bridging the gap welsh bridging the gap welsh · eich curriculum vitae (cv) ac fe fydd yn eich...

24
Pontio’r bwlch: eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis Wedi ei noddi gan

Upload: others

Post on 14-Oct-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch:eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis

Wedi ei noddi gan

Page 2: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

2 Pontio’r bwlch

Pontio’r bwlch

CynnwysPontio’r bwlch – beth mae hynny’n ei olygu? 3

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw 4

Profiad gwaith 8

Gwirfoddoli 9

Mynd ymlaen i brifysgol 10

Pam y dylech chi gael Asesiad Golwg Gwan cyn dechrau mewn coleg, prifysgol neu swydd newydd 14

Symud ymlaen i fyd gwaith: pethau pwysig y dylech fod yn ymwybodol ohonynt 15

Stori Ken: o Ewrop i America i Dŵr Llundain 18

Buddion a chymorth ariannol 19

Cysylltiadau defnyddiol ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth bellach 20

Gyrfaoedd Cymru – amserlen ar gyfer cefnogaeth yn ystod cyfnod o newid 22

Page 3: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 3

Pontio’r bwlch – beth mae hynny’n ei olygu?Meddyliwch am eich cyfnod yn yr ysgol. Fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r staff sy’n eich helpua’r addasiadau sy’n ei gwneud hi’n bosib i chi ddefnyddio deunyddiau mewn pwnc penodol.Mae’n bosib y bydd gennych daflenni gwaith neu lyfrau gosod mewn print bras neu athrocynorthwyol sy’n cymryd nodiadau ar eich rhan yn y dosbarth. Yn yr ysgol, mae’r staff a chiyn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau nad yw eich problemaugolwg yn amharu ar eich gallu i ddysgu. Ond ydych chi wedi ystyried beth fydd yn digwyddpan fyddwch yn gadael yr ysgol ac yn parhau mewn coleg, prifysgol neu ym myd gwaith?

Meddyliwch am y newid o’r ysgol i’r hyn ddaw wedyn fel cyfres o deithiau o un lleoliad ileoliad arall. Er enghraifft:

o’r ysgol i fyd gwaith o’r ysgol i goleg i brifysgol i fyd gwaith o’r ysgol i fyd hyfforddiant galwedigaethol i fyd gwaith.

Mae’r teithiau sy’n eich cymryd o un fan i fan arall yn “bwyntiau trawsnewid” ac mae hi’nbwysig i chi a’r gwahanol asiantaethau cymorth gynllunio ar gyfer y cyfnodau hyn o newidmewn digon o amser. Bydd hyn yn sicrhau bod y newid o’r chweched dosbarth i brifysgol, erenghraifft, yn effeithiol a didrafferth ac y byddwch chi’n ymwybodol o’r gefnogaeth sydd argael i chi a phwy fydd yn gyfrifol amdani. Mae cynllunio gofalus hefyd yn bwysig amresymau ymarferol, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod technoleg hygyrch ar gael i chi, feldarllenwyr sgrin neu offer chwyddo, a hynny reit o’r dechrau.

Mae yna lawer o gefnogaeth ar gael ac mae’n bosib na fyddwch chi’n ymwybodol o’r hollopsiynau. Mae gwybod beth sydd ar gael yn eich galluogi i reoli eich dyfodol ac i chi wneuddewisiadau annibynnol ynglŷn â’r camau nesaf i chi.

Eich dyfodol, eich gweledigaeth, eich dewis

Page 4: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

4 Pontio’r bwlch

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw Pan fyddwch chi wedi gorffen eich arholiadau TGAU gallwch ddewis o blith nifer o opsiynau.Mae’n bosib y byddwch chi eisiau aros yn yr ysgol tan eich bod chi’n 18 oed os oes gan eichysgol chweched dosbarth neu fynychu coleg lleol a dilyn cwrs yn y fan honno. Fel arall,mae’n bosib y byddwch chi eisiau mynd yn syth i fyd gwaith a dechrau ennill bywoliaeth.Mae yna lawer o opsiynau posib ond fe fydd y gwaith paratoi ar gyfer eich dyfodol yndechrau ym Mlwyddyn 9.

Cyn eich “cyfarfod newidiadau” ar ddiwedd Blwyddyn 9 fe ddylech chi:Gwrdd â’ch Cynghorydd Gyrfaol i drafod pa bynciau rydych chi’n eu mwynhau ac yngwneud yn dda ynddynt, pa bynciau rydych chi’n bwriadu eu hastudio ar gyfer eicharholiadau TGAU a’ch dyheadau ar gyfer y cyfnod ar ôl i chi adael ysgol.Siarad â’ch athrawon pwnc ynglŷn â’ch cryfderau a pha bynciau sy’n gweddu orau i chi.Siarad â’r Cynghorydd Gyrfaoedd Cymru a’ch rhieni ynglŷn â’r hyn yr hoffech ei wneud arôl cwblhau Blwyddyn 11. Mae’n bosib y byddwch yn ystyried parhau yn y chwecheddosbarth, coleg lleol, coleg preswyl, hyfforddiant pellach neu fynd yn syth i fyd gwaith.Feddwl am anawsterau yn yr ysgol fel y gallwch drafod y rhain yn ystod y cyfarfod.

Yn ogystal â chynghorwyr gyrfaol, athrawon a’ch athro/athrawes gymwysedig nam ar ygolwg, bydd eich rhieni hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod. Os ydych chi’nteimlo’n swil neu’n nerfus wrth godi pethau penodol yn ystod y cyfarfod, mae hi’n syniad dai drafod pynciau sy’n eich poeni gydag aelod o staff neu gyda’ch rhieni o flaen llaw.

Caiff adroddiad ei greu ar ôl y cyfarfod fydd yn crynhoi’r pynciau a drafodwyd. Bydd eichrhieni’n derbyn copi ac fe allwch chi ei ddarllen hefyd er mwyn sicrhau eich bod yn hapus â’rcynnwys. Os ydych chi’n teimlo bod unrhyw beth wedi’i adael allan, dwedwch wrth aelod o staff.

Cofiwch, eich cynllun chi ar gyfer eich dyfodol chi sydd dan sylw, felly mae hi’nbwysig iawn ei fod yn cynnwys y pethau yr hoffech chi iddo gynnwys.

Cyfarfod adolygu Blwyddyn 10Caiff cyfarfod adolygu arall ei drefnu yn ystod Blwyddyn 10. Yn ystod y cyfarfod hwn, mae’nbosib y bydd staff o’ch coleg lleol neu’r chweched dosbarth hefyd yn bresennol. Fe fydd ynadrafodaethau ynglŷn â’r gefnogaeth a gawsoch chi yn yr ysgol a’r gefnogaeth r’ych chi’ndebygol o fod angen mewn coleg neu chweched dosbarth. Bydd angen i chi ystyried ycyrsiau neu’r pynciau r’ych chi’n bwriadau eu hastudio a’r math o gefnogaeth y byddwch chiei hangen.

Page 5: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 5

Ar ôl cyfarfod Blwyddyn 10Caiff adroddiad ei baratoi ac fe gaiff copïau eu danfon atoch chi, eich rhieni, staff yr ysgol,staff Gyrfaoedd Cymru a staff y chweched dosbarth neu’r coleg y byddwch chi’n ei fynychu.Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu eich cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl Blwyddyn 11 acyn edrych yn benodol ar:

y gefnogaeth r’ych chi’n ei derbyn yn yr ysgoleich gallu o ran symudedd, cyfeiriadedd a sgiliau byw’n annibynnoly gefnogaeth y byddwch chi ei hangen mewn coleg neu chweched dosbarth.

Eto, darllenwch yr adroddiad ar ôl y cyfarfod er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag ef.

Beth os af i ymlaen i astudio yn y chweched dosbarth?Os byddwch chi’n mynd ymlaen i astudio yn y chweched dosbarth, bydd pethau’n mynd yneu blaenau fel o’r blaen, gan mwyaf. Byddwch yn dal i dderbyn cefnogaeth gan eich ysgol a’rstaff cynorthwyol r’ych chi’n eu hadnabod yn barod.

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw

Page 6: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

6 Pontio’r bwlch

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw

Beth os symuda’ i o’r ysgol i goleg lleol?Os byddwch chi’n penderfynu gadael a symud i goleg Addysg Bellach neu goleg preswyl, neuos byddwch chi’n symud i fyd hyfforddiant gwaith bydd eich Datganiad yn dod i ben – nifydd yn bodoli mwyach.

Byddwch yn dal i dderbyn cefnogaeth ond fe gaiff ei darparu gan staff ategol y coleg lleol.Fyddwch chi ddim yn gweld eich athro/athrawes gymwysedig nam ar y golwg mwyach ac fefyddwch yn cael eich addysg gan dîm o staff newydd yn y coleg.

Mae’r gefnogaeth sydd ar gael mewn colegau yn amrywio ac mae hi’n bwysig eich bod chi’nymweld â’r fan cyn gwneud cais am le. Hyd yn oed os nad ydych chi’n hollol sicr eich bod chieisiau mynd, mae hi’n syniad da ymweld â choleg am y gall hynny eich helpu i benderfynu.

Pethau fydd yn eich helpu i benderfynu a yw mynd i goleg yn iawn i chi

Edrychwch ar eu gwefan – mae gan bob coleg le ar y we.Siaradwch â phobl eraill sydd wedi bod i’r coleg a gofynnwch iddyn nhw sut brofiad oedd hynny.Siaradwch â’ch athrawon pwnc a staff ategol yn yr ysgol a gofynnwch am eu barn nhw.Ewch i ymweld â’r colegau rydych yn eu hystyried cyn gynted â phosib. Byddwch yn gallucyfarfod â’r staff ategol yno a gofyn cwestiynau. Hefyd, sicrhewch eich bod yn edrych iweld pa dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael – gofynnwch sawl cyfrifiadur sydd ganddyntsy’n gallu chwyddo’r sgrin a pha feddalwedd sy’n cael ei defnyddio. Bydd y rhain i gyd ynffactorau pwysig wrth i chi wneud eich penderfyniad. Siaradwch â’r darlithwyr fydd yn eich dysgu yn y coleg.

Page 7: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 7

Beth os ydw i’n ystyried gwneud cais i goleg preswyl?Bydd angen i chi ddechrau cynllunio cyn gynted ag y gallwch. Fe ddylech chi a’ch rhieni:

wneud gwaith ymchwil am golegau preswyl;ymchwilio’r lleoliadau posib; drefnu i ymweld â cholegau;ystyried pa goleg sy’n debygol o ateb eich gofynion chi orau.

Os ydych chi’n ystyried mynd i goleg preswyl mae hi’n bwysig iawn bod hynny’n cael ei nodiadeg eich cyfarfod adolygu.

Pam mae hi’n bwysig meddwl am opsiynau posib ar gyfer y cyfnodar ôl Blwyddyn 11 ymhell cyn i chi adael yr ysgol?

Nawdd yw’r rheswm pennaf. Os ydych chi’n meddwl mynd i goleg preswyl bydd angen i’rstaff yno wybod ymhell o flaen llaw am y bydd angen iddynt wneud ceisiadau am nawdd iLywodraeth Cynulliad Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol hefyd efallai. Mae’r broses yncymryd amser felly go gorau po fwyaf o amser sydd ar gael.Mae nawdd hefyd yn bwysig os ydych chi’n mynd i fynychu coleg addysg bellach lleol. Ynyr ysgol, yr Awdurdod Addysg Lleol dalodd am eich cefnogaeth ond mae’n rhaid i golegauddefnyddio eu arian eu hunain felly mae angen iddyn nhw wybod am eich cynlluniau cyngynted â phosib. Bydd hyn yn sicrhau bod popeth yn barod ar eich cyfer pan ddechreuwchchi eich cwrs.Mae meddwl mewn da bryd am eich opsiynau yn golygu y gallwch drefnu ymweliadau acymchwilio’r gefnogaeth sydd ar gael cyn i chi wneud eich dewis terfynol.Bydd hefyd yn golygu bod gennych fwy o amser i ddod o hyd i’r cyrsiau mwyaf addas adysgu mwy am y coleg a’i staff ac i siarad â chyn-ddisgyblion.

Bywyd ysgol a chynllunio ymlaen llaw

Page 8: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

8 Pontio’r bwlch

Profiad gwaith

Profiad gwaithMae profiad gwaith yn rhan hollbwysig o“symud ymlaen” ac yn eich galluogi i gaelprofiad ymarferol o weithio mewngwahanol amgylchiadau. Nid rhywbeth i’wwneud tua diwedd eich gyrfa yn yr ysgolyn unig yw profiad gwaith; mae’nrhywbeth y dylech geisio’i wneud eto panfyddwch chi mewn coleg neu brifysgol.Mae profiad gwaith yn ffordd ardderchogo ddangos eich brwdfrydedd a’ch egni areich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yneich helpu i benderfynu a hoffech chiweithio mewn maes penodol yn y pen draw.Mae’n bosib y bydd profiad gwaith yn rhan o’ch cwrs prifysgol ac fe all hyd yn oed arwain atgynigion swydd. Mae hi’n bwysig iawn eich bod yn edrych ar brofiad gwaith fel rhywbethymarferol a defnyddiol, i’w gwblhau tra byddwch yn yr ysgol ac ar ôl hynny hefyd.

Bydd staff Gyrfaoedd Cymru a’r cydlynyddprofiad gwaith yn eich ysgol yn eich helpui ddod o hyd i leoliadau posib ar gyferprofiad gwaith. Eich cyfrifoldeb chi fyddtrefnu’r cyfnod o brofiad gwaith, ond feallwch chi ofyn am help gan eich rhieni osbydd angen.

Cynhyrchodd RNIB Cymru a GyrfaoeddCymru dri llyfryn i’ch helpu chi yn ystod ybroses o gwblhau cyfnod o brofiad gwaitha sut i wneud y mwyaf ohono. Cysylltwchâ Swyddog Trawsnewidiadau RNIB Cymru igael copïau ohonynt (gweler yr adranCysylltiadau defnyddiol am fanylion).

Adnoddau ar-lein eraill Mae profiad gwaith yn elfen gynyddol bwysig ar CV graddedigion. Mae Disability Toolkits ynadnodd ar-lein fydd yn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch profiad gwaith a chyfleoedd yndeillio ohono. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.disabilitytoolkits.ac.uk.

Page 9: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 9

Gwirfoddoli

Gwirfoddoli Gall Gwirfoddoli wneud gwahaniaeth mawr i’ch bywydchi ac i fywydau eraill. Mae’n rhoi cyfle i chi ymwneud ag achos sy’n agos at eich calon yn ogystal â chwrdd âphobl newydd, tebyg i chi. Mae hefyd yn fodd o roicynnig ar rywbeth a gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth ichi benderfynu a hoffech chi ddilyn gyrfa mewn maespenodol. Mae gwirfoddoli yn ffordd ardderchog ogryfhau eich CV ac fe all fod yn werthfawr iawn panfyddwch yn ceisio am swyddi; yn wir, gall gwirfoddoligyda sefydliad arwain at gael cynnig swydd gyda’r un sefydliad.

Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddol ar gael, gangynnwys nifer gyda RNIB Cymru. I gael mwy owybodaeth gyffredinol am gyfleoedd gwirfoddol yngNghymru ewch i www.volunteering-wales.net.

Page 10: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

10 Pontio’r bwlch

Mynd ymlaen i brifysgol

Mynd ymlaen i brifysgolPan fyddwch chi wedi gorffen yn y chweched dosbarth neu’r coleg mae’n bosib y byddwchyn ystyried mynd ymlaen i brifysgol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ac fe all olygu symudi ffwrdd a byw ar eich pen eich hun am y tro cyntaf. Eto, mae hi’n bwysig iawn eich bod yncynllunio ymlaen llaw felly dechreuwch ystyried hyn cyn gynted ag y gallwch. Mae hi’nbwysig ystyried o flaen llaw er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y cwrs iawn, y brifysgol iawnac, yn bwysicach na dim, bod pob dim yn ei le yn barod at eich diwrnod cyntaf. Bydd hyn yngolygu y gallwch ddechrau eich cwrs heb orfod poeni am eich offer ategol a’ch cefnogaeth achanolbwyntio yn lle hynny ar wneud ffrindiau a setlo i mewn i’ch bywyd newydd.

Dewis prifysgolTrafodwch eich opsiynau â’ch Cynghorydd Gyrfaol, athrawon pwnc a staff ategol a rhieniEdrychwch ar we-fan UCAS am wybodaeth ynglŷn â chyrsiau, sefydliadau a’r gofynionmynediad: www.ucas.ac.ukMae gan bob prifysgol ei gwefan ei hun. Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth am gyrsiau,gweithgareddau cymdeithasol a neuaddau preswyl. Bydd yna dudalennau penodol yn sônam gefnogaeth ychwanegol, technoleg gynorthwyol a’r feddalwedd hygyrch sydd ar gaelyn y llyfrgell.Trefnwch ymweliad. Caiff diwrnodau agored eu hysbysebu ar y wefan ond mae’n bosib ybyddwch chi eisiau cysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth Anabledd yn uniongyrchol ermwyn mynd i gyfarfod â nhw hefyd yr un pryd. Mae hyn yn ddefnyddiol oherwydd gallwchgyfarfod â staff o flaen llaw a gofyn cwestiynau am y math o gefnogaeth fydd ar gael i chi.

Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)Mae’r DSA yn grant all helpu i dalu’r costau ychwanegol y gall myfyrwyr eu wynebu oganlyniad i golli golwg a/neu anableddau eraill. Bydd y DSA yn eich galluogi i astudio a chaelgafael ar ddeunyddiau ar gyfer eich cwrs a hynny ar yr un telerau â myfyrwyr eraill; telir yDSA ar ben y pecyn ariannol safonol i fyfyrwyr. Bydd y swm sy’n ddyledus i chi yn dibynnu arnatur y gefnogaeth ychwanegol y byddwch ei hangen. Nid oes rhaid i chi ad-dalu’r DSA acnid yw’n effeithio ar unrhyw daliadau eraill y byddwch yn eu derbyn. Mae hi’n bwysig nodihefyd nad yw eich hawl ar lwfans DSA yn dibynnu ar incwm eich teulu – mae’n seiliedig areich anghenion yn unig.

Pa fath o bethau alla i dalu amdanynt gyda’r DSA?Eitemau ac offer arbenigol – er enghraifft, darllenwyr sgrin, offer chwyddo cyfrifiadurol,dyfeisiau cymryd nodiadau braille.Lwfans helpwr anfeddygol – er enghraifft, cymorth mewn llyfrgell neu ddefnydd oddarllenydd mewn arholiadau.Lwfans cyffredinol – y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel papurau arholiad adeunyddiau addysgol wedi’u chwyddo.

Page 11: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 11

Un peth ardderchog am Lwfans Myfyrwyr Anabl yw’r ffaith bod yr offer a brynir ganddo ynperthyn i chi – gallwch eu cadw yn eich cartref neu yn eich neuadd breswyl. Mae hyn yngolygu y byddwch yn gallu gwneud defnydd llawn o dechnoleg gynorthwyol yn eich cartrefeich hun a chadw’r offer wedi hynny.

Mae mathau eraill o gymorth y gellir talu amdanynt gyda’r DSA yn cynnwys:talu i fyfyriwr â phroblemau golwg ddysgu braillesgiliau adsefydlu a hyfforddiant symudeddtalu am dacsi i fynd yn ôl ac ymlaen o’r brifysgol.

Mae hi’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r amrywiaeth eang o gefnogaeth y gallech gaelgafael arni gyda’ch lwfans DSA. Meddyliwch am y rhestr uchod cyn i chi adael yr ysgol athrafodwch eich anghenion yn y gorffennol a’ch anghenion posib yn y dyfodol, dros gyfnodeich cwrs. Mae’n bosib y bydd angen hyfforddiant symudedd arnoch er mwyn ymgyfarwyddoâ llwybrau penodol a chynllun y brifysgol. Ystyriwch yr holl bethau hyn pan fyddwch chi’nmeddwl am wahanol brifysgolion ac yn gwneud ceisiadau.

Tips technolegMae’n bosib na fyddwch chi’n ymwybodol o’r amrywiaeth eang o dechnoleg sydd ar gael – agyda’r holl ddatblygiadau newydd, gall fod yn anodd cadw trac. Fe all fod yn syniad cysylltuâ chyflenwr fydd yn gallu ymweld â chi yn eich cartref i ddangos y cynhyrchion diweddaraf ichi. Os gwelwch chi rywbeth a allai fod o werth i chi yn y brifysgol, trafodwch hyn gydagasesydd y DSA – mae’n bosib y bydd modd i chi wneud cais am yr eitem gyda’ch taliad DSA.

Sut mae gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl – DSA?Caiff y lwfans ei ddarparu gan eich awdurdod addysg lleol. Hynny yw, os ydych chi’n byw ynWrecsam ond yn astudio yng Nghaerdydd, caiff eich DSA ei ariannu gan Awdurdod AddysgLleol Wrecsam.

Asesiad y DSAOs penderfynwch chi wneud cais i brifysgol, cewch eich asesu, gan rhywun o’r brifysgol felarfer. Dylai’r asesydd fod wedi derbyn gwybodaeth am y gefnogaeth a gawsoch chi yn yrysgol neu’r coleg ac fe fydd yn ystyried:

prognosis y cyflwr sy’n effeithio ar eich llygaid;anghenion y cwrs dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd yr asesydd yn trafod gyda chi ac yn penderfynu pa fath o gefnogaeth i wneud caisamdani. Os byddwch chi wedi ystyried hyn eisoes, bydd hynny’n ddefnyddiol iawn –oherwydd fe allwch chi gyfrannu’n adeiladol at yr asesiad. Cofiwch, chi yw’r person gorau iddisgrifio eich anghenion.

Bydd yr asesydd wedyn yn cynhyrchu adroddiad yn amlinellu’r gefnogaeth r’ych chi’ngwneud cais amdani. Mae gennych hawl i dderbyn copi o’r adroddiad ac fe ddylech chi a’chasesydd gytuno ar ei gynnwys. Caiff yr adroddiad ei ddanfon at eich awdurdod addysg lleolwedyn, fel cais am Lwfans DSA.

Mynd ymlaen i brifysgol

Page 12: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

12 Pontio’r bwlch

Mynd ymlaen i brifysgol

Beth os bydd f’anghenion yn newid tra byddaf yn y brifysgol? Nod asesiad y DSA yw i ateb eich gofynion ar hyd y cyfnod y byddwch yn y brifysgol ondweithiau mae anghenion a gofynion yn newid. Mae’n bosib y bydd eich golwg yn newid neuy byddwch yn dilyn modiwl lle bydd angen darn newydd o offer. Os felly, mae gennych hawl iwneud cais am “asesiad ychwanegol” fydd yn archwilio’r broblem er mwyn ei datrys.

I gael mwy o wybodaeth am Lwfans Myfyrwyr Anabl y DSA gallwch ymweld â:www.direct.gov.uk

Codi llaisMae rhai prifysgolion yn fawr iawn. Gallant gynnwys nifer o adeiladau gwahanol, dros ardaleang, a nifer o staff ac adrannau gwahanol. Mae hi’n hollbwysig nad ydych chi’n cael eichdrysu gan hyn. Mae hi’n bwysig eich bod yn gwybod pwy yn union sy’n gyfrifol am ddarparucefnogaeth, er enghraifft pwy yn eich adran fydd yn cynhyrchu deunyddiau mewn print brasneu yn trefnu amser ychwanegol i chi ar gyfer eich arholiadau.

Y peth pwysicaf yw i godi llais ac i fod yn hyderus wrth ofyn am help. Os nad ydych yngwybod pwy sy’n gyfrifol am y pethau hyn, gofynnwch wrth y dderbynfa neu gofynnwch iddarlithydd fydd yn gallu eich cyfeirio i’r man cywir.

Mewn prifysgol, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn derbyn yr helpsydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael trafferthion, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwybod i staff fel y gellir dod ohyd i atebion.

Mae yna lawer o staff a chefnogaeth ar gael mewn prifysgol felly byddwch yn hyderus ac ynweithgar wrth fynd ati i ofyn am help.

Hunan-eiriolaeth – sgil bywyd gwerthfawr Mae bod yn ddigon hyderus i godi llais ynglŷn â phroblemau yn rhan greiddiol o fyw’nannibynnol ac yn llwyddiannus. Ar ôl prifysgol, pan fyddwch yn ystyried gwaith achyflogaeth, bydd angen i chi fod yn hyderus wrth siarad â staff a chyflogwyr er mwynsicrhau eich bod yn cyrraedd eich llawn botensial yn eich gyrfa. Gall prifysgol fod yn lleardderchog i fagu sgiliau ac i ddechrau mynd ati i ddod o hyd i atebion i broblemau drosocheich hun.

Page 13: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 13

Ffynonellau nawdd eraill Yn ogystal â’r DSA, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael gafael ar nawdd i dalu am offerychwanegol trwy gyfrwng ymddiriedolaethau elusennol fel Sefydliad Snowdon. Nid yw eugrantiau yn seiliedig ar incwm teuluol ond mae’n rhaid i chi ddangos:

eich bod yn fyfyriwr; bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch.

I gael mwy o wybodaeth am Sefydliad Snowdon gallwch ymweld â:www.snowdonawardscheme.org.uk

Mynd ymlaen i brifysgol

Page 14: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

14 Pontio’r bwlch

Asesiad Golwg Gwan

Pam y dylech chi gael Asesiad Golwg Gwan cyndechrau mewn coleg, prifysgol neu swydd newyddYng Nghymru rydym yn ffodus bod gennym Wasanaeth Golwg Gwan i Gymru. Mae hyn yngolygu, os ydych yn byw yng Nghymru, y gallwch chi ymweld ag optometrydd achrededig ary stryd fawr a chael asesiad er mwyn gweld pa gymhorthion golwg gwan fyddai’nddefnyddiol i chi. Mae’n bosib y caiff pethau fel chwyddwyr, lamp at dasgau penodol neugymorth golwg gwan electronig eu rhag-nodi. Caiff y rhain eu darparu yn rhad ac am ddim.

Ystyriwn symud i ffwrdd i brifysgol felenghraifft. Dychmygwch eich bod newyddorffen eich arholiadau Lefel A a’ch bod ar finbyw ar eich pen eich hun am y tro cyntaf. Feall chwyddwyr a chymhorthion golwg gwaneraill fod yn ddefnyddiol mewn ffyrdd nadoeddech chi’n ymwybodol ohonynt o’r blaen.Fe all chwyddwyr fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer:

darllen cynhwysion, dyddiadau dod i ben achyfarwyddiadau coginio;darllen gwybodaeth ar boteli meddyginiaeth;edrych ar y deialau ar ffwrn ficrodon, ffwrn a pheiriant golchi.

Mae byw ar eich pen eich hun am y tro cyntaf yn golygu y bydd yn rhaid i chi wneud rhaipethau yr oedd eraill yn eu gwneud drosoch yn y gorffennol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous acyn eich galluogi i fod yn fwy annibynnol a hyderus wrth ofalu amdanoch eich hun. Maecymhorthion golwg gwan yn angenrheidiol ar gyfer tasgau fel y rhain felly mynnwch asesiadcyn i chi fynd a thrafodwch y newidiadau yn eich ffordd o fyw gyda’r optometrydd. Fe allcymhorthion golwg gwan hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer deunyddiau prifysgol. Erenghraifft, os nad yw eich nodiadau darlith wedi cael eu chwyddo mewn da bryd, fyddwchchi’n:a) Eistedd trwy’r ddarlith heb allu dilyn a cheisio dal i fyny yn nes ymlaen? neu’nb) Defnyddio eich chwyddwr eich hun i ddarllen y nodiadau ar yr un pryd â phawb arall ac yn

treulio’r amser ar ôl y ddarlith gyda’ch ffrindiau?

I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Golwg Gwan ac i ddod o hyd i’choptometrydd achrededig agosaf, ewch i www.eyecarewales.nhs.uk neu ffoniwchyr Eiriolwr ar ran Plant Golwg Gwan Cymru ar 02920 44 95 52.

Page 15: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 15

Symud ymlaen i fyd gwaith

Symud ymlaen i fyd gwaith: pethau pwysig y dylechfod yn ymwybodol ohonyntDod o hyd i’ch Cynghorydd Cyflogaeth i Bobl AnablBydd eich Canolfan Waith leol yn gallu’ch helpu chi i chwilio am waith yn eich ardal. Byddantyn hysbysebu swyddi ar-lein ac hefyd yn y Ganolfan ei hun. Os bydd angen cefnogaethychwanegol arnoch, bydd y Ganolfan Waith yn gallu eich cyfeirio at un o’u CynghorwyrCyflogaeth i Bobl Anabl – gaiff eu hadnabod hefyd fel DEAs. Fe allan nhw eich helpu i ddodo hyd i swydd i ennill sgiliau newydd os ydych chi wedi bod yn ddi-waith ers amser hir, neuos ydych yn gymharol ddibrofiad. Mae hi’n werth cysylltu â DEA yn eich ardal chi i gael helpychwanegol wrth i chi chwilio am swydd.

Y Symbol AnableddPan fyddwch chi’n gwneud cais am swydd, edrychwch am y cyflogwyr hynny sy’n arddangosy symbol anabledd. Mae’r symbol yn dangos bod gan y cyflogwr agwedd gadarnhaol atgeisiadau gan bobl anabl a’i fod yn gwarantu y bydd yn cynnig cyfweliad i chi os byddwch ynateb gofynion sylfaenol y swydd wag.

Cynrychiolir y symbol anabledd gan “ddau dic” a’r geiriau “yngadarn o blaid pobl anabl”. Fe welwch y symbol wedi’i arddangosar hysbysebion swydd a ffurflenni cais.

I gael mwy o wybodaeth am rôl Cynghorwyr Cyflogaeth i BoblAnabl neu’r symbol anabledd ewch i www.direct.gov.uk

Trafod problemau golwg gyda chyflogwyrPan fyddwch chi’n gwneud ceisiadau am swyddi bydd angen i chi ystyried pryd a sut ybyddwch yn trafod eich problemau golwg gyda’ch cyflogwr. Nid oes yna reolau pendant ynhyn o beth a does dim rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich cyflwr os nad ydych chieisiau. Os penderfynwch chi sôn am eich cyflwr, chi sydd i benderfynu pryd yn ystod y brosesy dymunwch chi sôn amdano.

Gall llawer o fanteision ddeillio o siarad â chyflogwr am eich cyflwr. Bydd yn golygu bodgennych gyfle i gyflwyno’r mater mewn modd cadarnhaol a dangos i’ch cyflogwr nad yw colligolwg yn golygu colli’r gallu i gyflawni dyletswyddau’n llwyddiannus.

Mae yna lawer o resymau da eraill dros siarad â’ch cyflogwr am gyflwr eich llygaid. Ospenderfynwch chi eich bod chi eisiau trafod eich problemau golwg â chyflogwr fe allwch chiddyfeisio eich strategaeth eich hun ar gyfer hynny. Mae hyn yn golygu y gallwch gynllunio’nunion sut yr hoffech drafod y peth ac fe ddylech chi ystyried hyn cyn cyfweliadau.

Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chanllawiau ynglŷn â strategaethau datgelu arwefan RNIB. Ewch i www.rnib.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Page 16: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

16 Pontio’r bwlch

Symud ymlaen i fyd gwaith

Sgiliau cyfweliad: gair i gallGwnewch drefniadau ymlaen llaw. Er enghraifft, os bydd angen i chi gwblhau prawf, mae’nbosib y bydd angen fersiwn print bras arnoch.Cynlluniwch eich taith gan sicrhau eich bod yn gwybod ble i ddal bws, trên ac ati. R’ychchi’n annhebygol o gael cynnig swydd os byddwch yn hwyr.Sicrhewch eich bod yn gwybod am Gynllun Mynediad at Waith.Gwisgwch ddillad priodol.Byddwch yn hyderus a rhowch sylw i’ch osgo (‘posture’).Ymchwiliwch y sefydliad a goblygiadau’r swydd.Ailddarllenwch eich ffurflen gais.Ymchwiliwch ac ystyriwch y bobl fydd yn eich cyf-weld.Ystyriwch y cwestiynau posib y gellid eu gofyn yn ystod y cyfweliad a chynlluniwch eichatebion.Meddyliwch am eich strategaeth ddatgelu.Paratowch eich cwestiynau eich hun i’w gofyn ar ddiwedd y cyfweliad.

Cynllun Mynediad at WaithPan fyddwch yn chwilio am swydd mae hi’n bwysig iawn eich bod yn ymwybodol o’r CynllunMynediad at Waith. Mae hwn yn gynllun gan y Ganolfan Waith ac fe all dalu am bethau fel:

tacsi yn ôl ac ymlaen o’r gwaith – defnyddiol iawn os yw’r cysylltiadau trafnidiaethgyhoeddus yn wael;monitor mawr a meddalwedd chwyddo sgrin ar gyfer gwaith cyfrifiadurol;gweithiwr ategol i’ch gyrru chi i gyfarfodydd fyddai fel arall yn anodd eu mynychu;cymhorthion golwg gwan technoleg-uchel i’ch helpu chi â’ch gwaith.

Bydd y gefnogaeth a dderbyniwch yn ddibynnol ar eich swydd ac ar eich anghenion. Cewcheich asesu yn rhan o gynllun Mynediad at Waith. Bydd yr asesydd yn trafod y gefnogaethrydych yn debygol o fod angen ac yn edrych ar ofynion y swydd.

I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Mynediad at Waith a’r cyfleoeddcysylltiedig ewch i www.direct.gov.uk neu cysylltwch â SwyddogTrawsnewidiadau RNIB Cymru (gweler y manylion yn yr adran ar GysylltiadauDefnyddiol).

Page 17: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 17

Lleddfu pryderon y cyflogwrBydd casglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch am y Cynllun Mynediad at Waith cyn eichcyfweliad yn ddefnyddiol iawn. Mae cyflogwyr yn aml yn poeni am gostau posib cyflogiperson â phroblem golwg oherwydd maen nhw’n credu bod yr offer a’r gefnogaethangenrheidiol yn ddrud. Mae yna lawer o gyflogwyr nad ydyn nhw’n gwybod am y CynllunMynediad at Waith felly mae hi’n syniad da i chi ddod o hyd i gymaint o wybodaeth â phosib.Byddwch wedyn yn gallu trafod y Cynllun yn ystod eich cyfweliad a dangos i’r cyflogwr bodcefnogaeth ar gael ac na fydd yn costio arian mawr iddynt.

Symud ymlaen i fyd gwaith

Page 18: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

18 Bridging the gap

Stori Ken

Stori Ken: o Ewrop i America i Dŵr Llundain “Dw i’n 47 oed ac mae gen iRetinitis Pigmentosa. Dw ieisiau sicrhau pobl ifaincsydd wedi colli golwg nadoes rhaid i hynny fod ynbroblem yn eich bywyd. Dw ibyth wedi gadael i’r cyflwr fyatal rhag gwneud unrhywbeth. Treuliais flynyddoeddyn gweithio fel peiriannyddsain, rheolwr gorsaf radio, yndarllen y newyddion, yncynhyrchu hysbysebion arecordiau – i enwi ondychydig o fy swyddi.Treuliais rai blynyddoedd yntrefnu cyngherddau pop ac ar wahân i ambell gnoc ar fy mhen a cherdded i mewn igoed wedi’u gosod yn y mannau anghywir, dw i wedi dod trwyddi’n ddianaf. Ers 15mlynedd, dw i’n gweithio yn Nhŵr Llundain felly gallwch weld bod fy ngyrfa wedi bodyn amrywiol a dweud y lleiaf.

Mae gen i wraig hyfryd a dau fab yn eu harddegau sy’n fy helpu ac yn deall fynghyflwr. Dw i’n difaru weithiau nad ydw i’n gallu gyrru ond, gyda map mawr achwyddwr, dw i wedi gallu tywys ein teulu o amgylch Ewrop a’r Unol Daleithiau. Ynanffodus, dw i’n ddi-werth yn hynny o beth, ers i Sat Nav gael ei ddyfeisio!

Dw i’n cario fflach-lamp i’w wisgo ar y pen yn fy mhoced bob amser ac mae gen igwpwl o chwyddwyr o gwmpas y tŷ ac yn y gwaith. Yn fy mhrofiad i, os esboniwch chieich cyflwr wrth bobl, maen nhw’n eich parchu ac yn barod i helpu. Weithiau dw i’ndod ar draws rhywun sy’n cael hwyl am fy mhen ond wedi iddyn nhw wynebu eurhagfarnau maen nhw’n ymddiheuro – os na, does ond angen i chi sôn yn fras am ygyfraith ar anabledd ac aflonyddu ac maen nhw’n cau eu cegau’n ddigon buan.

Fe fyddwn i’n dweud hyn wrth unrhyw un sydd wedi colli golwg: peidiwch â gadaeliddo’ch dal yn ôl, mwynhewch eich bywyd – os rhywbeth mae’n eich gwneud chi’nberson cryfach.

Pob hwyl!”

Page 19: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 19

Buddion a chymorth ariannolWrth i chi fynd o’r ysgol i’r byd y tu hwnt, byddgennych hawl ar gymorth ariannol a budd-daliadauoherwydd eich cyflwr llygaid. Bydd y cymorthariannol sydd ar gael i chi yn dibynnu ar yr hynrydych yn ei wneud a’ch amgylchiadau ar y pryd:er enghraifft os ydych chi’n fyfyriwr prifysgol bydd Lwfans Myfyrwyr Anabl ar gael i chi ac ym myd gwaith bydd nawdd trwy’r Cynllun Mynediad at Waith ar gael. Mae’n bosib y byddwch chi’ngymwys hefyd ar gyfer Lwfans Byw i’r Anabl neu’rLwfans Cyflogaeth a Chymorth.

I gael mwy o wybodaeth am y budd-daliadau hyn a chyngor ariannol, ffoniwch Linell Gymorth RNIB ar 0303 123 9999.

Buddion a chymorth ariannol

Page 20: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

20 Pontio’r bwlch

Cysylltiadau defnyddiol

Cysylltiadau defnyddiol ar gyfer gwybodaeth achefnogaeth bellachMae Blind in Business yn elusen sy’n gweithio gyda phobl ifainc dall ac â golwg rhannol ermwyn eu helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd ym myd addysg a gwaith. Mae’n cynniggweithdai arbenigol, rhaglen o hyfforddiant a gwasanaethau penodol i fyfyrwyr Lefel A agraddedigion. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.blindinbusiness.org.uk neu ffoniwch 020 7588 1885.

Mae Gyrfaoedd Cymru yn cynnig gwybodaeth am yrfaoedd, yn rhad ac am ddim, ynddiduedd ac yn gyfrinachol ac fe allan nhw eich helpu yn yr ysgol, yn y coleg, hyd yn oedpan fyddwch yn gwneud cais i brifysgol. I gael mwy o wybodaeth ewch iwww.careerswales.com neu trowch at ddiwedd y llyfryn hwn i weld sut y gallwn nhw helpuyn ystod cyfnod eich trawsnewidiad.

Mae Sgil Cymru yn gweithio i gefnogi myfyrwyr ag anableddau, gan sicrhau eu bod yn gwneudy mwyaf o’u haddysg, hyfforddiant a chyfleoedd ym myd gwaith. Mae Sgil Cymru yn darparugwybodaeth ac arweiniad trwy gyfrwng taflenni gwybodaeth a chyhoeddiadau – gan gynnwysy gyfres “Into” sy’n cynnig arweiniad ar gyfer gyrfaoedd penodol fel Dysgu a Meddygaeth. Igael mwy o wybodaeth ewch i www.skill.org.uk neu ffoniwch 0800 328 5050.

Mae CLIC yn sianel ar-lein sy’n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifainc11–25 oed yng Nghymru ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ble i gael hyd igefnogaeth yn eich ardal leol. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cliconline.co.uk.

Mae GO Wales yn cynnig cefnogaeth i raddedigion a myfyrwyr ac yn eich helpu i gael ydechrau gorau posib yn y farchnad waith gystadleuol. I gael mwy o wybodaeth am eucynlluniau profiad gwaith a chyfleodd eraill ewch i www.gowales.co.uk

Page 21: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 21

Mwy gan RNIBMae Gwefan RNIB yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i bobl ifainc sy’n astudio neu ynchwilio am waith. Defnyddiwch y wefan i gael help wrth ysgrifennu CV, penderfynu sut i fyndati i drafod eich cyflwr llygaid gyda chyflogwr posib ac i gael mwy o wybodaeth am bethaufel Cynllun Mynediad at Waith. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.rnib.org.uk. Maegwybodaeth bellach i fyfyrwyr ar gael ar www.rnib.org.uk/student.

Mae Llinell Gymorth RNIB yn ffynhonnell uniongyrchol ar gyfer cefnogaeth, cyngor agwybodaeth am gynhyrchion angenrheidiol. Byddwn yn eich helpu i weld beth sydd ar gaelyn eich ardal a thu hwnt, gan RNIB a sefydliadau eraill. Os ydych chi eisiau gwybod mwy amgyflwr penodol, prynu eitem o’n siop, ymuno â’n llyfrgell, cael gwybodaeth am fudd-daliadau, siarad â chynghorydd arbenigol neu wneud ymholiad cyffredinol, does ond angen ichi godi’r ffôn. Ffoniwch: 0303 123 9999 neu e-bostiwch [email protected]

Mae Coleg RNIB Loughborough yn croesawu pobl o bob gallu, o 16 oed ymlaen, ynddyddiol neu ar gyfer cyfnodau preswyl. Rydym yn cynnig awyrgylch cyfeillgar a chefnogol iddysgwyr sy’n ddall neu â golwg rhannol a/neu yn byw ag anableddau eraill. Mae’r Coleg a’rneuaddau preswyl fel ei gilydd yn fodern ac wedi’u hadeiladau’n unswydd. Rydym ynrhannu’r campws â choleg prif-ffrwd, sy’n ein galluogi i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedda dewisiadau. I gael mwy o wybodaeth, i gael prosbectws neu i drefnu ymweliad, ffoniwch01509 61 10 77 neu e-bostiwch [email protected]

Cylchgrawn Insight RNIBGwybodaeth ymarferol ac ysbrydoledig am addysg, iechyd a lles cyffredinol plant a phoblifainc â phroblemau golwg, gan gynnwys y rheiny ag anghenion cymhleth. Bydd rhienibellach yn derbyn Insight yn rhad ac am ddim wrth ymaelodi â RNIB. Am fwy o fanylionffoniwch 0303 123 9999 a soniwch am yr “Insight offer”.

Mae RNIB Cymru yn trefnu digwyddiadau a gweithdai gyda’r nod o helpu pobl i symud ofyd addysg i fyd gwaith. I ymuno â’n rhestr bostio ac i gael y newyddion diweddaraf amddigwyddiadau yn eich ardal leol, neu i glywed mwy am unrhyw bwnc a drafodwyd fan hyn,cysylltwch os gwelwch yn dda â: Swyddog Trawsnewidiadau RNIB CymruFfôn: 02920 449 571 E-bost: [email protected]

Cysylltiadau defnyddiol

Page 22: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

22 Pontio’r bwlch

Gyrfaoedd Cymru

Gyrfaoedd Cymru – amserlen ar gyfer cefnogaethyn ystod cyfnod o newidBlwyddyn 9Os oes gennych Ddatganiad, byddwch yn cyfarfod â chynghorydd anabledd/anawsteraudysgu Gyrfaoedd Cymru er mwyn trafod y broses drawsnewid, eich diddordebau gyrfaol, eichuchelgeisiau, cyfleoedd ac opsiynau pellach, gan gynnwys pynciau dewisol ar gyfer CyfnodAllweddol 4. Yn ogystal â chynllun Symud Ymlaen yn nodi’r gweithgaredd a gytunwyd yn ycyfarfod, bydd y cynghorydd hefyd yn cynhyrchu Asesiad Galwedigaethol yn amlinellu’rgefnogaeth y bydd Gyrfaoedd Cymru yn ei darparu yn ystod y cyfnod trawsnewid. Caiff hynei rannu â’ch cydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCO) ac fe gaiff ei drafod yn ystodeich cyfarfod Adolygu Trawsnewid.

Os nad oes gennych Ddatganiad, byddwch yn cyfarfod ag un o gynghorwyr prif ffrwdGyrfaoedd Cymru i drafod y broses drawsnewid, eich diddordebau gyrfaol, eich uchelgeisiau,cyfleoedd ac opsiynau pellach, gan gynnwys pynciau dewisol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4.Caiff cynllun Symud Ymlaen ei gynhyrchu fydd yn nodi’r gweithgarwch a gytunwyd yn ystody cyfarfod.

Blwyddyn 10Mae’n bosib y bydd yna gyfarfod arall gyda’ch Cynghorydd Gyrfaol er mwyn trafodymhellach eich opsiynau a’ch cynlluniau. Gellir trafod cyfnodau o brofiad gwaith hefyd, syddfel arfer yn digwydd yn ystod Blwyddyn 10. Caiff unrhyw weithgareddau y cytunir arnynt eucynnwys mewn Cynllun Symud Ymlaen. Os oes gennych Ddatganiad, neu os oes angencymorth ychwanegol arnoch, byddwch yn mynychu Cyfarfod Adolygu Blynyddol.

Blwyddyn 11Mae’n bosib y daw Cynghorydd Gyrfaol i’ch gweld fwy nag unwaith i’ch helpu i wneudpenderfyniadau ac i osod targedau ar gyfer y dyfodol. Eto, os bydd angen cytuno arweithredoedd pendant caiff cynllun Symud Ymlaen ei gynhyrchu.

Os oes gennych Ddatganiad, caiff Cynllun Dysgu a Sgiliau (LSP) ei gynhyrchu hefyd. Maehon yn ddogfen bwysig iawn sy’n sôn am y gefnogaeth y byddwch ei hangen ar gyfer eichcwrs nesaf mewn coleg neu mewn cynllun dysgu neu hyfforddiant ym myd gwaith. (Os ydychyn bwriadu mynd i weithio’n syth bin heb hyfforddiant, ni fydd angen LSP.) Pan fyddwch chi,eich rhieni, eich athrawon a phobl berthnasol eraill wedi cytuno ar yr LSP, caiff ei ddanfon i’rcoleg neu’r sefydliad galwedigaethol/darparwr hyfforddiant rydych yn bwriadu mynychu.

Page 23: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Pontio’r bwlch 23

Addysg bellachOs oedd gennych Ddatganiad ac os ydych wedi dewis cwrs prif ffrwd, bydd y CynghoryddGyrfaol yn eich cefnogi. Gallwch ofyn am apwyntiad trwy’r Gwasanaethau Cefnogaeth iFyfyrwyr neu trwy gysylltu â’ch cynghorydd LDO. Gan y bydd eich Datganiad wedi dod i ben,ni fydd yna Adolygiadau Blynyddol pellach ohono.

Os oedd gennych Ddatganiad ac os ydych wedi dewis cwrs arbenigol, bydd yna AdolygiadauBlynyddol i fonitro’ch cynnydd ac fe fydd yna gyfweliad dilynol, yn ystod y tymor cyntaf felarfer, er mwyn sicrhau eich bod wedi setlo’n iawn yn eich cwrs newydd.

Addysg uwchOs ydych yn gwneud cais am le ar gwrs Addysg Uwch, bydd Cynghorwyr Gyrfaoedd Cymruwrth law i’ch cefnogi.

Cynlluniau galwedigaethol neu hyfforddiant gwaithOs ydych yn bwriadu gadael ysgol i ddechrau cynllun galwedigaethol neu hyfforddiantgwaith, fel Skillbuild neu Brentisiaeth Sefydlu, bydd darparwr yr hyfforddiant fel arfer yncynllunio ac yn trefnu cefnogaeth addas i chi. Byddan nhw’n darllen eich LSP er mwyn cael ywybodaeth berthnasol. Mewn rhai achosion, gall darparwr yr hyfforddiant wneud cais amnawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth bellachI gael gwybodaeth fanylach am y ffyrdd y gall Gyrfaoedd Cymru eich helpu yn ystod cyfnod odrawsnewid, ewch i: www.careerswales.com i weld rhestr o gysylltiadau lleol.

Gyrfaoedd Cymru

Page 24: Bridging the gap Welsh Bridging the gap Welsh · eich Curriculum Vitae (CV) ac fe fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech chi weithio mewn maes penodol yn y pen draw. Mae’n bosib

Cysylltwch â niEr mwyn archebu copïau ychwanegol oPontio’r bwlch neu i gael mwy o wybodaetham unrhyw bwnc a godwyd fan hyn, gallwchgysylltu â:Swyddog Trawsnewidiadau RNIB CymruFfôn: 02920 449 571 E-bost: [email protected]

© RNIB Tachwedd 2010Rhif elusen gofrestredig 226227