mae'r perfformiad yn erbyn y dangosydd hwn yn gyson uchel ac yn llawer uwch na'r trothwy o 70% a fyddai'n awgrymu nad oesunrhyw faterion arwyddocaol o ran rheoli'r llwyth gwaith.

    Arolwg HoliCaerdydd

    Canran y bobl sy'n cytuno bod yr heddlu a'rcyngor lleol yn delio â'r ymddygiadgwrthgymdeithasol a'r troseddau swydd obwys yn eu hardal.

    40.1 dd/b 38.4 dd/b dd/b

    Nid yw'n briodol gosod targed ac mae'r mesur yn cael ei gasglu er gwybodaeth yn unig.

    Allwedd ☺ Targed blynyddol wedi’igyrraedd � Targed blynyddol heb eigyrraedd � Targed blynyddol bron wedi’igyrraedd

    � Gwella � Dirywio � Sefydlog

    Gweithiwyd gyda phartneriaid i helpu i sicrhau bodgweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasollleol yn cydweithio i asesu ac ymateb i anghenionunigol, gan ganolbwyntio’n benodol ar unigolion ymae angen asesiad amlasiantaethol arnynt ar ôlbod i’r ysbyty.

    Gyda phartneriaid, gwnaethom sefydlu timauiechyd a gofal cymdeithasol integredig yn nodinaw cymdogaeth i Gaerdydd a’r Fro a sefydlu triThîm Ardal.

    Parhawyd i weithio gyda phartneriaid i fynd i’rafael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yneffeithiol, gan ddatblygu set newydd o brosesau achanllawiau gweithio i fynd i’r afael ag ymddygiadgwrthgymdeithasol a recriwtio staff i’r UnedYmddygiad Gwrthgymdeithasol.

    Lansiwyd menter ‘Scores on the Doors’ gydaphartneriaid ym mis Hydref 2010, gan restrusgorau hylendid awdurdodau lleol i fusnesau bwydi hyrwyddo diogelwch a rhoi sicrwydd i’ndinasyddion.

    T UDA L E N 4

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Dros y degawd diwethaf, mae CyngorCaerdydd wedi gweithio gydaphartneriaid iwneudcynnyddcysonwrthwella nifer ac ansawdd y cyfleoeddcyflogaeth yn y ddinas, gan arwain ahwyluso’r newid i economi seiliedig arwybodaeth gwerth uchel.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Parhawyd i gefnogi busnesau a chymunedaudrwy’r dirwasgiad, gan gynnwys rhoi CymorthBusnes a chyngor i fusnesau newydd, busnesausy’n bodoli eisoes a mentrau cymdeithasol. Yn2010/11 talwyd mwy na £250,000 i 23 ogwmnïau gan greu hyd at 177 o swyddi newydddros y tair blynedd nesaf.

    Gweithiwyd gyda sefydliadau partner ar gyfleoeddcyflogaeth sy’n dod i’r amlwg yn y ddinas, ganbaru 400 o ymgeiswyr â swyddi drwy GronfaSwyddi'r Dyfodol.

    Gweithiwyd i gefnogi rhwydweithiau busnes lleolfel Partneriaeth Busnes Caerdydd, sefydliadaelodaeth dielw sy’n cynrychioli barn prif fusnesauCaerdydd yn natblygiad Caerdydd a Chymru fellleoliad busnes cystadleuol.

    Datblygwyd cynllun economaidd strategolnewydd a gweledigaeth i’r ddinas yn nodiblaenoriaethau datblygu allweddol dros y degawdnesaf.

    Cyngor Caerdydd

    Mae gan Gaerdydd economi ffyniannus a llewyrchus

    TUDA L E N 5

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    EEI001 Nifer y Swyddi a Grëwyd/ Diogelwyd drwygefnogaeth y Cyngor

    1,068 1,000 1,104 � ☺TE1 Nifer defnyddwyr canolfannau a gynorthwyir i

    gyflogaeth drwy LTE2,620 3,000 3,638 � ☺

    ECR15c Refeniw a grëwyd gan gyfanswm yr ymwelwyr £703.6m £710m £851.7m � ☺ECR15a Nifer yr ymwelwyr dydd y Flwyddyn 13.11m 15m 18.3m � ☺

    Allwedd ☺ Targed blynyddol wedi’igyrraedd � Targed blynyddol heb eigyrraedd � Targed blynyddol bron wedi’igyrraedd

    � Gwella � Dirywio � Sefydlog

    Parhawyd i weithio i ddatblygu CanolfanCynadledda Ryngwladol.

    Mae cam cyntaf y Pentref Cynhyrchu Cyfryngauym Masn y Rhath wedi’i drosglwyddo i’r BBC.

    Gweithiwyd gyda Caerdydd ar y Cyd i hyrwyddo’rSystem Rheoli Cyrchfan yng nghyfarfodRhwydwaith Twristiaeth Caerdydd. Bellach, gellirtrefnu gwelyau gyda mwy na 25 o fusnesau drwy

    wefan Croeso Caerdydd, sydd ar waith 24 awr ydydd ym mhob cwr o’r byd.

    Parhawyd i ddatblygu canol y ddinas drwy weithiotuag at greu ardal i gerddwyr yn Heol Fawr a HeolEglwys Fair, gan gwblhau Cam 2 Heol Eglwys Fair(Plas-y-neuadd i'r Gwter) a dechrau Cam 3.Cwblhawyd gwaith gosod palmant ar StrydWomanby a Stryd y Cei hefyd.

    T UDA L E N 6

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Mae helpu pobl i gyflawni eu llawnbotensial yn canolbwyntio ar adeiladugwerthoedd, cysylltiadau a sefydliadauar gyfer cymdeithas lle mae pobunigolyn, waeth beth fo'i hil, rhyw,oedran, ethnigrwydd, anabledd,tueddfryd rhywiol, iaith, crefydd neuddiffyg cred, yn gallu arfer ei hawliau ifyw bywyd cyflawn.

    Mae creu amgylchedd o’r fath wrthwraidd cymdeithas feithringar lle maepob aelod ohoni, gan gynnwys y rhaimwyafdiamddiffyn, yncael cyflecyfartali gynyddu a dysgu.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Gweithredwyd system lwybro i fesur cynnydddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.Mae cynnydd dysgwyr o grwpiau LleiafrifoeddEthnig, y gymuned Sipsiwn/teithwyr a Phlant sy’nDerbyn Gofal yn cael eu holrhain yn yr ysgol ac arlefel yr awdurdod lleol.

    Gweithiwyd ar weithredu llwybrau dysgu 14-19 igyflawni’n llwyddiannus y targedau strategol argyfer y cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4ac i blant sy’n derbyn gofal sy’n hŷn na 16 oed.

    Gweithiwyd ar sefydlu darpariaeth plantintegredig bellach ar safle pedair ysgol gynradd,Adamsdown, Greenway, Oakfield a Mair Forwyn.

    Parhawyd i weithredu Strategaeth Iaith,Llythrennedd a Chyfathrebu. Ymunodd naw ysgolgynradd arall ag elfennau o’r rhaglen ddwys abydd yr ysgol sydd eisoes yn rhan ohoni’n cael eumonitro’n barhaus a chânt gymorth parhaus.

    Cyngor Caerdydd

    Mae pobl Caerdydd yn gwireddu eu potensial

    TUDA L E N 7

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    SCC/002 Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31Mawrth sydd wedi newid ysgol unwaith neufwy, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyngofal, nad oedd oherwydd trefniadautrosiannol, yn ystod y 12 mis hyd at 31Mawrth.

    13.1 12 20.4 � �

    Mae'r prosiect Canlyniadau Gwell i Blant sy'n Derbyn Gofal wedi cael ei ail-lansio a bydd yn cael y dasg benodol o fynd i'r afael â'rmater hwn.

    SCC/037 Cyfartaledd y sgôr pwyntiau cymwysterauallanol ar gyfer plant 16 oed sy'n derbyn gofalmewn unrhyw leoliad dysgu a gynhelir gan yrawdurdod lleol

    155 157 128 � �

    Mae'r prosiect Canlyniadau Gwell i Blant sy'n Derbyn Gofal wedi cael ei ail-lansio a bydd yn cael y dasg benodol o fynd i'r afael â'rmater hwn.

    EDU/016 (b) Canran presenoldeb disgyblion mewn ysgolionuwchradd

    90.6 91.3 90.4 � �Mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella ychydig yn ystod y pedair blynedd diwethaf i gyflawni cyfradd o ychydig dros90%. Fodd bynnag, mae perfformiad yn parhau i fod yn safle 22 allan o 22 awdurdod yng Nghymru. Mae presenoldeb yn waeth yngyffredinol yn ystod y pwyntiau pontio allweddol yn B9 a B11 ac mae cysylltiad cryf rhwng presenoldeb a chyflawniad. Mae ganStrategaeth Presenoldeb y Cyngor nifer o gamau gweithredu a gynlluniwyd i gefnogi a herio ysgolion i wella perfformiad. Mae hyn yncynnwys dirprwyo adnoddau ychwanegol i glystyrau o ysgolion i benodi swyddogion presenoldeb i ymgysylltu â theuluoedd a gwellaeffaith y polisi a'r weithdrefn.

    EDU/002 (i) Canran yr holl ddisgyblion (gan gynnwys yrhai yng ngofal awdurdod lleol) mewn unrhywysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, yn 15 oedar y 31 Awst blaenorol sy'n gadael addysgorfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig arwaith heb gymhwyster allanol cymeradwy

    1.26 1.2 1.64 � �

    Mae cysylltiad cryf rhwng y dangosydd hwn a nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) fel ymesurwyd gan EDU/002 (ii). Mae ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael ag anghenion dysgu ychwanegol, presenoldeb gwael, gwellasgiliau llythrennedd a rhifedd i gyd yn gyfranwyr allweddol. Mae'r Cyngor hefyd yn rhoi strategaeth ar waith i leihau nifer y bobl ifancnad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

    EDU/011 Cyfartaledd sgôr pwyntiau cymwysterauallanol ar gyfer plant 16 oed, mewn lleoliadaudysgu a gynhelir gan yr awdurdod lleol

    367 358 376 � ☺

    Dengys tystiolaeth cam cynnar o brofion darlleneleni fod gwelliant o 7% yng nghanran y disgyblionsy’n mynd i’r ysgol uwchradd a hwythau’nllythrennog.

    Parhawyd i weithredu cynigion cynlluniotrefniadaeth ysgolion a rhaglenni buddsoddi, gan

    fuddsoddi yn y ddwy Ysgol Uwchradd CyfrwngCymraeg a datblygu cynlluniau ar gyfer y drydedd.Mae cynlluniau yn mynd rhagddynt i godi ysgoluwchradd newydd yr Eglwys yng Nghymru TeiloSant ar safle Ysgol Uwchradd Llanedern yn amodolar gael caniatâd cynllunio priodol.

    T UDA L E N 8

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Mae datblygiad Caerdydd dros yblynyddoedd diwethaf wedi arwain atadfywiad masnachol, creadigol adiwylliannol dinasymae llawerobobl ynei dewis i fyw, gweithio a chwarae. Maeprofiad Caerdydd yn cynnigdigwyddiadau chwaraeon, adloniant,atyniadaudiwylliannolblaenllaw,bywydnos amwy a’r cyfan o’r radd flaenaf.

    Maehyn igydynseiliedigaramgylcheddadeiledig deniadol a hygyrch sy’n dwynynghyd seilwaith trafnidiaeth o safonuchel, parciau a mannau gwyrdd sy'ncael eu cynnal a'u cadw yn dda arhwydwaith technoleg sy'n gwireddudyheadau pobl ar gyfer eu bywydauproffesiynol a phersonol.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    I hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwygwnaethom ddatblygu menter Dinas DeithioGynaliadwy, gan adolygu’r rhwydwaith beiciostrategol a gweithio ar ddatblygu cynllun datblygurhwydwaith beicio strategol â blaenoriaethau.

    Gwnaethom hefyd ddatblygu project trafnidiaethrhanbarthol sy’n canolbwyntio ar integreiddiotrafnidiaeth gyhoeddus, gan gyflwyno cais iLywodraeth Cymru am Raglen Dinas DeithioGynaliadwy 2011/12.

    Parhawyd i gyflwyno rhaglen DewisiadauDoethach y Cyngor, gan gynnwys sefydlu ClwbCeir, a lansiwyd ar 1 Rhagfyr 2010.

    Gwnaed gwelliannau i’r seilwaith trafnidiaeth, gangynnwys cwblhau Pont-y-Werin, a agorodd ym misGorffennaf 2010, ac yn parhau i wella Heol Fawr aHeol Eglwys Fair i greu ardal i gerddwyr.

    Cwblhawyd blwyddyn 2 o gynllun 5 mlynedd iwella rhwydwaith bysus canol y ddinas, gangynnwys gwaith i flaenoriaethu bysus a seilwaith.

    Cyngor Caerdydd

    Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw, gweithio a chwarae

    TUDA L E N 9

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    LTPPI11 Canran sy'n teithio i'r gwaith gydathrafnidiaeth gynaliadwy

    40.3 44.3 47.7 � ☺ECR15c Refeniw a grëwyd gan gyfanswm ymwelwyr £703.6m £710m £851.7m � ☺ECR15a Nifer yr ymwelwyr dydd y flwyddyn 13.11m 15m 18.3m � ☺LCL/001 Nifer yr ymweliadau â Llyfrgelloedd

    Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn, fesul 1,000o'r boblogaeth

    9,756 5,722 9,925 � ☺

    Ychwanegwyd mannau parcio i faes parcio a theithiodwyrain Caerdydd sydd bellach â 950 o fannau parcio.

    Gosodwyd porth gwybodaeth gyhoeddus yngNghaerdydd Canolog i ddarparu amserlennitrafnidiaeth gyhoeddus a gwybodaeth teithio fyw.

    Datblygwyd cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, ganddechrau astudiaeth ddichonolrwydd o gysylltiad oDrelái i Daith Taf, a chwblhau Cam 1 o fesuraublaenoriaethu bysus ar yr A470 sydd â’r nod o welladibynadwyedd ac amseroedd teithio ar gysylltiadaubws i’r ardaloedd i’r Gogledd o Gaerdydd.

    Cymerwyd dyletswyddau parcio o ddwylo’r Heddluym mis Gorffennaf 2010, ac mae gennym 40 oSwyddogion Gorfodi bellach, gan gynnwysgoruchwylwyr.

    Ymgynghorwyd â thrigolion a drafftiwyd PolisïauParcio i Drigolion a Mannau Parcio i Bobl Anabl.

    Agorwyd Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdyddyn swyddogol ym mis Mawrth 2010, a chroesawodddros 24,000 o ymwelwyr dros y flwyddyn gyntaf.Enillodd y wobr Profiad Ymwelwyr Gorau yngNghymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol2010.

    Adleolwyd Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd iGanolfan Mileniwm Cymru a’i hagor i’r cyhoedd ymmis Medi 2010.

    Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau amlwg ynllwyddiannus dros y flwyddyn gan gynnwysCynhadledd Fforwm Llywodraeth Leol y Gymanwlad,diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog ym misMehefin 2010 a ‘Night of Champions’ WBC aphencampwriaeth bocsio amatur Prydain Fawr ynerbyn Gweddill y Byd ym mis Gorffennaf 2010.

    Agorwyd Amgueddfa'r Milwr Cymreig, CastellCaerdydd ym mis Mehefin 2010.

    Gweithiwyd i sicrhau'r manteision gorau o’r GemauOlympaidd a Pharalympaidd sydd ar ddyfod, ganagor Adizone cyntaf Cymru sef man agored am ddima ddyluniwyd yn siâp logo Olympaidd Llundain 2012.Cynhelir digwyddiad cyntaf Gemau Olympaidd 2012,pêl-droed i ferched, yn Stadiwm y Mileniwm yngNghaerdydd, a bydd y dortsh Olympaidd hefyd yndod yma. Bydd nifer o dimau Olympaidd aPharalympaidd yn gosod eu hunain mewngwersylloedd cyn y gemau yma.

    Dyfarnwyd statws Prifddinas Chwaraeon 2014 iGaerdydd, a fydd yn cyd-fynd â Gemau’r Gymanwladi’w cynnal yn Glasgow wrth i Gaerdydd chwarae rhanallweddol mewn hyfforddiant cyn y gemau.

    Gyda phartneriaid, gweithiwyd at gyflawni’rdatblygiad Tŷ Chwaraeon yn Lecwydd.

    T UDA L E N 1 0

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Dinasoedd llwyddiannus y dyfodol fyddy rhai sy’n cyflawni llewyrch cymdei-thasol ac economaidd o fewncyfyngiadau amgylcheddol. Wrth iddinasoeddadfywioa ffynnusylweddolirnad yw twf economaidd yn dod drwygyfaddawdu ansawdd cymdeithasol acamgylcheddol.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Gweithiwyd â phartneriaid a dinasyddion Caerdyddi leihau ar wastraff drwy gompostio gartref, prynuabwydfeydd a gwerthu casgenni dŵr. Mae mentraueraill wedi cynnwys ailddefnyddio beiciau a phaentyn y gymuned a chyflwyno banciau amlgyfrwng iGanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref. Hefyd,hyrwyddwyd mentrau lleihau gwastraff fel RealNappies a Dim Sgrwtsh ar gyfer DiwrnodAmgylchedd y Byd.

    Cynhaliwyd ymgynghoriad a lywiodd y StrategaethGwastraff Dinesig newydd y cytunodd yWeithrediaeth arni ym mis Ionawr 2011, sydd hefydyn cynnwys strategaeth ansawdd amgylcheddol leolnewydd sy’n mynd i’r afael â materion fel sbwriel,baw cŵn, graffiti, gosod posteri’n anghyfreithlon athipio anghyfreithlon. Ar ôl i’r Strategaeth gael eichymeradwyo cyflawnwyd cam cyntaf y newidiadaucasglu, gan ddarparu cadi ymyl y ffordd i bob ardaltri bag yn y ddinas ym mis Mawrth ac ymgynghoriymhellach ar ymestyn ardaloedd biniau olwynionmewn ardaloedd tri bag. Trefnwyd casglu gwastraffsgip gweddilliol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff yCartref yn ôl ardal.

    Cyngor Caerdydd

    Mae gan bobl yng Nghaerdydd amgylcheddglân, deniadol a chynaliadwy

    TUDA L E N 1 1

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Gweithiwyd gyda phartneriaid i gynnalymgyrchoedd Cadw Caerdydd yn Daclus felYsgolion yn erbyn Sbwriel a’r Ymgyrch SbwrielYsmygu.

    Canolbwyntiwyd gweithgareddau Gorfodi Addysgyn ardal Cathays i wella’r ffordd y caiff gwastraff eiosod i’w gasglu.

    Parhawyd i weithio gyda phedwar cyngor arall arBrosiect Gwyrdd, gan weithio ar ateb hirdymor argyfer gwastraff gweddilliol yn hytrach na thirlenwi.

    Aliniwyd gwasanaethau glanhau strydoedd achasglu gwastraff i wella effeithiolrwydd, ganlanhau strydoedd fesul parth, a alluogodd cefnogi’rAdran Priffyrdd i glirio eira a graeanu yn ôl yrangen.

    Llofnodwyd ymrwymiad Cyfamod y Meiri i fynd ytu hwnt i amcanion polisi ynni yr UE mewncydweithrediad â phartneriaid a ChynhadleddPrifddinas Falch ym mis Mehefin 2010 a lansiwydCynllun Gweithredu Carbon Isel.

    Gweithiwyd i wella effeithlonrwydd ynnianeddiadau cyhoeddus a phreifat, gan gaffael

    arian Rhaglen Arbed Ynni yn y Gymuned ac Arbedam gynllun Gwella Cartrefi ym Mhentwyn.

    Cafwyd grantiau Cymru Gynhesach gydaphartneriaid, gan inswleiddio 409 o lofftydd a 161o waliau ceudod a gosod 2 system gwres canolognwy. Amcangyfrifir y caiff £91,249 ei arbed arfiliau ynni y flwyddyn, a lleihawyd allyriadauCarbon Deuocsid 799 tunnell y flwyddyn. Cafodd270 o gleientiaid Gyngor ar Fudd-daliadau drwy’rrhaglen.

    Parhawyd i weithio ar Gynllun Datblygu Lleol apharatowyd Canllawiau Cynllunio Atodol isafleoedd tirlenwi bach.

    Adolygwyd y strategaeth rhandiroedd achwblhawyd cliriadau a lefelu ar safle rhandir Ffermy Coleg. Bydd y safle’n ailagor i’w amaethu yn haf2011.

    Sicrhawyd arian i gynllun lleddfu llifogydd Nant YrEglwys Newydd a datblygu amddiffynfeyddllifogydd Caerdydd ymhellach. CyflwynwydAsesiad Risg Llifogydd Rhagarweiniol CaerdyddGyfan i Asiantaeth yr Amgylchedd ar ddechrau2011/12.

    T UDA L E N 1 2

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    STS/005 (b) Canran priffyrdd a thir perthnasol aarchwiliwyd i safon glendid uchel neudderbyniol

    89.03 90 83.75 � �Yn sgil yr eira trwm collwyd arolwg LEAMS ar gyfer Rhagfyr / Ionawr a wnaeth effeithio ar y canlyniad.

    STS/006 Canran yr achosion o dipio anghyfreithlon agliriwyd o fewn 5diwrnod gwaith

    87.16 90 94.48 � ☺WMT/004 Canran y gwastraff dinesig a anfonwyd i

    safleoedd tirlenwi61.09 56 57.52 � �

    Mae perfformiad wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol, mae prosiectau ailgylchu newydd wedi cael eu cyflwyno yng nghanol yflwyddyn, ond bydd angen canlyniadau blwyddyn lawn er mwyn dangos y manteision yn llawn. Mae'r Strategaeth Wastraff wedi caelei chymeradwyo a bydd yn cyflwyno mentrau newydd yn 2011/12.

    WMT/001(i)

    Canran y gwastraff dinesig a ailddefnyddiwyda/neu a ailgylchwyd.

    Cyfunwydyn

    2010/11WMT/009

    44 41.97 dd/b �WMT/001(ii)

    Canran y gwastraff dinesig a gompostiwydneu a driniwyd mewn yn fiolegol ffordd arall.

    Cyflwynwyd prosiectau ailgylchu newydd yng nghanol y flwyddyn, ond bydd angen canlyniadau blwyddyn lawn er mwyn dangos ymanteision yn llawn. Mae penderfyniad Asiantaeth yr Amgylchedd i beidio â chynnwys agregau yn y ffigyrau ar gyfer 2010/11 yngolygu na wnaethom gyrraedd ein targed o 44%. Mae'r Strategaeth Wastraff wedi cael ei chymeradwyo a bydd yn cyflwyno mentraunewydd yn 2011/12

    Parhawyd ar darged i gyflawni Safon Ansawdd TaiCymru erbyn mis Rhagfyr 2012.

    Parhawyd i gyflawni project adfer Parc Bute, ganuwchraddio’r llwybrau sydd yno eisoes a chwblhaucysylltiadau newydd rhwng llwybrau ym MharcBute. Hefyd, adeiladwyd ffordd wasanaethudigwyddiadau newydd yng Nghae Coopers igynnal digwyddiadau. Dechreuwyd gwaith arGanolfan Addysg a Hyfforddiant newydd ym misTachwedd 2010.

    Ail-agorwyd Llyfrgell Cathays yn dilyn gwaithailwampio helaeth am 10 mis ac agorwydAmgueddfa Stori Caerdydd i’r cyhoedd.

    Cwblhawyd cam un cynllun adfywio cynhwysfawrSgwâr Loudoun yn Butetown, gan gynnwyscyfleusterau iechyd, cymunedol a siopau newydd,gyda manwerthwyr yn cael eu symud i unedaudros dro wrth i’r siopau presennol gael eudymchwel. Dechreuwyd hefyd ar Gam 2, a fydd ynadeiladu parêd siopa newydd, canolfan iechyd aman cymunedol.

    Cwblhawyd Cynlluniau AdnewydduCymdogaethau yn Canada Road, LawrennyAvenue, Meirion Place, Hillview, Parc ABC a GerddiShelley.

    Cwblhawyd cynllun ailwampio Siopau IsafBeechley Drive a chanfu arolwg adborth fod 90%o fasnachwyr a siopwyr yn fodlon ar y cynllun.

    Allwedd ☺ Targed blynyddol wedi’igyrraedd � Targed blynyddol heb eigyrraedd � Targed blynyddol bron wedi’igyrraedd� Gwella � Dirywio � Sefydlog

    T UDA L E N 1 3

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Mae iechyd poblogaeth yn hanfodol igyflawni ansawdd bywyd o'r raddflaenaf yn y ddinas. Felly mae darparuiechyd, gofal cymdeithasol a lles gwell idrigoliondrwywasanaethauatal, gwellaa chymorth yn rhan hanfodol i agendaCaerdydd.

    Mae’n ceisio sicrhau y gall trigolionCaerdydd fwynhau bywyd iach ac actifgan allu cael gafael ar wasanaethauiechyd a gofal cymdeithasol priodol yngyflympan fo angen.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Gweithiwyd mewn partneriaeth â ChwaraeonCymru i ddatblygu a chyflawni’r CytundebPartneriaeth Awdurdod Lleol i helpu i ddiwalluanghenion chwaraeon a gweithgareddau corfforolcymunedau Caerdydd.

    Datblygwyd, gyda Sefydliad CPD Caerdydd, yRhaglen Ffordd Iach o Fyw, a gaiff ei chyflwyno iddisgyblion blwyddyn 6 mewn 8 o ysgolion.

    Gweithiwyd i atal a gohirio cyflyrau cronig drwyhyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, gan ddatblyguymgyrch Newid am Oes Llywodraeth Cymru sy’nceisio atal gordewdra a chefnogi Wythnos Byw’nIach Genedlaethol a Diwrnod Dim Ysmygu.Hyrwyddwyd negeseuon bwyd ac iechyd agweithgareddau corfforol allweddol ledled yddinas a chynhaliwyd ymgyrch ar wefan DinasIach Caerdydd i hyrwyddo ystod eang onegeseuon byw’n iach.

    Lansiwyd y system Sgorio Hylendid BwydCenedlaethol ym mis Hydref 2010. Cytunwyd ar ypolisi Cydymffurfio’n Helaeth Diogelwch Bwyd iweithredu argymhellion a wnaed i awdurdodaulleol o Ymchwiliad Pennington i ddiogelwch bwyd.

    Cyngor Caerdydd

    Mae pobl Caerdydd yn iach

    TUDA L E N 1 4

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    SCA/001 Cyfradd y trosglwyddiadau gohiriedig o ofalam resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 obobl 75 oed neu drosodd

    6 5.8 7.12 � �Mae'r cynnydd yng nghyfradd y trosglwyddiadau gohiriedig yn ymwneud â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau gwaith cymdeithasolyr ysbytai ym mis Mawrth 2011

    SCA/002 (a) Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu drosodd) agefnogir yn y gymuned am bob 1,000 o'rboblogaeth sy’n 65 neu drosodd ar 31Mawrth

    47.03 42 45.89 � ☺

    PSR/002 Nifer cyfartalog o ddiwrnodau calendr agymerwyd i ddarparu Grant CyfleusterauAnabl.

    189 280 307 � �Yn ystod 2009/10 cafwyd ôl-groniad o bobl o ganlyniad i gynnydd o 43% o’r flwyddyn flaenorol mewn atgyfeiriadau adderbyniwyd a gostyngiad mewn arian Cyfalaf. Cafodd tywydd y gaeaf effaith ar waith allanol hefyd. Rydym wedi rhoimesurau newydd ar waith, er enghraifft adolygiad systematig o hen achosion gan gynnwys ymgynghoriad ychwanegolgyda therapydd galwedigaethol i fonitro’r achosion hynny sydd wedi bod hiraf gyda ni, i sicrhau eu bod yn symud drwy’rsystem o fewn y cyfyngiad amser a bennwyd

    PPN/001 (i) Canran y busnesau risg uchel a oedd yn ateboli archwiliad rhaglen a gafodd eu harchwilio, argyfer Safonau Masnach

    100 100 100 � ☺PPN/008 (ii) Canran y busnesau newydd a nodwyd sy’n

    gorfod cael ymweliad hunanasesiad neu wedidychwelyd holiadur hunanasesiad yn ystod yflwyddyn ar gyfer Hylendid Bwyd

    72 100 57 � �

    Mae nifer y busnesau newydd a sefydlwyd yn ystod y flwyddyn yn anrhagweladwy. Yn ystod 2010/11, nodwyd 506 safle newydd agofynnwyd am 202 o archwiliadau ychwanegol. O ystyried yr arolygiadau ychwanegol yr oedd eu hangen yn ystod y flwyddyn, cafoddyr adnoddau eu targedu at safleoedd risg uchel. Gwnaethom arolygu'r holl fusnesau newydd a oedd yn weddill ers 2009/10 adefnyddiwyd proses asesu risgiau pen desg ar gyfer unrhyw safle newydd ychwanegol a nodwyd yn ystod y flwyddyn. Cafodd unrhywsafle yr ystyrir ei fod mewn risg uchel ei archwilio hefyd. Y bwriad yw bod adnoddau ychwanegol yn cael eu targedu yn y maes hwn yn2011/12 er mwyn delio â'r safleoedd sy'n weddill.

    LCS/002 Nifer yr ymweliadau i ganolfannau chwaraeona hamdden yr awdurdod lleol yn ystod yflwyddyn fesul 1,000 o'r boblogaeth lle byddyr ymwelydd yn cymryd rhan mewngweithgaredd corfforol.

    9,777 9,823 9,728 � �

    Gorfodwyd i holl gyfleusterau hamdden Caerdydd gau yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y tywydd garw, a ddylanwadodd ar ycanlyniad.Mae gwelliannau yn y broses o gasglu data ar y niferoedd sy’nmynychu hefyd wedi arwain at leihau’r dangosydd hwn.

    Parhawyd i fonitro ardaloedd sy’n Ardaloedd RheoliAnsawdd Aer a gweithredu cynlluniau cysylltiedig.

    Gwnaed gwelliannau i effeithiolrwyddgwasanaethau i bobl hŷn a phobl ag anableddcorfforol mewn contractau gofal cartref drwygaffael contractau newydd a threialwyd cynllun iwella’r dewis i ofalwyr mewn darpariaeth gofalseibiant.

    Gweithiwyd gyda phobl ifanc mewn Cartrefi Planti leihau ysmygu yn eu plith a gwella’u dealltwriaetho fwyta’n iach. Bellach, mae’n Cartrefi Plant ynddi-fwg ac mae gwaith yn parhau ar ddiogelwchbwyd a hyrwyddo deietau iach ac ymarfer corff.

    T UDA L E N 1 5

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Gan barhau â thraddodiad balchCaerdydd o ran cyfiawndercymdeithasol, bydd Cyngor Caerdyddyn parhau i hyrwyddo cyfleoedd apharch ac arwain y ffordd i ymwneudag amrywiaeth a’r reoli.

    Mae integreiddio a chyfranogiad ynparhau’n rhan bwysig o gydlyniantcymdeithasol gan adlewyrchu capasiticymdeithas i sicrhau lles ei haelodau.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Gweithiwyd gyda sefydliadau gwirfoddol iwella’r cyngor a roddir yn y ddinas, gangynnwys gosod ciosg Swyddfa Cyngor iDdinasyddion ar lawr cyntaf Llyfrgell GanologCaerdydd lle gall staff C2C a’r llyfrgell gyfeiriocwsmeriaid at y cyngor sydd ei angen arnynt.

    Dechreuwyd gwaith ar ganolfan asesu senglnewydd i bobl ddigartref sy’n cynnwyscyfleusterau iechyd a hyfforddiant, ynghyd âchanolfan ddydd newydd ac unedau llety âchymorth.

    Gweithiwyd i oresgyn a lleihau rhwystrau igyfranogiad yng ngwasanaethau’r Cyngor, ganystyried defnyddio technolegau fel yrhyngrwyd, smartphones a theledu digidolrhyngweithiol i annog dinasyddion mewngrwpiau sy’n anos eu cyrraedd neu sydd wedi’uhallgáu’n draddodiadol i gysylltu â’r Cyngormewn ffyrdd na allent wneud o’r blaen. Maegwasanaeth Allgymorth Cyngor Caerdydd ynparhau i ehangu ei sail partneriaid drwy weithiomewn ystod eang o leoliadau yn yr ardal.

    Cyngor Caerdydd

    Mae Caerdydd yn gymdeithas deg, gyfiawn a chynhwysol

    TUDA L E N 1 6

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    BNF/004 Amser a gymerwyd i brosesu hawliadaunewydd Budd-daliadau Tai (BT) a Budd-dal yDreth Gyngor (BTG) a newid digwyddiadau.

    17.02 17 11.38 � ☺HHA/013 Canran yr holl deuluoedd a allai fod yn

    ddigartref a lwyddodd i osgoi digartrefedd amo leiaf 6 mis

    11.26 30 18.79 � �Yn dilyn alldro isel iawn ar gyfer 2009/10, mae'r dull casglu data wedi cael ei adolygu'n ddiweddar ac mae manylion pellach ar gyferatal yn cael eu casglu ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld rhai o'r newidiadau cychwynnol hyn yn effeithio ar y ffigwr sy'n dangosgwelliant o 7%. Gan fod y dangosydd perfformiad hwn yn dibynnu ar ddata 6 mis yn ôl, rhagwelir y bydd gwelliant sylweddol ynddiweddarach yn y flwyddyn wrth i'r ffigurau fwydo i mewn ar ôl y cyfnod o 6 mis.

    PLA/006 Nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol addarparwyd yn ystod y flwyddyn fel canran o'rholl unedau tai ychwanegol a ddarparwyd ynystod y flwyddyn.

    34.95 10 13.45 � ☺

    Roedd perfformiad yn 2009/10 yn eithriadol ac mae'r nifer yn 2010/11 wedi gostwng yn ôl i lefel fwy realistig.

    THS/007 Canran yr oedolion 60+ oed sydd â thocynbws consesiynol

    94.43 100 96.98 � �Mae rheolaeth well o'r data wedi cyfrannu at ganlyniad gwell na'r hyn a gyflawnwyd yn 2009/10. Fodd bynnag, er bod pobl sy'ngymwys yn cael eu hannog i fanteisio ar y tocynnau consesiynol, nid pawb sy'n gwneud hynny.

    Allwedd ☺ Targed blynyddol wedi’igyrraedd � Targed blynyddol heb eigyrraedd � Targed blynyddol bron wedi’igyrraedd� Gwella � Dirywio � Sefydlog

    Cyflawnwyd Cam 3 o’r gwaith gwella i safleteithwyr Sipsiwn Shirenewton gan gynnwyswaliau ffiniol newydd ym mhob cae, atgyweirioffens ffiniol allanol, ymestyn unedau mewnol acallanol i gynnwys mwy o fannau gwyrdd adarparu cyflenwad dŵr â mesurydd a socedplwg allanol ym mhob uned.

    Gweithiwyd mewn partneriaeth ledledGydweithrediaeth Gwella De-ddwyrain Cymru iddatblygu a chytuno ar fframwaith i wella nifery lleoliadau maeth a gofal preswyl.

    Gweithiwyd ar ddatblygu cartref plant ar hensafle John Kane yn Thornhill gan baratoi cais i

    gofrestru’r safle fel cartref plant gyda’r bwriad oddechrau cymryd plant yno yn 2011/12.

    Ym mis Medi 2010 agorwyd ysgol newydd TŷGwyn i blant ag anawsterau dysgu dwys aniferus, gan gynnwys gallu uwch ar gyfer plantag awtistiaeth ddifrifol a heriol

    Sefydlwyd canolfan Awtistiaeth yn YsgolUwchradd Esgob Llandaf mewn adeilad drosdro nes bod yr adeilad newydd wedi’i gwblhauyn ystod 2012.

    T UDA L E N 1 7

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Mae’r Cyngor yn datblygu agendablaengar ar gyfer newid. Sylweddolwnna allwn gyflawni’r rhaglen uchelgeisiolhon ar ein pen ein hunain, a dyma pamein bod yn arwain y ffordd gydaphartneriaethau arloesol yn y sectorcyhoeddus a’r sector preifat.

    Dyma newid sylfaenol yn y ffordd ymae’r Cyngor yn gweithredu wrth i nigeisiogwellaeffeithlonrwyddsefydliadolac ymateb i anghenion dinasyddion.

    Ydyn ni'n gwireddu'r weledigaeth?

    Gweithiwyd gyda’n Partner Technoleg Strategol,Tata Consultancy Services, i gyflawni projectausy’n defnyddio technoleg gan gynnwys prosesAdolygu Perfformiad a Datblygiad Personol aphroses Gwyno.

    Gweithiwyd gyda’r Partner Risg Strategol, Marsh, isicrhau bod pob risg strategol yn cael ei rheoli'neffeithiol. Bydd yn asesu’r trefniadau llywodraethua rheoli risgiau yn yr agenda trawsnewid.

    Gweithiwyd i resymoli swyddfeydd drwy’r project“Ein Lle Ni" a gymeradwywyd gan y Weithrediaethym mis Rhagfyr 2010 a dechreuwyd adolygiad oystâd anweithredol y cyngor.

    Lluniwyd Strategaeth Gymunedol newydd a’rCynllun Plant a Phobl Ifanc statudol, y CynllunIechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a’r CynllunDiogelwch Cymunedol mewn un StrategaethPartneriaeth Integredig - Beth sy'n Bwysig.

    Cyngor Caerdydd

    Mae’r Cyngor yn sicrhau canlyniadau gwell i’rddinas a’i dinasyddion drwy bartneriaethau cryf

    TUDA L E N 1 8

  • Crynodeb o’r Cynllun Gwella2010/11

    Drwy hyn byddwn yn alinio ein darpariaethgwasanaeth yn well gan leihau ar ddyblygu agwneud i’r bunt gyhoeddus fynd ymhellach, achanolbwyntio ein harbenigedd penodol arfeysydd y mae angen cyffredin.

    Parhaodd Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol BrysCaerdydd a’r Fro i weithio gydag Iechyd y tu allani oriau a Gwasanaethau Oedolion, a pharhau i

    weithio at sylfaen ar y cyd â meddygon teulu aNyrsys Ardal y tu allan i oriau.

    Datblygwyd gwaith gyda phartneriaid i ddwynynghyd gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol ioedolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg,wedi’u hintegreiddio o dan reolaeth Bwrdd Iechydy Brifysgol.

    Cyngor Caerdydd

    Cyfeirnod Disgrifiad Alldro2009/10

    Targed2010/11

    Alldro2010/11

    TueddFlynyddol

    Cynnyddyn erbynTarged

    Arolwg HoliCaerdydd

    Canran y bobl sy’n hoffi Caerdydd fel lle i fywynddo

    92 92 93 � ☺Canran y bobl sy’n credu bod ansawddgwasanaethau’r cyngor yn dda ar y cyfan

    64 60 66 � ☺Canran y bobl sy’n credu bod y Cyngor yncynnig gwerth da am arian i breswylwyr

    41.3 40 44 � ☺

    Allwedd ☺ Targed blynyddol wedi’igyrraedd � Targed blynyddol heb eigyrraedd � Targed blynyddol bron wedi’igyrraedd

    � Gwella � Dirywio � Sefydlog

    T UDA L E N 1 9