cadw cofnodion tywydd

17
Cadw cofnodion tywydd

Upload: nhi

Post on 12-Jan-2016

103 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Cadw cofnodion tywydd. Shw’mai Gyfeillion!. Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth. Cynllunio eich Ymchwiliad. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Cadw cofnodion tywydd

Cadw cofnodion tywydd

Page 2: Cadw cofnodion tywydd

Shw’mai Gyfeillion!

Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych!

Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth.

Page 3: Cadw cofnodion tywydd

Cynllunio eich Ymchwiliad.

Cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwiliad mae’n bwysig ystyried cyn cychwyn.

Cofiwch, rydym yn ceisio darganfod:

‘Sut y mae newidiadau i dymheredd y gwanwyn yn effeithio ar amser blodeuo

bylbiau cennin pedr a crocws’.

Beth fyddwch chi yn ei wneud?

Darllenwch ymlaen am ychydig o gymorth.

Page 4: Cadw cofnodion tywydd

Cwestiynau da i’w gofyn pan yn cynllunio ymchwiliad…

• Beth yr ydym yn ei ddisgwyl i ddigwydd?

• Pa wybodaeth y dylem ei gasglu?• Sut fyddwn ni yn ei gasglu?• Pa offer fyddwn ni yn ei ddefnyddio?• Sut fyddwn ni yn ei wneud yn brawf

teg?• A fydd unrhyw risg neu beryglon?

Page 5: Cadw cofnodion tywydd

Pa wybodaeth sydd angen i ni ei gasglu?

Tymheredd?

Nifer o ddail a farciwyd gan bryfetach?

Glawiad? Nifer o bryfed peillio? (gwenyn

neu glêr )Nifer o Eliffantod?

Taldra planhigyn?

Dyddiad blodeuo?

Nifer o ddail?

Mwyafswm nifer y blodau?

Lliw pensil?

Page 6: Cadw cofnodion tywydd

Rhaid i ni gasglu dim ond…

Tymheredd? Nifer o ddail a farciwyd gan bryfetach?

Glawiad? Nifer o bryfed peillio?

(gwenyn neu glêr )Nifer o Eliffantod?

Taldra planhigyn?

Dyddiad blodeuo?

Nifer o ddail?

Mwyafswm nifer y blodau?

Lliw pensil?

Page 7: Cadw cofnodion tywydd

Pa offer ac unedau y dylid eu defnyddio ar gyfer cofnodi?

Mesur Offer Unedau

Tymheredd?

Glawiad?

Taldra plahigyn?

Dyddiad blodeuo?

Page 8: Cadw cofnodion tywydd

Mae Athro’r Ardd yn awgrymu:

Mesur Offer Unedau

Tymheredd? Thermomedr Selsiws (°C)

Glawiad? Mesurydd glaw

Milimedrau (mm)

Taldra plahigyn?

Pren mesur Milimedrau (mm)

Dyddiad blodeuo?

Calendr Yn ôl dyddiad (01/02/06)

Page 9: Cadw cofnodion tywydd

Rheolau Cofnodi

• Mae sut rydyn ni’n casglu gwybodaeth yn bwysig iawn i wneud yn siwr bod eich prawf yn deg, dilynwch fy rheolau cofnodi…

• Rhwng Tachwedd ac Ebrill - cadwch gofnod o’r tywydd.

• Rhwng Ionawr ac Ebrill cadwch gofnodion blodeuo.

Page 10: Cadw cofnodion tywydd

Offer angenrheidiol.

• 1 mesurydd glaw• 1 thermomedr• 1 pren mesur• 1 siart tywydd

Page 11: Cadw cofnodion tywydd

Cadw cofnod o’r tywydd

•Rhwng Tachwedd ac Ebrill, cadwch gofnodion dyddiol o’r tymheredd (°C) a’r glawiad (mm). Edrychwch ar siart tywydd eich ysgol am fanylion.

•Cofiwch gadw’ch cofnodion tua’r un amser bob prynhawn – ar amser sy’n gyfleus i chi.

•Ar ddiwedd pob wythnos, ewch i’r wefan www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau i anfon eich cofnodion at Athro’r Ardd.

•Bydd angen i chi wybod enw defnyddiwr eich dosbarth a’ch cyfrinair.

Page 12: Cadw cofnodion tywydd

Amser ymarfer

• Rhowch tipyn bach o ddwr yn eich mesurydd glaw. Gofynnwch i bawb yn y dosbarth nodi eu mesuriad yn eu tro.

• Ydych chi i gyd wedi nodi’r un ateb? Os na, pam?

• Gwnewch yn siwr bod pawb yn darllen yn iawn.

• Gwnewch ymarfer debyg gyda’r thermomedr.

Os gallwch chi, ymarferwch greu cofnodion y tywydd:

Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant

Page 13: Cadw cofnodion tywydd

Astudiwch a chymharwch(www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau)

Ar ôl i chi anfon eich data bydd y wefan yn creu siart dywydd gan roi'ch ysgol ar fap bylbiau'r gwanwyn.

Astudiwch siart dywydd eich ysgol a'i chymharu â siartiau tywydd ysgolion eraill.

Page 14: Cadw cofnodion tywydd

Cadwch gofnodion wythnosol i gael

cyfle i ennill taith gweithgaredd natur!

Page 15: Cadw cofnodion tywydd

Yn cynnwys: Bws am ddim a diwrnod o weithgareddau natur dan arweiniad ar gyfer un dosbarth. Bydd enillydd o dde Cymru yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru neu bydd enillydd o ogledd Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu teithiau lleol i ysgolion yn Lloegr a’r Alban. Ewch i www.edinatrust.org.uk.

Page 16: Cadw cofnodion tywydd

I gael cyfle i ennill:

Cofiwch anfon eich cofnodion tywydd wythnosol i’r wefan erbyn 27 Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 27 Ebrill a caiff y trip ei gynnal ar wythnos 18 Mai.

Bydd pob disgybl sy'n anfon ei gofnodion yn derbyn Tystysgrif Gwyddonydd Gwych ac ychydig o eginblanhigion.

Pwysig: Os na allwch chi anfon eich data cysylltwch ag Athro'r Ardd: [email protected]

Page 17: Cadw cofnodion tywydd

Nawr, gobeithio eich bod chi’n deall:

• Pa wybodaeth ddylech chi ei chasglu.

• Pa offer ddylech chi ei defnyddio.

• Sut i gasglu’r wybodaeth.

Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg!

Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych go iawn!

Hwyl!